Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion dogfennau , 3 Tachwedd 2004

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Dydd Mercher, 3ydd Tachwedd, 2004

PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION

 

Cofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 3 Tachwedd 2004

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd R.L. Owen, Cadeirydd

Y Cynghorydd J. Arthur Jones, Is-Gadeirydd

 

Y Cynghorwyr John Byast, Eurfryn Davies, Peter Dunning,

J. Arwel Edwards, P.M. Fowlie, Denis Hadley, A. Morris Jones,

O. Glyn Jones, Thomas Jones, D. Lewis-Roberts, John Roberts,

J. Arwel Roberts, W.T. Roberts, John Rowlands.

 

 

 

WRTH LAW:

 

Cynllunio:

Pennaeth Gwasanaethau Cynllunio (JW)

Pennaeth Rheoli Datblygu (EGJ)
Rheolwr Rheoli Cynllunio (DFJ)
Arweinydd Tîm (NJ)

 

Priffyrdd:

Uwch Beiriannydd (Rheoli Datblygu a Hawliau Tramwy Cyhoeddus) (JRWO)

Swyddog Rheoli Datblygu (RE)

 

Cyfreithiwr (RWJ)

Cynorthwywr Gweinyddol (CWP)

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Y Cynghorwyr R.Ll. Hughes, Keith Thomas.

 

 

 

HEFYD YN BRESENNOL:

 

Aelodau Lleol:  Y Cynghorwyr W.I. Hughes (eitemau 4.3, 4.4, 4.14), G.O. Parry MBE (eitem 4.16), R.G. Parry OBE (eitemau 6.2, 6.3), Peter Rogers (eitem 6.1), E. Schofield (eitem 4.11), H.W. Thomas (eitemau 4.6, 4.7), W.J. Williams (eitem 4.8).

 

Rhoes y Cadeirydd groeso i bawb i'r cyfarfod gan longyfarch y Cynghorwyr D. Lewis Roberts a Peter Rogers ar ddod yn deidiau.

 

Ymddiheurodd y Pennaeth Rheoli Datblygu i'r Aelodau am yr adroddiadau hwyr a hynny oherwydd system gyfrifiadurol newydd a gafwyd yn ddiweddar.

 

1

DATGAN DIDDORDEB

 

Cafwyd datganiadau o ddiddordeb gan Aelodau a Swyddogion fel y cawsant eu cofnodi dan yr eitemau perthnasol.

 

2

COFNODION

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd cofnodion y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gyfarfu ar 6 Hydref 2004. (tudalen 47 - 64 o’r Gyfrol hon)

 

3

YMWELIADAU Â SAFLEOEDD

 

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd yr adroddiad ar Ymweliadau â Safleoedd Cynllunio a gafwyd ar 20 Hydref, 2004.  

 

 

 

4

CEISIADAU'N CODI O'R COFNODION

 

 

 

4.1

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

11C122B/EIA - DARPARU GWAITH CARTHFFOSIAETH A GWAITH TIRLUNIO CYSYLLTIEDIG AR RAN O SAFLE TANC STORIO OLEW SHELL GYNT A SAFLE'R GREAT LAKES, AMLWCH

 

 

 

Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod swyddogion yn dal i fod mewn trafodaethau yng nghyswllt y cais ac argymhellodd y dylid gohirio ei ystyried.  Nodwyd bod yr ymgeiswyr yn edrych ar safleoedd eraill ac yn ystyried posibiliadau eraill.  

 

 

 

Am y rheswm a roddwyd gan y swyddog PENDERFYNWYD gohirio'r cais hwn.

 

 

 

4.2

CAIS YN TYNNU'N GROES I'R POLISIAU

 

 

 

14C190 - CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD YNGHYD Â GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD AR DIR MAES LLAN FAWR, TYN LON, CAERGYBI

 

 

 

Gwnaeth Mrs Ella C Jones o'r Adran Gyllid ddatganiad o ddiddordeb yn y cais a chafwyd datganiad o ddiddordeb anuniongyrchol gan Mrs Cath Wynne-Pari.

 

 

 

Yr aelod lleol ofynnodd am drosglwyddo'r cais i'r Pwyllgor benderfynu arno.

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y cais bellach wedi'i dynnu'n ôl.

 

 

 

CYTUNWYD i nodi'r uchod.

 

 

 

4.3

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

14C92B TROI SWYDDFEYDD YN SIOP TRIN GWALLT A PHARLWR PRYDFERTHU (h.y. DOSBARTH A1) YN YSTAFELLOEDD 1 AC 18 PARC CEFNI, BODFFORDD

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd J. Arthur Jones ddatganiad o ddiddordeb yn y cais ac nid oedd yn bresennol yn ystod y drafodaeth.

 

 

 

Trosglwddwyd y cais hwn i'r Pwyllgor am benderfyniad oherwydd iddo gael ei gyflwyno gan aelod etholedig.  Yn y cyfarfod cynt gohiriwyd ystyried y cais oherwydd bod yr adroddiad yn ddiffygiol a hynny am ei fod yn anghyflawn.  Ychwanegodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod yr adroddiad gerbron yn un llawn a chynhwysfawr.  

 

 

 

Aeth y Rheolwr Rheoli Cynllunio ymlaen i ddisgrifio'r cynnig i newid defnydd o'r ddwy uned a chreu siop trin gwallt a pharlwr prydferthu gyda chyfleusterau parcio yn ffrynt yr adeiladau sy'n rhan o glwstwr o hen adeiladau diwydiannol, ar safle union ger y B5109 rhwng Bodffordd a Llangefni.  Roedd y cais yn rhan o gynllun mwy i ddatblygu safle llwyd a dygodd y swyddog sylw'r aelodau at hanes cynllunio'r safle.

 

 

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio at bolisiau a ystyriwyd wrth bennu argymhelliad y swyddog i'r Pwyllgor, ac yn arbennig Bolisi 7 (adeiladau gwledig) Cynllun Lleol Ynys Môn a Pholisi E3 Cynllun Fframwaith Gwynedd.  Nododd y swyddog bod y cynnig gerbron yn herio'r polisiau ar siopau.  Cafwyd sylwadau gan y cyrff yr ymgynghorwyd â nhw yn statudol ond ni chafwyd yr un gwrthwynebiad.  Ar ôl pwyso a mesur doedd yr Adran Briffyrdd ddim yn gwrthwynebu'r cynnig oherwydd yr hen ddefnydd diwydiannol a wnaed o'r safle.  Ar ôl pwyso a mesur popeth roedd y swyddog yn argymell caniatáu'r cais gan mai bwriad i ailddefnyddio'r tir oedd yma, ond yn amodol ar ddileu amod (01) yn adroddiad y swyddog am nad oedd hwnnw yn berthnasol i'r achos gerbron.

 

 

 

Roedd y Cynghorydd D Lewis Roberts yn amau perthnasedd a'r rhesymu y tu cefn i amod "(02) defnyddir yr adeilad ar gyfer siop trin gwallt a pharlwr prydferthwch ac nid ar gyfer unrhyw un o'r dibenion a nodir yn Nosbarth A1 yr Atodlen i Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Dosbarthiadau Defnydd) 1987" gan dybio bod angen gadael i rym y farchnad benderfynu pa ddefnydd yn union a wneir o bob uned.  Ond ychwanegodd y swyddog mai cais oedd hwn i siop trin gwallt a buasai defnyddiau siopio eraill yn amhriodol.

 

 

 

Wrth annerch y cyfarfod dywedodd y Cynghorydd W.I. Hughes, yr aelod lleol, ei fod yn cytuno gyda datganiad y Cynghorydd Lewis Roberts ac yn pryderu oherwydd yr argymhelliad i orfodi amod mor benodol a chaethiwus.  Teimlai'r Cynghorydd W.I. Hughes y buasai'n briodol newid yr amod i "Dosbarth A1 - siop" gan ychwanegu fod cais wedi derbyn caniatâd, rai misoedd ynghynt, i agor siop trin gwallt yn y cefn gwlad agored heb fod ymhell o'r safle hwn.

 

 

 

Yn ei ymateb dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth Cynllunio bod y cais wedi'i asesu'n fanwl a chredwyd ei fod yn herio y polisiau ar siopau, ond teimlai'r swyddogion y gallent, trwy gyflwyno amod (02) uchod, ddiogelu bywoliaeth siopau yn y dref a'r pentref cyfagos ac roedd y datblygiad yn rhan o ddatblygiad mwy.  

 

 

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Arwel Roberts darllennodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio ddiffiniad o Ddosbarth A1.

 

 

 

Yma rhoes y cyfreithiwr gyngor i'r Pwyllgor bod yr argymhelliad, yn ei dyb ef, yn anghywir.  Roedd yr Aelodau wedi taro ar feysydd a achosai bryderon a swyddogion wedi derbyn bod y cynnig yn herio polisiau ar siopau.  Wrth ddweud bod y cynnig yn cydymffurfio gyda polisiau cyflogaeth roedd hynny yn codi sgwarnog, gan fod pob cynnig i bwrpas busnes yn creu rhywfaint o swyddi.  Dan y polisi roedd yn rhaid i siopau fod yng nghanol tref neu ar ei chyrion ac yna mewn pentrefi ond doedd safle'r cais hwn ddim y tu mewn i ffiniau unrhyw bentref na thref.  Pwrpas cyflwyno amod (02) oedd cyfyngu ar ddefnydd siopau amhriodol eraill, ond beth oedd y defnyddiau a pham fod y rheini yn amhriodol tra oedd trin gwallt yn briodol?  Holl bwrpas dosbarth A1 oedd caniatáu newidiadau y tu mewn i'r Dosbarth heb orfod rhoddi caniatâd penodol gan fod canlyniadau defnydd tir pob defnydd yn debyg iawn.

