Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion dogfennau , 3 Mawrth 2010

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Dydd Mercher, 3ydd Mawrth, 2010

PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION

 

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 3 Mawrth 2010

 

PRESENNOL:

 

Y Cynghorydd Kenneth Hughes - Cadeirydd

                                                

Y Cynghorwyr W.J. Chorlton; E.G. Davies; Lewis Davies; Jim Evans, W.T. Hughes; O. Glyn Jones; T.H. Jones; R.L. Owen;

Eric Roberts; J. Arwel Roberts; H.W. Thomas; J.Penri Williams;

Selwyn Williams.

 

 

HEFYD YN BRESENNOL:

 

 

 

Aelodau Lleol :  B. Durkin (6.3);  P.M. Fowlie (6.2);

D. Rees Hughes (11.7)

 

WRTH LAW:

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Prif Swyddog Cynllunio (EGJ)(Cais 6.1 yn unig);

Rheolwr Rheoli Cynllunio (DFJ)

Cymhorthydd Cynllunio (AMG);

 

Prif Beiriannydd (Rheoli Datblygu a Hawliau Tramwy Cyhoeddus)  (JRWO)

Swyddog Rheoli Datblygu (RE)

 

Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol (RJ);

Swyddog Pwyllgor (JMA)

 

YMDDIHEURIAD:

 

Y Cynghorydd Aled Morris Jones (Deilydd Portffolio)

 

 

1

ETHOL IS-GADEIRYDD

 

Etholwyd y Cynghorydd John Arwel Roberts yn Is-Gadeirydd y Pwyllgor Cynllunio am weddill y Flwyddyn.  Wrth dderbyn yr enwebiad, diolchodd i’r Pwyllgor am eu hyder ynddo.  Roedd y Cadeirydd yn croesawu arbenigedd y Cynghorydd Roberts fel cyn Gadeirydd y Pwyllgor Cynllunio ac roedd yn hyderus y byddai hynny yn gymorth i’r Pwyllgor redeg yn llyfn.  Diolchodd y Cadeirydd ‘run pryd i’r Is-Gadeirydd oedd yn mynd o’r sedd, y Cynghorydd Barrie Durkin, am ei gyfraniad a’i gefnogaeth yn ystod ei dymor yn y swydd.

 

2

DATGANIAD O DDIDDORDEB

 

Derbyniwyd a chofnodwyd y datganiadau o ddiddordeb o dan yr eitemau perthnasol.

 

3

COFNODION

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 3 Chwefror 2010.  

 

 

 

4   YMWELIADAU SAFLE

 

 

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd cofnodion yr Ymweliadau Safle a gynhaliwyd ar 17 Chwefror 2010.

 

 

 

5

CEISIADAU A OHIRIWYD

 

 

 

5.1 - 19C842G - Cais amlinellol am ddatblygiad preswyl ar dir yn Parc Cybi, Caergybi

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio wrth yr Aelodau bod ymweliad safle wedi’i gynnal ar 17 Chwefror 2010 er mwyn i’r Aelodau ddod yn gyfarwydd â’r lleoliad a’r pethau o gwmpas.

 

 

 

Dywedodd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd John Chorlton ei fod yn siomedig mai’r argymhelliad yma oedd gohirio oherwydd fod y rhan o’r safle a ddyrannwyd ar gyfer tai wedi ei nodi beth amser yn ôl ac nad oedd ar unrhyw amser wedi cael ei ystyried i bwrpasau creu waith.  Roedd yn flin nad oedd ef fel yr Aelod Lleol, wedi cael gwybod am unrhyw oedi wrth benderfynu ar y cais.  Dywedodd bod lôn arall a chylchdro wedi’u darparu ar gyfer yr elfen tai ar y safle a dywedodd ei fod wedi cynnal cyfarfod cyhoeddus i ddangos y cynlluniau i’r tai.

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y safle cyfan wedi’i brynu i bwrpasau creu gwaith yn y Cynllun Lleol, ond, roedd y Cynghorydd Chorlton am ddadlau gyda’r pwynt hwn.  Dywedodd y Swyddog mai’r rheswm dros y cais i ohirio’r cais cynllunio oedd bod Adain Datblygu Economaidd y Cyngor Sir wedi gwrthwynebu’r elfen dai ac yn dymuno i’r safle gael ei chadw i bwrpasau creu gwaith.  Roedd y Swyddogion ar hyn o bryd yn cynnal trafodaethau ynglyn â’r pryderon hynny.  

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd Hefin Thomas bod pwyslais wedi’i roi ar Aelodau a Swyddogion yn gweithio gyda’i gilydd er budd y Cyngor a gofynnodd am i sicrwydd gael ei roddi bod yr Aelod Lleol yn derbyn gwybodaeth am y datblygiadau ynglyn â’r cais pwysig hwn.

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio gwneud penderfyniad ar y cais hyd nes y byddai trafodaethau ynglyn â thai fforddiadwy a dyrannu’r tir i bwrpasau gwaith wedi cael eu cwblhau.

 

 

 

5.2

- 30C499J - Cais amlinellol gyda rhai materion yn cael eu cadw wrth gefn i godi annedd

 

ynghyd â gwaith trin carthffosiaeth preifat ar dir ger Angorfa, Traeth Coch

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio wrth yr Aelodau y dylid ymweld â’r safle cyn gwneud penderfyniad ar y cais er mwyn iddynt ddod yn gyfarwydd â’r materion perthnasol.

 

 

 

PENDERFYNWYD ymweld â’r safle yn unol ag argymhelliad y Swyddog.

