Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion dogfennau , 4 Chwefror 2009

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Dydd Mercher, 4ydd Chwefror, 2009

PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION

 

Cofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 4 Chwefror, 2009 

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd Thomas H. Jones - Cadeirydd

 

Y Cynghorwyr W.J. Chorlton, Eurfyn G. Davies, Lewis Davies,

Barrie Durkin, Jim Evans, Kenneth P. Hughes, O. Glyn Jones,

Clive McGregor, R.L. Owen, J. Arwel Roberts, Hefin Thomas,

John Penri Williams,

Selwyn Williams.

 

 

 

WRTH LAW:

 

Cynllunio :

Pennaeth Rheoli Datblygu (EGJ),

Cynorthwywr Cynllunio (KS).

 

Priffyrdd :

Prif Beiriannydd (Rheoli Datblygu a Haliwau Tramwy Cyhoeddus)

 

Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol (RWJ),

Swyddog Pwyllgor (MEH).

 

 

 

HEFYD YN BRESENNOL:

 

Aelodau Lleol :

Y Cynghorwyr Aled Morris Jones (Mewn perthynas ag Eitem 6.4), Eric Jones (Mewn perthynas ag Eitem 14.1), G.O. Jones (Mewn perthynas ag Eitem 11.3), Bryan Owen (Mewn perthynas ag Eitem 11.4).

 

Y Cynghorydd R.Ll. Jones - Aelod Portffolio (Cynllunio)

 

1

YMDDIHEURIADAU

 

Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriad.

 

 

2

DATGANIAD O DDIDDORDEB

 

Derbyniwyd datganiadau o ddiddordeb fel y cawsant eu cofnodi dan yr eitemau perthnasol.

 

 

3

COFNODION

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd, fel rhai cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gynhaliwyd ar 7 Ionawr, 2009.

 

 

4

YMWELIADAU SAFLE

 

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd fel rhai cywir gofnodion o’r ymweliadau safle gynhaliwyd ar 21 Ionawr, 2007 gyda'r amod  bod enw'r Cynghorydd O. Glyn Jones yn cael ei ychwanegu at y rhai oedd yn bresennol.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

5

CEISIADAU A OHIRIWYD

 

 

 

5.1

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

17C199G - Diwygio amodau (09), (10), (11) a (12) cais cynllunio 17C199E i ddarllen fel a ganlyn :- A) Bydd y cabannau, sialetau a'r tai yn cael eu defnyddio i ddibenion gwyliau yn unig B) Ni fydd y cabannau, sialetau a'r tai yn cael eu defnyddio fel unig gartref unigolyn nac fel prif gartref unigolyn C) Bydd raid i'r perchnogion, rhai sy'n rhedeg y safle, gynnal cofrestr gyfredol o enwau yr holl berchnogion deiliaid yng nghyswllt cabannau, sialetau a thai unigol ar y safle a chofnod hefyd o gyfeiriadau eu prif gartrefi a bydd raid rhyddhau'r wybodaeth hon ar bob adeg resymol i'r awdurdod lleol yn Llyn Jane, Llandegfan.

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio’r cais fel y gellir cael trafodaeth bellach ar faterion technegol.

 

 

 

 

 

5.2

30C606A - Cynlluniau diwygiedig ar gyfer codi annedd yn Minnery, Rocky Lane, Benllech

 

 

 

PENDERFYNWYD ymweld â’r safle er mwyn rhoi’r cyfle i aelodau gynefino gyda'r plot penodol dan sylw a'r ardal o gwmpas cyn cyflwyno'r cais i gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio ym mis Mawrth.

 

 

 

 

 

5.3

32C27C - Cais llawn ar gyfer codi 69 o anheddau a 4 fflat ynghyd â chreu mynedfa newydd    yn OS 5866, Tre Ifan, Caergeiliog

 

 

 

Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu wrth yr Aelodau,  oherwydd natur a maint y  cais a’r materion sy’n cael eu codi, ei bod yn briodol i’r Pwyllgor Cynllunio wneud penderfyniad ar y cais.  Yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Tachwedd fe benderfynodd yr Aelodau gynnal ymweliad safle.  Ymwelwyd â’r safle ar 19 Tachwedd.  Cafwyd adroddiad yng nghyfarfod mis Rhagfyr 2008 fod disgwyl y byddai adroddiad llawn yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor mis Ionawr yn dilyn derbyn gwybodaeth ychwanegol gan yr ymgeisydd.  Cafodd y cais ei ohirio fis Ionawr er mwyn disgwyl am atebion rhai yr ymgynghorwyd â nhw.  Fodd bynnag, oherwydd ein bod yn dal i ddisgwyl ymatebion  gan rai yr ymgynghorwyd â hwy, nid yw wedi bod yn bosibl i lunio penderfyniad hyd yn hyn.

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais am y rheswm a roddwyd.

 

 

 

 

 

5.4

34C563A/ECON - Cynlluniau llawn ar gyfer codi 3 Uned Ddiwydiannol cyfanswm 18,600 troedfedd sgwar gyda pharcio a ffordd stad gysylltiedig ar dir tu ôl i hen Safle Cunliffe, Llangefni

 

 

 

Adroddodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod manylion diwygiedig wedi'u derbyn ac yn destun ymgynghori gyda'r cyrff amrywiol a hefyd gyda phreswylwyr y cyffiniau.  Rhagwelwyd y câi adroddiad ei gyflwyno ar y cais i gyfarfod mis Mawrth y Pwyllgor.

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio’r ystyried y cais am y rheswm a roddwyd.

 

 

 

(Gwnaeth yr Uwch Beiriannydd (Rheoli Datblygu a Hawliau Tramwy Cyhoeddus) ddatganiad o ddiddordeb yn y cais a gadawodd y cyfarfod am y drafodaeth a'r pleidleisio).

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

6

CEISIADAU YN CODI

 

 

 

6.1

17C322C - Dymchwel yr adeilad presennol ynghyd â chodi annedd newydd yn Bryniau Bach, Hen Llandegfan

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr Aelod Lleol.  Yn wreiddiol cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio ar 7 Ionawr 2009 pryd y penderfynwyd ymweld â'r safle.  Digwyddodd yr ymweliad hwnnw ar 21 Ionawr 2009.

 

 

 

Wedyn soniodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod yr eiddo hwn wedi bod yn destun apêl yn 2007.  Adeg yr apêl roedd yr Arolygydd yn derbyn bod y cynnig yn sylweddol fwy na'r bwthyn gwreiddiol ym mhob agwedd ond hefyd credai nad oedd y datblygiad, oherwydd ei faint yn ei wneud yn annerbyniol.  Credai y buasai'r annedd arfaethedig yn asio yn dda gyda'r cefndir yn y pentref.  Yn ogystal nododd y ceid yma gynnydd yn y traffig a allai gyfiawnhau gwrthod y cais.  Fodd bynnag, oherwydd maint a graddfa'r annedd arfaethedig o edrych tuag ati o'r llwybr cyhoeddus fe fethodd yr apêl yn 2007.  

