Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion dogfennau , 2 Gorffennaf 2003

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Dydd Mercher, 2ail Gorffennaf, 2003

PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION

COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 2 GORFFENNAF 2003

 

yn breSENNOL:

Y Cynghorydd R. Ll. Hughes, Cadeirydd

Y Cynghorydd J. Arwel Edwards, Is-Gadeirydd

 

Y Cynghorwyr John Byast, D. D. Evans, Dr. J. B. Hughes, W. Emyr Jones, R. L. Owen, G. O. Parry MBE, Gwyn Roberts, John Roberts, W. T. Roberts, John Rowlands, Hefin Thomas, W. J. Williams.

 

 

HEFYD YN BRSENNOL

Y Cynghorydd Bessie Burns - aelod lleol ar gyfer cais 18C141A yn eitem 4.1

Y Cynghorydd W. I. Hughes - aelod lleol ar gyfer cais 14C174 yn eitem 5.1

 

 

WRTH LAW:

Cynllunio :

Pennaeth Gwasanaethau Cynllunio (JW)

Arweinydd Tîm (NJ)

Arweinydd Tîm (DPJ)

Cynorthwy-ydd Gweinyddol (JR)

 

Priffyrdd :

Uwch Beiriannydd (Rheoli Datblygu a Hawliau Tramwy Cyhoeddus) (JRWO)

Swyddog Chwiliadau a Chofnodiadau (AJ)

 

Cyfreithiwr (RWJ)

Cynorthwy-ydd Gweinyddol (CWP)

 

 

YMDDIHEURIADAU:

Y Cynghorydd P. M. Fowlie

 

Agorodd y Cadeirydd y cyfarfod trwy groesawu y Cynghorwyr John Byast a John Rowlands i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at farwolaeth y Cynghorydd R. J. Jones, un a fu'n aelod ffyddlon o'r Pwyllgor hwn am flynyddoedd ac yn fawr ei ofal dros bobl ifanc a'r cefn gwlad.  Mynegwyd cydymdeimlad dwys y Pwyllgor gyda Mrs Kitty Jones, gweddw y Cynghorydd Jones.

 

Oherwydd y newidiadau i'r strwythur gwleidyddol mynegodd y Cynghorydd John Roberts ei bryderon bod sedd wag wedi codi yn y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion unwaith yn rhagor.  Cytunodd y Cadeirydd i fynegi'r pryderon hyn i'r Swyddog Monitro a gofyn am eglurhad.  Hefyd roedd y Cynghorydd John Roberts yn dymuno cofnodi cyfraniad gwerthfawr y Cynghorydd Fflur Hughes fel aelod o'r Pwyllgor Cynllunio dros nifer o flynyddoedd ac roedd yn werthfawrogol iawn ohono.

 

1

DATGANIAD O DDIDDORDEB

Cafodd y datganiadau o ddiddordeb a wnaed gan Aelodau a Swyddogion eu cofnodi dan yr eitemau perthnasol.

 

2

COFNODION

Cyflwynwyd a chadarnhawyd cofnodion y cyfarfod o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 4 Mehefin, 2003 (Tudalennau  63 - 73 o'r Gyfrol hon).

 

YN CODI O'R COFNODION

Tai fforddiadwy i bobl ifanc leol

(ar ddiwedd eitem 5.3 yn y cofnodion)

 

Er gwybodaeth i aelodau, cyflwynwyd copi o lythyr y Cadeirydd at y Deilydd Portffolio Datblygu Economaidd a Chynllunio yn mynegi pryderon y Pwyllgor hwn oherwydd prinder tai fforddiadwy i bobl ifanc, a hefyd at y rhwystrau rhag rhoddi caniatâd cynllunio yn groes i Bolisi 53 Cynllun Lleol Ynys Môn (Tai yn y Cefn Gwlad) er mwyn cynnal cymunedau a diogelu'r iaith Gymraeg; yn y llythyr gofynnwyd am ddwyn pryderon y Pwyllgor hwn i sylw'r Pwyllgor Gwaith a hefyd i sylw'r Cynulliad.

