Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion dogfennau , 2 Medi 2009

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Dydd Mercher, 2ail Medi, 2009

 

PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION

 

Cofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 2 Medi, 2009.

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd Kenneth Hughes - Cadeirydd

 

Y Cynghorwyr  W. J. Chorlton, E. G. Davies, Lewis Davies, Barrie Durkin, Jim Evans, O. Glyn Jones, T. H. Jones, R. L. Owen, J. Arwel Roberts, Hefin W. Thomas, John P. Williams.

 

Deilydd Portffolio - R. G. Parry OBE.

 

HEFYD YN BRESNNOL:

 

Y Cynghorwyr W. T. Hughes (Aelod Lleol i 6.2. a 6.3)

G. O. Parry MBE (Ar ran yr Aelod Lleol 11.6).

 

 

 

WRTH LAW :

 

Pennaeth Rheoli Cynllunio

Rheolwr Rheoli Cynllunio (DFJ)

Cynorthwywr Cynllunio (JR)

 

Uwch Beiriannydd (Rheoli Datblygu a Hawliau Tramwy Cyhoeddus)  (JRWO),

Swyddog Rheoli Datblygu (RE),

 

Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol (RJ),

Swyddog Pwyllgor (MEH).

 

 

 

YMDDIHEURIAD:

 

Y Cynghorydd Selwyn Williams

 

 

1

YMDDIHEURIADAU

 

Yr ymddiheuriadau a nodwyd uchod.  

 

2

DATGANIAD O DDIDDORDEB

 

Derbyniwyd datganiadau o ddiddordeb fel y cawsant eu cofnodi dan yr eitemau perthnasol.

 

3

COFNODION

 

Cyflwynwyd fel cofnod cywir, gofnodion o gyfarfod o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gynhaliwyd ar 29 Gorffennaf 2009 gyda'r newid a ganlyn:-

 

6.4 - 20C251 - Newidiadau ac estyniadau i Swn yr Afon, Ffordd y Traeth, Cemaes.

 

Y rheswm dros wrthod a roddwyd oedd effaith andwyol y datblygiad ar yr Ardal Gadwraeth.

 

 

 

4

YMWELIADAU SAFLE

 

 

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd cofnodion yr ymweliadau safle gynhaliwyd ar 19 Awst, 2009.

 

 

 

5

CEISIADAU A OHIRIWYD

 

 

 

Dim ceisiadau wedi eu gohirio.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

6

CEISIADAU YN CODI O'R COFNODION

 

 

 

6.1

12C393 - Cais amlinellol i godi annedd a garej ynghyd â darparu mynedfa newydd i gerbydau ar dir gyferbyn â Garth Wen, Llanfaes

 

 

 

Cyflwynwyd hwn i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar 29 Gorffennaf 2009 pryd y penderfynodd yr aelodau ymweld â'r safle a chafwyd yr ymweliad hwnnw ar 19 Awst 2009.

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y briffordd trac sengl at y safle yn droellog iawn, a gelltydd arni, ac o'r herwydd roedd hi'n anodd gweld tuag at ymlaen.  Nid oedd digon o lecynnau pasio chwaith ar hyd y lôn fel bod traffig yn medru llifo'n ddidrafferth i'r ddau gyfeiriad a buasai'r traffig ychwanegol yn sgil y datblygiad yn ychwanegu at y trafferthion a hynny'n andwyol i ddiogelwch y briffordd.  Hefyd buasai dymchwel y gwrych fel rhan o'r datblygiad yn gwneud y lle yn fwy amlwg a hynny hefyd yn cael effaith andwyol ar y cylch.  

 

 

 

Dywedodd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd R. L. Owen bod y ffordd sy'n mynd heibio i'r safle yn cael ei defnyddio gan 28 o dai Stad Garth Wen, a hefyd defnyddiwyd hi y ganrif ddiwethaf i fynd i gamp milwrol o bwys; yn ogystal roedd Iwmyn yr hen Sir Ddinbyth ac Ynys Môn yn defnyddio'r lle.  Mae'r ymgeisydd yn fodlon gostwng uchder y gwrych i hyrwyddo y gallu i weld i'r safle a gofynnodd i'r Pwyllgor roddi ei ganiatâd i'r cais.

 

 

 

Nododd y Cynghorydd Lewis Davies bod y gweldedd yn is-safonol, nad oedd digon o fannau pasio ar y lôn a hefyd buasai lledu'r lôn yn cael effaith ddrwg ar ffordd sirol hanesyddol o'r Priordy ym Mhenmon i Lanfaes; roedd planhigion prin iawn yn tyfu ar y ffordd hon.  Aeth ymlaen i ddweud y dylai'r Pwyllgor fod yn gyson yn ei benderfyniadau a gwrthodwyd dau cais cynllunio o'r blaen yn yr ardal hon.  Gan y Cynghorydd Davies cafwyd cynnig i dderbyn argymhelliad y swyddog o wrthod a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd W. J. Chorlton.

 

 

 

Petai cytundeb yn cael ei lofnodi dan Adran 106 teimlai'r Cynghorydd T. H. Jones y gallai gefnogi'r cais gyda'r amod na fydd rhagor o ddatblygu ar y tir hwn.

