Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion dogfennau , 2 Mehefin 2004

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Dydd Mercher, 2ail Mehefin, 2004

PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION

 

Cofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 2 Mehefin 2004

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd R.Ll. Hughes - Cadeirydd

Y Cynghorydd J. Arwel Edwards (Is-Gadeirydd)

 

Y Cynghorwyr Trevor Ll. Hughes, O. Glyn Jones, W. Emyr Jones,

R.L. Owen, Goronwy Parry MBE, John Roberts, J. Arwel Roberts,

H.W. Thomas, W.J. Williams.

 

 

 

WRTH LAW:

 

Cynllunio:

Pennaeth Rheoli Datblygu (EGJ)

Rheolwr Rheoli Cynllunio (DFJ)

Cynorthwy-ydd Cynllunio (JR)

 

Priffyrdd:

Uwch Beiriannydd (Rheoli Datblygu/Hawliau Tramwy) (JRWO)

Swyddog Rheoli Datblygu (RE)

 

Cyfreithiwr (RWJ)
Cynorthwy-ydd Gweinyddol (CWP)

 

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Y Cynghorydd D.D. Evans, P.M. Fowlie, Dr. J.B. Hughes,

W.T. Roberts

 

 

 

 

HEFYD YN BRESENNOL:

 

Aelodau Lleol - Y Cynghorwyr Eurfryn Davies (eitem 7.3),

Gwilym O. Jones (eitem 6.1), Elwyn Schofield (eitem 4.3), R.G. Parry (eitem 9.1).

 

 

1

DATGANIAD O DDIDDORDEB

 

Cafwyd datganiadau o ddiddordeb gan Aelodau a Swyddogion ac fe'u cofnodir dan yr eitemau perthnasol.

 

2

COFNODION

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd fel rhai cywir, gofnodion y cyfarfod o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 5 Mai, 2004.

(Cyfrol y Cyngor, 27 Mai, 2004, tudalennau 76 i 92).

 

YN CODI:

 

 

Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ei hysbysu am hyfforddiant a drefnwyd am y dydd cyfan i Aelodau etholedig ar ddydd Gwener, 25 Mehefin, 2004 a gofynnodd i'r aelodau a fuasent mor garedig â gwneud nodyn o hyn yn eu dyddiaduron.  Yn y modiwl cyntaf rhoddir sylw i faterion cynllunio cyffredinol, gan gynnwys polisïau.  Rhagwelid y câi dwy sesiwn arall eu trefnu yn benodol i aelodau'r Pwyllgor Cynllunio yn y dyfodol agos.

 

 

 

3

YMWELIADAU Â SAFLEOEDD

 

 

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd yr adroddiad ar yr Ymweliadau â Safleoedd Cynllunio a gynhaliwyd ar 19 Mai 2004.

 

 

 

4

CEISIADAU YN CODI O'R COFNODION

 

 

 

4.1

CAIS ECONOMAIDD

 

 

 

11C122B/EIA - CREU GWAITH TRIN GWASTRAFF GYDA THIRLUNIO CYSYLLTIEDIG AR RAN O HEN SAFLE TANCIAU CADW OLEW SHELL A SAFLE GREAT LAKES, AMLWCH

 

 

 

Ymwelwyd â safle'r cais hwn ar 19 Mai 2004 i roddi gwell dealltwriaeth i'r aelodau am ei effaith cyn y drafodaeth arno.  Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod mater perchenogaeth y safle wedi'i godi ac roeddid yn edrych arno.  Roedd ef yn rhagweld y câi adroddiad ei gyflwyno ar y cynnig i'r Pwyllgor hwn ym mis Gorffennaf.

 

 

 

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a gohirio ystyried y cais.

 

 

 

4.2

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

19C843A - CODI ESTYNIAD AR Y LLAWR CYNTAF YN OROTAVIA, WALTHEW AVENUE, CAERGYBI

 

 

 

Gohiriwyd ystyried y cais hwn yn y cyfarfod cynt er mwyn rhoddi rhybudd digonol i'r aelod lleol o'r bwriad i'w ystyried yn y Pwyllgor hwn.

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio mai ty oedd hwn ynghlwm wrth dy arall a bod y cais yn ymwneud ag estyniad i'r llawr cyntaf yn ochr yr eiddo a hefyd yn y cefn.  Gwrthodwyd cais cyffelyb ar 3 Mawrth, 2004.

 

 

 

Teimlai'r Swyddog Cynllunio bod lleoliad, graddfa, dwysedd a gosodiad y bwriad hwn yn mynd i gael gormod o effaith ar eiddo yn y gymdogaeth oherwydd cysgodi a cholli mwynderau.  Gan ddilyn y canllawiau cyfredol a'r polisiau a nodwyd yn yr adroddiad roedd y swyddog yn argymell gwrthod y cais.

 

 

 

Nodwyd bod y rhai yr ymgynghorwyd â nhw yn statudol wedi cyflwyno sylwadau ond heb wrthwynebiad i'r bwriad.

 

 

 

Gan y Cynghorydd R. Llewelyn Jones, yr aelod lleol, cafwyd anerchiad ac ynddo dywedodd mai llety ymwelwyr bychan oedd hwn heb ystafell fyw ar wahân at ddibenion defnydd personol y perchennog.  Roedd caniatâd wedi'i roddi i dai eraill yn y cyffiniau i bwrpas ymestyn a teimlai'r Cynghorydd Jones y buasai'r gwaith hwn yn gweddu'n iawn i'r tirwedd ac nid oedd y cymdogion yn gwrthwynebu.  

 

 

 

Teimlai'r Cynghorydd Arwel Roberts bod dehongli Polisïau 1 a 58 yn fater o farn a chynigiodd roddi caniatâd i'r cais.

 

 

 

Gan y Cynghorydd Glyn Jones cafwyd cynnig i ymweld â safle'r cais er mwyn rhoi cyfle i werthfawrogi maint y bwriad a chafodd hynny ei eilio gan y Cynghorydd R.L. Owen.

 

 

 

PENDERFYNWYD ymweld â safle'r cais i asesu maint y bwriad.  

