Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion dogfennau , 3 Mehefin 2009

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Dydd Mercher, 3ydd Mehefin, 2009

PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION

 

Cofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 3 Mehefin, 2009 

 

 

YN BRESENNOL:

 

 

Y Cynghorydd Kenneth P. Hughes - Cadeirydd

 

Y Cynghorwyr W.J. Chorlton, Lewis Davies, Barrie Durkin,

Jim Evans, O. Glyn Jones, T.H. Jones, R.L. Owen, Hefin W. Thomas, John Penri Williams, Selwyn Williams.

 

Deilydd Portffolio - R.G. Parry OBE

 

 

 

WRTH LAW:

 

Cynllunio :

Pennaeth Rheoli Datblygu (EGJ),

Rheolwr Rheoli Cynllunio (DFJ),

Cynorthwywr Cynllunio (EH).

 

Priffyrdd :

Uwch Beiriannydd (Rheoli Datblygu a Hawliau Tramwy Cyhoeddus) (JRWO),

Swyddog Rheoli Datblygu (RE).

 

Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol (RWJ),

Swyddog Pwyllgor (JMA).

 

Aelodau Lleol :

Y Cynghorwyr W.I. Hughes (Eitem 14.1); Raymond Jones (Eitem 14.3); Bryan Owen (6.1).

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, J. Arwel Roberts

 

 

 

 

Cyn trafod busnes y cyfarfod diolchodd y Cadeirydd, y Cynghorydd K Hughes i’r Aelodau am y fraint o’i ethol i’r Gadair ac aeth ymlaen i egluro na fedrai, oherwydd amgylchiadau, fod yn bresennol yng nghyfarfod Mai y Pwyllgor a manteisiodd ar y cyfle i ddiolch i’r Is-Gadeirydd, y Cynghorydd Barrie Durkin am sefyll yn y bwlch ar fyr rybudd a chymryd y Gadair.  Hefyd diolchodd i’r Cynghorydd T H Jones a’r Cynghorydd R L Owen am eu gwasanaeth a’u cyfraniadau gwerthfawr fel Cadeirydd ac Is-Gadeirydd - gwaith a wnaed ganddynt mewn modd proffesiynol a gwrthrychol iawn.  Teimlai bod y rhain wedi sefydlu safon iddo ef eu diogelu a’u cynnal yn y dyfodol.

 

1

YMDDIHEURIADAU

 

Cyflwynwyd yr ymddiheuriadau am absenoldeb a’u nodi fel y cyfeirir atynt uchod.

 

2

DATGAN DIDDORDEB

 

Cafwyd Datganiadau o Ddiddordeb a chawsant eu cofnodi dan yr eitemau perthnasol.

 

3

COFNODION

 

Cyflwynwyd  a chadarnhawyd fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gafwyd ar 6 Mai, 2009 gyda’r amod bod y gair “ascertain” yn cael ei ddisodli gan “asked” ar Dudalen 13 y Cofnodion.  Hefyd gofynnodd y Cynghorydd John Penri Williams a oedd y cofnod dan eitem 6.9 yn gywir, oherwydd y geiriau “yn groes i argymhelliad y Swyddog” a hynny oherwydd bod y Swyddogion wedi cefnogi’r cytundeb dan Adran 106.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

4

YMWELIADAU Â SAFLEOEDD

 

 

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd cofnodion yr Ymweliadau â Safleoedd a gafwyd ar 20 Mai, 2009.

 

 

 

5

CEISIADAU A OHIRIWYD

 

 

 

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

5.1

20/C/250 - Gwaith altro ac ymestyn yn Thalassa, Ffordd y Traeth, Cemaes

 

Yn unol â phenderfyniad y Pwyllgor Cynllunio ar 6 Mai, 2009 cafwyd ymweliad â’r safle ar 20 Mai 2009 pryd y dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Cynllunio eu bod yn disgwyl am ragor o wybodaeth ar gyfer sylw’r Cyngor Cymuned a hefyd preswylwyr tai’r cyffiniau.

 

O’r herwydd PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais.  

 

 

 

5.2

20/C/251 - Altro ac ymestyn Swn yr Afon, Ffordd y Traeth, Cemaes

 

Yn unol â phenderfyniad y Pwyllgor Cynllunio ar 6 Mai, 2009 cafwyd ymweliad â’r safle ar 20 Mai 2009 pryd y dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Cynllunio eu bod yn disgwyl am ragor o wybodaeth ar gyfer sylw’r Cyngor Cymuned a hefyd preswylwyr tai’r cyffiniau.

 

O’r herwydd PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais.

 

 

 

5.3

20/C/252 - Altro ac ymestyn Ty Lawr, Ffordd y Traeth, Cemaes

 

Yn unol â phenderfyniad y Pwyllgor Cynllunio ar 6 Mai, 2009 cafwyd ymweliad â’r safle ar 20 Mai 2009 pryd y dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Cynllunio eu bod yn disgwyl am ragor o wybodaeth ar gyfer sylw’r Cyngor Cymuned a hefyd preswylwyr tai’r cyffiniau.

 

O’r herwydd PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais.

 

 

 

5.4

20/C/253 - Gwaith altro a threfniadau parcio yn Swn yr Afon, Ty Lawr a Thalassa, Ffordd

 

y Traeth, Cemaes

 

Yn unol â phenderfyniad y Pwyllgor Cynllunio ar 6 Mai, 2009 cafwyd ymweliad â’r safle ar 20 Mai 2009 pryd y dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Cynllunio eu bod yn disgwyl am ragor o wybodaeth ar gyfer sylw’r Cyngor Cymuned a hefyd preswylwyr tai’r cyffiniau.

 

O’r herwydd PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais.