 

 

 

Cafwyd cynnig i ganiatáu gan y Cynghorydd D Lewis Roberts yn amodol ar ddileu amod (02) yn adroddiad y swyddog.

 

 

 

O 10 pleidlais i 3 PENDERFYNWYD caniatáu'r cais heb amodau (01) ac (02) yn adroddiad y swyddog.

 

 

 

4.4

CAIS ECONOMAIDD

 

 

 

14C92D - NEWID DEFNYDD DEPO DWR CYMRU ER MWYN LLEOLI 22 O UNEDAU GWYLIAU, CODI TY BWYTA NEWYDD, TROI SWYDDFEYDD YN FEITHRINFA, CYFLEUSTERAU HAMDDEN, CAFFI A CHANOLFAN CHWARAE I BLANT YNGHYD Â GOSOD GWAITH TRIN CARTHFFOSIAETH PREIFAT YM MHARC CEFNI, BODFFORDD

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd J. Arthur Jones ddatganiad o ddiddordeb yn y cais ac nid oedd yn bresennol yn ystod y drafodaeth.

 

 

 

Trosglwddwyd y cais hwn i'r Pwyllgor am benderfyniad oherwydd iddo gael ei gyflwyno gan aelod etholedig.  Yn y cyfarfod cynt gohiriwyd ystyried y cais oherwydd bod yr adroddiad yn ddiffygiol a hynny am ei fod yn anghyflawn.  Ychwanegodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod yr adroddiad gerbron yn un llawn a chynhwysfawr.

 

 

 

Gan y Rheolwr Rheoli Datblygu cafwyd disgrifiad o'r cynnig hwn i newid y defnydd o'r safle i bwrpas gosod 22 o sialetau gwyliau arno a gwneud gwaith cysylltiedig ym mhen pellaf dwyreiniol y lle, ac addasu hen swyddfeydd yr Awdurdod Dwr yn nifer o ddefnyddiau gan

 

 

 

gynnwys siop trin gwallt a pharlwr prydferthu, cyfleusterau hamdden yn cynnwys gymnasiwm, sauna, jacuzzi a chyfleusterau cysylltiedig.  Wedyn dygodd y swyddog sylw'r Aelodau at bolisiau perthnasol a ystyriwyd ac at hanes cynllunio'r safle fel y manylwyd ar y materion hyn yn adroddiad y swyddog.  Cafwyd sylwadau gan gyrff yr ymgynghorwyd â nhw yn statudol ond ni chafwyd yr un gwrthwynebiad i'r cynnig ond bod y Cyngor Cymuned yn gofyn am ragor o wybodaeth ynghylch hawliau preswylio.  Roedd yr egwyddor o ddatblygu tir oedd eisoes wedi'i ddatblygu yn dderbyniol.  Credai'r Adain Briffyrdd y buasai'r traffig o'r cynnig hwn yn llai peryglus na'r defnydd y mae caniatâd iddo'n barod ar y safle, i draffig trwm.  Ni fuasai'n creu traffig.

 

 

 

Ychwanegodd y swyddog fod polisïau'r Cynllun Datblygu yn cefnogi ac yn cynnig anogaeth i ddatblygu lletyau gwyliau a datblygiadau twristaidd eraill.  Union ger y safle mae Llyn Cefni a rhwydwaith o lwybrau sydd, fe dybir, yn gyd-destun delfrydol i ddatblygiad o safon uchel ac i'r bwriad i ailddatblygu'r safle llwyd hwn.  Hefyd mae'r cynnig yn cydymffurfio gyda'r polisïau presennol.  Cafwyd argymhelliad o ganiatáu gan y swyddog yn unol â'r adroddiad ond yn amodol ar ddileu amod "(07) bydd y llety gwyliau a chyfleusterau cysylltiedig a ganiateir trwy hyn yn cael eu cynnal yn un rhwydwaith ac ni chânt eu gwerthu yn unedau ar wahân ar unrhyw adeg", a diwygio y Cytundeb arfaethedig gan Adran 106 i sicrhau y bydd y datblygiad yn cael ei reoli fel uned sengl.

 

 

 

Nid oedd y Cynghorydd W I Hughes, yr aelod lleol, yn cytuno i orfodi Cytundeb dan Adran 106.  Beth oedd ystyr cytundeb o'r fath?

 

 

 

Gofynnodd y Cynghorydd Thomas Jones a oedd polisi penodol i reoli datblygiadau o'r fath.  Wedyn dywedodd y Cynghorydd Glyn Jones efallai y buasai'r ymgeisydd yn dymuno prydlesu rhan o'r ganolfan rywbryd yn y dyfodol.

 

 

 

Dywedodd y cyfreithiwr bod yr un pryderon ganddo o hyd â'r rheini a fynegwyd yng nghofnodion y cyfarfod blaenorol ynghylch y cais hwn.  Yng nghyswllt y Cytundeb dan Adran 106 ei ddealltwriaeth ef o resymeg y cytundeb oedd cadw'r holl unedau y tu mewn i berchenogaeth sengl.  Roedd yma grwp o ddefnyddiau gwahanol ac efallai bod modd cyflawni pwrpas cynllunio trwy gadw'r eiddo yn berchenogaeth i un ac felly beidio â gwahanu'r uned.  Ond ni fedrai ddeall yr hyn oedd yn cael ei gynnig yn awr.  Y rhain oedd y cwestiynau yr oedd yn rhesymol i'r Pwyllgor ofyn i'r swyddogion cynllunio ymateb iddynt:  beth oedd ystyr cytundeb i gadw'r safle fel "un uned" os nad oedd hynny'n digwydd dan un berchenogaeth a beth oedd y rheswm cynllunio i gytundeb o'r fath?

 

 

 

Gan y Cynghorydd Arwel Roberts cafwyd cynnig i ganiatáu'r cais heb amod 106 oherwydd bod hwnnw yn mynd i fod yn ormod o gaethiwed i'r cais economaidd hwn.

 

 

 

Ond ar ôl pwyso a mesur popeth dywedodd Pennaeth y Gwasanaeth Cynllunio bod y cynllun hwn yn un pwysig ac arloesol ac roedd y polisïau perthnasol wedi'u hystyried wrth bennu argymhelliad y swyddog i ddatblygu'r safle llwyd hwn.  Buasai'r cais yn hyrwyddo'r economi leol.  Fodd bynnag, teimlai'r swyddog bod raid ceisio rheoli dull rheoli'r safle yn y dyfodol trwy fynnu ar gytundeb rheoli.  

 

Cynigiodd y Cynghorydd D Lewis Roberts roddi caniatâd i'r cais heb gytundeb dan amod 106 a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd W T Roberts.

 

 

 

Yma dywedodd y Cynghorydd Eurfryn Davies bod yr ymgeisydd wedi dangos yn barod ei fod yn fodlon gwneud Cytundeb dan Adran 106 a chynigiodd roddi caniatâd i'r cais gyda Chytundeb o'r fath.

 

 

 

Gan y Cynghorydd John Roberts cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad ac argymhellion y swyddog a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Arwel Edwards.

 

 

 

O 7 bleidlais i 5 PENDERFYNWYD caniatáu'r cais yn unol ag adroddiad ac amodau'r swyddog ond gyda chytundeb dan Adran 106.

 

      

 

     Oherwydd iddo gyrraedd yn hwyr ar adeg pan oedd cryn drafod wedi bod ar y cais ni phleidleisiodd y Cynghorydd P M Fowlie arno.

 

      

 

4.5

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     19C291A - CAIS AMLINELLOL I DDYMCHWEL TY TAFARN, CODI 12 ANNEDD DWY YSTAFELL WELY YR UN YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU YN Y DDRAIG COCH, LLAIN-GOCH

 

      

 

     Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod yma faterion heb eu setlo ac argymhellodd ohirio ystyried y cais.

 

      

 

     Am y rheswm a roddwyd gan y swyddog PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais hwn.

 

      

 

4.6

CAIS YN TYNNU'N GROES I'R POLISI

 

      

 

     22C165 - CODI ANNEDD, DARPARU OFFER PREIFAT I DRIN CARTHION AC ALTRO'R FYNEDFA AR DIR GER PENTRE LLWYN, LLANDDONA

 

      

 

     Trosglwyddwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno ar gais yr Aelod Lleol ac ef hefyd ofynnodd am ymweld â'r safle ar 20 Hydref 2004.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y cyrff yr ymgynghorwyd â nhw yn statudol wedi cyflwyno sylwadau, ac roedd yr Adran Briffyrdd yn gwrthwynebu'r cynnig.  Yma cyfeiriodd y swyddog at bolisiau perthnasol a ystyriwyd fel y manylwyd arnynt yn adroddiad y swyddog, a'r Polisïau mwyaf perthnasol oedd rhai 30 (tirwedd) a 53 (tai yn y cefn gwlad) Cynllun Lleol Ynys Môn ac Adran 54 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.  Roedd yr egwyddor o ddatblygu yn groes i bolisïau tai'r Cyngor, gan fod y safle mewn Ardal o Brydferthwch Naturiol Eithriadol a hefyd roedd yr Adran Briffyrdd yn mynegi pryderon ynghylch diogelwch y ffordd.

