Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion dogfennau , 4 Chwefror 2004

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Dydd Mercher, 4ydd Chwefror, 2004

PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION

 

Cofnodion y cyfarfod gynhaliwyd ar 4 Chwefror 2004

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd R.Ll. Hughes - Cadeirydd

Y Cynghorydd J. Arwel Edwards - Is-Gadeirydd

 

Y Cynghorwyr John Byast, D.D. Evans, P.M. Fowlie, Dr. J.B. Hughes,

T.Ll. Hughes, O. Gwyn Jones, O. Glyn Jones, W. Emyr Jones,

R.L. Owen, Goronwy Parry MBE, Gwyn Roberts, John Roberts,

J. Arwel Roberts, W.T. Roberts, H.W. Thomas, W.J. Williams.

 

 

 

WRTH LAW:

 

Cynllunio:

Rheolwr Rheoli Cynllunio (DFJ)

Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Cynllunio)(yn ymwneud ag eitem 12 yn unig)

Pennaeth Rheoli Datblygiad (yn ymwneud ag eitemau 13 a 14 yn unig)

Cynorthwy-ydd Cynllunio

 

Priffyrdd:

Uwch Beiriannydd (Rheoli Datblygu)

Swyddog Rheoli Datblygu (RE)

 

Swyddog Pwyllgor (MEH)

 

HEFYD YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd E.G. Davies (Yn ymwneud ag Eitem 5.3)

Y Cynghorydd G. Alun Williams (Yn ymwneud ag Eitem 5.7)

Y Cynghorydd W.J. Chorlton (Yn ymwneud ag Eitem 8.5)

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at brofedigaeth y Cynghorydd John Byast yng ngholli ei fab a'r Cynghorydd W.J. Chorlton a gollodd ei frawd.  Mynegodd yr Aelodau eu cydymdeimlad dwysaf gyda'r ddau deulu.  Safodd yr Aelodau a'r Swyddogion fel arwydd o'u parch.

 

1

DATGANIADAU O DDIDDORDEB

 

Cafwyd datganiadau o ddiddordeb gan Aelodau a Swyddogion a chânt eu cofnodi dan yr eitemau perthnasol.

 

2

COFNODION

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd gofnodion y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gyfarfu ar 7 Ionawr 2004 yn amodol ar y newidiadau a ganlyn:-(Tudalennau 34 - 44 y Gyfrol hon).

 

2.1

newid y fersiwn Gymraeg yn 2.1 fel a ganlyn :-

 

".......... fod llythyr y Cynghorydd Thomas yn gofyn i'r cais hwn gael ei benderfynu gan y Pwyllgor hwn, wedi mynd ar goll."

 

2.2

cynnwys yn 2.2 - Jasmia Dwyran - Fod y Cyngor Cymuned yn awr yn dymuno i'r mater gael ei ddirwyn i ben.

 

2.3

newid y fersiwn Gymraeg yn 4.4 fel a ganlyn:-

 

 

"Adroddodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod y swyddogion yn parhau i ymgynghori gyda'r ymgeiswyr ac yn cyflwyno adroddiad llawn i Bwyllgor mis Chwefror".

 

 

 

2.4

nodi fod y Cynghorydd John Roberts wedi gadael y cyfarfod yn dilyn trafodaeth ar 5.1 o'r cofnodion i fynd i bwyllgor arall o fewn y Cyngor Sir.

 

 

 

2.5

cynnwys yn 8 yn y cofnodion fel a ganlyn:-

 

 

 

"(Cais amlinellol ar gyfer codi 10 annedd ar dir yn Ty Gwyn, Niwbwrch) - Y bydd y Swyddogion yn trafod ymhellach fater tirlunio digonol ar y safle, godwyd gan y Cynghorydd O. Gwyn Jones".

 

 

 

3

YMWELIADAU Â SAFLEOEDD

 

 

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd adroddiad ymweliad â Safleoedd Cynllunio a gynhaliwyd ar 21 Ionawr 2004.

