Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion dogfennau , 2 Tachwedd 2005

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Dydd Mercher, 2ail Tachwedd, 2005

PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION

 

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Tachwedd 2005

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd J Arwel Roberts - Cadeirydd

Y Cynghorydd J Arthur Jones - Is-Gadeirydd

 

Y Cynghorwyr John Byast, John Chorlton, Eurfryn Davies,

J Arwel Edwards, P M Fowlie, O Glyn Jones, R L Owen,

D Lewis-Roberts, John Roberts, W T Roberts

 

 

 

WRTH LAW:

 

Cynllunio:

Rheolwr Rheoli Cynllunio (DFJ)

 

Priffyrdd:

Pennaeth Gwasanaeth (Priffydd a Thrafnidiaeth) (DW)

 

Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol (RWJ)
Cynorthwywr Gweinyddol (CWP)

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Y Cynghorwyr Denis Hadley, Aled Morris Jones.

 

 

 

HEFYD YN BRESENNOL:

 

Aelodau Lleol:

Y Cynghorwyr Gwilym O. Jones (eitem 5.10), Thomas Jones (eitemau 8.3, 8.4, 8.5), G Allan Roberts (eitemau 5.4, 5.5), John Rowlands (eitem 8.2), Hefin Thomas (eitemau 9.3, 9.4),

W J Williams MBE (eitemau 5.6, 5.7, 8.1)

 

Cafodd yr Aelodau wybod bod Mr Rob Owen, Uwch Beiriannydd o'r Adran Briffyrdd, wedi derbyn triniaeth yn yr ysbyty'n ddiweddar a chytunwyd i yrru dymuniadau gorau'r Pwyllgor ato.  

 

Wedyn rhoes y Cadeirydd wybod i'r aelodau y bydd y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion, o Ionawr, 2006 ymlaen, yn dechrau am 1.00 p.m. ac ni chafwyd yr un gwrthwynebiad o'r llawr i'r newid hwn.

 

1

DATGAN DIDDORDEB

 

Derbyniwyd datganiadau gan Aelodau a Swyddogion fel y cawsant eu cofnodi dan yr eitemau perthnasol.

 

 

2

COFNODION

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd cofnodion y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 5 Hydref, 2005 (tud 83 - 105 o’r Gyfrol hon)

 

Eitem 8.4 ar dudalen 16 o'r cofnodion - 28C349 tir yn Ty Mawr, Capel Gwyn:  nodwyd na phleidleisiodd y Cynghorwyr John Byast a Tecwyn Roberts ar y cais uchod.

 

 

3

YMWELIADAU Â SAFLEOEDD

 

 

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd yr adroddiad ar Ymweliadau â Safleoedd Cynllunio a gafwyd ar 19 Hydref, 2005. Nodwyd bod y Cynghorydd Eurfryn Davies wedi cyflwyno ymddiheuriad ac ni ddylid bod wedi cynnws ei enw ar y rhestr honno o'r aelodau oedd yn bresennol.  

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

4

CEISIADAU A OHIRIWYD

 

 

 

Nodwyd a CHYTUNWYD i beidio â chael trafodaeth ar y ceisiadau a ganlyn gan fod trafodaethau yn parhau i gael eu cynnal gyda'r ymgeiswyr a'u cynrychiolwyr :

 

 

 

4.1

CAIS ECONOMAIDD

 

 

 

12C19EU/EIA - CAIS AMLINELLOL I GODI 15 APARTMENT GWYLIAU A THAI TREFOL GYDA CHYFLEUSTERAU HAMDDEN AR Y SAFLE AR DIR UNION GER FFERMDY HENLLYS HALL, BIWMARES

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Cafwyd ymweliad ar 17 Awst, 2005.

 

 

 

4.2

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

29C112 - CAIS AMLINELLOL I GODI 6 ANNEDD A GWNEUD GWAITH ALTRO AR Y FYNEDFA I GERBYDAU AR DIR GER Y BRYN, LLANFAETHLU

 

 

 

Cafwyd ymweliad ar 16 Chwefror 2005 ond gohiriwyd ystyried y cais hyd nes cwblhau gwaith ymgynghori.

 

 

 

4.3

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

34C303J/1 - CODI UN ANNEDD UN TALCEN AR BLOT 80B BRO EDNYFED, LLANGEFNI

 

 

 

Gwnaed datganiad o ddiddordeb yn y cais gan y Cynghorydd Aled Morris Jones a Mr. Rees Roberts o'r Uned Gyfieithu.

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Cafwyd ymweliad ar 18 Mai, 2005.  Yn y cyfamser gohiriwyd ystyried y cais oherwydd bod rhai materion heb eu datrys eto.

 

 

 

5

CEISIADAU'N CODI ODDI AR Y COFNODION:

 

 

 

5.1

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

10C86A - CYNLLUNIAU DIWYGIEDIG I GODI GAREJ NEWYDD, YSTAFELL CHWARAE AC YSTAFELL ASTUDIO UWCHBEN - MATERION Y RHODDWYD CANIATÂD IDDYNT DAN GAIS CYNLLUNIO RHIF 10C86 YN TIDE COTTAGE, 1 Y FRON, ABERFFRAW

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Yn y cyfarfod cynt roedd yr aelodau'n dymuno ymweld â'r safle i asesu'r sefyllfa a threfnwyd hynny ar gyfer 19 Hydref, 2005.

 

 

 

Dygodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio sylw'r aelodau at ffotograff/darlun yng nghefn y Siambr.  Ac yn ôl amcangyfrif y swyddogion buasai'r cynnig hwn yn ychwanegu 39% at yr adeilad yn gyffredinol.

 

 

 

Roedd y Cynghorydd Glyn Jones yn pryderu oherwydd effaith maint ac uchder y cynnig - un a fuasai yn ei farn ef yn groes i gymeriad yr amgylchiadau a hefyd buasai'n cau golygfeydd o'r tai o gwmpas.

 

 

 

Teimlo bod yma orddatblygu oedd y Cynghorydd Fowlie hefyd a hynny ar stad Y Fron sy'n stad breifat ac arni fyngalos a garejys ar wahân.

 

 

 

Pryder y Cynghorydd D Lewis Roberts oedd uchder y cynnig a theimlai'r Cynghorydd R L Owen bryder ynghylch argraff y datblygiad newydd.

 

 

 

 

 

Mewn ymateb dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio na chafwyd yr un gwrthwynebiad ysgrifenedig a hefyd y buasai uchder yr adeilad arfaethedig 0.5m yn ia na chrib yr annedd sydd yno.

 

 

 

Am y rhesymau a roddwyd cynigiodd y Cynghorydd P M Fowlie wrthod y cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd R L Owen.

 

 

 

Pleidleisiodd y rhai a ganlyn i wrthod y cais a hynny'n groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr P M Fowlie, R L Owen, D Lewis Roberts (3).

 

 

 

Pleidleisiodd yr aelodau a ganlyn o blaid derbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad ynddo i ganiatáu'r cais:  Y Cynghorwyr John Byast, Eurfryn Davies, J Arwel Edwards, John Roberts, J Arwel Roberts (5)

 

 

 

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais am y rhesymau a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

 

 

5.2

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

11C467 - TROI YSGUBOR YN ANNEDD A DYMCHWEL TY GWAIR A GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD YM MHEN-RALLT, PEN-RHYD, AMLWCH

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Yn y cyfarfod cynt roedd yr aelodau'n dymuno ymweld â'r safle i asesu'r sefyllfa a chafwyd yr ymweliad hwnnw ar 19 Hydref, 2005.

