Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion dogfennau , 4 Gorffennaf 2007

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Dydd Mercher, 4ydd Gorffennaf, 2007

PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION

 

Cofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 4 Gorffennaf, 2007

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd Arwel Roberts - Cadeirydd

Y Cynghorydd Denis Hadley - Is-Gadeirydd

 

Y Cynghorwyr  John Byast, John Chorlton, Eurfryn Davies, Arwel Edwards, Glyn Jones, J Arthur Jones,Thomas Jones, Bryan Owen, RL Owen, John Roberts, Hefin Thomas, WJ Williams MBE,

 

 

 

WRTH LAW:

 

Cynllunio:

Pennaeth y Gwasanaethau Cynllunio ar gyfer eitem 5 yn unig

Rheolwr Rheoli Datblygu (DFJ)

Cynorthwy-ydd Cynllunio (GH)

 

Priffyrdd:

Uwch Beiriannydd (Rheoli Datblygu a Hawliau Tramwy)(JRWO)

 

Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol (RWJ)

Cynorthwy-ydd Gweinyddol (CWP)

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

 

 

 

 

HEFYD YN BRESENNOL:

 

Aelodau Lleol :  Y Cynghorwyr Keith Evans eitem 7.10,  

Fflur Hughes - eitem 7.9, WI Hughes - eitemau 9.1, 10.1, 11.1,

Goronwy Parry MBE - eitem 11.7, D Lewis-Roberts - eitemau 7.6, 7.7

 

 

 

1

YMDDIHEURIADAU

 

Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

2

DATGANIAD O DDIDDORDEB

 

Derbyniwyd datganiadau o ddiddordeb fel y cawsant eu cofnodi dan yr eitemau perthnasol.

 

3

COFNODION    

 

Cadarnhawyd a llofnodwyd, cofnodion y cyfarfod o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gafwyd ar 6 Mehefin, 2007 (tud  ) gyda'r cywiriadau a ganlyn:

 

28C278G Ty Caraden, Cae'r Nant, Ty Croes (eitem 9.2 ar dudalen 10) Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod yr ymgeisydd wedi cadarnhau mai ef oedd y tirfeddiannwr ond ni wnaethpwyd unrhyw gyfeiriad at "Dystysgrif B".   Dywedodd y Cynghorydd Hefin Thomas na phleidleisiodd ef ar y cais hwn gan ei fod wedi datgan diddordeb fel a nodwyd yn y cofnodion ac y dylid dileu ei enw oddi ar y rhestr.

 

 

 

27C23A  Ysgol Gynradd, Llanfachraeth (eitem 10.8 ar dudalen 13) Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu ei fod wedi cyfeirio at lythyr gan yr aelod lleol ond nad oedd y llythyr hwn gerbron y cyfarfod.  

 

 

 

4

YMWELIADAU SAFLE

 

 

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd, fel cofnod cywir, adroddiad ar yr Ymweliadau â Safleoedd Cynllunio gafwyd ar 20 Mehefin, 2007.

 

5

AROLWG BODLONRWYDD CWSMERIAID 2007 A CHWYNION SWYDDOGOL

 

 

 

Adroddodd Pennaeth y Gwasanaethau Cynllunio fod hen bryderon ynghylch canfyddiad y cyhoedd o'r Gwasanaethau Cynllunio ac yn arbennig ynghyswllt y wybodaeth a ddaw  o'r cyfryngau.  Comisiynwyd Paramarq Ltd i gynnal arolwg ymhlith cwsmeriaid yn ystod y Gwanwyn 2007 Dangoswyd fod lefel boddhad nawr yn 82%, Y lefel gyffredinol yn 2003 oedd 79% a 67% yn 2002.  Bu cynnydd dramatig yn nifer y ceisiadau a gyflwynwyd dan Reoliadau Cynllunio ac Adeiladu ers 2002 a 2003 (1500 yn ystod 2006/07) hefyd bu cynnydd sylweddol yn y gwaith cysylltiedig â cheisiadau o'r fath.  Mae lefel y gwelliant yn adlewyrchu'r ffaith bod Cynllun Gweithredu wedi ei gyflwyno yn sgil yr arolygon blaenorol.  

 

 

 

Yn groes i hyn yn 2006/07 gwelwyd cynnydd sydyn yn nifer y cwynion swyddogol - o 10 yn 2005/06 i 41 y llynedd, oedd yn awgrymu fod y gwasanaeth, at ei gilydd, yn dda ond bod problemau penodol yn codi oherwydd prinder staff. Dylid nodi fod 13 o'r cwynion y llynedd yn ymwneud ag un achos penodol yn Niwbwrch.

 

 

 

I sicrhau ymateb yn effeithiol i gasgliadau'r arolwg ac i nifer y cwynion, bydd Cynllun Gweithredu yn cael ei baratoi mewn ymgynghoriad â staff a chydranddeiliaid eraill, a nodwyd y cyflwynir adroddiad i'r Pwyllgor hwn maes o law.

 

 

 

Gwelai'r Deilydd Portffolio'r atborth yn un positif, yn arbennig gan gymryd i ystyriaeth y cynnydd yn y pwysau gwaith o'i gymharu gydag adnoddau staff a dymunodd yr Aelodau ymestyn eu llongyfarchiadau i'r staff perthnasol am wneud eu gwaith mor gwrtais ac effeithiol.

 

 

 

CYTUNWYD i dderbyn yr adroddiad a nodi'r cynnwys.

 

 

 

6

Fe nodwyd y dylai eitem 6.1 fod wedi ymddangos fel cais yn codi ar y cofnodion.

 

 

 

6.1

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

19C966  CAIS LLAWN I GODI 6 FFLAT AR DIR GER 8 TERAS MILLBANK, CAERGYBI

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan fod y tir ym mherchnogaeth yr Awdurdod, hefyd ar gais yr aelod lleol.  Penderfynwyd ymweld â'r safle ar 9 Mai, 2007 ac fe gafwyd hyn ar 23 Mai, 2007.  Dymuniad yr aelodau ar 6 Mehefin, 2007 oedd un o wrthod oherwydd colli llecyn mwynderol.  Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio'n otomatig i roi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros wrthod.

 

 

 

Ymddiheurodd y Cynghorydd Denis Hadley am ei absenoldeb o'r cyfarfod blaenorol a chymeradwyodd yr hyn a ddywedwyd gan ei  gydymaith yn y cyfarfod.  Teimlai'r Cynghorydd Hadley'n gryf y dylai'r llecyn hwn o dir gael ei adnabod yn swyddogol fel llecyn mwynderol yn y CDLl esblygol ac roedd wedi ysgrifennu i'r Adain Polisi Cynllunio i gyfleu hyn; gofynnodd i'r aelodau wrthod y cais.

 

 

 

Cefnogi'r aelod lleol a wnaeth y Cynghorydd John Chorlton gan y teimlai fod y llecyn hwn o dir yn bwysig i'r gymuned leol, cynigiodd lynu wrth y penderfyniad blaenorol i wrthod y cais.  

 

 

 

Teimlo y dylai'r cais gael ei wrthod wnaeth y Cynghorydd J Arthur Jones a dyfynnodd ddarnau o Bolisi Cynllunio Cymru (PPW) 9.2.21 a 2.4.2, ac eiliodd wrthod y cais.  

 

 

 

Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Glynu wrth y penderfyniad blaenorol a gwrthod y cais:  Y Cynghorwyr John Byast, John Chorlton, Denis Hadley, Glyn Jones, J Arthur Jones, Thomas Jones, RL Owen, Arwel Roberts, John Roberts, Hefin Thomas, WJ Williams MBE

 

 

 

PENDERFYNWYD glynu wrth y penderfyniad blaenorol a gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y swyddog am y rheswm a roddwyd eisoes.  

