Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion dogfennau , 1 Hydref 2008

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Dydd Mercher, 1af Hydref, 2008

 

PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION

 

Cofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 1 Hydref, 2008.

 

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd T.H. Jones - Cadeirydd

 

Y Cynghorwyr E.G. Davies, Lewis Davies, Barrie Durkin, Jim Evans, Kenneth P. Hughes, O. Glyn Jones, Clive McGregor,

R.L. Owen, J. Arwel Roberts, John P. Williams, Selwyn Williams.

 

 

 

WRTH LAW :

 

Cynllunio :

 

Pennaeth Rheoli Datblygu, (EGJ),

Cynorthwywr Cynllunio (DO) & (GJ),

 

Priffyrdd :

 

Prif Beiriannydd (Rheoli Datblygu a Hawliau Tramwy Cyhoeddus)  (JRWO),

Swyddog Rheoli Datblygu (RE),

 

Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol (RWJ),

Swyddog Pwyllgor (MEH).

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Y Cynghorydd Hefin W. Thomas.

 

 

 

HEFYD YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd R.Ll. Jones - Aelod Portffolio (Cynllunio)

 

 

 

1

YMDDIHEURIADAU

 

Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriad am absenoldeb.  

 

2

DATGANIAD O DDIDDORDEB

 

Derbyniwyd datganiadau o ddiddordeb fel y cawsant eu cofnodi dan yr eitemau perthnasol.

 

3

COFNODION

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd, fel rhai cywir, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 3 Medi, 2008 yn amodol ar ddiwygiad i eitem 13 (Cais llawn i wneud gwaith gwella ar yr arfordir a darparu maes parcio yn Nhrearddur) - Cynigiodd y Cynghorydd J. P. Williams bod y Pwyllgor yn derbyn opsiwn 4 a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd O. Glyn Jones.

 

 

4

YMWELIAD Â SAFLE

 

 

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd, fel un cywir, adroddiad ar yr Ymweliad â Safle Cynllunio ar 17 Medi, 2008 .

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

5

CEISIADAU A OHIRIWYD

 

 

 

5.1

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

11C8U/1 - CAIS LLAWN AR GYFER CODI 30 UNED BRESWYL YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GEIR AC I GERDDWYR AR DIR Y TU CEFN I BARC TRECASTELL, PORTH LLECHOG, AMLWCH

 

 

 

Dywedwyd bod yr adran yn dal i ddisgwyl am asesiad o'r Iaith Gymraeg ac Asesiad Ecolegol yng nghyswllt y cais hwn.

 

 

 

Nododd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod y cais hwn wedi bod gerbron y Pwyllgor ers misoedd oherwydd materion technegol yr oedd yn rhaid penderfynu arnynt.

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais am y rheswm a roddwyd a thynu'r eitem oddi ar y rhaglen hyd nes derbyn yr asesiadau uchod.

 

 

 

 

 

5.2

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

34C179G - CYNLLUNIAU DIWYGIEDIG MANWL AR GYFER CODI UN ANNEDD WEDI EU CANIATAU GYNT O DAN GANIATAD CYNLLUNIO 34C179F\DA AR DIR GER  TYN Y GAMFA, PONC Y FRON, LLANGEFNI

 

 

 

(Gwnaeth y Cynghorydd John P. Williams ddatganiad o ddiddordeb yn y cais a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth arno a hefyd y pleidleisio).  Nodwyd bod angen rhoddi sylw i'r pwyntiau technegol a godwyd ar yr ymweliad safle.

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais am y rheswn a roddwyd.

 

 

 

 

 

6

CEISIADAU YN CODI

 

 

 

6.1

CEISIADAU’N TYNNU’N GROES

 

 

 

19C452D - CAIS AMLINELLOL AR GYFER DATBLYGIAD TRIGIANNOL AR DIR YN GERDDI CANADA, CAERGYBI

 

 

 

Adroddwyd bod y cais yn tynnu’n groes i bolisïau’r Cynllun Datblygu.  Cafodd y cais ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar 3 Medi, 2008.  Penderfynwyd ymweld â’r safle ac fe gafwyd hyn ar 17 Medi, 2008.

 

 

 

Adroddodd y Pennaeth Rheoli Datblygu mai cais amlinellol oedd hwn am ddatblygiad preswyl ar y tir.  Mae’r cynllun gosodiad a gyflwynwyd yn dangos 18 annedd i gyd.  Mae’r Cynllun Datblygu Unedol a Stopiwyd wedi newid pwyslais yn nhermau datblygu economaidd yng Nghaergybi gyda dyraniadau mawr yn cael eu gwneud i bwrpasau creu gwaith yn ne ddwyrian y dref ym Mhenrhos a Thy Mawr.  Nid yw safle’r cais bellach wedi’i ddyrannu’n benodol o fewn y CDU.  Mae’r safle wedi’i gynnwys o fewn yr Ardal Gweithredu Lleol ddynodwyd o dan bolisi cyflogaeth EP3.

