Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion dogfennau , 4 Rhagfyr 2002

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Dydd Mercher, 4ydd Rhagfyr, 2002

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

 

COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 4 rhagfyr, 2002

 

yn breSENNOL:

Y Cynghorydd W. Emyr Jones, Cadeirydd

Y Cynghorydd W. J. Chorlton, Is-Gaderiydd (yn y Gadair ar gyfer eitem 4.8)

 

Y Cynghorwyr J. Arwel Edwards, D. D. Evans, P. M. Fowlie, Fflur M. Hughes, R. Ll. Hughes, T. Ll. Hughes, W. I. Hughes, R. J. Jones, R. L. Owen, Gwyn Roberts, John Roberts, W. T. Roberts, John Row lands, Hefin Thomas.

   

HEFYD YN BRESENNOL:

Y Cynghorydd Keith Thomas (aelod lleol ar gyfer cais 46C361EIA yn eitem 4.1)

 

 

WRTH LAW:

Cynllunio:

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cynllunio a Gwasanaethau Amgylcheddol)

Pennaeth Rheoli Datblygu (EGJ)

Rheolwr y Gwasanaeth Rheoli Cynllunio (DFJ)

Uchel Swyddog Cynllunio (GMD)

Cynorthwy-ydd Cynllunio (JR)

 

Priffyrdd:

Uwch Beiriannydd (Rheoli Datblygu a Hawliau Tramwy Cyhoeddus) (JRWO)

Swyddog Rheoli Datblygu (Priffyrdd) (RE)

 

Cyfreithiwr (RWJ)

Cynorthwy-ydd Gweinyddol  (CWP)

 

 

YMDDIHEURIADAU:

Y Cynghorydd J. Arwel Roberts

 

 

 

Rhoes y Cadeirydd groeso cynnes i'r Cynghorydd John Rowlands i'w gyfarfod cyntaf fel aelod o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

Mynegwyd pryderon gan rai aelodau y buasai'r aelodau hynny a oedd yn absennol yng nghyfarfodydd y gorffennol yn cael trafferth i ddelio gyda cheisiadau ar raglen heddiw.  Wedyn cafwyd cadarnhad y Cyfriethiwr nad oedd Cyfansoddiad y Cyngor yn gwahardd unrhyw aelod o'r Pwyllgor rhag ystyried mater y rhoddwyd adroddiad arno i Bwyllgor blaenorol a'r aelod heb fod yn bresennol yn hwnnw.

 

Rhoddwyd llongyfarchiadau'r Pwyllgor i John I. Williams ac i Steven W. Owen, y ddau o'r Adran Gynllunio, ar ennill graddau MSc.

 

Aeth y Cadeirydd ymlaen i gyfeirio at ddyweddiad Steven yn ddiweddar gydag Amanda ac at ymddeoliad Glyn Humphreys gyda hyn a chyflwynwyd dymuniadau gorau'r Pwyllgor iddynt oll.

 

Mynegodd rhai aelodau bryder am na chawsant ddigon o amser i ddarllen y sylwadau a dderbyniwyd ar geisiadau dan sylw yn y Pwyllgor er bod y materion yn cael sylw yn adroddiadau'r swyddogion ac er bod yr holl ohebiaeth ar gael i'w hastudio yn yr Adran Gynllunio.

 

CYTUNWYD i yrru copïau o'r sylwadau drwy'r post ymlaen llaw i aelodau'r Pwyllgor ar gyfer y cyfarfod nesaf a bod adroddiad yn cael ei gyflwyno hefyd i'r cyfarfod ar y pwnc.

 

1

DATGANIAD O DDIDDORDEB

 

Cafwyd datganiadau o ddiddordeb gan Aelodau a Swyddogion fel a nodwyd dan yr eitemau.

 

 

2

COFNODION

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 6 Tachwedd, 2002.(Cyfrol y Cyngor 10/12/02, tudalennau 121 - 132)

 

 

 

 

RHAN 1 - MATERION CYNLLUNIO

 

 

 

 

 

3

YMWELIADAU Â SAFLEOEDD

 

 

 

Cyflwynwyd a derbyniwyd - adroddiad yr Ymweliadau â Safleoedd a gynhaliwyd ar 20 Tachwedd, 2002, ond ychwanegu enw'r Cynghorydd R.Ll. Hughes at restr yr ymddiheuriadau absenoldeb

 

Tud 52 - 55 o'r Gyfrol hon

 

 

 

4

CEISIADAU YN CODI O'R COFNODION

 

 

 

4.1

46C361/EIA - DARPARU GWAITH TRIN DWR GWASTRAFF YNGHYD Â DARPARU MYNEDFA NEWYDD AR DIR RHWNG SAFLE ALWMINIWM MÔN A STAD DDIWYDIANNOL PENRHOS, CAERGYBI