 

 

 

Yn y cais presennol cafwyd gostyngiad ym maint ac yn uchder yr annedd newydd ar ochr y llwybr cyhoeddus.  Bellach unllawr fydd yr adeilad union ger y llwybr cyhoeddus a'r rhan ddeulawr yn y man hwnnw lle mae'r tir yn rhedeg i lawr yr allt.  Yr argymhelliad yw caniatâu'r cais gydag amodau.

 

 

 

Mewn ymateb dywedodd yr Aelod Lleol bod yr aelodau, ar yr ymweliad, wedi gofyn am gynnwys maint ciwbig, arwynebedd llawr yr annedd arfaethedig yn adroddiad y swyddog i'r cyfarfod hwn.  Ond sylwodd na chafodd hynny ei grybwyll yn yr adroddiad.  Mewn ymateb dywedodd y Cadeirydd bod yr annedd arfaethedig yn 308.8 metr sgwâr fel a nodwyd yn yr adroddiad.  Credai'r Aelod Lleol fod y datblygiad arfaethedig yn dal i fynd y tu draw i derfynau'r hen fwthyn oedd yno.  Dyfynnodd y Cynghorydd Davies o adroddiad yr Arolygydd ar yr apêl yn 2007 "The new development should fit into it's surroundings without unacceptable harm to the general landscape character."  Hefyd sylwodd yr Aelod Lleol na fuasai'r datblygiad arfaethedig yn asio yn iawn gyda'r cefndir.  Bydd ynddo 5 ystafell wely ac roedd y Cyngor Cymuned hefyd yn gwrthwynebu.  Cynigiodd wrthod y cais.

 

 

 

Roedd y Cynghorydd O. Glyn Jones yn pryderu oherwydd bod arwynebedd lloriau'r datblygiad arfaethedig mor fawr.  Syndod iddo hefyd oedd sylwi nad oedd yr Awdurdod Priffyrdd yn gwrthwynebu'r cais oherwydd bod y ffordd mor gul.

 

 

 

Roedd y Cynghorydd Hefin Thomas yn pryderu oherwydd bod y datblygiad arfaethedig hwn bum gwaith maint yr eiddo presennol.

 

 

 

Pryderu oedd y Cynghorydd S. Williams oherwydd y cynnydd yn y traffig petai'r datblygiad yn cael ei ganiatáu.  Nododd bod y ffordd ato'n beryglus iawn.  Ond mewn ymateb dywedodd yr Uwch Beiriannydd (Rheoli Datblygu a Hawliau Tramwy Cyhoeddus) bod y cais hwn yn gais i godi annedd newydd yn lle hen annedd ac felly bod yr Awdurdod Priffyrdd yn ystyried na châi rhagor o draffig ei gynhyrchu i'r eiddo ac ohono.

 

 

 

Nododd y Cynghorydd J. P. Williams, gyda phryder, bod dau wrthwynebydd yn credu y câi'r datblygiad ei ddefnyddio i bwrpas masnachol yn y dyfodol o herwydd ei faint.  Gofynnodd a ellid rhoddi amodau ynghlwm i sicrhau mai dim ond at ddefnydd teulu i breswylio ynddi y gellid defnyddio'r annedd am y 10 mlynedd nesaf.

 

 

 

Sylw'r Cynghorydd W. J. Chorlton oedd - nad oedd yma anhawster priffyrdd gan fod o leiaf hanner dwsin o dai eisoes yn defnyddio'r lôn.  Hefyd crybwyllodd bod y safle ar ddwy lefel ac yn mynd i lawr yr allt.  Roedd yr ymgeisydd wedi rhoddi sylw i'r holl faterion a gododd yr Arolygydd yn yr apêl yn 2007.

 

 

 

Mewn ymateb dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod y cais diwygiedig yn un am annedd 4 ystafell wely gan ychwanegu bod yr ymgeisydd wedi cydymffurfio gyda sylwadau'r Arolygydd yn yr apêl yn 2007.  Roedd y datblygiad arfaethedig hwn ar gyrion stad ac ni fuasai crib y to yn ddim uwch na 'run annedd arall yn y cyffiniau.

 

 

 

Cyfrifoldeb y Pwyllgor, yn gyffredinol, meddai'r Cynghorydd Kenneth P. Hughes oedd cefnogi pob cais os oedd hwnnw'n cydymffurfio gyda'r amgylchiadau a'r polisïau a ddeuai yn sgil yr argyfwng economaidd.   Cafwyd cynnig ganddo i ganiatáu'r cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd J. Arwel Roberts.

 

 

 

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad i ganiatáu'r cais gyda'r amodau yn yr adroddiad.

 

 

 

6.2

23C246B - Cynlluniau diwygiedig ar gyfer newid defnydd y cyn felin i annedd yn Melin Llanddyfnan, Llanddyfnan

 

 

 

Cafwyd datganiad o ddiddordeb gan Y Cynghorydd Lewis Davies mewn perthynas â’r cais hwn a gadawodd y cyfarfod am y drafodaeth a’r pleidleisio.

 

 

 

Cafwyd datganiad o ddiddordeb gan Y Cynghorydd Clive McGregor mewn perthynas â’r cais hwn ond siaradodd ar yr eitem fel yr aelod lleol.  Ni phleidleisiodd ar y cais.

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn gyntaf i’r Pwyllgor Cynllunio ar 7 Ionawr 2009 yn ôl dymuniad yr Aelod Lleol a Chadeirydd y Pwyllgor Cynllunio.  Yn y cyfarfod penderfynodd yr aelodau ymweld â’r safle, a chafwyd yr ymweliad ar 21 Ionawr, 2009.

 

 

 

Adroddodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod y cais hwn ar gyfer cynlluniau diwygiedig i addasu’r hen felin i greu annedd ynghyd â gwaith altro ac ymestyn a chodi garej ddwbl ar wahân a gosod tanc septig newydd.  Cafodd Caniatâd  ei roi cyn hyn o dan gais cynllunio 23C246.

 

 

 

Ar ôl rhoddi caniatâd cynllunio i addasu'r hen felin yn Chwefror 2007 dywedodd yr Aelod Lleol fod nifer o broblemau wedi codi yn sgil y gwaith paratoi ar y safle, ac yn arbennig felly i'r eiddo cyffiniol a chymerwyd camau cyfreithiol yn erbyn yr ymgeisydd.

 

 

 

Mae'r cais gerbron wedi codi rhagor o bryderon a hynny oherwydd bod dwy fynedfa i'r safle.  Yn y cais mae cyfeiriad at godi garej sydd yn fawr ac ystyried y defnydd arfaethedig ohoni ac mae hyn hefyd wedi creu pryderon yn lleol.

 

 

 

Yma pwysleisiodd y Pennaeth Rheoli Datblygu fod gwahaniaeth rhwng y cais hwn a'r cais blaenorol ac a gymeradwywyd yn 2007.  Mae'r dyluniad yn wahanol a'r garej mewn lleoliad gwahanol.  Ar ôl yr ymweliad â'r safle credai fod symud y garej wedi gwella pethau - bellach mae hi yng nghornel y cae.  Hefyd bu gostyngiad yn uchder y garej - o gwmpas 1.5m.  Credai ef y dylid rhoddi amod ynghlwm ynghylch y garej i sicrhau y bydd honno yn cael ei defnyddio ynghlwm wrth y defnydd preswyl yn unig - nid i ddibenion masnachol.