 

 

 

Nododd y Swyddog mai cais amlinellol oedd yma gydag elfen o dai fforddiadwy.  Roedd yn safle llwyd ac unedau diwydiannol ger y safle a llwybr cyhoeddus yn ei groesi.  Aeth ymlaen wedyn i son mai'r argymhelliad oedd caniatáu gyda chytundeb dan Adran 106 yng nghyswllt asesiad tir llygredig a bod rhaid cyflwyno hwnnw cyn dechrau gweithio ar y safle.

 

 

 

Gan yr Aelod Lleol, y Cynghorydd Raymond Jones, cafwyd gwybod am y gwrthwynebiad hen a chryf gan bobl leol i'r cais hwn.  Ychwanegodd bod nant fechan ger y safle, yn ogystal roedd peipen i dderbyn llifogydd mewn argyfwng yn croesi'r safle.  Hen broblem ar y safle hon oedd dwr yn sefyll ac ychwanegodd bod pobl wedi gweld moch daear ar y tir.  Wedyn soniodd iddo gomisiynu arbenigwr i ymweld â'r lle a hwnnw yn tybio bod morch daear yn defnyddio'r tir ond nid welwyd yr un daear ar y lle.

 

 

 

Aeth yr Aelod Lleol yn ei flaen i sôn am bryderon oherwydd bod y fynedfa o'r A5 a bod peth o'r fath yn annerbynniol oherwydd bod garej gyferbyn â mynedfa'r datblygiad arfaethedig.  Nododd bod y fynedfa arfaethedig yn cael ei defnyddio gan breswylwyr Morrison Crescent a buasai rhagor o draffig ar y ffordd hon yn achosi problemau priffyrdd.  Roedd pryderon lleol oherwydd y datblygiadau y tu cefn i'r safle, sef depo glanhau cerbydau gyda stêm sy'n eiddo i Gwynedd Shipping a hefyd yno mae'r A55 a'r rheilffordd; nododd yr Aelod Lleol bod bwriad i godi ffens i ladd swn yng nghefn y datblygiad.  Ond holodd pwy a fuasai'n gofalu am y ffens hon yn y dyfodol.  Wedyn soniodd am y man chwarae i blant ger y safle a phryderon pobl leol ynghylch effaith y datblygiad arfaethedig ar y lle hwn.  Roedd angen ateb i sawl peth cyn gwneud penderfyniad ar y cais, megis faint o dai a godir ar y tir, beth fydd y trefniadau ar gyfer y fynedfa ac i le y bydd y dwr sefyll yn llifo?

 

 

 

Roedd y Cynghorydd Selwyn Williams hefyd yn pryderu ynghylch llifogydd a'r ffaith bod nant fechan yn croesi'r safle.  Pryder arall ganddo oedd y posibilrwydd o dir llygredig oherwyd bod offer troi trenau ar y tir hwn flynyddoedd yn ôl.

 

 

 

Yn yr un modd roedd y Cynghoryd J. Arwel Roberts yn pryderu oherwydd y datblygiad arfaethedig a soniodd nad oedd ymateb penodol wedi dod oddi wrth y cyrff yr ymgynghorwyd â nhw, fel enghraifft Dwr Cymru - mewn egwyddor roedd y trefniadau ar gyfer y garthffosiaeth yn dderbyniol.  Draeniad - roedd y cynlluniau ar gyfer draenio carthffosiaeth a dwr wyneb yn foddhaol mewn egwyddor.  Ond roedd ef yn tybio bod raid roddi sylw i atebion penodol cyn y medrai'r Pwyllgor gyrraedd penderfyniad ar y cais.  Beth oedd wedi digwydd ers cyflwyno cais 2007 a bod yma bellach argymhelliad i ganiatáu ?

 

 

 

Gan y Cynghorydd O. Glyn Jones cafwyd cynnig i roddi caniatâd gan ychwanegu fod cais fel yr un hwn yn mynd i ddarparu tai fforddiadwy yr oedd eu gwir angen.

 

 

 

Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu mai tri llythyr yn unig o wrthwynebiad a gafwyd.  Roedd Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn cadarnhau'r pwynt a wnaed ynghylch mochdaear.  Petai caniatâd yn cael ei roddi yna gwneid gwaith gwella ar y llwybr ar draws y safle a hefyd buasai 30% o'r tai yn rhai fforddiadwy.  Codid ffens i ladd swn ger yr A55 a'r rheilffordd yn unol â'r cyngor gafwyd gan yr Adain Iechyd yr Amgylchedd.  Er nad oedd y safle wedi ei gofrestru fel tir a oedd o bosib wedi ei lygru, gosodid amod ynghlwm wrth unrhyw ganiatâd yn mynnu bod asesiad yn cael ei ddarparu ar y posibilrwydd.  Roedd lleoliad yr 18 o dai wedi ei nodi ar y cynllun a gyflwynwyd a than ganiatâd manwl rhoddid sylw i'r trefniadau ar gyfer cael gwared â dwr wyneb a hefyd câi'r garthffos ar draws y safle ei symud.  

