Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion dogfennau , 3 Mawrth 2004

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Dydd Mercher, 3ydd Mawrth, 2004

PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION

 

Cofnodion y cyfarfod ar 3 Mawrth 2004

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd R. Ll. Hughes - Cadeirydd

Y Cynghorydd J. Arwel Edwards - Is-Gadeirydd

 

Y Cynghorwyr John Byast, D. D. Evans, P. M. Fowlie, Dr. J. B. Hughes, T. Ll. Hughes, O. Glyn Jones, W. Emyr Jones, R. L. Owen, Goronwy Parry MBE, Gwyn Roberts, John Roberts, J. Arwel Roberts, W. T. Roberts, H. W. Thomas, W. J. Williams.

 

 

 

WRTH LAW:

 

Cynllunio :

Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Cynllunio)

Rheolwr Rheoli Cynllunio (DFJ)

Cynorthwy-ydd Cynllunio (EH)

 

Priffyrdd:

Uwch Beiriannydd (Rheoli Datblygu) (EJ)

Swyddog Rheoli Datblygu (RE)

 

Cyfreithiwr (RWJ)

Cynorthwy-ydd Gweinyddol (CWP)

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Y Cynghorydd O. Gwyn Jones

 

 

 

HEFYD YN BRESENNOL:

 

Aelodau Lleol :  Y Cynghorwyr Mrs B. Burns (eitem 6.1),

W. J. Chorlton (eitem 4.4), D. R. Hughes (eitem 4.10),

R. G. Parry OBE (eitem 7.3), G. Alun Williams (eitem 4.11)

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at farwolaeth Mrs Kitty Jones Llanfaelog, gwraig y diweddar Gynghorydd Bob Jones.  Safodd pawb oedd yn bresennol fel arwydd o'u parch.

 

Deallodd yr aelodau bod gwraig y Cynghorydd Gwyn Jones yn yr ysbyty a chyfleuwyd dymuniadau gorau'r aelodau i Mrs Lynne Jones.

 

LLYTHYRAU CYNRYCHIOLIADOL YNGLYN Â CHEISIADAU CYNLLUNIO

 

Mynegwyd pryder o'r llawr ynglyn â byrder yr amser rhoddwyd i'r aelodau i ddarllen llythyrau yn gwrthwynebu ac o blaid ceisiadau cynllunio.  Adroddodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod pob gohebiaeth ar gael i'w archwilio gan y cyhoedd yn y Swyddfa Gynllunio yn ystod oriau normal y swyddfa.  Cytunwyd y dylai'r sefyllfa gael ei hystyried ymhellach.

 

1

DATGANIAD O DDIDDORDEB

 

Cafwyd datganiadau o ddiddordeb gan Aelodau a Swyddogion a chânt eu cofnodi dan yr eitemau perthnasol.

 

2

COFNODION

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd cofnodion y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 4 Chwefror 2004.

(Tudalennau 104 - 112, Cyfrol y Cyngor 4 Mawrth, 2004)

 

 

 

3

YMWELIADAU Â SAFLEOEDD

 

 

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd adroddiad ar yr Ymweliadau â Safleoedd Cynllunio a gynhaliwyd ar 18 Chwefror 2004.

 

 

 

4

CEISIADAU'N CODI O'R COFNODION

 

 

 

4.1

10C86 - CODI GAREJ DDWBL BREIFAT YN TIDE COTTAGE, 1 Y FRON, ABERFFRAW

 

 

 

Ymwelwyd â safle'r cais gan yr Aelodau  yn ystod Chwefror ar gais yr aelod lleol oherwydd pryder trigolion lleol ynglyn â'r cynnig.

 

 

 

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio i swyddogion ymweld â'r safle yn dilyn ymweliad yr aelodau â'r safle ac yr oeddent yn cadarnhau y gellid lleoli'r garej o fewn libart yr ardd heb fynd ar y llwybr cyhoeddus sydd yng nghefn Tide Cottage.

 

 

 

Dywedodd y Swyddog Cynllunio fod y datblygiad yn un derbyniol yn ei holl agweddau ac argymhellodd ganiatáu'r cais.  

 

 

 

Ailadroddodd y Cynghorydd Glyn Jones, yr aelod lleol, ei bryderon blaenorol ynglyn â maint y datblygiad o gymharu â'r hyn sydd o gwmpas.  Roedd hyn yn orddatblygu.

 

 

 

Roedd y Cynghorydd Fowlie yn teimlo nad oedd ganddo ddiddordeb i'w datgan er fod ei rieni yn byw ar y stad.  Roedd y Cynghorydd Fowlie yn teimlo bod y datblygiad heb fod yr un faint â gweddill y tai ar y stad dai preifat hon.

 

 

 

Cadarnhaodd y Swyddog Cynllunio y byddai angen caniatâd cynllunio i newid y defnydd o fod ddefnydd domestig.

 

 

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais am y rhesymau a roddwyd a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

 

 

4.2

12C66F - ADDASU AC EHANGU YNGHYD Â NEWID DEFNYDD Y GANOLFAN ARFOROL I FOD YN WESTY, BAR A LLE BWYTA YN THE OLD BATHS, BIWMARES

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio i gyfarfod mis Chwefror ohirio ystyried y cais hwn oherwydd cyflwyno gwybodaeth ychwanegol a chynlluniau diwygiedig gan asiantiaid yr ymgeisydd.

 

 

 

Yn ogystal â'r sylwadau a dderbyniwyd cyn hyn ac y ceir adrodd arnynt yn adroddiad y swyddog bu i asiant yr ymgeisydd gyflwyno gohebiaeth ffacs pellach yn gofyn i'r Pwyllgor benderfynu ar y cais heddiw trwy ei ddirprwyo i swyddogion i ddatrys manylion.  Hefyd cafwyd llythyr ychwanegol yn cefnogi'r cais ynghyd â 5 llythyr ychwanegol yn gwrthwynebu ac fe'u rhoddwyd gerbron y Pwyllgor.

 

 

 

Roedd CADW wedi mynegi pryder ynglyn â'r effaith weledol gâi'r cynnig ar y castell.  Roedd y Cyngor Tref yn gwrthwynebu.  Ni chafwyd gwrthwynebiad gan yr un person neu gorff y mae'n rhaid ymgynghori'n statudol gyda nhw.  Roedd deiseb ac arni 50 o enwau yn gwrthwynebu y cais a 21 o lythyrau yn erbyn.

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod safle'r cais wedi ei leoli mewn lle amlwg ac mewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.  Mae'r cais hwn yn ymwneud ag ailddatblygu y safle i ddarparu gwesty tri llawr, bar a bwyty.  Mae caniatâd cynllunio eisoes ar y safle ar gyfer denu ymwelwyr.

 

 

 

Roedd y swyddogion yn gweld yr egwyddor o ddatblygu yn dderbyniol.  Fodd bynnag, ni ellir cyfiawnhau yn bensaernïol y talcen agored oedd yn wynebu'r Grîn, nac uchder gormodol yr adeilad yn yr ardal amlwg ac amgylcheddol sensitif yma.   Y farn oedd y byddai'r datblygiad yn cael effaith niweidiol ar yr grdal cadwraeth hon ac ar y castell.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Nododd yr Adran Briffyrdd fod darpariaeth wedi ei wneud ar gyfer parcio staff ar y safle ac nad oedd ganddynt wrthwynebiad i'r cais.