 

      

 

     Ar ôl derbyn cyngor rhoes y Cadeirydd ganiatâd i'r Cynghorydd Hefin Thomas rannu ffotograffau o'r ardal yn dangos y safle.  Wrth annerch y cyfarfod dywedodd y Cynghorydd Thomas bod cyfiawnhad dros roddi caniatâd ac nad oedd y swyddogion wedi cyflwyno yr argraff gywir o'r sefyllfa a theimlai na fuasai'r cynnig gerbron yn gwneud niwed i'r tirwedd.  Ar hyd y lôn fechan hon roedd 15 o anheddau a chwech ohonynt yn agos i'r safle a chredai'r Cynghorydd bod rhagor na thair annedd yn sefydlu clwstwr.  Roedd yr ymgeisydd wedi'i eni a'i fagu yn yr ardal a hefyd roedd yma angen lleol gan fod yr ymgeisydd yn byw mewn annedd o deip siale, ac roedd prisiau tai yn yr ardal hon o gwmpas £400,000.  Nid oedd y Cynghorydd Thomas yn cytuno gyda gwrthwynebiad yr Adran Briffyrdd yn seiliedig ar gynnydd yn y traffig gan fod yr ymgeisydd yn teithio ar hyd y lôn dan sylw o'i gartref gerllaw; bob blwyddyn roedd miloedd o ymwelwyr yn defnyddio'r ffordd ddi-ddosbarth i lawr at y traeth ac sydd union ger y lôn fechan hon; ac ar ôl gofyn yn y gorffennol am wella'r ffordd ddi-ddosbarth hon dywedodd yr Adran Briffyrdd bod y ffordd eisoes yn foddhaol; eisoes roedd caniatâd i garafan sefydlog ar y safle ac roedd y tir o gwmpas yn eiddo i deulu'r ymgeisydd.

 

      

 

     Mewn ymateb atgoffodd y Pennaeth Rheoli Datblygu yr Aelodau y dylai penderfyniadau fod yn seiliedig ar egwyddor defnydd tir yn unig a dygodd sylw at oblygiadau caniatáu datblygiadau yn y cefn gwlad o fewn Ardaloedd o Brydferthwch Naturiol Eithriadol.  Nid oedd yr ymgeisydd wedi dangos tystiolaeth o angen amaethyddol gwirioneddol nac o angen coedwigaethol.  Roedd modd ystyried 10 o anheddau yn agos i'w gilydd fel clwstwr yn hytrach na rhai ar wasgar ac yn yr achos hwn roedd yr anheddau ar wasgar.  Nid oedd caniatâd i garafan sefydlog yn gyfystyr â hawl i godi annedd barhaol ar y safle.  Gofynnodd y Swyddog i'r Aelodau ystyried ei farn broffesiynol ac argymhellodd yn gryf wrthod y cais.

 

      

 

     Wedyn dywedodd y Cynghorydd Thomas ei fod yn ymwybodol bod y Cyngor Cymuned Lleol yn cefnogi'r cais.  Ond mewn ymateb i gwestiwn y Cynghorydd, dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu nad oedd wedi derbyn sylwadau y Cyngor Cymuned.

 

      

 

     Anerchodd Uwch Beiriannydd yr Adran Briffyrdd y cyfarfod gan ailddatgan gwrthwynebiad ei Adran i ragor o ddatblygu ar hyd y lôn gul a throellog hon gydag anawsterau gweld ar ei hyd.  Mewn ymateb dywedodd y Cynghorydd Thomas bod yr ymgeisydd yn byw ar hyd y lôn ac felly ni cheid cynnydd yn y traffig.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd John Roberts yn cydymdeimlo gydag argyfwng yr Aelod Lleol a dywedodd hwnnw bod yma glwstwr tra bo swyddogion yn dweud i'r gwrthwyneb.  Roedd y ffordd wedi bod yn y cyflwr hwn ers blynyddoedd a mater o farn oedd y cyfryw faterion.

 

      

 

     Gan fod 15 o anheddau yn y cyffiniau credai'r Cynghorydd D Lewis Roberts bod yma glwstwr a chynigiodd roddi caniatâd i'r cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Tecwyn Roberts.

 

      

 

     O sylwi ar y ffotograff a rannwyd ymhlith yr Aelodau gwelodd y Cynghorydd Arwel Roberts bod yma glwstwr o dai.  Gofynnodd y Cynghorydd Denis Hadley pa bolisïau a ddefnyddiwyd i ganiatáu'r tai eraill a welwyd yn y ffotograff.  

 

      

 

     Yr hyn a gafwyd gan y Pennaeth Rheoli Datblygu oedd argymhelliad cryf i wrthod.

 

      

 

     O 12 pleidlais i 2 PENDERFYNWYD caniatáu'r cais gydag amodau perthnasol ac am y rhesymau a ganlyn:

 

      

 

Ÿ

roedd y safle y tu mewn i glwstwr o 15 o anheddau

 

Ÿ

nid oedd yr Aelodau yn derbyn y buasai'r cynnig yn creu rhagor o draffig

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor, gohiriwyd ystyried y cais tan y cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu.

 

      

 

4.7

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     22C44B - CAIS ÔL-DDYDDIOL I DDYMCHWEL YR HEN WAL DERFYN A CHODI WAL DERFYN NEWYDD 2 FETR O UCHDER YN YR YSGOLDY, BIWMARES

 

      

 

     Daeth y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr Aelod Lleol ac ymwelwyd â'r safle ar 20 Hydref 2004.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y swyddogion priffyrdd bellach yn gwrthwynebu'r cynnig a gofynnodd am ohirio ystyried y cais fel bod modd ymgorffori eu sylwadau nhw yn yr adroddiad.  Roeddid yn dal i ddisgwyl am eu sylwadau ysgrifenedig.

 

      

 

     Pryder y Cynghorydd Hefin Thomas yma oedd na chafodd rybudd ymlaen llaw o'r newid i argymhelliad yr Adran Briffyrdd.  Mewn ymateb dywedodd y Swyddog mai dim ond y diwrnod cynt y cafodd wybod am y cyfryw beth.

 

      

 

     Am y rhesymau a roddwyd PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais hwn.

 

      

 

4.8

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     23C223 - CAIS I GODI ANNEDD AC ALTRO'R FYNEDFA AR GAE ORDNANS 1800 CAE TYN LÔN, TALWRN

 

      

 

     Yn y cyfarfod cynt, ac yn groes i argymhelliad y Swyddog, tueddai'r Aelodau o blaid caniatáu'r cais hwn am y rhesymau a nodwyd yn y cofnodion.  Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor, gohiriwyd ystyried y cais tan y cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu.

 

      

 

     Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod gohebiaeth newydd ei derbyn trwy Adran y Rheolwr-gyfarwyddwr ond nid oedd ynddi bwyntiau cynllunio ychwanegol at y rheini oedd eisoes yn yr adroddiad.

 

      

 

     Yma dygodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio sylw'r aelodau at adroddiad cynhwysfawr y swyddog ac er nad oedd y cais ei hun yn gwyro roedd yn groes i'r polisïau presennol.   Crybwyllodd y polisïau gafodd ystyriaeth wrth bennu argymhellion y Swyddog i'r Pwyllgor ac yn arbennig felly Bolisïau 50 (pentrefi / trefi rhestredig) y Cynllun Lleol a HP4 (pentrefi) yr CDU a dygodd sylw'r aelodau at adroddiad yr Arolygydd yng nghyswllt apêl i ddatblygu y tu allan i ffiniau diffiniedig Talwrn ac a wrthodwyd.  Wedyn soniodd am ar y pwysau i'w roddi ar ddatblygu y tu allan i'r ffiniau hyn yn adroddiad yr Arolygydd ar apêl Bryntirion, Talwrn (gweler eitem 10 y cofnodion hyn).

 

      

 

     Wrth annerch y cyfarfod dywedodd y Cynghorydd W J Williams, yr aelod lleol, ei fod yn anghytuno gyda dehongliad y Swyddogion o'r polisïau a'r argymhelliad i wrthod yng nghyswllt y cais hwn.  Dan Bolisi 50 caniateir codi anheddau unigol y tu mewn neu ar gyrion pentrefi rhestredig ac roedd y cais hwn yn cydymffurfio hefyd gyda pholisïau 42 (dyluniad) a 48 (meini prawf datblygu tai).  Ychydig o dai newydd a godwyd yn y Talwrn dros yr wyth mlynedd diwethaf a chaniatawyd stad dai Tai Newydd a'r byngalo y drws nesaf i Tyn Lôn ar apêl.  Yma darllenodd y Cynghorydd Williams ganllawiau Llywodraeth Cynulliad Cymru ar "eithriadau gwledig" a theimlai ef y buasai'r cynnig gerbron yn asio'n dda gyda'r tir o gwmpas.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio nad oedd y cais hwn wedi'i gyflwyno fel "safle eithriad".

 

      

 

     Wedyn cafwyd cynnig i ganiatáu'r cais gan y Cynghorydd Aled Morris Jones am ei fod yn cydymffurfio gyda Pholisi 50 Cynllun Lleol Ynys Môn a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd John Roberts.