 

 

 

Cafwyd sylw gan y swyddog fod yma ddwy fynedfa i'r safle penodol hwn - un ger Bwthyn y Felin sydd gydag hawliau tramwy hanesyddol.  Y bwriad yw defnyddio'r fynedfa hon i geir yn unig.  Gallai cerbydau mwy wneud defnydd o'r fynedfa arall sydd yn fwy. Aeth y swyddog ymlaen i nodi bod y gwaith addasu yn seiliedig ar ddyluniad mwy modern na beth a gymeradwywyd o'r blaen ac mae'n dderbyniol.  Yr argymhelliad oedd caniatáu a bydd raid gyrru caniatâd adeilad rhestredig at CADW i gael eu cymeradwyaeth nhw.

 

 

 

 

 

Wedyn soniodd y Cynghorydd J. P. Williams am y llythyrau o wrthwynebiad i'r cais gan ddweud bod difrod strwythurol eisoes wedi ei wneud i Fwthyn y Felin tra oedd y safle'n cael ei glirio.  Gofynnodd a oedd modd rhoddi amod cynllunio ynghlwm fel bod unrhyw ddifrod i'r eiddo cyffiniol yn cael ei drwsio gan y datblygwr.  Mewn ymateb dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu y buasai amod cynllunio i'r perwyl hwn yn afresymol a hynny am nad oedd modd gweithredu arno h.y. yng nghyswllt difrod i eiddo cyffiniol.  Mater i'r ddwy ochr yn gyfreithiol fuasai delio gyda'r mater.

 

 

 

Ond ni welai'r Cynghorydd Hefin W. Thomas unrhyw reswm dros wrthod y cais hwn - roedd difrod strwythurol yn fater rhwng y ddwy ochr.  Cefnogi y Cynghorydd Thomas a wnaeth y Cynghorydd W. J. Chorlton gan nodi bod y cais wedi cydymffurfio gyda'r holl ofynion.  

 

 

 

Gan y Cynghorydd Chorlton cafwyd cynnig i ganiatáu'r cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Jim Evans.

 

 

 

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y Swyddog a’r argymhelliad i ganiatau’r cais gyda’r amodau yn yr adroddiad.

 

 

 

Roedd y Cynghorydd E. G. Davies yn dymuno cofnodi na chymerodd ran yn y drafodaeth na'r pleidleisio.

 

 

 

6.3

23C246/LB - Cais Adeilad Rhestredig ar gyfer cynlluniau diwygiedig i newid yr hen felin i annedd wedi ei ganiatau yn flaenorol o dan gais rhif 23C246A/LB yn Melin Llanddyfnan, Llanddyfnan

 

 

 

(Cafwyd datganiad o ddiddoreb gan Y Cynghorydd Lewis Davies mewn perthynas â’r cais hwn a gadawodd y cyfarfod am y drafodaeth a’r pleidleisio).

 

 

 

Cafwyd datganiad o ddiddordeb gan Y Cynghorydd Clive McGregor mewn perthynas â’r cais hwn ond siaradodd ar yr eitem fel yr aelod lleol.  Ni phleidleisiodd ar y cais.

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn gyntaf i’r Pwyllgor Cynllunio ar 7 Ionawr 2009 yn ôl dymuniad yr Aelod Lleol a Chadeirydd y Pwyllgor Cynllunio.  Yn y cyfarfod penderfynodd yr aelodau ymweld â’r safle, a chafwyd yr ymweliad ar 21 Ionawr, 2009.

 

 

 

     Adroddodd y Pennaeth Rheoli Datblygu mai cais oedd hwn ar gyfer cynlluniau diwygiedig i addasu’r hen felin i greu annedd ynghyd â gwaith altro ac ymestyn a chodi garej ddwbl ar wahân a gosod tanc septig newydd.  Cafodd Caniatâd Adeilad Rhestredig ei roi cyn hyn o dan gais cynllunio rhif 23C246A/LB.  Nododd bod caniatâd cynllunio a Chaniatâd Adeilad Rhestredig wedi ei roddi cyn hyn ar y safle yn Chwefror 2007 i addasu ac ymestyn yr hen felin i greu annedd.  Mae’r egwyddor o addasu’r felin felly wedi ei derbyn.  Mae’r cais hwn yn ymwneud â diwygiadau i ddyluniad yr estyniad i’r felin ynghyd ag ail leoli’r garej ddwbl ar wahân.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y Swyddog a’r argymhelliad  i CADW i ganiatau’r cais gyda’r amodau  yn yr adroddiad.

 

      

 

6.4     24C192B - Codi dwy uned dwy ystafell wely ar gyfer llety gwyliau, gosod tanc septig newydd, ynghyd a chreu man pasio a lle parcio yn Rhiwlas, Nebo, Pen-y-sarn

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn gyntaf i'r Pwyllgor Cynllunio ar 7 Ionawr 2009 yn ôl dymuniad yr Aelod Lleol.  Yn y cyfarfod penderfynwyd ymweld â'r safle a chafwyd yr ymweliad hwnnw ar 21 Ionawr 2009.

 

      

 

 

 

 

 

 

 

 

 

     Adroddodd y Pennaeth Rheoli Datblygu mai cais am lety gwyliau yw hwn ond nid yw hynny'n gorbwyso ystyriaethau cynllunio eraill mewn lleoliadau yn y cefn gwlad agored.  Mae’n cael ei dderbyn bod yna lety gwyliau eisoes ar y safle ond cafodd hyn ei ganiatau oherwydd mai cynigion oeddynt i addasu adeilad allanol oedd yn bodoli.  Nid ystyrir y dylid dehongli’r fframwaith polisi i ganiatáu achosion unigol o unedau yn y cefn gwlad.

 

      

 

     Ni chredai bod digon o gyfiawnhad i'r cynnig ac mae'n groes i Bolisi 8 Cynllun Lleol Ynys Môn, i Bolisi  TO2 Cynllun Datblygu Unedol Ynys Môn (Stopiwyd 2005), yn groes hefyd i ddarpariaethau Canllawiau Cynllunio Atodol - Llety Gwyliau ac yn groes i'r cyngor ym Mholisi Cynllunio Cymru.

 

      

 

     Ond dywedodd yr Aelod Lleol bod y datblygiad hwn yn fusnes llwyddiannus sy'n darparu llety gwyliau o safon uchel.  Nododd y buasai'r cais gerbron yn rhan annatod o'r cyfleusterau sy'n cael eu rhedeg yn barod ar y safle.  Mae Polisi 8 Cynllun Lleol Ynys Môn yn ymwneud â datblygiadau gwyliau mawrion pan fo llety gwyliau yn rhan o'r cyfleusterau.  Nid yw Polisi CH2 Cynllun Fframwaith Gwynedd yn cyfeirio at faint y llety gwyliau arfaethedig.  Buasai darparu dwy uned arall i ddarparu llety gwyliau ar y safle, sydd wedi bod yn cael ei redeg yn llwyddiannus fel cyfleusterau gwyliau, yn creu cyfleusterau huanarlwyo o safon uchel a chyfleusterau gwely a brecwast o safon uchel.  Hefyd ceid cyfle i fod yn rhan o dripiau pleser a physgota mewn cychod - gwasanaeth a ddarperid gan yr ymgeisydd sydd â thrwydded i drefnu tripiau o'r fath.

