Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion dogfennau , 4 Hydref 2006

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Dydd Mercher, 4ydd Hydref, 2006

PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION

 

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Hydref, 2006

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd J Arwel Roberts - Cadeirydd

Y Cynghorydd Denis Hadley - Is-Gadeirydd

 

Y Cynghorwyr John Chorlton, Eurfryn Davies, Arwel Edwards,

PM Fowlie, Aled Morris Jones, J Arthur Jones, O Glyn Jones,

RL Owen, John Roberts,  John Rowlands, WJ Williams MBE

 

 

 

WRTH LAW:

 

Cynllunio:

Pennaeth Rheoli Datblygu

Rheolwr Rheoli Cynllunio

Uwch Swyddog Cynllunio (Mwynau a Gwastraff)(JIW)

Swyddog Cynllunio (JBR)

 

Priffyrdd:

Uwch Beiriannydd (Rheoli Datblygu a Hawliau Tramwy)(JRWO)

Swyddog Rheoli Datblygu (Priffyrdd)(RE)

 

Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol (RWJ)

Cynorthwywr Gweinyddol (CWP)

 

YMDDIHEURIADAU:

 

 

Y Cynghorydd John Byast

HEFYD YN BRESENNOL:

 

Aelodau Lleol: Y Cynghorwyr J Meirion Davies - eitem 6.11, Peter Dunning - eitem 6.13, WI Hughes - eitem 6.8, RLl Jones - eitemau 9.1, 9.2, Thomas Jones - eitem 6.9, D Lewis-Roberts - eitem 10.8, Peter Rogers - eitem 9.5, Noel Thomas - eitem 9.4,

Keith thomas - eitem 10.2, John Williams - eitemau 10.5, 10.10,  

 

Hefin Thomas (Deilydd Portffolio Cynllunio)

 

 

 

1

YMDDIHEURIADAU

 

Nodwyd yr ymddiheuriadau am absenoldeb fel a geir uchod.

 

2

DATGANIADAU O DDIDDORDEB

 

Derbyniwyd datganiadau o ddiddordeb fel y cawsant eu cofnodi dan yr eitemau perthnasol.

 

3

COFNODION

 

Cadarnhawyd a llofnodwyd cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gafwyd ar

6 Medi, 2006.  ( tud )

 

 

4

YMWELIADAU Â SAFLEOEDD

 

 

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd adroddiad ar yr Ymweliadau â Safleoedd Cynllunio a gafwyd ar 20 Medi, 2006.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

5

CEISIADAU A OHIRIWYD

 

 

 

5.1

CAIS YN TYNNU’N GROES

 

 

 

12C66G  DYMCHWEL YR ADEILAD PRESENNOL YNGHYD Â CHODI PUM ANNEDD, CAFFI, PAFILIWN AC AILWAMPIO’R HEN BWLL NOFIO, BIWMARES

 

 

 

Penderfynwyd ymweld a’r safle ar 5 Gorffennaf, ac fe gafwyd hyn ar 12 Gorffennaf, 2006.  Gofynnodd y swyddog am ohiriad pellach er mwyn cwblhau trafodaethau.

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais am y rheswm a roddwyd.

 

 

 

5.2

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

30C385B  DYMCHWEL Y GWESTY PRESENNOL A CHODI ADEILAD TRI LLAWR YN CYNNWYS 21 O FFLATIAU PRYNU I OSOD, PWLL NOFIO DAN DO YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU, ADDASU’R FYNEDFA I GERBYDAU A DARPARU OFFER PREIFAT I DRIN CARTHION YNG NGHWESTY BRYN TIRION, TRAETH COCH

 

 

 

 

 

Penderfynwyd ymweld â’r safle ar 5 Gorffennaf, ac fe gafwyd hyn ar 12 Gorffennaf, 2006.  Gofynnodd y swyddog am ohiriad pellach er mwyn cwblhau trafodaethau.

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais am y rheswm a roddwyd.

 

 

 

5.3

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

30C618 CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD YNGHYD AG ADDASU’R FYNEDFA YN TRAETH ARIAN, BENLLECH

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Gofynnodd y swyddog am ohiriad pellach er mwyn cwblhau trafodaethau.

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais am y rheswm a roddwyd.

 

 

 

5.4

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

39C254B  CAIS AMLINELLOL I GODI PEDAIR ANNEDD YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GEIR YN HAFOD WERN, PORTHAETHWY

 

 

 

 

 

Penderfynwyd ymweld â’r safle ar 6 Medi, ac fe gafwyd hyn ar 20 Medi, 2006.  Gofynnodd y swyddog am ohiriad pellach er mwyn cwblhau trafodaethau.

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais am y rheswm a roddwyd.

 

 

 

5.5

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

CAIS I OSOD  GORSAF TRIN CARTHION YN LLE’R UN PRESENNOL YNGHYD A GOSOD ARLLWYSFA NEWYDD I WASANAETHU SAITH ANNEDD PRESENNOL AR DIR TU CEFNI I 1 TAI CYNGOR  A BRYN REFAIL, LLANYNGHENEDL

 

 

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno gan ei fod yn cael ei gyflwyno ar ran y Cyngor.

 

 

 

 

 

Penderfynwyd caniatáu’r cais hwn ar 6 Medi. Cyfeiriwyd y cais yn ôl i’r Pwyllgor yn wyneb materion a godwyd yn ystod yr ymgynghori a gofynnodd y swyddog am ohiriad er mwyn cwblhau trafodaethau.

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais am y rheswm a roddwyd.

 

 

 

6

CEISIADAU’N CODI

 

 

 

6.1

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

12C331B  DATBLYGIAD LLETYAU A LLYN ARFAETHEDIG YNGHYD Â GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD YN FFERM CICHLE, LLANFAES

 

 

 

Gan y Cynghorwyr Eurfryn Davies, J Arthur Jones a John Roberts cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais hwn a gadawsant y cyfarfod am y drafodaeth a’r pleidleisio.  

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Penderfynwyd ymweld â’r safle ar 6 Medi, ac fe gafwyd hyn ar 20 Medi, 2006.

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod llythyr ychwanegol o gefnogaeth gan yr asiant i law ai fod wedi ei roi gerbron y cyfarfod.  Argymhelliad o wrthod y cais oedd yma.

 

 

 

Roedd y Cynghorydd RL Owen yn teimlo y dylai hwn gael ei ystyried fel cais economaidd.  Roedd 170 o swyddi ym Miwmares wedi eu colli i Langefni yn Faun; roedd y diwydiant amaethyddol yn parhau yn anghynaliadwy, roedd de ddwyrain yr Ynys wedi ei nodi fel ardal twf hamdden a thwristiaeth, ni allai'r ddau wrthwynebiad a dderbyniwyd gael eu cyfiawnhau - ni fyddai'r safle yn cael unrhyw effaith niweidiol oherwydd fe ellid sgrinio'r safle yn ddigonol ac roedd yn bellter rhesymol oddi wrth unrhyw eiddo arall.  

 

 

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Fowlie dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio nad oedd wedi cael gwybod am unrhyw broblemau llifogydd yn ystod y broses ymgonghori.

 

 

 

Gan y Cynghorydd RL Owen cafwyd cynnig i ganiatáu'r cais, a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Glyn Jones.

 

 

 

Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

 

 

Caniatáu'r cais, yn groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr Aled Morris Jones,

 

O Glyn Jones, RL Owen, WJ Williams

 

 

 

Derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais:  Y Cynghorwyr John Chorlton, Arwel Edwards, PM Fowlie, Denis Hadley, J Arwel Roberts

 

 

 

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais am y rhesymau a roddwyd.

