Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion dogfennau , 3 Hydref 2007

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Dydd Mercher, 3ydd Hydref, 2007

PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION

 

Cofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 3 Hydref, 2007

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd Arwel Roberts - Cadeirydd

 

Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, J. Arwel Edwards, O. Glyn Jones,

J Arthur Jones,Thomas Jones, Bryan Owen,RL Owen, John Roberts, Hefin Thomas, WJ Williams MBE

 

 

 

WRTH LAW:

 

Cynllunio:

Pennaeth Rheoli Datblygu (EGJ)

Rheolwr Rheoli Datblygu(DFJ),

Cynorthwy-ydd Cynllunio (SM)

Cynorthwy-ydd Gweinyddol (CM-R)

 

Priffyrdd:

Pennaeth Gwasanaeth (Priffyrdd a Thrafnidiaeth)

Uwch Beiriannydd (Rheoli Datblygu a Hawliau Tramwy)(JRWO)

Swyddog Rheoli Datblygu (RE)

Uchel Beiriannydd (Strwythurau) (ERT)

 

Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol (RWJ)

Cynorthwy-ydd Gweinyddol (CWP)

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Y Cynghorwyr John Byast, John Chorlton, Denis Hadley

 

 

 

HEFYD YN BRESENNOL:

 

Aelodau Lleol :  Y Cynghorwyr Peter Dunning - eitemau 7.1,10.11, 10.12 PM Fowlie - eitem 6.1, Gwilym O Jones - eitemau 6.5, 9.1,

RG Parry OBE - eitemau 6.7 & 6.8, DA Lewis-Roberts - eitemau 10.5 & 10.6, G Allan Roberts - eitemau 6.3 & 6.4

 

 

 

1

YMDDIHEURIADAU

 

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb fel a nodwyd uchod.

 

2

DATGANIAD O DDIDDORDEB

 

Derbyniwyd datganiadau o ddiddordeb fel y cawsant eu cofnodi dan yr eitemau perthnasol.

 

3

COFNODION

 

Cadarnhawyd a llofnodwyd, cofnodion y cyfarfod o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gafwyd ar

 

5 Medi, 2007.

 

 

 

4

YMWELIAD SAFLE

 

 

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd, fel cofnod cywir, adroddiad ar yr Ymweliad Safle gafwyd ar

 

19 Medi, 2007.  

 

    

 

 

 

 

 

 

 

 

 

5

CEISIADAU A OHIRIWYD

 

 

 

5.1

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

19LPA813B/CC  19LPA813B/CC  CAIS I NEWID AMOD (03) ER MWYN CANIATÁU MANYLION LLIFOLEUADAU AR ÔL DECHRAU'R GWAITH YN HYTRACH NA CHYN DECHRAU'R GWAITH YNG NGHYFLEUSTERAU CHWARAEON MILLBANK, CAERGYBI

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan ei fod wedi ei gyflwyno gan y Cyngor ac yn effeithio ar dir yn ei berchnogaeth. Ar 6 Mehefin, i bwrpas asesu effaith y datblygiad ar dai cyfagos, penderfynwyd ymweld â'r safle ac fe gafwyd hyn ar 20 Mehefin 2007.  Adroddodd y swyddog fod gwaith adfer i'r colofnau goleuo wedi ei wneud ac y byddid angen asesiad pellach.  Disgwylid cyflwyno adroddiad llawn i gyfarfod mis Tachwedd.  

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais am y rheswm a roddwyd.

 

 

 

 

 

5.2

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

31C346A  CODI ADEILAD AMAETHYDDOL I GADW ANIFEILIAID YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU AR DIR YN FFERM SIGLEN, LLANFAIR-PWLL

 

 

 

 

 

Gan Mr Richard Eames o'r Adran Briffyrdd cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r pleidleisio.  Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl  dymuniad yr aelod lleol.  Penderfynwyd ymweld â'r safle ar 25 Gorffennaf ac fe gafwyd hyn ar 8 Awst, 2007. Gofynnodd y swyddog am ohiriad tra'n cwblhau trafodaethau.

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais am y rheswm a roddwyd.

 

 

 

 

 

5.3

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

33C28E/1  CAIS LLAWN I GODI IS-ORSAF DRYDAN YN

 

CAE WIAN, GAERWEN

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan ei fod yn effeithio ar dir ym mherchnogaeth y Cyngor.  Yn y cyfarfod ar 25 Gorffennaf, 2007 penderfynodd y Pwyllgor hwn ganiatau'r cais, gydag amodau.  Fe nodwyd fod Scottish Power wedi cyflwyno Datganiad ar Swn a Dirgrynu a gofynnodd y swyddog am ohiriad tra'n disgwyl ymateb gan yr ymgeisydd ar effaith meysydd electromagnetig.

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais am y rheswm a roddwyd.

 

 

 

6

CEISIADAU'N CODI

 

 

 

6.1

CAIS YN TYNNU'N GROES

 

 

 

14C199A  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD AR DIR GER BYNGLO PARCIAU, TYN LON

 

 

 

Gan Y Cynghorydd J Arthur Jones cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais a gadawodd y cyfarfod am y drafodaeth a'r pleidleisio.  Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl  dymuniad yr aelod lleol.

 

 

 

Yn y cyfarfod gafwyd ar 4 Gorffennaf, 2007 penderfynodd y Pwyllgor ohirio penderfynu ar y cais er mwyn i swyddogion gael rhagor o wybodaeth ar opsiynau eraill, e.e. addasu adeilad neu anheddau addas eraill ar werth yn lleol.  Yn y cyfamser gohiriwyd y cais.

 

 

 

 

 

Adroddwyd ar y cais gan y Cynghorydd PM Fowlie yn absenoldeb yr aelod lleol  a gofynnodd i'r aelodau ddarllen llythyr oedd gerbron y cyfarfod dyddiedig 18 Medi, 2007 gan yr ymgeisydd,  cyfeiriodd hefyd at y cofnodion blaenorol.  Roedd ar fab yr ymgeisydd angen gofal dwys a'r ymgeisydd yn fodlon derbyn amodau cynllunio a phriffyrdd.  Byddai'r annedd yn cael ei ddarparu'n arbennig ar gyfer anghenion y mab gan gynnwys gymnasiwn ac ystafell i alluogi'r ymgeisydd weithio o'i chartref.  

