Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion dogfennau , 4 Ebrill 2007

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Dydd Mercher, 4ydd Ebrill, 2007

 

PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION

 

 

Cofnodion cyfarfod gafwyd ar 4 Ebrill, 2007

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd J Arwel Roberts - Cadeirydd

Y Cynghorydd Denis Hadley - Is-Gadeirydd

 

Y Cynghorwyr John Chorlton, Eurfryn Davies, Arwel Edwards,

PM Fowlie,  Aled Morris Jones, J Arthur Jones, O Glyn Jones,

RL Owen, John Roberts, John Rowlands, WJ Williams MBE

 

 

 

WRTH LAW:

 

Cynllunio:

Rheolwr Rheoli Datblygu (DFJ)

Cynorthwywr Cynllunio (JBR)

 

Priffyrdd:

Uwch Beiriannydd (Rheoli Datblygu a Hawliau Tramwy)(JRWO)  

 

Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol (RWJ)

Cynorthwy-ydd Gweinyddol (CWP)

YMDDIHEURIADAU:

 

 

 

HEFYD YN BRESENNOL:

 

Aelodau lleol:   Y Cynghorwyr Fflur Hughes eitemau 6.8, 9.8,

RLl Hughes eitem 9.1, WI Hughes eitem 10.1, Eric Jones eitemau 6.6, 6.7, Gwilym Jones eitem 9.7, Goronwy Parry MBE eitem 10.9,

DA Lewis-Roberts eitemau 6.4, 9.3, 9.4, 9.5, 9.6, 10.7

 

Y Cynghorydd Hefin Thomas (Deilydd Portffolio - Cynllunio)

 

 

   

1

YMDDIHEURIADAU

 

Doedd dim ymddiheuriadau am absenoldeb wedi eu derbyn ar gyfer y cyfarfod hwn.

 

2

DATGANIAD O DDIDDORDEB

   

Derbyniwyd datganiadau o ddiddordeb fel y cawsant eu cofnodi dan yr eitemau perthnasol.

 

3

COFNODION

 

Cadarnhawyd a llofnodwyd cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gafwyd ar

7 Mawrth, 2007 (Cofnodion 01.05.2007, tud 46 - 58)  

   

4

YMWELIADAU Â SAFLEOEDD CYNLLUNIO

 

 

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd adroddiad ar yr Ymweliadau â Safleoedd Cynllunio a gafwyd ar 21 Mawrth, 2007 yn amodol ar y canlynol:

 

 

 

34C179F/DA Tyn y Gamfa, Ponc y Fron, Llangefni fe nodwyd y byddai’r adeilad 5m o’r wal derfyn a dim 8m fel a nodwyd.

 

 

 

17C403 Bryn Eryr Uchaf, Llansadwrn y bwriad gwreiddiol ar gyfer y sied gyfagos oedd i storio peiriannau, ni chafwyd caniatâd cynllunio i gadw anifeiliaid ynddi.  

 

 

 

5

CEISIADAU A OHIRIWYD

 

 

 

5.1

CAIS YN TYNNU’N GROES

 

 

 

12C66G  DYMCHWEL YR ADEILAD PRESENNOL YNGHYD Â CHODI PUM ANNEDD, CAFFI, PAFILIWN AC AILWAMPIO SAFLE’R HEN BWLL NOFIO, BIWMARES

 

 

 

Penderfynwyd ymweld â’r safle yn y cyfarfod ar 5 Gorffennaf, ac fe wnaed hynny ar 12 Gorffennaf, 2006. Gofynnodd y swyddog am ohiriad pellach ar gais CADW.

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais am y rheswm a roddwyd.

 

 

 

5.2

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

12C340AC/A  CANIATÂD ARDAL GADWRAETH AR GYFER DYMCHWEL ADEILADAU HEN DDEPO A GAREJYS Y CYNGOR, BIWMARES

 

 

 

Penderfynwyd ymweld â’r safle yn y cyfarfod ar 7 Chwefror, ac fe wnaed hynny ar 21 Chwefror, 2007. Gofynnodd y swyddog am ohiriad pellach er mwyn cwblhau trafodaethau priffyrdd ac ystyriaethau mynedfa.

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais am y rheswm a roddwyd.

 

 

 

5.3

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

12C340C  CODI 3 EIDDO TERAS A PHÂR O DAI PÂR A DYMCHWEL YR ADEILADAU PRESENNOL YN HEN DDEPO'R CYNGOR, BIWMARES

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais am y rheswm a roddwyd yn eitem 5.2 uchod.

 

 

 

5.4

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

12C340D/CA  CAIS I DORRI COED MEWN ARDAL GADWRAETH YN HEN DDEPO, BIWMARES

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais am y rheswm a roddwyd yn eitem 5.2 uchod.

 

 

 

5.5

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

30C385B  DYMCHWEL Y GWESTY PRESENNOL, CODI ADEILAD 3 LLAWR YN CYNNWYS 21 O FFLATIAU PRYNU I OSOD, PWLL NOFIO DAN DO YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU, ADDASU’R FYNEDFA I GERBYDAU A’R GARTHFFOSIAETH YN LLIFO I’R GARTHFOS GYHOEDDUS YNG NGWESTY BRYN TIRION, TRAETH COCH  

 

 

 

Gan y Cynghorwyr J Arthur Jones a  Hefin Thomas cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais.

 

 

 

Penderfynwyd ymweld â’r safle yn y cyfarfod ar 5 Gorffennaf, ac fe wnaed hynny ar 12 Gorffennaf, 2006.  Gofynnodd y swyddog am ohiriad pellach er mwyn cwblhau trafodaethau.

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais am y rheswm a roddwyd.

 

 

 

5.6

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

39C254B  CAIS AMLINELLOL I GODI PEDAIR ANNEDD YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GEIR YN HAFOD WERN, PORTHAETHWY

 

 

 

Penderfynwyd ymweld â’r safle yn y cyfarfod ar 6 Medi, ac fe wnaed hynny  ar 20 Medi, 2006. Gofynnodd y swyddog am ohiriad pellach er mwyn cwblhau trafodaethau.

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais am y rheswm a roddwyd. 

 

 

 

5.7

CAIS ECONOMAIDD

 

 

 

46C378B/ECON/EIA  CAIS I GODI DEPO CYNNAL RHEILFFORDD AR DIR YN STAD DDIWYDIANNOL, CAERGYBI

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno ar gais y swyddog a ofynnodd am ymweliad â’r safle oherwydd perthynas y cais â strategaethau lleol eraill.

 

 

 

PENDERFYNWYD ymweld â’r safle am y rheswm a roddwyd.

 

 

 

5.8

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

49LPA868/CC  CAIS AR GYFER DARPARU OFFER NEWYDD I DRIN CARTHION YN LLE’R UN PRESENNOL YNGHYD Â GOSOD ARLLWYSFA NEWYDD I WASANAETHU SAITH ANNEDD AR DIR Y TU CEFN I 1 TAI CYNGOR & BRYN REFAIL, LLANYNGHENEDL

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno gan ei fod yn cael ei gyflwyno ar ran y Cyngor. Penderfynwyd caniatáu’r cais hwn ar 6 Medi yn amodol ar gwblhau gwaith ymgynghori yn foddhaol.  Cyfeiriwyd y cais yn ôl i’r Pwyllgor yn wyneb materion a godwyd yn ystod yr ymgynghori a gofynnodd y swyddog am ohiriad pellach er mwyn cwblhau’r broses ymgynghori.

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais am y rheswm a roddwyd.

 

 

 

6

CEISIADAU’N CODI

 

 

 

 

 

6.1

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

12C4B/3  ADDASU AC EHANGU 2 CAE MAIR, BIWMARES

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno ar gais yr aelod lleol.   Penderfynwyd ymweld â’r safle yn y cyfarfod ar 7 Mawrth, ac fe wnaed hynny ar 21 Mawrth, 2007.

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd RL Owen fod y rhan fwyaf  o gartrefi o amgylch y safle y rhai dwy lofft a phobl wedi ymddeol yn byw yn y mwyafrif ohonynt. Roedd y stad wedi ei chynllunio fel bod pob eiddo yn mwynhau golygfa o’r Fenai ac roedd yn awyddus i hyn barhau.