 

 

 

4

CEISIADAU GYFEIRIWYD YN ÔL

 

 

 

4.1

22C154A - OS 263, LLANDDONA

 

 

 

Yng nghyfarfod diwethaf y Pwyllgor hwn cafwyd cais gan y Cynghorydd Hefin Thomas ar i Swyddogion ymchwilio i'r posibilrwydd y gallai'r ymgeiswyr am y cais uchod ailgyflwyno eu cais heb gost ychwanegol oherwydd y ffaith fod llythyr y Cynghorydd Thomas yn gofyn i'r cais hwn gael ei benderfynu gan y Pwyllgor hwn wedi mynd ar goll ac i'r cais gael ei wrthod o dan bwerau dirprwyedig ar 25 Tachwedd, 2003.

 

 

 

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau) 1992 yn gadael i ymgeiswyr gyflwyno, heb dalu ffi, un cais ychwanegol o'r un cymeriad neu ddisgrifiad o ddatblygiad ar yr un safle yn dilyn gwrthod y cais hwnnw.  Mae Rheoliadau yn dweud y gall ymgeiswyr fanteisio ar yr eithriad unwaith yn unig ar gyfer unrhyw safle ac na fydd unrhyw gais pellach yn cael ei eithrio.  

 

 

 

Roedd y cais gwreiddiol o dan gyfeirnod 22C154 a gyflwynwyd gyda ffi o £220 wedi cael ei wrthod gan y Pwyllgor hwn ar 2 Gorffennaf, 2003.  Roedd y cais a ailgyflwynwyd yn cymryd mantais o'r eithriad ac fe'i ailgyflwynwyd heb ffi o dan gyfeirnod 22C154A, a gwrthodwyd y cais o dan bwerau dirprwyedig ar 25 Tachwedd 2003.  Roedd yr ymgeiswyr, felly, eisoes wedi elwa o'r eithriad ac nid yw'r rheoliadau yn caniatáu unrhyw eithriad pellach.  

 

 

 

Mae'r Adran Rheoli Datblygu bellach wedi mabwysiadu'r drefn o gydnabod pob cais gaiff ei gyfeirio'n ôl trwy lythyr a thrwy hynny yn sicrhau fod swyddogion achos yn cynghori'r aelod o ddyddiad y Pwyllgor perthnasol.  

 

 

 

Mynegodd y Cynghorydd Hefin Thomas ei anfodlonrwydd mawr ynglyn â'r mater hwn a gwnaeth gais ar i'r Pwyllgor wneud eithriad yn yr achos hwn.  Ailadroddodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd i Geisiadau) 1992 fel y'u nodwyd uchod.

 

 

 

PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad.

 

 

 

5

CEISIADAU'N CODI O'R COFNODION

 

 

 

5.1

10C86 - CODI GAREJ DDWBL BREIFAT YN TIDE COTTAGE, 1 Y FRON, ABERFFRAW

 

 

 

Adroddodd y Cadeirydd i'r cais hwn gael ei ddwyn o flaen y Pwyllgor ar gais yr Aelod Lleol.

 

 

 

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod yr ymgeisydd, o ystyried y gwrthwynebiadau ddaeth i law, wedi gostwng maint y cynnig gwreiddiol er mwyn cyrraedd cyfaddawd.

 

 

 

Cadarnhaodd y Cynghorydd Glyn Jones, yr aelod lleol, bryder y trigolion lleol parthed gorddatblygu'r safle.  

 

 

 

Cafwyd cynnig gan y Cynghorydd Glyn Jones y dylid ymweld â'r safle ac eiliwyd gan y Cynghorydd W.T. Roberts.

 

 

 

PENDERFYNWYD ymweld â'r safle cyn penderfynu ar y cais yn groes i argymhellion y Swyddog i ganiatáu'r cais am y rhesymau a ganlyn:-

 

 

 

Ÿ

bod y trigolion lleol yn bryderus ynglyn â datblygu ar y safle

 

Ÿ

fod y datblygiad yn anaddas i'r stad.