 

 

 

Ni ellid dadlau nad oedd y cais hwn yn un a oedd yn tynnu'n groes i bolisïau ac yn un a fyddai'n creu annedd newydd yn y cefn gwlad meddai'r Rheolwr Rheoli Datblygu.  Dylid ymchwilio i'r posibilrwydd o addasu annedd presennol a hefyd tai ar werth yn lleol - doedd y meddyg teulu lleol ddim yn rhoi pwyslais ei bod yn angenrheidiol cael annedd yn y fangre arbennig hon.  Gofynnodd y swyddog os oedd rhesymau personol yn gorchfygu tynnu'n groes i bolisïau sefydlog a gofynnodd a ddylai'r aelodau wneud penderfyniad ar sail cynnwys y llythyrau hyn.  Roedd yma argymhelliad cryf o wrthod y cais hwn a oedd yn tynnu'n groes.

 

 

 

O ddarllen llythyr yr ymgeisydd nododd y Cynghorydd Glyn Jones fod yma dair annedd ychwanegol i'r hyn a ddangoswyd ar y cynllun a dangosodd y Cynghorydd Fowlie rhain ar y taflunydd.

 

 

 

Gwelai'r Cynghorydd Eurfryn Davies hwn yn achos sensitif a chynigiodd ganiatáu, cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd RL Owen.  Roedd Polisi Cynllunio Cymru yn fodlon ystyried ceisiadau ar sail anghenion arbennig meddai'r Cynghorydd Glyn Jones.  Nododd y Cynghorydd Thomas Jones fod meddyg y teulu'n cefnogi'r cais ar sail iechyd.

 

 

 

Atgoffa'r aelodau a wnaeth y Cynghorydd John Roberts o gais tebyg a ganiatawyd ym Mhensarn beth amser yn ôl, ond nad oedd gwaith adeiladu wedi dechrau ar y safle.

 

 

 

Gofynnodd y cyfrieithiwr i'r aelodau ystyried os oedd sail iechyd yn cyfiawnhau adeiladu annedd newydd yn y cefn gwlad yn hytrach nag addasu annedd presennol fel yr awgrymwyd yn lythyr y meddyg.

 

 

 

Dyfynodd y Rheolwr Rheoli Datblygu o adran 4.16 Polisi Cynllunio Cymru (safleoedd eithriedig) ac y dylai penderfyniadau gael eu gwneud ar sail defnydd tir.

 

 

 

Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

 

 

Caniatáu'r cais, yn groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, Glyn Jones, Thomas Jones, Bryan Owen, RL Owen, WJ Williams

 

 

 

Derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais:  Y Cynghorwyr J Arwel Edwards,

 

John Roberts, J Arwel Roberts, Hefin Thomas

 

 

 

Y rheswm a roddwyd dros ganiatáu'r cais oedd amgylchiadau y manylwyd arnynt yn llythyr yr ymgeisydd ac a gefnogwyd gan y meddyg teulu.

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio'n otomatig i'r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu'r cais.  

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

6.2

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

17C408A  NEWID AC ADDASU ADEILAD ALLANOL I FOD YN ANNEDD YN CAERAU, LLANSADWRN

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Penderfynwyd ymweld â'r safle ar 5 Medi, ac fe gafwyd hyn ar 19 Medi ar gais yr aelod lleol.  

 

 

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Eurfryn Davies at gynllun a ddosbarthwyd cyn dechrau'r cyfarfod; roedd hwn yn dangos i'r safle fod y tu mewn i glwstwr cydnadnabyddedig ar gyfer Llansadwrn.  Roedd arolwg strwythurol ynghlwm i'r cais a hwn yn foddhaol ar wahan i ddarn o'r adeilad a oedd o wnaethurwaith parod.   Doedd y cais, felly, ddim yn tynnu'n groes i bolisïau a chynigiodd ganiatáu.  

 

 

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd RL Owen dywedodd yr Uwch Beiriannydd Priffyrdd y byddai angen gwelliannau i'r fynedfa gan gynnwys gwella'r welededd; fodd bynnag dywedodd y swyddog na ellir ystyried hyn fel "gwelliant i'r briffordd".

 

 

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Hefin Thomas dywedodd y swyddog nad oedd y tir i'r naill ochr na'r llall i'r fynedfa ym mherchnogaeth yr ymgeisydd; ac mewn ymateb i gwestiwn pellach dywedodd y swyddog y byddai'n rhaid gwella'r lôn bach tuag at y safle a hefyd torri'r gwrych yn ôl.

 

 

 

Nododd y Cynghorydd Arthur Jones bod modd addasu adeiladau cyn belled nad oedd gwaith cynhwysfawr angen ei wneud;  byddai'r Cynghorydd Arthur Jones yn eilio caniatáu'r cais gan nad oedd y safle yn cael ei hystyried fel un yn y cefn gwlad.  

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu nad oedd y cynllun a ddosbarthwyd yn berthnasol i benderfynu ar y cais hwn.  Roedd y ffram ar y cynllun hwn i ddangos lleoliad clwstwr dan bolisi HP5 o'r CDU a stopiwyd - doedd y llinell a ddangoswyd ddim yn ffin ddatblygu.  

 

 

 

Nododd y Cynghorydd Glyn Jones, i bwrpas addasu, nad oedd hi'n ofynnol i safle fod y tu mewn i glwstwr cydnadnabyddedig dan Bolisi 55 a chynigiodd ganiatáu'r cais.

 

 

 

Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

 

 

Caniatáu'r cais, yn groes i argymhelliad y swyddog: Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, J Arwel Edwards, Glyn Jones, J Arthur Jones, RL Owen, John Roberts, Hefin Thomas, WJ Williams

 

 

 

Ni fwriwyd pleidlais arall.

 

 

 

Y rheswm a roddwyd dros ganiatáu oedd y teimlai'r aelodau fod y cais yn cydymffurfio a Pholisi 55 (addasiadau) Cynllun Lleol Ynys Môn.

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio'n otomatig i'r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu'r cais.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

6.3

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

19C882B  CAIS LLAWN I GODI 21 O DAI DEULAWR YNGHYD A CHREU MYNEDFA NEWYDD I GEIR AC I GERDDWYR AR DIR GER LÔN CAE SERRI, LLAINGOCH

 

 

 

Gan JRW Owen cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r pleidleisio. Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor bendefynu arno ar gais yr aelod lleol, y Cynghorydd G Allan Roberts, a gofynnodd am ymweliad â'r safle; cafodd hyn ei gynnig gan y Cynghorydd WJ Williams a'i eilio gan y Cynghorydd John Roberts.