 

 

 

 

 

CEISIADAU A OHIRIWYD

 

 

 

6.2

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

19LPA813B/CC  CAIS I NEWID AMOD (03) ER MWYN CANIATÁU MANYLION LLIFOLEUADAU AR ÔL DECHRAU'R GWAITH YN HYTRACH NA CHYN DECHRAU'R GWAITH YNG NGHYFLEUSTERAU CHWARAEON MILLBANK, CAERGYBI

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan ei fod wedi ei gyflwyno gan y Cyngor ac yn effeithio ar dir yn ei berchnogaeth.  Ar gais y swyddog,  i asesu effaith y datblygiad ar dai cyfagos ar 6 Mehefin, penderfynwyd ymweld â'r safle ac fe gafwyd hyn ar 20 Mehefin 2007.  Adroddodd y swyddog fod gwaith yn mynd yn ei flaen ar y colofnau goleuadau; disgwylid i'r gwaith hwn gael ei gwblhau i'w asesu erbyn 4 Gorffennaf i sicrhau na fyddai'n cael effaith ar fwynderau'r tai cyfagos. Yr oedd disgwyl y byddai'r swyddog mewn sefyllfa i adrodd i gyfarfod nesaf y Pwyllgor.

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais am y rheswm a roddwyd.

 

 

 

6.3

CAIS YN TYNNU'N GROES

 

 

 

31C134B  CAIS AMLINELLOL AR GYFER DATBLYGIAD PRESWYL YN CAE CYD, LLANFAIR-PWLL

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl  dymuniad yr aelod lleol. Penderfynwyd ymweld â'r safle ar 9 Mai, ac fe wnaed hynny ar 23 Mai, 2007.  Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod cyfarfod wedi cymryd lle rhwng yr ymgeisydd, ei asiant a'r swyddog achos mewn perthynas â dwysedd y datblygiad a threfniadau i gael gwared o ddwr wyneb.  Yn dilyn hyn derbyniwyd llythyr yn mynegi eu bod yn barod i ostwng nifer yr unedau, oherwydd hyn gofynnodd y swyddog am ohirio penderfynu ar y cais.

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais am y rheswm a roddwyd.

 

 

 

7

CEISIADAU'N CODI

 

 

 

7.1

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

11C500  NEWID DEFNYDD YR HEN GAPEL I FOD YN 10 FFLAT FFORDDIADWY YNGHYD AG ADDASU'R FYNEDFA I GEIR YNG NGHAPEL BETHEL, STRYD WESLA, AMLWCH

 

 

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd John Byast ei fod am siarad fel aelod lleol ar y cais hwn ac na fuasai'n pleidleisio ar y cais.  Nododd y Cynghorydd John Chorlton fod perthynas iddo yn gwrthwynebu'r cais, fodd bynnag teimlai nad oedd hyn yn rheswm iddo ddatgan diddordeb.

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor bendefnynu arno gan yr honnir i ran o'r safle fod ym mherchnogaeth y Cyngor.   Penderfynwyd ymweld â'r safle ar 9 Mai, ac fe wnaed hynny ar 23 Mai, 2007.  Yng nghyfarfod mis Mehefin cafodd y cais ei ohirio er mwyn ystyried cynlluniau diwygiedig oedd yn gostwng maint y datblygu.

 

 

 

Roedd dau lythyr ychwanegol o wrthwynebiad i law a'r rhain gerbron y cyfarfod ac yn codi materion a godwyd eisoes, meddai'r Rheolwr Rheoli Datblygu.  Roedd y cais gwreiddiol am 10 uned cost isel a darpariaeth parcio i 6 o geir a'r cynlluniau diwygieidig yn gostwng y nifer i 8 uned - dau ohonynt yn dai fforddiadwy.  Y bwriad yn awr oedd dymchwel yr ysgoldy i gefn yr adeilad i greu 11 llecyn parcio.  Roedd cynnydd yn nifer y llofftydd o 13 i 14 a'r argymhelliad yn parhau i fod yn un o ganiatáu.

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd John Byast fod 14 llythyr o wrthwynebiad i law, tra bo maint y datblygu wedi ei ostwng roedd cynnydd o 13 i 14 yn nifer y llofftydd - y prif gonsyrn oedd un o ddiogelwch y ffordd oedd yn beryglus ac ar dro cudd gyda gwelededd gwael o fynedfa'r llecyn parcio. Roedd adroddiad y Swyddog Priffyrdd yn cydnabod "nad yw darparu 11 o lefydd parcio i geir yn cydymffurfio â safonau parcio...".  Anghytunodd y Cynghorydd Byast y byddai "2 uned rhad, rhent cymdeithasol, ac yn ôl profiad, mae perchnogaeth ceir yn isel iawn yn y sector hwn."

 

 

 

Dywedodd yr Uwch Beiriannydd Priffyrdd fod y ddarpariaeth barcio yn cydymffurfio gyda'r safonau perthnasol a dylai'r adroddiad gael ei newid i adlewyrchu hyn;  mewn ymateb i gwestiwn pellach gan y Cynghorydd Hefin Thomas dywedodd y swyddog fod y ddarpariaeth barcio yn seiliedig ar 6 fflat dwy lofft angen 1½ lle parcio yr un = 9 a darpariaeth o un llecyn parcio i'r ddau fflat un llofft oedd yn gwneud cyfanswm o 11.  Byddai amod i sicrhau diogelwch i fynd a dod i'r lle parcio cyn i unrhyw waith adeiladu ddechrau.  

 

 

 

Gwelai'r Cynghorydd John Chorlton y cais hwn yn ei ffurf bresennol yn annerbyniol a gofynnodd a oedd modd datrys hyn.  

 

 

 

Mewn ymateb i'r hyn a ddywedwyd gan y Cynghorydd John Byast fod y draeniau wedi  gorlifo yn ystod y glaw trwm diweddar, dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu nad oedd Dwr Cymru nac Asiantaeth yr Amgylchedd wedi nodi unrhyw wrthwynebiad.  Cadarnhaodd y Swyddog Priffyrdd fod y ddarpariaeth barcio a'r gwelededd yn bodloni safonau angenrheidiol.  

 

 

 

Wedyn ychwanegodd y Rheolwr Rheoli Datblygu nad oedd unrhyw wrthdaro ynghylch perchnogaeth y tir, a chafodd y dystysgrif gywir ei chyflwyno.  Rhoddid amod ynghlwm i sicrhau fod y ddarpariaeth barcio o safon berthnasol cyn gwneud unrhyw waith datblygu.

 

 

 

Gan y Cynghorydd Eurfryn Davies cafwyd cynnig i ganiatáu, cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Arwel Edwards.

 

 

 

Gany Cynghorydd John Chorlton cafwyd cynnig i wrthod.

 

 

 

Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

 

 

Gwrthod y cais, yn groes i argymhelliad y swyddog;  Y Cynghorwyr John Chorlton, Denis Hadley, Glyn Jones, J Arthur Jones, Thomas Jones, RL Owen, John Roberts, Hefin Thomas, WJ Williams MBE

 

 

 

Derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais:  Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, Arwel Edwards, Bryan Owen, Arwel Roberts

 

 

 

Y rheswm a roddwyd dros wrthod oedd mynedfa anaddas a pheryg.

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio'n otomatig i'r cyfarfod nesaf i roi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros wrthod y cais.

