Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion dogfennau , 2 Mawrth 2005

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Dydd Mercher, 2ail Mawrth, 2005

PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION

 

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Mawrth 2005

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd R L Owen, Cadeirydd

Y Cynghorydd J Arthur Jones, Is-Gadeirydd

 

Y Cynghorwyr John Byast, Eurfryn Davies, Peter Dunning,

J Arwel Edwards, P M Fowlie, Denis Hadley, R Ll Hughes,

A Morris Jones, O Glyn Jones, Thomas Jones, John Roberts,

J Arwel Roberts, W T Roberts,

 

 

 

WRTH LAW:

 

Cynllunio:

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cynllunio a'r Amgylchedd)

Pennaeth Rheoli Datblygu (EGJ)  

Arweinydd Tîm (DPJ)

Swyddog Cynllunio (JR)

 

Priffyrdd:

Uwch Beiriannydd (Rheoli Datblygu a Hawliau Tramwy Cyhoeddus) (JRWO)

Swyddog Rheoli Datblygu (RE)

 

Cyfreithiwr (RWJ)

Cynorthwy-ydd Gweinyddol (CWP)

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Y Cynghorwyr D Lewis-Roberts, John Rowlands, Keith Thomas.

 

 

 

HEFYD YN BRESENNOL:

 

Aelodau Lleol:  Y Cynghorwyr W J Chorlton (eitem 4.3)

W I Hughes (eitem 4.2, 6.1), Bryan Owen (eitem 4.10),

Goronwy O Parry MBE (eitem 7.8, 7.9), Peter S Rogers (eitem 7.7), HefinThomas (eitem 6.4), H Noel Thomas (eitem 6.6),

John Williams (eitem 6.2, 6.3)

 

 

1

DATGANIAD O DDIDDORDEB

      

     Cafwyd datganiadau o ddiddordeb gan Aelodau a Swyddogion fel y cawsant eu cofnodi dan yr eitemau perthnasol.     

      

2

COFNODION

      

     Cyflwynwyd a chadarnhawyd cofnodion y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gyfarfu ar 8 Chwefror, 2005  (Cyfrol y Cyngor 03.03.2005, tudalennau 136 - 153), ond gyda'r newid  a ganlyn i fersiwn Gymraeg y cofnodion:

      

     Eitem 4.9 - 34C72J Gwasanaethau Heron, Ffordd Glanhwfa, Llangefni - nid oedd yr aelod lleol wedi dangos ei bod o blaid y cais a nodwyd bod angen dileu'r geiriau "sy'n cefnogi'r cais" o fersiwn Gymraeg y cofnodion.

           

3

YMWELIADAU Â SAFLEOEDD

 

      

 

     Cyflwynwyd a chadarnhawyd yr adroddiad ar Ymweliadau â Safleoedd Cynllunio a gafwyd ar 16 Chwefror, 2005.  

 

 

 

CEISIADAU'N CODI O'R COFNODION

 

      

 

4

CAIS YN GWYRO 

 

      

 

     12C6F     CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD A DARPARU MYNEDFA NEWYDD, OFFER PREIFAT I DRIN CARTHION AR DIR GER DOLWAR, LLANFAES

 

 

 

     Gadawodd y Cynghorydd R L Owen y Gadair am y drafodaeth ar y cais hwn gan ei fod yn dymuno siarad arno fel yr aelod lleol.  Cymerwyd y Gadair gan y Cynghorydd Arthur Jones, yr Is-Gadeirydd.

 

      

 

     Yr aelod lleol ofynnodd am drosglwyddo'r cais i'r Pwyllgor ac roedd ef yn ei gefnogi.  Ymwelodd yr aelodau â'r safle ar 19 Ionawr, 2005.

 

      

 

     Yn y cyfarfod cynt roedd yr aelodau yn tueddu i ganiatáu'r cais a hynny'n groes i argymhelliad o wrthod gan y sywddog - yn cefnogi am y rhesymau a ganlyn:

 

      

 

Ÿ     llenwi bwlch

 

Ÿ     yn unol â Pholisi 50 y Cynllun Lleol

 

Ÿ     mantais briffyrdd

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor gohiriwyd ystyried y cais er mwyn i'r swyddogion gael cyfle i baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu.

 

 

 

Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod y cais hwn yn groes i'r polisïau cynllunio a bod y swyddogion yn dal i gredu y dylid gwrthod y cais am y rhesymau a roddwyd o'r blaen.

 

 

 

Fodd bynnag roedd y Cynghorydd R L Owen, yr aelod lleol, yn dal i gredu y dylid caniatáu'r cais gan fod y safle yn un addas a'r unig un ar gael yn yr ardal hon.

 

 

 

Dan Bolisi 50 cynigiodd y Cynghorydd Aled Morris Jones y dylid glynu wrth benderfyniad y Pwyllgor a chaniatáu'r cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd O Glyn Jones.

 

 

 

Gan ddilyn cyngor y cyfreithiwr bod y cais yn y categori gwyro cytunodd yr aelodau i gofnodi'r bleidlais ac roedd y pleidleisio fel a ganlyn:

 

 

 

CANIATAU'R CAIS (YN GROES I ARGYMHELLIAD O WRTHOD GAN Y SWYDDOGION):

 

Y Cynghorwyr John Byast, Eurfryn Davies, P M Fowlie, Denis Hadley, A Morris Jones,

 

O Glyn Jones, Thomas Jones (7)

 

 

 

DERBYN ADRODDIAD Y SWYDDOG A'R ARGYMHELLIAD I WRTHOD: 

 

Y Cynghorwyr Peter Dunning, J Arwel Edwards, J Arwel Roberts, John Roberts,

 

W Tecwyn Roberts (5)

 

 

 

YMATAL:

 

Y Cynghorydd R L Owen (1)

 

 

 

O 7 bleidlais i 5 PENDERFYNWYD glynu wrth y penderfyniad cynt, sef caniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd.

 

 

 

4

CEISIADAU'N GWYRO 

 

      

 

14C190A - CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD YNGHYD Â GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD A CHREU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU YM MAES LLAN FAWR, TYN LON

 

      

 

     Yr aelod lleol ofynnodd am drosglwyddo'r cais hwn i'r Pwyllgor.

 

      

 

     Cafwyd datganiad o ddiddordeb anuniongyrchol yn y cais gan Cath Wynne-Pari.

 

      

 

     Yn y cyfarfod cynt roedd yr aelodau'n tueddu i ganiatáu'r cais am y rhesymau a 0ganlyn a hynny'n groes i argymhelliad o wrthod gan y swyddog :

 

      

 

Ÿ     roedd y cais yn cydymffurfio gyda gofynion Polisi 50

 

Ÿ     roedd safle'r cais ar ffin y pentref

 

Ÿ     nid yw'r bwriad yn mynd y tu draw i'r gofynion

 

Ÿ     nid oedd yr un annedd arall ar werth nac adeilad ar gael i'w addasu

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor gohiriwyd ystyried y cais er mwyn i'r swyddogion gael cyfle i baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu.

 

 

 

Cafwyd cadarnhad gan y Pennaeth Rheoli Datblygu bod y swyddogion yn argymell gwrthod y cais hwn am fod y safle yn y cefn gwlad a'r bwriad yn groes i bolisi 50.  Buasai caniatáu'r cais yn sefydlu cynsail peryglus.

 

 

 

Roedd y Cynghorydd W I Hughes, yr aelod lleol, yn dal i fod o'r farn y dylid caniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd, ond gydag amodau priffyrdd priodol.  Roedd safle'r cais un ai y tu mewn neu ar ffiniau'r pentref, a'r capel a'r ty capel ar draws y ffordd yn "fwy o estyniad" na safle'r cais.  Yn y cyffiniau roedd tua 21 o anheddau ond dim un ar werth nac ar rent.

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd Arthur Jones bod y safle hwn, os oedd llinell i ddiffinio'r clwstwr neu'r anheddau eraill yn yr ardal, "un ai y tu mewn neu union ger y ffiniau datblygu".  Roedd Glanrafon yn bentref, ac o'r herwydd roedd yn dal i fod o'r farn bod angen caniatáu'r cais.  