 

 

 

Roedd y pleidleisio fel a ganlyn:-

 

 

 

Derbyn adroddiad y Swyddog a gwrthod y cais:  Y Cynghorwyr W. J. Chorlton, Lewis Davies, Kenneth P. Hughes, H. W. Thomas, J. P. Williams.

 

 

 

Caniatáu'r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog:  Y Cynghorydd Barrie Durkin, Jim Evans, O. Glyn Jones, T. H. Jones, R. L. Owen.

 

 

 

Gwrthodwyd y cais ar bleidlais fwrw'r Cadeirydd.

 

 

 

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y Swyddog a'r argymhelliad ynddo i wrthod y cais.

 

 

 

Gofynnodd y Cynghorydd E. G. Davies am nodi na phleidleisiodd ef ar y cais am nad oedd yn bresennol ar ddechrau'r drafodaeth.

 

 

 

6.2

20C250 - Gwaith altro ac ymestyn Thalassa, Ffordd y Traeth, Cemaes

 

 

 

Nodwyd bod y cais wedi ei dynnu'n ôl.

 

 

 

6.3

20C251 - Gwaith altro ac ymestyn i Swn yr Afon, Ffordd y Traeth, Cemaes

 

 

 

Nodwyd bod y cais wedi ei dynnu'n ôl.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

6.4

30C83E - Dymchwel adeilad a chodi adeilad newydd ac ynddo ystafell chwarae, derbynfa, ystafell ffitrwydd, ystafell gemau a storfa yn Dolydd, Pentraeth.

 

 

 

Nododd y Cynghorydd J. P. Williams iddo ddatgan diddordeb yn y cais uchod a hynny oherwydd ei fod yn aelod, 20 mlynedd yn ôl, o sefydliad a'i ysgrifennydd y pryd hwnnw yn awr yn un o'r gwrthwynebwyr.  Ychwanegodd nad oedd wedi cael unrhyw gysylltiad gyda'r gwrthwynebydd ers hynny.  Mewn ymateb dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol nad oedd hynny'n ymddangos yn berthynas bersonol agos ac yn ddigon  i gyfiawnhau datgan diddordeb.

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd B. Durkin ddatganid o ddiddordeb yn y cais ac er iddo gymryd rhan yn y drafodaeth ni phleidleisiodd ar y cais.  

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr Aelod Lleol, y Cynghorydd Barrie Durkin, ac yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 29 Gorffennaf 2009 penderfynwyd ymweld â'r lle a chafwyd yr ymweliad hwnnw ar 19 Awst 2009.

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y safle yn bur agos i Meillion a chyflwynwyd cynlluniau yn dangos y bydd yr adeilad rhyw ddwy fetr i 2.8 metr yn uwch na gwrych yr eiddo cyfagos.  Bydd y maint a'r defnydd a wneir o'r adeilad arfaethedig yn cael effaith sylweddol ar breswylwyr Meillion a hynny oherwydd y cynnydd yn y gweithgaredd a hefyd oherwydd y bydd ymwelwyr â'r adeilad yn tarfu ar Meillion.

 

 

 

Sôn a wnaeth yr Aelod Lleol, y Cynghorydd B. Durkin, bod hwn yn sefydliad twristaidd sy'n cael ei redeg yn dda a'r bwriad oedd dymchwel yr hen adeilad gwag sy'n cael ei ddefnyddio i ddibenion storio yn unig.  Credai nad oedd y gwrthwynebiadau yn adroddiad y swyddog yn asio gyda'r gofynion.  Yn yr adroddiad dywedwyd bod yr adeilad yn rhy fawr, bod ei raddfa yn rhy fawr a'r argraff y mae'n ei chreu yn rhy fawr, ond ni fedrai'r Cynghorydd Durkin gytuno gyda'r gosodiadau hyn.  Rhyw fymryn yn unig yn uwch na'r gwrych fydd yr adeilad yn ôl y Cynghorydd Durkin a chredai ef bod y ty cyffiniol mewn llecyn go uchel.  Aeth ymlaen i bwysleisio bod raid cefnogi'r diwydiant twristiaeth a chredai ef y dylid caniatáu'r cais.

 

 

 

Ni fedrai'r Cynghorydd H. W. Thomas chwaith gytuno gyda'r rhesymau dros wrthod yn adroddiad y swyddog a chyfeiriodd at y geiriau hyn yn yr adroddiad ''mae safle'r cais yn agos iawn i'r eiddo Meillion.  Bydd wedi'i leoli tua 2m o derfyn yr eiddo hwnnw'. Ychwanegodd bod Meillion yn 25 llath arall draw o safle'r cais.  Wedyn pwysleisiodd bod angen cysondeb wrth ddelio gyda cheisiadau ac mewn cyfarfod blaenorol cafwyd argymhelliad gan y swyddogion i roddi caniatâd i annedd yn y Benllech a honno ddim ond rhyw ychydig o lathenni o eiddo y drws nesaf.  Credai hefyd bod angen rhoddi cefnogaeth lawn i'r diwydiant twristiaeth ar yr Ynys ac erfyniodd am roddi caniatâd.  Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd R. L. Owen.

 

 

 

PENDERFYNWYD caniatáu'r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog.

