Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion dogfennau , 3 Mai 2006

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Dydd Mercher, 3ydd Mai, 2006

PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION

 

Cofnodion cyfarfod a gynhaliwyd ar 3 Mai, 2006

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd J Arwel Roberts - Cadeirydd

Y Cynghorydd J Arthur Jones - Is-Gadeirydd

 

Y Cynghorwyr John Byast, Eurfryn Davies, Arwel Edwards,

PM Fowlie, Aled Morris Jones, O Glyn Jones, RL Owen,

D Lewis-Roberts, John Roberts, W Tecwyn Roberts

 

 

 

WRTH LAW:

 

Cynllunio:

Pennaeth Rheoli Datblygu

Arweinydd Tim (Mwynau a Gwastraff)(JIW)

 

Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol (RWJ)

Cynorthwywr Gweinyddol (CWP)

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Y Cynghorwyr Denis Hadley, WJ Chorlton

 

HEFYD YN BRESENNOL:

 

Aelodau lleol:  Y Cynghorwyr Keith Evans - eitem 6.10,

RLl Hughes - eitem 6.2, 9.4, WI Hughes - eitem 7.1, 9.1,   

TH Jones - eitem 10.6, RG Parry OBE - eitem 3.1, 6.3,

E Schofield - eitem 11, John Williams - eitem 6.6, 6.7, 6.8.

 

1

YMDDIHEURIADAU

 

Derbyniwyd ymddiheuriadau fel a nodwyd uchod..

 

2

DATGAN DIDDORDEB

   

Derbyniwyd datganiadau o ddiddordeb fel y cawsant eu cofnodi dan yr eitemau perthnasol.

 

3

COFNODION

 

Cadarnhawyd a llofnodwyd cofnodion y cyfarfodydd a ganlyn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion:

3.1

5 Ebrill, 2006 (tud ) yn amodol ar y cywiriad a ganlyn:

 

Etem 8.2 17C188C  cais amlinellol ar gyfer codi annedd ynghyd â chreu mynedfa newydd ar dir ger Bryn Bela, Penmynydd - yn y paragraff olaf ar dudalen 13 CYTUNWYD i ddileu “roedd yn teimlo fod yr aelod lleol yn camarwain y Pwyllgor”

 

 

3.1

YN CODI AR Y COFNODION:

 

 

 

CAIS ECONOMAIDD

 

 

 

16C166/ECON  CAIS I GODI GWAITH NWY-BIO, CREU MYNEDFA NEWYDD AR GYFER CERBYDAU YNGHYD Â THIRLUNIO AR RANNAU O GAEAU O.S. 7689, 7174, 6760 GER CAE’R GLAW, GWALCHMAI

 

 

 

Cafwyd datganiad o ddiddordeb gan y Cynghorydd PM Fowlie a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r pleidleisio.  Cafwyd hefyd ddatganiad o ddiddordeb gan y Cynghorydd RG Parry OBE a fuasai’n cymryd rhan yn y drafodaeth ar ôl derbyn cyngor cyfreithiol.  Safodd y Cynghorydd J Arthur Jones i lawr o fod yn Is-Gadeirydd y Pwyllgor er mwyn iddo gymryd rhan fel aelod lleol.  

 

 

 

Cafwyd ymweliad â’r safle ar 14 Rhagfyr, 2005.  Ar 8 Mawrth, 2006 roedd yr aelodau’n dymuno gwrthod y cais, a hynny’n groes i argymhelliad y swyddog. Glynodd yr aelodau wrth y penderfyniad hwn ar 5 Ebrill, 2006 a phenderfynwyd ymhellach y buasai’r swyddog yn drafftio rhesymau dros wrthod y cais i’r aelodau eu hystyried erbyn y cyfarfod hwn.  

 

 

 

Awgrymodd yr Arweinydd Tim (Mwynau a Gwastraff) y rhesymau a ganlyn dros wrthod y cais hwn:

 

 

 

Ÿ

cred yr awdurdod cynllunio lleol y buasai’r cynnig, oherwydd ei uchder, ei raddfa a’i argraff yn cael effaith andwyol ar yr olygfa mewn ardal sydd yn Ardal Tirwedd Arbennig

 

Ÿ

cred yr awdurdod cynllunio lleol y buasai’r cynnig yn cyflwyno datblygiad masnachol dieithr yn y cefn gwlad agored a hynny yn andwyol i gymeriad yr ardal a phleserau perchnogion a deiliad tai cyffiniol a gerllaw

 

Ÿ

buasai’r datblygiad arfaethedig yn cael effaith ddrwg ar bleserau preswylwyr y tai gerllaw oherwydd arogleuon, swn, amharu’n gyffredinol a hefyd oherwydd cynnydd yn symudiadau cerbydau.

 

 

 

Yn ogystal â’r uchod teimlai’r Cyngorydd RG Parry y dylid cefeirio at TAN 21.

 

 

 

Cytuno â’r uchod a wnaeth y Cynghorydd J Arthur Jones, ond yn ogystal i hyn tiemlai nad oedd y bwriad yn hunangynaliadwy yn  rhanbarthol nac yn ateb i’r egwyddor o agosatrwydd at y gwastraff.  Cafwyd cynnig i’r perwyl hwn gan y Cynghorydd John Roberts a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Eurfryn Davies.

 

 

 

PENDERFYNWYD gwrthod y cais am y rhestymau a roddwyd gan y swyddog ynghyd a’r rhesymau ychwanegol a ganlyn:

 

 

 

Ÿ

nid yw’r cynnig yn rhoddi sylw i hunan gynaliadwyaeth ranbarthol, a

 

Ÿ

yr egwyddor o agosatrwydd i’r gwastraff

 

 

 

 

 

3.2

cofnodion - 2 Mai, 2006 Nodwyd mai’r Cynghorydd J Arwel Roberts gafodd ei ethol yn Gadeirydd a’r Cynghorydd J Arthur Jones yn Is-Gadeirydd y Pwyllgor hwn.  Estynnodd y Cynghorydd RL Owen ei longyfarchiadau.  (tud )

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd Eurfryn Davies fod dyrannu seddau i grwpiau gwleidyddol yr Awdurdod yn dal i fod yn fater o bryder.

 

 

 

 

 

4

YMWELIADAU Â SAFLEOEDD

 

 

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd yr adroddiad ar yr Ymweliadau â Safleoedd Cynllunio a gafwyd ar 19 Ebrill,  2006, yn amodol ar y newid a ganlyn:

 

 

 

Roedd y Cynghorydd Tecwyn Roberts yn bresennol ar safleoedd 1, 2 & 3 yn unig ac nid ymwelodd â safle rhif 4, ac ychwanegu enw’r Cynghorydd Hefin Thomas ar rhestr o aelodau a ymwelodd â safle rhif 4.

 

 

 

 

 

5

CEISIADAU A OHIRIWYD

 

   

 

5.1

32C149  DARPARU CYFLEUSTERAU HEDFAN  SIFIL YN R.A.F. Y FALI, CAERGYBI

 

 

 

Fe nodwyd fod ymgynghori yn cymryd lle mewn perthynas â’r cais uchod.  Oherwyd natur y cais, argymhelliad y swyddog oedd y dylai’r aelodau ymweld â’r safle hwn ar 17 Mai, 2006

 

 

 

 

 

PENDERFYNWYD ymweld â’r safle am y rheswm a roddwyd.