 

 

 

Ond dywedodd yr Aelod Lleol bod cwestiynau o hyd ynghylch trefniadau mynedfa a dulliau cael gwared o ddwr wyneb.

 

 

 

Gan y Cynghorydd J. Arwel Roberts cafwyd cynnig ei wrthod a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd E. G. Davies.

 

 

 

Gan y Cynghorydd Kenneth P. Hughes cafwyd cynnig i ohirio ystyried y cais hyd nes derbyn ymatebion i'r pwyntiau a godwyd a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Selwyn Williams.

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais am y rheswm a roddwyd.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

6.2

CEISIADAU ECONOMAIDD

 

 

 

23C103C/ECON - NEWID DEFNYDD O ANNEDD I GANOLFAN AILSEFYDLU A DYSGU (DOSBARTH C2) YM MRYN GOLEU, CAPEL COCH

 

 

 

Cafwyd datganiad o ddiddordeb gan y Cynghorwyr Clive McGregor a Kenneth P. Hughes yn y cais hwn.  Adroddwyd bod y cais wedi ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar 30 Gorffennaf, 2008.  Oherwydd bod diddordeb lleol mawr yn y cais argymhellwyd bod yr aelodau yn ymweld â’r safle.  Cynhaliwyd yr ymweliad safle ar 6 Awst, 2008.

 

 

 

Awgrymodd y Pennaeth Rheoli Datblygu y dylid gohirio'r cais oherwydd materion priffyrdd ac ychwanegodd nad oedd yr ymgeisydd wedi cael digon o amser i ymateb i faterion o'r fath.

 

 

 

Ond ymatebodd y Cynghorydd Barrie Durkin trwy ddweud bod yr ymgeiswyr wedi cael digon o amser i ymateb i faterion priffyrdd ac y dylid trafod y cais.

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais am y rheswn a roddwyd.

 

 

 

 

 

6.3

28C360E - CAIS DIWYGIEDIG AR GYFER CODI 3 O DAI TREFOL YNGHYD Â CHODI 6 GAREJ YN Y BRYN, STATION ROAD, RHOSNEIGR

 

 

 

Dywedwyd bod y cais hwn yn cynnwys dyluniad diwygiedig i godi teras o 3 thy trefol yn wynebu Ffordd y Stesion.  Eisoes roedd caniatâd wedi ei roddi i 3 thy trefol yn lle hen adeilad bler arferai fod ar y safle.  Yn ei gyfarfod ar 3 Medi 2008 penderfynodd y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ymweld â'r safle a threfnwyd hynny ar gyfer 17 Medi 2008.

 

 

 

Ond oherwydd colli preifatrwyd roedd gwrthwynebiad wedi dod i law oddi wrth breswylwyr y ty cyfagos meddai'r Pennaeth Rheoli Datblygu.  Roedd yr ymgeisydd wedi diwygio'r cynllun er mwyn darparu wal i guddio'r ystafell fyw rhwng y safle a chefn y teras arfaethedig a chuddio'r balcon sy'n edrych dros y ty drws nesaf, a phlannu dwy goeden a chael gwared o ffenestr fawr yn nhalcen yr eiddo.  

 

 

 

Yr hyn a wnaeth y Cynghorydd P. M. Fowlie, yr Aelod Lleol, oedd pwysleisio mai cais diwygiedig oedd gerbron a bod caniatâd cynllunio eisoes wedi ei roddi i godi 3 thy trefol.  Ychwanegodd bod y caniatâd cynllunio a roddwyd yn dderbyniol i breswylwyr Rhosneigr ac i bobl y ty drws nesaf.  Yn yr adroddiad roedd cyfeiriad at ddyluniad diwygiedig a'r dyluniad oedd y mater o bwys yma.  Hefyd soniodd am fwrdd hysbysebu tai gyda phrisiau o £400,000 ond nododd nad tai felly a godid ar y safle hwn.  Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod y cynlluniau ar gyfer y dyluniad diwygiedig wedi eu dangos i'r aelodau ar yr ymweliad safle a hefyd roeddent ar gael yn yr Adran Gynllunio.  Cynlluniau diwygiedig oedd i fod i dderbyn sylw - nid beth oedd ar y byrddau hysbysebu ger y safle.