 

 

 

 

 

7.2

CAIS YN TYNNU'N GROES

 

 

 

12C66G  DYMCHWEL YR ADEILAD PRESENNOL YNGHYD Â CHODI PUM ANNEDD, CAFFI, PAFILIWN AC AILWAMPIO SAFLE'R HEN BWLL NOFIO, BIWMARES

 

 

 

Yn y cyfarfod ar 5 Gorffennaf, 2006 penderfynwyd ymweld â'r safle ac fe gafwyd hyn ar 12 Gorffennaf, 2006.  Ar 6 Mehefin, 2007 roedd yr aelodau yn dueddol o wrthod y cais am y rhesymau a ganlyn:  

 

 

 

Ÿ

yn groes i'r polisïau

 

Ÿ

effaith annerbyniol ar yr arfordir a'r AHNE

 

 

 

Yn unol â Cyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio'n otomatig i roi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros wrthod y cais.

 

 

 

Darllenodd y Cynghorydd RL Owen lythyr o wrthwynebiad gan CADW dyddiedig 25 Ionawr, 2007.

 

 

 

Gan y Cynghorydd Hefin Thomas cafwyd cynnig i lynu wrth y penderfyniad blaenorol i wrthod y cais.  Cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Arthur Jones a ychwanegodd nad oedd cynnig o'r fath wedi ei gynnwys yn y CDU a stopiwyd. Anghytunodd y Cynghorydd Jones gyda Swyddog Cadwraeth y Cyngor "yn dweud - pan edrychir o'r tir mawr ac o Afon Menai ei fod yn ystyried y bydd y dyluniad yn toddi i mewn i'r tirlun ac yn darparu ffryntiad modern gyda nodweddion pensaerniol morwrol yn y rhan hon o'r Ardal o Harddwch Naturiol Eithiradol".  

 

 

 

Gan y Cynghorydd Eurfryn Davies cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad ac argymhelliad y swyddog o ganiatáu'r bwriad ar dir llwyd a bler; cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Arwel Edwards.  

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

      

 

     Gwrthod y cais, yn groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr John Chorlton, Glyn Jones, J Arthur Jones, Thomas Jones, Bryan Owen, RL Owen, Hefin Thomas, WJ Williams MBE

 

      

 

     Derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais:  Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, Arwel Edwards, Arwel Roberts

 

      

 

     PENDERFYNWYD glynu wrth y penderfyniad blaenorol i wrthod y cais am y rhesymau a roddwyd uchod, yn groes i argymhelliad y swyddog.  

 

      

 

7.3     GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     19C171B  CAIS LLAWN I GODI 14 O ANHEDDAU DEULAWR YNGHYD Â GWNEUD GWAITH CYSYLLTIEDIG TRAENIO PRIFFYRDD AR DIR GER YSBYTY PENRHOS STANLEY, CAERGYBI

 

      

 

Gan Mr JRW Owen o'r Adran Briffyrdd cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r pleidleisio.  Cafwyd datganiad o ddiddordeb gan Mrs Mairwen Hughes o'r Uned Bwyllgorau hefyd.  Dywedodd y Cynghorydd Arwel Roberts y byddai ef yn siarad ar y cais fel aelod lleol ac na fyddai'n pleidleisio arno.

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor bendefnynu arno ar gais yr aelod lleol.  Ar 6 Mehefin, 2007 penderfynwyd gohirio ystyried y cais er mwyn i swyddogion drafod mantais cynllunio bosib gyda'r datblygwyr.  

 

      

 

     Cadarnhaodd y Rheolwr Rheoli Datblygu y byddai Caergybi yn derbyn rhodd o £10,000 gan y datblygwyr i'w glustnodi ar gyfer darparu offer chwarae/gwelliannau cyffredinol i lecynnau chwarae yn y cyffiniau.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd John Chorlton cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad o ganiatáu, cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Arthur Jones.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y syddog a'r agymhelliad o ganiatáu am y rhesymau a roddwyd gydag amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad y swyddog.  

 

      

 

     Ni phleidleisiodd y Cynghorydd Arwel Roberts ar y cais.

 

      

 

7.4     CAIS ECONOMAIDD

 

      

 

     19C251L/ECON  CAIS AMLINELLOL I GODI STORFA MANWERTHU BWYD AR DIR GER KEEGANS A SAFLE TRAVELODGE, KINGSLAND, CAERGYBI

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor bendefnynu arno gan fod rhan o'r safle ym mherchnogaeth y Cyngor.  Ar 6 Mehefin, penderfynwyd gohirio penderfynu ar y cais er mwyn cwblhau trafodaethau ar faterion o gonsyrn,  gofynnodd y swyddog am ohiriad pellach ar y cais.  

 

      

 

     PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais ar gais y swyddog.

 

      

 

7.5     GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     29C112  CAIS AMLINELLOL I GODI CHWE ANNEDD (GOSODIAD DIWYGIEDIG A CHARTHFFOS YN LLE GWAITH TRIN CARTHION) YNGHYD A ADDASU'R FYNEDFA I GEIR A GWAITH GWELLA'R BRIFFORDD CYSYLLTIEDIG AR DIR GER Y BRYN, LLANFAETHLU

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor bendefnynu arno ar gais yr aelod lleol.  

 

      

 

     Cyfeiriodd y Rheolwr Rheoli Datblygu at lythyr gan yr aelod lleol nad oedd yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod.  Roedd rhai pwyntiau a godwyd yn ei llythyr wedi derbyn sylw yn yr adroddiad.  

 

      

 

     I bwrpas cofnod dywedodd y swyddog fod y safle wedi ei gynnwys fel cynnig preswyl dan fwriad T66 o bolisi HP4 yr CDU a stopiwyd ac nid "T33" fel a nodwyd yn yr adroddiad.    Roedd disgwyl i Lanfaethlu ddarparu 10 o unedau preswyl yn ystod cyfnod Cynllun Lleol Ynys Môn.  Hyd yn hyn cyfanswm o 4 o anheddau oedd wedi eu cwblhau.  

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd Arthur Jones a oedd tystiolaeth o angen, hefyd gofynnodd am y ddarpariaeth ar gyfer dwr wyneb a draenio.  

 

      

 

     Teimlai'r Cynghorydd John Chorlton fod y ffordd oddi wrth y Coffee House tuag at y safle yn gul.  

 

      

 

     Cadarnhaodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod y dystiolaeth angenrheidiol wedi ei derbyn ynglyn â pherchnogaeth tir ac y byddai mynedfa i'r safle trwy Stad Y Bryn.  

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Eurfryn Davies cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad o ganiatáu, cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd  Arwel Edwards.

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

      

 

     Derbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad o ganiatáu:  Y Cynghorwyr John Chorlton, Eurfryn Davies, Arwel Edwards, Denis Hadley, Glyn Jones, J Arthur Jones,Thomas Jones, RL Owen, Arwel Roberts, Hefin Thomas, WJ Williams MBE

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y syddog a'r agymhelliad o ganiatáu am y rhesymau a roddwyd gydag amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

7.6      GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     30C104M  CAIS AMLINELLOL I GODI NAW ANNEDD YNGHYD A CHREU MYNEDFA NEWYDD I GEIR AC I GERDDWYR YN BRYN MEIRION LODGE, BENLLECH

 

      

 

     Gan Mrs Sasha Davies o'r Adran Economaidd cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais.  Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor bendefnynu arno ar gais yr aelod lleol.  Ar 6 Mehefin penderfynwyd ymweld â'r safle er mwyn asesu'r sefyllfa ac fe gafwyd hyn ar 20 Mehefin, 2007.

 

      

 

     Yn absenoldeb y Cynghorydd Tecwyn Roberts dywedodd y Cynghorydd D Lewis-Roberts bod y safle, er ei fod hefyd y tu mewn i gyfyngiad gyrru 30 mya, o fewn rhyw 50 llath i tua phum mynedfa yn dod yn uniongyrchol i ffordd beryglus yr A5025.  Cafwyd argymhelliad o wrthod ganddo.  Mewn ymateb i safiad swyddogion y buasai uchder crib cartref nyrsio arfaethedig (30C104N/ECON) yn rhy uchel, teimlai'r Cynghorydd Lewis-Roberts y buasai'r cynnig hwn hefyd yn rhy uchel, ac o'r herwydd câi effaith ar bleserau tai gerllaw.

