Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion dogfennau , 2 Ebrill 2003

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Dydd Mercher, 2ail Ebrill, 2003

PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION

 

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Ebrill 2003

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd W. Emyr Jones, Cadeirydd

Y Cynghorydd W.J. Chorlton, Is-Gadeirydd

 

Y Cynghorwyr J. Arwel Edwards, D.D. Evans, P.M. Fowlie,

R.Ll. Hughes, T.Ll. Hughes, W.I. Hughes, R.L. Owen, Gwyn Roberts, John Roberts, J. Arwel Roberts, W.T. Roberts,

John Rowlands.

 

HEFYD YN BRESENNOL:

 

 

Y Cynghorydd Mrs. B. Burns, aelod lleol ar gyfer ceisiadau  18C142 (eitem 5.1) a 1873F (eitem 5.2)

Y Cynghorydd Derlwyn Hughes, aelod lleol ar gyfer cais

40C184B (eitem 6.7)

Y Cynghorydd H. Eifion Jones, aelod lleol ar gyfer cais

21C108A (eitem 5.3)

Y Cynghorydd O. Gwyn Jones, aelod lleol ar gyfer ceisiadau   45C290 (eitem 4.5), 45C312 (eitem 5.6) a 45C99V (eitem 5.7)

 

WRTH LAW:

 

Cynllunio:

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cynllunio a'r Amgylchedd)

Pennaeth Rheoli Datblygu (EGJ)

Rheolwr y Gwasanaeth Rheoli Cynllunio (DFJ)

Uchel Swyddog Cynllunio (Mwynau a Gwastraff) (JIW)

Cynorthwy-ydd Cynllunio (JR)

 

Priffyrdd:

Uwch Beiriannydd (Rheoli Datblygu a Hawliau Tramwy Cyhoeddus) (JRWO)

Swyddog Rheoli Datblygu (Priffyrdd) (RE)

 

Prif Swyddog Safonau Masnach (DR) ar gyfer eitem 10 y cofnodion

Cyfreithiwr (RWJ)

Cynorthwy-ydd Gweinyddol (CWP)

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Y Cynghorwyr Fflur M. Hughes, R.J. Jones.

 

Agorodd y Rheolwr-gyfarwyddwr y cyfarfod trwy  ddweud bod cyfansoddiad y Pwyllgor hwn yn parhau fel ag yr oedd ar gyfer cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor hyd oni fydd y newidiadau i'r grwpiau gwleidyddol wedi'u cyflwyno'n ffurfiol i gyfarfod y Cyngor Sir ar 4 Ebrill.

 

Roedd Aelodau yn falch o glywed bod y Cynghorydd R.J. Jones wedi dod adref ar ôl cyfnod yn yr ysbyty a gofynnwyd i'r Pwyllgor anfon gair ato yn dymuno'r gorau iddo.

 

1

DATGANIADAU O DDIDDORDEB

 

Cafwyd datganiadau o ddiddordeb gan Aelodau a Swyddogion fel a gofnodwyd dan yr eitemau a oedd yn berthnasol iddynt.

 

2

COFNODION

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 5 Mawrth, 2003.

(Tudalennau 40 i 49 y Gyfrol hon).

 

 

 

 

RHAN 1 - MATERION CYNLLUNIO

 

 

 

3

YMWELIADAU Â SAFLEOEDD

 

 

 

Nodwyd nad ymwelwyd â safleoedd ym mis Mawrth, 2003.

 

 

 

4

CAIS YN CODI O'R COFNODION:

 

 

 

4.1

45C290 - CAIS I ADOLYGU AMODAU DAN DDEDDF YR AMGYLCHEDD (1995) YN CHWAREL HENGAE, LLANGAFFO

 

 

 

Ymwelodd Aelodau'r Pwyllgor â safle'r cais uchod ar 15 Mai 2002 ar gais yr aelod lleol yn wyneb pryder mawr pobl leol yng nghyswllt cyflwr cyffordd y ffordd ddiddosbarth a adwaenir fel Ffordd Pont Marcwis a'r B4419, gyda'r ffordd leol annigonol sy'n gwasanaethu'r safle ac effaith bosib y gallai chwythu mwy o graig ei chael ar dai oedd yn agos i'r safle.

 

 

 

Dywedodd yr Uchel Swyddog Cynllunio (Mwynau a Gwastraff) mai cais oedd hwn i adolygu'r amodau a roddir ar hen hawliau cynllunio mwynau dan ofynion Deddf yr Amgylchedd 1995 gyda golwg ar eu codi i safonau amgylcheddol modern.  Roedd y caniatâd cynllunio cyfredol, a roddwyd yn 1974, yn ymestyn llecyn gweithio'r chwarel o'r llecyn y rhoddwyd caniatâd iddo'n flaenorol i gynnwys tir ar yr ochr arall i'r lôn.

 

 

 

Rhydd MPG 14 gyfrifoldebau penodol ar reolwyr y chwarel ac ar Awdurdodau Cynllunio Mwynau i godi safonau amgylcheddol tra'n sicrhau na roddir gormod o faich ar lwyddiant economaidd gwaith y safle nac ar ei werth.  Oherwydd effeithiau amgylcheddol posib ar y cyffiniau o weithio'r chwarel mae Datganiad Amgylcheddol ynghlwm wrth y cais a gyflwynwyd dan ofynion Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesiad ar yr Effaith Amgylcheddol) (Cymru a Lloegr) 1999.

