Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion dogfennau , 4 Mawrth 2009

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Dydd Mercher, 4ydd Mawrth, 2009

PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION

 

Cofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 4 Mawrth, 2009  

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd T.H. Jones - Cadeirydd

 

Y Cynghorwyr W.J. Chorlton, Eurfryn G. Davies, Lewis Davies,

Barrie Durkin, Jim Evans, Kenneth P. Hughes, O. Glyn Jones,

Clive McGregor, R.L. Owen, J. Arwel Roberts, Hefin W. Thomas,

John Penri Williams.

 

 

 

WRTH LAW:

 

Cynllunio :

Pennaeth Rheoli Datblygu,

Rheolwr Rheoli Cynllunio (DFJ),

Cynorthwywr Cynllunio (GJ).

 

Priffyrdd :

Prif Beiriannydd (Rheoli Datblygu a Hawliau Tramwy Cyhoeddus) (JRWO),

Swyddog Rheoli Datblygu (RE).

 

Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol (RWJ),

Swyddog Pwyllgor (MEH).

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Y Cynghorydd Selwyn Williams.

 

HEFYD YN BRESENNOL :

 

 

Aelodau Lleol :

Y Cynghorwyr G.O. Jones (Eitem 6.7); Bob Parry OBE (Eitem 6.8 ar ran yr Aelod Lleol); Fflur M. Hughes (Eitem 6.9); Eric Roberts (Eitemau 6.11 a 11.6); P.M. Fowlie (Eitem 11.3); Eric Jones (Eitem 11.5)

 

O gyfarfod nesaf y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ymlaen dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu y bydd y dogfennau hynny sydd yn ffeiliau'r ceisiadau ar gael i aelodau eu gweld ar gyfrifiadur yn Siambr y Cyngor o 12.30pm ymlaen ar ddiwrnod y Pwyllgor.

 

1

YMDDIHEURIADAU

 

Ymddiheuriadau fel a nodwyd uchod.

 

2

DATGANIAD O DDIDDORDEB

 

Derbyniwyd datganiadau o ddiddordeb fel y cawsant eu cofnodi dan yr eitemau perthnasol.

 

3

COFNODION

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gafwyd ar 4 Chwefror 2009 yn amodol ar ddiwygio y fersiwn Saesneg ar dudalen 8 - 6.6 46C137E - i ddarllen "......erection of 17, three storey dwellings......."

 

Roedd y Cynghorydd B. Durkin yn dymuno diwygio y trydydd paragraff ar dudalen 7 i ddarllen "dywedodd y Cynghorydd B. Durkin, fel yr Aelod Lleol y buasai cyfanswm o 7 fflat yn yr ardal hon pe câi'r cais hwn ei gymeradwyo."

 

 

 

4

YMWELIADAU SAFLE

 

 

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd cofnodion yr Ymweliadau â Safleoedd ar 18 Chwefror 2009 ond roedd y Cynghorydd C. McGregor yn dymuno nodi na fedrai fynychu'r ymweliadau a hynny oherwydd gwaeledd - yn y cyfamser roedd wedi ymweld â'r safleoedd ei hun.

 

 

 

5

CEISIADAU A OHIRIWYD

 

 

 

Ni dderbyniwyd ceisiadau i’w gohirio yn y cyfarfod hwn.

 

 

 

6

CEISIADAU YN CODI

 

 

 

6.1

Ceisiadau’n Tynnu’n Groes - 11/C/8U/1 - Cais llawn ar gyfer codi 35 uned breswyl ynghyd â chreu mynedfa newydd i geir ac i gerddwyr ar dir tu cefn i Barc Trecastell, Porth Llechog, Amlwch

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr Aelod Lleol.  Cafodd y Pwyllgor Cynllunio ymweliad â’r safle ym mis Gorffennaf 2007, mae’r cais wedyn wedi ei ohirio hyd nes derbyn gwybodaeth ychwanegol.  Yn y lle cyntaf cyflwynwyd y cais hwn am 35 o unedau, ond wedyn fe ostyngwyd hynny i 30.

 

 

 

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod Porth Llechog yn Bentref dan bolisi HP4 y Cynllun Datblygu Unedol a Stopiwyd i Ynys Môn.  Mae safle’r cais y tu mewn i ffiniau’r pentref ac wedi ei ddynodi dan gynnig rhif T70.  Mae’r ardal hon yn mesur rhyw 1.75 hectar; ni ddywedir faint o unedau y gellir eu codi gan fod y safle wedi’i gynnwys yn unig fel dyraniad ar ôl newid arfaethedig (PC 571) gan yr awdurdod cynllunio lleol mewn ymateb i wrthwynebiad - a derbyniwyd hyn gan yr Arolygydd Cynllunio.  Mae modd rhoddi pwysau ar hyn oherwydd bod cymaint o waith wedi ei wneud ar y cynllun.  

 

 

 

Dan Bolisi 51 Cynllun Lleol Ynys Môn, a than bolisi HP7 y Cynllun Datblygu Unedol a Stopiwyd a hefyd dan Ganllawiau Cynllunio Atodol y Cyngor ar Dai Fforddiadwy rhaid cynnwys elfen o dai fforddiadwy ar safleoedd mawr sy’n 10 neu ragor na hynny o anheddau.  Mae’r safle eisoes efo caniatâd cynllunio am 30 o anheddau, sydd angen ei asesu cyn defnyddio polisiau tai fforddiadwy.

 

 

 

Gan y Cynghorydd O. G. Jones cafwyd cynnig i ganiatáu'r cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd H. W. Thomas.

 

 

 

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad o ganiatáu'r cais gyda'r amodau yn yr adroddiad hwnnw.

 

 

 

6.2

Gweddill y Ceisiadau - 17/C/437 - Dymchwel yr annedd ynghyd â chodi annedd newydd yn ei le yn Tyddyn Hen, Llandegfan

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr Aelod Lleol.  Yn y cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gafwyd ar 4 Chwefror, 2009, penderfynwyd ymweld â’r safle, a chafwyd yr ymweliad ar 18 Chwefror, 2009.

 

 

 

Adroddodd y Pennaeth Rheoli Datblygu mai adeilad coed o fath ‘chalet’ yw’r strwythur sydd yno ar hyn o bryd, yn cael ei gynnal uwchben lefel y ddaear gan nifer o bileri brics.  Mae’r ‘chalet’ yn ymyl adeiladau allanol o gerrig o fewn cwrtil preswyl Tyddyn Hen.  Cais yw hwn i adeiladu annedd unllawr yn lle’r ‘chalet’, a byddai hefyd yn defnyddio rhan o’r adeilad allanol fel lle byw.

 

 

 

Nododd nad yw’r cais yn cael ei ystyried yn dderbyniol mewn perthynas â darpariaethau Polisi 54 a HP9 o Gynllun Datblygu Unedol Ynys Môn a Stopiwyd sy’n cau allan unrhyw strwythurau nad ydynt wedi’u bwriadu ar gyfer defnydd preswyl parhaol.  

 

 

 

Teimlai'r Aelod Lleol ar ymweliad â safle, ei bod hi'n amlwg bod angen codi rhywbeth newydd yn lle'r hen 'chalet'.  Nododd hefyd bod annedd yn barod ar y safle a chyfeiriodd at 6, paragraff 3 yr adroddiad yn darllen :- "Ymddengys bod y strwythur presennol wedi bod ar y safle ers cyn 1983 a bod ganddo ddefnydd preswylio cyfreithlon."

 

 

 

Cytuno a wnaeth y Cynghorydd O. Glyn Jones gyda'r aelod lleol bod annedd wedi bod ar y safle a chynigiodd roddi caniatâd i'r cais a hynny'n groes i argymhelliad y swyddog.  Cafodd ei eilio gan y Cynghorydd E. G. Davies.

 

 

 

Gan y Cynghorydd Kenneth P. Hughes cafwyd cynnig i dderbyn yr argymhelliad ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Lewis Davies.

 

 

 

Roedd y bleidlais fel a ganlyn :-

 

 

 

Caniatáu’r cais yn groes i argymhelliad y swyddog : Y Cynghorwyr W.J. Chorlton, E.G. Davies, Barrie Durkin, Jim Evans, O.G. Jones, C. McGregor, J. Arwel Roberts, J.P. Williams.

 

 

 

Derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais : Y Cynghorwyr Lewis Davies, Kenneth P. Hughes.

 

 

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog.

 

 

 

Y rhain oedd y rhesymau dros ganiatau :-

 

 

 

Mae'n cydymffurfio gyda Pholisi 54.

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio’n otomatig i’r cyfarfod nesaf er mwyn i swyddogion baratoi adroddiad ar y rheswm dros ganiatáu'r cais.

 

 

 

6.3

Gweddill y Ceisiadau - 17/C/199G - Newid amodau (09), (10), (11) a (12) o gais cynllunio 17C199E i ddarllen fel a ganlyn : A) Bydd y cabanau, sialetau a’r tai yn cael eu defnyddio i bwrpas gwyliau’n unig B) Ni fydd y cabanau, sialetau a’r tai yn cael eu defnyddio fel unig na phrif gartref i neb C) Bydd y perchnegion yn gorfod cadw cofrestr gyfredol o enwau pob perchennog, deiliad pob caban, sialet, ty ar y safle a phrif gyfeiriad cartref pob un a bydd raid rhyddhau’r wybodaeth hon ar bob amser rhesymol i’r awdurdod cynllunio lleol yn Llyn Jane, Llandegfan

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr Aelod Lleol.

 

 

 

Adroddodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod caniatâd wedi ei roddi i godi cabanau gwyliau ar y safle.  Cais yw hwn i amrywio’r amodau gwyliau/byw geir ar y caniatâd.  Mae’r amodau ar hyn o bryd yn datgan :-

 

 

 

(9) Ni chaniateir defnyddio’r cabanau ganiateir yma ond fel llety gwyliau ac ni cheir ar unrhyw amser eu defnyddio fel eiddo preswyl parhaol.

 

 

 

(10) Ni chaiff unrhyw berson/personau fyw yn yr eiddo ganiateir yma i bwrpasau llety gwyliau am fwy na 28 diwrnod yn olynol.

 

 

 

 

 

(11) Mae’r cyfnod y caiff unrhyw berson fyw yn yr unedau gwyliau ganiateir yma yn cael ei gyfyngu i 11 mis fydd yn dechrau ar 1 Mawrth mewn unrhyw flwyddyn ac yn diweddu ar 31 Ionawr y flwyddyn ddilynol.

 

 

 

(12) Rhaid cadw’r llety gwyliau a’r cyfleusterau cysylltiol ganiateir yma fel un complecs ac ni ellir ar unrhyw amser eu gwerthu fel unedau ar wahân.

 

Y bwriad yw newid yr amodau hyn gan roi yn eu lle y canlynol :-

 

 

 

Ÿ

Rhaid defnyddio’r cabanau i bwrpasau gwyliau yn unig;

 

 

 

Ÿ

Ni chaiff neb ddefnyddio'r cabanau fel ei brif neu ei unig le byw;

 

 

 

Ÿ

Rhaid i’r perchnogion/gweithredwyr gadw cofrestr gyfredol o enwau pob perchennog/deiliaid y cabanau unigol ar y safle a hefyd gyfeiriadau eu prif gartrefi gan beri bod y wybodaeth hon ar gael ar bob adeg resymol i’r awdurdod cynllunio lleol.