 

 

 

 

 

6.2

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

16C8F  CAIS AMLINELLOL I GODI 2 ANNEDD AR DIR GER FRON HEULOG, BRYNGWRAN

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Gohiriwyd y cais ar 6 Medi tra bo trafodaethau yn cymryd lle gyda’r ymgeiswyr.

 

 

 

Nodwyd bod y cais hwn wedi ei dynnu'n ôl.

 

   

 

6.3      GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

19C602H  DYMCHWEL ADEILAD A CHODI PEDWAR FFLAT HUNAN-GYNHALIOL YN 1 STANLEY CRESCENT, CAERGYBI

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad Pennaeth y Gwasanaethau Cynllunio.  Penderfynwyd ymweld â’r safle ar 6 Medi, ac fe gafwyd hyn ar 20

 

 

 

Medi, 2006.  Cyfeiriodd y Pennaeth Rheoli Datblygu yr aelodau at yr adroddiad gynhwysfawr ac mai argymhelliad o wrthod oedd yma.

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd John Chorlton fod buddsoddiad sylweddol wedi ei wneud yn yr ardal hon yn ddiweddar yn cynnwys adeiladu'r Bont Porth Celtaidd a chreu meysydd parcio; byddai'r cynnig yn ailfywiogi'r adeilad hwn oedd mewn angen mawr am wneud gwelliannau iddo, a byddai'n creu cartrefi i bobl leol, ac roedd am gynnig caniatáu'r  cais.

 

 

 

Yn ystod yr ymweliad safle roedd y Cynghorydd Eurfryn Davies o'r farn fod yr hyn oedd yno yn barod angen ei wella ac roedd am eilio'r cynnig i ganiatáu'r cais.

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd RL Owen y byddai'n hapusach yn cefnogi'r cais pe byddai'n dod a gwelliannau i'r stryd gyfan.

 

 

 

Roedd y Cynghorydd J Arthur Jones yn tybio fod y dyluniad o ansawdd uchel, ac y byddai'r cynnig yn gweddu'n dda gyda'r pethau oedd o'i gwmpas, a byddai'n cefnogi'r cais, ac roedd y Cynghorydd Arwel Edwards yn cytuno gyda hyn.

 

 

 

Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

 

 

Caniatáu'r cais, yn groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr John Chorlton, Eurfryn Davies, PM Fowlie, J Arthur Jones, O Glyn Jones, John Roberts, John Rowlands, WJ Williams

 

 

 

Derbyn adroddiad y swyddog i wrthod y cais:  Y Cynghorwyr Arwel Edwards,

 

Aled Morris Jones, RL Owen

 

 

 

Y rheswm a roddwyd dros ganiatáu oedd y byddai'r bwriad yn welliant ac yn adfywio'r ardal.

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio'n otomatig i'r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu'r cais.  

 

 

 

 

 

6.4

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

23C230  CODI MELIN WYNT YN LLIDIART TWRCELYN, CAPEL COCH

 

 

 

Penderfynwyd ymweld â’r safle ar 6 Medi, i weld y bwriad yn ei gyd-destun ac fe gafwyd hyn ar 20 Medi, 2006.  Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod uchder crib y bwriad wedi ei ostwng o 15m i 11m, roedd yr argymhelliad yn parhau yn un o wrthod am y rhesymau a roddwyd.

 

 

 

Gan y Cynghorydd WJ Williams cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais, a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd John Roberts.  

 

 

 

Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

 

 

 

 

Derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais:  Y Cynghorwyr John Chorlton, Denis Hadley,  J Arthur Jones, O Glyn Jones, RL Owen, John Roberts, J Arwel Roberts, WJ Williams

 

 

 

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais am y rhesymau a roddwyd.

 

 

 

6.5

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

24C165A  CODI MELIN WYNT YN TREMARFOR, LLANEILIAN

 

 

 

Penderfynwyd ymweld â’r safle ar 6 Medi, i weld y bwriad yn ei gyd-destun ac fe gafwyd hyn ar 20 Medi, 2006.

 

 

 

Roedd y Cynghorydd Aled Morris Jones yn cytuno gyda'r swyddog ac roedd yn teimlo y dylai cyfarwyddyd clir a pholisïau gael eu llunio ynglyn a lleoli ffynnonhellau eraill o ynni, ac fe gynigiodd y dylid derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais, ac fe eiliwyd hyn gan y Cynghorydd RL Owen.

 

 

 

Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

 

 

Derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais:  Y Cynghorwyr John Chorlton, Arwel Edwards, PM Fowlie, Denis Hadley, J Arthur Jones, O Glyn Jones, RL Owen, John Roberts,

 

J Arwel Roberts, John Rowlands, WJ Williams

 

 

 

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais am y rhesymau a roddwyd.

 

      

 

6.6     CAIS YN TYNNU’N GROES

 

      

 

     31C170A  CAIS AMLINELLOL AM DDATBLYGIAD PRESWYL AR GAE RHIF O.S. 1426, FFORDD PENMYNYDD, LLANFAIR-PWLL

 

      

 

     Cafwyd datganiad o ddiddordeb gan Mr Richard Eames  o’r Adain Briffyrdd a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r pleidleisio.

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol. Yn y cyfarfod blaenorol, ar gais yr aelod lleol, fe benderfynwyd ymweld â’r safle ac fe gafwyd hyn ar 9 Awst, 2006. Penderfyniad y Pwyllgor ar 6 Medi oedd gwrthod y cais am y rhesymau a ganlyn:

 

      

 

Ÿ

ymestyn yr ardal dai i mewn i’r cefn gwlad

 

Ÿ

mae Lon Penmynydd a Hen Lôn Dyfnia yn creu ffiniau datblygu naturiol

 

Ÿ

dim angen rhagor o dai yn Llanfair-pwll

 

Ÿ

ni all y rhwydwaith priffyrdd lleol dderbyn rhagor o draffig

 

 

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor  cafodd y cais ei ohirio er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros wrthod y cais.

 

      

 

     Cyfeiriodd y Rheolwr Rheoli Datblygu at lythyr ychwanegol oedd wedi ei roi gerbron y cyfarfod gan asiant yr ymgeisydd mewn ymateb i'r rhesymau uchod dros wrthod y cais.  Roedd cynlluniau gyflwynwyd yn dangos manylion y gwelliannau arfaethedig i'r briffordd, hefyd ddarparu palmant ar hyd y safle tuag at y groesffordd, roedd tystiolaeth hefyd nad oedd unrhyw ddamweiniau wedi digwydd yno, roedd yr asiant hefyd yn nodi y gallant apelio yn erbyn penderfyniad i wrthod.  Byddai angen tystiolaeth mewn apêl ac fe fyddai anhawsterau. Roedd yn argymell caniatáu.  

 

      

 

     Ailadroddodd y Cynghorydd John Roberts ei siom gyda phenderfyniad yr Arolygwr Cynllunio i gynnwys y llecyn hwn o dir o fewn y ffin ddatblygu heb unrhyw ymgynghori dim ond ar gyfer rhyw 6 neu 8 o dai.  Mewn gwirionedd, fe allai'r dwysedd fod cymaint a 30 anedd ar y safle, ac roedd y Cynghorydd Roberts yn barod i amddiffyn penderfyniad i wrthod hyn mewn apêl a chynigiodd y dylid glynu wrth y penderfyniad blaenorol a gwrthod y cais.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio y byddai'r Cyngor yn gofyn am i leiafswm o 30% o'r datblygiad fod yn dai fforddiadwy ac atgoffodd yr aelodau bod y safle wedi ei nodi fel canolfan eilaidd, nid oedd yr Adain Briffyrdd ag unrhyw wrthwynebiad.  Ychwanegodd y swyddog y byddai swyddogion yn ei chael yn annodd i amddiffyn penderfyniad o'r fath mewn apêl.  

