Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion dogfennau , 3 Medi 2003

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Dydd Mercher, 3ydd Medi, 2003

pwyllgor cynllunio a gorchmynion

COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 3 medi 2003

 

yn breSENNOL:

Y Cynghorydd R. Ll. Hughes, Cadeirydd

Y Cynghorydd J. Arwel Edwards, Is-Gadeirydd

 

Y Cynghorwyr John Byast, D. D. Evans, P. M. Fowlie, W. Emyr Jones, R. L. Owen, G. O. Parry MBE,  Gwyn Roberts, John Rowlands, Hefin Thomas, W. J. Williams.

 

 

HEFYD YN BRESENNOL:

Y Cynghorydd Bessie Burns - aelod lleol ar gyfer cais 27C77 yn eitem 5.2

Y Cynghorydd Eurfryn Davies - aelod lleol ar gyfer cais 17C20C/1 yn eitem 6.2

Y Cynghorydd Gwilym O. Jones - aelod lleol ar gyfer cais 13C90A yn eitem 4.2

 

WRTH LAW:

Cynllunio:

Rheolwr Rheoli Cynllunio (DFJ)

Pennaeth Polisïau Cynllunio (ME) (ar gyfer eitem 10 ar y rhaglen)

Cynorthwy-ydd Cynllunio (HR)

 

Priffyrdd:

Uchel Beiriannydd (Rheoli Datblygu a Hawliau Tramwy Cyhoeddus)(JRWO)

Swyddog Rheoli Datblygu (Priffyrdd) (RE)

 

Cyfreithiwr (RWJ)

Cynorthwy-ydd Gweinyddol (CWP)

 

 

YMDDIHEURIADAU:

Y Cynghorwyr Dr. J. B. Hughes, T. Ll. Hughes, John Roberts.

 

 

 

1

DATGANIAD O DDIDDORDEB

 

Cafodd y datganiadau o ddiddordeb a wnaed gan Aelodau a Swyddogion eu cofnodi dan yr eitemau perthnasol.

 

2

COFNODION

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd cofnodion y cyfarfod o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 30 Gorffennaf, 2003

(Cyfrol y Cyngor 23.09.2003, tudalennau 142 - 156)

 

RHAN 1 - MATERION CYNLLUNIO

 

3

YMWELIAD Â SAFLEOEDD

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd adroddiad ar yr Ymweliadau â Safleoedd Cynllunio ar 20 Awst 2003.

 

4

CEISIADAU YN CODI O'R COFNODION

 

 

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

4.1

12C306 - CADW GAREJ YN 1 TROS YR AFON, BIWMARES

 

 

 

Dywedodd y Cadeirydd i'r cais hwn gael ei drosglwyddo i'r Pwyllgor ar gais yr aelod lleol oherwydd maint ac uchder y garej a phryderon oherwydd difrod i goed ar y terfyn.  Ymwelwyd â'r safle ar 20 Awst 2003.

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod llythyr arall wedi dod i law oddi wrth asiant yr ymgeisydd yn cadarnhau y câi'r garej ei defnyddio i ddibenion preifat ac argymhellodd y swyddog roddi caniatâd i'r cais gydag amodau.

 

 

 

Yma mynegodd y Cynghorydd R. L. Owen ei bryderon am fod gwaith wedi dechrau heb ganiatâd cynllunio angenrheidiol.

 

 

 

Gofynnodd y Cynghorydd Goronwy Parry a oedd gwir angen ceudod rhwng y waliau i garej fel yr un hon ac yn ei ymateb dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio mai mater yw hwn i'r Adain Rheoli Adeiladu ac nid oedd yn ystyriaeth cynllunio berthnasol.

 

 

 

PENDERFYNWYD caniatau'r cais am y rhesymau yn adroddiad y swyddog a chyda'r amodau yn yr adroddiad hwnnw gan gynnwys cyfyngu ar ei defnyddio i ddibenion preifat.

 

 

 

Roedd y Cynghorydd R. L. Owen yn dymuno cofnodi na pleidleisiodd ar y cais.

 

 

 

CAIS YN GWYRO

 

 

 

4.2

13C90A - CYNLLUNIAU LLAWN I GODI ANNEDD AR DIR RHWNG Y FYNWENT A LLWYN ANGHARAD, BODEDERN

 

 

 

Yn y cyfarfod diwethaf penderfynodd yr aelodau roddi caniatâd cynllunio a hynny yn groes i argymhelliad y swyddog o wrthod - penderfynwyd o blaid am y rhesymau a ganlyn :

 

 

 

Ÿ

roedd y cais hwn yn cwrdd â'r gofynion anghenreidiol ym mholisi 52

 

Ÿ

cais amaethyddol ydyw

 

Ÿ

mae'r ymgeisydd yn berson lleol

 

Ÿ

mae'r safle yn agos iawn i ffiniau'r pentref.

 

 

 

Gan ddilyn Cyfansoddiad y Cyngor gohiriwyd y cais er mwyn caniatáu amser i swyddogion baratoi adroddiad llawn ar oblygiadau rhoddi caniatâd.  

 

 

 

Atgoffodd y Cadeirydd yr aelodau bod y cais yn gwyro o'r cynllun datblygu oherwydd ei fod yn y cefn gwlad a'r tu allan i ffiniau'r pentref.