 

 

 

6

CEISIADAU’N CODI

 

 

 

6.1

Cais ôl-ddyddiol i newid defnydd o garej ddomestig a rhan o’r libart preswyl i bwrpas ei ddefnyddio ar gyfer busnes rhoi pethau dur wrth ei gilydd, ymestyn y libart a dileu amod (04) caniatâd cynllunio 34C263C yn Dafarn Newydd, Lôn Cae Cwta, Llangefni

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr Aelod Lleol.  Cyflwynwyd y cais gyntaf i’r Pwyllgor Cynllunio ar 8 Ebrill, 2009 pryd y penderfynwyd cael ymweliad a chafwyd yr ymweliad hwnnw ar 22 Ebrill 2009.

 

 

 

Ar 6 Mai penderfynodd y Pwyllgor Cynllunio gymeradwyo’r cais yn ei gorffolaeth ac yn groes i argymhelliad y Swyddog, ac yn seiliedig ar y rhesymau a ganlyn:-

 

 

 

- Defnydd Tir - Arallgyfeirio;

 

- Diogelu swyddi yn y Cefn Gwlad;

 

- Busnes Presennol.

 

 

 

Wrth ymateb i resymau dros ganiatáu dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Cynllunio bod y cynnig hwn yn methu am sawl rheswm dan y polisïau cynllunio - oherwydd ei leoliad, effaith andwyol o bwys ar bleserau preswylwyr ac oherwydd diogelwch traffig.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Dywedodd :-

 

 

 

Nad oedd y cais hwn yn dderbyniol o ran Polisi 1 oherwydd fe fydd yna niwed annerbyniol i fwynderau preswyl.  Bydd y gweithgareddau fydd yn cael eu gwneud ar y safle yn nhermau swn a symudiadau traffig yn achosi niwed difrifol i fwynderau’r eiddo arall sydd gerllaw.

 

 

 

Mae’r lonydd sy’n arwain i’r safle yn ddifrifol o annigonol ar gyfer y lefel o draffig fydd yn cael ei greu gan y cynllun.   Mae’r ddwy groeslon gyda’r B5420 a’r B5109 yn is-safonol oherwydd diffyg gwelededd o’r ddau gyfeiriad o Lôn Cae Cwta.  Mae’r cynnydd mewn traffig yn ddifrifol o niweidiol i ddiogelwch y ffordd, ac mae Adran Briffyrdd y Cyngor yn argymell ei wrthod a hynny’n dilyn adroddiad gan ymgynghorydd traffig annibynnol.

 

 

 

Yn y caniatâd cynllunio roddwyd cyn hyn i ddymchwel rhan o’r adeilad allanol a’i addasu yn ystafell, ond nid un ar gyfer byw ynddi, a hefyd godi garej, roedd amod yn dweud bod y garej i’w defnyddio fel garej breifat yn ategol i fwynhad yr annedd, a dim ar gyfer unrhyw ddefnhydd busnes na defnydd masnachol o gwbl.  Rhoddwyd yr amod i mewn ar argymhelliad yr adran briffyrdd fel na fyddai yna unrhyw gynnydd yn y traffig fyddai’n fwy na’r defnydd oedd wedi’i ganiatau ar y safle ar y pryd.   Efallai y byddai’r defnydd amaethyddol fu ar y safle o’r blaen wedi cynhyrchu symudiadau traffig sylweddol, ond roedd unrhyw ddefnydd amaethyddol wedi dod i ben adeg gwneud y cais blaenorol yn 2005, gyda’r adeiladau allanol oedd ar ôl wedi cael eu dymchwel.  Cafodd y cais ei ganiatau ar gyfer defnydd domestig yn unig, ac fe gymerwyd y cyfle i sicrhau gostyngiad yn y symudiadau traffig, a thrwy hynny gynyddu diogelwch y ffordd.  Fodd bynnag, mae’r ymgeisydd wedi bod yn defnyddio’r garej i bwrpasau busnes a hynny yn hollol eglur yn torri’r amod.  

 

 

 

Mae Polisi 2 o Gynllun Lleol Ynys Môn yn dweud na fydd datblygiadau newydd sy’n creu gwaith y tu allan i bentrefi/trefi presennol yn cael eu caniatáu ond mewn amgylchiadau eithriadol lle mae’r ymgeisydd wedi gallu dangos bod yn rhaid cael y datblygiad yn y lle hwnnw.  Nid oes unrhyw resymau wedi’u rhoi yn dweud paham na ddylai’r datblygiad hwn gael ei leoli o fewn pentref/tref.

 

 

 

Mae Polisi 7 o Gynllun Lleol Ynys Môn yn dweud y bydd rhai adeiladau presennol yn y cefn gwlad yn gyffredinol yn lleoliadau derbyniol i fusnesau bach.  Mae hyn yn amodol ar iddo fod yn cael effaith dderbyniol ar yr amgylchedd lleol, y tirlun a’r mwynderau fel sy’n ofynnol ym Mholisi 1 o Gynllun Lleol Ynys Môn.  Mae’n glir bod y cynnig hwn yn cael effaith annerbyniol yn nhermau Polisi 1, ac felly nid yw’n unol â Pholisi 7 Cynllun Lleol Ynys Môn.

 

 

 

Tra y gall y diffiniad o fusnes bach fod yn un goddrychol, nid ystyrir bod hwn yn fusnes bychan o fewn cyd-destun Polisi 7.  Mae’r busnes yn cyflogi 18 o staff, mae ganddo nifer o faniau, ‘forklift’, tri chynhwysydd ar gyfer storio, a swyddfa a gweithdy ar gyfer weldio dur ar y safle.  Tra bod llawer o’r gwaith yn cael ei wneud oddi ar y safle, bydd cymaint o staff a gweithgaredd yn golygu lefel uchel o symudiadau traffig a swn yn dod o’r safle.  Fe ddylai busnes diwydiannol o’r fath gael ei leoli ar stad ddiwydiannol.

