Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion dogfennau , 4 Tachwedd 2009

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Dydd Mercher, 4ydd Tachwedd, 2009

PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION

 

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Tachwedd 2009

 

PRESENNOL:

 

Y Cynghorydd Kenneth Hughes - Cadeirydd

                                                

Y Cynghorwyr W.J. Chorlton; E.G. Davies; Lewis Davies; B. Durkin; W.T. Hughes; O. Glyn Jones; T. Jones; R.L. Owen; J. Arwel Roberts; H.W. Thomas; J.P. Williams; S. Williams;

 

Aelod Portffolio - R.G. Parry OBE;

 

HEFYD YN BRESENNOL:

 

 

 

Aelodau Lleol :  A. Morris Jones; Peter S. Rogers;

WRTH LAW:

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Pennaeth Rheoli Datblygu (EGJ);

Arweinydd Tîm (Gorfodaeth, Mwynau a Gwastraff)(JIW);

Cymhorthydd Cynllunio (GJ);

 

Prif Beiriannydd (Rheoli Datblygu a Hawliau Tramwy Cyhoeddus)  (JRWO)

 

Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol (RJ);

Swyddog Pwyllgor (JMA) & (MEH);

YMDDIHEURIAD:

 

Y Cynghorydd Jim Evans

 

Cyn dechrau ar Raglen y cyfarfod, rhoddodd y Cadeirydd groeso i’r Cynghorydd W.T. Hughes i’w gyfarfod cyntaf fel Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

1

YMDDIHEURIADAU

 

Y Cynghorydd Jim Evans.

 

2

DATGANIAD O DDIDDORDEB

 

Derbyniwyd a chofnodwyd y datganiadau o ddiddordeb o dan yr eitemau perthnasol.

 

3

COFNODION

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd fel rhai cywir, gofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 7 Hydref 2009 gyda’r newid y dylai “Chwarel Nant, Brynteg” gael ei gynnwys yn y disgrifiad ar eitem 11.3 ar Tudalen 12 o’r cofnodion.

 

4   YMWELIADAU SAFLE

 

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd cofnodion yr Ymweliadau Safle a gynhaliwyd ar 21 Hydref 2009.

 

 

 

5

CEISIADAU A OHIRIWYD

 

 

 

5.1 - 26C17G - Gwesty Beauchelles, Marianglas.

 

 

 

Cafwyd Datganiad o Ddiddordeb gan y Cynghorydd Selwyn Williams.

 

Cais llawn i addasu gwesty yn 9 uned breswyl, codi 9 uned breswyl newydd a gwneud gwaith altro i’r fynedfa bresennol a gosod gwaith trin carthffosiaeth preifat yng Ngwesty Beauchelles, Marianglas.

 

 

 

Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu mai cais oedd hwn am ddatblygiad mawr mewn safle oedd wedi’i ddatblygu cyn hyn ac o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ac fe ddylid gweld y safle cyn gwneud unrhyw benderfyniad.

 

 

 

PENDERFYNWYD ymweld â’r safle yn unol ag argymhelliad y Swyddog.

 

 

 

6   CEISIADAU YN CODI O’R COFNODION

 

 

 

6.1

- Cais amlinellol i ddymchwel y Cwt Sgowtiaid presennol a chodi annedd newydd yn Neuadd y Sgowtiaid, Stryd y Capel, Biwmares

 

 

 

Roedd y cais hwn wedi’i gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion yn ei gyfarfod ar 7 Hydref 2009, ac fe benderfynodd yr Aelodau ymweld â’r safle.  Fe ymwelwyd â’r safle ar 21 Hydref 2009.

 

 

 

Yr Aelod Lleol oedd wedi gofyn am i’r cais hwn gael ei ddwyn gerbron y Pwyllgor Cynllunio oherwydd y pryderon oedd ganddo ynglyn ag agosrwydd y tanciau petrol yn yr eiddo cyfagos.  Mae safle’r cais o fewn Biwmares ac yn ffryntio Stryd y Capel.  Mae yno adeilad unllawr ar hyn o bryd sef Cwt y Sgowtiaid, sydd y drws nesaf i’r garej betrol.

 

 

 

Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu mai cais amlinellol yw hwn i ddymchwel yr adeilad presennol a chodi annedd newydd.  Yn dilyn cwestiynau a godwyd yn ystod yr ymweliad safle, fe wnaed ymholiadau gyda’r Adran Iechyd Amgylcheddol ac mae’r Adran honno yn awr yn edrych i mewn i union leoliad y tanciau.  Pwysleisiodd nad oedd ef na’r Adran Iechyd Amgylcheddol yn gwybod am unrhyw broblemau yn y safle.  Roedd y Swyddog yn argymell y dylid caniatau’r cais ond na ddylid rhyddhau’r rhybudd penderfyniad nes y ceid ymateb gan yr Adran Iechyd Amgylcheddol.  Pe bai’r adain yn nodi bod problem ar y safle, yna byddai’r cais yn cael ei ailgyflwyno i’r Pwyllgor hwn i’w benderfynu.

 

 

 

Roedd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd R.L. Owen yn hynod o bryderus ynglyn ag agosrwydd yr orsaf betrol i’r safle.  Dywedodd ei fod yn rhyfeddu nad oedd yr Adran Priffyrdd yn gwrthwynebu’r datblygiad.  Roedd ganddo bryderon hefyd ynglyn â ffiwms o’r orsaf betrol ac y gellid cael ffrwydriad.

 

 

 

Roedd y Cynghorydd Eurfryn Davies yn rhannu pryderon yr Aelod Lleol.  Roedd am dynnu sylw at y ffaith bod y sawl oedd yn cadw’r garej yn gwrthwynebu’r cais a darllennodd ddarn o lythyr a dderbyniwyd ganddynt.  Roedd ganddo barch mawr i’r Swyddogion meddai ef, ond roedd yn credu y byddai’r Pwyllgor ar dir sigledig iawn pe bai’n caniatáu’r cais.