 

RHAN 1 - MATERION CYNLLUNIO

 

 

 

3

YMWELIADAU Â SAFLEOEDD

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd adroddiad ar yr Ymweliadau â Safleoedd Cynllunio a gynhaliwyd ar 18 Mehefin, 2003, yn amodol ar gynnwys enw'r Cynghorydd Goronwy Parry ymhlith y rheini a ymddiheurodd am absenoldeb.

 

 

 

YN CODI O'R COFNODION :

 

Mynegodd John Roberts ei bryder oherwydd y nifer isel sy'n mynychu ymweliadau cynllunio a safleoedd a gofynnodd i bawb geisio mynychu er mwyn dysgu am y cefndir wrth wneud penderfyniadau ar geisiadau cynllunio.

 

 

 

Eitem 1 - 18C141A - Roedd Pennaeth y Gwasanaethau Cynllunio yn dymuno cofnodi bod angen rhoddi "larger" yn ei adroddiad yn hytrach na "smaller" i ddisgrifio'r darn hwnnw o dir sy'n berthnasol i'r cais presennol.

 

 

 

4

CEISIADAU'N CODI O'R COFNODION :

 

 

 

4.1

18C141A - CAIS AMLINELLOL AR GYFER CODI ANNEDD YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD A GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD AR RAN O O.S. 5361, RHYDWYN

 

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Cynllunio i'r cais gael ei ohirio yn y cyfarfod diwethaf ar gais yr Aelod Lleol er mwyn ymweld â'r safle ar 18 Mehefin, 2003.  Argymhelliad o wrthod oedd gan y swyddogion oherwydd bod y cais yn creu estyniad annerbyniol i'r pentref ac yn groes i'r polisïau cyfredol.

 

 

 

Aeth ymlaen i ddweud bod yr ymgeiswyr wedi cyflwyno cynlluniau newydd ac roedd y rheini ar gael ac yn cael eu dangos yn y cyfarfod.  Gwelwyd bod lled ffrynt y safle wedi ei ostwng 5m i 25m ond yn dal i ymestyn y tu draw i ffiniau'r cyfyngiad cyflymdra 30 mya.  O'r herwydd nid oedd hi'n bosib darparu llain gweld digonol yn y fynedfa i bwrpas cydymffurfio gyda gofynion priffyrdd.

 

 

 

Pentref rhestredig oedd Rhydwyn yn ôl y swyddog a hynny yn caniatau datblygu anheddau unigol ond bod y safle hwn yn ymestyn yn rhy bell i'r cefn gwlad agored.

 

 

 

Ychwanegodd fod cefnogaeth gref yn lleol i'r cais a hynny'n cynnwys y Cyngor Cymuned, yr Aelod Lleol a'r Aelod Cynulliad.

 

 

 

Os rhoddi caniatâd roedd y Swyddog Priffyrdd am i ffrynt y safle gael ei ymestyn tua'r de o'r pentref - sef estyniad o 5m er mwyn caniatau cyfleusterau gweld digonol a diogel yn y fynedfa ac wedyn buasai'r cais yn dderbyniol o safbwynt priffyrdd.

 

 

 

Gan yr Aelod Lleol, y Cynghorydd Bessie Burns, cafwyd anerchiad a dywedodd ei bod yn falch iawn o'r gefnogaeth unfrydol i'r cais.  Teimlai bod y cais yn dderbyniol gan fod y safle ar gyrion y pentref ac ni châi unrhyw effaith ddrwg ar yr ardal, yr oedd yn fodd i ddarparu ty fforddiadwy i gwbl ifanc lleol, a hefyd roedd y datblygiad yn ategu tai cyffiniol.  Gofynnodd i'r aelodau roddi sylw ffafriol i'r cais a darllenodd i'r Pwyllgor neges e-bost o'r Adran Briffyrdd yn dweud bod modd cwrdd â'r gofynion priffyrdd.  

 

 

 

Gan y Cynghorydd Gwyn Roberts cafwyd cynnig i dderbyn argymhelliad y swyddogion, sef gwrthod.

