Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion dogfennau , 3 Chwefror 2010

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Dydd Mercher, 3ydd Chwefror, 2010

PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION

 

Cofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 3 Chwefror, 2010 

 

YN BRESENNOL :

 

Y Cynghorydd Kenneth P. Hughes (Cadeirydd)

Y Cynghorydd Barrie Durkin (Is-Gadeirydd)

 

Y Cynghorwyr Lewis Davies, Jim Evans, O. Glyn Jones,

Thomas H. Jones, R.L. Owen, Hefin W. Thomas, J.P. Williams, Selwyn Williams.

 

 

 

WRTH LAW :

 

Prif Swyddog Cynllunio (GJ),

Rheolwr Rheoli Cynllunio (DFJ),

Uwch Beiriannydd (Rheoli Datblygu a Hawliau Tramwy Cyhoeddus)  (JRWO),

Prif Beiriannydd (Traffig a Pharcio) (HP),

Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol,

Swyddog Rheoli Datblygu (Priffyrdd) (RE),

Cymhorthydd Cynllunio,

Swyddog Pwyllgor (MEH).

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Y Cynghorwyr  W.J. Chorlton, E.G. Davies, W.T. Hughes.

 

 

 

HEFYD YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd P.M. Fowlie (Mewn perthynas ag Eitem 6.4);  Y Cynghorydd W.I. Hughes (Mewn perthynas ag Eitemau 6.7, 6.8 & 11.6): Y Cynghorydd Raymond Jones (Mewn perthynas ag Eitem 6.3)

 

1

YMDDIHEURIADAU

 

Cyflwynwyd ymddiheuriadau am absenoldeb a’u nodi fel uchod.

 

2

DATGANIAD O DDIDDORDEB

 

Derbyniwyd datganiadau o ddiddordeb fel y cawsant eu cofnodi dan yr eitemau perthnasol.

 

3

COFNODION

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd, fel rhai cywir, gofnodion o gyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gynhaliwyd ar 6 Ionawr, 2010.

 

4

YMWELIADAU SAFLE

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd cofnodion yr Ymweliadau Safle a gafwyd ar 20 Ionawr, 2010, gyda'r amod bod enw'r Cynghorydd Hefin W. Thomas yn cael ei ychwanegu at restr o rai a ymddiheurodd.

 

 

5

CEISIADAU A OHIRIWYD

 

 

 

5.1

19/C/842G - Parc Cybi, Caergybi

 

 

 

Adroddwyd - mai cais amlinellol ar gyfer datblygiad trigiannol ar dir yn Parc Cybi, Caergybi yw’r cais hwn.  

 

 

 

 

 

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu bod y cais yn ddatblygiad mawr a bydd raid cael golwg ar y safle a’r cyffiniau cyn i’r aelodau ei ystyried.

 

 

 

PENDERFYNWYD ymweld â’r safle fel yr oedd y Swyddog yn ei argymell.

 

 

 

5.2

30/C/83E - Dolydd, Pentraeth

 

 

 

(Cafwyd datganiad o ddiddordeb gan Y Cynghorydd Selwyn Williams mewn perthynas â’r cais hwn).

 

 

 

Adroddwyd - mai cais oedd hwn i ddymchwel adeilad a chodi adeilad newydd i gynnwys ystafell chwarae, swyddfa, derbynfa, ystafell ffitrwydd, ystafell gemau a storfa yn Dolydd, Pentraeth.

 

 

 

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu bod yr ymgeisydd wedi gofyn am ohirio ystyried y cais fel bod modd cyflwyno rhagor o wybodaeth.

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio'r cais fel a nodwyd uchod.

 

 

 

6

CEISIADAU’N CODI O’R COFNODION

 

 

 

6.1

12/C/22V -  Newid defnydd o'r annedd i fod yn 2 fflat hunangynhaliol ynghyd ag addasu ac ehangu a dymchwel adeilad allannol a chodi annedd newydd yn Bwthyn Tyn-y-gongl, Sgwar y Castell, Biwmares

 

 

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion yn ôl dymuniad yr Aelod Lleol. Cafodd y cais ei gyflwyno i’r Pwyllgor ar 14 Rhagfyr, 2009 a gofynnodd yr Aelod Lleol i’r aelodau ymweld â’r safle. Cynhaliwyd yr ymweliad safle ar 16 Rhagfyr, 2009.  

 

 

 

Mae’r eiddo mewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ac mae ar y rhestr statudol o adeiladau rhestredig ym Môn ac yng Nghymru fel adeilad Graddfa II ac mae yng nghanol nifer o adeiladau rhestredig ac yng nghyffiniau pwysig Castell Biwmares, sef Safle Treftadaeth y Byd.  

 

 

 

Fe ofynnodd yr aelodau yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Ionawr, 2010 am gael cadarnhad bod y ddwy ffliw boiler ar Tyn-y-gongl Cottage yn cydymffurfio gyda’r Ddeddfwriaeth Rheoliadau Adeiladu perthnasol oherwydd bod y ddwy mor agos i ffenestri eiddo cyfagos. Mae’r Adain Rheoliadau Adeiladu bellach wedi cadarnhau eu bod yn cydymffurfio gyda’r ddeddfwriaeth ddiweddaraf ynglyn ag Iechyd a Diogelwch.

 

 

 

Roedd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd R. L. Owen yn bryderus gan fod Asiantaeth yr Amgylchedd wedi ymateb a dweud bod yr Asesiad Canlyniadau Llifogydd yn dderbyniol os ymgorfforir camau i liniaru llifogydd yn y cynnig; nododd bod yr ardal hon dan ddwr yn 2007 - dyfnder dros 3 troedfedd.  Pryder arall ganddo oedd effaith yr adeilad newydd ar ran o hen wal y dref sydd mewn Ardal Gadwraeth a hefyd gyda statws Safle Treftadaeth y Byd.  Felly cafwyd ganddo gynnig i wrthod y cais.

 

 

 

Priffyrdd yr ardal oedd pryder y Cynghorydd Selwyn Williams a phe rhoddid caniatâd gofynnodd a oedd yn y caniatâd hwnnw amod fel bod y defnyddiau yn addas i'r ardal o gwmpas.

 

 

 

Mewn ymateb dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y pryderon hyn a fynegwyd gan yr Aelodau yn cael sylw yn yr adroddiad a dywedodd na fedrai ef weld yr un rheswm dros wrthod y cais.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Gan y Cynghorydd J. P. Williams cafwyd cynnig i ganiatáu'r cais oherwydd bod y datblygiad hwn yn mynd i gyflwyno gwelliant mawr ar safle sydd ar hyn o bryd yn cynnwys adeilad blêr.  Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd T. H. Jones.