 

 

 

Am y rhesymau a roddwyd cafwyd cynnig i ganiatáu'r cais gan y Cynghorydd Eurfryn Davies a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd W T Roberts.

 

 

 

I bwrpas cofnod dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu y dylai fersiwn Saesneg adroddiad y swyddog ddarllen fel a ganlyn ym mharagraff (3) "this does 'not' justify departing from national and local planning policies" a hyn yn groes i beth a ddywedwyd yn yr adroddiad.  Roedd y swyddog yn dal i fod o'r farn bod safle'r cais y tu allan i'r ffiniau datblygu ac felly ddim yn cydymffurfio gyda gofynion Polisi 50.  Er nad oedd yr un eiddo arall ar gael yn y cyffiniau nid oedd hynny'n cyfiawnhau gwyro oddi wrth bolisïau.

 

 

 

Gan ddilyn cyngor y cyfreithiwr bod y cais yn y categori gwyro cytunodd yr aelodau i gofnodi'r bleidlais ac roedd y pleidleisio fel a ganlyn:

 

 

 

CANIATAU'R CAIS (YN GROES I ARGYMHELLIAD O WRTHOD GAN Y SWYDDOGION):

 

Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, P M Fowlie, Denis Hadley, R L Hughes, A Morris Jones,

 

J Arthur Jones, O Glyn Jones, Thomas Jones, John Roberts, W Tecwyn Roberts (10)

 

 

 

DERBYN ADRODDIAD Y SWYDDOG A'R ARGYMHELLIAD I WRTHOD: 

 

Y Cynghorwyr John Byast, Peter Dunning, J Arwel Edwards, J Arwel Roberts (4)

 

 

 

O 10 pleidlais i 4 PENDERFYNWYD glynu wrth y penderfyniad cynt, sef caniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd.

 

      

 

4

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

19C624B  CAIS AMLINELLOL I GODI ANENDD YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU YN MONUMENT HOUSE, FFORDD MAESHYFRYD, CAERGYBI

 

      

 

     Trosglwyddwyd y cais hwn i'r Pwyllgor gan fod y fynedfa arfaethedig i'r safle yn cael effaith ar dir ym meddiant y Cyngor.

 

      

 

     Yn y cyfarfod cynt cafwyd argymhelliad gan y swyddogion i wrthod y cais am nad oedd y fynedfa arfaethedig ar hyd Cleveland Crescent yn dderbyniol.  Câi effaith andwyol hefyd ar  gyfleusterau parcio yn Cleveland Crescent, trwy 0niwtraleiddio llecynnau parcio a gostwng cyfanswm y nifer o lefydd parcio ar gael, ar roedd yr aelod lleol yn cytuno gyda'r sylwadau hyn. Yn groes i argymhelliad o wrthod gan y swyddog penderfynodd yr aelodau ymweld â'r safle i asesu'r sefyllfa yn y fynedfa a threfnwyd y cyfarfod hwnnw ar gyfer 16 Chwefror, 2005.

 

      

 

     Yr hyn a wnaeth y Cynghorydd John Chorlton, yr aelod lleol, oedd ailadrodd ei ddatganiad blaenorol bod y fynedfa arfaethedig yn gwbl anaddas.  Roedd modd trefnu gwell mynedfa o ffrynt yr eiddo i Ffordd Maeshyfryd.

 

      

 

     Gynt roedd y safle hwn meddai'r Cynghorydd Arwel Roberts, yn cael ei ddefnyddio fel gweithdy a mynedfa i Ffordd Maeshyfryd a chynigiodd ef dderbyn adroddiad y swyddog a'r cynnig i wrthod y cais.  Cafodd ei eilio gan y Cynghorydd John Roberts.

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Hadley dywedodd yr Uwch Beiriannydd Priffyrdd y buasai'r Adran Briffyrdd yn gwrthwynebu mynedfa ar hyd Ffordd Maeshyfryd a chredai bod y fynedfa trwy Cleveland Crescent yn fwy derbyniol o safbwynt y priffyrdd ond gydag amodau perthnasol.  

 

      

 

     Wedyn ychwanegodd y Pennaeth Rheoli Datblygu mai cais oedd hwn i ddarparu mynedfa ar hyd Cleveland Crescent ac y dylid cyflwyno cais newydd am fynedfa ar hyd Ffordd Maeshyfryd.

 

     Gan y Cynghorydd Glyn Jones cafwyd cynnig i ohirio ystyried y cais er mwyn rhoi'r cyfle i swyddogion drafod mynedfa arall gyda'r ymgeisydd.  

 

      

 

     Gan y Cynghorydd J Arwel Roberts cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad o wrthod a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd John Byast.

 

      

 

     O 10 pleidlais PENDERFYNODD yr aelodau dderbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad ynddo i wrthod y cais.

 

      

 

4

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     28C244A    TROI'R ADEILAD ALLANOL YN 2 UNED WYLIAU YN FELIN UCHAF, BRYN DU

 

      

 

     Yr aelod lleol ofynnodd am drosglwyddo'r cais hwn i'r Pwyllgor ac ymwelwyd â'r safle ar 20 Hydref 2004.

 

      

 

     Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod y cynnig yn dderbyniol o safbwynt polisïau cynllunio ac argymhellodd y dylid dirprwyo yr hawl i ganiatáu'r cais ar ddiwedd y cyfnod ymgynghori a chydag amodau perthnasol (ac eithrio amod (06)) ac yn cynnwys Cytundeb dan Adran 106 i gyfyngu ar hawliau preswylio i hawliau gwyliau yn unig a hefyd gydag amod fydd yn cadw'r unedau fel un uned fawr.

 

      

 

     Gan yr aelod lleol, y Cynghorydd Glyn Jones, cafwyd argymhelliad i ddarparu un neu ddau ramp cyflymder yn ffrynt y tai teras ger y fynedfa i'r safle ac wedyn gallai dderbyn y bwriad.  Buasai'r bwriad yn creu 64 o symudiadau traffig ychwanegol bob dydd.  Caniatawyd pedair carafan y tu mewn i'r libart dan dystysgrif defnydd cyfreithlondeb - credai y buasai caniatáu'r bwriad penodol hwn yn cyfateb i orddatblygu'r safle.  Gofynnodd y Cynghorydd Jones a oedd unrhyw reolau i bwrpas rheoli dwysedd yr anheddau ar ddarn o dir.

 

      

 

     O safbwynt Priffyrdd roedd yr Uwch Beiriannydd Priffyrdd yn gweld y cynnig hwn yn dderbyniol. Bellach roedd yr ymgeisydd wedi cynnig lledu'r fynedfa i 6m ond buasai'n amhriodol gosod rampiau cyflymder yn y lle hwn oherwydd hyd y ffordd yn ffrynt y tai teras.  Heb rampiau cyflymder cynigiodd y Cynghorydd Glyn Jones y dylid gwrthod y cais0 a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Thomas Jones.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Arwel Roberts cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad i ganiatáu.

 

      

 

     O 10 pleidlais i 3 PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a dirprwyo'r hawl i'r Pennaeth Gwasanaeth Cynllunio ganiatáu'r cais oni cheir gwrthwynebiadau cyn diwedd y cyfnod ymgynghori a hefyd gyda'r amodau yn adroddiad y swyddog (ac eithrio amod (06)) ac yn amodol hefyd ar wneud cytundeb dan adran 106 i sicrhau y bydd yr unedau gwyliau'n cael eu cadw fel un uned ac na byddant, byth, yn cael eu gwerthu fel unedau ar wahân.

 

      

 

4

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     29C112  CAIS AMLINELLOL I CODI 6 ANNEDD YNGHYD AG ADDASU'R FYNEDFA I GERBYDAU AR DIR GER Y BRYN, LLANFAETHLU

 

      

 

     Yn y cyfarfod cynt cafwyd argymhelliad gan y swyddog bod yr aelodau yn ymweld â'r safle a threfnwyd hynny ar gyfer 16 Chwefror, 2005.  Fodd bynnag, cafwyd argymhelliad i ohirio ystyried y cais er mwyn creu cyfle i ystyried rhagor o wybodaeth a ddaeth i law.