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod yr arolwg ar y strwythur yn dangos bod y datblygwr yn bwriadu dymchwel rhan sylweddol o'r adeilad - cedwid y ddau dalcen a rhan o un wal ond câi y cyfan o'r wal ffrynt ei dymchwel; hefyd buasai'r cynnig 150% yn fwy na'r strwythur presennol, ac nid oedd y cais yn cydymffurfio gyda gofynion y polisïau ar addasu a newid defnydd.  

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd R L Owen bod yr ysgubor hon ar lecyn amlwg yn y tirwedd a theimlai bod y cynnig gerbron yn mynd i wella yr hyn sydd yno.

 

 

 

Hefyd roedd y Cynghorydd John Byast yn teimlo y buasai'r cynnig yn gwella gwedd y safle - newidid yr ysgubor a'r das wair a chytunodd y Cynghorydd John Chorlton a theimlai ef bod yma enillion o safbwynt cynllunio.

 

 

 

Ond atgoffodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio'r aelodau y buasai caniatáu'r cais hwn yn y cefn gwlad yn groes i bolisïau a hefyd yn sefydlu cynsail peryglus.

 

 

 

Wedyn darllenodd y Cynghorydd J Arthur Jones ddarn o'r Canllawiau Cynllunio Atodol oedd wedi'u mabwysiadu (addasu adeiladau amaethyddol traddodiadol) - ac roedd y cais yn cydymffurfio gyda saith allan o'r wyth maen prawf.

 

 

 

Gan y Cynghorydd D Lewis Roberts cafwyd cynnig i ganiatáu'r cais yn groes i argymhelliad y swyddog a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd John Byast.

 

 

 

Pleidleisiodd yr aelodau a ganlyn i dderbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad ynddo i wrthod y cais:  Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, J Arwel Edwards, John Roberts (3).

 

 

 

Pleidleisiodd yr aelodau a ganlyn i ganiatáu'r cais yn groes i argymhelliad o wrthod gan y swyddog:  Y Cynghorwyr John Byast, John Chorlton, P M Fowlie, J Arthur Jones, O Glyn Jones, R L Owen, D Lewis-Roberts, J Arwel Roberts, W T Roberts (9).

 

 

 

Cafwyd y rhesymau a ganlyn o blaid caniatáu'r cais:

 

 

 

Ÿ

bod y cais yn cwrdd â gofynion y Canllawiau Cynllunio Atodol ar Addasu Adeiladau Amaethyddol Traddodiadol ac eithrio un maen prawf, h.y. "y buasai unrhyw estyniad yn fychan ac yn llai o ran maint ac uchder na'r adeilad presennol".

 

 

 

Ÿ

manteision cynllunio - gwella gwedd y lle.

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor câi'r cais ei ohirio'n otomatig i'r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rheswm dros ganiatáu'r cais hwn a oedd yn tynnu'n groes.

 

 

 

5.3

CAIS YN TYNNU'N GROES

 

 

 

17C266B - CODI ANNEDD AC ALTRO'R FYNEDFA I GERBYDAU YN RHANDIR, LLANSADWRN

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Cafwyd ymweliad â'r safle ar 21 Medi, 2005.  Yn y cyfarfod blaenorol roedd yr aelodau'n dymuno caniatáu'r cais hwn am y rhesymau a ganlyn ac yn groes i argymhelliad o wrthod gan y swyddog :

 

 

 

Ÿ

nid safle yn y cefn gwlad agored yw hwn gan ei fod mewn clwstwr

 

Ÿ

safle llwyd

 

Ÿ

mantais briffyrdd

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio tan y cyfarfod nesaf er mwyn rhoi'r cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu.

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd Eurfryn Davies iddo dderbyn llythyr o wrthwynebiad a bod copi wedi'i gyflwyno i'r Adran Gynllunio a bod hwnnw gerbron yn y cyfarfod.  I bwrpas cadw cofnod roedd y llythyr yn datgan nad oedd y Cynghorydd Davies wedi dwyn sylw'r aelodau at ddau lythyr o wrthwynebiad i'r cais hwn a oedd yn gwyro oddi wrth y polisïau.

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y ddau lythyr ychwanegol o wrthwynebiad ar gael yn y cyfarfod ac mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd John Arthur Jones dywedodd y swyddog na chafodd y cais hwn ei gyflwyno i ddarparu ty fforddiadwy.  

 

 

 

Ond roedd y Cynghorydd R L Owen yn dal i fod o'r farn bod y safle yn un llwyd ac y gallai ddarparu ty parhaol i'r ymgeisydd a chynigiodd bod y Pwyllgor yn glynu wrth y penderfyniad cynt a chaniatáu a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Tecwyn Roberts.

 

 

 

Ar ôl derbyn cyngor y cyfreithiwr cytunodd yr aelodau i gofnodi'r bleidlais a dyma fel y bu:

 

 

 

Roedd yr aelodau a ganlyn yn dymuno cefnogi'r cais yn groes i argymhelliad o wrthod gan y swyddog:  Y Cynghorwyr Eurfryn Davies,  P M Fowlie, O Glyn Jones, R. L. Owen,

 

D Lewis-Roberts, W T Roberts (6).

 

 

 

Roedd yr aelodau a ganlyn yn cynnig derbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad o wrthod y cais hwn oedd yn tynnu'n groes:  Y Cynghorwyr John Byast, John Chorlton,

 

J Arwel Edwards, J Arthur Jones, John Roberts, J Arwel Roberts (6).

 

 

 

Roedd y bleidlais yn gyfartal a chyda phleidlais fwrw'r Cadeirydd penderfynwyd derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais hwn oedd yn gwyro am y rhesymau yn adroddiad y swyddog.

 

 

 

5.4

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

19C608F - CAIS AMLINELLOL I GODI TAI A DARPARU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU A CHERDDWYR AR DIR TYDDYN BACH, FFORDD YNYS LAWD, CAERGYBI

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Cafwyd ymweliad â'r safle ar 21 Medi, 2005.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod Asesiad Ardrawiad Traffig (Ardrawiad) arall wedi'i gyflwyno ac roedd hwnnw'n foddhaol ac nid oedd yr Adran Briffyrdd yn gwrthwynebu'r bwriad.  Cafodd y gwrthwynebiadau a ddaeth i law eu cyflwyno yn y cyfarfod.  Hefyd buasai'r ymgynghori ar yr Ardrawiad yn parhau tan 22 Tachwedd, 2005 ac oni ddeuai sylwadau newydd perthnasol i law cyn diwedd y cyfnod hwn, roedd y swyddog yn argymell rhoddi awdurdod i'r Pennaeth Gwasanaethau Cynllunio ganiatáu'r cais am y rhesymau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

     Credai'r Cynghorydd G Allan Roberts bod y datblygiad tai hwn yn un o'r rhai mwyaf yn Ynys Môn a gofynnodd am ohirio'r drafodaeth arno fel bod preswylwyr yn cael cyfle i astudio'r Ardrawiad, a hefyd bod aelodau'r Pwyllgor yn cael copi o'r Ar Drawiad.

 

      

 

     Mewn ymateb dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod yr Ardrawiad ar gael i'r cyhoedd ei weld yn ystod oriau cyffredin y swyddfa ac nad oedd hi'n arfer rhannu copïau.  Wedyn pwysleisiodd y swyddog mai cais oedd hwn i ddatblygu 100 o anheddau fesul dipyn a hynny'n caniatáu i'r gwaith gael ei fonitro.  Roedd y safle y tu mewn i ffiniau datblygu'r Cynllun Lleol ac wedi'i neilltuo ar gyfer tai fel rhan o strategaeth dai gyffredinol y Cyngor dan yr CDU esblygol; hefyd roedd yr egwyddor o godi tai yn ôl yr un dwysedd â'r tai o gwmpas ac yn ôl gofynion y polisi esblygol yn dderbyniol.

