Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion dogfennau , 4 Mehefin 2008

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Dydd Mercher, 4ydd Mehefin, 2008

PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION

 

Cofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 4 Mehefin, 2008

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd Thomas Jones - Cadeirydd

                                                

Y Cynghorwyr WJ Chorlton, Lewis Davies, Barrie Durkin, Jim Evans, Ken Hughes, O Glyn Jones, RL Owen,  J Arwel Roberts,

Hefin Thomas, John Penri Williams, Selwyn Williams

 

 

 

WRTH LAW:

 

Cynllunio:

Pennaeth Rheoli Datblygu (EGJ)

Cynorthwy-ydd Cynllunio (SM)

 

Priffyrdd:

Uwch Beiriannydd (Rheoli Datblygu a Hawliau Tramwy Cyhoeddus)(JRWO)

Swyddog Rheoli Datblygu (RE)

 

Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol (RWJ)

Cynorthwy-ydd Gweinyddol (CWP)

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, Clive McGregor

 

 

 

HEFYD YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd R Llewelyn Jones -Deilydd Portffolio Cynllunio 

 

 

1

YMDDIHEURIADAU

 

Derbyniwyd ymddiheuriadau fel a nodwyd uchod.

 

2

DATGANIAD O DDIDDORDEB

 

Derbyniwyd datganiadau o ddiddordeb fel y cawsant eu cofnodi dan yr eitemau perthnasol.  

 

3

COFNODION

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd, fel rhai cywir, gofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gafwyd ar 16 Mai, 2008 gyda'r newidiadau a ganlyn:  

 

Eitem 3.1 Cofnodion Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gafwyd ar 9 Ebrill, 2008 Mewn ymateb i ymholiad mewn perthynas ag eitem 6.3 (Ffrith, Shepherd's Hill, Tynygongl) Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu fod y trawsgript gyfeiriwyd ato wedi ei ddyddio "February 2007" a'i fod yn ymwneud â chais a ganiatawyd gan y Pwyllgor hwn ar 5 Gorffennaf, 2006 yn groes i argymhelliad y swyddog yn Bwthyn ar y Bryn, Benllech.  

 

 

Eitem 13.2 Ombwdsmon y Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru - dyfarniad o gamweinyddu - dylai'r drydedd linell yn y pumed paragraff ar dudalen 11 y fersiwn saesneg ddarllen ... " decision is 'unfair' or irrational".  Yn y 7fed paragraff ar dudalen 12  dyfynu o adroddiad yr Ombwdsmon a dim mynegi ei farn ei hun wnaeth y Cynghorydd John Penri Williams.

 

 

 

4

YMWELIAD Â SAFLEOEDD

 

 

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd, fel un cywir, adroddiad ar yr Ymweliad â Safleoedd Cynllunio a gafwyd ar 23 Mai, 2008.

 

5

CEISIADAU A OHIRIWYD

 

 

 

5.1

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

11C8U/1  CAIS LLAWN I GODI 35 UNED BRESWYL YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GEIR AC I GERDDWYR AR DIR TU CEFN I BARC TRECASTELL, PORTH LLECHOG, AMLWCH

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl argymhelliad y swyddog.  Penderfynwyd ymweld â'r safle ar 7 Tachwedd, ac fe gafwyd hyn ar 21 Tachwedd, 2007.  Adroddwyd nad oedd ymateb wedi ei dderbyn gan yr ymgeisydd i ystyriaethau priffyrdd a godwyd yn ystod yr ymweliad â'r safle.  

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais am y rheswm a roddwyd.  

 

 

 

5.2      CAIS YN TYNNU'N GROES

 

 

 

17C413  CODI ANNEDD NEWYDD YNGHYD AG ADDASU'R FYNEDFA I GEIR TU CEFN I MOR AWEL, LLANDEGFAN

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno ar gais yr aelod lleol.    Gohiriwyd ystyried y cais ers y cyfarfod o'r Pwyllgor hwn gafwyd ar 9 Ebrill, 2008 er mwyn rhoi cyfle i'r Adran Briffyrdd gwblhau trafodaethau ar y lleiniau gwelededd.  Cafwyd ar ddeall nad oedd gan yr Adran Briffyrdd unrhyw anghytundeb mawr yng nghyswllt arolwg trafnidiaeth yr ymgeisydd.  

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais tra'n cwblhau trafodaethau ar faterion priffyrdd.

 

 

 

 

 

5.3

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

41C9U  NEWID DEFNYDD TIR I OSOD 56 O GYNHWYSYDDION STORIO YNGHYD AG ADEILADU CANOPI YNG NGHANOLFAN MASNACHU, STAR 

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno ar gais yr aelod lleol.  Penderfynwyd ymweld â'r safle ar 16 Mai, ac fe gafwyd hyn ar 23 Mai, 2008.  Gofynnodd y swyddog achos am ohirio tra'n cwblhau trafodaethau ar faterion technegol.

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais am y rheswm a roddwyd.  

 

 

 

6      CEISIADAU'N CODI

 

 

 

6.1      CAIS YN TYNNU'N GROES

 

 

 

23C108C  CADW LLEOLIAD DIWYGIEDIG YR ANNEDD A GANIATAWYD YN FLAENOROL O DAN GAIS CYNLLUNIO 23C108B YNGHYD AG YMESTYN Y CWRTIL A CHODI ADEILAD AR O.S. 8625 CEFN-IWRCH, LLANGEFNI

 

 

 

Daethpwyd â'r cais hwn gerbron y Pwyllgor oherwydd ei fod yn tynnu'n groes i'r cynllun datblygu ond yn gais y rhoddwyd caniatâd cynllunio iddo cyn hyn.  Rhoddwyd caniatâd amlinellol i ddymchwel sied amaethyddol a chodi annedd yn 1992, gyda manylion llawn yn derbyn caniatâd yn 1993.  Adeiladwyd yr annedd yn unol â'r manylion yn y caniatâd gwreiddiol; fodd bynnag, fe'i codwyd rhyw 10 - 15m oddi wrth y fan y cafwyd caniatâd ar ei gyfer.  Roedd y cais presennol hefyd yn cynnwys ymestyn y cwrtil ac adeiladu sied.  