 

 

 

Gan y Cynghorydd John Chorlton cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a’r argymhelliad o ganiatáu.

 

 

 

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais am y rhesymau a roddwyd gydag amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad y swyddog.

 

 

 

Gofynnodd y Cynghorydd RL Owen gofnodi ei fod ef yn gwrthwynebu’r bwriad.

 

 

 

6.2      GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

17C403  CAIS I GADW ESTYNIAD I ADEILAD AMAETHYDDOL YN BRYN ERYR UCHAF, LLANSADWRN

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl  dymuniad yr aelod lleol.    Penderfynwyd ymweld â’r safle yn y cyfarfod ar 7 Mawrth, ac fe wnaed hynny ar 21 Mawrth, 2007.

 

 

 

Roedd y Cynghorydd Eurfryn Davies yn pryderu y byddai  maint y sied yn cynyddu cymaint a 50% a’r effaith niweidiol a gâi’r swn a’r arogl ychwanegol ar dy cyfagos - 50m oddi wrth y sied ac nad oedd yn rhan o’r gweithgareddau ffermio.

 

 

 

Gan y Cynghorydd John Chorlton cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a’r argymhelliad o ganiatáu, gan gynnwys amodau y byddai’n rhaid glynu wrthynt; cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd  John Roberts.

 

 

 

Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

 

 

Derbyn adroddiad y swyddog a’r argymhelliad i ganiatáu’r cais:  Y Cynghorwyr John Chorlton,

 

PM Fowlie,  Aled Morris Jones, J Arthur Jones, O Glyn Jones, RL Owen, John Roberts,

 

John Rowlands, WJ Williams MBE

 

 

 

Ymatal:  Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, Arwel Edwards

 

 

 

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais am y rhesymau a roddwyd gydag amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad y swyddog.

 

 

 

6.3

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

24C247B  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD A MODURDY PREIFAT AR RAN O GAE O.S. 7250, GER MAES Y GROES, NEBO

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl  dymuniad yr aelod lleol a ofynnodd am ohiriad  yn ei absenoldeb o gyfarfod mis Mawrth.  

 

 

 

I bwrpas cofnod dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu na fu ymweliad â’r safle hwn ar 21 Mawrth, yn groes i’r hyn a ddywedwyd yn yr adroddiad.  Argymhelliad o ganiatáu oedd yma am y rhesymau a roddwyd.

 

 

 

Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

 

 

Derbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad o ganiatáu:  Y Cynghorwyr John Chorlton, Eurfryn Davies, PM Fowlie,  Aled Morris Jones, J Arthur Jones, O Glyn Jones, RL Owen,

 

John Rowlands, WJ Williams MBE

 

 

 

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais am y rhesymau a roddwyd gydag amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad y swyddog.

 

 

 

6.4

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

30C621  CAIS LLAWN AR GYFER DATBLYGIAD PRESWYL YN CYNNWYS 31 O ANHEDDAU YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GEIR AC I GERDDWYR AR DIR YN LÔN PANT Y CUDYN, BENLLECH

 

 

 

Penderfynwyd ymweld â’r safle yn y cyfarfod ar 4 Hydref, ac fe wnaed hynny ar 18 Hydref, 2006.  Yn y cyfamser cafodd y cais ei ohirio er mwyn cwblhau gwaith ymgynghori.  Dymuniad yr aelodau ar 7 Mawrth oedd gwrthod y cais, a hynny'n groes i argymhelliad y swyddog am y rhesymau a ganlyn:

 

 

 

Ÿ

mwy o bwysau i'r cynllun datblygu

 

Ÿ

problemau dwr wyneb

 

Ÿ

gwelededd annigonol o'r fynedfa

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros wrthod y cais.   

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd D Lewis-Roberts fod oddeutu 750 yn gwrthwynebu'r bwriad; roedd hyn yn fwy na 90% o'r boblogaeth leol, y prif bryderon oedd:

 

 

 

priffyrdd - byddai'r fynedfa'n creu croesffordd, hyn yn ychwanegol i 17 o fynedfeydd eraill sy'n bodoli'n barod tuag at ganol y pentref.  Roedd y Cynghorydd Lewis-Roberts yn ymwybodol o gais arall am 150 o anheddau ar dir o gwmpas y safle.  Roedd anghysondebau mewn perthynas â gwelededd o'r fynedfa.

 

 

 

llecyn gwlyb - problemau difrifol gyda dwr wyneb ar hyn o bryd a buasai'r datblygiad yn ychwanegu at y broblem.

 

 

 

Cafwyd gair gan yr Uwch Beiriannydd Priffyrdd fod y fynedfa arfaethedig yn dderbyniol a'r gwelededd yn cydymffurfio gyda TAN 18; roedd y fynedfa wedi ei symud i bant yn y ffordd ac yno roedd y gwelededd yn ddigonol.  Bellach roedd y problemau dwr wyneb wedi'u datrys ac roedd cynllun ar y safle i wasgaru dwr.  

 

 

 

Yn ôl y Rheolwr Rheoli Datblygu nid oedd yr un corff yr ymgynghorwyd ag ef yn statudol yn cefnogi'r rhesymau dros wrthod.  Nid oedd unrhyw dystiolaeth dros wrthwynebu am y rhesymau a roddwyd.  Hefyd rhoes sicrwydd i'r aelodau fod gwaith ymgynghori manwl wedi ei wneud a chafwyd barn broffesionol ar y cynnig heb dderbyn unrhyw wrthwynebiadau a hynny'n cynnwys materion draenio a dwr wyneb.Yn yr achos hwn roedd yr CDU a stopiwyd yn ystyriaeth o bwys.  Ni allai swyddogion cynllunio proffesiynol amddiffyn penderfyniad i wrthod am y rhesymau a roddwyd o'r blaen ac nid oedd tystiolaeth i gefnogi'r rhesymau hynny.

 

      

 

     Soniodd y Cynghorydd D Lewis-Roberts am y gwahaniaeth barn rhwng y Pennaeth Gwasanaeth a'r swyddog achos - gwahaniaeth barn ar y fynedfa ac ar y gwelededd o'r fynedfa honno.  Ar y peiriant taflunio dangosodd y swyddog leoliad y fynedfa arfaethedig a rhoed sicrwydd i'r aelodau y ceid digon o welededd o'r fynedfa.

 

      

 

     Ond ychwanegodd y Cynghorydd Lewis-Roberts bod y cais, yn ei  hanfod, yn gwyro oddi wrth y polisiau a phwysodd ar yr aelodau i lynu wrth y penderfyniad blaenorol o wrthod.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd RL Owen cafwyd cynnig i  lynu wrth y penderfyniad blaenorol a gwrthod y cais a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd J Arthur Jones.  

 

      

 

     Teimlai'r Cynghorydd J Arthur Jones fod modd amddiffyn penderfyniad i wrthod ar sail polisi a chyfeiriodd at dudalen 4 adroddiad y swyddog; yn yr achos hwn teimlai ef y dylid rhoddi mwy o bwysau ar Gynllun Lleol 1996 - nid oedd yr CDU wedi'i fabwysiadu.  Hefyd teimlai'r Cynghorydd Jones fod digon o gyflenwad tai yn y Benllech i barhau tan 2010 ac ymchwilid i glustnodiadau tai ychwanegol i'r Benllech dan y Cynllun Datblygu Lleol esblygol.  

 

      

 

     Cafwyd cynnig gan y Cynghorydd John Chorlton i ddileu'r "problemau dwr wyneb" fel rheswm dros wrthod.

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

      

 

     Glynu wrth y penderfyniad blaenorol i wrthod y cais, a hynny'n groed i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr John Chorlton, Eurfryn Davies, Arwel Edwards, Denis Hadley,

 

     Aled Morris Jones, J Arthur Jones, RL Owen, John Roberts, John Rowlands, WJ Williams MBE

 

      

 

     PENDERFYNWYD glynu wrth y penderfyniad blaenorol a gwrthod y cais, a hynny'r groes i argymhelliad y swyddog, gan y teimlai'r aelodau y dylai mwy o bwysau gael ei roi i Gynllun Lleol Ynys Mon.  Penderfynwyd ymhellach dynnu'r ddau reswm arall oddi ar y rhestr o resymau dros wrthod.  