 

      

 

     Ychwanegodd y Cynghorydd John Roberts mai cais amlinellol oedd gerbron, a theimlo oedd ef bod yma fwy o dai, sef 100, nag oedd yn Llain-goch ar hyn o bryd.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd D Lewis-Roberts cafwyd cynnig i ohirio ystyried y cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Eurfryn Davies.

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Arwel Roberts ynghylch barn yr Adran Briffyrdd, cyfeiriodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio at adroddiad manwl y swyddog.

 

      

 

     Cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaeth (Priffyrdd) nad oedd unrhyw wrthwynebiad am resymau priffyrdd a bod gwybodaeth ychwanegol yn yr Ardrawiad, a hynny'n cynnwys asesiad o'r cyffyrdd ac o arolygon traffig.  Buasai'r datblygwr yn gwella'r ffyrdd a hynny'n cynnwys darparu trogylch ar Ffordd Ynys Lawd, a darparu llwybr cerdded a llwybr beicio ynghyd â chyfleusterau i arafu traffig; buasai'r cynnig gerbron yn creu llai o draffig na'r caniatâd sydd yn bod ar y safle ar hyn o bryd.  

 

      

 

     Câi y Cynghorydd John Chorlton hi'n anodd pleidleisio'n erbyn y cais a fuasai'n creu llawer iawn o dai i bobl leol.

 

      

 

     Ond credai'r Cynghorydd G Allan Roberts y buasai datblygiad llai yn gweddu'n well i'r amgylchiadau, gan ychwanegu y buasai'r traffig a grëid yn sgil y cynnig hwn yn fwy na'r traffig ychwanegol yn sgil Parc Diwydiannol Penrhos.

 

      

 

     Yma ychwanegodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio y buasai gohirio gwneud penderfyniad ar y cais yn golygu bod yr ymgeiswyr yn apelio yn erbyn methiant i benderfynu arno ac ni allai'r Swyddogion amddiffyn apêl o'r fath am nad oedd yr un rheswm dilys dros ohirio wedi'i gyflwyno o'r llawr.

 

     Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Arthur Jones dyweoddd y Rheolwr Rheoli Cynllunio y buasai'r dwr wyneb yn cael ei reoli trwy gyfrwng amodau.  

 

      

 

     Wedyn cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad ynddo gan y Cynghorydd Chorlton, sef caniatáu'r cais, a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd John Roberts.

 

      

 

     Pleidleisiodd yr aelodau a ganlyn o blaid gohirio ystyried y cais:  Y Cynghorwyr John Byast, Eurfryn Davies, P M Fowlie, J Arthur Jones, O Glyn Jones, R L Owen, D Lewis-Roberts (7).

 

      

 

     Am y rheswm a roddwyd PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais.

 

      

 

5.5

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     19C608G - CAIS AMLINELLOL I GODI TAI YNGHYD Â DARPARU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU A CHERDDWYR AR DIR TYDDYN BACH, FFORDD YNYS LAWD, CAERGYBI

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Cafwyd ymweliad â'r safle ar 21 Medi, 2005.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd G Allan Roberts yn pryderu am nad oedd Asesiad Ardrawiad Traffig llawn wedi'i gyflwyno - nid oedd asesiad wedi'i wneud ar ffyrdd yn y Garreg-lwyd a Millbank.

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd John Chorlton dywedodd y Pennaeth Gwasasnaeth (Priffyrdd) bod Ardrawiad annibynnol wedi'i gomisiynu, ond cafwyd cadarnhad hefyd gan y swyddogion priffyrdd na fuasai'r cyning hwn yn cael fawr o Ardrawiad.

 

      

 

     Yma dygodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio sylw'r aelodau at adroddiad manwl y swyddog ac yn arbennig at argymhelliad deuol y swyddog, h.y. gwrthod y bwriad i godi 45 o anheddau ar dir y tu allan i ffiniau datblygu yr CDU esblygol (wedi'i ddangos mewn coch a glas ar y cynllun) a chaniatáu 15 o anheddau ar dir a amlinellwyd mewn gwyrdd a'r tu mewn i ffiniau datblygu yr CDU esblygol.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd John Chorlton cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a'r argymhellaid o ganiatáu a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd John Roberts.

 

      

 

     Pleidleisiodd yr aelodau a ganlyn o blaid derbyn adroddiad ac argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr John Byast, John Chorlton, J. Arwel Edwards, P M Fowlie, O Glyn Jones, R L Owen, John Roberts, W T Roberts (8).

 

      

 

     Ni chafwyd yr un bleidlais i'r gwrthwyneb.  

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad ac argymhelliad y swyddog I WRTHOD caniatâd i ddatblygu'r tir y tu allan i ffiniau datblygu yr CDU esblygol ond CANIATAU datblygiad preswyl y tu mewn i'r ffiniau datblygu fel a nodwyd ar y cynlluniau ynghlwm ac fel y manylwyd ar hynny yn yr adroddiad ac am y rhesymau a roddwyd a hefyd gyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

5.6

CAIS YN TYNNU'N GROES

 

      

 

     22C122B - CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD A DARPARU MYNEDFA NEWYDD A GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD AR DIR HEN SIOP, CAPEL COCH

 

      

 

     Gwnaeth y Cynghorydd J. Arthur Jones ddatganiad o ddiddordeb yn y cais a gadawodd y cyfarfod am y drafodaeth a'r pleidleisio.

 

      

 

     Trosglwddwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol ond yn y

 

      

 

      

 

     cyfarfod cynt roedd yr aelodau yn dymuno ymweld â'r safle a threfnwyd hynny ar gyfer 19 Hydref, 2005.  

 

      

 

     Nododd y Cynghorydd W J Williams nad oedd Capel Coch wedi ei gategoreiddio fel pentref - roedd yn glwstwr o anheddau.  Cais oedd hwn i godi ty fforddiadwy.

 

      

 

     Dweud a wnaeth y Rheolwr Rheoli Cynllunio nad oedd y cyngor cymuned lleol yn gwrthwynebu'r bwriad; roedd yr Adran Briffyrdd yn argymell amodau a chafwyd sylwadau ar faterion draenio.  Ychwanegodd y swyddog bod rhywfaint o wybodaeth wedi'i derbyn yn cadarnhau y buasai'r cais yn darparu ty fforddiadwy, h.y. cadarnhad fod morgais ar gael, ond roeddid yn dal i ddisgwyl am dystiolaeth arall, h.y. P60 a slipiau cyflog cyfredol.  Roedd y swyddogion Cynllunio mewn trafodaethau gyda'r Adran Dai a buasai'r Panel Tai yn rhoddi sylw i'r cais ac roeddid yn disgwyl am yr ymateb.

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd R L Owen dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio na chredai'r swyddogion bod y safle hwn yn addas am ei fod yn y cefn gwlad.  

 

      

 

     Credai'r Cynghorydd W J Williams bod yma gyfle i ddarparu ty fforddiadwy i bobl ifanc leol aros yn eu cymuned ac o bosib, yn y dyfodol, gefnogi'r ysgol leol.  Roedd y safle rhwng clwstwr o anheddau a'r ysgol leol, ac roedd ty ar draws y ffordd.  Darllenodd y Cynghorydd Williams ofynion y Nodyn Cyngor Technegol (TAN) ar dai fforddiadwy, ac argymhellodd y dylid caniatáu'r cais yn amodol ar dderbyn tystiolaeth foddhaol yn cefnogi'r egwyddor o godi ty fforddiadwy.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd John Chorlton cafwyd cynnig i ganiatáu'r cais hwn i gefnogi pobl leol, yn amodol ar gwblhau ymgynghoriadau'n foddhaol ar dy fforddiadwy, a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd John Roberts.

