Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion dogfennau , 5 Chwefror 2003

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Dydd Mercher, 5ed Chwefror, 2003

PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION

 

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Chwefror 2003

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd W. Emyr Jones, Cadeirydd

Y Cynghorydd W.J. Chorlton, Is-Gadeirydd

 

Y Cynghorwyr J. Arwel Edwards, D.D. Evans, P.M. Fowlie,

Fflur M. Hughes, R.Ll. Hughes, T.Ll. Hughes, R.J. Jones,

R.L. Owen, Gwyn Roberts, John Roberts, J. Arwel Roberts,

W.T. Roberts, Hefin Thomas.

 

HEFYD YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd Eurfryn Davies (aelod lleol ar gyfer 17C20A/1, 17C20B/1 ac 17C20Z - eitemau 4.1, 4.2 a 4.3).

Y Cynghorydd O. Gwyn Jones (aelod lleol ar gyfer 45C311 - eitem 5.2).

 

WRTH LAW:

 

Cynllunio:

Pennaeth y Gwasanaethau Cynllunio (JW)

Rheolwr y Gwasanaeth Rheoli Cynllunio (DFJ)

Cynorthwy-ydd Cynllunio (GO)

 

Priffyrdd:

Swyddog Rheoli Datblygu (Priffyrdd)(RE)

Technegydd (RH)

 

Cyfreithiwr (RWJ)

Cynorthwy-ydd Gweinyddol (CWP)

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Y Cynghorwyr W.I. Hughes, John Rowlands.

 

1

DATGANIADAU O DDIDDORDEB

Cafwyd datganiadau o ddiddordeb gan Aelodau a Swyddogion fel y cawsant eu cofnodi dan yr eitemau hynny.

 

2

COFNODION

Cyflwynwyd a chadarnhawyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 8 Ionawr, 2003.(Tudalennau 62 - 75 y Gyfrol hon).

 

YN CODI O'R COFNODION (eitem 4.1 y cofnodion)

46C361/EIA - CODI GWAITH TRIN GWASTRAFF A CHREU MYNEDFA NEWYDD AR DIR RHWNG ALIWMINIWM MÔN A STAD DDIWYDIANNOL PENRHOS, CAERGYBI

Darllenodd Rheolwr y Gwasanaethau Rheoli Cynllunio lythyr oddi wrth Symonds, cynrychiolwyr Dwr Cymru, mewn ymateb i ryddhau'r penderfyniad cynllunio ar gyfer yr uchod.  Gofynnodd y cynrychiolwyr am ragor o fanylion yng nghyswllt rhesymau'r Pwyllgor dros wrthod y cais uchod, gan gyfeirio'n benodol at y ddau reswm cyntaf dros wrthod.

 

Gofynnodd y swyddog i aelodau gadarnhau a oedd "effaith economaidd ar safleoedd sipio/diwydiannol gerllaw" a "pryder y cyhoedd fel ystyriaeth gynllunio o bwys" yn seiliedig ar yr arogl y tybiant a ddeuai o'r gwaith yn unig.  

 

Dywedodd y Cynghorydd John Chorlton na fyddai'r busnesau y tybia'r cyhoedd a ddeuai  yno yn dymuno buddsoddi arian mor agos i waith carthffosiaeth, gan fod y gwaith trin arfaethedig yn annerbyniol o agos i fusnesau eraill yn y parc busnes ac oherwydd yr effaith negyddol y byddai'n ei chael.  Roedd safle arall ar gael ymhellach i ffwrdd o'r parc busnes.

 

 

Dywedodd y cyfreithiwr y byddai Dwr Cymru yn gofyn barn arbenigwyr i gefnogi eu hachos mewn apêl.  Cadarnhaodd y cyfreithiwr y byddai raid i'r apelydd a'r Awdurdod hwn gyflwyno tystiolaeth i gefnogi eu hachos ac roedd angen rhagor o fanylion.  Rhaid i'r Awdurdod Cynllunio gyflwyno tystioaleth i gadarnhau a chyfiawnhau rhesymau'r Pwyllgor dros wrthod.