 

 

 

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y Swyddog a’i argymhelliad i ganiatau gyda’r amodau a restrwyd yn yr adroddiad.

 

 

 

(Roedd y Cynghorydd O. Glyn Jones am gofnodi nad oedd wedi chwarae rhan yn y drafodaeth nac wedi pleidleisio ar yr eitem).

 

 

 

6.2

12/C/49K - Codi 38 fflat ar gyfer pobl oedran 55 ac uwch, gwella system ddraenio, gwaith tirwedd cysylltiol a pharcio yn Casita, Biwmares

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion am ei fod yn gais mawr ac ar ôl ei ystyried yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 6 Ionawr 2010 cytunwyd i gael ymweliad â'r safle gan ddilyn argymhelliad y swyddog a hynny er mwyn rhoi'r cyfle i'r aelodau asesu'r cynnig ar y safle ac yn ei gyd-destun amgylcheddol.  Cafwyd yr ymweliad hwnnw ar 20 Ionawr 2010.

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio nad oedd y cyfnod statudol o ymgynghori wedi dod i ben eto ac o'r herwydd roedd yn rhaid gohirio ystyried y cais tan gyfarfod nesaf y Pwyllgor.

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais fel a nodwyd uchod.

 

 

 

6.3

19/C/822B - Cynlluniau llawn ar gyfer codi 8 annedd ynghyd â chreu mynedfa newydd i gerbydau ar dir yr hen Orsaf BT, Ffordd Llundain, Caergybi

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y Cyngor wedi derbyn Rhybudd bod y cais yn ymwneud â thir sy'n eiddo i'r Cyngor a'r bwriad yma oedd creu mynedfa i gerbydau.  Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor ar 6 Ionawr 2010 pryd y cytunwyd i gael ymweliad a chafwyd yr ymweliad hwnnw ar 20 Ionawr 2010.

 

 

 

Mae'r safle ar gyffordd Lôn Deg a Ffordd Llundain ac yn wynebu'r ddwy stryd; o'i gwmpas mae tai a chan gynnwys bloc o fflatiau Cyngor tri llawr.  Ar ran o'r safle roedd coed yn cael eu diogelu dan Orchymyn Diogelu. Mae'r unedau dan sylw yn rhan o floc tri llawr yn cynnwys 6 apartment ac yn wynebu Lôn Deg a hefyd blot deulawr yn cynnwys dau apartment yn wynebu Ffordd Llundain.  

 

 

 

Nid oedd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd Raymond Jones yn gwrthwynebu'r datblygiad ond roedd am sôn am bryderon ynghylch rheoli traffig, diogelwch y briffordd a chyfleusterau parcio yn yr ardal.  Soniodd bod problem traffig loriau trymion wedi diflannu yn Lôn Llundain ond roedd y datblygiad hwn ar gornel yr A5, a gerllaw mae stop i fysus a chroesfan sebra.  Roedd preswylwyr pen uchaf Ffordd Llundain a Lôn Deg yn parcio yn y cyffiniau ac roedd cyfleusterau parcio yn broblem.  Gofynnodd y Cynghorydd Jones tybed a fuasai'r datblygwr yn ystyried talu am ehangu'r gilfan y tu allan i'r fflatiau presennol.  Mewn ymateb dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod yr Adain Briffyrdd o'r farn bod yma ddigon o gyfleusterau parcio i'r datblygiad gan ychwanegu y buasai'n anodd gofyn i ddatblygwr dalu am gilfan o flaen y fflatiau presennol.

 

 

 

Gofynnodd aelodau'r Pwyllgor a oedd arolwg wedi ei gynnal ar y traffig yn yr ardal ac wrth ymateb dywedodd yr Uwch Beiriannydd (Rheoli Datblygu a Hawliau Tramwy Cyhoeddus) bod yr Adain Briffyrdd yn fodlon gyda'r cynllun gan fod ynddo ddigon o gyfleusterau parcio i'r cais gerbron.  Roedd y fynedfa i'r safle wedi ei symud draw oddi wrth gyffordd yr A5 ac ni chredai'r swyddog, yn seiliedig ar faint y fflatiau, nad oedd arolwg rheoli traffig yn angenrheidiol.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Cynigiodd y Cynghorydd H. W. Thomas wrthod y cais hyd nes cynnal arolwg traffig yn yr ardal a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd B. Durkin.

 

 

 

Gan y Cynghorydd O. Glyn Jones cafwyd cynnig i dderbyn argymhellion o ganiatáu gan y swyddog a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd J. P. Williams.

 

 

 

Roedd y pleidleisio fel a ganlyn :-

 

 

 

Derbyn adroddiad y Swyddog a chymeradwyo'r cais : Y Cynghorwyr Lewis Davies,

 

Jim Evans, Kenneth P. Hughes, O. Glyn Jones, T.H. Jones, J.P. Williams           Cyfanswm 6

 

 

 

Gohirio ystyried y cais hyd oni fydd arolwg traffig wedi'i gynnal yn yr ardal : Y Cynghorwyr Barrie Durkin, R.L. Owen H. W. Thomas, Selwyn Williams.               Cyfanswm 4

 

 

 

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y Swyddog a'r argymhelliad i ganiatáu'r cais ond gyda'r amodau hynny a amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

 

 

6.4

28/C/437 - Addasu ac ehangu yn Sandy Bank, Warren Road, Rhosneigr

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion yn ôl dymuniad yr Aelod Lleol a phan oedd gerbron y Pwyllgor ar 14 Rhagfyr 2009 cytunwyd i gael ymweliad a chafwyd yr ymweliad hwnnw ar 16 Rhagfyr 2009.  

 

 

 

Mae'r ty yn rhan o deras ym mhentref Rhosneigr a'r materion pennaf oedd ystyried a oedd y cynnig yn dderbyniol o ran polisi, a oedd y cynnig gerbron yn cynnwys dyluniad annerbyniol, beth oedd yr effaith ar bleserau y tai cyffiniol.

 

 

 

Soniodd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd P. M. Fowlie am y gwrthwynebiad cryf yn lleol ym mhentref Rhosneigr i'r cais a'r rhai pennaf yn seiliedig ar faterion priffyrdd; draenio; dyluniad a gorddatblygu'r ardal.  Cyfeiriodd at bryderon a gafwyd yn yr ardal oherwydd yr effaith bosib ar y tai gerllaw a'r difrod posib i'r strwythur, colli preifatrwydd oherwydd y balcon a swn yn amharu ar eraill.  Gofynnodd i'r Pwyllgor wrthod y cais.

