Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion dogfennau , 5 Ionawr 2005

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Dydd Mercher, 5ed Ionawr, 2005

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

 

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Ionawr 2005

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd R. L. Owen, Cadeirydd

Y Cynghorydd J. Arthur Jones, Is-Gadeirydd

 

Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, Peter Dunning, J. Arwel Edwards,

P. M. Fowlie, Denis Hadley, R. Ll. Hughes, A. Morris Jones,

O. Glyn Jones, Thomas Jones, D. Lewis-Roberts, John Roberts,

J. Arwel Roberts, W. T. Roberts, Keith Thomas.

 

 

 

WRTH LAW:

 

Cynllunio :

Pennaeth Rheoli Datblygu (EGJ)

Rheolwr Rheoli Cynllunio (DFJ)

Arweinydd Tîm (NJ)

Cynorthwy-ydd Cynllunio (GO)

 

Priffyrdd:

Uwch Beiriannydd (Rheoli Datblygu a Hawliau Tramwy Cyhoeddus) (JRWO)

Swyddog Rheoli Datblygu (RE)

 

Cyfreithiwr (RWJ)

Cynorthwy-ydd Gweinyddol (CWP)

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Y Cynghorwyr John Byast, John Rowlands.

 

 

 

HEFYD YN BRESENNOL:

 

Aelodau Lleol:  Y Cynghorwyr Bessie Burns (eitem 4.12), W.I. Hughes (eitem 4.18), John Williams (eitem 4.5), W.J. Williams (eitem 4.6).

 

1

DATGANIAD O DDIDDORDEB

      

Cafwyd datganiadau o ddiddordeb gan Aelodau a Swyddogion fel y cawsant eu cofnodi dan yr eitemau perthnasol.

      

2

COFNODION

      

Cyflwynwyd a chadarnhawyd cofnodion y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gyfarfu ar 1 Rhagfyr, 2004.(Tud 40 - 62 o’r Gyfrol hon)

      

3

YMWELIADAU Â SAFLEOEDD

      

Cyflwynwyd a chadarnhawyd yr adroddiad ar Ymweliadau â Safleoedd Cynllunio a gafwyd ar 15 Rhagfyr, 2004, yn amodol ar nodi bod y Cynghorydd J. Arwel Roberts wedi cyflwyno ei ymddiehuriadau am absenoldeb.

      

4

CEISIADAU'N CODI O'R COFNODION

      

4.1

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     11C122B/EIA - DARPARU GWAITH TRIN CARTHFFOSIAETH A GWAITH TIRLUNIO CYSYLLTIEDIG AR RAN O SAFLE TANC STORIO OLEW SHELL GYNT A SAFLE'R GREAT LAKES, AMLWCH

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod materion yn dal i fod heb eu datrys yng nghyswllt y cais hwn a chafwyd argymhelliad ganddo i ohirio ei ystyried.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a nodi y câi'r cais hwn ei dynnu oddi ar y rhaglen.

 

      

 

4

15C132A - ADFER YR ANNEDD BRESENNOL YNGHYD AG EHANGU A GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD Y TU ALLAN I'R CWRTIL YN NHYN FFLAT, TREFDRAETH

 

      

 

     Gwnaeth Mr. Barry J. Jones o'r Adran Briffyrdd ddatganiad o ddiddordeb yn y cais hwn.

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

Yn y cyfarfod cynt ac yn groes i argymhelliad o wrthod gan y swyddog roedd yr aelodau yn tueddu i ganiatáu'r cais hwn am y rhesymau a ganlyn :

 

      

 

Ÿ     cais oedd yma i adfer annedd - nid addasu adeilad

 

Ÿ     y dyluniad a'r maint yn dderbyniol i'r safle

 

Ÿ     mewn ymateb i argymhelliad Asiantaeth yr Amgylchedd - nid oedd hwn yn ddatblygiad newydd

 

Ÿ     heb fod yn groes i fioamrywiaeth

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor gohiriwyd ystyried y cais tan y cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i'r swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu'r cais.

 

 

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod yr annedd yn  adfail a neb wedi byw ynddi ers diwedd y 70au.  Buasai unrhyw fwriad i'w hadfer yn cyfateb i godi annedd newydd, a hefyd roedd maint y cynnig yn annerbyniol fel y manylwyd ar hynny yn adroddiad y swyddog.  Roedd yr ymgeisydd yn cydnabod nad oedd modd byw yn yr adeilad a bod yr hawliau preswylio wedi darfod.  'Roedd y bwriad ddwywaith maint yr hen annedd.  Roedd effaith andwyol y cynnig y tu mewn i Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig a thu mewn i Ardal Tirwedd Arbennig yn annerbyniol.  Pe rhoddid caniatâd dan yr amgylchiadau hyn buasai hynny'n creu cynsail i gynigion cyffelyb yn y dyfodol.  Roedd llythyr arall wedi dod i law oddi wrth Asiantaeth yr Amgylchedd yn ailddatgan yr hyn a ddywedwyd ganddynt gynt, sef ei bod hi'n annerbyniol adeiladu mewn gorlifdir.  Roedd y cynnig yn groes i TAN15 a chafwyd argymhelliad o wrthod.

 

 

 

     Ailadroddodd y Cynghorydd R.Ll Hughes yr hyn yr oedd wedi ei ddweud a chefnogodd y cais.  Er gwaethaf cyflwr adfeiliedig yr annedd roedd y Cynghorydd Hughes yn dal allan bod angen ystyried y cynnig fel bwriad i adfer oherwydd bod y ty wedi ei ddifrodi gan dân.  Roedd yr ymgeisydd angen codi ty mwy i'w deulu.  Ni chredai'r Cynghorydd Hughes y buasai'r bwriad hwn allan o gymeriad ond yn hytrach y buasai'n gwella gwedd yr ardal.  Dywedodd y Cynghorydd Hughes bod ffarm gywion ieir wedi ei sefydlu y drws nesaf; wedyn ¾m draw roedd ty ffrâm goed newydd wedi ei godi yn lle hen un ar lefel 1.5m AOD - roedd y cais gerbron ar lefel 3.7m AOD.  Felly credai'r Cynghorydd Hughes yn gryf iawn y dylid rhoddi caniatâd i'r cais.

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd Hughes fod y cais yn cael ei ganiatáu yn unol â'r penderfyniad gwreiddiol, ac fe eiliwyd hyn gan y Cynghorydd D. Lewis-Roberts.

 

      

 

     O 10 pleidlais i 4 PENDERFYNODD yr aelodau lynu wrth y penderfyniad cynt, sef rhoddi caniatâd i'r cais am y rhesymau a roddwyd a hefyd gyda'r amodau perthnasol.

 

      

 

4

  GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     19C291A - CAIS AMLINELLOL I DDYMCHWEL Y TY TAFARN, CODI 12 ANNEDD 2 YSTAFELL WELY YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU YN Y DDRAIG GOCH, LLAIN-GOCH.

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod yr ymgeiswyr bellach wedi cyflwyno cynlluniau diwygiedig yn rhoddi sylw i faterion technegol yng nghyswllt materion priffyrdd a draenio - buasai'r cyfryw faterion yn destun ymgynghori pellach.  Yn y cyfamser roedd y swyddog yn argymell gohirio ystyried y cais.

 

      

 

     Am y rheswm a roddwyd gan y swyddog PENDERFYNWYD gohirio'r cais hwn.

 

 

 

4.4 1     CEISIADAU ECONOMAIDD

 

      

 

     19C842A/EIA - CAIS AR GYFER DATBLYGIAD ARFAETHEDIG ARDAL DEFNYDD CYMYSG SWYDDI (B1, B2, B8) YN CYNNWYS SWYDDFEYDD, DIWYDIANT A DEFNYDD GWESTY YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU AR DIR GER TY MAWR, CAERGYBI

 

      

 

     Gan ddilyn argymhelliad y swyddog ymwelodd yr aelodau â safle'r cais ar 15 Rhagfyr 2004.  Ychwanegodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod gwaith ymgynghori yn dal i gael ei wneud gyda'r ymgeiswyr a'r swyddogion yn disgwyl bod mewn sefyllfa i gyflwyno adroddiad i gyfarfod nesaf y Pwyllgor.

 

      

 

     Am y rheswm a roddwyd gan y swyddog PENDERFYNWYD gohirio'r cais hwn.

 

 

 

4

  CEISIADAU ECONOMAIDD

 

      

 

     20C74K/DA - CYNLLUNIAU MANWL AR GYFER CODI 18 ANNEDD GYDA GAREJ YNGHYD Â MYNEDFA NEWYDD I DYDDYN GYRFA AR DIR GYFERBYN A STAD TYDDYN, CEMAES.