 

 

 

Y ffaith bod y lôn yn un gul iawn oedd yn poeni’r Cynghorydd Selwyn Williams a’i bod yn cael ei defnyddio fel ‘shortcut’.  At hynny, roedd Maes Parcio’r Liverpool Arms yn llifo allan i’r briffordd yn agos at y safle ac nid oedd yn credu bod safle’r cais yn un addas i’w ddatblygu.

 

 

 

Ail leisio cwestiynau yr oedd wedi’u codi yn ystod yr ymweliad safle wnaeth y Cynghorydd O.Glyn Jones a mynegi pryderon ynglyn â materion priffyrdd.  Roedd wedi sylwi bod ceir, wrth iddynt lenwi gyda phetrol, yn parcio hanner ffordd ar draws y ffordd.  Cyfeiriodd at y prawf dadansoddiad pridd a gofynnodd os oedd hyn wedi’i wneud.

 

 

 

Roedd y Cynghorydd John Chorlton wedi dychryn i glywed gan Gynghorwyr eraill bod y garej y drws nesaf i eiddo arall ac nid mewn lle ar ben ei hun.  Dywedodd am garej leol yng Nghaergybi lle roedd y tanciau o dan y brif stryd.  Nid oedd wedi’i synnu o gwbl bod perchenogion y garej yn gwrthwynebu’r cynnig gan ei bod yn dymuno prynu’r safle.  Nid oedd yn credu y byddai newid cwt am annedd yn achosi problem ar y briffordd a chynigiodd y dylid caniatau’r cais.

 

 

 

Cytuno gyda safbwynt y Cynghorydd Chorlton wnaeth y Cynghorydd Hefin Thomas oherwydd bod sawl eiddo arall o gwmpas y safle ac nid oedd yn credu y byddai un annedd arall yn creu problemau priffyrdd.   Eiliodd y cynnig i ganiatau’r cais.

 

 

 

Roedd y Cynghorydd Lewis Davies yn rhannu pryderon yr Aelodau eraill ynglyn â’r traffig a lleoliad y tanciau petrol.  Gofynnodd y Cynghorydd Durkin a oedd rhywun yn gwybod lle yn union yr oedd y tanciau.  Holodd y Cynghorydd John Penri Williams am ganlyniad y profion pridd a dywedodd y byddai’n falch o gael ateb cyn gwneud penderfyniad ar y cais hwn.

 

 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Eurfryn Davies bod y cais yn cael ei ohirio nes y byddai materion fel lleoliad y tanciau, cyflwr y pridd ac ati wedi’u datrys.  Ni chafodd ei gynnig ei eilio.

 

 

 

Tynnu sylw wnaeth y Prif Beiriannydd (Rheoli Datblygu a Hawliau Tramwy Cyhoeddus) bod y datblygiad arfaethedig yn cynnwys dau le parcio ger ochr yr annedd newydd (oddi ar y stryd) yn ogystal â dau le yn ffrynt yr annedd.  Roedd yn credu mai mantais fyddai hyn o safbwynt y briffordd.

 

 

 

Mewn ymateb i ddatganiad gan yr Aelod Lleol nad oedd Cwt y Sgowtiaid wedi bod yn cael ei ddefnyddio am bron i 15 mlynedd, roedd y Pennaeth Rheoli Datblygu am atgoffa’r Aelodau bod yna ddefnydd cyfreithlon i’r eiddo presennol a’i fod yn cadw’r hawl i’w ddefnyddio fel Cwt Sgowtiaid.  Dywedodd y Cynghorydd Selwyn Williams os nad oedd yr eiddo wedi’i ddefnyddio am 15 mlynedd yna ni fyddai wedi creu unrhyw draffig ond fe fyddai trigolion neu ymwelwyr i annedd newydd yn cynyddu llif y traffig.

 

 

 

Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu wrth yr Aelodau mai cais yw hwn am adeilad arall yng nghanol Biwmares a phwysleisiodd y broblem tai enfawr sydd ym Miwmares.  Dywedodd ei fod yn croesawu’r cyfle i greu annedd ar y safle hwn.  O safbwynt y prawf ar y pridd, dywedodd nad oedd hwn yn ofyn statudol ond atgoffodd yr Aelodau o’i sylwadau blaenorol ynglyn ag ymgynghori gyda’r Adain Iechyd Amgylcheddol ar rai pwyntiau a godwyd gan Aelodau.  Dywedodd nad oedd unrhyw broblemau wedi’u canfod ar y safle ond y gellid rhoi caniatâd, gydag amodau, yn gofyn am i arolwg gael ei wneud cyn dechrau’r datblygiad ac os byddai raid, bod y cais yn cael ei gyfeirio’n ôl i’r Pwyllgor i’w drafod ymhellach.  Cadarnhaodd bod y cyfnod amser yn un fyddai’n caniatáu i’r ymgeisydd apelio ar sail diffyg gwneud penderfyniad.

 

 

 

Roedd y Cynghorydd O. Glyn Jones wedi sylwi yn ystod yr ymweliad safle bod ceir oedd yn llenwi gyda phetrol yn tarfu ar y gyli oedd ger ochr y ffordd ac y gallai unrhyw betrol oedd yn colli fod yn draenio i mewn i’r gyli.  Fel ymladdwr tân, dywedodd y Cynghorydd Chorlton y byddai’n beth doeth i dynnu sylw hyn i sylw’r bobl / awdurdod priodol.