 

 

 

 

 

6

CEISIADAU’N CODI O’R COFNODION:

 

 

 

6.1

CAIS YN TYNNU’N GROES

 

 

 

11C141D  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD YNGHYD AG ADDASU’R FYNEDFA BRESENNOL AR DIR GER PANT HEULOG, FFORDD PORTH LLECHOG, AMLWCH

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Yn ei gyfarfod ar 8 Mawrth, 2006 penderfynodd y Pwyllgor ymweld â’r safle ac fe wnaed hynny ar 15 Mawrth, 2006.  

 

 

 

Yn ei gyfarfod ar 5 Ebrill, 2006 roedd yr aelodau’n dymuno caniatáu’r cais gan y teimlai’r aelodau fod hwn yn estyniad naturiol - safai’r safle ar derfyn y pentref.  Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio’n otomatig er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rheswm dros ganiatau’r cais.

 

 

 

Rhoes y Pennaeth Rheoli Datblygu y wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau, sef bod yr ymgeiswyr bellach yn bwriadu cysylltu gyda’r garthffos gyhoeddus yn hytrach na defnyddio tanc septig.

 

 

 

Gan y Cynghorydd J Arthur Jones cafwyd cynnig i lynu wrth y penderfyniad hwn a rhoddi caniatâd i’r cais am y rhesymau a roddwyd o’r blaen, a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Tecwyn Roberts.  Cytunodd y Cynghorydd PM Fowlie gyda hyn.

 

 

 

Pleidleisiodd yr aelodau a ganlyn i ganiatáu’r cais:  y Cynghorwyr Eurfryn Davies, PM Fowlie, Aled Morris Jones, J Arthur Jones, RL Owen, John Roberts, W Tecwyn Roberts

 

 

 

PENDERFYNWYD glynu wrth y penderfyniad blaenorol ac i ganiatáu’r cais hwn oedd yn gwyro, yn groes i argymhelliad y swyddog, am y rheswm a roddwyd, gydag amodau safonol.

 

 

 

 

 

6.2

GWEDDILL Y CEISIDADAU

 

 

 

15C144A  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD NEWYDD YNGHYD AG ADDASU Y FYNEDFA BRESENNOL I GERBYDAU A GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD AR GAE O.S. 1833 TYDDYN BWRTAIS, LLANGADWALADR

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol. Yn y cyfarfod blaenorol roedd y Pwyllgor yn dymuno caniatau’r cais gan y teimlai’r aelodau fod y cais yn cydymffurfio â Pholisi 50 (pentrefi rhestredig) o bod y safle o fewn clwstwr.  Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio’r otomatig er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatau’r cais.  

 

 

 

Am y rhesymau a roddwyd gofynnodd y Cynghorydd RLl Hughes i’r Pwyllgor lynu wrth ei benderfyniad ac i ganiatáu’r cais.

 

 

 

Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu fod y cais hwn union yr un fath â chais a wrthodwyd o’r blaen, ac roedd yn dal i gredu fod raid gwrthod y cais.

 

 

 

Gan y Cynghorydd Glyn Jones cafwyd cynnig i lynu wrth y penderfyniad o ganiatáu’r cais am y rhesymau a roddwyd, a chafodd ei eilio gan y Cynghorwyr Tecwyn Roberts a RL Owen.

 

 

 

Gan y Cynghorydd John Roberts cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais, a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd J Arthur Jones.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Pleidleisiodd yr aelodau a ganlyn i ganiatáu’r cais:  Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, PM Fowlie, Aled Morris Jones, O Glyn Jones, RL Owen, D Lewis-Roberts,

 

W Tecwyn Roberts

 

 

 

Pleidleisiodd yr aelodau a ganlyn i dderbyn adroddiad y swyddog ac i wrthod y cais:  Y Cynghorwyr J Arthur Jones, John Roberts, J Arwel Roberts

 

 

 

PENDERFYNWYD glynu wrth y penderfyniad blaenorol ac i ganiatáu’r cais hwn oedd yn gwyro, yn groes i argymhelliad y swyddog, am y rheswm a roddwyd, gydag amodau safonol.

 

 

 

6.3

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

16C52A  CAIS LLAWN I ADNEWYDDU Y TY FFERM YNGHYD AG ADDASU AC EHANGU GONGL HELYG, CAPEL GWYN

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Yn ei gyfarfod ar 15 Mawrth, 2006 penderfynodd y Pwyllgor ymweld â’r safle ac fe wnaed hynny ar 19 Ebrill, 2006.

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd RG Parry y buasai’r cynnig hwn yn darparu cartref i rieni a nain gwraig yr ymgeisydd, ac o roddi caniatad gostyngid lefel y traffig gan fod yr ymgeiswyr yn ymweld â’r teulu ar y tir mawr bob dydd.  Rhyw ugain mlynedd yn ôl gwnaed rhywfaint o waith addasu ar yr adeiladau gan y perchennog cynt.  Buasai’r annedd yn parhau i fod yn un unllawr a châi llawer iawn o nodweddion gwreiddiol yr adeilad eu hadfer.  Hefyd yr oedd yr ymgeiswyr yn fodlon gwneud Cytundeb dan Adran 106 i gadw’r ddwy annedd fel uned sengl a theimlai’r Cynghorydd Parry fod cyfiawnhad i ganiatáu a gofynnodd am roddi ystyriaeth ffafriol i’r cais.

 

 

 

Teimlo yr oedd y Cynghorydd Glyn Jones fod y cais hwn yn cydymffurfio gyda’r polisiau addasu, ac os oedd yr ymgeiswyr am gadw’r ddwy annedd fel un uned cynigiodd roddi caniatâd.  Yr oedd y Cynghorydd RL Owen wedi sylwi bod arolwg strwythurol boddhaol gyda’r cais a theimlai fod y cynnig ger bron yn mynd i wneud defnydd o adeilad gwag ac eiliodd y cynnig i roddi caniatâd.  

 

 

 

Ond pryderu oedd y Cynghorydd John Roberts ynghylch y cynnydd ym maint y lle a gofynnodd tybed a oedd modd gostwng y maint.  

 

 

 

Nid oedd y Cynghorydd D Lewis-Roberts yn siwr a fuasai canitatáu’r cais, mewn gwirionedd, yn arwain at ostynghiad yn y llif traffig.

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd Aled Morris Jones nad oedd strwythur y ffyrdd yn wahanol i eraill ar draws yr Ynys.  

 

 

 

Er bod yr Adran yn edrych yn ffafriol ar geisiadau i addasu adeiladau, ychwanegodd y Pennaeth Rheoli Datblygu fod ei swyddogion o’r farn bod yr estyniadau arfaethedig yn yr achos hwn yn rhy fawr i faint ac i argraff yr adeiladau presennol a hynny’n andwyo cymeriad gwreiddiol y lle - nid oedd y cais yn bodloni meini prawf angenrheidiol dan Bolisi 55(addasu) yng Nghynllun Lleol Ynys Mon.  Yng nghyswllt y posibilrwydd o ostwng maint yr estyniad dywedodd y swyddog bod raid ystyried y cais fel yr oedd gerbron.  Roedd yr Adran Briffyrdd yn pryderu am gynnydd yn y traffig, ac roedd yr argymhelliad yn aros fel argymhelliad o wrthod.

 

 

 

Gan y Cynghorydd John Roberts cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog ac i wrthod y cais, a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd D Lewis-Roberts.

 

 

 

Pleidleisiodd yr aelodau a ganlyn i ganiatáu’r cais:  Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, Arwel Edwards, PM Fowlie, Aled Morris Jones, O Glyn Jones, RL Owen.  I bwrpas y cofnod dywedodd y Cynghorydd Eurfyn Davies na allai fod yn bresennol ar yr ymweliad swyddogol, ond ei fod wedi ymweld â’r safle yn ei amser ei hyn.