 

 

 

Y rhain oedd y rhesymau a roddwyd dros ganiatáu:-

 

 

 

Ni chredir bod maint yr eiddo yn rhy fawr - o ran maint nac argraff

 

Nid yw edrych drosodd yn broblem

 

Mae adeiladau deulawr yn barod ger y cynnig

 

Codi safon cyfleusterau twristiaeth

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio'n awtomatig i gyfarfod nesaf y Pwyllgor fel bod y Swyddogion yn cael cyfle i baratoi adroddiad ar y rheswm dros ganiatáu.

 

 

 

Ni phleidleisiodd y Cynghorydd Barrie Durkin ar yr eitem hon.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Ni chymerodd y Cynghorydd J. P. Williams ran yn y drafodaeth ac ni phleidleisiodd.

 

 

 

7

CEISIADAU ECONOMAIDD

 

 

 

Ni chyflwynwyd yr un cais economaidd i'r Pwyllgor benderfynu arno.

 

 

 

8

CEISIADAU AM DAI FFORDDIADWY

 

 

 

Ni chyflwynwyd yr un cais am dai fforddiadwy i'r Pwyllgor benderfynu arno.

 

 

 

9

CEISIADAU'N GWYRO

 

 

 

9.1

24C268B - Cais amlinellol i godi annedd, darparu mynedfa newydd a gosod offer newydd i drin carthion ar dir ger Gwelfor, Cerrig-mân

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y cais hwn yn groes i'r cynllun datblygu ond er hynny yn un yr oedd yr awdurdod cynllunio lleol yn tueddu i'w ganiatáu.

 

 

 

Dan Gynllun Lleol Ynys Môn (Rhagfyr 1996), roedd safle'r cais yn y cefn gwlad ac o'r herwydd cafodd ei hysbysebu fel cais yn tynnu'n groes i'r cynllun datblygu.  A hynny am nad yw Cerrig-mân wedi ei restru dan Bolisi 50 (Pentrefi Rhestredig) y cynllun hwn, polisi sy'n caniatáu codi anheddau sengl y tu mewn i bentrefi neu dreflannau rhestredig neu ar eu cyrion os bodlonir meini prawf rhestredig.  Roedd Cerrig-mân yn dreflan dan ddarpariaethau Polisi HP5 Cynllun Datblygu Unedol Ynys Môn.  Dan y polisi hwn caniateir tai unigol os gwneir hynny i bwrpas llenwi bylchau neu os gwneir hynny ar safleoedd derbyniol eraill ond rhaid bodloni meini prawf rhestredig.  Hefyd mae safle'r cais y tu mewn i'r ffram ddangosol.  Gan fod cymaint o waith wedi ei wneud ar baratoi y Cynllun Datblygu Unedol a Stopiwyd i Ynys Môn mae modd rhoddi pwysau ar ei ddarpariaethau ac yn yr achos hwn mwy o bwysau nag ar ddarpariaethau'r cynllun lleol.

 

 

 

Gan y Cynghorydd W. J. Chorlton cafwyd cynnig i ganiatáu a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd J. Arwel Roberts.

 

 

 

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad i ganiatáu'r cais gydag amodau fel yr amlinellwyd hynny yn yr adroddiad.

 

 

 

10

CYNIGION DATBLYGU A GYFLWYNWYD GAN GYNGHORWYR A/NEU SWYDDOGION

 

 

 

10.1

31C240A - Codi ystafell haul ym Mryntirion, Lôn Pant, Llanfair-pwll

 

 

 

Cafwyd datganiad o ddiddordeb gan Mr. Richard Eames, Swyddog Rheoli Datblygu (Priffyrdd) a gadawodd y cyfarfod am y drafodaeth ar yr eitem.

 

 

 

Daeth y cais hwn i'r Pwyllgor gan fod yr asiant yn gyfaill agos i un o'r Swyddogion sy'n gweithio yn Adran Gynllunio a Gwasanaethau Amgylchedd y Cyngor.  Cafodd y Swyddog Monitro olwg ar y ffeil a chadarnhau y gellid trin y cais yn y ffordd arferol ac yn unol â pharagraff 4.6.10.4 y Cyfansoddiad.

 

      

 

     Roedd digon o le y tu mewn i libart Bryntirion i ddarparu'r ystafell haul arfaethedig heb orddatblygu'r safle.

 

      

 

     Cafwyd cynnig gan y Cynghorydd W. J. Chorlton i ganiatáu a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd E. G. Davies.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y Swyddog a'r argymhelliad i ganiatáu gyda'r amodau hynny a nodwyd yn yr adroddiad.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

10.2

34C597 - Ymestyn yr ystafell haul, troi'r garej yn ystafell hwylus, darparu ystafell fyw/ystafell gysgu ac altro'r fynedfa i gerbydau yn 2 Brig y Nant, Llangefni

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor oherwydd bod yr ymgeisydd yn wr i Gynghorydd Sir ac ar ôl gweld y ffeil cadarnhaodd y Swyddog Monitro bod y cais yn cael ei brosesu yn y dull arferol yn unol â pharagraff 4.6.10.4 y Cyfansoddiad.

 

      

 

     Fel arfer ni fuasai raid wrth ganiatâd cynllunio i wneud y gwaith ond roedd ar y stad hon gyfyngiad ar ddatblygiadau a dyma'r rheswm am gyflwyno'r cais.  Ni fydd y gwaith arfaethedig yn cael unrhyw effaith ar run ty arall oherwydd edrych drosodd/taflu cysgod.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd W. J. Chorlton cafwyd cynnig i ganiatáu a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd T. H. Jones.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y Swyddog a'r argymhelliad i ganiatáu gyda'r amodau hynny a nodwyd yn yr adroddiad.