 

 

 

6   CEISIADAU YN CODI O’R COFNODION

 

 

 

6.1

- 12C49K - Codi 35 o apartmentau preswyl i bobl 55 oed a throsodd, gwaith gwella draenio,

 

tirlunio cysylltiol a pharcio yn Casita, Biwmares

 

 

 

Dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio bod y cais wedi’i ddwyn gerbron y Pwyllgor oherwydd ei fod yn un sy’n tynnu’n groes i bolisi.  Roedd yr Aelodau wedi ymweld â’r safle ar 20 Ionawr 2010.

 

 

 

Roedd cais trydydd parti wedi’i wneud i Lywodraeth Cynulliad Cymru i alw’r cais i mewn ac i’w benderfynu ond roedd hyn wedi cael ei wrthod oherwydd fe ellir gwneud penderfyniad ar hwn ar lefel leol.  Roedd nifer o wrthwynebiadau wedi’u derbyn yn cynnwys 12 o lythyrau ynghyd a gwrthwynebiad gan Gyngor Tref Biwmares oherwydd bod y safle’n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol a bod gan Gyngor y Dref bryderon difrifol ynglyn â sadrwydd y llethr lle bu sawl tirlithriad yn y gorffennol.

 

 

 

Roedd y Prif Swyddog Cynllunio yn cydnabod bod hwn yn gais oedd yn tynnu’n groes i’r Cynllun Lleol, ond roedd o fewn y ffin yn y CDU a stopiwyd.  Nid oedd yr Arolygwr wedi gwrthwynebu i’r darn hwn o dir gael ei gynnwys.

 

 

 

Hen gartref nyrsio a gerddi oedd safle’r cais mewn lle uchel ger yr A545 ar y ffordd orllewinol i mewn i Biwmares ac o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.  Cafwyd sawl tir lithriad ar yr A545 o safle’r cais mewn blynyddoedd diweddar.  Adeiladau unllawr yw’r mwyafrif o’r adeiladau presennol ar y safle, ac maent ar lefel uwch ar y safle na’r datblygiad newydd.  Bydd uchder crib yr adeiladau newydd rhyw ychydig iawn yn uwch nag uchder yr adeiladau presennol.  Mae yna nifer o hen goed sy’n destun Gorchmynion Cadw Coed.  Gellir mynd i mewn i’r safle oddi ar Allt Goch Bach neu Ffordd y Fynwent sy’n creu cyffordd gyda’r A545 tua’r gogledd-ddwyrain ger ardal breswyl Cae Mair.

 

 

 

Cais yw hwn i ddymchwel yr adeiladau presennol ac adeiladu adeiladau 2 lawr a 3 llawr gyda 35 o apartmentau.  Pobl 55 a throsodd fydd yn byw yno gan y bydd cytundebau Adran 106 yn cael eu gwneud ac mae’r ymgeiswyr wedi cadarnhau bod y datblygiad yn gynllun tai gwarchod (preswyl) C3.  Bwriedir gwneud gwelliannau i’r Briffordd yn y fynedfa yn Allt Goch Bach ac mae’r ymgeiswyr yn bwriadu gwneud gwaith i sadio safle’r cais sy’n ymestyn i lawr i’r A545.

 

 

 

Mae dogfen gyfreithiol wedi’i harwyddo gan y datblygwyr yn nodi y bydd y ddeiliadaeth yn cael ei chyfyngu i rai 55 a throsodd yn unig a bydd swm o £100,000 yn cael ei dalu yng nghyswllt tai fforddiadwy.  At hyn, roedd y datblygwr wedi addo £800,000 tuag at wneud gwaith sadio tymor hir i’r llethr oedd yn rhan o safle’r cais.  Wrth ddweud mai’r argymhelliadi oedd ddirprwyo i’r Swyddog yr hawl i ganiatáu ar ddiwedd y cyfnod hysbysiad cyn belled nad oedd unrhyw fater o’r newydd wedi ei godi cyn hynny ac yn amodol ar yr addewid un ochrog a oedd wedi’i gwblhau ar 25 Ionawr 2010 o dan adran 106 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (fel ei diwygiwyd), fel y dywedwyd yn flaenorol.

 

 

 

Mynegodd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd R L Owen, bryderon difrifol ynglyn â’r cais yn arbennig oherwydd tirlithro oherwydd mai clai oedd y llethr.  Roedd tirlithriadau yn y gorffennol wedi golygu bod yn rhaid cau y ffordd fawr o Borthaethwy i Biwmares am gyfnod o chwe mis gydag anghyfleuster mawr i ddefnyddwyr y ffordd a cholli llawer o fasnach yn y dref.  Dywedodd bod y bobl leol yn hynod o bryderus gan bod y fynwent gerllaw ac y gallai unrhyw dirlithriad gael effaith ar y fynwent a chreu anghyfleuster mawr.  Byddai’r gwelliannau oedd wedi cael eu bwriadu i’r briffordd yn golygu mwy o oleuadau traffig ar y briffordd a hyn yn cael effaith ddifrifol ar fasnachwyr lleol yn ystod amser o gyni ariannol.  Pwysleisiodd bod y ffordd tuag at y safle,  Allt Goch Bach, yn lôn gul heb unrhyw lefydd pasio ac yn hollol anaddas ar gyfer y datblygiad.

 

 

 

Mynegodd y Cynghorydd Lewis Davies ei bryderon hefyd gan bod y safle mewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ar lan Afon Menai, ar ffin Biwmares, sydd yn atyniad pwysig i dwristiaid ar yr ynys.  Fel cyn athro Daearyddiaeth, roedd ganddo bryderon mawr ynglyn â thirlithriadau gan mai clai a thywod oedd gwneuthuriad y llethr ac fe allai lithro’n hawdd.  Roedd hanes blaenorol y safle wedi profi bod hyn yn wir.  Roedd wedi nodi’r peryglon ar yr ymweliad safle ac roedd yn credu bod angen gwario miliynau o bunnoedd i gywiro’r peryglon tirlithro.  Gofynnodd pwy fyddai’n gyfrifol am anafiadau o ganlyniad i dirlithriad.  