 

      

 

     Yn ôl yr Uwch Beiriannydd Priffyrdd roedd rhagor na 90m o welededd ar ddwy ochr y fynedfa, ac ychwanegodd fod un ddamwain wedi ei chofnodi yn 1989 a damwain arall 100m i ffwrdd yn 1996.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Thomas Jones y dylai dwysedd y datblygiad adlewyrchu dwysedd cyffredinol yr ardal o gwmpas.  

 

      

 

     Gwelai'r Cynghorydd RL Owen fod y safle yn glir y tu mewn i gyflymdra 30 mya a chynigiodd dderbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad o ganiatáu.  Gofynnodd y Cynghorydd Glyn Jones am ddwysedd y datblygu.  Byddai'r Cynghorydd John Chorlton yn ei gweld hi'n anodd iawn gwrthwynebu cais ar safle, a oedd yn rhannol, wedi ei amgylchynu gyda maes carafanau.  

 

      

 

     Atgoffodd y Rheolwr Rheoli Datblygu bod cymhariaeth yn uchder y grib wedi ei gwneud gyda'r eiddo o gwmpas yn ystod yr ymweliad â'r safle ar 20 Mehefin, ac fe nodwyd hynny yn yr adroddiad; roedd yr uchder hyd at y grib rhyw 1.5m yn is na chrib yr adeiladau yr ochr draw i'r ffordd, a hefyd câi lefel y tir ei ostwng yn y cefn er mwyn lliniaru effaith y datblygiad.  Ni wyddai'r swyddog beth fuasai dwysedd gwirioneddol y datblygiad ond tybiai y buasai hynny o gwmpas 45 annedd i'r hectar, a buasai'r ystyriaeth hon wedi cael sylw wrth asesu'r defnydd presennol a wneir o'r safle a hefyd wrth asesu natur yr ardal o gwmpas.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Thomas Jones cafwyd cynnig i wrthod ac fe eiliwyd hyn gan y Cynghorydd J Arthur Jones.

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

      

 

     Gwrthod y cais, yn groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr J Arthur Jones, Thomas Jones, Hefin Thomas

 

      

 

     Derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais:  Y Cynghorwyr John Chorlton, Eurfryn Davies, Arwel Edwards, Glyn Jones, Bryan Owen, RL Owen, Arwel Roberts, WJ Williams MBE

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y syddog a'r agymhelliad o ganiatáu am y rhesymau a roddwyd gydag amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

7.7     GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     30C626A  CAIS LLAWN I GODI ANNEDD YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GEIR AC I GERDDWYR AR DIR GER PLOT 21, LÔN FARCHOG, BENLLECH

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor bendefnynu arno ar gais yr aelod lleol.  Penderfynwyd ymweld â'r safle ar 6 Mehefin i asesu'r sefyllfa ac fe gafwyd hyn ar 20 Mehefin, 2007.

 

      

 

     Argymhelliad o ganiatáu oedd yma meddai'r Rheolwr Rheoli Datblygu.  

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd D Lewis-Roberts fod y darn hwn o dir yn cael ei gynnal a'i gadw gan y Cyngor ac ei bod yn wybydddus i'r tir gael ei ddefnyddio gan bobl leol ers 1981.  Gwrthodwyd cais tebyg ym mis Chwefror; roedd y cais hwn gyda'r un troedbrint â'r un blaenorol ac eithrio garej a hefyd roedd wedi ei symud ymlaen ar y safle.  

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Eurfryn Davies cafwyd cynnig i dderbyn argymhelliad y swyddog o ganiatáu, eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Bryan Owen.

 

      

 

     Cytuno a wnaeth y Cynghorydd Hefin Thomas y byddai llecyn mwynderau cyhoeddus yn cael ei golli a chynigiodd wrthod y cais, cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd John Chorlton.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu nad oedd y Cyngor yn hawlio perchnogaeth y tir; anghytunodd fod y llecyn hwn o dir yn llecyn mwynderau a thynnodd sylw ar y taflunydd at lecynnau gwyrdd a thir agored gerllaw.  Dan gais blaenorol cyflwynwyd dadl yr oedd y swyddog yn cydymdeimlo â hi yng nghyswllt y tir a mwynderau yng Nghaergybi - ardal gyda dwysedd tai uchel - ond yma yr oedd llecynnau gwyrddion megis gerddi a'r cefn gwlad gerllaw.  

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:  

 

      

 

     Gwrthod y cais, yn groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr John Chorlton, J Arthur Jones, Hefin Thomas

 

      

 

     Derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais:  Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, Arwel Edwards, Denis Hadley, Glyn Jones, Thomas Jones, Bryan Owen, RL Owen, Arwel Roberts, WJ Williams MBE

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y syddog â'r agymhelliad o ganiatáu am y rhesymau a roddwyd gydag amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

     Roedd yr Uwch Beiriannydd Priffyrdd am nodi na fyddai'r Cyngor yn torri glaswellt ar y llecyn hwn o dir o hyn allan.  

 

      

 

      

 

7.8     GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     31C350  ALSTRO AC YMESTYN TO 8 FFORDD GWENLLIAN, LLANFAIRPWLL

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor bendefnynu arno ar gais yr aelod lleol.  Penderfynwyd ymweld â'r safle ar 6 Mehefin i asesu'r safle a'r sefyllfa draffig ac fe gafwyd hyn ar 20 Mehefin, 2007.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd John Roberts cafwyd cynnig i ganiatáu, cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd  Eurfryn Davies.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y syddog a'r agymhelliad o ganiatáu am y rhesymau a roddwyd gydag amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

7.9     CAIS YN TYNNU'N GROES

 

      

 

     34C556  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GEIR AR DIR GER GWERNHEFIN, LLANGEFNI

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor bendefnynu arno ar gais yr aelod lleol. Cytunwyd i ohirio ystyried y cais hwn mewn cyfarfodydd blaenorol er mwyn i'r swyddogion perthnasol drafod materion priffyrdd gyda'r ymgeisydd.   

 

      

 

     Roedd y cais hwn am dy marchnad agroed yn groes i bolisïau meddai'r Rheolwr Rheoli Datblygu.  Gan fod y safle yn terfynu a'r ffin ddatblygu byddai modd ystyried cais am dy fforddiadwy fel eithriad i'r polisi; fodd bynnag roedd yna faterion priffyrdd i'w datrys.  

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Fflur Hughes bod y safle yn agos i'r ffin ddatblygu, roedd o fewn cyflymdra gyrru o 30 mya ac roedd tri eiddo arall yn y fangre.   Roedd yr ymgeisydd yn cynnig cyfaddawdu trwy symud y fynedfa arfaethedig ac o'r herwydd roedd yr Adain Briffyrdd wedi tynnu eu gwrthwynebiad yn ôl.  Mam yr ymgeisydd oedd perchennog Gwernhefin ac roedd yn fodlon torri coed i wella'r gwelededd. Doedd dim llythyrau o wrthwynebiad i law a chyfeiriodd y Cynghorydd Hughes at y croeso a roes yr Adran Addysg i fwriad i wella gwelededd o Parc Mownt.  Roedd yr ymgeisydd yn gweithio yn lleol ac roedd yma angen lleol.    

 

      

 

     Roedd adroddiad y swyddog, meddai'r Cynghorydd Eurfryn Davies, yn dweud "mae'r anheddiad yn cael ei nodi fel Anheddiad Diffiniedig yn y Cynllun Lleol, fel Prif Ganolfan o dan Bolisi HP3 yn y Cynllun Datblygu Unedol a stopiwyd", byddai'r bwriad yn mewnlenwi bwlch yn sensitif, cynigiodd ganiatáu'r cais gydag amod 106 (ty fforddiadwy).  Gwelai'r Cynghorydd Glyn Jones fod yma welliant i'r briffordd ac eiliodd y cynnig.