 

 

 

Roedd polisïau cynllunio perthnasol yn ymwneud â datblygiad arfordirol wedi eu hystyried wrth benderfynu argymhellion y swyddog i'r Pwyllgor.  Roedd y swyddog yn argymell gwrthod y cais am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.

 

 

 

PENDERFYNWYD gwrthod y cais am y rhesymau a geir yn adroddiad y swyddog.

 

 

 

4.3

CAIS ECONOMAIDD

 

 

 

12C141T - AILDDATBLYGU PENRHYN SAFNAS I DDARPARU UNEDAU NEWYDD YN LLE'R RHAI GWREIDDIOL AC EHANGU'R CYFLEUSTERAU MOROL GWREIDDIOL YNGHYD AG ADDASU'R FYNEDFA YM MHENRHYN SAFNAS, BIWMARES

 

 

 

Ymwelodd yr aelodau â'r safle uchod yn ystod Chwefror ar argymhelliad y swyddog er mwyn cael gwell dealltwriaeth o unrhyw effaith y gallai'r datblygiad arfaethedig ei gael.  

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod adroddiad ynglyn â'r holl bolisïau perthnasol a gymerwyd i ystyriaeth yn adroddiad y swyddog.  Mae'r cais hwn yn ymateb yn bositif i ddatblygu cynaliadwy, mae'n ymwneud ag ailddatblygu tir a ddatblygwyd cyn hyn yn unol â pharagraff 10 o Polisi Cynllunio Cymru (Mawrth 2002).  Roedd y swyddog yn gweld bod y cais hwn yn dderbyniol ac yn argymell caniatau y cais.

 

 

 

Roedd ymgynghorwyr statudol wedi cyflwyno sylwadau ond heb wrthwynebu'r cynnig.   Nid oedd Gwasanaethau Cynllunio Archeolegol Gwynedd, yn gwrthwynebu yn amodol ar osod yr amodau perthnasol ar unrhyw ganiatâd a roddir.

 

 

 

Mynegodd y swyddog fod tri llythyr arall yn cefnogi i law yn ychwanegol i'r rhai yr adroddwyd amdanynt yn adroddiad y swyddog ac a roddwyd gerbron yn y cyfarfod. Roedd Cyngor Tref Biwmares wedi dangos eu cefnogaeth i'r cais, yn amodol ar Gytundeb Adran 106 i reoli y defnydd o'r unedau yn y dyfodol.  Adroddwyd am 15 llythyr oedd yn gwrthwynebu a dderbyniwyd cyn cyhoeddi adroddiad y swyddog a roddwyd gerbron yn y cyfarfod.  Nodwyd y byddai'r ymgeiswyr yn darparu arosfan bws ar y safle; mae'r fynedfa arfaethedig i'r safle wedi ei hail-leoli gan yr ymgeiswyr.

 

 

 

Roedd y cais yn cael ei ystyried i fod yn gyfraniad positif i ddatblygiad cynaliadwy gyda budd i gludiant cyhoeddus.  Byddai'r cais yn creu gwaith heb gael effaith andwyol ar fwynderau.  Byddai'r dyluniad arfaethedig yn gwella gwedd y safle ac yn dderbyniol yn y tirlun.  Nid oedd gan CCW unrhyw wrthwynebiad.

 

 

 

Adroddodd y Cynghorydd R. L. Owen iddo gael sicrwydd y byddai'r tenantiaid presennol yn cael aros ar y safle.

 

 

 

PENDERFYNWYD rhoddi pwerau dirprwyd i'r Pennaeth Gwasanaethau Cynllunio  gymeradwyo'r cais am y rhesymau a rhoddwyd, a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

 

 

4.4

19C831A - CAIS AMLINELLOL I GODI BYNGALO DORMER YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU AR DIR GER ARDRUM, TAN YR EFAIL, CAERGYBI

 

 

 

Ymwelodd yr aelodau â safle'r cais ym mis Chwefror.

 

 

 

Roedd y Rheolwr Rheoli Cynllunio yn ystyried fod datblygu'r safle hwn yn anfoddhaol oherwydd ei effaith weledol ar gymeriad a phreifatrwydd eiddo cyfagos.

 

 

 

 

 

Anerchodd y Cynghorydd John Chorlton, yr Aelod Lleol, y cyfarfod.  Roedd o'r farn y byddai'r annedd arfaethedig yn integreiddio yn dda i'r ardal heb gael unrhyw effaith andwyol ar fwynderau eiddo cyfagos.  Roedd yn ystyried y byddai'r datblygiad yn twtio'r safle a oedd cyn hynny yn cael ei ddefnyddio i gadw colomenod gyda gweddill y tir yn cael ei ddefnyddio fel lle garddio.

 

 

 

Mynegodd y Cynghorydd Arwel Roberts ei siom fod y cais hwn yn cael ei argymell i'w wrthod gan y swyddogion o gymryd i ystyriaeth y ffaith fod caniatâd yn bodoli ar gyfer 7 annedd ar dir amlwg gerllaw.  Roedd yn ystyried y fan i fod yn le llenwi i mewn naturiol.  Nododd y Cynghorydd Roberts nad oedd unrhyw un o'r bobl y mae'n rhaid ymgynghori â nhw yn statudol  wedi codi gwrthwynebiad i'r datblygiad gan gynnwys yr Adran Briffyrdd.  Roedd yn cynnig y dylai'r cais gael ei ganiatáu.

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd R. L. Owen y gallai'r safle gael ei gategoreiddio fel tir diffaith ac yn anfoddhaol ar gyfer unrhyw ddefnydd arall.  Roedd o'r farn y byddai uchder crib to yr annedd yn rhedeg yn gyfochrog a chrib to yr eiddo yng nghefn y safle.

 

 

 

Roedd y Cynghorydd D. D. Evans yn ystyried y byddai'n gwella gwedd y safle ac eiliodd.

 

 

 

Penderfynodd yr aelodau dderbyn y cais yn groes i argymhellion y swyddogion am y rhesymau a ganlyn :

 

 

 

-  mai mater o farn yw p'un a yw  ty yn effeithio er gwaeth ar breifatrwydd a chymeriad eiddo arall o'i gwmpas ac nid oedd y Pwyllgor yn meddwl mai dyma oedd yr achos yma,

 

-  byddai'r datblygiad yn llenwi gwagle naturiol yn y tirlun a

 

-  byddai'r cynnig yn gwella gwedd yr ardal.

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor byddai'r cais yn cael ei ddirprwyo i'r Pwyllgor hwn yn ei gyfarfod nesaf i ystyried adroddiad ar oblygiadau caniatáu'r cais ac i benderfynu ar y cais.

 

 

 

4.5

30C192A - CAIS AMLINELLOL AR GYFER DYMCHWEL YR ADEILADAU PRESENNOL A CHODI 22 O FFLATIAU YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD A MAN PARCIO CYSYLLTIEDIG YNG NGWESTY RHOSTREFOR, FFORDD AMLWCH, BENLLECH.

 

 

 

Dirprwywyd ystyried y cais hwn yn y cyfarfod diwethaf nes y byddai ymgynghori gyda'r ymgeiswyr wedi dod i ben.