 

 

 

Roedd y Cynghorydd Selwyn Williams yn credu nad oedd y swm o £100,000 tuag at dai fforddiadwy yn rhyw swm sylweddol iawn o gofio y byddai gwerth y datblygiad rhywle rhwng £5m a £7m.  Roedd y Cynghorydd O Glyn Jones yn cytuno gyda’r sylwadau hyn a lleisiodd bryderon hefyd nad oedd yna unrhyw lefydd pasio ar y lôn gul.  Roedd y Cynghorydd Jim Evans hefyd yn poeni ynglyn â’r lôn gul.  Roedd y Cynghorydd John Penri Williams yn credu y byddai cyfraniad o £400,000 tuag at dai fforddiadwy yn fwy derbyniol.

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd John Chorlton ei fod wedi sylwi yn ystod yr ymweliad safle bod yna lawer o adeiladau eisoes ar y safle.  Roedd yn meddwl nad oedd gadael y safle fel ag y mae ar hyn o bryd yn opsiwn ac y gallai hwn fod yn gyfle i waith gael ei wneud i gywiro’r tirlithro posibl heb unrhyw gost i’r Cyngor.  Atgoffodd yr Aelodau bod y Cyngor wedi gorfod mynd i gostau gyda’r tirlithriad blaenorol ac roedd yn gweld y cynnig hwn fel cyfle i’r datblygwr wneud y gwaith ar ei gost ei hun.

 

 

 

Dwyn i gof y problemau gyda’r tirlithro yn y gorffennol wnaeth y Cynghorydd Hefin Thomas ac nid oedd yn credu y byddai’r swm o £800,000 yn mynd yn agos at gywiro’r broblem.  Yn ychwanegol, roedd wedi sylwi bod y datblygiad arfaethedig yn nes at ochr y briffordd ac y byddai felly yn rhoi mwy o straen ar y llethr.  Gofynnodd hefyd a oedd yn beth doeth i ddarparu llety i rai dros 55 ar safle y mae’n rhaid mynd i fyny allt serth tuag ati ac ar safle nad yw o fewn pellter cerdded braf o’r dref.

 

 

 

Dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio y dylai’r Aelodau ystyried y cynnig yn ei gyfanrwydd a bod yr adeiladau presennol ar y safle yn mynd yn salach.  Dywedodd bod 18 mis o drafodaethau a negydu gyda’r datblygwr wedi digwydd er mwyn cyrraedd y sefyllfa sy’n cael ei hystyried heddiw.  Dywedodd bod y datblygwr wedi cyflogi peirianwyr strwythurol i wneud archwiliad o’r safle cyn buddsoddi yn y datblygiad hwn.  Roedd yn credu y byddai’r £100,000 tuag at dai fforddiadwy, y gwaith ar y llethr a’r gwaith i wella’r draeniad yn fantais i’r ardal.  Byddai gwerth y manteision cynllunio fyddai’n dod o’r datblygiad i’r awdurdod yn fwy na £1m.  Roedd y datblygwr wedi addo gwneud y gwaith ar y llethr cyn dechrau unrhyw ran arall o’r datblygiad.  

 

 

 

Cytuno wnaeth y Prif Beiriannydd (Rheoli Datblygu a Hawliau Tramwy Cyhoeddus) nad oedd llefydd pasio arall ar Allt Goch Fach, ond bod cytundeb wedi’i wneud ynglyn â mesurau rheoli traffig ac arafu traffig gyda’r datblygwr a rhoi wyneb rhag llithro i’r ffordd a llinellau ar y ddwy ochr er diogelwch cerddwyr.  Hefyd roedd cytundeb ynglyn â goleuadau stryd gyda’r datblygwr a byddai hynny’n ei gwneud yn saffach gyda’r nos.

 

 

 

Wrth gloi, ategodd yr Aelod Lleol ei bryderon o safbwynt diogelwch y ffordd ac ar ran Siambr Fasnach Biwmares.  Anogodd y Pennaeth Rheoli Datblygu yr Aelodau i ystyried y cais yn ei gyfanrwydd ac i ystyried y manteision ddoi yn y tymor hir yn sgil y datblygiad.

 

 

 

Cynigiodd y Cynghorydd John Penri Williams bod y cais yn cael ei gymeradwyo gyda’r amod bod y datblygwr yn cyfrannu £250,000 tuag at dai fforddiadwy.  Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd John Chorlton.

 

 

 

Cynigiodd y Cynghorydd R L Owen bod y cais yn cael ei wrthod.  Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd O Glyn Jones.

 

 

 

Roedd y pleidleisio fel a ganlyn:-

 

 

 

i wrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog:-

 

 

 

Y Cynghorwyr Hefin Thomas, W T Hughes, Selwyn Williams, Jim Evans, O Glyn Jones, R L Owen, Eurfryn Davies a Lewis Davies.

 

 

 

Caniatáu’r cais yn amodol ar i’r datblygwr gyfrannu £250,000 tuag at dai fforddiadwy:-

 

 

 

Y Cynghorwyr John Penri Willilams, John Chorlton, Ken Hughes, John Arwel Roberts.

 

 

 

PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog am y rhesymau a ganlyn:-

 

 

 

Bod gwneuthuriaid y llethr yn amhriodol (sef clai a thywod);

 

Pryderon gwirioneddol ynglyn â thirlithriad y ffordd at y safle;

 

Allt Goch Bach, yn gul ac heb lefydd pasio.

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor, bydd y cais yn cael ei ohirio’n otomatig i’r cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion er mwyn rhoi cyfle i’r Swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros wrthod y cais.