 

 

 

4.3

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

25C151A - CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD, GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD A DARPARU MYNEDFA NEWYDD AR DIR TAN RALLT, CARMEL

 

 

 

Ar 21 Ebrill 2004 ymwelodd yr Aelodau â safle'r cais i asesu lleoliad y tir a'r effaith ar gymeriad yr ardal.  Yng nghyfarfod mis Mai y Pwyllgor hwn roedd yr aelodau yn dymuno rhoddi caniatâd yn groes i argymhelliad y swyddogion sef gwrthod.  Dyma resymau'r aelodau dros ganiatáu:

 

 

 

Ÿ

nad oedd hwn yn gwyro gan fod y safle y tu mewn i ffiniau'r pentref rhestredig

 

Ÿ

oherwydd parodrwydd yr ymgeisydd i lofnodi Cytundeb dan Adran 106 yn cyfyngu ar unrhyw ddatblygiad arall y tu mewn i'r libart arfaethedig.

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor gohiriwyd ystyried y cais er mwyn rhoddi sylw i adroddiad ar oblygiadau rhoddi caniatâd a phenderfynu arno.

 

 

 

Dygodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio sylw'r aelodau at gofnodion y cyfarfod cynt a hefyd at adroddiad manwl y swyddogion mewn ymateb i benderfyniad blaenorol y Pwyllgor.  Dywedodd bod glynu wrth y penderfyniad hwn yn groes i'r polisïau ac yn cyfateb i ddatblygiad preswyl annerbyniol yn y cefn gwlad.  Roedd y swyddog yn argymell yn gryf bod y cais yn cael ei wrthod ac awgrymodd, yn y broses o benderfynu ar y cais, na ddylid rhoddi unrhyw bwysau ar y ffaith fod cytundeb Adran 106 yn cael ei gynnig.

 

 

 

Yn ei anerchiad i'r cyfarfod ailadroddodd y Cynghorydd Elwyn Schofield,fel aelod lleol, ei ddatganiad blaenorol ei fod yn teimlo nad oedd y cais yn groes i'r polisïau.  Nid oedd Asiantaeth yr Amgylchedd yn gwrthwynebu'r bwriad ac roedd y Cyngor Cymuned yn cefnogi.  Gofynnodd y Cynghorydd Schofield i'r aelodau lynu wrth y penderfyniad blaenorol i roddi caniatâd.  

 

 

 

Cafwyd cynnig gan y Cynghorydd W.J. Williams i roddi caniatâd a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Glyn Jones.

 

 

 

Cynigiodd y Cynghorydd G.O. Parry yr argymhelliad i wrthod a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd John Roberts.

 

 

 

Ar bleidlais fwrw y Cadeirydd PENDERFYNWYD gwrthod y cais am y rhesymau yn adroddiad y swyddog.

 

 

 

4.4

CAIS YN GWYRO

 

 

 

28C323 CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD AR RAN O GAE ORDNANS 027 AR DIR YN NEUADD, LLANFAELOG

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y cais hwn bellach wedi'i dynnu'n ôl.

 

 

 

PENDERFYNWYD nodi adroddiad y swyddog.

 

 

 

4.5

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

34C72H - DYMCHWEL HEN ADEILADAU GWEIGION A CHODI ADEILAD TRI LLAWR AC YNDDO SWYDDFA, SIOPAU A CHYFLEUSTERAU STORIO YN GAREJ HERON, LÔN GLANHWFA, LLANGEFNI

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y cais hwn bellach wedi'i dynnu'n ôl yn ffurfiol.

 

 

 

PENDERFYNWYD nodi adroddiad y swyddog.

 

 

 

4.6

CAIS YN GWYRO

 

 

 

34C83C - DATBLYGIAD PRESWYL I 21 O ANHEDDAU A DARPARU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU AR DIR GER FFORDD GLANHWFA, LLANGEFNI

 

 

 

Gwnaeth JRW Owen o'r Adran Briffyrdd ddatganiad o ddiddordeb yn y cais a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r pleidleisio.

 

 

 

Bu'r aelodau ar ymweliad â'r safle uchod ar 19 Mai, 2004.  Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod yr ymgeiswyr ar ôl cyhoeddi adroddiad swyddog, wedi cyflwyno llythyr yn dangos parodrwydd i gynnal trafodaethau ynghylch beth y gellid ei wneud i liniaru pryderon priffyrdd gan ofyn am ohirio ystyried y cais am y tro.  

 

 

 

CYTUNODD yr Aelodau i ohirio ystyried y cais nes cwblhau'r ymgynghoriadau gyda'r ymgeiswyr.  

 

 

 

4.7

CAIS ECONOMAIDD

 

 

 

39C291A - CODI 14 O ANHEDDAU AMRYWIOL SEF 12 APARTMENT A 2 DY DEULAWR YNGHYD AG ADEILADU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU AC I GERDDWYR YN STRYD Y PACED, PORTHAETHWY

 

 

 

Ymwelodd yr Aelodau â safle'r cais ar 18 Chwefror, 2004 ac eglurodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio i'r cais ddod i Bwyllgor am ei fod yn ddatblygiad sylweddol.  Rhoes y Swyddog y wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau, sef bod 22 o lythyrau eraill wedi'u derbyn yn gwrthwynebu, a hefyd ar ddiwedd adroddiad y swyddog crynhowyd gwrthwynebiadau'r bobl leol.  Cafwyd sylwadau'r Adran Briffyrdd gydag argymhellion yng nghyswllt amodau i'w rhoddi ynghlwm petai caniatâd yn cael ei roddi.  Dygodd y Swyddog Cynllunio sylw'r aelodau at hanes cynllunio'r safle ac at y polisïau perthnasol yn adroddiad y swyddog.

 

 

 

Roedd y cais yn ymwneud â phen ogleddol ochr orllewinol yr iard goed.  Mae adeilad tebyg i sied ar yr iard, a defnyddir rhan ogleddol y safle fel maes parcio ynghlwm wrth yr iard goed.  Tua'r gorllewin mae'r tir yn codi ac yno mae tai tri llawr a godwyd yn ddiweddar.  Ar draws safle'r cais rhed llwybr troed at westy'r Fictoria.  Ym mhen gogleddol safle'r cais mae ty o'r enw Craig Side.

 

 

 

Rhoddwyd caniatâd i'r egwyddor o godi tai ar y safle yn 2001 ond ni ryddhawyd caniatâd am na chafodd y cytundeb dan Adran 106 ei lofnodi.  Roedd y cais yn ymateb yn gadarnhaol i ofynion polisi a chytunodd yr ymgeisydd i gynnwys tai fforddiadwy fel rhan o'r datblygiad.  Roedd y safle y tu mewn i'r ffiniau datblygu ac ni chredid y câi'r cynnig effaith andwyol ar yr adeiladau rhestredig.  Roedd Cyngor Cefn Gwlad Cymru wedi derbyn y bwriad ond gyda rhai amodau penodol.  Roedd angen symud un annedd a bwriedir gofyn am hyn trwy drafodaeth cyn rhyddhau caniatâd.