 

      

 

     Pleidleisiodd yr aelodau a ganlyn o blaid y cais a hynny'n groes i argymhelliad o wrthod gan y swyddog:  Y Cynghorwyr John Byast, John Chorlton, J Arwel Edwards, R L Owen, D Lewis-Roberts, John Roberts, W T Roberts (7).

 

      

 

     Ymatal:  Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, P M Fowlie.

 

      

 

     Dymuniad yr Aelodau oedd caniatáu'r cais hwn oedd yn gwyro a hynny'n groes i argymhelliad o wrthod gan y swyddog - roeddid yn cefnogi oherwydd y cyfle i godi ty fforddiadwy.

 

      

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor câi'r cais ei ohirio'n otomatig i'r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rheswm dros ganiatáu'r cais hwn oedd yn tynnu'n groes.

 

      

 

5.7

CAIS YN TYNNU'N GROES

 

      

 

     23C231 - CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD NEWYDD, DARPARU MYNEDFA NEWYDD A GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD AR BLOT O DIR GER CAE FABLI, CAPEL COCH

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol ond yn y cyfarfod cynt roedd yr aelodau yn dymuno ymweld â'r safle a threfnwyd hynny ar gyfer 19 Hydref, 2005.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd W J Williams yn gefnogol i'r cais hwn gan ferch ifanc leol a oedd yn dymuno aros yn y gymuned ac argymhellodd y dylid gohirio ystyried y cais er mwyn rhoi'r cyfle i'r ferch ifanc gyflwyno cais am dy fforddiadwy.  

 

      

 

     Mewn ymateb dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio nad oedd yma unrhyw awgrym y buasai'r ty yn un fforddiadwy ac nad oedd unrhyw gyfiawnhad i ohirio gwneud penderfyniad ar y cais am y rheswm hwn; gallai'r ymgeisydd gyflwyno cais arall yn ystod y deuddeng mis nesaf.  Roedd safle'r cais yn y cefn gwlad ac yn groes i'r polisiau a chafwyd argymhelliad o wrthod gan y swyddog.  

 

      

 

     Gan y Cynghorydd R L Owen cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad o wrthod a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Glyn Jones.

 

      

 

     Pleidleisiodd yr aelodau a ganlyn o blaid derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais hwn oedd yn gwyro:  Y Cynghorwyr John Byast, Eurfryn Davies, J Arwel Edwards, P M Fowlie, O Glyn Jones, R L Owen, D Lewis-Roberts, J Arwel Roberts (8).

 

      

 

     Ni chafwyd yr un bleidlais i'r gwrthwyneb.

 

      

 

     O 8 bleidlais PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais am y rhesymau yn ei adroddiad.  

 

      

 

      

 

      

 

5.8

CAIS YN TYNNU'N GROES

 

      

 

     28C349 - CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD AMAETHYDDOL, CODI GAREJ BREIFAT, ALTRO'R FYNEDFA I GERBYDAU A DARPARU TANC SEPTIG NEWYDD AR DIR TY MAWR, CAPEL GWYN

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgo benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol ac yn y cyfarfod cynt roedd yr aelodau'n dymuno caniatáu'r cais hwn oedd yn gwyro a hynny am y rheswm a ganlyn:

 

      

 

Ÿ

rhesymau meddygol ac angen lleol

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio er mwyn rhoi'r cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rheswm dros ganiatáu'r cais hwn sy'n gwyro.

 

 

 

Nodwyd fod cynllun anghywir wedi'i rannu gyda'r agenda a chyflwynwyd yr un cywir yn y cyfarfod.  Yn unol â chais asiant yr ymgeisydd dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y cais wedi'i gyflwyno gan Mr John F Owen a Mrs Jane Owen.

 

 

 

Wedyn mynegodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio beth pryder am rai elfennau o'r cais amaethyddol.  Bwriad Mr a Mrs Owen oedd ymddeol yn y dyfodol agos ac o'r herwydd ni fuasai angen annedd amaethyddol ychwanegol.  Roedd y mab yn gweithio'n llawn amser i Gyngor Sir Conwy.  Credai'r swyddog bod angen edrych ar ffyrdd eraill o ddarparu annedd ychwanegol gan nad oedd tystiolaeth gyllidol na thystiolaeth ymarferol wedi'i chyflwyno a chafwyd argymhelliad cryf o wrthod y cais.

 

 

 

Mewn ymateb roedd y Cynghorydd Glyn Jones yn cynnig glynu wrth y penderfyniad cynt a chaniatáu gan fod yma angen cymdeithasol a bod angen rhoddi sylw gyda chydymdeimlad i'r cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Fowlie.  Ymhen amser teimlai'r Cynghorydd Fowlie y medrai'r ymgeisydd gwrdd â gofynion y meini prawf ymarferol a chyllidol ac roedd gwraig yr ymgeisydd wedi bod yn dioddef gyda gwaeledd tymor hir.  Cytuno oedd y Cynghorydd Eurfryn Davies y dylai'r Pwyllgor ddangos cydymdeimlad oherwydd amgylchiadau'r ymgeiswyr.

 

 

 

Nododd y Cynghorydd Arthur Jones nad oedd tystiolaeth wedi'i chyflwyno i gefnogi'r angen am dy "amaethyddol".

 

 

 

Wedyn sylwodd y Cynghorydd John Roberts bod y safle yn y cefn gwlad agored a chafwyd cynnig ganddo i dderbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais am y rhesymau a roddwyd a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd John Byast.

 

 

 

Ar ôl derbyn cyngor y cyfreithiwr cytunwyd i gofnodi'r bleidlais a dyma fel y bu:

 

 

 

Glynu wrth y penderfyniad cynt a chaniatáu'r cais hwn oedd yn gwyro a hynny'n groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, P M Fowlie, O Glyn Jones, R L Owen (4).

 

 

 

Derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais hwn am y rhesymau a roddwyd:  Y Cynghorwyr John Byast, J Arwel Edwards, J Arthur Jones, D Lewis-Roberts, John Roberts, J Arwel Roberts (6)

 

 

 

Ymatal:  Y Cynghorwyr John Chorlton, W T Roberts.

 

 

 

O 6 phleidlais i 4 PENDERFYNWYD dileu y penderfyniad blaenorol a derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais hwn oedd yn gwyro am y rhesymau a roddwyd.

 

      

 

5.9

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     30C598 - CAIS AMLINELLOL I GODI DWY ANNEDD AR DIR GER HENDRE A GORWEL, LÔN PANT Y CUDYN, BENLLECH

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol ond yn y cyfarfod cynt roedd yr aelodau yn dymuno ymweld â'r safle i asesu pryderon yr aelod lleol ynghylch y priffyrdd a chafwyd yr ymweliad ar 19 Hydref, 2005.

 

      

 

     Pryderu oedd y Cynghorydd D Lewis Roberts am y fynedfa newydd arfaethedig ar dro graddol gyferbyn â Stad Fern Hill, lle roedd o gwmpas 15 o fynedfeydd rhwng y safle hwn a'r gyffordd gyda'r A5025; hefyd roedd pryder bod yr anheddau yn mynd i fod yn rhai deulawr; holodd y Cynghorydd Roberts am y posibilrwydd o symud y fynedfa arfaethedig ymhellach tua'r gogledd-orllewin.  

 

      

 

     Ond cais amlinellol yn unig oedd gerbron yn ôl y Rheolwr Rheoli Cynllunio ac roedd y Pwyllgor yn rhydd i fynnu ar amodau i sicrhau y buasai'r anheddau yn rhai unllawr.  Buasai'n rhaid gwneud rhagor o waith ymgynghori ar unrhyw fwriad i symud y fynedfa arfaethedig.