 

 

 

Dywedodd y Swyddog bod yr amodau a awgrymwyd ac a gyflwynwyd gan yr ymgeisydd yn dderbyniol ynddynt eu hunain, ond bod dau fater nad oedd wedi cael sylw digonol.  Roedd rhai'n ymwneud â dirgryniadau yn sgil chwythu'r graig ac effaith ar y briffordd yn sgil lorïau mawr trwm.  Chafwyd dim lwc wrth geisio setlo'r materion a'r gred oedd bod rhaid rhoi amodau perthnasol i reoli'r materion hyn.  

 

 

 

Y gred oedd bod y ffordd yn wael ac yn annigonol.  Roedd na dri mater penodol o bryder yng nghyswllt y briffordd.  Y gallu i weld yng nghyffordd Ffordd Pont Marcwis a'r B4419, y gwrthdaro posib rhwng traffig y chwarel a cherbydau wedi parcio ar Ffordd Pont Marcwis a Ffordd Pont Marcwis ei hun oedd yn gul ac yn droellog - nid oedd llawer o le i draffig pasio'i gilydd yn iawn.

 

 

 

Yn ôl Cyfarwyddyd yn MPG 14 roedd yn amhriodol rhoi amodau cyfyngu ar y defnydd a wneir o'r briffordd ond bod modd, mewn achosion penodol, fod yn hyblyg er mwyn cyfyngu ar faint a gynhyrchir mewn chwareli penodol fel na cheir nifer fwy o draffig yn y dyfodol.  Cynigiodd yr ymgeisydd welliannau penodol i'r briffordd ond ni dderbyniodd bod raid cyfyngu ar faint a gynhyrchir yn y chwarel.  Roedd Swyddogion o'r farn bod raid cael  cyfyngiad o'r fath yn yr achos hwn a chynnig amod i'r perwyl hwnnw.  Roedd Ymgynghorwyr Annibynnol y Cyngor wedi awgrymu y byddai cyfyngiad o'r fath yn cael effaith ar werth asedion y safle.  

 

 

 

 

 

Dywedodd y Swyddog y gofynnwyd am gyngor yr ymgynghorwyr annibynnol  ynghylch dulliau chwythu'r graig gan fod yr Awdurdod a'r ymgeisydd yn anghytuno gyda gosod y cyfyngiad uchaf ar derfynau dirgryniadau.  Argymhelliad y Swyddogion yn hyn o beth oedd cyfyngu ar y gwaith o chwythu'r graig i 10mm yr eiliad ar gyfer 95% o'r chwythiadau dros chwe mis fel a awgrymwyd yn y cyfarwyddyd cyfredol.  Roedd yr ymgynghorwyr wedi  cytuno bod pennu terfyn o'r fath yn rhesymol.  Unwaith eto nid oedd yr ymgeisydd yn derbyn cyfyngiad o'r fath.

 

 

 

Dywedodd y Swyddog y byddai  cyfyngiadau'n cael eu rhoi a fyddai'n cyfyngu ar faint a gynhyrchir yn y chwarel ac ar y dirgryniadau yn sgil chwythu'r graig.  Gyda therfynau o'r fath byddai lefelau penodol o ran monitro'r safle a gweithredu ar gamau gorfodi pe byddai raid cymryd camau o'r fath.  Pe na byddai'r ymgeisydd yn derbyn yr amodau roedd ganddynt hawl  i apelio yn eu herbyn neu wneud cais am iawndal.  

 

 

 

Dangosodd arolwg traffig a gynhaliwyd ym mis Rhagfyr 2002 bod traffig yn llifo'r ddwy ffordd ar Ffordd Pont Marcwis, rhwng mynedfa'r chwarel a'r pentref, a bod 148 o symudiadau y diwrnod.  Wrth edrych ar y sefyllfa waethaf a ragwelir gan yr ymgeisydd yn sgil gweithio'r chwarel yn rheolaidd, gallai hyn godi i gerbydau yn mynd yn ôl ag ymlaen gyda 223 o symudiadau'r diwrnod.

 

 

 

Roedd y Cynghorydd O. Gwyn Jones, yr aelod lleol, yn hallt ei feirniadaeth o Ddeddf yr Amgylchedd gan ei bod, yn ei farn ef, o blaid y datblygwr ac y byddai gostwng nifer y chwythiadau yn mynd rhyw gymaint o'r ffordd i leddfu pryderon y rhai hynny sy'n byw yn agos i'r chwarel.  Dywedodd bod y trigolion o'r farn nad oedd y ffordd leol ar hyn o bryd yn ddigonol ar gyfer lorïau trymion heb gyfyngiadau ar bwysau a heb lecynnau pasio.  Mae'r ffaith nad oes modd gweld yn ddigon da yn y gyffordd o Ffordd Pont Marcwis i'r B4419 yn peribryder.  Mae pryder hefyd ynghylch Ffordd y B4419 o'r gyffordd hon i'r A5 ym Mhentre Berw gan y credir ei bod yn rhy droellog a chul i gael ei defnyddio gan lorïau trwm yn ei chyflwr presennol.  Gofynnodd hefyd a oedd yna fwriad i wella'r gyffordd.  Yn yr argymhelliadceisir sicrhau'r sefyllfa orau dan yr amgylchiadau. Er nad oedd yn hapus gyda'r mater ni allai ofyn i'r Pwyllgor wrthod y cais.

