Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion dogfennau , 2 Gorffennaf 2008

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Dydd Mercher, 2ail Gorffennaf, 2008

PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION

 

Cofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 2 Gorffennaf, 2008

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd Thomas Jones - Cadeirydd

                                                

Y Cynghorwyr WJ Chorlton,  Eurfryn Davies, Lewis Davies,

Barrie Durkin, Jim Evans, Ken Hughes, O Glyn Jones,

Clive McGregor, RL Owen,  J Arwel Roberts, Hefin Thomas,

John Penri Williams, Selwyn Williams

 

 

 

WRTH LAW:

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

HEFYD YN BRESENNOL:

 

Cynllunio:

Pennaeth y Gwasanaeth Datblygu (EGJ)

Rheolwr Rheoli Datblygu (DFJ)

Cynorthwy-ydd Cynllunio (EH)

 

Priffyrdd:

Uwch Beiriannydd (Rheoli Datblygu a Hawliau Tramwy Cyhoeddus) (JRWO)

Swyddog Rheoli Datblygu (RE)

 

Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol (RWJ)

Cynorthwy-ydd Gweinyddol (CWP)

 

Aelodau Lleol:

Y Cynghorwyr Fflur Hughes eitem 9.1, Eric Jones eitem 5.3,

JV Owen eitem 10.1, Ieuan Williams eitem 10.5

 

 

   

 

 

 

1

YMDDIHEURIADAU

 

Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriad am absenoldeb.

 

2

DATGANIAD O DDIDDORDEB

 

Derbyniwyd datganiadau o ddiddordeb fel y cawsant eu cofnodi dan yr eitemau perthnasol.

 

3

COFNODION

 

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd, fel rhai cywir, gofnodion cyfarfod o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gafwyd ar 4 Mehefin, 2008 gyda'r newidiadau a ganlyn:

 

 

 

Eitem 6.2: 28C313B  Teras Rehoboth, Llanfaelog Nodwyd fod y cais hwn wedi ei gyfeirio yn ôl a bod adroddiad arno yn eitem 6.1 y cofnodion hyn.  

 

 

 

Eitem 10.1: 11C521 tir ger Parc Busnes, Amlwch dileu'r geiriau "ac yn effeithio ar dir yn ei berchnogaeth".

 

 

 

Eitem 13.1: 46C448B/EIA Gwella arfordirol ynghyd â darparu maes parcio yn Nhrearddur Doedd y Cynghorydd Eurfryn Davies ddim yn bresennol yn y cyfarfod ac ni ddylai ei enw ymddangos ar y rhestr o'r rheini a bleidleisiodd.  

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd Hefin Thomas mai'r union eiriau a gynigiodd ef yn y cyfarfod oedd y rhain y cytunwyd arnynt ac y dylent gael eu cynnwys yn y penderfyniad ei hun h.y. "y dylai'r gwaith fod yn seiliedig ar ddigwyddiad storm 1:200 blwyddyn yn unol â gofynion Asiantaeth yr Amgylchedd a DEFRA".  Cytuno a hyn wnaeth y Cynghorydd John Chorlton er mwyn osgoi unrhyw ddryswch neu gamddealltwriaeth.

 

 

 

Cytunwyd i gywiro'r cofnodion i adlewyrchu hyn.

 

 

 

Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu fod trafodaethau wedi cymryd lle gyda'r ymgeisydd ac y byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i gyfarfod pellach o'r Pwyllgor hwn.  

 

 

 

4

YMWELIADAU Â SAFLEOEDD CYNLLUNIO

 

 

 

Fe nodwyd nad oedd unrhyw ymweliadau â safleoedd cynllunio yn ystod mis Mehefin.  

 

 

 

1

CEISIADAU A OHIRIWYD

 

 

 

5.1

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

11C8U/1  CAIS LLAWN I GODI 35 UNED BRESWYL YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GEIR AC I GERDDWYR AR DIR Y TU CEFN I BARC TRECASTELL, PORTH LLECHOG, AMLWCH

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl argymhelliad y swyddog.  Penderfynwyd ymweld â'r safle ar 7 Tachwedd, ac fe gafwyd hyn ar 21 Tachwedd, 2007.  Adroddwyd nad oedd  yr ymgeisydd wedi ymateb i ystyriaethau priffyrdd a godwyd yn ystod yr ymweliad â'r safle.  

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais am y rheswm a roddwyd.  

 

 

 

5.2      CAIS YN TYNNU'N GROES

 

 

 

17C413  CODI ANNEDD NEWYDD YNGHYD AG ADDASU'R FYNEDFA I GEIR Y TU CEFN I MOR AWEL, LLANDEGFAN

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno ar gais yr aelod lleol.    Gohiriwyd ystyried y cais ers y cyfarfod o'r Pwyllgor hwn gafwyd ar 9 Ebrill, 2008 er mwyn rhoi cyfle i'r Adran Briffyrdd gwblhau trafodaethau ar y lleiniau gwelededd.  Cafwyd ar ddeall nad oedd gan yr Adran Briffyrdd unrhyw anghytundeb mawr yng nghyswllt arolwg trafnidiaeth yr ymgeisydd. Adroddwyd fod cynlluniau diwygiedig o'r fynedfa a'r lleiniau gwelededd wedi eu derbyn a bod ymgynghori yn mynd yn ei flaen.

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais tra'n cwblhau trafodaethau ar faterion priffyrdd.