 

        

 

     Atgoffodd y swyddog yr aelodau fod y cais, yn ei ffurf bresennol, yn groes i bolisïau.  Byddai'n dderbyniol petai wedi ei gyflwyno fel cais am dy fforddiadwy ar safle eithriedig gyda chytundeb dan Adran 106 ynghlwm.

 

      

 

     Roedd ffin ddatblygu ddiffiniedig i  Langefni meddai'r Cynghorydd Arthur Jones a'r safle hwn yn glir y tu allan; dim ond cais am dy fforddiadwy gâi ei ystyried ar y safle.  Cytuno fod y cais yn tynnu'n groes a wnaeth y Cynghorydd Hefin Thomas.  Cynigiodd y Cynghorydd Arthur Jones wrthod y cais a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Hefin Thomas.

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

      

 

     Caniatáu'r cais, yn groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, Thomas Jones, Bryan Owen, Glyn Jones

 

      

 

     Derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais:  Y Cynghorwyr Arwel Edwards, J Arthur Jones, RL Owen, Arwel Roberts, Hefin Thomas, WJ Williams MBE

 

      

 

     Ymatal:  Y Cynghorydd John Chorlton

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais am y rhesymau a roddwyd.  

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

7.10      GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     39C254B  CAIS AMLINELLOL I GODI PEDAIR ANNEDD YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GEIR YN HAFOD WERN, PORTHAETHWY

 

      

 

     Yn y cyfarfod ar 6 Medi penderfynwyd ymweld â'r safle ac fe gafwyd hyn ar 20 Medi, 2006.  Ar 6 Mehefin, 2007 dymuniad yr aelodau oedd gwrthod y cais am y rhesymau a ganlyn:  

 

      

 

Ÿ

gorddatblygu.

 

Ÿ

y bwriad allan o gymeriad gydag anheddau o'i gwmpas

 

      

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio'n otomatig i'r cyfarfod nesaf i roi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros wrthod y cais.

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd Keith Evans i'r aelodau gadarnhau eu penderfyniad blaenorol a gwrthod y cais.  Tai sengl ar blotiau unigol oedd o gwmpas y safle yn bennaf - buasai teras yn gorddatblygu'r safle a chreai hynny broblemau gyda dwr wyneb.  Heb fod ymhell ar hyd ffordd Pentraeth roedd 7 mynedfa, a chafwyd 50 o lythyrau yn gwrthwynebu a deiseb ac arni bron i 200 o lofnodion yn mynegi pryderon dwys.

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd RL Owen i aelodau fod yn gyson yn eu penderfyniad a chynigiodd ganiatáu, cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Arwel Edwards.

 

      

 

     Byddai'r bwriad yn creu dwysedd o rhyw 33 annedd yr hectar meddai'r Rheolwr Rheoli Datblygu o'i gymharu â 45 ym Menllech.  Anghytuno a wnaeth y swyddog y byddai'r bwriad yn creu gorddatblygu.

 

      

 

     Cytuno â'r aelod lleol a wnaeth y Cynghorydd Hefin Thomas a chynigiodd wrthod bwriad fuasai allan o gymeriad gyda'r ardal o'i gwmpas.  Cytuno nad oedd y bwriad yn orddatblygu a wnaeth y Cynghorydd Arthur Jones, ond eiliodd y cynnig i wrthod gan fod y bwriad allan o gymeriad a ddim yn asio'n dda hefo'r ardal.

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

      

 

     Gwrthod y cais, yn groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr Arwel Edwards, Arwel Roberts,

 

      

 

     Derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais:  Y Cynghorwyr John Chorlton, Eurfryn Davies, J Arthur Jones,Thomas Jones, Bryan Owen, Hefin Thomas, WJ Williams MBE

 

      

 

     Ymatal:  Y Cynghorydd Glyn Jones

 

      

 

     PENDERFYNWYD glynu wrth y penderfyniad blaenorol i wrthod y cais gan ei fod yn groes i gymeriad yr ardal, yn groes i argymhelliad y swyddog.  

 

      

 

      

 

8     CEISIADAU ECONOMAIDD

 

      

 

     Doedd dim ceisiadau economaidd i'w hystyried yn y cyfarfod hwn.  

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

9

CEISAIDAU AM DAI FFORDDIADWY

 

      

 

9.1     14C150B  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD FFORDDIADWY YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD A GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD AR DIR GER PEN RALLT, LLYNFAES

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor bendefnynu arno ar gais yr aelod lleol.

 

      

 

     Nid oedd yr ymgeisydd wedi cyflwyno tystiolaeth o angen ty fforddiadwy meddai'r Rheolwr Rheoli Datblygu.  Roedd y cyngor cymuned lleol yn mynegi pryder ynghlyn â'r fynedfa arfaethedig.  

 

     Cytuno nad oedd digon o dystiolaeth wedi ei chyflwyno gan yr ymgeisydd a wnaeth y Cynghorydd WI Hughes.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Arthur Jones cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog, cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd John Chorlton.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais am y rhesymau a roddwyd.  

 

      

 

10     CEISIADAU'N TYNNU'N GROES

 

      

 

10.1     14C199A  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD AR DIR GER BYNGLO PARCIAU, TYN LÔN

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Arthur Jones cafwyd datganiad o ddiddordeb a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r pleidleisio.  Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor bendefnynu arno ar gais yr aelod lleol. 

 

      

 

     Er bod y cais hwn yn cael ei gefnogi gan y cyngor cymuned lleol yr oedd yn un a oedd yn tynnu'n groes i'r polisïau meddai'r Rheolwr Rheoli Datblygu a'r argymhelliad oedd gwrthod.  

 

      

 

     Roedd yma amgylchiadau eithriadol dros ganiatáu'r cais ar sail meddygol meddai'r Cynghorydd WI Hughes - roedd gan fab yr ymgeisydd Barlys yr Ymennydd a meddyg y teulu yn cadarnhau hyn trwy lythyr a oedd gerbron.  Roedd mab yr ymgeisydd yn dibynnu ar gefnogaeth y teulu.  Gwelai'r Cynghorydd Hughes y safle hwn o fewn clwstwr ac yn mewnlenwi.  Tra'n derbyn y byddai coed a gwrych yn cael eu colli, gallasai y rhain gael eu hailblannu.  

 

      

 

     Atgoffodd y Cadeirydd yr aelodau fod cais tebyg i hwn wedi ei wrthod y llynedd.

 

      

 

     Dygodd y Cynghorydd Glyn Jones sylw at y ffaith fod Polisi Cynllunio Cymru dan bararaff 9.1.1 yn creu cyfle i ganiatáu ceisiadau dan amgylchiadau meddygol arbennig.

 

      

 

     Ond atgoffwyd yr aelodau gan y Rheolwr Rheoli Datblygu fod yn rhaid seilio penderfyniadau ar egwyddorion defnydd tir - nid ar amgylchiadau personol.  Heb amheuaeth roedd y safle yn y cefn gwlad a'r cais yn groes i bolisïau.

 

      

 

     Gan fod ganddo blentyn gydag anableddau nododd y Cynghorydd John Chortlon y buasai'n rhaid iddo ddatgan diddordeb, ond os oedd bwriad i osod hoist arbennig yn y ty, cyfleusterau molchi arbennig, mynedfa i gadair olwyn etc. cynigiodd ohirio gwneud penderfyniad er mwyn casglu rhagor o wybodaeth ac o dystiolaeth i gyfiawnhau'r angen; cafodd ei eilio gan y Cynghorydd Hefin Thomas.