 

 

 

Credai'r Cynghorydd R. L. Owen y buasai'r datblygiad arfaethedig yn newid cymeriad y teras hwn o dai ac ni chredai bod y dyluniad yn addas i'r ardal unigryw hon.

 

 

 

Cytuno a wnaeth y Cynghorydd B. Durkin gan gredu bod y datblygiad yn gwbl groes i gymeriad y cyffiniau a hefyd yn mynd i achosi problemau traffig.

 

 

 

Cafwyd sylw gan y Cynghorydd O. Glyn Jones bod y dyluniad yn fodern yng nghanol teras traddodiadol o dai a mynegodd bryderon ynghylch materion traffig.

 

 

 

Mewn ymateb i'r materion traffig dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y cais gerbron yn un am annedd, un gyda phum ystafell wely ac ni chredai y buasai'n achosi problemau traffig yn yr ardal. Wedyn ychwanegodd bod sawl math gwahanol o ddyluniad yn yr ardal ac ni chredai ef bod y datblygiad arfaethedig yn groes i gymeriad y pentref.

 

 

 

Ond ni wyddai'r Cynghorydd J. P. Williams a fuasai to y ty cyfagos yn cael ei ddifrodi oherwydd y cais hwn.  Mewn ymateb dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio nad oedd unrhyw ddifrod posib i do y ty cyfagos yn fater cynllunio perthnasol a buasai'n rhaid i'r ymgeisydd ofyn i'r cymydog am ei ganiatâd cyn dechrau gwneud y gwaith.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Gan y Cynghorydd H. W. Thomas cafwyd cynnig i gefnogi argymhelliad o ganiatâd gan y Swyddog.

 

 

 

Ond gan y Cynghorydd B. Durkin cafwyd cynnig i wrthod y cais ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd R. L. Owen.

 

 

 

PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog.

 

 

 

Y rhain oedd y rhesymau dros wrthod:-

 

 

 

Gorddatblygu ac adeilad rhy fawr

 

Yn groes i gymeriad gweddill y teras o dai

 

Dyluniad gwael

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio'n awtomatig tan y cyfarfod nesaf a rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rheswm dros wrthod.  

 

 

 

6.5

31/C/170B/DA - Cais manwl ar gyfer codi 11 o anheddau, yn cynnwys 6 o rai 3 lloft un talcen, 4 o rai 3 llofft gyda modurdy ynghlwm ac un annedd 4 llofft ar wahân ynghyd â chreu lôn fynedfa, mynedfa newydd i gerbydau oddi ar Lôn Hen Dyfnia a mynedfa newydd i gerbydau oddi ar Lôn Penmynydd ar Gae Ordnans rhif 1426 Ffordd Penmynydd, Llanfair-pwll

 

 

 

(Gwnaeth Mr. Richard Eames, y Swyddog Rheoli Datblygu (Priffyrdd) ddatganiad o ddiddordeb yn y cais a gadawodd y cyfarfod am y drafodaeth).

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion yn ôl dymuniad yr Aelod Lleol ac ar ôl ei ystyried yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 6 Ionawr 2010 pryd y gofynnodd yr Aelod Lleol i'r aelodau ymweld â'r safle, cafwyd yr ymweliad hwnnw wedyn ar 20 Ionawr 2010.

 

      

 

     Cais oedd hwn am ganiatâd i faterion wrth gefn yn seiliedig ar y caniatâd cynllunio amlinellol i godi tai ac a gymeradwywyd ar 5 Chwefror 2007.  Mae'r safle yng nghyffordd Hen Lôn Dyfnia a Ffordd Penmynydd, sef cae.  Yn y cyflwyniad lle gofynnir am ganiatâd i faterion wrth gefn ceir gosodiad i 11 o anheddau i gyd: 10 ohonynt ger y ffordd stad sy'n ymuno gyda Hen Lôn Dyfnia - lôn a fydd yn cael ei lledu fel rhan o'r cynnig.  Diwygiwyd y cynllun a gyflwynwyd yn wreiddiol er mwyn lleddfu pryderon a godwyd gan yr Adain Briffyrdd.  Roedd yr egwyddor o ddatblygu'r safle wedi ei derbyn pryd y rhyddhawyd caniatâd cynllunio amlinellol ac felly y mater perthnasol gerbron oedd y dyluniadau manwl - a oedd y rheini yn dderbyniol ai peidio?

 

      

 

     Dywedodd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd Jim Evans bod y bobl leol yn pryderu ynghylch diogelwch y briffordd yn sgil y datblygiad arfaethedig.  Mewn ymateb dywedodd yr Uwch Beiriannydd (Rheoli Datblygu a Hawliau Tramwy Cyhoeddus) bod amodau yng nghyswllt diogelwch y ffordd yn yr adroddiad i'r cyfarfod.

 

      

 

     Gan fod hwn yn ddatblygiad sy'n golygu codi 11 o dai, dywedodd y Cynghorydd J. P. Williams y dylid gwneud cytundeb dan Adran 106 a sicrhau bod 30% o'r tai yn rhai fforddiadwy.

 

      

 

     Ond atgoffwyd y Pwyllgor gan y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod caniatâd amlinellol eisoes ar y tir.

 

      

 

     Cafwyd cynnig gan y Cynghorydd R. L. Owen i dderbyn yr argymhelliad o ganiatáu gan y Swyddog.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

 

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y Swyddog a'r argymhelliad o ganiatáu ond gyda'r amodau a amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

      

 

6.6     35/C/181C - Cynlluniau diwygiedig ar gyfer codi ty (yn lle'r hen dy) a ganiatawyd ar achlysur o'r blaen o dan rif cais 35C181B yn Yr Ystablau, Penmon

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion yn ôl dymuniad yr Aelod Lleol a phan oedd gerbron y Pwyllgor ar 6 Ionawr 2010 gofynnodd yr Aelod Lleol am ymweliad.  Cafwyd yr ymweliad hwnnw ar 20 Ionawr 2010.

 

      

 

     Mae'r safle yn wynebu Afon Menai a'r Llwybr Arfordirol a ger ei ochr mae adeiladau a hefyd yn ei gefn.  Yn lle'r hen dy y mae rhan ohono'n unllawr a rhan arall yn ddeulawr bwriedir codi strwythur deulawr o ddyluniad cyfoes.