 

 

 

I bwrpas cofnod, fe nodwyd y dylai'r cais hwn fod wedi ymddangos gyda "Gweddill y Ceisiadau" ar y rhaglen ac nad oedd yn un a oedd yn codi o gofnodion y cyfarfod blaenorol.  

 

 

 

PENDERFYNWYD ymweld â'r safle ar gais yr aelod lleol.  

 

 

 

 

 

6.4       GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

19LPA879CC  CAIS AMLINELLOL I GODI DWY ANNEDD YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GEIR TU ÔL I RIFAU 1 & 3 PARC FELIN DDWR, LLAIN-GOCH, CAERGYBI

 

 

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan mai'r Cyngor yw'r ymgeisydd a pherchennog y tir. Penderfynwyd ymweld â'r safle ar 25 Gorffennaf ac fe gafwyd hyn ar 8 Awst, 2007.  Yn y cyfarfod ar 5 Medi, yn unfrydol penderfynwyd gwrthod y cais, yn groes i argymhelliad y swyddog, oherwydd colli mwynderau yn y gymuned.   Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros wrthod y cais.

 

 

 

Gofynnodd y Cynghorydd G Allan Roberts i'r aelodau lynu wrth eu penderfyniad blaenorol a gwrthod y cais am y rhesymau a roddwyd; cafodd hyn ei gynnig gan y Cynghorydd RL Owen a'i eilio gan y Cynghorydd WJ Williams.

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:  

 

      

 

     Gwrthod y cais, yn groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, J Arwel Edwards, Glyn Jones, J Arthur Jones, Thomas Jones, Bryan Owen, RL Owen, John Roberts, WJ Williams

 

      

 

     PENDERFYNWYD glynu wrth y penderfyniad blaenorol a gwrthod y cais, yn groes i argymhelliad y swyddog am y rheswm a roddwyd.  

 

      

 

      

 

6.5      GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     32C152A  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD AR DIR CEFN FARM, CAERGEILIOG.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd J Arthur Jones cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais a gadawodd y cyfarfod am y drafodaeth â'r pleidleisio. Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno ar gais yr aelod lleol.  Dymuniad yr aelodau ar 5 Medi oedd un o ganiatau'r cais, yn groes i argymhelliad y swyddog, gan y teimlai'r aelodau fod y cais yn cydymffurfio a Pholisi 50 (pentrefi rhestredig) a chyflenwi angen lleol.  Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu.  

 

      

 

      

 

     Atgoffodd y Rheolwr Rheoli Datblygu'r aelodau ei fod yn parhau o'r farn y byddai hwn yn ymestyn y rhan adeiledig i'r cefn gwlad ac nid oedd tystiolaeth fod hwn yn "dir wedi ei ddatblygu'n flaenorol".   Doedd dim cofnod o ddefnydd blaenorol na dim tystiolaeth o adfeilion unrhyw adeilad meddai'r swyddog.

 

      

 

     Mae'r safle ar gwr y pentref meddai'r Cynghorydd Gwilym Jones yr aelod lleol, yn ymyl hen ddepo'r Cyngor; roedd caniatâd i newid defnydd yr adeilad hwn i ysgol ar gyfer hyd at 12 o blant gydag anghenion addysgol arbennig.  Roedd safle'r cais blaenorol yn agosach at yr ysgol gynradd a'r safle nawr wedi ei hail leoli wrth y llwybr cyhoeddus.  Doedd dim gwrthwynebiad i'r cais a'r cyngor cymuned lleol yn gefnogol.  Darllenodd y Cynghorydd Jones ddarn o farddoniaeth oedd yn cyfeirio at Tyn Merddyn oedd gerllaw i'r llwybr cyhoeddus, sef cartref y bardd "Mathew Bach".

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Glyn Jones cafwyd cynnig i lynu wrth y penderfyniad blaenorol i ganiatáu'r cais, a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd RL Owen.

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:  

 

      

 

     Caniatáu'r cais, yn groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, J Arwel Edwards, Glyn Jones, Thomas Jones, Bryan Owen, RL Owen, WJ Williams

 

      

 

     Doedd dim pleidlais i'r gwrthwyneb.

 

      

 

     PENDERFYNWYD glynu wrth y penderfyniad blaenorol a chaniatáu'r cais, yn groes i argymhelliad y swyddog am y rheswm a roddwyd, gydag amodau safonol.  

 

      

 

      

 

6.6     CAIS YN TYNNU'N GROES

 

      

 

     35C262  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD AR DIR GER FFERM LLANFAES, LLANGOED

 

      

 

     Cafwyd datganiad o ddiddordeb gan y Cynghorydd Hefin Thomas a gadawodd y cyfarfod am y drafodaeth a'r pleidleisio. Cafwyd datganiad o ddiddordeb gan y Cynghorydd John Rowlands hefyd yn y cais hwn.   Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol. Penderfynwyd ymweld â'r safle ar 25 Gorffennaf ac fe gafwyd hyn ar 8 Awst, 2007.  Ar 5 Medi, gan y teimlai'r aelodau y byddai hwn yn fewnlenwi'n sensitif, penderfynwyd caniatáu'r cais, yn groes i argymhelliad y swyddog. Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu'r cais.

 

      

 

     Meddai'r Rheolwr Rheoli Datblygu roedd y safle y tu allan i'r ffin datblygu a doedd y cais ddim wedi ei gyflwyno fel un am dy ffordiadwy nac am anghenion eithriadol.  Ni fyddai'r bwriad yn mewnlenwi'n sensitif ac nid oedd rhwng dau adeilad.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd RL Owen cafwyd cynnig i lynu wrth y penderfyniad blaenorol i ganiatáu'r cais, cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Arthur Jones.  Cadarnhaodd yr aelodau y rheswm dros ganiatáu.

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:  

 

      

 

     Caniatáu'r cais, yn groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, J Arwel Edwards, Glyn Jones, J Arthur Jones, Thomas Jones, Bryan Owen, RL Owen, WJ Williams

 

      

 

     PENDERFYNWYD glynu wrth y penderfyniad blaenorol a chaniatáu'r cais, yn groes i argymhelliad y swyddog am y rhesymau a roddwyd, gydag amodau safonol.

