Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion dogfennau , 3 Rhagfyr 2003

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Dydd Mercher, 3ydd Rhagfyr, 2003

PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION

 

   Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 3 Rhagfyr 2003

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd R.Ll. Hughes, Cadeirydd

Y Cynghorydd J. Arwel Edwards, Is-Gadeirydd

 

Y Cynghorwyr D.D. Evans, P.M. Fowlie, Dr. J.B. Hughes,

O. Glyn Jones, O. Gwyn Jones, W. Emyr Jones, R.L. Owen,

Goronwy Parry MBE, John Roberts, J. Arwel Roberts,

W.T. Roberts, H.W. Thomas, W.J. Williams.

 

 

 

WRTH LAW:

 

Cynllunio:

Rheolwr Rheoli Cynllunio (DFJ)

Arweinydd Tîm - Gorfodaeth - Mwynau a Gwastraff (JIW) (ar gyfer cais 33C190J, eitem 4.4)

Cynorthwywyr Cynllunio (GO a EH)

 

Priffyrdd:

Uwch Beiriannydd (Rheoli Datblygu a Llwybrau Cyhoeddus)(JRWO)

Swyddog Rheoli Datblygu (RE)

 

Ar gyfer eitem 34C478A, eitem 4.5:

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol)

Rob Evans (Ymddiriedolaeth Iechyd Gwynedd/Gwasanaethau Cymdeithasol)

 

Cyfreithiwr (RWJ)

Cynorthwywr Gweinyddol (CWP)

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Y Cynghorydd Gwyn Roberts.

 

 

 

HEFYD YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorwyr G. Allan Roberts - aelod lleol ar gyfer cais 19C824, eitem 4.2

Fflur Hughes a Rhian Medi - aelodau lleol ar gyfer cais 34C478A, eitem 4.5

 

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at farwolaeth y Cynghorydd Richard Jones OBE yn ddiweddar - un a fu'n aelod ffyddlon o'r Awdurdod hwn ers blynyddoedd; a safodd yr aelodau mewn distawrwydd fel arwydd o barch.  

 

1

DATGAN DIDDORDEB

 

Cafwyd datganiadau o ddiddordeb gan Aelodau a Swyddogion a chânt eu cofnodi dan yr eitemau perthnasol.

 

2

COFNODION

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd cofnodion y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gyfarfu ar 5 Tachwedd, 2003.(Cyfrol y Cyngor 11 Rhagfyr, 2003 tudalennau 89 - 98)

 

 

RHAN 1 - MATERION CYNLLUNIO

 

 

 

3

YMWELIADAU Â SAFLEOEDD

 

 

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd yr adroddiad ar yr Ymweliadau â Safleoedd ar 19 Tachwedd 2003.

 

 

 

YN CODI:

 

 

 

34C478A - TIR GER CILDWRN, LLANGEFNI

 

Er mwyn cof a chadw cytunwyd i ddiwygio brawddef olaf eitem 1 i ddarllen "Ar ddiwedd yr 'ymweliad' derbyniodd y Cadeirydd ddeiseb a gyflwynwyd gan breswylwyr lleol."

 

 

 

19C824 - 5 TREHWFA CRESCENT, CAERGYBI

 

"Mewn ymateb i gynnig y Cynghorydd John Roberts a eiliwyd gan y Cadeirydd cytunwyd i ddiwygio brawddeg olaf eitem 3 i ddarllen:

 

 

 

"Mynegodd y Cadeirydd a'r Cynghorydd John Roberts sylwadau i'r perwyl mai'r unig beth a wnaeth y preswylydd oedd cyflwyno'r ffeithiau 'a oedd yn amlwg' cyn y Pwyllgor ac ni ddywedodd unrhyw beth amhriodol.".

 

 

 

4

CEISIADAU'N CODI O'R COFNODION

 

 

 

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

4.1

12C66F - ADDASU AC EHANGU YNGHYD Â NEWID DEFNYDD Y GANOLFAN FOROL I FOD YN WESTY, BAR A LLE BWYTA YN THE OLD BATHS, BIWMARES

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y swyddogion yn parhau i wneud gwaith ymgynghori gydag asiant yr ymgeiswyr a rhagwelwyd y buasent mewn sefyllfa i gyflwyno adroddiad i gyfarfod Ionawr y Pwyllgor hwn.

 

 

 

Roedd y Cynghorydd R.L. Owen yn pryderu ynghylch yr oedi cyn penderfynu ar y cais.

 

 

 

PENDERFYNWYD cytuno i gais y Rheolwr Rheoli Cynllunio i ohirio ystyried y cais uchod hyd nes cwblhau'r gwaith ymgynghori.

 

 

 

4.2

19C824 - CODI ESTYNIAD AR Y PORTS AR Y TU BLAEN YNGHYD AG ESTYNIAD AR Y LLAW CYNTAF AR Y TU CEFN YN 5 TREHWFA CRESCENT, CAERGYBI

 

 

 

Dywedodd y Cadeirydd bod y cais hwn wedi'i ohirio yn y cyfarfod diwethaf ac ymwelodd yr aelodau â'r safle ar 19 Tachwedd 2003 i ddeall yn well amgylchiadau'r tir a'i asesu.

 

 

 

Ychwanegodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod yr ymateb i gyhoeddusrwydd wedi cael sylw yn adroddiad y swyddog a daeth rhagor o sylwadau i law a chafodd y rheini eu cynnwys gyda'r bwndel o lythyrau oedd ar gael yn y cyfarfod.  Hefyd, gyda'r bwndel, cynhwyswyd gohebiaeth yr ymgeiswyr.  

 

 

 

Yn ei anerchiad dywedodd y Cynghorydd G. Allan Roberts, yr aelod lleol, ei fod yn pryderu ynghylch yr estyniad yng nghefn yr eiddo am ei fod y tu draw i'r llinell 45 gradd o'r pwynt agosaf i ffenestr ystafell oedd yn cael ei defnyddio yn y ty cyffiniol, ac o'r herwydd nid oedd y bwriad yn cydymffurfio gyda'r polisïau.  Buasai rhoddi caniatâd i'r cais hwn yn cael rhagor o effaith ar bleserau'r ty cyffiniol.

 

 

 

Teimlo oedd rhai aelodau nad oedd adroddiad y swyddog yn glir ac i ryw raddau yn gamarweiniol.  Credai rhai bod yr estyniad unllawr yn y cefn eisoes yn cael effaith fawr ar y goleuni i'r ty cyffiniol ac yn cael effaith ar eu pleserau nhw.

 

 

 

Gofynnodd y Cynghorydd W.J. Williams am eglurhad ar y datganiad "nad oedd y cynnig yn cydymffurfio'n llawn gyda'r canllawiau yn y Canllawiau Cynllunio Atodol" (y paragraff olaf ar dudalen 9 adroddiad y swyddog).