 

 

 

6      CEISIADAU'N CODI

 

 

 

6.1      CAIS YN TYNNU'N GROES

 

 

 

28C331B  CAIS AMLINELLOL I GODI 14 O ANHEDDAU YNGHYD A CHREU MYNEDFA NEWYDD I GERDDWYR AC I GEIR AR DIR GER TERAS REHOBOTH, LLANFAELOG

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd Glyn Jones y byddai'n cymeryd rhan yn y drafodaeth ar y cais hwn fel aelod lleol ac na fyddai'n pleidleisio ar y cais.  Caniatawyd y cais hwn gyda Chytundeb dan Adran 106 (ty fforddiadwy) ar 4 Mehefin, 2008 (cyfeirir atynt yn eitem 6.2 y cofnodion hynny) ond fe'i cyfeiriwyd yn ôl i'r cyfarfod hwn er mwyn cywiro dyddiad yr ymgynghori cyhoeddus - dylai'r dyddiad ' 2 Mehefin 2008' ddarllen '9 Mehefin 2008'.  Adroddwyd ei bod yn arferiad cyfeirio eitemau i'r Pwyllgor cyn i'r dyddiad ymgynghori ddod i ben os oedd y dyddiad hwnnw yn cael ei wneud yn hysbys.  Cyfeiriwyd yr adroddiad yn ôl er mwyn cywiro'r wybodaeth gamarweiniol a gyflwynwyd i'r cyfarfod.

 

 

 

Mewn ymateb i'r ymgynghori daeth 22 lythyr ychwanegol i law a'r rheiny gerbron y cyfarfod a'r materion a godwyd yn cael sylw yn adroddiad y swyddog.  Nid oedd unrhyw wrthwynebiad gan yr ymgynghorwyr statudol.

 

 

 

Gan y Cynghorydd J Arwel Roberts cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a'i argymhelliad.

 

 

 

Cadarnhau'r hyn a ddywedodd eisoes a wnaeth y Cynghorydd Glyn Jones ac ychwanegodd fod nifer o lythyrau wedi'u hanfon i'r Ombwdsmon.  Ei brif gonsyrn oedd diogelwch y ffordd a cherddwyr, gwrthodwyd cais ar safle gerllaw oherwydd y system garthffosiaeth.  Teimlai'r Cynghorydd Jones fod y penderfyniad wnaed yn un cynamserol - dim ond pedwar o'r aelodau presennol fu ar ymweliad â'r safle.

 

 

 

Gan y Cynghorydd Barrie Durkin cafwyd cynnig i ymweld â'r safle oherwydd materion diogelwch y ffordd.  Er ei fod eisoes wedi ymweld â'r safle hwn, fe eiliodd y Cynghorydd Eurfryn Davies y cynnnig i ymweld â'r safle.

 

 

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Hefin Thomas fe nodwyd nad oedd materion o'r newydd wedi dod i law ers y cyfarfod diwethaf.  Teimlai'r Cynghorydd John Chorlton y byddai ymweld â'r safle mor ddiweddar â hyn yn gosod cynsail.

 

 

 

Dywedodd y cyfreithiwr ei bod hi'n ddyletswydd ar swyddogion i hysbysu'r aelodau o'r ffeithiau i gyd ac atgoffodd y Pwyllgor nad oedd unrhyw fater o'r newydd wedi dod i sylw.  

 

 

 

Gan y Cynghorydd John Penri Williams cafwydd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a glynu wrth y penderfyniad blaenorol i ganiatáu'r cais a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd J Arwel Roberts.

 

 

 

Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

 

 

Derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais:  Y Cynghorwyr WJ Chorlton,  Eurfryn Davies, Barrie Durkin, Jim Evans, Ken Hughes, Clive McGregor, J Arwel Roberts, Hefin Thomas, John Penri Williams

 

 

 

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chadarnhau'r penderfyniad blaenorol i ganiatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd, gydag amodau y manylwyd arnynt yn cynnwys Cytundeb dan Adran 106 fod y datblygiad yn parhau'n fforddiadwy am byth.

 

 

 

6.2      CAIS ECONOMAIDD

 

 

 

36C175L/TR/ECON  CAIS LLAWN I AILOSOD Y FFORDD A5 A CREU MYNEDFA NEWYDD ODDI AR Y GYLCHFAN YN SAFLE GWASANAETHAU LLAN-FAWR NEWYDD, LLANGEFNI

 

 

 

Gan Mr JRW Owen o'r Adran Briffyrdd cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r pleidleisio.  Penderfynodd y Pwyllgor hwn yn ei gyfarfod ar 5 Rhagfyr, 2007ganiatáu ailwampio'r A5 er mwyn gwella mynedfa arfaethedig i safle Gwasanaethau Llan-fawr Newydd gydag amodau yn cynnwys cytundeb dan Adran 106 i sicrhau fod y fynedfa ynghlwm wrth y datblygiad ei hun.

 

 

 

Roedd y cais presennol yn gofyn am ganiatâd i greu mynedfa cyn unrhyw ddatblygiad ar y safle er mwyn ennyn hyder buddsoddwyr yn y fenter.  Roedd y ddyletswydd i rwymo'r fynedfa wrth weddill y datblygiad yn lladd hyder datblygwyr yn y cynllun  Roedd angen ymrwymiad ynglyn â'r isadeiledd er mwyn magu hyder y bydd y datblygiadau yn mynd yn eu blaenau.

 

 

 

Rhoddwyd ystyriaeth i'r cais hwn ochr yn ochr â chais 36C175M (gweler eitem 10.6 y cofnodion hyn) a hwnnw'n amrywio amodau'r caniatâd amlinellol sy'n bodoli ar y safle er mwyn caniatáu mwy o amser i gyflwyno materion wrth gefn.