 

      

 

10.3

36C296 - Cais llawn i godi annedd a garej ar wahân a darparu mynedfa i gerbydau ar dir ger Ty'n Gamdda, Llangristiolus.

 

      

 

     Cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais gan Mr. Steven Owen, Swyddog Cynllunio.

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor gan fod yr ymgeisydd yn ffrind agos i un o'r swyddogion sy'n gweithio yn Adain Rheoli Cynllunio y Cyngor Sir.  Roedd y Swyddog Monitro wedi gweld y ffeil ac yn cadarnhau i'r cais gael ei drin yn y ffordd arferol ac yn unol â pharagraff 4.6.10.4 y Cyfansoddiad.

 

      

 

     Nodwyd bod y cais hwn wedi ei ohirio er mwyn rhoi'r cyfle i'r ymgeisydd gyflwyno rhybudd i eiddo cyffiniol gan fod yr Awdurdod Priffyrdd yn mynnu ar lain gwelededd lletach i'r annedd arfaethedig.

 

      

 

11     GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

11.1

20C250A - Gwaith ar goeden mewn Ardal Gadwraeth yn Thalassa, Ffordd y Traeth, Cemaes

 

      

 

     Yr Aelod Lleol ofynnodd am gyflwyno'r cais hwn i'r Pwyllgor.  Yn y rhybudd cyfeirir at godi coron y goeden er mwyn gwella'i siâp a hefyd gael gwared â changhennau sy'n amharu ar do yr eiddo cyffiniol.  Cafodd yr awdurdod cynllunio lleol olwg ar y goeden a dweud bod iddi werth arbennig o ran pleser yn y lleoliad hwn a rhaid pwyso a mesur hynny yn erbyn ei chyflwr wrth waelod ei bôn.  Ni fydd y gwaith a nodir yn y Rhybudd yn cael unrhyw effaith fawr ar siâp y goeden na'i hiechyd ac ni chredwyd ei bod hi'n ymarferol gwneud Gorchymyn Diogelu Coed ynghylch y goeden.

 

      

 

     Dywedodd yr Aelod Lleol y Cynghorydd W. T. Hughes bod y goeden hon mewn Ardal Gadwraeth a'i obaith oedd y câi'r gwaith ar godi'r goron ei wneud mewn ffordd briodol.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd B. Durkin cafwyd sylw bod cyflwr y goeden wrth ei bôn yn ddrwg; gan awgrymu efallai bod angen cael gwared ohoni.  Credai y dylai ymgynghori gyda'r Swyddog Cadwraeth a'r Arbenigwr Coed ar y mater.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Lewis Davies nad oedd y goeden Sycamor yn cael unrhyw ddiogelwch; a phan fo'r goeden hon yn tyfu mae'r gwreiddiau yn treiddio i'r graig ac yn chwyddo a gallai hynny achosi peryglon pan fo'r graig ei hun yn cael ei hollti.

 

      

 

     Wedyn soniodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y cais hwn yn un i dorri canghennau isaf y goeden i bwrpas ei siapio ac am un rheswm yn unig y cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor, sef oherwydd bod y goeden mewn Ardal Gadwraeth.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd H. W. Thomas cafwyd cynnig i ganiatáu'r cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd W. J. Chorlton.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y Swyddog a'r argymhelliad i ganiatáu gyda'r amodau hynny a nodwyd yn yr adroddiad.

 

      

 

11.2

20C252A - Altro ac ymestyn Ty Lawr, Ffordd y Traeth, Cemaes

 

      

 

     Yr Aelod Lleol ofynnodd am gyflwyno'r cais hwn i'r Pwyllgor.  

 

      

 

     Yn wreiddiol cyflwynwyd y cais hwn am yr ail dro gyda tho is ar ongl lai na'r estyniad deulawr yn y cefn.  Ar ôl derbyn gwrthwyenbiadau y Swyddog Cadwraeth diwygiwyd y cynllun - a wedyn cafwyd y cynnig presennol.  Wrth ddefnyddio pwerau cynllunio mewn ardaloedd cadwraeth, rhaid i awdurdodau cynllunio roddi sylw manwl i ddiogelu a gwella cymeriad neu wedd yr ardal.  Mae safle'r cais mewn llecyn amlwg ger yr Harbwr a hefyd mewn Ardal Gadwraeth.  Gyda'r estyniad unllawr sydd yng nghefn yr eiddo mae'r cyhoedd yn mwynhau golygfeydd sylweddol o'r briffordd gyhoeddus a buasai colli'r golygfeydd hyn yn y rhan hon o'r Ardal Gadwraeth yn creu niwed annerbyniol i gymeriad ac i wedd yr ardal.