 

      

 

     Yr hyn a wnaeth y Cynghorydd J Arthur Jones oedd cyfeirio at adroddiad yr Arolygydd ar Bryntirion a'r sylwadau a wnaed ar Bolisi 50 gan nodi bod y Swyddogion wedi derbyn bod y cynnig yn cydymffurfio gyda Pholisi 50.

 

      

 

     Gyda 14 o bleidleisiau PENDERFYNWYD glynu wrth benderfyniad cynt y Pwyllgor, sef caniatáu'r cais gydag amodau perthnasol.

 

      

 

4.9

CAIS ECONOMAIDD

 

      

 

     23C160D/EIA - EHANGU'R CHWAREL CARREG GALCH YN CHWAREL RHUDDLAN BACH, BRYNTEG

 

      

 

     Gan y Rheolwr Rheoli Cynllunio cafwyd argymhelliad i ohirio ystyried y cais gan fod y swyddogion yn dal i fod mewn trafodaethau.  Ymwelodd yr Aelodau â safle'r cais hwn ar 15 Medi, 2004.

 

      

 

     Yn ôl a ddeallai'r Cynghorydd Eurfryn Davies roedd adroddiad mawr a manwl yn cael ei baratoi ar y cais a chytunodd y swyddogion i'w yrru at Aelodau mewn da bryd cyn y cyfarfod.

 

      

 

     Am y rheswm a roddwyd gan y swyddog PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais.

 

      

 

4.10

CAIS YN TYNNU'N GROES I'R POLISI

 

      

 

     24C218A - CYNLLUNIAU LLAWN I GODI BYNGALO, DARPARU MYNEDFA NEWYDD, TANC SEPTIG NEWYDD A CHODI ADEILAD AMAETHYDDOL AR RAN O GAE ORDNANS 7556 GER GROESWEN A'R WENLLYS, PEN-Y-SARN

 

      

 

     Gwnaeth y Cynghorydd Arwel Roberts ddatganiad o ddiddordeb yn y cais a gadawodd y cyfarfod tra bu trafodaeth a phleidleisio arno.

 

      

 

     Yr Aelod Lleol ofynnodd am drosglwyddo'r cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno.

 

      

 

     Yn y cyfarfod cynt ac yn groes i argymhelliad y swyddog roedd yr aelodau yn tueddu i gymeradwyo'r cais hwn am y rhesymau a ganlyn:

 

      

 

Ÿ

Polisi 52 - eithriad i gwrdd ag angen lleol

 

Ÿ

yn credu bod y safle mewn clwstwr o dai - llenwi bwlch

 

Ÿ

defnydd derbyniol o'r tir

 

 

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor, gohiriwyd ystyried y cais er mwyn rhoi cyfle i'r swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y cais hwn yn gwyro oddi wrth y polisiau ac nad oedd modd rhoddi sylw iddo dan Bolisi 52 (safle eithriad).  Nid oedd y safle y tu mewn nac ar gyrion y pentref ac ychwanegodd y Swyddog y buasai Polisi 53 (tai yn y cefn gwlad) yn berthnasol - nid oedd y llecyn hwn y tu mewn i bentref nac ar gyrion un ac nid hwn oedd y defnydd priodol i'w wneud o'r tir a chafwyd argymhelliad cryf o wrthod.  

 

      

 

     Yr hyn a wnaeth y Cynghorydd Aled Morris Jones, yr Aelod Lleol, oedd ail adrodd ei ddatganiad i'r cyfarfod cynt.  Er cydnabod nad oedd y cais yn un amaethyddol na choedwigaethol roedd yr amgylchiadau, er hynny, yn eithriadol.  Dyma safle sy'n agos i Ben-y-sarn a chlwstwr o anheddau eraill yn y cyffiniau.  Unwaith yn rhagor rhoes y Cynghorydd gefnogaeth gref i'r bwriad a chynigiodd ei ganiatáu am y rhesymau a roddwyd o'r blaen.  Eiliwyd y cynnig hwn gan y Cynghorydd D Lewis Roberts.

 

      

 

     Yma atgoffodd y Pennaeth Rheoli Datblygu yr Aelodau y gallai 10 o anheddau yn glos at eu gilydd fod yn glwstwr yn ôl diffiniad.  O safbwynt cynllunio roedd yr anheddau yma wedi'u gwasgar dros ardal helaeth.  Nid oedd y cais felly yn cwrdd â'r meini prawf angenrheidiol dan Bolisi 52.

 

      

 

     Penderfynodd yr Aelodau beidio â chofnodi'r bleidlais a hynny'n groes i gyngor y Cyfreithiwr (am fod y cais hwn yn gwyro).

 

      

 

     PENDERFYNWYD glynu wrth y penderfyniad blaenorol a chaniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd o'r blaen ond gydag amodau perthnasol.

 

      

 

4.11

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     25C151C - CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD A GAREJ A DARPARU TANC SEPTIG NEWYDD A MYNEDFA NEWYDD YN NHAN RALLT, CARMEL

 

      

 

     Gwnaeth y Cynghorydd J Arthur Jones ddatganiad o ddiddordeb yn y cais ac nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r bleidlais.

 

      

 

     Yr Aelod Lleol ofynnodd am drosglwyddo'r cais i'r Pwyllgor ei ystyried.  

 

      

 

     Yn ei ddisgrifiad o'r cynnig dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio mai un annedd oedd yma a'r holl faterion manwl yn cael eu cadw i'w trafod yn y dyfodol - cais ar gae amaethyddol ger y ffordd i mewn i Garmel o'r gogledd ac ar lôn gul lled un cerbyd.  Yma soniodd y Swyddog am hanes cynllunio - hanes o wrthod ar y safle fel y manylwyd ar hynny yn adroddiad y Swyddog.  Derbyniwyd un llythyr yn gwrthwynebu ac 13 o rai o blaid y cais.  Cyfeiriodd y Swyddog wedyn at y polisiau a ystyriwyd ac y manylwyd arnynt yn adroddiad y Swyddog gan ychwanegu mai Polisi 50 (pentrefi rhestredig) Cynllun Lleol Ynys Môn oedd yr un mwyaf perthnasol wrth i'r Swyddogion lunio argymhelliad.  

 

      

 

     Yn ôl y Rheolwr Rheoli Cynllunio roedd y cynnig yn cyfateb i estyniad annerbyniol i'r pentref a châi effaith annerbyniol ar Ardal Tirwedd Arbennig.  Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf roedd hanes o wrthod ar y safle dan sylw.

 

      

 

     Anghytuno gyda'r Swyddogion a wnaeth y Cynghorydd Elwyn Schofield, yr aelod lleol, pan ddywedasant y buasai'r cynnig yn groes i ddarpariaethau Polisi 50 y Cynllun Lleol.  Roedd Carmel yn glwstwr cydnabyddedig yn y Cynllun Datblygu, ac nid oedd y cyrff yr ymgynghorwyd yn statudol â nhw yn gwrthwynebu - dim gwrthwynebiad gan yr Adran Briffyrdd, roedd y ddarpariaeth traeniau yn foddhaol a'r Cyngor Cymuned Lleol yn cefnogi'r cais.  Yn ogystal roedd yr ymgeiswyr yn fodlon gwneud cytundeb i atal unrhyw ddatblygiadau pellach.  Oherwydd lleoliad y cynnig hwn nid oedd hi'n bosib cael rhagor o ddatblygiadau rhubanaidd yn y lle.  Un rheswm yn unig a roddwyd dros wrthod : yr effaith ar y tirwedd.  Gofynnodd i'r Pwyllgor gefnogi'r cais.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Aled Morris Jones cafwyd cynnig i ganiatáu'r cais gan ei fod, yn ei dyb ef, yn cwrdd â'r meini prawf angenrheidiol dan ddarpariaethau Polisi 50, a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Tecwyn Roberts a nododd bod Tai Cyngor gerllaw.  

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn y Cynghorydd John Roberts dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio nad oedd unrhyw wahaniaeth o bwys rhwng y cais gerbron a'r rheini a wrthodwyd yn y gorffennol.  Y bwriad yma oedd codi ty deulawr mawr yn y tirwedd.  Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Eurfryn Davies dywedodd y swyddog bod yr ymgeiswyr yn bwriadu rhwystro rhagor o ddatblygu rhubanaidd trwy lofnodi cytundeb dan Adran 106.  

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd John Roberts dderbyn adroddiad y Swyddog a'r argymhelliad o wrthod a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Arwel Edwards.

 

      

 

     O 9 pleidlais i 2 PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rheswm a ganlyn:

 

      

 

Ÿ

mae'n cwrdd â'r meini prawf angenrheidiol dan Bolisi 50 (pentrefi rhestredig) gan fod anheddau eraill union ger y safle hwn.

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor, gohiriwyd ystyried y cais tan y cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu.

 

 

 

Ni phleidleisiodd y Cynghorwyr Arwel Roberts ac Eurfryn Davies ar y cais.

 

 

 

4.12

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     28C244A - TROI ADEILAD ALLANOL YN 2 UNED WYLIAU YN FELIN UCHAF, BRYN DU

 

      

 

     Yr Aelod Lleol ofynnodd am drosglwyddo'r cais i'r Pwyllgor benderfynu arno.

