Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion dogfennau , 1 Rhagfyr 2004

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Dydd Mercher, 1af Rhagfyr, 2004

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

 

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar   1 Rhagfyr 2004

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd R. L. Owen, Cadeirydd

Y Cynghorydd J. Arthur Jones, Is-Gadeirydd

 

Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, Peter Dunning, J. Arwel Edwards,

P. M. Fowlie, Denis Hadley, R. Ll. Hughes, A. Morris Jones, O. Glyn Jones, Thomas Jones, D. Lewis-Roberts, John Roberts, J. Arwel Roberts, W. T. Roberts, John Rowlands, Keith Thomas.

 

 

 

WRTH LAW:

 

Cynllunio :

Pennaeth Rheoli Datblygu (EGJ)

Rheolwr Rheoli Cynllunio (DFJ)

Arweinydd Tîm (DPJ)

 

Priffyrdd:

Uwch Beiriannydd (Rheoli Datblygu a Hawliau Tramwy Cyhoeddus)

Swyddog Rheoli Datblygu (RE)

 

Cyfreithiwr (RWJ)

Cynorthwy-ydd Gweinyddol (CWP)

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Y Cynghorydd John Byast

 

 

 

HEFYD YN BRESENNOL:

 

Aelodau Lleol:  Y Cynghorwyr W. J. Chorlton (eitem 7.4),

Keith Evans (eitem 6.3), Fflur Hughes (eitem 4.17),

W. I. Hughes (eitem 4.19), R. G. Parry OBE (eitem 4.22),

E. Schofield (eitem 4.13), H. W. Thomas (eitem 4.4, 4.5).

 

 

Cydymdeimlodd y Cadeirydd gyda Mr. Emyr Jones (a fu yn Gadeirydd y Pwyllgor hwn) ar farwolaeth ei fam yn ddiweddar.  Cytunodd y Pwyllgor i yrru gair o gydymdeimlad at Mr. Jones a'i deulu.

 

1

DATGANIAD O DDIDDORDEB

      

Cafwyd datganiadau o ddiddordeb gan Aelodau a Swyddogion fel y cawsant eu cofnodi dan yr eitemau perthnasol.

      

2

COFNODION

      

Cyflwynwyd a chadarnhawyd cofnodion y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gyfarfu ar 3 Tachwedd, 2004.(Cyfrol y Cyngor 9 Rhagfyr, 2004, tudalennau 69 - 86)

           

3

YMWELIADAU Â SAFLEOEDD

      

Cyflwynwyd a chadarnhawyd yr adroddiad ar Ymweliadau â Safleoedd Cynllunio a gafwyd ar 17 Tachwedd, 2004.    

      

4

CEISIADAU'N CODI O'R COFNODION

 

      

 

4.1

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

11C122B/EIA - DARPARU GWAITH TRIN CARTHFFOSIAETH A GWAITH TIRLUNIO CYSYLLTIEDIG AR RAN O SAFLE TANC STORIO OLEW SHELL GYNT A SAFLE'R GREAT LAKES, AMLWCH

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod materion yn dal i fod heb eu datrys yng nghyswllt y cais hwn a chafwyd argymhelliad ganddo i ohirio ei ystyried.

 

      

 

     PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais.    

 

      

 

4

  GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

19C291A - CAIS AMLINELLOL I DDYMCHWEL Y TY TAFARN, CODI 12 ANNEDD 2 YSTAFELL WELY YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU YN Y DDRAIG GOCH, LLAIN-GOCH.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod cynlluniau diwygiedig, a oedd yn destun rhagor o ymgynghori, wedi eu cyflwyno gan yr ymgeisydd.

 

      

 

     Am y rheswm a roddwyd gan y swyddog PENDERFYNWYD gohirio'r cais hwn.

 

           

 

4

  CEISIADAU ECONOMAIDD

 

      

 

20C74K/DA - CYNLLUNIAU MANWL AR GYFER CODI 18 ANNEDD GYDA GAREJ YNGHYD Â MYNEDFA NEWYDD I DYDDYN GYRFA AR DIR GYFERBYN A STAD TYDDYN, CEMAES.

 

      

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Ymwelwyd â'r safle ar 17 Tachwedd, 2004.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod yr aelod lleol wedi gofyn am ohirio y cais hwn eto oherwydd ei absenoldeb.  Nodwyd bod y swyddogion mewn sefyllfa i benderfynu ar y cais.

 

      

 

     Yn unol â chais yr aelod lleol PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais gerbron.

 

           

 

4

  GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     22C44B -  CAIS I GADW'R GWAITH DYMCHWEL AR YR HEN WAL DERFYN A CHODI WAL DERFYN NEWYDD 2 FETR O UCHDER YN YSGOLDY, BIWMARES

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Ymwelwyd â'r safle ar 20 Hydref, 2004.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod yr Adran Briffyrdd yn argymell gwrthod y cais hwn oherwydd bod y wal derfyn 2 fetr o uchder yn rhwystr rhag gweld ymlaen ar hyd y briffordd a hynny yn gwneud drwg i ddiogelwch y ffordd.

 

      

 

     PENDERFYWNYD gwrthod y cais am y rhesymau yn adroddiad y Swyddog.

 

      

 

4

  CAIS YN TYNNU'N GROES I'R POLISI

 

      

 

22C165 - CODI ANNEDD NEWYDD YNGHYD Â GOSOD SYSTEM TRIN CARTHFFOSIAETH AC ADDASU'R FYNEDFA BRESENNOL AR DIR GYFERBYN Â PHENTRE LLWYN, LLANDDONA

 

      

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Ymwelwyd â'r safle ar 20 Hydref, 2004.

 

      

 

     Yn y cyfarfod cynt ac yn groes i argymhellion y swyddog roedd yr aelodau yn tueddu i ganiatáu'r cais hwn ond gydag amodau perthnasol ac am y rhesymau a ganlyn :

 

      

 

Ÿ     roedd y safle y tu mewn i glwstwr o 15 o anheddau eraill

 

Ÿ     nid oedd yr Aelodau yn derbyn y buasai'r cynnig hwn yn creu traffig ychwanegol.

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor gohiriwyd y cais fel bod swyddogion yn cael cyfle i baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu.

 

 

 

Roedd dau lythyr arall yn gwrthwynebu wedi ei dderbyn ac fel y cawsant eu crynhoi yn adroddiad y swyddog, ond nid oedd y Cyngor Cymuned yn gwrthwynebu.  Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod Adran 54A Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 yn dweud bod rhaid gwneud penderfyniadau yn unol â'r cynllun datblygu onid oes ystyriaethau o bwys yn awgrymu'n wahanol - roedd y cais hwn yn groes i'r polisïau.  Mae safle'r cais mewn ardal sensitif yn y cefn gwlad, heb fod mewn clwstwr o anheddau sy'n cael eu cydnabod yn y cynllun datblygu.  Roedd y swyddogion cynllunio yn derbyn sylwadau swyddogion priffyrdd, sef nad oed y ffyrdd yn cyrraedd y safon.  Cafwyd argymhelliad cryf gan y swyddog i wrthod y cais.

 

 

 

Wedyn pwysleisiodd y Cynghorydd Hefin Thomas, yr aelod lleol, bod yr ymgeisydd yn ddynes ifanc o'r ardal, wedi ei geni a'i magu  yn lleol.  Yn groes i'r hun a ymddangosodd yn y wasg leol nid oedd wedi dweud bod yr ymgeiswyr yn deulu ifanc gyda phlant.  

 

 

 

Aeth y Cynghorydd ymlaen i ddweud nad oedd y safle yn y cefn gwlad agored, bod y cynnig yn ategu yr hyn sydd o'i gwmpas, a bod yr Adran Briffyrdd wedi gwrthod gwella ffordd leol at y traeth a miloedd o bobl yn ei defnyddio.  Argymhellodd y Cynghorydd Thomas yn gryf bod yr aelodau yn caniatáu'r cais.

 

 

 

Yr hyn  a wnaeth y Cynghorydd D. Lewis Roberts oedd dweud bod y safle hwn y tu mewn i glwstwr o 15 o dai eraill a bod yr ymgeisydd yn perthyn i deulu lleol ac o'r herwydd cafwyd cynnig ganddo i lynu wrth benderfyniad cynt y Pwyllgor, sef caniatáu'r cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Tecwyn Roberts.

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd R. Ll. Hughes bod y cais hwn yn groes i Bolisi 53 Cynllun Lleol Ynys Môn a chefnogodd adroddiad y swyddog a'r argymhelliad i wrthod, ac wedyn fe'i eiliwyd gan y Cynghorydd Arwel Edwards.

 

 

 

Petai caniatâd yn cael ei roddi roedd y Cynghorydd Eurfryn Davies eisiau ychwanegu Cytundeb dan Adran 106.

 

 

 

Gan fod y cais yn gwyro oddi wrth y polisïau, rhoes y Cyfreithiwr gyngor i'r Pwyllgor y dylai ystyried cofnodi'r bleidlais.

 

 

 

PENDERFYNODD yr aelodau :

 

Ÿ     peidio â chofnodi'r bleidlais

 

Ÿ     o 9 pleidlais i 3 glynu wrth y penderfyniad blaenorol, sef caniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd o'r blaen a chydag amodau addas.

 

 

 

Roedd y Cynghorydd Keith Thomas yn dymuno cofnodi na phleidleisiodd ar y cais hwn.

 

 

 

Yma roedd y Cynghorydd Aled Morris Jones am gofnodi ei fod yn cefnogi'r cais fel y cyfryw, ac nad oedd yn pleidleisio yn erbyn y swyddogion.

 

 

 

4

  CAIS ECONOMAIDD

 

      

 

23C160D/EIA - EHANGU'R CHWAREL GALCHFAEN BRESENNOL YN CHWAREL RHUDDLAN BACH, BRYN-TEG

 

      

 

Ymwelodd yr Aelodau â safle'r cais hwn ar 15 Medi, 2004.  Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio y buasai'n rhaid i'r ymgeisydd fonitro a chasglu rhagor o wybodaeth yng nghyswllt dwr dan ddaear ac ar yr wyneb dros gyfnod o dri mis er mwyn hwyluso'r broses o ddarparu asesiad priodol dan y Rheoliadau Cadwraeth (Cynefinoedd Naturiol etc) 1994.  Yn y cyfamser cafwyd argymhelliad gan y swyddog i ddileu'r eitem hon oddi ar yr agenda.

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Lewis Roberts dywedodd mai gofynion statudol oedd y rhain a bod y swyddogion yn gweithio gydag asiant yr ymgeisydd i sicrhau bod yr holl ffeithiau ar gael cyn gwneud argymhelliad i'r Pwyllgor.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a nodi y bydd y cais hwn yn cael ei dynnu oddi ar yr agenda am rwan.