 

 

 

Pwysleisiodd y Swyddog nad oedd y cais hwn yn ymwneud â datblygu ochr ddwyreiniol safle'r cais (Glan yr Afon) gan fod y cynigion i'r llecyn penodol hwn bellach wedi'u tynnu'n ôl gan yr ymgeisydd.  Roedd swyddogion wedi gofyn i'r ymgeiswyr symud rhai o'r unedau ym mhen mwyaf gogleddol yr iard goed ac roeddid yn disgwyl am yr ymateb i'r awgrym.  

 

 

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd R.L. Owen cafwyd cadarnhad gan y Swyddog Priffyrdd eu bod yn fodlon gydag egwyddor datblygu tai ar safle'r cais ond roeddynt wedi mynegi pryderon ynghylch datblygu'r Ganolfan Dreftadaeth ac roeddynt yn disgwyl rhagor o wybodaeth gan yr ymgeiswyr.

 

 

 

Gan fod ceisiadau 4.7, 4.8 a 4.9 ar y Rhaglen hon yn ymwneud â'r un ardal cynigiodd y Cynghorydd Arwel Edwards bod sylw yn cael ei roddi i'r cyfan o'r safle ac na ddylid caniatáu'r datblygiad fesul rhan.  Yn ei ymateb dywedodd y Swyddog Cynllunio mai dymuniad yr ymgeiswyr oedd rhoddi sylw i'r tri chais a chael penderfyniad ar y tri ar wahân.  Cafwyd cadarnhad wedyn gan y Swyddog Cynllunio mai dewis yr ymgeisydd oedd cyflwyno tri chais a bod yr ymgeisydd ei hun wedi gofyn i'r Cyngor benderfynu ar bob un ar wahân.  

 

 

 

Yr hyn a wnaeth y Cynghorydd Goronwy Parry oedd pwysleisio pryderon y preswylwyr oherwydd y cynnig hwn mewn ardal hanesyddol ac atgoffodd yr aelodau bod dyletswydd arnynt i ddiogelu'r ardal ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol ac ystyried effaith datblygiad o'r fath ar safle treftadaeth.  

 

 

 

Cafwyd argymhelliad gan y Swyddog Cynllunio i roddi awdurdod i'r Pennaeth Gwasanaethau Cynllunio ganiatáu'r cais, gyda'r amod bod y materion oedd heb eu datrys yn cael eu datrys yn foddhaol, gan gynnwys y materion pleser yng nghyswllt Craig Side a chyda'r amod hefyd bod cytundeb cyfreithiol yn cael ei wneud dan Adran 106 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (darparu tai fforddiadwy) a'r darpariaethau a'r amodau eraill a nodwyd yn adroddiad y swyddog.

 

 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Arwel Edwards bod y cais yn cael ei ohirio a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd R.L. Owen.

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd J. Arwel Roberts yr argymhelliad, sef rhoddi caniatâd a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Emyr Jones.

 

      

 

     Wrth i'r Cadeirydd ddefnyddio ei bleidlais fwrw PENDERFYNWYD rhoddi awdurdod i Bennaeth y Gwasanaethau Cynllunio ganiatáu'r cais gydag amod bod y materion heb eu datrys yn cael eu datrys yn foddhaol a hefyd gyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

4.8

CAIS ECONOMAIDD

 

      

 

     39C291B - DYMCHWEL ADEILAD DIWYDIANNOL A CHODI 8 ANNEDD YN CYNNWYS 6 ANNEDD A NEWID DEFNYDD 2 ADEILAD YNGHYD AG ADDASU ADEILAD JOHN EDWARDS I FOD YN GANOLFAN DREFTADAETH YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GEIR A CHERDDWYR YN STRYD Y PACED, PORTHAETHWY

 

      

 

     Mae'r cais yn ymwneud â phen deheuol ochr orllewinol i iard goed sy'n cynnwys hen warws cyfan werthu gyda statws Adeilad Rhestredig Graddfa II.  Tua'r gorllewin i safle'r cais mae'r tir yn codi'n sydyn ac uwchben y safle ac yn edrych drosto mae nifer o dai ac adeiladau gan gynnwys y Victoria Hotel.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y cais hwn yn un sylweddol i'r safle a bod yr egwyddor o godi tai wedi ei chymeradwyo yn 2001 ond ni chafodd caniatâd ei ryddhau am na lofnodwyd cytundeb dan Adran 106.  Nid oedd y datblygiad yn cael effaith andwyol ar yr adeilad rhestredig ond roedd rhai problemau priffyrdd.

 

      

 

     Dywedodd y Swyddog Priffyrdd bod ei Adran ef wedi mynegi pryderon gyda'r ymgeiswyr yng nghyswllt mynedfa a'r ddarpariaeth barcio arfaethedig; nid oeddid wedi cael ymateb gan yr ymgeiswyr.   Yn dilyn cwestiynau roedd hi'n ymddangos bod yr ymgeisydd wedi derbyn ceisiadau o wybodaeth yng nghyswllt lefelau'r traffig ddiwedd Ebrill 2004.

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd Hefin Thomas bod y Pwyllgor yn gohirio ystyried y cais er mwyn rhoddi sylw i'r materion priffyrdd oedd heb eu setlo a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd G.O. Parry.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd John Roberts cafwyd cynnig i wrthod y cais am y rhesymau yn adroddiad y swyddog a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Trefor Ll. Hughes.

 

      

 

     O 7 bleidlais PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais tan y cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i'r swyddogion i barhau eu hymgynghori gyda'r ymgeiswyr ar faterion priffyrdd oedd heb eu setlo.  

 

      

 

4.9

39C291C/LB - CANIATÂD ADEILAD RHESTREDIG I DDYMCHWEL ADEILAD DIWYDIANNOL A CHODI 8 ANNEDD YN CYNNWYS 6 THY NEWYDD A DAU ADDASIAD YNGHYD Â THROI ADEILAD JOHN EDWARDS YN GANOLFAN TREFTADAETH A DARPARU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU A CHERDDWYR YN STRYD PACED, PORTHAETHWY

 

      

 

     Cais oedd hwn am ganiatâd adeilad rhestredig ac yn ymwneud â'r hen warws, sef Adeilad Rhestredig graddfa II.  

 

      

 

     O gofio'r penderfyniad ar y cais blaenorol awgrymodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio y buasai'r Pwyllgor yn dymuno gohirio, fel y gwnaeth gyda'r un blaenorol, am fis i gael gwybodaeth am faterion priffyrdd.