 

      

 

     Am y rheswm a roddwyd PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais hwn.  

 

      

 

4

CAIS ECONOMAIDD

 

      

 

     30C385A - DYMCHWEL Y GWESTY A CHODI ADEILAD 5 LLAWR YN CYNNWYS 28 O APARTMENTAU I'W PRYNU A'U GOSOD, PWLL NOFIO DAN DO A GYMNASIWM YNGHYD Â DARPARU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU, ALTRO'R FYNEDFA SYDD YNO I GERBYDAU A DARPARU TANC SEPTIG NEWYDD YNG NGWESTY BRYN TIRION, TRAETH COCH

 

      

 

     Ymwelwodd yr aelodau â safle'r cais ar 20 Hydref, 2004.

 

      

 

     Dywedodd y Pennaeth Rheoli0 Datblygu bod adroddiad yr ymgynghorwyr annibynnol bellach wedi dod i law ac y câi adroddiad llawn ei gyflwyno i gyfarfod nesaf y Pwyllgor.  Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Arwel Roberts dywedodd y swyddog y câi costau'r asesiad eu talu gan yr Adran Gynllunio.  

 

      

 

     Am y rheswm a roddwyd PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais.

 

      

 

4

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     30C562A DYMCHWEL ANNEDD A CHODI ANNEDD NEWYDD YN 'THE COTTAGE', LLYS MATHAFARN, LLANFAIR MATHAFARN EITHAF

 

      

 

     Yr aelod lleol ofynnodd am drosglwyddo'r cais hwn i'r Pwyllgor.

 

      

 

     Yn y cyfarfod cynt roedd yr aelodau yn tueddu i ganiatáu'r cais am y rhesymau a ganlyn:

 

      

 

Ÿ     roedd caniatâd cynllunio ar y safle'n barod 

 

Ÿ     roedd y Cyngor Cymuned yn cefnogi'r cais

 

Ÿ     roedd y safle y tu mewn i glwstwr o dai - llenwi bwlch     

 

Ÿ     digon o lecynnau pasio ar hyd y lôn

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor gohiriwyd y cais er mwyn rhoi'r cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu.

 

 

 

Wedyn cyfeiriodd y Pennaeth Rheoli Datblygu yr aelodau at ymateb y swyddog i'r rhesymau a roddwyd gan aelodau o blaid caniatáu.  Roedd safle'r cais yn y cefn gwlad ac nid oedd yn cydymffurfio gyda Pholisi 54 (codi tai newydd yn lle hen rai).  Roedd yma gynsail peryglus, sef codi annedd yn lle sied.  Hefyd nid oedd rhwydwaith y ffyrdd yn cyrraedd y safon.

 

 

 

Mewn ymateb dywedodd y Cynghorydd Tecwyn Roberts bod y sied mewn gwirionedd yn siale a chynigiodd lynu wrth y penderfyniad blaenorol, sef caniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd, a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Arthur Jones.  

 

 

 

Ar gais y Cynghorydd John Roberts cytunodd yr aelodau i gofnodi'r bleidlais a dyma fel y bu :

 

 

 

CANIATAU'R CAIS (YN GROES I ARGYMHELLIAD O WRTHOD GAN Y SWYDDOGION):

 

Y Cynghorwyr John Byast, Eurfryn Davies, Peter Dunning, P M Fowlie, Denis Hadley,

 

A Morris Jones, J Arthur Jones, O Glyn Jones, Thomas Jones, J Arwel Roberts,

 

W Tecwyn Roberts (11)

 

 

 

DERBYN ADRODDIAD Y SWYDDOG A'R ARGYMHELLIAD I WRTHOD: 

 

Y Cynghorwyr J Arwel Edwards, John Roberts (2)

 

 

 

O 11 pleidlais i 2 PENDERFYNWYD glynu wrth y penderfyniad cynt, sef caniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd.

 

 

 

4

CAIS ECONOMAIDD

 

      

 

     34C303F/1   CODI 15 O DAI YN CYNNWYS CHWE THY PAR A THERAS O DRI THY YM MRO EDNYFED, LLANGEFNI

 

      

 

     Gwnaeth y Cynghorydd Aled Morris Jones ddatganiad o ddiddordeb yn y cais hwn ac ni chymerodd ran yn y drafodaeth arno.

 

      

 

     Yr aelod lleol ofynnodd am drosglwyddo'r cais hwn i'r Pwyllgor.  

 

      

 

     Dywedodd y Pennaeth Rheoli0 Datblygu bod y swyddogion yn dal i fod yn ymgynghori gyda'r ymgeiswyr ynghylch darparu tai fforddiadwy fel rhan o'r cynllun ac yn disgwyl bod mewn sefyllfa i gyflwyno adroddiad i gyfarfod nesaf y Pwyllgor.

 

      

 

     PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais hyd nes cwblhau'r gwaith ymgynghori gyda'r ymgeiswyr.     

 

      

 

4

CAIS ECONOMAIDD

 

      

 

     34C72J   DYMCHWEL YR HEN ADEILAD GWAG Y TU CEFN I'R SAFLE A CHODI ADEILAD 3 LLAWR AC YNDDO SWYDDFEYDD, SIOPAU A CHYFLEUSTERAU STORIO YN YR ISLAWR YNGHYD AG ADDASU'R FYNEDFA BRESENNOL YN HERON SERVICES, FFORDD GLANHWFA, LLANGEFNI

 

      

 

     Yr aelod lleol ofynnodd am drosglwyddo'r cais hwn i'r Pwyllgor ac ymwelwyd â'r safle ar 17 Tachwedd, 2004.     

 

      

 

     Dywedodd y Pennaeth Rheoli0 Datblygu ei fod yn disgwyl cynlluniau diwygiedig ac y buasai mewn sefyllfa i gyflwyno adroddiad i gyfarfod nesaf y Pwyllgor.0

 

        

 

     PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais am y rheswm a roddwyd.  

 

           

 

4

CAIS YN GWYRO

 

 

 

34LPA850CC CAIS AMLINELLOL I ADEILADU FFORDD A LLWYBR CERDDED NEWYDD, YSGOL NEWYDD, CANOLFAN INTEGREDIG NEWYDD, STAD NEWYDD O DAI AC ADEILAD NEWYDD AR DIR SY'N RHAN O SAFLE COLEG MENAI, LLANGEFNI

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Owen,0 yr aelod lleol, ei fod yn aelod o Glwb Pêl-droed Llangefni a bod y cais yn ymwneud â rhan o safle'r clwb.  Ar ôl derbyn cyngor gan y cyfreithiwr ni chymerodd ran yn y trafodaethau.

 

 

 

Roedd y cais eisoes wedi'i gyflwyno i'r cyfarfod cynt oherwydd maint y bwriad, a rhan ohono yn ymwneud â thir y tu allan i'r ffiniau datblygu, ac ar y pryd cafwyd argymhelliad gan y swyddog bod aelodau yn ymweld â'r safle a threfnwyd y cyfarfod hwnnw ar 16 Chwefror, 2005.

 

 

 

Er bod pum rhan i'r cais dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cynllunio a'r Amgylchedd) bod angen ei ystyried fel un cais cyfun a'r rhain oedd y pum rhan:

 

 

 

-  ysgol newydd - yn lle Ysgol y Graig

 

-  ffordd - darparu trogylch, mynedfa a ffordd newydd o Ffordd Talwrn

 

-  canolfan integredig - gyda lle i hyd at 50 o blant oed 0 - 5 a darparu lle i Deuluoedd Gwledig, a'r Gwasanaethau Gwybodaeth Plant

 

-  Coleg Menai - ymestyn a gwella Coleg Menai

 

-  Tai - codi hyd at 60 o dai gydag elfen o dai fforddiadwy

 

 

 

Buasai'r cynnig hwn yn denu buddsoddiad sylweddol i'r ardal ac roedd angen ei gymeradwyo a'i gefnogi.  Oherwydd y fynedfa bresennol i'r Coleg nid oedd hi'n bosib ymestyn rhagor arno.  Cytunai'r swyddog y buasai'r cynnig yn creu cynnydd yn y traffig ar hyd Ffordd Talwrn ond câi y darn perthnasol ei wella a hefyd buasai trogylch newydd yn arafu'r traffig.  Roeddid yn gwerthfawrogi bod rhan o'r bwriad y tu allan i'r ffiniau datblygu a hefyd bod y datblygiad preswyl yn gwyro oddi wrth y polisïau.  Nodwyd hefyd bod gwrthwynebiadau i'r egwyddor o ddatblygu 0maes gwyrdd, a buasai'r elfen dai yn gymorth i gyllido gweddill y cynllun.  Roedd dyfodol y tir y mae Ysgol y Graig arno yn fater gwahanol a châi hynny sylw ar ben ei hun rywbryd eto.  Cafwyd argymhelliad gan y swyddog i ganiatáu'r cais gydag amodau a hefyd gyda chytundeb cyfreithiol yng nghyswllt darparu tai fforddiadwy.