 

      

 

     Wedyn cafwyd gwybod gan y cyfreithiwr y dylai'r aelodau sicrhau fod y cais yn cyfiawnhau codi annedd newydd yn y cefn gwlad, a hefyd ystyried a oedd modd addasu annedd bresennol.  

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod angen tystiolaeth i gyfiawnhau caniatáu cais o'r fath, roedd yma argymhelliad cryf o wrthod.  

 

     Am resymau dyngarol cafwyd cynnig gan y Cynghorydd RL Owen i ganiatáu.

 

      

 

     PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais er mwyn i swyddogion gael rhagor o wybodaeth.  

 

10.2      28C349A  CAIS AMLINELLOL I GODI UN ANNEDD AMAETHYDDOL YNGHYD Â GOSOD TANC SEPTIC NEWYDD AR DIR GER TY MAWR, CAPEL GWYN

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor bendefnynu arno ar gais yr aelod lleol.  

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Glyn Jones fod iechyd gwraig yr ymgeisydd yn dirywio a bod tystiolaeth i hynny trwy lythyr meddyg yn 2004.  Yn y cyfamser roedd ei chyflwr wedi dirywio a chais oedd yma i godi ty i'r mab a'i wraig fel bod modd iddo fyw yn agos i'w rieni ar y fferm a chynorthwyo hefyd gyda'r busnes carafanau.  Yn ôl adroddiad ADAS roedd angen dau weithiwr i fyw ar y safle.  Roedd modd i amgylchiadau personol fod yn ystyriaeth o bwys a hefyd roedd yr ymgeiswyr yn fodlon ystyried caniatâd personol.  

 

      

 

     Cyfeiriodd y Rheolwr Rheoli Datblygu at bwynt 7 yn adroddiad y swyddog mewn perthynas â dewis safle, ynghyd ag adroddiad gan ADAS oedd yn cefnogi'r cais.  Cafodd yr adroddiad ei ystyried gan ymgynghorydd amaethyddol annibynnol a daeth i'r canlyniad:   " Roedd yr ymgynghorwyr annibynnol o'r farn fod anghenion llafur y fferm yn fwy na dau weithiwr i fod ar gael yn hwylus i'r fferm. Fodd bynnag nid yw'n hanfodol i'r ddau weithiwr fod ar y safle.  Mae'r dystiolaeth ariannol a gyflwynwyd fel rhan o'r cais yn dweud nad yw busnes y ffarm ar hyn o bryd yn gallu cynnal dau weithiwr llawn amser yn cyfateb i leiafswm y cyflog amaethyddol".

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd RL Owen o blaid y cais a oedd hefyd yn derbyn cefnogaeth ADAS.  Ychwanegodd y Cynghorydd Thomas Jones fod casgliadau ADAS yn gynnyrch gwaith person proffesiynnol arbenigol a theimlai'r Cynghorydd y dylid caniatáu annedd am resymau busnes.  - datganiad a gefnogwyd gan ADAS.   

 

      

 

     Ond atgoffa'r aelodau a wnaeth y Cynghorydd Arthur Jones fod y safle yn y cefn gwlad a bod angen tystiolaeth ymarferoldeb ac ynghylch cadernid cyllidol.  Hwn oedd y casglaid dan bwynt 8 adroddiad y swyddog: "Nid yw'r dystiolaeth a gyflwynwyd yn dangos y gall y fferm, mewn termau ariannol, gynnal dau o weithwyr llawn amser na chwaith ei bod yn hanfodol i'r gweithwyr fyw ar y safle".  Wedyn gan y Cynghorydd Jones cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Thomas Jones cafwyd cynnig i ganiatáu a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd RL Owen.

 

      

 

     Tra'n cydymdeimlo gyda sefyllfa'r ymgeiswyr teimlai'r Rheolwr Rheoli Datblygu nad oedd y cais yn bodloni'r meini prawf angenrheiliol i gyfiawnhau caniatáu annedd amaethyddol.    

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:  

 

      

 

     Caniatau'r cais yn groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, Arwel Edwards, Glyn Jones, Thomas Jones, Bryan Owen, RL Owen, WJ Williams MBE

 

      

 

     Derbyn adroddiad y swyddog i wrthod y cais;  Y Cynghorwyr J Arthur Jones, Arwel Roberts,

 

      

 

     Ymatal:  Y Cynghorydd John Chorlton

 

      

 

     Y rheswm dros ganiatáu'r cais oedd casgliadau cefnogol adroddiad ADAS yn cadarnhau bod angen annedd ychwanegol ar y tir.

 

      

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio'n otomatig i'r cyfarfod nesaf i roi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu.  

 

10.3      37C26P CAIS AMLINELLOL AR GYFER DATBLYGIAD PRESWYL AR DIR MERDDYN GWYN, BRYNSIENCYN

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor bendefnynu arno gan ei fod yn rhannol groes i Gynllun Lleol Ynys Môn ond yn un a gefnogwyd dan y CDU a stopiwyd.  

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu y byddai'r datblygiad preswyl yn creu 13 annedd gyda 4 ohonynt yn dai fforddiadwy.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd John Chorlton cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais, cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Eurfryn Davies.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd gydag amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad y swyddog.  

 

      

 

      

 

     Ymadawodd y Cynghorydd Arwel Roberts â'r cyfarfod a chadeiriwyd gweddill y cyfarfod gan y Cynghorydd John Chorlton.

 

      

 

11      GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

11.1      14C28S  CAIS I OSOD TRI FFLIW AWYRU AR OCHR UNED 9 STAD DDIWYDIANNOL MONA, BODFFORDD

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor bendefnynu arno gan fod y tir ym mherchnogaeth y Cyngor.  

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Eurfryn Davies cafwyd cynnig i dderbyn yr adroddiad a chaniatáu'r cais, cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd John Chorlton.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd gydag amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad y swyddog.  

 

      

 

11.2      26C81A  TROI ADEILAD ALLANOL YN ANNEDD YN OLGRA, MARIAN-GLAS

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor bendefnynu arno gan ei fod wedi ei gyflwyno gan aelod o'r Cyngor.  Cafwyd datganiad o ddiddordeb gan y Cynghorydd Elwyn Schofield.

 

      

 

     Roedd hwn yn gais syml i newid defnydd meddai'r Rheolwr Rheoli Datblygu.  

 

      

 

     Gan y Cynghorydd J Arthur Jones cafwyd cynnig i ymweld â'r safle, cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Hefin Thomas.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd WJ Williams nad oedd ganddo ef unrhyw wrthwynebiad i'r bwriad.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Bryan Owen cafwyd cynnig i ganiatáu a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd WJ Williams.

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

      

 

     I ymweld â'r safle: Y Cynghorwyr John Chorlton, Arwel Edwards, J Arthur Jones, RL Owen, Hefin Thomas

 

      

 

     Yn erbyn ymweld â'r safle: Y Cynghorwyr: Eurfryn Davies, Thomas Jones, Bryan Owen, WJ Williams MBE

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â'r safle.

 

      

 

11.3      31C27G  NEWID DEFNYDD GAREJ/GWEITHDY I UNED BRESWYL YN THE STABLES, LLANFAIR-PWLL

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor bendefnynu arno ar gais yr aelod lleol.    Doedd gan y cyngor cymuned ddim sylw i'w wneud meddai'r Rheolwr Rheoli Datblygu; yr argymhelliad oedd un o wrthod.   

 

      

 

     Roedd gan y Cynghorydd Arwel Edwards bryder ynglyn â lleoliad y safle â'r ffaith fod hwn yn gais i newid defnydd adeilad a adeiladwyd mor ddiweddar â circa 2000;  canmolodd y Cynghorydd Edwards adroddiad manwl a diddordol y swyddog.  