 

      

 

      

 

      

 

6.7     GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     48C106H  DILEU AMOD (07) SEF "BYDD RAID DARPARU LLWYBR TROED 1.8m  O LED YN CYRRRAEDD SAFONAU'R AWDURDOD PRIFFYRDD AR HYD FFRYNT Y SAFLE GER LLINELL Y CYRBIN A FFINIAU'R SAFLE CYN PRESWYLIO YN YR ANNEDD' ODDI AR GANIATÂD CYNLLUNIO 48C106G AR BLOT 3 UWCHLAW'R FFYNNON, GWALCHMAI

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol. Penderfynwyd ymweld â'r safle ar 25 Gorffennaf ac fe gafwyd hyn ar 8 Awst, 2007.  Ar 5 Medi, penderfynwyd caniatáu'r cais, yn groes i argymhelliad y swyddog gan y teimlai'r aelodau y byddai Amod (07) yn rhoi baich ar yr ymgeisydd na ellid ei chyfiawnhau a hyn yn groes i gyngor roddir yng Nghylchlythyr 35/95 y Swyddfa Gymreig ar ddefnyddio amodau cynllunio wrth roi caniatâd cynllunio.  Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu.

 

      

 

     Ar ôl derbyn caniatâd cynllunio fe werthwyd y plotiau meddai'r Cynghorydd RG Parry.   A'r llecyn hwn o fewn cyflymdra gyrru o 30 mya a dim llwybr troed rhwng y pentref a Phenclegir, nid oedd y ffordd hon yn un a ddefnyddid gan gerddwyr.  Byddai'n costio oddeutu £10,000 i'r bobl ifanc hyn ddarparu llwybr troed.  Doedd dim llwybr troed o flaen dau fynglo yr ochr arall i'r ffordd.  Ymhellach i hyn atgoffodd yr aelodau o Gylchlythyr 35/95 y Swyddfa Gymreig.  

 

      

 

     Rhoddwyd yr amod i wella diogelwch y ffordd ac i wella'r welededd o'r mynedfeydd oedd ar dro yn y ffordd meddai'r Uwch Beiriannydd Priffyrdd.  Byddai llwybr troed yn darparu dihangfa saff i gerddwyr.  Roedd yr amod hwn yn ofynol ar y caniatâd cynllunio ac yn un y cytunwyd arno gyda'r ymgeisydd blaenorol.  Argymell  gwrthod y cais fyddai'n gosod cynsail a wnaeth y swyddog.

 

      

 

     Cefnogi safiad y Swyddog Priffyrdd a wnaeth y Rheolwr Rheoli Datblygu ac ategodd fod yr amod ynghlwm i'r tir ac nid i'r person.  Cwestiynnodd y swyddog yr amcangyfrif o £10,000 i ddarparu llwybr troed.  Dylai'r ymgeiswyr fod yn ymwybodol o ofynion y caniatâd cynllunio pan yn prynu'r plotiau.

 

      

 

     Cytunnodd y Cynghorydd J Arthur Jones gyda'r aelod lleol ac anghytunodd gyda chanfyddiad y swyddogion.  Cyfeiriodd y Cynghorydd Jones at Gylchlythyr 35/95 mewn perthynas ag amodau cynllunio a gwelai'r amod yn un afresymol.  

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd John Roberts dywedodd yr Uwch Beiriannydd Priffyrdd nad oedd unrhyw gofnod o ddamweiniau yn y fan hon.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd J Arthur Jones cafwydd cynnig y dylid dileu amod (07), cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Eurfryn Davies.  

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

      

 

     Cytuno dileu amod (07) oddi ar y caniatâd cynllunio gwreiddiol, yn groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, J Arwel Edwards, Glyn Jones, J Arthur Jones, Thomas Jones, Bryan Owen, RL Owen, John Roberts, Hefin Thomas, WJ Williams

 

      

 

     PENDERFYNWYD glynu wrth y penderfyniad blaenorol a dileu amod (07) oddi ar ganiatad cynllunio 48C106G am y rhesymau roddwyd.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

6.8      GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     48C106J  DILEU AMOD (09) SEF "BYDD RAID DARPARU LLWYBR TROED 2m  O LED YN CYRRRAEDD SAFONAU'R AWDURDOD PRIFFYRDD AR HYD FFRYNT Y SAFLE GER LLINELL Y CYRBIN A FFINIAU'R SAFLE CYN PRESWYLIO YN YR ANNEDD' ODDI AR GANIATÂD CYNLLUNIO 48C106D AR BLOT 1 UWCHLAW'R FFYNNON, GWALCHMAI

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Penderfynwyd ymweld â'r safle ar 25 Gorffennaf ac fe gafwyd hyn ar 8 Awst, 2007.

 

      

 

     Cafodd y cais hwn ei ystyried ar y cyd gyda'r cais yn eitem 6.7 uchod.  Ar 5 Medi penderfynwyd caniatáu'r cais, yn groes i argymhelliad y swyddog, gan y teimlai'r aelodau ei fod yn faich afresymol ac yn groes i gyngor Cylchlythyr 35/95 y Swyddfa Gymreig ar Ddefnyddio amodau mewn caniatâd cynllunio.Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu.  

 

      

 

     PENDERFYNWYD glynu wrth y penderfyniad blaenorol a dileu amod (09) oddi ar ganiatâd cynllunio 48C106D am y rhesymau roddwyd uchod.

 

      

 

      

 

7

CAIS ECONOMAIDD

 

      

 

7.1     19LPA814C/CC/ECON  CODI PEDAIR UNED DDIWYDIANNOL NEWYDD AR DIR STAD PENRHOS, CAERGYBI 

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan iddo gael ei gyflwyno ar ran y Cyngor ac yn effeithio ar dir yn ei berchnogaeth.  Mynegodd y Cynghorydd Peter Dunning ei gefnogaeth i'r cais hwn.   

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Eurfryn Davies cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog ac i ganiatáu'r cais a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Hefin Thomas.

 

      

 

     Yn unfrydol PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd gydag amodau y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.  

 

      

 

8     TAI FFORDDIADWY

 

      

 

     Doedd dim ceisiadau am dai fforddiadwy i'w hystyried gan y cyfarfod hwn.  

 

      

 

9

CAIS YN TYNNU'N GROES

 

      

 

9.1     32C109A/TR  CODI ANNEDD AMAETHYDDOL YNGHYD A GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD AR DIR YN PENCALEDOG, CAERGEILIOG

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  

 

      

 

     Cyfeiriodd y Rheolwr Rheoli Datblygu at ddwy annedd oedd ar y daliad yn barod - un o'r rhain yn annedd amaethyddol yr ochr draw i'r ffordd.  Doedd dim cyfiawnhad i ganiatáu annedd amaethyddol ychwanegol.  