 

 

 

Yn ôl y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol, os oedd y Pwyllgor yn mynd i ohirio’r cais, yna fe ddylid rhoddi rhesymau pendant dros wneud hynny.  Er enghraifft, lleoliad y tanciau, rhaid rhoddi’r rhesymau am eu pryder ac ynglyn â’r prawf ar y pridd, fe ddylid dweud yn union beth ddylai gael ei brofi.  Os na cheid manylion felly, fe fyddai’n bosibl iawn y ceid apêl oherwydd diffyg gwneud penderfyniad.  

 

 

 

Roedd y Cynghorydd John Chorlton wedi cynnig y dylid caniatau’r cais ac roedd hyn wedi’i eilio gan y Cynghorydd Hefin Thomas.

 

 

 

PENDERFYNWYD caniatau’r cais gyda’r amodau fel y’u hamlinellwyd gan y Pennaeth Rheoli Cynllunio a’u nodi uchod.

 

 

 

Gofynnodd y Cynghorydd R.L. Owen am iddo gael ei gofnodi ei fod yn erbyn y cais.  

 

Roedd y Cynghorydd Selwyn Williams ac Eurfryn Davies wedi atal eu pleidlais.

 

 

 

6.2

-  14C28Y/ECON - Codi adeilad derbynfa newydd ynghyd â chodi gwaith adennill ynni biogas/treulio anaerobig, Plot 8, Parc Diwydiannol Mona, Mona

 

 

 

Cafwyd datganiad o ddiddordeb gan y Cynghorwyr Lewis Davies, Thomas Jones ac R.L. Owen.

 

 

 

Cafodd y cais hwn ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion yn ei gyfarfod ar 7 Hydref 2009, ac fe benderfynodd yr Aelodau ymweld â’r safle.  Cynhaliwyd yr ymweliad safle ar 21 Hydref, 2009.

 

 

 

Argymhelliad y Pennaeth Rheoli Datblygu oedd bod y cais yn cael ei ohirio gan bod angen datrys nifer o faterion technegol.  Roedd wedi ymgynghori gyda’r datblygwr ond nid oedd wedi cael unrhyw gytundeb ar y materion oedd ar ôl.

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.

 

 

 

6.3

- 24C262A - Cais llawn i godi annedd ynghyd â gwaith altro i’r fynedfa bresennol ar dir ger Llechwedd, Pengorffwysfa.

 

 

 

Cafodd y cais hwn ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion yn ei gyfarfod ar 7 Hydref 2009, ac fe benderfynodd yr Aelodau ymweld â’r safle.  Cynhaliwyd yr ymweliad safle ar 21 Hydref, 2009.

 

 

 

Dywedodd y Pennaeth Rheoli Cynllunio bod y safle o fewn ffram ddangosol Pengorffwysfa.  Mae mewn safle uchel yn ffryntio’r lôn gyda thai gyferbyn ac i bob ochr.  Cais yw hwn i adeiladu annedd.  Roedd pryderon wedi eu lleisio ynglyn â darparu llwybr troed ar hyd ffrynt y safle gyda hynny’n amod yn y caniatâd amlinellol a roddwyd cyn hyn.  Roedd Peirianwyr Priffyrdd y Cyngor yn parhau i ddweud bod angen llwybr ac yr oedd yr amod hon wedi’i chynnwys yn argymhelliad y Swyddog ar y cais.  Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu mai ei argymhelliad oedd rhoi caniatâd yn amodol ar dderbyn yr amod ynglyn â’r llwybr troed, yn unol â’r caniatâd amlinellol a roddwyd fis Mawrth 2008.

 

 

 

Diolchodd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd Aled Morris Jones i’r Pwyllgor am ymweld â’r safle. Roedd yn credu bod yr adeilad arfaethedig yn addas i’r ardal ac roedd yn cydnabod y byddai angen cloddio i mewn i’r safle i gael lefel boddhaol er mwyn sicrhau na fyddai’r annedd yn llawer uwch na’r eiddo o gwmpas.  Byddai’n ddiolchgar pe gallai swyddogion barhau i drafod hyn gyda’r datblygwr er mwyn sicrhau y byddai’r annedd newydd yn gweddu gyda’r eiddo arall o’i chwmpas.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Lewis Davies nad oedd wedi bod ar yr ymweliad safle swyddogol ond roedd yn adnabod yr ardal ac wedi ymweld â’r safle ac felly byddai’n pleidleisio ar y cais.

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd R.L. Owen y dylid caniatau’r cais.

 

      

 

     Holi wnaeth y Cynghorydd Hefin Thomas ynglyn ag uchder yr annedd newydd.  Dywedodd bod y cais hwn yn gais llawn a bod y cynlluniau ar gael i’r swyddogion i’w harchwilio a’u bod felly mewn sefyllfa i ddweud a fyddai’r annedd newydd yn fwy na’r pethau o’i gwmpas.  Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt y Swyddogion.  Roedd yntau’n cydnabod y byddai angen gwneud peth gwaith cloddio ond bod uchder yr annedd yn dderbyniol.  Cyfeiriodd y  Cynghorydd Chorlton at uchder a lefelau’r eiddo arall oedd gerllaw ac roedd yn credu bod y cynnig yn un derbyniol.  Roedd yn croesawu’r amod ynglyn â’r llwybr troed.

 

      

 

     Eiliodd y Cynghorydd Eurfryn Davies y cynnig i ganiatau’r cais.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y Swyddog a’r argymhelliad bod y cais yn cael ei ganiatáu.

 

      

 

      

 

6.4     -  30C83E - Dymchwel yr adeilad presennol a chodi adeilad newydd gydag ystafell chwarae, swyddfa, derbynfa, ystafell ffitrwydd, ystafell chwaraeon a stor yn Dolydd, Pentraeth.

 

      

 

     Cafwyd datganiad o ddiddordeb gan y Cynghorydd Barrie Durkin a dywedodd y byddai’n siarad ar y cais ond ddim yn pleidleisio ar y mater a chafwyd datganiad o ddiddordeb hefyd gan y Cynghorydd Selwyn Williams.