 

 

 

Hefyd atgoffodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio yr aelodau o resymau am wrthod fel yr ymddangosodd y rheini ar dudalennau 9 - 12 adroddiad y swyddog.  Ychwanegodd nad oedd digon o dystiolaeth wedi ei chyflwyno gan yr ymgeisydd i gyfiawnhau rhoddi caniatâd cynllunio i'r safle penodol hwn.

 

 

 

Cafwyd anerchiad wedyn gan y Cynghorydd Gwilym Jones, yr aelod lleol, a dywedodd ei fod yn gwbl gefnogol i'r cais hwn gan gwpl ifanc - rhai oedd wedi gweithio'n galed yn y gymuned ac yn y mudiad Ffermwyr Ifanc yn yr ardal ac yn dymuno codi cartref fforddiadwy iddynt eu hunain i setlo i lawr yn lleol ac apeliodd am gefnogaeth yr aelodau.

 

 

 

Roedd y Cynghorydd John Rowlands yn cefnogi datganiad y Cynghorydd Jones a chynigiodd roddi caniatâd i'r cais ac eiliwyd ef gan y Cynghorydd W. J. Williams.  Yma ychwanegodd y Cynghorydd Williams bod safle'r cais rhyw fymryn y tu allan i derfynau'r pentref ond serch hynny teimlai bod y cais hwn yn cydymffurfio gyda pholisi 52.

 

 

 

Roedd y Cynghorydd Goronwy Parry am i'r aelodau fod yn gyson wrth wneud penderfyniad a glynu wrth bolisïau.  Ni ddylai aelodau ffafrio ymgeiswyr a gafodd dir gan eu teuluoedd gan fod hynny yn creu cymdeithas ddwy reng.  Er ei fod yn cydymdeimlo gyda'r ymgeiswyr argymhellodd wrthod y cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Emyr Jones.

 

 

 

O 7 bleidlais i 4 PENDERFYNWYD glynu wrth y penderfyniad gwreiddiol i roddi caniatâd am y rhesymau uchod ond gydag amodau a hynny'n cynnwys cytundeb dan Adran 106 (cartref fforddiadwy).

 

 

 

Daeth y Cyfreithiwr i mewn i ddweud y bydd Swyddog Monitro'r Cyngor, o bosib, yn dymuno ystyried y mater cyn rhyddhau penderfyniad.  Os oedd y penderfyniad yn seiliedig ar yr un rhesymau â'r rhai cynt nid oedd modd gwarantu na fuasai cwyn i'r Ombwdsmon oherwydd camweinyddu yn llwyddiannus.

 

 

 

Y GWEDDILL

 

 

 

4.1

15C34M - CYNLLUNIAU LLAWN I GODI BYNGALO AR BLOT 6 MAES GLAS, BETHEL

 

 

 

Trosglwyddwyd y cais hwn i'r Pwyllgor ar gais yr aelod lleol a gadawodd y Cynghorydd R. Ll. Hughes y Gadair gan ei fod yn dymuno siarad ar y cais fel aelod lleol ond ni phleidleisiodd arno.

 

 

 

Cymerwyd y Gadair gan y Cynghorydd J. Arwel Edwards am y drafodaeth ar y cais ac i benderfynu arno.

 

 

 

Ymwelwyd â'r safle ar 20 Awst, 2003.

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod llythyrau'n gwrthwynebu wedi eu derbyn - rhai gan breswylwyr y stad dai a hefyd llythyr gan y Cyngor Cymuned.  Dywedodd bod y swyddogion, yn y cyd-destun cynllunio, yn gweld y cynnig yn un derbyniol.  Hefyd roedd yr Adran Gwasanaethau Amgylcheddol yn fodlon gyda'r ddarpariaeth i ddraenio a'r Adran Briffyrdd yn fodlon gyda'r llecyn parcio ar y safle.

 

 

 

Yma ychwanegodd y Cynghorydd R. L. Hughes bod plot 6 bellach yn llai nag y bu oherwydd symud plotiau 4 a 5 ac er gwaethaf y cynigion i wneud mwy o waith cuddio teimlai bod y cynnig yn cyfateb i orddatblygu'r stad a châi hynny effaith ar bleserau plot 5.

 

 

 

 

 

 

 

Teimlai'r Cynghorydd R. L. Owen nad oedd lleoliad y byngalo yng nghanol y stad yn addas a hefyd teimlai nad oedd y plot yn ddigon mawr.  Cytuno gyda'r sylwadau hyn a wnaeth y Cynghorydd Goronwy Parry gan ychwanegu y câi effaith andwyol ar bleserau y tai o gwmpas ar y stad.

 

 

 

Ni chredai'r Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y rhesymau hyn yn ddigon i wrthod y cais ac mai mater o ddehongli oedd unrhyw effaith andwyol ar bleserau tai cyffiniol.  Credai y buasai'r bwriad yn gwella gwedd y darn hwn o dir oedd yn ymddangos rhyw ychydig yn flêr.  

 

 

 

Petai'r darn o dir yn cael ei adael heb adeilad gofynnodd y Cynghorydd Emyr Jones pwy fuasai'n gyfrifol am ofalu amdano yn y dyfodol.

 

 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Fowlie wrthod y cais oherwydd gorddatblygu'r safle a'r effaith andwyol ar bleserau tai cyffiniol.  Cafodd ei eilio gan y Cynghorydd Goronwy Parry.