 

 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Hefin Thomas fod caniatâd yn cael ei roddi oherwydd bod yma bobl ifanc leol angen ty.  Cafwyd cadarnhad Pennaeth y Gwasanaethau Cynllunio nad oedd y cais yn cael ei drin fel cais yn gwyro o'r Cynllun Datblygu ond bod lleoliad y datblygiad yn annerbynniol ac o'r herwydd roedd rhaid dewis, y naill ffordd neu'r llall.  Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd W. J. Williams gyda'r amod bod ffiniau'r safle yn cael ei ymestyn 5m tua'r de o'r pentref a dyma'r rhesymau am gefnogi :

 

 

 

Ÿ

credai'r aelodau bod safle'r cais yn estyniad rhesymol i'r pentref gan nad oedd ffiniau pendant a swyddogol iddo.

 

Ÿ

angen lleol - darparu ty fforddiadwy i gwbl ifanc lleol

 

Ÿ

lles cynllunio i'r graddau y ceid gwelliannau i'r briffordd o bosib.

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor gohiriwyd y cais tan gyfarfod nesaf y Pwyllgor hwn er mwyn ystyried adroddiad ar oblygiadau rhoddi caniatâd cynllunio a hefyd i bwrpas penderfynu ar y cais.

 

 

 

4.2.......24C207 - ADDASU AC EHANGU YN BRYN LLWYD, PENGORFFWYSFA, LLANEILIAN.

 

Dywedodd y Cadeirydd bod y cais hwn wedi ei ohirio yn y cyfarfod diwethaf a hynny ar gais yr Aelod Lleol er mwyn cael cyfle i ymweld â'r lle ar 18 Mehefin 2003.

 

 

 

Ar dudalen 24 adroddiad y swyddog nodwyd bod llythyr o gefnogaeth wedi ei dderbyn ond roedd angen ei ddiwygio a dweud nad oedd yr awdur â gwrthwynebiad i'r bwriad.

 

 

 

I gyd cafwyd 25 o lythyrau'n gwrthwynebu'r cais ond ychwanegwyd bod 16 ohonynt yn perthyn i un awdur.

 

 

 

Mynegiant y siom a gafwyd gan y Cynghorydd Gwyn Roberts, yr aelod lleol, am nad oedd yr hen efail hon wedi ei rhestru gan CADW.  Bwriodd y Cynghorydd Roberts amheuaeth ar natur rai o'r gwrthwynebiadau a phellter tai'r gwrthwynebwyr o safle'r cais gan y gwyddai ef fod rhai ohonynt yn byw hanner milltir i ffwrdd.

 

 

 

Yma nododd Pennaeth y Gwasanaethau Cynllunio bod yr ymgeiswyr wedi cyflwyno cynlluniau diwygiedig a'r rheini'n dangos bod ffiniau darn o dir a oedd dan sylw wedi symud a bod y swyddogion wedi gwneud rhagor o waith ymgynghori gyda'r tai cyffiniol.  Roeddid yn disgwyl am air o gadarnhad bod y darn o dir yr oedd y cynlluniau diwygiedig yn ymwneud ag ef ym mherchnogaeth yr ymgeiswyr.  Awgrymwyd rhoddi 7 diwrnod arall i wrthwynebwyr gyflwyno tystiolaeth yn dangos perchnogaeth y darn hwn o dir.  Oni ddeuai materion newydd i'r fei yna gellid rhoddi caniatâd.  Pe deuai unrhyw faterion newydd i'r fei yna dylid cyflwyno'r mater yn ôl i'r Pwyllgor.  Ychwanegodd Pennaeth y Gwasanaethau Cynllunio bod yr Adain Beirianneg yn fodlon bod y posibilrwydd o gael problemau draenio dwr yn cael digon o sylw gan yr ymgeiswyr.

 

 

 

Nodwyd bod y Cyngor Cymuned Lleol yn pryderu oherwydd problemau draenio ac y dylai unrhyw ganiatâd cynllunio gynnwys amod cadarn yng nghyswllt darparu draeniad digonol i'r dwr wyneb.