 

 

 

Mae CCA Llety Gwyliau yn nodi 3 math o amodau sydd wedi eu defnyddio’n draddodiadol h.y. cyfyngu ar gyfanswm cyfnod y ddeiliadaeth (11 mis), cyfyngu hyd yr arhosiad (28 diwrnod) a chyfyngu i ddefnydd gwyliau.  Credwyd bod angen caniatáu'r amodau arfaethedig ond bod amod 11, sy'n cyfyngu ar breswylio i gyfnod o 11 mis, yn aros.

 

 

 

Nododd yr Aelod Lleol bod adroddiad y swyddog yn cyfeirio at gyfyngu'r cyfnod preswylio i 11 mis ond ychwanegodd bob un aelod ar yr ymweliad â'r safle wedi holi pa mor rwydd fuasai sicrhau bod cyfnod preswylio mewn gwirionedd am 11 mis yn unig; nid oedd yr ateb yn gwbl ffafriol oherwydd anhawster goruchwylio cyfyngiad o'r fath.

 

 

 

Gofynnodd y Cynghorydd C. McGregor pwy benderfynodd y dylai'r safle gau yn Chwefror oherwydd bod gwyliau hanner tymor yr ysgolion yn digwydd yn y mis hwnnw.  Aeth ymlaen i son bod datblygiadau gwyliau cyffelyb yn cau ym mis Tachwedd ond mewn ymateb dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod y Cynllun Lleol dan Bolisi 11 yn dweud - uned wyliau; 1 Mawrth tan 4 Ionawr i unedau gwyliau gynnal eu busnes.

 

 

 

Gan y Cynghorydd J. Arwel Roberts cafwyd cynnig i ganiatáu'r cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd W. J. Chorlton a gredai bod safon uchel fel hon yn angenrheidiol i ddenu ymwelwyr i'r ardal.

 

 

 

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais gyda'r amodau yn yr adroddiad.

 

 

 

6.4

Gweddill y Ceisiadau - 24/C/192B - Codi dwy uned dwy ystafell wely ar gyfer llety gwyliau, gosod tanc septig newydd, ynghyd â chreu man pasio a lle parcio yn Rhiwlas, Nebo, Pen-y-sarn

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr Aelod Lleol.  Yn y cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gafwyd ar 7 Ionawr, 2009, penderfynwyd ymweld â’r safle, a chafwyd yr ymweliad ar 21 Ionawr, 2009.  Yn y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gafwyd ar 4 Chwefror, 2009 penderfynwyd caniatáu’r cais yn groes i argymhelliad y swyddog.  Paratowyd yr adroddiad hwn mewn ymateb i resymau a roddwyd dros ganiatáu'r cais, sef :-

 

 

 

Ÿ

Yn cydymffurfio gyda pholisiau twristiaeth

 

Ÿ

Y byddant yn helpu gydag adfywio gwledig

 

Ÿ

Y byddant yn creu gwaith

 

 

 

Adroddodd y Pennaeth Rheoli Datblygu yng nghyswllt y materion uchod, nad oes modd cefnogi datblygiad o’r maint hwn ac mewn lleoliad o’r fath mewn termau polisi.  Fe allai datblygiadau o’r fath gael eu hailadrodd yn llawer rhy aml a hynny er niwed i’r cefn gwlad agored.  Ymhellach i hyn, ni ellir ei ystyried fel cynllun adfywio a hynny oherwydd ei faint, na chwaith fel un fyddai’n creu gwaith.  Bydd yr unedau’n cael eu rheoli gan yr un nifer o bobl ag sydd yn yr uned sydd yno’n barod.  Nid oedd y ffactorau a nodwyd gan aelodau yn cario mwy o bwysau na'r gwrthwynebiadau cynllunio sylfaenol i'r cynllun hwn.

 

 

 

Gan y Cynghorydd J. A. Roberts cafwyd cynnig i gadarnhau penderfyniad blaenorol y Pwyllgor a chaniatáu'r cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd O. Glyn Jones.

 

 

 

Yn unfrydol penderfynwyd glynu wrth benderfyniad blaenorol y Pwyllgor a chaniatáu'r cais yn groes i argymhelliad y swyddog.

 

 

 

Roedd y Cynghorwyr Lewis Davies a H. W. Thomas yn dymuno cofnodi nad oeddent yn rhan o'r drafodaeth nac o'r pleidleisio ar y cais.

 

 

 

6.5

Gweddill y Ceisiadau - 30/C/346C - Newid defnydd y siop ar y llawr isaf i fod yn 2 fflat hunan gynhaliol yn Llanddwyn, Benllech

 

 

 

Yn y cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gafwyd ar 7 Ionawr, 2009, penderfynwyd ymweld â’r safle, a chafwyd yr ymweliad ar 21 Ionawr, 2009.  Yn y cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gafwyd ar 4 Chwefror, 2009 penderfynwyd gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddogion . Cyflwynwyd yr adroddiad hwn mewn ymateb i'r rhesymau a roddwyd dros wrthod y cais, sef :-

 

 

 

Ÿ

Yn niweidiol i ddiogelwch y ffordd

 

Ÿ

Ddim yn darparu digon o le parcio oddi ar y stryd

 

 

 

Adroddodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod y caniatâd cynllunio gwreiddiol a roddwyd i’r adeilad yn dangos 5 llecyn ac mae’r ymgeiswyr wedi ychwanegu’r ardal ychwanegol er mwyn cyfiawnhau eu safle ac i fynd yn erbyn rheswm y tenantiaid nad oes yna ond 4.  Nododd mai'r ymgeisydd oedd biau rhyddfraint yr eiddo gan gynnwys y maes parcio.  Hefyd roedd ar yr eiddo brydles 999 blynedd ac yn caniatau i'r prydleswr barcio un car ar y tir.  Roedd cyfleusterau parcio eraill ar y safle yn foddhaol.

 

      

 

     Dymunai'r Cynghorydd Durkin, yr Aelod Lleol, gofnodi iddo dderbyn galwad ffôn ar Ddydd Gwyl Ddewi gan Gynghorydd lleol yn ei alw'n gelwyddog ac nad oedd dim a ddywedodd yn y cyfarfod diwethaf yn wir.  Soniodd y buasai'n delio gyda'r mater trwy'r drefn briodol ac yn y man trwy'r Ombwdsmon.  NId oedd y Cynghorydd yn tynnu'r un gair a ddywedodd yn y cyfarfod diwethaf yn ôl yng nghyswllt y cais hwn.  Yn Chwefror 1976 cyflwynwyd cais i droi'r eiddo hwn a oedd yn westy ar y pryd yn 4 apartment gyda dodrefn a throi'r bwyty yno yn siop, sef y siop bresennol.  Yn y cais nodwyd y darperid cyfleusterau parcio yn y cefn i 5 car.  Yn ôl asiant yr ymgeisydd yn ei ddatganiad yn cefnogi'r cais cynllunio dywedwyd bod y cynnig yn ymwneud â llawr isaf  yr adeilad yn unig sydd wedi ei drefnu ar hyn o bryd fel siop a lle gwerthu agored ar y rhan fwyaf o'r llawr gydag ystafell fechan i'r staff yn y cefn a dwy ffenestr fawr i'r siop yn wynebu lôn Bangor.  Ar hyn o bryd roedd y siop yn wag gyda lle parcio yn y cefn ond bod hwnnw at ddefnydd deiliaid y fflatiau yn unig.  Dywedodd y Cynghorydd Durkin nad oedd a wnelo hyn ddim byd â'r siop.

 

      

 

     Aeth y Cynghorydd yn ei flaen i ddweud bod y cynllun i'r datblygiad yn nodi bod y lle parcio yn y cefn yn 12.3 metr ar draws ac yn 12.7 metr i lawr yr ochr.  Ond meddai ef roedd hyn yn gwbl anghywir -  mae'n 11.4 metr ac yn 9.6 metr ac yn ôl safonau parcio'r Cyngor Sir nid oes lle i ragor na 4 car ar y tir hwn.  Roedd y fynedfa i'r llecyn yn bur gul ac ni allai cerbydau mawr ddefnyddio'r ffordd.  Gan y Cynghorydd Durkin cafwyd cynnig i wrthod y cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd C. McGregor.

 

 

 

     PENDERFYNWYD glynu wrth benderfyniad blaenorol y Pwyllgor a gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog a hynny am y rhesymau a roddwyd o'r blaen.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

6.6     Gweddill y Ceisiadau - 30/C/606A - Cynlluniau diwygiedig ar gyfer codi annedd yn Minnery, Rocky Lane, Benllech

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr Aelod Lleol.  Yn y cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gafwyd ar 4 Chwefror, 2009, penderfynwyd ymweld â’r safle, a chafwyd yr ymweliad ar 18 Chwefror, 2009.

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd Durkin yr Aelod Lleol am gyngor cyfreithiol ynghylch y cais cynllunio gwreiddiol a gyflwynwyd ar 16 Ionawr 2006l; ynddo roedd camgymeriadau difrifol oherwydd bod y dystysgrif berchnogaeth yn dweud mai yr ymgeisydd oedd biau'r tir; ond yn ôl manylion y Swyddfa Cofrestru Tiroedd ni chafodd y tir ei brynu gan yr ymgeiswyr tan Fehefin 2007. Dan y Deddfau Cynllunio Gwlad a Thref a hefyd dan y canllawiau yng nghyswllt ceisiadau cynllunio dywedir ei bod hi'n drosedd ddifrifol llenwi tystysgrif perchnogaeth mewn ffordd anwir neu gamarweiniol.  Gofynnodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol a oedd y Cynghorydd Durkin yn ymwybodol bod y perchnogion wedi cael gwybod am y cais; ni wyddai'r Cynghorydd Durkin a gawsant wybod am y cais ai peidio.  Wedyn soniodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol bod pethau wedi newid ers Medi 2006 a bellach mae unrhyw wendid yn y cais yn ei wneud yn annilys.  Adeg cyflwyno'r cais roedd y Llysoedd yn cyfarwyddo bod raid edrych ar yr amser a aeth heibio, a roddwyd rhybudd o'r cais, ac a oedd y rheini oedd i fod i gael rhybudd fel perchnogion wedi cael gwybod bod cais yn cael ei gyflwyno a hefyd a gawsant gyfle i ymateb.  Oherwydd yr amser a aeth heibio, mae'n bur bosib na fedrant herio'r caniatâd a roddwyd ar y pryd.