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor yn ôl dymuniad yr aelod lleol0.  Ymwelwyd â'r safle ar 17 Tachwedd, 2004.  Yng nghyfarfod Rhagfyr gohiriwyd ystyried y cais yn ôl dymuniad yr aelod lleol a hynny am ei fod yn absennol.  

 

      

 

     Disgrifiodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio y safle fel y manylwyd ar hynny yn ei adroddiad.  Sefydlwyd yr egwyddor o ddatblygu ar y tir hwn pan roddwyd caniatâd cynllunio amlinellol yn ystod y 90au.  Cais oedd yma yng nghyswllt materion wrth gefn, sef lleoliad, dyluniad, gwedd allanol, mynedfa ac ystyriaethau tirlunio i ddeunaw o fyngalos dormer o ddyluniad amrywiol.  Teimlai'r swyddogion bod y cynllun a gyflwynwyd yn dderbyniol o safbwynt cynllunio a hefyd yn cydymffurfio gyda pholisïau tai.  Nid oedd yr un rheswm dros wrthod a chafwyd argymhelliad o ganiatáu.

 

      

 

     Y boen fwyaf i'r bobl leol yn ôl y Cynghorydd John Williams, yr aelod lleol, oedd creu mynedfa newydd i stad Tyddyn Gyrfa - yn y llecyn arbennig hwn roedd y lôn yn gul ac yn beryglus ond roedd yr aelod yn gwerthfawrogi bod yr Adran Briffyrdd wedi rhoddi sylw priodol i bob agwedd o'r cais.  Ychwanegodd y Cynghorydd Williams nad oedd perchnogaeth y tir ym Mhen Cae wedi ei sefydlu eto.  Roedd angen diogelu pleserau nifer o dai o gwmpas y safle.

 

      

 

     Sylwodd y Cynghorydd Keith Thomas fod perchennog Manora mewn llythyr a gyflwynwyd ar 9 Awst 2004, yn crybwyll  fod yr ymgeisydd yn bwriadu gosod pibell garthffosiaeth ar draws ei dir - tir nad oedd yn eiddo i'r ymgeiswyr.  Mewn ymateb dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod yr ymgeisydd wedi cyflwyno tystysgrif yn cadarnhau fod hawddfraint wedi ei chaniatáu.

 

      

 

      

 

     Wedyn ychwanegodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod caniatâd cynllunio amlinellol wedi ei roddi i'r safle yn y cyfnod cyn cyflwyno'r polisïau cyfredol ar ddarparu tai fforddiadwy - dywedodd hyn mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Denis Hadley.

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Thomas Jones dywedodd y swyddog bod cytundeb dan Adran 106 wedi ei wneud yng nghyswllt ffyrdd a charthffosydd.

 

      

 

     Mewn ymateb i'r Cynghorydd R. Ll. Hughes dywedodd yr Uwch Beiriannydd Priffyrdd ei fod yn fodlon bod y fynedfa arfaethedig yn addas i gerbydau ac i gerddwyr gan ychwanegu eu bod am i'r ymgeiswyr sicrhau y bydd y llwybr cyhoeddus yn 2 fetr o led ac y bydd uchder y ffens rhwng y tir a'r llwybr yn cael ei ostwng o 2m i 1m.  

 

 

 

     Roedd y Cynghorydd W. T. Roberts o'r farn fod rhwydwaith ffyrdd yr ardal hon gyda'r rhwydwaith mwyaf peryglus ym Môn.  

 

      

 

     Gan y Cynghorydd P. M. Fowlie cafwyd cynnig i ganiatáu a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Eurfryn Davies.

 

      

 

     O 12 pleidlais PENDERFYNODD yr aelodau dderbyn adroddiad ac argymhelliad y swyddog o ganiatáu'r cais a hynny am y rhesymau yn adroddiad y swyddog a chyda'r amodau yn yr adroddiad hwnnw.

 

      

 

     Ni phleidleisiodd y Cynghorydd W. T. Roberts ar y cais.

 

      

 

4

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

23C227 - CAIS AMLINELLOL AR GYFER CODI ANNEDD YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD A GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD AR RAN O O.S. 7962, LLANGWYLLOG

 

      

 

     Gwnaeth y Cynghorydd Aled Morris Jones ddatganiad o ddiddordeb yn y cais a gadawodd y           cyfarfod tra bu trafodaeth a phleidleisio arno.

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Gohiriwyd ystyried y cais hwn yng nghyfarfod mis Rhagfyr a hynny yn ôl dymuniad yr ymgeisydd a oedd eisiau cyflwyno rhagor o wybodaeth i gefnogi'r cais.

 

      

 

     Wedyn dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio nad oedd unrhyw wybodaeth newydd wedi dod i law gan yr ymgeisydd a bod y swyddog yn teimlo, i fod wedi cael digon o amser.

 

      

 

     Dywedodd y swyddog mai cais amlinellol oedd gerbron ac aeth ymlaen i ddisgrifio'r safle fel y manylwyd ar hynny yn adroddiad y swyddog.  Roedd y cyrff yr ymgynghorwyd â nhw yn statudol wedi cyflwyno sylwadau ond ddim yn gwrthwynebu'r bwriad.  Hefyd derbyniwyd dau lythyr o wrthwynebiad a llythyr oddi wrth y Cyngor Cymuned yn amgau deiseb ac arni 28 o enwau.  Nodwyd hefyd bod yr ymgeisydd eisoes wedi derbyn caniatâd i godi annedd arall yn y cyffiniau.

 

      

 

     Dygodd y swyddog sylw'r aelodau at y polisïau perthnasol yn adroddiad y Swyddog gan ychwanegu mai Polisi 50 (pentrefi rhestredig) oedd y polisi pennaf a ystyriwyd.  Roedd Llangwyllog yn bentref rhestredig yng Nghynllun Lleol Ynys Môn a'r mater a gafodd y sylw pennaf gan swyddogion oedd yr egwyddor o ddatblygu - effaith hynny ar y tirwedd - a buasai'r cynnig yn creu datblygiad rhubanaidd, a hefyd yn cael effaith andwyol ar y tirwedd ac yn erydu bwlch braf yn y cefn gwlad.  Cafwyd argymhelliad o wrthod gan y swyddog gan fod y cais yn groes i Bolisi 50 Cynllun Lleol Ynys Môn.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd W. J. Williams, yr aelod lleol, yn cytuno gyda'r hyn a ddywedwyd gan y Rheolwr Rheoli Cynllunio gan deimlo y buasai'r cynnig yn creu datblygiad rhubanaidd, a bod safle'r cais ger Llyn Cefni lle 'roedd dau dy newydd wedi eu codi yn ystod y pum mlynedd ar hugain ddiweddar.  Ni chredai'r Cynghorydd Williams fod y cais hwn yn cael ei gyflwyno mewn ymateb i angen lleol.     

 

      

 

     Cafwyd cynnig o wrthod gan y Cynghorydd John Roberts a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd W. T. Roberts.

 

      

 

     O 9 pleidlais PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad i wrthod a hynny am y rhesymau a roddwyd gan y swyddog.

 

 

 

4

  GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     24C221 - NEWID DEFNYDD ADEILADAU ALLANOL I 3 UNED WYLIAU YNGHYD Â DARPARU TANC SEPTIG NEWYDD YN NHY'N RHOS, DULAS

 

      

 

     Gwnaeth y Cynghorydd J. Arthur Jones ddatganiad o ddiddordeb yn y cais ac nid oedd yn 0bresennol yn ystod y drafodaeth.

 

      

 

     Ymwelwyd â safle'r cais ar 17 Tachwedd, 2004.  Yn y cyfarfod cynt ac yn groes i argymhelliad o ganiatáu gan y swyddog roedd yr aelodau yn tueddu i wrthod y cais hwn am y rhesymau a ganlyn :

 

      

 

Ÿ     rhesymau diogelwch y briffordd - ni all rhwydwaith lleol y ffyrdd ymdopi gyda'r cynnydd yn y traffig.

 

Ÿ     y cynllun yn rhyw fawr i'r ardal.

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor gohiriwyd ystyried y cais tan y cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros wrthod y cais hwn.

 

 

 

I atgoffa'r Pwyllgor dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod yr ymgeisydd wedi cynnig gwelliannau priffordd ar hyd y rhwydwaith lleol o ffyrdd trwy ddarparu mannau pasio a gwella  sawl mynedfa.  Roedd angen ystyried ceisiadau Stad Dulas fesul un a chais oedd hwn i addasu a throi adeiladau allanol yn dair uned wyliau.  Ni allai'r swyddogion amddiffyn penderfyniad y Pwyllgor pe ceid apêl, a buasai gwrthod y cais yn groes i gyngor y swyddog.  Roedd y Rheolwr Rheoli Cynllunio yn argymell caniatáu'r cais am y rhesymau yn adroddiad y swyddog.