 

 

 

Cafwyd cynnig gan y Cynghorydd R. L. Owen i dderbyn argymhelliad y swyddog o roddi caniatâd a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd W. T. Roberts.

 

 

 

Gyda'r amod bod y gwaith ymgynghori yn dod i ben yn foddhaol PENDERFYNWYD rhoddi'r pwerau i swyddogion roddi caniatâd i'r cais (ar ôl 7 diwrnod) am y rhesymau a roddwyd a hefyd gyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

 

 

5

CEISIADAU'N TYNNU'N GROES I'R CYNLLUN FFRAMWAITH

 

 

 

5.1

14C174 - CAIS AMLINELLOL AR GYFER CODI ANNEDD AR DIR GER LLYNFAES UCHAF, LLYNFAES

 

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Cynllunio bod y cais uchod wedi ei dynnu'n ôl.

 

 

 

5.2

22C154 - CAIS AMLINELLOL AR GYFER CODI ANNEDD, GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD YN O.S. 263, LLANDDONA

 

Dywedodd y Cadeirydd bod y cais hwn yn gwyro oddi wrth y Cynllun Datblygu ac wedyn dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Cynllunio bod safle'r cais y tu allan i ffiniau'r pentref.

 

 

 

Mewn  ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Hefin Thomas dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Cynllunio bod un llythyr o wrthwynebiad wedi ei dderbyn ac yn ymwneud â'r cynnydd yn y traffig yn yr ardal hon sy'n Ardal o Brydferthwch Naturiol Eithriadol.  Nid oedd y Cyngor Cymuned Lleol yn gwrthwynebu.

 

Dywedodd y Cynghorydd Hefin Thomas fod yr ymgeisydd yn perthyn i deulu gyda gwreiddiau hen yn y gymuned.  Teimlai ef bod cyswllt amaethyddol cryf i waith yr ymgeisydd a chefnogwyd ef yn hyn o beth gan Undeb Amaethwyr Cymru a hefyd gan Peter Rogers; aeth ymlaen i sôn am dystiolaeth gref o angen lleol a nodi bod mam yr ymgeisydd wedi cofrestru'n fethedig.  Teimlai'r Cynghorydd Thomas fod datganiad y swyddog, pryd y dywedodd y câi'r cais hwn effaith andwyol ar Ardal o Brydferthwch Naturiol Eithriadol, i ryw raddau yn gamarweiniol gan fod tai eisoes yn y cyffiniau a hefyd yr hen Westy Gwern y Wylan.

 

 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Hefin Thomas roddi caniatâd i'r cais gydag amod amaethyddol ac eiliwyd ef gan y Cynghorydd W. T. Roberts.

 

 

 

Darllenodd y Pennaeth Gwasanaethau Cynllunio ran o Bolisi 53 (Tai yn y Cefn Gwlad) gan ychwanegu na chyflwynwyd dim tystiolaeth gan yr ymgeisydd ei fod yn cael ei gyflogi'n uniongyrchol yn y maes amaethyddol na dim i ddweud bod natur ei waith yn golygu bod raid iddo fyw yn y man a'r lle hwn - roedd yn gweithio yn Cig Môn sydd gryn bellter o'r ardal hon.

 

 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Gwyn Roberts dderbyn argymhelliad y swyddog i wrthod a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Goronwy Parry.

 

 

 

Roedd y bleidlais yn gyfartal ar 7 yr un a defnyddiodd y Cadeirydd ei bleidlais fwrw o blaid yr argymhelliad i wrthod.

 

 

 

Pan ddeuai'r cyfnod ymgynghori i ben a chyda'r amod na cheid gwybodaeth newydd berthnasol PENDERFYNWYD dirprwyo pwer i swyddogion wrthod y cais am y rhesymau yn adroddiad y swyddog.

 

 

 

5.3

23C122A - CAIS AMLINELLOL AR GYFER CODI ANNEDD YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD A GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD AR DIR GER HEN SIOP, CAPEL COCH

 

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Cynllunio bod y cais hwn yn gwyro o'r Cynllun Datblygu.  