 

 

 

Pleidleisiodd yr aelodau a ganlyn i dderbyn adroddiad y swyddog ac i wrthod y cais:  Y Cynghorwyr J Arthur Jones, D Lewis-Roberts, John Roberts, J Arwel Roberts

 

 

 

Ymatal:  Y Cynghorydd W Tecwyn Roberts, a ychwanegodd nad oedd wedi ymweld â’r safle yma.

 

 

 

Y rheswm a roddwyd dros ganiatáu oedd y teimlai’r aelodau fod y cais hwn yn cydymffurfio â’r meini prawf ar gyfer addasiadau dan Bolisi 55 o Gynllun Lleol Ynys Mon 

 

 

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio’n otomatig i’r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rheswm dros ganiatáu’r cais yma.  

 

      

 

6.4     GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     17C250J  ESTYNIAD I’R SAFLE PRESENNOL YNGHYD Â GOSOD 10 CARAFAN SYMUDOL YCHWANEGOL I WNEUD CYFANSWM O 22 CARAFAN SYMUDOL AR GYFER DEFNYDD GWYLIAU MEWN CYSYLLTIAD Â’R GANOLFAN BYSGOTA BRESENNOL YN LLYN Y GORS, LLANDEGFAN

 

      

 

     Cafwyd datganiad o ddiddordeb gan y Cynghorydd Eurfryn Davies a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r pleidleisio.  

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Yn ei gyfarfod ar 5 Ebrill, 2006 penderfynodd y Pwyllgor ymweld â’r safle ac fe wnaed hynny ar 19 Ebrill, 2006.  Ar gyfer y cofnod dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu y dylai’r cais hwn ymddangos fel ‘Gweddill y Ceisiadau’ a hyn yn wahanol  i’r manylion ar ddechrau adroddiad y swyddog.

 

      

 

     Ar ôl cael golwg ar y safle teimlai’r Cynghorydd RL Owen bod y carafanau yno yn rhai sefydlog yn hytrach na rhai teithiol, ac roedd sawl car hefyd ar y safle carafanau.  Cytuno a wnaeth y Cynghorydd Glyn Jones gan ychwanegu eu bod nhw wedi gweld oddeutu 22 - 25 o garafanau ar y safle a gofynnwyd i’r swyddogion ymchwilio i’r mater.  

 

      

 

     Ar ôl ymweld â’r safle teimlai’r Cynghorydd J Arthur Jones bod y busnes hwn yn un llwyddiannus ac yn cael ei redeg yn effeithiol, ac roedd ef yn croesawu estyniad i’r fenter.  Ar y safle roedd y Cynghorydd D Lewis-Roberts wedi sylwi nad oedd y tir hwn yn y golwg o iard y fferm a chafwyd cynnig ganddo i dderbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd J Arthur Jones.

 

      

 

     Wedyn dygodd y Cynghorydd RL Owen sylw at wrthwynebiad trwy ddeiseb oherwydd safon rhwydwaith y ffyrdd lleol.  Teimlai’r Cynghorydd Glyn Jones bod yr ymgeiswyr eisoes yn torri’r rheolau cynllunio, a chynigiodd wrthod y cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd PM Fowlie.

 

      

 

     Wedyn soniodd y Pennaeth Rheoli Datblygu am hanes cynllunio’r safle fel y manylwyd ar yr hanes hwnnw yn yr adroddiad.  Roedd y cais wedi’i ddiwygio i gydymffurfio gyda phenderfyniad apêl yr Arolygydd a theimlwyd bod y pryderon yno bellach wedi’u lleddfu.  Roedd y safle yn destun ymchwil ac ymholiadau gan yr Adain Orfodaeth.  Roedd y cais yn cydymffurfio gyda pholisiau’r Awdurdod ar dwristiaeth ac ar yr economi, a chafwyd argymhelliad i ganiatáu gan y swyddogion.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd D Lewis-Roberts cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog ac i ganiatáu’r cais; cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd J Arthur Jones.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd PM Fowlie cafwyd cynnig i wrthod y cais, cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd RL Owen.

 

      

 

     Pleidleisiodd yr aelodau a ganlyn i wrthod y cais, a hynny’n groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr PM Fowlie, Aled Morris Jones, O Glyn Jones, RL Owen

 

      

 

     Pleidleisiodd yr aelodau a ganlyn i dderbyn adroddiad y swyddog ac i ganiatáu’r cais:  Y Cynghorwyr John Byast, Arwel Edwards, J Arthur Jones, D Lewis-Roberts,

 

     J Arwel Roberts W Tecwyn Roberts

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais hwn.  

 

      

 

6.5     GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     17C250K  CREU LLYN PYSGOTA YCHWANEGOL YNGYD Â NEWIDIADAU I GANIATÂD  17C250D,  LLYN Y GORS, LLANDEGFAN

 

      

 

     Cafwyd datganiad o ddiddordeb gan y Cynghorydd Eurfryn Davies a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r pleidleisio.  

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Ymwelwyd a’r safle ar 19 Ebrill, 2006 ar argymhelliad y swyddog.

 

      

 

     Gydag amodau perthnasol, argymhelliad y Pennaeth Rheoli Datblygu oedd un o dderbyn adroddiad y swyddog ac i ganiatáu’r cais.  Mewn ymateb i gwestiwn y Cynghorydd John Roberts dywedodd nad oedd yn gwybod am unrhyw gorff statudol yr ymgynghorwyd ag ef a oedd yn pryderu am lifogydd.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd RL Owen ei fod yn gweld y cais hwn yn dderbyniol, cytunodd y Cynghorydd Glyn Jones â hyn.  Gan y Cynghorydd J Arthur Jones cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais.  

 

      

 

     Pleidleisiodd yr aelodau a ganlyn i dderbyn adroddiad y swyddog ac i ganiatáu’r cais:  Y Cynghorwyr John Byast, Arwel Edwards, PM Fowlie, Aled Morris Jones,

 

     J Arthur Jones, O Glyn Jones, RL Owen, D Lewis Roberts, J Arwel Roberts W Tecwyn Roberts

 

      

 

     Doedd dim pleidlais i’r gwrthwyneb.

 

 

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatau’r cais.

 

      

 

      

 

6.6     GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     20C65C  CAIS OL-WEITHREDOL I OSOD TAIR UNED STORIO DROS DRO A NEWID DEFNYDD I IARD ADEILADWYR AR HEN SAFLE GWESTY’R FARAWAY, CEMAES

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Yn ei gyfarfod ar 5 Ebrill, 2006 roedd y Pwyllgor yn dymuno caniatáu’r cais yn groes i argymhelliad y swyddog, a hynny am y teimlai’r aelodau bod y safle wedi ei ddatblygu eisoes.  Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio’n otomatig er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu.

 

      

 

     Ailadroddodd y Cynghorydd John Williams yr hyn a ddywedodd o’r blaen gan ychwanegu y buasai’r cynnig ger bron yn twtio’r safle, a hefyd yn creu manteision cynllunio a phwysodd ar yr aelodau i lynu wrth y penderfyniad blaenorol a chaniatáu’r cais.

 

      

 

     Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu nad oedd y cynnig yn dderbyniol yn y lle penodol hwn a buasai caniatáu, hyd yn oed am gyfnod dros dro, yn gynsail i sefydlu trefniant parhaol gydag amser.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd J Arthur Jones cafwyd cynnig i lynu wrth y penderfyniad blaenorol ac i ganiatáu’r cais, cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd John Roberts.