 

      

 

     Yn y cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 2 Medi, 2009, fe benderfynodd yr Aelodau ganiatau’r cais hwn a hynny’n groes i argymhelliad y Swyddog.  Y rhesymau a roddwyd dros ganiatau’r cais oedd bod yr Aelodau’n ystyried bod maint a safle’r adeilad yn dderbyniol ac nad oedd yn niweidiol i fwynderau, a bod yna adeiladau o’r un maint gerllaw ac y byddai’r cynnig o fudd i’r diwydiant twristiaeth.  Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor, fe gafodd y cais ei ailgyflwyno i’r aelodau ar 7 Hydref 2009, fel y gallent ystyried eu penderfyniad blaenorol.  Yn y cyfarfod hwnnw fe benderfynodd yr Aelodau ohirio’r penderfyniad terfynol ar y cais nes y ceid dyluniadau fyddai’n rhoi lefelau cywir y safle a’r adeilad arfaethedig.

 

      

 

     Roedd y Pennaeth Rheoli Datblygu am atgoffa’r Aelodau mai argymhelliad y Swyddog oedd gwrthod.  Dywedodd bod gwybodaeth wedi’i derbyn oedd yn dangos yr wybodaeth y gofynnwyd amdano, ac yn arbennig ffigyrau oedd yn dangos yr uchder a’r mesuriadau cyffredinol.  Dywedodd y Swyddog ei fod yn ymwybodol bod yna wrthwynebiad cryf yn lleol i’r datblygiad a dywedodd bod Asiant un o’r gwrthwynebwyr wedi nodi y bydd yn ceisio Adolygiad Barnwrol os na fyddir yn delio gyda’r cais mewn dull priodol.  Yn dilyn derbyn y cynlluniau, roedd yr Adran Gynllunio wedi ailymgynghori gyda phobl leol, gyda’r cyfnod yn dod i ben ar 19 Tachwedd ac felly roedd y Swyddog yn argymell gohirio’r cais hyd ddiwedd y cyfnod ymgynghori, ac wedyn ei ail gyflwyno i’r Pwyllgor.

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Hefin Thomas, fe gadarnhaodd y Swyddog ei bod yn briodol mewn rhai amgylchiadau i ail ymgynghori gyda deiliaid eiddo cyfagos ynglyn â chais, pan geir unrhyw wybodaeth newydd.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd John Chorlton nad oedd yn bresennol yn rhan gyntaf y drafodaeth ar y cais hwn ac na fyddai felly yn pleidleisio.  Nododd y Cynghorydd R.L. Owen hefyd y byddai’n atal ei bleidlais gan nad oedd yn bresennol yn y cyfarfod blaenorol.

 

      

 

     Dywedodd yr Aelod Lleol ei fod yn gwybod bod Swyddogion wedi gwneud pob ymdrech i gael yr wybodaeth cyn y cyfarfod cynllunio blaenorol, ond i’r ymgeisydd fethu â rhoi’r wybodaeth honno.  O ganlyniad, bu’n rhaid gwneud mwy o waith ymgynghori ymysg cymdogion ac felly dyna paham yr oedd y Pwyllgor yn methu gwneud penderfyniad ar y cais heddiw.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn argymhelliad y Swyddog ac y dylid gohirio gwneud penderfyniad ar y cais.

 

 

 

7

CEISIADAU ECONOMAIDD

 

      

 

     Ni chyflwynwyd unrhyw Geisiadau Economaidd i’w penderfynu gan y Pwyllgor hwn.

 

      

 

8     CEISIADAU TAI FFORDDIADWY

 

      

 

     Ni chyflwynwyd unrhyw geisiadau Tai Fforddiadwy i’w penderfynu gan y Pwyllgor hwn.

 

      

 

9     CEISIADAU’N TYNNU’N GROES

 

      

 

9.1     - 20C68G Cynlluniau diwygiedig i godi annedd ynghyd ag estyniad i’r cwrtil ar dir yn Bryn Tirion, Cemaes.

 

     Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod y cais wedi’i ddwyn gerbron y Pwyllgor Cynllunio oherwydd i’r datblygiad gael ei hysbysebu fel un oedd yn tynnu’n groes i’r cynllun datblygu ond yn un y mae’r Swyddogion yn bwriadu ei ganiatáu.

 

      

 

     Tua’r gogledd ac ar ochr arall i drac preifat sy’n rhoi mynediad i gerbydau i safle’r cais, mae yna eiddo preswyl.  Mae cwrtil eiddo preswyl arall i’r dwyrain ar derfyn dwyreiniol safle’r cais.  Mae Adain Briffyrdd y Cyngor wedi argymell rhoi caniatâd amlinellol, yn amodol ar i’r gwelededd o’r fynedfa i gyfeiriad y gorllewin i’r briffordd gael ei wella.  Cafwyd gwrthwynebiad yn dweud na allai’r ymgeisydd wneud y gwelliannau, ond er hynny mae’r Swyddogion yn fodlon y gallai’r gwaith oedd ei angen o dan yr amod “Grampian” gael ei wneud ac roedd yr Adran yn parhau i argymell caniatáu’r cais.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd W.T. Hughes, yr Aelod Lleol, nad oedd ganddo unrhyw wrthwynebiad i’r datblygiad.  Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Hefin Thomas ynglyn â’r ganran o’r datblygiad oedd tu allan i’r ffin, dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu ei bod tua 50%.  Gofynnodd y Cynghorydd Thomas felly oedd 50% yn dderbyniol a dywedodd y Swyddog y byddai pob cais yn cael ei ystyried ar ei rinweddau.  Dywedodd y byddai mantais gynllunio o safbwynt priffyrdd.  Gofyn wnaeth y Cynghorydd Chorlton a fyddai’r cais yn gosod cynsail ond dywedodd y Swyddog bod y safle ar hyn o bryd yn cael ei ystyried o dan y Cynllun Datblygu Lleol ac y byddai’r llinell derfyn yn mynd o amgylch safle’r cais.