 

 

 

Nododd y Cynghorydd Arwel Roberts y buasai 30% o'r tai yn rhai fforddiadwy ond gofynnodd am y posibilrwydd o gynnwys tai cymdeithasol fel rhan o'r datblygiad preswyl.

 

 

 

Gofynnodd y Cynghorydd Denis Hadley a oedd datblygiad tai o'r maint hwn y tu mewn i ddyraniad tai Llangefni yn y Cynllun Datblygu Unedol.  

 

 

 

Wedyn gofynnodd y Cynghorydd Glyn Jones a fuasai cyfran o'r plotiau ar gael i unigolion godi eu tai eu hunain arnynt ac mewn ymateb dywedodd y swyddog bod prinder tai i'w rhentu.

 

 

 

Nid oedd y Cynghorydd Arthur Jones wedi cael cyfle i drafod y cais hwn a dymunodd nodi hynny, a theimlai na allai ei gefnogi fel yr oedd ac nad oedd sylw wedi'i roddi i ddatblygu tir arall.  Roedd cyflwr y ddwy ysgol yn ddigon da am y tro.  Nid oedd ychwaith wedi'i argyhoeddi bod yr ysgolion presennol yn y mannau anghywir.  Pryd bynnag yr oedd pobl yn holi ac yn ymgeisio am godi tai y tu allan i'r ffiniau datblygu roeddent yn cael gwybod bod tai o'r fath i fod yn rhai fforddiadwy, ond yn yr achos hwn 30% yn unig0 fuasai'n fforddiadwy. O'r herwydd cafwyd cynnig gan y Cynghorydd Arthur Jones i wrthod y cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Arwel Roberts.

 

 

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Glyn Jones dywedodd yr Uwch Beiriannydd Priffyrdd y buasai'r swyddogion yn sicrhau gwelededd digonol o'r ddau gyfeiriad ar hyd Ffordd Talwrn a hefyd y buasai'n debygol y câi uchder y cloddiau yn y cyffiniau ei ostwng.  

 

 

 

Credai'r Cynghorydd Eurfryn Davies nad oedd lleoliadau'r ysgolion ar y stad ddiwydiannol yn addas ond teimlai hefyd bod yr argymhelliad i ganiatáu codi tai yn groes i bolisiau a hynny'n golygu bod y 0Pwyllgor yn agored i'r cyhuddiad o "safonau dwbl".

 

 

 

Gan y Cynghorydd Fowlie cafwyd cynnig i ohirio gwneud penderfyniad ar y cais hyd nes derbyn rhagor o wybodaeth fanwl am na chredai bod modd gwneud penderfyniad yn seiliedig ar y dystiolaeth a gyflwynwyd i'r aelodau.  Gynt roedd y tir hwn yn eiddo i Gyngor Sir Môn, yna Cyngor Gwynedd ac a ydoedd yn brosiect ar y cyd ? Pwy fuasai'n cael y lles ariannol? Am resymau tebyg cynigiodd y Cynghorydd A Morris Jones y dylid gohirio ystyried y cais.

 

 

 

Ychwanegodd y Cynghorydd John Roberts bod yma fwriad i symud dwy ysgol, ond dymunai gael rhagor o wybodaeth fanwl am y mathau o dai a godid a'r amodau a fuasai ynghlwm wrthynt.

 

 

 

Roedd y 4 elfen, pob un ac eithrio tai, yn dderbyniol o safbwynt polisi yn ôl y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cynllunio a'r Amgylchedd) a châi y cais ei ganiatáu pe eid i apêl.

 

 

 

Teimlai'r Cynghorydd R Ll Hughes y buasai'r0 ardal gyffredinol ar ei hennill o gael y pecyn cyfan a chynigiodd dderbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad i ganiatáu.

 

 

 

PENDERFYNODD yr aelodau ohirio gwneud penderfyniad ar y cais hyd nes derbyn rhagor o wybodaeth fanwl amdano.

 

   

 

4

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

38C151A - CADW'R ADEILAD FEL TAIR ANNEDD HUNAN GYNHALIOL, CADW DWY SIED AC ADDASU'R FYNEDFA YN HEN NEUADD BENTREF, LLANFECHELL

 

 

 

Y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cynllunio a'r Amgylchedd) ofynnodd am drosglwyddo'r cais i'r Pwyllgor.  Yng nghyfarfod Ionawr penderfynodd yr aelodau ymweld â'r safle ar gais yr aelod lleol a threfnwyd yr ymweliad ar gyfer 19 Ionawr, 2005.

 

 

 

Yn y cyfarfod cynt roedd yr aelodau yn tueddu i wrthod y cais a hynny'n groes i argymhelliad o ganiatáu gan y swyddog - roeddynt yn 0dymuno gwrthod oherwydd:

 

 

 

Ÿ     roedd yn groes i Bolisi 42 - dyluniad

 

Ÿ     torri rheolau cynllunio

 

Ÿ     y newid i bleserau'r ardal

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor gohiriwyd ystyried y cais tan y cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i'r swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros wrthod.

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd Thomas Jones, yr aelod lleol, bod y Cyngor Cymuned yn gwrthwynebu'r datblygiadau ar y safle a bod y cais gwreiddiol y rhoddwyd caniatâd iddo yn gais am un annedd dwy ystafell gysgu - nid tair uned.  Sefydlwyd patrwm datblygu yn yr ardal, sef tai unllawr ar wahân ac nid oedd y datblygiad dan sylw yn parchu dim ar hyn nac yn parchu'r broses gynllunio.  O'r herwydd cafwyd cynnig gan y Cynghorydd Jones i lynu wrth y penderfyniad cynt, sef gwrthod y cais am y rhesymau a roddwyd, ond tynnu un rheswm yn ôl o'r rhesymau gwrthod, sef bod y datblygiad "yn groes i'r rheolaeth gynllunio".

 

 

 

Nid oedd y Cynghorydd Roberts yn bleidiol i geisiadau cynllunio ôl-ddyddiol a rhoes ei gefnogaeth i ddatganiad yr aelod lleol ond ei bryder ef oedd y costau pe collid apêl.  

 

 

 

Cytuno a wnaeth y Cynghorydd Denis Hadley bod y datblygiad hwn yn groes i gymeriad y cyffiniau a chynigiodd ychwanegu rheswm arall at y rhesymau dros wrthod, sef bod y cais "yn groes i gymeriad y cyffiniau".

 

 

 

Gan y Cynghorydd Aled Morris Jones cafwyd cynnig i lynu wrth y penderfyniad cynt a gwrthod y cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Thomas Jones.

 

 

 

Sylw y Cynghorydd Arwel Edwards oedd bod y tai o gwmpas yn rhai amrywiol.

 

 

 

Gofynnodd y Cynghorydd Glyn Jones pa bwrpas oedd i'r Pwyllgor Cynllunio ystyried ceisiadau ôlddyddiol.

 

 

 

Wedyn ychwanegodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod angen ystyried a phenderfynu ar y cais hwn ar ei ben ei hun ac anwybyddu'r ffaith bod yma gais ôl-ddyddiol.  Hefyd roedd am i Aelodau ystyried goblygiadau costau gwrthod am resymau afresymol pe ceid apêl, ac yn enwedig yng nghyswllt y rheswm "bod y datblygiad yn groes i'r rheolaeth gynllunio".