 

 

 

Yn ei ymateb dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio, nad oedd ef, fel swyddog proffesiynol, yn credu bod effaith y cynnig hwn yn ddigon negyddol i gyfiawnhau gwrthod y cais a bod ymchwil fanwl wedi'i gwneud i'r sefyllfa.  Darpariaeth i'w defnyddio fel canllawiau yn unig oedd y Canllawiau Cynllunio Atodol, nid polisi a pha 'run bynnag roedd rhywfaint o ddehongli ynghlwm wrth bolisïau cynllunio.  Cadarnhau a wnaeth y cyfreithiwr nad oedd hawliau i oleuni yn ddigon trwm i wrthod caniatâd.  Roedd y cynnig gerbron yn cydymffurfio gyda'r Nodyn Cyngor Technegol 12 (Cymru) (dyluniad).  Fodd bynnag, nododd y swyddog beth yr oedd yr aelodau yn ei ddweud ond ychwanegodd, er gwaethaf yr asesiad proffesiynol a wnaed ar y sefyllfa, mai mater o ddehongliad oedd dyluniad ac nid oedd yn ddigon i gyfiawnhau gwrthodiad yn yr achos hwn.  Argymhellodd roddi caniatâd i'r cais yn unol ag adroddiad y swyddog.

 

 

 

Gan y Cynghorydd R.L. Owen cafwyd cynnig i wrthod am nad oedd y cynnig yn cydymffurfio'n llawn gyda'r canllawiau yn y Canllawiau Cynllunio Atodol yng nghyswllt altro ac ymestyn tai ac eiliwyd ef gan y Cynghorydd W.J. Williams.  Roeddid yn teimlo bod yr estyniad unllawr oedd eisoes yno yn barod yn cael effaith andwyol ar bleserau y ty cyffiniol ac ai pethau o ddrwg i waeth wrth ychwanegu at uchder yr estyniad hwnnw.  

 

 

 

Cynigiodd y Cynghorydd J. Arwel Edwards dderbyn adroddiad y swyddog a chymeradwyo'r cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Tecwyn Roberts.

 

 

 

Pleidleisiodd yr Aelodau fel a ganlyn:

 

 

 

Gwrthod y cais - 8 pleidlais

 

Cymeradwyo'r cais - 5 pleidlais

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor gohiriwyd y cais tan gyfarfod nesaf y Pwyllgor er mwyn cael cyfle i ystyried adroddiad ar oblygiadau gwrthod caniatâd a rhoddi cyfle eto i benderfynu'n derfynol ar y cais.

 

 

 

4.3

29C102 - CAIS AMLINELLOL AR GYFER CODI ANNEDD YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD A GOSOD SYSTEM TRIN CARTHFFOSIAETH NEWYDD AR DIR YN BODHELEN, LLANFAETHLU

 

 

 

Dywedodd y Cadeirydd bod y swyddogion yn y cyfarfod diwethaf wedi argymell gwrthod y cais hwn am resymau diogelwch y briffordd ac ymwelodd yr Aelodau â'r safle ar 19 Tachwedd, 2003 i gael gwell syniad am y briffordd.

 

 

 

Er mwyn cadw cofnod dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio nad oedd y cais yn gwyro a'i fod yn cydymffurfio gyda'r polisïau cynlllunio cyfredol ac argymhellwyd gwrthod am resymau diogelwch y briffordd yn unig.

 

 

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd R.L. Owen dywedodd y Swyddog Priffyrdd bod ei adran ef newydd ddechrau gwneud gwaith ymgynghori ar y posibilrwydd o ostwng y cyflymdra uchaf o 60 mya i 40 mya ar hyd y darn hwn o'r ffordd.

 

 

 

Cynigiodd y Cynghorydd John Roberts dderbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais am y rhesymau yn yr adroddiad a chafodd ei eilio gan y Cynghorwyr R.L. Owen a W.J. Williams.

 

 

 

PENDERFYNWYD gwrthod y cais am y rhesymau yn adroddiad y swyddog.

 

 

 

4.4

33C190J - DEFNYDDIO TIR AR GYFER SAFLE GWEITHREDWYR SGIPIAU YNGHYD Â GOSOD PORTACABIN, TOILED A LLE BWYTA AR DIR CHWAREL BWLCH GWYN, Y  GAERWEN

 

 

 

Yn y cyfarfod cynt roedd yr aelodau yn dymuno gwrthod y cais a hynny'n groes i argymhelliad y swyddogion, sef caniatáu; dyma'r rhesymau o blaid gwrthod:

 

 

 

Ÿ

bod y tair ffordd sy'n rhedeg at y safle yn rhy gul ac yn anaddas i dderbyn traffig trwm a lorïau mawrion  yn rheolaidd (o fynedfa'r safle tuag at yr A5 ym Mhentre Berw; ar hyd Lôn Ceint tuag at Lôn Penmynydd ac ar hyd Lôn Graig tuag at swyddfa'r Post yn y pentref) ac nid yw'r rhwydwaith lleol o ffyrdd yn addas i dderbyn cynnydd yn y traffig.

 

Ÿ

o gofio bod yr ymgeisydd yn cynnal busnes ar draws y cyfan o Ogledd Cymru nid yw, o'r herwydd, yn 'fusnes lleol', nid yw'n ddatblygiad cynaliadwy ac felly ddim yn cydymffurfio gyda TAN 21 (trin gwastraff cyn agosed ag y bo'n bosib i'r ffynhonnell), a hefyd oherwydd yr egwyddor bod cwmni arall gyda busnes cyffelyb yn lleol.

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y cais, dan Gyfansoddiad y Cyngor, wedi ei ohirio er mwyn cael cyfle i ystyried adroddiad ar oblygiadau gwrthod caniatâd a hefyd i benderfynu ar y cais.  

 

 

 

Nid oedd Adran Briffyrdd y Cyngor, yn ôl yr Arweinydd Tîm - Gorfodaeth, Mwynau a Gwastraff, wedi gwrthwynebu'r bwriad ac roedd y ffordd o Bentre Berw i gyffordd safle'r cais yn cynnwys lôn dwy ffrwd gyda marciau yn y canol.  Roedd lled y ffordd yn amrywio o 6.3 metr ger cyffordd yr A5 i 6.7 metr ger y capel a'r cyfartaledd yn 5.3 metr ymhellach i lawr hyd at ei chyffordd gyda Lôn Graig.  Ar ôl cwblhau'r A55 roedd Laing wedi gwella y darn o'r ffordd ac wedi codi ei safon.  Dan Bolisi 6 Cynllun Lleol Ynys Môn roedd y safle hwn wedi'i neilltuo ar gyfer "defnydd cymydog drwg".

 

 

 

Yn ôl y swyddog roedd TAN 21 yn pwysleisio bod rhaid rheoli gwastraff cyn agosed ag y bo'n bosib i'w ffynhonnell, ac yn bennaf oherwydd bod cludo gwastraff ynddo'i hun yn cael effaith ddrwg ar yr amgylchedd.