 

      

 

     Wedyn soniodd nad oedd modd ystyried y cais hwn fel cyfleusterau ar bennau eu hunain yn y cefn gwlad - roedd yma fusnes gwledig bychan yn ceisio ehangu ac roedd angen cefnogi y fath fenter.  Gofynnodd i'r Pwyllgor ganiatáu'r cais.

 

      

 

     Yma soniodd y Cynghorydd B. Durkin bod angen synnwyr cyffredin ynghylch y cais hwn ac roedd rhai polisïau cynllunio yn rhwystr i ddatblygu mewn rhai ardaloedd.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd J. Arwel Roberts bod y busnes llety gwyliau hwn yn bod yn barod a chynigiodd roddi caniatâd i'r cais.  Roedd y Cynghorydd W. J. Chortlon wedi sylwi ar yr ymweliad â'r safle yn Ionawr 2009 bod y safle, yn amlwg felly, yn un o safon uchel a buasai'r cais hwn yn cwblhau'r safle ac yn creu gwaith yn yr ardal.  Eiliodd y Cynghorydd Chorlton y cynnig yng nghyswllt rhoddi cymeradwyaeth.

 

 

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais yn groes i argymhelliad y swyddog.

 

      

 

     Y rhain oedd y rhesymau dros ganiatáu :-

 

      

 

     (i)     Creu swyddi

 

     (ii)     Defnydd Twristiaeth

 

     (iii)     Adfywio'r Cefn Gwlad.

 

      

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio’n otomatig i’r cyfarfod nesaf er mwyn i swyddogion baratoi adroddiad ar y rheswm dros wrthod.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd Hefin W. Thomas yn dymuno cofnodi na chymerodd ran yn y drafodaeth na'r pleidleisio.

 

      

 

6.5     30C346C - Newid defnydd y siop ar y llawr isaf i fod yn 2 fflat hunan gynhaliol yn Llanddwyn, Benllech

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn gyntaf i’r Pwyllgor Cynllunio yn ôl dymuniad yr Aelod Lleol ac yng nghyfarfod y pwyllgor Cynllunio a gafwyd ar 7 Ionawr 2009 penderfynwyd ymweld â’r safle.  Cafwyd yr ymweliad ar 21 Ionawr, 2009.

 

      

 

      

 

      

 

     Adroddodd y Pennaeth Rheoli Datblygu i'r cais blaenorol gael ei wrthod gan nad oedd digon o gyfiawnhad wedi’i roi dros golli uned siop.  Cyn hyn, cafodd apêl am yr un cynnig yn yr eiddo y drws nesaf, Morannedd ei wrthod.  Barn yr Arolygwr oedd nad oedd digon o gyfiawnhad wedi’i gyflwyno i ganiatau’r newid defnydd ond mewn amser, pe na allai’r siop gael ei defnyddio i werthu a bod yna dystiolaeth bod ymdrechion i werthu’r eiddo, yna efallai y byddai defnydd arall yn briodol.  

 

      

 

     Mae’r ymgeisydd yma wedi cyflwyno manylion am y busnes ac am yr ymdrechion i werthu’r siop.  Edrychwyd yn fanwl ar y rhain yng ngoleuni’r penderfyniad apêl gyda Morannedd ac nid ystyrir bod yna unrhyw wrthwynebiad polisi i’r cynnig.  Gyda’r egwyddor yn dderbyniol ac heb gael unrhyw wrthwynebiadau mwynderol na phriffyrdd i’r cynllun, yr argymhelliad yw caniatau.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd B. Durkin, yr Aelod Lleol y ceid 7 o fflatiau i gyd uwchben siopau yn yr ardal hon pe câi'r cais hwn ei ganiatáu.  Nododd hefyd nad oedd llecyn parcio wedi ei neilltuo i'r siop ond yr unig gyfleusterau parcio ar gael yw hawliau y pedwar fflat presennol uwchben y siopau ac un fflat ar y llawr isaf. Rhoddwyd y cyfleusterau parcio hyn gyda'r prydlesi 999 blynedd i'r 5 fflat.  Nododd yr ymgeisydd bod y llecyn parcio yng nghefn y siop yn 12.70 metr.  Nid yw'r datganiad hwn yn gywir, gan mai'r mesur gwirioneddol yw 11.4 metr.  Pan fo 4 car yn y llecyn hwn nid oes lle i run arall.  Hefyd yn y rhan hon o Benllech mae materion priffyrdd yn broblem fawr a'r Aelod Lleol yn pryderu am nad oedd yr Awdurdod Priffyrdd wedi mynegi pryderon ynghylch y cais hwn.  Nid oedd y maes parcio yn cyrraedd y safonau parcio, a'r allanfa yn beryglus oherwydd anawsterau gweld i gerbydau'n gadael.  Buasai caniatáu yn amharu ar ddiogelwch y briffordd a chafwyd cynnig gan y Cynghorydd B. Durkin i wrthod y cais yn groes i argymhelliad y swyddog a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Selwyn Williams.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd J. Arwel Roberts nad oedd y fynedfa i'r cais hwn yn cyrraedd y safon a gofynnodd i'r Swyddog Priffyrdd am ei ymateb a chafodd hwnnw gan yr Uwch Beiriannydd - sef yn dweud na chredai'r Awdurdod Priffyrdd y ceid unrhyw gynnydd yn y traffig yng nghyswllt y datblygiad arfaethedig hwn ond buasent yn gofyn am amod i ostwng uchder y rheiliau/giât i rai yn gadael y lle mewn cerbyd.

 

      

 

     Y sylw a gafwyd gan y Cynghorydd Hefin Thomas oedd nad oedd lle i ragor o geir y tu cefn i'r siop bresennol a bod y fynedfa i'r llecyn yn eithriadol o beryglus.

 

      

 

     Sylwodd y Cynghorydd C. McGregor bod cynllun i ddarparu rheiliau ar hyd y pafin yn yr ardal hon a buasai hynny'n gwella'r gallu i weld o'r maes parcio.  Cytunodd gyda'r Cynghorydd Thomas nad oedd modd parcio mwy o geir y tu cefn i'r siop.

 

      

 

     Wrth ateb cwestiwn gan y Cadeirydd dywedodd yr Uwch Beiriannydd bod lle ar y safle i 4 llecyn parcio yn ôl y safonau cyfoes.

 

      

 

     Soniodd yr Aelod Lleol nad oedd y llecyn parcio yng nghefn y siopau hyn mor fawr â'r hyn a ddywedwyd yn y cais -  roedd yn 30% yn llai.  Os oedd y Cyngor am lynu wrth ei safonau parcio ei hun yna lle i 4 cerbyd yn unig oedd yma, nid 6.  Pe roddid caniatâd buasai angen 7 llecyn.  Buasai darparu rheiliau ar hyd y pafin yn cyfyngu rhagor ar y gallu i weld.