 

      

 

     Pleidleisiodd yr aelodau a ganlyn i lynu wrth y penderfyniad i ganiatáu’r cais yn groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr John Byast, J Arthur Jones, RL Owen, D Lewis-Roberts, John Roberts, W Tecwyn Roberts

 

      

 

     Pleidleisiodd yr aelodau a ganlyn i dderbyn adroddiad y swyddog ac i wrthod y cais:  Y Cynghorwyr Arwel Edwards, PM Fowlie, O Glyn Jones,

 

      

 

     PENDERFYNWYD glynu wrth y penderfyniad blaenorol ac i ganiatáu’r cais am y rheswm a roddwyd, a hynny’n groes i argymhelliad y swyddog, gydag amodau safonol.

 

      

 

6.7     CAIS YN TYNNU’N GROES

 

      

 

     20C223C  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD YNGHYD A CHREU MYNEDFA NEWYDD A GOSOD TANC SEPTIG AR DIR GER PEN Y BRYN, CEMAES

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd J Arthur Jones bod ganddo ganiatâd arbennig y Pwyllgor Safonau i fod yn rhan o’r broses o benderfynu ar y cais hwn.

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Yn ei gyfarfod ar 5 Ebrill, 2006 roedd y Pwyllgor yn dymuno caniatau’r cais yn groes i argymhelliad y swyddog, a hynny am y teimlai’r aelodau bod hwn yn estyniad rhesymol i’r ffin datblygu.  Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio’r otomatig er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu’r cais.

 

      

 

     Ailadroddodd y Cynghorydd John Williams ei ddatganiad blaenorol fel y manylwyd ar hynny yn y cofnodion a gofynnodd i’r aelodau lynu wrth y penderfyniad blaenorol a chaniatau.  

 

      

 

     Holi a wnaeth y Cynghorydd RL Owen ynghylch y posibilrwydd o sicrhau cytundeb dan Adran 106 er mwyn rhwystro datblygiad pellach ar weddill y tir.  

 

      

 

     Wedyn ychwanegodd y Pennaeth Rheoli Datblygu na chafwyd unrhyw dystiolaeth i ddangos bod yr annedd hon yn mynd i ddarparu ty fforddiadwy - roedd y cais yn groes i bolisiau, ac o’r herwydd roedd yr argymhelliad yn aros yn argymhelliad o wrthod.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd John Roberts cafwyd cynnig i lynu wrth y penderfyniad blaenorol ac i ganiatáu’r cais, cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd D Lewis-Roberts.

 

      

 

     Pleidleisiodd yr aelodau a ganlyn i ganiatáu’r cais, yn groes i argymhelliad y swyddog:  y Cynghorwyr John Byast, Eurfryn Davies, Aled Morris Jones, J Arthur Jones, RL Owen, D Lewis Roberts, John Roberts, W Tecwyn Roberts

 

      

 

     Doedd dim pleidlais i’r gwrthwyneb.

 

      

 

     PENDERFYNWYD glynu wrth y penderfyniad blaenorol ac i ganiatáu’r cais hwn sy’n tynnu’n groes, am y rhesymau a roddwyd gydag amodau safonol.

 

      

 

      

 

6.8     CAIS YN TYNNU’N GROES

 

      

 

     20C226  CAIS AMLINELLOL AR GYFER CODI ANNEDD YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD AR DIR GER CLOVELLY, CEMAES

 

   

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Yn ei gyfarfod ar 15 Mawrth 2006 penderfynodd y Pwyllgor ymweld â’r safle ac fe wnaed hynny ar 19 Ebrill, 2006.

 

 

 

Anghytunodd y Cynghorydd John Williams ble dywedai’r swyddog yn ei adroddiad “mae safle’r cais wedi’i leoli o fewn Ardal Tirwedd Arbennig ac ystyrir y byddai’r cynnig yn ymwthio ac yn

 

tynnu oddi wrth osodiad y tirwedd”.  - roedd rhan o’r safle yn gorlan ac yn wynebu Gorsaf Bwer yr Wylfa, a hefyd yng nghanol clwstwr o tua 20 o dai.  Oherwydd iechyd gwael roedd yr ymgeisydd yn dymuno ymddeol i fyw yn y lle hwn ac yn teimlo fod y lleoliad dan sylw yn gyfleus.  Cyrhaeddir y safle ar hyd cilfan ac roedd y tir dan sylw y tu mewn i’r cyfyngiad 30 mya.  Cafwydd argymhelliad ganddo i ganiatáu.

 

 

 

Ond atgoffwyd yr aelodau gan y Pennaeth Rheoli Datblygu bod y cais hwn yn tynnu’n groes i’r polisiau, ac ni chafwyd unrhyw dystiolaeth fod yma anghenion eithriadol;  o’r herwydd roedd yr argymhelliad yn aros yn un o wrthod a hefyd roedd y safle yn y cefn gwlad rhwng dwy ffin ddatblygu.  

 

 

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd John Roberts dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod y safle rhyw 200m draw oddi wrth y ffin ddatblygu, ac o’r herwydd nid oedd yn cydymffurfio gyda’r polisiau ar dai fforddiadwy.

 

 

 

Cytunodd y Cynghorydd J Arthur Jones bod y safle yn glir y tu allan i’r ffin ddatblygu.

 

 

 

Gan y Cynghorydd D Lewis-Roberts cafwyd cynnig o ganiatáu gan fod y safle o fewn clwstwr o anheddau, a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Tecwyn Roberts.

 

 

 

Pleidleisiodd yr aelodau a ganlyn i ganiatáu’r cais yn groes i argymhelliad y swyddog:  y Cynghorwyr John Byast, Aled Morris Jones, D Lewis-Roberts, W Tecwyn Roberts

 

 

 

Pleidleisiodd yr aelodau a ganlyn i dderbyn adroddiad y swyddog ac i wrthod y cais:  y Cynghorwyr Eurfryn Davies, Arwel Edwards, PM Fowlie, J Arthur Jones, O Glyn Jones, RL Owen, John Roberts

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais am y rhesymau a roddwyd.

 

      

 

6.9     CAIS YN TYNNU’N GROES

 

      

 

     30C332E  CAIS AMLINELLOL AR GYFER CODI ANNEDD YNGHYD Â DARPARU GWAITH TRIN CARTHFFOSIAETH PREIFAT AR DIR GER GWELFOR, BWLCH, BENLLECH

 

 

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Yn ei gyfarfod ar 15 Mawrth 2006 penderfynodd y Pwyllgor ymweld â’r safle ac fe wnaed hynny ar 19 Ebrill, 2006.

 

      

 

     Yn dilyn y cyfnod cyhoeddusrwydd dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu fod 3 llythyr o gefnogaeth wedi eu derbyn a 6 yn gwrthwynebu.  Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Tecwyn Roberts dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu am y bwriad i gynnwys Bwlch fel treflan wledig a chlwstwr yn yr CDU esblygol, ond nid oedd modd rhoddi pwysau ar y mater hwn am nad oedd y Cynllun diwygiedig wedi ei fabwysiadau;  am y rhesymau hyn credai’r Cynghorydd Tecwyn Roberts fod yma “bentref”.  Mewn ymateb i haeriad bod madfallod ar y safle dywedodd y swyddog y câi’r tir ei asesu cyn gwneud unrhyw waith adeiladu.  

 

      

 

     Cwpl ifanc oedd yma meddai’r Cynghorydd Tecwyn Roberts â’u bryd ar briodi, a rhoddwyd y tir yn rhodd iddynt a hynny ynddo’i hun yn golygu bod yma elfen o fforddiadwyaeth;  petai raid roedd yr ymgeiswyr yn fodlon symud y datblygiad a hefyd yn fodlon gwneud Cytundeb dan Adran 106 i rwystro rhagor o waith datblygu ar weddill y tir.  Nid oedd y Cyngor Cymuned yn gwrthwynebu.  Wedyn cafwyd argymhelliad cryf gan y Cynghorydd Roberts i ganiatáu’r cais er mwyn cadw pobl ifanc ar yr Ynys.