 

      

 

     Dywedodd yr Aelod Lleol y Cynghorydd W. T. Hughes i 9 o lythyrau gwrthwynebus ddod i law ynghylch y cais; hefyd ychwanegodd bod y cais gwreiddiol wedi creu dros 80 o lythyrau o wrthwynebiad ac mae'r rhain yn dal i wrthwynebu'r datblygiad hwn.  Aeth ymlaen i sôn bod gwrthwynebiad cryf i'r cais yng Nghemaes a hynny oherwydd bod yr ardal yn ardal unigryw ac mae'r mater o'r pwys mwyaf oherwydd treftadaeth a hanes Cemaes.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd H. W. Thomas cafwyd cynnig i wrthod a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd W. J. Chorlton.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y Swyddog a'r argymhelliad i wrthod y cais.

 

      

 

11.3

34LPA164E/CC - Darparu iard wyneb caled yn Ysgol Corn Hir, Llangefni

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor Cynllunio gan fod y tir yn eiddo i'r Cyngor.

 

      

 

     I'r graddau y bo'n bosib bydd yr iard yn dilyn gorweddiad presennol y tir ac arni y bydd gorffenwaith bitwmen tarmacadarn.  Fel rhan o'r cais cyflwynir darpariaeth fanwl i ddraenio a hynny er mwyn lleihau i'r eithaf unrhyw beryglon o lifogydd ac i osgoi rhoddi pwysau sylweddol ychwanegol ar y system sy'n draenio dwr wyneb yn y lle.  Bydd yr iard arfaethedig yn mesur rhyw 600 metr sgwâr.  Ni fydd yr iard newydd yn cael unrhyw effaith ar y tai gerllaw a bydd hefyd yn cydymffurfio gyda'r polisïau a restrwyd yn yr adroddiad.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd E. G. Davies cafwyd cynnig i ganiatáu'r cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd O. Glyn Jones.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y Swyddog a'r argymhelliad i ganiatáu gyda'r amodau hynny a nodwyd yn yr adroddiad.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

11.4

34LPA914/CC/TPO - Lleihau maint dwy goeden a ddiogelir gan Orchymyn Diogelu Coed yng Ngwarchodfa Natur Nant y Pandy, Llangefni

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor Cynllunio gan mai'r Cyngor yw perchennog y tir.

 

      

 

     Cais yw hwn i leihau dwy goeden sycamor a ddiogelir gan Orchymyn Diogelu Coed yn Nant y Pandy, Llangefni ac nid yw'r Gwasanaeth Cynllunio yn gwrthwynebu'r gwaith lleihau a hynny am na fydd y gwaith yn cael unrhyw effaith ar brydferthwch y lle nac ychwaith ar iechyd y coed.  

 

      

 

     Gan y Cynghorydd W. J. Chorlton cafwyd cynnig i ganiatáu a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd O. Glyn Jones.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y Swyddog a'r argymhelliad i ganiatáu gyda'r amodau hynny a nodwyd yn yr adroddiad.

 

      

 

      

 

11.5

36LPA827A/CC - Codi sied amaethyddol i gadw anifeiliaid ym Modhenlli, Cerrigceinwen.

 

      

 

     Daeth y cais hwn i'r Pwyllgor Cynllunio gan iddo gael ei gyflwyno gan Adain Eiddo y Cyngor Sir.

 

      

 

     Nodwyd bod dyluniad, gosodiad a gwedd allanol yr adeilad amaethyddol arfaethedig yn dderbyniol yn y lleoliad hwn.

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd H. W. Thomas ganiatáu'r cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd W. J. Chorlton.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y Swyddog a'r argymhelliad i ganiatáu gyda'r amodau hynny a nodwyd yn yr adroddiad.

 

      

 

      

 

11.6

46C160K - Cais ôl-ddyddiol i waith peirianyddol er mwyn creu llecynnau caled a ffordd ar draws rhan o'r safle, y Ddraenan Ddu, Penrhosfeilw, Caergybi

 

      

 

     Yr Aelod Lleol ofynnodd am gyflwyno'r cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno.

 

      

 

     Cais ôl-ddyddiol yw hwn er mwyn rhoddi trefn ar waith peirianyddol diawdurdod a wnaed y tu mewn i ffiniau'r safle a dywed yr asiant bod raid gwneud y gwaith fel rhan o gynllun y client i godi safon y safle'n gyffredinol.  Mae'r safle mewn Ardal o Brydferthwch Naturiol Eithriadol.

 

      

 

     Nodwyd bod yr Aelod Lleol, y Cynghorydd Eric Roberts wedi datgan diddordeb yn y cais ac felly fe gyflwynwyd ef gan y Cynghorydd G. O. Parry MBE a gofynnodd ef i'r Pwyllgor ymweld â'r safle.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd E. G. Davies cafwyd cynnig i ymweld a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd J. P. Williams.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â'r safle.

 

      

 

12     CEISIADAU A DDIRPRWYWYD

 

      

 

     Cyflwynwyd a derbyniwyd adroddiad Pennaeth y Gwasanaethau Cynllunio ar y ceisiadau dirprwyol y penderfynwyd arnynt ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor hwn.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

13     APELIADAU

 

      

 

     Cyflwynwyd a nodwyd, er gwybodaeth, gopi o crynodeb o benderfyniad yr Arolygydd Cynllunio ar Stad y Glorian, Iard Adeiladu, Amlwch - caniatawyd yr apêl.