 

 

 

Cyfeiriodd yr Aelod Lleol at gofnodion yr ymweliad â'r safle lle ddywedwyd :".........................." - oherwydd bod Rhosneigr yn lle mor agored i wyntoedd y môr dywedodd na fuasai'r sgrin arfaethedig i'r balcon yn parhau yn hir.  Wedyn soniodd iddo ofyn am benderfyniad gan y Pwyllgor ar ran holl gymuned Rhosneigr, nid ar gais un teulu yn unig.  Aeth ymlaen i grybwyll mai dyluniad y datblygiad arfaethedig oedd yn achosi pryderon i breswylwyr Rhosneigr a gofynnodd am wrthod y cais.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

O gofio am gymeriad yr ardal o gwmpas credai'r Cynghorydd Selwyn Williams bod y dyluniad arfaethedig i'r cais hwn yn un gwael iawn.

 

 

 

Pryder y Cynghorydd O. Glyn Jones oedd bod holl aelodau'r Pwyllgor wedi derbyn llythyr oddi wrth yr ymgeisydd a nododd y dylai gohebiaeth o'r fath fod yn y pecyn o lythyrau sydd ar gael i'r Pwyllgor ar ddechrau'r cyfarfod.  Aeth ymlaen i ofyn am ymchwiliad i'r mater.  Soniodd hefyd bod yr ymgeisydd wedi derbyn caniatâd cynllunio yn 2006 i godi 3 thy trefol ar y safle  a chynigiodd wrthod y cais hwn am y dyluniad diwygiedig a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Selwyn Williams.

 

 

 

Mewn ymateb dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod modd i ymgeiswyr gyflwyno cynlluniau diwygiedig ar ôl derbyn caniatâd cynllunio yn y gorffennol.  Hefyd ychwanegodd y dylai'r Pwyllgor fod yn ofalus cyn gwrthod y cais a bod cyfle i'r ymgeisydd apelio yn erbyn penderfyniad o'r fath.  Cytuno wnaeth y swyddog bod dyluniad datblygiad yn fater o bwys ond pwysleisio hefyd y dylai'r Pwyllgor ystyried a oedd y dyluniad hwn yn gwyro'n sylweddol ai peidio oddi wrth y dyluniadau eraill yn yr ardal.

 

 

 

Roedd y bleidlais fe a ganlyn :-

 

 

 

Glynu wrth y penderfyniad gwreiddiol a gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y swyddog : Y Cynghorwyr Barrie Durkin, Lewis Davies, E.G. Davies, Jim Evans, Kenneth P. Hughes, O. Glyn Jones, Clive McGregor, John Penri Williams, Selwyn Williams.

 

      

 

     Atal pleidlais : Y Cynghorwyr T.H. Jones, R.L. Owen, J. Arwel Roberts.

 

      

 

     Y rhesymau dros wrthod :-

 

      

 

     1.  Roedd y caniatâd cynllunio blaenorol yn dderbyniol.

 

     2.  Safon a dyluniad.

 

      

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio’n awtomatig i’r cyfarfod nesaf er mwyn i swyddogion baratoi adroddiad ar y rheswm dros wrthod y cais.

 

      

 

 

 

6.4

CEISIADAU SY’N TYNNU’N GROES A CHEISIADAU ECONOMAIDD

 

      

 

     36C89H - CAIS AMLINELLOL AR GYFER CODI SWYDDFEYDD, MAN ARDDANGOS A CHYFLEUSTERAU WARWS GYDAG ANNEDD I’R PERCHNOGION AR DIR GER  PLAS Y COED, LLANGRISTIOLUS

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Selwyn Williams cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais hwn a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r pleidleisio.  Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno ar gais y Cyfarwyddwr Corfforaethol.  Penderfynwyd ymweld â’r safle ar 3 Medi, 2008, ac fe gafwyd hyn ar 17 Medi, 2008.

 

      

 

     Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod y cwmni'n cyflogi 10 o bobl ac yn arbenigo ar beiriannau a defnyddiau pwrpasol i drosglwyddo lluniau i gyfryngau amrywiol, hynny'n cynnwys defnydd serameg, metel a ffabrigau.  'Doedd yr adeiladau masnachol sydd yno bellach ddim yn ddigon mawr i ehangu'r busnes ac i gyflogi staff ychwanegol.  Rhaid cael lle byw ar y safle ar gyfer clientau a darparu gwasanaeth 24 awr i restr o glientau rhyngwladol.  Y bwriad yw gwerthu'r adeiladau sydd yno er mwyn talu am godi adeilad mwy.  Dywedodd y swyddog na chyflwynwyd unrhyw dystiolaeth bod anghenion eithriadol o ran lleoliad a thir i gyfiawnhau gwyro oddi wrth bolisïau'r Cyngor.  O'r herwydd roedd y cynnig yn groes i Bolisïau A6 a B7 Cynllun Fframwaith Gwynedd, i Bolisïau 2 a 53 Cynllun Lleol Ynys Môn, i Bolisïau HP6 ac EP4 y Cynllun Datblygu Unedol a Stopiwyd ac yn groes hefyd i'r cyngor ym Mholisi Cynllunio Cymru.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd Barrie Durkin yn falch bod yma fusnesau bychain yn dymuno ehangu ond gan ychwanegu bod digon o unedau diwydiannol ar gael ar yr Ynys.  Cynigiodd wrthod y cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Kenneth P. Hughes.