 

 

 

6.2     - 28C437 - Gwaith altro ac ymestyn i Sandy Bank, Ffordd Warren, Rhosneigr

 

 

 

Tynnodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio sylw at y ffaith bod yr aelodau yn y cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 3 Chwefror 2010, wedi penderfynu gwrthod y cais a hynny’n groes i argymhelliad y Swyddog.

 

 

 

Y rhesymau a roddwyd dros wrthod y cais oedd ei fod yn rhy fawr, gorddatblygu, dyluniad gwael, dim yn gweddu gyda gweddill y teras.  Roedd ymateb y Swyddog i’r rhesymau hynny fel a ganlyn:-

 

 

 

Rhy fawr a gorddatblygu - nid oedd y Swyddog yn ystyried bod y cynnig yn cyfateb i orddatblygu a’i fod yn rhyw fawr, mae yna ddigon o le ar y safle i gymryd yr estyniad.  O ganlyniad i’r cynnig fe fydd yna leihad o 10.6m sgwar yn arwynebedd yr ardd gefn bresennol.  Nid yw uchder yr estyniad arfaethedig yn fwy nag uchder yr annedd bresennol.

 

 

 

Dyluniad gwael a dim yn gweddu gyda gweddill y teras - mae yna dai pâr modern gerllaw gyda chymeriad tebyg.  Ym marn y Swyddog, roedd y cynnig yn cydymffurfio gyda pholisi lleol a chenedlaethol.  Dywedodd y Swyddog drachefn mai ei argymhelliad oedd un o gymeradwyo ac roedd am atgoffa’r Aelodau y byddai gan yr ymgeisydd hawl i apelio yn erbyn cael ei wrthod ac felly rhaid fyddai rhoi rhesymau clir dros wrthod.  

 

 

 

Diolchodd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd P M Fowlie i’r Aelodau am gefnogi trigolion Rhosneigr ag yntau trwy wrthod y cais yn y cyfarfod blaenorol.  Pwysleisiodd nad oedd perchennog y rhan arall o’r eiddo fyddai’n cael ei effeithio’n uniongyrchol gan y datblygiad yn cefnogi unrhyw gynnig i symud hanner y to fel y gallai’r gwaith gael ei wneud.  Roedd yn gryf iawn o’r farn y byddai’r ymgeiswyr yn cyflwyno cais diwygiedig unwaith yr oeddynt yn gwybod am y gwrthwynebiadau.  Anogodd y Pwyllgor i gadarnhau ei benderfyniad ac i wrthod y cais.

 

 

 

Cynigiodd y Cynghorydd R L Owen bod y cais yn cael ei wrthod.  Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Jim Evans.

 

 

 

Cafodd y Cynghorwyr Eurfryn Davies a John Chorlton gyngor cyfreithiol y byddai’n iawn iddynt bleidleisio ar y cais er eu bod yn bresennol yng nghyfarfod mis Chwefror o’r Pwyllgor hwn a’u bod ill dau yn credu eu bod nhw yn gyfarwydd gyda’r cais, y materion yn codi ohonno,  ac wedi bod ar yr ymweliad safle.  O’r hyn yr oedd wedi’i weld ar yr ymweliad safle, dywedodd y Cynghorydd Chorlton y byddai’n anodd iawn i unrhyw un briodi’r ddau do ac ni allai weld y datblygiad yn mynd yn ei flaen.  Fodd bynnag, roedd yn credu nad oedd hynny’n rhywbeth i’r Pwyllgor ei benderfynu ac nad oedd yn ddigon o reswm dros ei wrthod.  Dywedodd nad oedd yna unrhyw berthynas i’w weld rhwng yr eiddo oedd yn y teras ac felly nid oedd yn credu y byddai’r estyniad yn un fyddai’n edrych allan o’i le.

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio y byddai arno angen rhesymau penodol dros wrthod os oedd y Pwyllgor yn meddwl gwrthod y cais.

 

 

 

Cynigodd y Cynghorydd John Chorlton bod y cais yn cael ei ganiatáu yn unol ag argymhelliad y Swyddog.  Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Hefin Thomas.  Pleidleisiodd y Cynghorwyr Lewis Davies a Kenneth Hughes i ganiatáu’r cais.

 

 

 

Pleidleisiodd y canlynol i gadarnhau’r penderfyniad wnaed gan y Pwyllgor yn ei gyfarfod ym mis Chwefror i wrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog:-

 

 

 

Y Cynghorwyr T H Jones, Eurfryn Davies, R L Owen, O Glyn Jones, J Evans a S Williams.

 

 

 

Roedd y Cynghorwyr J Arwel Roberts a J Penri Williams yn atal eu pleidlais.

 

 

 

PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog.  

 

Y rheswm a roddwyd dros wrthod oedd fod y mas yn rhy fawr ac effeithiau negyddol y datblygiad ar bobl y drws nesaf iddo ac ar y gymdogaeth yn gyffredinol.

 

 

 

6.3     -  30C83E - Dymchwel yr adeilad presennol a chodi adeilad newydd gydag ystafell

 

chwarae, swyddfa, derbynfa, ystafell ffitrwydd, ystafell gemau a stôr yn Dolydd, Pentraeth

 

(Cafwyd Datganiad o Ddiddordeb gan y Cynghorydd Selwyn Williams ac ni chymerodd unrhyw ran yn y drafodaeth na’r pleidleisio ar y cais hwn).

 

 

 

Cyn dechrau unrhyw ystyriaeth ar y cais, cyfeiriodd y Cynghorydd Hefin Thomas at lythyr yn gwrthwynebu oedd wedi’i ddosbarthu i’r Aelodau ac fe’i disgrifiodd fel un gwarthus.  Roedd yn credu bod y llythyr ar ei orau yn un stimrwg ac yn un oedd yn ceisio rhwystro democratiaeth.  Roedd am sicrhau’r Pwyllgor nad oedd ganddo unrhyw gyswllt agos gyda’r ymgeisydd na chwaith gyda’r gwrthwynebwyr er ei fod yn adnabod y ddau, ond, ni fyddai hyn, fodd bynnag, yn rhwystro iddo ddod i benderfyniad teg a thryloyw ar y cais.