 

 

 

Credai'r Cynghorydd Aled Morris Jones, yr aelod lleol, bod y rhesymau a roddwyd dros wrthod y cais yn rhai dilys a phriodol.  Roedd safle'r cais yn y cefn gwlad, mewn Ardal o Brydferthwch Naturiol Eithriadol a rhwydwaith y ffyrdd lleol yn is na'r safon.  Mynegi siom a wnaeth y Cynghorydd Jones am nad oedd y mapiau a ddangoswyd i'r Pwyllgor mewn cyfarfod cynt ar gael yn y cyfarfod hwn.  Ychwanegodd na châi unrhyw broblem mewn amddiffyn penderfyniad o wrthod mewn apêl.

 

 

 

Teimlai'r Cynghorydd John Roberts bod yma broblem gyda rhwydwaith y ffyrdd ac nad oedd daparu mannau pasio ychwanegol yn welliant mawr.  

 

 

 

Yn ôl y Cynghorydd Eurfryn Davies nid darparu mannau pasio oedd yr ateb.

 

 

 

Wedyn dywedodd y Cynghorydd Denis Hadley bod Ynys Môn yn cael ei hyrwyddo fel "Yr Ynys o Ddewis" a bod rhwydwaith y ffyrdd yn y lle hwn yn nodweddiadol o'r rheini mewn sawl rhan arall o'r Ynys - nid oedd yn cyrraedd y safon a hefyd roedd pwysau arni ond gan fod y cynnig hwn yn un i ddarparu unedau gwyliau o safon uchel buasai'n hyrwyddo twristiaeth ac yn denu twristiaid.

 

 

 

Teimlai'r Cynghorydd Keith Thomas dristwch bod pobl lleol yn cael eu rhwystro rhag codi tai iddynt eu hunain a hynny oherwydd safon y ffyrdd lleol ac ni allai ddeall yn iawn beth oedd y cyfiawnhad i'r ceisiadau gerbron.

 

 

 

Cytuno gwnaeth y Cynghorydd R. Ll. Hughes nad oedd y ffordd mewn rhai mannau yn ddim amgen na lôn drol ond ar y llaw arall roedd gwir angen darparu unedau gwyliau o safon yn Ynys Môn.  I raddau gellid dehongli mannau pasio ychwanegol fel mantais i'r priffyrdd a dywedodd y Cynghorydd Hughes y câi anhawster gwrthod y cais hwn.

 

 

 

I atgoffa'r aelodau dyweodd y Cynghorydd Aled Morris Jones y buasai nifer y ceisiadau a gyflwynwyd gan Stad Dulas ac a ganiatawyd gan y Pwyllgor hwn yn y cyfarfod blaenorol yn ychwanegu'n sylweddol at bwysau'r drafnidiaeth ac yr ychwanegid at y problemau petai rhagor o geisiadau'n cael eu caniatáu.

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod raid ystyried pob cais fesul un gan atgoffa'r aelodau o oblygiadau gwrthod caniatâd.  Roedd y ceisiadau hyn yn cael sylw dan y polisi addasu - nid rhai i godi adeiladau newydd oeddent.

 

 

 

Dywedodd yr Uwch Beiriannydd Priffyrdd y buasai darparu mannau pasio yn gwella'r cyfleusterau i ymwelwyr a hefyd i bobl leol.  Roedd yr ymgeiswyr yn bwriadu gwella'r fynedfa ar y cyd gyda Cochwillan - sef cais y rhoes y Pwyllgor hwn ganiatâd iddo yn ei gyfarfod diwethaf.  Mewn apêl ni fedrai'r Swyddogion Priffyrdd amddiffyn gwrthod cais union y drws nesaf i gais arall a ganiatawyd yn y cyfarfod cynt.

 

 

 

Atgoffodd y Cyfreithwir yr aelodau o gostau mynd i apêl a hefyd ychwanegu na allai'r swyddogion amddiffyn penderfyniad y Pwyllgor i wrthod y cais - hynny ydyw petai'r ymgeisydd yn mynd i apêl.

 

 

 

Gan y Cynghorydd Aelod Morris Jones cafwyd cynnig i wrthod y cais am y rhesymau a roddwyd eisoes a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Eurfryn Davies.

 

 

 

Roedd y bleidlais yn 7 yr un ond trwy bleidlais fwrw'r Cadeirydd PENDERFYNWYD dileu penderfyniad blaenorol y Pwyllgor a rhoddi caniatâd i'r cais hwn am y rhesymau a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

4

  GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     24C222 - NEWID DEFNYDD ADEILADAU ALLANOL I 3 UNED WYLIAU YNGHYD Â DARPARU TANC SEPTIG NEWYDD YN COCHWILLAN, DULAS

 

      

 

     Gwnaeth y Cynghorydd J. Arthur Jones ddatganiad o ddiddordeb yn y cais ac nid oedd yn bresennol yn ystod y drafodaeth.

 

      

 

     Ymwelwyd â safle'r cais ar 17 Tachwedd, 2004.  Yn y cyfarfod cynt ac yn groes i argymhelliad o ganiatáu gan y swyddog roedd yr aelodau yn tueddu i wrthod y cais hwn am y rhesymau a ganlyn :

 

      

 

Ÿ     Diogelwch y ffordd, y gallu i weld

 

Ÿ     Rhwydwaith lleol y ffyrdd yn methu derbyn y datblygiad a'i gynnal

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor gohiriwyd ystyried y cais tan y cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros wrthod.

 

 

 

Ni fedrai'r Rheolwr Rheoli Cynllunio gyfiawnhau gwrthod y cais hwn am resymau diogelwch y ffordd ac argymhellodd fod y Pwyllgor yn dileu y penderfyniad cynt ac yn hytrach yn rhoddi caniatâd.

 

 

 

Am y rhesymau a roddwyd cynt cynigion y Cynghorydd Aled Morris Jones y dylid glynu wrth benderfyniad blaenorol y Pwyllgor a gwrthod y cais; cafodd ei eilio gan y Cynghorydd Eurfryn Davies.

 

 

 

Roedd y bleidlais yn 7 yr un ond wrth i'r Cadeirydd defnyddio ei bleidlais fwrw PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau yn adroddiad y swyddog a chyda'r amodau yno.

 

 

 

4

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     24C54A - NEWID DEFNYDD ALLANOL I FOD YN 5 UNED WYLIAU YNGHYD Â DARPARU TANC SEPTIG NEWYDD YN RHOSMYNACH FAWR, LLANEILIAN

 

      

 

     Gwnaeth y Cynghorydd J. Arthur Jones ddatganiad o ddiddordeb yn y cais ac nid oedd yn bresennol yn ystod y drafodaeth.

 

      

 

     Ymwelwyd â safle'r cais ar 17 Tachwedd, 2004.  Yn y cyfarfod cynt ac yn groes i argymhelliad o ganiatáu gan y swyddog roedd yr aelodau yn tueddu i wrthod y cais ac ni fedrent gytuno gyda'r swyddog ar faterion priffyrdd.

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor gohiriwyd ystyried y cais tan y cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros wrthod y cais hwn.

 

 

 

Ni fedrai'r Rheolwr Rheoli Cynllunio gyfiawnhau gwrthod y cais am resymau diogelwch y briffordd ac argymhellodd y dylai'r Pwyllgor ddileu ei benderfyniad blaenorol a rhoddi caniatâd. Roedd yr Adran Briffyrdd yn cefnogi bwriad yr ymgeisydd i wella rhwydwaith lleol y briffordd.

 

 

 

Am y rhesymau a roddwyd cynt cynigiodd y Cynghorydd Aled Morris Jones y dylid glynu wrth benderfyniad blaenorol y Pwyllgor a gwrthod y cais; cafodd ei eilio gan y Cynghorydd Eurfryn Davies.

 

 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Arwel Roberts dderbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad o ganiatáu a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd John Roberts.

 

 

 

O 8 bleidlais i 7 PENDERFYNWYD dileu penderfyniad blaenorol y Pwyllgor a chaniatáu'r cais am y rhesymau yn adroddiad y swyddog a chyda'r amodau yno.

 

 

 

4

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     28C244A - CAIS I NEWID DEFNYDD YR ADEILAD ALLANOL I 2 UNED WYLIAU YN FELIN UCHAF, BRYN DU

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Ymwelwyd â'r safle ar 20 Hydref, 2004.  Roedd yr ymgeisydd wedi cynnig gwelliannau i'r briffordd a'r Adain Briffyrdd yn gweld y cynnig yn dderbyniol.