 

      

 

     PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais tan y cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i'r ymgeisydd gyflwyno gwybodaeth y gofynnwyd amdani gan y swyddogion ar faterion priffyrdd.

 

      

 

      

 

4.10

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     49C240 - ADEILADU GORSAF BWMPIO NEWYDD A DARPARU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU A CHERDDWYR AR DIR Y TU CEFN I BLAS GWYN A GLENEAGLES, PONT RHYD Y BONT

 

      

 

     Yn y cyfarfod ar 7 Ionawr 2004 penderfynodd yr aelodau roddi caniatâd i'r cais hwn gydag amod bod asesiad boddhaol yn cael ei gynnal ar y risg o lifogydd.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod yr orsaf hon yn rhan integraidd o gynllun Trin Carthffosiaeth Caergybi a bydd yn pwmpio carthion i gael ei drin yn y gwaith sydd wedi'i ganiatáu ym Mhenrhos cyn ei ryddhau i'r môr.

 

      

 

     Dywedodd y Swyddog bod y Cyngor ac Asiantaeth yr Amgylchedd yn fodlon gyda'r asesiad a wnaed ar y risg o lifogydd.  Y dyddiad cau i bwrpas derbyn sylwadau oedd 4 Mehefin, 2004 ac nid oedd rhai perthnasol ychwanegol wedi cyrraedd erbyn dyddiad y Pwyllgor.  Roedd Swyddogion yn gweld y cynigion hyn yn rhai derbyniol.

 

      

 

     Am y rhesymau a roddwyd a chyda'r amod na châi unrhyw sylwadau o bwys eu derbyn erbyn 4 Mehefin, 2004 PENDERFYNWYD rhoi'r awdurdod i Bennaeth y Gwasanaethau Cynllunio ganiatáu'r cais gyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

5     CEISIADAU ECONOMAIDD

 

      

 

5.1

19C689D - CAIS DIWYGIEDIG I DDYMCHWEL ADEILADAU A CHLWB NOS A CHODI 6 SIOP (DIM BWYD) AC UNED BWYD CYFLYM A3 AC ALTRO'R FYNEDFA I GERBYDAU A CHERDDWYR - CAIS Y RHODDWYD CANIATÂD IDDO O'R BLAEN DAN Y RHIF CYNLLUNIO 19C689C AR DIR YM MHENRHOS LINC, CAERGYBI

 

      

 

     Y Cyngor Sir yw perchennog rhan o'r safle.  Dywedodd y swyddog bod y cynnig eisoes wedi'i ganiatáu mewn egwyddor.  Pe ceid cadarnhad bod yr effaith ar draffig yn dderbyniol a bod materion llygredd tir yn dderbyniol roedd y swyddogion yn gweld y cynnig yn dderbyniol ac yn argymell caniatáu'r cais.  

 

      

 

     Am y rhesymau a roddwyd a phe câi y gwaith ymgynghori ei gwblhau yn foddhaol penderfynwyd rhoi'r awdurdod i'r Pennaeth Gwasanaeth Cynllunio ganiatáu'r cais gyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

5.2

46CLPA841/CC/EIA - CODI MAST CYFATHREBU NEWYDD A DYMCHWEL ADEILAD YR OFFER AR Y SAFLE.  CODI ADEILAD NEWYDD I GADW OFFER A CHAEL GWARED O'R MAST, Y SYLFAEN GONCRIT A'R FFENS DDIOGELWCH A SAFLE MAST Y FOEL, MYNYDD TWR, CAERGYBI

 

      

 

     Cais gan y Cyngor Sir oedd hwn ar dir y Cyngor.  

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y broses ymgynghori statudol wedi'i chychwyn yng nghyswllt y bwriad uchod ac awgrymodd bod aelodau'r Pwyllgor yn gweld y safle cyn trafod y cais er mwyn deall yn iawn natur y safle ac asesu unrhyw effaith a gâi'r cynnig.

 

      

 

     Am y rhesymau a roddwyd PENDERFYNWYD ymweld â safle'r cais.

 

      

 

6     CEISIADAU'N TYNNU'N GROES

 

      

 

6.1

32C122 - CAIS AMLINELLOL I GODI UN ANNEDD AR DIR GER CRAIG EITHIN, CAERGEILIOG

 

      

 

     Cafwyd datganiad o ddiddordeb gan Gareth Thomas o'r Adran Briffyrdd yn y cais.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y safle ar dir amaethyddol i'r gorllewin o Gaergeiliog - sy'n Bentref Rhestredig dan Bolisi 50 Cynllun Lleol Ynys Môn.  Roedd y safle i'r dwyrain o'r ffordd o'r A55 i'r trogylch a thua Caergeiliog, a ger Craig Eithin, annedd y rhoed caniatâd iddi yn groes i bolisïau cynllunio lleol a chenedlaethol ac yn yr un modd byngalo arall gerllaw, Bod Hedd.

 

      

 

     Aeth y Swyddog Rheoli Cynllunio ymlaen i atgoffa'r aelodau o'r polisïau perthnasol ac o'r canllawiau, ond yn enwedig Polisi 53 Cynllun Lleol Ynys Môn (Tai yn y Cefn Gwlad) gan ddilyn yr hyn a nodwyd yn adroddiad ysgrifenedig y swyddog.

 

      

 

     Dywedodd y swyddog bod y cynnig yn cyfateb i ddatblygiad rhubanaidd preswyl annerbyniol yn y cefn gwlad y tu allan i ffiniau datblygu Caergeiliog.  Câi effaith annerbyniol ar y tirwedd gan greu cynsail yn y dyfodol, ac nid oedd amgylchiadau personol yr ymgeisydd o bwys mwy na'r ystyriaethau cynllunio.  Roedd y swyddog yn argymell yn gryf wrthod y cais.

 

      

 

     Roedd y rhai yr ymgynghorwyd â nhw yn statudol wedi cyflwyno sylwadau ond heb unrhyw wrthwynebiad i'r bwriad, a deuai'r cyfnod ymgynghori i ben ar 4 Mehefin, 2004.