 

 

 

'Roedd y Pwyllgor yn ei gyfarfod diwethaf wedi dangos ei fod yn dymuno gwrthod rhoddi caniatâd cynllunio (yn groes i argymhelliad o blaid gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cynllunio a Gwasanaethau Amgylcheddol) am y rhesymau a ganlyn :

 

Ÿ

yr effaith economaidd ar safleoedd siopau / diwydiannol gerllaw

 

Ÿ

pryder y cyhoedd fel ystyriaeth gynllunio o bwys - ymwybyddiaeth y cyhoedd bod 1,100 o wrthwynebiadau i'r safle

 

Ÿ

Cynllun Fframwaith Gwynedd (1993) Polisi D20 (ii) - cynnydd yn lefelau y llygredd - aer ac arogleuon

 

Ÿ

Oherwydd ei leoliad 'roedd y cynnig yn tynnu'n groes i'r cyngor ym Mhennod 12, paragraff 12.1.1., Polisi Cynllunio Cymru.

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor gohiriwyd y cais er mwyn creu cyfle i ystyried adroddiad ar oblygiadau y bwriad i wrthod ac i benderfynu ar y cais.  

 

 

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol ei fod yn dal i deimlo'n gryf na ellid cynnal y rhesymau dros wrthod mewn apêl a phwysodd yn daer ar aelodau i ailystyried eu penderfyniad gan ychwanegu nad oedd y pedwar rheswm dros wrthod ddim yn rhesymau cynllunio technegol dilys.  

 

 

 

Dygodd y Cynghorydd Keith Thomas sylw'r Pwyllgor at lythyr gwrthwynebu gan Bradgate Securities ac roedd yn poeni'n fawr am ddyfodol y Stad petai'r prosiect hwn yn cael caniatâd.  

 

Yn ei ymateb dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol bod yn rhaid pwyso a mesur barn Bradgate Securities yn erbyn barn Awdurdod Datblygu Cymru ac Adain Datblygu Economaidd y Cyngor.  O wneud hynny, roedd y balans yn gweithio yn erbyn barn Bradgate Securities.

 

 

 

Yn ôl y Cynghorydd R.Ll. Hughes ni chafwyd tystiolaeth gan Bradgate Securities yng nghyswllt effaith yr arogleuon.  Er bod Tesco a Kwik Save yn ddau fusnes sydd wedi sefydlu ers tro gerllaw ni chafwyd yr un gwrthwynebiad ganddynt.  Roedd yr un peth yn wir am Stena a Railtrack.  Fel corff lleol-farnwrol roedd yn rhaid i'r Pwyllgor benderfynu ar y pwnc yn ôl y dystiolaeth a gyflwynwyd a honno, yn yr achos hwn, yn golygu rhoddi caniatâd i'r datblygiad.

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd Chorlton mai'r anhawster pennaf oedd lleoliad y safle a chafwyd gair o gadarnhad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol bod swyddogion, mewn ymgynghoriad gyda Dwr Cymru, wedi edrych ar y posibilrwydd o osod y gwaith trin carthion ar sawl safle yn ardal Caergybi gan ychwanegu bod Dwr Cymru wedi ailddatgan dymuniad i symud ymlaen gyda'u cais i ddatblygu ar y safle penodol hwn.

 

PENDERFYNWYD gohirio gwneud penderfyniad ar y cais ac ymweld â safle Gwaith Trin Carthion Dwr Cymru yn Llanasa i asesu yr arogleuon oedd yn dod o'r gwaith hwnnw.

 

 

 

4.2

CEISIADAU'N TYNNU'N GROES I'R CYNLLUN FFRAMWAITH

 

 

 

17C222B  -  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD A GWNEUD GWAITH ALTRO I'R FYNEDFA AR DIR GER CAE NEWYDD, PENTRAETH

 

 

 

Gohiriwyd ystyried y cais hwn yn y cyfarfod diwethaf er mwyn disgwyl am yr holl sylwadau.  

 

 

 

Yma darllennodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio lythyr yr ymgeisydd a'i gymydog i'r Pwyllgor a chadarnhaodd bod yn dal i deimlo'n gryf y dylid gwrthod y cais hwn am y rhesymau yn adroddiad y swyddog.  Hefyd sylwyd bod anghysondeb rhwng y fersiwn Saesneg a'r fersiwn Gymraeg yn y rheswm cyntaf dros wrthod ac mai'r fersiwn Saesneg oedd yr un gywir.