 

 

 

Nodwyd bod y Cyngor Cymuned wedi cefnogi'r cais ar ôl cyhoeddi adroddiad y swyddog

 

 

 

Er ei fod yn croesawu llythyr y Cadeirydd ar gychwyn y cyfarfod teimlai'r Cynghorydd W. J. Williams nad oedd digon yn cael ei wneud i helpu teuluoedd ifanc lleol symud i dai fforddiadwy yn eu cymunedau; ychwanegodd bod plant yr ymgeisydd yn mynychu'r ysgol leol rhyw 200 metr o safle'r cais a hefyd bod dau fyngalo union ger y safle.  Ni chredai bod y safle yn anghysbell nac yn ddatblygiad mympwyol; yn hytrach credai y buasai'n ategu'r tai yn y cyffiniau.  Mae'r tir y tu mewn i'r cyfyngiad cyflymder 30 milltir yr awr.  Chwaith ni allai'r Cynghorydd Williams gytuno gyda rhesymau'r swyddogion o blaid gwrthod ac yn arbennig y rhesymau hynny yn (03), (04) ac (05).

 

      

 

     Yn ôl Pennaeth y Gwasanaethau Cynllunio roedd yr Awdurdod wrthi'n gwneud gwaith ymgynghori ar Strategaeth Dai'r Ynys a chytunodd y Cadeirydd bod y strategaeth dai yn bwnc corfforaethol.

 

      

 

     Er ei fod yn cydymdeimlo gyda'r ymgeiswyr cynigiodd y Cynghorydd Emyr Jones y dylid derbyn yr argymhelliad i wrthod a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Goronwy Parry.

 

      

 

     PENDERFYNWYD gwrthod y cais am y rhesymau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

5.4

43C131 - CODI BWTHYN GWYLIAU AR DIR YN MOUNTAIN VIEW, PENTREF GWYDDEL, RHOSCOLYN

 

     Ar gais y Pennaeth Gwasanaethau Cynllunio cytunwyd i ohirio ystyried y cais hwn hyd nes gwneud rhagor o waith ymgynghori gan nad oedd rhai rhybuddion priffyrdd wedi eu cyflwyno gan yr ymgeisydd.

 

      

 

6

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

6.1

11LPA825/CC - ANGORFA NEWYDD YN CYNNWYS FFENDER AC YSDOL NEWYDD YN HARBWR MEWNOL AMLWCH, PORTH AMLWCH

 

     Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Cynllunio i'r cais hwn gael ei drosglwyddo i'r Pwyllgor gan fod y datblygiad yn ymwneud â thir sy'n eiddo i'r Cyngor a hefyd ychwanegodd y buasai'n rhaid cael caniatâd adeilad rhestredig i wneud rhai mathau penodol o waith.

 

      

 

     Ar ôl cwblhau'r gwaith ymgynghori'n foddhaol PENDERFYNWYD dirprwyo awdurdod i'r swyddogion gymeradwyo'r cais am y rhesymau a roddwyd a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

6.2

18LPA499A/CC - CAIS AMLINELLOL AR GYFER DATBLYGIAD TRIGIANNOL YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD AR DIR GER TROED Y GARN, LLANFAIR-YNG-NGHORNWY

 

     Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Cynllunio i'r cais hwn gael ei drosglwyddo i'r Pwyllgor oherwydd iddo gael ei gyflwyno gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol, Priffyrdd, Trafnidiaeth ac Eiddo.

 

      

 

     Nodwyd, ar ôl cyhoeddi'r adroddiad, nad oedd y Cyngor Cymuned Lleol yn gwrthwynebu'r bwriad ond yn dymuno nodi y buasent yn ffafrio gosod y datblygiad yn hytrach na'i werthu.  

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd Goronwy Parry y dylid rhoddi caniatâd a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd R. L. Owen.

