Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion dogfennau , 3 Rhagfyr 2008

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Dydd Mercher, 3ydd Rhagfyr, 2008

 

PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION

 

Cofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 3 Rhagfyr, 2008.

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd Thomas. Jones - Cadeirydd

Y Cynghorydd R. L. Owen - Is-Gadeirydd

 

Y Cynghorwyr W. J. Chorlton, Barrie Durkin, E.G. Davies, Lewis Davies, Jim Evans, Kenneth P. Hughes, O. Glyn Jones, Clive McGregor, J. Arwel Roberts, Hefin W. Thomas, John P. Williams, Selwyn Williams.

 

 

 

WRTH LAW :

 

Cynllunio :

 

Pennaeth Rheoli Datblygu, (EGJ),

Arweinydd Tîm (DPJ)

Cynorthwywr Cynllunio (DO) & (GJ),

 

Priffyrdd :

 

Prif Beiriannydd (Rheoli Datblygu a Hawliau Tramwy Cyhoeddus)  (JRWO),

Swyddog Rheoli Datblygu (RE),

 

Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol (RWJ),

Swyddog Pwyllgor (ATH).

 

 

 

HEFYD YN BRESENNOL:

 

Aelodau Lleol - Y Cynghorwyr R. Dylan Jones (Eitem 6.1), Raymond JOnes (Eitem 6.3), Trefor Lloyd Hughes (Eitem 6.4), rhian Medi (Eitem 6.5), C. L. Everett (11.3), J. V. owen (Eitem 11.4), R. Llewelyn Jones (Deilydd Portffolio Cynllunio) (Eitem 11.5), P. M. Fowlie (Eitem 11.8), G. O. Parry MBE (Eitem 11.13).

 

1

YMDDIHEURIADAU

 

Cyflwynwyd yr ymddiheuriadau am absenoldeb a'u nodi fel y cyfeirir atynt uchod.  

 

2

DATGANIAD O DDIDDORDEB

 

Derbyniwyd datganiadau o ddiddordeb fel y cawsant eu cofnodi dan yr eitemau perthnasol.

 

3

COFNODION

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd, fel rhai cywir, gofnodion o gyfarfod blaenorol o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gynhaliwyd ar 5 Tachwedd 2008, yn amodol ar y newid canlynol -

 

Eitem 6.8  48C42H - Cais amlinellol i godi annedd ynghyd â gwaith altro i'r fynedfa i gerbydau ar dir yn Tan y Bryn, Gwalchmai.

 

Penderfynwyd dileu o'r fersiwn Gymraeg o'r cofnodion, enw'r Cynghorydd Kenneth P. Hughes o'r rhestr o aelodau ddangoswyd fel rhai oedd wedi pleidleisio i ganiatáu'r cais.

 

4

YMWELIADAU SAFLE

 

 

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd fel rhai cywir gofnodion o'r ymweliadau safle gynhaliwyd ar 19 Tachwedd, ond gan nodi'r canlynol :

 

Roedd y Cynghorydd W. J. Chorlton wedi bod yn bresennol yn ystod y tri ymweliad safle cyntaf ac roedd hefyd wedi disgwyl am y Pwyllgor yn y pedwerydd lleoliad yn Tre Ifan, Caergeiliog.

 

 

 

5

CEISIADAU A OHIRIWYD

 

 

 

5.1

21C93A - Cais amlinellol i ddymchwel yr adeiladau allanol, codi 4 annedd, mynedfa i gerbydau a thrac ynghyd â chodi dwy stabl ym Maes Garnedd, Llanddaniel Fab.

 

 

 

Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu wrth yr aelodau bod y cais uchod wedi newid ers cyhoeddi'r adroddiad a bod y rhan oedd yn ymwneud â chodi dwy stabl yn awr wedi ei ddileu o'r cais.

 

 

 

Penderfynwyd ymweld â'r safle fel y gallai'r aelodau gael cyfle i weld gosodiad ffisegol y safle cyn gwneud eu cais.

 

 

 

5.2

32C27C - Cais llawn i godi 69 annedd a 4 fflat ynghyd â chreu mynedfa newydd i'r ffordd yn OS 5866, Tre Ifanc, Caergeiliog.

 

 

 

Cafodd y cais hwn ei gyflwyno i'w benderfynu gan y Pwyllgor oherwydd ei natur a'i faint a'r materion oedd yn codi.  Yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Tachwedd 2008, fe benderfynodd y Pwyllgor bod yn rhaid ymweld â'r safle, ac fe wnaed hyn ar 19 Tachwedd 2008.

 

 

 

Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod disgwyl gwybodaeth bellach gan yr ymgeisydd a rhagwelir y gellir cyflwyno adroddiad llawn i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion yn ei gyfarfod ym mis Ionawr 2009.

 

 

 

Penderfynwyd gohirio ystyried y cais am y rheswm a roddwyd.

 

 

 

5.3

34563A/ECON - Cais llawn i godi 3 uned ddiwydiannol o 18,600 troedfedd sgwâr gyda lle parcio a ffyrdd stad ar dir yng nghefn hen Safle Cunliffe, Llangefni.

 

 

 

Datganodd y Prif Beiriannydd (Rheoli Datblygu a Hawliau Tramwy Cyhoeddus) ddiddordeb yn y cais hwn.

 

 

 

Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod disgwyl am fanylion diwygiedig ar adeg ysgrifennu'r adroddiad ac y bydd yn cael cyhoeddusrwydd eto.

 

 

 

Penderfynwyd gohirio ystyried y cais am y rheswm a roddwyd.

 

 

 

5.4

21C93A - Cais amlinellol am ddatblygiad preswyl yn darparu 60 o unedau tai fforddiadwy a chyfleusterau cymunedol ynghyd â chreu mynedfa newydd i gerbydau yng Nghaeau Fferm Glanrafon, Pentraeth.

 

 

 

Datganodd y Cynghorydd Lewis Davies diddordeb yn y cais hwn.

 

 

 

Penderfynwyd ymweld â'r safle gan fod hwn yn gais cynllunio mawr.

 

 

 

6

CEISIADAU'N CODI

 

 

 

6.1

11C525 - Addasu neuadd bresennol yn 3 o apartmentau yn Neuadd Kingdom, Amlwch

 

 

 

Cafodd y cais hwn ei gyflwyno i'w benderfynu gan y Pwyllgor ar ofyn yr Aelod Lleol oedd yn dweud nad oedd unrhyw hanes blaenorol i'r lle gael ei ddefnyddio gan gerbydau na defnydd preswyl; y sefyllfa ar Ael y Bryn ac felly dim gwelededd; gorddatblygu a thraffig ychwanegol.  Roedd y cais yn cael ei ail gyflwyno i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion yn dilyn y penderfyniad wnaed gan yr aelodau yng nghyfarfod mis Tachwedd o'r Pwyllgor i ymweld â'r safle; cynhaliwyd yr ymweliad safle ar 19 Tachwedd 2008.

 

 

 

 

 

 

 

Diolchodd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd R. Dylan Jones i'r Pwyllgor am ymweld â'r safle a nododd mai'r prif fater oedd na ddylid cael unrhyw ddefnydd o gerbydau ar y safle.  Roedd yn dal i gredu bod lleoliad y neuadd gyferbyn â creche yn beryglus yn nhermau traffig a gofynnodd, pebai'r cais yn cael ei ganiatáu, am i amod gael ei roi ar y rhybudd penderfyniad cynllunio yn dweud na ddylid cael unrhyw fynediad i gerbydau i'r safle h.y. dim mynedfeydd na llefydd mynd allan.

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd W. J. Chorlton ei fod yn fodlon cefnogi'r cais i osod amod ychwanegol yn unol â'r hyn a ddywedwyd.

 

 

 

Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod y fynedfa bresennol yn gwasanaethu Neuadd Kingdom ac annedd arall elwir yn Garreg Filltir.  Roedd gan drigolion Garreg Filltir hawl i fynediad i gerbyd, tra bod mynediad i gerddwyr i'r neuadd.  Byddai unrhyw gyfyngiad ar fynediad yn anodd o safbwynt trigolion Garreg Filltir. Nid oes unrhyw hawliau mynediad i gerbydau i'r neuadd, dim ond mynediad i gerddwyr, ac roedd yn credu y byddai hyn yn rheoli ei hun.

 

 

 

Mynegi pryder wnaeth y Cynghorydd Hefin Thomas ynglyn â'r diffyg cyfleuster parcio yn y neuadd a chyfeiriodd at y Cyfarwyddyd Cynllunio Atodol yn ymwneud â pharcio, ac roedd ar ddeall bod hwnnw yn nodi nifer benodol o lefydd parcio i bob annedd.  Cwestiynodd a fyddai'r penderfyniad i ganiatáu yn gosod cynsail ar gyfer datblygiadau eraill lle nad oes unrhyw ddarpariaeth ar gyfer parcio a hefyd os oedd cael llefydd parcio yn angenrheidiol mewn datblygiad o'r math hwn.

 

 

 

Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod y cyfarwyddyd yn dweud y dylid cael darpariaeth parcio ar y safle; fodd bynnag, roedd Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ceisio hyrwyddo datblygiadau o fewn trefi ac roedd TAN yn rhoi cyngor yn dweud os na fydd darpariaeth ar gyfer parcio ar y safle, yna fe ddylid ystyried cael darpariaeth parcio o fewn yr ardal ehangach.  Roedd yn amlwg yn yr achos hwn y gellid defnyddio adeilad y neuadd a bod cyfleuster parcio ar gael o fewn yr ardal.

 

 

 

Ategodd y Cynghorydd Barrie Durkin y pryder a fynegwyd ynglyn â'r diffyg lle parcio yn y neuadd.  Dywedodd bod gofyn yma i'r Pwyllgor ganiatáu datblygiad ar sail parcio rhywun arall, a'i fod yn gweld yr agwedd hon yn un annerbyniol.  Roedd am gynnig felly bod y cais yn cael ei wrthod.  Ni chafodd y cynnig ei eilio.

 

 

 

Nododd y Cynghorydd W. J. Chorlton ei fod yn teimlo nad oedd unrhyw reswm teg dros wrthod y cais.

 

 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Clive McGregor bod y cais yn cael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y swyddog ac fe eiliwyd hyn gan y Cynghorydd W. J. Chorlton.

 

 

 

Penderfynwyd derbyn adroddiad ac argymhelliad y Swyddog i ganiatáu'r cais gyda'r amodau yn yr adroddiad.

 

 

 

Fe wnaeth y Cynghorwyr Barrie Durkin, Hefin Thomas a Selwyn Williams atal eu pleidlais ar y cais, a nododd y Cynghorydd John Penri Williams y byddai wedi gwrthwynebu'r cais pebai pleidlais wedi ei chymryd.

 

 

 

6.2

17C424 - Dymchwel yr annedd presennol a chodi annedd newydd a garej ar wahân a gwelliannau i'r dreif yn Cedrwydd, Llansadwrn.

 

 

 

Roedd y cais hwn yn cael ei gyflwyno i'w benderfynu gan y Pwyllgor ar ofyn yr Aelod Lleol ac yn cael ei ail gyflwyno i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion yn dilyn y penderfyniad gan yr aelodau yng nghyfarfod mis Tachwedd o'r Pwyllgor i ymweld â'r safle; fe ymwelwyd â'r safle ar 19 Tachwedd 2008.