 

 

 

     PENDERFYNWYD, yn unfrydol i, derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais am y rhesymau a roddwyd.

 

      

 

 

 

6.5

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     41C113B - CAIS AMLINELLOL AR GYFER CODI ANNEDD AR DIR GYFERBYN   REFAIL FAWR, STAR

 

      

 

     Gan y Cynghorydd John P. Williams cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais hwn a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r pleidleisio. Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno ar gais yr aelod lleol.  Penderfynwyd ymweld â’r safle ar 30 Gorffennaf, 2008 ac fe gafwyd hyn ar 6 Awst, 2008.

 

      

 

     Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod apêl bellach wedi ei chyflwyno i'r Arolygfa Gynllunio oherwydd methu â gwneud penderfyniad mewn pryd ac o'r herwydd nid oedd yr Awdurdod hwn mewn sefyllfa i ystyried y cais.  Roedd y swyddog eisiau gwybod sut y dymunai'r Pwyllgor ddelio gyda'r apêl.  Nodwyd fod y Pwyllgor ar 3 Medi 2008 o blaid gwrthod y cais a hynny'n groes i argymhelliad y swyddog - roedd aelodau'n teimlo bod y cais yn ymwthio i'r tirwedd, ddim yn cydymffurfio gyda'r polisi ar ddatblygiadau rhubanaidd a hefyd ei fod yn niweidiol i'r gymuned.

 

      

 

     Teimlai'r Cynghorydd Barrie Durkin bod yma thema'n dod i'r amlwg, sef bod Cyfansoddiad y Cyngor ei hun yn achosi problemau.  Pan fo Pwyllgor, fel petai yn mynd yn erbyn argymhellion y swyddog mae'r cais wedyn yn mynd trwy'r cyfnod o 'oeri' a nododd bod hynny yn amlwg yn rhoi'r cyfle i'r ymgeiswyr fynd i apêl.  Pwysleisiodd bod angen i'r Pwyllgor Gwaith edrych ar y mater.  Pwrpas pennaf y cyfnod 'oeri' yw rhoi cyfle i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gadarnhau'r penderfyniad a wnaed cynt.  Mewn ymateb dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod yr ymgeiswyr yn cael cyfle i apelio a mater i'r Cyngor Sir llawn fuasai newid ei Gyfansoddiad.

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd Eric Jones, yr Aelod Lleol, i'r Pwyllgor lynu wrth ei benderfyniad cynt a gwrthod y cais.

 

      

 

     Yma crybwyllodd y Cynghorydd O. Glyn Jones nad oedd y Cynghorwyr H. W. Thomas a W. J. Chorlton, y rhai a gynigiodd ac a eiliodd yr argymhelliad i wrthod yn y cyfarfod diwethaf, yn bresennol.  Cafwyd cynnig gan y Cynghorydd Jones i gadarnhau penderfyniad blaenorol y Pwyllgor a gwrthod y cais am y rhesymau a roddwyd.

 

      

 

     Yn unfrydol PENDERFYNWYD glynu wrth benderfyniad blaenorol y Pwyllgor a gwrthod y cais am y rhesymau a roddwyd yn y cyfarfod a bod y cyfryw resymau yn sylfaen i'r Awdurdod mewn apêl.

 

      

 

      

 

6.6

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     44C269 - CAIS AMLINELLOL AR GYFER CODI ANNEDD YNGHYD Â GOSOD TANC SEPTIG AR DIR GER GORSLWYD FAWR, RHOS-Y-BOL

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno ar gais yr aelod lleol.  Penderfynwyd ymweld â’r safle ar 30 Gorffennaf, 2008 ac fe gafwyd hyn ar 6 Awst, 2008.  Ar 3 Medi, 2008 roedd y Pwyllgor o blaid caniatáu'r cais a hynny'n groes i argymhelliad y swyddogion - teimlai'r aelodau bod y cais yn cydymffurfio gyda Pholisi 50, ei fod ger y ffiniau, ac nad oedd yn gwyro oddi wrth bolisïau.  Gan ddilyn Cyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio'n awtomatig fel bod swyddogion yn cael cyfle i baratoi adroddiad ar y rheswm dros ganiatáu.

 

      

 

     Cyfeiriodd y Pennaeth Rheoli Datblygu at adroddiad yn nodi bod yr Adain Briffyrdd wedi cadarnhau nad yw'r gwelededd o'r fynedfa i'r briffordd gyhoeddus yn cyrraedd y safon ofynnol ac roedd trafodaethau'n cael eu cynnal gyda'r ymgeisydd i ddatrys y mater.  O'r herwydd roedd am ohirio'r cais tan gyfarfod nesaf y Pwyllgor.