 

      

 

     Roedd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd Lewis Davies yn pryderu oherwydd bod y cais mewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol a gofynnodd a oedd gwaith ymgynghori wedi'i wneud gyda'r Adain Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol yn yr Adran Gynllunio.  Hefyd credai bod dyluniad yr adeilad yn rhy fodern, bod yr adeilad ei hun yn rhy fawr yng nghyd-destun yr eiddo o gwmpas.  Cafwyd cynnig gan y Cynghorydd Davies i ohirio ystyried y cais hyd nes cael ymateb Cyngor Cefn Gwlad Cymru ac Adain Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol y Cyngor Sir.  Cafodd ei eilio gan y Cynghorydd J. P. Williams.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod gwaith ymgynghori wedi ei wneud gyda'r Adain Adeialdau a'r Amgylchedd ynghylch dyluniad y datblygiad a'i effaith ar yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ond ni chafwyd unrhyw wrthwynebiad i'r datblygiad.  Ni chredir y bydd y datblygiad yn cael fawr o effaith ar bleserau preswylwyr y lle.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd O. Glyn Jones cafwyd cynnig i dderbyn argymhelliad o ganiatáu gan y Swyddog a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd R. L. Owen.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y Swyddog a'r argymhelliad o ganiatáu ond gyda'r amodau a amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

 

 

6.7     36/C/63E - Cais amlinellol ar gyfer codi annedd a modurdy ar dir yn Tyn-y-gongl, Rhostrehwfa

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd ei gyflwyno gan unigolyn sy'n perthyn i Swyddog yn gweithio yn yr Adran Amgylchedd a Gwasanaethau Technegol a'r swyddog hwnnw hefyd yw perchennog y safle a'r tir at y safle.  Cafodd y Swyddog Monitro olwg ar y cais yn unol â gofynion paragraff 4.6.10.4 y Cyfansoddiad.  Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor yn ei gyfarfod ar 6 Ioanwr 2010 pryd y gofynnodd yr Aelod Lleol am ymweliad.  Cafwyd yr ymweliad hwnnw ar 20 Ionawr 2010.

 

      

 

     Mae safle'r cais yng ngardd gefn byngalo sy'n rhan o ddatblygiad rhubanaidd rhwng Rhostrehwfa a Llangefni.  Buasai'r fynedfa i'r safle ar hyd lôn fechan amaethyddol o'r B4422.

 

      

 

     Dywedodd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd W. I. Hughes bod safle'r cais y tu mewn i tua 15-18 o adeiladau.  Ni chredai ef y buasai'r datblygiad yn cael effaith anffafriol ar bleserau y tai o gwmpas ac felly nid yw'n dy newydd yn y cefn gwlad.  Wedyn cyfeiriodd y Cynghorydd Hughes at lythyr gan yr ymgeisydd yn dweud iddo fethu â chael morgais i brynu ty ar y farchnad agored; roedd ei rieni wedi cynnig y darn hwn o'u gardd fel plot adeiladu.  Wedyn aeth y Cynghorydd Hughes ymlaen i sôn bod yr ymgeisydd wedi bod yn byw i ffwrdd ond bellach wedi cael gwaith yn lleol a'i ddymuniad yw dychwelyd i'w fro enedigol a chodi ei dy ei hun.   Gofynnodd yr Aelod Lleol i'r Pwyllgor am ei gefnogaeth i unigolyn ifanc sy'n dymuno dychwelyd i Ynys Môn i fyw.

 

      

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd R. L. Owen yn cytuno gyda'r Aelod Lleol na châi'r datblygiad hwn unrhyw effaith andwyol ar eiddo arall yn y cyffiniau a chynigiodd roddi caniatâd.

 

      

 

     Ar ôl ymweliad â'r safle a chan fod y lôn at y safle yn lôn amaethyddol cafwyd cefnogaeth gan y Cynghorydd O. Glyn Jones i gynnig R. L. Owen y dylid caniatáu'r cais.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Hefin W. Thomas bod yr ymgeisydd yn berson proffesiynol sy'n dymuno dod yn ôl i fyw i Ynys Môn a phetai'r Cynllun Datblygu Lleol wedi ei gwblhau yna buasai modd datblygu yn yr ardal dan sylw dan y polisïau cynllunio.  Roedd yn ei chael hi'n anodd gwrthwynebu'r cais.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio nad yw'r safle mewn ardal lle gellid caniatáu datblygiad ac nid oes cyswllt rhwng y safle ac unrhyw bentref a nodir yng Nghynllun Lleol Ynys Môn nac yn y Cynllun Datblygu Unedol a Stopiwyd.  Ni chafwyd unrhyw bolisïau cenedlaethol newydd ers gwrthod y cais blaenorol ac o'r herwydd roedd y gwrthwynebiadau polisi yn erbyn y bwriad yn pwyso'n drymach nag unrhyw ystyriaethau eraill.  Felly roedd yn argymell gwrthod.

 

      

 

     Er bod y Cynghorydd J. P. Williams yn cydymdeimlo gyda'r ymgeisydd ac yn dymuno cefnogi pwy bynnag sydd am fentro codi ei gartref ei hun ond petai caniatâd yn cael ei roddi i'r datblygiad hwn buasai yn erbyn y polisïau cynllunio oherwydd bod yr annedd yn annedd yn y cefn gwlad.  Cynigiodd y Cynghorydd Williams y dylid derbyn argymhelliad y swyddog o wrthod.  Cafodd ei eilio gan y Cynghorydd B. Durkin.

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:-

 

 

 

     Derbyn adroddiad y Swyddog a gwrthod y cais : Y Cynghorwyr Lewis Davies,

 

     Barrie Durkin, Jim Evans, Kenneth P. Hughes, J.P. Williams            Cyfanswm 5

 

      

 

     Cymeradwyo'r cais yn groes i adroddiad y Swyddog  : Y Cynghorwyr O. Glyn Jones,

 

     R.L. Owen, H. W. Thomas, Selwyn Williams                                      Cyfanswm 4

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y Swyddog a'r argymhelliad i wrthod y cais.

 

      

 

      

 

6.8     36/C/282A - Cais amlinellol ar gyfer codi annedd ynghyd â gosod tanc septig ar dir yn Cae’r Bwl, Rhostrehwfa

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd ei gyflwyno gan unigolyn sy'n perthyn i Swyddog yn gweithio yn yr Adran Amgylchedd a Gwasanaethau Technegol.  Cafodd y Swyddog Monitro olwg ar y cais yn unol â gofynion paragraff 4.6.10.4 y Cyfansoddiad.  Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor yn ei gyfarfod ar 6 Ioanwr 2010 pryd y gofynnodd yr Aelod Lleol am ymweliad.  Cafwyd yr ymweliad hwnnw ar 20 Ionawr 2010.