 

 

 

Nododd y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes ei fod yn bryderus ynghylch cyflwr y ffordd rhwng y gyffordd wrth Swyddfa'r Post i gyfeiriad y chwarel gan nad oedd llecynnau pasio ar hyd y darn hwn o'r ffordd.

 

 

 

Awgrymodd y Cynghorydd W.J. Chorlton gynnal arolwg ar eiddo yn lleol cyn dechrau ar y safle.  Nododd y Swyddog mai mater i unigolion oedd cynnal eu harolygon eu hunain yn ôl eu doethineb.

 

 

 

Gofynnodd y Cynghorydd R.Ll. Hughes a fyddai modd i Reolwyr y Chwarel rybuddio pobl ymlaen llaw eu bod yn bwriadu chwythu'r graig.  

 

 

 

Mewn ymateb i gwestiwn y Cynghorydd Roberts dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol  na fyddai modd cau'r chwarel gan bod caniatâd yno i gloddio - cais i adolygu amodau oedd hwn, yn unol â gofynion modern.

 

 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Gwyn Roberts dderbyn argymhelliad y Swyddog a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd W.T. Roberts.

 

 

 

PENDERFYNWYD cytuno gydag argymhelliad y Swyddog i roi caniatâd yn amodol ar newid Amod 19 bod defnydd sy'n cael ei gloddio neu ei storio o fewn 10 metr i'r cwrs dwr yn cael ei newid i 5 metr fel a gyflwynwyd gan yr ymgeiswyr yn ogystal â'r tri amod ychwanegol a nodir yn adroddiad y swyddog.

 

   

 

5

CEISIADAU'N TYNNU'N GROES I'R CYNLLUN DATBLYGU

 

 

 

5.1

18C142 - CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD A GAREJ A CHREU MYNEDFA NEWYDD A GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD AR RAN O GAE O.S. 3092 TYDDYN WAEN, LLANRHUDDLAD

 

 

 

Dywedodd Rheolwr y Gwasanaeth Rheoli Cynllunio bod y cais hwn yn tynnu'n groes i'r Cynllun Datblygu, a'r polisïau mwyaf perthnasol yw polisi A6 a D3 Cynllun Fframwaith Gwynedd a Pholisïau 31, 50 ac, yn arbennig felly, 53 Cynllun Lleol Ynys Môn.  Nid oedd y safle yn y pentref ac nid oedd yn ymddangos bod y safle'n rhan o'r pentref.  Gan ei fod yn y cefn gwlad, nid oedd y cais yn cwrdd â'r meini prawf a nodwyd ym Mholisi 53 ar gyfer darparu tai yn y cefn gwlad.  Byddai darparu annedd ychwanegol mewn lleoliad o'r fath yn cael effaith ar y tirwedd.  Dywedodd bod safle'r cais y tu allan i derfyn diffiniedig pentref Llanrhuddlad yn unol â darpariaethau Polisi HP4 yr CDU.

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd Bessie Burns, yr aelod lleol, mai dyn ifanc oedd yr ymgeisydd, dyn ifanc oedd wedi'i fagu yn y pentref ac oedd yn gweithio'n lleol.  Roedd o'r farn bod y cais hwn yn syrthio y tu mewn i "angen lleol" heb unrhyw dai fforddiadwy ar gael.  Roedd safle'r cais yn syrthio y tu mewn i "glwstwr" o anheddau ar gyrion y pentref.  Dywedodd y Cynghorydd Burns mai "safle llenwi i mewn" oedd y safle hwn ac nid oedd modd ei ddosbarthu fel "datblygiad rhubanaidd".  Roedd yn ei chael yn anodd derbyn bod y safle mewn cefn gwlad agored a gofynnodd i aelodau ymweld â'r lle.  

 

 

 

Er bod y Cynghorydd John Roberts yn cydymdeimlo gyda'r ymgeisydd, roedd o'r farn y dylid glynu wrth y polisïau perthnasol.  Roedd y Cynghorydd R.L. Owen yn cytuno ag ef.  

 

 

 

Mewn ymateb i gwestiwn y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes cadarnhaodd Rheolwr y Gwasanaeth Rheoli Cynllunio bod y ddau eiddo cyfagos yn tynnu'n groes i'r Cynllun Datblygu - eiddo y rhoddwyd caniatâd cynllunio iddynt yn groes i'r polisïau perthnasol.

 

 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Trefor Hughes ganiatáu yn yr achos hwn a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd P.M. Fowlie.

 

 

 

Cytunodd y Cynghorydd R.Ll. Hughes gyda'r swyddog yng nghyswllt priodoldeb Polisïau 53 a 31 Cynllun Lleol Ynys Môn a chynigiodd dderbyn argymhelliad o wrthod y swyddog - cafodd ei eilio gan y Cynghorydd Gwyn Roberts.