 

      

 

     Ceisiadau Cynllunio 4.7, 4.8, 4.9, 4.10, 4.11, 4.12, 4.21 - Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod yr aelodau yn gynefin bellach gyda'r gyfres o geisiadau a gyflwynwyd gan Stad Dulas ac yn gynefin hefyd ar safleoedd ar ôl cael golwg arnynt ar 17 Tachwedd, 2004.  Buasai pob cais yn cael ei ystyried fesul ond cyflwynodd y swyddogion eu hargymhellion yn seiliedig yn bennaf ar Bolisi 55 (addasu adeiladau) Cynllun Lleol Ynys Môn, ac roedd materion eraill megis pa mor briodol oedd yr adeiladau hyn a hefyd pa mor gadarn oeddent i bwrpas eu haddasu, effaith y cynigion a'r mynedfeydd atynt yn berthnasol wrth bennu argymhellion.

 

      

 

      

 

4

  GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     24C221 - NEWID DEFNYDD ADEILADAU ALLANOL I 3 UNED GWYLIAU YNGHYD Â DARPARU TANC SEPTIG NEWYDD YN TY'N RHOS, DULAS

 

      

 

     Gwnaeth y Cynghorydd J. Arthur Jones ddatganiad o ddiddordeb yn y cais ac nid oedd yn bresennol yn ystod y drafodaeth.

 

      

 

     Ymwelwyd â safle'r cais ar 17 Tachwedd, 2004.

 

      

 

Wrth annerch y cyfarfod dywedodd y Cynghorydd Aled Morris Jones, yr aelod lleol, bod rhwydwaith y ffyrdd yn lleol yn is-safonol ac anhawster gweld mewn mannau0 a'r pryder mwyaf ganddo oedd effaith unrhyw gynnydd yn y traffig yn sgil y cynnig hwn; hefyd pryderai am y gwaith cynnal a chadw ar y mannau pasio arfaethedig yn y dyfodol.  Teimlo oedd y Cynghorydd Jones bod maint yr holl gynllun yn rhy fawr o lawer i'r ardal.

 

      

 

     Dywedodd yr Uwch Beiriannydd Priffyrdd bod yr ymgeiswyr wedi cynnig nifer o welliannau ar y rhwydwaith lleol o ffyrdd, gan gynnwys creu sawl llecyn pasio a hyrwyddo'r gallu i weld a hyrwyddo diogelwch y briffordd.  Cafwyd gair o gadarnhad gan y swyddog mai'r ymgeisydd oedd perchennog y tir o boptu'r lôn mewn nifer o lefydd yn y cyffiniau.

 

      

 

     Dywedodd y Swyddog Cynllunio nad oedd unedau gwyliau wedi'u categoreiddio fel anheddau preswylio, a bod Polisi 55 yn caniatáu addasu yr hen adeiladau.

 

      

 

     Yr hyn a wnaeth y Cynghorydd Tecwyn Roberts oedd cefnogi'r aelod lleol a theimlai bod y ffyrdd oedd yn gwasanaethu rhai o'r safleoedd yn ddim byd amgen na lonydd garw mewn mannau.

 

     Y sylw a wnaeth y Cynghorydd Keith Thomas oedd bod yr ardal wedi'i dynodi yn Ardal o Brydferthwch Naturiol Eithriadol ac yn denu nifer o ymwelwyr gan gynnwys cerddwyr, a bod pobl at ei gilydd yn tueddu i barcio ceir yn y mannau pasio.  Mewn ymateb dywedodd y Swyddog Priffyrdd mai mater i'r Heddlu oedd sefyllfa o'r fath.  

 

      

 

     Cafwyd sylw gan y Cynghorydd Arwel Edwards y buasai'r holl geisiadau hyn, petai pob un yn cael ei ganiatáu, yn creu rhagor nag 20 o anheddau ychwanegol yn y cefn gwlad; buasai'r rhain yn ychwanegol at y rheini a glustnodwyd dan y Cynllun Datblygu Unedol.

 

      

 

     Cafwyd cadarnhad gan y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod modd, dan y polisi, addasu anheddau gwyliau neu rai parhaol yn ddiwahaniaeth.

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd R.Ll. Hughes y dylid derbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad o ganiatáu'r cais penodol hwn a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Peter Dunning.

 

      

 

     Mewn ymateb dywedodd y Cynghorydd Aled Morris Jones y gallai hyn arwain at don enfawr o ddatblygiadau a chynigiodd y dylid gwrthod.   Cafodd ei eilio gan y Cynghorydd John Roberts.

 

      

 

     O 10 pleidlais i 5 PENDERFYNWYD gwrthod y cais hwn am y rhesymau a ganlyn:

 

      

 

Ÿ     rhesymau diogelwch y briffordd - ni all rhwydwaith lleol y ffyrdd ymdopi gyda'r cynnydd yn y traffig.

 

Ÿ     y cynllun yn rhyw fawr i'r ardal.

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor gohiriwyd ystyried y cais tan y cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros wrthod y cais hwn.

 

 

 

Wedyn nododd y Rheolwr Rheoli Cynllunio na fedrai'r swyddogion amddiffyn penderfyniad y Pwyllgor pe ceid apêl yn erbyn y penderfyniad a hynny oherwydd bod yr aelodau wedi penderfynu ar y cais yn groes i gyngor proffesiynol y swyddogion.

 

      

 

4

  GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     24C222 - NEWID DEFNYDD ADEILADAU ALLANOL I 3 UNED GWYLIAU YNGHYD Â DARPARU TANC SEPTIG NEWYDD YN COCHWILLAN, DULAS

 

      

 

     Gwnaeth y Cynghorydd J. Arthur Jones ddatganiad o ddiddordeb yn y cais ac nid oedd yn 0bresennol yn ystod y drafodaeth.

 

      

 

     Ymwelwyd â safle'r cais ar 17 Tachwedd, 2004.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Aled Morris Jones cafwyd cynnig i wrthod y cais am y rhesymau dan eitem 4.7 uchod.

 

      

 

     Dywedodd yr Uwch Beiriannydd Priffyrdd bod y safle hwn 1/4 milltir draw o'r briffordd, ond bod yr ymgeisydd yn bwriadu darparu digon o fannau pasio, a hefyd mynnid ar amod i wella'r fynedfa o'r A5025 tua'r gogledd o Laneuddog cyn dechrau gwneud unrhyw waith ar y cynnig.  

 

      

 

     Cyfeiriodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio at amod rhif (05) yn adroddiad y swyddog ac yn cefnogi datganiad y Swyddog Priffyrdd.

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd Aled Morris Jones wrthod y cais, a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Keith Thomas.

 

      

 

     Yr hyn a wnaeth y Cynghorydd R.Ll. Hughes oedd cynnig derbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad i ganiatáu'r cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Peter Dunning.

 

      

 

     Roedd y bleidlais yn 8 yr un a chyda phleidlais fwrw'r Cadeirydd PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.      

 

      

 

4

  GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     24C223 - NEWID DEFNYDD ADEILADAU ALLANOL I 4 UNED WYLIAU YNGHYD Â DARPARU THANC SEPTIG NEWYDD YN RHOSMYNACH ISAF, LLANEILIAN

 

      

 

     Gwnaeth y Cynghorydd J. Arthur Jones ddatganiad o ddiddordeb yn y cais ac nid oedd yn bresennol yn ystod y drafodaeth.

 

      

 

     Ymwelwyd â safle'r cais0 ar 17 Tachwedd, 2004.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Aled Morris Jones bod y ffyrdd yn gulach byth yn y cyffiniau hyn - a'r fynedfa i'r briffordd yn eithriadol o gyfyngedig ac yn beryglus.  Hefyd buasai costau cynnal a chadw yn y dyfodol ar y mannau pasio yn dreth ar gyllideb y Cyngor.  Cynigiodd y Cynghorydd Morris Jones wrthod y cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Keith Thomas.

 

      

 

     Cadarnhaodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod hwn yn gais am bedair uned wyliau - gwnaeth hyn mewn ymateb i gwestiwn ar yr ymweliadau â'r safleoedd.  Roedd y swyddog yn cydnabod bod y rhwydwaith lleol o ffyrdd yn gulion ond bod yr ymgeisydd yn bwriadu darparu mannau pasio digonol i wneud iawn am yr anhawster hwn.

 

      

 

     Wedyn ychwanegodd y Cynghorydd R.Ll. Hughes bod yr ymgeisydd yn bwriadu buddsoddi o gwmpas £100,000 yn y gwelliannau i'r briffordd a theimlai bod hyn yn fantais ac na ellid gwrthod ar sail priffyrdd yn unig.  Cynigiodd y dylid derbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad o ganiatáu, a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Peter Dunning.

 

      

 

     Roedd y bleidlais yn 7 yr un ac ar ôl i'r Cadeirydd ddefnyddio ei bleidlais fwrw penderfynwyd rhoddi caniatâd am y rhesymau a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

4.10

  GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     24C224 - NEWID DEFNYDD ADEILADAU ALLANOL I 2 UNED WYLIAU YNGHYD Â DARPARU THANC SEPTIG NEWYDD YN TY CANOL, DULAS

 

      

 

     Gwnaeth y Cynghorydd J. Arthur Jones ddatganiad o ddiddordeb yn y cais ac nid oedd yn bresennol yn ystod y drafodaeth.

 

      

 

     Ymwelwyd â safle'r cais0 ar 17 Tachwedd, 2004.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Aled Morris Jones mai adfail oedd un o'r adeiladau y bwriedid ei addasu a dim ond dwy wal ar ôl yno.  Roedd rhwydwaith y ffyrdd lleol yn waeth byth yn y cyffiniau hyn ac argymhellodd y Cynghorydd y dylid gwrthod y cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Thomas Jones.

 

      

 

     Cyfeiriodd y Cynghorydd Glyn Jones at yr hyn a welodd ar yr ymweliad â'r safle - sef car wedi'i adael yn un o'r mannau pasio.  

 

      

 

     Yn ei ymateb dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod yr arolwg proffesiynol ar y strwythyrau yn dangos bod yr adeiladau yn addas ac yn iawn i bwrpas addasu.  

 

      

 

     Roedd y Swyddog Priffyrdd yn derbyn bod y ffyrdd yn gulion mewn mannau gan gadarnhau y câi mannau pasio eu darparu a hefyd y câi'r fynedfa i'r safle ei chwblhau cyn dechrau gweithio ar y prosiect addasu.

 

      

 

     O 9 pleidlais i 5 PENDERFYNWYD gwrthod y cais hwn am y rhesymau a ganlyn:

 

Ÿ     diogelwch y ffordd, y gallu i weld

 

Ÿ     ni fedrai rhwydwaith y ffyrdd lleol gynnal y datblygiad

 

 

 

     Darllenodd y cyfreithiwr baragraff 4.6.12.4 o Gyfansoddiad y Cyngor ac atgoffa'r aelodau o'r hyn yr oedd y Rheolwr Rheoli Cynllunio newydd ei ddweud, sef na allai swyddogion amddiffyn penderfyniad y Pwyllgor pe ceid apêl.  Dan y rheol buasai'n rheidrwydd ar y cynigydd a'r eilydd i amddiffyn y penderfyniad mewn unrhyw apêl.