 

      

 

     Wrth annerch y cyfarfod diolchodd y Cynghorydd Gwilym Jones, yr aelod lleol, i'r Pwyllgor am y cyfle i gefnogi'r cais a gyflwynwyd gan yr unigolyn hwn o Fôn.  Teimlai fod yma gyfle i ddynes a fagwyd yn y pentref ddychwelyd iddo i fyw.  Ni chredai'r Cynghorydd Jones bod y safle yn y cefn gwlad agored gan fod yno bedair annedd arall a chais oedd hwn am un annedd ar ochr Caergeiliog a hefyd y tu mewn i'r cyfyngiad gyrru 30 mya.  Ar ôl agor yr A55 newydd mae'r ffordd yn y llecyn arbennig hwn bellach yn ddistawach o lawer.  Ni chytunai'r Cynghorydd Jones bod y cynnig yn creu datblygiad rhubanaidd gan fod yn y lle gymuned fechan yn barod.  Er bod y cynnig yn cael effaith ar dir amaethyddol roedd hwnnw yn dir o safon isel.  

 

      

 

     Mewn ymateb cyfeiriodd y swyddog at y 4 annedd yn y cyffiniau, a bod 2 ohonynt mae'n debyg yn perthyn i'r cyfnod cyn 1948 a'r 2 arall wedi cael caniatâd cynllunio oedd yn gwyro oddi wrth y polisïau a hynny wedi'i wneud yn groes i argymhellion y swyddogion.  Nid oedd yr anheddau hyn yn cyfateb i gymuned nac i bentref bychan.  Nid oedd yma ddim rhagor nag ychydig o dai yn y cefn gwlad agored a buasai caniatáu annedd arall yn gwneud y sefyllfa'n waeth.  

 

      

 

     I bwrpas asesu'r sefyllfa cynigiodd y Cynghorydd O. Glyn Jones ymweliad â'r safle a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â safle'r cais i bwrpas asesu'r sefyllfa.  

 

      

 

7     GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

7.1

12C209B/AD - CODI PANEL DEHONGLI STATIG AR GYFER ARWYDD GWYBODAETH YN Y PIER HOUSE, BIWMARES

 

      

 

     Gwnaeth y Cynghorydd W.J. Williams ddatganiad o ddiddordeb yn y cais ac nid oedd yn bresennol yn ystod y drafodaeth na'r pleidleisio.

 

      

 

     Y Cyngor Sir yw perchennog safle'r cais.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

7.2

12C319/AD - CODI ARWYDD HEB EI OLEUO AR Y WAL I DDARPARU GWYBODAETH YN NEUADD Y DREF, BIWMARES

 

      

 

     Datganodd y Cynghorwyr R.L. Owen a W.J. Williams ddiddordeb yn y cais ac nid oeddynt yn bresennol yn y drafodaeth na'r pleidleisio.

 

      

 

     Y Cyngor Sir yw perchennog safle'r cais.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

Yma mynegodd y Cynghorydd Hefin Thomas siom gyda phenderfyniad Menter Môn yn penodi cynrychiolwyr o le mor bell â Dyfnaint i wneud y gwaith ar geisiadau 7.1 a 7.2 y cofnodion hyn a dilyn trefn cyffelyb gyda cheisiadau eraill yn y gorffennol.  Teimlai ef fod modd i bobl leol wneud y math hwn o waith.

 

 

 

7.3

17C20F/1/AD - CODI DAU ARWYDD AR ADEILAD YNGHYD Â DAU ARWYDD TOTEM A'U GOLEUO YN RHANNOL YM MHENTRAETH AUTOMOTIVE, PENTRAETH

 

      

 

     Gwnaeth y Cynghorydd R.L. Owen a JRW Owen o'r Adran Briffyrdd ddatganiad o ddiddordeb yn y cais hwn ac nid oeddynt yn bresennol yn ystod y drafodaeth na'r pleidleisio.

 

      

 

     Roedd yr aelod lleol wedi gofyn am drosglwyddo'r cais i'r pwyllgor hwn oherwydd ei bryderon ei hun a rhai'r Cyngor Cymuned oherwydd nifer a maint yr arwyddion oedd wedi'u codi ar y safle.

 

      

 

     Dygodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio sylw'r aelodau at ei adroddiad ac at hanes cynllunio'r safle.

 

      

 

     Gan yr aelod lleol, y Cynghorydd Eurfryn Davies, cafwyd pryderon oherwydd bod yr ymgeisydd bellach wedi codi'r arwyddion sydd dan sylw yma a holodd ynghylch perchenogaeth y tir.  Tynnodd y Cynghorydd Davies sylw at bryderon diogelwch y briffordd gan grybwyll y nifer uchel o ddamweiniau a gafwyd ar y darn hwn o'r ffordd, ac yn enwedig yng ngroeslon Hen Llandegfan, a bod y math hwn o weithgaredd yn cael effaith ar bleserau pobl leol.  Eisoes codwyd 8 o arwyddion heb ganiatâd cynllunio ar y safle.  O safbwynt yr amgylchedd a phrydferthwch buasai'n well codi'r arwydd ymhellach yn ôl nac mewn llinell gyda'r arwyddion eraill.   Roedd am ofyn am ymweliad.  Hefyd roedd yr ardal yn un â statws tirwedd arbennig.

 

      

 

     Yma ychwanegodd y Swyddog Priffyrdd fod yr arwydd yn ymwthio rhyw 1m i dir y Cyngor Sir ond ni chredai y buasai'n cael effaith ar ddefnyddwyr y briffordd.  Wedyn mynegwyd pryderon gan y Cynghorydd Hefin Thomas ynghylch hanes cynllunio'r safle.  

 

      

 

     Gan y Cynghorydd G.O. Parry cafwyd argymhelliad i roddi caniatâd a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd W.J. Williams.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

7.4

18C146A - CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD A DARPARU MYNEDFA NEWYDD AR GAE ORDNANS RHIF 9835, LLANRHUDDLAD

 

      

 

     Trosglwyddwyd y cais hwn i'r Pwyllgor yn ôl dymuniad yr aelod lleol oherwydd fod y fynedfa arfaethedig i'r safle mor agos i'r ysgol leol.  

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod safle'r cais ar gyrion Llanrhuddlad ac mai cais cynllunio amlinellol oedd gerbron i un annedd a'r holl fanylion, ac eithrio mynedfa a materion tirlunio, yn cael eu cadw i'w hystyried yn y dyfodol.  Gwrthodwyd cais arall ar y safle hwn ym mis Hydref, 2003.

 

      

 

     Cyfeiriodd y swyddog yr aelodau at yr adroddiad ysgrifenedig ganddo a'r polisïau a'r canllawiau perthnasol yn yr adroddiad, yn enwedig Polisi 50 Cynllun Lleol Ynys Môn (pentrefi rhestredig) ac F11 ac F12 Cynllun Fframwaith Gwynedd (mynediad).  Cafwyd un llythyr o wrthwynebiad gan Brifathro yr ysgol gynradd oherwydd bod y fynedfa mor agos i'r ysgol.  Cafwyd sylwadau gan rai yr ymgynghorwyd â nhw yn statudol ond nid oeddynt yn gwrthwynebu y bwriad ond roeddid yn dal i ddisgwyl am ymateb rhai ohonynt.  