 

      

 

     Ni chredai’r Cynghorydd RL Owen fod modd dweud fod yma elfen o golli tir amaethyddol gwerthfawr, ac roedd y safle bron yng nghanol y pentref ac eiliodd y cynnig i ganiatáu.  Dweud a wnaeth y Cynghorydd Eurfryn Davies iddo ymweld â’r safle ac nid oedd yn gwrthwynebu’r bwriad.

 

      

 

     Ond gofyn a wnaeth y Cynghorydd D Lewis-Roberts a oedd modd symud y plot yn nes at dai eraill er mwyn rhwystro mewnlenwi yn y dyfodol.

 

      

 

     Dwyn sylw a wnaeth y Cynghorydd J Arthur Jones at ddarpariaethau i gyflwyno cais am dai fforddiadwy.  

 

      

 

     Yn dilyn hyn dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu fod y cais hwn yn amlwg yn groes i’r polisiau a phetai’r plot yn cael ei symud ychwanegai hynny at y problemau; roedd yma hanes o wrthod yn yr ardal hon a gellid gwerthu’r plot ar y farchnad agored yn y dyfodol.  Temlai’r swyddog y buasai caniatáu yn sefydlu cynsail i geisiadau yn y dyfodol.

 

      

 

Pleidleisiodd yr aelodau a ganlyn i ganiatáu’r cais yn groes i argymhelliad y swyddog:  y Cynghorwyr Eurfryn Davies, RL Owen, John Roberts, W Tecwyn Roberts

 

 

 

Pleidleisiodd yr aelodau a ganlyn i dderbyn adroddiad y swyddog ac i wrthod y cais:  y Cynghorwyr John Byast, Arwel Edwards, PM Fowlie, Aled Morris Jones, J Arthur Jones, O Glyn Jones, D Lewis Roberts, J Arwel Roberts

 

 

 

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais am y rhesymau a roddwyd.  

 

 

 

      

 

6.10      CAIS YN TYNNU’N GROES

 

      

 

     39C291K  CODI 44 O ANHEDDAU YN CYNNWYS 2 ANNEDD 2 YSTAFELL WELY, 12 ANNEDD 3 YSTAFELL WELY, 14 FFLAT 1 YSTAFELL WELY A 16 FFLAT 2 YSTAFELL WELY YNGHYD A CHREU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU AC I GERDDWYR YN STRYD Y PACED, PORTHAETHWY

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Cafwyd ymweliad â’r safle ar 15 Mawrth 2006.  Ar 5 Ebrill, 2006 gohiriwyd ystyried fel bod modd i swyddogion drafod gyda’r ymgeiswyr y posibilrwydd o ostwng uchder y pennau.

 

      

 

     Yn groes i’r hyn a ddywedwyd yn adroddiad y swyddog dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu fod cyfanswm o’r anheddau bellach i lawr o 46 i 44.  Roedd nifer yr apartmentau 2 ystafell wely i lawr o 18 i 16.  Roedd yr anheddau 4 llawr yn y ddau ben wedi eu gostwng i unedau trillawr, a gostyngiad pellach eto o 1.5m yn uchder yr anheddau trillawr ar y pen.  Gofynnwyd i’r aelodau anwybyddu’r dyddiad ar y cynllun gan fod cynllun 2005 wedi ei ddiweddaru.  Ond oherwydd y newidiadau hyn roedd y cynnig wedi ei ailhysbysebu a’r dyddiad cau i bwrpas derbyn sylwadau oedd 17 Mai, 2006.  Gyda’r amod na ddeuai sylwadau o bwys i mewn yn ystod gweddill y cyfnod ymgynghori argymhellodd y swyddog y dylid rhoddi awdurdod i’r Pennaeth Gwasanaethau Cynllunio ganiatáu’r cais am y rhesymau, a chyda’r amodau a roddwyd yn yr adroddiad.  

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd Keith Evans yn derbyn bod y cyfaddawd hwn yn fwy derbyniol ond roedd ganddo rai amheuon ynghylch faint o ostyngiad mewn gwirionedd a oedd yn uchder cyffredinol yr unedau pen a gofynnodd am gael rhagor o fanylion yn eu cylch.  Ond roedd y Cynghorydd RL Owen yn dal i bryderu am y cynnydd yn y traffig.

 

      

 

     Gyda’r amod fod y gwaith ymgynghori’n cael ei gwblhau’n foddhaol, ac ymgynghori hefyd gyda’r aelod ar uchder cyffredinol yr unedau pen PENDERFYNWYD rhoi’r awdurdod i’r Pennaeth Gwasanaethau Cynllunio ganiatáu’r cais.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

6.11      GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     42C130A  DYMCHWEL YR ANNEDD A CHODI ANNEDD NEWYDD YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD A GOSOD SYSTEM TRIN CARTHION YN ISFRYN, TREAETH COCH

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Yn ei gyfarfod ar 15 Mawrth 2006 penderfynodd y Pwyllgor ymweld â’r safle ac fe wnaed hynny ar 19 Ebrill, 2006.

 

      

 

     Nid oedd y Cynghorydd Hefin Thomas yn erbyn yr egwyddor ond teimlai y câi ty mawr ei godi yn lle bwthyn traddodiadol bychan. Wedyn dygodd y Cynghorydd Thomas sylw at y rhan honno o’r adroddiad gan y swyddog lle dywedodd - “mae dyluniad yr annedd arfaethedig o ansawdd uchel, ac yn debyg i eiddo sydd gerllaw.  Mae’r cynnig yn dod yn lle’r byngalo presennol fydd ag ond ychydig o werth pensaerniol esthetig  Roedd hi’n amlwg ar ôl yr ymweliad â’r safle fod y cynnig hwn yn groes i gymeriad yr ardal, ni fuasai’n asio gyda’r tir o gwmpas, a hefyd roedd y safle mewn AHNE, a theimlai’n ogystal nad oedd rhwydwaith y ffyrdd lleol yn cyrraedd y safon.

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd D Lewis-Roberts dangosodd y Pennaeth Rheoli Datblygu i’r aelodau gynllun o’r safle a hwnnw’n dangos yr offer trin carthion Calgester.  Ychwanegodd wedyn fod y cais yn cydymffurfio gyda Pholisi D4 (lleoliad, gosodiad a dyluniad) Cynllun Fframwaith Gwynedd a Pholisi HP9 (aneddau newydd yn lle hen rai) yn y Cynllun Datblygu Unedol (stopiwyd), a chredai’r swyddogion proffesiynol fod y cynnig yn welliant ar yr hyn oedd yno’n barod.  

 

 

 

Teimlai’r Cynghorydd RL Owen bod yma egwyddor o godi annedd newydd yn lle hen un a chynigiodd dderbyn adroddiad y swyddog a chaniatau’r cais; cafodd ei eilio gan y Cynghorydd Glyn Jones.

 

 

 

Pleidleisiodd yr aelodau a ganlyn i dderbyn adroddiad y swyddog ac i ganiatáu’r cais:  Y Cynghorwyr Councillors Arwel Edwards, Aled Morris Jones, O Glyn Jones, RL Owen,

 

 

 

Pleidleisiodd yr aelodau a ganlyn i wrthod y cais, yn groes i argymhelliad y swyddog:  y Cynghorwyr John Byast,  PM Fowlie, J Arthur Jones, D Lewis Roberts, John Roberts, J Arwel Roberts, W Tecwyn Roberts

 

 

 

Rhoddwyd y rhesymau a ganlyn dros wrthod y cais:

 

 

 

Ÿ

maint yr adeilad

 

Ÿ

gorddatblygu’r safle

 

Ÿ

mae’r safle o fewn AHNE

 

 

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio’n otomatig i’r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros wrthod y cais.  