 

      

 

     Ychwanegodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod maes parcio yng nghanol Benllech ac mae'n bur agos i'r lle hwn.  Wedyn soniodd yr Aelod Lleol bod y maes parcio hwnnw'n brysur iawn ac yn aml yn llawn.

 

 

 

     PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddogion.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

     Dyma'r rhesymau a roddwyd dros wrthod y cais :-

 

      

 

     (i)     Diogelwch y Ffordd

 

     (ii)     Prinder mannau parcio

 

 

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio’n otomatig i’r cyfarfod nesaf er mwyn i swyddogion baratoi adroddiad ar y rheswm dros wrthod.

 

 

 

     Roedd y Cynghorwyr Lewis Davies a J. P. Williams yn dymuno cofnodi nad oeddent wedi cymryd rhan yn y drafodaeth nac wedi pleidleisio ar yr eitem hon.

 

      

 

6.6     46C137E - Cais llawn ar gyfer codi 17 o dai tri llawr ynghyd a chreu mynedfa i gerbydau ac i gerddwyr ar dir yn Yr Hen Safle Criced, Trearddur

 

      

 

     Adroddodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod y cais blaenorol ar y safle yn destun ei alw i mewn o dan Adran 77 gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a phenderfyniad terfynol gan y Pwyllgor Penderfyniad Cynllunio yn dilyn ymchwiliad cyhoeddus. Yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Ionawr 2009 fe benderfynodd y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gynnal ymweliad safle cyn penderfynu ar y cais.  Fe ymwelwyd â’r safle ar 21 Ionawr, 2009.

 

      

 

     Dywedodd y Cadeirydd y buasai'n rhaid gohirio ystyried y cais gan fod cwyn wedi ei chyflwyno yn erbyn y Swyddog Cynllunio yn ymwneud â dull y swyddog o ddelio gyda'r cais.  Nid oedd yr ymholiadau i'r gwyn wedi eu cwblhau ac felly nid oedd yn briodol delio gyda'r cais yn y cyfarfod.  

 

      

 

     Ond wedyn soniodd y Cynghorydd W. J. Chorlton am y posibilrwydd yr apeliai'r datblygwr oherwydd methiant i wneud penderfyniad. Mewn ymateb dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu mai argymhelliad y swyddogion oedd caniatáu'r cais ac felly roedd hi'n bur annhebygol y buasai'r ymgeisydd yn apelio oherwydd gohirio.

 

      

 

     Ond wedyn gofynnodd y Cynghorydd Chorlton a oedd gwrthwynebwyr i'r datblygiad yn defnyddio tactegau bwriadol i ddal pethau'n ôl ac mewn ymateb dywedodd y Cadeirydd y buasai'n rhaid bwrw ymlaen gyda'r broses gwynion gan fod cwyn yn erbyn swyddog o'r Adran Gynllunio.  Rhagwelai ef y câi'r cais ei ystyried yn y cyfarfod nesaf.

 

 

 

     PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais am y rheswm a roddwyd uchod.

 

      

 

7

CEISIADAU ECONOMAIDD

 

      

 

7.1     11C534/ECON - Codi canolfan gofal iechyd newydd ac addasu’r maes parcio presennol ynghyd â chreu mynedfa newydd i gerddwyr ar dir yn Ffordd Pen-y-bonc , Amlwch

 

      

 

     Adroddodd y Pennaeth Rheoli Datblygu y bwriedir adeiladu canolfan gofal iechyd fydd tua 1257 metr sgwâr gyda lle ar gyfer ystafelloedd ymgynghori, ystafelloedd triniaethau, cyfleusterau lle trin traed a fflebotomi, derbynfa a lle i gleifion aros a fferyllfa ar y lefel isaf.  Ar y llawr cyntaf bydd cyfleusterau ar gyfer bydwragedd, ymwelwyr iechyd a nyrsys ardal ac ystafell staff a swyddfeydd.

 

      

 

     PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn adroddiad y Swyddog a chaniatáu’r cais am y rhesymau a roddwyd gydag amodau y manylwyd arnynt.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

8

CEISIADAU AM DAI FFORDDIADWY

 

      

 

     Ni dderbyniwyd ceisiadau i’w hystyried yn y cyfarfod hwn.

 

      

 

9

CEISIADAU’N GWYRO

 

      

 

9.1     24C268A - Cais amlinellol ar gyfer codi annedd, creu mynedfa newydd i geir a gosod system trin carthion ar dir ger Gwelfor, Cerrig-mân

 

      

 

     Adroddodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod y cais yn tynnu’n groes i’r cynllun datblygu gyda’r awdurdod cynllunio lleol yn bwriadau caniatau’r cais.  O ystyried darpariaethau Adran 38(6) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 mae angen i’r penderfyniad fod yn unol â’r cynllun datblygu oni bai bod ystyriaethau eraill o bwys yn dangos fel arall.

 

      

 

     Rhoddwyd caniatâd cynllunio amodol ym Medi 2008 ar gyfer annedd yn gyfagos i’r safle sy’n destun y cais hwn.  Mae safle’r cais  yn y cefn gwald o dan ddarpariaethau Cynllun Lleol Ynys Môn (Rhagfyr 1996), ac wedi’i hysbysebu felly fel cais sydd yn tynnu’n gores i’r cynllun datblygu.  Y rheswm am hyn yw nad yw Cerrig-mân wedi’i restru o dan ddarpariaethau Polisi 50 (Anheddau Rhestredig) yn y cynllun hwn, sydd yn caniatáu anheddau unigol o fewn neu ar ffin pentrefi a hamledau rhestredig cyn belled â bo’r meini prawf rhestredig wedi’u bodloni.   Mae Cerrig-mân yn cael ei gynnwys fel anheddiad o dan ddarpariaethau Polisi HP5 o’r Cynllun Datblygu Unedol Ynys Môn a Stopiwyd.  Mae’r polisi hwn yn caniatáu adeiladau anheddu sengl fel mewnlenwi a safleoedd derbyniol eraill yn amodol ar y meini prawf rhestredig.  Mae safle’r cais hefyd o fewn y ffrâm ddangosol.  O gofio’r cyfnod pell yr aed iddo wrth baratoi’r Cynllun Datblygu Unedol Ynys Môn a Stopiwyd, fe ellir rhoddi cryn bwysau i’w ddarpariaethau yn gymaint ag i orbwyso darpariaethau’r cynllun datblygu yn yr achos hwn.  Mae’r egwyddor o ddatblygu yn dderbyniol yn amodol ar ystyriaethau cynllunio manwl.

 

      

 

     Cafwyd cynnig gan y Cynghorydd J. Arwel Roberts bod y cais yn cael ei ganiatáu a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd O. Glyn Jones.

 

 

 

     PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn adroddiad y Swyddog a chaniatau’r cais am y rhesymau a roddwyd gydag amodau y manylwyd arnynt.