 

 

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod copi o lythyr gan Britannia Projects (asiant yr ymgeiswyr) ac e-bost gan David Lewis Roberts wedi ei dderbyn ar fore y cyfarfod ac wedi eu rhoi allan i'r aelodau.  Roedd llythyr hefyd wedi ei dderbyn gan Ieuan Wyn Jones AS.  Roedd sylwadau eraill wedi cael sylw yn adroddiad y swyddog a'u rhoi gerbron y cyfarfod.

 

 

 

Roedd y sawl y mae'n rhaid ymgynghori â nhw  wedi cyflwyno sylwadau ond heb wrthwynebu'r cynnig.

 

 

 

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio nad oedd unrhyw sail dros gadw'r safle ar gyfer defnydd fel gwesty ac ni fyddid yn gwrthwynebu ailddatblygu.  Roedd yr egwyddor o greu tai yn dderbyniol ar gyfer y safle.  Roedd o fewn y pentref ac nid oedd unrhyw sail i'w gosod fel tai gwyliau yn unig.  Roedd dwysedd uwch na'r cyffredin ar gyfer y safle ond roedd yn dderbyniol yn y lleoliad hwn.  Roedd Priffyrdd yn fodlon gyda'r fynedfa newydd arfaethedig.  Roedd teimlad fod y cais hwn yn ymateb positif i bolisïau tai.  Roedd y swyddog yn argymell cymeradwyo'r cais yn amodol ar ddileu amod 11 yn adroddiad y swyddog oherwydd bwriad yr ymgeisydd i ddarparu gwell mynedfa i'r safle.

 

 

 

Roedd y Cynghorydd J. B. Hughes yn dymuno iddo gael ei gofnodi nad oedd wedi mynegi barn o blaid nac yn erbyn y cais cyn y cyfarfod.  Dywedodd y Cynghorydd Hughes ei fod yn bryderus am faint, dwysedd ac uchder y cynnig mewn perthynas â'r safle.

 

      

 

     Cywirodd yr adroddiad ysgrifenedig ynglyn â'i sylwadau ar y cais.  Yr hyn yr oedd wedi ei ddweud oedd y byddai'n foddhaol cael adeilad deulawr lle bo'r adeilad presennol yn ddeulawr neu fel arall efallai dim ond un llawr fyddai'n foddhaol i'r cais.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd J. B. Hughes hefyd yn cwestiynu a oedd y cais hwn yn unol ag Adran 2.7 o Bolisi Cynllunio Cymru ar ddatblygu cynaliadwy o gymryd i ystyriaeth y cynnydd yn nwysedd y datblygiad (tudalen 69 o adroddiad y swyddog).

 

      

 

     Dywedodd i swyddog cynllunio ddweud wrtho fod dwysedd yn berthnasol ar gyfer fflatiau er fod y Cyngor Cymuned dan yr argraff nad oedd.  Dywedodd fod polisi PH2 o Gynllun Datblygu Unedol (heb ei fabwysiadu hyd yma) yn awgrymu y dylid cael dwysedd o tua 30 annedd yr hectar ar gyfer datblygiadau newydd.  Awgrymodd y byddai dwysedd o'r fath, mewn perthynas â'r safle hwn, yn rhoi ffigwr o 8 neu 9 fflat ac nid 18.

 

      

 

     Yn natblygiad cyfochrog Trem y Don, ychydig flynyddoedd yn ôl, roedd swyddogion wedi gwneud cais ar i ddwysedd y cynnig gael ei ostwng o 6 i 4.  Awgrymodd y dylai cysondeb arwain i gasgliad tebyg ar gyfer y datblygiad hwn.

 

      

 

     Tra'n derbyn fod Polisi Cynllunio Cymru yn derbyn y gall dwysedd uwch na 30 yr hectar fod yn dderbyniol mewn rhai achosion lle roedd materion cynaliadwyaeth yn berthnasol, nid oedd yn tybio bod materion cynaliadwyaeth wedi eu cyfiawnhau yn yr achos yma.  Roedd y Cynghorydd Hughes yn cytuno bod safle'r cais wedi'i leoli ar lwybr bws, ond roedd yn cwestiynu datganiad y swyddog ar dudalen 70 o'r adroddiad a oedd yn dweud "mae safle'r cais wedi ei leoli mewn safle canolog gyda mynediad i lwybrau cludiant cyhoeddus, ble mae datblygiadau dwysedd uwch yn cael eu cefnogi gan Bolisi Cynllunio Cymru (paragraff 2.5.3)".  Roedd y Cynghorydd Hughes yn teimlo y byddai hyn  yn berthnasol ar gyfer canol trefydd mwy gyda dwysedd uwch o boblogaeth a gyda'u rhwydwaith cludiant eu hunain.  A oedd y swyddog yn golygu fod y safle wedi ei leoli yng nghanol Benllech ynteu fod Benllech wedi ei leoli yn ganolog ar yr Ynys ?  Nid oedd y pwynt yn glir.

 

      

 

     Nid oedd y cynnig yn lleihau'r angen i ddibynnu ar geir ac nid oedd yn gynaliadwy yn yr ystyr o gyfiawnhau dwysedd uwch na'r hyn a argymhellir ym Mholisi PH2 y Cynllun Datblygu Unedol.  

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd Dr. J. B. Hughes wrthod y cais am y rhesymau a roddwyd uchod ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd W. T. Roberts.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod dwysedd y cynnig yn dderbyniol mewn perthynas â maint y safle.  Nid oedd Polisi PH2 yn crybwyll dwysedd o 30 annedd yr hectar ond roedd cyd-destun y polisi yn ei gwneud yn glir mai dwysedd cyfartaleddog ydoedd ac nid uchafswm.  Roedd y Cynllun Datblygu Unedol yn rhagweld yr angen ar gyfer y dwysedd uchaf bosib y byddai cynllunio da yn ei ganiatáu.  Roedd cynnig ar gyfer 18 uned ar y safle hwn yn dderbyniol.

 

      

 

     Adroddodd y Swyddog Priffyrdd eu bod yn gweld y cynnig yn dderbyniol ac nid oedd unrhyw wrthwynebiad.   Roedd cofnodion yn dangos nad oedd hanes o ddamweiniau yn yr ardal arbennig hon.

 

      

 

     Pan ofynnodd y Cynghorydd W. J. Williams i'r Cyfreithiwr fynegi barn ar y gwahaniaeth barn parthed polisi yn yr achos hwn, cadarnhaodd ei fod yn cytuno gyda dehongliad y Swyddog Cynllunio.  

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd Arwel Roberts derbyn argymhellion y swyddog i ganiatau y cais ac eiliwyd gan y Cynghorydd P. M. Fowlie.

 

      

 

     Cadarnhaodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio mewn ymateb i gwestiwn na fyddai yn iawn i geisio cyfyngu'r datblygiad i ddau lawr yn unig.

 

      

 

     O 9 pleidlais i 5 derbyniwyd yr argymhelliad.

 

      

 

     PENDERFYNWYD rhoddi pwerau dirprwyedig i gymeradwyo'r cais i Bennaeth Gwasanaeth Cynllunio am y rhesymau a roddwyd, a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog ac yn amodol ar gwblhau yn foddhaol ymgynghori ychwanegol.

 

      

 

     Ni wnaeth y Cynghorwyr Glyn Jones a Gwyn Roberts bleidleisio ar y cais.