 

 

 

Teimla y Cynghorydd Hefin Thomas nad oedd modd ystyried y cais hwn fel "tai yn y cefn gwlad agored" gan ychwanegu bod y gwelliannau arfaethedig gan yr ymgeisydd i'r ffyrdd, yn ei farn ef, yn fantais gynllunio.  

 

 

 

Yma nododd y Cyfreithiwr, gan fod y tir y tu allan i ffiniau datblygu y Cynllun Lleol, bod y tir felly yn y cefn gwlad agored.  Dyletswydd gyfreithiol y Pwyllgor dan y ddeddf oedd penderfynu ar y cais yn unol â'r cynllun hwnnw onid oedd ystyriaethau o bwys yn dweud fel arall.  Yn yr achos hwn nid oedd ystyriaethau eraill o'r fath.  

 

 

 

Trechwyd cynnig i ymweld â'r safle a hefyd trechwyd cynnig i ohirio ystyried yr eitem.

 

PENDERFYNWYD gwrthod y cais am y rhesymau a roddwyd yn y fersiwn Saesneg o adroddiad y swyddog.

 

 

 

4.3

15C30D - GOSOD 10 SAFLE CARAFAN SYMUDOL YCHWANEGOL O FEWN Y SAFLE PRESENNOL YNGHYD Â NEWID DEFNYDD TIR AMAETHYDDOL GYFERBYN I GOSOD 8 SAFLE YCHWANEGOL I DDEFNYDD TYMHOROL (15 MAWRTH - 31 HYDREF BOB BLWYDDYN) YNGHYD AC ADDASU Y FYNEDFA BRESENNOL I GERBYDAU YN PEN Y BONT, MALLTRAETH.

 

 

 

(Datganodd y Cynghorwyr D.D. Evans ac R.Ll. Hughes ddiddordeb yn y cais hwn.  At hyn, datganodd Mr. Arthur Owen y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cynllunio a Gwasanaethau Amgylcheddol) ddiddordeb yn y cais hwn) ac nid oeddynt yn bresennol yn y cyfarfod pan drafodwyd y mater a phleidleisio arno).

 

 

 

Yn ei gyfarfod diwethaf roedd y Pwyllgor o blaid caniatáu'r cais cynllunio uchod (yn groes i argymhelliad y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cynllunio a Gwasanaethau Amgylcheddol)) sef gwrthod am y rhesymau a ganlyn:

 

 

 

Ÿ

mae hwn yn estyniad bychan i fusnes

 

Ÿ

mae'r cais yn ymwneud â chyfnod byr yn ystod tymor yr haf yn unig

 

Ÿ

mae wal amddiffyn yr Afon Cefni wedi'i chryfhau

 

Ÿ

mae'n hyrwyddo'r economi leol

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor  gohiriwyd y cais hyd nes cyfarfod nesaf y Pwyllgor hwn i ystyried adroddiad ar oblygiadau'r bwriad i ganiatáu ac i benderfynu ar y cais.

 

 

 

PENDERFYNWYD cadarnhau penderfyniad blaenorol y Pwyllgor i roddi caniatâd a hefyd rhoddi awdurdod i swyddogion roddi'r amodau a ganlyn ynghlwm wrth y caniatâd cynllunio:

 

 

 

Ÿ

sicrhau gwelliannau i'r fynedfa

 

Ÿ

amodau tirlunio

 

Ÿ

cyfyngu ar hyd y tymor

 

 

 

 

 

4.4

17C20Z - ESTYNIADAU I YSTAFELL ARDDANGOS AUDI FEL EI BOD YN CYNNWYS GWEITHDAI A LLE GOLCHI CEIR YNG NGAREJ HENFFORDD, PORTHAETHWY

 

 

 

Datganodd y Cynghorwyr R.L. Owen, John Roberts a Mr. J.R.W. Owen,  yr Adran Briffyrdd, ddiddordeb yn y cais hwn ac nid oeddynt yn bresennol yn ystod y bleidlais.

 

 

 

Ymwelwyd â'r safle uchod ar 20 Tachwedd, 2002 ar argymhelliad y swyddog cyn penderfynu  ar y cais.

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod materion yn dal i fod heb eu datrys yng nghyswllt y cais hwn a gofynnodd am ohirio ei ystyried tan y cyfarfod nesaf.  

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais tan y cyfarfod nesaf a rhoi'r cyfle i swyddogion ddal ymlaen gyda thrafodaethau cyn cyflwyno adroddiad gydag argymhelliad i'r Pwyllgor.  