 

 

 

 

 

7

CAIS ECONOMAIDD

 

      

 

7.1     14LPA683D/CC  CYNLLUNIAU MANWL DIWYGIEDIG AR GYFER CODI UNED DDIWYDIANNOL YNGHYD Â DARPARIAETH BARCIO A GWASANAETHAU CYSYLLTIEDIG AR DIR AR STAD DDIWYDIANNOL MONA

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno gan fod y cais wedi cael ei gyflwyno gan y Cyngor ac yn effeithio ar dir yn ei feddiant.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd WI Hughes nad oedd ganddo wrthwynebiad.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais gyda’r amodau y manylwyd arnynt.

 

      

 

8     CEISIADAU AM DAI FFORDDIADWY

 

      

 

     Fe nodwyd nad oedd ceisiadau am dai fforddiadwy i’w hystyried yn y cyfarfod hwn.

 

 

 

 

 

 

 

9

CEISIADAU’N TYNNU’N GROES:

 

 

 

9.1     14C199  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD A GOSOD TANC SEPTIC AR DIR GER BYNGALO PARCIAU, TYN LÔN, CAERGYBI

 

      

 

     Cafwyd datganiad o ddiddordeb gan y Cynghorydd J Arthur Jones a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r pleidleisio.  

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Dywedodd y Pennaeth Rheoli datblygu bod y Cyngor Cymuned wedi ymateb ac yn datgan cefnogaeth.

 

      

 

     Yma crdai’r Cynghorydd WI Hughes fod yr achos yn un eithriadol gan fod yr ymgeisydd yn ddynes leol oedd yn byw gyda’i gwr a’i theulu ifanc ym Modorgan ond yn gweithio yn Llanelwy.  I ofalu am y plant roedd yn cael cymorth ei rhieni, ac un o’r plant yn dioddef gyda pharlys yr ymennydd a’r ferch fach yn mynychu’r ysgol gynradd leol yn Llandrygarn.  Y drws nesaf i’r safle y mae byngalo Parciau a chynigiodd yr ymgeiswyr symud y fynedfa am resymau diogelwch.  Hefyd dygodd y Cynghorydd Hughes sylw’r aelodau at glwstwr o 7 - 8 annedd yn yr ardal ac roedd yn gwbl gefnogol i’r cais.  

 

      

 

     Yr hyn a wnaeth y Cynghorydd Glyn Jones oedd atgoffa’r aelodau o ymrwymiad yr Awdurdod hwn i “Wella Bywyd Mon” a chynigiodd roddi caniatâd.  A chan fod yr amgylchiadau yn eithriadol eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Aled Morris Jones.  Ni chredai’r Cynghorydd PM Fowlie chwaith y câ’i’r cais effaith andwyol ar yr ardal ac roedd am gefnogi’r cwpl ifanc.

 

      

 

     Ar ffeil y cais penodol hwn nid oedd yr un cyfeiriad at yr amgylchiadau eithriadol yn ôl y Pennaeth Rheoli Datblygu, ac nid oedd unrhyw sôn fod yr annedd yn cwrdd ag anghenion amaethyddol neu rai coedwigaethol.  Roedd y safle yn y cefn gwlad ac yn groes i’r Polisiau.  Heb fod ymhell roedd cais arall wedi ei wrthod bedair gwaith, ond ar y pumed cyfle rhoddwyd caniatâd, a hynny wedi sefydlu cynsail i ragor o geisiadau - ceisiadau megis yr un hwn.  Am y rhesymau a roddwyd roedd y swyddog yn argymell yn gryf iawn wrthod y cais.  

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd D Lewis-Roberts y rhoddai ef ei gefnogaeth i gais yn seiliedig ar anghenion arbennig, ond holodd a oedd tystiolaeth i gefnogi achos o’r fath.

 

      

 

     Pleidleisiodd yr aelodau a ganlyn i ganiatáu’r cais, yn groes i argymhelliad y swyddog:  y Cynghorwyr Arwel Edwards, PM Fowlie, Aled Morris Jones, O Glyn Jones, RL Owen, D Lewis-Roberts

 

      

 

     Pleidleisiodd yr aelodau a ganlyn i wrthod y cais yn unol ag adroddiad y swyddog:  Y Cynghorywyr John Byast, John Roberts, J Arwel Roberts.

 

      

 

     Y rheswm a roddwyd gan y Pwyllgor oedd y teimlai’r aelodau fod yma amgylchiadau arbennig (plentyn gyda salwch)

 

      

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio’n otomatig i’r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rheswm dros ganiatáu’r cais yma.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

9.2     17C266C CODI ANNEDD YNGHYD AG ADDASU’R FYNEDFA BRESENNOL YN RHANDIR, LLANSADWRN

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Cyfeiriodd y Pennaeth Rheoli Datblygu at 40 o lythyrau safonol ychwanegol a dderbyniwyd, yr oedd cymydog yn gwrthwynebu oherwydd agosrwydd y datblygiad i’w thy hi a cholli pleserau.  Flwyddyn yn unig yn ôl roedd cais wedi ei wrthod ar y safle a dangosodd y swyddog i’r aelodau ddrychiadau o’r annedd a hefyd gynllun o’r safle.  

 

      

 

     Ni chredai’r Cynghorydd Eurfryn Davies fod y safle hwn yn y cefn gwlad gan ei fod yng nghanol clwstwr o anheddau ac ni fuasai’r datblygiad yn y golwg o’r ffordd a hefyd roedd y safle, tan yn ddiweddar, yn rhan o fusnes - oherwydd y pwynt hwn roedd modd ystyried y cais yn gais ar safle llwyd.  Roedd y teulu yn fodlon gwneud Cytundeb dan Adran 106 i gadw’r cynnig a’r Rhandir fel un uned.

 

      

 

     Oherwydd y defnydd a wnaed o’r safle yn y gorffennol (safle llwyd) cafwyd cynnig i ganiatáu gan y Cynghorydd RL Owen a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Eurfryn Davies.  

 

      

 

     Ond credai’r Cynghorydd John Roberts fod y cais gerbron yn debyg iawn i un a wrthodwyd yn y gorffennol a chafwyd cynnig ganddo i dderbyn adroddiad y swyddog a gwrthod.

 

      

 

     Oherwydd y bwriad i ledu’r fynedfa a gwella’r welededd teimlai’r Cynghorydd D Lewis Roberts fod yma fanteision cynllunio, a hefyd roedd yr ymgeisydd am symud y garafan oddi ar y safle.  Cefnogi hefyd a wnaeth y Cynghorydd Tecwyn Roberts fel ag a wnaeth yn y gorffennol.

 

      

 

     Gweld oedd y Cynghorydd J Arthur Jones fod y cais hwn yn groes i’r polisiau cynllunio ac na chyflwynwyd unrhyw dystiolaeth i gyfiawnhau caniatau, nid roedd yr un arwydd chwaith fod hwn yn mynd i fod yn gartref fforddiadwy.  Yn ôl y Pennaeth Rheoli Datblygu yr oedd y cais hwn yn amlwg yn groes i’r polisiau a thynnodd sylw’r aelodau at y rhan honno o adroddiad y swyddog lle dywedwyd:  “ynghylch cais blaenorol rhif 17C266B, awrgymwyd fod estyniad i’r annedd bresennol yn cael ei adeiladu yn cynnwys anecs hunangynhaliol a fuasai’n fwy derbyniol. “  Roedd yr argymhelliad yn dal i fod yn un o wrthod.