 

 

 

Ynghlwm wrth adroddiad y swyddog roedd llythyr gan yr ymgeiswyr yn ymateb i bryderon y Pwyllgor ac yn dweud:

 

 

 

Ÿ

mai'r ffordd o Bentref Berw fuasai'r prif lwybr a gâi ei ddefnyddio ganddynt i'r safle ac ohono a'r lorïau yn cyrraedd o gyfeiriad Llangefni i bwrpas osgoi pentref Gaerwen a hon hefyd oedd y ffordd hwylusaf (ac eithrio mynd trwy'r pentref ei hun).

 

Ÿ

Roedd tua 50% o'r gwaith yn cael ei wneud yn Ynys Môn a'r gweddill yng Ngwynedd, a'r holl wastraff yn cael ei gludo fel arfer i safleoedd tirlenwi yn y Cilgwyn ac ym Mhenhesgyn.

 

Ÿ

Yn y tymor hir roeddid yn bwriadu defnyddio gweddill y safle fel canolfan trosglwyddo gwastraff gyda'r amcan o ailgylchu y rhan fwyaf o'r deunydd a gesglir yn Ynys Môn.

 

Ÿ

I bwrpas cofnod, roedd yr ymgeiswyr yn dymuno dadgysylltu eu hunain yng nghyswllt cyflwr blêr y safle.  Roedd Asiantaeth yr Amgylchedd yn rheolaidd yn cynnal archwiliadau yng nghanolfannau cyfredol yr ymgeiswyr a gallent gadarnhau'r datganiad hwn.  

 

 

 

Yma dywedodd y Cynghorydd Emyr Jones unwaith eto ei fod yn dymuno gwrthod y cais ac yn enwedig oherwydd bwriad yr ymgeisydd yn y dyfodol i wneud rhagor o waith datblygu yn y lle er mwyn darparu canolfan trosglwyddo gwastraff.  Hefyd credai bod y ffordd fynediad y cyfeiriwyd ati yn annigonol i waith o'r fath.  

 

 

 

Petai'r cais hwn yn cael ei wrthod a phetai'r ymgeisydd yn apelio yn erbyn y penderfyniad dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio na fedrai ei swyddogion amddiffyn penderfyniad o'r fath. Credai nad oedd y rhesymau a roddwyd yn ddigonol i gyfiawnhau gwrthod.   Hefyd atgoffodd yr aelodau nad oedd cynigion yn y dyfodol ar gyfer y safle yn rhan o'r ystyriaeth a buasai'n rhaid ystyried y cais fel yr oedd yn sefyll.  

 

Atgoffodd y cyfreithiwr yr aelodau, petaent yn gwrthod y cais hwn, yna gellid apelio yn erbyn gwrthodiad a'r tebygrwydd y câi caniatâd ei roddi.  Yn ychwanegol roedd hi'n debygol y dyfernid costau yn erbyn y Cyngor ar apêl.   Roedd y swyddogion wedi dweud na fedrent gynrychioli'r Cyngor ar apêl ac o'r herwydd buasai'n rhaid i'r aelodau wneud gwaith o'r fath. Fel y mae rhai yn gwybod mae bwriad ar hyn o bryd i ddiwygio'r rheolau fel bod y cynigydd a'r eilydd yn cynrychioli'r Awdurdod mewn apeliadau o'r fath

 

 

 

Cynigiodd y Cynghorydd P.M. Fowlie wrthod y cais am y rhesymau a roddwyd o'r blaen a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Glyn Jones.

 

 

 

O 9 pleidlais PENDERFYNWYD gwrthod y cais am y rhesymau a roddwyd.

 

 

 

Ni phleidleisiodd y Cynghorwyr R.L. Owen na J. Arwel Roberts ar y cais.

 

 

 

Ar y pwynt hwn gadawodd y Cynghorydd Glyn Jones y cyfarfod.  

 

 

 

4.5

34C478A - CODI 6 BYNGALO, 6 FFLAT BYW'N ANNIBYNNOL AC 1 BYNGALO CYSYLLTIEDIG AR DIR GER CILDWRN, LLANGEFNI

 

      

 

     Oherwydd pryderon cryf iawn yn lleol dywedodd y Cadeirydd bod yr aelod lleol a'r aelod i'r ward gyffiniol wedi derbyn gwahoddiad i siarad yn y cyfarfod.  Ar yr achlysur hwn roedd Mr. Byron Williams, Cyfarwyddwr Corfforaethol Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol hefyd wedi derbyn gwahoddiad i ateb cwestiynau ynghylch y cais.  Atgoffodd y Cadeirydd yr aelodau bod angen ystyried y cais yn ôl egwyddorion cynllunio perthnasol.  

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod yr aelodau wedi ymweld â'r safle ar 19 Tachwedd 2003 i ddeall yn well effaith y datblygiad arfaethedig ar bleserau cymdogion.  Y Cyngor oedd perchennog safle'r cais a chafwyd sylwadau gan gyrff yr ymgynghorwyd yn statudol gyda nhw ond nid oedd neb yn gwrthwynebu.  Yn y bwndel o lythyrau ar y bwrdd yn y cyfarfod roedd y rheini a wrthwynebai.  

 

      

 

     Safle gwag oedd yma y tu mewn i ffiniau tref Llangefni ac a fu gynt yn ddepo i'r Cyngor.  Ar y tir ac o'i gwmpas roedd nifer o goed ac o wrychoedd hen - rhai bytholwyrdd a rhai yn colli eu dail.  Yn ffrynt safle'r cais rhed y B5109 ac o'i gwmpas roedd tai - rhai o bob oed ac amrywiol ddyluniadau.  Heb fod ymhell tua'r de-ddwyrain roedd tiroedd Ysgol Gyfun Llangefni a'r bwriad oedd symud y fynedfa bresennol a darparu cyfleusterau parcio cymunedol a llecyn troi yn ganolog ar y safle.  

 

      

 

     Ychwanegodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio mai'r polisïau perthnasol a ystyriwyd wrth wneud argymhelliad y swyddog i'r Pwyllgor oedd Polisïau A1, A2, D4, D20, D29 ac F11 Cynllun Fframwaith Gwynedd; polisïau 1, 42, 48, 49 a 51 Cynllun Lleol Ynys Môn.  Roedd y cynnig yn ymateb yn gadarnhaol i'r polisïau a hefyd y tu mewn i ddarpariaeth Dosbarth C3 (Tai) Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Dosbarthiadau Defnydd) 1987 sy'n caniatáu darparu elfen o ofal i'r preswylwyr.  Argymhellodd bod aelodau yn caniatáu'r cais.  

 

      

 

     Er bod Mr. Byron Williams yn gwerthfawrogi pryderon yr aelodau dywedodd bod peth camddealltwriaeth a bod pobl wedi gorymateb i'r bwriad.  Y nod oedd darparu cyfleusterau i bobl leol oedd angen cefnogaeth er mwyn rhoi iddynt fwy o annibyniaeth.  Roedd rhai ohonynt eisoes yn byw yn y gymuned ac yn methu gofalu am eu hunain yn ddigon da.  Gyda chyfleusterau fel y rhain gallent ddarparu bywyd o safon uwch i'r unigolion - heb y cyfleusterau efallai y buasai'n rhaid iddynt fynd i ofal preswyl.   Gallai anghenion y tenantiaid amrywio - cymorth gyda glendid personol ar y naill law ac ar y llaw arall sicrhau bod meddyginiaeth yn cael ei chymryd yn rheolaidd a hefyd cefnogaeth emosiynol.  Câi'r tenantiaid eu dewis yn ofalus a'u monitro gan y Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Tîm Iechyd Meddwl.