 

 

 

Roedd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd E. G. Davies am dynu sylw'r aelodau at baragraff 4 o adroddiad y Swyddog ac yn benodol at safbwynt y Cyngor Cymuned ynglyn â'r annedd arfaethedig fel un oedd allan o gymeriad, a dywedodd mai hyn hefyd oedd ei brif gonsyrn ef - bod yr annedd oedd yn dod yn lle'r llall yn hollol wahanol i'r strwythur sydd ar y safle ar hyn o bryd a'i fod yn rhy fawr.

 

 

 

Faint yn fwy yw'r adeilad newydd arfaethedig na'r adeilad gwreiddiol oedd cwestiwn y Cynghorydd Hefin Thomas.

 

 

 

Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu mai siale wedi ei hadeiladu yn 1960 oedd yr adeilad presennol tra roedd y cais yn golygu adeiladu ty deulawr traddodiadol.  Rhoddodd gyngor i'r aelodau ystyried y cais yng nghyd-destun yr hyn oedd eisoes i'w weld yn yr ardal.  Roedd Polisi 54 yn caniatáu i'r gwaith addasu hwn gael ei ganiatáu.

 

 

 

Yn ôl y Cynghorydd W. J. Chorlton roedd yna amrywiaeth eang o ran teip a dyluniad o dai yn yr ardal oedd hefyd yn cynnwys annedd newydd tebyg i'r un oedd yn cael ei fwriadu ar ochr arall y ffordd.  Nid oedd yn credu, felly, bod yr annedd arfaethedig allan o gymeriad a dim yn gweddu gyda'r pethau o'i gwmpas, ac roedd am gynnig bod y cais yn cael ei ganiatáu.  Eiliwyd y Cynghorydd Chorlton gan y Cynghorydd Kenneth Hughes.

 

 

 

Cynigiodd y Cynghorydd E. G. Davies bod y cais yn cael ei wrthod ar sail ei ddyluniad, ond ni eiliwyd y cynnig.

 

 

 

Penderfynwyd derbyn adroddiad ac argymhelliad y swyddog i ganiatáu'r cais gyda'r amodau a nodir yn yr adroddiad.

 

 

 

6.3

19C452D - Cais amlinellol am ddatblygiad preswyl ar dir yn Canada Gardens, Caergybi

 

 

 

Roedd y cais hwn yn tynnu'n groes i'r polisïau geir yn y Cynllun Lleol ac fe'i cyflwynwyd ym mis Medi 2008 i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ac fe benderfynwyd bryd hynny i ymweld â'r safle cyn gwneud penderfyniad ar y cais.  Ymwelwyd â'r safle ar 17 Medi ac fe ailgyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor ar 1 Hydref pan gafodd penderfyniad ei ohirio hyd nes datrys materion technegol.  Cafodd y cais ei ailgyflwyno i gyfarfod o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar 5 Tachwedd lle penderfynwyd gwrthod y cais a hynny'n groes i argymhelliad y swyddog.  Cafodd yr adroddiad hwn ei gyflwyno mewn ymateb i'r rhesymau a roddwyd tros wrthod y cais, sef :

 

 

 

Ÿ

Safle amhriodol ar gyfer datblygu preswyl

 

Ÿ

Llygredd, a

 

Ÿ

Posibilrwydd o lifogydd

 

 

 

Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod yr adroddiad yn trafod y materion a benodwyd gan y Pwyllgor fel sail tros wrthod.  O safbwynt y safle fel un amhriodol ar gyfer datblygiad preswyl, roedd y safle wedi ei dyrannu ar gyfer defnyddiau busnes o dan y Cynllun Lleol ond nid oedd unrhyw gynllun datblygu wedi ei ddwyn ymlaen ers mabwysiadu'r cynllun yn 1996.  Nid oedd y CDU a stopiwyd yn dyrannu'r safle ar gyfer unrhyw bwrpas ac roedd dyraniadau diwydiannol a dyraniadau busnes wedi eu canolbwyntio ar Penrhos.  Roedd y safle'n un oedd yn cael ei danddefnyddio o fewn ffin datblygu, ac yn agos i dai.  Roedd cyfarwyddyd MIPPS yn nodi y dylid ystyried y math hwn o safle ar gyfer datblygiad tai yn hytrach na safleoedd tir glas.

 

 

 

O safbwynt llygredd, nid oedd y ffaith bod y tir wedi ei lygru ynddo'i hun yn rhwystro i safle gael ei ddatblygu; e.e. roedd amodau wedi eu gosod ar y datblygiad diweddar a gwblhawyd gan Morrisons yn Penrhos oherwydd bod amheuaeth bod y tir wedi ei lygru.  Roedd ymchwiliadau daear wedi ei wneud wedi hynny ac fe gafwyd cytundeb ar gamau adferol yn unol â chyfarwydyd Asiantaeth yr Amgylchedd, Cylchlythyr 35/95 ar y defnydd o amodau mewn Caniatâd Cynllunio ac roedd hwnnw'n awgrymu amodau safonol i ddelio gyda mater fel hyn.

 

 

 

O safbwynt llifogydd, er mai cais amlinellol oedd hwn, roedd yr ymgeisydd wedi darparu cynllun draenio cynhwysfawr ar gyfer y safle.  Nid oedd yr ymgynghorwyr statudol wedi mynegi unrhyw bryderon ynglyn â materion llifogydd; roedd Asiantaeth yr Amgylchedd wedi awgrymu amod mewn perthynas â chodi lefelau'r ddaear.

 

 

 

 

 

Roedd y Pennaeth Rheoli Datblygu am dynnu sylw'r Pwyllgor at lythyr dyddiedig 1 Rhagfyr, 2008 gan "cdnplanning" ar ran yr ymgeisydd oedd wedi ei dderbyn ers i'r adroddiad gael ei gyhoeddi.  Roedd y llythyr yn cyfeirio at y ffaith, "the applicants have already addressed those issues in detail [i.e. those raised by the Committee] and there is currently no substantive evidence from the Council to challenge those professional and detailed submissions." Roedd y llythyr yn mynd yn ei flaen, "If the Council cannot produce that substantive evidence, then it follows that there is likely to be a substantial award of costs against the Council following a rigorous analysis of those reasons for refusal at Inquiry."

 

 

 

Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu fod y llythyr, felly, yn gwneud cyfeiriad at y posibilrwydd o ymchwiliad cyhoeddus, ac os mai felly y byddai pethau, byddai'n rhaid i'r person fyddai'n rhoi tystiolaeth ar ran y Cyngor fod yn eithaf hyddysg mewn materion yn ymwneud â llifogydd, llygredd a draenio.

 

 

 

Roedd y Cynghorydd W. J. Chorlton yn credu bod hyn yn annheg a'i fod yn achosi pryder.  Dywedodd iddo fod wedi gofyn ers amser maith am i'r aelodau gael hyfforddiant ar faterion yn ymwneud ag apeliadau.  

 

 

 

Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu ei bod yn ddyletswydd broffesiynol arno ddod a sylwadau wnaed ar ran yr ymgeisydd, i sylw'r Pwyllgor ac mai materion i'r Pwyllgor wedyn oedd penderfynu os oedd yn dymuno cadarnhau ei benderfyniad blaenorol i wrthod y cais.  Roedd llythyr wedi ei gylchredeg i aelodau'r Pwyllgor yn eu hysbysu am seminar gynllunio oedd wedi ei threfnu ar eu cyfer i'w hyfforddi ynglyn â materion yn ymwneud ag apeliadau, gorfodaeth a phriffyrdd.  

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd W. J. Chorlton y dylai'r aelodau gael eu hyfforddi ynglyn â manylion apeliadau; gofynnodd os oedd yn bosibl i swyddogion lunio achos ac i'r aelodau ei gyflwyno.

 

 

 

Yn ôl y Pennaeth Rheoli Datblygu, byddai'r materion hyn yn derbyn sylw yn y seminar oedd wedi ei threfnu; fodd bynnag roedd yna resymau proffesiynol paham na allai swyddogion baratoi adroddiadau i aelodau eu rhoi gerbron mewn apeliadau.

 

 

 

Siaradodd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd Raymond Jones a dweud ei fod yn ddiolchgar am y cyfle i siarad gerbron y Pwyllgor unwaith yn rhagor, a'i fod yn ddiolchgar i'r Pwyllgor am yr ymweliad safle, ond roedd yn teimlo nad oedd dim wedi newid ers yr amser y bu iddo siarad gerbron y Pwyllgor o'r blaen ac yr oedd yn dal i deimlo nad oedd y safle yn briodol ar gyfer datblygu preswyl.  Roedd yna swn o Gwynedd Shipping ar un ochr ac oddi wrth Trenau Arriva ar yr ochr arall; roedd y lleoliad mewn pant ac roedd nant yn rhedeg gerllaw.  Nid oedd sicrwydd ar beth y byddai'r tai'n cael ei hadeiladu ac roedd hynny yn bryder mawr ac roedd diffyg gwybodaeth yn parhau ynglyn â hyn.  Roedd y ffaith nad oedd ond un fynedfa ac un lle allan hefyd yn broblem.  Cyfeiriodd at lythyr gan berchennog Garej Cybi yr oedd wedi ei roddi i'r Is-Gadeirydd oedd yn ymwneud â Gerddi Canada a'r mater traffig.

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd Barrie Durkin ei fod wedi blino cael ei boeni a'i alw'n bob enw gan ymgeiswyr a'u hasiantiaid ac roedd yn warthus bod y Pwyllgor Cynllunio yn destun bygythiad cyfreithiol.  Nododd iddo eilio'r cynnig i wrthod y cais ar yr achlysur blaenorol pan gafodd ei gyflwyno i'r Pwyllgor oherwydd bod y safle ar dir diwydiannol oedd yn anaddas ar gyfer datblygiad preswyl ac roedd am gynnig bod y penderfyniad i wrthod yn cael ei gadarnhau yn y cyfarfod heddiw.  Eiliwyd ef gan y Cynghorydd Selwyn Williams a oedd hefyd yn erbyn y datblygiad oherwydd nad oedd y safle'n addas ar gyfer datblygu preswyl.

 

 

 

Roedd y Cynghorydd W. J. Chorlton yn cytuno i'r safle gael ei ddefnyddio ar gyfer gwaith diwydiannol a nododd fod dwy ffatri wrth y fynedfa i'r safle a rheini yn strwythurau mawr.  Byddai gorfod rhannu'r fynedfa gyda thraffig domestig, allai fod o ystyried maint y datblygiad yn rhyw 150 i 200 o geir y diwrnod a hefyd y ffaith fod Garej Cybi yn wynebu'r safle, yn cynhyrchu mwy o anhrefn a swn.  Roedd y lleoliad mewn cors ac roedd amheuaeth o lygriad.  Roedd o'r farn nad oedd adeiladu tai ar safle o'r fath yn gwneud synwyr o gwbl.