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd Glyn Jones yn cwestiynu a ddylid ei ystyried fel safle o eithriad gyda 100% o'r datblygiad yn fforddiadwy gan ei fod yn gorwedd y tu allan i'r ffin ddatblygu.  Mewn ymateb i hyn fe gadarnhaodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod y safle yn gorwedd o fewn y ffin ddatblygu yn y CDU a stopiwyd.  

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd Arwel Edwards yn rhannu pryderon yr aelod lleol ynglyn a'r groeslon.

 

      

 

     Eglurodd y Prif Swyddog Priffyrdd mewn manylder am y gwelliannau i'r briffordd fyddai'n cael eu gwneud fel rhan o'r cynllun ac roedd y swyddogion yn gweld hyn yn dderbyniol a diogel.  Byddai palmant yn cael ei adeiladu, a'r groeslon yn cael ei gwella gyda blaenoriaethau newydd ar gyfer y llif draffig.

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Fowlie ynglyn a'r ddarpariaeth barcio, fe ddywedodd y Swyddog Priffyrdd y byddai lledu'r ffordd yn caniatáu i draffig lifo i'r ddau gyfeiriad ar hyd y darn hwn o'r ffordd; ac am y rheswm hwn dywedodd y Cynghorydd Fowlie y byddai yn awr yn cefnogi argymhelliad y swyddog.

 

      

 

     0 dderbyn mantais fel hyn i'r briffordd, dywedodd y Cynghorydd John Chorlton y byddai'n cefnogi'r swyddog.

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

      

 

     Derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais:  Y Cynghorwyr John Chorlton,

 

     PM Fowlie, Denis Hadley, Aled Morris Jones, O Glyn Jones, RL Owen, J Arwel Roberts,

 

     John Rowlands, WJ Williams

 

      

 

     doedd dim pleidlais i'r gwrthwyneb

 

      

 

     PENDERFRYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd ac yn unol a'r amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

6.7      GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     31C343  ADDASU AC EHANGU 1 LÔN Y WENNOL, LLANFAIR-PWLL

 

      

 

     Cafwyd datganiad o ddiddordeb gan y Cynghorydd Arwel Edwards hefyd Mr Richard Eames o'r Adain Briffyrdd a gadawsant y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r pleidleisio.

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.   Penderfynwyd ymweld â’r safle ar 6 Medi, ac fe gafwyd hyn ar 20 Medi, 2006.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd John Roberts am atgoffa'r aelodau fod lefel ty cyfagos yn 16 Lôn y Wylan yn sylweddol is na'r un yn 1 Lôn y Wennol ac fod yna broblem gydag edrych drosodd; fodd bynnag roedd y cynnig yn debyg iawn i'r gwaith oedd eisoes wedi ei wneud i 2 Lôn y Wennol.  Yn dilyn ymweliad safle gofynnodd iddynt yn awr wneud penderfyniad ar y mater.

 

      

 

     Ni welai'r Cynghorydd Glyn Jones ddim o'i le gyda'r cais a chynigiodd ganiatáu'r bwriad, cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd John Chorlton.

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd John Roberts i'r aelodau nodi'r rhesymau dros wrthwynebu, a hefyd gynnwys yr adroddiad.

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

      

 

     Derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais:  Y Cynghorwyr John Chorlton, Eurfryn Davies, PM Fowlie, Denis Hadley, J Arthur Jones, O Glyn Jones, RL Owen, J Arwel Roberts,

 

     WJ Williams

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd ac yn unol a'r amodau y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.

 

      

 

6.8     CAIS YN TYNNU’N GROES

 

 

 

     36C103A CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD AR DIR GER CARNEDDAU, RHOSTREHWFA

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Ar 6 Medi penderfynwyd gohirio’r cais i roi cyfle i drafod materion dwr wyneb gyda’r ymgeisydd.

 

      

 

     Yn ôl y Rheolwr Rheoli Cynllunio roedd materion traenio wedi eu datrus ond, er hynny, roedd yr argymhelliad yn un o wrthod yn yr achos hwn.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd WI Hughes yn teimlo fod hwn yn fewn lenwi naturiol, nid oedd y tir yn addas i unrhyw bwrpas arall.  Mewn ymateb i "Disgrifiad o'r Safle" gan y swyddog ym mhwynt 1 lle dywedir "Yn y cyffiniau agos mae 5 annedd arall"; roedd y Cynghorydd Hughes wedi canfod fod tua 25 eiddo arall yno.  Roedd yr ymgeisydd yn gyn weithiwr yn yr awyrlu ac nid oedd y safle mewn lle amlwg, ni fyddai'n cael effaith niweidiol, a gofynnodd i'r pwyllgor roddi ystyriaeth ffafriol i'r cais.

 

      

 

     Gofynnodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio i'r aelodau fod yn gyson ac atgoffodd hwy fod cais tebyg wedi ei wrthod 50 llath o'r safle hwn gan y Pwyllgor blaenorol.  

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd J Arthur Jones y dylid adolygu polisïau cynllunio i wneud ceisiadau o'r fath yn dderbyniol yn nhermau cynllunio, a chynigiodd dderbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais, ac fe eiliwyd hyn gan y Cynghorydd John Chorlton.

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

      

 

     Derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais hwn oedd yn gwyro:  Y Cynghorwyr

 

     John Chorlton, Arwel Edwards, Denis Hadley, J Arthur Jones, John Roberts, J Arwel Roberts,

 

     John Rowlands, WJ Williams

 

      

 

     Caniatáu'r cais, yn groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr Eurfryn Davies,

 

     Aled Morris Jones, O Glyn Jones, RL Owen

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais am y rhesymau a roddwyd.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

6.9     CAIS YN TYNNU’N GROES

 

      

 

     38C223  CAIS AM 20 ANNEDD (YN CYNNWYS 6 ANNEDD FFORDDIADWY)  AR DIR GER PEN Y BONT, MOUNTAIN ROAD, LLANFECHELL

 

      

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno am ei fod yn tynnu’n groes i bolisiau a’r awdurdod cynllunio lleol yn ei gymeradwyo.  Dymuniad yr aelod lleol hefyd oedd i’r cais ddod gerbron y Pwyllgor.  Ar 6 Medi penderfynwyd gohirio penderfyniad ar y cais i alluogi swyddogion  dderbyn eglurhad ar y cyfanswm a’r math o dai y bwriedir eu creu.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio y byddai amod yn cael ei osod i roddi cwlfert ar hyd yr afon.  Cadarnhaodd y swyddog bod cyfanswm o 19 annedd o fewn y cynllun gyda 4 o'r rhain yn dai fforddiadwy.

 

      

 

     Yn ôl y Cynghorydd Thomas Jones nid oedd 4 ty fforddiadwy ond 21% o'r holl gynllun ac roedd hyn yn disgyn yn fyr o'r 30%; roedd y cynllun gwreiddiol yn darparu llwybr troed tuag at yr ysgol ond nid yw'n ymddangos mai dyma'r achos ar hyn o bryd.