 

      

 

     Roeddid yn disgwyl am y lluniadau ffurfiol i wneud rhagor o ymgynghori yn eu cylch ac yn y cyfamser cafwyd argymhelliad i ohirio ystyried y cais  gan y swyddog.

 

        

 

     Gan y Cynghorydd Glyn Jones, yr aelod lleol, cafwyd cynnig i wrthod y cais oherwydd ofni y buasai caniatâd yn golygu gorddatblygu'r lle a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd W. T. Roberts.

 

      

 

     O 8 bleidlais i 7 PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais hyd nes cwblhau'r gwaith ymgynghori.

 

 

 

4

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     CAIS I GADW DEFNYDD RHAN O'R SAFLE ER MWYN STORFA CARAFANAU TEITHIO YNG NGORSAF REILFFORDD TY CROES, BRYN DU

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor yn ôl dymuniad yr aelod lleol.      

 

      

 

     Yng nghyfarfod Rhagfyr gohiriwyd ystyried y cais oherwydd ymgynghori gyda'r Cyngor Cymuned anghywir (yr un cyffiniol) a hefyd nid oedd 'run o'r tai cyffiniol wedi derbyn rhybudd.

 

      

 

     Cafwyd disgrifiad o'r cynnig ac o'r safle gan y Rheolwr Rheoli Cynllunio fel y manylwyd ar y cyfryw bethau yn yr adroddiad.

 

      

 

     Roedd gan y Cynghorydd Glyn Jones, yr aelod lleol, amheuaeth ynghylch a oedd yr ymgeisydd wedi cyflwyno cais arall am dystysgrif defnydd cyfreithlondeb.  Nid oedd y Cynghorydd yn cytuno bod y cais hwn yn cydymffurfio gydag egwyddorion Polisïau B1, B8 a B9 Cynllun Fframwaith Gwynedd a chyda Pholisi 2 Cynllun Lleol Ynys Môn - dros y tair blynedd diwethaf roedd perchennog y safle wedi preswylio yn Llundain ac ni fuasai rhoddi caniatâd i'r safle yn creu swyddi.  Wedyn rhannodd y Cynghorydd ffotograffau lliw i aelodau'r Pwyllgor yn cefnogi ei ddatganiad bod y safle, fel y mae, yn ddolur llygaid.  Hefyd roedd y Cynghorydd Jones yn poeni ynghylch dulliau o reoli gwastraff ar y safle yn y dyfodol.  

 

      

 

     Gofyn wnaeth y Cynghorydd D. Lewis-Roberts a fuasai rhoddi caniatâd mewn gwirionedd yn gwella gwedd y safle.

 

      

 

     Cafwyd cynnig gan y Cynghorydd Glyn Jones i wrthod y cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd W. T. Roberts.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio y rhoddid amodau ynghlwm wrth unrhyw ganiatâd i sicrhau cydymffurfiad gyda'r ddeddfwriaeth mewn grym.  Cymerid camau gorfodaeth pe methid â chydymffurfio gyda'r cyfryw amodau.

 

      

 

     O 9 pleidlais i 6 PENDERFYNWYD rhoi'r awdurdod i'r Pennaeth Gwasanaethau Cynllunio ganiatáu'r cais, gyda'r amod na ddeuai sylwadau newydd i mewn yn ystod gweddill y cyfnod ymgynghori a hefyd gyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

4

CEISIADAU ECONOMAIDD

 

      

 

     29C103B - CODI ADEILAD AR GYFER DEFNYDD BUSNES AM YSTAFELL FWG YNGHYD AG ADDASU Y FYNEDFA GERBYDAU BRESENNOL, A GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD YN Y BORTHWEN, LLANFAETHLU

 

      

 

     Dygwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno oherwydd sylwadau a gafwyd gan yr aelod lleol.

 

      

 

     Ymwelwyd â safle'r cais ar 15 Rhagfyr 2004 a chadarnhaodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod caniatâd wedi ei roddi i greu mynedfa i'r safle fel y gwelodd yr aelodau yn ystod yr ymweliad â'r safle.  

 

      

 

     O safbwynt cywirdeb y cofnod dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod hwn yn gais economaidd ac nid oedd yn rhan o "gweddill y ceisiadau" fel a nodwyd yn adroddiad y swyddog.  Hefyd cafwyd sylwadau gan y cyrff hynny yr ymgynghorwyd â nhw yn statudol ond ni chafwyd ganddynt yr un gwrthwynebiad.  Roedd 1 llythyr o wrthwynebiad wedi ei dderbyn a chrynhowyd hwnnw yn adroddiad y swyddog a hefyd roedd y llythyr ar gael yn y cyfarfod.

 

      

 

     Wedyn crybwyllodd y swyddog brif faterion cynllunio'r cais gan gynnwys cynaliadwyaeth a'r egwyddor o ddatblygu, lleoliad, gwedd allanol a defnyddiau, ac effaith y cynnig ar yr Ardal o Brydferthwch Naturiol Eithriadol a manylwyd ar y pleserau, y priffyrdd a'r draeniad fel y crybwyllwyd y cyfryw bethau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

     Y polisïau economaidd ac amgylcheddol oedd y rhai pennaf a ystyriwyd wrth lunio argymhelliad i'r Pwyllgor a theimlai'r swyddogion bod modd canfod safleoedd eraill, rhai digon da, y tu allan i'r Ardal o Brydferthwch Naturiol Eithriadol hon.

 

      

 

     Ni fedrai'r Cynghorydd Bessie Burns, yr aelod lleol, dderbyn adroddiad y swyddog.  Roedd y siopau lleol wedi cau, roedd nifer y plant yn gostwng yn yr ysgol leol a hefyd roedd yr ardal wedi dioddef diweithdra.  Yn 2003 rhoddwyd caniatâd i gynllun cyffelyb yn nwyrain yr Ynys.  

 

     Cynnig oedd hwn i godi adeilad bychan - llai na'r rhan fwyaf o'r siediau, ac nid yw'r cyfan o'r siediau yn cael eu defnyddio i ddibenion amaethyddol; nid adeilad diwydiannol mawr oedd dan sylw yn y lle hwn.  Buasai rhoddi caniatâd yn creu 8 swydd ar y safle a 2 swydd arall i weithwyr maes.  Hefyd roedd modd ailgylchu'r mwg a ddeuai o'r offer mygu a dim ond ager a gâi ei ollwng o'r adeilad.  Yn wir roedd Adran Datblygu Economaidd y Cyngor ei hun yn gynnig pob anogaeth i gynnyrch lleol trwy yr "Ynys Fwyd" a hefyd roedd gan yr ardal dan sylw draddodiad o brosesu pysgod.  Roedd yr ymgeisydd yn cyflenwi i westyau mawrion ar draws y wlad, a chan gynnwys Llundain, a hefyd roedd yn fodlon symud yr adeilad a diwygio ei wedd allanol i greu'r argraff o dy petai hynny'n ddymunol.  Beth amser yn ôl roedd cig moch yn cael ei fygu yn y Borthwen.  

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd John Roberts dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod cyfleusterau mygu wedi eu caniatáu yn Nulas, ond mater o addasu adeilad oedd hwnnw ac nid oedd mewn Ardal o Brydferthwch Naturiol Eithriadol.

 

      

 

     Wedyn cafwyd awgrym gan y Cynghorydd Denis Hadley y gellid symud yr adeilad a'i guddio.  Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Arwel Edwards dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio y buasai'n rhaid ailymgynghori pe câi'r adeilad ei symud ac yn wir mae'r peth hwylusaf fuasai cyflwyno cais newydd.

 

      

 

     Credai'r Cynghorydd Arthur Jones fod creu swyddi yn ffactor o bwys yn yr ardal hon.  

 

      

 

     Teimlai'r Cynghorydd Aled Morris Jones bod y math hwn o fusnes yn mynd i ymdoddi'n naturiol yn y cefn gwlad.

 

      

 

     Ond ychwanegodd y Cynghorydd R. Ll. Hughes bod safleoedd eraill, rhai megis unedau diwydiannol, wedi eu dynodi y tu mewn i'r CDU i'r math hwn o fusnes.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Tecwyn Roberts cafwyd cynnig i ganiatáu'r cais am na chafwyd yr un broblem pan sefydlwyd uned gyffelyb yn Nulas, a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Arthur Jones.

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd Thomas Jones dderbyn argymhelliad y swyddog, sef gwrthod, a hynny oherwydd dyluniad yr adeilad.

 

      

 

     Roedd y bleidlais yn 8 yr un ond trwy bleidlais fwrw'r Cadeirydd PENDERFYNWYD gwrthod y cais am y rhesymau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

4.13

CEISIADAU ECONOMAIDD

 

      

 

     30C385A - DYMCHWEL Y GWESTY PRESENNOL A CHODI ADEILAD 5 LLAWR YN CYNNWYS 28 O FFLATIAU PRYNU I OSOD, PWLL NOFIO DAN DO A GYMNASIWM YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU, ADDASU MYNEDFA I GERBYDAU PRESENNOL A GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD YNG NGWESTY BRYN TIRION, TRAETH COCH.