 

 

 

     Adroddodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod safle’r cais o fewn Anheddiad Diffiniedig yng Nghynllun Lleol Ynys Môn ac fel Canolfan Eilaidd o dan Bolisi HP3 yn y Cynllun Datblygu Unedol a Stopiwyd.  Cais yw hwn am gynlluniau diwygiedig i godi annedd.   Mae’r newidiadau sydd wedi’u gwneud i’r cais gwreiddiol yn gostwng yr uchder o 7.8 metr i 6.5 metr.  Mae gosodiad y to wedi’i newid i ddod dros bryderon y cymdogion ynglyn â goleuni.  Mae ffenestr dormer wedi’i rhoi yn y drychiad cefn oherwydd bod uchder y to wedi’i ostwng.  Cafwyd gwrthwynebiadau gan gymdogion ynglyn â’r uchder.  Cafwyd gwrthwynebiadau ynghylch edrych drosodd.  Ar yr ochr mae 3 ffenestr velux a ffenestr ar y llawr isaf.  Ar yr holl ffenestri hyn mae gwydr aneglur.  Yn ogystal bydd gwydr aneglur ar ffenestr dormer yn y cefn gan fod honno yn ffenestr i ystafell ymolchi.  Ni fydd hyn yn achosi unrhyw edrych drosodd yng nghyswllt y ty yn y cefn.  Ond mae un ffenestr yn y cefn fydd yn edrych dros eiddo arall yn y cefn.  Ffenestr mewn ystafell wely yw hon ac yn y gofod yn y to.  Dywed Canllawiau Cynllunio Atodol bod raid i bob ffenestr fechan fod o leiaf 19 metr draw, ond i'r datblygiad hwn mae'r pellter yn 13 metr.

 

      

 

     Dywedodd yr Aelod Lleol bod ei ragflaenydd fel aelod wedi cyfeirio'r cais cynt i'r Pwyllgor ei ystyried.  Hefyd roedd y rhagflaenydd hwnnw wedi dweud y buasai'r cais yn cyfateb i orddatblygu'r safle; câi maint ac uchder y datblygiad effaith ar y tai o gwmpas a hynny oherwydd prinder goleuni a thaflu cysgod.  Wedyn dygodd sylw'r Pwyllgor at wrthwynebiad y Cyngor Cymuned.  Nododd y Cynghorydd Durkin fod ei ragflaenydd wedi gofyn am leihau maint y datblygiad a gofynnwyd ar y pryd i'r swyddogion gyfarfod gyda'r ymgeisydd i drafod uchder y ty.  Aeth ymlaen i nodi na chafodd y cyfarfod hwnnw ei gynnal.  Roedd y cais gerbron cyn waethed â'r cais blaenorol ar y safle.  Roedd adeilad ar y safle wedi ei hanner godi ac nid oedd yn cydymffurfio gyda'r cynlluniau - nid y troedbrint hwn oedd troedprint y cynllun gwreiddiol.  Roedd y datblygiad yn rhy agos i'r terfyn ac yn agos iawn i'r tai cyffiniol.  Gan y Cynghorydd Durkin cafwyd cynnig i wrthod y cais ac mewn ymateb dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu na fedrai gyflwyno sylwadau ar gofnodion y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ddwy flynedd yn ôl, ond nododd bod caniatâd wedi ei roddi y pryd hwnnw; mae'n annedd fawr a gofynnodd y swyddogion i'r ymgeisydd fesur y datblygiad er mwyn sicrhau cydymffurfiad gyda'r cynlluniau.  

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd Hefin Thomas a oedd yr annedd yn cydymffurfio gyda'r Polisi gan ei fod mor agos i'r tai cyffiniol.

 

      

 

     Wedyn soniodd y Cynghorydd W. J. Chorlton iddo ofyn cwestiynau ar yr ymweliad â'r safle - gofynnodd a oedd yr annedd yn y lle iawn ar y tir ac mewn ymateb dywedodd y Swyddog, ar ddiwrnod yr ymweliad, bod yr annedd yn yr union le ar y safle.  

 

      

 

     Cadarnhawyd gan y Swyddog bod yr adeilad ar ei draed a bod y mesuriadau yn dilyn y caniatâd.  Yn wir roedd y cynnig yn welliant ar yr hyn oedd eisoes wedi ei gymeradwyo ac er nad oedd yn cydymffurfio'n llawn gyda'r canllawiau cynllunio roedd angen pwyso a mesur y materion hyn yn erbyn y caniatâd gwreiddiol.  Roedd y cynnig yn is na'r datblygiad gwreiddiol.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd O. Glyn Jones cafwyd cynnig i ohirio'r cais hyd nes cael adroddiad manwl gan y Swyddog yn nodi a oedd yn y lle cywir ai peidio ar y safle.  Eiliodd y Cynghorydd J. P. Williams y cynnig.

 

      

 

     Yn ôl y Cynghorydd Durkin roedd y lluniadau yn dangos ty ar ganol y plot ond mewn gwirionedd cafodd ei godi yn agos iawn i'r ty cyffiniol, gan daflu cysgod.  Roedd y datblygiad yn torri pob rheol gynllunio ac yn cael effaith ofnadwy o ran colli goleuni yn nhy'r cymydog.

 

      

 

     PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais er mwyn rhoi cyfle i'r Swyddog ymweld â'r safle a phenderfynu a oedd yr annedd yn y lle cywir ar y safle hwnnw a dod ag adroddiad yn ôl i'r Pwyllgor hwn yn y man.

 

      

 

6.7     Gweddill y Ceisiadau - 32/C/157B - Codi estyniad deulawr yn Bryn y Gwynt, Caergeiliog

 

      

 

     (Cafwyd datganiad o ddiddordeb gan y Cynghorydd O. Glyn Jones mewn perthynas â’r cais hwn a gadawodd y cyfarfod am y drafodaeth a’r pleidleisio)

 

      

 

     (Cafwyd datganiad o ddiddordeb gan y Cynghorydd T.H. Jones mewn perthynas â’r cais hwn a gadawodd y cyfarfod am y drafodaeth a’r pleidleisio)

 

      

 

Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr Aelod Lleol.  Yn y cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gafwyd ar 4 Chwefror, 2009, penderfynwyd ymweld â’r safle, a chafwyd yr ymweliad ar 18 Chwefror, 2009.

 

      

 

     Adroddodd y Pennaeth Rheoli Datblygu mai hen adeilad amaethyddol oedd yr eiddo ac fe roddwyd caniatâd cynllunio i’w addasu yn annedd ym mis Ionawr 2004.  Y prif fater yma yw - a yw maint a dyluniad y cynnig yn cydymffurfio gyda pholisiau presennol.  Cafodd Aelodau'r Pwyllgor eu cyfeirio, gan y swyddog, at Bolisi HP8 ynghylch addasiadau gwledig.

 

      

 

     Mae’r estyniad arfaethedig yn mesur oddeutu 11.8m x 4.9m (yn ei bwynt lletaf).  Roedd y cynlluniau'n dangos y câi lled y talcen presennol i leihau.  Cais diwygiedig yw hwn i’r un wrthodwyd yn Ionawr 2007 ac Awst 2008 ac mae’r Adran yn ystyried bod dyluniad yr estyniad yn welliant ac yr hyn a wrthodwyd cyn hyn.  Fodd bynnag, nid yw’r estyniad arfaethedig yn parchu cymeriad yr adeilad presennol ac mae felly yn groes i’r polisiau presennol.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd G. O. Jones, yr Aelod Lleol, bod teulu ifanc yn byw yn yr eiddo hwn - ty gyda dwy ystafell wely ar hyn o bryd.  Ni fedrai gytuno bod y datblygiad arfaethedig yn groes i gymeriad yr ardal a hynny oherwydd bod tai mwy o lawer yn y cyffiniau.  Soniodd hefyd na chafwyd yr un gwrthwynebiad i'r cais ac roedd y Cyngor Cymuned yn gefnogol.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

     Yn ôl y Cynghorydd W. J. Chorlton ni fuasai'r estyniad arfaethedig yn groes i gymeriad y tai eraill yn y cyffiniau.

 

      

 

     Teimlai'r Cynghorydd Lewis Davies fod y ty yno wedi ei godi yn ôl safonau uchel iawn ac ni fuasai'r estyniad arfaethedig yn groes i gymeraid - hynny o ystyried tai o gwmpas.  Cytuno gyda'r Cynghorydd Davies a wnaeth y Cynghorydd K. P. Hughes a nododd ef bod y cwpl ifanc hwn yn dymuno ehangu'r ty i greu lle i deulu oedd yn tyfu.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd E. G. Davies cafwyd cynnig i ganiatáu'r cais a hynny'n groes i argymhelliad y Swyddog - cafodd ei eilio gan y Cynghorydd W. J. Chorlton.

 

 

 

     PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog.

 

      

 

     Y rhain oedd y rhesymau dros ganiatau :-

 

      

 

     Mae'n cydymffurfio gyda Pholisïau 55 a HP8 - Gwaith Addasu yn y Cefn Gwlad.

 

      

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio’n otomatig i’r cyfarfod nesaf er mwyn i swyddogion baratoi adroddiad ar y rheswm dros caniatáu'r cais.

 

      

 

      

 

6.8     Gweddill y Ceisiadau - 32/C/27C - Cais llawn ar gyfer codi 69 o anheddau a 4 fflat ynghyd a chreu mynedfa newydd yn OS 5866, Tre Ifan, Caergeiliog

 

      

 

Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno oherwydd natur a maint y cais ac yn wyneb materion sy’n cael eu codi, ystyrir bod penderfyniad gan y Pwyllgor yn briodol.   Yn y cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gafwyd ar 5 Tachwedd, 2008, penderfynwyd ymweld â’r safle, a chafwyd yr ymweliad ar 19 Tachwedd, 2008.

 

 

 

Adroddodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod Caergeiliog yn bentref rhestredig o dan Bolisi 50 y Cynllun Lleol sy’n caniatau datblygu plotiau unigol o fewn neu ar ffin y pentref.  Mae caniatâd cynllunio llawn ar gyfer y safle cyfan am gyfanswm o 40 uned yn hyn na'r Cynllun Lleol.  Wrth symud ymlaen gyda’r CDU sydd bellach wedi’i stopio, fe gafodd rhan o’r safle ei dyrannu ar gyfer datblygu tai (dyraniad T16).  Yn dilyn gwrthwynebiadau a ystyriwyd gan yr Arolygwr a newidiadau a gynigiwyd gan y Cyngor, fe ymestynnwyd y dyraniad i gynnwys y cyfan o’r safle a chafwyd caniatâd cynllunio am 40 uned.  Mae’r cais sy’n cael ei gyflwyno’n awr yn un am y cyfan o’r safle ac mae’r dwysedd wedi’i gynyddu o’r 40 uned a ganiatawyd yn flaenorol i 73 uned.

 

 

 

Roedd yr unedau fforddiadwy oedd yn cael eu cynnig ar y dechrau gan yr ymgeisydd yn ganlyniad i’r arolwg anghenion tai wnaed yn lleol yn y pentref.  Y bwriad oedd adeiladu 4 o fflatiau mewn ymateb i’r canlyniadau a gafwyd a thair uned 2 lofft arall.  Mae’r 7 o unedau a gynigir yn cynrychioli cynnig o 10% o dai fforddiadwy i’r datblygiad cyfan.  

 

 

 

Adroddodd y Swyddog bod y cais wedi delio gyda rhai o’r materion sy’n achosi pryder, megis y ddarpariaeth o dai fforddiadwy a maint y datblygiad yn y pentref a hefyd effeithiau ar yr iaith Gymraeg.  Oherwydd bod caniatâd cynllunio eisoes yn bodoli ar y safle, ystyrir bod y ddarpariaeth o dai fforddiadwy yn ddigonol.  Ystyrir bod yr effaith ar yr iaith Gymraeg ac ar y gymuned gyfan yn annerbyniol o safbwynt y bwriad i adeiladu’r safle dros gyfnod o 4 mlynedd, ond y mae’n dderbyniol os caiff ei adeiladu dros gyfnod o amser ar raddfa dim mwy na 10 annedd y flwyddyn.  Mae cyrff technegol yr ymgynghorwyd â nhw yn fodlon gyda’r cynnig o safbwynt mynediad, effeithiau traffig a draenio.  Mynegwyd pryder ynglyn â’r cynigion tirlunio annigonol (y mae’r ymgeisydd yn ystyried eu bod yn adlewyrchu patrwm presennol y tirlun yn yr ardal) ond fe ellid cytuno ar faterion o’r fath trwy osod amodau.  Mae’r ymgeisydd wedi nodi ei barodrwydd mewn egwyddor i wneud cyfraniad ariannol tuag at lecyn chwarae yn y parthau, a byddai hwn angen cytuned cyfreithiol o dan Adran 106.  