 

      

 

     Ar hyn o bryd mae'r teulu ifanc yn byw yn hen dai'r Weinyddiaeth Amddiffyn yn Llanfihangel-yn-nhowyn ac yn awyddus i adeiladu cartref iddynt eu hunain yn y fangre hon meddai'r Cynghorydd Gwilym Jones.  Cwpl ifanc ifanc lleol oedd yr ymgeiswyr oedd yn dyheu i

 

      

 

      

 

     ehangu'r busnes presennol.  Cefnogwyd y cais gan ADAS, ac roedd maint y dyluniad gwreiddiol wedi ei ostwng.  Yn ddiweddar bu lladrata oddi ar ffermydd yn yn yr ardal hon.  

 

      

 

     Nodwyd fod y daliad yn ymestyn i ryw 320 acer o dir mewn ymateb i gwetiwn gan y Cynghorydd Eurfryn Davies.

 

      

 

     A oedd y tir hwn yn addas ac yn rhesymol i'w ddatblygu gofynnodd y Cynghorydd Arthur Jones, hefyd, a oedd y cais mewn gwironedd yn groes i bolisïau, tueddai'r Cynghorydd Jones i gefnogi'r cais.

 

      

 

     Byddai'r Cynghorydd WJ Williams yn cefnogi'r cais hwn a oedd yn darparu cartref i bobl leol a chynigiodd ganiatáu'r cais; cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Arthur Jones a hefyd gan y Cynghorydd RL Owen.

 

      

 

     Mewn busnes fel hyn roedd yn hanfodol byw yn agos at y daliad meddai'r Cynghorydd Thomas  Jones;  roedd y cais yn cwrdd a meini prawf gweithredol ac ariannol dan ofynion TAN 6 ac yn cael ei gefnogi gan ADAS.

 

      

 

     Tra'n cytuno y byddai'n hwyluso gweithgareddau ffermio, nid oedd y cais yn bodloni'r meini prawf gan fod annedd amaethyddol arall yr ochr arall i'r ffordd eisoes ynghlwm i'r daliad meddai'r Rheolwr Rheoli Datblygu.

 

      

 

     Erfyn am gefnogaethyr aelodau  i'r teulu ifanc a wnaeth y Cynghorydd Gwilym Jones.

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

      

 

     Caniatáu'r cais, yn groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, J Arwel Edwards, Glyn Jones, J Arthur Jones, Thomas Jones, Bryan Owen, RL Owen, WJ Williams

 

      

 

     Y rheswm a roddwyd dros ganiatáu oedd fod y cais yn cael ei gefnogi gan ADAS.  Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu y byddai copi o adroddiad ADAS yn cael ei darparu i'r aelodau ei darllen cyn y cyfarfod nesaf.    

 

      

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio'n otomatig i'r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu'r cais.

 

 

 

      

 

10

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

10.1      11C429C/LB  CAIS AM GANIATÂD ADEILAD RHESTREDIG I OSOD TANC LPG A SUSTEM GWRES CANOLOG I GYNNWYS PIBELLAU RHEIDDIADURON, FFLIW A BOELER YN YR HEN LOFFT HWYLIAU, PORTH AMLWCH

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfnynu arno gan ei fod yn effeithio ar dir ym mherchnogaeth y Cyngor.

 

      

 

     Caniatawyd cais i osod tanc LPG yng nghyfarfod blaenorol y Pwyllgor hwn.  

 

      

 

     PENDERFYNWYD rhoddi gwybodaeth i CADW fod yr Awdurdod hwn yn bwriadu caniatáu'r cais.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

10.2      11C458A  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD AR DIR GER PARK TERRACE,

 

     AMLWCH

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan fod yr ymgeisydd yn perthyn i aelod o staff yr Adran Gynllunio.  Gan Mrs Helen Williams cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais hwn.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod llythyr o gefnogaeth gan asiant yr ymgeisydd gerbron y cyfarfod.  Argymhelliad o wrthod oedd yma.  

 

      

 

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais am y rhesymau a roddwyd.  

 

 

 

      

 

10.3      17LPA494K/CC  CAIS I DDIWYGIO AMOD (09) AR GANIATÂD CYNLLUNIO 17LPA494G/CC/ECON I GANIATÁU NEWIDIADAU I'R CYNLLUN AR GYFER DARPARIAETH COMPOSTIO MEWN CYNHWYSYDD A GANIATAWYD DAN GAIS CYNLLUNIO: 17LPA494G/CC/ECON AR DIR SAFLE MEWNLENWI, CORS PENHESGYN, LLANSADWRN

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan iddo gael ei gyflwyno ar ran y Cyngor ac yn effeithio ar dir yn ei berchnogaeth.  

 

      

 

     Caniatawyd cais cynllunio 17LPA494G/CC/ECON ar 8 Mawrth, 2006.  Roedd y cais presennol am ail leoli lagwn a darparu capasiti ychwanegol ar gyfer gwell rheolaeth dwr, ail leoli swyddfa'r safle, y bont bwyso a'r lle golchi olwynion fel eu bod wedi'u leinio'n well hefo mynedfa'r safle a darparu ar gyfer swyddfa fwy; newidiadau i'r bwriadau tirlunio yn dilyn newidiadau i ddyluniad y safle a baterau ychwanegol a thirlunio ger yr ardal aeddfedu; newidiadau i'r prif gyfleuster yn cynnwys darparu canopi glaw a ramp yng nghefn y twneli i ganiatáu gwell rheolaeth o ddwr; lleihau hyd y twneli a darparu un twnel ychwanegol (bydd capasiti cyffredinol yn parhau fel yr un a gymeradwywyd) newidiadau gweithredol i drefniadau'r biofilter, darparu waliau cadw 3m, darparu tanc trwytholchi ac ardal storio tanwydd; darparu llwybr cerdded o amgylch y safle i bwrpas mynediad.  

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Eurfryn Davies cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad o ganiatáu, cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Arthur Jones.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog ac i ganiatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd, gydag amodau y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.  

 

      

 

      

 

10.4      23C156C  NEWID DEFNYDD YR ADEILAD ALLANOL I DDWY UNED BRESWYL YN  TYN PWLL, LLANDDYFNAN

 

      

 

Gan y Cynghorydd Hefin W Thomas cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r pleidleisio.  Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan mai'r Deilydd Portffolio dros Gynllunio yw un o'r ymgeiswyr.  