 

      

 

14     MATERION ERAILL

 

      

 

14.1

45C390 - Dymchwel adeilad allanol a chodi anecs ar wahân yn Gerallt, Llangaffo

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y cais wedi ei gymeradwyo yn amodol ar wneud cytundeb dan Adran 106 yn unol â phenderfyniad y Pwyllgor ar 6 Mai 2009.  Y rhain oedd telerau'r Cytundeb dan Adran 106:-

 

      

 

1)     Bydd raid cadw'r annedd sydd yno a'r anecs arfaethedig fel un uned.

 

2)     Ni chaniateir gosod yr anecs, na'i phrydlesu na chael gwared ohoni mewn unrhyw fodd hyd oni fydd caniatâd cynllunio wedi ei roddi a'r caniatâd hwnnw wedi ei weithredu a darpariaeth ynddo i wneud y gwaith gwella angenrheidiol ar y briffordd.  Bydd raid sicrhau caniatâd ysgrifenedig yr awdurdod cynllunio lleol i dystio bod y gwaith wedi ei gwblhau.

 

 

 

Mewn llythyr dyddiedig 21 Gorffennaf 2009 dywedodd yr ymgeiswyr nad ydynt yn fodlon llofnodi Cytundeb dan Adran 106.  Heb gytundeb nid yw'r cynnig yn dderbyniol a hynny oherwydd effaith unrhyw gynnydd yn y defnydd o'r fynedfa ar ddiogelwch y ffordd.

 

 

 

Nododd y Cynghorydd H. W. Thomas bod yr ymgeisydd yn fodlon cadw'r ddwy annedd fel un uned; ychwanegodd hefyd bod yr ymgeisydd yn dymuno bod mewn sefyllfa i osod yr uned yn y dyfodol.  Y broblem, meddai'r Rheolwr Rheoli Cynllunio, yw diogelwch y briffordd ac mae yma beryglon oherwydd bod cerbydau sy'n gadael yr eiddo yn gorfod mynd i ganol y ffordd i weld traffig sy'n dod i'w cyfwrdd.

 

 

 

Ond roedd y Cynghorydd W. J. Chorlton am ddefnyddio synnwyr cyffredin - roedd yr annedd fwyaf yn un fawr a gallai y rheini sy'n preswylio yn Gerallt ddefnyddio nifer sylweddol o geir.  Unig ddymuniad yr ymgeisydd yma yw medru gosod yr uned yn y dyfodol.

 

 

 

Pryder y Cynghorydd E. G. Davies oedd peryglon yn y fynedfa o'r safle a chynigiodd wrthod y cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd O. Glyn Jones.

 

 

 

Gan y Cynghorydd H. W. Thomas cafwyd cynnig i ganiatáu'r cais a hynny'n groes i adroddiad y Swyddog - cafodd ei eilio gan y Cynghorydd W. J. Chorlton.

 

 

 

Dyma oedd y bleidlais:-

 

 

 

Caniatáu'r cais yn groes i adroddiad y Swyddog:  Y Cynghorwyr W. J. Chorlton, R. L. Owen, H. W. Thomas.               Cyfanswm 3.

 

 

 

Derbyn adroddiad y Swyddog a gwrthod y cais:  Y Cynghorwyr E. G. Davies, Lewis Davies, Barrie Durkin, Jim Evans, Kenneth P. Hughes, O. Glyn Jones, T. H. Jones, J. Arwel Roberts.                    Cyfanswm 8

 

 

 

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y Swyddog a'r argymhelliad i wrthod y cais.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Gofynnodd y Cynghorydd J. P. Williams am gofnodi nad oedd wedi pleidleisio ar y cais hwn.

 

 

 

14.2

Adroddiad Arolwg Llywodraethu Corfforaethol gan Swyddfa Archwilio Cymru - y diweddaraf am yr ymateb i Argymhelliad 4

 

      

 

     Cyflwynwyd - adroddiad Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol mewn ymateb i'r Adroddiad Arolwg dyddiedig Gorffennaf 2009.

 

      

 

     Soniodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru a gyhoeddwyd ar 15 Gorffennaf 2009 yn argymell:-

 

      

 

     "Mae newidiadau diweddar i'r prosesau gwneud penderfyniadau wedi cyfrannu at wella penderfyniadau ar gynllunio.  Eto, mae penderfyniadau'r Pwyllgor Cynllunio yn parhau i fod yn niweidiol i enw da'r Cyngor ac yn tanseilio hyder y cyhoedd.  Dylai'r Cyngor, o fewn chwe mis i gyhoeddi'r adroddiad hwn, wneud cynigion i gynyddu tryloywder ac ansawdd y broses gwneud penderfyniadau". Mae'r dystiolaeth ar gyfer hyn yn seiliedig ar yr ymateb i ymarfer ymgynghori cyhoeddus a gynhaliwyd gan SAC.  Ym mharagraff 35 yr Adroddiad, dywedir:

 

      

 

     Cyfrannodd tua 70 aelod o'r cyhoedd at ein tystiolaeth.  Roedd pob un ohonynt yn feirniadol o agweddau ar waith y Cyngor, ond penderfyniadau cynllunio yw'r ffynhonnell unigol fwyaf o niwed i enw da'r Cyngor ac sy'n erydu hyder y cyhoedd.  Mae'r Cyngor wedi gwneud gwelliannau i'r broses o wneud penderfyniadau cynllunio.  Ond i'r sawl a gysylltodd â ni, erys pryderon hanesyddol a pharhaus ynglyn â thryloywder ac ansawdd y broses o wneud penderfyniadau."