 

 

 

 

 

5.2

12C66F - ADDASU AC EHANGU YNGHYD Â NEWID DEFNYDD Y GANOLFAN FOROL I FOD YN WESTY, BAR A LLE BWYTA YN "THE OLD BATH", BIWMARES

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y swyddogion yn parhau i wneud gwaith ymgynghori gydag asiant yr ymgeiswyr ac y dylid gohirio ystyried y cais hyd gyfarfod nesaf y Pwyllgor hwn.

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyriaeth ar y cais hyd gyfarfod nesaf y Pwyllgor hwn.

 

 

 

5.3

17C347 - CAIS AMLINELLOL AR GYFER CODI ANNEDD YNGHYD AG ADDASU'R FYNEDFA BRESENNOL YN PARC BELLIS, HEN LLANDEGFAN

 

 

 

(Mynegodd y Cynghorydd John Byast ddiddordeb a gadawodd y Pwyllgor yn ystod ystyried y cais).

 

 

 

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio mai cais cynllunio amlinellol oedd hwn am un annedd gyda'r lleoliad a'r fynedfa wedi'i gynnwys i'w ystyried fel rhan o'r cais.

 

 

 

Nododd y Swyddog fod y Cyngor Cymuned bellach yn cefnogi'r cais.

 

 

 

Roedd yr Aelod Lleol yn cefnogi'r cais yn gryf iawn ac anerchodd y cyfarfod.

 

 

 

PENDERFYNWYD gwrthod y cais am y rhesymau a geir yn adroddiad y Swyddog.

 

 

 

5.4

27C77A - CYNLLUNIAU LLAWN AR GYFER CODI BYNGALO AMAETHYDDOL YNGHYD Â GOSOD SYSTEM TRIN CARTHFFOSIAETH NEWYDD AR DIR YN TY CROES FFARM, LLANFACHRAETH

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio i'r cais gael ei gynnwys yn y pwyllgor diwethaf ar gais yr aelod lleol oedd yn cefnogi'r cais.  Cafodd y cais, sut bynnag, ei ohirio ar gais yr ymgeisydd gan mai'r argymhelliad oedd i wrthod y cais a fod gwybodaeth bellach ar gael fyddai yn berthnasol i'r achos.  Bellach derbyniwyd y wybodaeth hon ac mae'r adroddiad hwn yn cymryd hyn i ystyriaeth.  

 

 

 

PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd a chyda'r amodau yn adroddiad y Swyddog.  

 

 

 

5.5

30C192A - CAIS AMLINELLOL AR GYFER DYMCHWEL Y CYN WESTY A CHODI 22 O FFLATIAU YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD A MAN PARCIO CYSYLLTIEDIG YN RHOSTREFOR HOTEL, LÔN AMLWCH, BENLLECH

 

 

 

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod cynlluniau newydd wedi'u cyflwyno parthed yr eitem hon ac y bydd angen ymgynghori pellach gyda'r ymgeiswyr.

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio'r cais hyd y cyfarfod nesaf o'r Pwyllgor hwn.

 

 

 

5.6

30C380A - CYNLLUNIAU LLAWN AR GYFER CODI ANNEDD AR DIR GER 4 TAI BETWS, LLANBEDRGOCH

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio i'r cais hwn gael ei ddwyn i sylw yr aelodau yn wreiddiol yng nghyfarfod diwethaf y Pwyllgor hwn ar gais yr Aelod Lleol.  Yn y pwyllgor hwnnw cafwyd cynnig i ymweld â'r safle.  Yn y cyfamser daeth manylion ychwanegol i'r amlwg mewn perthynas â thanc septig a mynediad i'r safle ac fe ddylid penderfynu ar y materion hyn cyn rhoi unrhyw rybudd o benderfyniad.

 

 

 

Nododd y Swyddog y byddai'r datblygiad arfaethedig ar y safle yn ymwthiad annymunol i mewn i'r tirlun fyddai'n niweidiol i natur arbennig yr ardal yn groes i bolisiau 31 a 50 o Gynllun Lleol Ynys Môn a darpariaeth Polisi Cynllunio Cymru (Mawrth 2002).