 

 

 

Yn unfrydol PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd gydag amodau y manylwyd arnynt.

 

 

 

 

 

6.3      GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

41C9U  NEWID DEFNYDD TIR AR GYFER LLEOLI 56 O CYNHWYSWYR STORIO YNGHYD AG ADEILADU CANOPI AR GANOLFAN FASNACHOL, STAR

 

 

 

Gan y Cynghorydd Selwyn Williams cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r pleidleisio. Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno ar gais yr aelod lleol.   Penderfynwyd ymweld â'r safle ar 16 Mai ac fe gafwyd hyn ar 23 Mai, 2008.  Gohiriwyd y cais yn y cyfamser er mwyn cwblhau trafodaethau ar faterion technegol.  Adroddwyd fod tystysgrif o berchnogaeth tir cywir wedi ei derbyn a'r rhybudd perthnasol wedi ei roi ar berchennog tir cyfagos.  Derbyniwyd llythyr ychwanegol gan berchennog y tir oedd yn parhau i ddadlau ynghylch perchnogaeth y tir.  Dywedwyd fod hyn, ynghyd â hawliau tramwy yn fater sifil ac na ddylai amharu ar y penderfyniad.  Rhoddwyd llythyrau dderbyniwyd gerbron y cyfarfod.

 

 

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Eric Jones at y prif faterion o gonsyrn h.y. perchnogaeth tir, y safle ei hun a natur y bwriad.  Gwelwyd y safle hwn fel un mwy addas i fân-werthu a chyfeiriodd at weithgareddau busnesau eraill o gwmpas.  Cyfeiriodd hefyd at hanes y safle gan gynnwys hanes o wrthod, colli apêl a chamau gorfodaeth.  Yn ddiweddar codwyd wal ger y brif fynedfa a hon yn gwaethygu gwelededd oedd yn wael yn barod;  dygodd y Cynghorydd Jones sylw at y ffaith fod y wal wedi ei hadeiladu ar ôl cwblhau adroddiad y swyddog.  Yn aml gwelwyd Scottish Power yn atgyweirio difrod i bolyn a chebl trydan ar yr ochr arall i'r ffordd a hynny oherwydd fod loriau yn cael trafferth i fynd a dod i'r safle.

 

 

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd J Arwel Roberts at bwynt 7 adroddiad y swyddog, ble dywedwyd "bod y cais presennol yn dod tros y gwrthwynebiadau oedd gan y Cyngor cyn hyn i'r cynnig a thros resymau'r arolygaeth gynllunio yn gwrthod yr apêl, ac felly, rwyf o'r farn nad oes digon o resymau cynllunio i wrthod y cynnig presennol o osod amodau", am y rheswm hwn teimlai ddyletswydd i gefnogi'r cais.  

 

 

 

Roedd canfyddiad yr arolygaeth gynllunio yn ystyriaeth o bwys, hefyd y ffaith fod yr ymgeisydd wedi gostwng nifer y cynwysyddion o 85 i 56 ynghyd â bwriad i sgrinio'r safle meddai'r Pennaeth Rheoli Datblygu.  Cyfrifoldeb corff arall oedd y polyn a cebl trydan.  Wrth wneud penderfyniad, gofynnodd i'r aelodau anwybyddu'r wal a godwyd yn ddiweddar oherwydd byddai hyn yn cael ei ddatrys gan yr Adran Briffyrdd.  Mater sifil oedd perchnogaeth tir - roedd yr argymhelliad yn parhau i fod yn un o ganiatáu.

 

 

 

Nododd y Cynghorydd Hefin Thomas nad oedd sôn blaenorol am y wal ac nad oedd yr Adran Briffyrdd wedi mynegi gwrthwynebiad i'r bwriad a gofynnodd a oedd yr Adran Briffyrdd yn ymwybodol o'r sefyllfa ac yn ei gweld yn un dderbyniol?

 

 

 

Nid oedd y wal wedi ei hadeiladu pan ymwelwyd â'r safle meddai'r Uwch Beiriannydd Priffyrdd, cadarnhaodd y byddai camau i sicrhau gwelededd digonol o'r fynedfa a chodi wal.

 

 

 

Gwelai'r Cynghorydd Eurfryn Davies y safle hwn yn anaddas i'r math hwn o ddatblygu a chynigiodd wrthod y cais; cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Barrie Durkin.  Wedyn tynnodd y Cynghorydd Davies ei gynnig yn ôl er mwyn i'r Adran Briffyrdd gael cyfle i adrodd yn ôl ar y sefyllfa.

 

 

 

Byddai'r arolygwr cynllunio wedi ymweld â'r safle cyn adeiladu'r wal meddai'r Cynghorydd Glyn Jones; am y rheswm hwn cynigiodd ohirio er mwyn i'r swyddog priffyrdd ymchwilio i'r sefyllfa ac adrodd yn ôl.  Am resymau priffyrdd fe eiliodd y Cynghorydd Hefin Thomas y cynnig i ohirio.

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais er mwyn i'r Adran Briffyrdd ymchwilio ac adrodd yn ôl ar y sefyllfa.

 

 

 

7

CAIS ECONOMAIDD

 

 

 

7.1      34C510B/ECON  DYMCHWEL YR ADEILADAU PRESENNOL YNGHYD Â CHODI ARCHFARCHNAD NEWYDD A CHREU MYNEDFA NEWYDD A FFORDD LINIARU AR HEN SAFLE 'FARM AND PET PLACE', LÔN Y FELIN, LLANGEFNI

 

 

 

Gan y Cynghorydd Selwyn Williams cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r pleidleisio. Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan fod y safle yn cynnwys  tir ym mherchnogaeth y Cyngor, a'r bwriad i greu mynedfa i'r tir hwnnw.  Argymhelliad o wrthod oedd gan y swyddog a hynny am resymau diogelwch priffyrdd.