 

 

 

Gan y Cynghorydd Gwyn Roberts cafwyd cynnig i roddi caniatâd ac eiliwyd ef gan y Cynghorydd Emyr Jones.

 

 

 

O 5 bleidlais i 4 ac yn groes i argymhelliad y swyddog penderfynodd yr aelodau wrthod y cais am y rhesymau a ganlyn :

 

 

 

(a)  buasai'n cyfateb i orddatblygu'r safle;

 

 

 

(b)  buasai'n cael effaith andwyol ar bleserau preswylwyr y stad.

 

 

 

Buasai'r cais yn cael ei drosglwyddo yn awtomatig i'r Pwyllgor nesaf i swyddogion gael cyfle i gyflwyno adroddiad ar y rhesymau dros wrthod.

 

 

 

4.2

35C191A - NEWID Y DEFNYDD O DIR AMAETHYDDOL I BWRPAS CADW CEFFYLAU AC ALTRO'R FYNEDFA AR GAE ORDNANS 4947 GER TYDDYN WAUN, LLANGOED

 

 

 

Eglurodd y Cadeirydd i'r cais hwn gael ei gyflwyno i'r Pwyllgor ar gais yr aelod lleol gan ychwanegu fod yma gais ôl-ddyddiol a'r rhan fwyaf o'r gwaith eisoes wedi ei wneud ar y safle.

 

 

 

Ymwelodd yr aelodau â'r safle ar 20 Awst, 2003.

 

 

 

Ychwanegodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio nad oedd y cais hwn yn gwyro o'r polisïau a'i fod, fel datblygiad yn y cefn gwlad, mewn egwyddor yn dderbyniol am na châi effaith annymunol ar yr ardal.  Roedd y cais yn cydymffurfio gyda'r polisïau presennol ac roedd yr Adran Briffyrdd yn argymell caniatâd i'r bwriad a amlinellwyd yn y cynllun gyda'r cais.  Nid oedd y garafán sefydlog a welodd yr aelodau ar y safle yn rhan o'r cais.  Ym mis Awst 2000, cymerwyd ffotograffau o'r safle o'r awyr a'r rheini yn dangos mynedfa i'r safle.  Cafwyd ganddo argymhelliad i ganiatáu'r cais gydag amodau.

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd John Rowlands bod llythyrau o wrthwynebiad i'r datblygiad gan gynnwys dau lythyr gan y Cyngor Cymuned.  Yn lleol roedd pryderon oherwydd bod gwaith yn cael ei wneud ar y safle heb ganiatâd cynllunio a bod y fynedfa wreiddiol i'r safle yn agosach i'r pentref ac ni fedrai gefnogi'r cais hwn.

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y cais hwn yn cydymffurfio gydag Adran 73 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 sy'n caniatau cyflwyno ceisiadau cynllunio ôl-ddyddiol.

 

 

 

Ar y mater hwn roedd y Cynghorydd Hefin Thomas yn gwbl gefnogol i'r aelod lleol ac yn enwedig ar ôl ystyried y gwaith sylweddol a wnaed ar y safle heb ganiatâd cynllunio perthnasol.  Pryderai ef am faterion diogelwch y ffordd oherwydd anawsterau gweld yn y fynedfa i'r safle a theimlai ei bod yn y lle anghywir a'r ffordd yn rhy gul yn yr union fan lle 'roedd y fynedfa i'r safle.

 

 

 

Yr hyn a boenai y Cynghorydd D. D. Evans oedd yr egwyddor o gyflwyno ceisiadau cynllunio ôl-ddyddiol.  

 

 

 

Yn ôl y Cynghorydd R. L. Owen ni fedrai ceir fynd heibio'i gilydd ar hyd y darn cul a throellog hwn o'r ffordd ac y buasai angen ei lledu am bellter o ugain llath yng nghyffiniau'r cais pe rhoddid caniatâd.  Fodd bynnag, ychwanegodd fod y gallu i weld rhyw fymryn yn well ger yr hen fynedfa i'r safle.

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd W. J. Williams bod y gallu i weld yn y fynedfa yn annigonol a hefyd bod y safle y tu allan i'r ardal cyfyngiad 30 milltir yr awr.

 

 

 

Cafwyd cynnig i wrthod y cais gan y Cynghorydd Hefin Thomas a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd John Rowlands.  

 

 

 

Cynigiodd y Cynghorydd W. E. Jones roddi caniatâd i'r cais gyda'r amod bod gwaith adfer angenrheidiol yn cael ei wneud yn y fynedfa i'r safle a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd J. A. Edwards.

 

 

 

Yn ôl Uwch Beiriannydd yr Adran Briffyrdd (Rheoli Datblygu) roedd gwaith gwella wedi ei wneud yn y fynedfa a rhagor o gynlluniau gwella wedi eu cyflwyno gan yr ymgeisydd ac yn y rheini yn cynnig gwell llain gwelededd i gydymffurfio gyda gofynion priffyrdd.  Fodd bynnag, ychwanegodd bod y gwaith sydd wedi ei wneud ar y safle yn groes i'r hyn a ddangoswyd ar y cynllun a gyflwynwyd.  Ychwanegodd bod y cais yn cael ei drin fel cais am ddefnydd preifat nid defnydd masnachol.