 

 

 

Er bod yr Aelod Lleol, y Cynghorydd Bryan Owen â phob parch i farn y Swyddog aeth ymlaen i ddyfynnu o Bolisi Cynllunio Cymru (para 7.6.9) lle ceir canllawiau cenedlaethol ar ailddefnyddio ac addasu adeiladau yn y cefn gwlad.  Ynddo dywedir y dylai’r Awdurdod Cynllunio Lleol gymryd safbwynt cadarnhaol yng nghyswllt addasu adeiladau gwledig i bwrpas eu hailddefnyddio i ddibenion busnes, ac yn enwedig yr adeiladau hynny sydd yng nghanol neu ar gyrion adeiladau fferm, ond gyda’r amod bod rhoddi amodau ynghlwm wrth ganiatâd cynllunio yn lleddfu unrhyw wrthwynebiad cynllunio - e.e. rhesymau amgylcheddol neu rai traffig a fuasai fel arall yn pwyso mwy na manteision gwneud yr ail ddefnydd.  Nododd bod y gyffordd gyda Lôn Penmynydd yn hen gyffordd a hefyd atgoffodd yr Aelodau bod yr ymgeisydd yn cyflogi 18 o unigolion ac nad oedd unrhyw waith diwydiannol yn cael ei wneud ar y safle.  Pwysodd ar y Pwyllgor i fod yn gyson a rhoddi caniatâd i’r cais.

 

 

 

Fel yr un a gynigiodd roddi caniatâd i’r cais yn y cyfarfod cynt, dywedodd y Cynghorydd O Glyn Jones na welai unrhyw wahaniaeth yn y cais y mis hwn.  Yng nghyswllt unrhyw gynnydd yn y traffig soniodd petai’r adeiladau yn cael eu defnyddio i ddibenion amaethyddol yna ni cheid unrhyw gyfyngiad ar draffig.  Cynigiodd roddi caniatâd i’r cais.

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd Selwyn Williams iddo ef gefnogi’r cais y tro cyntaf ac roedd yn gefnogol i fusnesau yn y cefn gwlad - busnesau bychain oedd ffermydd.  Mewn llythyr a gafwyd yn cefnogi’r cais nodwyd nad oedd unrhyw draffig gwirioneddol yn y lle.

 

 

 

Soniodd y Cynghorydd R L Owen bod corlan i ddefaid union gyferbyn â’r gyffordd ar Lôn Penmynydd.

 

 

 

Diolchodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio i’r Aelod Lleol am ei gyfraniad ond nid oedd y Cynghorydd Owen wedi dyfynnu y cyfan o ganllawiau Polisi Cynllunio Cymru gan hepgor y ffaith na fuasai adeiladau’n addas ar gyfer defnydd arall onid oedd modd lleddfu unrhyw bryderon trwy roddi amodau cynllunio ynghlwm.  Roedd wedi rhoddi sylw gofalus i’r cais ac o’r farn nad oedd modd rhoddi amodau cynllunio ynghlwm - rhai a fuasai’n cael gwared o’r problemau posib ar y safle.  Mewn ymateb i gwestiwn gan yr Is-Gadeirydd dywedodd y Swyddog bod y cais wedi’i gyflwyno ar ôl derbyn cwyn swyddogol ynghylch defnyddio’r adeiladau ac roedd y gwyn wedi’i chyflwyno i Adran Orfodaeth yr Adran Gynllunio.

 

 

 

Cynigiodd y Cynghorydd O Glyn Jones y dylid glynu wrth y penderfyniad a wnaed yn y Pwyllgor cynt a thrwy hynny ganiatáu’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog.  Eiliodd y Cynghorydd Selwyn Williams y cynnig.

 

 

 

Dyma fel y bu’r bleidlais:-

 

 

 

Caniatáu’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog - Y Cynghorwyr B Durkin,

 

Jim Evans, O Glyn Jones, R L Owen, J Penri Williams, Selwyn Williams.

 

 

 

Gan fod y Pwyllgor wedi penderfynu caniatáu’r cais rhoes y Rheolwr Rheoli Cynllunio wahoddiad iddynt awgrymu amodau penodol i’w rhoddi ar y rhybudd o benderfyniad.

 

 

 

Atgoffwyd yr Aelodau gan y Cynghorydd O Glyn Jones bod cyfyngiad pwysau 4 Tunnell ar y ffordd o’r naill gyfeiriad a’r llall.  Mewn ymateb i ymholiad gan y Cynghorydd Hefin Thomas, dywedodd yr Uwch Beiriannydd bod modd diwygio’r cyfyngiad pwysau o’r gyffordd hyd at y safle os oedd yr Aelodau’n dymuno gwneud hynny.  Soniodd y Cynghorydd Thomas mai’r rheswm am gyflwyno cyfyngiad ar bwysau, fel arfer, ar ffordd yw oherwydd bod arni bont wan ond yn yr achos arbennig hwn roedd safle’r cais cyn cyrraedd y bont.  Ni fedrai’r Uwch Beiriannydd ddweud yn bendant a oedd y cyfyngiad wedi’i gyflwyno oherwydd pont neu am reswm arall yn yr achos hwn.  Unwaith eto soniodd yr Aelodau bod modd cyrraedd y safle o ddau gyfeiriad ond bod y fynedfa cyn y bont rhyw 800 metr o’r gyffordd tra bod y gyffordd arall dros filltir i ffwrdd - y casgliad yr oedd yr Aelod Lleol yn dod iddo oedd mai’r gyffordd ar Lôn Penmynydd a ddefnyddid yn hytrach na’r gyffordd arall.  Mynegodd y Cynghorydd S Williams bryderon ynghylch cyfyngiad pwysau 4 Tunnell gan ei fod yn gwybod bod loriau sy’n danfon nwyddau i’r safle yn rhai 5 Tunnell.  Soniodd y Cynghorydd J Penri Williams bod yr ymgeisydd wedi cytuno i dderbyn caniatâd cynllunio personol ar y safle ac felly petai’n gwerthu’r eiddo ni allai drosglwyddo’r caniatâd cynllunio.  Hefyd gofynnodd a oedd modd rhoddi amod ynghlwm wrth y caniatâd yn gwahardd rhoddi darnau metal wrth ei gilydd ar y safle.