 

      

 

6.5     CAIS YN TYNNU'N GROES

 

      

 

     30C629  30C629  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD YNGHYD AG ADDASU’R FYNEDFA BRESENNOL A GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD AR DIR GER TAN Y MARIAN, BRYNTEG

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl  dymuniad yr aelod lleol.   Penderfynwyd ymweld â’r safle yn y cyfarfod ar 7 Mawrth, ac fe wnaed hynny ar 21 Mawrth, 2007.

 

      

 

     Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod Tystysgrif Perchnogaeth ddiwygiedig wedi ei derbyn gan yr Adran yr wythnos hon, a byddai'n ofynnol ymgynghori arni am gyfnod o 21 niwrnod, ac ni fyddai'n bosib gwneud penderfyniad ar y cais hyd oni ddeuai'r cyfnod hwn i ben.

 

      

 

     PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais am y rheswm a roddwyd.

 

      

 

6.6      GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     33C87E  CAIS LLAWN I GODI 27 O ANHEDDAU AR DIR YN GAERWEN UCHAF, GAERWEN

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl  dymuniad yr aelod lleol.   Penderfynwyd ymweld â’r safle yn y cyfarfod ar 7 Mawrth, ac fe wnaed hynny ar 21 Mawrth, 2007.

 

      

 

     Argymhelliad o ganiatáu a gafwyd gan y Rheolwr Rheoli Datblygu ond gyda chytundeb dan Adran 106 ar dai fforddiadwy, mesurau i arafu traffig a gwelliannau i'r ffordd yn y fynedfa i Stad Gaerwen Uchaf.  Yn yr achos hwn doedd dim modd cyfiawnhau llwybr cerdded i gyfeiriad y Groeslon.  

 

      

 

     Pryderu'n fawr oedd y Cynghorydd Eric Jones am ddiogelwch cerddwyr rhwng mynedfa Stad Gaerwen Uchaf a'r gyffordd yn y Groeslon.  Buasai'r cynnig hwn yn codi nifer y tai yn Gaerwen Uchaf i 174, ond gallai'r ffordd stad dderbyn o gwmpas 250 o geir, a'r stad ddiwydiannol yn cyflogi oddeutu 700 o bobl.  Nid oedd yr ymyl werdd bresennol yn ddigon da i gerddwyr.  

 

      

 

     Cytuno a wnaeth y Cynghorydd John Chorlton gyda'r aelod lleol ac ni theimlai fod raid cael mantais priffordd y tu mewn i'r safle.  Hefyd roedd y Cynghorydd Aled Morris Jones yn cytuno fod diogelwch cerddwyr yn ffactor o bwys.

 

      

 

     Cefnogi safiad yr aelod lleol a wnaeth y Cynghorydd Denis Hadley a deimlai bod hwn yn gyfle i wella diogelwch i gerddwyr.  

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu bod swyddogion yn ymwybodol o'r sefyllfa ac yn cydymdeimlo gyda cherddwyr; byddai'n afresymol disgwyl i ddatblygwr ddarparu llwybr troed tuag at y Groeslon.  

 

      

 

     Dywedodd yr Uwch Beiriannydd Priffyrdd y buasai'n afresymol disgwyl i'r datblygwr ddarparu llwybr cerdded ar hyd y briffordd; rhoddwyd cynnig cynllun i arafu traffig a buasai angen ymgynghori ar hyn.

 

      

 

     Gyda'r posibilrwydd o gael rhagor o ddatblygiadau yn y cyffiniau teimlai'r Cynghorydd Fowlie y gallai'r datblygwr wneud cyfraniad ariannol i agor cronfa i bwrpas darparu llwybr cerdded.  

 

      

 

     Ar ôl pwyso a mesur, cytunodd y Cynghorydd  Arwel Roberts y byddai'n afresymol disgwyl i'r datblygwr ddarparu llwybr troed.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd John Chorlton cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a'i argymhelliad o ganiatáu, cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd J Arthur Jones.

 

      

 

     Yn unfrydol PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais am y rhesymau a roddwyd gydag amodau, yn cynnwys Amod 106 am dai fforddiadwy, ac yn cynnwys camau i arafu traffig a gwellainnau yn y fynedfa i stad Gaerwen Uchaf.

 

      

 

6.7     GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     33C256A  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD A MODURDY AR DIR YN LLOSG YR ODYN, PENTRE BERW

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl  dymuniad yr aelod lleol.   Penderfynwyd ymweld â’r safle yn y cyfarfod ar 7 Mawrth, ac fe wnaed hynny ar 21 Mawrth, 2007.

 

      

 

     Darllenodd y Cynghorydd Eric Jones lythyr gan yr ymgeisydd, a rhoddwyd copi ohono gerbron y Pwyllgor.  

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Arwel Roberts dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu nad oedd y cais hwn wedi ei gyflwyno am dy fforddiadwy a byddai yn dy ar y farchnad agored.  

 

      

 

     Yn ôl y Rheolwr Rheoli Datblygu roedd Pentre Berw yn bentref rhestredig a'r safle dan sylw y tu allan i'r ffin ddatblygu.  Nid oedd y safle yn estyniad bychan rhesymegol yn ôl diffiniad Polisi 50, a'r nant yn creu terfyn naturiol.  

 

      

 

     Ond gan fod y plot wedi'i roddi gan deulu'r ymgeisydd teimlai'r Cynghorydd John Roberts y gellid edrych arno fel ty fforddiadwy ac nid oedd y Cynghorydd yn gwbl gytun gyda'r swyddogion petai'r cais yn cael ei gyflwyno am dy fforddiadwy.  Ni chredai'r Rheolwr Rheoli Datblygu fod y cais yn creu estyniad derbyniol i'r ffiniau datblygu.

 

      

 

     Wedyn dygodd y Cynghorydd Glyn Jones sylw'r aelodau at Bennod 9, Polisi Cynllunio Cymru; teimlai hefyd mai mater o farn oedd cydymffurfio gyda Pholisi 50 ai peidio.

 

      

 

     Roedd gan y Cynghorydd RL Owen amheuon ynghylch gwneud y cais yn fwy derbyniol trwy symud y plot a'r fynedfa.

 

      

 

     Fodd bynnag, teimlai'r Cynghorydd J Arthur Jones fod y cais yn creu estyniad derbyniol i'r ffin ddatblygu.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd John Roberts cafwyd cynnig o dderbyn adroddiad y swyddog a'i argymhelliad o wrthod a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Arwel Edwards.

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

      

 

     Caniatáu'r cais, yn groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr John Chorlton, Eurfryn Davies, PM Fowlie,  Aled Morris Jones, J Arthur Jones, O Glyn Jones, RL Owen, John Rowlands, WJ Williams MBE

 

      

 

     Derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais:  Y Cynghorwyr Arwel Edwards, Arwel Roberts, John Roberts

 

      

 

     Y rheswm roddwyd dros ganiatáu oedd y teimlai'r aelodau fod y cais hwn yn cydymffurfio â Pholisi 50.

 

      

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio’n otomatig i’r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu'r cais.   

 

      

 

6.8     GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     34C179F/DA  CAIS LLAWN I GODI ANNEDD AR DIR GER TYN Y GAMFA, PONC Y FRON, LLANGEFNI

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl  dymuniad yr aelod lleol.   Penderfynwyd ymweld â’r safle yn y cyfarfod ar 7 Mawrth, ac fe wnaed hynny ar 21 Mawrth, 2007.

 

      

 

     Darllennodd y Cynghorydd Fflur Hughes lythyr gan breswylydd y ty gerllaw; roedd copi ohono wedi ei roi gerbron y cyfarfod hefyd.  