 

      

 

     Tir amaethyddol yw safle'r cais ac mae y tu cefn i Carneddau sy'n wynebu'r B4422.  Mae'r fynedfa ar hyd lôn sengl o'r B4422.  Y cwestiwn sylfaenol yma yw hwn - a oes ystyriaethau perthnasol sy'n cyfiawnhau gwyro oddi wrth bolisïau'r Cyngor - polisïau i ddiogelu'r cefn gwlad rhag codi tai heb gyfiawnhad?

 

      

 

     Fel cynrychiolydd i'r Aelod Lleol, dywedodd y Cynghorydd W. I. Hughes mai bwriad yr ymgeisydd oedd cynnig cymorth, oherwydd gwaeledd ei dad, i redeg y fferm.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

 

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd H. W. Thomas ei fod yn cefnogi'r cais; mae cenedlaethau o'r un teulu wedi byw yn yr ardal a'r ymgeisydd yn awr yn dymuno bod wrth law i ofalu am y fferm.  Awgrymodd roddi amodau dan Adran 106 ynghlwm wrth annedd amaethyddol.  Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod yma gais am annedd a fydd ar gael ar y farchnad agored a buasai'n rhaid i'r ymgeisydd gyflwyno cais newydd i bwrpas ystyried y datblygiad fel annedd amaethyddol.  Gan y Cynghorydd H. W. Thomas cafwyd cynnig i ganiatáu'r cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd O. Glyn Jones.

 

      

 

     Nododd y Cynghorydd R. L. Owen bod yr annedd yn y cefn gwlad agored a chynigiodd wrthod a chafodd ei eilio gan y Cynghoryd J. P. Williams.

 

      

 

     Fel hyn y bu'r bleidlais :-

 

      

 

Derbyn adroddiad y Swyddog a gwrthod y cais : Y Cynghorwyr Lewis Davies,

 

Barrie Durkin, Jim Evans, Kenneth P. Hughes,  R.L. Owen, J.P. Williams            Cyfanswm 6

 

 

 

Cymeradwyo'r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog  : Y Cynghorwyr O. Glyn Jones, H.W. Thomas, Selwyn Williams.                                            Cyfanswm 3

 

 

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y Swyddog a'r argymhelliad i wrthod y cais.

 

      

 

      

 

7

CEISIADAU ECONOMAIDD

 

      

 

     Nid oedd yna unrhyw geisiadau economaidd i’w penderfynu yn y cyfarfod.

 

      

 

      

 

8

CEISIADAU TAI FFORDDIADWY

 

      

 

     Nid oedd yna unrhyw geisiadau tai fforddiadwy i’w penderfynu yn y Pwyllgor.

 

      

 

      

 

9

CEISIADAU’N GWYRO

 

      

 

9.1     30/C/674 - Cais amlinellol ar gyfer codi wyth o dai trefol, dwy ystafell wely yr un ynghyd â chyfleusterau parcio cysylltiol yn Hen Seidings Rheilffordd, Pentraeth

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan iddo gael ei hysbysebu fel cais sydd yn groes i'r Cynllun Datblygu ond er hynny y swyddogion yn dymuno cymeradwyo.

 

      

 

     Safle yw hwn ar yr hen seidings rheilffordd ond a ddefnyddwyd wedyn i ddibenion masnachol. Cais amlinellol oedd yma a chydag ef cyflwynwyd manylion yn dangos teras o dai.  Yn wreiddiol y bwriad oedd darparu mynedfa o Lôn Clai Mawr ond diwygiwyd y cynllun i gael mynedfa'n uniongyrchol o'r A5025.

 

      

 

     Cyfeiriodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio at dudalen 62 yr adroddiad, a dylai hwnnw nodi bod Pentraeth yn bentref, nid canolfan eilaidd dan ddarpariaethau Polisi HP3 y Cynllun Datblygu Unedol.

 

      

 

     Oherwydd pryderon ynghylch y briffordd, ynghylch dyluniad a lleoliad y safle gofynnodd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd B. Durkin am ymweliad fel bod yr aelodau yn gweld yn glir beth yw cyd-destun y safle.

 

      

 

     PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor yn ymweld â'r safle am resymau a roddwyd.

 

      

 

      

 

10

CYNIGION DATBLYGU GAN GYNGHORWYR A SWYDDOGION

 

      

 

10.1     45/C/83B - Codi sied ar gyfer storio peiriannau yn Tre Wen, Pen-lôn, Niwbwrch

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeisydd yn perthyn i Swyddog sy'n gweithio yn Adain Rheoli Cynllunio y Cyngor Sir.  Cafodd y Swyddog Monitro olwg ar y cais yn unol â gofynion paragraff 4.6.10.4 y Cyfansoddiad.

 

      

 

     Mae'r safle yng nghanol clwstwr bychan o dai ar gyrion pentref Niwbwrch a'r bwriad yw codi sied ar dir union ger sied sydd ar dir y tu cefn i Trewen, Pen Lon, Niwbwrch.  Defnyddir y sied hon i storio peiriannau - pethau megis tractor, trelar, peiriant tyrchu bychan a fan.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y Swyddog a'r argymhelliad i ganiatáu ond gyda'r amodau yn yr adroddiad.

 

      

 

      

 

11

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

11.1     11/LPA/917A/CC - Estyniad ac adnewyddu’r bloc toiled presennol yn cynnwys ciosg yn Bloc Toiled, Sgwar Porth Amlwch, Porth Amlwch

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod ar dir sy'n eiddo i'r Cyngor.

 

      

 

     Y bwriad yma yw ymestyn yr adeilad er mwyn darparu ciosg i werthu byrbrydau a diodydd gyda chyfleusterau coginio sylfaenol.  Ni chredir bod y cynnig hwn yn creu unrhyw niwed i bleserau preswylwyr yr ardal ac mae'r lleoliad gryn bellter o'r tai yn yr ardal a bydd yn rhan o gynllun cyffredinol i wella amgylchedd y cyffiniau.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y Swyddog a'r argymhelliad i ganiatáu ond gyda'r amodau yn yr adroddiad.

 

 

 

      

 

11.2     11/LPA/921/CC - Gosod rhes o baneli haul yn yr hen bwll setlo yn Llynnoedd Setlo Hen waith Mynydd Parys, Amlwch

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn gais gan y Cyngor Sir.