 

 

 

Pwysleisiodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod ganddo bryderon mawr o ran Iechyd, ac yn arbennig oherwydd swn a hefyd wrth gwrs oherwydd materion diogelwch dwys ar y briffordd.

 

 

 

Rhoes y Cynghorydd J Penri Williams sicrwydd i’r Aelodau na fuasai’r math o waith a wneid ar y safle yn creu niwsans swn.  Sôn wnaeth y Cynghorydd Chorlton wedyn bod busnesau tebyg ar draws yr Ynys e.e. Caergeiliog, Bodedern a Dwyran.  Ni chredai ef y dylid gosod gormod o amodau gan y gallai y rheini wneud y busnes yn anymarferol.  Gan y Cynghorydd T H Jones cafwyd cynnig i gyfyngu’r oriau gweithio i 7.00 a.m. hyd at 7.00 p.m.

 

 

 

     Mewn ymateb i’r amodau a awgrymwyd gan yr Aelodau dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y caniatâd cynllunio yn un i’r busnes nid i’r unigolyn.  Dyma hefyd oedd neges y Cyfreithiwr a phwysodd ar yr Aelodau i fod yn ofalus gan eu hatgoffa bod y cais hwn wedi’i gyflwyno ar ôl i’r Adran Orfodaeth dderbyn cwyn a bod angen i’r Aelodau gadw golwg ar y defnydd busnes - nid ar yr unigolyn.  Ond sôn a wnaeth yr Aelod Lleol, yma a hynny i egluro pethau, bod yr ymgeisydd yn fodlon derbyn amod personol fel sicrwydd i’r Aelodau nad oedd ganddo unrhyw fwriad i werthu’r busnes er mwyn gwneud elw ariannol yn sgil derbyn caniatâd cynllunio.  

 

      

 

     Crybwyllodd y Cynghorydd Chorlton bod sawl ffordd o reoli llygredd swn.

 

      

 

     Ar ddiwedd y drafodaeth, dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod ganddo bryderon dwys ynghylch problemau a allai godi ar ôl rhoddi caniatâd cynllunio i’r defnydd dan sylw.  Ar ôl trafodaeth ar yr amodau posib teimlai ef mai’r unig amod ymarferol y gallai’r aelodau ei awgrymu oedd amod yn cyfyngu ar yr oriau busnes i’r cyfnod 7.00 a.m. hyd at 7.00 p.m.  Hon yw’r neges yng Nghymal 4.6.12.3 Cyfansoddiad y Cyngor “Pan fo Cynghorwyr eisiau ychwanegu neu newid amoodau a argymhellwyd gan Swyddogion, dylid gwahodd y Swyddogion i lunio amodau a’u cyflwyno, i’w cymeradwyo, yn y cyfarfod dilynol oni bai fod y llunio yn rhwydd a bod modd cytuno arno yn y cyfarfod gwreiddiol.”  Felly dywedodd y buasai’n llunio amod o’r fath ac yn cyflwyno adroddiad i gyfarfod nesaf y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

      

 

     PENDERFYNWYD:-

 

      

 

     (i)     cadarnhau penderfyniad cynt y Pwyllgor i ganiatáu’r cais a hynny’n groes i                    argymhelliad y Swyddog fel y gwelir hynny uchod yn y bleidlais;

 

     (ii)     bod y Swyddog yn paratoi amod priodol ac yn ei gyflwyno i sylw’r Aelodau yng               nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

     (iii)     cyflwyno, yn ôl dymuniad y Cynghorydd Chorlton, dystiolaeth am unrhyw         

 

               ddamweiniau yn y gyffordd gyda Lôn Penmynydd i gyfarfod nesaf y Pwyllgor               hwn.

 

      

 

7

CEISIADAU ECONOMAIDD

 

      

 

     Nid oedd unrhyw gais economaidd wedi’i gyflwyno i’w benderfynu yn y Pwyllgor.

 

      

 

8

CEISIADAU TAI FFORDDIADWY

 

 

 

     Nid oedd unrhyw gais am dai fforddiadwy wedi’i gyflwyno i’w benderfynu yn y Pwyllgor.

 

      

 

9

CEISIADAU’N GWYRO

 

      

 

9.1     -  25C121G - Cais amlinellol ar gyfer codi pedair annedd 2 ystafell wely ynghyd â chreu mynedfa newydd i geir ac i gerddwyr yn Safle Maryfore, Llannerch-y-medd

 

      

 

     Roedd y cais gerbron y Pwyllgor oherwydd i’r datblygiad gael ei hysbysebu fel un oedd yn tynnu’n groes i’r cynllun datblygu.  Gan fod y rhan fwyaf o safle’r cais y tu mewn i’r ffiniau datblygu i’r pentref dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y cynnig o’r herwydd yn dderbyniol mewn egwyddor ac felly roedd y Swyddog yn argymell caniatâd.

 

      

 

     Man glaswelltog gyda siedau arno yw safle’r cais ac arno ganiatâd cynllunio i ddwy annedd.  Gerbron roedd cais cynllunio amlinellol a gyflwynwyd gyntaf am 6 annedd ac a ddiwygiwyd wedyn i 4.