 

 

 

Gan y Cynghorydd Arthur Jones cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad i ganiatáu a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd R.Ll. Hughes.

 

 

 

Wedyn cafodd yr aelodau eu hatgoffa gan y cyfreithiwr o oblygiadau costau yn cael eu dyfarnu yn erbyn yr Awdurdod pe eid i Apêl a nododd bod angen cofnodi'r bleidlais dan y Cyfansoddiad.  Cytunodd yr aelodau i gofnodi'r bleidlais a dyma fel y bu:

 

 

 

GWRTHOD Y CAIS (HEB YR AIL RESWM) (YN GROES I ARGYMHELLIAD O GANIATAU GAN Y SWYDDOGION):

 

Y Cynghorwyr P M Fowlie, Denis Hadley, A Morris Jones, O Glyn Jones, Thomas Jones,

 

W Tecwyn Roberts (6)

 

 

 

DERBYN ADRODDIAD Y SWYDDOG A'R ARGYMHELLIAD I GANIATAU:

 

Y Cynghorwyr John Byast, Peter Dunning, J Arthur Jones, J Arwel Roberts, John Roberts,

 

J Arwel Edwards, R Ll Hughes, R L Owen (8)

 

 

 

YMATAL

 

Y Cynghorydd Eurfryn Davies (1)

 

 

 

PENDERFYNWYD dileu penderfyniad blaenorol y Pwyllgor a chaniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd a hefyd gyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

 

 

4

CAIS YN TYNNU'N GROES

 

      

 

     38C213 CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU A GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD AR DIR GER GLAN GORS,      RHOS-GOCH

 

      

 

     Yr aelod lleol ofynnodd am drosglwyddo'r cais i'r Pwyllgor benderfynu arno.

 

      

 

     Yn y cyfarfod cynt roedd yr aelodau yn tueddu i ganiatáu'r cais am y rheswm isod a hynny'n groes i argymhelliad o wrthod gan y swyddog  :-

 

 

 

Ÿ     bod y safle y tu mewn i glwstwr o anheddau

 

 

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor gohiriwyd ystyried y cais tan y cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i'r swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu.

 

      

 

     Cyfeiriodd y Pennaeth Rheoli Datblygu at wrthwynebiadau a gyflwynwyd yn y cyfarfod a darllennodd ddyfyniadau o lythyr a ddaeth i law yn ddiweddar yn gwrthwynebu'r penderfyniad blaenorol.  Cafwyd argymhelliad gan y swyddog i ohirio ystyried y cais hyd nes gwneud ymchwil i faterion technegol a gododd.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd Glyn Jones wedi'i dramgwyddo gan gynnwys y llythyr, sef iddo fethu â datgan diddordeb ar ôl dangos cefnogaeth i'r bwriad yn y cyfarfod cynt.  Nododd y Cynghorydd Jones mai'r unig beth a wnaeth oedd eilio'r cynnig a gofynnodd i'r Adran ac i'r Cyfreithiwr gyfleu hyn i'r gohebydd.  Ond mewn ymateb dywedodd y Cyfreithiwr na allai ymyrryd yn y mater ac nad oedd yn briodol 0iddo gynrychioli aelodau unigol mewn achosion o'r fath.  Buasai llythyr gan yr aelod ei hun yn llawn cystal.  

 

      

 

     Wedyn gan y Cynghorydd Thomas Jones cafwyd cynnig i dderbyn argymhelliad y swyddog, sef gohirio ystyried y cais.

 

      

 

     Yn unol ag argymhelliad y swyddog PENDERFYNWYD gohirio gwneud penderfyniad ar y cais er mwyn rhoi'r cyfle i'r swyddogion ymchwilio i faterion technegol a godwyd yn y sylwadau a ddaeth i law.

 

      

 

      

 

4

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     40C28E  CODI BLOC 8 FFLAT YNGHYD AG ADDASU MYNEDFA I GERBYDAU A CHERDDWYR A THORRI COED A GWRYCHOEDD AR DIR ADJ WHEEL & ANCHOR, MOELFRE

 

      

 

     Yn y cyfarfod cynt a chan ddilyn argymhelliad y swyddog penderfynwyd ymweld â'r safle uchod a threfnwyd yr ywmeliad ar gyfer 16 Chwefror, 2005.

 

      

 

     Argymhellodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod y Pwyllgor yn gohirio ystyried y cais hyd nes derbyn rhagor o wybodaeth amdano.

 

      

 

     PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais hyd nes cwblhau'r gwaith ymgynghori gyda'r ymgeiswyr.      

 

      

 

5     CEISIADAU ECONOMAIDD

 

      

 

19LPA814B/CC/ECON  CODI TERAS O BEDAIR UNED AC ALTRO'R FYNEDFA I GERBYDAU AR STAD DDIWYDIANNOL PENRHOS, CAERGYBI

 

      

 

     Dygwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno am ei fod wedi'i gyflwyno gan y Cyngor ac ar dir ym mherchenogaeth y Cyngor.  Eglurodd y Pennaeth Rheoli Datblygu mai cais manwl oedd hwn yn dilyn rhoddi caniatâd cynllunio amlinellol yn y gorffennol.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

      

 

5

14LPA783C/CC  CODI UNED DDIWYDIANNOL NEWYDD AR STAD DDIWYDIANNOL MONA

 

      

 

     Dygwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno am ei fod wedi'i gyflwyno gan y Cyngor ac ar dir ym mherchenogaeth y Cyngor.  

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

      

 

6     CEISIADAU'N TYNNU'N GROES

 

      

 

14C158D CAIS AMLINELLOL I GODI BYNGALO A GAREJ YN RHAN OHONO, A DARPARU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU A DARPARU TANC SEPTIG NEWYDD AR RAN O GAE ORDNANS 3942, BYNGALO PARCIAU, LLYNFAES

 

      

 

     Yr aelod lleol ofynnodd am drosglwyddo'r cais hwn i'r Pwyllgor.

 

      

 

     Eglurodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod y cais hwn yn groes i'r polisïau cynllunio a chrybwyllodd bedwar cais blaenorol a wrthodwyd ar y safle hwn.  Y polisïau pennaf a ystyriwyd wrth bennu argymhelliad y swyddog i'r Pwyllgor oedd polisïau A6 a D3 Cynllun Fframwaith Gwynedd, polis0ïau 53 a 31 Cynllun Lleol Ynys Môn a hefyd y cyngor yn TAN 6.  Roedd y bwriad yn cyfateb i ddatblygiad mympwyol mewn ardal wledig ac agored a buasai'n andwyol i'r tirwedd sy'n Ardal o Dirwedd0 Arbennig.  Nid oedd y cais wedi'i cyflwyno fel cais am annedd amaethyddol a chafwyd argymhelliad o wrthod gan y swyddog.  

 

      

 

     Cadarnhaodd y swyddog iddo dderbyn sawl llythyr yn cefnogi a chrynhowyd cynnwys y rheini yn adroddiad y swyddog ond nid oeddynt ar gael yn y cyfarfod.

 

      

 

     Wedyn dywedodd y Cynghorydd W I Hughes, yr aelod lleol, bod y cyngor cymuned lleol o blaid y cais gan ei fod yn un eithriadol a'r teulu wedi cael profiadau mawr; roedd yr wyr yn byw gyda'r ymgeisydd ac angen cartref iddo'i hun, a'r ymgeiswyr yn dymuno ymddeol a rhyddhau tyddyn gan mai dyma'r unig ffordd o fedru fforddio cartref, sef trwy godi ty ar dir sy'n eiddo iddynt.  Wrth ganiatáu'r cais hwn teimlai'r Cynghorydd Hughes y gellid rhyddhau'r tyddyn i'w osod i deulu ifanc a bod hynny yn fantais.  Nid yw'r safle yn anghysbell gan fod ty arall 50 llath i ffwrdd oddi wrtho.  Wrth ymateb i osodiad gan y swyddog yng nghyswllt y bwlch rhwng safle'r datblygiad arfaethedig a thai eraill dywedodd y Cynghorydd Hughes bod raid creu y bwlch oherwydd lleoliad ceblau trydan.  