 

 

 

PENDERFYNWYD gwrthod y cais am y rhesymau yn adroddiad y swyddog.

 

 

 

Cytunodd Rheolwr y Gwasanaeth Rheoli Cynllunio i drefnu i'r Swyddog Polisi gysylltu â'r Cynghorydd Burns gyda diffiniad o'r gair "clwstwr".

 

 

 

5.2

18C73F - CYNLLUNIAU DIWYGIEDIG I GODI 9 BYNGALO, YN CYNNWYS 7 BYNGALO DORMER A 2 FYNGALO CYFFREDIN YN STAD TAN Y FELIN, RHYD-WYN

 

 

 

Dywedodd Rheolwr y Gwasanaeth Rheoli Cynllunio bod caniatâd cynllunio ar ochr orllewinol y safle hwn am 4 annedd.  Yr hyn y mae'r cais hwn yn ceisio'i wneud yw gofyn am gynnydd o 5 i wneud cyfanswm o 9.  Mae'r bwriad yn gymysgedd o fyngalos dormer pedair llofft (cyfanswm o bump) a byngalos dwy lofft (cyfanswm o bedwar) gan roi cyfanswm o 18 annedd ar y safle cyfan - mae'r hanes cynllunio ar gyfer y tir hwn yn ymestyn dros gyfnod o ugain mlynedd.  Mae caniatâd cynllunio am 33 o anheddau.  Ym mis Hydref, 2002, roedd y Pwyllgor wedi cytuno i ganiatáu 13 o anheddau a bellach roedd yr ymgeisydd yn ceisio codi hyn i 18.

 

 

 

Mae Rhyd-wyn yn bentref rhestredig.  Roedd y ffaith bod caniatâd hanesyddol yno yn ystyriaeth o bwys a'r bwriad cyfredol oedd darparu anheddau oedd yn cwrdd â'r safonau cyfredol ar ddylunio a gwedd.

 

 

 

Rhoes Rheolwr y Gwasanaeth Rheoli Cynllunio wybod i'r aelodau nad oedd Dwr Cymru a'r Adran Briffyrdd, yn sgil cyhoeddi adroddiad y Swyddog, wedi gwrthwynebu'r bwriad, ar yr amod y cyflwynir amodau perthnasol.  

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd Bessie Burns, yr aelod lleol, bod y safle mewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.  Dywedodd bod trigolion wedi dod ar draws problemau gyda'r datblygwyr yng nghyswllt draenio dwr wyneb yn y gorffennol a gofynnodd i'r sefyllfa gael ei monitro yn y dyfodol.  

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd W.I. Hughes a fyddai'r bwriad hwn yn llenwi'r cyfan o'r safle.  Ymatebodd y Swyddog, pe gweithredid ar y bwriad hwn byddai'n ymestyn dros y safle ond ni allai rwystro'r datblygwr rhag peidio â gweithredu arno a cheisio gwneud ceisiadau eraill ar gyfer y safle.  

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd Gwyn Roberts dderbyn argymhelliad y Swyddog i  ganiatáu a chafodd ei eilio gan y Cynghorwyr W.J. Chorlton ac R.Ll. Hughes.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.  

 

        

 

5.3

21C108A - CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD AR DIR YN YR IARD LO, MAES RHEDYN, LLANDDANIEL

 

      

 

     Datganodd David Pryce Jones, yr Adran Gynllunio, ddiddordeb yn y cais hwn.

 

      

 

     Dywedodd Rheolwr y Gwasanaeth Rheoli Cynllunio nad yw paragraff 7.2 ar dudalen 26 yr adroddiad y swyddog yn berthnasol i'r cais hwn a dylid ei ddiystyru.

 

      

 

     Dywedodd Rheolwr y Gwasanaeth Rheoli Cynllunio bod ar safle'r cais ddarn o dir oedd yn rhan o gae mwy yn y cefn gwlad agored ac sydd i'w weld yn cael ei ddefnyddio i ddibenion pori.   Mae caniatâd ar y safle'n barod - caniatâd i'w ddefnyddio fel iard lo ond nid yw wedi'i ddefnyddio i'r perwyl hwnnw.  Cae gwyrdd yw'r safle ac mae lleoliad safle'r cais yn amlwg y tu allan i bentref cydnabyddedig a byddai'n arwain at estyniad i'r cefn gwlad agored heb gyfiawnhad rhesymegol am dy neu angen amaethyddol neu goedwigaethol.  

 

      

 

     Pwysleisiodd Rheolwr y Gwasanaeth Rheoli Cynllunio'r polisïau perthnasol y rhoes y Swyddog sylw iddynt wrth lunio ei adroddiad, sef polisïau A6 a D3 Cynllun Fframwaith Gwynedd a Pholisïau 31 a 53 Cynllun Lleol Ynys Môn.  Nododd mai safle gwyrdd oedd hwn lle na fu unrhyw waith datblygu ac roedd o'r farn bod y cais yn tynnu'n groes i'r polisïau perthnasol.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Eifion Jones, yr aelod lleol, wrth y cyfarfod bod caniatâd ar safle'r cais i'w ddefnyddio fel iard lo ac roedd o'r farn bod y cais hwn yn rhagori arno.  Byddai'r safle'n cael ei ddatblygu fel iard lo pe câi'r caniatâd hwn ei wrthod.  Roedd nifer o drigolion o'r farn bod y cais hwn yn rhagori ar y bwriad blaenorol.  Roedd yn amau a oedd safle'r cais yn "safle llwyd".  Roedd llwybr cyhoeddus yn rhedeg yn agos i'r safle hefyd.  