 

      

 

     Yn ei hanerchiad i'r cyfarfod dywedodd y Cynghorydd Rhian Medi bod pryder mawr iawn ymhlith y bobl leol.  Un o'r pryderon oedd y bwriad i ddarparu fflatiau.  Heb ragfarn ond yn gyffredinol nid oeddid yn credu mai hwn oedd y lle gorau i ddatblygiad o'r fath, gan ei fod yn agos i'r ysgolion ac i'r cyfleusterau hamdden.  Gallai'r datblygiad greu llety i bobl fregus a'r rheini wedyn yn dargedau rhwydd i bob math o droseddau.  Teimlai hi y buasai'r datblygiad hwn yn ychwanegu at broblemau traffig o gwmpas yr ysgolion a'r cyfleusterau hamdden ar adegau penodol o'r dydd.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd Medi yn dwyn sylw at y ffaith mai rhan yn unig o'r safle gâi ei datblygu a gofynnodd pwy fydd yn cymryd y cyfrifoldeb am glirio a chynnal a chadw y gweddill, a pham nad oedd y tir yn cael ei gynnig ar y farchnad agored?

 

      

 

     Mewn ymateb dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio nad oedd mewn sefyllfa i gyflwyno sylwadau ar werthu tir y Cyngor ac y dylid ystyried y cais yn ôl egwyddorion defnydd tir yn unig.  Nid oedd yr adran Briffyrdd yn gwrthwynebu symud y fynedfa.  

 

      

 

     Yn ei hanerchiad i'r Pwyllgor dywedodd y Cynghorydd Fflur Hughes, yr aelod lleol, bod darparu cyfleusterau o'r fath wedi eu trafod yn y Pwyllgor Gwaith ac roedd hwnnw yn cydnabod yr angen yn y gymuned.  Roedd hi'n cefnogi'r egwyddor o ddarparu ond yn teimlo'n gryf bod y lleoliad arbennig hwn yn gwbl anaddas ac yn rhy bell o siopau'r dref.

 

      

 

     Cytunodd Mr. Byron Williams i gysylltu gyda'r Cynghorydd Hughes ar y pryderon a gododd.

 

     Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd W.J. Williams ynghylch a oedd identiti y preswylwyr yn ystyriaeth gynllunio o bwys dywedodd y Cyfreithiwr nad oedd a bod rheolau eraill y tu allan i'r maes cynllunio y gellid troi atynt i reoli materion preswylio.  

 

      

 

     Teimlo roedd y Cynghorydd John Roberts y dylai penderfyniad o'r fath gael ei wneud gan y Cyngor Sir, nid gan y Pwyllgor Cynllunio.  

 

      

 

     Wedyn cafwyd cynnig gan y Cynghorydd Hefin Thomas i dderbyn argymhelliad y swyddog a rhoddi awdurdod i Bennaeth y Gwasanaeth Cynllunio ganiatáu'r cais, ond gyda'r amodau yn adroddiad y swyddog ac ar ôl cwblhau gwaith ymgynghori yn foddhaol - cafodd ei eilio gan y Cynghorydd Emyr Jones.

 

      

 

     O 11 pleidlais PENDERFYNWYD rhoddi'r awdurdod i Bennaeth y Gwasanaeth Cynllunio ganiatáu'r cais gyda'r amodau yn adroddiad y swyddog ac os cwblheir y gwaith ymgynghori'n foddhaol.

 

      

 

     Ni phleidleisiodd y Cynghorydd P.M. Fowlie ar y mater tra oedd y Cynghorwyr John Roberts a David Evans yn dymuno cofnodi eu bod nhw yn gwrthwynebu'r bwriad.  

 

      

 

4.6

46C137D - 46C137D - CAIS LLAWN AR GYFER CODI 34 O DAI TRI LLAWR YNGHYD   CHREU MYNEDFA I GERBYDAU A CHERDDWYR AR DIR YN THE OLD CRICKET GROUND, TREARDDUR

 

      

 

     Yn y cyfarfod cynt cytunodd yr aelodau i gais y Rheolwr Rheoli Cynllunio i ohirio ystyried yr eitem hyd nes cwblhau gwaith ymgynghori gydag asiant yr ymgeisydd.

 

      

 

     Ychwanegodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio eu bod yn dal i fethu symud ymlaen hyd nes cwblhau'r holl waith ymgynghori perthnasol.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu cais y Rheolwr Rheoli Cynllunio i ohirio ystyried y cais uchod hyd nes cael y cyfan o'r wybodaeth yn ôl yn sgil y broses ymgynghori.                     

 

      

 

5     CEISIADAU ECONOMAIDD

 

      

 

     Ni chafwyd yr un cais economaidd i'w ystyried yn y cyfarfod.

 

      

 

6     CEISIADAU'N GWYRO

 

      

 

     Ni chafwyd yr un cais yn gwyro.

 

      

 

7     GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

7.1

17C347 - CAIS AMLINELLOL AR GYFER CODI ANNEDD YNGHYD AG ADDASU'R FYNEDFA BRESENNOL YN PARC BELLIS, HEN LLANDEGFAN

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio y buasai o fudd i'r aelodau ymweld â'r safle i ddeall yn well beth fydd effaith y datblygiad arfaethedig cyn gwneud penderfyniad arno.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â'r safle am y rhesymau uchod cyn penderfynu ar y cais.

 

      

 

7.2

19C528B - CODI GORSAF BWMPIO NEWYDD YNGHYD AG ADDASU'R FYNEDFA BRESENNOL I GERDDWYR AR DIR YN MARINE SQUARE, CAERGYBI

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod sawl cais cyffelyb gerbron yn y Pwyllgor hwn a bod pob un ychydig yn wahanol i'w gilydd.  

 

      

 

     Dygwyd y cais hwn i'r Pwyllgor gan fod rhan ohono yn eiddo i'r Cyngor a nodwyd nad oedd Gwasanaeth Cynllunio Archaeolegol Gwynedd yn gwrthwynebu'r cais.

 

      

 

     Mae'r safle ger Teras Fair View, Sgwâr Marine, Caergybi yng nghyffiniau'r fynedfa i Ynys Halen a'r offer pwmpio sydd yno ar y safle union ger y toiledau cyhoeddus yng nghyffiniau y maes parcio cyhoeddus bychan.  Mae'r safle yn ardal Gadwraeth Traeth y Newry.

 

      

 

     PENDERFYNWYD rhoddi'r awdurdod i Bennaeth y Gwasanaeth Cynllunio ganiatáu'r cais gyda'r amodau yn adroddiad y swyddog ac os cwblheir y gwaith ymgynghori'n foddhaol.