 

 

 

Yn groes i argymhellion y swyddog ac o 8 bleidlais i 3 PENDERFYNODD yr aelodau wrthod y cais am y rhesymau a ganlyn :

 

 

 

Ÿ

nid yw rhwydwaith y ffyrdd lleol sy'n gwasanaethu'r safle yn cyrraedd y safon h.y. mae'n rhy gul a throellog i dderbyn rhagor o draffig

 

Ÿ

nid yw'r gwelededd a'r lle i droi yn y fynedfa yn ddigon da.

 

 

 

Buasai'r cais yn cael ei drosglwyddo yn awtomatig i'r Pwyllgor nesaf i swyddogion gael cyfle i gyflwyno adroddiad ar y rhesymau dros wrthod.

 

 

 

4.3

46C83D - CYNLLUNIAU DIWYGIEDIG I DDYMCHWEL GWEITHDY A GWNEUD GWAITH ALTRO AC YMESTYN A GANIATAWYD AR ACHLYSUR O'R BLAEN DAN GAIS RHIF 46C83C YN NEILLDU, LÔN MELIN STANLEY, TREARDDUR

 

 

 

Yr aelod lleol ofynnodd am drosglwyddo'r cais hwn i Bwyllgor a bu'r aelodau yn ymweld â safle'r cais ar 20 Awst 2003.

 

 

 

Dywedodd y Cadeirydd mai cais oedd hwn i gadw gwaith altro ac ymestyn a wnaed yn y lle uchod a'r gwaith hwnnw ddim yn cydymffurfio gyda'r caniatâd a roddwyd.

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y cais gwreiddiol wedi ei ganiatáu ar 15 Ionawr, 2003 ac nad oedd yr Adran Iechyd wedi gwrthwynebu ac ni chafwyd yr un sylw gan y Cyngor Cefn Gwlad.

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio mai'r Polisïau perthnasol i bwrpas penderfynu ar argymhelliad y swyddog i'r Pwyllgor oedd Polisïau D1, D4, D9 a D29 Cynllun Fframwaith Gwynedd a Pholisïau 39, 42 a 58 Cynllun Lleol Ynys Môn.  Roedd y cais ôl-ddyddiol hwn yn cael ei ystyried dan Adran 73A Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 a than Nodyn Cyngor Technegol 9 (Gorfodaeth Rheoli Cynllunio).  Dywed Polisi 58 Cynllun Lleol Ynys Môn y bydd "gwaith altro ac ehangu tai yn cael ei gymeradwyo gyda'r amod na fydd y gwaith yn cael effaith andwyol ar wedd tai cyfagos nac ar yr ardal gyfagos"  Credai ef bod y datblygiad hwn yn dderbyniol yn y cyd-destun cynllunio.

 

      

 

     Er bod y datblygiad yn wahanol i'r hyn a ganiatawyd a'r ty yn uwch na'r cais gwreiddiol ac mewn Ardal o Brydferthwch Naturiol Eithriadol roedd y Cynghorydd Goronwy Parry yn derbyn adroddiad y swyddog.  

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd Hefin Thomas roddi caniatâd a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Gwyn Roberts.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais gyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

5

CEISIADAU'N GWYRO

 

      

 

5.1

17C344 - CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD AMAETHYDDOL AR DIR GER FODOL, LLANDEGFAN

 

      

 

     Dywedodd y Cadeirydd bod y bwriad hwn yn gwyro oddi wrth  y polisïau cynllunio ac nad oedd yn cwrdd â meini prawf hanfodol i godi annedd amaethyddol.

 

      

 

     Yn ôl y Rheolwr Rheoli Cynllunio y Polisïau perthnasol i'w hystyried wrth benderfynu ar argymhelliad y swyddog i'r Pwyllgor oedd Polisi 53 yng Nghynllun Lleol Ynys Môn a Pholisi A6 yng Nghynllun Fframwaith Gwynedd (Tai yn y Cefn Gwlad) ynghyd â Nodyn Cyngor Technegol 6 (TAN 6) y Cynulliad.  

 

 

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod safle'r cais mewn llecyn amlwg ac anghysbell yn y cefn gwlad ac ni chyflwynwyd digon o dystiolaeth gan asiant yr ymgeisydd i gyfiawnhau codi annedd amaethyddol ychwanegol ar y tir ac ni chafwyd tystiolaeth ynghylch yr angen am ddau dy ar y fferm.  Teimlai ef bod safleoedd eraill y gellid fod wedi eu hystyried.

 

      

 

     Nid oedd y Cynghorydd Hefin Thomas yn cytuno gydag adroddiad y swyddog a theimlai fod y cais yn eithriad; yn ôl y Cynghorydd roedd yma angen yn seiliedig ar ystyriaethau amaethyddol.  Gofynnodd tybed a oedd llecyn nes i adeiladau'r fferm a fuasai'n dderbyniol.  Yn ei ymateb dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio nad oedd llecyn o'r fath ar gael ac ni ddangoswyd bod angen i unigolyn arall fyw ar y safle.  Roedd un gwas ffarm eisoes yn byw ar y safle.

 

      

 

     Nodwyd bod dau lythyr o wrthwynebiad wedi eu derbyn ynghyd â chyflwyniad ychwanegol gan asiant yr ymgeisydd.