 

      

 

     Dywedodd Rheolwr y Gwasanaeth Rheoli Cynllunio y rhoddwyd amodau caeth yng nghyswllt swn, llwch ac ati ar y defnydd a wneir o'r safle fel iard lo.  Nid oedd modd ystyried y safle fel "safle llwyd" gan nad oedd wedi'i ddefnyddio yn y gorffennol fel tir diwydiannol.  

 

      

 

     Mynegodd y Cynghorydd Gwyn Roberts ei  bryder ynghylch llythyr yr asiant a chynigiodd yr argymhellion, cafodd ei eilio gan y Cynghorydd W.J. Chorlton.

 

      

 

     PENDERFYNWYD gwrthod y cais am y rhesymau yn adroddiad y swyddog.

 

         

 

5.4

36C219 - CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD AR RAN O GAE O.S. 1917 YN FFARM PRYS IORWERTH, BODORGAN

 

      

 

     Dywedodd Rheolwr y Gwasanaeth Rheoli Cynllunio bod y cais hwn yn tynnu'n groes i bolisïau'r cynllun datblygu, yn enwedig felly Bolisïau 31, 50 a 53 Cynllun Lleol Ynys Môn a byddai hyn yn gyfystyr â datblygu yn y cefn gwlad agored ac yn creu nodwedd sy'n ymwthio'n annymunol  i'r tirlun.  At hyn, roedd yr Adran Briffyrdd wedi nodi nad oedd modd gweld yn ddigon da i'r B4422 o'r fynedfa i'r safle.  Nid oedd yr ymgeiswyr wedi cyfiawnhau'r angen am resymau amaethyddol na choedwigaethol ac nid oedd ystyriaethau perthnasol eraill i roi gofynion y cynllun polisi o'r neilltu.

 

      

 

     PENDERFYNWYD gwrthod y cais am y rhesymau yn adroddiad y swyddog.

 

        

 

5.5

39C98C - DYMCHWEL Y NEUADD BINGO A CHODI 12 FFLAT AR SAFLE "REGAL BINGO", PORTHAETHWY

 

      

 

     Dywedodd Rheolwr y Gwasanaeth Rheoli Cynllunio nad oedd y cais hwn yn tynnu'n groes i'r cynllun datblygu, yn groes i'r hyn a nodwyd yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

     Dywedodd mai cais oedd hwn i godi bloc pedwar llawr o 12 fflat dwy ystafell wely gyda lle parcio yn y cefn.  Roedd y safle yn nhref Porthaethwy a chytunwyd ar yr egwyddor o ddatblygu ond roedd dyluniad y gwaith datblygu'n wael, nid oedd yn parchu'r cyffiniau ac nid yw'r bwriad yn cynnig tai fforddiadwy.  

 

      

 

     Polisïau perthnasol Cynllun Lleol Ynys Môn yn hyn o beth yw Polisïau 42 a 51 (dylunio: safleoedd mwy heb dai fforddiadwy).

 

      

 

     PENDERFYNWYD gwrthod y cais am y rhesymau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

5.6

45C312 - CAIS AMLINELLOL I GODI BYNGALO, CREU MYNEDFA NEWYDD A DYMCHWEL YN RHANNOL WEITHDY AR DIR YN AFALLON, DWYRAN

 

      

 

     Dywedodd Rheolwr y Gwasanaeth Rheoli Cynllunio bod y cais hwn yn tynnu'n groes i'r Cynllun Datblygu.  Polisïau A6 a D3 Cynllun Fframwaith Gwynedd a Pholisïau 31 a 53 Cynllun Lleol Ynys Môn oedd y polisïau perthnasol y rhoddwyd sylw iddynt.  Mae'r safle ar dir i'r de o bentref Dwyran mewn lle amlwg ac uchel yn y cefn gwlad a byddai'n nodwedd sy'n ymwthio'n annymunol i'r tirlun.  

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd Gwyn Jones, yr aelod lleol, yn cytuno gydag argymhelliad y swyddog.

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd W.T. Roberts dderbyn argymhelliad y swyddog, sef  gwrthod a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Gwyn Roberts.

 

      

 

     PENDERFYNWYD gwrthod y cais am y rhesymau yn adroddiad y swyddog.  

 

      

 

5.7

45C99V - CODI LLETY DROS DRO MATH BWTHYN GWYLIAU AR GYFER RHEOLWR Y SAFLE AR FFARM BRIDIO CEFFYLAU A CHANOLFAN FARCHOGAETH TAL-Y-FOEL, DWYRAN

 

      

 

     Datganodd Richard Eames ddiddordeb yn y cais hwn ac nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod pan drafodwyd y mater a phleidleisio arno.  Datganodd Evan Jones, yr Adran Briffyrdd hefyd ddiddordeb yn y cais hwn.  