 

      

 

9.2     46C410B - Cais amlinellol ar gyfer codi annedd ar dir ger Garreg Fawr, Lon Garreg Fawr, Trearddur

 

      

 

     Adroddodd y Pennaeth Rheoli Datblygu mai cais amlinellol yw hwn i godi un annedd ar ran o gae sy’n ffryntio ffordd breifat yn Lôn Garreg Fawr, Trearddur.  Mae’r ffordd hon yn gwasanaethu nifer o blotiau unigol gyda’r fynedfa i’r briffordd yn ei groeslon gyda Lôn St. Ffraid ger y clwb golff.  Mae’r safle y tu allan i’r ffin ddatblygu i Trearddur ond yn union gyfagos i’r ffin o dan Gynllun Lleol Ynys Môn.  O dan y CDU a stopiwyd, fe gafodd y ffin ddatblygu ei hymestyn i gynnwys y plot a’r tir cyfagos rhwng y ffin a Fferm Garreg Fawr, oedd yn rhoi cyfle i ddarfod y pentref yn grwn yn y parthau hyn.  Oherwydd ei fod y tu allan i ffin y Cynllun Datblygu, mae cais am annedd yn un sy’n tynnu’n groes oddi wrth y Cynllun Lleol.

 

      

 

     Fodd bynnag, mae cyngor polisi yn dweud bod angen rhoi pwysau i’r CDU wrth wneud penderfyniadau a hynny oherwydd y cyfnod pell yr aethpwyd gyda pharatoi’r CDU.  Er bod safle y tu allan i'r ffin ddatblygu o dan y Cynllun Lleol, fe ellir ei gefnogi ar sail polisi.  Am y rhesymau a roddwyd, nid yw’n cael ei ystyried y byddai’r cynnig hwn yn tanseilio’r Cynllun Lleol ac mae’r datblygiad yn blot mewnlenwi derbyniol o fewn ffin y CDU.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

     Holodd y Cynghorydd Selwyn Williams a fuasai'r datblygiad arfaethedig yn uwch na thai eraill yn y cyffiniau ac mewn ymateb dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod modd rhoddi amod ynghlwm i sicrhau mai adeilad unllawr fydd yr annedd.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd W. J. Chorlton cafwyd cynnig i ganiatáu'r cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd O. Glyn Jones.

 

      

 

     PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn adroddiad y Swyddog a chaniatau’r cais am y rhesymau a roddwyd gydag amodau y manylwyd arnynt.

 

      

 

10     CYNIGION DATBLYGU GAN GYNGHORWYR A/NEU SWYDDOGION

 

      

 

     Ni dderbyniwyd unrhyw gynnig gan Gynghorydd na Swyddog i’r cyfarfod hwn.

 

 

 

11

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

11.1     11/LPA/144E/CC - Dymchwel yr Hen Ysgol Feithrin i ailddatblygu y safle i gynnwys ardal parcio ceir i 26 car i staff yn Ysgol Gynradd Amlwch, Amlwch

 

      

 

     Adroddodd y Pennaeth Rheoli Datblygu - ystyrir bod yr adeilad presennol yn un o ddyluniad gwael a bydd ei ddymchwel, ac wedi hynny ailddatblygu’r safle yn gwella edrychiad yr ardal yn sylweddol.  Mae’r adeilad presennol yn tynnu oddi wrth yr ardal ac yn cael effaith niweidiol.  Ystyrir felly bod y cynnig yn dderbyniol o osod amodau.

 

      

 

     Cafwyd cynnig gan y Cynghorydd J. Arwel Roberts i ganiatáu'r cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd W. J. Chorlton.

 

      

 

     PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn adroddiad y Swyddog a chaniatau’r cais am y rhesymau a roddwyd gydag amodau y manylwyd arnynt.

 

      

 

     Roedd y Cynghorwyr E. G. Davies a Clive McGregor yn dymuno cofnodi na chymerodd yr un ohonynt ran yn y drafodaeth na pleidleisio ar yr eitem.

 

      

 

11.2     17C437 - Dymchwel yr annedd ynghyd â chodi annedd newydd yn ei lle yn Tyddyn Hen, Llandegfan

 

      

 

     Adroddodd y Pennaeth Rheoli Datblygu mai adeilad coed o fath chalet yw’r strwythur sydd yno ar hyn o bryd, yn cael ei gynnal uwchben lefel y ddaear gan nifer o bileri brics.  Mae’r chalet yn ymyl adeiladau allanol o gerrig o fewn cwrtil preswyl Tyddyn Hen.  Ni chredir bod y cais yn dderbyniol mewn perthynas â darpariaethau Polisi 54 a HP9 o Gynllun Datblygu Unedol Ynys Môn sy’n cau allan unrhyw strwythurau nad ydynt wedi’u bwriadu ar gyfer defnydd preswyl parhaol.

 

      

 

     Gofynnodd yr Aelod Lleol am ymweliad â'r safle.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â'r safle er mwyn rhoi'r cyfle i aelodau ddeall yn iawn beth yw'r datblygiad arfaethedig cyn penderfynu ar y cais.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

11.3     32C157B - Codi estyniad deulawr yn Bryn y Gwynt, Caergeiliog

 

      

 

     (Datganodd y Cynghorydd O. Glyn Jones ddiddordeb yn y cais hwn a gadwodd y cyfarfod am y drafodaeth a'r pleidleisio arno).

 

      

 

     Adroddodd y Pennaeth Rheoli Datblygu - mai'r bwriad yw codi estyniad deulawr i’r annedd bresennol.  Hen adeilad amaethyddol oedd yr eiddo ac fe roddwyd caniatâd cynllunio i’w addasu yn annedd ym mis Ionawr 2004. Oherwydd maint, uchder a mas yr estyniad arfaethedig byddai’r cynnig allan o gymeriad gyda’r adeiladau presennol.

 

      

 

     Dywedodd yr Aelod Lleol bod cwpl ifanc a dau blentyn bach yn byw yn y ty hwn a dim ond dwy ystafell wely oedd ynddo.  Nododd hefyd fod y cwpl ifanc wedi cychwyn busnes peirianneg sifil yn cyflogi 4 o bobl yn yr ardal.  Ni fedrai'r aelod lleol gytuno bod y datblygiad arfaethedig yn mynd i fod yn groes i gymeriad yr ardal.  Nododd y Cynghorydd Jones bod y ty hwn union ger Llyn Traffwll. Roedd tai mwy o lawer yng nghyffiniau'r estyniad arfaethedig a rhoddwyd i eiddo arall gerllaw, ger Bryn y Gwynt, Caergeiliog ganiatâd cynllunio yn y 12 mis diwethaf i estyn y ty. Roedd y cais hwnnw yn llawer iawn mwy na'r estyniad arfaethedig hwn.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd C. McGregor cafwyd cynnig i ymweld â'r safle a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd B. Durkin.

 

      

 

     Yn unfrydol PENDERFYNWYD ymweld â'r safle.

 

 

 

11.4     34C585 .............. Adnewyddu cais cynllunio amlinellol cyfeirnod 34LPA850/CC ar gyfer creu ffordd a throedffordd newydd, ysgol newydd, canolfan integredig newydd, ystad o dai ac uned adeiladwaith newydd ar ran o dir/wrth ymyl Coleg Menai, Llangefni

 

      

 

     Eglurodd y Cadeirydd y câi'r cais ei drin fel un groes i bolisi am y rhesymau hynny a gâi eu cyflwyno gan y swyddog.