 

 

 

Atgoffa'r aelodau wnaeth y Cynghorydd J. P. Williams fod gan y Pwyllgor rhywfaint o enw drwg a hynny yn union oherwydd ei fod yn y gorffennol wedi caniatáu nifer o geisiadau oedd yn tynnu'n groes oddi wrth y polisïau cynllunio lleol.  Roedd yn teimlo y dylai'r Pwyllgor lynu wrth y polisïau lleol oedd wedi eu cytuno a pheidio a gwneud polisi fel yr oedd yn mynd yn ei flaen.  Roedd yn bryderus fod enw da'r awdurdod mewn risg oherwydd bod y swyddogion yn argymell bod cais oedd yn tynnu'n groes yn cael ei ganiatáu ac felly roeddent hwy eu hunain yn gweithredu'n groes i'r polisi yr oeddent i fod i'w weithredu.  Ar hyn o bryd, fe geir proses o ymgynghori ar y Cynllun Datblygu Lleol ac roedd o'r farn bod cais fel hwn i newid polisi cyn i'r gwaith ymgynghori ddod i ben yn wrthddemocrataidd.

 

 

 

Cafwyd cynnig gan y Cynghorydd O. Glyn Jones y dylai'r Pwyllgor lynu wrth argymhelliad y swyddog a chaniatáu'r cais ac fe'i heilwyd gan y Cynghorydd Kenneth Hughes a oedd o'r farn nad oedd unrhyw rheswm cynllunio tros wrthod y cais.  

 

 

 

Cafwyd cyngor gan y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol yn dweud na ddylai beth bynnag yr oedd yr ymgeisydd wedi ei ddweud ynglyn ag apêl bwyso'n ormodol ar feddyliau'r aelodau wrth iddynt ddod i benderfyniad ar y cais.  Dywedodd hefyd bod y swyddogion wedi egluro'n glir yn yr adroddiad beth oedd y rhesymau dros ddod i'r penderfyniad i ganiatáu'r cais ac nad oedd unrhyw weithredu yn groes i bolisi yn yr achos hwn.

 

 

 

Nododd y Pennaeth Rheoli Datblygu iddo egluro yn y cyfarfod o'r Pwyllgor fis Tachwedd y byddai'r awdurdod yn hynod o ffortunus pebai ei faterion cynllunio yn cael eu rheoli gan un ddogfen cynllun datblygu.  Mae yna nifer o gynlluniau a pholisiau sy'n weithredol, sef y Cynllun Fframwaith, y Cynllun Lleol a'r CDU a stopiwyd.  Y dasg oedd pwyso a mesur y polisïau perthnasol yn erbyn y cynlluniau datblygu. Roedd Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ei gwneud yn glir bod y CDU a stopiwyd yn berthnasol ac yn ddigonol i bwrpas rheoli cynllunio.  Felly, fe fyddai yna enghreifftiau, er enghraifft, lle byddai cais yn tynnu'n groes i bolisi e.e. o fewn y Cynllun Lleol, ond a fyddai'n cario mwy o bwysau o dan y CDU a stopiwyd.

 

 

 

Ailddweud wnaeth y Cynghorydd Barrie Durkin bod y cais a'r ddogfennaeth yn dweud yn glir bod y datblygiad hwn yn tynnu'n groes i bolisïau cynllun datblygu ac na ellid edrych arno fel dim byd arall, er gwaethaf yr hyn yr oedd y swyddogion wedi'i ddweud.

 

 

 

Cynigiodd y Cynghorydd O. Glyn Jones y dylid derbyn adroddiad ac argymhellion y swyddog i ganiatáu; eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Kenneth Hughes.

 

 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Barrie Durkin bod y cais yn cael ei wrthod a hynny'n groes i argymhelliad y swyddogion ac fe eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Selwyn Williams.

 

 

 

Roedd y pleidleisio fel a ganlyn -

 

 

 

I ganiatáu'r cais - Y Cynghorwyr O. Glyn Jones, Kenneth Hughes, Lewis Davies, Thomas Jones, R. L. Owen.

 

 

 

I wrthod y cais - Y Cynghorwyr Barrie Durkin, Selwyn Williams, E. G. Davies, Jim Evans, W. J. Chorlton, Hefin Thomas, John Penri Williams, J. Arwel Roberts.

 

 

 

Penderfynwyd cadarnhau penderfyniad blaenorol y Pwyllgor i wrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog.

 

 

 

Y rhesymau a roddwyd dros wrthod y cais oedd -

 

 

 

Ÿ

Safle ddiwydiannol oedd yn amhriodol ar gyfer datblygu preswyl.

 

Ÿ

Dim sicrwydd nad oedd y safle wedi ei lygru

 

Ÿ

Posibilrwydd o lifogydd

 

Ÿ

Yn dilyn cadarnhad y gofynnwyd amdano i'r aelodau gan y Pennaeth Rheoli Datblygu, fe roddwyd pedwerydd rheswm, sef goblygiadau traffig ynglyn â'r datblygiad.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

6.4

19LPA81C/CC - Cais i ail leoli dau o lif oleuadau 12m o'u lleoliad presennol a gostwng eu huchder ynghyd â chodi ffens acwstig 3m ar dir yng Nghae Chwaraeon Millbank, Caergybi.

 

      

 

     Datganodd y Cynghorydd E. G. Davies ddiddordeb yn y cais hwn ac aeth allan o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r pleidleisio arno.

 

      

 

     Roedd y cais hwn yn cael ei wneud gan yr awdurdod lleol ar dir yr awdurdod lleol.  Yn ei gyfarfod gynhaliwyd ar 5 Tachwedd 2008 fe benderfynodd y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ymweld â'r safle cyn penderfynu ar y cais fel y gallai aelodau ddod yn gyfarwydd â'r safle a'i osodiad.  Ymwelwyd â'r safle ar 19 Tachwedd 2008.

 

      

 

     Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu mai'r argymhelliad oedd rhoi caniatâd i'r cais ar ddiwedd y cyfnod o ymgynghori ar 10 Rhagfyr, os na fyddai materion newydd yn cael eu codi nad oeddent wedi eu trafod yn adroddiad y swyddogion, a bod y gwaith yn dechrau o fewn 12 mis i ddyddiad rhoi'r caniatâd.  

 

      

 

     Ymddiheurodd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes am nad oedd wedi bod ar yr ymweliad safle nac wedi gwneud unrhyw sylwadau ysgrifenedig.  Dywedodd bod llawer o broblemau wedi bod yn yr ardal ynglyn â llif oleuo a gweithgareddau yn Millbank, a'i fod yn gobeithio y byddai'r gwaith a fwriedir ei wneud yn helpu i ddatrys y problemau hyn.  Gofynnodd i'r Pwyllgor gefnogi'r cais gyda'r amod bod y gwaith yn dechrau mor fuan ag oedd yn bosibl.

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd O. Glyn Jones y dylid derbyn argymhelliad ac adroddiad y swyddogion i ganiatáu'r cais ac fe heiliwyd gan y Cynghorydd W. J. Chorlton.

 

      

 

     Penderfynwyd derbyn adroddiad ac argymhellion y swyddog i ganiatáu'r cais gyda'r amodau geir yn yr adroddiad a bod y gwaith yn dechrau o fewn 12 mis i ddyddiad rhoi'r caniatâd.  Nid yw'r rhybudd o benderfyniad i'w ryddhau hyd ar ôl 10 Rhagfyr, ac yn amodol ar beidio derbyn unrhyw faterion eraill nad ydynt wedi eu trafod, o ganlyniad i'r cyhoeddusrwydd rhoddwyd i'r cais.

 

      

 

6.5

34C553A - Cais amlinellol ar gyfer datblygiad preswyl yn cynnwys cyfleuster gofal ychwanegol, priffordd ac isadeiledd cysylltiol yn Ty'n Coed, Llangefni

 

      

 

     Datganodd y Cynghorydd Clive McGregor ddiddordeb yn y cais hwn ac fe aeth allan o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r pleidleisio arno.

 

      

 

     Roedd y cais hwn yn cael ei adrodd i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd iddo gael ei hysbysebu fel cais oedd yn tynnu'n groes i'r  Cynllun Datblygu, ac roedd rhan o'r cynnig yn cael ei argymell i'w ganiatáu.  Yn ei gyfarfod ym mis Tachwedd, roedd y Pwyllgor wedi penderfynu ymweld â'r safle, ac fe wnaed hyn ar 19 Tachwedd 2008.

 

      

 

     Dywedodd yr Arweinydd Tîm Cynllunio mai'r argymhelliad cyntaf oedd un i wrthod yr elfen breswyl o'r cais oherwydd bod hyn yn cynrychioli gorddarpariaeth sylweddol o unedau tai yn Llangefni o dan ddarpariaethau'r Cynllun Datblygu Unedol Ynys Môn a stopiwyd, ac o ystyried bod maint y cyflenwad o dir ar gyfer adeiladau tai sydd ar gael yn lliwio penderfyniadau wneir o dan y broses cynllun datblygu lleol, ac oherwydd bod rhan breswyl y datblygiad wedi ei leoli y tu allan i ffiniau datblygu Llangefni dan ddarpariaethau Polisi 49 o Gynllun Lleol Ynys Môn a HP3 yn y Cynllun Datblygu Unedol Ynys Môn a stopiwyd.  Yr ail argymhelliad oedd un i roi caniatâd i'r cyfleuster gofal ychwanegol a fwriedir fel rhan o'r datblygiad, yn amodol ar yr amodau geir yn yr adroddiad.  

 

      

 

     Roedd yr Arweinydd Tîm am dynu sylw'r Pwyllgor at e-bost yr oedd wedi ei dderbyn y bore hwnnw gan asiant yr ymgeisydd yn nodi cywiriad ynglyn â nifer yr unedau preswyl.  Roedd yr asiant yn dweud bod dwysedd y cynllun wedi ei ostwng a bod y cynnig yn awr yn un am 139 o unedau + y cyfleuster gofal ychwanegol ac nid am 180 o unedau fel a ddywedir yn yr adroddiad.