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Penderfynwyd ymweld â'r safle ar 16 Mai, ac fe gafwyd hyn ar 23 Mai, 2008.  Gwnaethpwyd ymholiad ynglyn a phwrpas peipen welwyd yn dod o eiddo cyfagos tra'n ymweld â'r safle; dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu ei fod wedi derbyn gwybodaeth mai o danc septig y ty capel a'r ty drws nesa oedd hi, ond nad oedd bellach yn cael ei defnyddio ac y byddai'n cael ei chapio.  Argymhellodd y swyddog ddiwygio amod (03) yn y caniatâd er mwyn sicrhau y bydd y sied arfaethedig yn cael ei defnyddio'n ategol i'r annedd ac y bydd y sied bresennol yn cael ei dymchwel o fewn tri mis i ddyddiad y caniatâd cynllunio.  Wedi pwyso a mesur, argymhelliad o ganiatáu oedd yma.  

 

 

 

Gan y Cynghorydd John Chorlton cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad ac argymhelliad y swyddog a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Ken Hughes.

 

 

 

Roedd y bleidlais fel a ganlyn:  

 

 

 

Derbyn adroddiad y swyddog a chaniatâu'r cais:  Y Cynghorwyr  WJ Chorlton, Lewis Davies, Barrie Durkin, Jim Evans, Ken Hughes, J Arwel Roberts, John Penri Williams, Selwyn Williams

 

 

 

Ymatal:  Y Cynghorydd O Glyn Jones

 

 

 

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd, gydag amodau yn cynnwys diwygio amod (03) fel y manylwyd arno uchod.  

 

 

 

 

 

6.2

CAIS YN TYNNU'N GROES

 

 

 

28C331B  CAIS AMLINELLOL I GODI 14 O ANHEDDAU YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GERDDWYR A CHEIR AR DIR GER TERAS REHOBOTH, LLANFAELOG

 

 

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd Glyn Jones y byddai'n cymeryd rhan yn y drafodaeth ar y cais hwn fel aelod lleol ac na fyddai'n pleidleisio ar y cais.  Bu i'r cais gael ei ohirio ers 9 Ionawr, 2008 er mwyn rhoi cyfle i'r ymgeisydd gynnal arolwg o'r angen am dai yn lleol.

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod hwn yn gais 100% am dai fforddiadwy; trwy asesiad diweddar roedd yr angen wedi ei brofi ar y safle eithriadol hon, argymhelliad o ganiatáu oedd yma.

 

 

 

Oherwydd nifer y llythyrau o wrthwynebiad gofynnodd y Cynghorydd Glyn Jones am ymweliad â'r safle er mwyn i aelodau newydd asesu'r sefyllfa drostynt eu hunain.  

 

 

 

Roedd gwir angen paratoi tai ar gyfer pobl ifanc lleol meddai'r Cynghorydd John Chorlton a chyfeiriodd at ganfyddiad arolwg diweddar gan y Joseph Rowntree Foundation.  Cytuno â hyn wnaeth y Cynghorydd Arwel Roberts a holodd am sylwadau'r Adran Briffyrdd ar faterion priffyrdd.  Mewn ymateb dywedodd yr Uwch Beiriannydd Priffyrdd fod yr adran yn fodlon gyda manylion a gyflwynwyd gan yr ymgeisydd - gellir darparu gwelededd digonol o'r fynedfa a byddai'r ffordd yn arwain at y safle yn cael ei lledu er mwyn paratoi llwybr troed ar hyd ffrynt y safle, byddai'r Cyngor yn ymestyn palmant, oedd yn arwain o'r pentre, tuag at Teras Rehoboth.  Cafwyd cadarnhad fod y safle tu mewn i gyfyngiad gyrru 30 mya.

 

 

 

Gan y Cynghorydd John Chorlton cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a'i argymhelliad o ganiatáu a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Arwel Roberts.

 

 

 

Teimlai'r Cynghorydd Barrie Durkin y byddai o fudd i aelodau newydd ymweld â'r safle, yn arbennig gan na allai'r Swyddog Priffyrdd roi mesuriadau pendant a chynigiodd ymweld â'r safle;  hefyd oherwydd gwrthwynebiad lleol fe eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Ken Hughes.  Gofynnodd y Cynghorydd Hefin Thomas am fanylion mesuriadau o'r fath ynghyd ac arweiniad ar y mesuraidau hyn i'r dyfodol.

 

 

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglyn â methiant gwneud penderfyniad gan y Cynghorydd RL Owen dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu mai dymuniad yr ymgeisydd oedd i'r Pwyllgor benderfynu ar y cais, hefyd doedd dim rheswm digonol i gyfiawnhau oedi pellach.