 

      

 

     Mewn cyfarfod ar 16 Gorffennaf, 2009 pryd y cyflwynodd Swyddfa Archwilio Cymru ei chasgliadau i'r Cyngor cytunodd y Swyddfa honno i ddarparu manylion am beth ddywedwyd gan yr ymatebwyr a chytuno hefyd i drafod cynigion ar gyfer gwella.  Gan fod angen gweithio ar gynigion i wella tryloywder ac ansawdd y penderfyniadau cynllunio erbyn 15 Hydref 2009 ysgrifennodd y Pennaeth Gwasanaeth at Swyddfa Archwilio Cymru ar 27 Gorffennaf 2009 a chynnwys Cynllun Gwella y cytunwyd arno'n ddiweddar gyda chydranddeiliaid allweddol yn Fforwm Cynllunio Ynys Môn.  Hyd yma ni chafwyd ymateb.

 

      

 

     Hefyd cafwyd trafodaethau gydag Adain Gynllunio Cynulliad Cenedlaethol Cymru i sicrhau bod syniadau'r Gweinidogion ar faterion cynllunio yn Ynys Môn yn seiliedig ar dystiolaeth gadarn.  Mae'n resyn bod argymhellion Swyddfa Archwilio Cymru yn seiliedig, mae'n ymddangos, ar dystiolaeth arwynebol, ac yn arbennig yng nghyd-destun y gwaith a wnaed ar sawl adroddiad archwilio allanol ar y Pwyllgor Cynllunio - adroddiadau y gweithredodd y Cyngor arnynt dros y 2 flynedd diwethaf.

 

      

 

     Tra oedd yn Gadeirydd y Pwyllgor Cynllunio roedd y Cynghorydd T. H. Jones yn cofio bod nifer o sesiynau hyfforddiant wedi eu trefnu i'r aelodau a bod nifer dda o aelodau'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion wedi mynychu.  Awgrymodd hefyd y buasai'n briodol paratoi rhestr o'r sesiynau hyfforddiant a gafwyd ers Mai 2008 a nifer yr aelodau a fynychodd bob sesiwn ac ychwanegodd bod peth o'r feirniadaeth yn yr adroddiad yn annheg.

 

      

 

     Teimlai'r Cynghorydd H. W. Thomas bod yr adroddiad yn unochrog - h.y. y feirniadaeth o'r Pwyllgor.  Roedd ganddo rai amheuon ynghylch penderfyniad y Cyngor Sir yn 2007 i ddirprwyo ceisiadau croes i swyddogion; hefyd dywedodd bod Panel wedi'i sefydlu i fonitro penderfyniadau a wnaed gan swyddogion ar ceisiadau croes.  Gohiriwyd cyfarfodydd o'r Panel tan ar ôl etholiadau Cyngor Sir Mai 2008 ond gydag addewid y buasai'n cyfarfod.  Roedd ganddo amheuon a oedd yr argymhelliad sy'n rhwystro aelodau rhag galw i mewn geisiadau croes yn dal i sefyll.  Os ydyw'r Cyngor am drefnu sesiynau hyfforddiant yna fe ddylai roddi sylw llawn i'r holl fater a drafodwyd yng nghyfarfod y Cyngor Sir yn 2007 gyda golwg ar ddatrys unrhyw anghysonderau sydd yn adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

     Mewn ymateb dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod 70 o unigolion wedi ysgrifennu at Swyddfa Archwilio Cymru yn beirniadu'r broses gynllunio ac o'r herwydd roedd y Cyngor wedi gofyn i'r Swyddfa honno am dystiolaeth ynghylch craidd y broblem.  Dywedodd iddo drefnu nifer o sesiynau hyfforddiant dros y blynyddoedd a'i fod yn berffaith fodlon paratoi rhestr o'r sesiynau a drefnwyd a'r nifer o aelodau a fynychodd y rheini ers Mai 2008.  Wedyn soniodd bod y panel a sefydlwyd i fonitro penderfyniadau'r Swyddogion ar geisiadau croes wedi wynebu anawsterau a hynny oherwydd problemau gwleidyddol yn ymwneud â sut y dylai'r panel weithio.  Roedd Swyddogion yr Adran yn adolygu'r penderfyniadau bob chwarter gyda golwg ar gyflwyno'r wybodaeth i'r panel.  Aeth ymlaen wedyn i sôn bod y Gwasanaeth Cynllunio wedi colli staff i gyrff a sefydliadu eraill a hefyd gwelwyd gostyngiad yng nghyllideb y gwasanaeth.

 

      

 

     Mewn egwyddor roedd y Cynghorydd B. Durkin yn cytuno gyda'r datganiad a wnaed gan Swyddfa Archwilio Cymru ond nododd hefyd mai nifer fechan iawn o'r Cynghorwyr oedd yn dwyn 'anfri' difrifol ar y Gwasanaeth Cynllunio.  Roedd hi'n annheg iawn beirniadu holl aelodau'r Pwyllgor Cynllunio a mynd yn ôl dros gyfnod o 5 mlynedd.  Cyfeiriodd wedyn at bryderon Swyddfa Archwilio Cymru ynghylch tryloywder ac ansawdd y penderfyniadau cynllunio ac ni fedrai gytuno gyda'r datganiad hwn gan fod y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion yn agored i'r cyhoedd a phawb yn cael cyfle i glywed y drafodaeth a'r penderfyniadau a wneir yn y cyfarfod.  Credai hefyd bod newidiadau mawr wedi digwydd mewn agweddau at faterion cynllunio ac yng nghyswllt penderfyniadau'r Pwyllgor hwn.