 

 

 

4.5

17C20A/1 - NEWID DEFNYDD BYNGALO A'I DROI'N SWYDDFEYDD DAN REOLAETH AC ALTRO'R FYNEDFA YM MAEN HIR, PORTHAETHWY

 

 

 

Datganodd y Cynghorwyr R.L. Owen, John Roberts a Mr. J.R.W. Owen,  yr Adran Briffyrdd, ddiddordeb yn y cais hwn ac nid oeddynt yn bresennol yn ystod y bleidlais na'r drafodaeth.

 

 

 

Ymwelwyd â'r safle uchod ar 20 Tachwedd, 2002 ar argymhelliad y swyddog cyn penderfynu  ar y cais.

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod materion yn dal i fod heb eu datrys yng nghyswllt y cais hwn a gofynnodd am ohirio ei ystyried tan y cyfarfod nesaf.  

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais tan y cyfarfod nesaf a rhoi'r cyfle i swyddogion ddal ymlaen gyda thrafodaethau cyn cyflwyno adroddiad gydag argymhelliad i'r Pwyllgor.

 

 

 

4.6

17C20B/1 - CAIS AMLINELLOL I GODI GWEITHDY CEIR, LLE PARCIO CEIR A THRAC DYSGU GYRRU GYRIANT 4 OLWYN YNG NGAREJ HENFFORDD, PORTHAETHWY

 

 

 

Datganodd y Cynghorwyr R.L. Owen, John Roberts  a Mr. J.R.W. Owen,  yr Adran Briffyrdd, ddiddordeb yn y cais hwn ac nid oeddynt yn bresennol yn y cyfarfod yn ystod y bleidlais.

 

 

 

Ymwelwyd â'r safle uchod ar 20 Tachwedd, 2002 ar argymhelliad y swyddog cyn penderfynu  ar y cais.

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod materion yn dal i fod heb eu datrys yng nghyswllt y cais hwn a gofynnodd am ohirio ei ystyried tan y cyfarfod nesaf.  

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais tan y cyfarfod nesaf a rhoi'r cyfle i swyddogion ddal ymlaen gyda thrafodaethau cyn cyflwyno adroddiad gydag argymhelliad i'r Pwyllgor.

 

 

 

4.7

24C31S - CODI 14 O FYNGALOS DORMER A GAREJIS PREIFAT AR WAHÂN IDDYNT (RHAN 3) A CHREU MYNEDFA YN TY'N RHOS, PEN-Y-SARN

 

 

 

Ymwelwyd â'r safle uchod ar 20 Tachwedd, 2002 ar argymhelliad y swyddog cyn penderfynu  ar y cais.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod materion yn dal i fod heb eu datrys yng nghyswllt y cais hwn a gofynnodd am ohirio ei ystyried tan y cyfarfod nesaf.  

 

      

 

     PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais tan y cyfarfod nesaf a rhoi'r cyfle i swyddogion ddal ymlaen gyda thrafodaethau cyn cyflwyno adroddiad gydag argymhelliad i'r Pwyllgor.

 

      

 

     0C502 - TROI ADEILAD YN ANNEDD GAN WNEUD GWAITH ALTRO AC YMESTYN, GWAITH ALTRO I'R FYNEDFA A GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD YM MHARC MAWR, BWLCH, TYNYGONGL

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais uchod gan aelod o'r Cyngor.   (Datganodd y Cynghorydd W.E. Jones ddiddordeb yn y cais hwn ac nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod pan drafodwyd y mater a phleidleisio arno).

 

      

 

     Ymwelwyd â'r safle uchod ar 20 Tachwedd, 2002 ar gais aelodau'r Pwyllgor i asesu'r bwriad a gweld beth oedd cyflwr yr adeilad.

 

      

 

Gofynnodd y Cynghorydd Fflur Hughes pa bryd y defnyddiwyd yr adeilad ddiwethaf fel annedd a gofynnodd hefyd a gafwyd adroddiad annibynnol ar y strwythur.

 

      

 

     Cadarnhaodd y Rheolwr  Rheoli Cynllunio bod y cais yn cydymffurfio gyda Pholisi 55 Cynllun Lleol Ynys Môn.  Gwnaed arolwg strwythurol annibynnol a phroffesiynol ar yr adeilad gan Aber Structural Design Limited ond hefyd roedd swyddogion o'r Adain Rheoli Adeiladu wedi archwilio'r strwythur a chadarnhau ei fod yn strwythurol gadarn ac yn addas i'w altro.  Nid oedd tystiolaeth i ddangos pryd y cafodd yr adeilad ei ddefnyddio ddiwethaf fel annedd.

 

      

 

     Cadarnhaodd yr Uwch Beiriannydd (Rheoli Datblygu a Hawliau Tramwy) bod yr ymgeisydd wedi cytuno i wella'r fynedfa a'r gallu i weld er budd i bawb sy'n defnyddio'r ffordd fawr.