 

      

 

7.3

19C792A - CYNLLUNIAU DIWYGIEDIG I DROI'R ADEILAD PBRESENNOL YN HOSTEL IEUENCTID HUNANGYNHALIOL GYDA 24 GWELY,  TY'R WARDEN GYNT, PARC GWLEDIG Y MORGLAWDD, CAERGYBI

 

      

 

     Dygwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan fod y safle ar dir sy'n eiddo i'r Cyngor.

 

      

 

     Mae'r cynnig hwn yn gynllun diwygiedig i newid y defnydd o'r annedd a'r adeiladau cysylltiedig gan greu Hostel Ieuenctid (caniatâd dan rif 19C792 ar 20/03/03).  Mae'r cynllun yn cynnwys estyniad unllawr i'r annedd er mwyn creu rhagor o le bwyta.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau yn adroddiad y swyddog a chyda'r amodau yn yr adroddiad hwnnw.

 

      

 

7.4

19C834 - CODI GORSAF BWMPIO NEWYDD YNGHYD AG ADDASU'R FYNEDFA I GEIR A CHERDDWYR AR DIR GER ALOTMENTAU HIBERNIA ROW, CAERGYBI

 

      

 

     Dygwyd y cais i'r Pwyllgor benderfynu arno gan fod rhan o'r safle yn eiddo i'r Cyngor a nodwyd nad oedd Gwasanaeth Cynllunio Archaeolegol Gwynedd wedi gwrthwynebu.  Cafwyd un llythyr yn cynnwys sylwadau ac roedd hwnnw yn y bwndel o lythyrau ar gael yn y cyfarfod.

 

      

 

     Mae'r safle union ger gerddi alotment Rhes Hibernia ar ffordd Tywysog Cymru.  Cyrhaeddir y safle ar hyd lôn arw rhwng y cae chwarae a'r gerddi alotment.  Llecyn glaswelltog yw'r safle i'r gogledd-orllewin o dai Rhes Hibernia.  Defnyddir y llecyn gerllaw i bwrpas cadw cychod.  Cyflwynwyd llythyr yn cynnwys sylwadau yn y cyfarfod.

 

      

 

     PENDERFYNWYD rhoddi'r awdurdod i Bennaeth y Gwasanaeth Cynllunio ganiatáu'r cais gyda'r amodau yn adroddiad y swyddog ac os cwblheir y gwaith ymgynghori'n foddhaol.

 

      

 

7.5

19C835 - CODI GORSAF BWMPIO NEWYDD YNGHYD AG ADDASU'R FYNEDFA BRESENNOL I GERBYDAU A CHERDDWYR AR DIR GER FFATRI MEM, FFORDD BEIBIO, MORAWELON, CAERGYBI

 

      

 

     Dygwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan fod rhan o'r safle yn eiddo i'r Cyngor.

 

      

 

     Mae'r safle tua'r gogledd o ffatri MEM ar Ffordd Beibio, Morawelon a ger safle yr offer pwmpio.  Cyrhaeddir y lle ar hyd mynedfa sydd wedi'i ffensio ar draws safle'r ffatri.

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd Arwel Roberts a fuasai cais ar wahân yn cael ei gyflwyno yng nghyswllt y beipen arllwys.  Fel rhan o'r cais roedd tanc i ddal dwr stormydd ac argymhellodd y Cynghorydd Roberts ohirio ei ystyried hyd nes derbyn rhagor o fanylion am y tanc hwnnw.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod peipiau arllwys a gwaith cysylltiedig yn cyfateb i ddatblygiadau a ganiateir ac yn annhebyg o fod angen caniatâd cynllunio.  

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd Goronwy Parry dderbyn argymhellion y swyddog o roddi caniatâd a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd R.L. Owen.

 

      

 

     PENDERFYNWYD rhoddi'r awdurdod i Bennaeth y Gwasanaeth Cynllunio ganiatáu'r cais gyda'r amodau yn adroddiad y swyddog ac os cwblheir y gwaith ymgynghori'n foddhaol.

 

        

 

7.6

28LPA833/CC - CODI ESTYNIAD AR Y LLAWR ISAF YN 35 TREM Y MOR, RHOSNEIGR

 

      

 

     Dygwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan ei fod wedi'i gyflwyno gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol) ar dir sy'n eiddo i'r Cyngor.

 

      

 

     Nodwyd mai bwriad oedd yma i greu ystafell wely ac ystafell ymolchi i berson methedig.   

 

      

 

     Gan y Cynghorydd P.M. Fowlie cafwyd cynnig i dderbyn argymhelliad o ganiatáu gan y swyddog a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Goronwy Parry.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau yn adroddiad y swyddog a chyda'r amodau yn yr adroddiad hwnnw.

 

      

 

7.7

30C192 - CAIS AMLINELLOL AR GYFER DYMCHWEL HEN WESTY A CHODI 22 O  FFLATIAU YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD A MAN PARCIO CYSYLLTIEDIG YNG NGWESTY RHOSTREFOR, LÔN AMLWCH, BENLLECH

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio y buasai'n fanteisiol i'r aelodau ymweld â'r safle uchod i ddeall yn well, cyn penderfynu ar y cais, beth fydd ei effaith.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â'r safle am y rhesymau uchod cyn penderfynu ar y cais.

 

      

 

7.8

32C117 - CODI GORSAF BWMPIO NEWYDD YNGHYD AG ADDASU'R FYNEDFA BRESENNOL I GEIR A CHERDDWYR AR DIR Y TU ÔL I'R ORSAF BWMPIO YN STAD TRE IFAN, CAERGEILIOG

 

      

 

     Dygwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan fod rhan ohono yn eiddo i'r Cyngor.

 

      

 

     Mae offer pwmpio ar y safle'n barod a bydd gwair yn cael ei dyfu ar y rhan honno fel rhan o'r cynllun.  Bwriedir torri trwy'r gwrych yng nghefn y safle ac i'r tir cyffiniol a bydd gwrych newydd i guddio yn cael ei sefydlu fel ffin yng nghefnau'r safle.

 

      

 

     PENDERFYNWYD rhoddi'r awdurdod i Bennaeth y Gwasanaeth Cynllunio ganiatáu'r cais gyda'r amodau yn adroddiad y swyddog ac os cwblheir y  gwaith ymgynghori'n foddhaol.

 

      

 

7.9

34C13G - CAIS AMLINELLOL AR GYFER CODI BYNGALO DORMER AR DIR GER DALAR WEN, RHOSMEIRCH

 

      

 

     Yr aelod lleol ofynnodd am drosglwyddo'r cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y safle union y tu cefn ac yng nghardd annedd sydd yng nghanol y pentref.  Mae'r bwriad yn cyfateb i ddatblygiad cefndirol annerbyniol a gwrthodwyd cais cyffelyb yn gynharach eleni.   Cafwyd argymhelliad o wrthod gan y swyddog am y rhesymau a nodwyd yn ei adroddiad.  