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Arwel Roberts dywedodd y swyddog bod digon o le ar y safle i godi dwy annedd unllawr.  

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Tecwyn Roberts bod lleoliad y fynedfa arfaethedig yn beryglus a chafwyd cynnig ganddo i wrthod y cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd D Lewis-Roberts.  

 

      

 

     Wedyn cafwyd cynnig gan y Cynghorydd Arwel Edwards i dderbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad o ganiatáu a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Glyn Jones.

 

      

 

     Pleidleisiodd yr aelodau a ganlyn i wrthod y cais a hynny'n groes i argymhelliad y swyddog:  y Cynghorwyr J Arthur Jones, D Lewis-Roberts, W T Roberts (3).

 

      

 

     Pleidleisiodd yr aelodau a ganlyn o blaid derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu:  y Cynghorwyr John Byast, John Chorlton, Eurfryn Davies, J Arwel Edwards, P M Fowlie, O Glyn Jones, R L Owen (7).

 

      

 

     O 7 bleidlais i 3 PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais hwn heb amod annedd unllawr a hynny am y rhesymau a roddwyd a chyda'r amodau y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.

 

      

 

5.10

CAIS YN TYNNU'N GROES

 

      

 

     32C115C - CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD A GAREJ A DARPARU                MYNEDFA NEWYDD AR GAE ORDNANS 4243, TY'N RHOS, CAERGEILIOG

 

      

 

     Gwnaeth Mrs Nia Jones o'r Adran Gynllunio ddatganiad o ddiddordeb yn y cais hwn.

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

     Yn y cyfarfod cynt roedd yr aelodau wedi pleidleisio'n unfrydol o blaid caniatáu'r cais hwn oedd yn gwyro a hynny am y rhesymau a ganlyn:

 

      

 

Ÿ

angen lleol

 

Ÿ

mae'n cydymffurfio gyda Pholisi 50

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor gohiriwyd y cais er mwyn rhoi'r cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu.  

 

 

 

Ailddatgan ei gefnogaeth i'r cais am y rhesymau a roddwyd o'r blaen a wnaeth y Cynghorydd Gwilym Jones.

 

 

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio sylw'r aelodau at adroddiad y swyddog.

 

 

 

Gan y Cynghorydd J Arthur Jones cafwyd cynnig i lynu wrth benderfyniad cynt y Pwyllgor a chaniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd yr adeg honno a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd John Chorlton.

 

 

 

Pleidleisiodd yr aelodau a ganlyn o blaid caniatáu'r cais a hynny'n groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr John Byast, John Chorlton, Eurfryn Davies, J Arwel Edwards, P M Fowlie, J Arthur Jones, O Glyn Jones, R L Owen, D Lewis-Roberts, John Roberts, J Arwel Roberts (11).

 

 

 

Ni chafwyd yr un bleidlais i'r gwrthwyneb.

 

 

 

O 11 pleidlais PENDERFYNWYD caniatáu'r cais hwn oedd yn gwyro a hynny am y rhesymau a roddwyd ond gyda'r amodau safonol perthnasol.

 

      

 

6     CEISIADAU ECONOMAIDD:

 

      

 

     Ni chyflwynwyd yr un cais economaidd.

 

      

 

7     TAI FFORDDIADWY:

 

      

 

     Ni chyflwynwyd yr un cais am dy fforddiadwy.

 

      

 

8     CAIS YN TYNNU'N GROES

 

      

 

8.1

23C235  CAIS AMLINELLOL I GODI BYNGALO A CHREU MYNEDFA A GOSOD TANC SEPTIG AR DIR CARROG, RHOS-MEIRCH

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y cyrff hynny yr ymgynghorwyd â nhw yn statudol wedi cyflwyno sylwadau ac yn argymell amodau yng nghyswllt draenio.  

 

      

 

     Wedyn cafwyd gair gan y Cynghorydd W J Williams i ddweud bod y safle ym mhlwyf Tregaean; buasai cefnogi'r cais yn gymorth i gynnal a chadw'r iaith Gymraeg a'r diwylliant yn y gymuned leol.  Dyn ifanc lleol oedd yr ymgeisydd ac yn dymuno dychwelyd i'r ardal i fyw a chynorthwyo'i dad ar y fferm.  Awgrymodd y Cynghorydd W J Williams y buasai ymweliad â'r safle yn briodol yn yr achos hwn.

 

      

 

     Dygodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio sylw'r aelodau at adroddiad manwl y swyddog; yma roedd cais cwbl groes i'r polisïau ac atgoffodd yr aelodau beth oedd y protocol yng nghyswllt ymweliadau â safleoedd - roedd y safle mewn cae yn y cefn gwlad ac ni chredai'r swyddog bod unrhyw bwrpas mewn cael ymweliad.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Arwel Edwards y ceid darlun cliriach o ddangos y llinellau grid ar y cynlluniau, a gofynnodd y Cynghorydd John Roberts a oedd y cynllun wedi'i ddiweddaru.

 

      

 

     Er bod y Cynghorydd W J Williams yn cytuno bod y safle mewn llecyn anghysbell teimlai, fodd bynnag, bod yma gyfle i aelodau asesu'r safle eu hunain.  

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Chorlton cafwyd cynnig i wrthod a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd O Glyn Jones.

 

      

 

     Atgoffa yr aelodau a wnaeth y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod raid sicrhau manteision sylweddol yn sgil ymweliadau a safleoedd a theimlai nad oedd modd cyfiawnhau ymweld â'r lle hwn.  Roedd y cais yn groes i'r polisïau ac ni chafwyd unrhyw dystiolaeth bod hwn yn mynd i fod yn gartref i weithiwr amaethyddol neu goedwigaethol ac nid oedd yn dy fforddiadwy chwaith.  

 

      

 

     Gan y Cynghorydd J Arthur Jones cafwyd cynnig i ymweld a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd D Lewis Roberts.

 

      

 

     Pleidleisiodd yr aelodau a ganlyn, yn groes i argymhelliad y swyddog, o blaid caniatáu'r cais:  Y Cynghorwyr J Arthur Jones, D Lewis-Roberts (2).

 

      

 

     Pleidleisiodd yr aelodau a ganlyn o blaid derbyn adroddiad ac argymhelliad o wrthod y swyddog ar y cais hwn oedd yn gwyro:  Y Cynghorwyr John Byast, John Chorlton, J Arwel Edwards, O Glyn Jones, R L Owen, John Roberts, J Arwel Roberts (7).

 

      

 

Ymatal:  Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, P M Fowlie, W T Roberts (3).

 

 

 

O 7 bleidlais PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais hwn oedd yn gwyro am y rhesymau a roddwyd yn adroddiad y swyddog.

 

 

 

8.2

35C245  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD YNGHYD Â GWNEUD GWAITH ALTRO AR Y FYNEDFA AR DIR TAN Y FRON, PENMON

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y cyngor cymuned yn gwrthwynebu a chafwyd llythyrau o wrthwynebiad hefyd a chyflwynwyd y rheini yn y cyfarfod.  Argymhell gwrthod y cais a wnaeth y swyddog.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd John Rowlands y buasai'r cynnig hwn yn darparu cartref i deulu Cymraeg ifanc a lleol sydd ar hyn o bryd yn byw rhyw ddwy filltir o Langoed.  Roedd y tir yn mesur 50 acer a thad yr ymgeisydd yn fregus ac roedd hi'n anghyfleus i'r mab deithio bob awr o'r dydd i'r ffarm.  Cafwyd nifer o lythyrau o blaid y cais a dau yn gwrthwynebu; holodd y Cynghorydd Rowlands tybed a oedd y safle mewn clwstwr, ac nid oedd yr Adran Briffyrdd yn gwrthwynebu a gofynnodd i'r Pwyllgor am ei gefnogaeth.