 

      

 

     Roedd y Rheolwr Rheoli Datblygu yn ymwybodol o'r sefyllfa a swyddogion wedi treulio amser sylweddol yn diwygio'r cynlluniau gwreiddiol er mwyn taro ar gyfaddawd derbyniol a hynny i bwrpas lleddfu pryderon.

 

      

 

     Ar bob cownt roedd y swyddogion yn gweld y cynnig yn dderbyniol, gan gynnwys y pellter o'r ty cyffiniol.  Adeg rhoddi caniatâd cynllunio amlinellol i'r safle yn 1989 derbyniwyd yr egwyddor o ddatblygu. Hefyd roedd y pensaer wedi ymateb yn gadarnhaol i bryderon a fynegwyd ac nid oedd yr un rheswm dros wrthod y cais, ac felly roedd yr argymhelliad yn aros yn un o ganiatáu.  

 

      

 

     Ond nid oedd y Cynghorydd J Arthur Jones yn siwr a fuasai maint y datblygiad yn gweddu i'r stad a gofynnodd oni fyddai annedd unllawr yn fwy derbyniol.  

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Arwel Roberts cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a'rargymhelliad o ganiatáu a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Denis Hadley.

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

      

 

     Derbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad o ganiatáu:  Y Cynghorwyr John Chorlton,   Eurfryn Davies, Arwel Edwards, PM Fowlie,  Denis Hadley, Aled Morris Jones, O Glyn Jones,

 

     RL Owen, Arwel Roberts, John Roberts, John Rowlands, WJ Williams MBE

 

      

 

     Ymatal:  Y Cynghorydd J Arthur Jones

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais am y rhesymau a roddwyd gydag amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

      

 

6.9     GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     47C116  NEWID DEFNYDD YR ADEILAD AFRAID PRESENNOL I FOD YN ANNEDD YNGHYD Â GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD AC ADDASU’R FYNEDFA BRESENNOL YN BRONWEN, LLANTRISANT

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno gan fod yr ymgeisydd yn gweithio yn yr Adran Gynllunio.  Cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais gan Ms Delyth Owen.  Penderfynwyd ymweld â’r safle yn y cyfarfod ar 7 Mawrth, ac fe wnaed hynny ar 21 Mawrth, 2007.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd P Fowlie cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad o ganiatáu a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd RL Owen.

 

      

 

     Teimlai'r Cynghorydd J Arthur Jones fod angen defnyddio'r cynnig hwn fel cymhariaeth wrth benderfynu ar geisiadau yn y dyfodol.  Roedd y Cynghorydd Jones yn cwestiynu'r gwelededd o'r fynedfa arfaethedig a'r pellter ohoni i'r gyffordd a hefyd beth ddylai'r cyfyngiadau gyrru fod yn y llecyn hwn.  Hefyd roedd ganddo gwestiynau ynghylch maint ac argraff y cynnig.

 

      

 

     Wrth benderfynu ar argymhelliad yng nghyswllt y cais hwn dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod sylw wedi ei roddi i'r polisiau ar waith addasu a darllenodd y meini prawf yr oedd yn rhaid eu bodloni.  Roedd yr arolwg strwythurol angenrheidiol yn foddhaol a'r sylfeini yn gadarn.  Ar ôl pwyso a mesur popeth roedd y cais yn dderbyniol.  

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn ynglyn a phellter gwelededd mewn cyfyngder cyflymdra o 60 mph dywedodd yr Uwch Beiriannydd Priffyrdd y buasai'n 215m.  I'r safle hon byddai  angen gwelededd o 90m o'r fynedfa.

 

      

 

     Cyfle rhagorol oedd hwn, yn ôl y Cynghorydd Eurfryn Davies, i sicrhau cartref i bobl ifanc leol ac roedd yn croesawu ceisiadau cyffelyb yn y dyfodol i adfer hen adeiladau gweigion.

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

        

 

     Derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais:  Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, Arwel Edwards, PM Fowlie,  Denis Hadley, Aled Morris Jones, J Arthur Jones, O Glyn Jones, RL Owen, Arwel Roberts, John Roberts, John Rowlands, WJ Williams MBE

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais am y rhesymau a roddwyd gydag amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

7     CEISIADAU ECONOMAIDD :

 

      

 

     Doedd dim ceisadau economaidd i'w hystyried yn y cyfarfod hwn.

 

 

 

8     CEISIADAU AM DAI FFORDDIADWY:

 

      

 

8.1     CAIS YN TYNNU'N GROES

 

      

 

     23C231B  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD FFORDDIADWY YNGHYD A CHREU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU A GOSOD TANC SEPTIG AR DIR GER CAE FABLI, CAPEL COCH

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl  dymuniad yr aelod lleol.   Gan y Cynghorydd J Arthur Jones cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r pleidleisio.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod llythyr ychwanegol o gefnogaeeth gan yr AS dros Ynys Mon i law.  Roedd tystiolaeth y byddai hwn yn dy fforddiadwy, ond dywedodd  " Er mwyn i'r safle gael ei ystyried fel safle o eithriad ar gyfer tai fforddiadwy, rhaid iddo ffurfio estyniad rhesymol i'r rhan ddatblygedig presennol o'r pentref.  Nid dyma'r achos yma".  

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd WJ Williams fod y ferch ifanc leol hon wedi dilyn yr holl gamau angenrheidiol, darparodd dystiolaeth i gyfiawnhau'r angen am dy ffforddiadwy.  Dim ond 200m o'r plot yr oedd yr ysgol gynradd leol - ysgol sydd rhwng tair cymuned, sef Maenaddwyn, Capel Coch a Hebron.  Gyda phlotiau o'r fath roedd y prisiau gofyn rhwng £70,000 a £100,000 a'r plot dan sylw union ger ty arall ac roedd bynglo gerllaw, ac yn wir gyfanswm o saith annedd yn y cyffiniau; bymtheg mis yn ôl rhoddwyd caniatâd i annedd fforddiadwy heb fod ymhell.  Gofynnodd y Cynghorydd Williams i'r aelodau am eu cefnogaeth.

 

      

 

     Atgoffodd y Rheolwr Rheoli Datblygu'r aelodau nad oedd dim gwahaniaeth rhwng y cais hwn a'r un a wrthodwyd yn 2006.

 

      

 

     Ond roedd y Cynghorydd Arwel Edwards am i'r aelodau fod yn gyson yn eu penderfyniadau a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd John Roberts a ddygodd sylw at hanes cyllunio'r safle.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd WJ Williams cafwyd cynnig i ganiatáu a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Glyn Jones i adfywio'r gymuned wledig.

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

      

 

     Caniatáu'r cais, yn groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr John Chorlton, D Hadley,      O Glyn Jones, RL Owen, John Rowlands, WJ Williams MBE

 

      

 

     Derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais:  Y Cynghorwyr Arwel Edwards, Arwel Roberts, John Roberts

 

      

 

     Y rheswm a roddwyd dros ganiatáu oedd y teimlai aelodau y byddai hwn yn gweddu'r ardal 

 

      

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio’n otomatig i’r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu'r cais.   

 

      

 

      

 

8.2     CAIS YN TYNNU'N GROES

 

      

 

     35C259A  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD FFORDDIADWY YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GEIR YN NANT HEILYN, LLANGOED

 

      

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl  dymuniad yr aelod lleol.  

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod pedwar llythyr o wrthwynebiad i leoliad y bwriad ac nid i'r egwyddor o ddatblygu; roedd llythyr o gefnogaeth gan gyflogwr yr ymgeisydd hefyd.  

 

      

 

     Yn y cyffiniau roedd tai yn ddrud iawn meddai'r Cynghorydd John Rowlands, a'r rheini'n gwerthu am brisiau rhwng £200,000 a £300,000 ac yma roedd angen lleol am dy fforddiadwy - ychydig latheni yn unig oedd y safle y tu allan i'r ffiniau datblygu a thy arall o fewn 25 llath.  Yn ôl y Cynghorydd Rowlands cais hwn union ger y rhan ddatblygedig.  Roedd y ffordd rhyw 3 llath o led ac er gwaethaf gwrthwynebiad yr Adran Briffyrdd ni wyddai'r Cynghorydd Rowlands am unrhyw ddamwain a gafwyd yn y cyffiniau.  Roedd yr ymgeisydd yn cynorthwyo ar fferm leol ac wedi cynnig plannu gwrych o safon i guddio'r safle a gofynnodd y Cynghorydd i'r aelodau roddi sylw ffafriol a chafwyd cynnig ganddo i ganiatáu.  