 

      

 

     Cyhuddodd y Cynghorydd Aled Morris Jones y cyfreithiwr o geisio dylanwadu'n ormodol ar y Pwyllgor.

 

      

 

     Mewn ymateb gofynnodd y cyfreithiwr i'r Cynghorydd Morris Jones dynnu'r haeriad yn ôl ac ymddiheuro.

 

      

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor gohiriwyd ystyried y cais tan y cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros wrthod y cais hwn.

 

      

 

4.11

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     24C53A - NEWID DEFNYDD ALLANOL I FOD YN 5 UNED GWYLIAU YNGHYD Â DARPARU THANC SEPTIG NEWYDD YN LLANEUDDOG, DULAS

 

      

 

     Gwnaeth y Cynghorydd J. Arthur Jones ddatganiad o ddiddordeb yn y cais ac nid oedd yn bresennol yn ystod y drafodaeth.

 

      

 

     Ymwelwyd â safle'r cais0 ar 17 Tachwedd, 2004.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Aled Morris Jones cafwyd cynnig i wrthod y cais hwn am resymau priffyrdd a chafodd ei eilio gan y Cynghorwyr D Lewis Roberts a Tecwyn Roberts.

 

      

 

     Pryderu oedd y Cynghorydd Lewis Roberts ynghylch tro yn y ffordd yn y llecyn penodol hwn, a buasai'r anheddau ar y gyffordd.  

 

      

 

     Eglurodd y Swyddog Priffyrdd y buasai'r fynedfa draw oddi wrth y gyffordd a châi'r terfyn cyflymdra yn y lle hwn ei ostwng o 60 mya i 40 mya er mwyn hyrwyddo diogelwch y briffordd.

 

      

 

     Roedd yr bleidlais yn 7 yr un ac ar ôl i'r Cadeirydd ddefnyddio ei bleidlais fwrw penderfynwyd caniatáu'r cais am y rhesymau yn adroddiad y swyddog a hefyd gyda'r amodau yn yr adroddiad hwnnw.

 

      

 

4.12

  GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     24C54A - NEWID DEFNYDD ALLANOL I FOD YN 5 UNED WYLIAU YNGHYD Â DARPARU THANC SEPTIG NEWYDD YN RHOSMYNACH FAWR, LLANEILIAN

 

      

 

     Gwnaeth y Cynghorydd J. Arthur Jones ddatganiad o ddiddordeb yn y cais ac nid oedd yn 0bresennol yn ystod y drafodaeth.

 

      

 

     Ymwelwyd â safle'r cais ar 17 Tachwedd, 2004.

 

      

 

     Dywedodd y Swyddog Priffyrdd y câi digon o fannau pasio eu darparu fel rhan o'r cynllun a bod y ffordd yn y lle hwn yn llawer iawn diogelach.  

 

      

 

     Er bod y ffordd mewn cyflwr gwell yn y lle hwn credai'r Cynghorydd Eurfryn Davies nad oedd yn ddiogelach.

 

      

 

     Mewn ymateb mynegodd y Cynghorydd Morris Jones ei bryderon i'r Adran Briffyrdd ac ni allai dderbyn barn y swyddog ac o'r herwydd cynigiodd wrthod y cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Keith Thomas.  

 

      

 

     O 8 bleidlais i 5 PENDERFYNWYD gwrthod y cais am y rhesymau priffyrdd a roddwyd.

 

      

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor gohiriwyd ystyried y cais tan y cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros wrthod y cais hwn.

 

      

 

4.13

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     24C54A - CAIS AMLINELLOL AR GYFER CODI ANNEDD A MODURDY YNGHYD Â GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD A CHREU MYNEDFA NEWYDD YN TAN RALLT, CARMEL

 

      

 

     Gwnaeth y Cynghorydd J. Arthur Jones ddatganiad o ddiddordeb yn y cais ac nid oedd yn bresennol yn ystod y drafodaeth.

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  

 

      

 

     Yn y cyfarfod cynt ac yn groes i argymhelliad y swyddog roedd yr aelodau yn tueddu i ganiatáu'r cais hwn am y rheswm a ganlyn:

 

      

 

Ÿ     roedd y cais yn cwrdd â meini prawf dan Bolisi 50 (pentrefi rhestredig) gan fod anheddau eraill yn y cyffiniau agos.

 

      

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor gohiriwyd y cais er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rheswm dros ganiatáu.

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod safle'r cais yn ymestyn i'r cefn gwlad ac nad oedd yn cwrdd â'r meini prawf angenrheidiol ym Mholisi 50 Cynllun Lleol Ynys Môn.

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd Schofield, yr aelod lleol, nad oedd ganddo ddim i'w ychwanegu at yr hyn a ddywedodd gynt, a gofynnodd i'r aelodau lynu wrth y penderfyniad cynt a chaniatáu'r cais.

 

 

 

Gan y Cynghorydd PM Fowlie cafwyd cynnig i ganiatáu'r cais am y rhesymau uchod, a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd D Lewis Roberts.

 

 

 

O 9 pleidlais i 2 PENDERFYNWYD glynu wrth benderfyniad blaenorol y Pwyllgor, sef caniatáu'r cais am y rhesymau yn y cofnodion hyn ond gydag amodau addas.  

 

 

 

Roedd y Cynghorydd Arwel Roberts yn dymuno cofnodi nad oedd wedi pleidleisio ar y cais.

 

      

 

4.14

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     28C244A - CAIS I NEWID DEFNYDD YR ADEILAD ALLANOL I 2 UNED WYLIAU YN FELIN UCHAF, BRYN DU

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Ymwelwyd â'r safle ar 20 Hydref, 2004.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod yr ymgeisydd wedi cynnig gwelliannau i'r briffordd yn y ddwy fynedfa at y safle a chafwyd argymhelliad i ohirio gwneud penderfyniad hyd nes cwblhau'r gwaith ymgynghori.  

 

     Wedyn dywedodd y Cynghorydd Glyn Jones bod y cais wedi'i drafod gan y Cyngor Cymuned lleol a bod llythyr o wrthwynebiad wedi'i yrru at y Cyngor.

 

      

 

     PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais hyd oni fuasai'r Adran Briffyrdd wedi cwblhau y gwaith ymgynghori ar y mater uchod.      

 

      

 

4.15

CEISIADAU ECONOMAIDD

 

      

 

     30C385A - DYMCHWEL Y GWESTY PRESENNOL A CHODI ADEILAD 5 LLAWR YN CYNNWYS 28 O FFLATIAU PRYNU I OSOD, PWLL NOFIO DAN DO A GYMNASIWM YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU, ADDASU MYNEDFA I GERBYDAU PRESENNOL A GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD YNG NGWESTY BRYN TIRION, TRAETH COCH.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod rhai materion heb eu datrys ac y buasai adroddiad llawn ar gael, yn ôl pob tebyg, i Bwyllgor mis Chwefror.  Ymwelodd yr Aelodau â safle'r cais ar 20 Hydref 2004.

 

      

 

     PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais hwn.     

 

4.16

CAIS ECONOMAIDD

 

      

 

     Gwnaeth y Cynghorydd Aled Morris Jones ddatganiad o ddiddordeb yn y cais hwn a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r pleidleisio.

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y swyddogion yn y broses o ymgynghori gyda'r ymgeiswyr ar gynnwys tai fforddiadwy fel rhan o'r cynllun.

 

      

 

     PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais hyd nes cwblhau'r gwaith ymgynghori gyda'r ymgeiswyr.     

 

      

 

4

  CAIS ECONOMAIDD

 

      

 

     34C72J - DYMCHWEL YR ADEILADAU DI-DDEFNYDD PRESENNOL YNGHYD Â AILDDATBLYGU'R SAFLE GYDA DEILIAD 3 LLAWR YN CYNNWYS SWYDDFEYDD, SIOPA A CHYFLEUSTERAU STORIO YN YR ISLAWR YNGHYD Â ADDASU'R FYNEDFA I GERBYDAU BRESENNOL YN HERRON SERVICES, FFORDD GLANHWFA, LLANGEFNI.

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Ymwelwyd â'r safle ar 17 Tachwedd, 2004.

 

      

 

     Cafwyd gwybod gan y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod yr ymgeiswyr wedi gofyn am ohirio ystyried y cais hyd nes cynnal rhagor o drafodaethau yn ei gylch.

 

      

 

     Mewn ymateb dywedodd y Cynghorydd Fflur Hughes, yr aelod lleol, bod yr ymgeiswyr wedi cael digon o amser i gyflwyno gwybodaeth.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd John Roberts cafwyd cynnig i ohirio ystyried y cais er mwyn cynnal rhagor o drafodaethau ac yn hyn o beth cafodd ei eilio gan y Cynghorydd PM Fowlie.

 

      

 

     PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais hyd nes cwblhau'r gwaith ymgynghori gyda'r ymgeiswyr.     

 

      

 

4

  CAIS SY'N TYNNU'N GROES I'R POLISI

 

      

 

     34C83C - DATBLYGIAD TRIGIANNOL YN CYNNWYS CODI 21 O DAI YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GEIR AR DIR YN FFORDD GLANHWFA, LLANGEFNI

 

      

 

     Gwnaeth Mr. J. R. W. Owen o'r Adran Briffyrdd ddatganiad o ddiddordeb yn y cais ac nid oedd yn bresennol yn ystod y drafodaeth.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli 0Cynllunio bod yma rai materion heb eu datrys ac argymhellodd y dylid gohirio ystyried y cais.

 

      

 

     PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais hyd nes cwblhau'r gwaith ymgynghori gyda asiant yr ymgeiswyr.

 

      

 

4

  GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     36C237 - CAIS LLAWN AR GYFER DYMCHWEL YR ANNEDD BRESENNOL YNGHYD Â CHODI ANNEDD NEWYDD YM MRYN GWENITH, RHOSTREHWFA

 

      

 

     Gwnaeth y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cynllunio a'r Amgylchedd) datganiad o ddiddordeb yn y cais.

 

      

 

     Dygwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan fod y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cynllunio a'r Amgylchedd) wedi datgan diddordeb ynddo ac wedi cyflwyno sylwadau.