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd Bob Parry OBE ei fod yn cynrychioli'r Aelod Lleol gan ei fod yn byw ar ffiniau Stad Tre Ifan.  Aeth ymlaen i sôn bod caniatâd ar y safle i 40 o dai yn barod a Chyngor Cymuned Llanfair-yn-Neubwll yn teimlo y buasai cynyddu'r nifer i 69 a 4 o fflatiau yn cyfateb i ormod o ddatblygu mewn ardal wledig.  Ar ôl codi'r holl dai hyn buasai'n cyfateb i gynnydd dros 42% yn nifer y tai yn y pentref, ac yn ôl y datblygu a fu yn y pentref rhwng 1991 a 2006 dim ond 10 o dai gafodd eu hadeiladu yn y cyfnod hwnnw.  Felly roedd yma ychwanegiad anferthol at bentref bychan.  Sôn a wnaeth y Cynghorydd wedyn nad oedd cyfleusterau yn y pentref, 'run siop na Swyddfa'r Post - honno wedi cau yn ddiweddar.  Roedd pobl Caergeiliog wedi llofnodi deiseb yn gwrthwynebu'r cais a phryderon yn cael eu mynegi ynghylch y cynnydd mawr yn y traffig gyda 200 o geir ychwanegol yn teithio o'r datblygiad hwn yn y dyfodol.  Pryder arall gan y bobl leol oedd nifer fechan y tai fforddiadwy ar y datblygiad mawr hwn.  Mae effaith y datblygiad ar yr iaith Gymraeg yn destun pryder yn lleol ac yn ôl Bwrdd yr Iaith Gymraeg, roeddent yr wythnos hon wedi cynghori'r Adran Gynllunio i gysylltu gyda Menter Môn sydd gyda chynllun iaith i'r Ynys ac mae'r Fenter hefyd yn cynnal arolwg ieithyddol ac yn paratoi cynllun.  Dywedodd yr Adran Addysg bod 420 o blant yn mynychu ysgol Caergeiliog ac o'r herwydd mae'r ysgol honno bron yn llawn.  Petai 73 o deuluoedd yn symud i'r tai hyn ni fuasai lle ar gyfer y plant yn yr ysgol.  Y pryder mwyaf yng nghyffiniau'r ysgol yw traffig - mae yno broblem yn barod.  Roedd y pentref am i'r awdurdod disgwyl hyd nes cael Cynllun Datblygu Lleol newydd cyn caniatáu'r cais.

 

 

 

Er ei fod yn cydymdeimlo  gyda'r hyn a ddywedodd y Cynghorydd Parry nododd y Cynghorydd W. J. Chorlton bod caniatâd cynllunio eisoes ar y safle a bydd cryn ddatblygu'n digwydd gyda hyn ar Faes Awyr y Fali a hynny'n creu gwir angen am dai.  Mae'r Maes ar gyrion y pentref ac ni chredai y buasai holl draffig y safle yn teithio trwy'r pentref ei hun; mae pellter llai i gyrraedd yr A55 yn y cyfeiriad arall.  Credai'r Cynghorydd Chorlton y gallai'r amodau ynghlwm wrth y caniatâd cynllunio greu problemau; ni fuasai datblygwr da yn codi 60/70 o dai dros nos yn hytrach caent eu codi yn ôl yr anghenion; roedd amodau 8, 10, 11 a 13 yn rhy gaethiwus; bydd raid cwblhau'r safle cyn dechrau.  Mewn cyfnod byr bydd raid cwblhau'r gwaith draenio, y ffordd a phopeth arall.

 

 

 

Cytuno gyda datganiad y Cynghorydd Chorlton a wnaeth y Cynghorydd K. P. Hughes gan gredu bod amod yn rhwystro codi mwy na 10 uned mewn blwyddyn dros gyfnod o 7 mlynedd yn rhy gaethiwus a hefyd yn afresymol.  Awgrymodd y Cynghorydd Hughes y dylid rhoddi caniatâd gyda'r gwelliant hwn - sef bod cyfnod adeiladu'r tai yn newid o 7 i 4 blynedd.

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd H. W. Thomas bod caniatâd cynllunio ar y safle yn barod a rhoddwyd yr elfen fforddiadwy wrth y tai ychwanegol arfaethedig.  Aeth ymlaen i son yr hoffai weld amod fel bod y tai yn cael eu codi cyn pen 5 mlynedd a hynny yn cyfateb i godi 12 bob blwyddyn.

 

 

 

Ni fedrai'r Cynghorydd B. Durkin ddeall pam fod yr awdurdod cynllunio am rwystro'r datblygwr wrth geisio dweud pryd y câi godi'r adeiladau hyn.  Efallai y dylai'r datblygwr werthu 20 yn syth.

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd J. Arwel Roberts bod angen tai a chan fod yr awdurdod hwn yn y broses o edrych ar ysgolion gyda lleoedd gweigion gallai datblygiad o'r math hwn fod o gymorth i ysgolion gwledig yr ardal.  Yn y dyfodol bydd datblygiad mawr ym Maes Awyr RAF y Fali ac roedd tai yng Ngwersyll yr RAF wedi eu gwerthu fel tai preifat.  Felly yn yr ardal hon bydd angen am dai a chredai hefyd bod yr amodau ynghlwm wrth y cais yn rhy caethiwus.

 

 

 

Pe câi'r cais hwn ei ganiatáu gyda'r amodau ynghlwm wrtho dywedodd y Cynghorydd O. Glyn Jones bod y datblygwr wedyn â'r hawl i ddod yn ôl i'r Pwyllgor a gofyn am ganiatâd i gael gwared o amodau.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Wedyn mewn ymateb crybwyllodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol Adran 7 - Casgliadau'r adroddiad "...y bwriad i adeiladu'r safle dros gyfnod o 4 blynedd, ond y mae'n dderbyniol os caiff ei adeiladu ar raddfa dim mwy na 10 annedd y flwyddyn". Wrth cyfeirio at Amod rhif 8 dywedodd nad yw hynny yn golygu 10 annedd y flwyddyn; dweud mae hwnnw bod raid adeiladu bloc o 10 a chwblhau'r bloc hwnnw cyn symud ymlaen at y bloc nesaf.  Nid yw hyn yn cyfyngu'r datblygwr i 10 annedd y flwyddyn - gallai adeiladu 20 petai'n dymuno gwneud hynny.

 

 

 

Teimlai'r Cynghorydd Lewis Davies bod cynyddu'r nifer o 40 i 73 o dai yn mynd i gael effaith fawr ar bentref Caergeiliog a chynigiodd wrthod y cais.

 

 

 

Gan y Cynghorydd C. McGregor cafwyd cynnig i dderbyn argymhelliad o ganiatáu gan y swyddog a chyda'r amodau ynghlwm fel y cawsant eu nodi yn yr adroddiad.  Eiliodd y Cynghorydd O. Glyn Jones y cynnig.

 

 

 

Gan y Cynghorydd W. J. Chorlton cafwyd cynnig i dynnu amodau 10 ac 13 o'r adroddiad a chaniatáu i'r swyddog drafod gyda chynrychiolydd yr ymgeisydd faint o dai y gellid eu codi dros gyfnod o 5 mlynedd.  Eiliodd y Cynghorydd J. Arwel Roberts y cynnig.

 

 

 

PENDERFYNWYD caniatáu'r cais ond gyda'r amod bod y Swyddog yn cyflwyno adroddiad arall i'r cyfarfod nesaf yn nodi geiriad yr amodau arfaethedig gan adlewyrchu'r trafodaethau yn y cyfarfod hwn.

 

      

 

6.9     Ceisiadau Economaidd - 34/C/563A/ECON - Cynlluniau llawn ar gyfer codi 3 Uned Ddiwydiannol cyfanswm 18,600 troedfedd sgwâr gyda pharcio a ffordd stad gysylltiedig ar dir tu ôl i Hen Safle Cunliffe, Llangefni

 

      

 

     (Cafwyd datganiad o ddiddordeb gan Prif Beiriannydd (Rheoli Datblygu a Hawliau Tramwy Cyhoeddus) mewn perthynas â’r cais hwn a gadawodd y cyfarfod am y drafodaeth a’r pleidleisio).

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr Aelod Lleol.  Yn y cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gafwyd ar 1 Hydref, 2008, penderfynwyd ymweld â’r safle, a chafwyd yr ymweliad ar 15 Hydref, 2008.  Mae nifer o gyfarfodydd hefyd wedi eu galw gyda chynrychiolwyr preswylwyr stad Tan Capel.  Mae'r egwyddor o gynnal datblygiad diwydiannol ar safle'r cais wedi ei sefydlu trwy ganiatâd cynllunio amlinellol rhif 34C563/ECON yn 2007, ac mae hwn yn aros yn y cais cyfredol.

 

 

 

Adroddodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod Polisi 1, Cynllun Lleol Ynys Môn a Pholisi GP1 y Cynllun Datblygu Unedol a Stopiwyd i Ynys Môn yn ymwneud ag effaith y datblygiad ar bleserau preswylwyr ac yn dweud y bydd problemau llygredd a niwsans yn cael eu hasesu wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio.  Tua’r gogledd-ddwyrain o safle’r cais hwn mae tai ar stad Tan Capel.  Rhoddwyd sylw i bleserau’r preswylwyr - megis effaith swn, effaith weledol, effaith ar bleserau a’r math o unedau diwydiannol a chafwyd nhw yn dderbyniol ond gydag amodau yn cyfyngu ar hawliau defnyddio i B1 (Unedau Diwydiannol Ysgafn) ar hyd y ffiniau Gogleddol ac yn cyfyngu ar lefelau’r swn uchaf bosib o’r datblygiad yng nghais rhif 34C563/ECON.  Mae’r cynnig sy’n destun y cais hwn yn cydymffurfio gyda’r hyn a ganiatawyd yn flaenorol ac yn ychwanegol i hynny mae’n cynnwys byffer plannu 10 metr ar hyd terfyn gogleddol Tan Capel, ac un 8 metr ar hyd y terfyn tua’r dwyrain.  Bydd lefelau’r safle hefyd yn cael eu proffilio ger Tan Capel er mwyn lleihau effaith weledol y datblygiad.  Nid yw’n cael ei ystyried y bydd y datblygiad yn cael effaith annerbyniol ar bleserau anheddau preswyl cyfagos.  

 

 

 

Roedd y Swyddogion yn nodi bod preswylwyr Stad Tan Capel yn dweud na chawsant rybudd o gais cynllunio amlinellol 34C563/ECON.  Yn y cyfamser roedd yr awdurdod cynllunio lleol wedi ymchwilio i hyn a bellach yn fodlon bod llythyr wedi ei gyflwyno, rhybuddion wedi eu codi ar y safle a rhybudd wedi'i gyhoeddi yn y wasg.