 

 

 

Ailadroddodd yr Aelod Lleol ei gefnogaeth i'r cais.  Ni wnaeth y Cynghorydd W.T. Roberts bleidleisio ar yr eitem hon.

 

 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Gwyn Roberts y dylid rhoddi caniatâd ac fe'i heiliwyd gan y Cynghorydd Dr. J.B. Hughes.

 

 

 

PENDERFYNWYD caniatáu caniatâd cynllunio yn groes i argymhellion y Swyddog i wrthod y cais am y rhesymau a ganlyn:

 

 

 

Ÿ

y byddai'r datblygiad yn cael ei ymgorffori yn naturiol i ffin y pentref

 

Ÿ

fod gan bob eiddo yn y teras sy'n gysylltiedig ei fynedfa preifat

 

Ÿ

fod yr ymgeisydd yn berson lleol

 

Ÿ

na fydd dim mwy o draffig yn cael ei greu trwy'r fynedfa fydd yn cael ei rhannu

 

 

 

5.7

46C137D - CAIS LLAWN AR GYFER CODI 34 O DAI TRI LLAWR YNGHYD Â CHREU MYNEDFA I GERBYDAU A CHERDDWYR AR DIR YN THE OLD CRICKET GROUND, TREARDDUR

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio i drafodaethau ddigwydd gyda'r ymgeisydd a'i asiant yn dilyn trafodaethau parthed darpariaeth tai fforddiadwy.  Nododd, yn dilyn trafodaethau gydag Adran Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol y Cyngor Sir, nad oes angen darpariaeth tai fforddiadwy yn y rhan hon.

 

 

 

Adroddodd ymhellach fod i'r safle ganiatâd dilys am 17 o anheddau ac mai'r cynnig yw i ddyblu'r rhif hwnnw.  Mae Asesiad Risg Llifogydd baratowyd ar gais yr Asiantaeth Amgylchedd wedi dangos y gellir datblygu'r safle yn llwyddiannus yn unol â chyfarwyddyd cyfredol heb risg ychwanegol o lifogydd i'r ardal o amgylch.

 

 

 

Mynegodd yr Aelod Lleol ei bryderon dwys ynglyn â llifogydd posibl yn yr ardal ac ynghylch edrychiad arfaethedig yr anheddau na fyddai, yn ei dyb ef, yn cydymffurfio'n esthetaidd gyda'r eiddo o'i amgylch.

 

 

 

Nodwyd fod y Cyngor Cymuned yn gwrthwynebu'r cais yn gryf iawn.  

 

 

 

Cynigiodd y Cynghorydd R.L. Owen y dylai'r cais gael ei wrthod ac eiliwyd gan y Cynghorydd D.D. Evans.

 

 

 

PENDERFYNODD yr aelodau wrthod caniatâd cynllunio yn groes i argymhellion y Swyddog i gymeradwyo'r cais am y rhesymau a ganlyn:-

 

 

 

Ÿ

bod y nifer o anheddau arfaethedig yn annerbyniol

 

Ÿ

fod dwysedd y cais yn groes i'r gymuned

 

Ÿ

pryderon y bobl leol parthed llifogydd yn yr ardal.

 

 

 

(Roedd y Cynghorydd O. Gwyn Jones a J. Arwel Roberts yn dymuno iddo gael ei gofnodi iddynt bleidleisio i gefnogi argymhellion y Swyddogion).

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor byddai'r cais yn cael ei ohirio hyd gyfarfod nesaf y Pwyllgor hwn i ystyried adroddiad ar oblygiadau gwrthod caniatáu'r cais.

 

 

 

5.8

49C243 - CYNLLUNIAU LLAWN AR GYFER DYMCHWEL YR ANNEDD BRESENNOL, ADDASU SAFLE I'R 7 BYNGALO A CHODI 8 ANNEDD YCHWANEGOL AR WEDDILL Y SAFLE AR DIR YN VISTA DEL MAR, GORAD, FALI

 

      

 

     (Mynegodd Timothy Holmes o'r Adran Gynllunio, ddiddordeb anuniongyrchol yn y cais hwn).