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd Hefin Thomas bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd O. Glyn Jones.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y Swyddog a’r argymhelliad bod y cais yn cael ei ganiatáu gyda’r amodau oedd yn yr adroddiad.

 

      

 

10

CYNIGION DATBLYGU A GYFLWYNWYD GAN GYNGHORWYR AC/NEU SWYDDOGION

 

      

 

     Nid oedd unrhyw geisiadau ar Raglen y cyfarfod.

 

 

 

11     GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

11.1     - 30C672A - Defnyddio annedd ar gyfer busnes gwarchod plant yn Trefin, Ffordd Amlwch, Benllech

 

      

 

     Yr Aelod Lleol oedd wedi gofyn am i’r cais ddod gerbron y Pwyllgor Cynllunio, ac roedd y    Cynghorydd Ieuan Williams, wedi gofyn am i’r cais gael ei ohirio gan nad oedd yn gallu bod yn bresennol yng nghyfarfod heddiw, ac roedd yn dymuno cymryd rhan yn y drafodaeth ar y cais.  Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu ei fod wedi cael ar ddeall bod yr ymgeisydd yn cytuno gyda’r cais i ohirio gwneud penderfyniad ar hwn.

 

      

 

     PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais.

 

 

 

11.2     - 34C249B - Creu mynedfa newydd i gerbydau a thrac yn Tyddyn yr Aethant,              Rhosmeirch

 

      

 

     Roedd y cais hwn gerbron y Pwyllgor Cynllunio ar ofyn yr Aelod Lleol, y Cynghorydd Rhian Medi.  Nododd y Cadeirydd bod yr Aelod Lleol wedi gofyn am i ymweliad safle gael ei gynnal.

 

      

 

     Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu mai penderfyniad i’r Pwyllgor oedd a ddylid ymweld â’r safle, ond roedd y cais er hynny yn un gweddol syml i greu mynedfa newydd i gerbydau a thrac ac nid oedd unrhyw wrthwynebiadau wedi’u derbyn.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Eurfryn Davies ei fod yn cytuno gyda’r Swyddog.  Gofynnodd y Cynghorydd Chorlton a fyddai caniatáu’r cais yn arwain at ddatblygu pellach yn y dyfodol.  Dywedodd y Swyddog y byddai’r Swyddogion yn gwrthwynebu unrhyw gais i ddatblygu ar dir cyfagos.

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd O. Glyn Jones ac eiliodd y Cynghorydd Eurfryn Davies bod y cais yn cael ei ganiatáu.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y Swyddog a’r argymhelliad ac fe ganiatawyd y cais.

 

    

 

11.3     - 34C303B/2 - Codi annedd a chreu mynedfa newydd i gerbydau yn y Plot ger 55 Bro Ednyfed, Llangefni.

 

      

 

     Cafwyd Datganiad o Ddiddordeb gan y Cynghorydd Thomas H. Jones.

 

      

 

     Yr Aelod Lleol oedd wedi gofyn am i’r cais hwn ddod gerbron y Pwyllgor Cynllunio, sef y     Cynghorydd Rhian Medi oedd wedi gofyn am i’r Pwyllgor ymweld â’r safle.

 

      

 

     Tynnu sylw wnaeth y Pennaeth Rheoli Datblygu at y ffaith bod yr Aelod Lleol yn credu bod hwn yn cyfateb i orddatblygu ar ddarn o dir oedd yn anaddas.  Ymhellach i hyn, dywedodd y Swyddog mai rhan o ardd ty presennol yw’r safle mewn stad breswyl sylweddol a adeiladwyd yn ddiweddar.  Cais oedd am dy ar wahân gyda 3 llofft ac o faint a dyluniad tebyg i’r tai eraill ar y stad, a’r argymhelliad oedd un o ganiatáu.  

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd Hefin Thomas pa mor agos oedd y datblygiad i’r eiddo cyfagos a dywedodd y Swyddog ei fod yn bur agos a bod oddeutu cant o dai ar y safle o wahanol fathau a maint.

 

      

 

     Dywedodd y byddai argymhelliad yn cael ei wneud bod ffens yn cael ei chodi rhwng yr eiddo a bod ffenestri’r llawr cyntaf yn y cefn (gogledd) yn rhai gyda gwydr twyll neu wydr lliw.  

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Glyn Jones ei fod wedi ymweld â’r safle tua tair blynedd yn ôl ond ni allai gofio union fanylion y safle.  Cynigiodd felly bod y Pwyllgor yn ymweld â’r safle ac fe eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Selwyn Williams.

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd W.J. Chorlton y dylid caniatáu’r cais ac fe eiliwyd hynny gan y Cynghorydd J.A. Roberts.

 

      

 

     Pleidleisiodd y Pwyllgor o 10 pleidlais i 2 i ganiatáu’r cais.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y Swyddog a’r argymhellion ac y dylid caniatáu’r cais gyda’r amodau oedd yn yr adroddiad.

 

      

 

11.4     - 44C255B - Cais amlinellol i godi annedd a gosod tanc septig newydd ar dir ger Llys Rhosyr, Penygraigwen.