 

      

 

      

 

     Eglurodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio - yn dilyn cyfres o drafodaethau ar ofynion tai yn yr ardal - yn wreiddiol roedd 6 ty ar werth ar bris ACG yn cael ei gynnig, ond yn awr, yn dilyn yngynghori gyda'r Adran Dai ac asesu anghenion yr ardal, byddai 4 o'r tai yn rai fforddiadwy trwy landlord cymdeithasol cofrestredig.

 

      

 

     Cwestiynu wnaeth y Cynghorydd John Chorlton paham roedd darpariaeth o dai fforddiadwy yn disgyn yn fyr o'r polisïau a chynigiodd y dylid gohirio gwneud penderfyniad ar y cais hwn er mwyn cael eglurhad ar y pwynt hwn, ac fe eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Eurfryn Davies.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd J Arthur Jones hefyd yn teimlo ei bod yn bwysig glynu wrth bolisïau, a chytunodd y dylid gohirio gwneud penderfyniad er mwyn cael gwybodaeth am anghenion tai.

 

      

 

     PENDERFYNWYD gohirio penderfynu ar y cais am y rheswm a roddwyd uchod.

 

      

 

6.10     GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     39C397A  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNED YNGHYD AG ADDASU’R FYNEDFA BRESENNOL AR DIR GER NODDFA, PORTHAETHWY

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.   Penderfynwyd ymweld a’r safle ar 5 Gorffennaf, ac fe gafwyd hyn ar 12 Gorffennaf, 2006.   Yn y cyfamser cafodd y cais ei ohirio er mwyn cwblhau trafodaethau.

 

 

 

     I bwrpas y cofnodion dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu y dylai paragraff olaf yr adroddiad o dan y pennawd 'Lleoliad, Gwedd Allanol a'r defnyddiau yng nghyd-destun yr Ardal Gadwraeth' ym mhwynt 9 ddarllen "... na fyddai'r cynnig yn mynd i gael effaith annerbyniol ar gyd-destun yr adeilad rhestredig,"...

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Chorlton cafwyd cynnig o ganiatáu a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Eurfryn Davies.

 

      

 

     Yn unfrydol PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd yn unol a'r amodau y manylir arnynt yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

      

 

6.11      GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     39C402  DYMCHWEL YR ADEILADAU ALLANOL A DWY ANNEDD YNGHYD Â CHODI 14 O ANHEDDAU DEULAWR, CREU MYNEDFA NEWYDD I GEIR A CHERDDWYR AC OFFER PREIFAT I DRIN CARTHION YN FFERM TYDDYN ISAF, PEN LÔN, PORTHAETHWY

 

      

 

     Gan Mr JRW Owen o’r Adain Briffyrdd cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais hwn.

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol. Ar 26 Gorffennaf, ar gais yr aelod lleol, fe benderfynwyd ymweld â’r safle ac fe gafwyd hynny ar 9 Awst, 2006.  Ar 6 Medi penderfynwyd gwrthod y cais oherwydd pryderon priffyrdd a diogelwch ffyrdd.    

 

      

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor  cafodd y cais ei ohirio er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros wrthod y cais.

 

      

 

     Cyfeiriodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio'r aelodau i lythyr gan asiant yr ymgeisydd mewn ymateb i'r rhesymau roddwyd dros wrthod; cyfeiriodd yr aelodau hefyd i ymateb y swyddog i'r rhesymau hyn.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd J Meirion Davies fod tair sail dros wrthwynebu.  Priffyrdd a chludiant - roedd y ffyrdd yn beryglus, roedd y risg tebygol o lifogydd yn bryder arbennig o gofio nad oedd y traeniau wedi'u mabwysiadu a bod angen gwell cynllun - nid oedd hwn yn ffitio i mewn.

 

      

 

     Ychwanegodd y Cynghorydd Davies na fyddai ganddo unrhyw broblem yn amddiffyn penderfyniad o wrthod pe ceid apêl.  

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd J Arthur Jones, fe ddywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod swyddogion yn negydu i 30% o'r cynllun fod yn dai fforddiadwy.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd John Chorlton yn teimlo y byddai'n briodol gohirio gwneud penderfyniad ar hwn er mwyn ceisio cael cytundeb y datblygwr y byddai 30% o'r cynllun yn dai fforddiadwy, ac roedd y Cynghorydd Glyn Jones yn cytuno gyda hyn.

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd RL Owen fe gadarnhaodd y swyddog y byddai'r ymgeiswyr mewn sefyllfa i wneud apêl yn erbyn methiant i benderfynu pebai penderfyniad yn cael ei oedi.  Dywedodd y swyddog hefyd y byddai'n annodd amddiffyn penderfyniad o wrthod; roedd y swyddogion yn gweld fod y cynigion yn dderbyniol ac fe ymatebodd yntau mewn manylder i'r rhesymau roddwyd cyn hynny tros wrthod y cais.  Roedd y Cynghorydd Owen am gynnig derbyn adroddiad y swyddog i ganiatáu'r cais.

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd John Roberts wrthod y cais.  Roedd y Cynghorydd J Arwel Roberts yn bryderus fod dau gartref yn mynd i gael eu dymchwel er mwyn darparu mynedfa, ac eiliodd y cynnig i wrthod.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio pebai'n cael ei wrthod roedd pedwar rheswm wedi eu rhoi y mis blaenorol.  Ar y rhesymau traenio a priffyrdd, roedd yr ymgynghorydd statudol yn fodlon gyda'r cynnig, parthed y rheswm o golli dau dy fforddiadwy, nid oedd y ddau dy oedd i'w dymchwel yn rhai fforddiadwy ond yn dai marchnad agored.  Roedd y rheswm yn ymwneud â dyluniad yn gwestiwn o farn.  Fe all y bydd yna apêl ar wrthod ac fe fyddai'n anodd amddiffyn y fath apêl ar y rhesymau hyn.

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

     Gwrthod y cais, yn groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr Eurfryn Davies,

 

     Arwel Edwards, Denis Hadley, John Roberts, J Arwel Roberts, John Rowlands, WJ Williams

 

      

 

     Derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais:  Y Cynghorwyr PM Fowlie,

 

     Aled Morris Jones, O Glyn Jones, RL Owen

 

      

 

     Ymatal:  Y Cynghorwyr John Chorlton, J Arthur Jones,

 

      

 

     PENDERFYNWYD glynu wrth y penderfyniad blaenorol a gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y swyddog, cadarnhaodd yr aelodau eu rhesymau dros wrthod.

 

      

 

6.12      CAIS YN TYNNU’N GROES

 

      

 

     44C239C  CODI ANNEDD, GAREJ BREIFAT A MYNEDFA NEWYDD YN RHIW-MOEL, RHOS-Y-BOL

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Penderfynwyd ymweld â’r safle ar 6 Medi, ac fe gafwyd hyn ar 20 Medi, 2006. Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod materion ynglyn a'r gwelededd yn y fynedfa yn dal heb eu datrus.

 

      

 

     PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais am y rheswm a roddwyd.

 

      

 

6.13      CAIS YN TYNNU’N GROES

 

      

 

     46C176D  CAIS LLAWN I GODI ANNEDD A GAREJ BREIFAT YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GEIR AR RAN O GAE O.S. 1084 GER TREARDDUR MEWS, LÔN TYWYN CAPEL, TREARDDUR

 

 

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Penderfyniad y Pwyllgor ar 6 Medi oedd caniatáu’r cais am y rhesymau a ganlyn:

 

      

 

Ÿ

llenwi bwlch yn naturiol - heb fod yn y cefn gwlad, ac yn arbennig felly o gofio cynigion ar gyfer datblygiadau mawrion ar y tir o gwmpas

 

Ÿ

roedd caniatâd cynllunio ar y safle gynt

 

      

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio’ er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd Peter Dunning am dynnu sylw at tua 150 o garafanau parhaol ger y safle ar yr OHP, roedd yn teimlo nad oedd y safle yn dirwedd cefn gwlad agored o ansawdd uchel, gofynnodd y Cynghorydd Dunning i'r aelodau lynu wrth eu penderfyniad blaenorol a chaniatáu'r cais.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd John Chorlton fod ymdrechion yn cael eu gwneud i ddatblygu stad ddiwydiannol rhyw 100 llath o'r safle a chynigiodd ganiatáu'r cais, ac fe eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Glyn Jones.