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y cais yn un llawn am godi 7 byngalo ac 8 annedd ar y safle.  Nododd fod asiant yr ymgeiswyr wedi gofyn am i'r cais gael ei ohirio er mwyn trafod ymhellach ystyriaethau tai fforddiadwy.  Nodwyd fod y Cyngor Cymuned yn gwrthwynebu'r cynnig.

 

      

 

     PENDERFYNWYD gwrthod y cais am y rhesymau a roddwyd yn adroddiad y Swyddog.

 

      

 

6     CEISIADAU ECONOMAIDD

 

      

 

     Nodwyd fod y ceisiadau economaidd/diwydiannol wedi'u cynnwys gyda gweddill y ceisiadau.

 

      

 

7     CEISIADAU'N TYNNU'N GROES I'R CYNLLUN FFRAMWAITH

 

      

 

     Nodwyd nad oedd dim ceisiadau i'w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

      

 

8     GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

8.1

12C141T - AILDDATBLYGU PENRHYN SAFNAS I DDARPARU UNEDAU NEWYDD YN LLE'R   UNEDAU GWREIDDIOL AC EHANGU'R CYFLEUSTERAU MOROL YNGHYD AG ADDASU'R FYNEDFA YN GALLOWS POINT, BIWMARES

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio y cyflwynir adroddiad manwl ar y cais i'r Pwyllgor hwn yn y man a'i fod yn ystyried y byddai ymweliad safle o fudd i'r aelodau gael gwell dealltwriaeth o effaith y datblygiad arfaethedig cyn cael trafodaeth arno.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â'r safle am y rhesymau roddwyd cyn gwneud penderfyniad ar y cais.  

 

      

 

8.2

19C689C - CAIS LLAWN AR GYFER DYMCHWEL YR ADEILADAU A'R CLWB NOS YNGHYD Â CHODI 4 UNED MÂN WERTHU (DIM BWYD) AC UNED A3 (BWYD SYDYN) YNGHYD AG ADDASU'R FYNEDFA BRESENNOL I GEIR A CHERDDWYR AR DIR YN PENRHOS LINC, CAERGYBI

 

      

 

     Adroddodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio i'r cais hwn gael ei gyfeirio i'r Pwyllgor i ganfod rhan o'r safle uchod ym mherchenogaeth y Cyngor.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais, yn amodol ar asesiad effaith traffig boddhaol ac ymchwiliadau i'r pridd.

 

      

 

8.3

19C71G - CODI 1 "ANTENNAE CO LINEAR" YNGHYD Â CHABAN TECLYNNAU CYSYLLTIEDIG YNG NGHANOLFAN UCHELDRE, CAERGYBI

 

      

 

     Adroddodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio i'r cais gael ei gyfeirio i'r Pwyllgor gan fod y safle ym mherchenogaeth y Cyngor.

 

      

 

     PENDERFYNWYD gwrthod y cais am y rhesymau sydd yn adroddiad y Swyddog.

 

      

 

     (Mynegodd y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes ddiddordeb yn y cais, ni chymerodd ran yn y drafodaeth na phleidleisio ar y mater).

 

      

 

8.4

19C71H/LB - CAIS ADEILAD RHESTREDIG AR GYFER CODI 1 "ANTENNAE CO LINEAR" YNGHYD Â CHABAN TECLYNNAU CYSYLLTIEDIG YNG NGHANOLFAN UCHELDRE, CAERGYBI

 

      

 

     Adroddodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio i'r cais hwn gael ei gyfeirio i'r Pwyllgor gan fod y safle ym mherchenogaeth y Cyngor.

 

      

 

     PENDERFYNWYD gwrthod y cais am y rhesymau geir yn adroddiad y Swyddog.

 

      

 

     (Datganodd y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes ddiddordeb yn y cais hwn, ac ni chymerodd ran yn y drafodaeth na phleidleisio ar y mater).