 

 

 

Pleidleisiodd y canlynol i ymweld â'r safle: Y Cynghorwyr Barrie Durkin, Ken Hughes, Selwyn Williams

 

 

 

Yn erbyn ymweld â'r safle:  Y Cynghorwyr John Chorlton, Jim Evans, RL Owen, J Arwel Roberts, Hefin Thomas

 

 

 

Ymatebodd y Cynghorydd Glyn Jones ar ganfyddiad yr Arolwg Anghenion Tai, hefyd at baragraff 1.4.2 adroddiad y swyddog.  Nododd y Cynghorydd Jones fod yr arolwg wedi ei chynnal yn uniaith Saesneg a cyfeiriodd at ofynion TAN 20, PPW a darpariaethau Polisi 48 Cynllun Lleol Ynys Môn sydd yn dweud y dylai bwriad fodloni anghenion yr iaith Gymraeg;  yn 9.2.1.3 dywedir y dylai ceisiadau o'r fath fod o fudd amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd.  Cyfeiriwyd at lythyr gan yr Adran Briffyrdd, mewn ymateb i gais am un ty fforddiadwy yn y flwyddyn 2000, pryd roedd swyddogion o'r farn y byddai'n anodd cael gwelededd ddigonol o'r fynedfa.  Yn 2002 gwelai Pennaeth y Gwasanaethau Cynllunio'r safle yn amhriodol i'w datblygu.  Roedd saith o dai ar werth yn lleol ar hyn o bryd, a'r rhain o dan £120,000, gofynnodd am yr angen ar y safle hon. Cyfeiriodd at lythyr gan Reolwr Gyfarwyddwr y Cyngor dyddiedig Tachwedd, 2007 pan ymgynghorwyd a chymdeithas leol Aberffraw cyn cyflwyno cais.  Gofynnodd sut gallai swyddogion gyfiawnhau argymell caniatáu.  Dygodd sylw hefyd at y cynlluniau gyflwynwyd hefo'r cais oedd yn dangos "future access for phase 2" tuag at gefn y safle.

 

 

 

Mae anghenion tai yn amrywio dros gyfnod o amser yn nhermau cynllunio meddai'r Pennaeth Rheoli Datblygu, felly disgwylir amrywiaeth yn y math a nifer o dai sydd ei angen yn y cyfnod 2000 i 2005.  Aseswyd arolwg y datblygwr gan Wasanaethau Tai y Cyngor - roedd ei ganfyddiad yn gyson gyda chanfyddiad arolwg y Cyngor.  O'r 16 atebiad cadarnhawyd fod 9 angen ty yn syth.  Byddai'r unedau yn ddarpariaeth unai i'w rhentu neu gyda pherchnogaeth yn cael ei rannu.  Byddai'r datblygiad 100% am dai fforddiadwy a hyn yn cymryd lle dros gyfnod o amser yn ôl yr angen a'r math o dy fel y manylwyd yn amod (03) adroddiad y swyddog.  Bydd math a maint unedau yn cael eu teilwrio fel bo'r angen.  Roedd tystiolaeth fod y bwriad yn cydymffurfio gyda gofynion canllawiau a pholisiau lleol a chenedlaethol.  Barn anffurfiol fyddai 'r Pennaeth Gwasanaethau Cynllunio wedi'i gyfleu yn 2002, a hynny cyn derbyn cais yn ffurfiol.  O'r taflunydd dangosodd y swyddog fod y bwriad yn fewnlenwi ac y byddai'n well na thir arall heb ei ddatblygu i'r gogledd o'r safle.

 

 

 

Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

 

 

Derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais: Y Cynghorwyr WJ Chorlton, Lewis Davies, Barrie Durkin, Jim Evans, Ken Hughes, Thomas Jones, RL Owen,  J Arwel Roberts, Hefin Thomas, John Penri Williams, Selwyn Williams

 

 

 

Dymunodd y Cynghorydd Hefin Thomas nodi na chafodd aelodau gyfle i siarad ar y cais hwn.  

 

 

 

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd, gydag amodau y manylwyd arnynt yn cynnwys cytundeb Adran 106 i sicrhau y bydd y datblygiad yn parhau yn un fforddiadwy am byth.  

 

 

 

 

 

6.3      GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

30C398E  NEWID ADEILAD (CYN DY) I FOD YN ANNEDD YN YNYS GANOL, BRYNTEG

 

 

 

 

 

Gan y Cynghorwyr Jim Evans a Barrie Durkin cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais a gadawsant y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r pleidleisio. Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno ar gais yr aelod lleol ( y cyn Gynghorydd WT Roberts).  Penderfynwyd ymweld â'r safle ar 9 Ebrill, ac fe gafwyd hyn ar 23 Ebrill, 2008.  Roedd llawer o aelodau newydd ar y Pwyllgor  yn dilyn yr etholiadau lleol ar 1 Mai; penderfynwyd ymweld ymhellach â'r safle ar 23 Mai, 2008 er mwyn i aelodau newydd gael cyfle i asesu'r sefyllfa drostynt eu hunain.

 

 

 

Doedd y cais hwn ddim yn cwrdd a gofynion Polisi 55 Cynllun Lleol Ynys Môn (addasu adeiladau presennol) meddai'r Pennaeth Rheoli Datblygu.  Ar gais yr aelodau ar yr ymweliad â'r safle, dywedodd fod adroddiadau strwythurol ac adroddiad yr arolygwr cynllunio ynghlwm i adroddiad y swyddog i'r Pwyllgor.  Dygodd sylw at hanes cynllunio'r safle gan gynnwys camau gorfodaeth.  Yn 2001 rhoddwyd caniatâd i addasu adeilad i fod yn annedd ond fe ddymchwelwyd yr adeilad hwnnw ac fe'i hail-adeiladwyd o'r newydd.  Byddai'r swyddog yn bryderus pebai'r cais hwn yn derbyn caniatâd yn groes i argymhelliad y swyddog.

 

 

 

Ar yr ymweliad gwelodd y Cynghorydd John Chorlton oddeutu hanner yr hen dy yn adfail, fodd bynnag teimlai bod modd adfer gweddill y ty.