 

      

 

     PENDERFYNWYD  cymeradwyo'r cais am y rhesymau a roddwyd a chyda'r amodau yn adroddiad y Swyddog.

 

 

 

4.9     31C63A - NEWID DEFNYDD LLAWR ISAF ANNEDD YN SIOP PRYDAU PAROD TSEINIAIDD YN ANGORFA, ERW FAIR, FFORDD CAERGYBI, LLANFAIR-PWLL

 

      

 

     Datganodd Mr. Richard Eames, yr Adran Briffyrdd, ddiddordeb yn y cais hwn ac nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod pan drafodwyd y mater a phleidleisio arno.  

 

      

 

     Ymwelwyd â'r safle ar 20 Tachwedd, 2002 ar gais y Cynghorydd John Roberts er mwyn asesu'r bwriad o ran effaith swn, llygredd, arogl a thraffig.

 

      

 

     Roedd y Rheolwr Rheoli Cynllunio yn argymell rhoddi caniatâd i'r cais yn unol â'r rhesymau yn yr adroddiad i gyfarfod y Pwyllgor ym mis Tachwedd a rhannwyd copi o'r rhesymau i'r rheini oedd yn bresennol.

 

      

 

     PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais am y rhesymau a roddwyd a chyda'r amodau yn adroddiad y Swyddog.

 

      

 

4.10     34C466 - DYMCHWEL ADEILAD A CHODI 4 UNED DDIWYDIANNOL 10,000 TROEDFEDD SGWÂR AC ALTRO'R FYNEDFA YN HEN SAFLE CUNLIFFE, LLANGEFNI

 

      

 

     Ymwelwyd â'r safle uchod ar 20 Tachwedd, 2002 ar argymhelliad y swyddog cyn penderfynu  ar y cais.

 

      

 

     Gofynnodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio am ohirio ystyried y cais tan y cyfarfod nesaf fel bod swyddogion yn medru parhau i ymgynghori gyda'r ymgeisydd.  

 

      

 

     PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais tan y cyfarfod nesaf a rhoi'r cyfle i swyddogion ddal ymlaen gyda thrafodaethau cyn cyflwyno adroddiad gydag argymhelliad i'r Pwyllgor.

 

      

 

4.11     34C567 - NEWID DEFNYDD O FÂN-WERTHU I STIWDIO DATW YN Y BERLLAN, Y SGWÂR, LLANGEFNI

 

      

 

     Ymwelwyd â'r safle uchod ar 20 Tachwedd, 2002 ar argymhelliad y swyddog cyn penderfynu  ar y cais.

 

      

 

     Ers cyhoeddi'r adroddiad dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod Cyngor Tref Llangefni bellach wedi dweud nad oedd ganddynt sylwadau ar y cais.  Ychwanegodd hefyd bod yr Adran Iechyd yr Amgylchedd yn dymuno rhoddi amodau ynghlwm wrth y caniatâd i gydymffurfio gyda rheoliadau iechyd.

 

      

 

     PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais am y rhesymau a roddwyd ond gyda'r amodau yn adroddiad y swyddog a hefyd gydag amodau yr Adran Iechyd yr Amgylchedd.

 

      

 

4.12     44C198A - CAIS AMLINELLOL I GODI BYNGALO A DARPARU MYNEDFA NEWYDD A GOSOD OFFER I DRIN CARTHION AR RAN O GAE ORDNANS 8811, RHOS-GOCH

 

      

 

     Gwnaeth y Cynghorydd Gwyn Roberts ddatganiad ar  y cais hwn oherwydd bod aelod o'i deulu wedi cyflwyno gwrthwynebiad yn seiliedig ar ddiogelwch y briffordd ac ni chredai'r gwrthwynebydd bod angen y datblygiad a hefyd roedd yn gwrthwynebu'r fynedfa.  Ar ôl derbyn cyngor cyn y Pwyllgor arhosodd y Cynghorydd Roberts yn y cyfarfod a chymerodd ran yn y trafodaethau.

 

      

 

     Ar ôl cyhoeddi'r adroddiad dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod Transco wedi cadarnhau nad oedd pibell nwy union ger y safle uchod bellach yn cael ei defnyddio ac yn annhebyg o gael eu defnyddio yn y dyfodol.  

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod angen newid y cyfeiriad at "Llanfaes" yn y fersiwn Gymraeg ar dudalen 56 yr adroddiad i "Rhos-goch".

 

      

 

     Teimlai'r Cynghorydd Gwyn Roberts nad oedd angen lleol am y datblygiad hwn a hefyd roedd yn pryderu ynghylch cydymffurfio gyda Pholisi 53 Cynllun Lleol Ynys Môn (tai yn y cefn gwlad agored).