 

      

 

4.6

30C359C - AILDREFNU'R MAES CARAFANNAU YNGHYD Â NEWID DEFNYDD RHIF CAE 8748 ER MWYN LLEOLI 16 UNED GWYLIAU WRTH DROSGLWYDDO 2 UNED SYMUDOL O'R SAFLE A GANIATAWYD DAN CANIATÂD CYNLLUNIO RHIF T/1239B (RHIF CAE 8255), 6 UNED SYMUDOL O'R SAFLE A GANIATAWYD DAN GANIATÂD CYNLLUNIO RHIF T/1239F (RHIF CAE 7943) A 8 UNED SYMUDNOL O'R SAFLE A GANIATAWYD TYSTYSGRIF CYFREITHLONDEB RHIF 30C359 (RHIF CAE 7933), YNGHYD Â DEFNYDD YR UNEDAU AR GAEAU 8748 A 7933 GAN UN AI CARAFANNAU, CARTREFI MODUR SYMUDOL NEU BEBYLL YM MLAS UCHAF, PARC CARAFAN, TYN-Y-GONGL.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio ei fod yn disgwyl y byddai adroddiad llawn yn cael ei gyflwyno i gyfarfod fis Ebrill oherwydd pwysau gwaith cyfredol yr Adran Gynllunio a swm y gwaith oedd yn gysylltiedig â'r cais hwn.

 

      

 

     (Mynegodd y Cadeirydd diddordeb anuniongyrchol yn y cais).

 

      

 

     PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad a gohirio'r cais.

 

      

 

4.7

30C380A - CYNLLUNIAU LLAWN AR GYFER CODI ANNEDD AR DIR GER 4 TAI BETWS, LLANBEDRGOCH.

 

      

 

     Yn y cyfarfod diwethaf roedd yr aelodau yn caniatau'r cais hwn yn groes i argymhelliad y swyddog i wrthod, am y rhesymau a ganlyn :

 

      

 

Ÿ

câi'r datblygiad ei ymgorffori'n naturiol o fewn ffin y pentref

 

Ÿ

bod gan bob eiddo yn y teras sydd yn sownd fynedfa breifat

 

Ÿ

bod yr ymgeisydd yn berson lleol

 

Ÿ

na fyddai mwy o traffig yn cael ei greu trwy'r fynedfa fyddai'n cael ei rhannu.

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor gohiriwyd y cais fel y gallai'r Pwyllgor ystyried adroddiad pellach ynglyn â goblygiadau caniatáu ac i benderfynu ar y cais.

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y mater ynglyn â darpariaeth tanc septig i'w rannu yn parhau.  Roedd yn dymuno i'r cais gael ei wrthod oni bai y gellir delio â'r mater.  Cadarnhaodd fod dau o'r rhesymau a rhoddwyd ar gyfer caniatau heb fod yn rhesymau cynllunio ac un oedd "rheswm person lleol".

 

 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Gwyn Roberts gymeradwyo'r cais ac eiliwyd gan y Cynghorydd W. J. Williams.

 

 

 

Roedd y Cynghorydd Hefin Thomas yn dymuno ar i'r cais gael ei gyfeirio yn ôl i'r Pwyllgor hwn os na chaiff y mater ei ddatrys.  Cafwyd trafodaeth ymhellach ar y mater a cheisiodd y Cyfreithiwr gael eglurhad a ddylai'r mater gael ei ddwyn yn ôl cyn neu ar ôl y gwneid y penderfyniad i ddirprwyo.

 

 

 

Awgrymodd y Cadeirydd i'r Pwyllgor mai'r cynnig oedd i'r cais gael ei ddirprwyo i Bennaeth Gwasanaethau Cynllunio i'w gymeradwyo yn amodol ar ddatrys yn foddhaol y pryderon parhaol ynglyn â'r tanc septig, os na ellid cael ateb boddhaol i'r mater awdurdodwyd y swyddog i wrthod y cais.  Yn y ddau achos byddai'r mater yn cael ei adrodd yn ôl i'r Pwyllgor wedi i'r swyddog wneud ei benderfyniad.

 

 

 

PENDERFYNWYD dirprwyo cymeradwyo'r cais i Bennaeth Gwasanaeth Cynllunio yn amodol ar gytundeb boddhaol mewn perthynas â mater y tanc septig.  Os na cheid hyn, y cais i'w wrthod gan y swyddog ac, yn y ddau achos, cyflwyno adroddiad yn ôl i'r Pwyllgor hwn er gwybodaeth.

 

 

 

Dywedodd y Cyfreithiwr i'r pedwar ty yn Tai Betws gael eu hadeiladu yn y lle cyntaf fel tai Cyngor, ac y mae tri ohonynt bellach yn eiddo preifat.  Dywedodd fod cyfamod yn cyfyngu ar ddefnydd rhan o safle'r cais ar gyfer defnydd fel gardd yn unig.  Mae rhan o'r adeilad arfaethedig wedi ei leoli ar dir sydd yn dod o dan y cyfamod.

 

 

 

4.8

39C291A - CAIS AMLINELLOL AR GYFER CODI 30 O DAI AMRYWIOL YN CYNNWYS 18 O FFLATIAU A 12 O DAI DEULAWR YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GEIR A CHERDDWYR YN STRYD PACED, PORTHAETHWY

 

      

 

     (Mynegodd y Cynghorydd D. D. Evans ddiddordeb yn y cais).

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio y caiff adroddiad llawn ei gyflwyno ar y cais hwn i gyfarfod nesaf y Pwyllgor hwn.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a gohirio'r cais.

 

      

 

4.9

39C291B - DYMCHWEL ADEILAD DIWYDIANNOL A CHODI 8 ANNEDD, SEF 6 TY NEWYDD A 2 ADDASIAD YNGHYD AG ADDASU ADEILAD JOHN EDWARDS YN GANOLFAN TREFTADAETH A CHREU MYNEDFA NEWYDD I GEIR A CHERDDWYR YN STRYD PACED, PORTHAETHWY.

 

      

 

     (Mynegodd y Cynghorydd D. D. Evans ddiddordeb yn y cais).

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio y caiff adroddiad llawn ei gyflwyno ar y cais hwn i gyfarfod nesaf y Pwyllgor hwn.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a gohirio'r cais.

 

      

 

4.10

  40C233 - CADW'R TRAC MYNEDFA YN SIOP Y RHOS, LLIGWY

 

      

 

     Ymwelwyd â safle'r cais yn ystod Chwefror ar gais yr Aelod Lleol.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod Polisi Cyffredinol 1, Polisi 30 (Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol) a Nodyn Cyngor Technegol 18 ar Gludiant wedi eu hystyried wrth benderfynu ar argymhelliad i'r Pwyllgor.  Dywedodd nad oedd yr Adran Briffyrdd â gwrthwynebiad i'r datblygiad.  Y pwnc oedd effaith y trac ar yr ardal o'i gwmpas.

 

      

 

     Roedd y Rheolwr Rheoli Cynllunio yn gweld y cais yn dderbyniol ar yr amod y câi'r trac ei gadw i bwrpasau amaethyddol.  Gosodwyd amod cynllunio i'r perwyl hwn.