 

      

 

     Achubodd y Cynghorydd J. P. Williams ar y cyfle i ddiolch i'r Swyddogion am drefnu nifer o sesiynau hyfforddiant i'r Pwyllgor hwn lle roedd y cyflwyniadau yn dda iawn a lle rhoddwyd sylw i'r holl bryderon a godwyd gan aelodau ynghylch y broses gynllunio.

 

      

 

     Yn y blynyddoedd a fu fe gafwyd problemau yn y Pwyllgor Cynllunio oherwydd pleidleisio fesul bloc yn ôl y Cynghorydd W. J. Chorlton.  Sylwodd bod newidiadau sylweddol wedi digwydd i aelodaeth y Pwyllgor a nifer fawr o aelodau newydd arno.  Tra oedd y Cynghorydd Chorlton yn gwerthfawrogi'r sesiynau hyfforddiant a roddwyd i aelodau hoffai ef weld mwy o bwyslais ar faterion polisi'r broses gynllunio ac ar sut i gynnal apêl etc.

 

      

 

     Mewn ymateb dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod Swyddfa Archwilio Cymru yn nodi ac yn cydnabod gwelliannau yn y penderfyniadau a wnaed yn y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ond efallai nad oedd hi'n deg iddynt fynd yn ôl dros gyfnod o 5 mlynedd.  Nododd bod gwelliannau wedi eu cyflwyno i'r system dros y ddwy flynedd diwethaf.

 

      

 

     Credai'r Cadeirydd bod y Pwyllgor yn cael trafodaethau da a gwneir sylwadau o safon ynddynt ac aeth ymlaen i ddiolch i'r swyddogion gan gredu eu bod nhw bob amser yn broffesiynol ac yn barod iawn i gynnig cymorth.

 

      

 

     PENDERFYNWYD

 

      

 

Ÿ

glynu wrth yr amserlen i gyflwyno'r egwyddor o ganiatáu i'r cyhoedd siarad yn y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion erbyn y flwyddyn newydd.

 

 

 

Ÿ

parhau i adolygu'r penderfyniadau a wna'r Pwyllgor Cynllunio - adolygiadau blynyddol.

 

 

 

Ÿ

parhau i ddarparu hyfforddiant trwy gynnal seminarau etc. i'r aelodau gan gydymffurfio gyda'r Rheolau Gweithdrefn Materion Cynllunio fel y gwelir y rheini yn y Cyfansoddiad.

 

 

 

Ÿ

adolygu'r broses ceisiadau cynllunio er mwyn gwella safon y penderfyniadau.

 

 

 

Ÿ

ail-lansio'r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) i adlewyrchu'r datblygiadau diweddaraf yn yr Wylfa a hefyd i adlewyrchu camau a gymerwyd i ddarparu arweinyddiaeth gymunedol trwy'r weledigaeth 'Ynys Ynni/Energy Island'.

 

 

 

Ÿ

defnyddio'r gyllideb ganolog a sefydlwyd i'r CDLl i benodi Arweinydd Tîm i'r CDLl dan gontract tymor penodol.

 

 

 

Ÿ

defnyddio'r cyllid dan 'Ynys Ynni/Energy Island' fel cymorth i lenwi bylchau yn y dystiolaeth sydd yn yr CDLl a hefyd i gyflawni erbyn yr amseroedd sydd yn yr CDLl.

 

 

 

15     EITEM YCHWANEGOL A GYFLWYNWYD GYDA CHANIATÂD Y CADEIRYDD

 

      

 

15.1

Arolygon Rheolaidd ar Benderfyniadau

 

      

 

     Dan ddarpariaethau'r Cyfansoddiad dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu y dylai aelodau ystyried sampl o hawliau cynllunio y gweithredwyd arnynt gyda'r nod o asesu ansawd penderfyniadau. Fe ddylai arolwg o'r fath wella safon y penderfyniadau a hyrwyddo cysondeb a thrwy hynny gryfhau a hybu hyder y cyhoedd a hefyd gallant fod o gymorth wrth adolygu polisïau cynllunio.  

 

      

 

     Fe ddylai arolwg o'r fath gynnwys esiamplau dan nifer o gategoriau datblygu a chan gynnwys y ceisiadau hynny y penderfynodd y swyddogion arnynt dan bwerau dirprwyol.  Yn hytrach na neilltuo diwrnod yn flynyddol i fynd ar ymweliadau cafwyd argymhelliad gan swyddogion bod enghreifftiau o'r fath o waith datblygu yn cael eu cynnwys yng nghylch misol ymweliadau yr aelodau â safleoedd.  Rhagwelwyd y buasai'r arolwg yn cael ei gwblhau dros gyfnod o ddau fis.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

     Dechreuodd y cyfarfod am 1.00pm a daeth i ben am 2.20pm.

 

      

 

      

 

     Y CYNGHORYDD KENNETH P. HUGHES

 

     CADEIRYDD