 

      

 

     Cais oedd yma, meddai'r Rheolwr Rheoli Cynllunio, i addasu adeiladau allanol yn ddwy uned wyliau. Y polisi perthnasol a ystyriwyd wrth bennu argymhelliad y swyddogion i'r Pwyllgor oedd Polisi 55 (addasu ac roedd yr adeiladau'n addas i'w haddasu, roedd yr Adran Briffyrdd yn tybio bod y fynedfa a'r materion priffyrdd yn foddhaol a chafwyd argymhelliad i ganiatáu'r cais am y rhesymau yn adroddiad y swyddog ond gyda'r amod bod cytundeb dan Adran 106 yn cael ei roddi yn lle amod arfaethedig (06).

 

      

 

     Mewn ymateb i gyfeiriadau gan yr Aelod Lleol, y Cynghorydd Glyn Jones at bryderon y Cyngor Cymuned Lleol ynghylch y fynedfa i'r safle cadarnhaodd yr Uwch Beiriannydd Priffyrdd bod y Swyddogion Priffyrdd yn fodlon gyda'r fynedfa.  Yma ychwanegodd y Cynghorydd Glyn Jones ei fod yn pryderu am natur gul y lôn at y fynedfa ac yr ychwanegid at broblemau gan unrhyw gynnydd yn y traffig.  Petai caniatâd yn cael ei roddi, ac yn wyneb natur a lefel y cynnydd yn y traffig, gofynnodd y Cynghorydd Jones am i'r lôn at y safle gael ei lledu ac am gyflwyno mesurau i arafu traffig.

 

      

 

     Dywedodd yr Uwch Beiriannydd Priffyrdd nad oedd addasu'r felin na'r carafanau sefydlog yn rhan o'r drafodaeth hon.

 

      

 

     PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais i bwrpas ymgynghori ymhellach gyda'r Adran Briffyrdd ar y materion uchod.

 

      

 

4.13

CAIS YN TYNNU'N GROES I'R POLISIAU

 

      

 

     34C83C - CODI 21 O DAI A DARPARU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU AR DIR GER FFORDD GLANHWFA, LLANGEFNI

 

      

 

     Cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais gan Mr J R W Owen o'r Adran Briffyrdd a gadawodd y cyfarfod am y drafodaeth ar yr eitem.

 

      

 

     Ychwanegodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y Swyddogion yn dal i fod yn ymgynghori gyda'r cynrychiolwyr ynghylch materion priffyrdd ac argymhellodd ohirio ystyried y cais.

 

      

 

     PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais hyd nes cwblhau'r gwaith ymgynghori gyda chynrychiolydd yr ymgeisydd.

 

      

 

4.14

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     36C237 - CAIS LLAWN I DDYMCHWEL ANNEDD A CHODI ANNEDD NEWYDD YM MRYN GWENITH, RHOSTREHWFA

 

      

 

     Gwnaeth y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cynllunio a'r Amgylcheddol) ddatganiad o ddiddordeb yn y cais.

 

      

 

     Dygwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan fod y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cynllunio a'r Amgylchedd) wedi datgan diddordeb ynddo a hefyd wedi cyflwyno gwrthwynebiadau.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod yr ymgeiswyr bellach wedi cyflwyno tystysgrif perchenogaeth ddiwygiedig yng nghyswllt yr uchod a soniodd am hanes cynllunio y lle fel y manylwyd ar hynny yn adroddiad y swyddog.  Cafwyd sylwadau gan y cyrff yr ymgynghorwyd â nhw yn statudol ond ni chafwyd yr un gwrthwynebiad i'r bwriad.  Roedd dau lythyr o wrthwynebiad wedi'u derbyn.  Yma cyfeiriodd y Swyddog at Bolisiau a ystyriwyd wrth bennu argymhelliad y Swyddog i'r Pwyllgor ac yn arbennig Bolisi 54 y Cynllun Lleol a HP9 yr CDU ar godi anheddau yn lle hen rai.  Er nad oedd Swyddogion yn gwrthwynebu'r egwyddor o godi annedd yn lle hen un roedd maint aruthrol y cynnig gerbron yn mynd i fod yn nodwedd tra amlwg ar y gefnen wrth edrych o gyfeiriad yr A5 a'r A5114 a buasai dyluniad yr adeilad, oherwydd adlewyrchu goleuni yn ystod y dydd a goleuo'r lle yn ystod oriau tywyllwch, yn cael effaith andwyol ar gymeriad ac ar brydferthwch y cyffiniau.  Roedd y Swyddogion yn argymell gwrthod y cais.

 

      

 

     Wrth annerch y cyfarfod dywedodd y Cynghorydd W.I. Hughes, yr aelod lleol, bod tai mawr eraill yn y cyffiniau, e.e. Bryntirion, a theimlai y buasai'r cynnig yn asio gyda'r tir o gwmpas ac yn gweddu i'r lleoliad.  Roedd y Cyngor Cymuned yn cefnogi'r cais, ac o'r herwydd cynigiodd y Cynghorydd Arwel Roberts bod yr Aelodau'n ymweld â'r lle a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Arwel Edwards.

 

      

 

     Am y rheswm a roddwyd PENDERFYNWYD ymweld â safle'r cais.

 

      

 

4.15

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     43C77C - DYMCHWEL ANNEDD A CHODI CHWE ANNEDD AR WAHÂN AC ADEILADU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU YN Y GERLAN, PONT RHYD Y BONT

 

      

 

     Yr Aelod Lleol ofynnodd am gyflwyno'r cais hwn i'r Pwyllgor ei ystyried.

 

      

 

     Yn y cyfarfod cynt gohiriwyd ystyried y mater oherwydd bod asiant yr ymgeisydd wedi cyflwyno rhagor o fanylion.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y cyrff yr ymgynghorwyd â nhw yn statudol wedi cyflwyno sylwadau tra bo'r Cyngor Cymuned a'r Aelod Lleol wedi gwrthwynebu.  Roedd 38 o lythyrau'n gwrthwynebu.  Wedyn crybwyllodd y Swyddog y polisïau hynny a ystyriwyd wrth bennu argymhelliad y Swyddog a'r rhai mwyaf perthnasol oedd Polisïau 48 (meini prawf datblygu tai) a Pholisi 50 (pentrefi rhestredig).  Er bod y safle y tu mewn i ffiniau datblygu Pont Rhyd y Bont credwyd bod y bwriad yn cyfateb i orddatblygu'r safle ac yn ddieithr i'r cyd-destun lleol.  

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Peter Dunning cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad ac argymhelliad y Swyddog o wrthod a chafodd ei eilio gan y Cynghorwyr Arwel Roberts ac Aled Morris Jones.  

 

      

 

     PENDERFYNWYD gwrthod y cais am y rhesymau yn adroddiad y Swyddog.

 

      

 

4.16

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     49C243A - CAIS LLAWN I DDYMCHWEL ANNEDD, CODI NAW BYNGALO AC WYTH TY, A GWNEUD GWAITH ALTRO AR Y FYNEDFA I GERBYDAU A CHERDDWYR YN VISTA DEL MAR, PENRODYN, Y FALI

 

      

 

     Yr Aelod Lleol ofynnodd am drosglwyddo'r cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno.

 

      

 

     Yn y cyfarfod cynt gohiriwyd ystyried y cais yn ôl dymuniad asiant yr ymgeisydd a oedd wedi cyflwyno rhagor o ohebiaeth.

 

      

 

     Dygodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio sylw'r aelodau at hanes cynllunio'r safle fel y manylwyd ar hynny yn adroddiad y Swyddog.  Roedd y preswylwyr lleol wedi comisiynu asesiad proffesiynol ar sefydlogrwydd y clogwyn ac roedd copi ohono ar gael yn y cyfarfod.  Roedd yr Aelod Lleol a'r Cyngor Cymuned yn gwrthwynebu a chafwyd 41 o lythyrau'n gwrthwynebu - gwrthwynebiad yr oedd crynodeb iddo yn adroddiad y Swyddog.  Roedd pryderon ynghylch erydu pen y clogwyn.  Roedd dyluniad y byngalos yn dderbyniol ond nid felly y tai ar ben y clogwyn.  Hefyd roedd rhai materion yn cael effaith ar yr Ardal o Brydferthwch Naturiol Eithriadol.

 

      

 

     Gan y Rheolwr Rheoli Cynllunio cafwyd argymhelliad deublyg ynghylch y cais, sef cymeradwyo datblygu plotiau 1 - 9 gydag amodau, a hefyd yn amodol ar orffen y gwaith ymgynghori oedd yn cael ei wneud a chyda Chytundeb dan Adran 106 i sicrhau fod y ffyrdd a'r carthffosydd yn cyrraedd safonau mabwysiadu ac y bydd y tai yn rhai fforddiadwy am gyfnod amhenodol; ail ran yr argymhelliad deublyg oedd gwrthod caniatâd i blotiau 10 - 17 fel y cawsant eu marcio ar y cynllun.  

 

      

 

     Nid oedd yr Adran Briffyrdd yn gwrthwynebu'r fynedfa ac roeddynt yn fodlon gyda'r trefniadau draenio.