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Derlwyn Hughes cadarnhaodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio y byddai yn iawn i'r ymgeisydd symud carafán ar draws y trac yn awr ac yn y man, er y byddai hyn yn dibynnu ar ba mor aml, ar ba raddfa ac i ba bwrpas.  

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd Hughes yn dymuno cofnodi mai Rheolwr Safle Carafannau Tyddyn Isaf sydd gerllaw yw'r ymgeisydd ac nad yw'r gweithgareddau ffarmio yn Siop y Rhos yn llawer mwy na rhyw 6 i 8 o wartheg a thua 30 o ddefaid.  Gofynnodd y Cynghorydd Hughes i'r Rheolwr Rheoli Cynllunio os y gallai ddiffinio symudiad "achlysurol" o garafannau.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio y byddai amodau mewn grym i neilltuo defnydd y trac i ddibenion amaethyddol yn unig.  Byddid yn cymryd y camau angenrheidiol pe byddai torri ar yr amod.

 

      

 

     Nododd y Cynghorydd David Evans fod yr ymgeisydd wedi gwneud gwaith sylweddol yn gosod y trac ac wedi gwario llawer.  Mewn ymateb i gwestiwn y Cynghorydd Evans cadarnhaodd y Swyddog Cynllunio y gallai'r trac gael ei darmacio rhyw dro eto heb dderbyn caniatâd pellach.

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd Hefin Thomas wrthod y cais ac eiliwyd gan y Cynghorydd W. T. Roberts.  Cynigiodd y Cynghorydd Fowlie gymeradwyo'r cais ac eiliwyd gan y Cynghorydd John Roberts.

 

      

 

     Gan fod y pleidleisiau yn 7 yr un i'r naill ochr, defnyddiodd y Cadeirydd ei bleidlais fwrw i gymeradwyo'r cais.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd ac yn amodol ar i'r trac gael ei ddefnyddio i bwrpasau amaethyddol yn unig.

 

      

 

4.11

  46C137D - CAIS LLAWN AR GYFER CODI 34 O DAI TRI LLAWR YNGHYD Â CHREU MYNEDFA I GERBYDAU A CHERDDWYR AR DIR YN YR HEN GAE CRICED, TREARDDUR

 

      

 

     Yng nghyfarfod mis Chwefror roedd yr aelodau  yn tueddu i wrthod y cais hwn yn groes i argymhelliad y swyddog i'w ganiatáu am y rhesymau a ganlyn :

 

      

 

Ÿ

bod y nifer arfaethedig o anheddau yn annerbyniol

 

Ÿ

bod dwysedd y cais yn groes i'r gymuned

 

Ÿ

pryderon yn lleol ynglyn â llifogydd yn yr ardal.

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor gohiriwyd y cais er mwyn ystyried adroddiad ar oblygiadau gwrthod y cais.  

 

 

 

Roedd y Rheolwr Rheoli Cynllunio am atgoffa'r aelodau o ystyriaethau cost pe baent yn glynu wrth eu penderfyniad blaenorol a phe bai'r ymgeisydd yn apelio yn erbyn eu penderfyniad.  Tra bod rhif a dwysedd yr anheddau o bosib yn ystyriaeth gynllunio o bwys, roedd y swyddogion o'r farn fod y dwysedd yn briodol i'r ardal ac fod y safle yn ddigonol ar gyfer y niferoedd a argymhellir.  Ni ellid yn realistig ddadlau mewn apêl bryderon yr aelodau mewn perthynas â llifogydd gan i asesiadau arbenigol manwl gael eu gwneud gan asiant yr ymgeisydd a gan Asiantaeth yr Amgylchedd.  Ni allai swyddogion ennill apêl am y rhesymau hyn ac, os câi'r cais ei wrthod, ni allai'r swyddogion amddiffyn y penderfyniad mewn apêl.  Roedd yn argymell yn gryf iawn i'r aelodau ganiatáu'r cais.  

 

 

 

Roedd y Cynghorydd Alun Williams, yr aelod lleol, yn teimlo yn hyderus iawn y gellid amddiffyn y penderfyniad mewn apêl gan ei fod yn teimlo y byddai yn creu datblygiad rhubanaidd.  Nid oedd digon o lecynnau agored yn yr ardal, a theimlai y byddai'r math yma o ddatblygiad yn newid y pentref glan-y-môr hwn.  Gwnaeth gais ar i'r cais cynllunio gael ei wrthod.

 

 

 

Gofynnodd y Cynghorydd Goronwy Parry os bu i'r caniatâd blaenorol gael ei weithredu'n iawn ac atebodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio mai barn yr Adran oedd i hyn ddigwydd.  Roedd y Cynghorydd Parry yn bryderus ynglyn ag ymateb Asiantaeth yr Amgylchedd ynglyn â'r posibilrwydd o lifogydd a byddai felly yn gwrthwynebu'r cais.

 

 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Arwel Roberts ychwanegu rheswm pellach tros wrthod y cais sef nad oedd darpariaeth tai fforddiadwy o fewn y cynllun.  Nid oedd y Cynghorydd J. Arwel Roberts yn tybio fod tai fforddiadwy yn fater yma gan i'r pwnc fod o flaen y Pwyllgor cyn hyn.  Cynigiodd gymeradwyo'r cais.  Eiliwyd yr argymhelliad gan y Cynghorydd P. M. Fowlie am y rheswm fod sicrhad wedi ei roi nad oedd unrhyw risg o lifogydd.

 

 

 

Roedd y Cynghorydd Hefin Thomas yn cymeradwyo'r argymhelliad a thynnodd sylw at beryglon apêl a risg costiau pe câi'r cais ei wrthod.  Gwnaeth gais ar i bleidlais wedi ei chofnodi ddigwydd.

 

 

 

Yn unol â pharagraff 18.5 o Reolau Gweithdrefnau'r Cyngor PENDERFYNWYD cynnal pleidlais wedi ei chofnodi mewn perthynas â'r cais a bu'r pleidleisio fel a ganlyn :

 

 

 

YN ERBYN Y CYNNIG (i wrthod y cais) :

 

Y Cynghorwyr J. Arwel Edwards, D. D. Evans, Dr. J. B. Hughes, R. L. Owen, Goronwy Parry MBE, John Roberts (6)

 

 

 

O BLAID Y CYNNIG (i gymeradwyo'r cais) :

 

Y Cynghorwyr John Byast, P. M. Fowlie, R. Ll. Hughes, Trevor Ll. Hughes, O. Glyn Jones, J. Arwel Roberts, W. Tecwyn Roberts, Hefin Thomas (8)

 

 

 

ATAL PLEIDLAIS :

 

Y Cynghorydd Gwyn Roberts (1)

 

 

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais am y rhesymau a roddwyd a chyda'r amodau.

 

 

 

5     CEISIADAU ECONOMAIDD

 

      

 

      

 

5.1

13C109A - DYMCHWEL YR ADEILADAU AMAETHYDDOL DIDDEFNYDD A CHODI 10 TY TREF YNGHYD AG ADDASU'R FYNEDFA BRESENNOL YN TY'N LLAN, BODEDERN

 

      

 

     Cyfeiriwyd y cais hwn i'r Pwyllgor ar gais yr aelod lleol o ystyried cynrychioliadau lleol parthed maint y cynnig.