 

      

 

     Roedd y safle ar ochr ddwyreiniol darn de-ddwyreiniol Llanrhuddlad a gellid ystyried y tir fel rhan o bentref Llanrhuddlad.  Câi lleoliad, hyd a ffyrdd y fynedfa arfaethedig i gerbydau effaith andwyol ar brydferthwch y lleoliad gan gyflwyno dull datblygu dieithr ac ymwthgar.  Roedd y swyddog yn argymell gwrthod y cais am y rhesymau yn ei adroddiad.  

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Hefin Thomas dywedodd y Swyddog Priffyrdd nad oedd yr Awdurdod Priffyrdd yn gwrthwynebu'r cynnig gerbron gan fod y gwrthwynebiadau priffyrdd wedi'u datrys gydag amodau cynllunio.  

 

      

 

     Yma ychwanegodd y Cynghorydd W.J. Williams bod y Cyngor Cymuned yn cefnogi'r cais a chynigiodd ei ganiatáu a hynny'n cael ei eilio gan y Cynghorydd Glyn Jones.  

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Goronwy Parry cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad o wrthod a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd John Roberts.

 

      

 

     Gyda phleidlais fwrw'r Cadeirydd PENDERFYNWYD gwrthod y cais am y rhesymau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

7.5

18C151/DA - CYNLLUNIAU MANWL I GODI DWY ANNEDD, A DARPARU MYNEDFA NEWYDD YN 1 A 2 TROED Y GARN, LLANFAIR-YNG-NGHORNWY

 

      

 

     Roedd y cais hwn yn ymwneud â thir y Cyngor.

 

      

 

     Gynt roedd dwy annedd ar y safle ond cawsant eu difrodi gan dân a gerbron roedd cais i faterion wrth gefn am ddau dy pedair ystafell wely yr un.  

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau yn adroddiad y swyddog a chyda'r amodau yn yr adroddiad hwnnw.

 

7.619C831B - CYNLLUNIAU LLAWN I GODI BYNGALO DORMER YNGHYD Â DARPARU MYNEDFA NEWYDD AR DIR GER ARDRUM, TAN YR EFAIL, CAERGYBI

 

      

 

     Roedd y cais yn cynnwys tir y Cyngor.

 

      

 

     Rhoes y Pwyllgor hwn ganiatâd i gais amlinellol ar 8 Ebrill, 2004 dan y rhif 19C831A.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau yn adroddiad y swyddog a chyda'r amodau yn yr adroddiad hwnnw.

 

      

 

7.7

19CLPA838/CC - CODI FFENS 2.4M O UCHDER O GWMPAS YSGOL GYNRADD Y PARCH THOMAS ELLIS, CAERGYBI

 

      

 

     Gwnaeth y Cynghorydd T.Ll. Hughes ddatganiad o ddiddordeb yn y cais ac nid oedd yn bresennol yn ystod y drafodaeth a'r pleidleisio.

 

      

 

     Cais oedd hwn gan y Cyngor ac ar dir y Cyngor.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau yn adroddiad y swyddog a chyda'r amodau yn yr adroddiad hwnnw.

 

      

 

7.8

23C219 - CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD A DARPARU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU YM MRYN TIRION, TALWRN

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Rhoes y Rheolwr Rheoli Cynllunio y wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau gan nodi bod un llythyr arall o wrthwynebiad wedi'i dderbyn - yn ychwanegol at y rheini a grybwyllwyd yn adroddiad y swyddog ac roedd y cyfan ar gael yn y cyfarfod ynghyd â deiseb ac arni 60 o lofnodion.  Roedd atodiad a baratowyd gan y swyddogion yn nodi manylion y ddeiseb.  Cafwyd sylwadau gan y cyrff yr ymgynghorwyd yn statudol â nhw.  

 

      

 

     Yna dywedodd y Swyddog Cynllunio bod hwn yn gais amlinellol i godi annedd a chreu mynedfa.  Roedd y Cyngor Cymuned yn gwrthwynebu a sylwadau'n cael eu cyflwyno gan y cyrff yr ymgynghorwyd â nhw.  Dygodd sylw'r aelodau at bolisïau perthnasol a ystyriwyd wrth wneud  argymhelliad y swyddog.  Yn ôl y swyddog roedd Polisi HP4 y Cynllun Datblygu Unedol esblygol (fersiwn ymgynghorol) yn dangos ffiniau i bentref Talwrn a safle'r cais y tu allan iddynt.  Cafwyd gwrthwynebiadau i bolisi HP4 Cynllun Datblygu Unedol Ynys Môn (fersiwn ymgynghorol).  Wedyn mae'r gwrthwynebiadau hyn i'r CDU yn mynd i gael sylw mewn adroddiad y disgwylir amdano o gyfeiriad yr arolygwr.  Cyn derbyn yr adroddiad hwn a'i ystyried roedd y swyddog yn argymell gwrthod y cais oherwydd ei fod yn rhy gynnar.  

 

      

 

     Yn ei anerchiad i'r Pwyllgor dywedodd y Cynghorydd W.J. Williams bod pob gofal wedi'i roddi hyd yma i gadw cymeriad yr ardal benodol hon ac osgoi gorddatblygu'r pentref.  Cynigiodd yr argymhelliad i wrthod y cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd John Roberts.

 

      

 

     PENDERFYNWYD gwrthod y cais hwn am y rhesymau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

7.9

33C227 - CAIS AMLINELLOL I GODI 2 ANNEDD AR GAE ORDNANS 1949, PENTRE BERW

 

     Trosglwyddwyd y cais hwn i'r Pwyllgor yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y cais bellach wedi'i dynnu'n ôl.

 

      

 

     PENDERFYNWYD nodi adroddiad y swyddog.

 

      

 

7.10

35C207G - EHANGU A NEWID DEFNYDD YR HEN FELIN - EI THROI YN LETY GWYLIAU YN YR HEN FELIN, LLANGOED

 

      

 

     Cafwyd datganiad o ddiddordeb gan y Cadeirydd, y Cynghorydd Robert Ll. Hughes yn y cais hwn a gadawodd y cyfarfod am y drafodaeth a'r pleidleisio arni.  Roedd y Cynghorydd Hefin Thomas yn dymuno cofnodi na chymerodd ran yn y trafodaethau nac yn y pleidleisio.