 

      

 

     Wedyn cadarnhaodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio mai Polisi 50 y Cynllun Lleol oedd y polisi perthnasol gan fod y tir union ger ffiniau datblygu Rhos-goch.  O'r herwydd nid oedd Polisi 53 yn berthnasol i bwrpas asesu'r cais gan fod hwnnw yn ymwneud â thir yn y cefn gwlad y tu allan i ffiniau datblygu dynodedig yn y Cynllun Lleol.  

 

      

 

     PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais am y rhesymau a roddwyd a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

5

CEISIADAU'N TYNNU'N GROES I'R CYNLLUN FFRAMWAITH

 

      

 

5.1

16C146A - CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD AR DIR YN YR IARD LO, ENGEDI, BRYNGWRAN

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y cais hwn yn tynnu'n groes i'r Cynllun Fframwaith ac nad oedd Engedi yn bentref rhestredig yn y Cynllun Lleol, ac nid oedd bwriad i wneud y lle yn bentref rhestredig yn y Cynllun Datblygu Unedol.

 

      

 

     Roedd y Pwyllgor yn dymuno cymeradwyo'r cais cynllunio uchod (yn groes i argymhelliad o wrthod gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cynllunio a Gwasanaethau Amgylcheddol) am y rhesymau a ganlyn:

 

      

 

Ÿ

credir bod rhoddi caniatâd yma yn fantais gynllunio ac yn gwella gwedd y safle a'r tir o gwmpas

 

Ÿ

mae safle'r bwriad hwn rhwng dwy annedd a chredir ei fod yn llenwi bwlch ac nid yn y cefn gwlad agored.

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor gohiriwyd y cais tan gyfarfod nesaf y Pwyllgor pryd y rhoddir sylw i adroddiad ar oblygiadau rhoddi'r caniatâd a phenderfynu ar y cais yr adeg honno.

 

      

 

5.2

30C499A - CAIS AMLINELLOL AR GYFER CODI ANNEDD YNGHYD Â CREU MYNEDFA NEWYDD A GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD AR DIR GER ANGORFA, TRAETH COCH

 

      

 

     Gwnaeth y Cynghorydd D.D. Evans ddatganiad o ddiddordeb yn y cais.  

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod yr ymgeisydd wedi gofyn am dynnu'r cais oddi ar y rhaglen.  

 

      

 

     PENDERFYNWYD nodi'r dymuniad i dynnu'r cais oddi ar y rhaglen.  

 

      

 

5.3   33C104E - CAIS AMLINELLOL AR GYFER CODI ANNEDD A GAREJ DDWBL                BREIFAT AR DIR YN TYN CAE, PENTRE BERW.    

 

      

 

     PENDERFYNWYD gwrthod y cais am y rhesymau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

5.4     36C214 - CAIS AMLINELLOL AR GYFER CODI SAITH ANNEDD YNGHYD Â FFURFIO MYNEDFA NEWYDD AR DIR GER AEL Y BRYN, LLANGRISTIOLUS.

 

      

 

     Datganodd y Cynghorydd R.Ll. Hughes ddiddordeb yn y cais hwn ac nid oedd yn bresennol yn ystod y bleidlais.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod caniatâd amlinellol wedi'i roddi i bum annedd ar y tir flynyddoedd yn ôl a bod y caniatâd hwnnw yn dal i fod yn ddilys.  Teimlwyd fod digon o le ar y tir hwn i ddwy annedd arall.

 

      

 

     Dywedodd bod y cais hwn yn gwyro oddi wrth y polisiau cyfredol ond yn cydymffurfio gyda T43 yn y Cynllun Datblygu Unedol sydd ar y gweill.

 

      

 

     PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais am y rhesymau a roddwyd a chyda Chytundeb dan Adran 106 (ffyrdd a charthffosydd) a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

6

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

6.1

12C126C - ADDASU AC EHANGU YN LYNTON, LLANFAES

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd R.L. Owen iddo dderbyn llythyr agored oddi wrth y Stepping Stones Children's Services Ltd. - llythyr a rannwyd i'r tai yn y cyffiniau - yn ymddiheuro am ymddygiad anystywallt pobl ifanc yn lletya yn Lynton; dosbarthwyd copi o'r llythyr i'r rheini oedd yn bresennol yn y cyfarfod.

 

      

 

     Dymunai'r Cynghorydd Owen gofnodi ei wrthwynebiad i'r cais am resymau diogelwch a mynegodd bryderon ynghylch lled y ffordd y tu allan i'r eiddo a dywedodd bod gwrthwynebiad cryf i'r bwriad hwn ymhlith y bobl leol.  Hefyd, gofynnodd am nodi na phleidleisiodd ar yr eitem oherwydd ei bryderon.  