 

      

 

     Adroddodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod y cais yn ymwneud â thir i’r gogledd ddwyrain o Langefni rhwng Coleg Menai a Ffordd Talwrn.  Cais amlinellol oedd gerbron i adnewyddu rhan breswyl y cais uchod.  Cyfeiriodd y Swyddog at yr adroddiad yn nodi bod Coleg Menai wedi cadarnhau nad yw’r rhan breswyl o’r datblygiad hwn wedi ei dechrau oherwydd y sefyllfa economaidd bresennol; a bod cyfiawnhad dros gymeradwyo’r elfen breswyl yn parhau o hyd oherwydd i’r Coleg orfod benthyg arian i gyllido’r ganolfan Sgiliau Adeiladu.  

 

      

 

     Nodir bod Llangefni yn anheddiad diffiniedig o dan ddarpariaethau Polisi 49 Cynllun Lleol Ynys Môn.  Mae safle’r cais yn gorwedd y tu allan ond yn gyfagos i ffin ddatblygu Llangefni o dan ddarpariaethau’r polisi hwn, a dyma pam y mae’r cais hwn wedi cael ei hysbysebu fel un oedd yn tynnu’n groes oddi wrth ddarpariaethau’r cynllun datblygu.  Nodir bod Llangefni yn brif ganolfan dan Bolisi HP3 y Cynllun Datblygu Unedol a Stopiwyd i Ynys Môn.  Hefyd roedd safle'r cais y tu allan ond union ger ffiniau'r dref dan ddarpariaethau'r cynllun hwn.  Ychwanegodd y swyddog y buasai 30% o dai y stad yn rhai fforddiadwy.

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiynau dywedodd y swyddog, adeg rhoddi caniatâd amlinellol bod cytundeb economaidd a gyflwynwyd i'r cyfan o'r datblygiad h.y. y trogylch yr ysgol newydd, y ffyrdd, ysgol integredig a'r ganolfan sgiliau adeiladu, yn cyfiawnhau caniatâd i'r elfen dai a oedd y tu allan i ffiniau'r dref ac i dai cyffredinol yn bennaf yn hytrach na rhai fforddiadwy.

 

      

 

     Roedd yr aelod lleol yn cefnogi y cais i adnewyddu'r caniatâd amlinellol.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

     PENDERFYNWYD  caniatâu’r cais.

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd Eurfryn Davies am nodi nad oedd wedi pleidleisio ar y cais.

 

      

 

11.5     35C100A - Cais amlinellol ar gyfer codi byngalo a garej ynghyd â chreu mynedfa newydd i geir ar dir gyferbyn â Glandwr Cottage, Llangoed

 

      

 

     (Gwnaeth y Cynghorydd Lewis Davies ddatganiad o ddiddordeb yn y cais a gadawodd y cyfarfod am y drafodaeth a'r pleidleisio).

 

      

 

     (Gwnaeth yr Uwch Beiriannydd (Rheoli Datblygu a Hawliau Tramwy Cyhoeddus) ddatganiad o ddiddordeb yn y cais a gadawodd y cyfarfod am y drafodaeth a'r pleidleisio).

 

 

 

     Adroddodd y Pennaeth Rheoli Datblygu mai darn o dir trionglog yw safle’r cais yn anheddiad Glan yr Afon, Llangoed.  Mae yna nifer o faterion allweddol gyda’r cynnig hwn fel a ganlyn :-

 

      

 

Ÿ

A yw’r cynnig yn dderbyniol ai peidio ac yn unol â pholisiau cynllun datblygu;

 

Ÿ

Bod y safle arfaethedig yn dir comin cofrestredig.

 

Ÿ

Bod y coed ar y safle yn destun Gorchymyn Cadw Coed.

 

      

 

     Dywedodd bod pentref Glan yr Afon wedi'i ddiffinio dan Bolisi 50 y Cynllun Lleol ac mae hynny'n caniatáu datblygiad mewn mannau tebyg i safle'r cais hwn.  Hefyd nododd bod y tir ar dir comin ac o sylwi ar yr adroddiad roedd modd rhoddi caniatâd cynllunio ar dir comin, ond wedyn buasai'r ymgeisydd angen caniatâd Llywodraeth Cynulliad Cymru i wneud unrhyw waith neu ymgymryd ag unrhyw ddatblygiad ar y tir comin. O dan Ddeddf Cofrestru Tir Comin 1965 nid oedd unrhyw ddarpariaeth i gywiro camgymeriadau wnaed yng nghyswllt cofrestru tir comin: fodd bynnag, fe wneir darpariaethau ar gyfer hyn yn Neddf Tir Comin 2006 fydd yn disodli Deddf 1965.  Fodd bynnag, nid yw’r adrannau perthnasol mewn grym ar hyn o bryd, sef Adran 19 sydd yn ymwneud â chywiro camgymeriadau clerigol ac Adran 22 o Restr 2 sy’n cyfeirio at fethu cofrestru neu gofrestru anghywir.  Bydd Deddf Tir Comin 2006 hefyd yn diddymu Adran 194 o Ddeddf y Gyfraith ac Eiddo 1925 sydd yn rhwystro adeiladu a gyrru cerbydau dros dir comin.  

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Selwyn Williams cafwyd cynnig i ymweld â'r safle a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd B. Durkin.

 

      

 

     Yn unfrydol PENDERFYNWYD cael ymweliad â'r safle.

 

 

 

12

CEISIADAU A DDIRPRWYWYD

 

      

 

     Cyflwynwyd a derbyniwyd - adroddiad Pennaeth y Gwasanaeth Cynllunio ar geisiadau a ddirprwywyd ac y gwnaethpwyd penderfyniad arnynt ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor hwn.

 

      

 

13

APELIADAU

 

      

 

     Cyflwynwyd a nodwyd, er gwybodaeth, gopi o grynodebau o benderfyniadau gan yr Arolygydd Cynllunio ynghylch :-

 

      

 

     Amrywio'r caniatâd cynllunio yng Nghefn Ysgwydd Bach, Bryngwran - caniatawyd yr apêl;

 

     Tir ger Graianfryn, Talwrn - caniatawyd yr apêl;

 

     Tir ym Mhen-y-groes, Lon Ganol, Llandegfan - gwrthodwyd yr apêl;

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

     Tir ym Mryn y Môr, y Fali - gwrthodwyd yr apêl;

 

     Tir yn 3 Teras Marine, Stryd Fawr, Rhosneigr - Cywiro'r Rhybudd Gorfodaeth / gwrthod yr apel.

 

 

 

14

MATERION ERAILL

 

      

 

14.11     41C9U - Newid defnydd tir ar gyfer lleoli 56 o gynhwysyddion storio ynghyd ag adeiladu canopi yng Nghanolfan Fasnachu, Star

 

      

 

     Cyflwynwyd - adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaeth (Cynllunio) er mwyn rhoi braslun o’r opsiynau sydd ar gael i symud y cais cynllunio arbennig hwn yn ei flaen o ystyried nad yw rhybudd penderfyniad wedi ei ryddhau hyd yn hyn, ac mae asiant yr ymgeisydd yn cyfeirio at hawlio iawndal oherwydd bod ei glient wedi colli enillion.