 

      

 

     Ar ôl cwblhau'r gwaith ymgynghori'n foddhaol PENDERFYNWYD dirprwyo awdurdod i'r swyddogion gymeradwyo'r cais am y rhesymau a roddwyd a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

6.3

19C809A - CAIS LLAWN I WELLA FFRYNTIAD ALLANOL, DARPARU CYFLEUSTERAU CHWARAE I BLANT YNGHYD AG ADDASU'R FYNEDFA BRESENNOL YNG NGHANOLFAN GYMUNED GWELFOR, FFORDD TUDUR, CAERGYBI

 

     Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Cynllunio bod y cais uchod wedi ei drosglwyddo i'r Pwyllgor oherwydd bod y safle ym mherchenogaeth y Cyngor.

 

      

 

     Nodwyd, ar ôl cyhoeddi'r adroddiad, i Gyngor Tref Caergybi ddweud eu bod yn cefnogi'r cais.

 

      

 

     Y bwriad yma oedd cadw'r llwybr troed a'i wyro ac y buasai "cyngor" yn cael ei roddi ynghlwm wrth yr amodau dan y caniatâd.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Gwyn Roberts cafwyd cynnig i ganiatáu'r cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Tecwyn Roberts.

 

      

 

     PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais am y rhesymau a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

        

 

6.4

25C146A  -  DYMCHWEL YR ANNEDD BRESENNOL YNGHYD Â CHODI ANNEDD NEWYDD AC ADDASU'R FYNEDFA BRESENNOL AR DIR GER TREM Y WYLFA, CARMEL

 

     Trosglwyddwyd y cais hwn i'r Pwyllgor oherwydd ei fod yn  ymwneud â thir sy'n eiddo i'r Cyngor.

 

      

 

Gynt cafwyd problemau yng nghyswllt draenio'r tanc septig a nodwyd bod y broblem wedi ei datrys.

 

 

 

Cynigiodd y Cynghorydd R. L. Owen roddi cymeradwyaeth a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Hefin Thomas.

 

 

 

     PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais am y rhesymau a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog ond gydag amod ychwanegol yng nghyswllt draenio.

 

        

 

6.5

30C48EA - MANYLION  AR GYFER CYFARPAR CHWARAE Y MAE EI ANGEN DAN AMOD (04) AR GANIATÂD CYNLLUNIO 30C483 AR DIR GER BRYN Y WIG, BENLLECH

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor gan fod y safle yn eiddo i'r Cyngor.

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd Tecwyn Roberts roddi caniatâd i'r cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd W. J. Williams.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatau'r cais am y rhesymau yn adroddiad y swyddog a chyda'r amodau yn yr adroddiad hwnnw.

 

      

 

6.6

30C528 - GWELLIANNAU AMGYLCHEDDOL AR DIR YN NHRAETH COCH

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor gan fod y safle yn eiddo i'r Cyngor.

 

      

 

     Rhoes y Cynghorydd W. T. Roberts ganmoliaeth i Menter Môn am eu cefnogaeth gyda'r prosiect a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Gwyn Roberts.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatau'r cais am y rhesymau yn adroddiad y swyddog a chyda'r amodau yn yr adroddiad hwnnw.

 

      

 

6.7     34C13F - CAIS AMLINELLOL AR GYFER CODI ANNEDD YN DALAR WEN, RHOS-MEIRCH

 

     Datganodd y Cynghorydd D. D. Evans ddiddordeb yn y cais ac nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a phleidleisio arno.

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor ar gais yr aelod lleol.

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd W. J. Williams wrthod y cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Gwyn Roberts.

 

      

 

     PENDERFYNWYD gwrthod y cais am y rhesymau yn adroddiad y swyddog a chyda'r amodau yn yr adroddiad hwnnw.

 

      

 

6.8     46C361A/EIA - CODI GWAITH TRIN CARTHFFOSIAETH YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD AR DIR RHWNG ALIWMINIWM MÔN A STAD DDIWYDIANNOL PENRHOS, CAERGYBI

 

     Gofynnodd Pennaeth y Gwasanaethau Cynllunio am ohirio ystyried y cais a bod yr aelodau yn ymweld â'r safle.