 

      

 

     Yma nododd y Rheolwr Rheoli Cynllunio nad oedd problemau ymddygiad yn ystyriaeth gynllunio berthnasol a bod mater o'r fath yn rhan o reolau yr Arolygfa Safonau Gofal.  Cais oedd hwn i ymestyn yr eiddo ac nid oedd  rheswm dros wrthwynebu.

 

      

 

     PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais am y rhesymau a roddwyd a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

6.2     34C389C - GOSOD CERFLUNIAU I GREU DWY LIDIART I'R DINGL, LLANGEFNI

 

      

 

     Cais gan Gwmni Tref Llangefni ar dir sy'n eiddo i Gyngor Sir Ynys Môn.

 

      

 

     PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais am y rhesymau a roddwyd a chyda'r amod na ddaw gwrthwynebiadau perthnasol i law yn ystod y cyfnod cyhoeddusrwydd statudol a hefyd gyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

     34C6G - NEWID Y MODURDY PRESENNOL I FOD YN YSTAFELL HAUL A CREU MAN PARCIO YCHWANEGOL YN 23 TYN COED, LLANGEFNI

 

      

 

     Roedd hwn yn gais gan un o swyddogion yr Awdurdod ac roedd Mr. Trevor Francis o'r Adran Briffyrdd wedi datgan diddordeb ynddo.

 

      

 

     PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais am y rhesymau a roddwyd a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

6.4     34LPA700B/CC - DARPARU 4 FFENESTR VELUX YN SWYDDFEYDD Y CYNGOR, LLANGEFNI

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Priffyrdd, Trafnidiaeth ac Eiddo) yng nghyswllt datblygu eiddo'r Cyngor.

 

      

 

     PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais am y rhesymau a roddwyd a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

6.5     43C16D - DYMCHWEL Y MODURDY PRESENNOL, CODI MODURDY NEWYDD YNGHYD AG ANECS CYSGU CYSYLLTIEDIG YN "THE OLD LIFEBOAT HOUSE", RHOSCOLYN

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y cais hwn wedi'i gyflwyno i'r Pwyllgor benderfynu arno oherwydd iddo gael sylw am y tro cyntaf cyn cyflwyno'r cynllun dirprwyo presennol.  Ychwanegodd bod y cynllun oedd ynghlwm wrth yr adroddiad yn anghywir a rhannodd gynllun safle wedi'i gywiro ac ychwanegu bod yr Adain Ddraenio bellach wedi cadarnhau bod y tanc septig yn ddigonol.  

 

      

 

     PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais gyda chytundeb dan Adran 106 i sicrhau y bydd y datblygiad yn aros yn anecs cysgu ynghlwm wrth y brif annedd ac am y rhesymau a roddwyd, gydag amodau, yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

7

CEISIADAU A DDIRPRWYWYD

 

      

 

     Cyfwlynwyd a derbyniwyd  - adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cynllunio a Gwasanaethau Amgylcheddol) ar geisiadau a ddirprwywyd ac y gwnaethpwyd penderfyniad arnynt ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor hwn ond gyda'r sylwadau a ganlyn:

 

      

 

trwy amryfusedd ymddangosodd cais cynllunio 17C51G (y cais am Dystysgrif Cyfreithlondeb yng nghyswllt ddilysrwydd cais cynllunio rhif 17C51C/DA i godi annedd ar dir ger Hafod y Coed, Llansadwrn) ar y rhestr fel cais wedi'i ddirprwyo a'i gymeradwyo; dylai fod wedi ymddangos ar y rhestr o geisiadau a wrthodwyd.

 

      

 

     Nodwyd y buasai'r swyddog achos yn cysylltu gyda'r Cynghorydd R.Ll. Hughes mewn ymateb i'w gwestiwn  ar 15C123 yn ymwneud ag amodau llifogydd.

 

         

 

8

APELIADAU CYNLLUNIO - ADRAN 78 DEDDF CYNLLUNIO GWLAD A THREF 1990

 

      

 

8.1     40C217 - TIR YN FFINIO Â PENSIWRNA, MOELFRE

 

      

 

     Cyflwynwyd a nodwyd, er gwybodaeth - adroddiad yr Arolygydd a benodwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yng nghyswllt apêl Mr. W.J. Owen yn erbyn penderfyniad yr Awdurdod hwn i wrthod caniatâd cynllunio amlinellol i godi 6 o fyngalos gyda garejys.  

 

      

 

     Gwrthodwyd yr apêl am y rhesymau a nodwyd yn adroddiad yr Arolygydd.