 

 

 

Teimlai'r Cynghorydd Ken Hughes y byddai'n annoeth ac yn anghyfrifol caniatáu'r cais hwn.  

 

 

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Hefin Thomas, dywedodd y swyddog y byddai oddeutu 48% o'r bwriad yn estyniad o'r newydd.

 

      

 

     Dygodd y Cynghorydd Arwel Roberts i gof bod y Pwyllgor hwn wedi rhoddi caniatád i addasu adeilad a dim ond tair wal yn sefyll a hwnnw gydag estyniad o ryw 200%.  Cadarnhaodd y swyddog y byddai'r adeilad newydd yn cael ei ddymchwel mewn ymateb i gwestiwn.

 

      

 

     Nododd y Cynghorydd RL Owen fod cais wedi ei golli ar apêl yma.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd John Chorlton cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad ac argymhelliad o wrthod gan y swyddog a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Ken Hughes.

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

      

 

     Derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais:  Y Cynghorwyr WJ Chorlton, Lewis Davies, Ken Hughes, Thomas Jones, RL Owen,  J Arwel Roberts, John Penri Williams, Selwyn Williams

 

      

 

     Ymatal:  Y Cynghorydd O Glyn Jones

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais am y rhesymau a roddwyd.  

 

      

 

      

 

6.4       GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     30LPA894/CC  GOSOD GWAITH TRIN CARTHFFOSIAETH A CHREU FFOS GERRIG NEWYDD I WASANAETHU RHIFAU 1 - 4 TAI BETWS, LLANBEDRGOCH

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Barrie Durkin cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r pleidleisio. Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan iddo gael ei gyflwyno gan y Cyngor.  Gohiriwyd y cais ar 16 Mai, 2008 er mwyn cwblhau trafodaethau.  

 

     Roedd yr Adain Ddraenio a'r Adain Rheoli Adeiladu yn gweld y bwriad yn foddhaol, ac Asiantaeth yr Amgylchedd yn gweld y byddai'r bwriad gyda risg isel i'r amgylchedd.  

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Hefin Thomas cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad i ganiatáu'r cais a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Glyn Jones.

 

 

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd gydag amodau y manylwyd arnynt.  

 

      

 

      

 

7

CEISIADAU ECONOMAIDD

 

      

 

     Doedd dim ceisiadau economaidd i'w hystyried gan y cyfarfod hwn.  

 

      

 

      

 

8      CEISIADAU AM DAI FFORDDIADWY

 

      

 

     Doedd dim ceisiadau am dai fforddiadwy i'w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

      

 

      

 

9     CEISIADAU'N TYNNU'N GROES

 

      

 

9.1      35C262A  CODI ANNEDD NEWYDD A CHREU MYNEDFA NEWYDD I GEIR AR DIR YN FFERM LLANFAES, LLANGOED

 

      

 

     Gan y Cynghorwyr Lewis Davies a Hefin Thomas cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais a gadawsant y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r pleidleisio. Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan fod y cais yn groes i bolisïau ond yn un a gymeradwywyd gan yr awdurdod cynllunio lleol. Yn Hydref 2007 rhoddwyd caniatâd amlinellol i gais rhif 35C262 yn groes i argymhelliad y swyddog. Rhaid ystyried y cais gerbron fel cais llawn gan iddo fod yn gofyn am gynyddu maint y safle yn hytrach na chais am fanylion a gadwyd wrth gefn.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd RL Owen cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad ac argymhelliad y swyddog  o ganiatáu, a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd J Arwel Roberts.

 

      

 

     Teimlai'r Cynghorydd Barrie Durkin fod y cais hwn yn amlwg yn groes i bolisïau a chynigiodd wrthod y cais.  

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

      

 

     Derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais:  Y Cynghorwyr  Jim Evans, Ken Hughes,

 

     O Glyn Jones, Thomas Jones, RL Owen,  J Arwel Roberts, John Penri Williams, Selwyn Williams

 

      

 

     Gwrthod y cais:  Y Cynghorydd Barrie Durkin

 

      

 

     Atal:  Y Cynghorydd WJ Chorlton

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd gydag amodau y manylwyd arnynt.  

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

10      GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

10.1      11C521  CAIS AMLINELLOL AR GYFER LONYDD A RHWYDWAITH ER MWYN EHANGU'R PARC BUSNES AR DIR GER PARC BUSNES, AMLWCH

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan iddo gael ei gyflwyno gan y Cyngor ac yn effeithio ar dir yn ei berchnogaeth.  Fel y manylir yn yr adroddiad, roedd y safle yn un wedi ei neilltuo ar gyfer cyflogaeth ac yn cydymffurfio gyda pholisïau, roedd egwyddor o ddatblygu'r safle yn dderbyniol a'r manylion wedi eu dal yn ôl i'w hystyried yn y dyfodol.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Hefin Thomas cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad ac argymhelliad y swyddog o ganiatáu a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd J Arwel Roberts.

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd Glyn Jones os oedd yr unedau presennol yn llawn.  Mewn ymateb dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu fod angen am y bwriad.

 

      

 

     Yn unfrydol PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd gydag amodau y manylwyd arnynt.  

 

      

 

      

 

10.2      17LPA112H/CC  SYMUD YMAITH Y FFENESTRI TO AR Y TO CRIB UNOCHROG YN YSGOL GYNRADD LLANDEGFAN

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Eurfryn Davies cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais hwn.  Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan iddo gael ei gyflwyno gan y Cyngor ac yn effeithio ar dir yn ei berchnogaeth. Roedd y ffenestri coed gwreiddiol wedi eu dylunio i ddal y to crib un ochr, fodd bynnag rhai blynyddoedd yn ôl fe newidiwyd y ffenestri coed am rhai aliwminiwm ac nid oedd y rheini yn unedau strwythurol a'r canlyniad oedd bod strwythur y to crib un ochrog wedi warpio. Roedd y bwriad yn dderbyniol oherwydd materion iechyd a diogelwch.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Hefin Thomas cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad ac argymhelliad o ganiatáu gan y swyddog a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd John Chorlton.