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd Gwyn Roberts yr argymhelliad, sef gwrthod a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Goronwy Parry.

 

      

 

     PENDERFYNWYD gwrthod y cais am y rhesymau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

5.2     27C77 - CYNLLUNIAU LLAWN I GODI BYNGALO AMAETHYDDOL A GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD AR DIR FFERM TY CROES, LLANFACHRAETH

 

      

 

     Dywedodd y Cadeirydd bod y cais hwn gerbron y Pwyllgor yn ôl dymuniad yr aelod lleol ac nad oedd, fel cais yn gwyro, yn cwrdd â meini prawf hanfodol i bwrpas codi annedd amaethyddol ychwanegol.

 

      

 

     Yn ôl y Rheolwr Rheoli Cynllunio y Polisïau perthnasol i'w hystyried wrth benderfynu ar argymhelliad y swyddog i'r Pwyllgor oedd Polisi 53 yng Nghynllun Lleol Ynys Môn a Pholisi A6 yng Nghynllun Fframwaith Gwynedd (Tai yn y Cefn Gwlad) ynghyd â Nodyn Cyngor Technegol 6 (TAN 6) y Cynulliad.

 

      

 

     Er bod yr uned economaidd gref hon yn cyfiawnhau annedd ychwanegol dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio nad oedd yr ymgeisydd wedi profi bod yma bwrpas ymarferol i ddarparu annedd ar y fferm ei hun.  Nid oedd yr ymgeisydd wedi ystyried posibiliadau eraill, megis addasu adeilad neu adeiladau neu sicrhau eiddo arall o fewn pellter rhesymol i'r fferm.

 

      

 

     Yma ychwanegodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod tri llythyr cefnogol wedi eu derbyn ond nid oedd yr ymgeiswyr wedi cyflwyno tystiolaeth o'r angen i fyw yn y llecyn penodol hwn mewn ardal o Brydferthwch Naturiol Eithriadol.  Roedd y swyddog yn argymell gwrthod yn gryf am y rhesymau yn yr adroddiad i'r Pwyllgor.

 

      

 

     Yn ei hanerchiad i'r cyfarfod dywedodd y Cynghorydd Bessie Burns mai cais oedd hwn i godi annedd i fab yr ymgeisydd sy'n bartner yn y busnes.  Cyfeiriodd at adroddiad ADAS a oedd, yn ei thyb hi, yn cyflwyno tystiolaeth bod angen codi ail annedd ar yr uned amaethyddol hon.  Roedd tair cenhedlaeth o'r teulu hwn wedi ffarmio'r uned 467 acer hon.

 

      

 

      

 

     Yn ôl y Cynghorydd Burns roedd yr ymgeisydd wedi edrych ar safleoedd eraill - nid oedd tir y tu cefn i'r annedd bresennol yn eiddo i'r ymgeisydd, hefyd rhoddwyd sylw i hen chwarel gerllaw, i'r afon gerllaw ac i ddwr yn codi cyn cyflwyno cais am y safle penodol hwn.  Roedd yr holl adeiladau amaethyddol eisoes yn cael eu defnyddio ac roedd y pentref yn rhy bell o'r fferm i ofalu yn iawn am yr anifeiliaid.  Roedd hi'n gwbl gefnogol i'r cais ac yn teimlo bod annedd yn hanfodol.  

 

      

 

     Yn ei ymateb dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod tai ar werth yn y pentref a'r rheini, yn ei dyb ef, yn nes i'r fferm na safle'r cais dan sylw yma.  Nid oedd yr ymgeisydd wedi profi bod angen darparu annedd ychwanegol ar y fferm.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd Hefin Thomas yn cwestiynu a oedd angen chwilio am safleoedd eraill mwy derbyniol ar y fferm, mater o farn meddai ef oedd y cwestiwn o ddarparu annedd ychwanegol i was ffarm neu i bartner yn y busnes ei hun.  Credai ef ei bod hi'n hanfodol i'r rheini oedd mewn busnes o'r fath fyw ar y fferm.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd P. M. Fowlie cafwyd cynnig i roddi caniatâd a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Hefin Thomas.

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd Gwyn Roberts argymhelliad y swyddog, sef gwrthod y cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Goronwy Parry.

 

      

 

     O 8 bleidlais i 4 PENDERFYNWYD gwrthod y cais am y rhesymau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

5.3     36219A - CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD I BWRPAS DEFNYDD AMAETHYDDOL AR DIR PRYSIORWERTH UCHAF, BODORGAN

 

      

 

     Dywedodd y Cadeirydd bod y cais hwn yn gwyro oddi wrth y polisïau a disgrifiodd leoliad y safle.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio mai'r polisïau perthnasol a ystyriwyd gan y swyddog i benderfynu ar ei argymhelliad i'r Pwyllgor oedd Polisïau A6 a D3 Cynllun Fframwaith Gwynedd a Pholisïau 31 a 53 Cynllun Lleol Ynys Môn a hefyd Nodyn Cyngor Technegol Cymru (TAN 6) (Amaethyddiaeth a Datblygiadau Gwledig).  Ychwanegodd na chafwyd tystiolaeth gan yr ymgeisydd yn dangos bod yr uned amaethyddol hon yn un gadarn ac ymarferol.