 

      

 

     Dano bwriedir darparu cyfres o baneli haul i greu a chynhyrchu pwer i droi pwmp dwr a ddefnyddir fel rhan o'r cynllun i ladd llwch, rhag cael ei chwythu i gyfeiriad y tai gerllaw o'r pwll setlo.  Y pwnc allweddol yma yw effaith weledol y paneli haul ar yr ardal a hefyd y materion iechyd y cyhoedd pan fo llwch yn cael ei godi gan y gwynt o'r hen bwll setlo yn ystod cyfnodau sych.  

 

      

 

     Nid yw'r offer y bwriedir ei ddarparu yn fawr a bydd y rhan fwyaf ohono yn cael ei guddio o olwg y cyhoedd gan y tyfiant gwyllt yn y lle.  Ni chredir y bydd y cynnig yn cael unrhyw effaith weledol andwyol yn y cyffiniau.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd wedi ymateb yn hwyr iawn ynghylch yr eitem ac mae'r mudiad hwn wedi gofyn am rhoddi amod ynghlwm wrth y caniatâd yn mynnu bod ymchwiliad archeolegol yn cael ei gynnal ar y safle.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y Swyddog a'r argymhelliad i ganiatáu gyda'r amodau yn yr adroddiad a hefyd gydag amod ychwanegol y bydd ymchwiliadau archeolegol yn cael eu cynnal ar y safle.

 

      

 

11.3     34/C/510H/AD - Codi un arwydd totem heb ei oleuo yn Siop Aldi, Llangefni

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod ar dir sy'n eiddo i'r Cyngor.

 

      

 

     Cais yw hwn i godi arwydd totem heb oleuadau ynddo ac yn mesur 6 metr o uchder a 2.5 metr o led.

 

      

 

     Nododd y Cynghorydd O. Glyn Jones bod arwyddion hysbysebu ymhob man ar stad ddiwydiannol Llangefni ond nododd hefyd fod gwaith i bobl yn y llefydd yma yn bwysig iawn i economi'r Ynys a chynigiodd roddi caniatâd.  Cafodd ei eilio gan y Cynghorydd R. L. Owen.  Mewn ymateb dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y Pwyllgor wedi gwrthod y cais hwn ar ddau achlysur o'r blaen.

 

      

 

     Ni fedrai'r Cynghorydd J. P. Williams gytuno bod hysbysebu bwydydd yn diogelu swyddi a chynigiodd dderbyn argymhelliad y Swyddog i wrthod y cis.  Cafodd ei eilio gan y Cynghorydd T. H. Jones.

 

 

 

     Dyma fel y bu'r bleidlais :-

 

      

 

     Derbyn adroddiad y Swyddog a gwrthod y cais: Y Cynghorwyr Lewis Davies,

 

Barrie Durkin, Kenneth P. Hughes,  T.H. Jones, Hefin W. Thomas, J.P. Williams,

 

Selwyn Williams.                                                         Cyfanswm 7

 

 

 

Caniatáu'r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog  : Y Cynghorwyr Jim Evans, O. Glyn Jones, R.L. Owen.                                                                             Cyfanswm 3

 

 

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y Swyddog a'r argymhelliad i wrthod y cais.

 

      

 

11.4     34/LPA/592C/CC - Cais amlinellol ar gyfer codi 4 annedd ar Blotiau 25-28, Cwr y Coed, Llangefni

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai'r Cyngor Sir yw'r ymgeisydd a pherchennog y tir.

 

      

 

     Mae safle'r cais yn dir gyda gwasanaethau arno ar ochr ogledd-ddwyreiniol Llangefni ger tai eraill ac yn agos i'r ysgol gynradd.  Tua'r dwyrain o'r safle y mae'r Dingle.  Cais yw hwn am 4 annedd ac yn gynllun gan y Cyngor i ddarparu unedau fforddiadwy yn unig.  Cafwyd cadarnhad y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y cais yn un am anheddau fforddiadwy yn unig ac mai'r Cyngor yw perchennog y tir ac awgrymodd un ffordd briodol o ddiogelu yr agwedd fforddiadwy, sef trwy roddi amodau cynllunio ynghlwm.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y Swyddog a'r argymhelliad i ganiatáu ond gyda'r amodau yn yr adroddiad a hefyd gydag amod ychwanegol i ddarparu tai fforddiadwy.

 

      

 

11.5     34/LPA/592D/CC - Cais amlinellol ar gyfer codi 3 annedd ar Blotiau 26-28 Nant y Pandy, Llangefni

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai'r Cyngor Sir yw'r ymgeisydd a pherchennog y tir.

 

      

 

 

 

     Mae safle'r cais yn dir gyda gwasanaethau ar ochr ogledd-dwyreiniol Llangefni ger tai eraill ac ysgol gynradd a thua'r dwyrain y mae'r Dingle.  Cais yw hwn am dair uned breswyl, sef cynllun gan y Cyngor i ddarparu unedau fforddiadwy yn unig.  Cadarnhaodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio mai datblygiad oedd yma i godi tai fforddiadwy yn unig a sicrhau hynny trwy osod amod cynllunio ynghlwm gan fod y safle yn eiddo i'r Cyngor.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y Swyddog a'r argymhelliad o ganiatáu gyda'r amodau yn yr adroddiad a hefyd gyda'r amod/amodau i sicrhau tai fforddiadwy.

 

      

 

11.6     36/C/183C - Cais llawn i 10 llecyn i garafannau teithiol a 10 llecyn arall i garafannau teithiol tymhorol ynghyd â llecyn storio dros y gaeaf i garafanau yn y Fronydd, Cerrigceinwen, Bodorgan.

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion yn ôl dymuniad yr Aelod Lleol.

 

      

 

     Ar hyn o bryd mae'r safle yn cael ei redeg fel un gyda thystysgrif ac i garafannau ac i bwrpas gwersylla a lle ynddo i 5 carafan a nifer heb gyfyngiad o bebyll yn y llecyn gwersyllfa.  Ar y safle mae ty ac adeiladau allanol a darn gwastad o dir rhwng y ty/ffordd a'r adeiladau allanol i'w ddefnyddio i ddibenion gwaith carafanau.  Bwriedir ychwanegu 15 o lecynnau ychwanegol i garafanau - 10 yn cael eu defnyddio'n dymhorol, yn cyrraedd ar ddechrau'r tymor ac yn gadael ar ei ddiwedd; 10 yn lecynnau teithiol a charafannau yn cyrraedd y safle yn ôl y galw.  Ond ar ôl ymweld â'r safle gwelwyd yn glir bod carafannau yn cael eu storio arno heb ganiatâd cynllunio. Felly diwygiwyd y cais i gynnwys darpariaeth ar gyfer storio hyd at 20 o garafanau ar ddarn o dir cuddiedig rhwng safle'r carafanau a'r adeiladau.  Mae'r cynigion yma yn cynnwys manylion tirlunio ar y safle a diwygiwyd y rheini mewn ymateb i sylwadau a gafwyd gan gyrff yr ymgynghorwyd â nhw.  Gyda'r cais cyflwynwyd Cynllun Rheoli Traffig.