 

      

 

     Yn unfrydol PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd gydag amodau y manylwyd arnynt.  

 

      

 

      

 

10.3      19LPA895/TR/CC CODI ESTYNIAD I GREU DOSBARTH A STORFA YN YSGOL MORSWYN, CAERGYBI

 

      

 

     Gan y Cynghorydd John Chorlton cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r pleidleisio. Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan iddo gael ei gyflwyno gan y Cyngor ac yn effeithio ar dir yn ei berchnogaeth. Roedd y bwriad yn dderbyniol yn nhermau polisïau cynllunio, dyluniad a'i osodiad o fewn treflun Caergybi.  

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Arwel Roberts cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad ac argymhelliad o ganiatáu gan y swyddog a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Hefin Thomas.

 

      

 

     Holi a wnaeth y Cynghorydd Glyn Jones am yr egwyddor o ymestyn un ysgol ac ar yr un pryd ystyried cau rhai eraill.

 

      

 

     Yn unfrydol PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd gydag amodau y manylwyd arnynt.  

 

      

 

      

 

10.4      34C572  CREU MYNEDFA NEWYDD I GEIR YNGHYD A MAN PARCIO AR GAE O.S. 5366, LLANGEFNI

 

      

 

     Gan Mr Mark Davies o'r Adain Rheoli Datblygu cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais hwn.  Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan iddo effeithio ar dir ym mherchnogaeth y Cyngor.  Mae'r defnydd arfaethedig o'r tir fel rhandiroedd yn ddatblygiad a ganiateir.  Teimlai'r swyddogion fod y fynedfa a'r ddarpariaeth parcio yn dderbyniol.  Disgwylid creu oddeutu 25 o blotiau ar y tir.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd RL Owen cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad ac argymhelliad o ganiatáu gan y swyddog a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Barrie Durkin.

 

      

 

     Yn unfrydol PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd gydag amodau y manylwyd arnynt.  

 

      

 

10.5      37C106A  DYMCHWEL RHAN O'R ANNEDD WEDI EI DIFRODI GAN DÂN YNGHYD A CHODI ANNEDD NEWYDD YN EI LLE YN YSTRAD AWEL, BRYNSIENCYN

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan iddo godi materion polisi.  Bwriad oedd hwn i ailadeilau annedd nad oedd modd byw ynddi ar hyn o bryd gan iddi gael ei difrodi yn helaeth gan dân.  Mae'r cynnig yn adlewyrchu bron yn gyfan gwbl faint a mas y strwythur blaenorol ac wedi'i leoli ar ei droed brint; mae llefydd oedd â tho fflat i gael to crib a newidir y talcenni gyda thalcen slip. Er fod amgylchiadau yma yn wahanol ystyrir fod y bwriad yn un derbyniol.  Aeth y Pennaeth Rheoli Datblygu ymlaen i ddweud fod yr Adran Briffyrdd yn cynnig amodau a bod yr Adain Ddraenio angen rhagor o wybodaeth am y tanc septig.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Jim Evans cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad ac argymhelliad o ganiatáu gan y swyddog a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Arwel Roberts.

 

      

 

     Yn unfrydol PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd gydag amodau y manylwyd arnynt.  

 

      

 

11      CEISIADAU A DDIRPRWYWYD

 

      

 

     Cyflwynwyd a derbyniwyd, adroddiad Pennaeth y Gwasnaeth Cynllunio yng nghyswllt ceisiadau dirprwyedig oedd wedi'u penderfynu ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor hwn.  

 

      

 

12      APELIADAU

 

      

 

     Cyflwynwyd a nodwyd, er gwybodaeth, gopi o grynodeb o benderfyniadau wnaed gan Arolygwyr Cynllunio o dan Adran 78 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref, 1990:  

 

      

 

12.1      HAFOD WERN, FFORDD PENTRAETH, PORTHAETHWY

 

      

 

     Apêl yn erbyn penderfyniad yr Awdurdod hwn i wrthod caniatâd amlinellol ar gais cynllunio 39C254B i godi pedair annedd ynghyd â chreu mynedfa newydd i geir ac a wrthodwyd trwy rybudd dyddiedig 17 Medi, 2007 - gwrthodwyd yr apêl.

 

      

 

12.2      TIR GER SAFLE KEEGANS A TRAVELODGE, KINGSLAND, CAERGYBI

 

      

 

     Apêl yn erbyn penderfyniad yr Awdurdod hwn i wrthod caniatâd amlinellol ar gais cynllunio 19C251L/ECON  i godi siop manwerthu bwyd 4000 troedfedd sgwâr ac a wrthodwyd trwy rybudd dyddiedig 11 Medi, 2007 - gwrthodwyd yr apêl.

 

      

 

      

 

      

 

12.3      SAFLE GER NODDFA, FFORDD Y TRAETH, PORTHAETHWY

 

      

 

     Apêl yn erbyn penderfyniad yr Awdurdod hwn i wrthod cais cynllunio 39C387B i godi un annedd ac a wrthodwyd trwy rybudd dyddiedig 19 Rhagfyr, 2007 - gwrthodwyd yr apêl.