 

 

 

Roedd y cais wedi’i ddwyn gerbron y Pwyllgor yn wreiddiol ar gais yr Aelod Lleol.  Fe ymwelwyd â’r safle ar 19 Awst 2009.  Yng nghyfarfod 2 Medi 2009, fe benderfynodd yr Aelodau ganiatáu’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog.  Roedd yr aelodau yn ystyried bod maint a safle yr adeilad yn dderbyniol ac na fyddai’n niweidio mwynderau a bod yna adeiladau o’r un maint yn yr ardal ac y byddai’r cynnig yn fanteisiol i’r diwydiant twristiaeth.

 

 

 

Yn y cyfarfod o’r Pwyllgor ar 7 Hydref, fe benderfynodd yr Aelodau ohirio gwneud unrhyw benderfyniad terfynol ar y cais hyd nes y ceid dyluniadau oedd yn dangos lefelau’r safle yn iawn a’r adeilad arfaethedig.  Cafodd y cais ei ohirio wedyn yng nghyfarfodydd mis Tachwedd a Rhagfyr 2009 ac yn Ionawr 2010 oherwydd nad oedd y cynlluniau wedi’u derbyn.  Yng nghyfarfod 3 Chwefror 2010 cafodd y cais ei ohirio nes y ceid cynlluniau gan asiant oedd newydd ei apwyntio.  Dywedodd y Swyddog bod y cynlluniau diwygiedig yn dangos y lefelau ar y safle bellach wedi’u derbyn.  Tynnodd sylw at yr effaith mae’r datblygiad yn ei gael ar eiddo cyfagos oherwydd bod yr adeilad arfaethedig  I fynny i 2.8m yn uwch na’r gwrychyn presennol.  Dywedodd y byddai’n rhaid rhoi ystyriaeth hefyd i faterion styrbans a cholli preifatrwydd.  Roedd am atgoffa’r Aelodau mai ei argymhelliad oedd gwrthod.

 

 

 

Diolchodd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd B Durkin i’r Aelodau am ymweld â’r safle.  Roedd yn credu bod y cyfleusterau arfaethedig a’r defnydd o’r adeilad yn hyrwyddo twristiaeth a gwell cyfleusterau yn y Maes Carafanau.  Roedd yr adeilad presennol, meddai, yn hyll ac ni fyddai ei newid am yr adeilad hwn ond yn gwella’r gymdogaeth.  Dim ond un person oedd wedi gwrthwynebu.  Byddai gwydr twyll yn cael ei roi yn yr un ffenestr fechan yn wynebu’r dwyrain ac roedd y ffenestr yn y drychiad deheuol ar ben uchaf grisiau a’i phwrpas oedd goleuo’r grisiau yn unig.  Gofynnodd i’r Pwyllgor ganiatáu’r cais.

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd Lewis Davies ei fod wedi ymweld â’r safle a’i fod yn credu bod dyluniad yr adeilad arfaethedig yn rhy uchel o gofio bod y safle yn yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.  Byddai’n cefnogi adeilad unllawr gan y byddai un felly yn gweddu’n well gyda’r ardal.

 

 

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd T H Jones ynglyn ag uchder yr adeilad arfaethedig, cadarnhaodd y Swyddog y byddai rhwng 2m - 2.8m yn uwch na’r gwrychyn.  Dywedodd y Cynghorydd Hefin Thomas ei fod wedi gwrando ar y Cynghorydd Durkin a dywedodd ei fod yntau hefyd yn dymuno hyrwyddo twristiaeth ar yr Ynys.  Roedd am atgoffa’r Aelodau o’r tywydd gwael yr ydym wedi bod yn ei gael ac am yr angen i ddarparu cyfleusterau ychwanegol i dwristiaid.  Cyfeiriodd at y llythyr oedd yn gwrthwynebu gan berchennog Meillionydd a dywedodd bod yr eiddo o leiaf 20 llath oddi wrth y datblygiad arfaethedig ac nad yw o fewn ei linell gweld.  Tynnodd sylw at y ffaith bod eiddo deu lawr a thri llawr o gwmpas y safle a bod y safle ei hun yn safle tir llwyd.  Nid oedd yn credu na fyddai’r cynnig yn gweddu hefo’r ardal a chefnogodd y cais.  

 

 

 

Dweud wnaeth y Cynghorydd R L Owen y byddai’n hoffi cefnogi’r cais ond gofynnodd a fyddai’n bosibl i Swyddogion drafod gostwng uchder yr adeilad arfaethedig gyda’r ymgeisydd.  Cynigiodd bod y cais yn cael ei ohirio er mwyn i drafodaethau o’r fath gael eu cynnal.

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd Durkin bod dyluniadau traws doriadol yn dangos bod yr adeilad yn is na’r eiddo o’i gwmpas.  Roedd gan y ty drws nesaf i’r safle olygfeydd clir a dirwystr.  Roedd y pellter rhwng eiddo’r gwrthwynebydd a’r safle yn llawer mwy na’r isafswm oedd ei angen.  Roedd o’r farn pe bai’r cais yn cael ei wrthod y byddai yna apêl ac nid oedd yn credu bod yna unrhyw sail dros wrthod.  