 

      

 

     Yn ôl y swyddog roedd y safle mewn lle anghysbell ac amlwg yn y cefn gwlad agored ac nid oedd yr ymgeisydd wedi ystyried gwahanol fathau o adeiladau, megis addasu hen adeiladau.  Roedd yr Adran Briffyrdd yn argymell gwrthod y cais oherwydd anawsterau gweld yn y fynedfa.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Goronwy Parry cafwyd cynnig i dderbyn argymhelliad o wrthod gan y swyddog a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Gwyn Roberts,

 

      

 

     PENDERFYNWYD gwrthod y cais am y rhesymau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

5.4     38C194 - CYNLLUNIAU LLAWN I GODI ANNEDD YNGHYD AG ALTRO'R FYNEDFA A GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD AR RAN O GAE ORDNANS 1041, CARREG-LEFN

 

      

 

     Dywedodd y Cadeirydd bod yma gais am annedd yn y cefn gwlad y tu allan i ffiniau unrhyw bentref ac o'r herwydd yn gwyro oddi wrth y polisïau.

 

      

 

     Ychwanegodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio mai'r polisïau a ystyriwyd gan y swyddogion wrth benderfynu ar yr argymhelliad i'r Pwyllgor oedd Polisi A6 Cynllun Fframwaith Gwynedd a Pholisi 53 Cynllun Lleol Ynys Môn.  Roedd y safle yn y cefn gwlad rhwng Llyn Alaw a Charreg-lefn a dywedodd bod yr Adran Briffyrdd yn gwrthwynebu oherwydd anawsterau gweld a dim digon o lecynnau pasio ar y rhwydwaith lleol o ffyrdd.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Gwyn Roberts cafwyd cynnig i dderbyn argymhelliad o wrthod gan y swyddog ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Goronwy Parry.

 

      

 

     PENDERFYNWYD gwrthod y cais am y rhesymau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

5.5     41C109 - CAIS AMLINELLOL I GODI BYNGALO AR DIR TALCEN EIDDEW, STAR

 

      

 

     Dywedodd y Cadeirydd bod y cais hwn yn gwyro oddi wrth bolisïau'r cynllun datblygu.

 

      

 

     Ychwanegodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio mai polisïau 48, 50 a 53 Cynllun Lleol Ynys Môn ynghyd â pholisi A6 Cynllun Fframwaith Gwynedd (anheddau yn y cefn gwlad) oedd y polisïau perthnasol y bu'r swyddog yn eu hystyried wrth benderfynu ar ei argymhelliad i'r Pwyllgor.  Amlinellodd yr hanes o wrthod ceisiadau cynllunio yn yr ardal hon.   Yn ogystal roedd yr Adran Briffyrdd yn argymell gwrthod oherwydd diogelwch y ffordd.

 

      

 

     Teimlai'r swyddog y buasai codi annedd yn y lleoliad hwn yn ymwthiad annymunol i'r tirwedd gan amharu ar gymeriad ac ar bleserau'r fro.

 

      

 

     Cafwyd cynnig gan y Cynghorydd Goronwy Parry i dderbyn argymhelliad y swyddog o wrthod a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Gwyn Roberts.

 

      

 

     PENDERFYNWYD gwrthod y cais am y rhesymau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

6

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

6.1

11C413 - NEWID DEFNYDD O SWYDDFEYDD I FWYTY PRYDAU POETH PIZZA A BWYTY CYFANDIROL YN 14 STRYD MONA, AMLWCH.

 

      

 

     Dywedodd y Cadeirydd mai cais oedd hwn i newid defnydd o'r swyddfeydd a'u troi yn lle prydau poeth parod a bwyty uwchben.

 

      

 

     Eglurodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio i'r cais hwn gael ei ddwyn i sylw'r Pwyllgor am nad oedd yn cydymffurfio gyda darpariaethau Cynllun Lleol Ynys Môn er ei fod yn cydymffurfio gyda pholisïau esblygol y Cynllun Datblygu Unedol.  (Nodwyd yma bod angen diwygio'r fersiwn Gymraeg o adroddiad y swyddog i adlewyrchu hyn).

 

      

 

     Y polisïau perthnasol a ddefnyddiodd y swyddog i benderfynu ar ei argymhelliad i'r Pwyllgor oedd Polisi 40 Cynllun Lleol Ynys Môn ac EP13 y Cynllun Datblygu Unedol sy'n esblygu.  Roedd y polisïau siopau wedi eu hadolygu yn y Cynllun Datblygu Unedol ac nid oedd yr un prif ffryntiad bellach ar ôl yn Amlwch.

 

      

 

     Roedd y Rheolwr Rheoli Cynllunio yn argymell rhoddi caniatâd i'r cais a gofynnodd am ddileu amodau (06), (07) ac (08) o'r caniatâd gan fod y cyfryw amodau yn cael sylw dan ddeddfwriaeth arall.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais gyda'r amodau yn adroddiad y swyddog ond ac eithrio amodau (06), (07) ac (08).

 

      

 

6.2     17C20C/1 - ALTRO AC YMESTYN GAREJ HENFFORDD, PENTRAETH

 

      

 

     Gan y Cynghorydd R. L. Owen a Mr. J. R. W. Owen o'r Adran Briffyrdd cafwyd datganiadau o ddiddordeb yn y cais ac nid oeddynt yn bresennol yn ystod y drafodaeth na'r pleidleisio.