 

 

 

Yn dilyn cyhoeddi'r adroddiad, derbyniwyd cais gan asiant yr ymgeisydd am ohirio meddai'r Rheolwr Rheoli Datblygu a hynny er mwyn datrys materion priffyrdd.  Yn y cyfamser roedd yr asiant yn credu mai doeth fyddai ymweld â'r safle; cafodd hyn ei gynnig gan y Cynghorydd John Chorlton a'i eilio gan y Cynghorydd RL Owen.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â'r safle am y rheswm roddwyd.  

 

      

 

      

 

8      CEISIADAU AM DAI FFORDDIADWY

 

      

 

     Doedd dim ceisiadau i'w hystyried gan y cyfarfod hwn.  

 

      

 

      

 

9     CEISIADAU'N TYNNU'N GROES

 

      

 

9.1      34C97P/ECON  NEWID DEFNYDD I GREU DWY SIOP A SWYDDFA AR Y LLAWR CYNTAG YNGHYD AC ADDASIADAU AC ATGYWEIRIO YN NEUADD Y DREF, LLANGEFNI

 

 

 

     Gan y Cynghorydd Selwyn Williams cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r pleidleisio.  Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor er gwybodaeth yn unig; bydd y cais yn cael ei gyfeirio i'r Cynulliad am benderfyniad oherwydd fod y tir ym mherchnogaeth y Cyngor.  Fe adroddwyd fod y safle yn rhan o ddyraniad S24 o'r Cynllun Lleol (adwerthu/swyddfa/y farchnad - cadw Neuadd y Dref gyda chyfleusterau sifig a chymunedol),  bellach roedd yn gwyro oddi wrth y polisïau gan na fydd yn cynnig cyfleusterau cymunedol.  Bydd cais Adeilad Rhestredig ynghlwm a'r cais.

 

      

 

     Rhoddodd y Cynghorydd Fflur Hughes beth gwybodaeth gefndirol ar Neuadd y Dref.  Derbyniwyd arian i atgyweirio'r adeilad, ond yn y broses fe'i gwnaethpwyd yn anaddas i rai gweithgareddau fel perfformiadau llwyfannol, er gwaethaf hyn roedd galwad am ddefnydd cymunedol.  Fe'i defnyddiwyd yn rheolaidd gan y farchnad - un o'r chydig atyniadau sydd ar ôl i Langefni.  Roedd y Cynghorydd Hughes yn ymwybodol o nifer o bartion a diddordeb ynddi h.y. Cwmni Tref, Medrwn Môn, Menter Môn, fel canolfan dwristiaeth ac Archifdy'r Cyngor.  Colled drist fyddai colli Neuadd y Dref am gyfnod o 150 o flynyddoedd trwy les.  Teimlai fod modd trawsnewid Neuadd y Dref a gofynnodd am wrthod y cais.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Glyn Jones cafwyd cynnig o wrthod a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd John Penri Williams.  

 

      

 

     Roedd yn costio £30,000 y flwyddyn i gynnal yr adeilad meddai'r Cynghorydd Hefin Thomas, ac fe gafodd y Cyngor Tref gyfle i gymryd cyfrifoldeb am yr adeilad yn y gorffennol, teimlai nad oedd dewis dim ond i gyfeirio'r cais i'r Cynulliad.

 

      

 

     Tra'n cydymdeimlo gyda'r aelod lleol, atgoffodd y Cynghorydd John Chorlton yr aelodau fod cynghorau tref eraill ar draws yr Ynys wedi derbyn cyfrifoldeb am eu neuaddau tref eu hunain.  Roedd grantiau ar gael i adnewyddu neuaddau o'r fath. Deallwyd fod Cyngor Tref Llangefni wedi cael cynnig Neuadd y Dref am £1.  

 

      

 

     Eglurodd y Cadeirydd nad oedd y Cyngor mewn sefyllfa i roddi caniatâd cynllunio iddo'i hun ar gais oedd yn gwyro ac y byddai'n rhaid ei gyfeirio i'r Cynulliad.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd J Arwel Roberts cafwyd cynnig o wrthod.  Cynnig gwrthod hefyd wnaeth y Cynghorydd Eurfryn Davies gan ei fod yn teimlo mai hwn oedd y cyfle olaf i gadw Neuadd y Dref i'r gymuned leol.  

 

      

 

     Dylai penderfyniad y Pwyllgor fod yn seiliedig ar ddefnydd tir meddai'r Rheolwr Rheoli Datblygu.  Roedd siarad ynglyn a defnyddio Neuadd y Dref ar gyfer y farchnad ond gofynnodd a oedd hyn yn cyfateb i ddefnydd sifig a chymunedol?

 

      

 

     Cynnig gohirio wnaeth y Cynghorydd John Chorlton i roi cyfle i swyddogion drafod y posibilrwydd o Gyngor Tref Llangefni yn cymryd y cyfrifoldeb am Neuadd y Dref a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Hefin Thomas.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd RL Owen cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad ac argymhelliad y swyddog a chyfeirio'r cais i'r Cynulliad.  