 

      

 

     Ymwelwyd â safle'r cais gan yr aelodau ar 17 Tachwedd 2004.  Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio nad oedd y swyddogion yn gwrthwynebu codi annedd newydd am hen un mewn egwyddor.  Dan Adran 54 (anheddau newydd yn lle hen rai) roedd modd gwneud hynny "os dangosir bod y ty newydd yn gwella gwedd yr ardal".  Teimlai'r swyddogion y buasai maint enfawr y cynnig hwn yn cael effaith andwyol ar y tirwedd ac yn ei ddominyddu.  Roeddent yn teimlo bod modd taro ar ddyluniad gwell i'r cais.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd WI Hughes, yr aelod lleol, yn dymuno dweud ei fod wedi cyflwyno sylwadau ar y cais (Cyfeirir at hyn ar ail dudalen adroddiad y swyddog "Ymateb i Ymgynghori a Chyhoeddusrwydd").

 

      

 

     Ni chredai'r Cynghorydd WI Hughes y câi'r cynnig hwn effaith andwyol ar breifatrwydd nac ar bleserau'r cyffiniau a chyfeiriodd at lythyr yn cadarnhau nad oedd yma broblem o gwbl gyda'r garthffosiaeth.  Yng nghyswllt Polisi 54 credai'r Cynghorydd Hughes y buasai'r cynnig yn gweddu i batrwm y cyffiniau ac yn asio'n dda gyda'r cyd-destun lleol.  

 

      

 

     Mewn ymateb gofynnodd y Cynghorydd Arwel Edwards a ellid defnyddio gwydr sydd ddim yn adlewyrchu goleuni er mwyn cael gwared o'r disgleirdeb llachar a ddisgwylir oherwydd y chwareli.

 

      

 

     Yn ei ymateb ef dywedodd y Cynghorydd Arthur Jones bod y swyddogion o bosib yn ymateb yn rhy arw i'r cynnig hwn a rhoddai ef bwyslais mawr ar y ffaith nad oedd y Cyngor Cymuned yn gwrthwynebu.  Yn ei ymateb i'r cwestiwn gan y Cynghorydd Jones dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod gwybodaeth wedi'i chyflwyno yn adroddiad y swyddog ar droedbrint y cynnig a hefyd ar y gymhariaeth rhwng y cynnig a'r anheddau oedd yn y lle yn barod.  

 

      

 

     Er gwaethaf siap a maint y cynnig teimlai'r Cynghorydd Eurfryn Davies bod y safle yn amlwg ac yn y golwg o ardal eang iawn.  

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Aled Morris Jones cafwyd cynnig i ganiatáu'r cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Lewis Roberts.  

 

      

 

     O 10 pleidlais i 4 PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau a ganlyn:-

 

      

 

Ÿ     mae safle'r cais a'r annedd sydd yno yn amlwg iawn o ardal eang, ac ni fuasai'r annedd newydd fawr amlycach

 

Ÿ     priffyrdd digonol

 

Ÿ     yn dderbyniol o safbwynt codi annedd newydd yn lle hen un

 

      

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor gohiriwyd ystyried y cais tan y cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu'r cais hwn.

 

      

 

     Ni phleidleisiodd y Cynghorydd Tecwyn Roberts ar y cais hwn.      

 

      

 

4

  38C80C - NEWID DEFNYDD YR ADEILADAU ALLANOL I FOD YN 7 ANNEDD YNGHYD Â CHREU MAN PARCIO, GWELLA'R FYNEDFA A CHREU SYSTEM GARTHFFOSIAETH YN GROES FECHAN, TREGELE

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Ymwelwyd â'r safle ar 17 Tachwedd, 2004.

 

      

 

     I sicrhau cofnod cywir, dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio mai cais oedd hwn am saith annedd nid am lety gwyliau.  Wedyn cyfeiriodd at hanes y safle gan ddwyn sylw'r aelodau at ganiatâd a roddwyd yn 1995 dan y rhif cyllunio 38C80B i addasu adeiladau allanol a'u troi yn bedair annedd.  Cafwyd sylwadau gan gyrff yr ymgynghorwyd â nhw yn statudol ond ni chafwyd yr un gwrthwynebiad ac eithrio gwrthwynebiad y Cyngor Cymuned i'r cynnig, a hefyd derbyniwyd 14 o lythyrau o wrthwynebiad gan y cyhoedd.  Y prif bolisi a ystyriwyd wrth bennu argymhelliad y swyddog oedd Polisi 55 (addasu hen adeiladau).

 

      

 

     Roedd y gwelliannau arfaethedig i'r fynedfa i'r briffordd yn dderbyniol ac argymhellodd y swyddog osod amod ynghlwm i sicrhau cydymffurfiaeth yn hytrach na defnyddio cytundeb dan Adran 106.  

 

      

 

     Eglurodd y Cynghorydd Thomas Jones, yr aelod lleol, nad cais oedd hwn gan ffarmwr i arallgyfeirio.  Ers blynyddoedd roedd yr adeiladau wedi'u gadael i adfeilio a chododd gwestiynau ynghylch dyluniad y cynllun a hefyd ynghylch datganiad yr ymgeisydd "bod modd troi adeiladau amaethyddol oedd yn adfeilio mwy a mwy ar gyfer defnydd economaidd i'r gymuned".  Hefyd gofynnodd y Cynghorydd Jones a oedd "Asesiad Effaith Ieithyddol" wedi ei baratoi.  Yn ogystal gwyddai pawb am y problemau draenio yn yr ardal hon a gofynnodd y Cynghorydd am roddi caniatâd i bedair annedd yn unig yn y llecyn sensitif hwn.  

 

      

 

     Ar ôl pwyso a mesur popeth dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio iddynt ganfod fod yr adeiladau mewn cyflwr da.  Yng nghyswllt gadael iddynt ddirywio - y polisi mwyaf perthnasol oedd Polisi 55 (addasu) i bwrpas pennu argymhellion y swyddog i'r Pwyllgor a'r pwyslais ar addasu a newid defnydd.  Nid oedd maint y cynnig yn cyfiawnhau cynnal Asesiad Effaith Ieithyddol.  Roedd darpariaeth0 ar gyfer offer trin carthion yn y cae cyfagos a gwnaed gwaith ymgynghori helaeth gyda'r Asiantaeth yr Amgylchedd, Dwr Cymru a hefyd gydag Adran Iechyd yr Amgylchedd y Cyngor.  Dywedodd bod yma gais am saith annedd a'r rheini yn rhannu cyfleusterau ac oherwydd natur y cais ni fuasai'n briodol cael darpariaeth0 garthffosiaeth i bob un ar wahân.   Hefyd cadarnhaodd y swyddog bod y cais wedi'i gefnogi gan arolwg strwythurol proffesiynol.  

 

      

 

     Roedd y swyddog Priffyrdd yn cefnogi'r gwelliannau arfaethedig i'r fynedfa a hefyd i'r bwriad i ddarparu mynedfa newydd o'r gilfan i'r A5025.

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Arwel Edwards dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio nad oedd modd categoreiddio'r datblygiad fel clwstwr o dai.

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn arall, un gan y Cynghorydd Hadley, dywedodd y Swyddog Priffyrdd bod Asesiad o'r Effaith ar y Briffordd wedi'i gynnal.      

 

      

 

     Credai'r Cynghorydd Arthur Jones bod yma gynnydd sylweddol yn nifer yr anheddau yn y cefn gwlad.  

 

      

 

     Wedyn ychwanegodd y Swyddog Priffyrdd bod y gilfan ger y safle yn eiddo i'r Cyngor - dywedodd hyn mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Tecwyn Roberts.

 

      

 

     O 8 bleidlais i 5 PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.      

 

      

 

4

  GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     40C244 - NEWID DEFNYDD ADEILADAU ALLANOL I 6 UNED WYLIAU  YNGHYD Â DARPARU TANC SEPTIG NEWYDD YM MHENTRE ERIANELL, DULAS

 

      

 

     Gwnaeth y Cynghorydd J. Arthur Jones ddatganiad o ddiddordeb yn y cais ac nid oedd yn bresennol yn ystod y drafodaeth.

 

      

 

     Ymwelwyd â safle'r cais ar 17 Tachwedd, 2004.

 

      

 

     Ar ôl trafodaethau gydag Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod angen rhoddi amod ychwanegol ynghlwm wrth unrhyw ganiatâd a roddir fel bod archeolegwyr yn medru archwilio'r safle tra bydd gwaith yn cael ei wneud arno.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Eurfryn Davies cafwyd cynnig i ganiatáu yn unol â'r argymhelliad.

 

      

 

     O 10 pleidlais i 1 PENDERFYNWYD caniatáu'r cais ond gydag amodau gan gynnwys yr amod ychwanegol uchod.      

 

      

 

4

  CEISIADAU YN TYNNU'N GROES I'R POLISI

 

      

 

     48C146 - CAIS AMLINELLOL AR GYFER CODI ANNEDD AR DIR GYFERBYN A THERAS WYLFA, GWALCHMAI

 

      

 

     Gwnaeth Wendy Faulkner o'r Adran Gynllunio ddatganiad o ddiddordeb yn y cais hwn.

 

      

 

     Dygwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan fod yr ymgeisydd yn perthyn i un o swyddogion yr Adran Gynllunio.  Ymwelwyd â safle'r cais ar 17 Tachwedd, 2004.

 

      

 

     Roedd y Rheolwr Rheoli Cynllunio'n ymwybodol bod yr aelodau bellach yn gynefin â'r safle a chyfeiriodd nhw at adroddiad ar ymweliad â'r cyfryw safle.  Roedd y Swyddogion Priffyrdd yn credu bod y fynedfa arall a gynigiwyd i'r A5 yn dderbyniol.  Roedd y cais yn groes i bolisiau tai y Cyngor a chafwyd argymhelliad i wrthod yn unol ag Adran 54A Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

 

      

 

     Gan y Rheolwr Rheoli Cynllunio cafwyd cadarnhad bod y safle, yng nghyd-destun ffiniau'r pentref, 200m o'r capel tua'r de i'r A5 a rhyw 10m o Deras Wylfa tua'r gogledd i'r A5 ar yr ochr arall i'r lôn.  Wrth annerch y cyfarfod dywedodd y Cynghorydd RG Parry, yr aelod lleol, bod safle'r cais o leiaf 300 llath y tu mewn i'r cyfyngiad gyrru 30 mya.  Ni allai'r Cynghorydd Parry dderbyn argymhelliad y swyddog i wrthod.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Keith Thomas cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad o wrthod a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd John Roberts.

 

      

 

     Wedyn dywedodd y Cynghorydd Fowlie bod safle'r cais yn bur agos i ffiniau'r pentref a chynigiodd roddi caniatâd a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Aled Morris Jones a deimlai bod hwn yn estyniad rhesymol a bychan i ffiniau'r pentref.  

 

      

 

     Yn olaf atgoffodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio yr aelodau bod Gwalchmai yn bentref ac nid pentref rhestredig fel y diffinnir hynny dan Bolisi 50.  

 

      

 

     O 11 pleidlais i 5 penderfynwyd derbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad yn yr adroddiad i wrthod y cais.