 

 

 

Dywedodd yr Aelod Lleol bod Stad Tan Capel yn gymuned glos o 44 o anheddau a'r preswylwyr ddim yn dymuno gweld y Stad Ddiwydiannol yn ymestyn mor agos i'w cartrefi.  Wedyn cyfeiriodd y Cynghorydd Fflur Hughes at adroddiad y Swyddog ac yn benodol at haeriadau na chafodd preswylwyr Tan Capel wybod am y cais amlinellol.  Yn wir roedd y mater hwn wedi cythruddo'r bobl yn fwy na'r datblygiad ei hun a'r rheini'n teimlo mor gryf nes eu bod bellach am fynd â'r haeriadau i'r Ombwdsmon i gael ymchwiliad annibynnol i'r mater.  Cyfeiriodd wedyn at ran 10 yr adroddiad - ymatebion eraill i'r ymgynghori a'r cyhoeddusrwydd - rhestr o bryderon pobl Tan Capel ac yn nodi pa mor gryf y bydd raid i'r amodau ynghlwm wrth y cais cynllunio arfaethedig fod.  Pryder pennaf y preswylwyr yw y cyfnod ar ôl y wasgfa gredyd; efallai y bydd nifer o gwmnïau yn dangos diddordeb yn yr unedau hyn a'r adeg honno bydd datblygwyr yn gofyn am symud yr amodau a newid y defnydd o gategori B1 (Unedau Diwydiannol Ysgafn).

 

 

 

Aeth ymlaen i sôn bod preswylwyr Tan Capel wedi cael cyfarfod gyda'r datblygwr yn ddiweddar ac ynddo trafodwyd yr holl bryderon.  Y pryder pennaf a fynegwyd yn y cyfarfod oedd effaith y datblygiad ar werth y tai petai y datblygiad yn mynd yn ei flaen ac yn cael caniatâd.  Hefyd trafodwyd y posibilrwydd o sefydlu maes chwarae bychan fel un o enillion cynllunio y cais hwn.  Yn y cyfarfod codwyd gobeithion y pobl y câi maes chwarae ei ystyried ond bellach tynnodd y datblygwr y cynnig yn ôl.

 

 

 

Gofynnodd y Cynghorydd Hughes am ohirio ystyried y cais hyd oni fydd yr Ombwdsmon wedi cwblhau ei ymchwiliadau i'r haeriadau uchod.  Oherwydd yr hinsawdd economaidd credai na fydd galw mawr am yr unedau hyn yn y dyfodol agos.

 

 

 

Mewn ymateb dywedodd y Cynghorydd J. Arwel Roberts ei fod yn hapus gohirio'r cais am fis fel bod yr Ombwdsmon yn cael cyfle i gynnal ymholiadau.  Hefyd cytunodd y Cynghorydd H. W. Thomas i'r gohiriad hwn.  Ond crybwyllodd y Pennaeth Rheoli Datblygu y buasai unrhyw waith archwilio gan yr Ombwdsmon yn cymryd rhai misoedd i'w gwblhau ac nad oedd yn ymarferol gohirio'r cais hyd nes cael sylwadau gan yr Ombwdsmon, mater i'r Pwyllgor yw penderfynu ar y cais.

 

 

 

Pan fo ceisiadau'n cael eu cyflwyno am anheddau soniodd y Cynghorydd O. Glyn Jones bod angen tystiolaeth i'r galw a nododd bod sawl uned wag ar y stad ddiwydiannol yn Llangefni ac felly ei fod yn hapus gohirio'r cais.

 

 

 

Pryder y Cynghorydd J. P. Williams oedd bod y cynnig o gae chwarae wedi'i dynnu'n ôl gan y datblygwr a gofynnodd, petai caniatâd yn cael ei roddi, a oedd modd rhoddi amod ynghlwm i ddarparu cae chwarae i blant yr ardal ar y safle.  Mewn ymateb dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu nad oedd amod bod raid darparu lle chwarae ar y safle a phwysleisiodd bod yr amodau ynghlwm wrth y caniatâd arfaethedig i'r cais hwn yn gaeth ac yn cyffwrdd ag agweddau o'r datblygiad oedd yn peri pryderon i'r preswylwyr.

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais am fis fel bod modd parhau gyda'r trafodaethau.

 

 

 

6.10     Gweddill y Ceisiadau - 35/C/100A - Cais amlinellol ar gyfer codi byngalo a garej ynghyd a chreu mynedfa newydd i geir ar dir gyferbyn â Bwthyn Glan-dwr, Llangoed     

 

      

 

     (Cafwyd datganiad o ddiddordeb gan y Cynghorydd Lewis Davies mewn perthynas â’r cais hwn a gadawodd y cyfarfod am y drafodaeth a’r pleidleisio)

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad y cyn Aelod Lleol.  Yn y cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gafwyd ar 4 Chwefror, 2009, penderfynwyd ymweld â’r safle, a chafwyd yr ymweliad ar 18 Chwefror, 2009.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Soniodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod sawl mater allweddol dan y cynnig hwn :-

 

 

 

Ÿ

A oedd y cynnig yn dderbyniol ai peidio ac a oedd yn cydymffurfio gyda pholisïau'r cynllun datblygu;

 

Ÿ

Roedd y safle arfaethedig yn dir comin cofrestredig;

 

Ÿ

Bod Gorchymyn Diogelu Coed wedi ei wneud ar y coed ar y safle.

 

 

 

Roedd hwn yn Dir Comin cofrestredig - cofrestrwyd ef ar 1 Awst 1972 dan y rhif CL48.  Roedd modd rhoddi caniatâd cynllunio ar dir comin, ond wedyn buasai'n rhaid i'r ymgeisydd wrth ganiatâd Llywodraeth Cynulliad Cymru cyn gwneud gwaith neu unrhyw ddatblygu ar dir comin.  Ond deil yr ymgeisydd bod y tir wedi ei gofrestru'n anghywir a than Ddeddf Cofrestru Tir Comin 1965 nid oedd yr un ddarpariaeth i gywiro camgymeriadau'n ddidrafferth yng nghyswllt cofrestru tir comin; fodd bynnag, roedd darpariaeth ar gyfer hyn yn Neddf Tir Comin 2006 a bydd honno yn diddymu Deddf 1965 ond nid yw'r rhannau perthnasol eto mewn grym.  Nid oes modd gweithredu ar unrhyw ddatblygiad hyd nes cael gwybodaeth bod y tir wedi ei ddileu o'r gofrestr neu fel arall bod caniatâd wedi ei roddi gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i ddatblygu'r tir.

 

 

 

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y Swyddog a'i argymhellion i ganiatáu'r cais ond gydag amodau a grybwyllwyd yn ei adroddiad ac ni fydd dim gwaith datblygu yn digwydd hyd oni fydd yr ymgeisydd wedi cael caniatâd Llywodraeth Cynulliad Cymru i ddatblygu'r Tir Comin.

 

      

 

6.11     Gweddill y Ceisiadau - 46/C/137E - Cais llawn ar gyfer codi 17 o dai tri llawr ynghyd a chreu mynedfa i gerbydau ac i gerddwyr ar dir yn Hen Safle Criced, Trearddur

 

      

 

     (Cafwyd datganiad o ddiddordeb gan y Cynghorydd W.J. Chorlton mewn perthynas â’r cais hwn a gadawodd y cyfarfod am y drafodaeth a’r pleidleisio)

 

      

 

     Cafodd y cais blaenorol ar y safle hwn ei alw i mewn gan Lywodraeth Cynulliad Cymru dan Adran 77 a gwnaed penderfyniad terfynol gan y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion yn dilyn ymchwiliad cyhoeddus.  Yn ei gyfarfod ar 7 Ionawr 2009 penderfynodd y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gael ymweliad cyn penderfynu ar y cais a chafwyd yr ymweliad hwnnw ar 21 Ionawr 2009.

 

      

 

     Yn ei gyfarfod ar 4 Chwefror 2009 penderfynodd y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ohirio gwneud penderfyniad ar y cais a hynny oherwydd cwyn yn erbyn un o'r Swyddogion Cynllunio - oherwydd y ffordd yr oedd y swyddog wedi delio gyda'r cais.  Bellach roedd y gwyn wedi'i datrys.

 

      

 

     Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod caniatâd cynllunio amlinellol wedi ei roddi ar apêl yn 1989 i godi tai ar y safle.  Yn 1991  a than gais cynllunio rhif 46C137B/DA rhoddwyd caniatâd i gynlluniau manwl i godi 17 o dai.  Cais oedd hwn i godi 17 o dai ar y safle ond gyda dyluniad gwahanol a gosodiad gwahanol hefyd a hynny er mwyn diogelu'r caniatâd.  Hefyd yn y cais mae cynigion i liniaru llifogydd a darperir llwybr llifogydd ar draws y safle i ddelio gydag unrhyw lifogydd pan fo tonnau yn dod dros y promenâd.  Mae'r safle mewn ardal risg llifogydd categori ParthC2 yn TAN 15 - Datblygiadau a Risg Llifogydd.  Dywed yr ymgeisydd bod y cais gerbron yn creu enillion cynllunio sylweddol o'i gymharu gyda'r caniatâd blaenorol.  Yma eir yn ôl at yr 17 o anheddau y mae modd eu codi heb gyflwyno mesurau i liniaru llifogydd - mewn gwirionedd glynu wrth bethau fel y maent yn hytrach na chynyddu nifer y preswylwyr fydd yn wynebu risg, ac roedd gwrthwynebiad i hynny gan yr Arolygydd yn yr ymchwiliad.  Un o fanteision y cais hwn dros y caniatâd sydd eisoes yn bod yw cefnogaeth Asesiad Canlyniadau Llifogydd - gyda chanlyniadau boddhaol.  Codwyd lefelau'r safle i sicrhau na fydd llifogydd ar y ffordd fynediad a bydd ffos agored yn cymryd dwr llifogydd oddi ar Lôn San Ffraid.  Buasai cytundeb cyfreithiol dan Adran 106 Deddf Gynllunio yn sicrhau bod y ffos lifogydd ar draws y tir yn cael ei chynnal yn rheolaidd (mae gan yr Awdurdod Priffyrdd beth bynnag fo'r datblygiad hawl i fynd at lwybr dwr llifogydd ar y safle).  Codwyd lefelau'r ffordd yn uwch i rwystro dwr rhag mynd ar y ffordd stad o Lôn Sant Ffraid a hefyd codir lefelau'r lloriau gorffenedig yn uwch i lefel 4.65m AOD, sef yn uwch na'r 1 mewn 1000 lefel dwr llonydd o 4.34m AOD.  Yn y cynllun hwn rhoddir sylw i'r pryderon hynny oedd gan yr Arolygydd yng nghyswllt llifogydd.