 

      

 

     Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu mai’r Aelod Lleol, y Cynghorydd Aled Morris Jones oedd wedi gofyn am i’r cais ddod gerbron y Pwyllgor Cynllunio.  Cais oedd hwn i adeiladu annedd gyda mynedfa ar wahân ac roedd gofyn i’r Aelodau benderfynu os oedd y lleoliad yn dderbyniol o safbwynt polisi ac a fyddai’r datblygiad hefyd yn niweidiol i fwynderau lleol. Roedd gofyn i’r Aelodau hefyd ystyried materion priffyrdd.  Argymhelliad y Swyddog oedd y dylid gwrthod y cais.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

     Tynnu sylw wnaeth yr Aelod Lleol at y ffaith nad oedd hwn yn gais oedd yn tynnu’n groes ar raglen y cyfarfod a gofynnodd am gael cynnal ymweliad safle fel y gallai’r Aelodau weld y lle.

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd John Chorlton ac eiliodd y Cynghorydd Selwyn Williams y dylid ymweld â’r safle.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â’r safle ar gais yr Aelod Lleol.

 

      

 

11.5     - 44LPA915/CC - Symud ymaith y dosbarth dros dro presennol a chodi estyniad dosbarth newydd yn Ysgol Gynradd, Rhos-y-bol.

 

      

 

     Cafwyd Datganiad o Ddiddordeb gan y Cynghorydd W.T. Hughes.

 

      

 

     Roedd y cais hwn wedi’i ddwyn gerbron y Pwyllgor Cynllunio oherwydd mai’r Cyngor Sir ei hun oedd yn cyflwyno’r cais.  Mae’r safle’n ffurfio rhan o iard yr ysgol yng nghanol pentref Rhos-y-bol a’r bwriad yw symud ymaith y dosbarth dros dro presennol a chodi dosbarth newydd.  Rhai materion allweddol oedd yn gofyn am wneud penderfyniad arnynt oedd - a oedd dyluniad yr estyniad newydd yn dderbyniol ac a fyddai’r cynnig yn cael effaith ar fwynderau eiddo cyfagos.

 

      

 

     Diolchodd yr Aelod Lleol i’r Pwyllgor gan ddweud ei fod yn credu y byddai hyn yn diogelu dyfodol Ysgol Rhos-y-bol.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y Swyddog a’r argymhellion bod y cais yn cael ei ganiatáu.

 

      

 

11.6     - 45C394 - Gwaith altro ac ymestyn a chreu mynedfa newydd i gerbydau yn Ty Coch, Dwyran.

 

      

 

     Y Cynghorydd Peter Rogers, yr aelod lleol oedd wedi gofyn am i’r cais hwn ddod gerbron y Pwyllgor a hynny oherwydd rhai materion ynglyn â’r cais.

 

      

 

     Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod rhai materion technegol yn parhau heb eu setlo ac argymhellodd bod yr aelodau’n ymweld â’r safle fel y gallent ddod yn gyfarwydd â’r lle cyn dod i benderfyniad ar y cais.  

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Rogers nad oedd yn bresennol pan wnaed y cais i ohirio’r cais hwn ond yr oedd wedi mynychu’r cyfarfod, fel yr Aelod Lleol, gyda’r bwriad o siarad ar y cais ac nid oedd yn ymwybodol o’r rhesymau dros ohirio.  Roedd wedi deall mai’r argymhelliad oedd caniatáu’r cais ac yn anffodus roedd cais wedi’i wneud yn gofyn am wneud symiau pellach ar y draenio ac fe gafwyd y rheini ddydd Llun.  Dywedodd nad oedd un o’r gwrthwynebwyr wedi derbyn y manylion tan y diwrnod blaenorol ac mai’r rheswm dros y gohirio oedd nad oedd un o’r gwrthwynebwyr wedi cael amser i gael cyngor arbenigol oherwydd nad oedd yr arbenigwr ar gael.  Nid oedd yr Aelod Lleol wedi derbyn mai dyna oedd y rheswm dros ohirio’r cais heddiw ond fe ddywedwyd wrtho mai oherwydd mater technegol y bu hynny.  Roedd yn credu y dylai rhywun fod wedi dod i gysylltiad ag ef i ddweud wrtho y byddai’r cais yn cael ei ohirio.

 

      

 

     Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu - gyda phob dyledus barch, roedd wedi cael clywed bod angen sortio rhai materion technegol ynglyn â dwr wyneb.  Yn dilyn hyn, fe ddywedwyd wrtho bod y gwrthwynebwr wedi dod i’r swyddfa a dweud nad oedd wedi cael amser i gyflwyno ei sylwadau.  O ganlyniad mae’r materion technegol yn dal heb eu sortio a bydd angen ymgynghori ymhellach gyda phobl yr ardal ac felly fe wnaed argymhelliad bod y cais yn cael ei ohirio.  Roedd yn credu y byddai’n fuddiol i aelodau ymweld â’r safle i weld natur y datblygiad yn hytrach na disgwyl am fis arall i’r materion technegol gael eu sortio ac i’r aelodau benderfynu ar ôl hynny eu bod eisiau ymweld â’r safle.  

 

      

 

      

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Rogers nad oedd ganddo broblem gyda hynny ond roedd yn dymuno i’r Pwyllgor wybod - pan ofynnwyd am y symiau ynglyn â’r draenio, fe gawsant eu derbyn, a’r argymhelliad oedd un o ganiatáu ac mae’r holl oedi hwn oherwydd i’r gwrthwynebwr fethu darparu symiau pellach.  Roedd yn dymuno ei wneud yn glir pe bai’r cais wedi mynd trwodd heb y symiau ychwanegol yna fe fyddai’r argymhelliad wedi bod yn un o ganiatáu.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â’r safle yn unol ag argymhelliad y Swyddog.

 

      

 

12

CEISIADAU A DDIRPRWYWYD

 

      

 

     Cyflwynwyd a derbyniwyd, adroddiad Pennaeth y Gwasanaethau Cynllunio yng nghyswllt ceisiadau dirprwyedig a benderfynwyd ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor hwn.