 

      

 

12.4      STAD BODIOR, RHOSCOLYN

 

      

 

     Apêl yn erbyn methiant yr Awdurdod hwn i roi hysbysiad o fewn cyfnod rhagnodedig o benderfyniad ar gais 43C162 dyddiedig 17 Awst, 2007 i addasu adeilad fferm ynghyd ag estyniad caban pren sy'n cynnwys storfa oer, siop fferm sy'n darparu cynnyrch o'r stad a chaffi â threras allanol dan do - gwrthodwyd yr apêl.

 

 

 

12.5      1 - 3 STRYD MONA, AMLWCH

 

      

 

     Dan y Rheoliadau Rheoli Hysbysebion (fel y'u diwygiwyd) apêl yn erbyn penderfyniad yr Awdurdod hwn i wrthod cais cynllunio 11C56F/AD i osod dwy uned arddangos wedi'u goleuo'n fewnol ar y wal ac a wrthodwyd ar 20 Rhagfyr, 2007 - gwrthodwyd yr apêl.

 

      

 

      

 

12.6      YR HEN BWLL NOFIO, BIWMARES

 

      

 

     12.6.1  Apêl yn erbyn penderfyniad yr Awdurdod hwn i wrthod cais cynllunio 12C66G  i ddymchwel yr adeilad presennol a chodi pum annedd glan y dwr, pafiliwn caffi ac adnewyddu'r hen faddonau/pwll nofio ac a wrthodwyd trwy rybudd 13 Gorffennaf,2007 - gwrthodwyd yr apêl;

 

      

 

      

 

     12.6.2  APP/L6805/A/08/2062886 - Dan adrannau 78 a 322 ac Atodlen 6 a Deddf Llywodraeth leol 1972, adran 250(5) cais gan PB Projects am gostau llawn yn erbyn yr Awdurdod hwn mewn cysylltiad a'r apêl yn 12.6.1 uchod - methodd y cais ac ni ddyfarnwyd unrhyw gostau.

 

      

 

12.7      HEN SAFLE AWYROL, PORTH AMLWCH

 

      

 

     Apêl yn erbyn penderfyniad yr Awdurdod hwn i wrthod caniatâd amlinellol ar gais cynllunio 11C479A  i godi arsyllfa ac a wrthodwyd trwy rybudd dyddiedig 21 Mehefin, 2007 - gwrthodwyr yr apêl.

 

 

 

13      MATERION ERAILL

 

      

 

13.1      46C448B/EIA  CAIS LLAWN I WNEUD GWAITH GWELLA ARFORDIROL YNGHYD Â DARPARU MAES PARCIO YN NHREARDDUR 

 

      

 

     Cyflwynwyd - adroddiad Pennaeth y Rheoli Datblygu, ar ran Pennaeth y Gwasanaeth Cynllunio mewn perthynas â'r cais uchod.  Penderfynodd y Pwyllgor hwn yn ei gyfarfod ar 3 Hydref, 2007 "derbyn adroddiad y swyddog a chaniatau'r cais gydag amod ychwanegol yn gofyn i Lywodraeth y Cynulliad benderfynu ar uchder y wal amddiffyn rhag y môr yn unol ag aesiad canlyniadau llifogydd 1:200 blynyddoedd".  

 

      

 

     Yn y cyfarfod dilynol ar 7 Tachwedd, fe leisiwyd pryderon gan ddau aelod ynglyn ag union eiriad y penderfyniad.  Y prif fater dan ystyriaeth oedd a fyddai'r dyluniad a gyflwynwyd yn cydymffurfio â digwyddiad llifogydd 1:200 mlynedd.  Cyfeiriwyd at sylwadau trydydd parti fod cyngor mwyaf diweddar Asiantaeth yr Amgylchedd yn awgrymu dyluniad i baratoi am ddigwyddiad llifogydd 1:200 mlynedd. Tynnwyd sylw hefyd bod DEFRA wedi mabwysiadu agwedd newydd yng nghyswllt newid yn yr hinsawdd ac mai uchder arfaethedig y wal oedd 3.7m oedd yn rhoddi sicrwydd 1:100 mlynedd tra byddai uchder o 3.8m yn bodloni'r digwyddiad llifogydd 1:200 mlynedd - y gwahaniaeth oedd 100mm neu 4".  

 

      

 

     Dywedodd y swyddog na fyddai amod fel roedd wedi ei eirio yn y cofnodion, yn cyflawni'r prawf o fanyldeb fel y gellid ei gorfodi yn unol â Chylchlythyr 35/95 (y defnydd o amodau mewn caniatâd cynllunio),  Roedd y Pwyllgor wedi mynegi'n glir yr hyn yr oedd yn ei gredu oedd ei angen, sef y dylai'r wal gael ei chodi 100mm ac y byddai amod wedi ei mynegi yn y termau manwl hyn yn cydymffurfio gyda gofynion Cylchlythyr 35/95.  Fe geisiodd swyddogion fynd i'r afael â'r mater trwy osod amod oedd yn adlewyrchu dymuniadau'r aelodau, a hynny yn yr ysbryd gorau, ac yn sicr, ni osodwyd yr amod er mwyn tanseilio dymuniadau'r aelodau o gwbl.  

 

      

 

     Cadarnhaodd swyddogion fod caniatâd cynllunio wedi ei ryddhau ar 19 Hydref, 2007 ac nad oedd yn cynnwys yr amod fel y gofynwyd amdani gan yr aelodau.  Roedd yr amod osodwyd ar y caniatâd cynllunio yn darllen fel a ganlyn:  "11  Rhaid i'r datblygiad a ganiateir yma gael ei wneud yn hollol unol â'r Datganiad Amgylcheddol, y ffurflenni a'r lluniadau geir yng nghais cynllunio rhif 46C488B/EIA dyddiedig 20/7/07 a 30/7/07 ac fel bydd angen ei gymeradwyo o dan yr amodau a osodwyd, ond y bydd uchder y wal amddiffyn rhag y môr gorffenedig fel a ddangosir wedi ei farcio rhwng pwyntiau A a B ar y cynllun sydd ynghlwm wrth y caniatâd hwn yn cael ei chodi 100mm yn uwch na'i huchder fel sy'n cael ei ddangos ar y rhestr o ddyluniadau a gymeradwywyd."