 

      

 

     Ond roedd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd Aled M. Jones yn pryderu gyda'r argymhelliad i ohirio gan fod y Pwyllgor wedi penderfynu caniatáu'r cais yn y cyfarfod diwethaf a chredai ef bod yr ymgeisydd wedi datrys mater y fynedfa gyda'r Adain Briffyrdd.  Hefyd credai bod modd caniatáu'r cais yn amodol ar faterion priffyrdd.  Mewn ymateb dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod cwyn wedi ei derbyn gan yr Awdurdod Priffyrdd, ers y cyfarfod diwethaf, ynghylch y fynedfa i'r eiddo i'r chwith o'r safle a bod posibilrwydd o ddefnyddio camau gorfodaeth.  Nododd y buasai hyn yn cael effaith ar y fynedfa i safle'r cais gerbron.  

 

      

 

     Ond gwelai y Cynghorydd E. G. Davies yr enghraifft hon fel eithriad am fod y Swyddogion yn argymell gohirio'r cais er gwaethaf y caniatâd a roes y Pwyllgor iddo yn y cyfarfod diwethaf.  Os oedd materion yn codi ers y cyfarfod diwethaf dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol bod raid i'r Swyddogion roi gwybod am y mater hwnnw i'r Pwyllgor a bod rhaid ei ystyried.

 

 

 

     PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais am y rheswn a roddwyd.

 

      

 

      

 

7

CEISIADAU ECONOMAIDD

 

      

 

7.1

14LPA683F/CC/ECON - CAIS AMLINELLOL AR GYFER CODI UNEDAU DIWYDIANNOL YM MHARC DIWYDIANNOL, MONA

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno oherwydd bod y datblygiad yn ymwneud â thir y Cyngor.  

 

      

 

     PENDERFYNWYD yn unfrydol caniatáu’r cais am y rhesymau a roddwyd gydag amodau y manylwyd arnynt.

 

      

 

7.2

34C563A/ECON - CYNLLUNIAU LLAWN AR GYFER CODI 3 UNED DDIWYDIANNOL CYFANWM 18,600 TROEDFEDD SGWÂR GYDA PARCIO A FFORDD STAD GYSYLLTIEDIG AR DIR TU ÔL I’R HEN SAFLE CUNLIFFE, LLANGEFNI 

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno ar gais yr aelod lleol.  Mae’r safle ar ymyl y stad ddiwydiannol ac yn cynnwys tir pori heb ei ddatblygu ar OS 3837.  Tua’r gogledd-ddwyrain i safle’r cais mae tai ar stad Tan Capel.

 

      

 

     Roedd y cyfnod ymgynghori i'r cais hwn yn dod i ben ar 13 Hydref 2008 ac o'r herwydd credai'r Pennaeth Rheoli Datblygu bod angen gohirio rhoddi sylw iddo.

 

      

 

     Credai'r Cynghorydd O. Glyn Jones y dylid ymweld â'r safle er mwyn rhoi'r cyfle i'r aelodau gynefino â'r cais ac eiliodd y Cynghorydd Selwyn Williams y cynnig.  

 

      

 

     Ond credai'r Cynghorydd J. Arwel Roberts bod y Pwyllgor yn sefydlu cynsail wrth ymweld â safleoedd pan oedd y ceisiadau wedi eu gohirio.

 

      

 

     Penderfynwyd ymweld â'r safle fel bod yr aelodau yn medru cynefino gyda'r cynigion cyn gwneud penderfyniad.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

 

 

8

CEISIADAU AM DAI FFORDDIADWY

 

      

 

     Doedd dim ceisiadau am dai fforddiadwy i’w hystyried yn y cyfarfod hwn.

 

      

 

      

 

9

CEISIADAU’N TYNNU’N GROES

 

      

 

9.1

33C145D - CAIS AMLINELLOL AR GYFER DATBLYGIAD TRIGIANNOL AR DIR COED BRYN DISGWYL, GAERWEN

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno ar gais yr aelod lleol.  

 

      

 

     Adroddwyd bod y safle wedi’i leoli y tu allan i ffin ddatblygu Gaerwen fel y’i ceir yng Nghynllun Lleol Ynys Môn ac yn y Cynllun Datblygu Unedol a Stopiwyd.  Iard ddiwydiannol yw’r safle gydag adeiladau arferai gael eu defnyddio mewn cysylltiad â chynhyrchion anifeiliaid.  Roedd y cais cyntaf a gyflwynwyd yn un am ddatblygiad tai (sef cymysgedd o unedau fforddiadwy, tai gwarchod a datblygiad marchnad agored) gyda chanolfan iechyd.  Mae’r cais sydd gerbron yn awr wedi’i ddiwygio i adael allan y ganolfan iechyd arfaethedig yn gyfan gwbl ac i gynnig y cyfan o’r unedau preswyl fel tai fforddiadwy.  Cais amlinellol yw hwn gyda’r holl faterion ar wahân i’r fynedfa i’r safle yn cael eu cadw’n ôl i’w cymeradwyo yn nes ymlaen.  Ynghyd â’r cais fe gafwyd adroddiadau arbenigol yn cynnwys Asesiad Effaith ar yr Iaith Gymraeg.