 

 

 

Atgoffa’r Aelodau wnaeth y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol fod y datblygiad oddeutu dwy fetr o ffin yr eiddo cyfagos.  Roedd y Swyddogion yn erbyn uchderyr adeilad arfaethedig a defnydd yr adeilad. Ni fyddai lleihau uchder yr adeilad yn ateb materion ynglyn a’r defnydd. Fe ddylid ystyried uchder yr adeilad arfaethedig a hefyd ddefnydd yr adeilad.  Cynghorodd yr Aelodau i feddwl yn ofalus cyn dod i benderfyniad yn erbyn argymhelliad y Swyddog gan y byddai angen rhoi rhesymau cryf dros wneud hynny.  

 

 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Hefin Thomas bod y cais yn cael ei ganiatáu.  Eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Jim Evans.

 

Cynigiodd y Cynghorydd R L Owen bod y cais yn cael ei ohirio er mwyn caniatáu i Swyddogion drafod y posibilrwydd o ostwng uchder yr adeilad arfaethedig gyda’r ymgeiswyr ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd T H Jones.

 

 

 

Pleidleisiodd y Cynghorwyr Hefin Thomas, John Chorlton, W T Hughes a Jim Evans i ganiatáu’r cais.

 

 

 

Pleidleisiodd y Cynghorwyr R L Owen, T H Jones, Eurfryn, Davies, Lewis Davies i ohirio’r cais i ddisgwyl am gynnal trafodaethau gyda’r ymgeisydd ynglyn â gostwng uchder yr adeilad arfaethedig.

 

 

 

Ar bleidlais fwrw’r Cadeirydd PENDERFYNWYD gohirio’r cais fel a amlinellir uchod.

 

 

 

Ni wnaeth y Cynghorydd O Glyn Jones bleidleisio ar y cais gan nad oedd yn bresennol yn ystod yr ymweliad safle.  Fe wnaeth y Cynghorydd John Penri Williams atal rhag pleidleisio ar y cais.

 

 

 

6.4     - 30C674 - Cais amlinellol i godi wyth o dai tref dwy lofft gyda pharcio cysylltiol yn yr Hen

 

Seidins Rheilffordd, Pentraeth

 

 

 

Adroddwyd ar y cais hwn i gyfarfod 3 Chwefror 2010 gan bod y datblygiad wedi’i hysbysebu fel un oedd yn groes i’r cynllun datblygu gyda’r Swyddogion yn bwriadu ei ganiatáu.  Penderfynodd yr Aelodau ymweld â’r safle ac fe wnaed hynny ar 17 Chwefror 2010.

 

 

 

Hen seiding y rheilffordd yw’r safle gafodd ei ddefnyddio wedyn i bwrpasau masnachol.  Ynghyd â’r cais amlinellol fe geir manylion dangosol yn dangos teras o dai.  Byddai’r fynedfa yn uniongyrchol oddi ar yr A5025.

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod pryderon ynglyn â’r lefelau arfaethedig a gofynnodd am i’r cais gael ei ohirio hyd nes y gellid cynnal trafodaethau pellach.  

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio’r cais yn unol â chais y Swyddog.

 

   

 

7

CEISIADAU ECONOMAIDD

 

      

 

     Nid oedd unrhyw geisiadau economaidd wedi’u cyflwyno i’w penderfynu gan y Pwyllgor.

 

      

 

8     CEISIADAU TAI FFORDDIADWY

 

      

 

     Nid oedd unrhyw geisiadau tai fforddiadwy wedi’u cyflwyno i’w penderfynu gan y Pwyllgor.

 

      

 

9     CEISIADAU’N TYNNU’N GROES i BOLISI

 

      

 

9.1     - 18C191 - Dymchwel yr annedd bresennol a chodi annedd newydd yn Bryn Awelon,

 

Rhydwyn

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio mai’r bwriad yw gwneud defnydd o eiddo gafodd ei ddifrodi’n helaeth gan dân ac roedd hynny’n codi materion polisi.  Mae’r cais felly yn un sy’n groes i’r cynllun datblygu ond roedd y swyddogion yn bwriadu ei ganiatáu.

 

 

 

Mae’r safle yn wynebu’r ffordd fawr yn Rhydwyn sy’n arwain i Borth Swtan ac yn gorwedd ar ffin yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.  Annedd unllawr ar wahân yw’r eiddo ac mae wedi’i ddifrodi’n  helaeth gan dân.  Y bwriad yw ailadeiladu annedd newydd o’r un maint ac ar yr un troedbrint â’r annedd oedd yno cynt.

 

 

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.

 

 

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Swyddogion am y ffordd hwylus yr oeddynt wedi delio gyda’r cais o ganlyniad i amgylchiadau eithriadol.

 

 

 

9.2     -  28C368D - Cais llawn i godi annedd a garej ar wahân, creu mynedfa i gerbydau a gosod

 

tanc septig ar ran o gae 3821, Bryn Du

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y cais yn un oedd yn tynnu’n groes i bolisi gan nad yw wedi’i leoli ar ffin anheddiad Bryn Du.  Fodd bynnag, oherwydd hanes y safle, roedd y Swyddogion yn bwriadu caniatáu’r cais.

 

 

 

Mae’r safle mewn gosodiad gwledig ac ar y ffordd sy’n rhedeg o Bryn Du i Pencarnisiog.  Nid oedd yna unrhyw eiddo arall yn agos iawn ato.  Mae’r cais yn un llawn i godi byngalo dormer a garej breifat a chreu mynedfa newydd i gerbydau.  Rhai o’r pethau i’w hystyried oedd bodolaeth caniatâd cynllunio ar ran o’r safle ac a oedd hynny yn ddigon pwysig i orbwyso gwrthwynebiadau polisi i’r datblygiad, a oedd dyluniad yr annedd arfaethedig yn dderbyniol ac a fyddai’r datblygiad yn cael effaith ar y tirlun o’i gwmpas.  Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod safle’r datblygiad wedi’i symud ychydig lathenni oherwydd anawsterau ynglyn â pherchenogaeth y tir.  Cadarnhaodd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd O Glyn Jones, bod Scottish Power wedi dweud mai’r cwmni oedd perchenogion rhan o’r safle ac felly fe fu’n rhaid cyflwyno cais newydd.