 

      

 

     Dywedodd Rheolwr y Gwasanaeth Rheoli Cynllunio bod y cais hwn yn tynnu'n groes i'r cynllun datblygu.  Mae safle'r cais ar gyrion y Fenai mewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.  

 

      

 

     Yn sgil cyhoeddi'r adroddiad roedd yr Adran Briffyrdd wedi nodi ei bod yn gwrthwynebu'r bwriad am resymau priffyrdd gan ei bod o'r farn nad oedd y ffordd leol yn cyrraedd y safon ar gyfer "annedd" ychwanegol ac argymhellwyd nodi hwn fel trydydd rheswm dros wrthod.  

 

      

 

     PENDERFYNWYD gwrthod y cais am y rhesymau yn adroddiad y swyddog ac am y rheswm ychwanegol, sef rhesymau priffyrdd.

 

          

 

6     GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

6.1

10LPA821/CC - DYMCHWEL RHAN O'R ADEILADAU ALLANOL AC ALTRO AC YMESTYN 1 TAI'R ONNEN, SOAR, BODORGAN

 

      

 

     Mae'r cais hwn yn cael ei drosglwyddo i'r Pwyllgor oherwydd iddo gael ei gyflwyno ar ran y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd W.T. Roberts ganiatáu'r cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd J. Arwel Roberts.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.    

 

        

 

6.2

11C199B - CODI ANNEDD AR DIR GER MYNYDD MADYN, AMLWCH

 

      

 

     Mae'r cais hwn yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor oherwydd iddo gael ei gyflwyno gan swyddog o'r Cyngor.  Datganodd Alun Rowlands, yr Adain Rheoli Adeiladu, ddiddordeb yn y cais.

 

      

 

     Dywedodd Rheolwr y Gwasanaeth Rheoli Cynllunio bod yr Adran Briffyrdd a Dwr Cymru wedi nodi, ar ôl cyhoeddi'r adroddiad, nad oeddynt yn gwrthwynebu'r bwriad ar yr amod y rhoddir amodau perthnasol ynghlwm wrtho.  Roedd Cyngor Tref Amlwch yn cefnogi'r cais hefyd.

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn y Cynghorydd R.Ll. Hughes nododd Rheolwr y Gwasanaeth Rheoli Cynllunio bod gwaith adfer ar y gweill yng nghyswllt problemau gyda charthffosiaeth a dwr wyneb.  

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd a chyda Chytundeb Adran 106 a'r amodau yn adroddiad y swyddog.  

 

        

 

6.3

19C812 - NEWID Y DEFNYDD A WNEIR O GANOLFAN DEILS I GANOLFAN GYMUNEDOL AC ALTRO AC YMESTYN YR HEN GANOLFAN DEILS, FFORDD LLUNDAIN, CAERGYBI

 

      

 

     Mae'r cais hwn yn cael ei drosglwyddo i'r Pwyllgor gan fod y prosiect yn cael ei ariannu'n rhannol gan y Cyngor gyda gwaith yn ffrynt yr adeilad i greu ramp mynediad sy'n ymwthio ar dir yr Awdurdod Priffyrdd.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.  

 

      

 

     Ymataliodd J. Arwel Roberts rhag pledleisio ar y cais hwn gan mai ef yw Cadeirydd MORLO.  

 

        

 

6.4

19LPA822/CC - CADW'R ESTYNIAD A GODWYD HEB GANIATÂD CYNLLUNIO YN 136 TRESEIFION, CAERGYBI

 

      

 

     Mae'r cais hwn yn cael ei drosglwyddo i'r Pwyllgor oherwydd iddo gael ei gyflwyno ar ran y Cyfarwyddwr Corfforaethol, Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol i ddarparu ystafell wely, cyfleusterau bathio ac ymolchi a lle cadw ffisig ac ati ar y llawr isaf i blentyn anabl.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes ei fod wedi trafod y cais hwn gyda'r bobl sy'n byw yn yr eiddo uchod a'i gymydog.  Ar ôl cael cymorth cyfreithiol byddai'n cymryd rhan mewn trafodaethau gan nad oedd wedi rhoi barn ar rinweddau'r cais.  Nododd ei bryder mai cais ôl-ddyddiol yw hwn a bod y gwaith datblygu wedi mynd rhagddo heb gael caniatâd cynllunio ymlaen llaw.  

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.  

 

      

 

6.5

22C70B - CODI YSTAFELL HAUL Y TU ÔL I 2 PRESWYLFA, LLANDDONA

 

      

 

     Mae'r cais hwn yn cael ei drosglwyddo i'r Pwyllgoroherwydd iddo gael ei gyflwyno gan Swyddog o'r Cyngor. Datganodd Simon Hunt, yr Adran Gynllunio, ddiddordeb yn y cais hwn.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

6.6

34C3D - NEWID Y DEFNYDD A WNEIR O'R DDWY YSTAFELL AR Y LLAWR ISAF O FOD YN SIOP I SWYDDFA YN NHY WILLIAM HUGHES (SIOP 3  -  YR ORIEL), STRYD Y CAE, LLANGEFNI

 

      

 