 

      

 

     Roedd y Rheolwr Rheoli Datblygu yn derbyn fod y safle yn union ger y fffin ddatblygu i'r CDU a stopiwyd, ond hefyd roedd tua 300m y tu allan i ffiniau datblygu Cynllun Lleol Ynys Môn ac o'r herwydd yn ymwthio i'r cefn gwlad.  

 

      

 

     Yna cafwyd sylw gan y Cynghorydd RL Owen fod safle'r cais presennol mewn lle gwahanol i hwnnw a wrthodwyd o'r blaen a theimlai bod y cynnig gerbron yn dderbyniol ac eiliodd y dylid caniatáu'r cais.  

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd J Arthur Jones y byddai ef yn cefnogi'r cais gan fod yr angen wedi ei gyfiawnhau. Cefnogi'r cais hefyd a wnaeth y Cynghorydd Aled Morris Jones gan ei fod ar derfyn y ffin.

 

      

 

     Er bod y Cynghorydd John Roberts yn cydymdeimlo gyda'r ymgeisydd roedd hefyd yn teimlo y dylai'r Pwyllgor fod yn gyson yn ei benderfyniadau.  

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

      

 

     Caniatáu'r cais, yn groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr John Chorlton, Eurfryn Davies, Arwel Edwards, PM Fowlie,  Denis Hadley, Aled Morris Jones, J Arthur Jones, O Glyn Jones, RL Owen, John Rowlands, WJ Williams MBE

 

      

 

     Ymatal:  Y Cynghorwyr Arwel Roberts, John Roberts

 

      

 

     Rhoddwyd y rhesymau a ganlyn dros ganiatáu:

 

      

 

Ÿ

angen lleol

 

Ÿ

safle eithredig dan Bolisi 52 o'r Cynllun Lleol

 

      

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio’n otomatig i’r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu'r cais.

 

      

 

      

 

9     CEISIADAU'N TYNNU'N GROES

 

      

 

9.1     15C141B  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD YNGHYD Â GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD AR DIR GER CRUD Y WENNOL, TREFDRAETH

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl  dymuniad yr aelod lleol.  

 

      

 

     Bellech roedd llythyr ychwanegol wedi ei dderbyn meddai'r Rheolwr Rheoli Datblygu a hynny'n gwneud cyfanswm o bedwar.  Roedd yr Adran Briffyrdd yn mynnu ar lecyn pasio, ond aeth y swyddog ymlaen i atgoffa'r aelodau fod y cais hwn yn groes i'r polisiau.

 

      

 

     Atgoffodd y Cynghorydd RLl Hughes yr aelodau fod Trefdraeth wedi ei gyflwyno i gael cydnabyddiaeth fel "pentref gwledig a chlwstwr" yn yr CDU a stopiwyd ond ni ddigwyddodd dim.  Credu oedd y Cynghorydd Hughes fod yma fwriad i lenwi bwlch mewn modd sensitif a buasai'r datblygiad yn gartref i deulu ifanc lleol o Langristiolus a'r ddau blentyn ifanc gydag anghenion

 

      

 

      

 

      

 

     arbennig; hefyd roedd gobygliadau iechyd a diogelwch i'r teulu gan eu bod yn byw ger priffordd yn Llangristiolus.  Roedd dau dy eisoes wedi derbyn caniatâd yn y cyffiniau.

 

      

 

     I atgoffa'r aelodau crybwyllodd y Cynghorydd Arwel Roberts bod y polisi dros dro arfaethedig yn mynd trwy broses ymgynghori a hefyd yn cael ei ystyried gan y Pwyllgor Gwaith cyn mynd i'r Cyngor llawn i'w fabwysiadu ac na ddylid rhoddi pwysau arno ar hyn o bryd.

 

      

 

     Wedyn soniodd y Cynghorydd J Arthur Jones fod y polisiau ar hyn o bryd yn cael eu hadolygu a bod raid disgwyl am ganlyniadau'r CDLl.

 

      

 

     Yng nghyswllt darparu tai ar gyfer anghenion y plant, cyfeiriodd y Cynghorydd Glyn Jones at Bennod 9, Polisi Cynllunio Cymru lle pwysleisir fod angen mwy o ddewis, a hynny'n cynnwys tai ar gyfer anghenion arbennig mewn ardaloedd trefol a gwledig.  Cynigiodd roddi caniatâd i'r cais.

 

      

 

     Yn ôl y Cynghorydd Aled Morris Jones roedd y bwriad yn un i lenwi bwlch mewn modd cydymdeimladol, ac eiliodd y cynnig i roddi caniatâd, a hefyd cafodd y cynnig ei eilio gan y Cynghorydd RL Owen.

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd John Roberts, dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu nad oedd hwn yn fewnlenwi derbyniol.

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

      

 

     Caniatáu'r cais, yn groes i agrymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr Aled Morris Jones, O Glyn Jones, RL Owen

 

      

 

     Derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais: Y Cynghorwyr John Chorlton, Eurfryn Davies, Arwel Edwards, PM Fowlie, J Arthur Jones, John Roberts, John Rowlands, WJ Williams MBE

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais am y rhesymau a roddwyd.  

 

      

 

9.2     24C255  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD AR DIR GER RHOS HELYG, PEN-Y-SARN

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl  dymuniad yr aelod lleol.  

 

      

 

     Argymhelliad o wrthod y cais hwn oedd yn tynnu'n groes i bolisiau oedd gan y Rheolwr Rheoli Datblygu.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Aled Morris Jones fod y dyn ifanc hwn yn dymuno dychwelyd o Lerpwl i'r ardal ac yn fodlon rhannu'r fynedfa i Rhos Helyg.  Wedyn aeth y Cynghorydd ymlaen i ddweud fod yma ddatblygiad a fuasai'n llenwi bwlch mewn modd cydymdeimladwy gan fod y safle yng nghanol clwstwr o rhyw 9 o anheddau yn ardal Cerrig-man.  Ond roedd y Rheolwr Rheoli Datblygu yn anghytuno gyda'r aelod lleol.  

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Arwel Roberts cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd John Roberts.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais am y rhesymau a roddwyd.

 

      

 

9.3     30C577D  CYNLLUNIAU DIWYGIEDIG I GODI ANNEDD A GANIATAWYD GYNT DAN GYF: 30C577B/DA YNGHYD AG ESTYNIAD I'R CWRTIL AR GAE O.S. 5193, TYN-Y-GONGL

 

      

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno oherwydd ei fod yn gwyro oddi wrth y polisiau a'r swyddogion o'i blaid.  Cais oedd yma i ddiwygio dyluniad ty y rhoddwyd caniatâd iddo o'r blaen - diwygiad trwy ymgorffori garej ddeulawr yn rhan o'r ty.  I bwrpas cadw cofnod dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu bod y cynnig yn mesur rhyw 12m o hyd a 6.2m o led (gweler pwynt 2 adroddiad y swyddog) a'r argymhelliad oedd caniatáu.  

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Eurfryn Davies cafwyd cynnig i ganiatáu a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd J Arthur Jones.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais am y rhesymau a roddwyd gydag amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

9.4     30C613B  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD, CREU MYNEDFA NEWYDD, ADDASU MYNEDFA BRESENNOL A GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD AR GAE O.S. 4451 TYNYGONGL

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl  dymuniad yr aelod lleol.  

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod dau lythyr arall o wrthwynebiad wedi eu derbyn a rheiny gerbron yn y Pwyllgor. Ac aeth ymlaen i grybwyll hanes gwrthod caniatâd yn y lle hwn ac mai argymhelliad yma oedd gwrthod.