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

      

 

     Gohirio ystyried y cais: y Cynghorwyr WJ Chorlton, Eurfryn Davies, Barrie Durkin, Jim Evans, Hefin Thomas

 

      

 

     Gwrthod y cais:  y Cynghorwyr Lewis Davies, Ken Hughes, O Glyn Jones, Clive McGregor, J Arwel Roberts, John Penri Williams

 

      

 

     Ymatal:  Y Cynghorydd Thomas Jones

 

      

 

     Y rheswm a roddwyd dros wrthod oedd y byddai trigolion Llangefni yn colli defnydd cymunedol

 

      

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio'n otomatig i'r cyfarfod nesaf er mwyn i swyddogion baratoi adroddiad ar y rheswm dros wrthod y cais.  

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

10      GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

10.1       19C291C/DA  CAIS MANWL I DDYMCHWEL TY TAFARN, CODI CHWE ANNEDD 3 LLOFFT, 4 ANNEDD 2 LOFFT YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GEIR YN Y Y DDRAIG GOCH, LLAIN-GOCH, CAERGYBI

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno ar gais yr aelod lleol.   Rhoddwyd caniatâd cynllunio amlinellol ar gyfer datblygiad preswyl ar 2 Mai, 2007 dan gais 19C291B a'r cais presennol yn ymwneud â lleoliad, dyluniad, edrychiad allanol, manylion mynediad a thirlunio. Diwygiwyd y gosodiad i adlewyrchu trafodaethau gafwyd yn y cyfnod amlinellol mewn perthynas ag agosrwydd rhai anheddau at Ffordd yr Hen Ysgol ac fe ostyngwyd y nifer o anheddau o 11 i 10.

 

      

 

     Gwnaeth y Cynghorydd JV Owen y sylwadau a ganlyn:

 

      

 

Ÿ

nifer uchel o ganiatâd cynllunio roddwyd i'r pentref yn ddiweddar 

 

Ÿ

perchnogaeth y safle wedi newid bedair gwaith a'r datblygwr diweddar wedi gweld y tir yn wlyb, ansefydlog a phroblemau gyda'r garthffos  

 

Ÿ

nifer o ffyrdd yn cysylltu â Ffordd Ynys Lawd, hon hefyd yn arwain tuag at y safle a phroblemau traffig yn y cyffiniau ar adegau   

 

Ÿ

Ynys Lawd yn un o atyniadau mwyaf deniadol a'r ffordd hefyd yn arwain tuag at Ynys Lawd

 

Ÿ

dwysedd adeiladu arfaethedig yn parhau'n uchel iawn

 

Ÿ

38 llythyr o wrthwynebiad yn y broses o ymgynghori  

 

Ÿ

a oes arolwg proffesiynol wedi ei wneud o'r safle?

 

Ÿ

cyfeiriodd y Cynghorydd Owen at ei lythyr yn 2004 ynglyn ag ymyraeth â lefelau dwr tanddaearol a goblygiadau hynny ?

 

Ÿ

a yw'r ymgynghorwyr statudol yn ymwybodol o'r consyrn ynglyn a'r safle?

 

      

 

     Trwy roddi caniatâd amlinellol i 11 o anheddau yn 2007 roedd yr egwyddor o ddatblygu wedi ei sefydlu meddai'r Rheolwr Rheoli Datblygu.  Nid oedd gan run corff statudol bryder - y rhain yn cynnwys Dwr Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd, Adeiniau Priffyrdd a Draenio.  Ymateb i gais cynllunio 19C291A (cais amlinellol am 12 o anheddau) a dynnwyd yn ôl yn 2005 oedd llythyr y Cynghorydd Owen.  Roedd y cais presennol yn gostwng y nifer o anheddau.  Gellid rhoddi nodyn ynghlwm wrth ganiatâd cynllunio i dynnu sylw at y pryderon a godwyd.

 

      

 

     Wrth dderbyn fod yr egwyddor o ddatblygu wedi'i sefydlu dywedodd y Cynghorydd Chorlton y byddai swyddogion yn sicrhau bod atebion i'r materion technegol; cytuno â hyn a wnaeth y Cynghorydd Arwel Roberts a ychwanegodd y byddai 30% (neu 3 o'r anheddau) yn dai fforddiadwy ac y byddai amod ynghlwm i sicrhau hyn.  

 

      

 

     Cadarnhaodd y cyfreithiwr fod y datblygwr wedi cwblhau cytundeb dan Adran 106 fel bod tair o'r anheddau yn dai fforddiadwy.  

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd JV Owen am asesiad daearyddol, hefyd dylai'r datblygwr baratoi bond i sicrhau fod isadeiladedd/gwaith ar y tir yn cyrraedd safon dderbyniol. Doedd y Rheolwr Rheoli Cynllunio ddim yn ymwybodol bod modd  rhoi amod o'r fath.

 

      

 

     Gwahoddodd y Cynghorydd Chorlton swyddogion i ystyried beth y gellid ei wneud i sicrhau fod gwaith yn cyrraedd safon derbyniol.  Gan y Cynghorydd Chorlton cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad ac argymhelliad y swyddog o ganiatáu a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Arwel Roberts.

 

      

 

     Yn unfrydol PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd gydag amodau y manylwyd arnynt.

 

      

 

10.2      22LPA897CC  GOSOD DAU DANC I STORIO BIODANWYDD; CYNHWYSEDD 1000ltr IBC PLASTIG AR DIR PRESWYLFA, LLANDDONA

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan iddo gael ei gyflwyno gan y Cyngor.  Roedd angen y tanciau IBC ('Intermediate Bulk Containers') ar gyfer un o gerbydau'r Cyngor a ddefnyddid gan un o'r gweithwyr oedd yn byw yn y cyfeiriad uchod. Yn nhermau polisi, dyluniad a lleoliad fe ystyriwyd fod y cais yn dderbyniol ac argymhelliad o ganiatáu oedd yma. Gan y Cynghorydd Hefin Thomas cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad ac argymhelliad y swyddog o ganiatáu.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd gydag amodau y manylwyd arnynt.