 

      

 

     Adroddodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod y Cyngor Cymuned yn bryderus gyda'r cais.  Roedd y cais ar gyfer 10 o dai ac roedd i'r safle ganiatâd ar gyfer 3 a roddwyd ym 1999.  Roedd yr aelod lleol yn bryderus ynglyn â nifer y tai fwriedir.  Barn y swyddogion oedd fod  y cynnig yn annerbyniol ac yn gorddatblygu'r safle.

 

      

 

     Cadarnhaodd y Swyddog Priffyrdd ei fod yn fodlon â'r cynnig.

 

      

 

     Mewn ymateb i bryder y Cynghorydd Goronwy Parry ynglyn â pha mor gul oedd y ffordd yn y fan hon, cadarnhaodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio nad oedd yr adeilad cerrig sy'n wynebu'r briffordd yn rhan o'r cais hwn ac nad oedd bwriad i'w ddymchwel i ledu'r briffordd.

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd J. Arwel Roberts y dylid ymweld â'r safle ac eiliwyd gan y Cynghorydd P. M. Fowlie.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â safle'r cais fel y gallai'r aelodau weld y safle mewn perthynas â dwysedd arfaethedig y cynnig ac i weld cyflwr y briffordd yn y fan yma.

 

      

 

5.2

19C351C - CAIS AMLINELLOL I GODI 32 O UNEDAU PRESWYL (YN CYNNWYS 9 TY FFORDDIADWY) YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU AR DIR CYFERBYN Â CHANOLFAN HAMDDEN, CAERGYBI

 

      

 

     Cyfeiriwyd y cais hwn i'r Pwyllgor gan fod y fynedfa i'r safle yn cael ei rhannu gyda'r fynedfa i Ganolfan Hamdden Caergybi sydd yn eiddo i'r Cyngor.

 

      

 

     PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais am y rhesymau a roddwyd a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

 

 

6     CEISIADAU YN TYNNU'N GROES I'R CYNLLUN FFRAMWAITH

 

      

 

6.1

18C138A - CAIS AMLINELLOL AR GYFER CODI BYNGALO YNGHYD AG ADDASU'R FYNEDFA BRESENNOL YN ARGRAIG, LLANRHUDDLAD

 

      

 

     Cyfeiriwyd y cais hwn i'r Pwyllgor ar gais yr aelod lleol sydd yn cefnogi'r cais.

 

      

 

     Cadarnhaodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod polisïau tai a chefn gwlad yn erbyn y cais hwn.  Mae'r safle yng nghanol y cefn gwlad mewn lleoliad sensitif.  Nid oedd unrhyw angen amaethyddol wedi ei sefydlu ac y mae hanes o wrthod yn y gorffennol.

 

      

 

     Siaradodd y Cynghorydd Mrs Burns, yr aelod lleol, i gefnogi'r cais.  Cyfeiriodd at y ffaith fod yr ymgeiswyr yn gwpl ifanc lleol, oedd yn dymuno sefydlu cartref yn eu cymuned.  Roedd eu hamgylchiadau personol i gyd yn dangos eu hangen am gartref yn yr ardal.  Ni fyddai'r cynnig yn effeithio mwynderau lleol a gwnaeth Mrs Burns gais i'r cais cynllunio gael ei gymeradwyo.

 

      

 

     Cadarnhaodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod polisi cynllunio yn erbyn cymeradwyo'r cais hwn.  Dyletswydd y Pwyllgor oedd penderfynu ar y cais yn unol â'i bolisïau.  Doedd ddim dewis ond i wrthod.

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd John Roberts beth oedd yr adeiladau eraill oedd o gwmpas safle'r cais fel a ddangosid ar y map lleoliad oedd gyda'r adroddiad.  Roedd y Rheolwr Rheoli Cynllunio yn tybio mai adeiladau allanol oeddynt.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â'r safle yn unol â chais yr aelod lleol i weld a fyddai'r cais yn creu datblygiad gwasgaredig yn y cefn gwlad agored ac i weld pa adeiladau eraill oedd yn yr ardal.

 

      

 

6.2

42C175A - NEWID DEFNYDD CYN SWYDDFA AC YSTAFELL STAFF I GREU ANNEDD NEWYDD YN NANT Y FELIN PRECAST, PENTRAETH

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod y cais hwn yn debyg i un gyflwynwyd yn 2003 a'i wrthod.  Mae'r safle y tu allan i ffin datblygu ac mae'r cais yn groes i bolisi.  Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn erbyn y cynnig oherwydd y risg o lifogydd.

 

      

 

     Nododd y Cynghorydd Hefin Thomas, yr aelod lleol, fod adroddiad y Syrfewr a gyflwynwyd gyda'r cais yn dangos y gallai'r adeilad presennol gael ei addasu ac ychwanegu ato.  Roedd hefyd yn amheus o sylwadau Asiantaeth yr Amgylchedd ynglyn â llifogydd posibl.

 

      

 

     Ar gais yr aelod lleol PENDERFYNWYD ymweld â safle'r cais i weld cyflwr yr adeilad presennol a'i addasrwydd i'w  addasu ac i asesu sylwadau Asiantaeth yr Amgylchedd ynglyn â llifogydd.

 

      

 

6.3

45C311A - CAIS AMLINELLOL AR GYFER CODI BYNGALO DORMER AR DIR YN O.S. 9176 PEN LON, NIWBWRCH

 

      

 

     Datganodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio mai cae bychan ddefnyddid ar gyfer pori anifeiliaid yw'r safle.  Gwrthodwyd cais tebyg yn 2003 ac mae hanes o wrthod. Byddai'r cynnig yn cael effaith andwyol ar Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.  Roedd yr Arolygwr mewn cais wrthodwyd cyn hyn yn erbyn rhoddi caniatâd.  Mae'r ardal yn un sensitif ac nid oes prawf o angen amaethyddol.

 

      

 

     Holodd y Cynghorydd John Roberts a wnaed unrhyw sylwadau gan yr aelod lleol, y Cynghorydd O. Gwyn Jones.

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd W. E. Jones fod ymweliad â'r safle gan fod nifer o dai yn yr ardal ac nad oedd unrhyw wrthwynebiad o ran Priffyrdd.

 

     PENDERFYNWYD ymlwed â'r safle i weld y rhwydwaith ffyrdd sy'n gwasanaethu'r ardal.

 

      

 

     Datganodd Gwen Owen o'r Adran Gynllunio ddiddordeb yn y cais hwn.

 

      

 

7     GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

7.1

11C216B - DILEU CYTUNDEB 106 (PERSON LLEOL) ODDI AR GANIATÂD CYNLLUNIO 11C216 YN ERWAU'R GWYNT, BURWEN

 

      

 

     Cyfeiriwyd y cais hwn i Bwyllgor gan i'r cais gael ei gyflwyno gan y Deilydd Portffolio, Cynllunio a Datblygu Economaidd.  Datganodd y Cynghorydd G. Winston Roberts ddiddordeb yn y cais.

 

      

 

     PENDERFYNWYD dirprwyo'r hawl  i  gymeradwyo'r cais i Bennaeth Gwasanaeth Cynllunio am y rhesymau a roddwyd, yn amodol ar gwblhau ymgynghori boddhaol, ac am y rhesymau rhoddir yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

7.2

12C314 - ADDASU AC EHANGU YN 22 BRYNTEG, BIWMARES

 

      

 

     Cyfeiriwyd y cais hwn i'r Pwyllgor gan fod safle'r cais ar ffin tir y mae'r Cyngor yn berchen arno.