 

      

 

     Mewn ymateb dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y cais yn groes i'r polisïau, ac ni chafodd ei gyflwyno fel cais amaethyddol ac nid oedd yn darparu ty fforddiadwy chwaith.  Dwy filltir yn unig o'r fferm yr oedd yr ymgeiswyr yn byw.  Roedd angen edrych ar bosibiliadau eraill, megis rhoddi estyniad ynghlwm wrth y prif dy.  Roedd hon yn ardal sensitif a'r tu mewn i Ardal o Brydferthwch Naturiol Eithriadol.

 

      

 

     Cydymdeimlo gydag amgylchiadau'r teulu a wnaeth y Cynghorydd R L Owen a dymuniad y teulu i barhau yn y busnes amaethu.  

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd D Lewis Roberts tybed a oedd modd rhoddi cytundeb dan Adran 106 i glymu'r safle wrth y brif ffarm?  Yn ei ymateb dywedodd y swyddog nad oedd yma angen amaethyddol.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd P M Fowlie cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad i wrthod y cais hwn oedd yn gwyro, a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Glyn Jones.

 

      

 

     Pleidleisiodd yr aelodau a ganlyn o blaid derbyn yr adroddiad a gwrthod y cais:  Y Cynghorwyr John Byast, John Chorlton, J Arwel Edwards, P M Fowlie, J Arthur Jones, O Glyn Jones, D Lewis-Roberts, John Roberts, J Arwel Roberts (9).

 

      

 

     Ymatal:  Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, R L Owen, W T Roberts.

 

      

 

     O 9 pleidlais PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais hwn oedd yn gwyro am y rhesymau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

8.3

38C213A  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD A DARPARU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU A GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD AR DIR GER GLAN GORS, RHOS-GOCH

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     I bwrpas cael cofnod cywir dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio mai "traffig" oedd y rheswm i'r aelod lleol "alw'r cais i mewn".  Hefyd roedd y cyngor cymuned yn fodlon cefnogi petai'n darparu ty fforddiadwy.  Ond atgoffa'r aelodau a wnaeth y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y cais hwn yn debyg iawn un i'r cynt a wrthodwyd gan y Pwyllgor rai misoedd yn ôl - a'r un aelodau yn union oedd ar y Pwyllgor yr adeg honno ac eithrio'r Cynghorydd John Chorlton.  Teimlai'r swyddog y buasai'n andwyol ac yn amhriodol caniatáu'r cais hwn am ei fod yn amlwg yn groes i bolisïau a chafwyd argymhelliad cryf ganddo i wrthod.

 

      

 

     Rhannodd y Cynghorydd Thomas Jones ddau fap ymhlith yr aelodau a theimlai bod y safle yn dir amaethyddol gwael yng nghanol clwstwr sylweddol o ryw 15 o anheddau.  Mewn un cynllun dangoswyd croestoriad o'r tir a'r bwriad i ostwng ei lefelau er mwyn lleihau effaith yr annedd unllawr; teimlai'r Adain Briffyrdd bod y cynnig yn creu manteision priffyrdd.  Saer oedd yr ymgeisydd, person lleol ac yn byw ar hyn o bryd gyda'i nain.  Roedd wedi prynu'r tir hwn yn rhad ac roedd yma elfen o fforddiadwyaeth ac oherwydd natur yr ardal roedd ynddi dai yma ac acw.

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd John Roberts dywedodd y Cynghorydd Thomas Jones bod yr anheddau ar wasgar dros ardal o ryw 500m.

 

      

 

     Wedyn dywedodd y Cynghorydd J Arthur Jones nad oedd y clwstwr hwn yn un cydnabyddedig.

 

      

 

     Fodd bynnag, teimlai'r Cynghorydd John Chorlton bod yma glwstwr ac elfen o fforddiadwyaeth a'r ymgeisydd yn saer ac roedd ef yn cefnogi.

 

      

 

     Cysondeb ymhlith yr aelodau yr oedd y Cynghorydd Glyn Jones yn dymuno ei weld - nid oedd hwn yn glwstwr cydnabyddedig nac yn dreflan.

 

      

 

     Mewn ymateb darllenodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bwynt 7 o adroddiad y swyddog - roedd y safle yn y cefn gwlad a dim cyswllt rhyngddo ag unrhyw bentref na chlwstwr na threflan ac o'r herwydd roedd yn amlwg yn gwyro oddi wrth y polisi.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd J Arthur Jones cafwyd cynnig i wrthod a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd John Roberts.

 

      

 

     Pleidleisiodd yr aelodau a ganlyn o blaid derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais hwn oedd yn gwyro:  Y Cynghorwyr J Arthur Jones, O Glyn Jones, D Lewis-Roberts, John Roberts, J Arwel Roberts (5).

 

      

 

     Pleidleisiodd yr aelodau a ganlyn o blaid caniatáu'r cais hwn oedd yn gwyro, a hynny'n groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, R L Owen (2).

 

      

 

     Ymatal:  Y Cynghorydd John Byast (1).

 

      

 

     O 5 pleidlais i 2 PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais hwn oedd yn gwyro a hynny am y rhesymau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

8.4

38C223  CAIS I GODI 20 O ANHEDDAU (GAN GYNNWYS 6 ANNEDD FFORDDIADWY) AR DIR PEN Y BONT, FFORDD Y MYNYDD, LLANFECHELL

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfyno arno gan fod yr Awdurdod Cynllunio yn dymuno argymell caniatáu y cais hwn sy'n gwyro a hefyd roedd yr aelod lleol wedi gofyn am gael penderfyniad y Pwyllgor.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod llythyr o wrthwynebiad wedi'i dderbyn oddi wrth Lywodraethwyr Ysgol Llanfechell ac roedd hwnnw ar gael yn y cyfarfod - gwrthwynebiad yn seiliedig ar bryderon ynghylch diogelwch y ffordd a diogelwch y plant.

 

      

 

     Rhannodd y Cynghorydd Thomas Jones gynllun ymhlith yr aelodau a dywedodd bod Llanfechell yn bentref rhestredig gyda chaniatâd yno i bum annedd.  Teimlo oedd y Cynghorydd bod 20 o anheddau yn ddatblygiad mawr iawn i'r ardal ond nid oedd unrhyw wrthwynebiad i'r egwyddor o ddatblygu, ond teimlai y gellid gwella pethau trwy:

 

      

 

Ÿ

liniaru'r problemau traffig yng nghyffiniau'r ysgol - roedd y datblygwr wedi cynnig pum llecyn parcio ychwanegol a theimlai'r Cynghorydd Jones y buasai 10 llecyn yn fwy derbyniol;

 

Ÿ

dangosir yr anheddau fforddiadwy fel dau floc o dri thy yr un ar y cynllun ac yn mesur 60 metr sgwar yr un - tra oedd cymdeithasau tai yn cynnig maint o leiaf 72 metr sgwar a hefyd buasai'r tai yn edrych dros yr ysgol.  Cafwyd awgrym gan y Cynghorydd Jones y gallai Panel Tai y Cyngor edrych ar y mater;

 

Ÿ

Bod angen gwadd y datblygwr i gyfrannu 1% o bris gros y datblygiad i'r gymuned leol.