 

      

 

     Dywedodd y Cadeirydd i'r cais hwn gael ei drosglwyddo i'r Pwyllgor yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Ar y cychwyn dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod pryder ynghylch y fynedfa i'r briffordd ond bod y mater wedi ei ddatrys gyda'r ymgeiswyr.  Hefyd atgoffodd yr aelodau o hanes cynllunio'r safle gan amlinellu'r polisïau cynllunio perthnasol a ystyriwyd wrth benderfynu ar yr argymhelliad o ganiatáu ar y cais, a chyfeiriodd yn benodol at Bolisi 2 (swyddi newydd) Cynllun Lleol Ynys Môn.

 

      

 

     Nodwyd nad oedd yr Adran Briffyrdd yn gwrthwynebu'r bwriad ond gyda'r amodau oedd ynghlwm wrth gais cynllunio 17C20Z.  Yn ôl y swyddog roedd egwyddor y bwriad yma, ei ddyluniad a'r effaith ar y tirwedd yn dderbyniol.  Hefyd nodwyd bod Maen-hir bellach wedi ei brynu gan yr ymgeiswyr ac yn rhan o ganolfan y garej.

 

      

 

     Wrth annerch y Pwyllgor dywedodd yr aelod lleol, y Cynghorydd Eurfryn Davies, am y pryder cychwynnol ynghylch effaith y bwriad ar bleserau tai gerllaw ond yn y cyfamser cafodd sicrwydd bod y materion yma wedi cael sylw yn foddhaol.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais gyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

6.3   18C146 - CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD A GAREJ A DARPARU MYNEDFA         NEWYDD AR RAN O GAE ORDNANS 9385 BRYN-GLAS, LLANRHUDDLAD

 

      

 

     Ar ôl cyhoeddi adroddiad y swyddog dywedodd Rheolwr Rheoli Cynllunio y Cyngor bod yr ymgeiswyr bellach wedi cyflwyno cynlluniau diwygiedig a bydd raid gwneud rhagor o ymgynghori arno.

 

      

 

     PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais uchod.

 

      

 

6.4     20C197 - ALTRO AC YMESTYN PEN Y BONT, 17 STRYD ATHOL, CEMAES

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor yn ôl dymuniad yr aelod lleol oherwydd pryderon pobl leol.

 

     Ar ôl cyhoeddi adroddiad y swyddog dywedodd Rheolwr Rheoli Cynllunio y Cyngor bod yr ymgeiswyr bellach wedi cyflwyno rhagor o gynlluniau yng nghyswllt y bwriad a buasai'n rhaid ymgynghori rhagor yn eu cylch.  Yn y cyfamser roedd y swyddog yn argymell bod yr aelodau yn cael golwg ar safle'r cais.

 

      

 

     PENDERFYWNYD ymweld â safle'r cais cyn penderfynu arno.

 

      

 

6.5     46C360A - CYNLLUNIAU DIWYGIEDIG I GODI BYNGALO DORMER I'W DEFNYDDIO FEL ATODIAD NAIN YN SWN Y MÔR, LÔN SANTES FFRAID, TREARDDUR

 

      

 

     Dygwyd y cais hwn i'r Pwyllgor yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Ar ôl cyhoeddi adroddiad y swyddog dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod yr ymgeiswyr wedi cyflwyno cynlluniau diwygiedig a buasai'n rhaid ymgynghori rhagor arnynt gyda'r gwrthwynebwyr.

 

      

 

     PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais uchod.

 

      

 

6.6     47LPA828/CC - ALTRO AC YMESTYN 19 PEN-Y-GROES, LLANDDEUSANT

 

      

 

     Dywedodd y Cadeirydd bod y cais hwn wedi ei drosglwyddo i'r Pwyllgor oherwydd mai Cyngor Sir Ynys Môn oedd yn ei gyflwyno.

 

      

 

     Ychwanegodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod yr eiddo yn un ty o bar o dai a'r bwriad oedd dymchwel sied/storfa yng nghefn yr eiddo a chodi estyniad newydd ac ynddo gyfleusterau i berson methedig.

 

      

 

     Nodwyd na chafwyd yr un gwrthwynebiad i'r bwriad.

 

      

 

     PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais ond gyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

6.7     49C236 - CODI WAL DERFYN YNG NGHEFN YR ANNEDD YN 101-103 TAN-Y-BRYN, Y FALI

 

      

 

     Dywedodd y Cadeirydd i'r cais hwn gael ei drosglwyddo i Bwyllgor gan fod y tir yn eiddo i'r Cyngor Sir a nodwyd hefyd bod yr aelod lleol wedi gofyn am i'r cais gael ei benderfynu gan y Pwyllgor.

 

      

 

     Ychwanegodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y wal derfyn bellach wedi ei chodi ac yn 1.83 metr yn y llecyn uchaf.  Cafwyd gwrthwynebiadau oherwydd ei bod yn cuddio'r maes parcio o gyfeiriad y tai.

 

      

 

     Ychwanegodd y swyddog na fuasai'r bwriad hwn yn cael effaith andwyol ar bleserau y tai gerllaw ac roedd yn argymell rhoddi caniatâd.