 

      

 

     Yn ei anerchiad ef i'r cyfarfod dywedodd y Cynghorydd Goronwy Parry, yr Aelod Lleol, bod pryderon ynghylch gorddatblygu y safle hwn sydd y tu mewn i Ardal o Brydferthwch Naturiol Eithriadol.  Roedd ef yn tybio bod y dyluniad a'r dwysedd yn groes i gymeriad y cyffiniau, a buasai bwriad o'r fath yn cynhyrchu traffig ychwanegol.  Pwnc arall a achosodd gryn bryder yn lleol oedd draeniau a'r carthffosydd ond nid oedd Dwr Cymru wedi cydnabod bod yma broblem; darllenodd y Cynghorydd Parry ddyfyniadau o lythyrau gerbron yn y cyfarfod, y pryderon eraill oedd erydiad yr arfordir a  rhuthr annisgwyl dwr stormydd yn codi lefelau'r dyfroedd yn gyffredinol.  

 

      

 

     Yma nododd y Cynghorydd Arwel Roberts nad oedd Cyngor Cefn Gwlad Cymru wedi cyflwyno sylwadau nac wedi gwrthwynebu'r datblygiad yn yr ardal hon yn ystod y broses o ymgynghori ar yr CDU, ond yn awr roeddent yn gwrthwynebu oherwydd erydu posib ar yr arfordir, ond heb unrhyw gyfiawnhad i'r gwrthwynebiad.  Ni fedrai'r Cynghorydd Roberts gytuno gydag adroddiad y swyddogion gan ddadlau bod y safle y tu mewn i'r ffiniau CDU a bod hynny yn ystyriaeth o bwys.  Cafwyd cynnig ganddo i ganiatáu y cyfan o'r cais.  

 

      

 

     Ofni yr oedd y Cynghorydd John Roberts y gallai penderfyniad deublyg greu cynsail wrth ystyried ceisiadau yn y dyfodol ond eglurodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod ganddynt hawl i wneud penderfyniad deublyg os oedd modd rhannu'r cais yn rhesymegol, fel yr oedd yn bosib yn yr achos penodol hwn.

 

      

 

     Er bod y Cynghorydd John Arthur Jones yn derbyn bod hon yn Ardal o Brydferthwch Naturiol Eithriadol nai chafwyd yr un gwrthwynebiad i ddatblygu'r safle yn ystod y broses o ymgynghori ar yr CDU ac o'r herwydd credai bod angen ystyried y cyfan o'r safle.  

 

      

 

     Wedyn dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio nad oedd y Swyddogion yn fodlon gyda dyluniad a maint y datblygiad arfaethedig ac o'r herwydd yr argymhelliad oedd cael penderfyniad deublyg.

 

      

 

     Argymhellodd y Cynghorydd Aled Morris Jones y dylid gohirio ystyried y cais.

 

      

 

     Wedyn gan y Cynghorydd John Roberts cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad ac argymhelliad y Swyddog.

 

      

 

     Yr hyn a wnaeth y Cynghorydd Arwel Roberts oedd cynnig caniatâd llawn i'r cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd D Lewis Roberts.

 

      

 

     Yn groes i argymhelliad y Swyddog PENDERFYNWYD rhoddi caniatâd llawn i'r cais ond gyda Chytundeb dan Adran 106 yng nghyswllt darparu tai fforddiadwy am y rhesymau a ganlyn:

 

      

 

Ÿ

roedd y tir wedi'i neilltuo yn unol â'r CDU

 

Ÿ

darparu tai fforddiadwy

 

Ÿ

enillion cynllunio

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor, gohiriwyd ystyried y cais tan y cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i Swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu.

 

 

 

     Ni phleidleisiodd y Cynghorydd W T Roberts ar y cais hwn.

 

      

 

5

CEISIADAU ECONOMAIDD

 

      

 

5.1

19LPA814A/CC - CODI PEDAIR UNED DDIWYDIANNOL AC ALTRO'R FYNEDFA I GERBYDAU AR STAD DDIWYDIANNOL PENRHOS, CAERGYBI

 

      

 

     Dygwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan mai y Cyngor a'i cyflwynodd ac ar dir yn eiddo i'r Cyngor.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio y buasai'r Adran Economaidd mewn sefyllfa i ateb cwestiwn y Cynghorydd Arthur Jones ynghylch a fuasai'r unedau hyn ar gael ar rent neu brydles heb gyfyngiadau ar ôl eu cwblhau.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Aled Morris Jones cafwyd datganiad y dylid cael cynrychiolydd o'r Adran Datblygu Economaidd yn y cyfarfodydd pan fo ceisiadau economaidd gerbron.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Peter Dunning bod y cynnig yn ddatblygiad addas a gofynnodd am i'r argymhelliad gael ei dderbyn.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais gyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

5.2

20C74K/DA - CYNLLUNIAU MANWL I GODI 18 ANNEDD GYDA GAREJYS A DARPARU MYNEDFA NEWYDD I TYDDYN GYRFA AR DIR GER STAD TYDDYN, CEMAES

 

      

 

     Yr Aelod Lleol ofynnodd am gyflwyno'r cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno ond ni fedrai fod yn y Pwyllgor oherwydd trefniadau yr oedd eisoes wedi'u gwneud yng nghyswllt busnes Cyngor.  Yn y cyfamser, gofynnodd y Cynghorydd John Williams i'r Aelodau gael golwg ar safle'r cais.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â'r safle yn unol â dymuniad yr Aelod Lleol.

 

      

 

5.3

30C384A - DYMCHWEL GWESTY A CHODI ADEILAD PUM LLAWR YN CYNNWYS 28 APARTMENT PRYNU I OSOD, PWLL NOFIO DAN DO A GYMNASIWM YNGHYD Â DARPARU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU, ALTRO'R FYNEDFA BRESENNOL I GERBYDAU A DARPARU TANC SEPTIG NEWYDD YNG NGWESTY BRYNTIRION, TRAETH COCH

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio nad oedd adroddiad manwl ar y cynnig wedi'i baratoi eto ac argymhellodd ohirio'r drafodaeth.  Bu'r Aelodau yn gweld y safle ar 20 Hydref 2004 fel y manylwyd ar hynny yn yr adroddiad ar ymweliadau â safleoedd.

 

      

 

     Am y rheswm a roddwyd PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais hwn.

 

      

 

5.4

34C303F/1 - CODI 15 ANNEDD, SEF CHWE THY AR WAHÂN A THERAS O DRI O DAI YM MRO EDNYFED, LLANGEFNI

 

      

 

     Yr Aelod Lleol ofynnodd am drosglwyddo'r cais i'r Pwyllgor benderfynu arno a hefyd gofynnodd am ohirio ystyried y mater fel bod modd cynnal trafodaethau.

 

      

 

     PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais hyd nes cwblhau gwaith ymgynghori gyda'r ymgeisydd.

 

      

 

5.5

34C72J - DYMCHWEL HEN ADEILAD YNG NGHEFN Y SAFLE A CHODI ADEILAD TRI LLAWR AC YNDDO SWYDDFA, SIOP A CHYFLEUSTERAU STORIO AR Y LEFEL ISAF AC ALTRO'R FYNEDFA YNG NGAREJ HERON, FFORDD GLANHWFA, LLANGEFNI

 

      

 

     Oherwydd maint y cynnig cafwyd argymhelliad gan y Rheolwr Rheoli Cynllunio i ymweld â'r safle.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â safle'r cais am y rheswm a roddwyd gan y Swyddog.

 

      

 

6     CEISIADAU'N TYNNU'N GROES I BOLISIAU

 

      

 

6.1

45C332 - CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD AR DIR PARC, PEN LON, NIWBWRCH

 

      

 

     Yr Aelod Lleol ofynnodd am drosglwyddo'r cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno.

 

      

 

     Roedd y Cyngor Cymuned yn gwrthwynebu'r cais a chafwyd sylwadau gan gyrff yr ymgynghorwyd â nhw yn statudol ond nid oedd unrhyw wrthwynebiad.  Roedd y fferm gywion ieir gyffiniol yn mynegi pryderon oherwydd mai 15 troedfedd yn unig fuasai rhwng yr annedd arfaethedig a ffiniau'r fferm a gofynnodd am roddi amodau ynghlwm i gydnabod natur y busnes sydd eisoes yn y lle.  

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y safle ger yr A4080 rhwng Dwyran a Niwbwrch ar ddarn o dir sydd y tu mewn i libart Parc mewn Ardal o Brydferthwch Naturiol Eithriadol.  Roedd y plot rhwng Parc a Morlais a'r olaf yn un o ffermydd y Grampian Country Chicken.

 

      

 

     Yma cyfeiriodd y Swyddog at bolisïau a ystyriwyd wrth bennu argymhelliad y Swyddog i'r Pwyllgor ac yn arbennig Bolisïau 30 (tirwedd) a 53 (tai yn y cefn gwlad).  Nid oedd Pen-lôn yn bentref rhestredig yng Nghynllun Lleol Ynys Môn ond er hynny roedd adroddiad yr Arolygydd ar yr CDU esblygol yn argymell rhestru'r lle yn dreflan a chlwstwr gwledig dan bolisi HP5 yr CDU.

 

      

 

     Roeddid yn cydnabod bod y safle rhwng dau eiddo ond credai'r Swyddogion y buasai rhoddi caniatâd yn creu datblygiad rhubanaidd, a bod angen rhoddi blaenoriaeth i wella a diogelu yr Ardal o Brydferthwch Naturiol Eithriadol.  