 

      

 

     Gan y Cynghorydd WJ Williams cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad o ganiatáu, cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd John Roberts.

 

      

 

     I bwrpas cofnod ac mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Glyn Jones, cadarnhaodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod y cais hwn wedi ei gyflwyno gan y Cynghorydd a Mrs Thomas.  Er mwyn bod yn agored a thryloyw cafwyd cynnig i ymweld a'r safle gan y Cynghorydd Glyn Jones a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd RL Owen.  

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

      

 

     I ymweld a'r safle:  Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, Glyn Jones, Thomas Jones, Bryan Owen, RL Owen

 

      

 

     Yn erbyn ymweliad safle: Y Cynghorwyr J Arwel Edwards, J Arthur Jones, John Roberts, J Arwel Roberts, WJ Williams

 

      

 

     Roedd y bleidlais yn bump yr un ac wrth i'r Cadeirydd ddefnyddio'i bleidlais fwrw fe benderfynwyd peidio ymweld a'r safle hon.  

 

 

 

     Cafwyd ail bleidlais:

 

      

 

     Derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais:   Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, J Arwel Edwards, J Arthur Jones, John Roberts, J Arwel Roberts, WJ Williams

 

      

 

     Ymatal:  Y Cynghorwyr Glyn Jones, Bryan Owen

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog â chaniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd, gydag amodau y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.  

 

      

 

10.5      30C412C  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD YNGHYD A CHREU MYNEDFA NEWYDD A GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD AR DIR I'R DE DDWYRAIN O YSGUBOR WEN, LLANFAIR-MATHAFARN-EITHAF

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  

 

      

 

     I bwrpas cofnod, dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu y dylai'r cais hwn fod wedi ymddangos ar y rhaglen fel un oedd yn tynnu'n groes i bolisiau.  Yn ychwanegol i'r llythyrau o wrthwynebiad derbyniwyd llythyr a deiseb o gefnogaeth i'r cais hwn meddai'r swyddog.  Roedd yma argymhelliad cryf o wrthod a chyfeiriodd y swyddog at gais arall a wrthodwyd ar y safle hon yn ddiweddar.  

 

      

 

     Atgoffa'r aelodau a wnaeth y Cynghorydd D Lewis-Roberts mai dymuniad cychwynol yr aelodau oedd un o ganiatáu'r cais ond penderfynwyd ei wrthod yn y cyfarfod dilynol.  Rhodd oedd y tir gan rieni'r ymgeiswyr a buasai caniatáu'r cais yn galluogi'r bumed genhedlaeth o'r un teulu fyw yma.  Doedd gwraig yr ymgeisydd ddim wedi bod yn dda yn ddiweddar; er nad oedd y cais wedi ei gyflwyno ar sail iechyd, roeddynt wedi gwerthu'i cartref ac yn byw mewn carafan.  Nododd y Cynghorydd D Lewis-Roberts fod Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig yn gwrthwynebu'r cais, fodd bynnag roedd mwyafrif o'r gwrthwynebwyr yn byw beth bellter o'r safle.  Trwy ddarparu man pasio sylweddol cynigwyd gwelliant i'r ffordd gan yr ymgeiswyr, roeddynt hefyd yn fodlon arwyddo Cytundeb dan Adran 106 i beidio a datblygu'r tir ymhellach.  Cymharodd y Cynhghorydd D Lewis Roberts y cais hwn gyda un arall a ganiatawyd ym Maenaddwyn a gofynnodd am gefnogaeth gan yr aelodau.  

 

      

 

     Cafwyd cynnig i ymweld a'r safle gan y Cynghorydd Glyn Jones yng ngwyneb datganiad yr aelod lleol "i sicrhau fod y polisiau'n cael eu gosod yn gywir"; am resymau priffyrdd cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Arthur Jones.

 

      

 

     Yn unfrydol PENDERFYNWYD ymweld â'r safle.  

 

      

 

10.6      30C598A  CYNLLUNIAU MANWL I GODI DWY ANNEDD YNGHYD A CHREU MYNEDFA NEWYDD AR DIR GER HENDRE & GORWEL, LÔN PANT Y CUDYN, BENLLECH

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  

 

      

 

     Adroddwyd fod caniatâd cynllunio amlinellol wedi ei roddi ar 2 Tachwedd, 2005 ac mai cais oedd hwn i ystyried materion oedd wedi eu cadw'n ôl am ddwy annedd deulawr.

 

      

 

     Roedd y cynlluniau diwygiedig yn dangos gwellhad i'r gwelededd o'r fynedfa, roedd hyn yn fwy derbyniol meddai'r Rheolwr Rheoli Datblygu; byddai ymgynghoriad yn parhau ar y cynlluniau hyd at 23 Hydref, felly argymhelliad o roddi awdurdod i ganiatáu'r cais ar ddiwedd y cyfnod hwn oedd gan y swyddog; doedd gan y cyngor cymuned lleol ddim gwrthwynebiad.  

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghoryd D Lewis-Roberts am ymweliad i gael cyfle i asesu effaith uchder y bwriad; cafodd hyn ei gynnig gan y Cynghorydd RL Owen a'i eilio gan y Cynghorydd Glyn Jones.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog â rhoddi awdurdod i Bennaeth y Gwasanaethau Cynllunio ganiatáu'r cais ar derfyn y cyfnod ymgynghori am y rhesymau a roddwyd, gydag amodau y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.  

 

      

 

10.7      31C354  CAIS LLAWN I GODI DWY ANNEDD YNGHYD AG ADDASU'R FYNEDFA BRESENNOL YN TY COCH, LLANFAIRPWLL

 

      

 

     Gan Mr Richard Eames o'r Adran Briffyrdd cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r pleidleisio.  Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl  dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Argymhelliad o wrthod oedd yma meddai'r Rheolwr Rheoli Datblygu am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad gan gynnwys mynedfa is-safonol.  Fe nodwyd fod Asiantaeth yr Amgylchedd yn adnabod y safle fel un wedi ei leoli o fewn Parth C2  gorlifdir a'r ymgeiswyr yn herio'r gosodiad hwn, doedd ymateb Asiantaeth yr Amgylchedd i hyn ddim wedi ei dderbyn.  Roedd yr ymgeisydd yn gofyn am ohirio i ddatrys materion gorlif a gofynnodd am ymweliad â'r safle i asesu'r fynedfa.