 

      

 

     Eisiau gweld cysondeb ar draws y stad dai oedd y Cynghorydd Goronwy Parry a hwn oedd y rheswm am gyflwyno'r cais i Bwyllgor; ni chredai ef fod y wal hon yn gweddu yn y cyd-destun hwn.  Hefyd mynegwyd pryderon oherwydd y defnyddiau a ddefnyddiwyd i godi'r wal a hefyd oherwydd diogelwch y maes parcio cyffiniol.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais gyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

7

CEISIADAU A DDIRPRWYWYD

 

      

 

     Cyflwynwyd a derbyniwyd - adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cynllunio a Gwasanaethau Amgylcheddol) ar y materion dirprwyol y penderfynwyd arnynt ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor hwn.  Dywedodd y Cadeirydd bod 82 o geisiadau cynllunio wedi cael sylw ers y cyfarfod diwethaf.

 

      

 

     Yma cytunodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio i drefnu bod y Cynghorydd P. M. Fowlie yn derbyn copi o'r ymateb i lythyr ac a yrrwyd at yr Arweinydd yng nghyswllt cais rhif 28C311 (Studio Gate and the Dunes, Ffordd yr Orsaf, Rhosneigr).

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

      

 

8

CEISIADAU CYNLLUNIO AR EU HANNER

 

      

 

     Cyflwynwyd a nodwyd bod y ceisiadau cynllunio a ganlyn wedi eu tynnu'n ôl yn ffurfiol ar ôl rhoddi caniatâd iddynt yn y Pwyllgor :

 

      

 

8.1

YN AMODOL AR GYTUNDEB ADRAN 106:

 

      

 

8.1.1

1/19/GD/4C - Ymestyn y llecyn parcio yn UBO Stryd y Parc, Caergybi (dim gwrthwynebiad 11/01/1989 - tynnwyd yn ôl 03/06/2003)

 

      

 

8.1.2

1/48/C/28S/TR - Newid defnydd o ran o'r adeiladau ac o'r tir i bwrpas darparu hyfforddiant sylfaenol gorfodol gyrru moto-beics yr Adran Drafnidiaeth ar Gae y Primin, Gwalchmai (penderfyniad gan y Pwyllgor ar 01/12/1999) - tynnwyd yn ôl 18/07/2003.

 

      

 

8.2

GORCHYMYN DIRYMU

 

      

 

8.2.1

1/40/C/58C - codi siale hamdden ym Mharc Carafannau Tyddyn Isaf, Llugwy, Dulas (roddwyd caniatâd gyda Gorchymyn Dileu 07/09/1988) - tynnwyd yn ôl 28/07/2003.       

 

9

APELIADAU CYNLLUNIO - ADRAN 78 DEDDF CYNLLUNIO GWLAD A THREF 1990 TIR GER CARTREFLE, RHOSTREHWFA

 

      

 

     Cyflwynwyd a derbyniwyd adroddiad yr Arolygwr Cynllunio a benodwyd gan y Cynulliad yng nghyswllt apêl yn erbyn penderfyniad a wnaeth yr Awdurdod i wrthod caniatâd cynllunio i gais cynllunio amlinellol 36C135B.  Gwrthodwyd yr apêl.

 

      

 

10

CYNLLUN DATBLYGU UNEDOL - Y DIWEDDARAF

 

      

 

     Cyflwynwyd y wybodaeth ddiweddaraf gan y Rheolwr Rheoli Cynllunio a nodwyd y buasai'r gwrandawiad yn cau yn ffurfiol ar ddydd Llun, 8 Medi, 2003 a bod yr Arolygwr yn disgwyl cwblhau ei ymweliadau â safleoedd yn ystod mis Medi.  Nodwyd bod 1283 o wrthwynebiadau heb eu setlo i gyflwyno adroddiad arnynt.  Disgwylir y bydd adroddiad terfynol yr Arolygwr a'i argymhellion cysylltiedig ar gael yn Ebrill 2004.

 

      

 

     Braf clywed bod yr agweddau trefnu a gweinyddu i'r ymchwiliad wedi bod yn llwyddiant.

 

      

 

     Yma nododd y swyddog y bydd y swyddogion cynllunio yn parhau i roddi cyngor i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar y pwysau priodol i'w rhoddi ar y polisïau CDU wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio.

 

      

 

     Cytunai pawb oedd yn bresennol y buasai'n briodol cael sesiwn hyfforddiant ar y Cynllun Datblygu Unedol yn y dyfodol agos.

 

 

 

     *        *        *        *        *

 

      

 

      

 

     46C361A/EIA - DARPARU GWAITH TRIN CARTHION AC ADEILADU MYNEDFA NEWYDD AR DIR RHWNG ALIWMINIWM MÔN A STAD DDIWYDIANNOL PENRHOS, CAERGYBI

 

      

 

     Er gwybodaeth i'r aelodau dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio i'w Adran gael gwybod gan gynrychiolwyr Dwr Cymru y bydd yr apêl gynllunio y cyfeiriwyd ati dan eitem 6.8 cofnodion 2 Gorffennaf, 2003 ar y pwnc uchod bellach yn cael ei dal yn ôl am 3 mis.

 

      

 

      

 

      

 

     Daeth y cyfarfod i ben am 4.25 p.m.

 

      

 

     Y CYNGHORYDD ROBERT LL. HUGHES

 

     CADEIRYDD