 

      

 

     Wrth annerch y cyfarfod dywedodd y Cynghorydd Peter Rogers, yr Aelod Lleol, bod yr ymgeiswyr yn ferch ac yn fab yng nghyfraith i berchennog y busnes Pentref Model yn y Parc.  Roedd y cwpl ifanc hwn yn gweithio'n lleol a'r Grampian Country Chicken oedd yr unig wrthwynebydd i'r cynnig a'r gwrthwynebiad hwnnw'n seiliedig ar gael sicrwydd na fuasai'r bwriad yn amharu ar eu busnes, sicrwydd oedd bellach wedi'i roddi.  Teimlwyd bod y safle y tu mewn i glwstwr ac ynddo o leiaf 12 o anheddau a bod angen dosbarthu'r lle fel treflan hir.  Câi'r bwriad ei dirlunio i asio gyda'r tir o gwmpas.  Roedd perchennog y Pentref Model yn wneuthurwr dodrefn medrus a'r brawd yng nghyfraith yn cynorthwyo gyda busnes y teulu ac yn gofalu am y tiroedd yn ei amser sbâr, a theimlai'r Cynghorydd Rogers bod y cais yn un eithriadol.

 

      

 

     Ni chredai'r Cynghorydd Eurfryn Davies y câi'r bwriad effaith andwyol ar y tirwedd a bod yma enghraifft o lenwi bwlch a chefnogodd y cais; roedd y Cynghorydd Glyn Jones hefyd yn gefnogol.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd P M Fowlie cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad ac argymhelliad o wrthod y Swyddog a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd John Roberts yn seiliedig ar y wybodaeth gerbron.  

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Eurfryn Davies cafwyd cynnig i ganiatáu'r cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd J Arwel Edwards.

 

      

 

     PENDERFYNWYD gwrthod y cais am y rhesymau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

6.2

48C145A - CAIS AMLINELLOL I GODI BYNGALO DORMER A GAREJ AR RAN O GAE ORDNANS 0262, GWALCHMAI

 

      

 

     Yr Aelod Lleol ofynnodd am drosglwyddo'r cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno.

 

      

 

     Yn ei ddisgrifiad o'r cais dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio mai un amlinellol ydoedd am un annedd a'r holl fanylion yn cael eu cadw ar gyfer eu hystyried yn y dyfodol.  Ychwanegodd bod y safle yn wynebu priffordd dosbarth 3 sy'n rhedeg rhwng Gwalchmai a Llynfaes ac ar ddarn o dir heb gyswllt rhyngddo ag unrhyw bentref a nodwyd yn y Cynllun Lleol nac yn yr CDU.  Dygodd y Swyddog sylw'r Aelodau at bolisïau a ystyriwyd wrth bennu argymhelliad y Swyddog i'r Pwyllgor ac yn arbennig Bolisi 53 (tai yn y cefn gwlad).  Nodwyd bod y cais blaenorol wedi ei wrthod ym Medi, 2004.

 

      

 

     Heb amheuaeth roedd safle'r datblygiad rhyw 100m y tu allan i'r ffiniau datblygu, ac ni chafwyd unrhyw dystiolaeth o angen amaethyddol neu choedwigaethol gyda'r cais ac roedd yn amlwg yn gwyro oddi wrth y polisïau ac o'r herwydd argymhellodd y Swyddog yn gryf y dylid gwrthod.  

 

      

 

     Wrth annerch y cyfarfod dywedodd y Cynghorydd R G Parry, yr Aelod Lleol, bod y tir union ger y ffiniau.  Roedd gan yr ymgeiswyr dri o blant a'r teulu yn byw mewn ty bychan a chan fod mam yr ymgeisydd yn wael yr ymgeiswyr oedd yn gofalu amdani.  Oherwydd prisiau plotiau a thai yn

 

      

 

     y cyffiniau roedd hi'n amhosib i'r ymgeiswyr brynu ty mwy.  Roedd llawer o dai eraill y tu allan i'r ffiniau diffiniedig a theimlai'r Cynghorydd Parry bod safle'r cais yn ddigon agos i'r ffiniau fel y cânt eu diffinio ym Mholisi 50 y Cynllun Lleol.  

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd D Lewis Roberts eglurodd yr Uwch Beiriannydd Priffyrdd bod modd darparu mynedfa ddiogel i'r safle oherwydd siap y plot ond buasai'n rhaid symud rhywfaint o'r graig i ddarparu gwelededd digonol.

 

      

 

     Am y rhesymau a roddwyd cafwyd cynnig gan y Cynghorydd Eurfryn Davies i ganiatáu'r bwriad.

 

     Gan y Cynghorydd Arwel Roberts cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad ac argymhelliad y Swyddog o wrthod a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd John Byast.

 

      

 

     O 9 pleidlais PENDERFYNWYD derbyn adroddiad ac argymhelliad y Swyddog i wrthod.

 

      

 

6.3

48C146 - CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD AR DIR GYFERBYN Â THERAS WYLFA, GWALCHMAI

 

      

 

     Trosglwyddwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno oherwydd bod yr ymgeisydd yn perthyn i un o Swyddogion yr Adran Gynllunio.

 

      

 

     Gwnaeth Mrs Wendy Faulkner o'r Adran Gynllunio ddatganiad o ddiddordeb yn y cais.

 

      

 

     Wedyn eglurodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio mai cais cynllunio amlinellol oedd yma i un annedd a'r holl faterion manwl yn cael eu cadw i'w hystyried yn y dyfodol.  Roedd y safle yn ddarn gwledig o dir ym mhen deheuol yr A5 i'r gorllewin o Walchmai.  Yn y pen gogleddol, yn y man penodol hwn, roedd datblygiad preswyl arall, sef Teras Wylfa.  

 

      

 

     Cyfeiriodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio at bolisïau a ystyriwyd wrth bennu argymhelliad y Swyddog ac fe y cawsant eu rhestru yn yr adroddiad, ac yn arbennig Bolisi 53 (tai yn y cefn gwlad).  Cafwyd sylwadau gan gyrff yr ymgynghorwyd â nhw yn statudol ond nid oedd yr un gwrthwynebiad ac eithrio y gwrthwynebiad gan yr Adran Briffyrdd.  Eglurodd y Swyddog bod ffiniau diffiniedig i Walchmai a'r safle yn amlwg y tu allan iddynt ac yn y cefn gwlad.

 

      

 

     Bwriad yr ymgeiswyr bellach, meddai'r Uwch Beiriannydd Priffyrdd, oedd symud y fynedfa i'r safle ac roedd angen gwneud gwaith ymholi pellach cyn gwneud argymhelliad ar y cais hwn.  

 

      

 

     Wrth annerch y cyfarfod dywedodd y Cynghorydd R G Parry, yr Aelod Lleol, bod safle'r cais yn ddiogel y tu mewn i'r cyfyngiad gyrru 30mya.  Roedd yma gwpl ifanc lleol yn dymuno dychwelyd i'r ardal a'r ymgeiswyr yn berffaith fodlon gwneud cytundeb i beidio â datblygu rhagor ar y tir yn y dyfodol.  Gofynnodd y Cynghorydd R G Parry i'r Aelodau ymweld â safle'r cais.

 

      

 

     Nododd y Cynghorydd Arthur Jones bod safle'r cais union y tu allan i'r ffiniau diffiniedig ac nad oedd yn gais am dy fforddiadwy ac o'r herwydd nid oedd yn eithriad.  

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Tecwyn Roberts cafwyd cynnig i ymweld â'r safle a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Eurfryn Davies.  

 

      

 

     Yr hyn a wnaeth y Rheolwr Rheoli Cynllunio yma oedd cyfeirio at gais blaenorol gan atgoffa Aelodau y dylent fod yn gyson wrth wneud penderfyniadau.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â safle'r cais.

 

      

 

7     GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     Gwnaeth y Cynghorydd J Arthur Jones ddatganiad o ddiddordeb yng ngheisiadau 7.1, 7.2, 7.3, 7.4, 7.5, 7.6 a 7.10 ac nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod am y drafodaeth a'r pleidleisio.  Trosglwyddwyd y ceisiadau hyn i'r Pwyllgor benderfynu arnynt gan fod Aelod o'r Pwyllgor yn gyfarwyddwr cwmni oedd yn gweithredu fel asiant.

 

      

 

     Gan y Rheolwr Rheoli Cynllunio cafwyd crynodeb o geisiadau 7.1, 7.2, 7.3, 7.4, 7.5, 7.6 a 7.10 ac er bod raid ystyried pob cais fesul un roedd hon yn gyfres o geisiadau gan yr un ymgeisydd i droi nifer o adeiladau allanol yn unedau gwyliau.  

 

      

 

     Un o'r prif bolisïau a ystyriwyd wrth bennu argymhelliad y Swyddog yng nghyswllt y ceisiadau hyn oedd Polisi 55 (addasu adeiladau).  Y meini prawf a'r ffactorau pennaf a ystyriwyd oedd dyluniad, mynedfa, a newid defnydd.  

 

      

 

     Dywedodd yr Uwch Beiriannydd Priffyrdd bod yr ymgeiswyr wedi cytuno i ddarparu mannau pasio ar hyd ffyrdd y cyffiniau gan gynnwys gwelliannau i gyffordd yr A5025 yn Llaneuddog.  Roedd y Swyddogion yn fodlon bod sylw wedi'i roddi i anghenion y preswylwyr lleol a hefyd bod y cynigion hyn yn darparu digon o gyfleusterau parcio.  