 

      

 

     Ni fedrai’r Cynghorydd Eurfryn Davies gytuno bod codi estyniad ynghwm wrth yr annedd bresennol yn mynd i fod yn fwy derbyniol.

 

      

 

     Pleidleisiodd yr aelodau a ganlyn i ganiatáu’r cais, yn groes i argymhelliad y swyddog:  y Cynghorwyr Eurfryn Davies, Arwel Edwards, PM Fowlie, Aled Morris Jones, O Glyn Jones, RL Owen, D Lewis-Roberts, W Tecwyn Roberts

 

      

 

     Pleidleisiodd yr aelodau a ganlyn i dderbyn adroddiad y swyddog ac i wrthod y cais:  y Cynghorwyr J Arthur Jones, John Roberts, J Arwel Roberts

 

      

 

     Rhoddwyd y rhesymau a ganlyn dros ganiatáu’r cais:

 

Ÿ

safle wedi ei ddefnyddio eisoes

 

Ÿ

anghenion yr ymgeisydd

 

Ÿ

anheddau o gwmpas y safle - heb fod yn y cefn gwlad

 

Ÿ

mantais priffyrdd

 

      

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio’n otomatig i’r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rheswm dros ganiatáu’r cais yma.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

9.3     24C249  CAIS AMLINELLOL AR GYFER CODI ANNEDD YNGHYD AG ADDASU’R FYNEDFA GERBYDOL BRESENNOL AR DIR GER TYDDYN ENGAN, PEN-Y-SARN

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Cadarnhaodd y swyddog bod y Cyngor Cymuned wedi cyflwyno sylwadau, a hefyd bod llythyr ychwanegol wedi ei dderbyn ac roedd hwnnw yn y pecyn gerbron yn y cyfarfod.  Yn ogystal cyflwynwyd cynllun yn y cyfarfod.

 

      

 

     Eisiau ty mwy oedd yr ymgeiswyr meddai’r Cynghorydd Aled Morris Jones, ond heb y modd i brynu annedd yn yr ardal, ac o’r herwydd prynwyd y plot gan eu bod yn dymuno byw yn lleol ac roedd y safle yng nghanol clwstwr o ryw 9 o anheddau.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd D Lewis-Roberts cafwyd cynnig i ymweld â’r safle; cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Aled Morris Jones.

 

      

 

     I bwrpas ymweld â’r safle dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod raid sicrhau y deuai manteision sylweddol yn sgil trefniant o’r fath.  Nid oedd y safle hwn mewn pentref cydnabyddiedig, roedd y cais hefyd yn amlwg yn groes i’r polisiau - gan gynnwys yr CDU a Chynllun Lleol Ynys Mon.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â’r safle.

 

      

 

      

 

9.4     36C259  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD YNGHYD Â GOSOD TANC SEPTIC AR DIR GER BWLCH COCH, LLANGRISTIOLUS

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Unigolyn lleol ifanc oedd yma meddai’r Cynghorydd RLl Hughes ac yn dymuno codi cartref iddo’i hyn yn ei bro ac mewn dull fforddiadwy.  Wrth roddi canitatad gellid sicrhau annibyniaeth y ferch ifanc, a chynnal a chefnogi’r gymuned wledig leol hon.  Disgrifiodd y tir fel lle wedi tyfu’n wyllt ar greigan yn hytrach na lle gwyrdd glaswelltog.  Ac er gwaethaf datblygiadau mympwyol yr ardal yr oedd y plot yng nghanol clwstwr o ryw 10 o anheddau.

 

      

 

     Yna cyfeiriodd y Cynghorydd Glyn Jones at ymrwymiad y Cyngor i “Wella Bywyd Mon” a chafwyd cynnig ganddo i ganiatáu’r cais, ac eiliodd y Cynghorydd Tecwyn Roberts a chytunodd y Cynghorydd RL Owen.

 

      

 

     Ond holodd y Cynghorydd J Arthur Jones sut yn y byd yr oedd modd rhoddi caniatâd pan oedd Cytundeb dan Adran 106 yn cael ei roddi ynghlwm wrth geisiadau eraill.

 

      

 

     Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu nad oedd y cais hwn yn cydymffurfio gyda darpariaethau tai fforddiadwy, nac yn cydymffurfio gyda’r polisiau ac roedd hi’n amlwg bod y safle yn y cefn gwlad, ac na ddylid ei ystyried fel rhan o ymrwymiad y Cyngor i “Wella Bywyd Mon”.

 

      

 

     Pleidleisiodd yr aelodau a ganlyn i ganiatáu’r cais yn groes i argymhelliad y swyddog:  y Cynghorwyr Eurfryn Davies, PM Fowlie, Aled Morris Jones, O Glyn Jones, RL Owen, D Lewis-Roberts, W Tecwyn Roberts

 

      

 

     Pleidleisiodd yr aelodau a ganlyn i dderbyn adroddiad y swyddog ac i wrthod y cais:  y Cynghorwyr John Byast, John Roberts, Arwel Edwards, J Arthur Jones, J Arwel Roberts

 

      

 

     Y rheswm a roddwyd dros ganiatáu’r cais oedd bod y bwriad yn adfywio’r gymdeithas wledig.

 

      

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio’n otomatig i’r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rheswm dros ganiatáu’r cais yma.

 

      

 

10

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

10.1      17C253A  CREU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU YNGHYD Â NEWID DEFNYDD TIR I GREU FFORDD FYNEDFA I DRWS Y COED, GLYN GARTH

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Roedd hwn yn gais a achosodd bryderon mawr i’r Cynghorydd Eurfryn Davies.  Yn yr ardal hon roedd peth wmbredd o fywyd gwyllt a gofynnodd tybed pa ddatblygiadau eraill a welid yn y dyfodol yn sgil yr un hwn.  O’r herwydd cafwyd argymhelliad ganddo i fynd ar ymweliad a gofyn hefyd i’r ymgeiswyr farcio’r trac cyn yr ymweliad.  Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd John Roberts.

 

      

 

     Fodd bynnag, credai’r Cynghorydd RL Owen fod y cynnig yn cyfateb i welliant ar yr hyn sydd yno, a chafwyd cynnig gan y Cynghorydd J Arthur Jones i ganiatau’r cais.

 

      

 

     Dangosodd y Pennaeth Rheoli Datblygu i’r Pwyllgor gynllun o’r safle yn dangos y dreif newydd arfaethedig at Drws y Coed.

 

 

 

PENDERFYNWYD ymweld â’r safle.

 

 

 

      

 

10.2      30C46V  NEWID DEFNYDD Y MODURDY A’R PORTS I FOD YN YSTAFELL WELY NEWYDD YN  LYNVOR, BENLLECH

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Cytunodd y Cynghorydd Tecwyn Roberts gydag adroddiad y swyddog a rhoi cynnig i dderbyn yr adroddiad a chaniatau’r cais, cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd J Arthur Jones.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais am y rhesymau a roddwyd, gyda’r amodau y manlwyd arnynt.

 

      

 

      

 

10.3      33C248/AD  GOSOD HYSBYSFWRDD O LECHEN AR DIR CEFN DU MAWR, GAERWEN

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno gan fod y safle ym mherchnogaeth y Cyngor Cymuned.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais am y rhesymau a roddwyd, gyda’r amodau y manlwyd arnynt.