 

      

 

     PENDERFYNWYD dirprwyo'r grym i gymeradwyo'r cais i Bennaeth Gwasanaeth Cynllunio am y rhesymau a roddwyd, yn amodol ar derfynu ymgynghori yn foddhaol, am y rhesymau a roddwyd a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

7.3

16C145A - CADW'R LÔN AMAETHYDDOL AR DIR YM MHLAS LLECHYLCHED, BRYNGWRAN

 

      

 

     (Datganodd y Cynghorydd D. D. Evans ddiddordeb anuniongyrchol yn y cais hwn ac nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod yn ystod ystyried a phleidleisio arno).

 

      

 

     Cyfeiriwyd y cais i Bwyllgor ar ddymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio i'r ymgynghorwyr statudol gyflwyno sylwadau ond nad oeddynt yn rhestru gwrthwynebiad i'r cais.  Roedd 5 llythyr yn gwrthwynebu a cheid adroddiad arnynt yn adroddiad y swyddog, a rhoddwyd copïau gerbron y cyfarfod.  Roedd y cynnig yn dderbyniol yn amodol ar gyfyngiad ar gyfer defnydd amaethyddol yn unig.

 

      

 

     Anerchodd y Cynghorydd R. G. Parry, yr aelod lleol, y cyfarfod.  Mynegodd fod y ffordd amaethyddol yn 7 metr o led a gofynnodd am i gytundeb Adran 106 (yn hytrach nag amod) gael ei osod pe câi caniatâd ei roi er mwyn sicrhau y câi'r ffordd ei defnyddio i bwrpasau amaethyddol yn unig.  Mynegodd bryder trigolion lleol ynglyn â graddfa a lled y ffordd hon.

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd W. J. Williams ynglyn ag a ddylid gosod amod neu gytundeb Adran 106, dywedodd y Cyfreithiwr fod cyfarwyddyd cynllunio cenedlaethol yn dweud fod gosod amod yn fwy derbyniol na gofyn am gytundeb Adran 106.  Gwnaeth y Rheolwr Rheoli Cynllunio yr un pwynt.

 

      

 

     Argymhellodd y Cynghorydd John Roberts dderbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad o gymeradwyo, yn amodol ar osod Cytundeb Adran 106 yn cyfyngu defnydd y trac i bwrpasau amaethyddol.

 

      

 

     PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais am y rhesymau a roddwyd a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog ac eithrio y rhesymau (1) a (3) yn amod (5) ac yn amodol ar anghenion cytundeb Adran 106 yn cyfyngu ar y defnydd o'r ffordd i bwrpasau amaethyddol.

 

      

 

7.4

19C742A - CODI PORTACABIN AR GYFER DEFNYDD CLWB PLANT AR ÔL YSGOL YN YSGOL Y SANTES FAIR, CAERGYBI

 

      

 

     Datganodd y Cynghorydd D. D. Evans ddiddordeb anuniongyrchol yn y cais hwn ac nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r pleidleisio arno.

 

      

 

     PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais am y rhesymau a roddwyd ac ar yr amodau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

7.5

19C845 - GOSOD CYSGODFANNAU CEFNOGWYR YN Y NEW OVAL, CANOLFAN HAMDDEN CAERGYBI, KINGSLAND, CAERGYBI

 

      

 

     Cyfeiriwyd y cais i'r Pwyllgor gan fod y cais ar dir sy'n eiddo i'r Cyngor.

 

      

 

     PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais am y rhesymau a roddwyd ac ar yr amodau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

     Datganodd y Cynghorydd Trefor Ll. Hughes ddiddordeb anuniongyrchol yn y cais hwn ac nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod yn ystod ystyried a phleidleisio arno.

 

      

 

7.6

19LPA665B/CC - ADDASU AC EHANGU YNGHYD Â GWAITH UWCHRADDIO YN Y TOILEDAU CYHOEDDUS YN STRYD NEWRY, CAERGYBI

 

      

 

     Cyfeiriwyd y cais hwn i'r Pwyllgor gan i'r cais gael ei gyflwyno gan Cyfarwyddwr Corfforaethol Priffyrdd, Trafnidiaeth ac Eiddo ac mae'r tir yn eiddo i'r Cyngor Sir.

 

      

 

     PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais am y rhesymau a rhoddwyd ac ar yr amodau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

      

 

7.7

19LPA837CC - ADDASU AC EHANGU 42 MAES Y DREF, CAERGYBI

 

      

 

     Cyfeiriwyd y cais uchod i'r Pwyllgor oherwydd gwneud y cais gan Rheolwr Corfforaethol Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol ar dir sydd yn eiddo i'r Cyngor Sir.

 

      

 

     PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais am y rhesymau a roddwyd ac ar yr amodau a geir yn adroddaid y swyddog.

 

      

 

7.8

30C359B - CAIS AMLINELLOL AR GYFER CODI DERBYNFA/YSTAFELL CHWARAE A STORFA GYDA MAN PARCIO CYSYLLTIEDIG YNGHYD Â GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD YN SAFLE CARAFAN, PLAS UCHAF, TYN-Y-GONGL

 

      

 

     Datganodd y Cadeirydd ddiddordeb anuniongyrchol yn y cais hwn.  Nodwyd i'r safle uchod dderbyn ymweliad gan yr aelodau ar 18 Chwefror 2004 o dan gais cyfeirnod 30C359C.

 

      

 

     Adroddodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio nad oedd mewn safle i gyflwyno adroddiad llawn ar y cais hwn oherwydd pwysau gwaith yn yr Adran Gynllunio a gwnaeth gais i ystyriaeth ar y cais hwn cael ei ohirio tan y cyfarfod nesaf.

 

      

 

     PENDERFYNWYD cytuno â chais y Rheolwr Rheoli Cynllunio i ohirio ystyried y cais hwn hyd nes y cwblheir ymgynghoriadau.

 

      

 

7.9

43C16F - CYNLLUNIAU DIWYGIEDIG AR GYFER DYMCHWEL GAREJ BRESENNOL, CODI GAREJ NEWYDD GYDA LLETY BYW A GANIATAWYD YNGHYNT O DAN GYFEIRNOD 43C16D YN OLD LIFEBOAT HOUSE, RHOSCOLYN

 

      

 

     Cyfeiriwyd y cais hwn i'w ystyried gan y Pwyllgor ar gais yr aelod lleol oherwydd pryderon lleol i waith ddechrau ar yr uchod heb dderbyn y caniatâd cynllunio angenrheidiol.

 

      

 

     PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais am y rhesymau a roddwyd ac ar yr amodau geir yn adroddiad y swyddog, yn cynnwys cytundeb Adran 106 i sicrhau fod y datblygiad yn parhau fel lle cysgu atodol i'r prif le byw.

 

      

 

7.10

  44C197A - CODI ESTYNIAD I'R ADEILAD YSMYGU YNGHYD Â DEFNYDDIO RHAN O'R ADEILAD AR GYFER MAN GWERTHU ATODOL YN DERI ISAF, DULAS

 

      

 

     Cyfeiriwyd y cais hwn i'w ystyried gan y Pwyllgor ar gais yr aelod lleol.