 

      

 

     Nododd y Cynghorydd J Arthur Jones fod y safle yn gorwedd o fewn AHNE ai fod yn groes i bolisïau.

 

      

 

     Yn nhermau polisi, roedd y Rheolwr Rheoli Cynllunio am gymharu'r cais hwn gyda'r un a wrthodwyd yn 6.8 o'r cofnodion hyn a gofynnodd i'r aelodau fod yn gyson yn eu penderfyniadau.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

      

 

     Caniatáu'r cais, yn groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr John Chorlton,

 

     Eurfryn Davies, PM Fowlie, Aled Morris Jones, O Glyn Jones, RL Owen, John Roberts,

 

      

 

     Derbyn adroddiad y swyddog i wrthod y cais:  Y Cynghorwyr J Arwel Edwards, Denis Hadley, J Arthur Jones, J Arwel Roberts, John Rowlands, WJ Williams

 

      

 

     PENDERFYNWYD glynu wrth y penderfyniad blaenorol i ganiatáu'r cais yn groes i argymhelliad y swyddog, yn unol ag amodau safonol, cadarnhaodd yr aelodau y rhesymau dros ganiatáu'r cais.

 

      

 

7

CEISIADAU ECONOMAIDD:

 

      

 

7.1     34LPA850C/DA/CC/ECON  MANYLION LLAWN I GODI CANOLFAN SGILIAU ADEILADWAITH A RHWYDWAITH CYSYLLTIEDIG YNGHYD A DYMCHWEL YR ADEILAD PRESENNOL WEDI EI GANIATÁU O DAN GAIS AMLINELLOL RHIF 34LPA850/CC AR DIR GER COLEG MENAI, LLANGEFNI

 

   

 

Gan y Cynghorydd Eurfyn Davies a J Arthur Jones cafwyd datganiad o ddiddordeb a gadawsant y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r pleidleisio.  Dywedodd y Cynghorydd Bryan Owen mai ef oedd yr aelod lleol ond ni allai gymryd rhan yn y drafodaeth gan ei fod wedi datgan diddordeb yn flaenorol.

 

 

 

Cais yw hwn yn ymwneud a materion a gadwyd wrth gefn ac a gyflwynwyd o dan gais amlinellol gan y Cyngor.  Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod yr argymhelliad yn un o ganiatáu.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd John Roberts cafwyd cynnig o ganiatáu, cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd RL Owen.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd yn unol a'r amodau y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.

 

      

 

     Ymatal ei bleidlais a wnaeth y Cynghorydd PM Fowlie.

 

      

 

8

CEISIADAU AM DAI FFORDDIADWY:

 

      

 

     Doedd dim ceisiadau am dai fforddiadwy i’w hystyried yn y cyfarfod hwn.

 

      

 

9

CEISIADAU’N TYNNU’N GROES

 

      

 

9.1     19C712H  CAIS LLAWN I NEWID DEFNYDD AC AIL DDATBLYGU’R EIDDO I 8 O UNEDAU PRESWYL YNGHYD A CHODI 33 O UNEDAU PRESWYL NEWYDD AC ADDASU’R FYNEDFA BRESENNOL I GERBYDAU YN PORTHYFELIN HOUSE, CAERGYBI

 

      

 

Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno oherwydd natur y cais a hanes cynllunio’r safle.

 

 

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio yr aelodau at hanes blaenorol y safle, yn cynnwys penderfyniad i wrthod ddau gyfarfod yn ôl.  Mewn ymateb i ymgynghori statudol roedd y Cyngor Tref yn cefnogi, a Dwr Cymru ddim yn gwrthwynebu, Cymdeithas Archeolegol Gwynedd yn awgrymu amodau ac roedd disgwyl am ymateb yr aelod lleol.  Roedd yr Adran Traenio yn argymell amodau.  Cadarnhaodd y swyddog nad oedd hyn yn unol â'r Cynllun Lleol ond roedd y safle, fodd bynnag, wedi ei gynnwys yn y ffin ddatblygu yn y CDU a stopiwyd; roedd yr argymhelliad "yn y fantol" geid yn yr adroddiad yn un oedd yn awdurdodi Pennaeth y Gwasanaeth Cynllunio i gymeradwyo'r cais, gydag amod 106, byddai unrhyw sylwadau newydd o bwys gai eu derbyn o fewn y cyfnod ymgynghori oedd ar ôl yn cael eu hadrodd yn ôl i'r Pwyllgor.  

 

 

 

Ar ran yr aelod lleol, gofynnodd y Cynghorydd RLl Jones am gael gohirio gwneud penderfyniad er mwyn caniatáu'r 21 diwrnod llawn ar gyfer ymgynghori.

 

 

 

  Yn absenoldeb yr aelod lleol, cynigiodd y Cynghorydd RL Owen y dylid gohirio gwneud penderfyniad ar y cais hwn, ac roedd y Cynghorydd WJ Williams yn cytuno gyda hyn.

 

 

 

Cwestiynu effaith weledol y cynnig o safbwynt cadwraeth wnaeth y Cynghorydd Eurfryn Davies  a chyfeiriodd yr aelodau at adroddiad y swyddog ar dai fforddiadwy, ac roedd yntau hefyd am gynnig fod y cais yn cael ei ohirio.

 

 

 

Nododd y Cynghorydd Glyn Jones fod pryderon priffyrdd, h.y. darparu dau le pasio a chwestiynodd os oeddynt yn ddigon i dros 40 o dai ychwanegol.

 

 

 

Roedd y Cynghorydd John Chorlton yn dweud fod yr adeilad mawr hwn wedi mynd a'i ben iddo, ac roedd datblygwr yn barod i fuddsoddi yn yr ardal ac felly roedd am gynnig rhoi caniatâd i'r cais hwn, roedd yn teimlo ei fod yn hanfodol i adfwyio economaidd yr ardal yn gyffredinol, yn cynnwys datblygiad Blaen y Dwr.  Efallai y byddai darparu mannau pasio yn fwy cydnaws gyda chymeriad yr ardal.  

 

 

 

Cytunodd y Cynghorydd J Arthur Jones y byddai hwn yn welliant ar yr hyn oedd yno ar hyn o bryd.

 

 

 

Roedd y Cynghorydd Denis Hadley yn teimlo y byddai hwn yn adfywio'r ardal ac yn hybu twristiaeth, ond roedd yn amheus os oedd isadeiladwaith y ffyrdd lleol yn ddigonol, ac roedd ymgais i ddatblygu adeilad gwag arall yn yr ardal hon wedi methu oherwydd rhwydwaith y ffyrdd.

 

 

 

Roedd y Cynghorydd J Arwel Roberts am gwestiynu safiad y Pwyllgor ynglyn a rhaglen amser ac roedd yn bryderus a allai'r datblygwr wneud apêl yn erbyn diffyg gwneud penderfyniad.