 

      

 

     Cyfeiriodd y Cynghorydd Hefin Thomas at hanes cynllunio’r safle a gofynnodd pam bod yr Adran Gynllunio a Phriffyrdd wedi newid ei hargymhelliad.  Aeth ymlaen i sôn y gallai’r Pwyllgor sefydlu cynsail trwy roddi caniatâd i gais am un rheswm yn unig - sef bod “y rhan fwyaf o’r datblygiad y tu mewn i’r ffiniau datblygu”.  Cytuno gyda’r sylwadau hyn a wnaeth y Cynghorydd J Penri Williams gan grybwyll hefyd bod y safle yn agos i reilffordd.

 

      

 

     Gynt roedd Network Rail, meddai’r Rheolwr Rheoli Cynllunio, wedi gwrthwynebu’r cais ond wedyn wedi tynnu’r gwrthwynebiad yn ôl ar ôl cyflwyno cais diwygiedig i 4 annedd yn hytrach na 5.  Cadarnhaodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio a’r Uwch Beiriannydd eu bod, y ddau ohonynt, wedi newid eu hargymhellion ar y cais oherwydd eu bod bellach yn fodlon gyda’r cynnig diwygiedig o safbwynt cyfleusterau parcio / troi.  O ran sefydlu cynsail credai’r Swyddog bod raid ystyried pob cais fesul un.  

 

      

 

     Gan y Cynghorydd O Glyn Jones cafwyd cynnig i ganiatáu a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Lewis Davies.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y Swyddog a chaniatáu’r cais gyda’r amodau hynny oedd yn yr adroddiad.

 

      

 

10     CYNIGION DATBLYGU GAN GYNGHORWYR A/NEU SWYDDOGION

 

      

 

10.1     - 45C353A - Cais i adnewyddu caniatad cynllunio 45C353 - cais amlinellol ar gyfer codi 2 annedd ar ran o dir Cae Chwarel, Niwbwrch

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno gan fod yr ymgeisydd yn gweithio i’r Awdurdod ac yn ymwneud â cheisiadau cynllunio.

 

      

 

     Cais yw hwn am estyniad mewn amser i gyflwyno materion wrth gefn mewn perthynas â chais amlinellol i godi 2 annedd.  Yn 2006 y rhoddwyd y caniatâd gwreiddiol ac amod i gytuno ar faterion wrth gefn erbyn Ebrill 2009.  Yn y cais hwn gofynnwyd am ragor o amser tan Mehefin 2012.

 

      

 

     Cadarnhaodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio na fu unrhyw newidiadau i’r amgylchiadau ers rhoddi’r caniatâd amlinellol a bod yr un polisïau a’r un ystyriaethau yn berthnasol o hyd.  

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Chorlton cafwyd cynnig i ganiatáu’r cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd R L Owen.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y Swyddog a chaniatau’r cais gyda’r amodau hynny oedd yn yr adroddiad.

 

      

 

11

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

11.1     - 12C340E - Newid i amodau (02) a (10) a dileu amod (09) oddi ar gais rhif 12C340C ynghyd â gosod ystafell haul y tu cefn i dy rhif 4 a codi uchder y wal 300 mm y tu cefn i’r safle sydd yn wynebu Gerddi Stanley yn Hen Ddepo’r Cyngor, Biwmares

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr Aelod Lleol, y Cynghorydd R.L. Owen.

 

      

 

     Mae’r cais yn ymwneud â thir hen ddepo’r Cyngor.  Mae caniatâd cynllunio eisoes ar y safle i godi 4 o dai pâr o dan gais cynllunio 12C340C ac mae’r cais hwn i newid amod (02) a (10) a dileu amod (09) o gais cynllunio 12C340C a hefyd darparu ystafell haul yng nghefn Ty Rhif 4.

 

      

 

     Dygodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio sylw’r Pwyllgor at dri mater:

 

      

 

     Diwygio amod (02) - Mae’r ymgeiswyr yn dymuno adeiladu ystafell haul yng nghefn Ty Rhif 4.  Cafwyd gair gan y Swyddog bod hyn yn dderbyniol ac yn cydymffurfio gyda’r polisïau.

 

      

 

     Diwygio amod (10) - Mae’r ymgeiswyr yn dymuno adeiladu’r wal gyda brics neu frics wedi’u rendro rhwng y datblygiad a gardd gefn 43 Stryd Wexham er mwyn cael cysondeb. Mae’r agwedd hon o’r cais yn dderbyniol a bydd yn cydymffurfio gyda phob un o’r polisïau perthnasol.

 

     Roedd y trydydd mater yn ymwneud â dileu amod (09) sy’n mynnu ar wydr aneglur i rwystro rhywun rhag edrych allan a thros y tai cyffiniol.  Dywedodd y Swyddog bod y datblygwr yn bwriadu rhoddi gwydr clir ar yr ochr honno ac mae’r ddau dy par yng nghefn y safle wedi’u symud ymlaen un fetr o’u llecyn gwreiddiol yn y caniatâd gwreiddiol ac roedd bwriad i ychwanegu 300mm at uchder y wal yng nghefn y safle i sicrhau na fydd neb yn edrych drosodd i le preswylwyr Gerddi Stanley.  Mae’r wal sydd yno yn 2.9m o uchder a’r bwriad yw codi hynny i 3.2m.  Mae gwahaniaeth yn uchder y tir ar y ddau safle ac er nad yw’r ateb hwn yn un delfrydol dywedodd y Swyddog mai ei dueddiad oedd caniatáu’r cais oherwydd mai hwnnw oedd yr ateb mwyaf ffafriol yn wyneb pryderon ynghylch edrych drosodd.  

 

      

 

     Roedd yr Aelod Lleol yn pryderu ynghylch codi uchder y wal gan fod Tai Gerddi Stanley yn eiddo, at ei gilydd, i bobl mewn oed ac nid oedd am iddynt golli goleuni.  Er bod ymweliad wedi bod â’r safle ar achlysur o’r blaen nodwyd ar yr ymweliad hwnnw nad oedd codi uchder y wal a goblygiadau posibl hynny yn rhan o’r cais.  