 

      

 

4

  GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     49C243A - CAIS LLAWN AR GYFER DDYMCHWEL YR ADEILAD PRESENNOL, CODI 9 BYNGALO AC 8 O ANHEDDAU YNGHYD AG ADDASU'R FYNEDFA BRESENNOL I GERBYDAU A CHERDDWYR YN VISTA DEL MAR, PENRHODYN, Y FALI

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Yn y cyfarfod cynt cafwyd argymhelliad gan y swyddogion i wneud penderfyniad deublyg ar y cais hwn ond yn groes i hynny roedd yr aelodau yn tueddu i roddi caniatâd llawn gyda chytundeb dan Adran 106 yng nghyswllt darparu Tai Fforddiadwy ac am y rhesymau a ganlyn:-

 

      

 

Ÿ     roedd y tir wedi'i ddynodi yn unol â'r Cynllun Datblygu Unedol

 

Ÿ     darparu tai fforddiadwy

 

Ÿ     manteision cynllunio

 

      

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor gohiriwyd y cais fel bod swyddogion yn medru paratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod llythyr wedi dod i law o Lywodraeth Cynulliad Cymru yn dweud bod angen penderfynu ar y cais yn lleol ac na fuasai'r Cynulliad yn ei alw i mewn.  Wedyn rhoddwyd i'r aelodau y wybodaeth ddiweddaraf gan y swyddog, sef bod yr ymgeisydd bellach wedi cyflwyno rhagor o wybodaeth a honno'n codi cwestiynau newydd yr ymgynghorid arnynt tan 20 Rhagfyr 2004 a chafwyd argymhelliad i ohirio ystyried y cais.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd John Roberts cafwyd cynnig i ohirio a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Tecwyn Roberts.

 

      

 

     PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais hyd nes cwblhau'r gwaith ymgynghori.      

 

      

 

5     CAIS ECONOMAIDD

 

      

 

5.1

  19C842A/EIA - CAIS AR GYFER DATBLYGIAD ARFAETHEDIG ARDAL DEFNYDD CYMYSG SWYDDI (B1, B2, B8) YN CYNNWYS SWYDDFEYDD, DIWYDIANT A DEFNYDD GWESTY YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU AR DIR GER TY MAWR, CAERGYBI

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y swyddogion wrthi'n ymgynghori ar y cais hwn ac oherwydd lleoliad y safle a natur y cais cafwyd argymhelliad gan y swyddog bod aelodau yn ymweld â'r lle.

 

      

 

     Am y rheswm a roddwyd gan y swyddog PENDERFYNWYD ymweld â safle'r cais.     

 

      

 

6     CEISIADAU  YN TYNNU'N GROES I'R POLISI

 

      

 

6.1

  30C570 - CAIS AMLINELLOL AR GYFER CODI ANNEDD GYDA GAREJ YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU A GOSOD GORSAF BREIFAT I DRIN CARTHION AR DIR GYFERBYN Â GABASSON, TYNYGONGL

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor yn ôl dymuniad yr aelod lleol a oedd yn gefnogol iddo.  

 

      

 

     Disgrifiodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio y cynnig a'r safle dan sylw fel y manylwyd arnynt yn adroddiad y swyddog a chyfeiriodd yr aelodau at yr hanes o wrthod cynllunio ar y safle.  Yn ychwanegol at y rhesymau o blaid gwrthod yn adroddiad y swyddog cyfeiriodd hefyd at wrthwynebiad yr Adran Briffyrdd.  Nodwyd bod un llythyr o wrthwynebiad wedi'i gyflwyno yn y cyfarfod.  Er bod Tyn-y-gongl yn bentref rhestredig yn y Cynllun Datblygu roedd y safle hwn y tu allan i'r pentref - y tu allan yn y Cynllun Lleol a hefyd yn y Cynllun Datblygu Unedol arfaethedig.  Felly roedd y safle yn y cefn gwlad agored.  Y polisi mwyaf perthnasol i bwrpas pennu argymhelliad y swyddog yng nghyswllt y cais hwn oedd Polisi 53 (tai yn y cefn gwlad).  

 

      

 

     Yr argymhelliad gan y swyddogion oedd gwrthod gan fod y safle yn y cefn gwlad ac oherwydd effaith cynnig o'r fath ar y tirwedd ac ar ystyriaethau priffyrdd yn unol â Pholisi 54 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd Lewis Roberts yn dymuno cofnodi ei fod yn gefnogol i'r cais gael ei benderfynu gan y Pwyllgor ond nid oedd yn gefnogol i'r cais fel a ddywedwyd yn yr adroddiad a gofynnodd am gyngor ynghylch ei ryddid i siarad ar yr eitem.  Y cyngor a gafwyd gan y cyfreithiwr oedd bod y Cynghorydd wedi llenwi'r ffurflen gan awgrymu ei fod yn gefnogol i'r cais.  Os felly ni ddylai bleidleisio ar y cais ond fel y dywedodd y Cynghorydd, os oedd hwnnw'n gamgymeriad yna byddai gofyn iddo egluro hynny a mater iddo ef oedd cyfranogi yn y drafodaeth ai peidio a phleidleisio.

 

      

 

     Ym marn y Cynghorydd Lewis Roberts nid oedd y cais hwn yn gwyro oddi wrth y polisïau ac roedd y cynnig yn un am lain gwelededd mawr a man pasio.  Bellach roedd chwech o fannau pasio ar hyd y darn hwn o'r lôn a hanes cynllunio'r safle yn ymwneud â'r cyfnod 1964 - 1976.  Roedd 16 o anheddau ar hyd y B5110 a hefyd roedd llwybr arall posib i'r safle.  Fel y rhan fwyaf o'r bobl leol roedd y Cyngor Cymuned hefyd yn cefnogi'r cais.  Roedd gan yr ymgeisydd fusnes garej ym Mhorthaethwy ac yn dymuno dychwelyd i ardal Llanbedr-goch.  Nid oedd gwerth amaethyddol i'r cae hwn.  Câi un annedd ei chodi mewn bwlch ac roedd yma fantais gynllunio petai'r briffordd yn cael ei gwella.

 

      

 

     Mewn ymateb dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod diffiniad clir o ystyr clwstwr yn y Cynllun Datblygu Unedol, ond nid oedd yr achos hwn yn glwstwr nac yn enghraifft o lenwi bwlch - roedd yr annedd yn y cefn gwlad.   Nid oedd yr ymgeisydd wedi dangos bod yma anghenion eithriadol nac wedi nodi bod hwn yn dy fforddiadwy.

 

      

 

     Dywedodd y swyddog Priffyrdd mai diben y mannau pasio y cyfeiriodd y Cynghorydd Lewis Roberts atynt oedd i bwrpas mynedfa i dai ar hyd y ffordd.  Nid oedd unrhyw welliant wedi'i gynnig.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd John Roberts wedi gofyn tybed a fuasai cael gwared o'r gornel i greu llain gwelededd yn cyfateb i fantais gynllunio ac mewn ymateb i'r syniad hwn dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio y buasai caniatáu ty ar y safle yn creu anfanteision mwy o lawer nag unrhyw fantais a ddeuai yn sgil y gwelliant.

 

      

 

     Yr hyn y gofynnodd y Cynghorydd Tecwyn Roberts amdano oedd cysondeb yn y penderfyniadau yng nghyswllt amodau priffyrdd gan ychwanegu fod eiddo arall wedi'i godi yn y cyffiniau hyn yn ystod y ddwy flynedd diwethaf.

 

      

 

     Cefnogi'r swyddog a wnaeth y Cynghorydd Eurfryn Davies a bod y cais, yn ei farn ef, yn amlwg yn gwyro oddi wrth y polisïau ac roedd am ei wrthod.

 

      

 

     Atgoffodd y Pennaeth Rheoli Datblygu yr Aelodau bod y cais hwn yn amlwg yn gwyro oddi wrth y polisïau.  

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd Arwel Roberts bod yr Aelodau yn ymweld â'r safle a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Glyn Jones.

 

      

 

     Wedyn cafwyd cynnig gan y Cynghorydd Fowlie i dderbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad i wrthod a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Peter Dunning.

 

      

 

     O 9 pleidlais i 5 PENDERFYNWYD ymweld â safle'r cais.  

 

      

 

6

38C209 - CAIS AMLINELLOL AR GYFER CODI ANNEDD, 4 YSTAFELL WELY AR DIR GYFERBYN Â THAN Y BRYN, MYNYDD MECHELL

 

      

 

     Dygwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol a oedd yn ystyried bod y safle yn "dir o safon isel iawn".

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y cyrff yr ymgynghorwyd â nhw yn swyddogol wedi cyflwyno sylwadau ond heb yr un gwrthwynebiad i'r cais ond bod y Cyngor Cymuned Lleol yn pryderu ynghylch y fynedfa i'r safle fel a nodwyd yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

     Yn ôl y swyddog Polisi 53 (tai yn y cefn gwlad) oedd y polisi perthnasol a ystyriwyd wrth bennu argymhelliad y swyddog.  Yn y Cynllun Lleol roedd Mynydd Mechell yn y categori "Cefn Gwlad Agored".  Wedyn dan Bolisi HP5 yn y Cynllun Datblygu Unedol esblygol roedd Mynydd Mechell yn "Treflan a Chlwstwr yn y Cefn Gwlad".  Oherwydd y newidiadau a argymhellwyd i'r meini prawf dan Bolisi HP5 nid oedd hi'n bosib defnyddio'r polisi hwnnw fel ystyriaeth o bwys - am y rheswm hwn teimlai'r swyddog bod y cais yn gynamserol a chafwyd ganddo argymhelliad i'w wrthod.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Thomas Jones, yr aelod lleol, cafwyd cynnig i ganiatáu'r cais, a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Lewis Roberts.

 

      

 

     O 8 bleidlais i 4 PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau a ganlyn:

 

      

 

Ÿ     mae nifer dda o dai o gwmpas safle'r cais - y tu mewn i glwstwr ac yn cyfateb i lenwi bwlch

 

Ÿ     tir o safon isel iawn.

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor gohiriwyd ystyried y cais tan y cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu'r cais hwn.

 

      

 

6

  39C291F - CAIS AMLINELLOL AR GYFER CODI 9 ANNEDD NEWYDD A 6 FFLAT NEWYDD YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD AR DIR YN STRYD Y PACED, PORTHAETHWY

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Gan Arweinydd Tîm yr Adran Gynllunio cafwyd disgrifiad o'r cynnig a chyflwynwyd llythyr ychwanegol o wrthwynebiad - ychwanegol at y 667 o lythyrau oedd eisoes wedi cyrraedd.  Cafwyd argymhelliad i wrthod y cais fel y manylwyd ar hynny yn adroddiad y swyddog a hefyd roedd Asiantaeth yr Amgylchedd yn argymell gwrthod am nad oedd y cynnig yn cwrdd â gofynion y profion dan TAN 15.  Roedd y safle wedi'i glustnodi ar gyfer canolfan dreftadaeth dan bolisïau'r cynllun datblygu a buasai annedd ym mhen gogleddol y safle yn cuddio'r Liverpool Arms.