 

 

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd WJ Williams at adroddiad y swyddog ar "Ardal Cadwraeth a Gosodiad yr Adeilad Rhestredig", a chwestiynodd os oedd yr Adran Briffyrdd yn gweld fod darparu dau le pasio'n ddigonol yn yr achos hwn, a nododd hefyd wrthwynebiad y Swyddog Bioamrywiaeth.  Cadarnhaodd y Swyddog Rheoli Datblygu Priffyrdd eu bod yn gweld fod dau le pasio ychwanegol yn annigonol a'u bod yn teimlo y dylai'r ffordd tuag at yr adeilad gael ei lledu.  

 

 

 

Atgoffodd y Pennaeth Rheoli Datblygu'r aelodau o'r sefyllfa fel y'i gwelwyd yn ystod yr ymweliad safle wnaed yn ddiweddar.  Roedd swyddogion cynllunio yn cydnabod gwrthwynebiad yr Adran Briffyrdd ond roeddynt yn teimlo y byddai creu dau le pasio ychwanegol a gwellianau eraill yn datrys y sefyllfa.  Roedd y cynllun yn awr wedi ei ddiwygio a nifer yr unedau wedi eu gostwng o 51 i 41.  Roedd trafodaethau wedi digwydd gyda'r ymgeiswyr ac yr oeddynt wedi cynnig talu tuag at 'anghenion tai lleol' yn lle gwneud darpariaeth o dai fforddiadwy ar y safle.

 

 

 

Awgrymodd y cyfreithiwr y gallai'r Pwyllgor ystyried os oedd y taliadau wnaed tuag at anghenion tai fforddiadwy yn cyfateb i 15 uned ar y safle.

 

 

 

Cynigiodd y Cynghorydd John Chorlton fod adroddiad y swyddog yn cael ei derbyn a bod awdurdod yn cael ei roi i Bennaeth y Gwasanaeth Cynllunio gymeradwyo'r cais.

 

 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Fowlie fod ymweliad safle yn digwydd gyda swyddogion o'r Adran Briffyrdd, ac fe eiliwyd hyn gan y Cynghorwyr Eurfryn Davies a John Roberts.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â'r safle ym mhresenoldeb swyddogion o'r Adain Briffyrdd.  

 

      

 

9.2     19C712J/LB  CAIS ADEILAD RHESTREDIG I NEWID DEFNYDD AC AIL DDATBLYGU’R EIDDO I 8 O UNEDAU PRESWYL YNGHYD A CHODI 33 O UNEDAU PRESWYL NEWYDD AC ADDASU’R FYNEDFA BRESENNOL I GERBYDAU YN PORTHYFELIN HOUSE, CAERGYBI

 

      

 

Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno oherwydd natur y cais a hanes cynllunio’r safle.

 

 

 

Yn wyneb y penderfyniad ar eitem 9.1 uchod, gohiriwyd ystyried y cais hwn.

 

 

 

9.3     28C74D  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD YNGHYD AG ADDASU’R FYNEDFA BRESENNOL A GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD AR RAN O GAE 7886 GER PEN Y BRYN, LLANFAELOG

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl  dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Cyfeiriodd y Rheolwr Rheoli Datblygu at yr hanes o wrthod ar y safle, gan gynnwys ar apêl, argymhelliad cryf o wrthod oedd yma.  

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Glyn Jones fod yr ymgeisydd y drydedd, os nad y bedwaredd, genhedlaeth o deulu lleol, roedd yr ymgeisydd wedi graddio yn dilyn cwblhau ei haddysg, roedd prisiau tai lleol yn £170,000 a mwy, roedd ei thad yn bryderus y byddai'n rhaid iddi adael yr ardal i gael cartref.  Gyda theras o 8 o dai gerllaw roedd y Cynghorydd Jones yn teimlo fod hwn yn esiampl dda o fewnlenwi.  

 

      

 

     Roedd y Rheolwr Rheoli Cynllunio am atgoffa'r aelodau o'u dyletswydd i fod yn gyson yn eu penderfyniadau ac yn eu penderfyniad i wrthod cais tebyg yn eitem 6.8 o'r cofnodion hyn.  Nid oedd y cais wedi cael ei gyflwyno fel un am dy fforddiadwy, ac ni fyddai unrhyw gyfyngiad ar ei werthu ar y farchnad agored.  

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd John Roberts ynglyn a mewnlenwi, dywedodd y swyddog fod y safle yn gorwedd y tu allan i unrhwy ffin ddatblygu sy'n cael ei gydnabod, neu hamled, ac roedd yn eithriad oddi wrth y polisïau.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd WJ Williams yn teimlo y dylai'r cais hwn gael ei ail gyflwyno fel un am dy fforddiadwy.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd Eurfryn Davies yn cydymdeimlo gyda sefyllfa pobl ifanc leol yn ceisio cael troed i fewn yn y farchnad dai.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd Glyn Jones yn teimlo fod hwn yn safle tir llwyd, a gofynnodd ar i bobl ifanc leol gael cyfle i adeiladu ty yn eu cymuned leol; roedd am atgoffa aelodau'r Awdurdod o safiad yr Awdurdod fel "Yr Ynys o Ddewis", ac roedd am gynnig caniatáu'r cais, ac fe eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Aled Morris Jones

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

      

 

     Caniatáu'r cais yn groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr Eurfryn Davies,

 

     PM Fowlie, Aled Morris Jones, O Glyn Jones, RL Owen

 

      

 

     Derbyn adroddiad y swyddog i wrthod y cais:  Y Cynghorwyr Arwel Edwards, Denis Hadley, J Arwel Roberts, John Rowlands, WJ Williams

 

      

 

     Ymatal: Y Cynghorydd John Chorlton

 

      

 

     Roedd y bleidlais yn bump yr un ac wrth i'r Cadeirydd ddefnyddio ei bleidlais fwrw PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais am y rhesymau a roddwyd.  

 

      

 

9.4     41C114  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD YMDDEOLIAD AMAETHYDDOL YNGHYD A GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD AR DIR GYFERBYN A TWLL Y CLAWDD, GAERWEN

 

      

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl  dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Dygodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio sylw i'r ffaith fod y safle yn y cefn gwlad agored ar yr OHP a bod y cais yn tynnu'n groes i bolisïau.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Noel Thomas fod y teulu lleol hwn yn dymuno ymddeol ymhen rhyw dair blynedd o fanddaliad y Cyngor.  Roedd y tir hwn oedd ym ymestyn i rhyw 35 acer, wedi bod ym mherchnogaeth y teulu am nifer o flynyddoedd, ac yn is i lawr y ffordd drol roedd hen fwthyn wedi mynd a'i ben iddo.  Ychwanegodd y Cynghorydd Thomas y gallai mab yr ymgeisydd efallai barhau gyda thenantiaeth y fferm os byddai hyn yn cael ei ganiatáu, ac roedd am annog yr aelodau i roddi ystyriaeth ffafriol i'r cais hwn.  

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd Eurfryn Davies yn cydymdeimlo gyda sefyllfa'r teulu a'u dymuniad i barhau gyda'r traddodiad o ffermio, ac argymhellodd roi caniatâd, ac fe eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Aled Morris Jones.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio nad oedd hwn wedi ei gyflwyno fel annedd amaethyddol, ac mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Aled Morris Jones fe gytunodd y swyddog nad oedd 35 acer yn gwneud hwn yn ddaliad amaethyddol dichonol.  Tynnodd y swyddog sylw'r aelodau at pa mor anghysbell oedd y safle, roedd hwn yn gais drwg o fynd yn groes i bolisïau.