 

      

 

     Adroddodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod y cais yn ymwneud ag adeilad presennol sydd â chaniatâd cynllunio dros dro ar gyfer defnydd fel ysmygfa.  Roedd  yn gweld y cais yn dderbyniol ac yn unol â pholisi.  Nid oedd unrhyw effaith andwyol ar fwynderau.  Yr argymhelliad oedd cytuno ar yr amod fod yr ymgeisydd yn gwneud cytundeb Adran 278 gyda'r Awdurdod Priffyrdd (fod yr ymgeisydd yn darparu dau le pasio ar hyd y ffordd sy'n arwain i Deri Isaf ar ei gost ei hun) a gosod amod Grampian yn hytrach na'r angen am Gytundeb Adran 106.

 

      

 

     Mynegodd y Cynghorydd Gwyn Roberts mai cais yw hwn i barhau gyda gweithgareddau sydd eisoes yn elwa o ganiatâd dros dro hyd 30.9.2004.  Roedd y Cynghorydd Roberts yn teimlo mai dyletswydd yr Adran Priffyrdd oedd darparu mannau pasio.  Byddai'r datblygiad yn cynnal 5 o swyddi.  Roedd y datblygwyr wedi cael grant o £20,000 gan Menter Môn ac yr oedd dau le pasio yn barod ar hyd y briffordd.  Roedd am gynnig rhoi caniatâd heb yr angen am ddau le pasio ychwanegol.  Eiliwyd gan y Cynghorydd O. Glyn Jones.

 

      

 

     Nododd y Cynghorydd Hefin Thomas fod yr ymgeisydd yn cynnig cyfleon am swyddi mewn ardal wledig a hefyd roedd yn teimlo fod mannau pasio digonol yn bod eisoes ar hyd y darn hwn o ffordd oedd yn mesur tua chwarter milltir.

 

      

 

     PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais am y rhesymau a roddwyd, ac am yr amodau yn adroddiad y swyddog, ond y dylai'r amod yn gofyn am ddarparu mannau pasio ychwanegol y cyfeirir ato yn yr adroddiad gael ei ddileu.

 

      

 

7.11

49C163K - CAIS LLAWN I GODI TY GARDD DEULAWR YN Y CEFN YN 8 PARC BRANWEN, Y FALI

 

      

 

     Galwyd y cais i mewn i'w benderfynu gan y Pwyllgor ar gais yr aelod lleol.

 

      

 

     PENDERFYNWYD gwrthod y cais am y rhesymau a roddwyd yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

8     CEISIADAU A DDIRPRWYWYD

 

      

 

     Cyflwynwyd a derbyniwyd adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cynllunio a Gwasanaethau Amgylcheddol) ar geisiadau a dirprwywyd ac y gwnaethpwyd penderfyniad arnynt ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor hwn.

 

      

 

MATERION YN CODI :

 

 

 

40C102B/DA (Coed, Pont Rhyd-y-Bont) - Roedd y Cynghorydd Goronwy Parry yn dymuno iddo gael ei gofnodi fod tir y cais yn gorwedd "gyferbyn" a Coed, Pont Rhyd-y-Bont, ac nid "cyfagos" fel a geir yn yr adroddiad.

 

 

 

9     APELIADAU - ADRAN 78 O DDEDDF CYNLLUNIO GWLAD A THREF 1990

 

      

 

9.1

APP/L6805/C/03/1118193 SAFLE GWESTY BEAUCHELLES, MARIANGLAS

 

      

 

     Cyflwynwyd a nodwyd copi o lythyr dderbyniwyd gan Arolygydd a benodwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â'r apêl uchod sydd wedi ei thynnu'n ôl.

 

      

 

9.2

49C51E - TIR Y TU ÔL I SIOP STERMAT HARDWARE, FFORDD LLUNDAIN, Y FALI

 

      

 

     Cyflwynwyd a nodwyd copi o lythyr dderbyniwyd gan Arolygydd a benodwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â'r apêl uchod sydd wedi ei gwrthod.

 

      

 

9.3

38C6B - SAFLE CARAFANNAU FFERM Y WAEN, LLANFECHELL

 

      

 

     Cyflwynwyd a nodwyd copi o lythyr dderbyniwyd gan Arolygydd a benodwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â'r apêl uchod sydd wedi ei gwrthod.

 

      

 

10     Y CYHOEDD YN SIARAD MEWN CYFARFODYDD

 

      

 

     Adroddodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio i seminar ar yr uchod gael ei chynnal ar ddydd Mawrth, 2 Mawrth 2003.  Byddir yn rhoi ystyriaeth bellach yn awr i'r mater a chaiff adroddiad ei chyflwyno i'r Cyngor llawn cyn y bydd unrhyw newid yn y gweithdrefnau presennol yn digwydd o dan Gyfansoddiad y Cyngor.

 

      

 

11     HYFFORDDIANT - MATERION PRIFFYRDD

 

      

 

     Nodwyd fod trefniadau'n cael eu gwneud er mwyn rhedeg seminar ar fewnbwn priffyrdd i'r broses gynllunio.

 

      

 

12     ADOLYGU PENDERFYNIADAU CYNLLUNIO - YMWELIADAU SAFLEOEDD

 

      

 

     Nodwyd y bydd yr uchod yn cael ei gynnal ddydd Mercher, 10 Mawrth 2004.

 

      

 

13     AROLWG O FODLONRWYDD CWSMERIAID

 

      

 

     Cyflwynwyd adroddiad a chynllun gweithredu ar yr uchod gan Bennaeth Gwasanaethau Cynllunio.

 

      

 

     Nododd fod Market Research UK - Wales wedi ei gomisiynu i wneud arolwg yn ystod yr Hydref yn dilyn yr arolwg cychwynnol yn 2002.  Roedd y canlyniadau yn dangos fod bodlonrwydd cwsmeriaid wedi gwella o 67% yn 2002 i 79% yn y 12 mis diwethaf.  Mae hyn yn cymharu â 59% yn 2002.

 

      

 

     Roedd yr adroddiad yn dweud bod lefel y gwelliant yn y Gwasanaeth Cynllunio yn adlewyrchu gweithrediad y Cynllun Gweithredu  yn dilyn yr Arolwg Gwerth Gorau.  Cyflawnwyd y gwelliant mewn gwasanaeth gyda chynhaliaeth lawn y Pwyllgor hwn ynghyd â'r Pwyllgor Gwaith a'r Pwyllgor Sgriwtini.

 

      

 

     Rhoddwyd y Cynllun Gweithredu allan gyda'r adroddiad mewn ymateb i ganlyniadau'r arolwg.

 

      

 

     Canmolodd y Cynghorydd R. L. Owen yr Adran am ei chyflawniad gan argymell y dylid rhoddi cyhoeddusrwydd i hyn.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

      

 

14     GORFODAETH A CHEISIADAU ÔL-DDYDDIOL

 

      

 

     Cyflwynwyd a nodwyd llythyr a dderbyniwyd gan yr Aelod Portffolio oddi wrth Swyddfa'r Dirprwy Prif Weinidog yn mynegi fod pryder yr Awdurdod hwn, yn y lle cyntaf, yn fater i Lywodraeth Cynulliad Cymru.

 

     Y CYNGHORYDD R. LL. HUGHES

 

     CADEIRYDD