 

      

 

     Cafwyd cynnig gan y Cynghorydd John Chorlton i ymweld â’r safle a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Jim Evans.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â’r safle fel bod yr Aelodau’n cael cyfle i asesu beth fydd effaith codi uchder y wal i 3.2m

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd R L Owen a oedd y Swyddogion Priffyrdd yn fodlon gyda’r fynedfa, a chafwyd, mewn ymateb, wybodaeth ganddynt bod amod (04) ar y caniatâd yn diogelu hyn.

 

      

 

11.2     - 13C167 - Cais amlinellol ar gyfer codi annedd ar dir ger 7 Bron y Graig, Bodedern

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor benderfynu arno gan fod y cais yn ymwneud â thir y Cyngor.  Cais amlinellol yw hwn i godi annedd gyda’r holl faterion i’w cymeradwyo’n ddiweddarach.    Mae’r safle gerllaw teras o 4 annedd sy’n ffurfio rhan o stad dai Bron y Graig o fewn ardal gardd ochr rhif 7 Bron y Graig.  Mae ffordd fechan sy’n arwain i le chwarae i blant ac yn rhoi mynediad i gerbydau a cherddwyr i’r plot yn gwahanu’r safle oddi wrth bâr o dai pâr ar y stad.  Cadarnhaodd yr Uwch Beiriannydd nad oedd yn gwrthwynebu’r cais.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y Swyddog a chaniatau’r cais gyda’r amodau hynny oedd yn yr adroddiad.

 

      

 

11.3     - 19LPA879A/CC - Cais amlinellol ar gyfer codi dwy annedd ynghyd â chreu mynedfa newydd i gerbydau ar dir y tu ôl i Parc Felin Ddwr, Caergybi

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor benderfynu arno gan fod y cais yn cael ei gyflwyno gan y Cyngor ar dir ym mherchenogaeth y Cyngor.

 

      

 

     Mae’r safle wedi’i leoli ar ran o gae gwastad gyda ffens postyn a weiren ar ffin wledig Caergybi.  Byddai’r plotiau arfaethedig yn rhedeg ger ardal gerddi cefn tai Parc Felin Ddwr.  Mae’r terfynau yma yn rhai o waliau bloc.  Ar ran o’r safle fe geir offer chwarae er ei bod yn ymddangos i’r holl gae gael ei gyflwyno fel rhan o’r cais i sefydlu ardal chwarae o dan gais 19C587A.

 

      

 

     Cais amlinellol yw hwn i godi 2 annedd.  Mae lleoliad yr adeiladau a’r ffordd o gael mynediad i’r safle ynghyd â’r gwaith tirlunio arfaethedig wedi’u cynnwys fel rhan o’r cais i’w hystyried yn awr.  Yn dilyn trafodaethau ynglyn â’r cais blaenorol fe symudwyd y cynnig o fewn y plot er mwyn dod dros faterion edrych drosodd a phreifatrwydd.  Mae’r cynnig gerbron yn adlewyrchu’r trafodaethau a gafwyd ac yn darparu cynllun plannu er mwyn creu sgrin rhwng y plot a’r annedd bresennol yn Parc Felin Ddwr.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y Swyddog a chaniatáu’r cais gyda’r amodau hynny oedd yn yr adroddiad.

 

      

 

11.4     Gweddill y Ceisiadau - 19LPA89P/CC - Ailfodelu Cyfnod 1, codi dosbarthiadau technoleg unllawr newydd, estyniad i’r bloc technoleg deulawr presennol, a chladio’r waliau presennol, to crib isel newydd a ffenestri newydd.  Dymchwel y gegin bresennol a chodi cegin newydd yn ei lle, gyda gwaith cladio i ran o’r adain gerddoriaeth gyfagos yn Ysgol Uwchradd Caergybi

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor benderfynu arno gan fod hwn yn gais gan y Cyngor ar dir ym mherchenogaeth y Cyngor.

 

      

 

     Adroddodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio mai hon yw rhan gyntaf y gwaith a gynlluniwyd i adfer ac ailwampio’r ysgol.  Cynlluniwyd y gwaith i gael ei orffen, yn amodol ar dderbyn y caniatâd anghenrheidiol, yn ystod 2010.  Bydd cyfnodau nesaf y gwaith yn dibynnu ar arian.  Mae’r cynnig gerbron wedi’i ddisgrifio uchod ac yn cynnwys gwaith altro mewnol ac ailfodelu yng nghyswllt yr ystafelloedd cerddoriaeth, y man bwyta a’r man addysg gorfforol.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y Swyddog a chaniatau’r cais gyda’r amodau hynny oedd yn yr adroddiad.

 

      

 

11.5     - 34C591/AD - Codi arwydd dros dro ar dir yr hen Feithrinfa, Stad Ddiwydiannol Penyrorsedd, Llangefni

 

      

 

     (Gwnaed datganiad o ddiddordeb gan Mr. J.R.W. Owen, Uwch Beiriannydd (Rheoli Datblygu a Hawliau Tramwy Cyhoeddus) yn y cais hwn ac aeth allan o’r cyfarfod am y drafodaeth),

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor benderfynu arno gan fod y cais ar dir ym mherchenogaeth y Cyngor.

 

      

 

     Cais yw hwn i godi arwydd dros dro nad yw’r Awdurdod Cynllunio yn ei wrthwynebu mewn egwyddor.  Ond cafodd y Swyddogion wybod am y bwriad i ddarparu trogylch rywbryd yn y dyfodol yn y lle hwn a gallai y gwaith gynnwys safle’r cais.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu’r cais a rhoddi pwerau i weithredu i’r Swyddogion yng nghyswllt lleoliad yr arwydd, a gwneud y gwaith hwn mewn ymgynghoriad gyda’r Awdurdod Priffyrdd.