 

      

 

8.5

19C831A - CAIS AMLINELLOL I GODI BYNGALO CROMEN YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU AR DIR GER ARDRUM, TAN YR EFAIL, CAERGYBI

 

      

 

     Mynegodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio i'r cais hwn gael ei gyfeirio i'r Pwyllgor gan fod y safle yn cynnwys tir sydd ym mherchenogaeth y Cyngor.

 

      

 

     Ategodd na fyddai'r cynnig wedi'i integreiddio gyda phatrwm presennol y datblygu ac y byddai yn cyfateb i lenwi i mewn ansensitif fyddai yn effeithio er gwaeth ar gymeriad ac edrychiad yr ardal leol.

 

      

 

     Roedd yr Aelod Lleol o'r farn y byddai'r annedd arfaethedig yn integreiddio'n dda i'r parthau.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â'r safle cyn penderfynu ar y cais.  

 

      

 

8.6

30C359C - AILDREFNU'R MAES CARAFANAU YNGHYD Â NEWID DEFNYDD CAE RHIF 8748 ER MWYN LLEOLI 16 UNED GWYLIAU WRTH DROSGLWYDDO 2 UNED SYMUDOL O'R SAFLE A GANIATAWYD DAN GANIATÂD CYNLLUNIO RHIF T/1239B (RHIF CAE 8255), 6 UNED SYMUDOL O'R SAFLE GANIATAWYD DAN GANIATÂD CYNLLUNIO RHIF T/1239F (RHIF CAE 7943), A 8 UNED SYMUDOL O'R SAFLE A GAFODD DYSTYSGRIF CYFREITHLONDEB RHIF 30C359 (RHIF CAE 7933), YNGHYD Â DEFNYDD YR UNEDAU AR GAEAU 8748 A 7933 GAN UN AI CARAFANAU, CARTREFI MODUR SYMUDOL NEU BEBYLL YM MAES CARAFANAU PLAS UCHAF, TYNYGONGL

 

      

 

     Adroddodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio y bydd adroddiad manwl ar y cynnig yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor hwn yn y man.  Roedd yn ystyried y byddai ymweliad safle o fudd er mwyn cael gwella dealltwriaeth o effaith y datblygiad arfaethedig cyn cael trafodaeth arno.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â'r safle uchod am y rhesymau a roddwyd cyn gwneud penderfyniad ar y cais.

 

      

 

     (Nododd y Cadeirydd iddo fynegi diddordeb anuniongyrchol parthed y cais hwn).

 

      

 

8.7

32C118 - NEWID DEFNYDD YR HEN SIOP I GLWB IEUENCTID / CANOLFAN GYMDEITHASOL YN 6 MINFFORDD STORES, LLANFIHANGEL-YN-NHYWYN

 

      

 

     Nododd y Rheolwr Rheoli Cynllunio i'r cais hwn gael ei gyfeirio i'r Pwyllgor gan mai'r Cyngor oedd yn ei gyflwyno.

 

      

 

     PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais am y rhesymau a roddwyd a chyda'r amodau yn adroddiad y Swyddog.

 

      

 

8.8

NEWID DEFNYDD YN YR HEN FEITHRINFA I DDEFNYDD SWYDDFA YM MHENCRAIG MANSIONS, LLANGEFNI

 

      

 

     Adroddodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio i'r cais hwn gael ei gyfeirio i'r Pwyllgor gan mai'r Cyngor oedd yn ei gyflwyno ar dir sydd yn ei berchenogaeth.

 

      

 

     PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais am y rhesymau a roddwyd a chyda'r amodau yn adroddiad y Swyddog.

 

      

 

8.9

36C230A - ADDASU'R ADEILAD ALLANOL PRESENNOL I FOD YN ANNEDD YM MHEN Y GRAIG, BODFFORDD

 

      

 

     (Mynegodd y Cynghorydd D.D. Evans ddiddordeb a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar ystyried y cais)

 

      

 

     Adroddodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio i'r cais gael ei gyfeirio i'r Pwyllgor ar gais yr Aelod Lleol.