 

      

 

     Nododd y Cynghorydd Hefin Thomas bod manylion llawn am enwau a chyfeiriadau wedi’u gadael allan mewn rhai penderfyniadau, ac er y gallai dderbyn mai camgymeriad hefo’r printio oedd hwn, gofynnodd am i bob ymdrech gael ei wneud i sicrhau bod yr holl wybodaeth berthnasol yn cael ei chynnwys ar bob achos.

 

 

 

13

APELIADAU

 

      

 

     Nid oedd unrhyw benderfyniadau wedi’u cyflwyno fel rhan o’r Rhaglen i’r cyfarfod hwn.

 

      

 

14

MATERION ERAILL

 

      

 

14.1     - 24C118B - Cais llawn i godi tri ty tair llofft yn Garej Tyn y Graig, Pentraeth.

 

 

 

Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod y Pwyllgor Cynllunio yn ei gyfarfod ar 26.07.06 wedi penderfynu caniatáu’r cais uchod yn amodol ar gwblhau cytundeb cyfreithiol yn gofyn am ddarpariaeth tai fforddiadwy.  Roedd yr ymgeisydd yn awr wedi cadarnhau nad oeddynt mewn sefyllfa i gwblhau’r fath ddarpariaeth ac roedd y cais bellach wedi’i ddiddymu.

 

 

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a’r cynnwys.

 

      

 

14.2     - 26C14G/EIA - Newid amod (02) ar ganiatâd cynllunio 26C14B i ganiatáu ennill / gweithio mwynau hyd 31/12/2020, gwaith tipio hyd 31/12/2021 a chadw adeiladau, cerbydau, peiriannau hyd 31/03/2022 yn Chwarel Nant Newydd, Brynteg.

 

      

 

     Cafwyd Datganiad o Ddiddordeb gan y Cynghorydd B. Durkin ac aeth allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem.

 

      

 

     Roedd adroddiad gan Bennaeth Rheoli Datblygu’r Gwasanaeth Cynllunio yn gofyn am gymeradwyaeth y Pwyllgor i ailddrafftio amod (02) y bwriadwyd ei gosod ar y cais gwreiddiol.

 

      

 

     Cafodd y cais ei ganiatáu gan y Pwyllgor Cynllunio ar 7 Hydref 2009, ond fe ddywedwyd y byddai angen ailddrafftio amod (02) gan ei rhannu’n adrannau er mwyn sicrhau bod gofynion yr amod yn glir.  Roedd yr amod a ail-ddrafftiwyd yn darllen fel a ganlyn:-

 

      

 

     (02) Ni chaniateir ail ddechrau’r cloddio ac/na tirlenwi hyd nes y bo’r gweithredwr wedi:-

 

      

 

     (i)   darparu twll borio i’r gorllewin o safle’r cais mewn lleoliadau fydd wedi’u cytuno’n ysgrifenedig gyda’r Awdurdod Cynllunio Mwynau er mwyn hwyluso’r gwaith o fonitro lefelau dwr tir am oes y datblygiad a ganiateir yma;

 

      

 

     (ii)  cytuno yn ysgrifenedig gyda’r Awdurdod Cynllunio Mwynau gynllun o lefelau sbarduno a monitro priodol ar gyfer dwr tir (y Cynllun) ar gyfer y ddau dwll bôr newydd ddarparwyd yn unol ag amod (02) 9i) ac ar gyfer y tyllau bôr presennol a farciwyd GW1 a GW3/3a yn y datganiad amgylcheddol dyddiedig 23 Rhagfyr 2008 ac a gyflwynwyd gyda’r cais.  Rhaid gweithredu gofynion y Cynllun cytunedig am gyn hired ag y bydd gwaith chwarel ac/neu dirlenwi’n digwydd ar safle’r cais;

 

      

 

     (iii) cyflwyno a chytuno yn ysgrifenedig gyda’r Awdurdod Cynllunio Mwynau, gynllun lliniaru priodol (y Cynllun Lliniaru) ar gyfer y sefyllfa lle y bydd y lefelau sbarduno y cytunwyd arnynt yn unol ag amod (02)(ii) yn cael eu cyrraedd (y Pwynt Sbarduno).

 

      

 

     (iv) rhaid gweithredu’r mesurau yn y Cynllun Lliniaru os bydd y pwynt sbarduno’n cael ei gyrraedd a hefyd os ceir unrhyw dystiolaeth yn seiliedig ar fesurau llif uniongyrchol, bod y llif dwr ar hyd ochr i mewn Cors Erddreiniog wedi gostwng mewn ffyrdd nad ydynt yn gyson gyda phatrwm twll bôr neu i raddau na ellir eu hesbonio trwy lawiad neu ffactorau hinsoddol eraill.

 

      

 

     Y rheswm dros ailddrafftio’r amod oedd er mwyn gostwng y risg o leihau lefelau dwr tir a llif i’r ffynhonnau a’r llefydd sipian ar hyd ymyl Cors Erddreiniog oedd gerllaw.  Roedd y ddwy amod arall oedd i’w gosod ar y cais yn parhau fel roeddynt yn wreiddiol.

 

      

 

     PENDERFYNWYD yn unfrydol y dylid caniatáu’r amod a ailddrafftiwyd.

 

 

 

14.3     - 33C20W/1 - Cynlluniau llawn i godi adeilad diwydiannol unllawr yn yr Orsaf Danwydd, Stad Ddiwydiannol Gaerwen, Gaerwen.

 

      

 

     Cafwyd adroddiad gan y Pennaeth Rheoli Cynllunio yn nodi bod yr ymgeisydd yn perthyn i aelod staff yn yr Adran Cynllunio a Gwasanaethau Amgylcheddol y Cyngor Sir.