 

      

 

     Diolchodd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd Rhian Medi i'r aelodau am ymweld â'r safle ac am y cyfarwyddyd a roddwyd gan Mr. David Pryce Jones, yr Arweinydd Tîm.  Cyfeiriodd at y rhan o'r adroddiad lle roedd yn cael ei ddweud fod 224 o unedau preswyl wedi eu cwblhau rhwng 2001 ac Ebrill 2008 (yn ôl Arolwg Monitro Tai yr awdurdod cynllunio lleol) a bod caniatâd yn parhau am 107 pellach o unedau preswyl.  Roedd y tai hyn oedd wedi eu hadeiladu felly yn fwy na nifer yr unedau preswyl yr oedd eu hangen yn ardal Llangefni o dan ddarpariaethau'r CDU a stopiwyd.  Roedd yr adroddiad hefyd yn dweud y byddai caniatáu'r datblygiad yn arwain at or-ddarpariaeth o dai yn ardal Llangefni a hynny'n groes i ddarpariaethau'r CDU a stopiwyd.  Nododd yr Aelod Lleol hefyd fod nifer fawr o dai ar werth ar stad Bro Ednyfed oedd gerllaw a'u bod wedi bod ar y farchnad am beth amser; roedd yna rheswm i gredu bod y tai hyn oedd newydd gael eu hadeiladu ar y safle hon ac ar safle arall yn Llangefni yn gorfod cael eu rhentu oherwydd nad oedd prynwyr eisiau eu prynu neu eu bod yn methu eu prynu. Roedd hyn yn codi nifer o gwestiynau ynglyn â'r angen am dai preifat yn Llangefni o gofio bod yna ganiatâd cynllunio ar gyfer nifer o dai eraill yn yr ardal ac nad oedd y rheini wedi eu datblygu eto.  Yn yr hinsawdd economaidd bresennol, byddai sicrhau morgais yn llawer mwy anodd yn arbennig i bobl ifanc a byddai galw am dai i'w rhentu, yn arbennig gan gymdeithasau tai yn cynyddu'n fawr.  Roedd gwaith ymgynghori ar y Cynllun Datblygu Lleol 2009/11 yn rhoi cyfle i bawb anfon sylwadau ar y safle hwn ac ar safleoedd eraill roddir ymlaen gan ddatblygwyr.  Roedd preswylwyr ar y safle cyfagos i'r un oedd yn cael ei bwriadu o dan yr argraff mai 130 o dai oedd i'w datblygu ac nid 180 fel yr oedd yr adroddiad yn ei ddweud, ac roedd yn ddiddorol nodi bod y rhif yn awr wedi ei ostwng.  O dan y cynllun newydd yn y CDLl, y nifer oedd yn cael ei roi oedd 202, felly roedd yma beth anghysondeb.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Rhian Medi hefyd nad oedd wedi ei darbwyllo bod y problemau gyda dwr wyneb wedi derbyn digon o sylw gan swyddogion a Dwr Cymru; roedd dwr wyneb yn parhau i fod yn broblem mewn rhai o erddi ar stad Bro Ednyfed.  Ymhellach i hyn, roedd y safle yn agos i Glwb Pêl-droed Llangefni oedd yn codi problemau gyda pharcio a swn traffig.  Roedd yna hefyd yr effaith debygol ar iaith a diwylliant i'w ystyried gan bod Llangefni yn un o gadarnleoedd yr iaith Gymraeg.  Ymhellach, roedd rhywun arall wedi dweud wrthi y dylid rhoddi ystyriaeth i'r posibilrwydd bod ystlumod ar y safle gan i rai gael eu gweld yn y gwrychoedd, ac fe fyddai'n rhaid ymchwilio i hun.  Gofynnodd i'r Pwyllgor roddi ystyriaeth ddwys i'r pwyntiau hyn ac i wrthod rhoi caniatâd i'r elfen breswyl yn y cais.

 

      

 

     O safbwynt yr ail ran i'r cais, sef sefydlu cyfleuster gofal ychwanegol, dywedodd yr Aelod Lleol y gallai y bydd angen am y math hwn o gyfleuster i bobl hyn yn y dyfodol, ond dim ar y safle sy'n cael ei gynnig yma.  Roedd yr adroddiad yn argymell caniatáu'r elfen hon o'r cais gydag amodau oedd yn cynnwys llunio adroddiad yn ymchwilio i'r dichonolrwydd ac i'r costau o gynnwys y cyfleuster gofal ychwanegol fel lle codi/gollwng yng ngwasanaeth bysus lleol Llangefni i ganol y dref.  Nododd yr Aelod Lleol mai cyfleuster oedd hwn i bobl hyn oedd angen gofal ychwanegol, ac yr oedd yn rhaid gofyn pa ddefnydd fyddai'n cael ei wneud o'r gwasanaeth bws i Langefni - byddai pobl hyn yn ei chael yn anodd i gario neges ar y gwasanaeth bws cyhoeddus ac fe ellid dadlau bod angen i'r cyfleuster fod yn agosach i ganol tref Llangefni, ac y byddai pobl hyn yn gweld eu hunain yn unig yn y lleoliad sy'n cael ei gynnig yma.  Roedd yr adroddiad yn trafod y gallai cyfleusterau ychwanegol gael eu datblygu fel rhan o'r cyfleuster gofal e.e. siop trin gwallt a siopau eraill, ond roedd risg yn hyn i fusnesau bach yng nghanol y dref oedd eisoes yn teimlo effeithiau'r dirywiad economaidd.  Byddai'r cyfleuster yn agos i'r Clwb Pêl-droed a'i lif oleuadau, ac efallai nad yw pobl yn ymwybodol pa mor gryf y gall llif oleuadau fod a'r effaith y gallai ei gael ar fwynderau cyfagos; roedd yna berygl hefyd y byddai'r traffig yn cynyddu'n sylweddol yn yr ardal gydag agor yr ysgol newydd yn y Flwyddyn Newydd, ac roedd yn bryderus oherwydd yr effeithiau y gallai'r ffactorau hyn ei gael ar breswylwyr y cyfleuster gofal.  Roedd yn teimlo nad oedd y safle'n addas ar gyfer y math hwn o gyfleuster ac yng ngoleuni'r holl ystyriaethau hyn gofynnodd i'r Pwyllgor wrthod rhoi caniatâd i'r ail elfen yn y cais, sef sefydlu cyfleuster gofal ychwanegol.

 

      

 

     Mewn ymateb i'r sylwadau, fe ddywedodd yr Arweinydd Tîm Cynllunio mai cais amlinellol oedd y cais hwn, ac mai amcangyfrif yn unig oedd y nifer o dai oedd yn cael eu cynnig.  Roedd y problem o ddwr wyneb wedi derbyn sylw mawr ac roedd yna lefydd ar safle'r cais lle gallai dwr wyneb arllwys o'r datblygiad a byddai amod i'r perwyl hwn yn cael ei roi ar unrhyw ganiatâd cynllunio gai ei roi.  O safbwynt y posibilrwydd bod yna ystlumod ar y safle, roedd Arolwg Bywyd Gwyllt wedi ei wneud, ac roedd y Cyngor Cefn Gwald yn fodlon gyda phethau.  O ran yr effaith ar yr Iaith Gymraeg a'r diwylliant, roedd Bwrdd yr Iaith Gymraeg wedi gwneud sylwadau ar yr Asesiad Iaith Gymraeg oedd wedi ei gyflwyno ond nid oedd ganddo unrhyw wrthwynebiad i'r datblygiad.  O safbwynt y posibilrwydd y gallai cyfleusterau adwerthu ar y safle danseilio busnesau lleol yng nghanol tref Llangefni, roedd yr adroddiad yn cyfeirio at y ffaith bod y Cynllun Datblygu ac ystyriaethau polisi eraill o bwys yn gofyn am i gyfleusterau o'r math hwn gael ei lleoli o fewn pellter cerdded rhesymol â diogel oddi wrth gyfleusterau cyffredin bywyd cymunedol.  Er mwyn cydymffurfio a darpariaethau'r polisïau hyn roedd yn angenrheidiol sicrhau ymrwymiad i gynnwys y cyfleuster o fewn gwasanaeth bws lleol Llangefni a bod darpariaeth o fewn y datblygiad am le codi / gollwng oddi ar y bws i roddi mynediad i ganol y dref.  Nid oedd y mater o lifoleuadau a'u heffeithiau ar fwynderau yn rheswm cynllunio digonol dros wrthod y cais.  

 

      

 

     Cwestiynu wnaeth y Cynghorydd W. J. Chorlton y pwyslais oedd yn cael ei roi ar y nifer o unedau gan mai cais amlinellol oedd hwn ac mai dim ond llinyn mesur oedd nifer yr unedau oedd yn cael eu cynnig ar hyn o bryd.  Roedd hefyd am gwestiynu'r penderfyniad i rannu'r cais yn ddwy ran gan ei fod ef yn teimlo y dylid edrych ar yr holl fater fel un pecyn.  Nododd ei fod yn siomedig gydag agwedd y swyddog a'i fod yn teimlo fod angen y fath hwn o ddatblygiad / cyfleuster a hynny o safbwynt y ddarpariaeth o ofal a hefyd o le byw fforddiadwy, a bod yn rhaid iddo fod wedi ei leoli ar gyrion y dre gan na ellid ei leoli o fewn y dref.  

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd O.  Glyn Jones yn croesawu'r cynnig am gyfleuster gofal ychwanegol gan ei fod yn dwyn ychydig o'r pwysau oddi ar y Cyngor ei hun yn yr ystyr ei fod yn gwneud darpariaeth ar gyfer pobl hyn; roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys amod y dylai 30% o'r unedau gofal ychwanegol fod yn unedau tai fforddiadwy, a gwnaeth sylw bod yna ofyn mawr am y ddarpariaeth tai fforddiadwy.

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd Barrie Durkin a oedd y cais yn un oedd yn tynnu'n groes i bolisïau cynllunio lleol.

 

      

 

     Wrth ateb, dywedodd yr Arweinydd Tîm Cynllunio bod yr elfen breswyl i'r cais yn disgyn y tu allan i ffin ddatblygu Llangefni fel ei ceir yn y Cynllun Lleol Ynys Môn a'i fod felly yn gais oedd yn tynnu'n groes.  Roedd y polisïau oedd yn berthnasol i'r cyfleuster gofal ychwanegol yn rhai gwahanol i'r rhai oedd yn ymwneud â datblygiadau preswyl ac roedd yr elfen hon o'r cais felly yn un nad oedd yn groes i bolisi.  Fe ddylai'r maint hwn o ddatblygiad gael ei ddwyn ymlaen fel rhan o'r cynnig CDLl.

 

      

 

     Yn dilyn fe gafwyd trafodaeth a ddylid delio gyda'r cais fel un cais cyfan neu fel cais mewn dwy ran ar wahân; cytunwyd wedi hynny y dylid delio â'r cais mewn dwy ran wahanol - yr elfen breswyl a'r elfen gofal ychwanegol.

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd J. P. Williams bod adroddiad ac argymhelliad y swyddog ynglyn â'r elfen breswyl i'r cais yn cael ei dderbyn, a gwrthod y cynnig.  Eiliwyd ef gan y Cynghorydd Kenneth Hughes.  Cynigiodd y Cynghorydd W. J. Chorlton y dylai'r elfen hon o'r cais gael ei ganiatáu.  Ni chafodd y cynnig ei eilio.

 

      

 

     Penderfynwyd derbyn adroddiad ac argymhellion y swyddog i wrthod caniatâd i'r rhan breswyl o'r cais fel yr oedd yn cael ei ddangos ar y cynllun lleoliad oedd ynghyd â'r adroddiad.

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd Hefin Thomas fod adroddiad ac argymhelliad y swyddog ynglyn â'r cyfleuster gofal ychwanegol yn cael ei dderbyn ac y dylid caniatáu'r cais.  Eiliwyd ef gan y Cynghorydd Kenneth Hughes.

 

      

 

     Penderfynwyd derbyn adroddiad ac argymhellion y swyddog a chaniatáu'r cyfleuster gofal ychwanegol oedd wedi ei liwio'n lwyd ar y cynllun oedd ynghyd â'r adroddiad, ond gyda'r amodau oedd yn cael eu rhestru yn yr adroddiad.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

7     CEISIADAU ECONOMAIDD

 

      

 

7.1

19C1024/ECON - Dymchwel y sied bresennol ynghyd ag ailwampio'r adeilad presennol a darparu lle newydd am swyddfeydd ynghyd ag unedau adwerthu yn adeilad Harbou Side, Harbwr Mewnol, Caergybi.