     Mae'r cais hwn yn cael ei drosglwyddo i'r Pwyllgor gan ei fod wedi'i hysbysebu fel un sy'n tynnu'n groes i'r cynllun datblygu.  Y bwriad gyda'r cais yw  newid y defnydd a wneir o'r llawr isaf o Ddosbarth A1 - Mân-werthu i'w ddefnyddio fel swyddfa - defnydd sy'n syrthio i mewn i Ddosbarth B1.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

6.7

 

6.7

40C184B - CADW'R DEFNYDD A WNEIR O'R TIR A'R ADEILADAU FEL PARC FFARM YM MHARC FFARM LLUGWY, TRAETH LLUGWY, DULAS

 

      

 

     Mae'r cais hwn yn cael ei drosglwyddo i'r Pwyllgor ar gais yr Aelod Lleol.

 

      

 

     Datganodd y Cynghorwyr Gwyn Roberts a W.T. Roberts eu bod wedi cefnogi cais tebyg yn y gorffennol ond, yn yr achos hwn, eu bod wedi bod yn ddiduedd, yn groes i'r hyn a nodwyd yn adroddiad cynrychiolydd yr ymgeisydd.  Dywedwyd ganddynt na fyddent yn pleidleisio ar y cais wedi iddynt gael cyngor cyfreithiol yng nghyswllt eu sefyllfa.

 

      

 

     Nododd Rheolwr y Gwasanaeth Rheoli Cynllunio bod y safle hwn yn cael ei ddisgrifio fel '70 acres of fun' a'i fod yn cael ei ystyried yng nghyd-destun polisïau 1 a 30.  Gwrthodwyd cais tebyg yn 2002.  Roedd Priffyrdd yn argymell gwrthod.  Roedd dau fater:  yr effaith ar y tirlun a diogelwch y briffordd.  Roedd y safle wedi'i guddio i raddau helaeth ac felly nid oedd yr effaith ar y tirlun yn bryder.  Diogelwch y briffordd oedd y mater pwysig.  Roedd y ffyrdd i'r safle yn gul ac yn is-safonol.  Roedd Arolygwyr, wrth benderfynu ar achosion apêl yng nghyswllt meysydd carafanau gerllaw, wedi dweud hynny hefyd.  

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Derlwyn Hughes, yr aelod lleol, bod y ffyrdd hyn yn gwasanaethu oddeutu 5 neu 6 o feysydd carafanau yn lleol.  Er nad oeddynt yn cyrraedd y safon roedd y ffyrdd yn medru delio gyda thraffig i'r maes parcio a rhan yn unig o'r 70 erw a fyddai'n cael ei defnyddio ar gyfer y bwriad. Roedd y bwriad wedi bod yn yr arfaeth ers rhai blynyddoedd ac nid oes sôn wedi bod am yr un ddamwain yno.  Roedd cefnogaeth fawr yn lleol iddo.

 

      

 

     Cefnogai'r Cynghorydd Gwyn Roberts y bwriad ond ni  fyddai'n pleidleisio arno gan ei fod wedi cefnogi cais blaenorol.   Dywedodd y Cynghorydd W.T. Roberts yr un peth.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd R.Ll. Hughes pe byddai  cais newydd yn cael ei wneud (yn hytrach nag un ôl-ddyddiol) ei fod o'r farn y byddai'n rhaid iddynt ei wrthod.  Roedd yn bryderus ynghylch cyflwr y ffordd.  Cynigiodd yr argymhelliad.  

 

      

 

     Cyfeiriodd y Cynghorydd John Roberts at yr hanes a'r penderfyniad blaenorol  i wrthod.  Er mwyn bod yn gyson dylent wrthod.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd W.J. Chorlton mai'r unig reswm dros wrthod oedd priffyrdd.  Yn ei brofiad ef ychydig iawn o ddamweiniau sydd ar y mathau hyn o ffyrdd.  Ni chafwyd yr un broblem hyd yn hyn ac roedd yn ei chael yn anodd gwrthod am resymau priffyrdd.

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd R.L. Owen bod y Pwyllgor yn ymweld â'r safle er mwyn cael  barn ar y ffordd.   Cafodd ei eilio gan y Cynghorydd T.Ll. Hughes.

 

      

 

     Nododd y Cynghorydd J. Arwel Roberts bwynt yr ymgeisydd nad oedd diogelwch y briffordd wedi'i ddyfynnu yn y caniatâd a roddwyd yn 1996.  Dywedodd Rheolwr y Gwasanaeth Rheoli Cynllunio bod y cais hwn yn wahanol iawn i hwnnw.  Roedd y bwriad hwn yn annog llawer mwy o ddefnydd o'r briffordd.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â safle'r cais cyn penderfynu arno.

 

      

 

7     CEISIADAU A DDIRPRWYWYD

 

      

 

     Cyflwynwyd a nodwyd - adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cynllunio a Gwasanaethau Amgylcheddol) ar faterion a ddirprwywyd ac y penderfynwyd arnynt ers cyfarfod diwethaf  y Pwyllgor hwn.  Nodwyd bod y ceisiadau isod wedi'u tynnu'n ôl ac ni ddylent fod wedi ymddangos ar y rhestr:

 

      

 

     24C203 ar dudalen 8; 35C216 ar dudalen 1.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

      

 

     Datganodd y Cynghorydd R.G. Parry ddiddordeb yng nghais 16C148 ar dudalen 8 yr adroddiad.