 

      

 

     Er bod y Cynghorydd John Roberts yn gwerthfawrogi bod yma hanes o wrthod ar y safle hwn teimlai bod rhoddi caniatâd yn mynd i ryddhau un o dyddynnod y Cyngor i bwrpas ei osod.  

 

      

 

     Teimlai'r Cynghorydd Eurfryn Davies bod hwn yn achos eithriadol - buasai'n rhyddhau tyddyn y Cyngor a hynny'n fantais yn y sector tai.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Tecwyn Roberts cafwyd cynnig i ganiatáu'r cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Eurfryn Davies.

 

      

 

     Wedyn darllennodd y Cynghorydd Arthur Jones ddyfyniad o adroddiad y swyddog:

 

      

 

     "Mewn achosion eithriadol mae polisi cynllunio yn caniatáu rhoi caniatâd ar dir sydd oddi allan i derfynau datblygu diffiniedig aneddiadau er mwyn darparu ar gyfer yr angen am dai fforddiadwy mewn cymunedau lleol.  Enw'r rhain yw 'safleoedd eithriedig' ... y materion allweddol i'w bodloni yw:

 

      

 

Ÿ     mae'r safle ar ochr neu yn gyfagos yn union i anheddiad cydnabyddedig,

 

Ÿ     bydd y safle(oedd) yn cwrdd ag angen tai adnabyddedig,

 

Ÿ     mae'r anhedd(au) yn ddarostyngedig i gytundeb cyfreithiol er mwyn sicrhau fforddiadwyedd am byth,

 

Ÿ     mae'r dyluniad yn darparu safonau lle addas ac yn ffitio i fewn gyda'i amgylchoedd(sic) gan sicrhau ei fod yn addas bahafio(sic) fel annedd fforddiadwy. "

 

      

 

     Wedyn cyfeiriodd at 0lythyr o benderfyniad gan yr Arolygydd a oedd yn y Rhaglen a dywedodd bod amgylchiadau personol yr ymgeisydd yn creu amgylchiadau ffiniol iawn ac y buasai rhyddhau tyddyn yn yr achos hwn yn ffactor o bwys.

 

           

 

     Wedyn ailadroddodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod 4 o geisiadau wedi'u gwrthod yma ac ni fu unrhyw newidiadau yn yr amgylchiadau ers y gwrthodiad diwethaf.  Yn ddiweddar roedd caniatâd wedi'i roddi i gais ar gyrion Llynfaes Uchaf ond roedd y safle dan sylw yma ymhell o'r lleoliad hwnnw.  Yr argymhelliad oedd gwrthod.

 

      

 

     O 11 pleidlais i 4 PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau a ganlyn:

 

      

 

Ÿ     mae safle'r cais ar gyrion neu'n agos iawn i ffiniau y pentref ac i dy arall

 

Ÿ     buasai'n cwrdd ag angen am dy ac yn creu mantais yn y sector tai

 

Ÿ     roedd amgylchiadau personol yr ymgeisydd yn pwyso mwy na'r polisïau cynllunio cenedlaethol a lleol a'r cyngor cenedlaethol a lleol.

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor câi'r cais hwn ei ohirio'n otomatig tan y cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i'r swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu.

 

 

 

6

20C85E CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD AC ALTRO'R FYNEDFA AR DIR GER BRON WYLFA, TREGELE

 

      

 

     Yr aelod lleol ofynnodd am drosglwyddo'r cais hwn i'r Pwyllgor.

 

      

 

     Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod y cais hwn yn groes i'r polisïau cynllunio a dygodd sylw'r aelodau at hanes cynllunio'r safle.  Y polisïau pennaf a ystyriwyd wrth bennu argymhelliad y swyddog i'r Pwyllgor oedd polisi A6 Cynllun Fframwaith Gwynedd, Polisi 53 Cynllun Lleol Ynys Môn a HP6 y Cynllun Datblygu Unedol.  Nid oedd y safle y tu mewn i ffiniau diffiniedig y pentref ac er bod y swyddog yn cydymdeimlo oherwydd amgylchiadau personol yr ymgeisydd atgoffodd yr aelodau bod raid penderfynu ar geisiadau yn ôl egwyddorion defnydd tir ac argymhellodd wrthod am y rhesymau a roddwyd.  

 

      

 

     Teimlai'r Cynghorydd John Williams, yr aelod lleol, bod hwn yn gais eithriadol a bod caniatâd wedi ei roddi'n barod gyda chyfyngiad 'person lleol'.  Wedyn cyfeiriodd at lythyrau o gefnogaeth gan y Meddyg lleol a'r Aelod Cynulliad.  Oherwydd amgylchiadau personol roedd yn rhaid i'r ymgeisydd fyw yn agos iawn i'w mam sy'n dioddef gydag MS.  Roedd yr ymgeisydd yn ddynes leol ac yn haeddu pob cymorth i godi ty fforddiadwy i'w theulu.  Ar hyn o bryd roedd yn byw mewn 'chalet'.  Hefyd roedd y safle y tu mewn i'r cyfyngiad gyrru 30 mya a'r fynedfa i'r safle yn glir ac yn ddiogel a'r safle ei hun mewn clwstwr o dai - achos clir o lenwi 'bwlch' - a rhoes wahoddiad i'r aelodau ymweld â'r lle.

 

      

 

     Wrth ddilyn dywedodd y Cynghorydd Aled Morris Jones bod y safle ym mhentref Tregele ac felly yn cydymffurfio gyda Pholisi 50 Cynllun Lleol Ynys Môn a chynigiodd roddi caniatâd iddo a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Arwel Roberts.

 

      

 

     Nid oedd yr un gwrthwynebiad priffyrdd yn ôl yr Uwch Beiriannydd Priffyrdd ond gyda'r amod fod digon o le parcio ac o le troi yn cael ei ddarparu.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Glyn Jones cafwyd cynnig i ymweld â'r safle ond tynnodd y cynnig hwnnw yn ôl wedyn.

 

      

 

     O 11 pleidlais PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rheswm a ganlyn :

 

      

 

Ÿ     roedd y cais yn cydymffurfio gyda Pholisi 50 Cynllun Lleol Ynys Môn gan fod y safle y tu mewn i bentref Tregele.

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor câi'r cais hwn ei ohirio'n otomatig tan y cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i'r swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu.

 

 

 

6

20C89B - CYNLLUNIAU DIWYGIEDIG AR GYFER CADW A CHWBLHAU ANNEDD A GANIATAWYD O'R BLAEN DAN Y CANIATÂD CYNLLUNIO RHIF 20C89A YNGHYD AG ALTRO'R FYNEDFA I GERBYDAU AR RAN O GWYDDELYN FAWR, CEMAES

 

      

 

Yr aelod lleol ofynnodd am drosglwyddo'r cais i'r Pwyllgor.

 

      

 

Cyfeiriodd y Pennaeth Rheoli Datblygu yr aelodau at hanes cynllun i'r safle fel y manylwyd ar hynny yn adroddiad y swyddog.  Yn 1990 rhoddwyd caniatâd cynllunio i'r safle a hynny'n groes i argymhelliad y swyddog ar y pryd.  Ynghlwm wrtho rhoddwyd amodau a hynny'n golygu bod rhaid cyrraedd cytundeb cyn dechrau gweithio ar y safle ond ni wnaed hynny.  O'r herwydd roedd yr ymgeisydd wedi torri'r amodau a hynny yn ei dro yn gwneud y caniatâd yn annilys.  Cais i unioni'r sefyllfa oedd hwn sef gofyn am gadw gwaith oedd eisoes wedi ei wneud a bwrw ymlaen wedyn i gwblhau'r annedd.  Ar ôl pwyso a mesur pob peth cafwyd argymhelliad gan y swyddog i ganiatáu'r cais.

 

      

 

     Hefyd cafwyd arwydd o gefnogaeth gan y Cynghorydd John Williams i ganiatáu'r cais.  0Roedd y gwasanaethau i gyd yn eu lle a'r gwaith tirlunio a chuddio wedi ei wneud.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Arthur Jones cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad ac argymhellion y swyddog o ganiatáu'r cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Arwel Roberts.