 

 

 

Wedyn cyfeiriodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio at bwynt rhif 7 yn adroddiad y swyddog sef cyfeiriad at "adroddiad yr Arolygydd ar Gynllun Datblygu Esblygol Ynys Môn a'r argymhelliad bod angen ymestyn y clustnodiad hwn i gynnwys y cyfan o'r cae gyda ffigwr yn awgrymu 20 o unedau preswyl";  roedd yr asiant wedi cynnig darparu pum llecyn parcio a chwe annedd fforddiadwy (30% o'r cynllun).  Nid oedd codi tai yn agos i'r ysgol yn beth anghyffredin a theimlai'r swyddogion bod y cynnig yn dderbyniol.

 

 

 

Credai'r Cynghorydd Glyn Jones bod maint y tai fforddiadwy yn fater perthnasol ac y dylent fodloni gofynion sylfaenol y canllawiau ac argymhellodd gael ymweliad â'r safle.

 

 

 

Roedd y Cynghorydd Arthur Jones yn rhannu llawer o bryderon yr aelod lleol, nid oedd yr CDU wedi'i fabwysiadu, ac 20 annedd oedd cyfanswm y clustnodiad i'r pentref a hynny'n cau y posibilrwydd i ddatblygu rhagor onid oedd yr amgylchiadau'n eithriadol.  

 

 

 

Cytuno a wnaeth y Cynghorydd Eurfryn Davies bod y tai fforddiadwy yn fychan iawn ac yn rhy agos i'r ysgol.

 

 

 

Ond soniodd y Cynghorydd John Chorlton bod y tai fforddiadwy o safon dderbyniol i'r swyddogion a chafwyd cynnig ganddo i dderbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad o ganiatáu a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd John Byast.  

 

 

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod maint yr unedau fforddiadwy yn dderbyniol a bod gwahaniaeth rhwng maint ac ansawdd.  Roedd y cynnig yn dderbyniol.

 

 

 

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

 

 

 

 

8.5

38C226   CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD A DARPARU TANC SEPTIG NEWYDD AR DIR GYFERBYN Â GWYNFRYN, CARREG-LEFN

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y cyngor cymuned a'r Adran Briffyrdd heb unrhyw wrthwynebiad a chafwyd argymhelliad gan y swyddog i wrthod y cais hwn am ei fod yn gwyro.

 

      

 

     Credai'r Cynghorydd Thomas Jones bod safle'r cais yng nghanol "clwstwr tynn o 12 annedd" - a bod modd edrych arno fel ymgais i lenwi bwlch.  Teimlai'r ymgeisydd bod ei chartref presennol ar draws y lôn yn rhy fawr a'i dymuniad oedd symud i fyngalo unllawr llai ac roedd y safle y tu mewn i'r cyflymdra 30 mya.

 

      

 

     Yn ôl y Rheolwr Rheoli Cynllunio nid oedd y lle mewn clwstwr cydnabyddedig yn y cynllun datblygu.

 

      

 

     Cytuno gyda'r swyddog a wnaeth y Cynghorydd J Arthur Jones a chynigiodd wrthod y cais hwn oedd yn gwyro a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Glyn Jones.

 

      

 

     Yma cytunodd y Cynghorydd John Roberts gyda'r aelod lleol fod y safle yng nghanol clwstwr o anheddau a hefyd y tu mewn i'r ardal 30 mya.

 

      

 

     Roedd cyfyngiadau gyrru yn seiliedig yn ddiogelwch y briffordd nid ar resymau cynllunio meddai'r Rheolwr Rheoli Cynllunio ac roedd y cais hwn y tu allan i'r ffrâm ddatblygu.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Eurfryn Davies cafwyd cynnig i ganiatáu.

 

      

 

     Pleidleisiodd yr aelodau a ganlyn o blaid gwrthod y cais:  Y Cynghorwyr John Byast, John Chorlton, J Arwel Edwards, J Arthur Jones, O Glyn Jones, John Roberts, J Arwel Roberts (7).

 

      

 

     Ni chafwyd yr un bleidlais i'r gwrthwyneb.

 

      

 

     O 7 bleidlais PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais hwn am y rhesymau a roddwyd.

 

      

 

      

 

      

 

8.6

44C233A CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD A DARPARU MYNEDFA NEWYDD A GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD AR RAN O GAE ORDNANS 5173, RHOS-Y-BOL

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol a ofynnodd am ohirio'r drafodaeth yn ei absenoldeb.

 

      

 

     CYTUNWYD i ohirio ystyried y cais hwn oherwydd absenoldeb yr aelod lleol.

 

      

 

      

 

      

 

9     GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

      

 

      

 

9.1

11C47A/AD  CODI ARWYDD YN LLWYN, STAD DDIWYDIANNOL AMLWCH

 

      

 

     Roedd Antony Wright o'r Adain Iechyd yr Amgylchedd wedi datgan diddordeb yn y cais hwn.

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan ei fod yn gais gan y Cyngor ar dir sy'n eiddo iddo.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

      

 

      

 

9.2

19LPA687C/CC  ALTRO AC GWNEUD GWAITH YMESTYN I DDARPARU YSTAFELL I'R STAFF YN YSGOL LLAIN-GOCH, FFORDD YNYS LAWD, CAERGYBI

 

      

 

     Gwnaeth y Cynghorydd John Chorlton ddatganiad o ddiddordeb yn y cais hwn a gadawodd y cyfarfod yn y drafodaeth a'r pleidleisio.

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan ei fod yn gais gan y Cyngor ac ar dir sy'n eiddo i'r Cyngor.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

9.3

22C79E  AILADEILADU SYLWEDDOL AR HEN YSGUBOR I GREU UN UNED BRESWYL HUNANGYNHALIOL I DDIBENION GWYLIAU YN NHAN Y GRYDDYN, LLANDDONA

 

      

 

     Cyfeiriwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Cafwyd eglurhad gan y Cynghorydd Hefin Thomas bod rhai rhannau o'r hen ysgubor wedi dechrau simsanu yn ystod gwaith addasu a bu'n rhaid i'r ymgeisydd ddymchwel mwy o'r adeilad gwreiddiol nag a gynlluniwyd yn y lle cyntaf ac a gymeradwywyd; fodd bynnag, roedd yr ymgeisydd wedi dechrau ailgodi'r waliau gyda chydymdeimlad â'r adeilad gwreiddiol ac roedd y gwaith a wnaed hyd yma yn dderbyniol ac yn ategu gwaith o'i gwmpas.  Mae hyn yn cydymffurfio gyda'r polisïau ar ddarparu llety gwyliau a dylid ei gefnogi.

 

      

 

     Nid oedd y Cynghorydd John Chorlton yn siwr a oedd yr adeilad wedi cwympo'n ddamweiniol neu efallai ar y llaw arall ei fod wedi cael ei fwrw'n fwriadol.  Mewn ymateb dywedodd y Cynghorydd Thomas nad oedd modd rhagweld yr hyn a ddigwyddodd - penderfynodd y datblygwr mai'r peth doethaf oedd tynnu'r rhannau ansad i lawr a'u hadfer fel gwreiddiol i'r graddau yr oedd hynny'n bosib ac roedd hyn oll yn dderbyniol ac yn rhesymol i'r Cynghorydd Thomas.

 

      

 

     Mewn ymateb dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio y buasai'n rhaid codi dros 75% o waliau allanol yr adeilad o'r newydd a bod hynny'n groes i'r polisïau addasu.  Caniatâd i addasu'r adeilad gwreiddiol a roddwyd a cadarnhaodd bod arolwg boddhaol ar y strwythur wedi'i gyflwyno.  Argymhellodd y swyddog wrthod y cais.

 

      

 

     Cais oedd yma i arallgyfeirio yn ôl y Cynghorydd R L Owen a buasai'n cefnogi gweithgaredd i ddenu ymwelwyr i'r ardal a chynigiodd roddi caniatâd ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd John Chorlton.