 

      

 

11.6     - 34LPA164D/CC - Estyniad i’r maes parcio presennol yn Ysgol Corn Hir, Llangefni

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor benderfynu arno gan fod y cais ar dir ym mherchenogaeth y Cyngor.  

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod yr Aelod Lleol, y Cynghorydd Rhian Medi, wedi ymddiheuro am ei habsenoldeb yn y cyfarfod ond dywedodd ei bod yn gwbl gefnogol i’r cais i ymestyn y maes parcio i’r staff a chreu 14 o lecynnau parcio ychwanegol.  Bydd y lle parcio ar gyfer staff a llefydd i ymwelwyr â’r ysgol.  Fe wnaed asesiad risg ar yr ysgol a phenderfynwyd cael lle ychwanegol i staff barcio draw oddi wrth y brif fynedfa a thrwy hynny ddarparu mwy o le i geir ollwng plant.  

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y Swyddog a chaniatáu’r cais gyda’r amodau hynny oedd yn yr adroddiad.

 

      

 

      

 

11.7     - 46LPA432B/CC - Cais i addasu mynedfeydd presennol i’r promenâd yn Nhrearddur

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor benderfynu arno gan fod y cais yn cael ei gyflwyno gan y Cyngor ar dir ym mherchenogaeth y Cyngor.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio mai y bwriad yw gosod logiau stopio a giât llifogydd yn y llefydd y mae cerddwyr yn mynd i mewn ac allan o’r maes parcio cyhoeddus oddi ar Lôn St. Ffraid ac ymlaen i bromenâd Bae Trearddur.  Mae yna 4 ffordd ymlaen i’r promenâd o’r maes parcio - y brif ramp goncrid sydd ger claddfa Tywyn y Capel a chroes y mileniwm, a’r 3 arall yn lwybrau trwy’r twyni yma ac acw rhwng Tywyn y Capel a Ffordd Ravenspoint.

 

      

 

     Cadarnhaodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio mai dim ond pan fo bygythiad llifogydd y defnyddid y logiau stopio a hynny i bwrpas atal dwr rhag llifo i’r maes parcio.  Roedd yn cydnabod bod y cynnig hwn yn mynd i rwystro mynedfa i’r promenâd i leiafrif ond wedyn dygodd sylw at y llwybrau yn nau ben y promenâd a fuasai bob amser yn agored.  

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y Swyddog a chaniatáu’r cais gyda’r amodau hynny oedd yn yr adroddiad.

 

      

 

12

CEISIADAU A DDIRPRWYWYD

 

      

 

     Cyflwynwyd a derbyniwyd - adroddiad Pennaeth y Gwasanaethau Cynllunio yng nghyswllt ceisiadau dirprwyedig a benderfynwyd ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor hwn.

 

      

 

13     APELIADAU

 

      

 

     Cyflwynwyd a nodwyd, er gwybodaeth, gopi o grynodeb o benderfyniadau gan yr Arolygwr Cynllunio ar dir yn Llys Ifon, Benllech.

 

      

 

14     MATERION ERAILL

 

      

 

14.1     - 36C222B - Dymchwel annedd ynghyd â chodi annedd newydd a gosod tanc septig yn Gors Bach, Cerrigceinwen

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y cais wedi’i gymeradwyo ar 6 Mai 2009, yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac ar ôl ymweld â’r safle ar 22 Ebrill 2009.

 

      

 

     Soniodd bod y Cynghorydd T H Jones, yn y cyfarfod hwnw, wedi crybwyll y posibilrwydd o gryfhau amod (02) oedd yn darllen “o fewn 1 mis yn dilyn byw yn yr annedd rhaid symud ymaith garafan dros dro a’r storfa a ddangosir mewn gwyrdd ar ddyluniad rhif 822/23 oddi ar y safle.”  Yn y cyfamser sylweddolwyd nad oedd darpariaeth o’r fath yn bodloni profion angenrheidiol i bwrpas rhoddi amodau ynghlwm.  O’r herwydd argymhellwyd bod yr Aelodau yn cadarnhau eto y penderfyniad i ganiatáu’r cynnig a chan dynnu amod (02) ymaith.  Er bod yr ymgeisydd wedi cyflwyno addewid ysgrifenedig i glirio popeth blêr oddi ar y safle roedd pwerau ffurfiol ar gael o hyd dan Adran 215 y Ddeddf petai raid defnyddio’r pwerau hynny.  Wedyn rhoes y Swyddog sicrwydd i’r Aelodau nad oedd tynnu’r amod ymaith yn gwneud y datblygiad arfaethedig yn llai derbyniol yn y cyd-destun cynllunio.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y Swyddog a chaniatáu’r cais, gyda’r amodau yn yr adroddiad hwnnw ond gan dynnu ymaith Amod (02) a oedd gynt yn rhan o adroddiad y Swyddog.

 

      

 

14.2     -  48C145B - Cais amlinellol ar gyfer codi annedd ynghyd ag addasu’r fynedfa i gerbydau ar gae rhif O.S. 0262, gyferbyn â Phencraig, Gwalchmai

 

      

 

     Yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Ebrill, 2009 fe benderfynodd y Pwyllgor ohirio, am ddau fis, ystyried cais gan yr ymgeisydd i godi’r cytundeb dan Adran 106 (yn cyfyngu hawliau preswylio i berson lleol) a hynny oherwydd anawsterau sicrhau morgais i dalu am gwblhau y gwaith adeiladu.  Gofynnwyd am ohirio er mwyn creu amser i gael trafodaeth gyda Chynghorydd Tai Fforddiadwy yr Awdurdod gyda’r nod o drefnu morgais addas i’r ymgeisydd a chadw, yr un pryd, y cyfyngiad preswylio a oedd yn cyfiawnhau rhoddi caniatâd cynllunio.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

     Dros yr wythnosau diwethaf roedd cynghorydd yr Awdurdod wedi gweithio’n agos gyda chynghorydd morgais yr ymgeisydd ac yn hyderus y bydd cais ganddo am forgais yn llwyddo ond na cheid cadarnhad mewn pryd ar gyfer cyfarfod 3 Mehefin.  Felly argymhellwyd y dylid gohirio ystyried y cais am fis arall i gael y canlyniadau.  