 

      

 

     Nododd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gafwyd ar 3 Medi, 2008 wedi penderfynu caniatau’r cais ond gyda gosod ‘amod Grampian i gyfyngu ar uchder y wal yn y fynedfa i’r safle’.  Nid yw’r penderfyniad yn gwneud unrhyw gyfeiriad at ba bryd y dylid gostwng uchder y wal (er enghraifft - cyn dechrau’r datblygiad neu ddechrau masnachu ac yn y blaen).  Er i’r penderfyniad a gofnodwyd cael i eirio fel uchod, y cynnig a wnaed yn nhermau caniatau’r cais oedd bod adroddiad y swyddog a’r argymhelliad i ganiatau yn cael ei dderbyn, ond yn amodol ar i’r wal ger y fynedfa gael ei gostwng cyn y byddai’r caniatâd cynllunio’n cael ei ryddhau.

 

      

 

     Yn y cyfamser mae asiant yr apeliwr yn honni bod y Pwyllgor wedi penderfynu caniatau’r cais ar y sail nad oedd y defnydd o’r safle i ddechrau hyd nes y byddai uchder y wal wedi ei ostwng fel y byddai rhywbeth yn debyg i’w huchder blaenorol.  Ar sail hyn mae’n credu y dylai’r caniatâd gynllunio gael ei ryddhau ar unwaith gydag amod Grampian arno er mwyn iddo adlewyrchu penderfyniad y Pwyllgor.  Byddai sefyllfa o’r fath yn caniatau i’r canopi gael ei godi er mwyn sgrinio’r cynwysyddion storio cyn gostwng uchder y wal ond ni fyddai’n caniatau i fasnachu ddechrau hyd nes y byddai uchder y wal wedi ostwng.  

 

      

 

     O safbwynt rhyddhau’r rhybudd penderfyniad, y prif gonsyrn i’r awdurdod cynllunio lleol yw bod yna ddigon o reolaeth yn bodoli i adfer y gwelededd i’r briffordd, yn y fynedfa i’r briffordd sirol, ac i orfodi oni chydymffurfir â’r gofyn hwn.  I’r perwyl hwn, mae’r Awdurdod Priffyrdd ar hyn o bryd yn cael trafodaethau gyda pherchennog y wal y gofynnir i’w huchder gael ei ostwng gyda golwg ar gael gwneud y gwaith angenrheidiol arni fel y bydd yn cyrraedd y safon angenrheidiol.  Fe ddylai uchder y wal gael ei ostwng i lefel oedd rhywle oddeutu ei huchder cyn iddi gael ei chodi’n uwch.  Mae perchennog y tir wedi cytuno i waith o’r fath gael ei wneud cyn belled â bo cytundeb derbyniol yn cael ei wneud ynglyn â diogelu ei safle i’r run graddau ag a wneir ar hyn o bryd gyda’r wal ar ei huchder presennol.

 

      

 

     O safbwynt cynllunio, mae’n hanfodol bod unrhyw amod roddir ar y caniatâd cynllunio yn caniatáu digon o reolaeth fel y gellir ei orfodi mewn ffordd effeithiol os bydd raid.  Fe ddylai amodau o’r fath hefyd adlewyrchu dymuniadau’r Pwyllgor wrth wneud ei benderfyniad ar y cais.  Rhaid felly ystyried ar ba sail y bu i’r Pwyllgor ganiatáu’r cais.  

 

      

 

     O ystyried y safbwynt sy’n cael ei ddal gan asiant yr ymgeisydd, ceisiwyd cael tâp o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio gynhaliwyd ar 3 Medi i gadarnhau beth ddywedwyd yn y drafodaeth a’r cynnig y pleidleisiwyd arno.  Roedd y tâp yn cadarnhau mai’r cynnig a roddwyd gerbron y Pwyllgor oedd :-

 

      

 

     ‘Bod y cais yn cael ei ganiatáu a bod amod yn cael ei osod ar y caniatâd yn dweud na ellir defnyddio’r safle hyd nes y bo problem y wal wedi ei datrys.’

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

     Wrth basio’r cynnig, roedd dealltwriaeth y byddai’n rhaid gostwng uchder y wal, ond hefyd byddai angen ei chynnal a’i chadw ar yr uchder hwnnw wedi iddi gael ei gostwng.

 

      

 

     O ystyried yr uchod, fe ymddengys bod y Pwyllgor wedi cymeradwyo caniatau’r cais cynllunio, ar yr amod na fyddai’r defnydd o’r safle yn dechrau hyd nes y byddai’r gwaith o ostwng uchder y wal wedi ei wneud.  Mae canlyniad o’r fath yn wahanol i’r cynnig gafodd ei wneud ar y cychwyn ac i’r hyn a gofnodir yn y cofnodion fel penderfyniad y Pwyllgor.  Felly, argymhellir bod y caniatâd yn awr yn cael ei ryddhau a’i fod yn cynnwys yr amod a ganlyn :-

 

      

 

     ‘Ni chaniateir dechrau’r defnydd a ganiateir yma hyd nes y bydd uchder y wal derfyn gyda’r briffordd ar ochr ogledd-ddwyreiniol y fynedfa i’r Ganolfan Fasnachu, fel a ddangosir mewn coch ar y cynllun sydd ynghlwm, wedi ei ostwng i 900mm uwchben y briffordd sirol gyfagos.  Rhaid cynnal a chadw’r wal wedi hynny ar yr uchder hwn.’

 

      

 

     Trwy ryddhau’r caniatâd i gynnwys amod o’r fath, byddir yn caniatau i berchennog y safle wneud gwaith adeiladu yn unol â’r caniatâd hwn ond ni fydd yn gallu masnachu o’r safle hyd nes y bydd mater y wal wedi’i ddatrys.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chymeradwyo rhyddhau’r caniatâd cynllunio i gynnwys yr amod a ganlyn :-

 

      

 

     'Ni fydd modd dechrau ar y defnydd hwnnw y rhoddir caniatâd iddo yma hyd oni fydd wal derfyn y briffordd i'r gogledd-ddwyrain o fynedfa'r ganolfan fasnachu ac a nodir mewn coch ar y cynllun sydd ynghlwm wedi ei gostwng i 900mm o uchder uwchlaw y briffordd sirol gyffiniol.  Wedyn bydd raid cadw'r wal ar yr uchder hwn."

 

      

 

     (Gwnaeth y Cynghorydd Selwyn Williams ddatganiad o ddiddordeb yn y cais hwn a gadawodd y cyfarfod am y drafodaeth a'r pleidleisio).

 

 

 

14.2     Hyfforddiant Aelodau - Adroddwyd bod diwrnod o Hyfforddiant ar gyfer Aelodau wedi ei drefnu ar gyfer dydd Mercher, 25 Ionawr i drafod materion Cynllunio ac Apeliadau.

 

      

 

15

YMWELIADAU CYNLLUNIO

 

      

 

     Cytunwyd i gynnal yr ymweliadau safle nesaf ar ddydd Mercher 18 Chwefror 2009 am 9.30 am.

 

      

 

      

 

     Agorwyd y cyfarfod am 1.00pm a daeth i ben am 2.50pm.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

 

 

      

 

     Y CYNGHORYDD THOMAS H. JONES

 

     CADEIRYDD