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd O. Gwyn Jones dderbyn argymhelliad o wrthod gan y swyddog a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Arwel Roberts.

 

      

 

     PENDERFYNWYD gwrthod y cais am y rhesymau a nodir  yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

7.10

35C207D - ESTYNIAD A NEWID DEFNYDD YR HEN FELIN I DDEFNYDD GWYLIAU YN YR HEN FELIN WYNT, LLANGOED

 

      

 

     Datganodd y Cynghorydd Hefin Thomas ddiddordeb yn y cais hwn ac ni chymerodd ran yn y drafodaeth nac yn y pleidleisio.

 

      

 

     Y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cynllunio a'r Amgylchedd) a ddygodd y cais i'r Pwyllgor benderfynu arno.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio mai'r bwriad oedd ymestyn y felin wynt a darparu   cegin a chawod a newid y defnydd i lety gwyliau.  Gwrthodwyd cais cyffelyb ar 8.04.2003 dan y rhif 35C207B  am y rheswm a ganlyn:

 

      

 

     "Mae'r rhwydwaith ffyrdd a'r cyffyrdd sy'n gwasanaethau'r safle yn is na'r safon ac felly gallai symudiadau traffig sy'n codi o'r datblygiad arfaethedig hwn gael effaith andwyol ar ddiogelwch y ffyrdd a pheri anhwylustod i'r rheini sy'n defnyddio'r ffyrdd ar hyn o bryd".

 

      

 

     Gwnaed gwaith ymgynghori gyda'r cyrff statudol yr oedd yn rhaid ymgynghori gyda nhw a chafwyd argymhelliad gan yr Adran Briffyrdd i wrthod y cais am resymau diogelwch y briffordd.

 

      

 

     Yn y gorffennol roedd caniatâd wedi'i roddi i adnewyddu'r felin, ond cyfyngu'r defnydd ohoni ynghlwm wrth y defnydd preswylio o'r eiddo cyffiniol, Tan y Felin.  Cyfyngwyd ar yr ystafelloedd

 

      

 

     i bwrpas y defnydd hwn, sef dim caniatâd i ddarparu cegin nac ystafell wely.  Gyda'r cyfyngiadau roedd modd sicrhau na fuasai'r felin yn cynhyrchu traffig ac roedd pryderon gwirioneddol am y fynedfa a rhwydwaith y ffyrdd i'r safle.  

 

      

 

     Eglurodd yr Uwch Beiriannydd bod dadansoddiad o asesiad traffig ac a gyflwynwyd ar ran yr ymgeisydd yn dangos nad oedd y ffordd yn cyrraedd y safon, ei bod yn gul a bod anawsterau gweld yn y cyffyrdd.

 

      

 

     Roedd y swyddog yn argymell gwrthod am y rhesymau a roddwyd o'r blaen yng nghyswllt cais blaenorol.

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd Goronwy Parry dderbyn argymhelliad y swyddog yn ei adroddiad, sef gwrthod a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Arwel Roberts.

 

      

 

     PENDERFYNWYD gwrthod y cais am y rhesymau a nodwyd  yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

7.11

35C216B - DYMCHWEL YR ANNEDD YNGHYD Â CHODI ANNEDD NEWYDD A GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD YN NHAN Y FELIN, LLANGOED

 

      

 

     Gwnaeth y Cynghorydd Hefin Thomas ddatganiad o ddiddordeb yn y cais ac ni chymerodd ran yn y drafodaeth nac yn y pleidleisio.

 

      

 

     Dygwyd y cais i'r Pwyllgor benderfynu arno ar gais y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cynllunio a'r Amgylchedd).

 

      

 

     Wedyn eglurodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod yma fwriad i ddymchwel yr adeiladau ar y safle ac yn eu lle godi annedd fwy gyda phwll nofio, a'r fynedfa'n aros fel yr oedd. Yn y bwndel o lythyrau rhoddwyd 11 o lythyrau'n gwrthwynebu a llythyr arall gan asiant yr ymgeisydd ond nodwyd nad oedd y Cyngor Cymuned wedi ymateb i'r ymgynghori.  

 

      

 

     Y polisiau cynllunio y rhoddwyd sylw iddynt oedd Polisiau 30 (Tirwedd - Ardaloedd o Brydferthwch Naturiol Eithriadol) a 54 (anheddau newydd yn lle hen rai) yng Nghynllun Lleol Ynys Môn.  Dan Bolisi 54 dywedir y dylai anheddau newydd yn lle hen rai adlewyrchu maint, graddfa, ac argraff yr adeilad wreiddiol.  Teimlwyd y buasai graddfa ac argraff yr annedd newydd yn ymyrryd mewn ffordd anghymarus â'r tirwedd sydd mewn Ardal o Brydferthwch Naturiol Eithriadol a gwnâi hynny ddrwg i gymeriad arbennig yr ardal.  Nid yw rhwydwaith y ffyrdd sy'n gwasanaethu'r safle yn cyrraedd y safon ac yn arbennig nid oes modd iddo dderbyn rhagor o draffig.  

 

      

 

     Cafwyd cynnig gan y Cynghorydd O. Gwyn Jones i dderbyn yr argymhelliad yn adroddiad y swyddog, sef gwrthod a chafodd ei eilio gan y Cynghorwyr Goronwy Parry a J.B. Hughes.

 

      

 

     Teimlo yr oedd y Cynghorydd Tecwyn Roberts bod yma egwyddor o "un annedd am un arall" a chynigiodd roddi caniatâd; teimlai'r Cynghorydd W.J. Williams y buasai'r cynnig yn asio gyda'r tirwedd coediog a theimlai na fuasai'n creu traffig ychwanegol ac eiliodd roddi caniatâd i'r cais.

 

      

 

     O 7 bleidlais i 6 PENDERFYNWYD gwrthod y cais am y rhesymau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

7.12

39LPA589H/CC - CODI NEUADD CHWARAEON YN YSGOL DAVID HUGHES, PORTHAETHWY

 

      

 

     Gwnaeth y Cynghorwyr J. Arwel Edwards ac R.L. Owen ddatganiad o ddiddordeb yn y cais ac nid oeddynt yn bresennol yn y cyfarfod yn ystod y drafodaeth na'r pleidleisio.

 

      

 

     Dygwyd y cais i'r Pwyllgor benderfynu arno gan mai'r cyflwynydd oedd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Priffyrdd, Cludiant ac Eiddo).

 

      

 

     PENDERFYNWYD rhoddi'r awdurdod i Bennaeth y Gwasanaeth Cynllunio ganiatáu'r cais gyda'r amodau yn adroddiad y swyddog ac os cwblheir y gwaith ymgynghori'n foddhaol.

 

      

 

7.13

43LPA213A/CC - DYMCHWEL YR ADEILADAU 'HORSA' PRESENNOL YNGHYD AG ADDASU AC EHANGU I GREU NEUADD FWYTA, CEGIN, CYNTEDD AC YSTAFELLOEDD CYSYLLTIEDIG YN YSGOL GYNRADD RHOSCOLYN, RHOSCOLYN

 

      

 

     Dygwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan iddo gael ei gyflwyno gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Priffyrdd, Cludiant ac Eiddo) ac ar dir sy'n eiddo i'r Cyngor.