 

      

 

     PENDERFYNWYD nodi'r penderfyniad.

 

      

 

      

 

8.2  43C123 - CERRIG Y MOELION, RHOSCOLYN    

 

      

 

     Cyflwynwyd a nodwyd, er gwybodaeth - adroddiad yr Arolygydd a benodwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yng nghyswllt apêl Mr. D. Berry yn erbyn penderfyniad yr Awdurdod hwn i wrthod caniatâd cynllunio amlinellol i droi adeilad gwag yn annedd.

 

      

 

     Caniatawyd yr apêl gyda'r amodau yn adroddiad yr Arolygydd.

 

      

 

     PENDERFYNWYD nodi'r penderfyniad

 

      

 

9     GWASANAETH GWERTH GORAU - CEISIADAU SY'N DISGWYL SYLW

 

      

 

     Cyflwynwyd a derbyniwyd - adroddiad y Pennaeth Rheoli Datblygu yn dweud bod yr Arolwg Gwerth Gorau wedi canfod nifer fawr o geisiadau cynllunio heb eu datrys.  Yn yr adroddiad dywedwyd hefyd bod rhyw 300 o geisiadau 'byw' heb eu setlo'n derfynol am amryfal resymau, er enghraifft Cytundebau heb eu cwblhau'n llawn dan Adran 106.  Yn yr achosion hyn 'roedd yr Adran yn dal i ddisgwyl cynlluniau diwygiedig ac roedd swyddogion yn dal i ddelio gyda cheisiadau oedd heb fod dan ystyriaeth yn y Pwyllgor neu fel arall oedd yn rhan o'r pwerau dirprwyol.

 

      

 

     Yng nghyd-destun y canllawiau cyfreithiol bydd raid ailasesu pob cais gyda golwg ar wneud penderfyniad newydd.  Yn ôl Adran 70(1) Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 :

 

      

 

     "where an application is made to a local planning authority for planning permission :-

 

 

 

(a) subject to Sections 91 and 92, they may grant planning permission, either unconditionally or subject to such conditions as they think fit; or

 

 

 

(b) they may refuse planning permission.

 

 

 

In dealing with such an application the authority shall have regard to the provisions of the development plan, so far as material to the application, and to any other material considerations."

 

 

 

Dan amodau'r Cyfansoddiad presennol a'r Cynllun Dirprwyo i Swyddogion mae hawl gan Bennaeth y Gwasanaeth Cynllunio i ddelio â "all functions relating to the Town and Country Planning  ..... control as contained within the town and Country Planning Act 1990".

 

 

 

Oherwydd y nifer fawr o geisiadau na wnaed penderfyniad yn eu cylch a chan fod angen ailasesu pob cais yng nghyd-destun polisïau'r cynllun datblygu cyfredol ac yn ôl ystyriaethau perthnasol eraill efallai y bydd raid galw cyfarfodydd arbennig gyda'r aelodau i ddelio'n benodol gyda rhain.  Bydd ceisiadau'n ymrannu yn 2 gategori, yn gyntaf y rheini sydd wedi'u caniatáu gyda chytundebau cyfreithiol, a gweddill y ceisiadau.  

 

 

 

Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu y bydd adroddiadau cyfnodol yn cael eu cyflwyno i'r Pwyllgor ar yr hyn a gyflawnwyd gyda'r achosion sy'n disgwyl am sylw.  Mae'r gwasanaeth mewn gohebiaeth gyda 42 o ymgeiswyr/cynrychiolwyr  yng nghyswllt ceisiadau a gymeradwywyd ond gyda chytundebau dan Adran 106 i ganfod a ydynt yn dymuno bwrw ymlaen ai peidio gyda'r materion.  Bellach roedd 2 gais yn y categori hwn wedi'u tynnu'n ôl yn ffurfiol, sef:

 

 

 

9.1     1/34/C/342B - Codi tai ar dir ac altro'r fynedfa i gerbydau ar dir ger Ffordd Cildwrn, Llangefni - caniatawyd 1 Medi, 1999 (Cytundeb Adran 106) - Tynnwyd yn ôl 6 Tachwedd, 2002.

 

      

 

9.2     1/21/C/52A - Creu cwrs golff 18 twll a gwella'r briffordd ym Mhenrhyn Gwyn, Llanddaniel - Caniatawyd 3 Hydref, 1990 (Cytundeb Adran 106) - Tynnwyd yn ôl 6 Tachwedd, 2002.

 

      

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a dileu'r penderfyniadau gwreiddiol yng nghyswllt 9.1 a 9.2 uchod.

 

 

 

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 4.45p.m.

 

 

 

Y CYNGHORYDD W. EMYR JONES

 

CADEIRYDD