 

      

 

     Datganodd y Cynghorwyr Clive McGregor a Selwyn Williams ddiddordeb yn y cais hwn ac aethant allan o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r pleidleisio arno.  

 

      

 

     Roedd y cais wedi ei gyflwyno i'w benderfynu gan y Pwyllgor oherwydd ei fod yn ffurfio rhan o Gynllun Adfywio Caergybi.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd W. J. Chorlton ei fod yn cynrychioli'r Cyngor ar Bwyllgor Adfywio Caergybi a'i fod yn Gadeirydd arno, ac ni chymerodd ran yn y pleidleisio ar y cais.

 

      

 

     Dywedodd Pennaeth Rheoli Cynllunio wrth y Pwyllgor bod Asiantaeth yr Amgylchedd yn awr yn fodlon gyda'r cais.

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd R. L. Owen bod y cais yn cael ei ganiatáu yn unol ag argymhellion y swyddog, ac fe'i heiliwyd gan y Cynghorydd Hefin Thomas.

 

      

 

     Penderfynwyd derbyn adroddiad ac argymhellion y swyddog i ganiatáu'r cais gyda'r amodau geir yn yr adroddiad.

 

      

 

     Fe wnaeth y Cynghorydd W. J. Chorlton atal rhag pleidleisio ar y cais.

 

      

 

8     CEISIADAU TAI FFORDDIADWY

 

      

 

     Nid oedd unrhyw geisiadau am dai fforddiadwy wedi eu cyflwyno i'w penderfynu yn y cyfarfod hwn.

 

      

 

9     CEISIADAU'N TYNNU'N GROES

 

      

 

9.1

35C259B - Cynlluniau llawn i godi annedd fforddiadwy, creu mynedfa newydd i gerbydau ynghyd â gosod gwaith trin preifat newydd yn Nant Heilyn, Llangoed.

 

      

 

     Datganodd y Cynghorydd Lewis Davies ddiddordeb yn y cais hwn ac aeth allan o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r pleidleisio arno.

 

      

 

     Roedd y cais hwn yn tynnu'n groes ac roedd yr awdurdod cynllunio lleol yn bwriadu ei ganiatáu.  Roedd yn rhaid trin y cais fel un oedd yn tynnu'n groes oherwydd bod y fynedfa arfaethedig i'r plot y tu allan i'r ardal y rhoddwyd iddo ganiatâd cynllunio amlinellol rhif 35C259A ac ni ellid felly ddelio ag ef fel cais am ganiatâd materion wrth gefn.

 

      

 

     Dywedodd y Pennaeth Rheoli Cynllunio i ganiatâd cynllunio amlinellol gael ei roi gan y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion yn ei gyfarfod gynhaliwyd ar 3 Mawrth 2008, a hynny'n groes i argymhelliad y swyddog.  Roedd y cais hwn yn un llawn yn dilyn rhoi'r caniatâd cynllunio amlinellol.  Fodd bynnag, oherwydd bod y fynedfa arfaethedig i'r safle y tu allan i'r ardal a ganiatawyd o dan y caniatâd cynllunio amlinellol, roedd yn rhaid delio â hwn fel cais llawn yn hytrach nag fel cais i gymeradwyo'r materion a gadwyd wrth gefn.  Roedd y cais felly yn un oedd yn tynnu'n groes.

 

      

 

     Y rheswm paham bod y fynedfa y tu allan i'r lle a gymeradwywyd o dan y caniatâd cynllunio amlinellol oedd oherwydd bod yr ardal lle bwriadwyd gosod fynedfa yn wreiddiol yn uwch na'r ffordd ac roedd wedi ei ddarganfod fod yna fens dwr yn rhedeg ar draws y safle ac y byddai angen torri trwy'r mens dwr i gael mynediad i'r safle.  Roedd y fynedfa felly wedi ei ddiwygio i dod dros y broblem hon.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

     Roedd ymgynghori wedi bod gyda'r Adran Briffyrdd ynglyn â'r fynedfa newydd hon ac nid oedd ganddo unrhyw wrthwynebiad o osod amodau.

 

      

 

     Gan bod y cais yn un am dy fforddiadwy, roedd y caniatâd amlinellol yn destun cytundeb Adran 106.  Oherwydd bod y cais uchod yn un am ganiatâd cynllunio llawn yn hytrach nag un i gymeradwyo materion wrth gefn, byddai angen llunio cytundeb Adran 106 newydd.

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd Hefin Thomas y dylid caniatáu'r cais yn unol â'r argymhellion yn adroddiad y swyddog ac fe'i heiliwyd gan y Cynghorydd O. Glyn Jones.

 

      

 

     Penderfynwyd derbyn adroddiad ac argymhellion y swyddog i ganiatáu'r cais gyda'r amodau geir yn yr adroddiad.

 

      

 

     Fe wnaeth y Cynghorwyr Barrie Durkin a J. P. Williams atal eu pleidlais ar y cais.

 

      

 

10     CYNIGION I DDATBLYGU GYFLWYNWYD GAN GYNGHORWYR A SWYDDOGION

 

      

 

10.1

111C8X/1 - Gwaith altro ac ymestyn yn 73 Glan y Don Parc, Porth Llechog

 

      

 

     Cafodd y cais hwn ei gyflwyno i'w benderfynu gan y Pwyllgor oherwydd bod yr ymgeisydd yn ffrind agos i swyddog o fewn Adain Rheoli Cynllunio'r Gwasanaeth.

 

      

 

     Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu wrth y Pwyllgor mai'r argymhelliad oedd caniatáu'r cais ar ddiwedd y cyfnod ymgynghori ar 10 Rhagfyr, os na cheid unrhyw faterion cynllunio newydd yn cael eu codi yn y cyfamser, a gyda'r amodau eraill oedd yn cael eu rhestru yn yr adroddiad.

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd J. Arwel Roberts bod y cais yn cael ei ganiatáu yn unol ag argymhellion y swyddog ac fe gafodd ei eilio gan y Cynghorydd Hefin Thomas.

 

      

 

     Penderfynwyd derbyn adroddiad ac argymhellion y swyddog i ganiatáu'r cais gyda'r amodau geir yn yr adroddiad, ac ar ôl 10 Rhagfyr, cyn belled ag na cheir unrhyw faterion newydd yn codi nad ydynt wedi eu trafod eisoes.

 

      

 

11     GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

11.1

16C178 - Gwaith altro ac ymestyn yn 5 Bro Mynydd, Bryngwran

 

      

 

     Roedd y cais hwn yn cael ei gyflwyno i'w benderfynu gan y Pwyllgor oherwydd ei fod yn cael ei wneud gan y Cyngor.  Y mater allweddol yma oedd a oedd y cynnig yn dderbyniol yn nhermau polisi cynllunio, safle, dyluniad a maint, ac roedd y casgliad y daethpwyd iddo yn adroddiad y swyddog yn un cadarnhaol.

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd J. Arwel Roberts bod y cais yn cael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y swyddog a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd E. G. Davies.

 

      

 

     Penderfynwyd derbyn adroddiad ac argymhelliad y swyddog i ganiatáu'r cais gyda'r amodau geir yn yr adroddiad.

 

      

 

11.2

18C151B - Newid defnydd dwy annedd yn ganolfan gofal iechyd a cholli pwysau ynghyd â chodi sawna ac adeilad twb poeth yn 1 a 2 Troed y Garn, Llanfairynghornwy.

 

      

 

     Cymerodd yr Is-Gadeirydd y Gadair yn ystod y drafodaeth ar yr eitem hon.

 

      

 

     Cafodd y cais hwn ei gyfeirio i'r Pwyllgor i'w benderfynu ar ofyn Cadeirydd y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

      

 

      

 

      

 

     Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod yr adroddiad yn amlinellu'r rhesymau dros yr argymhelliad i ganiatáu'r cais hwn.  Roedd nifer o lythyrau yn gwrthwynebu a deiseb wedi ei dderbyn lle roedd nifer o ddatganiadau wedi ei wneud, ond roedd am bwysleisio mai cais oedd hwn i newid defnydd yr anheddau.  Roedd am dynu sylw'r aelodau at amod (2) yn yr argymhelliad i  ganiatáu oedd yn dweud na chaniateir i'r eiddo gael ei ddefnyddio ond fel canolfan gofal iechyd a cholli pwysau a dim ar gyfer unrhyw bwrpas arall a nodir yn Dosbarth D1 o'r Rhestr i'r Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Dosbarthiadau Defnydd) 1987, a dywedodd wrth y Pwyllgor bod y dosbarthiad wedi ei newid i ddosbarth D1(a).

 

      

 

     Dau dy oedd yn arfer bod yn dai Cyngor oedd y ddwy annedd yn ôl yr Aelod Lleol, y Cynghorydd Thomas Jones, ac  yr oedd 6 ty yn wreiddiol ar y safle.  Cafodd dau o'r tai eu llosgi i lawr ac fe werthodd y Cyngor y safle a'i tir o'i gwmpas o yn cynnwys safle parcio ychwanegol.  Roedd y gymuned leol yn bryderus ynglyn â'r datblygiad hwn oherwydd bod yr ardal wedi bod yn ardal breswyl erioed, a'r gred oedd y dylai'r ddau dy barhau yn rhai ar gyfer defnydd preswyl yn unig.  Roedd yna hefyd bryderon yn ymwneud â'r system garthffosiaeth gyhoeddus a'r pwysau ychwanegol y byddai'r datblygiad hwn yn ei roi ar y system.  Ar ran y Cyngor Cymuned, gofynnodd i'r Pwyllgor wrthod rhoi caniatâd i'r cais hwn ar y sail y dylai'r ardal barhau yn ardal breswyl.

 

      

 

     Holi wnaeth y Cynghorydd Hefin Thomas am y cais o safbwynt priffyrdd ac yn benodol y bwriad y byddai clientiaid y ganolfan yn teithio i'r ynys ar gludiant cyhoeddus ac yn cael eu casglu gan staff o'r orsaf dren neu fysus agosaf.  Gofynnodd a'i oherwydd nad oedd digon o le parcio ar y safle yr oedd hyn neu a fu yna newid mewn polisi; roedd yn gwybod am enghreifftiau lle roedd cynigion busnes wedi eu gwrthod oherwydd diffyg lle parcio.

 

      

 

     Wrth geisio egluro, dywedodd y Pennaeth Rheoli Cynllunio bod union natur unrhyw fusnes i gefnogi clientiaid i golli pwysau yn milwrio yn erbyn defnyddio car neu fod â mynediad at gar.  Roedd caniatâd cynllunio wedi ei roi i godi dwy annedd ac roedd y ddarpariaeth parcio ar y safle yn ddigonol i'r pwrpas hwn.  Nid oes unrhyw son yn cael ei wneud am anawsterau parcio hyd yn oed pebai mwy o ymwelwyr yn dod i'r ganolfan er y gallai hyn fod yn broblem ar y rhwydwaith ffyrdd yn lleol.  O ystyried y byddai nifer o bobl fyddai'n barhaol ar y safle yn cael ei gyfyngu, yr ystyriaeth oedd y byddai'r ddarpariaeth ar gyfer parcio yn fwy nag addas.