 

      

 

     Gyda golwg ar ddatrys pryder a arweiniodd at wrthod y cais blaenorol mae'r ymgeisydd yn awr wedi cyflwyno manylion i ddiogelu'r llain gwelededd yn y gyffrodd rhwng y ffordd fynedfa a'r B4422 a hefyd wedi cyflwyno Cynllun Rheoli Traffig gyda'r cais.  Amcan clir y Cynllun Rheoli yw osgoi sefyllfa lle gallai cerbydau sy'n tynnu carafannau ddod i wyneb ei gilydd ar y ffordd fynedfa a dim modd iddynt basio ei gilydd.  Mae'r ymgeisydd wedi nodi 7 llecyn pasio naturiol ar y ffordd fynedfa rhwng y safle a'r B4422.  Fodd bynnag mae'r Awdurdod Priffyrdd wedi datgan bod angen darparu dau lecyn pasio arall ar y darn hwn o'r ffordd (nodir hynny ar y cynllun) ar gost yr ymgeisydd cyn gwneud unrhyw waith datblygu.  Mewn ymateb i'r gofynion hyn dywedodd peirianwyr yr ymgeisydd nad oeddynt hwy na'r ymgeisydd wedi cytuno i ddarparu llecynnau pasio ychwanegol a phrun bynnag nid oedd angen y fath ddarpariaeth gan fod 7 llecyn pasio yn barod ar y darn hwn o'r ffordd.

 

      

 

     Gofynnodd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd W. I. Hughes pam fod yr Adran Priffyrdd wedi gofyn am ddarparu dau lecyn pasio arall pan fo cwmni proffesiynol a gyflogwyd gan yr ymgeisydd wedi nodi 7 o lecynnau pasio naturiol ar y darn o lôn a nodwyd gan yr awdurdod; nid yw'r darn dan sylw yn ddim ond 0.7 milltir o hyd.  Hefyd nododd yr Aelod bod y Pwyllgor wedi ymweld â'r safle yn 2007 a'r unig reswm, y pryd hwnnw, dros wrthod y cais oedd y fynedfa i'r B4422; roedd y mater hwn wedi ei ddatrys.  Aeth y Cynghorydd Hughes ymlaen i ddweud bod yr ymgeisydd wedi cynorthwyo ym mhob ffordd bosib i ddatrys pob mater a godwyd gan yr Awdurdod Priffyrdd.  Mewn ymateb dywedodd yr Uwch Beiriannydd (Rheoli Datblygu a Hawliau Tramwy Cyhoeddus) bod rhai o'r llecynnau pasio yn fynedfeydd i eiddo preifat a hwn oedd y rheswm pam fod yr Awdurdod Priffyrdd am roddi amod ynghlwm wrth unrhyw ganiatâd i'r cais yn gofyn am ddarparu 2 lecyn pasio ychwanegol a hefyd sicrhau llain gwelededd digonol dan Gytundeb Adran 106.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd R. L. Owen ei fod yn fodlon bod mater y fynedfa i'r B4422 wedi ei ddatrys ac y dylid cefnogi'r cais.

 

      

 

     Teimlai'r Cynghorydd H. W. Thomas bod angen cefnogi busnesau o'r fath yn y cefn gwlad gan nodi bod yr ymgeisydd wedi cydymffurfio gyda phob amod y mynodd yr awdurdod arnynt.  Hefyd roedd yr ymgeisydd wedi gwella'r fynedfa i'r B4422 ac roedd yma enillion cynllunio i'r awdurdod.

 

      

 

     Cyfeiriodd y Cynghorydd T. H. Jones at y mater a godwyd yn amod 2, sy'n darllen:  'Ni fydd unrhyw waith datblygu yn digwydd hyd oni fydd y datblygwr wedi adeiladu dau le pasio... yn y mannau hynny a ddangosir.....'  ac aeth ymlaen i gynnig y dylid tynnu amod 2 o argymhelliad y Swyddog yn ei adroddiad a symud ymlaen i ganiatáu'r cais.  Eiliodd y Cynghorydd H. W. Thomas y cynnig.

 

      

 

     Ym marn y Cynghorydd B. Durkin roedd angen rhoddi caniatâd priodol i'r llecynnau pasio ac roedd yn erbyn tynnu amod 2 a chynigiodd gymeradwyo adroddiad y Swyddog.  Eiliodd y Cynghorydd J. P. Williams y cynnig hwn.

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

 

 

     Derbyn adroddiad y Swyddog a chaniatáu'r cais yn amodol ar ddileu amod 2  : Y Cynghorwyr  Jim Evans, T.H. Jones, R.L. Owen, H.W. Thomas.                                                                                                                                                                     Cyfanswm 4

 

 

 

Derbyn adroddiad y Swyddog a chaniatáu'r cais : Y Cynghorwyr Lewis Davies,

 

     Barrie Durkin, Kenneth P. Hughes, O. Glyn Jones, J.P. Williams, Selwyn Williams.                                                                                           Cyfanswm 6

 

 

 

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y Swyddog a'r argymhelliad o ganiatáu gyda'r amodau yn yr adroddiad.

 

      

 

12

OTHER MATTERS

 

      

 

12.1     45/C/325F - Cais llawn i godi 6 annedd ynghyd ag addasu y fynedfa i gerbydau ac i gerddwyr ar dir gyfagos i

 

      

 

     (Gwnaeth y Cynghorydd Selwyn Williams ddatganiad o ddiddordeb yn y cais hwn).