 

      

 

     Wrth annerch y cyfarfod dywedodd y Cynghorydd Keith Evans, yr aelod lleol, bod gwrthwynebiad enfawr i'r cynnig hwn a'r bobl leol yn tybio mai'r unig dir a gâi ei ddatblygu i bwrpas codi tai oedd hwnnw ar ochr y tir i Stryd Paced; roedd yn cefnogi adroddiad y swyddog a'r argymhelliad i wrthod.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Eurfryn Davies cafwyd cynnig i gefnogi'r argymhelliad, sef gwrthod a chafodd0 ei eilio gan y Cynghorydd John Roberts.

 

      

 

     PENDERFYNWYD gwrthod y cais am y rhesymau yn adroddiad y Swyddog.     

 

      

 

6

  39LPA846/CC - CAIS AMLINELLOL AR GYFER DYMCHWEL YR ANNEDD BRESENNOL AC AILDDATBLYGU'R SAFLE I GYNNWYS 2 BLOC O FFLATIAU AML-LORIOG GYDA ChYFANSWM O 20 O FFLATIAU YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU YM MIN Y DON, PORTHAETHWY

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan fod y tir yn eiddo i'r Cyngor Sir a'r Cyngor Sir yw'r ymgeiswyr hefyd.

 

      

 

     Fel y Deilydd Portffolio ar gyfer Priffyrdd, Trafnidiaeth ac Eiddo dywedodd y Cynghorydd Keith Evans, yr aelod lleol, na fyddai'n chwarae rhan yn y drafodaeth ar y cais.

 

      

 

     Gan Arweinydd Tîm yr Adran Gynllunio cafwyd disgrifiad o'r cynnig fel y manylwyd arno yn ei adroddiad.  Credai'r Cyngor ei bod hi'n dderbyniol datblygu yr ochr hon i Stryd y Paced.  Er bod y cynnig yn groes i'r clustnodiad dan bolisi'r cynllun datblygu, teimlai'r swyddog ei fod, er hynny, yn dderbyniol oherwydd y caniatâd arall i dai ochr y tir  Stryd y Paced.  Cafwyd argymhelliad gan y swyddog i symud un bloc o fflatiau er mwyn gwarchod coeden a oedd yn destun Gorchymyn Diogelu Coed a hefyd argymhelliad i roddi pwerau i'r Pennaeth Gwasanaethau Cynllunio roddi caniatâd i'r cais gyda'r amod na ddeuai gwrthwynebiadau newydd i mewn yn ystod gweddill y cyfnod ymgynghori hyd at 15 Rhagfyr 2004.

 

      

 

     Yma nododd y Cynghorydd Arthur Jones bod y safle rhyw 50 llath oddi wrth y safle i gais cynllunio dan eitem 6.3 yn y cofnodion hyn.  Gofynnodd tybed a oedd ceisiadau'r Cyngor yn cael triniaeth wahanol.  Aeth ymlaen i ddweud nad oedd y cais hwn yn cydymffurfio gyda pholisïau, ac nad oedd y swyddogion wedi rhoddi sylw i'r angen am dai fforddiadwy; hefyd credai bod y dwysedd yn annerbyniol ac argymhellodd y dylid gwrthod y cais hwn oedd yn "gwyro" am y rhesymau a roddwyd dan eitem 6.3 y cofnodion hyn; cafodd ei0 eilio gan y Cynghorydd Tecwyn Roberts.

 

      

 

     Mewn ymateb dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod ceisiadau cynllunio eitemau 6.3 a 6.4 yn bur wahanol i'w gilydd ac nad oedd ceisiadau y Cyngor ei hun yn cael eu trin yn wahanol. Nodwyd:

 

      

 

     "Tra nad yw'r egwyddor o ddatblygu y safle i bwrpasau preswyl yn unol â dyrannu'r safle ar gyfer twristiaeth/gwerthu/busnes o dan ddarpariaethau S30 yng Nghynllun Lleol Ynys Môn mae datblygu'r tir i bwrpasau preswyl ac ochr ddwyreiniol Stryd y Paced eisoes wedi'i dderbyn yng ngheisiadau cynllunio 39C291A a 39C291B, ac felly fe ystyrir y byddai caniatáu datblygu preswyl ar y safle hwn hefyd yn dderbyniol."

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd Arwel Roberts a oedd y safle hwn yn wynebu risg llifogydd megis y cais hwnnw dan 6.3 o'r cofnodion hyn.

 

      

 

     Mynegi cefnogaeth i'r cais wnaeth y Cynghorydd Fowlie gan ei fod ar ochr y dref i Stryd y Paced.

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd John Roberts dywedodd y Swyddog Cynllunio bod yr unedau wedi'u dynodi fel anheddau a 30% ohonynt wedi'u clustnodi yn dai fforddiadwy.

 

      

 

     Wedyn holodd y Cynghorydd Arthur Jones a gâi'r safle ei werthu ond yn ei ymateb dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio na fuasai'r Cyngor ei hun yn debyg o ddatblygu'r safle.

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn arall gan y Cynghorydd Arwel Edwards dywedodd y swyddog bod y cais yn cydymffurfio gyda'r polisïau.

 

      

 

     Ar ôl derbyn cwestiwn gan y Cynghorydd Lewis Roberts atebodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio0 fod y 30% o'r ddarpariaeth tai fforddiadwy wedi'i glandro yn unol â Chanllawiau Cynllunio Atodol y Cyngor.

 

      

 

     Yn0 seiliedig ar egwyddor defnydd tir yn unig cafwyd cynnig0 gan y Cynghorydd P.M. Fowlie i dderbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad o ganiatáu, a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Eurfryn Davies.  

 

      

 

     O 10 pleidlais i 3 penderfynwyd derbyn adroddiad y swyddog ac awdurdodi Pennaeth y Gwasanaeth Cynllunio i gymeradwyo’r cais yn amodol ar beidio derbyn unrhyw sylwadau newydd o fewn y cyfnod ymgynghori sydd ar ôl a gyda’r amodau geir yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

6

  44C230 -  CAIS AMLINELLOL AR GYFER CODI ANNEDD YNGHYD Â CHREU FYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU AR RAN O O.S. 5806, RHIWMOEL, RHOS-Y-BOL

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod yr ymgynghorwyr statudol wedi cyflwyno sylwadau ond heb fod yn gwrthwynebu'r cynnig.  Polisi 50 (aneddiadau rhestredig) oedd y prif bolisi a ystyriwyd wrth benderfynu argymhelliad y swyddog i'r Pwyllgor.  Mae Rhos-y-bol yn bentref rhestredig ac mae'r ffin ddatblygu wedi'i nodi'n glir yn y cynllun lleol - mae'r safle yn amlwg y tu allan i'r ffin ac nid yw yn estyniad rhesymol iddi.  

 

      

 

     Anerchodd y Cynghorydd Aled Morris Jones, yr aelod lleol, y cyfarfod gan ddweud bod datblygiad arall ar hyn o bryd wedi'i ddechrau y drws nesaf i'r safle hwn, rhwng safle'r cais a Phen Palmant.  Byddai'r cynnig ochr yn ochr â'r safle hwn.  Am y rheswm hwn roedd y Cynghorydd Aled Morris Jones yn cynnig y dylai'r cais gael ei gymeradwyo, ac fe eiliwyd hyn gan y Cynghorwyr Glyn Jones a Tecwyn Roberts.  

 

      

 

     Cwestiynodd y Cynghorydd John Roberts y sylw y dylid ei roddi i ffin y pentref.

 

      

 

     PENDERFYNWYD o 10 pleidlais i 4 i gymeradwyo'r cais am y rhesymau a ganlyn:

 

      

 

     Mae'r cynnig yn unol â pholisi 50 o'r Cynllun Lleol;

 

      

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor byddai'r cais hwn yn otomatig yn cael ei ohirio i'r cyfarfod nesaf er mwyn i'r swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau tros gymeradwyo'r cais hwn.

 

      

 

7     GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

7.1

13C129 - CAIS I DDYMCHWEL Y SIED BRESENNOL YNGHYD Â CHODI MODURDY AR WAHÂN YN 1 BRO DAWEL, BODEDERN

 

      

 

     Daethpwyd â'r cais hwn i'w benderfynu gan y Pwyllgor gan fod aelod o'r Pwyllgor yn gyfarwyddwr y cwmni sydd yn gweithredu fel asiantiaid.

 

      

 

     Gwnaeth y Cynghorydd J. Arthur Jones ddatganiad o ddiddordeb yn y cais ac nid oedd yn 0bresennol yn ystod y drafodaeth.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

7

  15C132A - DYCHWEL YR ANNEDD BRESENNOL YNGHYD AG EHANGU YR ANNEDD A GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD Y TU ALLAN I'R CWRTIL YN NHYN FFLAT, TREFDRAETH

 

      

 

     Gwnaeth Mr. Barry J. Jones o'r Adran Briffyrdd ddatganiad o ddiddordeb yn y cais hwn.

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Adroddodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio i'r annedd gael ei dinistrio gan dân yn niwedd y 1970au.  Y prif bolisiau a ystyriwyd wrth benderfynu argymhelliad y swyddog i'r Pwyllgor hwn oedd polisiau 28, 55 a TAN15 (datblygu a risg llifogydd (2004)).  Y ddau brif reswm dros argymell gwrthod y cais oedd risg llifogydd a'r ffaith y byddai ychwanegiad o ryw 200% ym maint yr annedd.  Dywedodd y swyddog y byddai'r datblygiad yn annerbyniol yn ei effaith ffisegol ar yr eiddo presennol ac ar y tirwedd ehangach, yn unol â pholisiau cenedlaethol a lleol.      

 

     Dywedodd y Cynghorydd R.Ll Hughes, yr aelod lleol, i'r ymgeisydd gyflwyno cais rhesymol am gartref pedair llofft o faint rhesymol iddo'i hun, ei wraig a'i dri mab.  

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd Hughes yn teimlo fod y dyluniad yn fater o farn.  Roedd yr annedd bresennol wedi ei llosgi i'r llawr ac nid oedd wedi'i yswirio.  Tra oedd y Cynghorydd Hughes yn derbyn nad oedd Asiantaeth yr Amgylchedd yn cefnogi "datblygiad newydd" o fewn gorlifdir, roedd annedd yn bodoli ar y safle hon.  Roedd yr ymgeisydd wedi cynnig codi lefel y llawr gorffenedig i 3.7m AOD i oresgyn y pryderon hyn, a hefyd roedd yn bwriadu codi lefel y ffordd fynediad i 2.6/2.7m AOD, ac fe dybid y byddai hyn tua troedfedd yn uwch na'r A5.  Fe geir fferm gywion ieir yn ogystal â rhyw 2 - 3 eiddo arall gerllaw.  Cais oedd hwn gan wr lleol a'i deulu i adeiladu ty rhesymol a byddai'r Cynghorydd o blaid caniatáu'r cais.  