 

      

 

      

 

10.3      30C26D  NEWID AMOD (03) AR GAIS RHIF 30C26C  I GYNYDDU'R NIFER O DRIGOLION O 4 i 7 YNG NGHYSWLLT CARTREF GOFAL Y LODGE, 17 BAY VIEW ROAD, BENLLECH

 

      

 

     Gan y Cynghorydd John Chorlton cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r pleidleisio. Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno ar gais yr aelod lleol.  Fe adroddwyd fod y perchennog a'i deulu yn bwriadu symud allan o'r cartref ac, yn ychwanegol i'r trigolion, byddai dau aelod o staff yn bresennol yn ystod y dydd ac un yn aros dros nos.  Wrth ystyried hanes y safle ynghyd â gwrthwynebiadau ddaeth i law, ystyriwyd na fyddai'r cynnydd yn nifer y trigolion yn newid y sefyllfa'n sylweddol nac yn creu niwed i fwynderau i gyfiawnhau gwrthod y cais.

 

      

 

     Holi wnaeth y Cynghorydd Barrie Durkin ynglyn a chategori defnydd y cartref gofal; credai ef mai Dosbarth C3 (annedd) oedd y cartref ac y byddai angen ei ailddosbarthu fel Dosbarth C2 oherwydd cynnydd yn nifer y trigolion, gofynnodd am gyngor.

 

      

 

     Mewn ymateb cyfeiriodd y Rheolwr Rheoli Datblygu'r aelodau at amod (06) fyddai'n sicrhau mai "dim ond fel cartref gofal y caniateir defnyddio'r eiddo ac i ddim diben arall".  Byddai'n rhaid i'r ymgeiswyr geisio caniatâd i newid y defnydd petaent yn dymuno hynny.

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd Durkin a oedd caniatâd wedi ei roi i dynnu wal oedd ar hyd ffrynt yr adeilad, gostwng y cyrbin a gosod tarmac o flaen y cartref?  Dywedodd y swyddog fod y cais dan ystyriaeth yn ceisio codi nifer y trigolion o 4 i 7.  Yn 2003  rhoddwyd caniatâd newid defnydd annedd i gartref gofal; trwy hynny byddai categori defnydd y cartref wedi ei ddiwygio i ddosbarth C2.  Bwriedir gosod amod i gyfyngu nifer y trigolion i 7, fodd bynnag câi'r ymgeiswyr gyflwyno cais arall yn y dyfodol i gynyddu'r nifer hwn a byddai'r cais yn cael ei asesu ar ei rinweddau bryd hynny. Nid oedd angen caniatâd cynllunio i ostwng y cyrbin i lefel ffordd ddiddosbarth.

 

      

 

     Cyfeiriodd y Cynghorydd John Penri Williams at lythyr gerbron y cyfarfod a gofynnodd  a oedd pobl â phroblemau cyffuriau yn byw yma ochr yn ochr â phobl anabl; gofynnodd hefyd a oedd yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol yn caniatáu hyn.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod yr ymgeisydd wedi derbyn caniatâd gan CSSIW i gynyddu nifer y trigolion (ar yr amod fod cais cynllunio'n derbyn caniatâd); ni châi trigolion a allai beri perygl iddynt eu hunain neu i eraill fyw yma.  

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Hefin Thomas dywedodd yr Uwch Beiriannydd Priffyrdd y byddai amod yn sicrhau darpariaeth digonol ar gyfer parcio; fodd bynnag roedd yr ymgeisydd wedi cyflwyno gwybodaeth y byddai 11 llecyn parcio ar y safle.

 

      

 

      

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Barrie Durkin dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod y swyddog achos yn fodlon gyda mesuriadau roddwyd ar gyfer y llecynnau parcio.  Gyda'r rhain yn 3.9m o hyd gwelai'r Cynghorydd Durkin eu bod 1m yn rhy fyr ar hyd ffrynt y safle a'r ceir yn rhwystr ar y llwybr troed.  Roedd effaith enfawr ar fwynderau tai cyfagos; a'r tai eu hunain gyda waliau taclus o amgylch y gerddi;  roedd tynnu'r wal wedi hagru'r ardal o'i gwmpas a chynigiodd wrthod y cais; cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Clive McGregor.

 

      

 

     Atgoffa'r aelodau wnaeth y Rheolwr Rheoli Datblygu nad oedd yn ystyriaeth berthnasol fod rhywfaint o'r gwaith wedi ei ddechrau ac iddynt beidio rhagfarnu'r cais oherwydd hyn.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd RL Owen cafwydd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais, cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Selwyn Williams.

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

      

 

     Derbyn adroddiad ac argymhelliad y swyddog o ganiatáu:  Y Cynghorwyr Lewis Davies, Thomas Jones, RL Owen, Selwyn Williams

 

      

 

     Gwrthod y cais yn groes i argymhgelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr Barrie Durkin, Jim, Evans, Kenneth Hughes, Clive McGregor, J Arwel Roberts, Hefin Thomas

 

      

 

     Rhoddwyd y rhesymau a ganlyn dros wrthod:

 

Ÿ

dim digon o fwynderau

 

Ÿ

effaith niweidiol ar fwynderau gweledol tai cyfagos sydd wedi eu cadw'n daclus gydag waliau o'u blaen

 

Ÿ

prinder parcio

 

      

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio'n otomatig i'r cyfarfod nesaf er mwyn i swyddogion baratoi adroddiad ar y rheswm dros wrthod y cais.