 

      

 

     PENDERFYNWYD cymeradwyo y cais am y rhesymau a roddwyd a chyda'r amodau yn adroddiad y Swyddog.

 

 

 

8.10

39C291A - CAIS AMLINELLOL AR GYFER CODI 30 O DAI AMRYWIOL YN CYNNWYS 18 O FFLATIAU A 12 TY DAU LAWR YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GEIR A CHERDDWYR YN STRYD PACED, PORTHAETHWY

 

      

 

     (Mynegodd y Cynghorydd D.D. Evans ddiddordeb a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar y cais).

 

      

 

     Adroddodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio y bydd adroddiad manwl ar y cynnig yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor yn y man.  Ystyriwyd y byddai ymweliad safle o fudd er mwyn cael gwell dealltwriaeth o effaith y datblygiad arfaethedig cyn cael trafodaeth ar y mater.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â'r safle am y rhesymau a roddwyd cyn gwneud penderfyniad ar y cais.

 

      

 

8.11

39C291B - DYMCHWEL RHAN O'R ADEILAD DIWYDIANNOL A CHODI 8 ANNEDD YN CYNNWYS 6 ANNEDD A 2 ADDASIAD YNGHYD Â NEWID Y DEFNYDD O ADEILAD JOHN EDWARDS I FOD YN GANOLFAN ETIFEDDIAETH YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GEIR A CHERDDWYR YN STRYD PACED, PORTHAETHWY

 

      

 

     (Mynegodd y Cynghorydd D.D. Evans ddiddordeb a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar y cais).

 

     Adroddodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio y bydd adroddiad manwl ar y cynnig yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor hwn yn y man.  Ystyriwyd y byddai ymweliad safle o fudd er mwyn cael gwell dealltwriaeth o effaith y datblygiad arfaethedig cyn cael trafodaeth ar y cais.  

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â'r safle am y rhesymau a roddwyd cyn penderfynu ar y cais.

 

      

 

8.12

39C356A - CODI MAN CHWARAE NEWYDD YNGHYD Â DYMCHWEL Y WAL GERRIG ISEL A RHOI FFENS FETAL YN EI LLE AR DIR CYFAGOS I YSGOL Y BORTH, PORTHAETHWY

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio i'r cais hwn gael ei gyfeirio i'r Cyngor am mai'r Cyngor oedd yn ei gyflwyno ar dir sydd yn ei berchenogaeth.

 

      

 

     Nododd bod yr ardal cysgodi a'r gilfan ychwanegol bellach wedi'i tynnu o'r cais.

 

      

 

     PENDERFYNWYD rhoddi pwerau dirprwyedig i gymeradwyo'r cais yn dilyn diwedd y cyfnod ymgynghori ac ystyried unrhyw sylwadau a manylion a dderbynnir erbyn yr amser hwnnw.

 

      

 

8.13

39LPA589J/CC - DYMCHWEL Y FFENS A WAL GERRIG A CODI FFENS "MESH" NEWYDD YN YSGOL DAVID HUGHES, PORTHAETHWY

 

      

 

     (Datganodd y Cynghorydd J. Arwel Edwards ddiddordeb parthed y cais hwn).

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio i'r cais hwn gael ei gyfeirio i'r Pwyllgor am mai'r Cyngor oedd yn ei gyflwyno ar dir sydd yn ei berchenogaeth.

 

      

 

     PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais am y rhesymau a roddwyd a chyda'r amodau yn adroddiad y Swyddog.

 

 

 

8.14

40C233 - CADW'R TRAC MYNEDFA YN SIOP Y RHOS, LLUGWY

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'w ystyried gan y Pwyllgor ar gais yr aelod lleol.

 

      

 

     Nododd y Rheolwr Rheoli Cynllunio i gais gael ei dderbyn yn gofyn am ymweliad â'r safle.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â'r safle cyn penderfynu ar y cais.