 

      

 

     Roedd y Rheolwr Rheoli Cynllunio am gwestiynu ai yr "annedd bresennol" oedd y disgrifiad cywir o'r hyn sydd ar y safle ar hyn o bryd o ystyried fod y cais wedi'i gyflwyno fel un "i adnewyddu annedd a ddinistriwyd gan dân".  Ni fu neb yn byw yn y ty ers y tân yn 1978, nid oes iddo do na ffenestri gyda llysdyfiant yn tyfu allan o'r to.  Nid yw'r ymgeisydd wedi cyflwyno Tystysgrif o Ddefnydd Cyfreithlon.  Roedd y swyddog o'r farn y gellid disgrifio hwn fel un 'wedi'i adael' mewn termau cynllunio.

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Arwel Roberts cadarnhaodd y swyddog fod y safle wedi'i ddosbarthu fel categori C2 mewn risg o lifogydd.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd Glyn Jones yn gweld cynnig yr ymgeisydd i leihau y risg o lifogydd yn dderbyniol a chynigiodd ganiatáu'r cais.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Arthur Jones fod y ty wedi'i adael am y 35 mlynedd diwethaf, a bod yr estyniad yn ychwanegu rhyw 200% i'r hyn sydd eisoes yn bodoli.

 

      

 

     Mewn ymateb i ddatganiad y Cynghorydd Arthur Jones, dywedodd y Cynghorydd R.Ll. Hughes i'r eiddo gael ei 'adael' gan iddo gael ei losgi.  Roedd y cais yn cael ei drafod o dan Bolisi 55 (Addasiadau) yn hytrach na chaniatáu i'r annedd bresennol fod yn furddun ac yn ddolur ar y tirwedd.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Fowlie fod sawl annedd arall yn yr ardal hon ac ar hyd y ffordd sy'n arwain tuag at y safle.  

 

      

 

     Atgoffodd y Pennaeth Rheoli Datblygu yr aelodau nad mater bach oedd mynd yn erbyn barn broffesiynol Asiantaeth yr Amgylchedd - ymgynghorwyr statudol.

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd R.Ll. Hughes fod y cais yn cael ei ganiatáu, ac fe eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Glyn Jones.

 

      

 

     O 9 pleidlais i 4 PENDERFYNWYD caniatáu'r cais hwn am y rhesymau a ganlyn:-

 

      

 

Ÿ     mae'r cais yn un i adnewyddu annedd sy'n bodoli, ac nid yw yn addasiad

 

Ÿ     mae'r dyluniad a'r maint yn dderbyniol i'r safle

 

Ÿ     mewn ymateb i argymhelliad Asiantaeth yr Amgylchedd - nid yw hwn yn ddatblygiad newydd

 

Ÿ     dim yn groes i fioamrywiaeth

 

      

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor byddai'r cais, yn ôl y drefn, yn cael ei ohirio i'r cyfarfod nesaf er mwyn i'r swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau tros gymeradwyo'r cais.     

 

      

 

7

  17C20G/1 - CAIS AMLINELLOL, YN RHANNOL CANIATÂD ADOLYGOL, AR GYFER CODI GWEITHDY CEIR, LLECYN PARCIO CEIR A MAES HYFFORDDI GYRRU YN CYNNWYS TIRLUNIO YCHWANEGOL, MATERION A GADWYD YN ÔL I'R HYN A GANIATAWYD GYNT A DILEU AMOD YN MYNNU GOSODIAD WEDI EI GANIATAU GYNT AR GYFER Y CLUDWR YN HENFFORDD GARAGE, PORTHAETHWY

 

      

 

     Gwnaeth y Cynghorydd John Roberts a J. R. W. Owen o'r Adran Briffyrdd ddatganiad o ddiddordeb yn y cais a gadawsant y cyfarfod tra bu trafodaeth a phleidleisio arno.  Gwnaeth y Cynghorydd R. L. Owen, Cadeirydd, datganiad o ddiddordeb yn y cais ac nid oedd yn bresennol tra bu trafodaeth a phleidleisio arno - cymerwyd y Gadair gan yr Is-Gadeirydd.

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Disgrifiodd y swyddog y cynnig fel y'i cafwyd yn adroddiad y swyddog.  Yn amodol ar beidio derbyn unrhyw sylwadau fyddai'n groes o fewn y cyfnod ymgynghori statudol oedd yn weddill ac yn amodol ar ddileu amod (02) yn adroddiad y swyddog, argymhellodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio y dylid dirprwyo'r hawl i'r swyddogion gymeradwyo'r cais hwn am y rhesymau a roddwyd yn adroddiad y swyddog.  Roedd ailbroffilio'r banciau pridd yn dderbyniol cyn belled â'u bod yn cael eu tirlunio.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghoryd Eurfryn Davies, yr aelod lleol, nad oedd yn hapus gyda'r ffaith bod yr ymgeiswyr wedi gwneud y gwaith yn y lle cyntaf a gofyn wedyn am ganiatâd cynllunio.  Nid oedd gan y Cynghorydd Davies unrhyw wrthwynebiad i'r cais i adeiladu garej, ond ni allai gefnogi'r trac 4 x 4 a'r bwnd pridd oedd yn codi hyd at 3.75m mewn rhai llefydd, ac oedd i'w weld yn glir o sawl man, yn arbennig oddi ar y ffordd oedd yn arwain i hen Landegfan.

 

      

 

     Dywedodd y swyddog bod caniatâd eisoes wedi'i roddi ar gyfer datblygiad o'r math hwn ac nid oedd, felly, i gael ei asesu fel pe bai yn safle tir glas.

 

      

 

     Cwestiynodd y Cynghorydd Tecwyn Roberts os oedd hyn yn orddatblygu'r safle.  

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Fowlie bod yr estyniadau hyn yn angenrheidiol oherwydd llwyddiant y busnes a chynigiodd gymeradwyo'r cais ac fe eiliwyd hyn wedi hynny gan y Cynghorydd Glyn Jones.

 

      

 

     Cwestiynwyd a oedd cyfyngiad uchder ar y bwnd gan y Cynghorydd Keith Thomas.  Atebodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod y bwnd yn uwch mewn un man nag â gymeradwywyd cyn hyn ond roedd y swyddogion yn gweld hyn yn dderbyniol.  Roedd lluniadau trawsdoriadol wedi'u derbyn yn dangos yr uchder.

 

      

 

     Mewn ymateb i gais y Cynghorydd Arwel Edwards am gyngor cyfreithiol atebodd y cyfreithiwr nad oedd hyn yn berthnasol hyd y bo'r cais wedi'i benderfynu.

 

      

 

     Gwnaeth y Cynghorydd Eurfryn Davies gais am benderfyniad deublyg - i gymeradwyo'r cais ac0 eithrio'r trac 4 x 4 gan ei fod yn gweld hwnnw'n annerbyniol yn yr ardal sensitif hon.

 

      

 

     Atgoffodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio yr aelodau fod yr adroddiad wedi'i selio ar 0farn broffesiynol oedd yn hollol unol â pholisiau.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais gyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.     

 

      

 

7

  19C894 - DYMCHWEL Y TY TERAS PRESENNOL A CHREU FFORDD DRWODD I DDARPARU MYNEDFA O STRYD Y FARCHNAD I'R BONT FYNEDFA ARFAETHEDIG YN 35 STRYD Y FARCHNAD, CAERGYBI

 

      

 

     Datganodd y Cynghorydd John Chorlton ddiddordeb yn y cais hwn fel Cadeirydd y Tîm Prosiect oedd yn gwneud cais.

 

      

 

     Daethpwyd â'r cais i'w benderfynu gan y Pwyllgor gan fod y cais yn cael ei wneud ar dir sydd ym mherchenogaeth y Cyngor.

 

      

 

     Rhoddodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio ddiweddariad i'r aelodau gan ddweud i'r Siambr Fasnach leisio pryderon ynglyn â dyluniad y canopi.  Argymhellodd y swyddog gymeradwyo'r cais yn amodol ar ddatrys mater dyluniad y canopi yn foddhaol.  

 

      

 

     PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais am y rhesymau a roddwyd gyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.     

 

      

 

7

23C227 - CAIS AMLINELLOL AR GYFER CODI ANNEDD YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD A GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD AR RAN O O.S. 7962, LLANGWYLLOG

 

      

 

     Gwnaeth y Cynghorydd Aled Morris Jones ddatganiad o ddiddordeb yn y cais a gadawodd y cyfarfod tra bu trafodaeth a phleidleisio arno.

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor yn ôl dymuniad yr aelod lleol sydd yn ystyried nad yw'r polisi perthnasol yn glir iawn.  

 

      

 

     Adroddodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio i asiant yr ymgeisydd gyflwyno llythyr yn gofyn am ohirio penderfyniad ar y cais hwn gan eu bod yn 0dymuno cyflwyno gwybodaeth bellach i gefnogi'r cais.

 

      

 

     PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais hwn am y rhesymau a gafwyd.

 

      

 

      

 

7

  25C146C - CODI UN ANNEDD A MODURDY PREIFAT AR DIR GER TREM Y WYLFA, CARMEL

 

      

 

     Daethpwyd â'r cais hwn gerbron y Pwyllgor i'w benderfynu gan fod safle'r cais yn amgylchynu tir ym mherchenogaeth y Cyngor Sir.

 

      

 

     Adroddodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio i'r cais hwn gael ei ganiatáu gan y Pwyllgor ar 28.07.04 yn amodol ar ddatrys yn foddhaol drefniadau carthffosiaeth.  Yn amodol ar ddiwedd boddhaol i ymgynghori sydd ar ôl, argymhellodd y swyddog gymeradwyo'r cais hwn.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog ac awdurdodi Pennaeth y Gwasanaethau Cynllunio i gymeradwyo'r cais yn amodol ar gwblhau yn foddhaol ymgynghori a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.     

 

      

 

7

  25C146D - CODI ANNEDD UNLLAWR YN CLWT CYFAGOS I RHES TREM Y WYDDFA, CARMEL

 

      

 

     Daethpwyd â'r cais hwn gerbron y Pwyllgor i'w benderfynu gan fod safle'r cais yn cynnwys tir ym mherchenogaeth y Cyngor Sir.

 

      

 

     Dywedodd y Swyddog Cynllunio fod y cynnig bellach yn cynnwys tanc septig, ac ar sail hynny roedd yr argymhelliad wedi newid i un o ddirprwyo'r penderfyniad i swyddogion.  