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd Gwyn Jones dderbyn yr argymhelliad yn adroddiad y swyddog, sef caniatáu a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Goronwy Parry.

 

      

 

     PENDERFYNWYD rhoddi'r awdurdod i Bennaeth y Gwasanaeth Cynllunio ganiatáu'r cais gyda'r amodau yn adroddiad y swyddog ac os cwblheir gwaith ymgynghori'n foddhaol.

 

      

 

7.14

46C381 - CODI GORSAF BWMPIO NEWYDD YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GEIR A CERDDWYR AR DIR YN Y MAES PARCIO CYHOEDDUS, LÔN ST. FFRAID, TREARDDUR

 

      

 

     Dygwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan fod y safle yn eiddo i'r Cyngor a chafwyd cadarnhad gan y Rheolwr Rheoli Cynllunio nad oedd Gwasanaethau Cynllunio Archaeolegol Gwynedd yn gwrthwynebu.

 

      

 

     Mae'r safle union ger Ffordd Ravenspoint ym mhen deheuol pellaf maes parcio'r Cyngor ac union ger y toiledau cyhoeddus.

 

      

 

     PENDERFYNWYD rhoddi'r awdurdod i Bennaeth y Gwasanaeth Cynllunio ganiatáu'r cais gyda'r amodau yn adroddiad y swyddog ac os cwblheir gwaith ymgynghori'n foddhaol.

 

      

 

7.15

46C382 - CODI GORSAF BWMPIO NEWYDD YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU A CHERDDWYR AR DIR GER Y MAES PARCIO YN NHRAETH PENRHOS, CAERGYBI

 

      

 

     Dygwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan fod rhan o'r safle yn eiddo i'r Cyngor.

 

      

 

     Mae'r safle ger Traeth Penrhos, Caergybi ym maes parcio'r Cyngor Sir.  Ar y safle mae offer

 

     pwmpio union ger y toiledau; hefyd mae'r safle mewn ardal o Brydferthwch Naturiol Eithriadol.

 

      

 

     PENDERFYNWYD rhoddi'r awdurdod i Bennaeth y Gwasanaeth Cynllunio ganiatáu'r cais gyda'r amodau yn adroddiad y swyddog ac os cwblheir gwaith ymgynghori'n foddhaol.

 

      

 

7.16

49C217A - CODI GORSAF BWMPIO NEWYDD YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GEIR A CHERDDWYR AR DIR GER Y MAES PARCIO, LÔN YR ORSAF, Y FALI

 

      

 

     Dygwyd y cais i'r Pwyllgor benderfynu arno gan ei fod yn eiddo i'r Cyngor a hefyd gofynnodd yr Aelod Lleol i'r Pwyllgor wneud penderfyniad arno.  

 

      

 

     Mae'r safle ym maes parcio cyhoeddus, y Fali ger Ffordd yr Orsaf a nodwyd bod y coed yno wedi'u diogelu gan Orchymyn Diogelu Coed.  Nid oedd yr un gwrthwynebiad i gael gwared o lwyni blêr ar y llecyn caled o gwmpas yr adeilad rheoli a'r offer pwmpio.  Ar y safle roedd coeden sycamor a draenen fawr ond ni chaent effaith ar y bwriad a dylid eu cadw.

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd Gwyn Jones dderbyn yr argymhelliad yn adroddiad y swyddog sef caniatáu a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd W.J. Williams.

 

        

 

     PENDERFYNWYD rhoddi'r awdurdod i Bennaeth y Gwasanaeth Cynllunio ganiatáu'r cais gyda'r amodau yn adroddiad y swyddog ac os cwblheir gwaith ymgynghori'n foddhaol.

 

      

 

7.17

49C241 - CODI GORSAF BWMPIO NEWYDD YNGHYD AG ADDASU'R FYNEDFA I GEIR A CHERDDWYR AR DIR GER YR ORSAF BWMPIO BRESENNOL YN FFORDD Y TRAETH, GORAD, Y FALI.

 

      

 

     Yr aelod lleol ofynnodd am ddwyn y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno.

 

      

 

     Mae'r safle yn Ffordd y Traeth, Gorad, y tu cefn i Morafon.  Mae offer pwmpio ar dir cyffiniol ac mae'r safle ei hun mewn Ardal o Brydferthwch Naturiol Eithriadol.  Diwygiwyd y cynllun hwn i ddarparu ar gyfer llwybr cyhoeddus sy'n croesi'r safle.

 

      

 

     PENDERFYNWYD rhoddi'r awdurdod i Bennaeth y Gwasanaeth Cynllunio ganiatáu'r cais gyda'r amodau yn adroddiad y swyddog ac os cwblheir gwaith ymgynghori'n foddhaol.

 

      

 

7.18

49LPA834/CC - ESTYNIAD I'R CWRTIL YNGHYD Â CHODI ESTYNIAD AR Y LLAWR ISAF YN 43 TAN Y BRYN, Y FALI

 

      

 

     Dygwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno oherwydd ei gyflwyno gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol) ar dir sy'n eiddo i'r Cyngor.

 

      

 

     Y bwriad yma yw codi estyniad to crib ar y llawr isaf yn y cefn ac ar ochr yr eiddo ac ymestyn y libart.  Bwriad yr estyniad oedd creu ystafell wely ac ystafell ymolchi er mwyn person methedig.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau yn adroddiad y swyddog a chyda'r amodau yn yr adroddiad hwnnw.

 

      

 

      

 

8     CEISIADAU A DDIRPRWYWYD

 

      

 

     Cyflwynwyd a derbyniwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cynllunio a Gwasanaethau Amgylcheddol) ar geisiadau a ddirprwywyd ac y gwnaethpwyd penderfyniad arnynt ers cyfarfod dwiethaf y Pwyllgor hwn.

 

      

 

     YN CODI :

 

      

 

     CEISIADAU A DDIRPRWYWYD AC A GYMERADWYWYD

 

      

 

     45C132D - JASMIA DWYRAN - cynlluniau llawn i godi ysgubor amaethyddol.

 

     Roedd y Cynghorydd O. Gwyn Jones yn dymuno dweud bod llai nag acer o dir ar y fferm fechan hon a gofynnodd i swyddogion ysgrifennu at y Cyngor Cymuned gydag eglurhad ar y penderfyniad i gymeradwyo'r cais.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

     CEISIADAU A DDIRPRWYWYD AC A WRTHODWYD

 

      

 

     22C154A - O.S. 263, LLANDDONA - cais amlinellol i godi annedd a gosod tanc septig newydd.  

 

     Cytunodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio i ohebu gyda'r Cynghorydd H.W. Thomas ynghylch ei bryderon ynghylch y ffordd y cafodd y cais hwn ei drin.