 

 

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.

 

 

 

10

CYNIGION DATBLYGU A GYFLWYNWYD GAN GYNGHORWYR AC/NEU SWYDDOGION

 

      

 

10.1     - Cais amlinellol i ddymchwel y garej bresennol, codi dwy annedd, ynghyd â gwaith altro

 

i’r fynedfa ar dir ger Iorwerth Terrace, Bethel, Bodorgan

 

 

 

Roedd y cais wedi’i ddwyn gerbron y Pwyllgor oherwydd bod aelod staff sy’n gweithio yn yr Adran Gynllunio yn byw yn yr eiddo drws nesaf ac roedd gwrthwynebiad wedi’i dderbyn gan breswylwyr yr eiddo hwnnw.  Roedd y cais wedi’i sgriwtineiddio gan y Swyddog Monitro fel sy’n ofynnol dan baragraff 4.6.10.4 y Cyfansoddiad.

 

 

 

Darllennodd y Cadeirydd lythyr oedd wedi’i dderbyn gan yr Aelod Lleol, y Cynghorydd R Ll Hughes oedd yn gofyn i’r Pwyllgor ymweld â’r safle a hynny oherwydd pryderon ynglyn â thraffig, gorddatblygu’r safle a thanciau petrol gwag.  

 

 

 

PENDERFYNWYD ymweld â’r safle yn unol â chais yr Aelod Lleol.

 

 

 

10.2     - 41C45F - Cais llawn i godi annedd deulawr, gwneud gwaith altro i’r fynedfa i gerbydau a

 

gosod gwaith trin carthffosiaeth yn Dalar Deg, Penmynydd

 

 

 

Roedd y cais wedi’i ddwyn gerbron y Pwyllgor oherwydd bod yr ymgeisydd yn gweithio i’r Cyngor ac yn ymwneud yn anuniongyrchol gyda’r broses wneud cais.  Roedd y cais wedi’i sgriwtineiddio gan y Swyddog Monitro fel sy’n ofynnol dan baragraff 4.6.10.4 y Cyfansoddiad.

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod cais amlinellol am annedd ddeulawr ar wahân gyda gwaith altro i’r fynedfa bresennol i gerbydau i Pen Dalar ynghyd â gosod gwaith trin carthffosiaeth newydd wedi’i ganiatáu fis Gorffennaf 2009 a bod y safle o fewn pentref sy’n cael ei nodi yn y Cynllun Lleol ac yn y Cynllun Datblygu Unedol.  

 

 

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.

 

 

 

11

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

11.1     - 11C545 - Addasu, altro ac ymestyn y biniau copr presennol i ffurfio canolfan ymwelwyr

 

newydd yn y Terminal Morwrol, Porth Amlwch

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y cais yn cael ei ddwyn gerbron y Pwyllgor i’w benderfynu oherwydd ei fod yn ymwneud â thir y Cyngor.

 

 

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.

 

 

 

11.2     - 12C266D - Dymchwel y siediau cychod presennol a chodi siediau cychod newydd,

 

ynghyd â gwaith altro ac ymestyn i siop yr orsaf betrol, siop bysgota a gosod gwaith trin ym Mhenrhyn Safnas, Biwmares

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y cais yn cael ei ddwyn gerbron y Pwyllgor i’w benderfynu oherwydd bod y datblygiad ar dir y Cyngor.  Mae’r safle i’r gorllewin o Benrhyn Safnas, ger yr adeiladau presennol sy’n cael eu defnyddio i bwrpasau morwrol. Dywedodd y Swyddog mai cais oedd hwn i ddatblygu rhan o’r safle’n unig gan bod y gwaith i ddatblygu’r safle gyfan wedi cael caniatâd cyn hyn fel oedd yn cael ei ddangos yn yr adroddiad i’r Pwyllgor.  Dywedodd bod y gwaith ymgynghori gyda’r Cyngor Cefn Gwlad ac Asiantaeth yr Amgylchedd wedi’i gwblhau’n foddhaol.  Cadarnhaodd y Swyddog fod Asiantaeth yr Amgylchedd yn fodlon gyda’r asesiad risg o lifogydd a gyflwynwyd ac fe  roddodd y Swyddog ymateb llafar hefyd i’r pryderon oedd yn cael eu codi gan gyngor y Dref. Er nad oedd hyn yn fater Cynllunio, cafwyd ar ddeall y bydd y tenantiaid yn cael cynnig unedau newydd, ni

 

fydd unrhyw unedau gwerthu newydd ac fe fydd y dyddiad cychwyn cyn gynteg ag sy’n bosib.

 

 

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.

 

 

 

11.3     - 19LPA/838A/CC - Codi ffens i ddarparu stor biniau yn Ysgol Parch Thomas Ellis Caergybi

 

 

 

Cais oedd hwn gan yr Awdurdod Lleol ar safle ysgol gynradd yng Nghaergybi, sef Ysgol Parch Thomas Ellis.  Roedd y cynnig yn golygu codi ffens i greu storfa biniau.

 

   

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.

 

 

 

11.4     - 19LPA922/CC - Codi estyniad yng nghefn yr eiddo a llunio lle sefyll caled yn ffrynt yr

 

eiddo a gwaith altro i’r fynedfa yn 20 Tan yr Efail, Caergybi

 

 

 

Yr Awdurdod Lleol oedd yn gwneud y cais gyda’r annedd ar stad Tan yr Efail, Caergybi, sef ty teras.  Cynnig oedd hwn i godi estyniad yng nghefn yr annedd ac ail broffilio’r tir o fewn y cwrtil a gwneud gwaith altro i’r fynedfa.