 

      

 

     Dywedwyd na fyddai'n ymarferol adeiladu wal amddiffyn digwyddiad storm 1:200 mlynedd heb ddefnyddio'r sianeli llifogydd sy'n cael eu defnyddio ar hyn o bryd.  Roedd y cynllun presennol yn cynnig yr ateb gorau posibl o fewn y gyllideb oedd ar gael i eiddo yn Nhrearddur.  Pwysleisiodd y Pennaeth Rheoli Datblygu "heb unrhyw amheuaeth, mai holl bwrpas y gwaith datblygu yma yw amddiffyn yr arfordir ac nid lleihau llifogydd" fel y gwelir yn 2.1.8 o'r adroddiad.  Nid oedd y gwahaniaeth rhwng safon 1:100 mlynedd a 1:200 mlynedd ddim ond 100mm neu 4", yn yr achos hwn 3.7m a 3.8m AOD yn olynol, sef yr hyn yr oedd yr amod osodwyd gan y swyddogion yn ei gadarnhau.

 

      

 

     Roedd yr adroddiad yn argymell, ar gyfer y dyfodol, y dylid glynu wrth y darpariaethau perthnasol sydd yn y cyfansoddiad pebai aelodau'n dymuno ychwanegu neu ddiwygio amodau oedd yn cael ei hargymell gan swyddogion, ac fe ddylid gwahodd swyddogion i ddrafftio'r amod(au) a'u cyfeirio hwy yn ôl i gyfarfod dilynol oni bai fod yr amod yn un weddol rhwydd ac y gellir cytuno arni yn y cyfarfod cychwynol.

 

      

 

     Roedd yr aelodau yn bryderus hefyd fod y Pennaeth Gwasanaeth - Priffyrdd wedi cyflwyno'r cais i'r Pwyllgor er mai ef, mewn gwirionedd, oedd yr 'ymgeisydd' ac na ddylai fod wedi gwneud hynny hyd nes y bydd yr arfer o gael y cyhoedd yn siarad yn y Pwyllgor wedi ei gyflwyno.  Cafodd y gwyn hon ei chefnogi, ond y farn oedd nad oedd gan y Pennaeth Priffyrdd fawr o ddewis ond cymryd rhan yn dilyn cais iddo wneud hynny.  

 

      

 

     O edrych yn ôl, roedd y Cynghorydd J Arwel Roberts, fel Cadeirydd y Pwyllgor ar y pryd, yn derbyn na ddylai'r ymgeisydd fod wedi cael caniatâd i siarad ar y cais ar y pryd.  Roedd y Cynghorydd Roberts yn teimlo ei fod o dan bwysau i benderfynu o fewn y rhaglen amser, neu fel arall byddai cyfraniad ariannol gwerthfawr yn cael ei golli.  Roedd yn teimlo fod y bwriad i beidio â gweithredu ar ddymuniadau'r aelodau yn weithred fwriadol ac nad oedd yn gamgymeriad.  Fe ddylid ymchwilio i mewn i'r posibilrwydd o ddiwygio'r amod ar y caniatâd cynllunio.  Tra roedd y Cynghorydd Arwel Roberts yn gweld uchder y wal fel un oedd yn ffit i'r pwrpas ac yn un oedd, yn ei dyb ef, yn un oedd o uchder tebyg i'r wal wreiddiol, yr oedd yn teimlo'n siomedig nad oedd union benderfyniad y Pwyllgor wedi ei gyfleu yn y caniatâd cynllunio.  

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd Chorlton y dylid glynu wrth benderfyniad y Pwyllgor ar 7 Hydref, a mynegodd bryder fod y swyddogion, yn fwriadol, wedi newid gofynion caniatâd cynllunio, ac yr oedd yn ei chael yn anodd i gredu na ellid amrywio'r fath amod ar hyn o bryd.  Roedd tai pobl yn Nhrearddur angen eu diogelu rhag llifogydd;  ni ddylai'r gost fod yn ystyriaeth o bwys; roedd yn cael hwn yn gynsail peryglus.

 

      

 

     Cadarnhaodd y Pennaeth Rheoli Datblygu y byddai uchder y wal yn cael ei godi rhyw 4" ond na fyddai hynny'n cydymffurfio gyda digwyddiad storm 1:200 mlynedd.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Hefin Thomas fod pob agwedd o'r cais wedi ei drafod yn drwyadl, gyda caniatâd yn cael ei roi i "sicrhau eiddo i'r bobl sydd yn byw o fewn yr ardaloedd peryglus yn Nhrearddur ar hyn o bryd ac i roi diogelwch digonol " - roedd yn angenrheidiol i ganiatâd cynllunio fod yn seiliedig ar ddigwyddiad storm 1:200 yn unol â gofynion Asiantaeth yr Amgylchedd a DEFRA.  Roedd y Cynghorydd Thomas yn teimlo bod y Pwyllgor yn gosod cynsail peryglus pebai'n caniatáu i hyn fynd yn ei flaen.  Os oedd yna unrhyw ansicrwydd, fe ddylid bod wedi ei gyfeirio'n ôl i gyfarfod dilynol y Pwyllgor.  Y Cyngor ei hun oedd yr ymgeisydd ac fe ddylid trin pob cais yn yr un ffordd - roedd y rhain yn dir peryglus iawn ac fe ddylid cyflwyno cais newydd i'w ystyried.  Dyfynodd y Cynhghorydd Hefin Thomas o'r cyfarfwyddyd cenedlaethol roddir gan Asiantaeth yr Amgylchedd a DEFRA a gofynnodd am bleidlais wedi ei chofnodi.