 

      

 

     Cais a gyflwynwyd gan Dwr Cymru oedd hwn, ac yn debyg iawn i un a wrthodwyd yn ddiweddar ac apêl gynllunio hefyd yn rhedeg yn gyfochrog gyda'r cais.  Yn erbyn y cefndir hwn pwysleisiodd Pennaeth y Gwasanaethau Cynllunio bwysigrwydd sicrhau bod Aelodau perthnasol yn parhau i wneud gwaith paratoi ar gyfer yr apêl gan fod angen datganiadau erbyn 15 Awst.  Rhoddwyd cyngor i'r Aelodau hynny o'r Pwyllgor a bleidleisiodd yn erbyn y bwriad hwn yn y gorffennol fynychu cyfarfod a drefnwyd gan y Gwasanaeth Cynllunio.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â safle'r cais uchod cyn penderfynu arno.

 

        

 

7

CEISIADAU A DDIRPRWYWYD

 

     Cyflwynwyd a derbyniwyd - adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cynllunio a Gwasanaethau Amgylcheddol) ar geisiadau a ddirprwywyd ac y gwnaethpwyd penderfyniad arnynt ers cyfarfod diwethaf y pwyllgor hwn.   Tynnodd y Cadeirydd sylw'r aelodau at y ffaith bod yna 66 o geisiadau wedi derbyn sylw dan y cynllun dirprwyo ers y cyfarfod diwethaf.

 

      

 

     Dymuniad y Cynghorwyr R. L. Owen a D. D. Evans oedd rhoddi llongyfarchiadau'r Pwyllgor i'r holl staff perthnasol.

 

      

 

     Nodwyd bod y cais cynllunio a benderfynwyd dan eitem 6.4 y cofnodion hyn yn disodli cais cynllunio 25C146 a nodir yn y rhestr ddirprwyol.

 

      

 

     PENDERFYNWYD  derbyn yr adroddiad.

 

      

 

8

CEISIADAU'N DISGWYL SYLW CYTUNDEBAU ADRAN 106

 

     Cyflwynwyd a derbyniwyd adroddiad gan y Pennaeth Rheoli Datblygu bod y ceisiadau canlynol a gymeradwywyd gan y Pwyllgor hwn yn y gorffennol yn amodol ar Gytundeb 106, wedi eu tynnu'n ôl yn ffurfiol :

 

      

 

8.1

1/20/C/163 - adeiladu tanc storio dwr stormydd ac offer pwmpio ac adeilad rheoli uwchlaw ar wyneb y tir y tu cefn i Atlantic Terrace, Ffordd y Traeth, Cemaes (caniatawyd ar 3 Rhagfyr, 1997 a thynnwyd yn ôl 17 Mehefin 2003)

 

      

 

8.2

1/19/GD/4C estyniad i faes parcio UBO, Stryd y Parc, Caergybi (dim gwrthwynebiad 11 Ionawr, 1989, tynnwyd yn ôl 3 Mehefin, 2003)

 

      

 

9

APELIADAU CYNLLUNIO - ADRAN 78- DEDDF CYNLLUNIO GWLAD A THREF 1990 PLOT 6, PLAS HEN, LLANDDANIEL

 

     Cyflwynwyd a derbyniwyd - adroddiad yr Arolygwr Cynllunio a benodwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ynghylch yr apel yn erbyn penderfyniad yr Awdurdod i wrthod caniatau cais cynllunio 21C60K.  Gwrthodwyd yr apêl.

 

      

 

     Er gwybodaeth i'r aelodau, dywedodd y Cadeirydd bod 88% o'r ceisiadau cynllunio a gyflwynir yn awr yn cael sylw cyn pen 8 wythnos.  Erbyn hyn roedd yr awdurdod wedi gwella ei berfformiad ac yn bedwerydd allan o 25 Awdurdod Cynllunio Lleol Cymru o'i gymharu â safle 23 ddeunaw mis yn ôl.

 

      

 

     Daeth y cyfarfod i ben am 3.30 p.m.

 

      

 

     Y CYNGHORYDD ROBERT LL. HUGHES

 

     CADEIRYDD