 

      

 

     Dywedwyd bod caniatâd wedi ei roddi i'r cais yn amodol ar lofnodi cytundeb dan Adran 106 - Tai Fforddiadwy a hynny mewn cyfarfod o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar 6 Rhagfyr 2006.  Bellach cafwyd cadarnhad yr Adain Gyfreithiol eu bod mewn sefyllfa i ryddhau'r cytundeb Adran 106 ond oherwydd bod cymaint o amser wedi mynd heibio ers penderfynu ar y cais ac oherwydd mabwysiadu, ym mis Mawrth 2008, ddogfen dan y teitl Canllawiau Cynllunio Atodol - Cyfarwyddyd Dylunio i'r Amgylchedd Trefol a Gwledig, roedd yn rhaid ailgyflwyno'r cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a rhoi'r cyfle iddo ailystyried y mater yng nghyd-destun yr ystyriaethau perthnasol cyfredol.

 

      

 

     Yn ystod y broses o benderfynu ar y cais yn 2006 rhoddwyd sylw i'r bennod ar 'Pellter rhwng Datblygiadau' yn y 'Canllawiau Cynllunio Atodol Drafft - Cyfarwyddyd Dylunio i'r Amgylchedd Trefol a Gwledig' ac er nad oedd y cynnig yn cydymffurfio'n llawn gyda'r canllawiau yn y ddogfen ni chredwyd, ar y pryd bod y cynnig yn mynd i gael effaith ar bleserau cymdogion.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y Swyddog a'r argymhelliad o ganiatáu gyda'r amodau yn yr adroddiad hwnnw.

 

      

 

      

 

      

 

13

CEISIADAU DDIRPRWYWYD

 

      

 

     Cyflwynwyd a derbyniwyd adroddiad Pennaeth Gwasanaethau Cynllunio ynglyn â cheisiadau a ddirprwywyd ac y penderfynwyd arnynt ers cyfarfod blaenorol y Pwyllgor.

 

      

 

      

 

14

APELIADAU

 

      

 

     Nodwyd er gwybodaeth gopi o grynodeb o benderfyniad a wnaed gan yr Arolygydd Cynllunio yng nghyswllt Cefn Glas, Carmel, Llannerch-y-medd - gwrthodwyd yr apêl.

 

      

 

 

 

     RHAN 2 - GORCHMYNION

 

      

 

      

 

15

GORCHYMYN STRYDOEDD UNFFORDD (GWAHANOL LEOLIADAU YN YNYS MôN) 2009

 

      

 

     Cyflwynwyd - adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth (Priffyrdd a Rheoli Gwastraff) ar y pwnc uchod.  

 

      

 

     Dywedodd yr Uwch Beiriannydd (Traffig a Pharcio) bod y Gorchymyn wedi ei baratoi mewn ymateb i nifer o geisiadau a dderbyniwyd i bwrpas cyflwyno systemau traffig unffordd i hwyluso prosiectau ffyrdd diogelach yn y gymuned, gwaith cyffredinol ar y briffordd ac i roddi sylw i faterion eraill yn ymwneud â diogelwch ar y ffyrdd a rheoli traffig.

 

      

 

     Petai'r Gorchymyn hwn yn cael ei gadarnhau heb newidiadau iddo, mae'n golygu cyflwyno system o draffig unffordd yn y llefydd canlynol:-

 

      

 

Ÿ

Llannerch-y-medd

 

Ÿ

Stryd y Dwr

 

Ÿ

Stryd y Ffarmwr

 

Ÿ

Stryd Wellington

 

 

 

Ÿ

Cemaes

 

Ÿ

Lôn Ysgubor

 

 

 

Ÿ

Caergybi

 

Ÿ

Ffordd yr Hen Ysgol, Llain-goch

 

 

 

Ÿ

Amlwch

 

Ÿ

Stryd Bethesda

 

 

 

Roedd copïau o'r Rhybudd o'r Cynnig a chynlluniau yn manylu ar y cynigion a'r symudiadau traffig a ganiateir ar bob safle ynghlwm wrth yr adroddiad.

 

 

 

Dywedwyd na chafwyd yr un gwrthwynebiad i'r Gorchymyn Traffig arfaethedig yn y cyfnod ymgynghori cychwynnol ac nid oedd y Gwasanaethau Argyfwng yn gwrthwynebu.  Yn ystod y cyfnod ffurfiol o hysbysebu cafwyd gwrthwynebiadau yng nghyswllt Caergybi ac Amlwch, ac yn benodol:-

 

 

 

Ÿ

Ffordd yr Hen Ysgol, Caergybi - hyd yma dderbyniwyd 5 llythyr a sail y gwrthwynebiad yw'r anghyfleustra y mae'r cynnig yn ei achosi i breswylwyr yn byw ym mhen de-orllewinol Ffordd yr Hen Ysgol.

 

 

 

Ÿ

Stryd Bethesda, Amlwch - hyd yma derbyniwyd 3 llythyr a chafodd yr Aelod Lleol ei ganfasio gan breswylwyr Stryd Bethesda; o'r cyfanswm o 40 llythyr a yrrwyd allan, roedd 14 o blaid, 13 yn erbyn ac 13 heb ymateb.  Yr oedd y gwrthwynebiadau yn seiliedig ar orfod teithio mwy o bellter, anghyfleustra i'r rheini sy'n mynd i Stryd Bethesda o gyfeiriad gorllewinol a hefyd y posibilrwydd y bydd cynnydd yn y cyflymder os gweithredir ar y cynnig.  Roedd Cyngor Tref Amlwch yn gwbl gefnogol i'r cynnig.

 

 

 

Gyda golwg ar ostwng nifer y gwrthwynebiadau a gyflwynir i'r Pwyllgor yng nghyswllt Gorchmynion Traffig mae'r Gwasanaeth Priffyrdd a Rheoli Gwastraff yn bwriadu gwneud gwaith ymgynghori cychwynnol yn y dyfodol ar symud Gorchmynion Rheoli Traffig, a cheisio sicrhau lefel sylfaenol o ymateb canrannol a lefel sylfaenol o gefnogaeth ganrannol cyn symud ymlaen gyda phroses ymgynghori ffurfiol y Gorchymyn Rheoli Traffig.

 

 

 

PENDERFYNWYD:

 

 

 

Ÿ

Cadarnhau'r Gorchymyn Strydoedd Unffordd (Gwahanol Leoliadau yn Ynys Môn) 2009 yng nghyswllt Llannerch-y-medd, Cemaes ac Amlwch.

 

 

 

Ÿ

gohirio'r cynnig i gyflwyno traffig unffordd yn Ffordd yr Hen Ysgol, Caergybi hyd nes cwblhau rhagor o waith ymgynghori ac o waith ymchwilio ar y safle.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

     Y CYNGHORYDD KENNETH P. HUGHES

 

     CADEIRYDD