 

        

 

     Gan y Cynghorydd John Roberts cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad o wrthod, cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd RL Owen.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog â gwrthod y cais am y rhesymau a roddwyd.  

 

      

 

10.8       31C357  DYMCHWEL YR ANNEDD PRESENNOL YNGHYD A CHODI ANNEDD NEWYDD, GOSOD TANC SEPTIG A CHREU MYNEDFA I GEIR YN SIGLAN BACH, LÔN DYFNIA, LLANFAIRPWLL

 

      

 

     Gan Mr Richard Eames o'r Adran Briffyrdd cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r pleidleisio.  Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl  dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Fe nodwyd fod y cais hwn wedi ei dynnu'n ôl.  

 

      

 

10.9      31C358  ADDASU AC EHANGU BRYN AETHWY, FFORDD CAERGYBI, LLANFAIRPWLL

 

      

 

     Gan Mri JRW Owen a Richard Eames o'r Adran Briffyrdd cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r pleidleisio.  Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl  dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd John Roberts cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad o ganiatáu, cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Arthur Jones.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog â chaniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd, gydag amodau y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.  

 

      

 

10.10      34LPA885/CC   DYMCHWEL Y SWYDDFEYDD DROS DRO, CREU MAES PARCIO NEWYDD YNGHYD AG AILOSOD TALCEN Y WAL YN NEUADD Y SIR, FFORDD GLANHWFA, LLANGEFNI

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan iddo gael ei gyflwyno gan y Cyngor ac yn effeithio ar dir yn ei berchnogaeth.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog â chaniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd, gydag amodau y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.  

 

      

 

10.11      46C135J  DIWYGIO CYTUNDEB ADRAN 106 - DIM DATBLYGIAD PELLACH AR DIR YNG NGHEFN GOGLEDDOL Y PROMENÂD, BAE TREARDDUR

 

      

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan iddo gael ei gyflwyno gan y Cyngor ac yn effeithio ar dir yn ei berchnogaeth.  Fe nodwyd y dylai'r penawd uchod ddarllen "diwygio" yn hytrach na "dileu" Cytundeb Amod 106.  

 

      

 

     Cytunwyd i ystyried y cais hwn ar y cyd gyda'r cais yn eitem 10.12 isod o'r cofnodion hyn.  

 

      

 

10.12      46C448B/EIA  CAIS LLAWN AR GYFER GWELLIANNAU ARFORDIROL YNGHYD A CHREU MAN PARCIO YM MAE TREARDDUR

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan iddo gael ei gyflwyno gan y Cyngor ac yn effeithio ar dir yn rhannol yn ei berchnogaeth.

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd Peter Dunning am i wyneb y maes parcio arfaethedig fod o ddefnydd "grasscrete" yn hytrach na tharmac.

 

      

 

     Cytuno roedd y Cynghorydd Hefin Thomas a'r egwyddor o wella amddiffynfeydd mor, ond roedd yn cwestiynnu a oedd y cynnig hwn yn ddigonol.  Roedd cyfarwyddyd mwyaf diweddar gan DEFRA yn ystyried y newidiadau diweddar yn yr hinsawdd a lefelau'r mor yn codi - nid oedd y cynnig presennol yn cymryd hynny i ystyriaeth.  Roedd y Cynghorydd Hefin Thomas yn gofyn am i uchder y wal fôr arfaethedig gael ei chynyddu o 3.7m i 3.8m er mwyn cymryd i ystyriaeth ganlyniadau llifogydd o 1:200 mlynedd er mwyn darparu gwell amddiffyniad.  Cynigiodd y Cynghorydd Hefin Thomas y dylid ymweld â'r safle fel y gallai'r aelodau asesu'r sefyllfa drostynt eu hunain, ac fe eiliwyd hyn gan y Cynghorydd John Roberts.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod y cynllun wedi ei ddylunio er mwyn sicrhau'r amddiffynfeydd mor presennol ac i wella'r ffordd o gyfeirio'r dwr oedd yn dod dros yr amddiffynfeydd, a hynny yn unol â Strategaeth "Dal y Lein" geir yn y Cynllun Rheoli'r Arfordir.  Cyfeiriodd y swyddog at lythyr gan B Killingworth oedd gerbron y Pwyllgor.  Y cynnig oedd diwygio'r Cytundeb Adran 106 yn hytrach na'i ddileu er mwyn caniatáu i'r gwaith gael ei wneud.

 

      

 

     Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth Priffyrdd a Thrafnidiaeth fod y cais yn un oedd yn cael ei gefnogi'n llawn gan swyddogion - prif fwriad y cynllun oedd cryfhau'r amddiffynfeydd mor ac amddiffyn Bae Trearddur rhag y mor.  Byddai cynnydd mawr yn lefel y mor yn golygu gallai ambell ran o Fae Trearddur fod mewn perygl o ddioddef llifogydd o'r mor mewnol.  Roedd y cynllun wedi ei ddylunio i gymryd digwyddiad llifogydd 1:100 mlynedd; gallai codi lefel y wal amddiffyn rhag y mor ryw 100mm yn uwch fod yn broblem ac fe allai'r cyllid gael ei golli.  

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Arthur Jones nad oedd wedi ei ddarbwyllo  gan yr wybodaeth a roddwyd ac roedd yn teimlo y dylai'r asesiad o'r cynllun fod wedi ei seilio ar ganlyniad 1:200 mlynedd yn hytrach na 1:100 mlynedd.  Doedd y gwahaniaeth ond rhyw 100mm neu 4".  Dyfynnodd y Cynghorydd Jones ffigyrau yn ymwneud a digwyddiad o lifogydd rodddwyd gan Asiantaeth yr Amgylchedd mewn amrywiol fannau ar hyd yr arfordir.

 

      

 

     Roedd y cyfreithiwr am atgoffa'r aelodau nad oedd gan y Cyngor rol yn y mater hwn.  Roedd y Pwyllgor yn penderfynu ar y cais fel yr oedd yn sefyll yn hytrach nag ystyried y prosiect fel yr oeddynt hwy yn dymuno iddo fod.