 

      

 

     Yn ôl y Cynghorydd D Lewis-Roberts roedd y safle y tu mewn i'r ffiniau datblygu cydnabyddedig dan yr CDU a stopiwyd a bod y cais hefydd yn cydymffurfio gyda'r diffiniad yng Nghynllun Lleol Ynys Môn fod 10 o dai yn agos i'w gilydd yn cyfateb i glwstwr - roedd cynllun yn dangos 26 o dai.  Person lleol oedd yr ymgeisydd ac roedd rhai o'r tai o gwmpas yn dai gwyliau, a'r ymgeisydd yn cynnig gwneud gwelliannau i'r briffordd gan gynnwys llain gwelededd 28m x 7.5m.  Fodd bynnag roedd y llecyn pasio arfaethedig rhyw 200m draw o'r safle ac ar ffordd yn gwasanaethu'r ffordd at y safle.  

 

    
Cyfeirio'r aelodau at adroddiad y swyddog a wnaeth yr Uwch Beiriannydd Priffyrdd a'r argymhelliad gan yr Adran Briffyrdd yn yr adroddiad hwnnw yn argymhelliad o wrthod.  

 

      

 

     Wedyn cyfeiriodd y Rheolwr Rheoli Datblygu at y geiriau a ganlyn yn adroddiad y swyddog: "Roedd bwriad i gynnwys yr ardal hon fel hamled cefn gwlad HP5 a chlwstwr yn y gwelliant arfaethedig i'r Cynllun Datblygu Unedol.  Fodd bynnag, mae penderfyniad y Cyngor llawn ar 01/12/05 i beidio â symud ymlaen gyda'r gwelliant yn golygu na ellir rhoddi unrhyw bwysau i'r ffaith hon.  Mae hyn yn golygu bydd y safle yn parhau i gael ei ystyried fel un yn y cefn gwlad" - roedd y safle yn y cefn gwlad a chyda hanes o wrthod a'r cais gerbron yr un fath â cheisiadau'r gorffennol.  Cyfeiriodd y swyddog at amgylchiadau cyffelyb dan eitem 9.1 y cofnodion hyn.               

 

      

 

     Gan y Cynghorydd RL Owen cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad o wrthod a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorwyr John Chorlton a John Roberts.

 

      

 

     Doedd yr ardal hon ddim yn cael ei hadnabod fel "hamled na chlwstwr" ar hyn o bryd meddai'r Cynghorydd J Arthur Jones, ac roedd yr ymgynghoriad presennol yn rhoi cyfle i gyflwyno sylwadau.

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

      

 

     Derbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad o wrthod:  Y Cynghorwyr John Chorlton, Eurfryn Davies, Arwel Edwards, PM Fowlie, J Arthur Jones, O Glyn Jones, RL Owen, Arwel Roberts, John Roberts, John Rowlands, WJ Williams MBE

 

      

 

     Ymatal:  Y Cynghorydd Aled Morris Jones

 

      

 

     PENDERFYNWYD gwrthod y cais am y rhesymau a roddwyd, ar yr amod na dderbynir sylwadau pellach ar faterion nad ydynt wedi eu cymeryd i ystyriaeth yn ystod yr ymgynghori.

 

      

 

      

 

9.5     30C635  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD A GAREJ YNGHYD A GOSOD GWAITH TRIN CARTHFFOSIAETH AR DIR FFRITH, TYN-Y-GONGL

 

      

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl  dymuniad yr aelod lleol.  

 

      

 

     Derbyniwyd 8 llythyr o gefnogaeth a 3 o wrthwynebiad ynghyd â datganiad tad yr ymgeisydd yn dweud ei fod ef yn fodlon darparu man pasio meddai'r Rheolwr Rheoli Datblygu; yn nhermau polisi argymhelliad o wrthod oedd yma.  

 

      

 

     Yna ailadroddodd y Cynghorydd D Lewis-Roberts fod tad yr ymgeisydd wedi cynnig darparu llecyn pasio.  

 

      

 

     Gan y Cynghorydd John Chorlton cafwyd cynnig o dderbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad o wrthod.  

 

      

 

     Nododd y Cynghorydd J Arthur Jones y byddai modd ailystyried statws yr ardal yn ystod yr ymgynghori ar y Cynllun Datblygu Lleol.

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:  

 

      

 

     Derbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad o wrthod:  Y Cynghorwyr John Chorlton, Eurfryn Davies, Arwel Edwards, PM Fowlie, J Arthur Jones, O Glyn Jones, RL Owen, Arwel Roberts, John Roberts, John Rowlands, WJ Williams MBE

 

      

 

     Ymatal:  Y Cynghorydd Aled Morris Jones

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais am y rhesymau a roddwyd.

 

      

 

      

 

9.6     30C636  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD A MODURDY GAREJ A GOSOD GWAITH TRIN CARTHFFOSIAETH AR DIR FRITH, TYN-Y-GONGL

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl  dymuniad yr aelod lleol.  

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais am y rhesymau a roddwyd.

 

      

 

      

 

9.7     32C155  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNED YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GEIR AR DIR TU CEFN I CAE’R NANT, CAERGEILIOG

 

      

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl  dymuniad yr aelod lleol.  

 

     Cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais hwn gan Mrs Nia Jones o'r Adran Gynllunio.

 

      

 

     Roedd y safle y tu allan i ffin ddatblygu'r CDU a stopiwyd meddai'r Rheolwr Rheoli Datblygu; argymhelliad o wrthod oedd yma.  

 

      

 

     Cwpl ifanc lleol oedd yma, meddai'r Cynghorydd Gwilym Jones, yn dymuno dod yn ôl i'r pentref ar safle ger dau fynglo, yn ddiogel y tu mewn i ffiniau naturiol y pentref.  I lawr y lôn, draw oddi wrth y pentref, mae trosglwyddydd y Weinyddiaeth Amddiffyn a'r hen neuadd bentref, ac mae'r cyngor cymuned yn cefnogi'r cais.  Mewn ymateb i haeriad fod y cynnig yn rhy agos i Gae'r Nant dywedodd y Cynghorydd Jones nad oedd preswylwyr y lle hwnnw yn gwrthwynebu.  Roedd y lôn at y safle yn cael ei defnyddio'n rheolaidd gan draffig a'r ymgeisydd yn cynnig gwelliannau i'r ffordd.

 

      

 

     Ni chredai'r Cynghorydd J Arthur Jones fod y cais yn groes i Gynllun Lleol Ynys Môn 1996 a chynigiodd roddi caniatâd.  Gwyddai'r Cynghorydd Glyn Jones am yr ardal ac am y lôn at y safle ac eiliodd y cynnig i ganiatáu; hefyd cafwyd cefnogaeth y Cynghorydd Arwel Edwards am na welai ef fod yma unrhyw reswm i wrthod.

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:  

 

      

 

     Caniatáu'r cais, yn groes i argymhelliad y swyddog;  Y Cynghorwyr John Chorlton, Eurfryn Davies, Arwel Edwards, PM Fowlie,  Aled Morris Jones, J Arthur Jones, O Glyn Jones, RL Owen, John Rowlands, WJ Williams MBE

 

      

 

     Y rheswm a roddwyd dros ganiatáu oedd y teimlai'r aelodau fod y cais hwn yn cydymffurfio gyda Pholisi 50 Cynllun Lleol Ynys Mon.  

 

      

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio’n otomatig i’r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu'r cais.

 

      

 

      

 

9.8     34C556  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD YNGHYD A CHREU MYNEDFA NEWYDD I GEIR AR DIR GER GWERNHEFIN, LLANGEFNI

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl  dymuniad yr aelod lleol.  

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod yr ymgeisydd wedi gofyn am ohirio er mwyn cael trafodaethau ar faterion priffyrdd.  

 

      

 

     PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais am y rheswm a roddwyd.

 

      

 

10      GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

10.1      14C92H   CANIATÂD CYNLLUNIO I WEITHREDU AR GANIATÂD CYNLLUNIO 14C92D DYDDIEDIG 27.06.05 OND HEB GYDYMFFURFIO AG AMOD RHIF 11 AR Y CANIATÂD HWNNW YM MHARC CEFNI, BODFFORDD

 

      

 

     Gan y Cynghorwyr J Arthur Jones a PM Fowlie cafwyd datganiadau o ddiddordeb yn y cais hwn a gadawsant y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r pleidleisio.  