 

      

 

     Roedd y gwaith hwn yn cynnwys gwell sianelau i ddyfroedd y llifogydd lifo tuag at y Lasinwen.  Hefyd roedd y mesurau hyn a gynigiwyd gan yr ymgeisydd yn ategu ac yn cynnal llwybrau llifogydd dros y tir.  Cadarnhaodd Asiantaeth yr Amgylchedd bod y cynllun yn delio'n foddhaol gyda risgiau llifogydd ar y ddealltwriaeth bod y cynnig yn ymwneud ag 17 uned gan gydymffurfio gyda'r caniatâd a ddiogelir.  Cred yr Asiantaeth yr Amgylchedd bod y cynllun hwn yn welliant.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Eric Roberts, yr Aelod Lleol, bod pryderon gwirioneddol ddwys ynghylch y cais yn ardal Trearddur.  Mae hon yn ardal sy'n dioddef llifogydd o'r Lasinwen a hefyd o'r môr sydd gyferbyn â'r safle. Bydd y datblygiad arfaethedig yn enfawr yng nghyd-destun y tai sydd yn yr ardal a nododd hefyd bod yr Arolygydd Cynllunio wedi cyflwyno sylwadau ar yr apêl flaenorol ar y safle hwn; nid oedd yr ardal yn addas i godi tai ynddi.  Aeth ymlaen i sôn ei fod yn ymwybodol o'r caniatâd cynllunio sydd ar y safle gan ofyn pam tybed nad oedd y datblygwr yn cydymffurfio gyda'r caniatâd presennol gan fod tai deulawr yn mynd i weddu'n well i'r ardal o gwmpas.  

 

      

 

     Sôn a wnaeth y Cynghorydd Lewis Davies bod yr ardal hon yn un naturiol i ymchwydd o'r môr gan fod tonnau yn dod o gyfeiriad y de-orllewin ar draws Môr Iwerydd a Môr Iwerddon.  Hon yw'r ardal naturiol i'r tonnau dorri wrth deithio o'r môr agored a hefyd, oherwydd newid yn yr hinsawdd, bydd dwr y môr yn gynhesach yn y dyfodol ac efallai'n wir y gwelwn fwy o stormydd.  Ni chredai ef y dylid caniatáu unrhyw ddatblygiadau yn yr ardal a hynny oherwydd peryglon natur.

 

      

 

     Nid oedd y Cynghorydd H. W. Thomas yn hapus gydag ymyrraeth pobl yr ardal a bu'n rhaid gohirio trafodaeth yn y cyfarfod diwethaf oherwydd cwyn yn erbyn un o swyddogion yr Adran Gynllunio.  Heddiw roedd aelod o'r Pwyllgor hwn yn gorfod gadael oherwydd cwyn bersonol.  Nododd bod caniatâd yn barod ar y safle a phe câi'r cais hwn ei wrthod yna gallai'r ymgeisydd fynd i apêl a bod apêl yn bur debyg o lwyddo.  Dan y cais diwygiedig hwn roedd lefel y tai yn uwch; roedd adeiladau eraill yn yr ardal hon ar lefel is na'r safle gerbron h.y. y Neuadd Gymuned.  Roedd gwli yn cael ei ddatblygu i gymryd y dwr - h.y. petai dwr môr yn dod drosodd.  Roedd y datblygwr yn fodlon gwneud cytundeb dan Adran 106 yng nghyswllt y datblygiad.

 

      

 

     Wedyn soniodd y Cynghorydd K. P. Hughes am y pryderon yng nghyswllt y cais gan grybwyll bod caniatâd ar y safle'n barod ond heb yr amodau.  Roedd hi'n gyfrifoldeb ar y Pwyllgor i sicrhau bod pob adeilad newydd yn cael ei ddiogelu rhag llifogydd a nododd yn arbennig eiriau yr argymhelliad dan 8 yn yr adroddiad "Caniatáu'r cais gyda'r amodau ac yn amodol ar wneud diddymiad gwirfoddol o'r caniatâd cynllunio sy'n bodoli heb iawndal ac yn amodol ar wneud cytundeb Adran 106 yn rhwystro i unrhyw ddatblygu preswyl pellach ddigwydd ar y safle".  Petai ef yn esgidiau'r datblygwr ni fuasai'r Cynghorydd Hughes, meddai ef, yn ystyried llofnodi cytundeb dan Adran 106 a hynny oherwydd bod caniatâd cynllunio yn barod ar y safle.  Er mwyn democratiaeth ac i ddiogelu'r amgylchedd roedd y Cynghorydd Hughes am gefnogi argymhelliad y swyddog o roddi caniatâd i'r cais ond heb yr amod dan Adran 106 sy'n rhwystro rhagor o waith datblygu ar y safle.  Roedd y Cynghorydd J. Arwel Roberts yn gefnogol i'r argymhelliad o ganiatáu gan y Cynghorydd K.P. Hughes gan ychwanegu bod yma fantais gynllunio i'r ardal.  

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd C. McGregor bod ar y safle hwn ganiatâd cynllunio'n barod i 17 o unedau a hynny ar y cyfan o'r safle.  Heddiw roedd y Pwyllgor yn ystyried cais yn ymwneud â hanner y safle ond doedd dim yn yr adroddiad i ddileu y rhan arall o'r safle.  Cyfeiriodd yn ôl at yr ymweliad â'r safle pryd y dywedwyd y câi'r lle ei dirlunio ac aeth y Cynghorydd ymlaen i nodi na chafwyd unrhyw sicrwydd na fydd cais arall yn cael ei gyflwyno yn y dyfodol ar gyfer ail ran y tir.  Aeth ymlaen i gynnig gwrthodiad a gadael i'r datblygwr ddatblygu'r safle dan y caniatâd cynllunio blaenorol ac ni chredai chwaith bod unrhyw fantais gynllunio i'r gymuned yma.  

 

      

 

      

 

      

 

     Ond ar y llaw arall credai'r Cynghorydd H. W. Thomas bod yma fantais gynllunio oherwydd y bwriad i godi lefelau'r tai ac yn ogystal roedd yma ddraen dwr wyneb i fynd â'r dwr ymaith.  Roedd hi'n bwysig gweithredu ar yr amodau yn adroddiad y Swyddog a glynu wrtho - dileu yn wirfoddol y r hen ganiatâd cynllunio heb unrhyw iawndal.  Wedyn soniodd y Cynghorydd bod raid ystyried pob cais cynllunio fesul un ac eiliodd y cynnig gan y Cynghorydd K. P. Hughes i ganiatáu heb gytundeb dan Adran 106.

 

      

 

     Wedyn soniodd y Cynghorydd B. Durkin ei fod dan yr argraff bod lefel y tir yn yr ardal hon wedi ei godi gan Dwr Cymru ac ni chredai y dylai neb godi lefel tir nac adeiladu ar y tir hwnnw pan fo'r tir yn orlifdir.  Gan y Cynghorydd Durkin cafwyd cynnig i wrthod y cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd C. McGregor.

 

      

 

     Wrth ymateb dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu y dylai'r Pwyllgor ddelio gyda'r materion perthnasol, roedd caniatâd cynllunio'n barod ar y safle heb unrhyw gyfyngiadau ynghylch lefelau'r tai.  Petai y tir heb unrhyw ganiatâd cynllunio arno yna buasai yn Barth C2 a'r argymhelliad fuasai gwrthod.  Yn wir roedd Asiantaeth yr Amgylchedd wedi rhoddi sylw difrifol iawn i'r datblygiad ac nid oedd y corff hwnnw yn gwrthwynebu; credant fod y cais hwn yn welliant ar yr hen ganiatâd cynllunio ac aeth ymlaen i sôn bod yr ymgeisydd wedi awgrymu y dylid cael caniatâd cynllunio dan Adran 106 - dileu gwirfoddol.  Yn yr achos hwn roedd y Pennaeth Rheoli Datblygu o'r farn bod rhai manteision cynllunio - manteision i'r awdurdod wrth wneud cytundeb dan Adran 106 gyda'r ymgeisydd.

 

      

 

     Dyma fel y bu'r pleidleisio :-

 

      

 

     Derbyn adroddiad y Swyddog ond dileu'r cytundeb dan Adran 106:  Y Cynghorwyr E. G. Davies, Kenneth P. Hughes, T. H. Jones, R. L. Owen, J. Arwel Roberts, Hefin W. Thomas.

 

      

 

     Gwrthod y cais:  Y Cynghorwyr Barrie Durkin, C. McGregor.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y Swyddog, gyda chytundeb dan Adran 106  i ddileu'n wirfoddol yr hen ganiatâd cynllunio.

 

      

 

     Roedd y Cynghorwyr Lewis Davies, O. Glyn Jones yn dymuno cofnodi nad oeddent wedi pleidleisio ar y cais hefyd roedd y Cynghorydd J. P. Williams am gofnodi na chymerodd ran yn y drafodaeth nac yn y pleidleisio ar y cais gerbron.

 

 

 

7     CEISIADAU ECONOMAIDD

 

      

 

     Ni dderbyniwyd unrhyw geisiadau Economaidd i’w hystyried yn y cyfarfod hwn.

 

      

 

      

 

8     CEISIADAU AM DAI FFORDDIADWY

 

      

 

     Ni dderbyniwyd unrhyw geisiadau am Dai Fforddiadwy i’w hystyried yn y cyfarfod hwn.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

      

 

      

 

9

CEISIADAU’N GWYRO

 

      

 

9.1     11/C/141E - Cais llawn ar gyfer codi annedd ynghyd â chreu mynedfa newydd ar dir ger Pant Heulog, Porth Llechog, Amlwch

 

      

 

     Rhaid trin y cais hwn fel un sy’n tynnu’n groes oherwydd bod y fynedfa arfaethedig i’r plot mewn lle gwahanol i’r un gafodd ei ganiatáu o dan gais cynllunio amlinellol rhif 11C141D ac ni ellir, felly delio â’r cais hwn fel cais i gymeradwyo’r materion wrth gefn.

 

      

 

     Adroddodd y Rheolwr Rheoli bod peipen yn croesi'r safle a hefyd bod yno lain o dir 3 metr o led o bopty'r beipen lle mae gwaharddiad ar adeiladu.  O'r herwydd mae'r tir sydd ar gael i godi ty ar y plot yn gyfyngedig ond trwy symud y fynedfa mae modd gosod yr annedd ym mhen de-ddwyrain y plot a thrwy hynny gynnal y pellter angenrheidiol o'r beipen.  Nododd y Swyddog y bydd raid cychwyn ar y datblygiad y mae'r caniatâd hwn yn ymwneud ag ef cyn pen 5 mlynedd gan ddechrau gyda dyddiad y caniatâd hwn h.y. 2011.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y Swyddog a'r argymhelliad i ganiatáu'r cais gyda'r amodau yn yr adroddiad.

 

 

 

10

CYNIGION DATBLYGU GAN GYNGHORWYR A SWYDDOGION

 

      

 

10.1     17/C/438 - Addasu ac ehangu yn 63 Bro Llewelyn, Llandegfan

 

      

 

     (Cafwyd datganiad o ddiddordeb gan y Cynghorydd E.G. Davies mewn perthynas â’r cais hwn a gadawodd y cyfarfod am y drafodaeth a’r pleidleisio).