 

      

 

      

 

      

 

10.4      30C259E  CAIS LLAWN I GODI ANNEDD YNGHYD AG ADDASU'R FYNEDFA YN LLYS IFON, BENLLECH

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Barrie Durkin cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r pleidleisio. Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno ar gais yr aelod lleol. Er bod y safle y tu mewn i ffin y pentref adroddwyd nad oedd modd adeiladu annedd ar y safle hwn heb effaith niweidiol ar fwynderau.  Gyda hanes o wrthod ar y safle, roedd yr argymhelliad yn parhau i fod yn un o wrthod.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Glyn Jones cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a'r argymhellion o wrthod a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Eurfryn Davies.

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd Hefin Thomas a oedd hwn yn cael ei ystyried fel 'datblygiad tir cefn' a rhoddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu gadarnhad fod y safle yn union y tu ôl i annedd arall.  Gan fod y safle y tu mewn i ffin ddatblygu cynigiodd y Cynghorydd Hefin Thomas ymweliad â'r safle a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd RL Owen.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â'r safle am y rheswm a roddwyd.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

10.5      30C656  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD YNGHYD A CHREU MYNEDFA NEWYDD I GEIR AC I GERDDWYR AR DIR YN 32 MAES LLYDAN, BENLLECH

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno ar gais yr aelod lleol.  Fe adroddwyd fod y safle y tu fewn i ffin y pentref ac yn ardd sylweddol.  O ystyried gosodiad anheddau presennol yn y lle ystyriwyd y gellid gosod annedd unllawr ar y safle heb greu niwed gormodol i bleserau preswylwyr nac i brydferthwch y lle.  

 

 

 

     Fe nodwyd fod yr Adran Briffyrdd wedi cymryd i ystyriaeth y cynnydd mewn traffig, fodd bynnag ystyriwyd nad oedd hyn yn ddigon i gyfiawnhau gwrthod y cais - argymhelliad oedd yma o ganiatáu.  

 

      

 

     Eglurodd y Cynghorydd Ieuan Williams fod y cais hwn wedi ei alw i mewn gan y cyn aelod lleol (y Cynghorydd David Lewis Roberts) a dywedodd nad oedd ganddo sylwadau i'w gwneud.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd J Arwel Roberts cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad ac argymhelliad y swyddog o ganiatáu.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd gydag amodau y manylwyd arnynt.

 

      

 

      

 

10.6      36C175M  NEWID AMOD (02) AR GANIATAD 36C175K/TR/ECON ER MWYN YMESTYN Y CANIATÂD AMLINELLOL I DAIR MLYNEDD YCHWANEGOL A NEWID AMOD (03) ER MWYN CANIATÁU I'R DATBLYGIAD GYCHWYN O FEWN PUM MLYNEDD I DDYDDIAD Y CANIATÂD NEWYDD NEU O FEWN DWY FLYNEDD I'R DYDDIAD PRYD Y RHODDIR CANIATÂD TERFYNOL I'R MATERION WRTH GEFN, PRUN BYNNAG YW'R HWYRAF YN SAFLE GWASANAETHAU  LLAN-FAWR NEWYDD, LLANGEFNI

 

      

 

     Gan y Cynghorydd  Selwyn Williams a Mr JRW Owen cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais a gadawsant y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r pleidleisio.  Rhoddwyd ystyriaeth i'r cais hwn ar y cyd â'r cais a welir yn eitem 6.2 y cofnodion hyn.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Hefin Thomas cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog ac adnewyddu'r caniatâd am y rhesymau a roddwyd gydag amodau y manylwyd arnynt.  

 

      

 

      

 

10.7      39LPA589K/CC  ESTYNIAD AC ADDASIAD I GEGIN YSGOL DAVID HUGHES, PORTHAETHWY

 

      

 

     Gan y Cynghorwyr Eurfryn Davies, RL Owen a John Penri Williams cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais a gadawsant y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r pleidleisio. Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno oherwydd ei effaith ar dir ym mherchnogaeth y Cyngor.  Adroddwyd y byddai'r estyniad yn cael ei ddefnyddio fel storfa bwydydd oer a bwydydd wedi'u rhewi, gyda swyddfa weinyddol, ystafell swilio a thoiledau staff.  Roedd lleoliad, gosodiad a dyluniad yr estyniad yn dderbyniol a gwelwyd fod y deunyddiau yn matsio'r hyn sydd yno'n barod; argymhelliad o ganiatáu oedd yma.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd J Arwel Roberts cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad ac argymhelliad y swyddog.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd gydag amodau y manylwyd arnynt.

 

      

 

10.8      46C103E  ADDASU AC EHANGU MORLAIS, LÔN ISALLT, TREARDDUR

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno ar gais y cyn aelod lleol (Peter Dunning).  Fe adroddwyd fod y bwriad yn ymwneud â dymchwel yr ystafell haul bresennol, codi estyniad deulawr gyda balconi gan ddefnyddio peth o'r deunyddiau toi presennol.  Roedd swyddogion yn ystyried na fyddai'r bwriad yn cynnig unrhyw welliant i'r annedd, roedd yn ddiffygiol o ran unrhyw deilyngdod pensaerniol ac yn ymddangos fel nodwedd anghymarus yn y lleoliad a'r gosodiad arfordirol, byddai hefyd yn golygu y ceid edrych drosodd a cholli mwynderau yr eiddo cyfagos Charay; argymhelliad o wrthod oedd yma.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Eurfryn Davies cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad ac argymhelliad o wrthod gan y swyddog a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Ken Hughes.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais am y rhesymau a roddwyd.  