 

      

 

      

 

9     CEISIADAU A DDIRPRWYWYD

 

      

 

     Cyflwynwyd a derbyniwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cynllunio a Gwasanaethau Amgylcheddol) ar geisiadau a dderbyniwyd ac y gwnaethpwyd penderfyniad arnynt ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor hwn.

 

      

 

     Nododd y Cadeirydd i 127 o geisiadau cynllunio gael eu trafod ers y cyfarfod diwethaf.

 

      

 

10     ADRAN 106 - 24C187B - LLYS DULAS, DULAS

 

      

 

     Adroddodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio i'r Pwyllgor hwn yn ei gyfarfod gynhaliwyd ar 30 Gorffennaf, 2003 gymeradwyo cais i godi canolfan gynadledda weinyddol a phreswyl gyda llety rheolwr i reoli'r  stad gyda chytundeb dan Adran 106.  Y cymal yn y cytundeb oedd, y dylid cyn dechrau'r datblygiad anfon cynllun eglurhaol yn dangos pa ystafelloedd oedd i'w defnyddio i bwrpasau gweinyddol a chynadleddau preswyl ac nid fel rhan o lety'r rheolwr stad ac y dylid cytuno ar hyn yn ysgrifenedig yn dilyn trafodaethau pellach rhwng y Cyngor a'r ymgeiswyr.

 

      

 

     Cytunwyd i newid geiriad y cymal hwn i gyfeirio at ganrannau o arwynebedd llawr yn hytrach na chyfeirio at ystafelloedd arbennig.  Nodwyd fod swyddogion yn fodlon bod y newidiad bychan hwn yn dderbyniol a'i fod yn parhau i gynnig peirianwaith effeithiol i sicrhau na ddefnyddir yr adeilad yn lle byw preifat yn unig.

 

      

 

     PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad.

 

      

 

11

CWYNION I'R OMBWDSMON YNGHYLCH Y GWASANAETH CYNLLUNIO

 

      

 

     Cyflwynwyd - adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaeth Cynllunio ar yr uchod.

 

      

 

     Adroddwyd i'r Ombwdsmon, ers sefydlu'r Gwasanaeth Cynllunio ym mis Hydref 2000, gwblhau adroddiadau ar 21 o gwynion yn erbyn y Gwasanaeth Cynllunio.  Mae'n bleser nodi nad oedd yr Ombwdsmon o'r farn bod angen ymchwilio ymhellach i unrhyw un o'r cwynion hynny.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

      

 

12     Y CYHOEDD YN SIARAD MEWN CYFARFODYDD

 

      

 

     Adroddodd Pennaeth y Gwasanaeth Cynllunio y bydd Seminar yn cael ei threfnu'n fuan i drafod y mater.

 

      

 

13     HYFFORDDIANT AR DRAFOD TAI FFORDDIADWY

 

      

 

     Adroddodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod trefniadau wedi'u gwneud i aelodau gael sesiwn hyfforddiant ar faterion Tai Fforddiadwy ar 25 Chwefror, 2004.

 

      

 

     Ailadroddodd y Swyddog y pwysigrwydd i Aelodau fynychu'r hyfforddiant oherwydd pwysigrwydd y mater a'r angen i'r Aelodau gydymffurfio gyda'u goblygiadau fel y cyfeirir atynt yng Nghyfansoddiad y Cyngor (Rheolau Gweithdrefnau - Materion Cynllunio).

 

      

 

14     ADOLYGU PENDERFYNIADAU CYNLLUNIO - YMWELIADAU SAFLEOEDD

 

      

 

     Nodwyd bod yr Ymweliadau Safle a drefnwyd i'w cynnal ar 25 Chwefror, yn awr i'w cynnal ar 10 Mawrth, 2004.

 

      

 

15     DYDDIADAU CYFARFODYDD AM 2004

 

      

 

     Cyflwynwyd a nodwyd - dyddiadau cyfarfodydd y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gyfer 2004.

 

      

 

      

 

     Y CYNGHORYDD R.LL. HUGHES

 

     CADEIRYDD