 

      

 

     PENDERFYNWYD nodi’r wybodaeth a rhoddi’r Hawl i Weithredu i’r Swyddogion ar y mater hwn.  

 

      

 

14.3     - 19C452D - Cais amlinellol i godi tai yn Gerddi Canada, Caergybi

 

      

 

     Gwnaed datganiad o ddiddordeb gan y Cynghorydd Selwyn Williams ac ni chymerodd ran yn y drafodaeth ar yr eitem.

 

      

 

     Cyfeiriodd y Pennaeth Rheoli Datblygu at lythyr gan yr Arolygfa Gynllunio ynghylch Apêl Gynllunio yng nghyswllt Canada Gardens, Caergybi a chyfeirio’n benodol at Reswm Rhif 3 a roddwyd gan y Pwyllgor Cynllunio yn ei gyfarfod yn Rhagfyr 2008 fel rheswm dros wrthod, sef:  Mae’r cynnig yn ychwanegu at risg llifogydd ac felly buasai’r datblygiad yn groes i Bolisi 1 Cyngor Lleol Ynys Môn, Polisi A3 Cynllun Fframwaith Gwynedd a Pholisïau GP2 ac SG” yr CDU a stopiwyd ac yn groes hefyd i’r cyngor ym Mholisi Cynllunio Cymru (Mawrth 2002) ac yn TAN 15 Datblygiadau a Risg Llifogydd.

 

      

 

     Soniodd y Swyddog bod yr Arolygfa Gynllunio wedi gofyn i’r apelydd gyflwyno asesiad canlyniadau llifogydd yn unol â TAN15 a chostiai adroddiad o’r fath o gwmpas £1,500.  Yma atgoffwyd yr Aelodau gan y Swyddog nad oedd Asiantaeth yr Amgylchedd wedi gwrthwynebu’r cynnig ac felly gofynnodd a oedd y Pwyllgor am i’r Swyddogion barhau i fynd ar drywydd rheswm (3) fel rheswm dros wrthod, o gofio hefyd y gallai’r ymgeisydd gyflwyno hawliad am gostau yn erbyn y Cyngor, neu fel arall fe ellid delio gyda’r apêl am y rhesymau yn (1), (2) a (4) y rhybudd o benderfyniad gwrthod.

 

      

 

     Rhoes y Cadeirydd groeso i’r Aelod Lleol, y Cynghorydd Raymond Jones i’r cyfarfod a hefyd i annerch y Pwyllgor.  Roedd y Cynghorydd Jones wedi’i synnu’n fawr gan benderfyniad yr ymgeisydd i apelio ac aeth ymlaen i ddweud unwaith eto beth oedd ei resymau cryfion dros wrthwynebu’r cais - rhesymau a gyflwynwyd yn ddiamwys i’r Pwyllgor yn y cyfarfodydd blaenorol ac yn enwedig felly yng nghyswllt llifogydd a phryderon traffig a charthffosiaeth.  Dywedodd unwaith yn rhagor ei fod yn wrthwynebus iawn i’r cais a chadarnhaodd y Cynghorydd Chorlton bod sylwadau’r Cynghorydd Jones yn ddisgrifiad cywir o’r sefyllfa ar y safle ar hyd London Road.

 

      

 

     Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod y Cynghorwyr Barrie Durkin a Selwyn Williams, sef cynigydd ac eilydd y penderfyniad i wrthod y cais, wedi’u henwebu i amddiffyn y penderfyniad gyda’r Arolygydd Cynllunio.  Ond wedyn canfu’r Cynghorydd Williams bod yr ymgeisydd yn aelod o Ffederasiwn y Busnesau Bychain ac o’r herwydd ni fedrai chwarae rhan yn y broses ac roedd yn adnabod yr aelod hwnnw.  Cadarnhaodd y Swyddog y buasai’r Aelod Lleol hefyd yn derbyn gwahoddiad i gyflwyno’i sylwadau ar y rhesymau dros wrthod.

 

      

 

     Ar y cychwyn dywedodd y Cynghorydd Durkin y buasai’n fodlon amddiffyn y pedwar rheswm dros wrthod y cais ond ar ôl ystyried y mater yn ofalus roedd yn gwbl gefnogol i gael gwared o reswm 3.  Tra oedd yn credu bod modd delio gyda llygredd trwy amodau, roedd ar y llaw arall â theimladau cryfion ynghylch y pwnc priffyrdd a nodir yn rheswm (04).

 

      

 

     PENDERFYNWYD :-

 

      

 

     (i)  cael gwared o’r rheswm dros wrthod dan rif (3) yng nghyswllt risg llifogydd;

 

     (ii) bod y Cynghorwyr Barrie Durkin a John Chorlton, (fel Aelod yn lle’r Cynghorydd Selwyn Williams) yn amddiffyn penderfyniad y Pwyllgor i wrthod y cais gyda’r Arolygfa Gynllunio.

 

      

 

15     YMWELIADAU CYNLLUNIO Â SAFLEOEDD

 

      

 

     Cytunwyd y bydd yr ymweliadau nesaf â Safleoedd yn cael eu cynnal ar ddydd Mercher, 17 Mehefin 2009 am 9.30 a.m.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

     Agorwyd y cyfarfod am 1.00 p.m. a daeth i ben am 2.20 p.m.

 

      

 

      

 

      

 

     Y CYNGHORYDD KENNETH P HUGHES

 

     CADEIRYDD