 

      

 

     Dywedodd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd Eric Jones ei fod yn gefnogol i argymhelliad y swyddog, sef gwrthod y cais.  Cefnogir Aelod Lleol a wnaeth y Cynghoryd Clive McGregor a chynigiodd wrthod y cais.  Eiliwyd y cynigiad gan y Cynghorydd O. Glyn Jones.

 

 

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais am y rhesymau a roddwyd.

 

      

 

      

 

10

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

10.1

17C399A/DA - CYNLLUNIAU MANWL AR GYFER CODI ANNEDD WEDI EI CHANIATAU GYNT O DAN RIF CAIS 17C399 AR DIR GER BRYN TIRION, LLANSADWRN

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno ar gais yr aelod lleol.

 

      

 

     Adroddwyd bod caniatâd cynllunio amlinellol wedi ei roddi ar y safle cyn hyn i godi annedd o dan rif 17C399 a chais yw hwn i geisio cymeradwyo materion a gadwyd wrth gefn, sef : lleoliad, dyluniad, materion mynediad, tirlunio ac edrychiad allanol.

 

      

 

     Cafwyd cynnig gan yr Aelod Lleol, y Cynghorydd E. G. Davies, bod y Pwyllgor yn ymweld â'r safle a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd O. Glyn Jones.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â’r safle fel bod yr aelodau’n gyfarwydd â’r safle cyn gwneud eu penderfyniad.

 

      

 

      

 

10.2

19C686B - CAIS AMLINELLOL AR GYFER CODI ANNEDD YNGHYD Â CHREU MYNEDFA AR DIR GER TY’R ARDD, CAERGYBI

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno ar gais yr aelod lleol.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

     Adroddwyd mai cais amlinellol ydyw gyda’r holl faterion ar wahân i’r fynedfa a’r gosodiad wedi eu cadw’n ôl i’w cymeradwyo yn nes ymlaen er bod dyluniad dangosol hefyd wedi’i gyflwyno am annedd yn dangos adeilad unllawr gan mwyaf (gydag un llofft dormer) .  Mae’r safle ar gyfer yr annedd o fewn ffin ddatblygu Caergybi ar gyrion tir gwastad sy’n edrych dros dir agroed tua’r de ddwyrain tuag at Plas Road.  Mae’r fynedfa i’r safle oddi ar Gors Avenue ac mae’n rhedeg yn gyfochrog gyda’r ffin ddatblygu, ond y tu allan i’r ffin.  

 

      

 

     Gofynnodd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd T. Ll. Hughes i'r Pwyllgor ymweld â'r safle.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â’r safle fel bod yr aelodau’n gyfarwydd â’r safle cyn gwneud eu penderfyniad.

 

 

 

      

 

10.3

34LPA700E/CC - CREU MYNEDFA NEWYDD I IARD Y CYNGOR A CHAU Y FYNEDFA BRESENNOL, GOSOD TANCIAU/GORSAF LLENWI NWY A CHREU 6 LLE PARCIO NEWYDD YN SWYDDFEYDD Y CYNGOR, LLANGEFNI

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno gan mai'r Awdurdod Lleol sy'n ei gyflwyno.

 

      

 

     Adroddodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod y cais yn golygu creu mynediad newydd i gerbydau i’r iard, cau’r fynedfa bresennol, ffurfio 6 o lefydd parcio ychwanegol a gosod tanc/gorsaf  nwy.

 

      

 

     PENDERFYNWYD yn unfrydol caniatau’r cais am y rhesymau a roddwyd gydag amodau y manylwyd arnynt.

 

      

 

10.4

39C444A - NEWID DEFNYDD A DARPARU ESTYNIAD I WARWS GWAG A BWTHYN GWAG ER MWYN CREU CANOLFAN ETIFEDDIAETH A CHANOLFAN YMWELWYR YN PRINCESS PIER, PORTHAETHWY

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno oherwydd bod safle’r cais yn cynnwys tir y Cyngor.

 

      

 

     Adroddwyd bod cais cynllunio  hwn yn un llawn i addasu warws a bwthyn i greu canolfan treftadaeth ac ymwelwyr a defnyddiau ategol sef caffi, bar a bwyty.  Nid oes lle parcio i ymwelwyr yn cael ei ddarparu fel rhan o’r cynnig, mae’r ymgeiswyr yn bwriadu i ymwelwyr gael eu tywys ar hyd llwybrau i safle’r cais o Ganolfan Thomas Telford ar Ffordd Caergybi.