 

      

 

     Nododd yr Uwch Beiriannydd bod pwyslais cenedlaethol ar leihau'r defnydd o geir.  Roedd yr ymgeisydd yn yr achos hwn yn barod i ddarparu gwasanaeth cludo i glientiaid oedd yn teithio i'r ganolfan ac roedd yr awdurdod priffyrdd yn fodlon gyda'r cynigion ar gyfer rheoli traffig ar y safle, o lunio cytundeb Adran 106.

 

      

 

     Crybwyllodd y cynghorydd Kenneth Hughes i'r caniatâd gwreiddiol gael ei roi i godi dwy annedd breswyl, a gan nad oedd yr anheddau hyn wedi eu gwerthu roedd cais yn awr yn cael ei wneud i newid defnydd yr anheddau.  Roedd yn bryderus y byddai hyn yn gosod cynsail i ddatblygwyr eraill ar yr Ynys nad oeddynt yn gallu gwerthu eu heiddio ac fe allai olygu y byddai nifer fawr o geisiadau ar gyfer newid defnydd anheddau preswyl i ddefnydd busnes gan bod yr eiddo'n anodd i'w werthu.  Nododd bod yn rhaid delio'n ofalus iawn gyda'r cais hwn.

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd Selwyn Williams os oedd yr Awdurdod Priffyrdd yn ystyried bod y ffordd oedd yn mynd at safle'r cais yn ddigon mawr i fedru cymryd y busnes, ac a oedd y parcio'n ddigonol.  

 

      

 

     Atebodd y Prif Beiriannydd bod y rhwydwaith ffyrdd yn iawn a bod cyfleuster darparu parcio ar gyfer 6 o geir.

 

      

 

     Mynegodd y Cynghorydd Barrie Durkin hefyd bryder ynglyn â'r agwedd parcio yn y cais a hefyd oherwydd ei bod yn ymddangos fod polisi'n cael ei lunio wrth fynd ymlaen.  Nododd y gallai'r safle arfaethedig fod angen lle i 13 o geir gael eu parcio ar unrhyw amser yn ogystal â staff, ymwelwyr a staff achlysurol yn dod i mewn am ddwy neu dair awr y dydd.  Nid oedd y ffaith bod yr ymgeisydd yn barod i ddarparu gwasanaeth codi i glientiaid ond yn bolisi i'r ymgeisydd yn unig; nid oedd yn bolisi'r Awdurdod Cynllunio ac ni ddylai'r awdurdod felly fod yn teilwrio ei bolisi i siwtio'r ymgeisydd.  Awgrymodd hefyd y byddai clientiaid yn preswylio yn y ganolfan am nifer o ddyddiau ym mhob wythnos ac y byddai felly yn fwy priodol efallai i'w ddosbarthu fel sefydliad preswyl C2 yn hytrach na sefydliad D1.  Cyfeiriodd at y ffaith bod yr ymgeisydd wedi prynu'r safle gyda chynlluniau ar gyfer dau eiddo; dim ond yn weddol ddiweddar yr oedd y rhain wedi eu cwblhau ac ni chredai bod prawf wedi'i roddi ar y farchnad.  Petai'r cais yn cael ei ganiatáu nid dwy annedd fuasai yma ond canolfan iechyd breswyl yn cynnig triniaeth colli pwysau ac mae hynny yn cyfateb i fenter fasnachol.

 

      

 

     Crybwyllodd y Cynghorydd J. P. Williams unwaith eto ei bryderon ynghylch nifer y ceisiadau sy'n dod i'r Pwyllgor i newid y defnydd o'r caniatâd cynllunio a roddwyd, a gofynnodd a oedd hon yn ffordd o osgoi'r rheolau cynllunio.  Pryder arall ganddo oedd parcio a dehongli'r polisi.

 

      

 

     Mewn ymateb dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu mai swyddogaeth y Pwyllgor oedd dehongli'r polisïau nid newid y polisïau na chreu rhai newydd.  Roedd yn rhaid ystyried pob cais fesul un ac nid oedd yr un ddarpariaeth yn rhwystro ymgeisydd a oedd eisoes wedi derbyn caniatâd cynllunio rhag ail gyflwyno cais i newid defnydd; buasai gwrthod cais oherwydd hynny yn afresymol ac ni ellid amddiffyn gwrthodiad o'r fath mewn apêl.  Roedd yr adroddiad yn un cytbwys ac yn nodi'r rhesymau pam fod y math hwn o ddatblygiad yn dderbyniol.  I bob pwrpas buasai'r ardal hon yn aros yn ardal breswyl ac roedd yn pryderu y gellid creu argraff nad oedd croeso ar yr ynys i unigolion gyda phroblemau - megis alcohol, cyffuriau a phwysau.  Roedd yn rhaid ystyried y cais yn ôl ei ragoriaeth a hefyd o safbwynt defnydd tir.  Yng nghyswllt materion draenio technegol roedd yr Adran Dai wedi cadarnhau nad oedd ganddi yr un gwrthwynebiad o'r safbwynt hwn ac ni châi rhagor o garthion eu creu oherwydd y datblygiad.  Yng nghyswllt categori'r datblygiad, roedd y sefydliad yn un dosbarth D1(a) sef sefydliad i ddarparu unrhyw wasanaeth meddygol neu iechyd.

 

      

 

     Petai'r Pwyllgor yn dal i bryderu ynghylch agweddau preswyl y cais cafwyd cyngor gan Reolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol y buasai'n dderbyniol ychwanegu amod bod yr ymgeisydd yn preswylio yn yr adeilad yn ystod yr adegau hynny a nodwyd yn yr adroddiad yn unig.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd O. Glyn Jones cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad i ganiatáu a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd J. Arwel Roberts.

 

      

 

     Cynnig gwrthod a wnaeth y Cynghorydd Kenneth Hughes a hynny yn groes i argymhelliad y swyddog a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Barrie Durkin.

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn :-

 

      

 

     Caniatáu'r cais - Y Cynghorwyr O. Glyn Jones, J. Arwel Roberts, Jim Evans, Lewis Davies, Selwyn Williams, R. L. Owen.

 

      

 

     Gwrthod y cais - Y Cynghorwyr Barrie Durkin, Kenneth Hughes, W. J. Chorlton, E. G. Davies, Hefin Thomas, J. P. Williams, Thomas Jones.

 

      

 

     Ymatal - Y Cynghorydd Clive McGregor.

 

      

 

     Penderfynwyd gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y swyddog.

 

      

 

     Nodwyd y rhesymau a ganlyn dros wrthod -

 

      

 

Ÿ

Defnydd masnachol yn groes i gymeriad ardal sydd yn un breswyl yn ei hanfod

 

Ÿ

Rhagor o bwysau ar y system garthffosiaeth

 

Ÿ

Materion priffyrdd.

 

 

 

Gofynnodd y Cynghorydd Barrie Durkin am nodi ei fod ef yn credu bod y cais yn un categori defnydd C2.

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio'n awtomatig i'r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi'r cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros wrthod.

 

 

 

 

 

 

 

11.3

19C22A - Newid defnydd adeilad i fod yn lloches nos dros dro hyd at 1 Mehefin 2009, yn Hen Neuadd y Sgowtiaid, Garreg Domas, Caergybi.

 

      

 

     Cafwyd datganiadau o ddiddordeb yn y cais gan y Cynghorwyr W. J. Chorlton, Kenneth P. Hughes a Selwyn Williams a gadawsant y cyfarfod am y drafodaeth a'r pleidleisio.

 

      

 

     Yr Aelod Lleol ofynnodd am drosglwyddo'r cais i'r Pwyllgor benderfynu arno.  

 

      

 

     Dywedodd yr Aelod Lleol hwnnw, y Cynghorydd Cliff Everett bod y cais wedi creu teimladau cryf yn lleol a gofynnodd i'r Pwyllgor fynd ar ymweliad â'r safle.

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd Hefin Thomas y dylid ymweld a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Clive McGregor.  

 

      

 

     Nid oedd y Cynghorydd J. P. Williams yn hapus bod y bleidlais yn cael ei chymryd heb drafodaeth a soniodd mai cais oedd hwn am gyfleusterau dros dro tros gyfnod y Nadolig a hefyd dros cyfnod tywydd oer ac wrth gael ymweliad safle nid oedd modd rhoddi caniatâd cyn y Nadolig.

 

      

 

     Ond ymatebodd y Cynghorydd Hefin Thomas trwy ddweud bod y sylw uchod yn rhagdybio y câi'r cais ei ganiatáu; ar y llaw arall pe câi ei wrthod ni cheid lloches o gwbl.  Oherwydd y teimladau cryfion ymhlith y cyhoedd yn y gymuned teimlai ef y dylid cael ymweliad â'r safle.

 

      

 

     Ar ôl pleidleisio penderfynwyd ymweld â'r safle yn unol â chais yr Aelod Lleol.

 

      

 

11.4

19C291D/DA - Cais manwl i godi chwe annedd ar blotiau 5 i 10 a gafodd caniatâd o'r blaen dan rif 19C291X/DA ar dir y Ddraig Goch, Caergybi.

 

      

 

     Yr Aelod Lleol ofynnodd am drosglwyddo'r cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno.  

 

      

 

     Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod caniatâd cynllunio amlinellol i godi tai eisoes yn bod ar y safle ac roedd arno ganiatâd i faterion wrth gefn a hynny i bwrpas codi chwe thy tair ystafell wely yr un a 4 ty dwy ystafell wely yr un i'r cyfan o'r safle dan ganiatâd cynllunio rhif 19C291C/DA.  Roedd y cynnig gerbron yn gais am ganiatâd i faterion wrth gefn diwygiedig (gan ddibynnu ar ganiatâd amlinellol a roddwyd gynt) i'r 6 thy ar y cyrion dwyreiniol.  Roedd y 4 annedd arall yng ngorllewin y safle yn aros fel y cawsant eu cymeradwyo o'r blaen.  Y mater gerbron oedd penderfynu derbyn ai peidio y dyluniad diwygiedig i blotiau 5 i 10.

 

      

 

     Roedd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd J. V. Owen yn poeni ynghylch y dwr dan y safle ond roedd y Pwyllgor eisoes wedi penderfynu bod swyddogion yn gwneud ymholiadau gyda'r datblygwr a gofyn iddo gynnal arolwg ar yr ardal.  Dywedodd nad oedd wedi derbyn ymateb i'r cais hwn a'i fod yn credu mai pwrpas y dyluniad diwygiedig oedd caniatáu i'r dwr redeg oddi ar y safle; mater o newid y gwahanfur oedd hwn a darparu bylchau rhyngddynt fel bod y dwr yn medru rhedeg i ffwrdd.

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd Selwyn Williams beth oedd foliwm y dwr ar y safle.