 

      

 

     Pwysleisiodd y Cynghorydd Peter Dunning bwysigrwydd diogelu'r isadeiledd presennol i gymuned a phentref Bae Trearddur.  Cafodd gwaith atgyweirio tros dro ei wneud ar unwaith y gaeaf diwethaf a dywedodd y byddai'n ddifrifol iawn pebai'r cynllun yn cael ei oedi.  Ymhellach i hyn, fe ellid colli cyllid os byddai oedi.  Roedd Asiantaeth yr Amgylchedd wedi asesu'r cynllun yn seiliedig ar y wybodaeth sydd ar gael ar hyn o bryd.  Byddai gwelliannau eraill yn yr ardal hefyd yn cael eu croesawu, ac roedd y Cynghorydd Dunning am annog yr aelodau i gefnogi'r cais.

 

      

 

     Atgoffodd y Pennaeth Gwasanaeth, Priffyrdd a Thrafnidiaeth yr aelodau fod LCC wedi cynnig ariannu'r gwaith ar sail canlyniad llifogydd o 1:100 mlynedd;  roedd posibilrwydd o golli'r arian hwn petai unrhyw oedi.  Derbyniwyd tendrau i gario allan y gwaith eisoes

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Glyn Jones cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais hwn yn ogystal a'r cais yn 10.11 o'r cofnodion hyn, cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorwyr RL Owen ag Eurfryn Davies.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Arthur Jones cafwydd cynnig i ganiatáu'r cais gydag amod ychwanegol yn gofyn i Lywodraeth Cynulliad Cymru godi lefel y morglawdd amddiffyn yn unol a chanlyniadau llifogydd 1:200 mlynedd.  

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

      

 

     Caniatáu'r cais, gyda gwelliant gan y Cynghorydd Arthur Jones:  Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, J Arwel Edwards, J Arthur Jones, John Roberts, Hefin Thomas, WJ Williams

 

      

 

     Derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais yn unol a'r adroddiad hwn:  Y Cynghorwyr Glyn Jones, Thomas Jones, Bryan Owen, RL Owen

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais  am y rhesymau a roddwyd gydag amod ychwanegol yn gofyn i Lywodraeth Cynulliad Cymru godi uchder y morglawdd amddifyn yn unol a chanlyniadau llifogydd 1:200 mlynedd.

 

      

 

      

 

11     CEISIADAU A DDIRPRWYWYD

 

      

 

     Cyflwynwyd a derbyniwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Cynllunio ar faterion a ddirprwywyd ac y gwnaethpwyd penderfyniad arnynt ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor hwn.  

 

      

 

     Cytunodd y Rheolwr Rheoli Datblygu ofyn i swyddogion achos perthnasol gysylltu â'r Cynghorydd  Hefin Thomas ar geisiadau rhif 33 (23C248B  Rhuddlan Fawr, Brynteg); 55 (33C152B Ty Capel Pensarn, Pentre Berw) 69 (39C115E  9 Ffordd y Ffair, Porthaethwy)

 

      

 

      

 

12     MATERION ERAILL

 

      

 

     Nodwyd y byddai'r ceisiadau a ganlyn yn cael eu cyfeirio i Lywodraeth Cynulliad Cymru benderfynu arnynt yn unol â Rheol 13 Deddf Cynllunio 1990 (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth)

 

      

 

12.1      11LPA101X/LB/CC YSGOL SYR THOMAS JONES, AMLWCH

 

      

 

     Caniatâd Adeilad Rhestredig i osod nenfwd crog mewn ystafell staff newydd/TG.  

 

      

 

12.2      34LPA885A/LB/CC  NEUADD Y SIR, LLANGEFNI

 

      

 

     Caniatâd Adeilad Rhestredig i ddymchwel swyddfeydd dros dro a chreu maes parcio wedi'i dirlunio ac ailosod wal talcen.

 

      

 

12.3 MA     TER GYFEIRIWYD YN ÔL

 

      

 

     24C165 CADW GWAITH SYDD WEDI EI GWBLHAU AC YN CYNNWYS CODI ADEILAD ALLANOL A SIED AMAETHYDDOL YNGHYD A CHADW DEUNYDD 'INERT' SYDD WEDI EI WASGARU ER MWYN SEFYDLOGI'R CWRTIL YN TREMARFOR, LLANEILIAN

 

      

 

     Adroddodd y Pennaeth Rheoli Datblygu i'r cais hwn gael ei ganiatáu'n wreiddiol ar 7 Tachwedd, 1997 gydag amod fod cynlluniau cywir a'r drychiad yn cael eu cyflwyno; cyflwynwyd y manylion yn 2003.    Ni weithredwyd ar y caniatâd cynllunio hyd at fis Fehefin, 2006 pan gyflwynwyd cais i godi tyrbin gwynt - gwrthodwyd y cais hwn ar 4 Hydref, 2006 ond derbyniodd ganiatád yn ddiweddarach trwy apel.  

 

      

 

     Nodwyd i'r cais gael ei gyflwyno i'r Pwyllgor i sicrhau fod ystyriaeth briodol a haeddiannol yn caei ei roi iddo cyn rhyddhau'r caniatâd cynllunio.  

 

      

 

     PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad a chymeradwyo rhyddhau'r caniatâd cynllunio.  

 

      

 

13     APÊL

 

      

 

     13.1     BRYNIAU BACH, HEN LANDEGFAN

 

      

 

     Cyflwynwyd a nodwyd, er gwybodaeth, gopi o grynodeb o benderfyniad yr Arolygwr Cynllunio ar apêl dan Adran 78 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 yn erbyn penderfyniad yr Awdurdod hwn i wrthod caniatâd cynllunio i ddymchwel annedd a chodi annedd newydd yn ei lle dan gais cynllunio 17C322B - gwrthodwyd yr apêl.  

 

      

 

14      AROLWG O FODDHAD CWSMERIAID GYDA'R GWASANAETH CYNLLUNIO 2007

 

      

 

     Cyflwynwyd a nodwyd copi o gynllun gweithredu mewn ymateb i'r uchod.  

 

      

 

15      ADRODDIAD MONITRO CHWE MISOL AR NIFER Y CEISIADAU A GANIATAWYD YN GROES I BOLISI

 

      

 

Cyflwynwyd a derbyniwyd adroddiad yn dangos nifer y ceisiadau a oedd yn groes i bolisiau aca ganiatawyd yn ystod y pedwar cyfnod diwethaf o chwe mis yr un.  

 

      

 

     Dechreuodd y cyfarfod am 1.00 p.m. a daeth i ben am 3.20 p.m.

 

      

 

      

 

     Y CYNGHORYDD J ARWEL ROBERTS

 

     CADEIRYDD