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion benderfynu arno gan fod yr Aelod Lleol wedi ei enwebu i'r Cyngor Sir gan yr ymgeisydd ac mae'r ymgeisydd yn gyfaill personol.  Roedd y cais wedi ei sgriwtineiddio gan y Swyddog Monitro yn ôl gofynion paragraff 4.6.10.4 Cyfansoddiad y Cyngor.  Ni fydd y dyddiad cau i bwrpas derbyn sylwadau ar y cais hwn yn dod i ben tan 5 Mawrth 2009.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod hwn yn gais i ddymchwel storfa to fflat a thoiled a chodi estyniad cegin a tho fflat.  Dan Bolisi 58 dywedir bod y toeau crib yn fwy dymuno na rhai fflat ond roedd yr holl dai o gwmpas ar y stad gydag estyniadau toeau fflat.  Ni fuasai'r estyniad yn edrych yn ddieithr ar yr eiddo nac yn yr ardal o gwmpas.  Nodwyd nad oedd y Cyngor Cymuned na'r Awdurdod Priffyrdd wedi gwrthwynebu'r cais.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y Swyddog a'r argymhelliad o ganiatáu a rhoddi pwerau dirprwyol i'r swyddogion i ganiatáu'r cais ar ôl i'r cyfnod hysbysu ddod i ben ond gyda'r amod na ddygir unrhyw fater arall i sylw'r Swyddogion.

 

 

 

10.2     23/C/156D - Newid defnydd yr adeilad allanol i annedd yn Tyn Pwll, Pentraeth

 

      

 

     (Cafwyd datganiad o ddiddordeb gan y Cynghorydd H.W. Thomas mewn perthynas â’r cais hwn a gadawodd y cyfarfod am y drafodaeth a’r pleidleisio).

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion benderfynu arno oherwydd iddo gael ei gyflwyno gan aelod o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a'i wraig.  Hefyd roedd y cais yn destun galw i mewn ond dan delerau Cyfansoddiad y Cyngor mae'n rhaid i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ei ystyried.  Roedd y cais wedi'i sgriwtineiddio gan y Swyddog Monitro yn ôl gofynion paragraff 4.6.10.4 Cyfansoddiad y Cyngor.

 

 

 

     Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod y cais hwn yn golygu addasu rhan o'r adeiladau allanol a'u troi yn annedd.  Cyflwynwyd ceisiadau yn y gorffennol yng nghyswllt gweddill yr adeiladau allanol a rhoddwyd caniatâd i ddefnydd preswylio a gwyliau.  Felly mae'r egwyddor o ddatblygu wedi ei sefydlu gan ganiatâd yn y gorffennol.  Roedd y cynllun a gyflwynwyd yn dderbyniol o ran polisi ac nid oedd yr un ystyriaeth berthnasol arall allai fod yn negyddol.  Bydd y cynnig yn gwella gwedd yr ardal o gwmpas a hefyd yn ychwanegu at ac yn creu cyfres o adeiladau deniadol a fydd yn ategu y grwp o adeiladau amaethyddol sydd yn y cyffiniau agos.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y Swyddog a'r argymhelliad i ganiatáu'r cais gyda'r amodau yn yr adroddiad.

 

      

 

      

 

10.3     36/C/128C - Cais llawn ar gyfer codi annedd a modurdy ar wahan ynghyd â chreu mynedfa i  gerbydau ar dir ger Ty’n Gamdda, Llangristiolus

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion benderfynu arno oherwydd iddo gael ei gyflwyno gan ffrind agos i Swyddog yn yr Adain Rheoli Datblygu.  Roedd y cais wedi'i sgriwtineiddio gan y Swyddog Monitro yn unol â gofynion paragraff 4.6.10.4 Cyfansoddiad y Cyngor.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod llythyr arall o wrthwynebiad wedi ei dderbyn a bod y cais yn gais llawn i godi annedd ddeulawr ar wahân gyda garej ar wahân yng nghefn y safle.  Roedd caniatâd cynllunio amlinellol ar y safle i godi annedd.  Mae Llangristiolus yn Bentref Rhestredig dan Polisi 50 Cynllun Lleol Ynys Môn ac yn Bentref dan Bolisi HP4 y Cynllun Datblygu Unedol a Stopiwyd.  Roedd yr annedd o faint ac o ddyluniad tebyg i dai'r cyffiniau.  Oherwydd y pellter rhwng yr annedd arfaethedig a'r tai sydd yno'n barod ni fydd y cynnig yn cael effaith ar bleserau'r tai o gwmpas.  Y bwriad yw plannu gwrych ar hyd terfyn y cefn lle mae'r plot yn wynebu tir amaethyddol.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y Swyddog a'r argymhelliad i ganiatáu'r cais gyda'r amodau yn yr adroddiad.

 

      

 

      

 

10.4     39/C/471/TPO - Lleihau’r goeden dderwen wedi ei diogelu gan Orchymyn Diogelu Coed yn    Straits Gaze, Ffordd Caergybi, Porthaethwy

 

      

 

     (Gwnaeth Mr. Richard Eames, Swyddog Rheoli Datblygu (Priffyrdd) ddatganiad o ddiddordeb yn y cais a gadwodd y cyfarfod am y drafodaeth a'r pleidleisio).

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion benderfynu arno oherwydd iddo gael ei gyflwyno gan yr Aelod Lleol.  Cafodd y cais ei sgriwtineiddio gan y Swyddog Monitro yn unol â gofynion paragraff 4.6.10.4 Cyfansoddiad y Cyngor.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio nad oedd yr awdurdod cynllunio yn gwrthwynebu'r bwriad i ostwng uchder y dderwen gan fod y gwaith o les i iechyd y goeden.  Roedd y dyddiad cau i bwrpas derbyn sylwadau ar y cais yn dod i ben ar 5 Mawrth, 2009.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y Swyddog a'r argymhelliad o ganiatáu a rhoddi pwerau dirprwyol i'r swyddogion i ganiatáu'r cais ar ôl i'r cyfnod hysbysu ddod i ben ond gyda'r amod na ddygir unrhyw fater arall i sylw'r Swyddogion.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

 

 

11

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

11.1     Codi dau arwydd crog wedi’u goleuo yn allanol ac un arwydd wal wedi’i oleuo yn allanol gyda llythrennau mowntiedig yn 10 Stryd y Castell, Biwmares

 

      

 

11.2     Caniatâd Adeilad Rhestredig ar gyfer codi dau arwydd crog wedi’u goleuo yn allanol ac un  arwydd wal wedi’i oleuo yn allanol gyda llythrennau mowntiedig yn 10 Stryd y Castell,  Biwmares

 

      

 

     Cyflwynwyd y ddau gais i'r Pwyllgor benderfynu arnynt yn ôl dymuniad yr Aelod Lleol.

 

      

 

     Soniodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod llythyr ychwanegol o gefnogaeth wedi'i gyflwyno gan asiant yr ymgeiswyr a bod yr adeilad mewn ardal sensitif iawn; yn Ardal Gadwraeth dan gyfarwyddyd Erthygl 4,  mewn Ardal o Brydferthwch Naturiol Eithriadol, yng nghyffiniau Adeiladau Rhestredig eraill ac yng nghyffiniau Castell Biwmares sydd yn Safle Treftadaeth y Byd.  Mae rhai arwyddion goleuedig o'r tu allan sy'n hongian ar waliau, ar rai adeiladau masnachol yn y dref yn briodol.  Pan fo'r adeilad yn un rhestredig rhaid i'r dyluniad, y steil a lliw yr arwydd fod yn briodol i'r eiddo.  Yn yr achos hwn credir bod yr arwyddion arfaethedig fydd yn hongian ar y wal ac yn cael eu goleuo'n allanol yn briodol ac yn addas i'r pwrpas ac ni chredir y byddant yn niweidiol i gymeriad nac i wedd hanesyddol yr Adeilad Rhestredig a'r Ardal Gadwraeth.

 

      

 

     Yn achos yr arwydd wal sy'n cael ei oleuo'n allanol a llythrennau wedi'u gosod arno ar y talcen sy'n wynebu'r de/gorllewin ni chredir ei fod yn addas a gall niweidio cymeriad a gwedd yr Adeilad Rhestredig, yr Ardal Gadwraeth arbennig a'r dref yn gyffredinol.  O safbwynt Adeilad Rhestredig mae diogelu cymeriad hanesyddol yr adeilad yn holl bwysig.  Felly awgrymir bod caniatâd yn cael ei roddi i'r ddau arwydd sy'n hongian ar y waliau ac yn cael eu goleuo'n allanol ond gwrthod caniatâd i'r arwydd a osodir ar y wal.

 

      

 

     Ni chredai'r Aelod Lleol y buasai'r ddau arwydd sy'n hongian na'r un arwydd arall a osodir ar y wal yn groes i gymeriad Biwmares gan fod nifer dda o fusnesau eraill yn y cyffiniau gydag arwyddion tebyg.  Nododd bod Biwmares yn dibynnu'n fawr ar dwristiaeth a chredai y dylai'r ddau arwydd dderbyn cymeradwyaeth.

 

      

 

     Cytuno gyda'r Aelod Lleol a wnaeth y Cynghorydd Hefin W. Thomas, sef y dylid rhoddi caniatâd i'r ddau arwydd a chynigiodd hynny.  Eiliodd y Cynghorydd J. Arwel Roberts y cynnig.

 

      

 

     PENDERFYNWYD :-

 

      

 

(1)     derbyn adroddiad y Swyddog a'r argymhelliad i ganiatáu'r cais gyda'r amodau yn yr adroddiad yng nghyswllt y ddau arwydd fydd yn hongian ar y wal ac yn cael eu goleuo'n allanol.

 

      

 

(2)     caniatáu un arwydd ar y wal yn cael ei oleuo'n allanol a llythrennau wedi eu mowntio arno - ac yn groes i argymhelliad y Swyddog.

 

      

 

     Hwn oedd y rheswm a roddwyd dros ganiatáu'r cais :-

 

      

 

     Mae'r arwydd yn dderbyniol ar Adeilad Rhestredig.

 

      

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio'n awtomatig i'r cyfarfod nesaf er mwyn i swyddogion baratoi adroddiad ar y rheswm dros ganiatáu'r cais.

 

 

 

(Roedd y Cynghorydd E. G. Davies yn dymuno cofnodi na chymerodd ran yn y drafodaeth na'r pleidleisio ar yr eitemau hyn).

 

 

 

11.3     28/C/373A - Cais amlinellol i godi tai, sef tri ty deulawr, un byngalo a 4 fflat y tu mewn i un adeilad deulawr a darparu mynedfa newydd i gerbydau ar dir Bryn Gwyn a Bryn Colyn, Ffordd y Stesion, Rhosneigr

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr Aelod Lleol.

 

      

 

     Eglurodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y cais gerbron yn fersiwn ddiwygiedig o'r cynllun gwreiddiol a gyflwynwyd.  Er bod nifer y tai yn aros heb newid, roedd y datblygwr wedi ymateb yn gadarnhaol iawn i bryderon a fynegwyd ac wedi mynd i gryn drafferth i leddfu'r pryderon oedd gan yr Adran a'r bobl leol ynghylch materion prydferthwch a phreifatrwydd - gwnaeth hynny trwy ddiwygio'r dyluniad yn sylweddol.  Felly diwygiwyd y gosodiad a'r dyluniad ar ôl i'r cais gwreiddiol gael ei wrthod ar apêl.  

 

      

 

     Gofynnodd yr Aelod Lleol am ymweliad safle er mwyn rhoi'r cyfle i aelodau gael gweld hwnnw cyn penderfynu ar y cais.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â'r safle er mwyn rhoi'r cyfle i aelodau gynefino gyda'r datblygiad arfaethedig cyn gwneud penderfyniad ar y cais.