 

      

 

     Mewn ymateb dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu nad oedd yn ymwybodol o broblemau dwr ar y safle a hynny am nad oedd wedi ymweld â'r lle ac fel rhan o'r broses ar y safle credai ef y buasai swyddogion o'r Adain Rheoli Adeiladu yn archwilio'r datblygiad.  Roedd caniatâd cynllunio amlinellol wedi ei roddi a chaniatâd manwl a phetai'r cais hwn yn cael ei wrthod yna buasai'n bosib wedyn mynd yn ôl at y caniatâd blaenorol i faterion wrth gefn.  Ran cynllunio roedd y cynnig hwn yn ymwneud â chodi dau deras tair annedd yr un.  Derbyniwyd arolwg o'r safle ac yn ôl hwnnw nid oedd problemau ar y safle o safbwynt cynllunio.  Roedd y cynnig diwygiedig yn welliant o safbwynt dyluniad.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

     Mewn ymateb dywedodd yr Aelod Lleol nad oedd ef erioed wedi gweld unrhyw offer i gynnal arolwg manwl ar y safle a gofynnodd am gopi o'r arolwg hwnnw y cyfeiriodd y Pennaeth Rheoli Datblygu ato.  Cafodd addewid gan y Pennaeth Rheoli Datblygu y buasai'n anfon copi o'r arolwg at yr Aelod Lleol.

 

      

 

     Nid hawdd oedd bwrw amheuon ar wybodaeth yr Aelod Lleol yn ôl y Cynghorydd W. J. Chorlton ac ni wyddai ef am lifogydd ar y safle er ei fod yn ymwybodol o'r dwr oedd yn rhedeg i lawr y lôn oddi arno.  Gofynnodd a oedd hwn yn ddigon o reswm i wrthwynebu'r cais.

 

      

 

     Wedyn soniodd y Cynghorydd E. G. Davies am bryderon Cyngor y Dref hefyd ynghylch materion draenio ac roedd cyfeiriad at hynny yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Hefin Thomas cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad i ganiatáu a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd J. Arwel Roberts.

 

      

 

     Penderfynwyd derbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad i ganiatáu'r cais ond gyda'r amodau yn yr adroddiad.

 

      

 

     Ni phleidleisiodd y Cynghorydd E. G. Davies ar y cais.

 

      

 

11.5

19C88GA - Cais i ddarparu swyddfa barod a storfa yn yr Ardal Storio Cychod, Ffordd Prince of Wales, Caergybi

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan fod y tir yn eiddo i'r Cyngor.

 

      

 

     Dywedodd yr Aelod Lleol y Cynghorydd R. Llewelyn Jones ei fod yn hapus gydag adroddiad y swyddog a'r argymhelliad i ganiatáu ond nododd bod y bobl sy'n byw'n agos i'r man storio yn pryderu y gallai'r gweithgaredd ddatblygu'n fusnes masnachol.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd W. J. Chorlton cafwyd sylw nad oedd yr Ardal Storio Cychod yn cynnwys unrhyw swyddfeydd a chynigiodd derbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad i ganiatáu a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd J. Arwel Roberts.

 

      

 

     Penderfynwyd derbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad ynddo i ganiatáu'r cais ond gyda'r amodau yn yr adroddiad.

 

      

 

11.6

19C1026 - Cais i godi gwaith celf cymunedol ar dir o gwmpas Llyfrgell Caergybi, Caeau'r Newry, Caergybi

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan mai'r Cyngor oedd perchennog y tir.  Yn adroddiad y swyddog nodwyd bod y cynnig yn dderbyniol o safbwynt polisi cynllunio, dyluniad a gosodiad y tu mewn i Ardal Gadwraeth Caergybi.  

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd J. Arwel Roberts dderbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad i ganiatáu'r cais a chafodd ei eilio gan y Cynghoryd W. J. Chorlton.

 

      

 

     Penderfynwyd derbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad ynddo i ganiatáu'r cais ond gyda'r amodau yn yr adroddiad.

 

      

 

11.7

27LPA902/CC - Cais llawn i godi sied amaethyddol i gadw anifeiliaid ar Fferm Porthamel, Llanedwen

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan fod y tir yn eiddo i'r Cyngor Sir a'r materion allweddol yn adroddiad y swyddog oedd penderfynu a oedd dyluniad y sied amaethyddol yn ddigonol i gadw anifeiliaid ac roedd angen ystyried yr effaith ar yr Ardal o Brydferthwch Naturiol Eithriadol o gwmpas a gosodiad yr adeiladau rhestredig.  Casgliad adroddiad y swyddog oedd bod y datblygiad yn briodol yn y lleoliad penodol hwn.

 

      

 

      

 

     Penderfynwyd derbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad ynddo i ganiatáu'r cais ond gyda'r amodau yn yr adroddiad.

 

      

 

11.8

28C360F -  Cynlluniau diwygiedig i godi 9 fflat a darparu myndfa newydd i gerbydau a cherddwyr yn y Bryn (gynt) Ffordd yr Orsaf, Rhosneigr.

 

      

 

     Yr Aelod Lleol ofynnodd am drosglwyddo'r cais i'r Pwyllgor benderfynu arno.  

 

      

 

     Cais llawn oedd hwn i godi bloc 3 llawr 9 apartment.  Gynt rhoddwyd caniatâd i ddyluniad mwy ceidwadol dan do llechi dan gais rhif 28C360 a hefyd rhoddwyd caniatâd i ddyluniad to crib gwahanol yn ddiweddar dan y rhif 28C360D.  Roedd y cynnig gerbron yn gynnig i adeilad cyfoes ffrynt gwydr a'r bwriad i ddarparu gerddi ar y to fflat.  Yn Ionawr 2008 roedd y Pwyllgor wedi ystyried y cynllun hwn o'r blaen ac wedi ei wrthod.  Wedyn cyflwynwyd a chaniatawyd dyluniad cyfoes dan do crib yn Ebrill 2008.  Roedd y cynnig presennol yn cyfateb i ailgyflwyno'r cynllun to fflat ac yn cynnwys gerddi ar y to.

 

      

 

     Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod apêl wedi ei chyflwyno oherwydd methiant i benderfynu yng nghyswllt cais diwygiedig i godi 3 thy trefol ynghyd â chodi 6 garej ar dir Bryn, Ffordd yr Orsaf ar safle cyffiniol ac ar y rhan ohonno o'r tir sy'n wynebu'r briffordd.  Roedd y cais gerbron yr aelodau yn ddyluniad gwahanol i gynllun a gymeradwywyd o'r blaen i godi 9 fflat ac roedd y swyddogion wedi rhoddi sylw manwl iddo.  Yn gyffredinol credwyd bod effaith y cynnig yn niwtral yng nghyswllt traffig a draeniad er enghraifft.  Roedd materion edrych drosodd wedi cael sylw yn y diwygiadau i'r cynllun a gyflwynwyd yn wreiddiol.  Roedd dyluniad yr adeilad yn gwbl dadleuol, yn gyfoes iawn ac yn manteisio i'r eithaf ar y lleoliad o ran darparu golygfeydd arfordirol i'r preswylwyr.  Yn wir roedd y balans yn dynn iawn; oherwydd y caniatâd a roddwyd i adeilad o faint cyffelyb ac oherwydd y materion dylunio y manylwyd arnynt yn yr adroddiad a hefyd o gofio beth yw traddodiad Rhosneigr dros ddegawdau o godi adeiladau amrywiol eu dyluniad dros gyfnod, roedd yr argymhelliad yn un o ganiatáu gydag amodau.

 

      

 

     Dywedodd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd P. M. Fowlie, bod dyluniad y cynllun arfaethedig yn un radical a chyfeiriodd yr aelodau at y cynnig a'r safle fel yr amlinellwyd nhw yn yr adroddiad a hefyd soniodd am hanes cynllunio'r lle gan bwysleisio bod y cynnig gwreiddiol wedi ei wrthod; cafodd ei ailystyried; cafodd ei ailgyflwyno a'i gymeradwyo ac yn awr roedd y cynnig gerbron unwaith eto gyda'r dyluniad gwreiddiol.  Gwnaeth y sylw bod hanes a phatrwm penodol yn perthyn i'r cais a gofynnodd i'r Pwyllgor ei wrthod oherwydd bod y dyluniad yn amhriodol i'r lleoliad.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Clive McGregor cafwyd sylw bod y Pwyllgor hwn bellach wedi ystyried y cais ar dri achlysur a bod rhai ymgeiswyr, fe ymddengys, yn anfodlon gyda phenderfyniad a oedd yn ffafriol iddynt ac am roddi mwy o bwysau ar y Pwyllgor i dderbyn cynllun a oedd, o ran dyluniad, yn groes i gymeriad Ardal o Brydferthwch Naturiol Eithriadol.  Teimlai'n gryf fod y Pwyllgor yn cael ei wthio i dderbyn y cynnig hwn ac roedd yn gwrthwynebu hynny.

 

      

 

     Teimlai'r Cynghorydd Selwyn Williams y câi dyluniad o'r fath effaith negyddol ar bensaerniaeth y pentref.

 

      

 

     Teimlai'r Cynghorydd E. G. Davies fod yr ymgeisydd yn cymryd y Pwyllgor yn ysgafn a dywedodd bod yr ymgeisydd, os oedd yn anhapus gyda gwrthodiad, yn rhydd i apelio yn hytrach nag ailgyflwyno cais a oedd, mewn gwirionedd, yn mynd â'r Pwyllgor yn ôl i'r man cychwyn.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghoryd Hefin Thomas a oedd y swyddogion yn gwbl fodlon gyda dyluniad y cynnig.  Mewn ymateb dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod y balans yn dynn iawn, bod nifer o ddyluniadau yn Rhosneigr ac mai mater o ddehongli oedd hwn.  Cyfeiriodd at TAN 12 lle dywedir "planning authorities should not attempt to impose a particular architectural taste or style arbitarily and should avoid inhibiting opportunities for innovative design solutions." Atgoffwyd yr aelodau ganddo nad oedd y ffaith bod y cais hwn y diweddaraf o gyfres o geisiadau gan yr ymgeisydd yn rheswm cynllunio cadarn dros wrthod.

 

      

 

     Credai'r Cynghorydd W. J. Chorlton bod yr ymgeisydd yn achub ar bob cyfle oedd ar gael iddo i sicrhau'r dyluniad yr oedd yn ei ddymuno a bod gan yr ymgeisydd bob hawl i brofi'r achos yn erbyn y rheolau.  Yn Rhosneigr, meddai ef, roedd tai o bob math o ddyluniad ac ni chredai bod y cynnig cyfredol yn tynnu'n groes yn ormodol i gymeriad yr ardal.

 

      

 

     Sôn a wnaeth y Cynghorydd Barrie Durkin am ryddid yr ymgeisydd i apelio os oedd yn anhapus gyda phenderfyniad y Pwyllgor, ar achlysur o'r blaen, i wrthod y cais hwn.

 

      

 

     Wrth grynhoi dywedodd yr Aelod Lleol nad oedd yr ardal yn Ardal o Brydferthwch Naturiol Eithriadol.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Clive McGregor cafwyd cynnig i wrthod y cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Barrie Durkin.

 

      

 

     Cynnig caniatáu a wnaeth y Cynghorydd W. J. Chorlton gan ddilyn argymhelliad y swyddog ond ni chafodd ei eilio gan neb.

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn :

 

      

 

     Gwrthod y cais - Y Cynghorwyr J. Arwel Roberts, Selwyn Williams, O. Glyn Jones, Kenneth Hughes, Jim Evans, Clive McGregor, Barrie Durkin, E. G. Davies.

 

      

 

     Penderfynwyd gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y swyddog.

 

      

 

     Y rheswm dros wrthod oedd bod y dyluniad yn amhriodol i'r ardal.