 

      

 

     Wrth annerch y cyfarfod dywedodd y Cynghorydd Aled Morris Jones, yr Aelod Lleol, bod y ceisiadau hyn yn groes i egwyddor Polisi 30 (gwella'r amgylchedd) yn y Cynllun Lleol, a buasent yn creu cynnydd sylweddol yn y traffig ar ffyrdd is na'r safon; aeth ymlaen i ofyn:

 

     - pwy fuasai'n gyfrifol yn y dyfodol am gynnal a chadw y mannau pasio

 

     - pwy ac ym mha fodd y câi'r trefniadau i osod am 11 mis yn unig eu monitro

 

     - dylai'r gwelliannau i'r briffordd fod wedi'u cyflwyno'n barod ar hyd y ffordd is-safonol hon

 

      

 

     Cafwyd nifer o wrthwynebiadau gan gynnwys deiseb a gwrthwynebiad y Cyngor Cymuned.

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd Aled Morris Jones bod yr Aelodau yn ymweld â'r safleoedd i gael golwg ar rwydwaith lleol y ffyrdd a chytunodd y Cynghorydd Fowlie y buasai'n haws gwneud penderfyniad ar ôl iddynt weld y safleoedd drostynt eu hunain.

 

      

 

     Yr hyn a wnaeth y Cynghorydd John Roberts oedd mynegi pryder ynghylch rhwydwaith y ffyrdd ond ychwanegodd y Cynghorydd Denis Hadley eu bod yn bur debyg i ardaloedd eraill ym Môn.  

 

      

 

     Dywedodd yr Uwch Beiriannydd Priffyrdd y buasai'r cynigion dan sylw yn gwella rhwydwaith y ffyrdd lleol ac yn hyrwyddo diogelwch y ffordd a hynny yn llesol i holl ddefnyddwyr y ffordd.

 

      

 

     Mewn ymateb i'r cwestiwn am "osod am 11 mis" dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio y câi amodau eu rhoddi ynghlwm wrth bob caniatâd a buasai tîm o Swyddogion Gorfodaeth yn yr Adran Gynllunio yn ymateb i unrhyw gwynion a geid.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â safleoedd ceisiadau 7.1, 7.2, 7.3, 7.4, 7.5, 7.6, a 7.10 i bwrpas cael golwg ar rwydwaith lleol y ffyrdd, y fynedfa arfaethedig i bob eiddo a'r adeiladau i'w haddasu :

 

      

 

7.1

  24C221 - TROI ADEILADAU ALLANOL YN DAIR UNED WYLIAU A GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD YN NHY'N RHOS, DULAS

 

      

 

7.2

  24C222 - TROI ADEILADAU ALLANOL YN DAIR UNED WYLIAU A DARPARU TANC SEPTIG YNG NGHOCHWILLAN, DULAS

 

      

 

7.3

  24C223 - TROI ADEILADAU ALLANOL YN BEDAIR UNED WYLIAU A GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD YN RHOSMYNACH ISAF, LLANEILIAN

 

      

 

7.4

  24C224 - TROI ADEILADAU ALLANOL YN DDWY UNED WYLIAU A GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD YN NHY CANOL, DULAS

 

      

 

7.5

  24C53A - TROI ADEILADAU ALLANOL YN BUM UNED WYLIAU A GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD YN LLANEUDDOG, DULAS

 

      

 

7.6

  24C54A - TROI ADEILADAU ALLANOL YN BUM UNED WYLIAU A GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD YN RHOSMYNACH FAWR,

 

      

 

7.10

   40C244 - TROI ADEILADAU ALLANOL YN CHWE UNED WYLIAU A GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD YM MHENTRE EIRIANNELL, DULAS

 

 

 

7.7

25C61B - TROI ADEILAD ALLANOL YN FWTHYN GWYLIAU A DARPARU MYNEDFA NEWYDD YM MRYN GOLLEN NEWYDD, LLANNERCH-Y-MEDD

 

      

 

     Trosglwyddwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan fod y mannau pasio angenrheidiol sy'n rhan o'r datblygiad ar dir yr awdurdod lleol.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais gyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

7.8

30LPA455B/CC - CODI FFENS DDIOGELWCH 2 FETR O UCHDER AR SAFLE'R LLYFRGELL, BENLLECH

 

      

 

     Trosglwyddwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan mai'r Cyngor Sir oedd yn ei gyflwyno ar dir yn eiddo i'r Cyngor Sir.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais gyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

7.9

38C80C - TROI ADEILAD ALLANOL YN SAITH ANNEDD A DARPARU CYFLEUSTERAU PARCIO, GWELL MYNEDFA AC OFFER BYCHAN I DRIN CARTHION YN Y GROES FECHAN, TREGELE

 

      

 

     Yr Aelod Lleol ofynnodd am drosglwyddo'r cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno.

 

      

 

     Roedd yma fwriad i greu saith o anheddau parhaol yn y cefn gwlad ac o'r herwydd gofynnodd y Cynghorydd Thomas Jones, fel Aelod Lleol yn annerch y cyfarfod, am ymweliad â'r safle i asesu effaith y cynnig.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â safle'r cais am y rhesymau a roddwyd.

 

      

 

7.10

40C244 - PENTRE EIRIANNELL, DULAS

 

      

 

     Gweler eitem 7 y cofnodion hyn.

 

      

 

8     MATERION A DROSGLWYDDWYD YN ÔL

 

      

 

8.1

GLAN Y GORS BACH, RHYD-WYN / TY GWYN, PENMYNYDD

 

      

 

     Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Rheoli Datblygu mewn ymateb i gymhariaeth a wnaed rhwng y ddau gais cynllunio uchod yn y cyfarfod cynt.

 

      

 

     Glan y Gors Bach, Rhydwyn - sef cais i ddymchwel annedd adfeiliedig a chodi un newydd yn ei lle.  Roeddid o'r farn nad oedd Glan y Gors yn fater o godi annedd newydd yn lle hen annedd.  

 

      

 

     Ty Gwyn, Penmynydd - penderfynwyd ar hwn dan Bolisi 55 (addasu).  Roedd y ffurflenni a gyflwynwyd gyda'r cais yn cadarnhau mai hen ffermdy oedd yma ac arolwg strwythurol yn cadarnhau bod yr adeilad yn ddigon cadarn i'w addasu at ddibenion preswylio.  

 

      

 

     Yn yr adroddiad manwl dywedwyd bod y ddau gais wedi cael sylw dan Bolisiau gwahanol yn y Cynllun Datblygu.  Dywed Polisi 54 (anheddau newydd yn lle hen rai) yn benodol "y bydd y Cyngor yn rhoddi sylw ffafriol i godi ty newydd yn lle hen un os dangosir bod y ty newydd yn gallu gwella gwedd yr ardal."

 

      

 

     Hefyd cafwyd argymhelliad gan y Swyddog bod yr Aelodau yn ymweld â safle Ty Gwyn yn ystod yr arolwg blynyddol ar benderfyniadau cynllunio er mwyn asesu'r datblygiad yng nghyd-destun penderfyniad y Swyddog.  Cafwyd cynnig gan y Cynghorydd Thomas Jones bod yr Aelodau, yn ystod yr arolwg ar y penderfyniadau, hefyd yn ymweld â safle Glan y Gors Bach, Rhydwyn.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog.

 

      

 

9     CEISIADAU A DDIRPRWYWYD

 

      

 

     Cyflwynwyd a derbyniwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cynllunio a Gwasanaethau Amgylcheddol) ar y materion dirprwyol y penderfynwyd arnynt ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor hwn.

 

     Ymddiheurodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio am osodiad y rhestr ddirprwyol a bod y diwyg i'w briodoli i osod system gyfrifiadurol newydd yn yr Adran ac y gwneid pob ymdrech i wahanu yr amryfal benderfyniadau a chyhoeddi'r cyfan yn ddwyieithog erbyn y cyfarfod nesaf.  Nodwyd na chafodd y ceisiadau a ganlyn eu pennu dan bwerau dirprwyol a chamgymeriad oedd eu cynnwys yn y rhestr:

 

      

 

     10C92 (25 Bro Branwen, Aberffraw); 38C152A (Hen Neuadd y Pentref, Llanfechell); 39C277B (Tyddyn Mostyn, Porthaethwy); 39C380 (11 Fflatiau Maes y Coed, Porthaethwy).

 

 

 

10     APÊL - DEDDF CYNLLUNIO GWLAD A THREF 1990, ADRAN 78

 

      

 

10.1      TIR YM MRYNTIRION, TALWRN

 

      

 

     Cyflwynwyd a nodwyd adroddiad yr Arolygydd a benodwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yng nghyswllt apêl yn erbyn methiant yr Awdurdod hwn i roddi rhybudd, y tu mewn i'r cyfnod cydnabyddedig, o benderfyniad ar gais am ganiatâd cynllunio amlinellol i godi annedd newydd a darparu mynedfa newydd i gerbydau (rhif 23C219); gwrthodwyd yr apêl.

 

      

 

11     HYFFORDDIANT

 

      

 

     Nodwyd bod sesiwn hyfforddi wedi'i chynnal ar faterion tai a phriffyrdd ar ddydd Mawrth, 2 Tachwedd, 2004.

 

      

 

     CYTUNWYD i nodi'r uchod.

 

      

 

     Daeth y cyfarfod i ben am 6.25 p.m.

 

      

 

     Y CYNGHORYDD R L Owen

 

     CADEIRYDD