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd Hefin Thomas am gyfarfod ar y cyd gyda'r Deilydd Portffolio a'r Adain Briffyrdd ynghylch ceisiadau cynllunio a wrthodir yn y cefn gwlad agored am nad yw rhwydwaith y ffyrdd yn cyrraedd y safon.

 

      

 

     CYTUNWYD i gynnwys y pwnc hwn fel eitem i'w thrafod yn y seminar nesaf.

 

      

 

9     APELIADAU CYNLLUNIO

 

      

 

9.1

GWAITH TRIN CARTHFFOSIAETH CAERGYBI

 

      

 

     Cyflwynwyd a nodwyd, er gwybodaeth, gopi o lythyr at yr Arolygfa Gynllunio gan gynrychiolwyr Dwr Cymru yn dweud eu bod yn tynnu apêl yn ôl yn erbyn y penderfyniad a wnaeth y Pwyllgor hwn yn ei gyfarfod ar 8 Ionawr, 2003 dan y rhif 46C361/EIA.

 

      

 

9.2

ADRAN 78 DEDDF CYNLLUNIO GWLAD A THREF 1990

 

     TYN Y GAMDDA, PEN-Y-SARN

 

      

 

     Cyflwynwyd a nodwyd adroddiad yr Arolygwr a benodwyd gan y Cynulliad ynghylch yr apêl uchod - apêl a ganiatawyd.  

 

      

 

9.3

Y ADRAN 174 DEDDF CYNLLUNIO GWLAD A THREF 1990

 

     (FEL Y'I DIWYGIWYD GAN DDEDDF CYNLLUNIO AC IAWNDAL 1991)

 

     Y DDRAENEN DDU, PENRHOSFEILW

 

      

 

     Cyflwynwyd - adroddiad yr Arolygwr a benodwyd gan y Cynulliad ynghylch yr apêl uchod a wrthodwyd.  Nodwyd bod yr Awdurdod wedi cael dyfarniad costau yn erbyn yr apelwyr.

 

 

 

10     ADOLYGU PENDERFYNIADAU CYNLLUNIO

 

      

 

     Cyflwynwyd a nodwyd adroddiad y Pennaeth Rheoli Datblygu yn dweud y bydd sampl o ddatblygiadau y gweithredwyd arnynt yn cael eu harchwilio yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor (4.6.18.4 y Cyfansoddiad) ac y dylai arolwg o'r fath godi safon a hyrwyddo cysondeb y broses o wneud penderfyniadau, cryfhau hyder y cyhoedd a bod o gymorth i adolygu polisïau cynllunio.  

 

      

 

     Cytunwyd y buasai'r Pennaeth Rheoli Datblygu yn gwneud trefniadau i ymweld â safleoedd yn y Flwyddyn Newydd.

 

      

 

11     CEISIADAU ÔL-DDYDDIOL

 

      

 

     Yn ei gyfarfod ar 1 Hydref, 2003 mynegodd y Pwyllgor deimladau cryfion yn erbyn yr egwyddor o roddi sylw cyfartal, gyda cheisiadau cyffredin oedd yn dilyn y trefniadau priodol, i geisiadau cynllunio ôl-ddyddiol.  Gofynnodd yr Aelodau i'r Deilydd Portffolio roddi pwysau ar y Cynulliad ac ar Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i gymryd safiad cryfach yn erbyn ceisiadau cynllunio ôl-ddyddiol (gweler ar ddiwedd Eitem 7 cofnodion 1 Hydref 2003).

 

      

 

     Gyda'r rhaglen rhannwyd copi o lythyr y Gweinidog Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad y Cynulliad yn dweud eu bod yn cadw golwg ar effeithiolrwydd pwerau gorfodaeth newydd a gyflwynwyd dan Ddeddf 1991 ac yn 1995 cyhoeddwyd canlyniadau prosiect ymchwil ar y cyd gan yr Adran yr Amgylchedd a'r Swyddfa Gymreig yng nghyswllt y defnydd a wnâi Awdurdodau Cynllunio Lleol o'r darpariaethau gorfodaeth dan Ddeddf 1991.  Daeth yr adroddiad hwnwn i'r casgliad bod y darpariaethau, at ei gilydd, yn gweithio'n dda ac nad oedd angen newidiadau deddfwriaethol mawr.  Ar hyn o bryd nid oes bwriad i wneud torri rheolau cynllunio yn drosedd.

 

      

 

     Dan Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991 cryfhawyd pwerau gorfodaeth yr Awdurdodau Cynllunio Lleol fel bod modd iddynt ddelio gyda datblygiadau diawdurdod a chodi'r gosb mewn Llys Ynadon am fethu â chydymffurfio gyda rhybudd gorfodaeth neu gyda rhybudd stopio - codi'r gosb o £2,000 i £20,000.  Hefyd mae'r ddeddfwriaeth yn mynnu bod y Llysoedd, wrth ddedfrydu unigolyn am drosedd o'r fath, yn ystyried unrhyw fanteision ariannol a gafodd neu sy'n debygol o ddeillio i'r unigolyn yn sgil y drosedd.  

 

      

 

     Nid yw datblygu heb ganiatâd cynllunio ynddo'i hun yn rheswm da i roddi caniatâd cynllunio - er efallai bod hynny yn sicrhau bod yr awdurdod mewn sefyllfa well i asesu effaith y datblygiad ar bleserau'r cyhoedd.  

 

      

 

     Dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 mae'n rhaid penderfynu ar geisiadau cynllunio yn unol â'r cynllun datblygu onid oes ystyriaethau cynllunio sylweddol yn dangos i'r gwrthwyneb.  Os ydyw datblygiad yn annerbyniol ar ôl rhoddi sylw i'r holl faterion perthnasol yna y cam priodol i'w gymryd yw gwrthod caniatâd cynllunio a chymryd camau gorfodaeth yn erbyn y datblygiad.  

 

      

 

     Os ydyw datblygwr yn gofyn am ganiatâd cynllunio ond yn dechrau ar y gwaith cyn ei gael mae'n wynebu'r risg o wneud gwaith yn ofer a wynebu camau gorfodaeth yn ei erbyn i unioni effaith unrhyw weithred o dorri rheolau cynllunio.  Hyd yn oed os ydyw'n derbyn caniatâd efallai y bydd yn dal i wynebu camau gorfodaeth os ydyw'r gwaith a wnaed ddim yn cydymffurfio gyda'r caniatâd a roddwyd.

 

      

 

     Yn y llythyr dywedir y bydd arolwg yn cael ei gynnig ar y system orfodaeth bresennol cyn gynted ag y bo'n bosib.

 

      

 

     Nid oedd yr Aelodau'n fodlon gyda'r ymateb a chytunwyd i ofyn i'r Deilydd Portffolio fynd ar drywydd y pwnc gyda John Prescott, y Dirprwy Prif Weinidog er mwyn newid deddfwriaeth gynradd.

 

      

 

     Daeth y cyfarfod i ben am 4.15 p.m.

 

      

 

      

 

      

 

     Y CYNGHORYDD ROBERT LL. HUGHES

 

     CADEIRYDD