 

      

 

     Dyma'r rhesymau am yr ymweliad â'r safle :

 

      

 

     1.  Yr effaith ar dai o gwmpas.

 

     2.  Gorddatblygu'r safle.

 

      

 

11.4     31/C/369 - Cais amlinellol i godi annedd unllawr a gwneud gwaith altro ar y fynedfa i gerbydau ar dir ger Shandy, Lôn Dryll, Llanfair-pwll

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad Cadeirydd y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

      

 

     Y materion pwysicaf i benderfynu arnynt yma, yn ôl y Rheolwr Rheoli Cynllunio, oedd penderfynu a ydyw'r datblygiad yn cydymffurfio gyda'r polisïau presennol ac hefyd a fydd yn cael effaith ar bleserau'r tai o gwmpas.  Roedd y safle y tu mewn i ffiniau datblygu Llanfair-pwll fel y dyffinnir y rheini dan Bolisi 49 Cynllun Lleol Ynys Môn a than Bolisi HP4 Cynllun Datblygu Unedol a Stopiwyd.  Oherwydd lleoliad y plot a hefyd gan fod y byngalo cyffiniol yn agos iawn i derfyn y plot, credwyd nad oedd digon o bellter rhwng yr annedd arfaethedig ar y plot hwn a'r ty arall o'r enw Ceris.  Gallai hyn arwain at edrych drosodd a cholli goleuni yn Ceris i'r graddau bod modd cyfiawnhau gwrthod.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd J. P. Williams, yr Aelod Lleol, iddo gael sawl cwyn am y cais hwn ac er bod y swyddog yn argymell gwrthod credai y buasai'n briodol cael ymweliad.

 

      

 

     Oherwydd bod cymaint o wrthwynebiadau i'r cais cynigiodd y Cynghorydd O. Glyn Jones y dylid ei wrthod gan ddilyn argymhelliad y Swyddogion.  Eiliwyd y cynnig hwn gan y Cynghorydd J. Arwel Roberts.

 

      

 

     Ond gan fod yr aelod lleol wedi gofyn am ymweliad cynigiodd y Cynghorydd Hefin W. Thomas y dylid cael ymweliad â'r safle a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Jim Evans.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

     Dyma fel y bu'r bleidlais :-

 

      

 

     Gwrthod y cais : Y Cynghorwyr E. G. Davies, Lewis Davies, B. Durkin, Kenneth P. Hughes, O. Glyn Jones, T. H. Jones, C. McGregor, R. L. Owen, J. Arwel Roberts.

 

      

 

     Ymweld â'r safle:  Y Cynghorwyr Jim Evans, Hefin W. Thomas.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y Swyddog a'r argymhelliad i wrthod y cais.

 

      

 

11.5     33/C/190K - Diwygio amod (04) ar ganiatâd cynllunio rhif 33C190H, fel bod modd derbyn hyd at 30,000 tunnell o ddeunyddiau a ddeuai yn sgil gwneud gwaith cynnal a chadw ar y priffyrdd mewn unrhyw flwyddyn unigol yn Chwarel Bwlch Gwyn, Gaerwen.

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Soniodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio mai'r argymhelliad bellach oedd gohirio a hynny er mwyn rhoi'r cyfle i'r swyddogion wneud rhagor o waith siecio ar ddilysrwydd y cais.  Cais yw hwn i gael cynnydd yn y defnyddiau gwastraff a dderbynnir yno - gwastraff o wneud gwaith cynnal a chadw ar y priffyrdd a'i brosesu a'i stocio yn y chwarel gyda'r nod yn y pen draw o'i ailddefnyddio.  Roedd caniatâd cynllunio yn y chwarel i ailgylchu defnyddiau a ddeuai yn sgil gwaith cynnal a chadw ar y priffyrdd ond bod amod (04) caniatâd cynllunio 33C190H yn cyfyngu ar faint o ddefnyddiau y mae modd eu derbyn - sef dim mwy na 5,000 tunnell o ddefnyddiau yn sgil gwaith cynnal a chadw ar y priffyrdd mewn unrhyw flwyddyn unigol.  Roedd ailgylchu agregiad yn y ffordd hon yn dilyn canllawiau presennol yng nghyswllt cyflenwi agregiadau mewn ffordd gynaliadwy.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Eric Jones, yr Aelod Lleol, bod pryderon gwirioneddol yn y pentref oherwydd y cais a gofynnodd i'r Pwyllgor ymweld â'r safle.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â'r safle er mwyn rhoi cyfle i aelodau gynefino gyda'r datblygiad arfaethedig cyn gwneud penderfyniad ar y cais.

 

      

 

     Dyma'r rheswm am gael yr ymweliad â'r safle :-

 

      

 

     Materion priffyrdd.

 

      

 

11.6     46/C/416B - Cais llawn i godi dwy annedd a darparu mynedfa newydd i gerbydau ar dir Parc Isallt, Trearddur

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y safle y tu mewn i ffiniau datblygu Trearddur - yng Nghynllun Lleol Ynys Môn a hefyd yn y Cynllun Datblygu Unedol a Stopiwyd.  Y rhain oedd materion allweddol y cais - a ydyw'n cael effaith ar bleserau tai yn y cyffiniau ac ar y tirwedd, a ydyw dyluniad yr anheddau arfaethedig yn adlewyrchu cymeriad tai yr ardal a'r mater arall yw diogelwch y briffordd.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Eric Roberts, yr Aelod Lleol, bod pryderon yn lleol oherwydd y cais ac awgrymodd bod y Pwyllgor yn ymweld cyn gwneud penderfyniad.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â'r safle er mwyn rhoi cyfle i aelodau gynefino gyda'r datblygiad arfaethedig cyn gwneud penderfyniad ar y cais.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

     Dyma'r rheswm am ymweld â'r safle :-

 

      

 

     Yr effaith ar y tai o gwmpas.

 

      

 

12

CEISIADAU A DDIRPRWYWYD

 

      

 

     Cyflwynwyd a derbyniwyd - adroddiad Pennaeth y Gwasanaeth Cynllunio ar geisiadau a ddirprwywyd ac y gwnaethpwyd penderfyniad arnynt ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor hwn.

 

      

 

13     APELIADAU

 

      

 

     Cyflwynwyd a nodwyd, er gwybodaeth, gopïau o grynodebau o benderfyniadau gan yr Arolygydd Cynllunio ynghylch :-

 

      

 

     The Lodge, 17 Bay View Road, Benllech - caniatawyd apêl

 

     Tros yr Ardd, Gadfa, Pen-y-sarn - gwrthodwyd yr apêl

 

     Tir gyferbyn â Refail Fawr, Star, Gaerwen - gwrthodwyd yr apêl

 

     Ynys Ganol, Bryn-teg - gwrthodwyd yr apêl

 

      

 

     Nodwyd y bydd Seminar Hyfforddiant yn cael ei threfnu yn y dyfodol agos i drafod dull yr aelodau o ddelio gydag apeliadau.

 

      

 

14     MATERION ERAILL

 

      

 

14.1     34/C/83C - Codi 21 o dai a darparu mynedfa newydd i gerbydau ar dir ger Ffordd Glanhwfa, Llangefni

 

      

 

     (Gwnaeth yr Uwch Beiriannydd (Rheoli Datblygu a Hawliau Tramwy Cyhoeddus) ddatganiad o ddiddordeb yn y cais a gadawodd y cyfarfod am y drafodaeth a'r pleidleisio).

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ym mis Gorffennaf 2005 wedi rhoddi caniatâd i'r cais cynllunio uchod yn amodol ar wneud cytundeb cyfreithiol.  Un o ddyletswyddau'r cytundeb cyfreithiol oedd hwnnw yng nghyswllt darparu 4 o dai fforddiadwy a thrwy :-  Landlord Cymdeithasol Cofrestredig.  Mae 4 uned allan o 21 yn cyfateb i 19% o'r holl ddatblygiad; fel arfer mae'r awdurdod cynllunio lleol yn mynnu ar 30% ond yn yr achos hwn cafodd y ffigwr ei ostwng oherwydd dyletswydd arall ynghylch darparu llwybr i gerddwyr dan yr hen rheilffordd a hynny er mwyn hyrwyddo diogelwch cerddwyr ar hyd Ffordd Glanhwfa i ganol y dref.  Ni chafodd y cytundeb cyfreithiol hwnnw ei wneud ac yn awr mae'r ymgeiswyr yn dymuno cwblhau pethau.  Dan Gyfansoddiad y Cyngor mae'n rhaid dod â'r mater yn ôl i'r Pwyllgor oherwydd yr amser a aeth heibio ac oherwydd diwygio gofynion y cytundeb dan Adran 106 yng nghyswllt tai fforddiadwy.

 

      

 

     Yn ddiweddar mae'r Cyngor wedi bod yn ymgynghori ar ei Gynllun Darparu Tai Fforddiadwy, a thrwy hwn yn diwygio polisïau'r awdurdod cynllunio lleol ar dai fforddiadwy.  Yn ôl y Cynllun Darparu Tai Fforddiadwy mae'r ymgeiswyr wedi cytuno i ddarparu 4 ty fforddiadwy a'r rheini yn cael eu gwerthu am 70% o'u gwerth ar y farchnad unwaith y cânt eu cwblhau.  Bydd yr adeiladau hyn yn cael eu codi yn ôl gofynion ansawdd dylunio fel eu bod yn addas i'r Landlord Cymdeithasol Cofrestredig petai hwnnw'n dymuno eu cael.  Rhaid i berchnogion ac i ddeiliaid y tai hyn fod yn bobl gyda chysylltiadau lleol ac angen ty.  Pan fo ty fforddiadwy yn cael ei werthu bydd yn cael ei werthu am y tro cyntaf a phob tro wedyn yn ôl pris nad yw'n uwch na 70% o bris tai cyffelyb ar gyfartaledd yn y cyffiniau.  Onid ydynt yn cael eu gwerth yn ôl y pris hwn yna bydd unrhyw gynnydd yn y gwerth ar ôl eu gwerthu ar y farchnad agored yn cael ei rannu yn ôl 70% i'r perchennog a 30% i Gyngor Sir Ynys Môn.

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd B. Durkin a fuasai Priswyr y Cyngor ei hun yn rhan o brisio'r tai hyn.  Mewn ymateb dywedodd y Cadeirydd y bydd raid i'r Cyngor fod â rhan yn y prisio.  Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol y buasai'n rhaid i ddau werthwr tai lleol dystio i werth y tai.  Credai'r Cynghorydd H. W. Thomas bod angen i'r Prisiwr Dosbarth gadarnhau'r gwerth a hynny er mwyn diogelu'r awdurdod.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod y Prisiwr Dosbarth yn cadarnhau beth yw gwerth y tai.

 

      

 

14.2     39/LPA/906/LB/CC - Caniatâd Adeilad Rhestredig i symud giatiau a chilbyst haearn bwrw, gwneud gwaith atgyweirio a'u gosod yn ôl yn y lle gwreiddiol ar Bromenâd y Pier Sant Sior, Porthaethwy

 

      

 

     PENDERFYNWYD nodi y bydd y cais uchod yn cael ei yrru at Lywodraeth Cynulliad Cymru i wneud penderfyniad arno gan gydymffurfio gyda Rheol 13 Deddf Gynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Y CYNGHORYDD T. H. JONES

 

CADEIRYDD