 

      

 

     Ymwelodd yr Aelodau â safle'r cais ar 20 Hydref 2004.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod ymgynghorwyr annibynnol wedi eu comisiynu i asesu effaith weledol y bwriad ar y tirwedd a'r disgwyl oedd y buasai adroddiad llawn ar gael ac yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor Chwefror.

 

      

 

     Am y rheswm a roddwyd PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais.     

 

      

 

4

CEISIADAU YN TYNNU'N GROES I'R POLISI

 

      

 

     30C570 - CAIS AMLINELLOL AR GYFER CODI ANNEDD GYDA GAREJ YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU A GOSOD GORSAF BREIFAT I DRIN CARTHION AR DIR GYFERBYN Â GABASSON, TYN-Y-GONGL

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor yn ôl dymuniad yr aelod lleol a oedd yn gefnogol iddo.  Ymwelodd yr aelodau â'r safle ar 15 Rhagfyr 2004.

 

      

 

     Mewn cyd-destun cynllunio roedd y bwriad hwn yn annerbyniol i'r Rheolwr Rheoli 0Cynllunio.  Roedd rhwydwaith y ffyrdd o gwmpas y safle yn gul, yn is-safonol ac yn annigonol.  Yn amlwg roedd y cais yn gwyro am ei fod yn groes i Bolisi 53 y Cynllun Lleol, i Bolisi A6 Cynllun Fframwaith Gwynedd a hefyd i'r Ffiniau Datblygu yn HP4 yr CDU.  Cafwyd argymhelliad cryf o wrthod.

 

      

 

     Ni fedrai'r Cynghorydd D. Lewis-Roberts, yr aelod lleol, gytuno gydag adroddiad y swyddog. Roedd hanes cynllunio o wrthod ar y safle yn mynd yn ôl i'r 1960au a'r 1970au.  Yn ystod y 1990au y rhoddwyd caniatâd cynllunio i Lys Mathafarn a'r Paddock, ac yn Nhyddyn0 Sargeant caniatawyd tair uned yn ddiweddar.  Dywedodd y Cynghorydd Lewis-Roberts bod 6 lle pasio ar y lôn at y safle, ac ar ôl iddo wneud ymholiadau diweddar gyda sawl cwmni gwasanaeth sy'n defnyddio'r ffordd yn rheolaidd, gan gynnwys Ecovert, y dyn llefrith, TR Jones, Alwyn Jones a GD Jones, canfu na chafodd yr un ohonynt anhawster teithio ar hyd y rhwydwaith hwn o ffyrdd. Buasai symud cornel y lôn yn ôl, yn ôl y bwriad, yn creu mantais gynllunio, a hefyd roedd Stad Bryn Goleu yn agos iawn i'r safle hwn.  Buasai'r annedd arfaethedig yn gartref i'r ymgeisydd, dyn lleol, ei wraig a'i dri phlentyn sydd ar hyn o bryd yn byw ym Mangor ac yn teithio i weithio i Borthaethwy; tad yr ymgeisydd a roddodd y plot hwn iddo adeiladu ei gartref arno i'w deulu; yn ogystal roedd y Cyngor Cymuned yn cefnogi'r cais.  Yr unig wrthwynebiad oedd un y cymydog drws nesaf.

 

      

 

     Mewn ymateb i ddatganiad gan y Cynghorydd Aled Morris Jones fod tair uned newydd wedi eu caniatáu yn Nhyddyn Sargeant dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio mai caniatâd i addasu adeiladau allanol oedd y rheini - i'w troi yn lletyau gwyliau.

 

      

 

     Wedyn ychwanegodd y Cynghorydd Aled Morris Jones bod y gwaith a wnaed gan yr aelod lleol yn fodd i'r Pwyllgor gefnogi'r cais.

 

      

 

     Yn ôl y Rheolwr Rheoli Cynllunio roedd y safle, heb amheuaeth, y tu allan i ffiniau pentref Tyn-y-gongl - nid clwstwr ydoedd - roedd yn y cefn gwlad fel y manylwyd ar hynny yn adroddiad y swyddog ac nid oedd yn cydymffurfio gyda'r polisïau.  Yr hyn a wnaeth y swyddog wedyn oedd atgoffa'r aelodau o bwysigrwydd gwneud penderfyniadau cynllunio yn seiliedig ar egwyddor defnydd tir ac nid ar amgylchiadau personol.  Nid oedd y safle mewn clwstwr fel y diffinnir clwstwr yn y cynllun datblygu.

 

      

 

     Dywedodd yr Uwch Beiriannydd Priffyrdd fod y swyddogion Priffyrdd yn argymell gwrthod y cais oherwydd bod y lôn gul - y briffordd gyhoeddus - at y safle yn droellog ac yn llawn gelltydd bychan, a hynny yn amharu ar y gallu i weld tuag at ymlaen ac nid oedd ar y ffordd ddigon o fannau pasio.  Roedd y swyddogion wedi derbyn cwynion oherwydd bod defnyddwyr y ffordd yn defnyddio mynedfeydd i dai fel mannau pasio.

 

      

 

     Wedyn mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Glyn Jones dywedodd y Swyddog Priffyrdd fod cyflwr rhwydwaith lleol y ffyrdd yn debyg iawn i'r rhwydwaith yn ardal Llys Dulas a hefyd mewn mannau eraill ar yr Ynys.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Lewis-Roberts cafwyd cynnig i ganiatáu'r cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Tecwyn Roberts.

 

      

 

     O 11 pleidlais i 2 PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau a ganlyn :-

 

           

 

Ÿ     mae'r cais yn cael ei gefnogi gan y Cyngor Cymuned Lleol

 

Ÿ     mae'r safle y tu mewn i glwstwr o dai eraill - llenwi bwlch

 

Ÿ     mae digon o fannau pasio ar hyd y lôn

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor byddai'r cais hwn yn awtomatig yn cael ei ohirio i'r cyfarfod nesaf er mwyn i'r swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu'r cais.

 

 

 

4

CEISAIDAU ECONOMAIDD

 

      

 

     34C303F/1 - CODI 15 O ANHEDDAU - SEF CHWE THY AR WAHÂN A THERAS TRI THY YM MRO EDNYFED, LLANGEFNI

 

      

 

     Gwnaeth y Cynghorydd Aled Morris Jones ddatganiad o ddiddordeb yn y cais.

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y swyddogion yn y broses o ymgynghori gyda'r ymgeiswyr ynghylch cynnwys tai fforddiadwy yn y cynllun ac roedd y swyddogion yn disgwyl bod mewn sefyllfa i gyflwyno adroddiad i gyfarfod nesaf y Pwyllgor.

 

      

 

     PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais hyd nes cwblhau gwaith ymgynghori gyda'r ymgeiswyr.

 

      

 

     4.16  CEISIADAU ECONOMAIDD   

 

      

 

     34C72J - DYMCHWEL YR ADEILAD DI-DDEFNYDD PRESENNOL YNGHYD AG AILDDATBLYGU'R SAFLE GYDAG ADEILAD 3 LLAWR YN CYNNWYS SWYDDFEYDD, SIOPAU A CHYFLEUSTERAU STORIO YN YR ISLAWR YNGHYD AG ADDASU'R FYNEDFA I GERBYDAU YN HERRON SERVICES, FFORDD GLANHWFA, LLANGEFNI.

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Ymwelwyd â'r safle ar 17 Tachwedd, 2004.

 

      

 

     Cafwyd gwybod gan y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod yr ymgeiswyr wedi gofyn am ohirio ystyried y cais hyd nes cynnal rhagor o drafodaethau yn ei gylch.

 

      

 

     PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais hyd nes cwblhau'r gwaith ymgynghori gyda'r ymgeiswyr.     

 

      

 

4

CAIS SY'N TYNNU'N GROES I'R POLISI

 

      

 

     34C83C - DATBLYGIAD TRIGIANNOL YN CYNNWYS CODI 21 O DAI YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GEIR AR DIR YN FFORDD GLANHWFA, LLANGEFNI

 

      

 

     Gwnaeth Mr. J. R. W. Owen o'r Adran Briffyrdd ddatganiad o ddiddordeb yn y cais ac nid oedd yn bresennol yn ystod y drafodaeth.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli 0Cynllunio bod y swyddogion yn dal i fod mewn trafodaethau gyda'r ymgeiswyr ynghylch darparu llwybr cerdded a chafwyd argymhelliad i ohirio ystyried y cais.