 

      

 

      

 

10.4      33C28D/1  NEWID AMOD (02) ‘RHAID YMGYMRYD Â’R DATBLYGIAD A GANIATEIR GAN Y CANIATÂD HWN YN FANWL YN ÔL Y CYNLLUN A GYFLWYNWYD AR 11.10.04 DAN GAIS CYNLLUNIO RHIF 33C28C/1’ AR GYFER CODI IS-ORSAF DRYDAN YN  WELSH COUNTRY FOODS LTD., STAD DDIWYDIANNOL, GAERWEN

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno gan fod y safle ym mherchnogaeth y Cyngor Sir.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatau’r cais am y rhesymau a roddwyd, gyda’r amodau y manylwyd arnynt.

 

      

 

      

 

10.5      34C515  CREU CYLCHFAN MYNEDFA YN TYN COED, LÔN TALWRN, LLANGEFNI

 

      

 

     Cafwyd datganiad o ddiddordeb gan y Cynghorydd Eurfryn Davies a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r pleidleisio.  

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno gan ei fod yn ymwneud â’r briffordd gyhoeddus sydd dan reolaeth y Cyngor.

 

      

 

     Roedd rhai aelodau wedi derbyn ffotograffau o’r ardal o’r awyr, ac roedd copi ar gael yn y cyfarfod.

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd RL Owen dywedodd y cyfreithiwr nad oedd yr arolwg barnwrol ar safle Coleg Menai yn berthnasol i’r cais gerbron.

 

      

 

     Yna dygodd y Cynghorydd J Arthur Jones sylw’r Pwyllgor at y prif fater cynllunio gerbron, h.y. “byddai caniatáu’r cynnig o dan y cynllun datblygu presennol yn rhoddi  datblygiad heb fod unrhyw angen amdano wedi ei nodi hyd yma a byddai o’r herwydd yn nodwedd ymwthiol ac angymharus er niwed sylweddol i gymeriad a mwynderau’r ardal a byddai’n groes i bolisiau cynllunio cenedlaethol a lleol” ,  a chredai ef fod y cais hwn a’r un a ganiatawyd ar achlysur cynt ar safle Coleg Menai yn tynnu’n groes i bolisiau, ac o’r herwydd cynigiodd roddi caniatâd i hwn hefyd, a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd John Roberts.

 

      

 

     Credai’r Pennaeth Rheoli Datblygu fod y cais hwn wedi ei gyflwyno’n rhy fuan am nad oedd y tir wedi ei glustnodi ar gyfer ei ddatblygu - nid yn y Cynllun Lleol nac yn yr CDU, a buasai caniatau’n sefydlu cynsail peryglus i ragor o ddatblygiadau; yr argymhelliad oedd gwrthod.

 

      

 

     Pleidleisiodd yr aelodau a ganlyn i ganiatáu’r cais yn groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr John Byast, J Arthur Jones, John Roberts, D Lewis-Roberts

 

      

 

     Pleidleisiodd yr aelodau a ganlyn i dderbyn adroddiad y swyddog ac i wrthod y cais:  Y Cynghorwyr Arwel Edwards, Aled Morris Jones, O Glyn Jones, RL Owen, J Arwel Roberts                  

 

     Ymatal:  Y Cynghorydd PM Fowlie

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais am y rhesymau a roddwyd.

 

      

 

      

 

10.6      38C231  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD AR DIR GER TY’N LLAIN, LLANFECHELL

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Cyflwynwyd cynllun o’r ardal yn y cyfarfod, ac i bwrpas y cofnodion, dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu nad oedd y cais hwn yn gwyro oddi wrth y polisiau - yn gores i beth a ddywedwyd ar dop adroddiad y swyddog.

 

      

 

     Yna rhannodd y Cynghorydd Thomas Jones fap yn dangos y ffiniau datblygu yn Hafod a Tyn Llain, a theimlai fod y cais gerbron yn cydymffurfio gyda Pholisi 50 (pentrefi rhestredig).  Aeth ymlaen i ddweud bod gan yr ymgeisydd fam oedrannus a brawd methedig yn byw yn yr Hafod, a’i ddymuniad oedd byw gerllaw i gynnig cymorth gyda’r gofal amdanynt, a bod y cais yn haeddu cefnogaeth.

 

      

 

     Cytuno a wnaeth y Cynghorydd J Arthur Jones bod y safle arfaethedig ar y ffin ddatblygu, ac o’r herwydd yn cydymffurfio gyda Pholisi 50, a chan fod yma fwriad i lenwi bwlch mewn modd sensitif cynigiodd roddi caniatâd a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd PM Fowlie.

 

      

 

     Dymunai’r aelodau ganiatáu’r cais am ei fod yn cydymffurfio gyda Pholisi HP4 (pentrefi) a Pholisi 50 (pentrefi rhestredig).

 

      

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio’n otomatig i’r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rheswm dros ganiatau’r cais yma.

 

      

 

      

 

      

 

11     MATER A GYFEIRIWYD YN ÔL

 

      

 

     25C179 CREU CAE CHWARAEON BOB TYWYDD AR DIR GER YSGOL GYNRADD, LLANNERCH-Y-MEDD

 

      

 

     Mewn cyfarfod o’r Pwyllgor hwn ar 15 Mawrth, 2006 penderfynwyd caniatáu’r cais uchod.  Adroddodd y Pennaeth Rheoli Datblygu ar y bwriad i symud y cae chwaraeon 5 medr ymhellach oddi wrth dai cyfagos i liniaru’r consyrn lleol.  Yn amodol ar gwblhau ymgynghoriad boddhaol pellach gofynnwyd i’r Pwyllgor awdurdodi Pennaeth y Gwasanaeth Cynllunio i ganiatáu’r cynllun diwygiedig

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Elwyn Schofield ei fod yn cytuno â hyn.

 

      

 

     PENDERFYNWYD nodi’r mater uchod a rhoi’r awdurdod i’r Pennaeth Gwasanaethau Cynllunio ganiatáu’r cynlluniau diwygiedig ar ðl cwblhau’r gwaith ymgynghori’n foddhaol.

 

      

 

12     CEISIADAU A DDIRPRWYWYD

 

      

 

     Cyflwynwyd a derbyniwyd, adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Amgylchedd a Gwasanaethau Technegol) ar geidiadau a ddirprwywyd ac y gwnaethpwyd penderfyniad arnynt ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor hwn.

 

      

 

     Fe nodwyd nad oedd penderfyniad wedi ei wneud ynglyn â chais 34C502 tir Eglwys St Joseph, Llangefni (rhif 50 yn yr adroddiad) ac na ddylai fod wedi ymddangos ar y rhestr.

 

      

 

13

APELIADAU

 

      

 

13.1      TIR GER FFERM BWCHANAN, LLANFECHELL

 

      

 

     Er gwybodaeth, cyflwynwyd a nodwyd gopi o grynodeb penderfyniad yr Arolygwr a benodwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar apel yn erbyn penderfyniad yr Awdurdod hwn i wrthod caniatâd i godi iard ac adeilad ar gyfer contractwyr adeiladu dan gais cyf: 38C39B ac a wrthodwyd trwy rybudd dyddiedig 13 Gorffennaf, 2005 - cafodd yr apêl ei gwrthod.

 

      

 

      

 

      

 

     Mewn ymateb i gais gan y Cynghorydd Eurfryn Davies PENDERFYNWYD cael egwyl o 10 munud ar ôl bob sesiwn o ddwy awr

 

      

 

      

 

     Dechreuodd y cyfarfod am 1.00 p.m. a daeth i ben 4.00 p.m.

 

      

 

      

 

      

 

     J ARWEL ROBERTS

 

     CADEIRYDD