 

 

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.

 

 

 

11.5     - 34LPA/6884A/CC - symud y drysau presennol a chodi estyniad i wneud mynedfa newydd

 

ym Mhlas Arthur, Llangefni

 

 

 

Roedd y cais ar dir y Cyngor yng Nghanolfan Hamdden Plas Arthur Llangefni mewn ardal breswyl y gellir mynd iddi oddi ar y B5109 Ffordd Cildwrn.  Cais oedd hwn i newid y drysau presennol a chodi mynedfa newydd.  

 

 

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.

 

 

 

11.6     - 36C259C - cais llawn i newid safle yr annedd a’r tanciau septig ar dir ger Bwlch Coch,

 

Llangristiolus

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y cais yn un oedd yn tynnu’n groes i’r cynllun datblygu gyda’r awdurdod cynllunio lleol yn bwriadu ei ganiatáu ac ymddiheurodd nad oedd y cais wedi’i gynnwys yn y rhan iawn o’r Agenda heddiw.  Dywedodd bod y safle yn y cefn gwlad ac yn ffurfio rhan o ardal dirwedd arbennig.  Roedd y cais yn un am dy o’r un dyluniad a’r un gafodd ei ganiatáu o dan y caniatâd cynllunio sy’n dal yn fyw ond bod angen ei ail leoli ychydig lathenni i’r gorllewin.  Bwriedir gosod tanc septig a thraen cerrig hefyd yn lle’r carthbwll a ganiatawyd yn flaenorol.  Ail leolwyd y fynedfa i gerbydau hefyd tua’r de ar gais Adain Priffyrdd y Cyngor.

 

 

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.

 

 

 

11.7     - 40LPA539E/CC - gwaith altro ac ymestyn i Ganolfan Gwylfan, Moelfre

 

 

 

Yr Awdurdod Lleol oedd yn gwneud y cais yn y Wylfan ym Moelfre.  Roedd y cais yn golygu gwneud gwaith altro ac ymestyn i’r Wylfan er mwyn gallu gwneud y mwyaf o’i botensial fel canolfan i ymwelwyr. Roedd y safle o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ac roedd yn ddynodiad statudol sy’n cydnabod ei bwysigrwydd o ran ansawdd y dirwedd a chadwraeth natur.  Prif amcan Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol yw cadw a gwella ei harddwch naturiol.  Mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd statudol i roi sylw i fwriadau’r Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ac fe ddylai unrhyw benderfyniad rheoli datblygu sy’n cael effaith ar yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol fod o blaid cadw ei harddwch naturiol.

 

 

 

Cyfeiriodd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd Derlwyn Rees Hughes at y llythyr o wrthwynebiad oedd wedi’i ddosbarthu i’r Aelodau a dywedodd ei fod yn anghytuno’n hollol gyda phob agwedd o’i gynnwys.  Roedd y gwrthwynebydd yn aelod o Bartneriaeth Moelfre ac roedd yn bresennol pan drafodwyd y cais ar 18 Awst 2009.  Roedd y gwrthwynebwr yn un o Foelfre.  Nid oedd ganddo unrhyw bryderon ynglyn â’r lefelau arfaethedig.

 

 

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.

 

 

 

11.8     -  43LPA213B/CC - Gosod dosbarth symudol yn Ysgol Gynradd, Rhoscolyn

 

 

 

Yr Awdurdod Lleol oedd yn gwneud y cais ar safle Ysgol Gynradd Rhoscolyn a’r bwriad oedd gosod dosbarth symudol ar gyfer meithrinfa cyn ysgol.

 

 

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.

 

 

 

12

MATERION ERAILL

 

      

 

12.1     - 11LPA101F/1/LB/CC - Caniatâd Adeilad Rhestredig am waith mewnol yn Ysgol Syr

 

Thomas Jones, Amlwch

 

(Cafwyd Datganiad o Ddiddordeb gan y Cynghorydd T H Jones ac ni chymerodd unrhyw ran yn y drafodaeth na phleidleisio ar y cais)

 

 

 

Nododd yr Aelodau y bydd y cais yn cael ei anfon ymlaen i Lywodraeth Cynulliad Cymru i’w benderfynu yn unol â Rheoliad 13 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990.

 

 

 

13

PENDERFYNIADAU A DDIRPRWYWYD

 

      

 

     Cyflwynwyd a derbyniwyd er gwybodaeth, adroddiad Pennaeth y Gwasanaeth Cynllunio ynglyn â’r ceisiadau a ddirprwywyd ac a benderfynwyd ers cyfarfod blaenorol y Pwyllgor hwn.

 

 

 

14

APELIADAU

 

      

 

     Roedd copïau o grynodeb o’r penderfyniadau gan yr Arolygwr Cynllunio mewn perthynas â’r apeliadau canlynol i’w nodi a’i gyflwyno:-

 

      

 

13.1     - Tir ac adeiladau yn Clwch Mawr, Trefor - Gwrthod yr apêl ar sail (a) i (f) a chaniatáu ar sail (g)    yn unig;

 

13.2     - Ty Lawr, Ffordd y Traeth, Cemaes - Caniatáu’r Apêl.

 

     Mynegodd y Cynghorwyr W T Hughes (yr Aelod Lleol) ac R L Owen eu siom gyda chanlyniad yr apêl a gofynnodd y ddau am i’r datblygiad gael ei fonitro’n ofalus iawn.

 

      

 

       

 

       

 

 

 

     Dechreuodd y cyfarfod am 1.00 p.m. a daeth i ben am 2.40 p.m.

 

      

 

      

 

     CYNGHORYDD KENNETH HUGHES

 

     CADEIRYDD