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl  dymuniad yr aelod lleol; mae'r ymgeisydd hefyd yn aelod o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.  

 

      

 

     Ym mhwynt 9 adroddiad y swyddog gofynnodd y Rheolwr Rheoli Datblygu am ddiwygio'r geiriad ym mhwynt (03) i ddarllen "ar ôl dyddiad y caniatâd hwn ni fydd yr un uned wyliau yn cael ei chodi ar y safle cyn sicrhau caniatâd ysgrifenedig yr awdurdod cynllunio lleol ..."  Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth dywedodd y swyddog fod y cais gerbron wedi'i gyfyngu i symud unedau gwyliau oedd eisoes wedi'u canitatáu.  Mewn ymateb i ymholiad gan y Cynghorydd WI Hughes cadarnhaodd y swyddog fod y llain gul o dir ar hyd y gogledd-ddwyrain yn rhan o safle'r cais.

 

      

 

     Wedyn cyfeiriodd y Cynghorydd WI Hughes at dudalen 8 adroddiad y swyddog gan roddi'r  rhesymau a ganlyn dros wrthod y cais a dros ofyn am ymweliad â'r safle:  

 

      

 

Ÿ

torri'r amodau cynllunio a mynd yn groes i'r rheoliadau cynllunio:   roedd dwy o'r unedau gwyliau eisoes wedi eu codi - un yn y lle anghywir lai nag 1m o ffiniau'r cae cyfagos er bod y caniatâd cynllunio ei hun yn dweud y dylai'r uned fod o leiaf 4m i ffwrdd.  

 

Ÿ

tirlunio a oedd yn rhan o'r caniatâd cynllunio gwreiddiol - buasai'n anodd tirlunio llain o dir 1m o led.  

 

Ÿ

uchder - ddim yn cydymffurfio gyda'r caniatâd

 

Ÿ

pibell ddwr mens 16” yn croesi'r safle

 

      

 

     Cytunodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod yr amodau cynllunio wedi'u torri a bod y mater hwn wedi cael sylw swyddogion.  Ond ni chytunai'r swyddog y buasai gosod yr uned 1m o ffiniau'r cae cyfagos yn cael effaith andwyol ar bleserau'r cyhoedd ac ni fuasai ychwaith yn rhwystro'r ymgeisydd rhag gwneud y gwaith tirlunio.  Cyflwynwyd tystiolaeth y buasai'r holl unedau yn cael eu gosod ddigon pell oddi wrth y mêns dwr a châi hyn ei gynnwys yn y trawsgludiad cyfreithiol.  Ni chafwyd unrhyw dystiolaeth i ddangos fod yr unedau yn rhy uchel.  Mewn ymateb i haeriad fod uned 5 yn y lle anghywir ailadroddodd y swyddog ei argymhelliad i ddiwygio amod (03) fel bod modd ymarfer mwy o ystwythder ar y safle.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd RL Owen cafwyd cynnig i ymweld â'r safle a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Eurfryn Davies.

 

      

 

     Teimlai'r Cynghorydd Aled Morris Jones fod y swyddog wedi ymateb i gwestiynau a godwyd.  

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

      

 

     Ymweld â'r safle:  Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, Arwel Edwards, O Glyn Jones, RL Owen,

 

     WJ Williams MBE

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â'r safle am y rhesymau a roddwyd.

 

      

 

10.2      17C390A  CYNLLUNIAU DIWYGIEDIG I GODI ANNEDD WEDI EI GANIATÁU GYNT DAN GAIS RHIF 17C361 YN PENLAN, LLANDEGFAN

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl  dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Roedd yr egwyddor o ddatblygu eisoes wedi'i sefydlu ac roeddid yn gofyn, dan y cais presennol, am ddiwygio'r cynllun er mwyn creu lle defnyddiol yn nho'r annedd.

 

      

 

     Nid oedd y Cynghorydd Eurfryn Davies yn fodlon gyda'r ffordd o ddatblygu ac ychwanegodd fod y cyngor cymuned lleol yn gwrthwynebu effaith yr adeilad ar bleserau, a chafwyd cynnig ganddo i ymweld â'r safle a wedyn eiliodd y Cynghorydd RL Owen y cynnig hwnnw.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd J Arthur Jones cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad o ganiatáu a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd John Chorlton.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â'r safle ar gais yr aelod lleol.  

 

      

 

10.3      17C401  NEWID DEFNYDD Y LLAWR ISAF O YSTAFELL CHWARAE AC YSTAFELL CADW OFFER I ANECS HUNAN GYNHALIOL YN TWR GADLYS, LLANSADWRN

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl  dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Eurfryn Davies fod yma drafferthion parcio y tu allan i'r annedd ei hun ac ar hyd y ffordd tuag at y fferm; roedd yno hefyd faterion draenio, a chynigiodd ymweld â'r safle.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â'r safle ar gais yr aelod lleol.  

 

      

 

10.4      20C107A  CODI TYRBIN WYNT YN GONGL RHEDYN, CEMAES

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl  dymuniad yr aelod lleol oedd yn dweud fod y mast ar bwys ffin annedd gyfagos ac yn edrych dros yr annedd.

 

      

 

     Yn ystod y gwaith ymgynghori mynegwyd pryderon ynghylch swn a chafwyd argymhelliad gan y Rheolwr Rheoli Datblygu i roddi caniatâd am flwyddyn yn unig yn y lle cyntaf.

 

      

 

     Ond dywedodd y Cynghorydd J Arthur Jones fod y tyrbin eisoes yn ei le, ac o'r herwydd awgrymodd aileirio disgrifiad y bwriad i "gadw'r tyrbin gwynt".

 

      

 

     Gan y Cynghorydd John Chorlton cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad diwygiedig y swyddog a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd John Roberts.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu’r cais dros dro am gyfnod o flwyddyn am y rhesymau a roddwyd gydag amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

      

 

10.5      22C169A/DA  CYNLLUNIAU MANWL I GODI ANNEDD YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GEIR A GOSOD TANC SEPTIG AR DIR GER CAE BRYN TIRION, LLANDDONA

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno oherwydd fod un o'r ymgeiswyr yn perthyn i Aelod etholedig.  Wedyn gwnaeth y Cynghorydd John Rowlands ddatganiad o ddiddordeb yn y cais a gadawodd y cyfarfod am y drafodaeth a'r pleidleisio.  

 

      

 

     Cais oedd hwn am ganiatâd i gynlluniau manwl ac ychwanegodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod yr egwyddor o ddatblygu eisoes wedi'i sefydlu.  Cafwyd un llythyr o wrthwynebiad a'r argymhelliad oedd caniatáu.  

 

      

 

     Gan y Cynghorydd WJ Williams cafwyd cynnig i dderbyn yr argymhelliad ac adroddiad y swyddog, a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd John Chorlton.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais am y rhesymau a roddwyd gydag amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad y swyddog.  

 

      

 

     Atal ei bleidlais ar y cais hwn a wnaeth y Cynghorydd RL Owen.

 

      

 

      

 

10.6      28C388  CAIS AMLINELLOL I GODI BYNGLO, CREU MYNEDFA NEWYDD A GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD YN Y DDEORFA, BRYN DU

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl  dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Argymhelliad o wrthod oedd yma am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad meddai'r Rheolwr Rheoli Datblygu.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Glyn Jones mai merch leol angen cefnogaeth y teulu ar sail iechyd oedd yr ymgeisydd;  dyfynnodd y Cynghorydd Jones rannau o PPW a theimlai bod cyfiawnhad i'r cais; estyniad bychan i'r ffin ddatblygu oedd hwn meddai, a chymharodd y cais hwn a'r rhai yn 6.3 a 10.8 o'r cofnodion; gofynnodd am gysondeb wrth wneud penderfyniad a chynigiodd ganiatáu'r cais.