 

      

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio'n awtomatig i'r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi'r cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros wrthod.

 

      

 

      

 

11.9

29C129 - Altro ac ymestyn 4 Fron Haul, Llanfaethlu

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan mai'r Cyngor oedd yr ymgeisydd.  Cynnig oedd hwn i godi estyniad unllawr gyda defnyddiau o'r un fath â'r annedd sydd yno gyda'r nod o ddarparu lle addas i unigolyn a gofrestrodd yn anabl.  Yn adroddiad y swyddog nodwyd bod y cynnig yn dderbyniol o ran polisi cynllunio, lleoliad, dyluniad a graddfa.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd O. Glyn Jones cafwyd cynnig i dderbyn argymhelliad y swyddog a chaniatáu'r cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd J. Arwel Roberts.

 

      

 

     Penderfynwyd derbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad ynddo i ganiatáu'r cais ond gyda'r amodau yn yr adroddiad.

 

      

 

      

 

11.10

34LPA904/CC - Troi'r ysgol gynradd yn swyddfeyd Dosbarth B1 a storio dogfennau B8 yn Ysgol y Graig, Llangefni

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

     Gwnaeth y Cynghorydd E. G. Davies ddatganiad o ddiddordeb yn y cais a gadawodd y cyfarfod am y drafodaeth a'r pleidleisio.

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor benderfynu arno gan fod y safle yn eiddo i'r Cyngor a'r Cyngor hefyd oedd yr ymgeisydd.  Cais oedd hwn yn gofyn am ganiatâd cynllunio llawn i droi yr hen ysgol gynradd yn swyddfa (B1 Diwydiant Ysgafn) ac yn storfa ddogfennau (Storfa B8).  Y mater allweddol yma oedd penderfynu, dan y cynllun datblygu ac ystyriaethau cynllunio perthnasol eraill, a oedd defnyddio'r adeilad i ddibenion cyflogaeth yn dderbyniol ac ystyried effaith hynny ar bleserau cymdogion.  Yn adroddiad y swyddog nodwyd bod yr egwyddor o ddatblygu yn dderbyniol a hefyd nodwyd na châi'r datblygiad effaith annerbyniol ar bleserau preswylwyr yr ardal.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd O. Glyn Jones cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad i ganiatáu'r cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Clive McGregor.

 

      

 

     Penderfynwyd derbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad ynddo i ganiatáu'r cais ond gyda'r amodau yn yr adroddiad.

 

      

 

      

 

11.11

39LPA152G/CC - Yn lle'r ffens 3.0 metr o uchder codi beta ffens 6.0 metr o uchder yn Ysgol Gynradd y Borth, Porthaethwy

 

      

 

     Gan y Cynghorwyr E. G. Davies a Selwyn Williams cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais a gadawodd y ddau y cyfarfod am y drafodaeth a'r pleidleisio.

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor benderfynu arno gan mai'r Cyngor biau'r tir.  Y mater allweddol a ddisgrifiwyd yn adroddiad y swyddog oedd - a fydd y ffens 6.0 metr o uchder yn gweddu i'r ardal o gwmpas ac a fydd y datblygiad yn cael effaith ar dai yn y cyffiniau.  Yn adroddiad y swyddog nodwyd y bydd y ffens yn gweddu i'r ardal o gwmpas ac na châi effaith ar unrhyw un o'r tai gerllaw.  

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Hefin Thomas cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad o ganiatáu a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd J. Arwel Roberts.

 

      

 

     Penderfynwyd derbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad ynddo i ganiatáu'r cais ond gyda'r amodau yn yr adroddiad.

 

      

 

      

 

11.12

46C246E - Cais llawn i newid y defnydd o dir dros dro i bwrpas darparu adeilad parod a chodi sgaffaldiau i'w defnyddio fel platfform deifio tan 30 Medi 2010 ar dir Gof Du, Penrhosfeilw, Caergybi.

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor benderfynu arno oherwydd ei effaith ar dir y Cyngor.  Mae'r safle ar benrhyn arfordirol Penrhosfeilw, i'r De-ddwyrain o Gof Du.  Y bwriad yw gosod platfform o sgaffaldiau ar y clogwyn i hwyluso gwaith deifwyr fydd yn plymio i ddyfnderoedd y môr at longddrylliadau a ffilmio'r gwaith hwnnw; hefyd darperir caban ar blatfform y sgaffaldiau ac yn hwnny bydd ystafell reoli, y man darparu lluniaeth a'r man gorffwys.  Bydd y gwaith yn parhau am gyfnod dros dro hyd at 30 Medi 2010 a rhagwelir y bydd yno 10 o swyddi amser llawn.  Y materion allweddol a grybwyllwyd yn adroddiad y swyddog oedd effaith weledol ac unrhyw effaith arall yn y tirwedd dynodedig.  Ar 3 Gorffennaf 2008 gwrthododd y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ganiatâd cynllunio i gais llawn i wneud defnydd dros dro o'r tir i bwrpas darparu trac mynediad, man parcio, codi adeilad parod a darparu sgaffaldiau i'w defnyddio fel platfform deifio tan 30 Ebrill 2010 yn Gof Du Penrhosfeilw.  Yn yr adroddiad gan y swyddog nodwyd bod y cynnig gerbron yn ceisio lleddfu pryderon a arweiniodd at wrthod caniatâd cynllunio i'r cynllun gwreiddiol.  Wrth wneud yr argymhelliad i roddi caniatâd i'r cais rhoddwyd sylw i natur dros dro y gwaith.  

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd W. J. Chorlton dderbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad i ganiatáu'r cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Hefyd Thomas.

 

      

 

     Penderfynwyd derbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad ynddo i ganiatáu'r cais ond gyda'r amodau yn yr adroddiad.

 

      

 

11.13

49C289 - Troi annedd ac adeiladau allanol yn 12 uned breswyl ynghyd â darparu offer trin carthion yn Cleifiog Fawr, Ffordd Gorad, y Fali

 

      

 

     Trosglwyddwyd y cais i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr Aelod Lleol a oedd yn pryderu ynghylch mynediad a diogelwch y briffordd.  

 

      

 

     Er nad oedd yr Aelod Lleol y Cynghorydd G. O. Parry MBE, yn wrthwynebus i'r cais, roedd fodd bynnag yn pryderu ynghylch mynediad a diogelwch y briffordd.  Soniodd am y traffig cyflym ar y ffordd gul a chan fod cynnydd wedi digwydd yn nifer yr adeiladau yn y cyffiniau, yn Gorad a hynny oherwydd adeiladu stadau y tu draw i'r safle yn Gorad, roedd y briffordd hon wedi mynd yn brysurach.  Yn ogystal roedd llwybr cyhoeddus yn rhedeg o ffordd Llanynghenedl heibio Cleifiog Fawr ac yn dod allan i'r A5025 ar yr ochr gyferbyn.  Pwysleisiodd hefyd bod angen darparu mynedfa ddigonol (lleiniau gwelededd) i'r safle a bod angen ceisio diogelu bywyd gwyllt, y gwrychoedd a'r cloddiau gerllaw.

 

      

 

     O ran materion cynllunio nodwyd yn adroddiad y swyddog bod Peirianwyr Adain Briffyrdd y Cyngor yn credu bod y cynigion ynghylch y fynedfa/diogelwch y briffordd yn dderbyniol gydag amodau a hefyd  os gwneir cytundeb dan Adran 106 yn golygu y bydd raid i'r ymgeisydd gyfrannu £10,000 tuag at gynigion yr Awdurdod Priffyrdd i gyflwyno cynllun arafu traffig.

 

      

 

     Wedyn soniodd aelodau'r Pwyllgor am gael amodau i ddiogelu'r gwrychoedd a'r llwybr cyhoeddus, gan fod rhan o hwnnw y tu mewn i ffiniau'r datblygiad.  

 

      

 

     Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu nad oedd modd cynnig amod i ddiogelu'r gwrychoedd onid oedd y rheini ar dir y tu mewn i'r datblygiad.

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd R. L. Owen dderbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad ynddo i ganiatáu'r cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd W. J. Chorlton.

 

      

 

     Penderfynwyd derbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad ynddo i ganiatáu'r cais ond gyda'r amodau yn yr adroddiad.

 

      

 

12     CEISIADAU A DDIRPRWYWYD

 

      

 

     Cyflwynwyd a derbyniwyd - adroddiad Pennaeth y Gwasanaethau Cynllunio ar geisiadau a ddirprwywyd ac y gwnaethpwyd penderfyniad arnynt ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor hwn.

 

      

 

13     APELIADAU

 

      

 

     Cyflwynwyd a nodwyd - copi o grynodeb o benderfyniadau'r Arolygydd Cynllunio yng nghyswllt :

 

      

 

Ÿ

Gwelfor, Lôn Isallt, Trearddur, Caergybi - Gwrthodwyd yr apêl.

 

Ÿ

Safle yn 6 Tai Rhos, Pentre Berw, y Gaerwen - Yr apêl wedi syrthio am na thalwyd y ffi.

 

 

 

14     MATERION ERAILL

 

      

 

14.1

46C378B/ECON/EIA - Darparu depo cynnal a chadw'r rheilffordd ar dir yn Stad Ddiwydiannol Penrhos, Caergybi

 

      

 

     Gwnaeth y Cynghorydd Clive McGregor ddatganiad o ddiddordeb yn y cais a gadawodd y cyfarfod am y drafodaeth a'r pleidleisio.

 

      

 

     Nododd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion, yn ei gyfarfod ar 9 Mai 2007, wedi penderfynu caniatáu'r cynnig uchod gyda'r amodau a restrwyd yn adroddiad y swyddog a hefyd gydag amodau ychwanegol yng nghyswllt gwiath amyglcheddol a rhywogaethau  a ddiogelir.  Cynigiwyd amod yng nghyswllt rhagor o waith syrfe i sicrhau bod digon o ddioglewch i'r morch daear fel rhan o'r cynllun.  Gynt roedd amod i gyfyngu ar swn.  Roedd gan Gwmni Aliwminiwm Môn bryderon ynghylch effaith y cynnig ar unrhyw waith datblygu ar safle cyffiniol y cwmni yng nghyswllt swn ac effaith weledol.  Deallwyd y câi'r tir ei drosglwyddo o ddwylo Aliwminiwm Môn i'r datblygwr a buasai hynny'n lleddfu pryderon plannu ac ni chafwyd unrhyw sylwadau eraill gan asiant y gwrthwynebydd.  Gan fod cymaint o amser wedi mynd heibio ers y penderfyniad blaenorol, gofynnwyd i'r Pwyllgor gadarnhau eto ei benderfyniad i ganiatáu'r cynnig gyda'r amodau a restrwyd yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Hefin Thomas cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad ynddo i ganiatáu'r cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Barrie Durkin.

 

      

 

     Penderfynwyd derbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad ynddo i ganiatáu'r cais ond gyda'r amodau yn yr adroddiad.

 

      

 

     Ni phleidleisiodd y Cynghorydd W. J. Chorlton ar y cais.

 

      

 

      

 

     Daeth y cyfarfod i ben am 3.45 p.m.

 

      

 

      

 

      

 

     Y Cynghorydd Thomas Jones

 

     Cadeirydd