 

      

 

     Roedd y cais wedi’i sgriwtineiddio gan y Swyddog Monitro fel sy’n ofynnol o dan baragraff    4.6.10.4 o Gyfansoddiad y Cyngor.  Roedd caniatâd cynllunio llawn wedi’i roi fis Gorffennaf 2002 ac roedd gwaith eisoes wedi dechrau ar y safle i ddiogelu’r caniatâd cynllunio.  Roedd yr ymgeisydd wedi gofyn am gael gwneud newidiadau bychan i edrychiad allanol yr uned arfaethedig a chynnwys ffenestri yn y ffrynt a thalcen yr ochr, newidiadau i’r gosodiad mewnol oedd wedi’i gymeradwyo, a chynnwys swyddfeydd ar lefel y llawr cyntaf.

 

      

 

     Dywedodd y Pennaeth Rheoli Cynllunio ei fod yn ystyried bod y newidiadau arfaethedig yn dderbyniol ac na fyddant yn cael unrhyw effaith niweidiol ar yr unedau cyfagos.  O ystyried natur gweddol fychan y newidiadau, ni ystyrir bod y newidiadau yn rhai fydd yn newid edrychiad na natur y cynllun fel yr oedd wedi’i ganiatáu ynghynt.

 

      

 

     PENDERFYNODD yr aelodau gymeradwyo’r newidiadau.

 

      

 

14.4     - 37C170 - Addasu adeiladau allanol i greu 2 fwthyn gwyliau a gosod tanciau septig yn Cefn Dderwen, Brynsiencyn.

 

      

 

     Dywedodd y Pennaeth Rheoli Cynllunio mai Cynghorydd oedd yn gwneud y cais ac ar gyngor Cyfreithiwr y Cyngor roedd y cais yn cael ei gyfeirio’n ôl i’r Pwyllgor Cynllunio er mwyn cadarnhau amodau yn dilyn penderfyniad y Pwyllgor i ganiatáu’r cais.

 

      

 

     Datganodd y Cynghorydd Peter Rogers ddiddordeb yn y mater a gadawodd y Siambr.

 

      

 

     Fel oedd yn cael ei ddangos yng nghofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor, roedd y Rheolwr Rheoli Cynllunio wedi dweud wrth yr Aelodau ei fod yn argymell gosod dwy amod ychwanegol ar unrhyw ganiatâd cynllunio fyddai’n cael ei roi.  Byddai amod 6 yn gofyn i’r perchennog gadw cofrestr o’r rhai oedd yn preswylio yn y bythynnod gwyliau a byddai amod 7 yn egluro pa waith addasu sy’n dderbyniol ar yr adeiladau o safbwynt dymchwel ac ailadeiladu.

 

      

 

     Tynnodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio sylw at y ffaith bod amod 5 a 6 yn adroddiad heddiw yn dangos bod y ddwy amod wedi’u cyplu gydag amod 5 yn ymwneud â’r gofrestr ac amod 6 yn ymwneud â’r gwaith atgyweirio.  Gofynnodd am gymeradwyaeth y Pwyllgor i’r ddwy amod yn arbennig.

 

      

 

     Cyfeiriodd y Cynghorydd O. Glyn Jones at ddau gais tebyg yn ei ward ef lle roedd yr ymgeisydd yn gorfod gwario oddeutu £12,000 i lunio llefydd pasio.  Roedd yn meddwl, gan mai cais oedd hwn gan Aelod Lleol, ac er mwyn dangos tryloywder, y byddai’n briodol ymweld â’r safle er mwyn bod yn deg â phawb.

 

      

 

     Dywedodd y Pennaeth Rheoli Cynllunio bod y cais wedi’i drafod yn y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor hwn ac er bod cais wedi’i wneud bryd hynny am ymweliad safle, roedd y cais wedi’i gymeradwyo gyda’r newid i’r amodau.  Pwysleisiodd mai’r rheswm dros ddod â’r cais yn ôl gerbron y Pwyllgor oedd penderfynu ar y ddau amod ychwanegol ac nid i ailagor trafodaeth gyffredinol ar y cais.

 

      

 

     Canmol y ffordd yr oedd y Pwyllgor wedi cynnal ei weithgareddau yng nghyfarfod y dydd heddiw wnaeth y Cynghorydd Hefin Thomas ac nid oedd yn dymuno gweld yr aelodau’n crwydro oddi ar eu testun, roedd am atgoffa’r Aelodau bod y cais wedi’i drafod yn fanwl a bod y Swyddog Priffyrdd wedi cadarnhau bod yna ddigon o lefydd pasio ar hyd y ffordd.  Roedd yn teimlo bod rhai aelodau’n delio gyda’r ymgeisydd yn hytrach na gyda’r cais.  Ymatebodd y Cynghorydd O. Glyn Jones trwy sicrhau’r Pwyllgor nad oedd ei sylwadau’n rhai gwleidyddol ond yn hytrach ei fod yn cofio i’r Adain Priffyrdd osod amodau tebyg ynglyn â llefydd pasio ar gais arall yn ei ward, lle roedd yr ymgeisydd wedi gwneud apêl a’i hennill yn erbyn y penderfyniad lle y gofynnwyd iddo ddarparu llefydd pasio.  Roedd etholwr iddo wedi gofyn pam y bu gofyn iddo wario £12,000 ar lefydd pasio pan nad oes rhaid i Aelod Lleol wneud hynny.  Dyna oedd yr unig reswm dros godi’r pwynt yng nghyfarfod heddiw.  Dywedodd y Pennaeth Rheoli Cynllunio bod pob cais yn cael ei drin yn ôl ei rinweddau ei hun.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chymeradwyo’r argymhellion oedd ynddi.  

 

      

 

 

 

         

 

       

 

 

 

     Dechreuodd y cyfarfod am 1.00 p.m. a therfynwyd am 2.10 p.m.

 

      

 

      

 

     CYNGHORYDD KENNETH P. HUGHES

 

     CADEIRYDD