 

      

 

     O 11 pleidlais penderfynwyd caniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

      

 

6

22C169 - CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD, GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD A CHREU MYNEDFA NEWYDD YNG NGHAE BRYN TIRION, LLANDDONA

 

      

 

     Yr aelod lleol ofynnodd am drosglwyddo'r cais hwn i'r Pwyllgor.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd John Rowlands cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais a chyflwynodd ei ymddiheuriad am fod yn absennol.

 

      

 

     Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod y cais hwn yn groes i'r polisïau cynllunio, ei fod mewn Ardal o Brydferthwch Naturiol Eithriadol ac y câi effaith annerbyniol ar y tirwedd; ni chyflwynwyd unrhyw dystiolaeth0 mai cais oedd hwn i gwrdd ag anghenion amaethyddol neu goedwigaethol.  Y prif bolisïau a ystyriwyd wrth benderfynu ar argymhelliad y swyddog i'r Pwyllgor oedd Polisi 53 Cynllun Lleol Ynys Môn a Pholisi HB6 y Cynllun Datblygu Unedol.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Hefin Thomas, yr aelod lleol, bod yr ymgeisydd wedi ei geni a'i magu yn Nhy Newydd gerllaw a'r tir yn eiddo i'r teulu a hwnnw wedi byw yn yr ardal ers tua 70 mlynedd.  Oherwydd natur gwaith yr ymgeisydd roedd yn medru gweithio o'i chartref ac ni chafwyd gwrthwynebiad mawr a sylweddol yn sgil ymgynghori ac nid oedd y Cyngor Cymuned yn gwrthwynebu'r bwriad.  Yn ôl y Cynghorydd Thomas mater o ddehongli a mater o farn oedd cydymffurfio ai peidio gyda'r polisïau fel y manylwyd ar hynny yn adroddiad y swyddog.  Felly gan y Cynghorydd Thomas cafwyd cynnig i ganiatáu'r cais oherwydd yr angen lleol a hefyd am nad oedd yn yr ardal yr un adeilad gwag i'w addasu, a gofynnodd i'r aelodau fod yn gyson wrth benderfynu ar geisiadau.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Glyn Jones cafwyd cynnig i ymweld â'r safle a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Aled Morris Jones.

 

      

 

     PENDERFYNODD yr aelodau ymweld â safle'r cais.     

 

      

 

6

30C342C - ADNEWYDDU CANIATÂD CYNLLUNIO RHIF 30C342B I GODI ANNEDD AR DIR GER CIL Y CERRIG, TYN-Y-GONGL

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor benderfynu arno am ei fod yn groes i bolisïau'r CDU.

 

      

 

     Yr ystyriaeth berthnasol wrth bennu argymhelliad y swyddog yn ôl y Pennaeth Rheoli Datblygu oedd bod y plot hwn eisoes gyda chaniatâd cynllunio0 a hwnnw yn ddilys tan 04.04.2005 dan rif cynllunio 30C342B.  Roedd0 safle'r cais o fewn neu ar ffin pentref Tyn-y-gongl ac felly'n cydymffurfio gyda Pholisi 50 Cynllun Lleol Ynys Môn.  Ond nodwyd, fodd bynnag, ei fod y tu allan i ffiniau datblygu y Cynllun Datblygu Unedol.  Ar ôl pwyso a mesur pob peth cafwyd argymhelliad o ganiatáu gan y swyddog.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Tecwyn Roberts cafwyd cynnig i ganiatáu'r cais a chafodd ei 0eilio gan y Cynghorydd Arwel Roberts.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.     

 

      

 

6

33C209A - CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD AR DIR CAE ORDNANS 3955, PENTRE BERW

 

      

 

     Yr aelod lleol ofynnodd am drosglwyddo'r cais hwn i'r Pwyllgor.

 

      

 

     Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod y cais yn groes i Bolisi 50 y Cynllun Lleol a'r tir y tu allan i ffiniau'r Cynllun Datblygu Unedol.  Tai Newydd gerllaw oedd ffiniau swyddogol yr CDU ac nid oedd bwlch amlwg rhwng safle'r cais a'r ffiniau hyn.  O'r herwydd nid oedd modd ystyried y tir tu mewn i ffiniau'r pentref nac ar ei gyrion.  Roedd y cyfan o'r tir dan sylw yn eiddo i'r ymgeisydd.

 

      

 

     Yn ôl y Cynghorydd Noel Thomas, yr aelod lleol, roedd angen ystyried y cais fel cais i lenwi bwlch.  Roedd clawdd uchel 17m i'r A55 tua'r gogledd o'r safle a thwnnel yn mynd dan y lôn newydd.  Rhoddwyd y darn hwn o dir i'r ymgeisydd gan ei nain ac nid oedd y plot yn ddigon mawr i unrhyw bwrpas arall.  Plismon cymunedol yw'r ymgeisydd ac yn dymuno byw yn yr ardal.  Ni chredai'r Cynghorydd Thomas fod y safle mewn lle amlwg ac o'r herwydd nid oedd yn gwneud drwg i'r0 tirwedd a hefyd roedd yn agos iawn i'r ffordd ac i fast 'Orange' gerllaw.  Roedd y Cyngor Cymuned yn cefnogi.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Fowlie fod caniatâd cynllunio wedi ei roddi i ddatblygu dau blot i gyfeiriad y gyffordd gyda Phentre Berw a bod y lôn newydd yn creu ffiniau mwy naturiol.

 

      

 

     Felly gan y Cynghorydd Fowlie cafwyd cynnig i ganiatáu a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Aled Morris Jones.

 

      

 

     Yn olaf dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu nad oedd y cais yn cydymffurfio gyda Pholisi 50 a bod caniatâd yn creu cynsail i ddatblygu plotiau cyffiniol.  Yr argymhelliad oedd0 gwrthod.

 

      

 

     O 7 bleidlais i 6 PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad o wrthod am y rhesymau a roddwyd yn ei adroddiad.

 

      

 

      

 

6

44C232 - CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD A CHREU MYNEDFA NEWYDD A GOSOD TANC SEPTIG AR DIR GER PENRHYN FAWR, RHOS-Y-BOL

 

      

 

     Yr aelod lleol ofynnodd am drosglwyddo'r cais hwn i'r Pwyllgor.  

 

      

 

     Darllenodd y Pennaeth Rheoli Datblygu neges e-bost gan yr ymgeisydd yn gofyn am ohirio ystyried y cais ond dywedodd y swyddog ei fod mewn sefyllfa i fwrw ymlaen i'w ystyried.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Aled Morris Jones cafwyd cynnig i ohirio ystyried y cais oherwydd dymuniad yr ymgeisydd a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Tecwyn Roberts.

 

      

 

     PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais.     

 

      

 

7

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

7.1     11LPA101R/LB/CC - CAIS AM GANIATÂD ADEILAD RHESTREDIG I OSOD UNED SUGNO ALLANOL YN YSGOL SYR THOMAS JONES AMLWCH

 

      

 

     Cafwyd datganiadau o ddiddordeb gan y Cynghorwyr John Byast a Thomas Jones oherwydd eu bod yn aelodau o Fwrdd Llywodraethwyr yr ysgol.

 

      

 

     Dygwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno oherwydd iddo gael ei gyflwyno gan yr Awdurdod Lleol.

 

      

 

     Dan Adran 13 Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 PENDERFYNWYD rhoddi gwybod i CADW bod y Cyngor yn tueddu i roddi caniatâd adeilad rhestredig gydag amodau fel y manylwyd arnynt yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

      

 

7.2     11LPA805A/CC - CODI FFENS 2m O UCHDER (PANELI PALLAS) A SEFYDLU LLWYBR NEWYDD YN UNEDAU 1 - 4 STAD DDIWYDIANNOL, AMLWCH

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor oherwydd iddo gael ei gyflwyno gan yr Awdurdod Lleol yng nghyswllt tir sy'n eiddo i'r Awdurdod.