 

      

 

     Cymerodd y Cynghorydd Arwel Edwards y Gadair am y drafodaeth ar y cais.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y cais wedi'i gyflwyno i'r Pwyllgor am ddau reswm, ar gais yr aelod lleol (y Cynghorydd John Rowlands) a hefyd gan swyddogion yng nghyd-destun apêl gyfredol yn erbyn gwrthod cais gyffelyb.  Cais yw hwn i wneud defnydd gwyliau o eiddo sydd eisoes wedi cael caniatâd ynghlwm wrth yr annedd.  Roedd preswylwyr yr ardal wedi mynegi pryderon yn ymwneud â diogelwch y briffordd.

 

      

 

     Roedd apêl wedi'i chyflwyno yn erbyn penderfyniad blaenorol y Pwyllgor i wrthod cais cyffelyb oherwydd y gallai'r "datblygiad arfaethedig fod yn andwyol i ddiogelwch y ffordd a chreu anhwylustod i ddefnyddwyr presennol y ffordd".  Roedd Ymchwiliad Cyhoeddus i fod i ddechrau ar 22 Mehefin, 2004.

 

      

 

     Gan yr ymgeiswyr cafwyd datganiad ar y drafnidiaeth gan beirianwyr ymgynghorol ac yn cefnogi'r cais - ynddo nodwyd "nad oedd pwysau'r traffig sy'n debygol o gael ei greu yn mynd i gael effaith sylweddol ar y rhwydwaith ffyrdd o gwmpas ac ni fydd yr ychwanegiad yn andwyo diogelwch y ffordd nac yn creu anhwylustod i ddefnyddwyr eraill y ffordd.  At hyn roedd cynllun i wella diogelwch y ffordd wedi'i gyflwyno. "

 

      

 

     Yn ôl y Swyddog Cynllunio nid oedd rhagolygon rhesymol y gellid amddiffyn penderfyniad blaenorol y Pwyllgor yn llwyddiannus a chyfeiriodd at oblygiadau dyfarnu costau yn erbyn y Cyngor.  Bellach roedd y cais yn cynnwys rhagor o fesurau diogelwch priffordd ac yn ôl cyngor peirianwyr priffyrdd y Cyngor roedd y newid defnydd bellach yn dderbyniol o safbwynt y briffordd.  

 

      

 

     Darllenodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio wrthwynebiadau'r aelod lleol a oedd yn adlewyrchu pryderon preswylwyr lleol a rhai y Cyngor Cymuned lleol.  Wedyn ychwanegodd y Cynghorydd Rowlands nad oedd unrhyw newid sylweddol i'r cais hwn o'i gymharu gyda'r cais blaenorol a wrthodwyd.  Fel cynt roedd y fynedfa yn dal i fod yn beryglus yn y pwynt hwn er gwaethaf y llinellau cochion ("araf") yn cael eu peintio ar draws y lôn yn y cyffiniau; hefyd gofynnodd gwestiynau ynghylch y traeniau cerrig o'r tanc septig.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd W.J. Williams cafwyd cynnig bod aelodau yn cael gweld y safle i asesu'r sefyllfa yn y man sensitif hwn a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Glyn Jones.  

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd John Roberts fod argymhelliad o ganiatáu gan y swyddogion yn cael ei dderbyn a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Trevor Lloyd Hughes.

 

      

 

     Gyda phleidlais fwrw'r Cadeirydd PENDERFYNWYD dirprwyo'r hawl i'r Pennaeth Gwasanaethau Cynllunio roddi caniatâd i'r cais ar ôl cwblhau gwaith ymgynghori boddhaol, a hefyd gyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

7.11

39C368 DARPARU AIL FLWCH POST RHWNG LÔN LAS A FFORDD CADNANT, PORTHAETHWY

 

      

 

     Mae'r cais hwn ar dir y Cyngor.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau yn adroddiad y swyddog a chyda'r amodau yn yr adroddiad hwnnw.

 

      

 

7.12

39C369 - DARPARU AIL FLWCH POST RHWNG HILL STREET A THYDDYN TO, PORTHAETHWY

 

      

 

     Mae'r cais hwn ar dir y Cyngor.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau yn adroddiad y swyddog a chyda'r amodau yn yr adroddiad hwnnw.

 

      

 

7.13

39C370 - DARPARU AIL FLWCH POST RHWNG PEN LÔN A CHAE GWEITHDY, PORTHAETHWY

 

      

 

     Mae'r cais hwn ar dir y Cyngor.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau yn adroddiad y swyddog a chyda'r amodau yn yr adroddiad hwnnw.

 

      

 

7.14

39C371 - DARPARU AIL FLWCH POST AR STAD PEN LÔN, PORTHAETHWY

 

      

 

     Mae'r cais hwn ar dir y Cyngor.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau yn adroddiad y swyddog a chyda'r amodau yn yr adroddiad hwnnw.

 

      

 

7.15

40LPA539C/CC - CODI CERFLUN EFYDD O DIC EVANS AR BEDESTAL CARREG YN YR WYLFAN, MOELFRE

 

      

 

     Trosglwyddwyd y cais i'r Pwyllgor gan iddo gael ei gyflwyno gan Adran Addysg a Hamdden Cyngor Sir Ynys Môn.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau yn adroddiad y swyddog a chyda'r amodau yn yr adroddiad hwnnw.

 

      

 

7.16

41LPA649A/CC - DARPARU LLE PARCIO YCHWANEGOL YM MRYN FFYNNON, STAR

 

      

 

     Trosglwyddwyd y cais i'r Pwyllgor oherwydd iddo gael ei gyflwyno gan yr Awdurdod Lleol ar dir y Cyngor.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Emyr Jones, yr aelod lleol, iddo gael sicrwydd gan yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol bod y lle parcio ychwanegol wedi'i fwriadu ar gyfer preswylwyr lleol yn ogystal ag i'r Adran Gwasanaethau Cymdeithasol.  Roedd y Cynghorydd Jones yn derbyn adroddiad y swyddog ac yn cynnig caniatáu'r cais.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau yn adroddiad y swyddog a chyda'r amodau yn yr adroddiad hwnnw.