 

      

 

10.9      46C256D  CAIS LLAWN I NEWID DEFNYDD TIR AM GYFNOD DROS DRO I DDARPARU FFORDD FYNEDIAD, LLE PARCIO, LLEOLI ADEILAD PAROD A CHODI SGAFFALDIAU I'W DEFNYDDIO FEL PLATFFORM DEIFIO HYD AT 3BRILL 30, 2010 AR DIR GOF DU, CAERGYBI

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno ar gais yr aelod lleol; roedd y bwriad hefyd yn effeithio ar dir ym mherchnogaeth y Cyngor.  Adroddwyd mai cynnig oedd yma  i osod platfform sgaffaldiau ar ochr y clogwyn fel bod deifwyr yn gallu deifio at longau wedi dryllio ar waelod y môr a ffilmio'u gweithgareddau ynghyd â darparu strwythur symudol fel ystafell reoli, ardal bwyd a diod ac ardal orffwys, llwybr cyswllt a lle parcio ceir; rhagwelwyd y byddai yn golygu 10 swydd llawn amser.

 

      

 

     Roedd y safle wedi ei warchod gan nifer o ddynodiadau gan gynnwys AHNE, Ardal o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, Ardal Diogelwch Arbennig.  Byddai'r cynnig yn cyfateb i nodwedd ddieithr ac anghymarus ar benrhyn arfordirol agored ac yn achosi niwed difrifol i gymeriad a mwynderau'r ardal. Argymhelliad o wrthod oedd yma.  

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd J Arwel Roberts dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu nad oedd hwn yn gais economaidd gan fod y bwriad yn un dros dro yn unig.   

 

      

 

     Teimlai'r Cynghorydd Selwyn Williams y byddai diddordeb sylweddol yn y math hwn o weithgaredd ac hwyrach y byddai'r diddordeb yn ymestyn ymhellach ar hyd yr arfordir.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod y safle hwn yn safle arbennig o sensitif; gofynnodd yr ymgeisydd am ohirio er mwyn trafod y cais; fodd bynnag roedd problemau sylfaenol gyda'r cais fel y'i cyflwynwyd a byddai angen newid sylweddol fyddai'n arwain at ailymgynghori.  Yn y cyfamser argymhelliad o wrthod oedd yma gan wahodd yr ymgeisydd i gyflwyno cais o'r newydd.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd John Penri Williams cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad ac argymhelliad o wrthod gan y swyddog a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Glyn Jones.

 

      

 

     Mynegodd y Cynghorydd J Arwel Roberts ei siomedigaeth a chynigiodd ohirio er mwyn i drafodaethau gymryd lle.  

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

      

 

     Derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais: Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, Lewis Davies, Barrie Durkin, Jim Evans, Ken Hughes, O Glyn Jones, Clive McGregor, John Penri Williams, Selwyn Williams

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais am y rhesymau a roddwyd.

 

11      CEISIADAU A DDIRPRWYWYD

 

      

 

     Cyflwynwyd a derbyniwyd, adroddiad pennaeth y Gwasanaeth Cynllunio yng nghyswllt ceisiadau dirprwyedig oedd wedi'u penderfynu ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor hwn.  

 

      

 

     Cytunodd y Rheolwr Rheoli Datblygu y byddai swyddog achos yn cysylltu â'r Cynghorydd Selwyn Williams mewn perthynas â phenderfyniad 57 ar dudalen 11(39C384E/TPO, the Moorings, Porthaethwy)

 

      

 

12      APELIADAU

 

      

 

     Cyflwynwyd, er gwybodaeth, gopi o grynodeb o benderfyniad yr Arolygwr Cynllunio:

 

      

 

12.1      TIR AC ADEILAD YNG NGHLWB GWLEDIG TREETOPS, BENLLECH

 

      

 

     Dan Adran 174 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991 cyflwynwyd apêl yn erbyn rhybudd o orfodaeth gyflwynwyd gan yr Awdurdod hwn am newid defnydd y tir o faes chwarae, clwb chwaraeon, lleoli un garafan a maes parcio cysylltiedig i ddefnydd cymysg ar gyfer y materion hynny, a lleoli tair carafan sefydlog at ddibenion preswyl (cyf APP/L6805/C/07/2056274) - diddymwyd y rhybudd gorfodi

 

      

 

13      MATERION ERAILL

 

      

 

13.1      YSGOL SYR THOMAS JONES, AMLWCH

 

       

 

     Gan y Cynghorydd Thomas Jones cafwyd datganiad o ddiddordeb yn yr eitem hon. Nodwyd y bydd y cais a ganlyn yn cael ei anfon at Gynulliad Cenedlaethol Cymru am benderfyniad yn unol â Rheol 13 Deddf Cynllunio 1990 (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth):

 

      

 

     11LPA101A/1/LB/CC  cais am ganiatâd adeilad rhestredig ar gyfer ailwampio ystafell economeg y cartref.

 

      

 

13.2      YMWELIADAU Â SAFLEOEDD CYNLLUNIO

 

      

 

     Cytunwyd i gynnal yr Ymweliadau â Safleoedd Cynllunio nesaf ar ddydd Llun, 14 Gorffennaf, 2008 am 9.30 a.m.

 

      

 

      

 

     Dechreuodd y cyfarfod am 1.00 p.m. a daeth i ben 3.00 p.m.

 

      

 

      

 

      

 

     Y CYNGHORYDD THOMAS JONES

 

     CADEIRYDD