 

      

 

     Yn ôl y Rheolwr Rheoli Datblygu nid oedd modd cymharu'r cias hwn gyda'r rheiny dan 6.3 a 10.8 y cofnodion hyn; roedd y ffiniau yn glir ac yn amlwg a'r cais gerbron yn groes i'r polisiau ac yn un a allai greu cynsail i ragor o ddatblygiadau.

 

      

 

     Hwyrach fod y cais yn cymymffurfio â Pholisi 50 meddai'r Cynghorydd Aled Morris a chynigiodd ganiatáu; cafodd yn ei eilio gan y Cynghorydd Glyn Jones.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd RL Owen cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad o wrthod a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd John Roberts.

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:  

 

      

 

     Caniatáu'r cais, yn groes i argymhelliad y swyddog:   Y Cynghorwyr John Chorlton, Eurfryn Davies,  Arwel Edwards, Aled Morris Jones, O Glyn Jones, John Rowlands, WJ Williams MBE

 

      

 

     Derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais:  Y Cynghorwyr RL Owen, Arwel Roberts, John Roberts,

 

      

 

     Y rheswm roddwyd dros ganiatáu oedd Polisi 50.

 

      

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio’n otomatig i’r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu'r cais.

 

      

 

      

 

10.7      30C259D  CAIS LLAWN I GODI ANNED AR DIR YN LLYS IFON, BENLLECH

 

      

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl  dymuniad Cadeirydd y Pwyllgor.

 

      

 

     Yn achos y cais hwn roedd anghysonderau lu a gwahaniaeth barn yn ôl y Cynghorydd D Lewis-Roberts ar faterion megis gwelededd tua'r gorllewin o'r fynedfa i gerbydau - yn yr adroddiad nodwyd 50m yn lle 70m.  Heb amheuaeth roedd yma enghraifft o lenwi bwlch meddai'r Cynghorydd - nid enghraifft o ddatblygu yn y tir cefn.  

 

      

 

     Cytunoddd y Cynghorydd J Arthur Jones bod y safle mewn clwstwr o anheddau a chynigiodd ganiatáu'r cais a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd John Chrolton.

 

      

 

     Mewn ymateb i ddatganiad y Cynghorydd Lewis-Roberts ar y gwelededd o'r fynedfa i gerbydau dywedodd yr Uwch Beiriannydd Priffyrdd bod swyddogion proffesiynol wedi cymeryd mesuriadau; yn ôl TAN 18 rhaid sicrhau fod y gwelededd yn 90m a chadarnhaodd y swyddog mai 50m yn unig oedd ar gael o'r fynedfa.  

 

      

 

     Cafwyd cynnig i ymweld â'r safle gan y Cynghorydd Eurfryn Davies.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd RL Owen cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad o wrthod; cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd John Roberts.

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

      

 

     Caniatáu'r cais, yn groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr John Chorlton, J Arthur Jones, John Rowlands, WJ Williams MBE

 

      

 

     Derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais:  Y Cynghorwyr Arwel Edwards,

 

     RL Owen, Arwel Roberts, John Roberts

 

      

 

     Roedd y bleidlais yn bedair yr un ac wrth i'r Cadeirydd ddefnyddio ei bleidlais fwrw PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais am y rhesymau a roddwyd.

 

      

 

      

 

10.8      41C54A  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD A GAREJ YNGHYD A CHREU MYNEDFA NEWYDD A GOSOD TANC SEPTIG AR DIR GER FOUR WINDS, STAR

 

      

 

      

 

     Yr aelod i'r ward gyffiniol ofynnodd am drosglwyddo'r cais hwn i'r pwyllgor, a hynny oherwydd fod yr aelod lleol wedi datgan diddordeb yn y cais.  Gwnaeth y Cynghorydd Eric Jones ddatganiad o ddiddordeb yn y cais.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd RL Owen cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais.

 

      

 

     I bwrpas sefydlu bod y cynnig hwn, mewn gwirionedd, yn cwblhau'r patrwm datblygiad ar y naill law neu'n sefydlu cynsail i ragor o ddatblygiadau ar y llaw arall, cafwyd cynnig gan y Cynghorydd John Roberts i ymweld â'r lle, a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd John Chorlton.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â'r safle am y rheswm a roddwyd.

 

      

 

      

 

10.9      46C14J/1  CREU MYNEDFA NEWYDD I WESTY'R CLIFF, LON ISALLT, BAE TREARDDUR

 

      

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl  dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Darllenodd y Cynghorydd Goronwy Parry ddatganiad ar ran yr aelod lleol a oedd yn gofyn i'r Pwyllgor wrthod y cais am yr un rhesymau a roddwyd dros wrthod cais blaenorol.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd John Chorlton cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd John Roberts.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais am y rhesymau a roddwyd.  

 

      

 

11     CEISIADAU A DDIRPRWYWYD

 

      

 

     Cyflwynwyd a derbyniwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Amgylchedd a Gwasanaethau Technegol) ar geisiadau a ddirprwywyd ac y gwnaethpwyd penderfyniad arnynt ers cyfarfod diweddaf y Pwyllgor hwn.

 

      

 

12

MATER A GYFEIRIWYD YN ÔL

 

      

 

     32C62  O.S. 3997 CAERGEILIOG

 

      

 

     Adroddwyd bod y cais uchod i newid defnydd yr hen orsaf radio i fod yn annedd ac a ganiatawyd ar

 

     7 Hydref, 1992 wedi ei dynnu yn ôl ar 28 Chwefror, 2007.

 

      

 

13

ADRODDIAD MONITRO AR Y NIFER O GEISIADAU A OEDD YN TYNNU'N GROES I BOLISIAU AC A GYMERADWYWYD

 

      

 

     Cyflwynwyd adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Cynllunio ar y nifer o geisiadau yn tynnu'n groes i bolisiau ac a ganiatawyd yn ystod y cyfnod Hydref, 2005 hyd yn hyn.  Nodwyd fod gostyngiad sylweddol yn y nifer o geisiadau a oedd yn tynnu'n groes ac a gymeradwywyd yn y chwe mis diwethaf.

 

      

 

14     CEISIADAU HEB EU PENDERFYNU

 

      

 

     Cyflwynwyd a derbyniwyd, adroddiad y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod oddeutu 120 o geisiadau cynllunio heb eu penderfynu ers amser maith, rhai yn dyddio'n ôl cyn belled â'r 1980au.  Mewn llawer o achosion, doedd gan yr ymgeiswyr gwreiddiol ddim diddordeb mwyach ac eraill wedi cyflwyno ceisiadau pellach yn y cyfamser.  Argymhellodd y swyddog, lle nad oedd modd gwneud unrhyw gyswllt gyda'r ymgeisydd, a'i bod hefyd yn bur amlwg nad oedd unrhyw fwriad i gario ymlaen gyda'r cais, fod y Gwasanaeth Cynllunio yn cau y ffeil heb benderfynu ar y cais a'u trin fel eu ceisiadau wedi eu "gorffen yn derfynol".

 

      

 

15     APELIADAU

 

      

 

15.1      1 TAN Y BRYN, STRYD Y BONT, PORTHAETHWY

 

      

 

     Cyflwynwyd a nodwyd, er gwybodaeth, gopi o grynodeb penderfyniad yr Arolygwr benodwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar apêl yn erbyn penderfyniad yr Awdurdod hwn i wrthod caniatâd adeilad rhestredig i osod grisiau newydd (eisoes wedi'i gyflawni) ynghyd â thoiled yn y cefn ( a ailadeiladwyd) dan ganiatâd cynllunio 39C379LB - cafodd yr apêl ei gwrthod.

 

      

 

15.2      YR HEN FAES CRICED, BAE TREARDDUR

 

      

 

     Cyflwynwyd a nodwyd, er gwybodaeth, dan Adran 77 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, gopi o lythyr penderfyniad ac adroddiad Arolygwr Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Ymchwiliad i ddatblygiad preswyl arfaethedig ar y tir uchod - gwrthodwyd caniatâd cynllunio.

 

      

 

      

 

     Dechreuodd y cyfarfod am 1.00 p.m. a daeth i ben 4.45 p.m.       

 

      

 

      

 

     J ARWEL ROBERTS

 

     CADEIRYDD