 

      

 

     Roedd y cyfreithiwr yn derbyn safiad y Cynghorydd John Chorlton y dylai'r amod fod wedi ei chyfeirio'n ôl i gyfarfod dilynol.  Roedd gwersi wedi eu dysgu ac ni fyddai digwyddiad o'r fath yn digwydd eto.  Roedd yr amod a roddwyd ar y caniatâd yn cynyddu uchder y wal rhyw 100mm neu 4" ac, yn ei hanfod, mae'r amod yn adlewyrchu dymuniadau'r Pwyllgor.  Mae'n adlewyrchu'r hyn ddywedwyd gan yr aelodau yn y cyfarfod sef effaith ymarferol yr angen i gyfarfod â digwyddiad 1:200 mlynedd.  Cafwyd cyngor gan y cyfreithiwr y byddai'n annheg disgwyl i'r ymgeisydd gyflwyno cais arall a chwestiynodd ymarferoldeb hyn.  Pwysleisiodd y cyfreithiwr mai cynllun amddiffyn yr arfordir oedd hwn ac nid cynllun lleihau llifogydd.  Roedd y cais yn cyfarfod a'r holl feini prawf angenrheidiol fel cynllun amddiffyn arfordirol ac roedd adroddiad y swyddog yn cefnogi'r safbwynt hwnnw.  Fe allai diwygio'r amod newid natur a phwrpas y cynllun o ddiogelwch arfordirol i leihau llifogydd ac efallai na ellid gwneud newid o'r fath yn ddilys trwy amod yn ôl gofynion y cylchlythyr.  Roedd cyfreithiwr yn amau doethineb unrhyw weithredu o'r fath.  Mae angen i amodau cynllunio fod yn bendant.  Roedd achos cryf na fyddai'r amod fel y'i geiriwyd yn wreiddiol gan y Pwyllgor yn glir ac yn ddealladwy i ddatblygwr ac na fyddai'n cyfarfod a'r prawf perthnasol yn y cylchlythyr.  Roedd yr amod ar y caniatâd wedi ei lunio i ateb y mater a ddygwyd i'r amlwg gan y Pwyllgor, ond i wneud hynny mewn ffordd fyddai'n bodloni'r cylchlythyr.  

 

      

 

     Cadarnhaodd y Prif Beiriannydd Priffyrdd y byddai uchder gorffenedig y wal yn 100 mm yn uwch na'r hyn a fwriadwyd yn wreiddiol.

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd Hefin Thomas fod yr amod yn cael ei ddiwygio i gydymffurfio gyda phenderfyniad cychwynol y Pwyllgor neu, fel arall, fe dddylai cais newydd gael ei gyflwyno.  Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd John Chorlton er mwyn i'r geiriau 1:200 mlynedd gael eu cynnwys yn yr amod.

 

      

 

     Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu y dylid bod wedi gwneud penderfyniad ar y cais fel yr oedd wedi ei gyflwyno, ac ailadroddodd mai cynllun amddiffyn arfordirol oedd hwn ac nid cynllun lleihau llifogydd.  Byddai'n rhaid dod ac arbenigwyr technegol i mewn i ailasesu'r cynllun.  Mewn ymateb dywedodd y Cynghorydd Hefin Thomas ei bod yn debygol y byddai'r cais gwreiddiol, fel yr oedd yn sefyll, wedi cael ei wrthod.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd Thomas Jones yn deall ei fod y tu allan i orchwyl y Pwyllgor i newid natur cais trwy ddiwygio amodau.

 

      

 

     Cwestiynu dyletswydd y Pwyllgor i lynu wrth gyfarwyddyd Llywodraeth y Cynulliad ar amodau wnaeth y Cynghorydd Selwyn Williams.  Mewn ymateb dywedodd y cyfreithiwr y dylai amodau fod yn glir, yn fanwl ac yn glynu wrth y profion o ddilysrwydd yn y cylchlythyr.

 

      

 

     Wrth derfynu, roedd y cyfreithiwr am atgoffa'r Pwyllgor nad oedd hawl i ddiwygio amodau cynllunio er mwyn newid pwrpas cynllun, yn arbennig os byddai'r amodau diwygiedig yn amwys.

 

      

 

     Roedd y pleidleisio fel a ganlyn:  

 

      

 

     I ddiwygio'r amod oedd ynghlwm wrth y caniatâd cynllunio i adlewyrchu dymuniadau'r Pwyllgor:  Y Cynghorwyr John Chorlton, Barrie Durkin, Eurfryn Davies, Lewis Davies, Ken Hughes, Arwel Roberts, Hefin Thomas, John Penri Williams, Selwyn Williams

 

      

 

     Derbyn adroddiad ac argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr  Glyn Jones, Thomas Jones,  RL Owen

 

      

 

     PENDERFYNWYD peidio a derbyn adroddiad y swyddog a bod swyddogion yn diwygio amod 11 yn y caniatâd cynllunio yn unol â phenderfyniad y Pwyllgor ar 7 Hydref, 2007.

 

      

 

      

 

     Dechreuodd y cyfarfod am 1.00 p.m. a daeth i ben am 3.00 p.m.

 

      

 

      

 

     Y CYNGHORYDD THOMAS JONES

 

     CADEIRYDD