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd Eurfryn Davies wrthod y cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Arwel Edwards.

 

      

 

     Pleidleisiodd yr aelodau a ganlyn o blaid derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais:  Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, J Arwel Edwards, J Arwel Roberts (3).

 

      

 

     Pleidleisiodd yr aelodau a ganlyn o blaid caniatáu'r cais a hynny'n groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr John Byast, John Chorlton, J Arthur Jones, R L Owen, D Lewis-Roberts, John Roberts, W T Roberts (7).

 

      

 

     Roedd yr Aelodau'n dymuno caniatáu'r cais am y rhesymau a ganlyn:

 

      

 

Ÿ

roedd yn cydymffurfio gyda pholisi 55

 

Ÿ

câi'r adeilad ei adfer yn y dull traddodiadol - mantais gynllunio

 

Ÿ

ni fuasai'n tynnu'n groes i gymeriad y lle

 

      

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor câi'r cais ei ohirio'n otomatig i'r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rheswm dros ganiatáu'r cais hwn a oedd yn tynnu'n groes.

 

      

 

9.4

22C92E  CAIS AMLINELLOL I GODI BYNGALO AR DIR GER TRE GOF, LLANDDONA

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Yr Adran Briffyrdd oedd yr unig Adran i wrthwynebu'r bwriad hwn meddai'r Cynghorydd Hefin Thomas ond roedd traffig trwm eisoes yn defnyddio rhwydwaith lleol y ffyrdd at y mast.  Dyn lleol oedd yr ymgeisydd, ac ychwanegodd y Cynghorydd Thomas bod yma fanteision cynllunio oherwydd bwriad yr ymgeisydd oedd cael gwared o'r garafan ar y safle a chodi cartref.

 

      

 

     Teimlai'r Cynghorydd R L Owen bod y ffyrdd lleol yn yr ardal yn debyg i ffyrdd eraill ar draws yr Ynys a chynigiodd roddi caniatâd i'r cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd D Lewis-Roberts.

 

      

 

     Pleidleisiodd yr aelodau a ganlyn o blaid y cais a hynny'n groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr John Byast, John Chorlton, Eurfryn Davies, J Arwel Edwards,

 

     J Arthur Jones, R L Owen, D Lewis-Roberts, John Roberts, W T Roberts (9).

 

      

 

     Roedd yr Aelodau'n dymuno caniatáu'r cais gan ddadlau bod y rhwydwaith ffyrdd yn ddigonol.

 

      

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor câi'r cais ei ohirio'n otomatig i'r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rheswm dros ganiatáu'r cais hwn a oedd yn tynnu'n groes.

 

 

 

 

 

9.5

37LPA857/CC  CODI ADEILAD AMAETHYDDOL AR DIR Y FODOL, LLANEDWEN

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan mai'r Cyngor oedd yr ymgeisydd a'r cais yn ymwneud â thir sy'n eiddo i'r Cyngor.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais am y rhesymau a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

      

 

10     CEISIADAU A DDIRPRWYWYD

 

      

 

     Cyflwynwyd a derbyniwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Amgylchedd a Thechnegol) ar faterion a ddirprwywyd ac y penderfynwyd arnynt ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor hwn.

 

      

 

      

 

11     MATERION A GYFEIRIWYD YN ÔL

 

      

 

      

 

11.1

22C11A  BWLCH Y FFOS, LLANDDONA - CADW'R FFENS PYST A RHEILIAU COED GER Y BRIFFORDD A CHADW LLWYBRAU AR FYRDDAU COED DROS Y TWYNI TYWOD

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y cais uchod wedi'i wrthod gan y Pwyllgor hwn yn ei gyfarfod ar 11 Mai, 2005 a hynny'n groes i argymhelliad y swyddog ac am y rhesymau a roddwyd.  Yn y cyfamser roedd yr ymgeisydd wedi apelio yn erbyn y penderfyniad a than baragraff 4.6.13.3 Rheolau Gweithdrefn Materion Cynllunio câi achos y Cyngor yn yr apêl ei gyflwyno gan yr aelodau a gefnogodd y penderfyniad uchod.

 

      

 

     Cytunodd y Cynghorydd John Roberts i gynrychioli'r Pwyllgor yn yr apêl.

 

      

 

11.2

34LPA850/CC  COLEG MENAI, LLANGEFNI - CAIS AMLINELLOL I DDARPARU FFORDD NEWYDD A LLWYBR CERDDED, YSGOL NEWYDD, CANOLFAN INTEGREDIG NEWYDD, STAD NEWYDD O DAI AC ADEILAD NEWYDD

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio wrth y Pwyllgor bod gwaith yn cael ei wneud ar hyn o bryd ar gwblhau y cytundeb cyfreithiol ynghylch yr uchod.  Derbyniwyd manylion am fân newidiadau i leoliad y Trogylch ar Ffordd Talwrn a hefyd roedd cytundeb bellach ar ddulliau draenio carthffosiaeth a dwr wyneb.

 

      

 

     CYTUNWYD i nodi'r materion uchod.

 

      

 

      

 

12     APELIADAU

 

      

 

     Cyflwynwyd a nodwyd, er gwybodaeth, gopi o grynodeb o benderfyniadau yr Arolygydd a benodwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yng nghyswllt yr isod:

 

      

 

12.1

LLAIN LLIN, PARADWYS

 

      

 

     Apêl yn erbyn rhybudd gorfodaeth a gyhoeddwyd gan yr Awdurdod hwn ar 14 Ebrill, 2005 dan y rhif 2004/36/48 am dorri rheolau cynllunio:  (a) heb ganiatâd cynllunio newid defnydd o'r tir - o ddefnydd amaethyddol i bwrpas gosod dwy garafan arno i ddibenion byw ynddynt, un uned storio ac estyniad yn "pwyso" ar ochr un o'r carafanau, a (b) gwaith datblygu trwy osod tanc septig a gosod llwybr wyneb caled.

 

      

 

     Cefnogodd yr Arolygydd yr apêl yn rhannol trwy newid y cyfnod i gydymffurfio gyda'r rhybudd gorfodaeth - ei newid o 6 mis i 12 mis.  Fel arall gwrthododd yr Arolygydd Cynllunio roddi caniatâd cynllunio i'r cais a wnaed dan Adran 177(5) Deddf 1990 fel y cafodd ei diwygio.

 

      

 

12.2

GORSAF BETROL CAMPBELLS, LÔN ST FFRAID, TREARDDUR

 

      

 

     Apelio yn erbyn penderfyniad o wrthod gan yr Awdurdod hwn yng nghyswllt caniatâd hysbysebu i ddangos uned arddangos oleuedig ar bolyn i bwrpas arddangos ar ddwy ochr yr arwydd ac a gyflwynwyd yn y cais cynllunio rhif 46C66B/AD, gwrthodwyd y cais ar 6 Mai, 2005.  Gwrthodwyd yr apêl.

 

      

 

12.3

CRAIG Y DON, TRAETH LLYDAN, RHOSNEIGR

 

      

 

12.3.1

Apêl yn erbyn penderfyniad gan yr Awdurdod hwn i wrthod caniatâd, trwy rybudd dyddiedig 21 Rhagfyr, 2004, i ddymchwel dwy annedd a chodi tair annedd newydd dan y cais cynllunio rhif 28C338.  Gwrthodwyd yr apêl.

 

      

 

12.3.2

Cais gan yr Awdurdod hwn am ran o'r costau.  Gwrthodwyd y cais.

 

 

 

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 5.30 p.m.

 

 

 

 

 

J ARWEL ROBERTS

 

CADEIRYDD