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog ac awdurdod i Pennaeth y Gwasanaethau Cynllunio i benderfynu'r cais.  

 

      

 

7

  25C162A - CAIS AMLINELLOL AR GYFER CODI BYNGALO YN NHIR GER PENTERFYN, CARMEL

 

      

 

     Daethpwyd â'r cais hwn i'r Pwyllgor i'w benderfynu gan fod safle'r cais yn cynnwys tir ym mherchenogaeth y Cyngor Sir.

 

      

 

     PENDERFYNWYD gwrthod y cais am y rhesymau roddwyd yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

7

  CAIS I GADW DEFNYDD RHAN O'R SAFLE ER MWYN STORFA CARAFANAU TEITHIO YNG NGORSAF RHEILFFORDD TY CROES, BRYN DU

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod Asiantaeth yr Amgylchedd ac Adran Iechyd Amgylcheddol y Cyngor yn fodlon gyda'r cynnig.  Roedd swyddogion yn argymell cymeradwyo'r cais hwn mewn egwyddor gan ei fod ar gyfer ailddatblygu safle sydd yn bodoli, gan ei fod yn creu cyflogaeth a'i fod yn dderbyniol yn nhermau ei effeithiau ar y tirwedd, ac nid oedd gan yr Adran Briffyrdd unrhyw wrthwynebiad.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Glyn Jones, yr aelod lleol, nad oedd neb wedi bod ar y safle yn ystod y tair blynedd diwethaf, a fod perchennog y safle yn byw yn Llundain.  Bu ymgynghori gyda Chymuned Llanfaelog yn hytrach na Chyngor Cymuned Aberffraw ac nid oedd ymgynghori wedi digwydd gyda'r eiddo oedd y drws nesaf ac, felly roedd yr aelod lleol yn argymell gohirio gwneud penderfyniad ar y cais hwn.

 

      

 

     Am y rhesymau a roddwyd PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais hwn.

 

      

 

7

  29C103B - CODI ADEILAD AR GYFER DEFNYDD BUSNES AM YSTAFELL FWG YNGHYD AG ADDASU Y FYNEDFA GERBYDOL BRESENNOL YNGHYD Â GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD YN BORTHWEN, LLANFAETHLU

 

      

 

     Roedd y cais hwn o flaen y Pwyllgor oherwydd fod gofynion y lleoliad penodol yn dweud bod yn rhaid i'r busnes gael ei leoli yn y safle hwn.  Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio y byddai'n dda o beth i aelodau ymweld â'r safle oherwydd natur y cynnig a'r lleoliad sensitif.  

 

      

 

     Am y rhesymau a roddwyd PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais hwn.

 

      

 

7.11

33C28C/1 - CODI IS-ORSAF 33KW A GOSOD GWIFRAU CYSYLLTU TAN DDAEAROL CYSYLLTIEDIG YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD YN WELSH COUNTRY FOODS LTD., STAD DDIWYDIANNOL GAERWEN, GAERWEN

 

      

 

     Roedd y cais hwn i'w benderfynu gan y Pwyllgor gan fod safle'r cais ar dir ym mherchenogaeth y Cyngor.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais gyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

7.12

  46C188E - CAIS AMLINELLOL AR GYFER AILDDATBLYGU Y SAFLE PRESENNOL YNGHYD Â CHODI 6 O UNEDAU YN 68 A 68A, LÔN TREARDDUR, TREARDDUR

 

      

 

     Daethpwyd â'r cais hwn gerbron y Pwyllgor ar gais yr aelod lleol oherwydd pryderon yn ymwneud â gorddatblygu'r safle.

 

      

 

     Adroddodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio i dderbyn e-bost gan yr ymgeisydd.  Tynnodd y swyddog sylw'r aelodau i'r datganiad a ganlyn ym mhwynt 8 o'r e-bost oedd yn dweud "Mae Mr Geraint Edwards y Prif Weithredwr wedi cytuno ar y pwynt hwn gyda mi; fel cyn uwch swyddog cynllunio efallai y byddech yn dymuno cymryd cyfarwyddyd ganddo ef ar y mater hwn."     

 

      

 

     Roedd y Rheolwr-gyfarwyddwr yn dymuno gwneud yn eglur ei fod yn gadael pob trafodaeth ar faterion techegnol o'r math hwn i'r swyddogion achos.  

 

      

 

     Drwyddo draw nid oes gan y swyddogion wrthwynebiad, mewn egwyddor, i ailddatblygu'r safle hwn, ond maent yn ei gweld yn angenrheidiol i sefydlu dull y chwech uned breswyl er mwyn gallu gwneud asesiad o sut y maent yn ffitio i mewn gyda chymeriad yr ardal yn unol â'r cyfarwyddyd roddwyd gan yr Arolygwr wrth wrthod apeliadau diweddar.  Roedd y swyddog, o gydbwyso pethau, yn gweld y cais hwn yn un derbyniol ar gyfer0 lleoli hyd at chwech uned breswyl ac roedd yr argymhelliad wedi newid i ofyn i'r aelodau ddirprwyo'r pwer i swyddogion i ganiatáu'r cais hwn yn amodol ar hawl y swyddogion i atodi amodau penodol er mwyn rheoli manylion yng nghyswllt safle, dyluniad, edrychiad, ffurf a mas yr aneddiadau arfaethedig.  

 

      

 

     Argymhellodd y Cynghorydd Peter Dunning, yr aelod lleol, gynnal ymweliad safle i asesu natur y datblygiad arfaethedig a'r briffordd oedd yn gul ac mewn cyflwr gwael yn y lleoliad hwn.  Eiliwyd ef gan y Cynghorydd Keith Thomas.

 

      

 

     Dywedodd y swyddog cynllunio na allai swyddogion gynnal unrhyw gais i wrthod fyddai'n seiliedig ar faterion priffyrdd.  Roedd egwyddor y drafnidiaeth gâi ei gynhyrchu gan 6 annedd yn dderbyniol ym marn swyddogion priffyrdd a'r Arolygwr Cynllunio.  Byddai hawl i apelio oherwydd diffyg penderfyniad yn codi pe câi'r mater ei ohirio.  

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â safle'r cais.     

 

      

 

7

  46C86E - CAIS I NEWID AMOD 1 (AMOD CYFYNGU AMSER) AR RYBUDD CANIATÂD CYFEIRNOD 46C86C (CODI CARTREF NYRSIO AR OS 0468 ISALLT BACH, TEARDDUR) FEL Y GELLIR CANIATAU BLWYDDYN YCHWANEGOL I DDECHRAU GWAITH AR Y SAFLE O.S. 0468 ISALLT PARK, TREARDDUR

 

      

 

     Daethpwyd â'r cais i'w benderfynu gan y Pwyllgor ar gais yr aelod lleol. Adroddodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y cais hwn bellach wedi'i dynnu'n ôl.

 

      

 

     PENDERFYNWYD nodi y tynnu yn ôl.

 

      

 

      

 

8     MATER A GYFEIRIWYD YN ÔL

 

      

 

8.1

  37C137 - CAE'R LEB, BRYNSIENCYN - CAIS LLAWN AR GYFER CREU MANNAU PARCIO AC ALTRO MYNEDIAD

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu bod y Pwyllgor hwn yn ei gyfarfod ar 6 Hydref, 2004 wedi penderfynu i ganiatáu'r cais uchod ynghyd â llwybr troed newydd yn ddibynnol ar ymgynghoriadau derbyniol.  Dywedodd Gwasanaeth Cynllunio Archaeolegol Gwynedd bod y bwriad yn dderbyniol mewn egwyddor, ond nad oeddynt yn cefnogi darparu llwybr troed oherwydd y gallai amharu ar ddefnydd archaeolegol gwerthfawr.  Nodwyd bod y bwriad wedi ei newid er mwyn dileu'r llwybr troed ac mae Gwasanaeth Cynllunio Archaeolegol Gwynedd wedi cadarnhau bod y bwriad nawr yn dderbyniol.  Cyn belled na dderbynnir sylwadau i'r gwrthwyneb, argymhellodd y swyddog y dylai'r Pwyllgor gadarnhau ei benderfyniad blaenorol i ganiatáu'r cais.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad o ganiatáu y cais.

 

      

 

      

 

9

CEISIADAU A DDIRPRWYWYD

 

      

 

Cyflwynwyd a derbyniwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cynllunio a Gwasanaethau Amgylcheddol) ar geisiadau a ddirprwywyd ac y gwnaethpwyd penderfyniad arnynt ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor hwn.     

 

      

 

10     APELIADAU

 

      

 

Cyflwynwyd a derbyniwyd yr adroddiadau a ganlyn gan yr Arolygaeth Gynllunio :

 

      

 

10.1

  SAFLE AR FFERM GLANMORFA, LLANGAFFO

 

      

 

     Mae apêl mewn perthynas a'r safle uchod nawr wedi'i thynnu'n ôl.

 

      

 

1

  SAFLE'R HEN BWLL NOFIO, BIWMARES

 

      

 

     Mae apêl mewn perthynas a'r safle uchod nawr wedi'i thynnu'n ôl.

 

      

 

1

  TIR GERLLAW FFORDD RAVENSPOINT, TREARDDUR

 

      

 

     O dan Adran 78 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 cyflwynwyd apêl yn erbyn 0penderfyniad yr Awdurdod hwn i wrthod rhoi caniatâd i0 gais amlinellol i adeiladu un annedd dan gais gynllunio0 cyf: 46C383 - gwrthodwyd yr apêl.

 

      

 

1

  8 PARC BRANWEN, Y FALI

 

      

 

     O dan Adran 78 Deddf Cynllunio Gwlad a thref 1990 cyflwynwyd apêl yn erbyn penderfyniad yr Awdurdod hwn i wrthod caniatâd i godi ty gardd dan gais cynllunio 49C163K - caniatawyd yr apêl.

 

      

 

     PENDERFYNWYD nodi yr uchod.

 

      

 

11     CYFARFODYDD O'R PWYLLGOR CYNLLUNIO

 

      

 

     Cyflwynwyd a nodwyd adroddiad y Pennaeth Rheoli Datblygu bod cyfarfodydd wedi eu trefnu dan y pynciau isod :

 

      

 

11.1

  13 Rhagfyr, 2004      -     Canlyniadau yn deillio o'r Broses Gynllunio - Perspectif Aelodau

 

       Arolwg o'r "cyfnod adolygu"

 

      

 

11.2

  21 Rhagfyr, 2004     -     Cyfarwyddyd Cynllunio Atodol ar Dai Fforddiadwy.

 

 

 

Atgoffodd y Pennaeth Rheoli Datblygu yr aelodau eu bod wedi cael gwahoddiad i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i'w trafod yn y cyfarfodydd uchod.

 

 

 

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 6.45 p.m.

 

 

 

Y CYNGHORYDD R. L. OWEN

 

CADEIRYDD