 

      

 

     PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais hyd nes cwblhau'r gwaith ymgynghori gydag asiant yr ymgeisydd.     

 

 

 

4

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     36C237 - CAIS LLAWN AR GYFER DYMCHWEL YR ANNEDD BRESENNOL YNGHYD Â CHODI ANNEDD NEWYDD YM MRYN GWENITH, RHOSTREHWFA

 

      

 

     Gwnaeth y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cynllunio a'r Amgylchedd) ddatganiad o ddiddordeb yn y cais.

 

      

 

     Dygwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan fod y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cynllunio a'r Amgylchedd) wedi datgan diddordeb ynddo a hefyd wedi cyflwyno gwrthwynebiadau.Ymwelwyd â safle'r cais gan yr aelodau ar 17 Tachwedd 2004.  

 

      

 

     Yn y cyfarfod cynt ac yn groes i argymhelliad o wrthod gan y swyddog roedd yr aelodau yn tueddu o blaid caniatáu'r cais am y rhesymau a ganlyn :

 

      

 

Ÿ     mae safle'r cais a'r annedd sydd yno yn amlwg iawn o ardal eang, ac ni fuasai'r annedd newydd fawr amlycach

 

Ÿ     priffyrdd digonol

 

Ÿ     yn dderbyniol o safbwynt codi annedd newydd yn lle hen un

 

      

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor gohiriwyd ystyried y cais tan y cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu'r cais hwn.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr0 Rheoli Cynllunio nad oedd y cais yn cydymffurfio gyda'r polisïau a bod y bwriad hwn ag arwynebedd dair gwaith cymaint â'r annedd sydd yno a hefyd buasai'n dra amlwg yn y tirwedd.  Roedd yn argymell gwrthod am y rhesymau a eglurwyd yn y cyfarfod blaenorol.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd W. I. Hughes, yr aelod lleol, ei fod yn gefnogol i'r cais am y rhesymau a roddwyd o'r blaen ond ychwanegodd fod y ty hwn o faint cyffelyb i dai newydd eraill yn y cyffiniau.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Aled Morris Jones cafwyd gynnig o ganiatáu am y rhesymau uchod a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Denis Hadley.

 

      

 

     O 10 pleidlais i 2 PENDERFYNWYD glynu wrth benderfyniad blaenorol y Pwyllgor i ganiatáu'r cais am y rhesymau uchod a chyda'r amodau safonol perthnasol.     

 

 

 

4

I'R POLISI

 

      

 

     38C209 - CAIS AMLINELLOL AR GYFER CODI ANNEDD, 4 YSTAFELL WELY AR DIR GYFERBYN Â THAN Y BRYN, MYNYDD MECHELL

 

      

 

     Dygwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol a oedd yn ystyried bod y safle yn "dir o safon isel iawn".

 

      

 

     Yn y cyfarfod cynt ac yn groes i argymhelliad o wrthod gan y swyddog, roedd yr aelodau yn tueddu i ganiatáu'r cais am y rhesymau a ganlyn :

 

      

 

Ÿ     mae nifer dda o dai o gwmpas safle'r cais - y tu mewn i glwstwr ac yn cyfateb i lenwi bwlch

 

Ÿ     tir o safon isel iawn.

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor gohiriwyd ystyried y cais tan y cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu'r cais hwn.

 

 

 

Y cyngor a gafwyd gan y Rheolwr Rheoli Cynllunio oedd bod y safle yn y cefn gwlad agored yn ôl y cynllun datblygu presennol.  Roedd y cais wedi ei gyflwyno yn rhy gynnar i gael sylw dan bolisïau'r Cynllun Datblygu Unedol  yng nghyswllt tai.

 

 

 

Wedyn ychwanegodd y Cynghorydd Thomas Jones fod safle'r cais wedi ei amgylchynu gan dai eraill ac o'r herwydd roedd y tu mewn i glwstwr a chafwyd cynnig i roddi caniatâd - cynnig a eiliwyd gan y Cynghorydd Aled Morris Jones.

 

 

 

Yn y cyswllt hwn roedd y Cyfreithiwr yn cynghori'r Pwyllgor i gofnodi'r bleidlais gan fod y cais yn gwyro oddi wrth y polisïau.

 

 

 

Dan baragraff 18.5 Rheolau Gweithdrefn y Cyngor PENDERFYNWYD cofnodi'r bleidlais fel a ganlyn :-

 

 

 

RHODDI CANIATÂD (YN GROES I ARGYMHELLIAD Y SWYDDOG) :

 

Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, J. Arwel Edwards, P. M. Fowlie, Aled Morris Jones, J. Arthur Jones, O. Glyn Jones, Thomas Jones, D. Lewis-Roberts, J. Arwel Roberts, W. T. Roberts, Keith Thomas (11)

 

 

 

GWRTHOD Y CAIS YN UNOL AG ADRODDIAD Y SWYDDOG :

 

Y Cynghorwyr Peter Dunning, Denis Hadley, R. Ll. Hughes, R. L. Owen, John Roberts (5)

 

 

 

Am y rhesymau a roddwyd uchod PENDERFYNWYD caniatáu'r cais gyda'r amodau cynllunio safonol a pherthnasol.

 

      

 

      

 

4

  CEISIADAU'N TYNNU'N GROES I'R POLISI 

 

      

 

     44C230 -  CAIS AMLINELLOL AR GYFER CODI ANNEDD YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU AR RAN O O.S. 5806, RHIWMOEL, RHOS-Y-BOL

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Yn y cyfarfod cynt ac yn groes i argymhelliad o wrthod gan y swyddog roedd yr aelodau yn tueddu i ganiatáu'r cais am y rhesymau a ganlyn :

 

      

 

Ÿ     roedd y cynnig yn cydymffurfio gyda Pholisi 50 y Cynllun Lleol

 

      

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor gohiriwyd ystyried y cais er mwyn i'r swyddogion gael cyfle i baratoi adroddiad ar y rhesymau tros ei gymeradwyo.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio nad oedd y cais yn cydymffurfio gyda Pholisi 50 (Pentrefi Rhestredig) y Cynllun Lleol.  Er bod y pentref yn un rhestredig roedd y safle y tu allan i'w ffiniau.  Hefyd roedd y tu allan i ffiniau arfaethedig yr CDU ac felly cafwyd argymhelliad o wrthod.

 

      

 

     Credai y Cynghorydd Aled Morris Jones, yr aelod lleol, fod safle'r cais yn cyfateb i lenwi bwlch a mater o farn oedd cydymffurfio gyda Pholisi 50 ai peidio a chafwyd cynnig ganddo i ganiatáu'r cais.

 

 

 

     Cafwyd cyngor gan y Cyfreithiwr i gofnodi'r bleidlais ar y cais hwn.

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn y Cynghorydd D. Lewid-Roberts cadarnhaodd y Cyfreithiwr nad oedd y Cyfansoddiad yn mynnu ar gofnodi y bleidlais ond yn yr achos penodol hwn buasai'n beth doeth i'w wneud rhag ofn y cyflwynir cwyn i'r Ombwdsmon.

 

      

 

     Yn unol â pharagraff 18.5 Rheolau Gweithdrefn y Cyngor PENDERFYNWYD cofnodi'r bleidlais fel a ganlyn :     

 

      

 

     RHODDI CANIATÂD (YN GROES I ARGYMHELLIAD Y SWYDDOG) :

 

     Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, P. Dunning, P. M. Fowlie, Denis Hadley, Aled Morris Jones, O. Glyn Jones, Thomas Jones, D. Lewis-Roberts, J. Arwel Roberts, W. T. Roberts (10)

 

      

 

     GWRTHOD CANIATÂD YN UNOL AG ADRODDIAD Y SWYDDOG :

 

     Y Cynghorwyr J. Arwel Edwards, R. Ll. Hughes, R. L. Owen, John Roberts (4)

 

      

 

     YMATAL :

 

     Y Cynghorwyr J. Arthur Jones, Keith Thomas (2)

 

      

 

Am y rhesymau a roddwyd uchod PENDERFYNWYD caniatáu'r cais gyda'r amodau cynllunio safonol a pherthnasol.     

 

      

 

4

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     46C188E - CAIS AMLINELLOL AR GYFER AILDDATBLYGU Y SAFLE PRESENNOL YNGHYD Â CHODI 6 O UNEDAU YN 68 A 68A, LÔN TREARDDUR, TREARDDUR

 

      

 

     Daethpwyd â'r cais hwn gerbron y Pwyllgor ar gais yr aelod lleol oherwydd pryderon yn ymwneud â gorddatblygu'r safle.

 

      

 

     Ymwelwyd â safle'r cais ar 15 Rhagfyr 2004 ond nodwyd bod caniatâd i fynd ar y safle wedi ei wrthod i'r aelodau.