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

      

 

     Caniatau'r cais yn groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr Eurfryn Davies,

 

     Aled Morris Jones

 

      

 

     Derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais:  Y Cynghorwyr John Chorlton, Arwel Edwards, PM Fowlie, Denis Hadley, RL Owen, John Roberts, J Arwel Roberts, John Rowlands, WJ Williams

 

     Ymatal:  Y Cynghorydd O Glyn Jones

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a gwrthod y cais am y rhesymau a roddwyd.

 

      

 

     Teimlai'r Cynghorydd John Roberts y dylai'r Pwyllgor Gwaith ail-sefydlu Panel Manddaliadau'r Cyngor.

 

      

 

      

 

9.5     45C79E  CAIS AMLINELLOL I GODI 15 O ANHEDDAU YNGHYD A CHREU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU AC I GERDDWYR AR DIR GEN MEDDYGFA PEN-Y-BRYN, STRYD Y CAPEL, DWYRAN

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod materion heb eu datrus yn ystod y broses ymgynghori.

 

      

 

     PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais hwn am y rheswm a roddwyd.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

10

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

10.1      17LPA494H/CC  CAIS AMLINELLOL AR GYFER DATBLYGIAD O GYFLEUSTER PWER NWY CLADDFA SBWRIEL YNGHYD A MYNEDFA, RHWYDWAITH MEWNOL A THIRLUNIO CYSYLLTIEDIG AR DIR SAFLE TIRLENWI PENHESGYN, PENHESGYN, LLANSADWRN

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno gan i’r cais gael ei gyflwyno gan y Cyngor Sir.

 

      

 

     Cafwyd datganiad o ddiddordeb gan yr aelodau a ganlyn:  Y Cynghorwyr John Chorlton, Eurfryn Davies, PM Fowlie, J Arthur Jones, John Roberts, WJ Williams ac ni chymerasant ran yn y drafodaeth.  Datganodd y Cynghorydd J Arwel Roberts ei fod yn aelod o GCMA ac er ei fod am gymryd rhan yn y drafodaeth ni fyddai yn pleidleisio ar y cais.

 

      

 

     Dywedodd yr Uwch Swyddog Cynllunio (Mwynau a Gwastraff) fod yna tua chwe llythyr hwyr yn gwrthwynebu wedi dod i law, ac yr oedd yr argymhelliad yn un o ganiatáu'r cais.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd Arwel Edwards, ar ran yr aelod lleol, am gynnig fod y cais yn cael ei gyfeirio i gyfarfod llawn o'r Cyngor Sir i'w benderfynu.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Noel Thomas ei fod yn aelod o CGMA; roedd yn cefnogi'r cais arbennig hwn, fodd bynnag, roedd ganddo bryderon mawr ynglyn a chynigion am y dyfodol i'r safle, fe ddylai'r cais gael ei ystyried yn fanwl gan y Cyngor llawn.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd Aled Morris Jones yn tybio y dylai hwn gael ei ystyried fel cais economaidd, ac felly fe ddylai gael ei ystyried gan y Cyngor llawn.

 

      

 

     Pleidleisiodd yr aelodau a ganlyn i'r cais gael ei gyfeirio i gyfarfod llawn o'r Cyngor Sir i benderfynu arno:  Y Cynghorwyr Arwel Edwards, Aled Morris Jones, Glyn Jones, RL Owen, John Rowlands

 

      

 

     PENDERFRYNWYD cyfeirio'r cais i'r Cyngor Sir llawn benderfynu arno.

 

      

 

10.2      19C954  DYMCHWEL YR ANNEDD PRESENNOL YNGHYD A CHODI 6 ANNEDD NEWYDD, ADDASU’R FYNEDFA BRESENNOL I GERBYDAU A CHREU MANNAU PARCIO YCHWANEGOL AR DIR GLASFRYN, FFORDD CYTTIR, CAERGYBI

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Anghytuno a wnaeth y Cyngorydd Keith Thomas a chanfyddiad y swyddog ac argymhellodd ymweliad â'r safle i'r aelodau asesu'r sefyllfa drostynt eu hunain.

 

      

 

     Cafwyd cynnig i ymweld â'r safle gan y Cynghorydd RL Owen a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Glyn Jones.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â'r safle am y rheswm a roddwyd.

 

      

 

10.3      19LPA707B/CC/AD  CAIS I GODI HYSBYSFWRDD GWYBODAETH AR FAES PARCIO STANLEY CRESCENT, CAERGYBI

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno gan ei fod yn effeithio ar dir y Cyngor.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd John Chorlton cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais hwn.

 

      

 

     PENDERFYNWYD rhoddi caniatâd amodol o dros gyfnod o bum mlynedd am y rhesymau a roddwyd ac yn unol ag amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

10.4      19LPA851A/CC  CAIS I DDILEU AMOD (04) ODDI AR GAIS 19LPA851CC SYDD WEDI CAEL EI GANIATÁU ER MWYN DIWYGIO’R CYNLLUN A GOSODIAD CYMERADWY I’R MAES PARCIO A COMPOWND MAES PARCIO FFORDD FICTORIA, CAERGYBI

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno gan fod y cais yn cael  ei gyflwyno gan y Cyngor ar safle sy’n rhannol ym mherchnogaeth y Cyngor.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd John Chorlton cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais hwn.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a rhoi awdurdod i Bennaeth y Gwasanaethau Cynllunio ganiatáu'r cais, yn amodol ar beidio derbyn unrhyw ymateb croes yn ystod gweddill y cyfnod ymgynghori ac yn unol a'r amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

10.5      20C233  CODI 11 O DAI MARCHNAD AGORED A 8 O DAI FFORDDIADWY AR WAHAN YNGHYD A CHREU MYNEDFA NEWYDD I GEIR AR GAEAU RHIF 6512 A 7113 GER DERWYDDFA, CEMAES

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl  dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     I bwrpas cofnodi, dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod y cais yn un yn groes i bolisïau o dan Gynllun Lleol Ynys Môn, ond fod y safle wedi ei gynnwys yn y ffin ddatblygu yn y CDU a stopiwyd.  Roedd mater perchnogaeth tir yn awr wedi ei ddatrys.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd John Williams yn tybio fod cyfanswm o 19 annedd yn ormod ar y safle gyda mynediad uniongyrchol i'r A5025, ac yr oedd yr Arolygwr Cynllunio wedi argymell y dylai 10 o dai gael eu hadeiladu ar y safle; cyfeiriodd yr aelodau at y nifer o wrthwynebiadau gan gynnwys problemau traenio a cholli golygfeydd.  Dylai gwrthwynebiad rhif 13 ddarllen Capel "Bethesda" a dim Capel "Bethlehem".

 

      

 

     Dangosodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio y ffin ddatblygu a dywedodd fod y safle yn gorwedd o fewn y ffin.   

 

      

 

     Gan y Cynghorydd John Roberts cafwyd cynnig o dderbyn adroddiad y swyddog i  ganiatáu'r cais a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd John Chorlton.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd, yn unol a'r amodau y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.  