 

      

 

     Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod trafodaethau'n mynd ymlaen ers dros 20 mlynedd i bwrpas datblygu y rhan hon o Borthaethwy fel ardal i dwristiaeth.  Roedd y Cynghorydd Keith Evans, yr Aelod Lleol wedi datgan cefnogaeth i bwrpas datblygu'r safle.  Cyfnod cyntaf y cynllun oedd hwn yn ôl y swyddog a'i argymhelliad oedd caniatáu gyda chytundeb cyfreithiol dan Adran 106 i'r perwyl fod strategaeth drafnidiaeth yn cael ei chynnwys a hynny oherwydd y cyswllt rhwng y datblygiad hwn â'r Ganolfan Treftadaeth.

 

      

 

     I ddibenion twristiaeth ac addysg credai'r Cynghorydd Selwyn Williams bod y cais hwn yn holl bwysig i Borthaethwy.

 

      

 

     Cafwyd cynnig gan y Cynghorydd John P. Williams i ganiatáu'r cais ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Kenneth P. Hughes.

 

 

 

     PENDERFYNWYD yn unfrydol caniatáu’r cais am y rhesymau a roddwyd gydag amodau y manylwyd arnynt.

 

      

 

      

 

 

 

      

 

      

 

      

 

10.5

48C42H - CAIS AMLINELLOL AR GYFER CODI ANNEDD YNGHYD AG ADDASU'R FYNEDFA I GERBYDAU AR DIR YN NHAN Y BRYN, GWALCHMAI

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno ar gais yr aelod lleol.  Mae’r safle o fewn ffin ddatblygu pentref Gwalchmai ac  yng nghefn yr eiddo elwir yn Tan y Bryn.

 

      

 

     Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod y darn o dir y cyflwynwyd y cais ar ei gyfer mewn llecyn uwch na'r tai o gwmpas ond nad oedd y fynedfa i'r safle yn cyrraedd y safon a hynny oherwydd gwelededd gwael tua'r gorllewin i gyfeiriad Bryngwran.  Yr argymhelliad oedd gwrthod y cais.

 

      

 

     Dywedodd yr Uwch Beiriannydd (Rheoli Datblygu a Hawliau Tramwy Cyhoeddus) bod yr ymgeisydd wedi cyflwyno manylion am arolwg a gynhaliwyd ar drafnidiaeth yn ystod yr Haf 2007.  Hefyd roedd Adain Briffyrdd yr Awdurdod Lleol wedi cynnal arolwg cyffelyb ond bod y canlyniadau'n wahanol i'r rhai hynny a gyflwynwyd gan yr ymgeisydd.  Roedd cerbydau yn teithio ar gyflymder uwch : 36 a 37 milltir yr awr.  Nid oedd y wybodaeth ychwanegol a gyflwynwyd fel rhan o'r cais gerbron yn newid dim ar argymhelliad yr Awdurdod Priffyrdd i wrthod ohewrydd rhesymau diogelwch y briffordd.

 

      

 

     Un rheswm yn unig a ddefnyddiwyd i wrthod y cais meddai'r Cynghoryd Bob Parry OBE, yr Aelod Lleol a'r rheswm hwnnw oedd y fynedfa.  Hefyd nododd bod y cais wedi ei gyflwyno i'r Adran ers Ebrill 2008. Mewn ymateb dywedodd yr Uwch Beiriannydd bod yr Awdurdod Priffyrdd, oherwydd cyflymder y traffig ar y safle, wedi gofyn am lain gwelededd 90 metr i'r fynedfa ond dim ond 50 metr sydd ar gael.  Cafwyd sylw gan y Cynghorydd Parry bod cyflymder y traffig wedi ei gofnodi ar lefelau is na 30 milltir yr awr ac nad oedd hi'n hawdd mynd ar gyflymder uwch yn y lle hwn.  Roedd y fynedfa arfaethedig eisoes yn cael ei defnyddio.

 

      

 

     Cafwyd cynig gan y Cynghorydd O. Glyn Jones i ymweld â'r lle fel bod yr aelodau yn cael cyfle i gynefino â'r cais ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd E. G. Davies.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd J. Arwel Roberts cafwyd cynnig i wrthod.

 

 

 

     PENDERFYNWYD ymweld â’r safle fel bod yr aelodau’n gyfarwydd â’r safle cyn gwneud eu penderfyniad.

 

      

 

11

CEISIADAU A DDIRPRWYWYD

 

      

 

     Cyflwynwyd a derbyniwyd, adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaeth Cynllunio yng nghyswllt ceisiadau dirprwyedig oedd wedi’u penderfynu ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor hwn.

 

      

 

12

APELIADAU

 

      

 

     Nid oedd yr un apël gerbron y cyfarfod hwn.

 

      

 

13

MATERION ERAILL

 

      

 

     Nid oedd materion eraill gerbron y cyfarfod hwn.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

     Y CYNGHORYDD T.H. JONES

 

     CADEIRYDD