 

      

 

     Cafwyd argymhelliad gan y Rheolwr Rheoli Cynllunio i ganiatáu'r cais ar y ddealltwriaeth fod amod (01) y caniatâd yn cael ei ddiwygio 0i "(01)  bydd raid wrth ganiatâd y Cyngor cyn dechrau ar y datblygiad i'r materion wrth gefn a ganlyn - sef ffurf y datblygiad, lleoliad, dyluniad, gwedd allanol yr adeilad, y fynedfa iddo ac agweddau tirlunio'r safle".

 

      

 

     Yr hyn a wnaeth y Cynghorydd Peter Dunning, yr aelod lleol, oedd mynegi pryderon y bobl leol ynghylch nifer yr unedau arfaethedig ar y safle a hefyd maint y rheini ond roedd yn derbyn adroddiad y swyddog, yr argymhellion ynddo a'r amod diwygiedig uchod.

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd D. Lewis-Roberts cadarnhaodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio ei fod yn ymwybodol o anghydfod ynghylch y fynedfa a hefyd ynghylch terfynau'r safle, ond nad oedd y rhain yn faterion cynllunio.

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Thomas Jones dyweodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio 0fod y swyddogion wedi cael caniatâd i fynd ar y safle.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog a hefyd diwygio amod (01) fel yr uchod.

 

      

 

4

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     49C243A - CAIS LLAWN AR GYFER DYMCHWEL YR ADEILAD PRESENNOL, CODI 9 BYNGALO AC 8 O ANHEDDAU YNGHYD AG ADDASU'R FYNEDFA BRESENNOL I GERBYDAU A CHERDDWYR YN VISTA DEL MAR, PENRODYN, Y FALI

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Yng nghyfarfod mis Tachwedd cafwyd argymhelliad gan y swyddogion i wneud penderfyniad deublyg ar y cais hwn ond yn groes i hynny roedd yr aelodau yn tueddu i roddi caniatâd llawn gyda chytundeb dan Adran 106 yng nghyswllt darparu Tai Fforddiadwy ac am y rhesymau0 a ganlyn:-     

 

      

 

Ÿ     roedd y tir wedi'i ddynodi yn unol â'r Cynllun Datblygu Unedol

 

Ÿ     darparu tai fforddiadwy

 

Ÿ     manteision cynllunio

 

      

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor gohiriwyd y cais fel bod swyddogion yn medru paratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu.

 

      

 

     Yng nghyfarfod mis Rhagfyr penderfynwyd gohirio gwneud penderfyniad ar y cais gan fod yr ymgeisydd wedi cyflwyno rhagor o wybodaeth (y "Trydydd Adroddiad") a honno yn codi materion newydd y buasai'n rhaid gwneud rhagor o waith ymgynghori arnynt.  Nodwyd nad oedd y swyddogion wedi bod mewn sefyllfa i baratoi adroddiad llawn i'r cyfarfod hwn a gofynnodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio am ohirio ystyried y cais unwaith yn rhagor.

 

      

 

     Am y rhesymau a roddwyd uchod PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais.

 

      

 

5     CEISIADAU ECONOMAIDD

 

      

 

     Nodwyd nad oedd yr un cais cynllunio economaidd gerbron i'w ystyried.

 

      

 

6     CEISIADAU'N TYNNU'N GROES I'R POLISI

 

      

 

6.1

12C6F - CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD  YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD A GOSOD SYSTEM TRIN CARTHFFOSIAETH NEWYDD A PHREIFAT AR DIR GER DOLWAR, LLANFAES

 

      

 

     Ildiodd y Cynghorydd R. L. Owen y Gadair yn ystod y drafodaeth ar y cais gan ei fod yn dymuno siarad arno fel aelod lleol.  Am yr eitem benodol hon cymerwyd y Gadair gan yr Is-Gadeirydd, y Cynghorydd Arthur Jones.

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor yn ôl dymuniad yr aelod lleol ac roedd ef yn ei gefnogi.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y bwriad hwn yn groes i Bolisïau 50 a 53 y Cynllun Lleol a Pholisi A6 y Cynllun Fframwaith a chyfeiriodd yr aelodau at hanes perthnasol y safle, prif ystyriaethau cynllunio'r cais a'r ystyriaethau priffyrdd fel y manylwyd ar y cyfryw bethau  yn adroddiad y swyddog.  Roedd y swyddog yn argymell gwrthod y cais a oedd yn gwyro oddi wrth y polisïau.

 

      

 

     Yn ôl y Cynghorydd R. L. Owen, yr aelod lleol, nid oedd safleoedd eraill ar0 gael yn unman ym Miwmares a Llanfaes a dim wedi ei glustnodi dan HP5 y Cynllun Datblygu Unedol esblygol.  Y tu cefn i safle'r cais roedd parc carafannau a lle yno i 28 o rai parhaol a 40 o rai teithiol.  Nid oedd y Cynghorydd Owen yn gwybod am unrhyw ddamweiniau yn y cyffiniau ond er hynny roedd yn cydnabod bod y ffordd yn gul yn y man arbennig hwn.  Gofynnodd y Cynghorydd Owen i'r aelodau am gael ymweliad â'r safle.

 

      

 

     Cafwyd cynnig gan y Cynghorydd E. G. Davies bod yr aelodau yn ymweld â'r safle yn unol â dymuniad yr aelod lleol a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Aled Morris Jones.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â safle'r cais yn unol â dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

6

  17C288B - CYNLLUNIAU LLAWN I GODI ANNEDD YN LLE HEN GANIATÂD CYNLLUNIO DILYS DAN Y RHIF DA/1/24/A74D/1 A GOSOD OFFER PREIFAT I DRIN CARTHION AR DIR GER CRAIG Y DON, GLYN GARTH

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor yn ôl dymuniad yr aelod lleol a oedd yn ei gefnogi.

 

      

 

     Gan y Rheolwr Rheoli Cynllunio cafwyd disgrifiad o'r bwriad a chyfeiriodd yr aelodau at hanes o wrthod ar y safle.  Yn y Pwyllgor rhannwyd cynllun safle yn dangos lleoliad yr hen ganiatâd a lleoliad y bwriad.  Wedyn eglurodd y swyddog mai cynnig oedd hwn i ildio'r hen ganiatâd cynllunio a roddwyd yn y 1970au yng Nghoed Celyn gerllaw dan gytundeb cyfreithiol ac yn ei le codi ty newydd ar dir Craig y Don.

 

     Cyfeiriodd y swyddog yr aelodau at y polisïau perthnasol a restrwyd yn adroddiad y swyddog gan ddwyn sylw yn arbennig at bolisïau 30 a 53 y Cynllun Lleol.  Pwysleisiwyd effaith andwyol cynnig o'r fath ar gymeriad y llecyn arfordirol a choediog hwn ond serch hynny agored.  Ym marn y swyddogion buasai caniatáu'r bwriad presennol yn gwneud mwy o ddrwg na datblygu dan yr hen ganiatâd.  Nid oedd presenoldeb yr hen ganiatâd o bwys mwy na'r polisi cynllunio presennol a chafwyd argymhelliad cryf o wrthod gan y swyddog - gwrthod cais oedd yn gwyro.

 

      

 

     Wrth annerch dywedodd y Cynghorydd Eurfryn Davies, yr aelod lleol, fod y cynlluniau a gyflwynwyd gan yr ymgeiswyr wedi creu argraff dda eithriadol arno a theimlai y buasai'r cynnig yn ategu'r tir o gwmpas, roedd rhai o'r coed y buasai'n rhaid eu torri eisoes wedi marw ac eraill mewn cyflwr gwael.  Roedd asiant yr ymgeisydd wedi rhoddi sylw i bryderon penodol yng nghyswllt y polisïau.  Nid oedd y cais a gyflwynwyd yn 1998 yn cydymffurfio gyda'r gofynion angenrheidiol ac ni chredai'r Cynghorydd Davies y câi'r cais hwn unrhyw effaith andwyol ar yr arfordir nac ar yr Ardal o Brydferthwch Naturiol Eithriadol a châi y safle ei dirlunio trwy blannu coed newydd.

 

      

 

     Roedd trafodaethau wedi eu cynnal ar y cynnig hwn ers 1997 a dywedwyd mewn llythyr gan y Cyfarwyddwr Cynllunio i gyfreithiwr yr ymgeisydd yn 1998 nad oedd yr un gwrthwynebiad mewn egwyddor i'r hyn oedd dan sylw yn y cais hwn.

 

      

 

     Credai'r Cynghorydd Aled Morris Jones bod y cais gerbron yn welliant gan fod y bwriad newydd ymhellach draw o'r môr.