 

      

 

     PENDERFYNWYD dirprwyo'r pwer i'r Pennaeth Gwasanaeth Cynllunio gymeradwyo'r cais os na cheir unrhyw sylwadau croes yn ystod gweddill y cyfnod ymgynghori a hefyd gyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

      

 

7.3     16LPA852CC - CODI YSTAFELL HAUL A CHORIDOR CYSYLLTU YM MLAS CRUGYLL, BRYNGWRAN

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor oherwydd iddo gael ei gyflwyno gan yr Awdurdod Lleol yng nghyswllt tir sy'n eiddo i'r Awdurdod.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

      

 

7.4     18LPA107D/CC - ADDASU AC EHANGU YN YSGOL GYNRADD LLANRHUDDLAD

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor oherwydd iddo gael ei gyflwyno gan yr Awdurdod Lleol.

 

      

 

     Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu fod un llythyr o wrthwynebiad wedi ei dderbyn a nodwyd hynny yn adroddiad y swyddog ac roedd copi o'r llythyr ar gael yn y cyfarfod.     

 

      

 

7.5     36C242 - CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD AR DIR GER REFAIL HENBLAS, BODORGAN

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor oherwydd iddo gael ei gyflwyno gan fab i aelod etholedig.

 

      

 

     Gwnaeth y Cynghorydd Bryan Owen ddatganiad o ddiddordeb yn y cais.

 

      

 

     Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod y cais yn cydymffurfio gyda'r polisïau tai esblygol yn yr CDU.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog a chyda'r amod hefyd y bydd ddarpariaeth foddhaol i'r fynedfa a'r draeniad.

 

      

 

7.6     37C71A - YMESTYN LIBART BRYN Y FELLTEN, LLANEDWEN, LLANFAIR-PWLL

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor gan fod rhan o'r safle yn eiddo i'r Awdurdod Lleol.

 

      

 

     Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu fod materion wedi codi yn sgil ymgynghori gyda'r cyhoedd a chafwyd argymhelliad i ohirio ei ystyried.

 

      

 

     Am y rheswm a roddwyd penderfynwyd gohirio ystyried y cais hwn.     

 

      

 

7.7     45C312A - CAIS AMLINELLOL I GODI BYNGALO NEWYDD YNGHYD Â DYMCHWEL RHAN O'R GWEITHDY AR DIR GER AFALLON, DWYRAN

 

      

 

     Yr aelod lleol ofynnodd am drosglwyddo'r cais hwn i'r Pwyllgor.

 

      

 

     Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod y cais yn cydymffurfio gyda Pholisi 50 y Cynllun Lleol ag argymhellodd roddi caniatâd iddo.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

      

 

7.8     49C260 - CADW SIED A STORFA A GODWYD YN GREYSTONES, Y FALI

 

      

 

     Yr aelod lleol ofynnodd am drosglwyddo'r cais hwn i'r Pwyllgor.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Goronwy Parry, yr aelod lleol, nad oedd yn gwrthwynebu'r cais a theimlai fod y bwriad yn gwella yr hyn oedd ar y safle ond nododd fod gwrthwynebiad lleol wedi ei dderbyn gan fod y datblygiad mewn Ardal o Brydferthwch Naturiol Eithriadol.

 

      

 

     Wedyn nododd y Cynghorydd Denis Hadley fod hwn yn gais ôl-ddyddiol ac ychwanegodd y Cynghorydd R. Ll. Hughes fod gwaith wedi dechrau ar y safle oherwydd gwybodaeth gamarweiniol y manylwyd arni yn adroddiad y swyddog a gwnaeth argymhelliad i ganiatáu'r cais.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.     

 

      

 

7.9     49C262 - ADDASU AC EHANGU YM MHENCRAIG, PONT-RHYD-Y-BONT

 

      

 

     Yr aelod0 lleol ofynnodd am drosglwyddo'r cais hwn i'r Pwyllgor.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Goronwy Parry, yr aelod lleol, ei fod bellach yn cefnogi'r cais ond fod gwybodaeth gamarweiniol wedi ei rhyddhau ar y cychwyn gan yr asiant i'r perwyl fod eiddo cyffiniol yn dy haf.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.     

 

      

 

8     CEISIADAU A DIRPRWYWYD

 

      

 

     Cyflwynwyd a derbyniwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cynllunio a Gwasanaethau Amgylcheddol) ar geisiadau a d0dirprwywyd ac y gwnaethpwyd penderfyniad arnynt ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor hwn.  Yn groes i'r hyn a ddywedwyd yn yr adroddiad hwnnw nodwyd nad oedd penderfyniad wedi ei wneud ar gais cynllunio 22C166 (Gwynfryn, Lôn Sling, Biwmares - Rhif 1 ar y rhestr).     

 

      

 

9     APÊL

 

      

 

9.1     CERRIG YR ADAR, RHOSCOLYN

 

      

 

     Cyflwynwyd a nodwyd er gwybodaeth gopi o adroddiad yr Arolygydd Cynllunio ar apêl gynllunio yn erbyn penderfyniad yr Awdurdod hwn yn gwrthod rhoddi caniatâd cynllunio amlinellol i godi estyniadau i bwrpas creu swyddfa a lle i reolwr.    Gwrthodwyd y cais rhif 43C38A trwy rybudd a ryddhawyd ar 29.04.2004 - gwrthodwyd yr apêl.     

 

      

 

10     MATER A DROSGLWYDDWYD YN ÔL

 

      

 

     MIN Y DON, PORTHAETHWY: 1/39/LPA/CC - cais amlinellol i ddymchwel yr adeilad ac ailddatblygu'r safle i gynnwys dau floc uchel o apartmentau a darparu 20 ohonynt ynghyd â chreu mynedfa newydd i gerbydau - caniatawyd 1.12.2004.

 

      

 

     Trosglwyddwyd y cais uchod i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â'r gofynion statudol ond penderfynodd y Cynulliad beidio â galw'r cais i mewn.

 

      

 

     Eglurwyd bod safle'r cais mewn Ardal Gadwraeth ac y buasai'r datblygiad yn diogelu'r dynodiad statudol hwnnw.  Hefyd nodwyd fod materion yng nghyswllt cadw a diogelu coed wedi eu datrys.

 

      

 

     PENDERFYWNYD derbyn yr adroddiad uchod.

 

      

 

      

 

11     ADOLYGU PENDERFYNIADAU

 

      

 

     Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu fod Cyfansoddiad y Cyngor dan Adran 4.6.18.4, Rheolau Gweithdrefn - Materion Cynllunio yn darparu fel a ganlyn "mae adroddiad y Comisiwn Archwilio 'Building in Quality'  yn argymell bod aelodau  yn ymweld â sampl o hawliau cynllunio sydd wedi eu gweithredu i asesu ansawdd penderfyniadau.  Dylai adolygiad o'r fath wella ansawdd a chysondeb penderfyniadau a, thrwy hynny, atgyfnerthu ymddiriedaeth y cyhoedd, a chynorthwyo gydag adolygiadau o bolisïau cynllunio.

 

      

 

     Dylid cynnal yr adolygiad yn flynyddol.  Dylai gynnwys enghreifftiau o amrywiaeth o gategorïau o ddatblygiad gan gynnwys ceisiadau y penderfynodd y Swyddogion arnynt trwy bwerau dirprwyol".

 

      

 

     Yn dilyn adolygiad y llynedd, cytunwyd i wneud yr un gwaith eto eleni ac yn y cyswllt hwn gwahoddwyd aelodau i awgrymu safleoedd addas lle y cwblhawyd datblygiadau y rhoddwyd caniatâd iddynt yn ddiweddar.

 

           

 

     Wedyn buasai'r swyddogion0 yn llunio rhestr o safleoedd, gan gynnwys ceisiadau y gwnaethpwyd 0penderfyniad arnynt dan y drefn ddirprwyo.  

 

      

 

     Ni phenderfynwyd eto ar y dyddiad adolygu.

 

      

 

      

 

     Daeth y cyfarfod i ben am 5.05p.m.

 

      

 

      

 

     Y CYNGHORYDD R. L. OWEN

 

     CADEIRYDD