 

      

 

8     APELIADAU CYNLLUNIO - ADRAN 78 - DEDDF CYNLLUNIO GWLAD A THREF 1990

 

      

 

     Cyflwynwyd adroddiadau a ganlyn yr Arolygwr a benodwyd gan y Cynulliad yng nghyswllt yr apeliadau isod a wrthodwyd:

 

      

 

8.1

Apêl Mr. Alun Roberts yn erbyn penderfyniad Cyngor Sir Ynys Môn i  wrthod dileu amod (iv) ar ganiatâd cynllunio 1/27/A/1116c ar gae OS 502 gyferbyn â Bodlew Bach, Llanddaniel (21C45A).

 

      

 

8.2

Apêl Mr. Aneurin Lewis yn erbyn penderfyniad Cyngor Sir Ynys Môn i  wrthod caniatâd cynllunio amlinellol i godi annedd a garej ddwbl breifat ar dir Ty'n Cae, Pentre Berw (33C104E).

 

      

 

8.3

Apêl Mr. a Mrs. Davies yn erbyn penderfyniad Cyngor Sir Ynys Môn i  wrthod caniatâd cynllunio amlinellol i adeiladu byngalo i fyw ynddo ar lain gardd ger Tegfryn, Llangoed (35C108C).

 

      

 

8.4

Apêl Mr. Thomas John Williams yn erbyn penderfyniad Cyngor Sir Ynys Môn i wrthod caniatâd cynllunio amlinellol i godi ty annedd sengl i'r ymgeisydd fyw ynddo ar gae 3574, Pen y Marian, Llangoed (35C213).

 

 

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiadau.   

 

   

 

9     CEISIADAU SY'N DISGWYL SYLW - CYTUNDEBAU ADRAN 106

 

      

 

     Cyflwynwyd a derbyniwyd adroddiad Pennaeth y Gwasanaeth Rheoli  Datblygu bod y cais isod, a ganiatawyd yn flaenorol gan y Pwyllgor yn amodol ar Gytundeb Adran 106, wedi'i dynnu'n ôl.

 

      

 

     1/19/LPA/782/CC - codi mast telathrebu 45m ac adeiladau ar gyfer offer ar dir yn Ynys Lawd, Mynydd Twr, Caergybi (caniatawyd gyda Chytundeb Adran 106 12.12.98) tynnwyd yn ôl  23 Mawrth, 2003.

 

 

 

     RHAN II - GORCHMYNION

 

      

 

10     CAERGYBI, STRYD STANLEY A STRYD Y FARCHNAD

 

     BWRIAD I GAU'R LÔN AR GYFER MARCHNAD STRYD

 

      

 

     Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Priffyrdd, Trafnidiaeth ac Eiddo) - bod Gorchymyn wedi'i gyhoeddiyn hysbysebu'r bwriad i  gau Stryd y Farchnad a Stryd Stanley ar gyfer marchnad gyhoeddus,  a hynny yn sgil cyfarfodydd rhwng Adain Safonau Masnach yr Awdurdod, pobl sy'n cadw siopau a Chyngor Tref Caergybi.

 

      

 

     Byddai'r Gorchymyn arbrofol yn gwahardd mynediad i gerbydau cyffredinol bob dydd Llun rhwng 31 Mawrth a 29 Medi (o 0600 awr i 1800 awr).  Byddai cerbydau masnachwyr y farchnad yn cael caniatâd mynediad fel eu bod yn medru codi stondinau a'u tynnu oddi wrth ei gilydd rhwng 0600 - 0800 a 1700 - 1800.

 

      

 

     Derbyniwyd nifer o wrthwynebiadau yn wreiddiol - dim gan y Gwasanaethau Brys ac eithrio cyngor ar leoli stondinau a bod raid cael mynediad pe ceid argyfwng.  Cafwyd gwrthwynebiadau eraill o'r tu allan i'r ardal.  Nodwyd, yn sgil ymgynghori, bod "Images" bellach wedi tynnu eu cais yn ôl.

 

      

 

     Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol bod gwaith ymgynghori ar y bwriad yn parhau gyda busnesau lleol yn y dref a'r bwriad oedd i Swyddogion Safonau Masnach fod yn y marchnadoedd cyhoeddus.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chadarnhau'r Gorchymyn am gyfnod arbrofol hyd at 29 Medi, 2003.

 

      

 

      

 

     *     *     *     *      *

 

      

 

11     AELODAETH Y PWYLLGOR

 

      

 

     Cyflwynwyd a nodwyd penderfyniad isod cyfarfod y Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 4 Mawrth 2003:

 

      

 

     "PENDERFYNWYD glynu wrth bethau fel y maent a chael Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ac arno 18 o seddi gan dderbyn mai uchafswm o 17 fydd yn cael eu llenwi mewn cyfarfodydd."

 

      

 

     Daeth y cyfarfod i ben am 4.25 p.m.

 

      

 

 

 

     Y CYNGHORYDD W. EMYR JONES

 

     CADEIRYDD