 

      

 

     7.17        45C138F - CADW'R FYNEDFA YN YR OCHR DROS HEN LITHRFA A'R WAL GYNNAL A'R LLITHRFA NEWYDD Y TU MEWN I'R HARBWR YN NHY'R FFERI, BRYNSIENCYN

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor yn ôl dymuniad yr aelod lleol a chan fod rhan o'r datblygiad yn digwydd ar dir a roddwyd dan brydles i'r Cyngor.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio mai cais sydd yma i gadw lithrfa goncrid a stepiau yn yr harbwr; cadw hefyd y llecyn parcio gwastad i un cerbyd ym mhen gogledd-ddwyreiniol yr annedd a chodi wal gynnal i rwystro llifogydd oherwydd y llanw.  Credwyd bod y cais yn dderbyniol ac yn cydymffurfio'n gyffredinol gyda pholisïau cynllunio cydnabyddedig y Cyngor.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

     Nodwyd nad oedd y caniatâd hwn yn golygu na fydd raid i'r ymgeisydd gael pob caniatâd perthnasol arall gan y cyrff perthnasol ac y bydd eu hangen o bosib dan ddeddfwriaeth neu reoliadau eraill.

 

      

 

7.18

46C180E - CYNLLUNIAU LLAWN I GODI CHWE ANNEDD AR BLOTIAU 1 - 6 AC ALTRO'R FYNEDFA AR DIR YN TESOG, LÔN SANTES FFRAID, TREARDDUR

 

      

 

     Trosglwyddwyd y cais hwn i'r Pwyllgor yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Gofynnodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio am ohirio ystyried y cais hyd nes cael eglurhad ar pwy yw perchennog y tir y mae'r cais yn ymwneud ag ef.

 

      

 

     PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais hwn.

 

      

 

8     CEISIADAU A DDIRPRWYWYD

 

      

 

     Cyflwynwyd a derbyniwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cynllunio a Gwasanaethau Amgylcheddol) ar geisiadau a ddirprwywyd ac y gwnaethpwyd penderfyniad arnynt ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor hwn.

 

      

 

9     MATERION A GYFEIRIWYD YN ÔL

 

      

 

9.1

16C145A - TIR YM MHLAS LLECHYLCHED, BRYNGWRAN

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y Pwyllgor wedi penderfynu fel a ganlyn ar 3 Mawrth, 2004:

 

      

 

     "cymeradwyo'r cais am y rhesymau a roddwyd a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog ac eithrio y rhesymau (1) a (3) yn amod (5) ac yn amodol ar anghenion cytundeb Adran 106 yn cyfyngu ar y defnydd o'r ffordd i bwrpasau amaethyddol."

 

      

 

     Dywedodd y swyddog iddo gael gwybod gan asiant yr ymgeisydd nad yw'r ymgeisydd yn fodlon llofnodi Cytundeb dan Adran 106 ond yn fodlon derbyn amod fel y gwelir hwnnw yn argymhelliad y swyddog i'r Pwyllgor.

 

      

 

     Yn y Cyngor Cenedlaethol gan y Llywodraeth i Awdurdodau Cynllunio Lleol ceir canllaw i ddefnyddio amodau yn hytrach na rhwymiadau cynllunio fel ffordd o reoli cynllunio.  Credwyd bod gosod amod i gyfyngu ar y defnydd a wneir o'r ffordd i ddibenion sy'n gysylltiedig â'r tir amaethyddol gerllaw ac i ddim bwrpas arall o gwbl, yn unol ag argymhelliad y swyddog yn ei adroddiad, yn ffordd briodol o reoli cynllunio ac yn ddull ymarferol i bwrpas gorfodaeth.  

 

      

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd R.G. Parry, yr aelod lleol, bod yr ymgeisydd wedi gofyn am lôn amaethyddol a honno eisoes wedi'i darparu.  Petai'r ymgeisydd angen lôn i ddibenion amaethyddol yn unig nid oedd unrhyw reswm pam na ellid gofyn iddo lofnodi cytundeb dan Adran 106 yn cyfyngu defnydd i ddibenion amaethyddol.  Roedd pryderon y gallai'r ffordd hon gael ei defnyddio i ddatblygiad preswyl yn y dyfodol.

 

      

 

     Gan y Rheolwr Rheoli Cynllunio cafwyd gair o gadarnhad nad oedd yr un cais wedi'i gyflwyno am ddatblygiad preswyl.

 

      

 

     PENDERFYNWYD glynu wrth benderfyniad blaenorol y Pwyllgor sef mynnu bod yr ymgeisydd yn llofnodi cytundeb dan Adran 106 yn cyfyngu ar y defnydd o'r lôn i ddibenion amaethyddol yn unig.

 

      

 

9.2

30C192A - GWESTY RHOSTREFOR, BENLLECH

 

      

 

     Cafwyd adroddiad gan y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod cais eisoes wedi'i ganiatáu i godi 18 o apartmentau ar y safle, ond gyda chytundeb dan Adran 106 yn mynnu bod 4 o'r unedau yn rhai fforddiadwy yn unol â gofynion Cymdeithas Dai Clwyd Alun.

 

      

 

     Cafwyd argymhelliad gan y swyddogion bod yr aelodau yn amrywio'r cynigion gwreiddiol fel bod modd cael darpariaeth yn y Cytundeb dan Adran 106, i syrthio'n ôl arni - sef petai darpariaeth ar y safle ddim yn dderbyniol o safbwynt tai fforddiadwy, yna buasai'r Cyngor yn gofyn am daliad yn lle'r ddarpariaeth yn unol â fformiwla sydd yng Nghanllawiau Cynllunio Atodol y Cyngor ac y cytunir arni rhwng y datblygwr ac Adran Dai ac Adran Gynllunio'r Cyngor ac a fydd yn ychwanegu ystwythder at y penderfyniad gwreiddiol.  

 

      

 

     PENDERFYNWYD cymeradwyo darpariaeth i syrthio'n ôl arni, sef bod y Cyngor yn derbyn taliad pe methid yn y trafodaethau i gael tai fforddiadwy ar y safle a gwneud hyn yn unol ag adroddiad y swyddog.

 

      

 

10     CYNLLUN DATBLYGU UNEDOL

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio ei fod yn disgwyl adroddiad yr Arolygwr ar yr ymchwiliad i'r CDU erbyn tua chanol Mehefin ond mater i swyddfa yr Arolygwyr Cynllunio yw penderfynu ar y dyddiad cyhoeddi.  

 

      

 

     Daeth y cyfarfod i ben am 4.00 p.m. a diolchodd y Cadeirydd i'r aelodau ac i'r swyddogion am eu cefnogaeth yn ystod ei gyfnod yng Nghadair y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

      

 

     Y CYNGHORYDD R. LL. HUGHES

 

     CADEIRYDD