 

      

 

     Gwelai'r Cynghorydd Arthur Jones hwn yn gais rhesymol a oedd yn cydymffurfio â pholisïau a darllenodd ddyfyniad o HP8 o'r CDU a stopiwyd yn adroddiad y swyddog ar beth oedd yn dderbyniol i'w addasu i annedd neu lety gwyliau.  Cymharodd y cais hwn gydag un arall a ganiatawyd yn ddiweddar yn Llantrisant.

 

      

 

     Ar ôl ystyried popeth dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu y câi cynsail ei sefydlu wrth ganiatáu addasu adeilad sy'n weddol newydd.  Wedyn cafwyd gair o gadarnhad gan y swyddog mai gwaith cerrig oedd ar yr adeilad.  Ac mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd RL Owen dywedodd wedyn fod y safle y tu allan i'r ffiniau datblygu.  Am y rhesymau a gyflwynwyd yn adroddiad y swyddog yr argymhelliad oedd un o wrthod.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Hefin Thomas cafwyd cynnig i ymweld â'r safle a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Arthur Jones.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â'r safle.

 

      

 

11.4      31C343A  CYNLLUNIAU DIWYGIEDIG AR GYFER ADDASU AC EHANGU 1 LÔN Y WENNOL, LLANFAIR-PWLL

 

        

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor bendefnynu arno ar gais yr aelod lleol.  

 

      

 

     Roedd y cynlluniau wedi eu diwygio a theimlodd y Cynghorydd John Roberts y byddai ymweliad â'r safle o fudd.

 

      

 

     Gynt roedd dwy ffenestr yn y talcen a oedd yn fater anghydfod, ond dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu bod y ddwy bellach wedi eu gosod ar do y ffrynt a'r cefn.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Glyn Jones cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad o ganiatáu.  Gan y Cynghorydd John Roberts cafwyd cynnig i ymweld â'r safle a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Arwel Edwards.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â'r safle.

 

      

 

11.5      46C427D  CAIS I GODI COFEB GARREG A PHLAC I DDATHLU PENBLWYDD 250 THOMAS TELFORD AR GOB Y FALI, PARC ARFORDIROL PENRHOS, CAERGYBI

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor bendefnynu arno gan fod y tir ym mherchnogaeth y Cyngor.  

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd gydag amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad y swyddog.  

 

      

 

      

 

      

 

11.6      47C119  CAIS LLAWN I GODI ANNEDD A CHREU TRAC MYNEDFA AR DIR GER MILL VIEW, LLANDDEUSANT

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan fod yr ymgeisydd yn gweithio yn Adran Gynllunio ac Amgylchedd y Cyngor.  Gan Mr Ifan Rowlands o'r Adain Rheoli Adeiladu cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais hwn.  

 

      

 

     I bwrpas cofnod, dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu y dylai'r ail baragraff ar y drydedd dudalen o'r adroddiad ddarllen "Llanddeusant" ac nid "Penysarn".  

 

      

 

     O sylwi ar y cynlluniau gwelai'r Cynghorydd Arthur Jones bod digon o dir yno i godi 8 - 10 o dai ar y plot a gofynnodd faint o dai y bwriedir eu codi a faint a dalwyd adeg cyflwyno'r cais; hefyd roedd yn amau y nifer o dai a neilliwyd i Lllanddeusant yn y Cynllun Datblygu Unedol.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu mai cais llawn oedd gerbron i un annedd a bod ffi wedi ei thalu am un annedd, ond cytunodd bod y plot yn un mawr.  Hefyd nododd y swyddog bod Llanddeusant yn bentref cydnabyddedig a rhestredig yn yr CDU a stopiwyd, a than hwnnw roedd modd codi tai unigol union ger ffiniau'r pentref.  

 

      

 

     Ond tybiai'r Cynghorydd Glyn Jones mai llenwi bwlch oedd yma, a chafwyd cynnig gan y Cynghorydd Bryan Owen i ganiatáu, ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Glyn Jones.

 

      

 

     Teimlai'r Cynghorydd Hefin Thomas bod digon o le ar y plot i dderbyn chwe annedd a phe rhoddid caniatâd i'r cais hwn buasai hynny'n gynsail i ragor o geisiadau y tu mewn i ffiniau'r plot ac roedd yn pryderu am hynny.  

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod Llanddeusant yn bentref rhestredig cydnabyddedig dan Bolisi 50 Cynllun Lleol Ynys Môn; roedd hefyd yn cydymffurfio gyda Pholisi HP4 yr CDU a stopiwyd ac roedd y swyddog achos wedi asesu'r cais yn llawn ac o'r farn ei fod yn dderbynniol i gwblhau'r datblygiad yn grwn - ond roedd y Rheolwr Rheoli Datblygu ychydig yn anesmwyth gyda chywair y drafodaeth yn y Pwyllgor.

 

      

 

     Cafwyd cynnig o ganiatáu gan y Cynghorydd Eurfryn Davies.

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

      

 

     Derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais:  Y Cynghorwyr John Chorlton, Eurfryn Davies, Arwel Edwards, Glyn Jones, Thomas Jones, Bryan Owen, RL Owen, WJ Williams MBE

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a rhoddi hawl i Bennaeth y Gwasanaethau Cynllunio ganiatáu'r cais ar derfyn y cyfnod ymgynghori am y rhesymau a roddwyd a chyda'r amodau y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.

 

      

 

11.7      49C175A  NEWID DEFNYDD YR ADEILADAU ALLANOL I ANNEDD YNGHYD A CHREU MYNEDFA NEWYDD I GEIR YN BRYN Y MOR, FFORDD BRYN Y MOR, Y FALI

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno ar gais yr aelod lleol.  

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd Goronwy Parry yn wrthwynebus am y rhesymau a ganlyn: creu mynedfa newydd, nodweddion unigryw y Lasinwen ac ymwthio i'r tirwedd, creu rhagor o draffig, natur yr adeilad presennol, polisi cyffredinol, ni roddwyd rheswm eithriadol; ac o'r herwydd roedd y Cynghorydd Parry yn argymell gwrthod.

 

      

 

     Yr hyn a wnaeth y Cynghorydd Arthur Jones oedd cymharu'r cais hwn gyda chais 11.2 y cofnodion hyn a holodd a oedd yr holl bolisïau perthnasol wedi cael sylw ac argymhellodd y dylid cael ymweliad â'r safle i asesu a oedd y cais yn cydymffurfio gyda pholisïau ai peidio.

 

      

 

     Ond teimlai'r Cynghorydd Glyn Jones fod y cais yn gwbl groes i bolisi a chynigiodd dderbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad o wrthod.  Hefyd sylwodd y Cynghorydd Thomas Jones fod y safle y tu mewn i Ardal o Brydferthwch Naturiol Eithriadol - peth a'i gwnâi yn wahanol i'r cais dan 11.2 yn y cofnodion.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd John Chorlton y dylid ystyried pob cais fesul un.  

 

      

 

     Wedyn cafwyd cynnig gan y Cynghorydd Arthur Jones i ymweld â'r safle a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Hefin Thomas a hynny i asesu a oedd y cais hwn i addasu yn un derbyniol ai peidio.

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

      

 

     I ymweld â'r safle:  Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, J Arthur Jones, Bryan Owen, Hefin Thomas,

 

      

 

     Derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais:  Y Cynghorwyr John Chorlton, Arwel Edwards, Glyn Jones, Thomas Jones,  RL Owen, WJ Williams MBE

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais am y rhesymau a roddwyd.  

 

      

 

      

 

12      CEISIADAU A DDIRPRWYWYD

 

 

 

Cyflwynwyd a derbyniwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Amgylchedd a Gwasanaethau Technegol) ar geisiadau a ddirprwywyd ac y gwnaethpwyd penderfyniad arnynt ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor hwn.  