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd R. Ll. Hughes a oedd y caniatâd dilys yng Nghoed Celyn yn ganiatâd llawn neu yn un amlinellol a gofynnodd hefyd a oedd y defnyddiau adeiladu arfaethedig yng nghyswllt y bwriad gerbron o safon uwch na'r rheini a nodwyd yn yr hen ganiatâd.

 

      

 

     Credai'r Cynghorydd Arwel Edwards bod y cynlluniau gerbron yn rhai o safon uchel.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd D. Lewis-Roberts cafwyd cynnig i ganiatáu'r cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Eurfryn Davies.

 

      

 

     O 11 pleidlais i 3 PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau a ganlyn :-

 

      

 

Ÿ     rhoddir y caniatâd hwn yn lle caniatâd dilys arall gerllaw

 

Ÿ     buasai safon uchel y dyluniad yn ategu nodweddion y cyffiniau

 

Ÿ     roedd y dyluniad yn well na hwnnw i Goed Celyn

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor gohiriwyd y cais fel bod swyddogion yn medru paratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu.

 

 

 

7     GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

7.1

  17C78D - ADDASU AC EHANGU ADEILAD ER MWYN CREU UN UNED BRESWYLIO ANNIBYNNOL UWCHBEN SIOP YN SIOP SPAR, LLANDEGFAN

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     PENDERFYNWYD  caniatáu'r cais am resymau a roddwyd a hefyd gyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.     

 

      

 

7

  18C162 - TROI ADEILAD ALLANOL YN ANNEDD YN Y GILFACH, LLANFAIR-YNG-NGHORNWY

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Credai'r Uwch Beiriannydd Priffyrdd bod y ffordd at y lle hwn yn gul, yn droellog ac yn brin o fannau pasio ac argymhellodd wrthod y cais.

 

      

 

     Ni fedrai'r Cynghorydd Thomas Jones, yr aelod lleol, gefnogi'r cais a chytunodd gydag adroddiad y swyddog a'r argymhelliad o wrthod.

 

      

 

     PENDERFYNWYD gwrthod y cais am y rhesymau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

7

   23LPA848CC - CAIS I DORI 3 COEDEN OEDD YN DESTUN GORCHYMYN DIOGELU COED AR Y B5109, TALWRN

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor oherwydd iddo gael ei gyflwyno gan y Cyngor ac roedd yn cael effaith ar dir y Cyngor.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

7

   25LPA849CC - ALTRO AC YMESTYN 31 MAES ATHEN, LLANNERCH-Y-MEDD

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor oherwydd iddo gael ei gyflwyno gan y Cyngor ac roedd yn cael effaith ar dir y Cyngor.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

7

   33C236 - GOSOD UNED HYFFORDDIANT SYMUDOL AR DIR DEPO'R CYNGOR, Y GAERWEN

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor oherwydd iddo gael ei gyflwyno gan y Cyngor ac roedd yn cael effaith ar dir y Cyngor.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

7

   34LPA341F/CC - ALTRO AC EHANGU ORIEL YNYS MÔN, LLANGEFNI

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor oherwydd iddo gael ei gyflwyno gan y Cyngor ac roedd yn cael effaith ar eiddo'r Cyngor.

 

      

 

     Nodwyd fod hwn yn gais i ehangu ac altro y llecyn caeedig hwnnw yng nghanol yr Oriel gyda golwg ar greu Oriel newydd, lle agored aml bwrpas a lle storio.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.    

 

      

 

7

   34LPA847/CC - DARPARU LLWYBR DWY FETR O LED I'W DDEFNYDDIO AR Y CYD, A DARPARU DWY BONT A LLWYBR UCHEL AR DIR RHWNG Y DINGLE A LLYN CEFNI, LLANGEFNI

 

      

 

     Gwnaeth y Cynghorydd J. Arthur Jones ddatganiad o ddiddordeb yn y cais ac nid oedd yn bresennol yn ystod y drafodaeth.

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor gan fod y Cyngor yn ei gyflwyno.

 

      

 

     PENDERFYNWYD dirprwyo'r hawl  i ganiatáu'r cais i'r Pennaeth Gwasanaethau Cynllunio am y rhesymau a roddwyd a hefyd gyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

7

   38C151A - GLYNU WRTH Y DEFNYDD O'R ADEILAD FEL TAIR ANNEDD ANNIBYNNOL, CADW DWY SIED AC ALTRO'R FYNEDFA YN YR HEN NEUADD BENTREF, LLANFECHELL

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais  i'r Pwyllgor yn ôl dymuniad y Cyfarwyddwr Cynllunio a Gwasanaethau Amgylcheddol.

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd Thomas Jones, yr aelod lleol, i'r aelodau ymweld â'r safle er mwyn cael cyfle i asesu'r sefyllfa drostynt eu hunain.

 

      

 

     Am y rheswm a roddwyd PENDERFYNWYD ymweld â safle'r cais.

 

      

 

7

   38C169C - CADW DWY ANNEDD A GAREJYS AR WAHÂN AR BLOT GER NEUADD Y PENTREF, LLANFECHELL

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais  i'r Pwyllgor yn ôl dymuniad y Cyfarwyddwr Cynllunio a Gwasanaethau Amgylcheddol.

 

      

 

     Yn yr un modd ag eitem 7.8 uchod gofynnodd y Cynghorydd Thomas Jones, yr aelod lleol, i'r aelodau ymweld â'r safle er mwyn cael cyfle i asesu'r sefyllfa drostynt eu hunain.

 

      

 

     Am y rheswm a roddwyd PENDERFYNWYD ymweld â safle'r cais.      

 

      

 

8     MATERION A DROSGLWYDDWYD YN ÔL

 

      

 

8.1

   46C137D - CAIS CYNLLUNIO LLAWN I GODI 34 ANNEDD TRI LLAWR YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU A CHERDDWYR AR DIR YR HEN FAES CRICED, TREARDDUR

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y cais uchod wedi ei ganiatáu gan y 0Pwyllgor hwn yn ei gyfarfod ar 3 Mawrth 2004.  Ond roedd y cais yn dal i fod dan drafodaeth gyda'r ymgeisydd ac 0o'r herwydd nid oedd rhybudd caniatâd wedi ei ryddhau.

 

      

 

     Roedd rhagor o wybodaeth0 ar gael i'r Awdurdod Cynllunio ynghylch risg llifogydd a hynny yn bwrw rhywfaint o amheuaeth ar yr asesiad risg llifogydd a baratowyd gan asiant yr ymgeisydd.  Ar ôl ymgynghori gyda'r Asiantaeth yr Amgylchedd mae'n ymddangos y bydd raid gwneud rhagor o waith asesu ac roedd nifer o gyfarfodydd wedi eu trefnu i fwrw ymlaen gyda'r materion hyn ond cawsant eu canslo gan asiant yr ymgeisydd ond roedd gwaith ymgynghori'n dal i gael ei wneud gydag Asiantaeth yr0 Amgylchedd.  Unwaith y bydd y gwaith ymgynghori wedi ei gwblhau ynghyd â derbyn canlyniadau unrhyw waith asesu ychwanegol a fo'n angenrheidiol yna cyflwynir adroddiad ar y mater i'r Pwyllgor.

 

      

 

     Cytunwyd i nodi'r wybodaeth uchod.     

 

      

 

9     CEISIADAU A  DDIRPRWYWYD

 

      

 

Cyflwynwyd a derbyniwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cynllunio a Gwasanaethau Amgylcheddol) ar geisiadau a ddirprwywyd ac y gwnaethpwyd penderfyniad arnynt ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor hwn.

 

      

 

10     APELIADAU

 

      

 

Nodwyd nad oedd yr un apêl i gyflwyno adroddiad arni i'r cyfarfod hwn.

 

      

 

11     SEMINAR     

 

 

 

Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod seminar wedi ei threfnu ar gyfer dydd Mercher, 26 Ionawr 2005 pryd y bydd Dr. Ken Jones o Asiantaeth yr Amgylchedd yn annerch ar swyddogaeth Asiantaeth yr Amgylchedd yn y broses gynllunio.  Hefyd roedd hwn yn gyfle i gael trafodaeth ar faterion gorfodaeth, ar fwynau ac ar wastraff.

 

      

 

Hefyd nodwyd bod gwahoddiad wedi ei roddi i aelodau etholedig o'r tu allan i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

      

 

12     DYDDIADAU CYFARFODYDD

 

 

 

Er gwybodaeth cyflwynwyd a nodwyd dyddiadau cyfarfodydd y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a dyddiadau yr Ymweliadau Cynllunio â Safleoedd yn 2005.

 

      

 

      

 

     Daeth y cyfarfod i ben am 5.15 pm.

 

      

 

      

 

     Y CYNGHORYDD R. L. OWEN

 

     CADEIRYDD