 

      

 

10.6      28C367A  DILEU AMOD (09) O GANIATÂD CYNLLUNIO 28C367 ER MWYN GOSOD FFENESTRI, FFASGIAU A GWTERI PLASTIG GWYN AR YR ADEILADAU ALLANOL YN BRYN HYFRYD, BRYNGWRAN

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl  dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Anghytunodd y Cynghorydd Glyn Jones "y buasai'r cynnig yn golygu colli cymeriad a deunyddiau adeiladau traddodiadol"  - mae safle'r cais y drws nesaf i dy gyda ffenestri gyda UPVC yn ogystal a'r mwyafrif o dai eraill yn y parthau, ac roedd y Cynghorydd Glyn Jones yn gweld fod hyn yn fwy effeithlon i gadw ynni; dim ond y talcen fyddai i'w weld gan fod gweddill yr adeilad wedi ei sgrinio gan goed.  Roedd y Cynghorydd Glyn Jones am gynnig caniatáu'r cais gyda'r amod fod y steil draddodiadol yn cael ei chadw, ac fe eiliwyd hyn gan y Cynghorydd PM Fowlie.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

     Pleidleisiodd yr aelodau a ganlyn i ganiatáu'r cais, yn groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr John Chorlton, Eurfryn Davies, PM Fowlie, Aled Morris Jones, Glyn Jones,

 

     RL Owen, WJ Williams,

 

      

 

     Y rheswm a roddwyd dros ganiatáu oedd y teimlai'r aelodau y byddai'r math o ddeunyddiau a fwriedir yn gweddu gyda anheddau eraill yn yr ardal.

 

      

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio'n otomatig i'r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu'r cais.

 

      

 

      

 

10.7     30C621  CAIS LLAWN AR GYFER DATBLYGIAD TRIGIANNOL YN CYNNWYS 31 O ANHEDDAU YNGHYD A CHREU MYNEDFA NEWYDD I GEIR A CHERDDWYR AR DIR YN LÔN PANT Y CUDYN, BENLLECH  

 

      

 

     Cafwyd cynnig i ymweld â'r safle gan y Cynghorydd PM Fowlie, a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Eurfryn Davies.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â'r safle.

 

      

 

10.8      30C623  ADDASU AC EHANGU 1 CAE CALI, BRYNTEG

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno gan fod asiant yr ymgeisydd yn gyflogedig gan y Cyngor.

 

      

 

     Cafwyd datganiad o ddiddordeb gan Mr Paul Roberts o'r Adain Rheoli Adeiladu yn y cais hwn.

 

      

 

     Ni welai'r Cynghorydd D Lewis-Roberts unrhyw broblem ynglyn â'r cais hwn.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a rhoi'r awdurdod i Bennaeth y Gwasanaethau Cynllunio ganiatáu'r cais, yn amodol ar beidio derbyn ymateb croes yn ystod gweddill y cyfnod ymgynghori ac yn unol a'r amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

10.9      34LPA847B/TPO/CC  CAIS I DOCIO A TOPIO COEDEN ONNEN WEDI EI DIOGELU DAN ORCHYMYN DIOGELU COED YN Y DINGL, LLANGEFNI

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno gan fod y cais yn cael ei gyflwyno gan y Cyngor Sir.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd yn unol a'r amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

10.10      36C206B  CREU MYNEDFA AMAETHYDDOL NEWYDD AR RAN O GAE RHIF 2800 GER CEFN CANOL, LLANGRISTIOLUS

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno gan mai Aelod o’r Cyngor yw’r ymgeisydd.

 

      

 

     Cafwyd datganiad o ddiddordeb gan y Cynghorydd RLl Hughes yn y cais hwn.

 

      

 

     Cafwyd cynnig o ganiatáu gan y Cynghorydd Glyn Jones a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd RL Owen.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd yn unol a'r amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

10.11      38C237  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD, CREU MYNEDFA NEWYDD A GOSOD TANC SEPTIG YN MAES MAWR, LLANFECHELL

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno gan mai mab i Aelod o’r Cyngor yw’r ymgeisydd ac nid "aelod o'r Pwyllgor Cynllunio" fel yr honnir yn yr adroddiad.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Thomas Jones cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais.  

 

      

 

     Dosbarthodd y Cynghorydd John Williams gynllun a thynnodd sylw'r aelodau at y ffaith fod y safle yn gorwedd ymysg clwstwr.  Mae'r safle'n gorwedd ar y ffin ddatblygu ac fe ellir ei ystyried o dan Bolisi 50 fel un oedd yn gyfagos neu'n un oedd ar y ffin.  Dyn ifanc lleol oedd yr ymgeisydd ac roedd yn berchen ar y tir hwn ac roedd hynny'n ei gwneud yn fwy fforddiadwy iddo adeiladu.  Roedd yr ymgeisydd hefyd yn denant ar fferm gyfagos lle nad oedd ty - roedd hwn yn cael ei ystyried i fod yn gyswllt amaethyddol.  Roedd caniatâd wedi ei roi yn ddiweddar gerllaw ac roedd am ofyn i'r aelodau fod yn gyson yn eu penderfyniad.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio nad oedd hwn yn gais amaethyddol - fe allai gael ei wrthu ar y farchnad agored;  roedd y safle yn rhy bell oddi wrth y ffin ddatblygu; nid oedd digon o welededd o'r fynedfa i'r safle.  Mewn ymateb i gwestiynnau fe ddywedodd y swyddog fod y tir mewn cwestiwn yn ymestyn i ryw hanner acer.  

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd John Roberts, dywedodd y Cynghorydd John Williams mai yn Rhos-goch.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd PM Fowlie cafwyd cynnig i ymweld a'r safle, a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Glyn Jones.  Cytunodd y Cynghorydd Aled Morris Jones y dylid ymweld a'r safle i weld os gellid ei ystyried o dan Bolisi 50.

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd John Chorlton y dylid derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais, ac fe eiliwyd hyn gan y Cynghorydd J Arwel Roberts.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld a'r safle am y rhesymau a roddwyd.

 

      

 

11

CEISIADAU A DDIRPRWYWYD

 

      

 

     Cyflwynwyd a derbyniwyd, adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Amgylchedd a Gwasanaethau Technegol) ar geisiadau a ddirprwywyd ac y gwnaethpwyd penderfyniad arnynt ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor hwn.

 

      

 

12      38C21A  BRYN MECHELL, LLANFECHELL - NEWID DEFNYDD TIR O 12 CARAFAN AR GYFER DEFNYDD GWYLIAU I 12 CARAFAN PRESWYL

 

      

 

     Adroddwyd a nodwyd i’r Pwyllgor hwn yn ei gyfarfod ar 7 Rhagfyr, 2005 wrthod y cais uchod yn unol ag adroddiad y swyddog.   Yn y cyfamser cyflwynwyd Tystysgrif o Gyfreithlondeb am ddefnydd preswyl ar y maes carafanau.  Cymeradwywyd hyn ar 26 Ebrill, 2006 ac fe dynnwyd cais cynllunio 38C21A yn ol.

 

      

 

13

APELIADAU

 

      

 

13.1     BRYNIAU, LÔN PENRHYN GARW, TREARDDUR

 

      

 

     Cyflwynwyd, er gwybodaeth, gopi o grynodeb o benderfyniad yr Arolygydd a benodwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar apêl yn erbyn penderfyniad yr Awdurdod hwn i wrthod caniatâd cynllunio amlinellol i ddymchwel yr annedd presennol a chodi pedair annedd newydd ar y tir dan gais cynllunio rhif 46C397 - gwrthodwyd yr apêl.

 

      

 

13.2      MAES CARAFANAU MELIN RHOS, LLUGWY

 

      

 

     Cyflwynwyd, er gwybodaeth, gopi o lythyr gan yr Arolygaeth Cynllunio yn dweud fod apêl mewn perthynas a’r uchod wedi ei thynnu’n ôl a bod y ffeil wedi ei chau (cyf: APP/L/6805/A/06/1199121).

 

      

 

      

 

     Dechreuodd y cyfarfod am 1.00 p.m. a daeth i ben am 4.05 p.m.       

 

      

 

      

 

     J ARWEL ROBERTS

 

     CADEIRYDD