 

      

 

      

 

13      MATERION A GYFEIRIWYD YN ÔL

 

      

 

13.1     YR HEN IARD GOED, FFORDD TURKEY SHORE, CAERGYBI

 

 

 

     Gan Mr JRW Owen o'r Adran Briffyrdd cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais a gadawodd y cyfarfod am y drafodaeth a'r pleidleisio.  Adroddwyd i ganiatâd gael ei roi i godi 29 o anheddau gan y Pwyllgor hwn ar 10 Ionawr, 2007 gyda'r amod fod yr ymgeisydd yn cwblhau Cytundeb Adran 106 i gynnwys tai fforddiadwy. Mae hwn yn mynd yn ei flaen ar hyn o bryd.

 

      

 

     Cyflwynwyd cais 19C171B i godi 14 o anheddau gan yr un datblygwr ar safle Ysbyty Penrhos Stanley, Caergybi. Argymhelliad ar y cais hwn oedd un o ganiatáu gydag amod i gynnwys tai fforddiadwy.  Cynigiodd yr ymgeisydd 4 o dai i'w trosglwyddo i landlord cymdeithasol ar safle Ffordd Turkey Shore yn unol ag opsiwn mae'r Cyngor yn ei ffafrio yn hytrach na phedair uned fforddiadwy y gofynnwyd amdanynt ar safle Ysbyty Penrhos Stanley.  Mae'r ddau safle o fewn yr un ward etholiadol ac nid oes gwrthwynebiad ar sail polisi i'r math hwn o ddarpariaeth.

 

 

 

     Fodd bynnag, roedd Cytundeb 106 ar safle Turkey Shore, fel yr un ar safle Ysbyty Penrhos Stanley (cyfeirir at eitem 7.3 o'r cofnodion hyn) angen eu newid i sicrhau fod darpariaeth lawn yn cael ei gwneud ar gyfer tai fforddiadwy ar safle Ffordd Turkey Shore a chytuno ar yr amserlen.

 

      

 

     Argymhelliad y swyddog oedd un o ganiatáu newid Cytundeb Adran 106  i ddarparu tai fforddiadwy fel rhan o'r datblygiad ar gais 19C419A, Safle'r Hen Iard Goed, Ffordd Turkey Shore, er mwyn darparu tai fforddiadwy fel rhan o'r datblygiad ei hun ac i ddarparu unedau fforddiadwy

 

      

 

      

 

      

 

      

 

     ychwanegol fel rhan o ddatblygiad Ysbyty Penrhos Stanley a darparu'r holl dai ar yr un pryd.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad ag argymhelliad y swyddog  i amrywio'r Cytundeb 106 yn unol â'r uchod.

 

 

 

13.2     19C220J  MILLBANK, CAERGYBI

 

 

 

     Dywedwyd bod caniatâd cynllunio wedi'i roddi i 22 o dai a 4 fflat a chreu mynedfa ynghyd ag addasiadau i'r fynedfa bresennol ar hen safle Iard Millbank, Caergybi ar 10 Mawrth, 2004, gydag amod Adran 106 - darpariaeth tai fforddiadwy, ac ar yr amod bod y draeniau yn cael eu hadeiladu i safon mabwysiadu. Yn arbennig roedd gofyn i'r datblygwr gwblhau cytundeb dan Adran 104 Deddf Diwydiant Dwr 1991 (fel y'i diwygiwyd) mewn perthynas â mabwysiadu'r carthffosydd.

 

 

 

     Datblygwyd y safle, ond ni chwblhawyd y gwaith.  Ar ôl i'r cwmni suddo galwyd y derbynnydd i mewn ac mae ef yn ceisio datrys rhai materion a adawyd, a hynny er mwyn cwblhau'r safle'n foddhaol.

 

 

 

     Argymhellodd y swyddog wneud Gweithred Amrywio i'r cytundeb dan Adran 106 fel bod modd mabwysiadu'r carthffosydd yn ôl-ddyddiol.  Gyda'r amrywiad hwn gellid mabwysiadu'r carthffosydd dan Adran 102 y Ddeddf Diwydiant Dwr.  Yn dilyn trafodaethau  gyda'r datblygwyr cadarnhaodd yr Adain Briffyrdd mai'r drefn hon fyddai'r dull mwyaf boddhaol o symud ymlaen.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chytuno i amrywio y Cytundeb dan Adran 106.

 

      

 

      

 

14

APELIADAU

 

 

 

     Cyflwynwyd a nodwyd, er gwybodaeth, gopi o grynodebau o benderfyniadau Arolygwyr a benodwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar y canlynol:

 

      

 

14.1      HAWTHORNS, PONT RHYD Y BONT

 

      

 

     Apêl yn erbyn penderfyniad a wnaed gan yr Awdurdod hwn i beidio â rhyddhau rhybudd adfer dan Adran 71, Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (apêl Gwrychoedd Uchel APP/L/6805/X/06/514877) - gwrthodwyd yr apêl.  

 

      

 

      

 

14.2      Y SIED, CAE UCHAF, RHOS-Y-BOL

 

      

 

     Apêl yn erbyn penderfyniad yr Awdurdod hwn i wrthod caniatâd cynllunio i newid defnydd rhan o adeilad amaethyddol ar gyfer cynulliadau Cristnogol, gyda chyfleusterau parcio yn y cefn yn cael eu cuddio gan goed, a thanc carthion newydd dan gais rhif 44C141G - gwrthodwyd yr apêl.  

 

      

 

      

 

14.3      TIR GER FFORDD YR ORSAF, RHOSNEIGR

 

      

 

     Apêl yn erbyn penderfyniad yr Awdurdod hwn i wrthod caniatâd cynllunio datblygiad preswyl yn cynnwys pedwar ty pedair ystafell wely a phedwar fflat â dwy ystafell wely, yn cynnwys manylion traenio a mynediad cysylltiedig dan gais rhif 28C373 - gwrthodwyd yr apêl.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

14.4      TIR GER FFORDD YR ORSAF, RHOSNEIGR

 

      

 

     Cais am gostau llawn yn erbyn yr Awdurdod hwn mewn cysylltiad â'r apêl yn 13.3 uchod dan gais rhif APP/L6805/A/07/1200818 - methodd y cais ac ni ddyfarnwyd unrhyw gostau.

 

      

 

14.5      PARC GARREG-LWYD, CAERGYBI

 

      

 

     Apêl yn erbyn rhybudd gorfodi gyflwynwyd gan yr Awdurdod hwn am dorri rheolau cynllunio i newid defnydd y tir, heb ganiatâd, o ddefnydd amaethyddol i ddefnydd cymysg ar gyfer amaethyddiaeth a lleoli carafan breswyl dan gyf:  APP/L/6805/C/07/1200981 - gwrthodwyd yr apêl a chadarnhawyd yr rhybudd gorfodi.  

 

      

 

14.6      TIR YN GLASFRYN, FFORDD CYTIR, CAERGYBI

 

      

 

14.6.1      Apêl yn erbyn penderfyniad yr Awdurdod hwn i wrthod caniatâd cynllunio i godi chwe thy, dymchwel Glasfryn a chreu llefydd parcio ar gyfer 9 cerbyd dan gais cynllunio cyf: 19C954 - caniatawyd yr apel.

 

      

 

14.6.2      Cais am gostau llawn yn erbyn yr Awdurdod hwn mewn cysylltiad â'r apêl uchod dan gyf: APP/L6805/A/07/1200772 - methodd y cais ac ni ddyfarnwyd unrhyw gostau.

 

      

 

      

 

     Dechreuodd y cyfarfod am 1.00 p.m. a daeth i ben 4.05 p.m.

 

      

 

     J ARWEL ROBERTS

 

     CADEIRYDD