 

 

 

(Dymunodd y Cynghorydd J. Arwel Roberts gofnodi nad oedd wedi cymryd rhan mewn trafodaethau ar yr uchod nac wedi pledleisio arno.  Dymunodd y Cynghorwyr P.M. Fowlie, Robert Lloyd Hughes, R.J. Jones, R.L. Owen a Gwyn Roberts gofnodi eu bod wedi ymatal rhag pledleisio ar y penderfyniad hwn).

 

 

 

CYTUNWYD bod Rheolwr y Gwasanaethau Cynllunio yn ysgrifennu at Symonds yn egluro'r ddau reswm cyntaf dros wrthod oherwydd tybio y byddai gosod gwaith trin carthffosiaeth yn agos i fusnesau eraill yn cael effaith negyddol ac yn rhwystro busnesau newydd rhag buddsoddi yn yr ardal hon.

 

 

 

RHAN I - MATERION CYNLLUNIO

 

 

 

3

YMWELIADAU Â SAFLEOEDD

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd - adroddiad yr Ymweliad â Safleoedd Cynllunio a gynhaliwyd ar 22 Ionawr 2003. (Tudalen 160 o'r Gyfrol hon)

 

 

 

4

CEISIADAU'N CODI O'R COFNODION

 

 

 

4.1

 

4.1

1     17C20A/1 - NEWID DEFNYDD BYNGALO I FOD YN SWYDDFEYDD A REOLIR AC ALTRO'R FYNEDFA YM MAEN HIR, PORTHAETHWY

 

Datganodd y Cynghorwyr R.L. Owen a John Roberts ddiddordeb yn y cais hwn ac nid oeddynt yn bresennol yn y cyfarfod pan drafodwyd y mater a phleidleisio arno.

 

 

 

Ymwelwyd â safle'r uchod ar 20 Tachwedd, 2002 ar argymhelliad y swyddog cyn penderfynu ar y cais.  Yn ei gyfarfod ym mis Ionawr penderfynodd y Pwyllgor ohirio gwneud penderfyniad ar y cais hyd oni cheid rhagor o wybodaeth ac eglurhad ar faterion fel a nodwyd yn y cofnodion.  

 

 

 

Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaeth Rheoli Cynllunio adroddiad ar faterion oedd yn disgwyl sylw - materion yr ymchwiliwyd iddynt ac y cyflwynwyd adroddiad arnynt - yn atodiad adroddiad y swyddog.  Darllenodd lythyr, dyddiedig 4 Chwefror, gan gynrychiolydd yr ymgeiswyr yn cefnogi'r cais.  Dywedodd bod cynllun manwl yng nghyswllt lle troi ar y safle bellach wedi'i gyflwyno ac roedd yr Adran Briffyrdd yn fodlon ag o.  Roedd CADW wedi nodi nad oeddynt yn gwrthwynebu'r bwriad ar gyfer tir Maen Hir a'r effaith ar yr heneb gerllaw.  Roedd Adain Dechnegol yr Awdurdod wedi nodi ei bod yn fodlon gyda'r trefniadau arfaethedig yng nghyswllt dwr wyneb.

 

 

 

PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau a roddir a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

 

 

4.2

 

4.2

 

4.2

 

4.2

17C20B/1 - CAIS AMLINELLOL I GODI GWEITHDY CEIR, LLE PARCIO CEIR A LLECYN DYSGU GYRRU CERBYDAU GYRIANT 4 OLWYN YNG NGAREJ HENFFORDD, PORTHAETHWY

 

Datganodd y Cynghorwyr R.L. Owen a John Roberts ddiddordeb yn y cais hwn ac nid oeddynt yn bresennol yn y cyfarfod pan drafodwyd y mater a phleidleisio arno.

 

 

 

Ymwelwyd â safle'r cais uchod ar 20 Tachwedd, 2002 ar argymhelliad y swyddog cyn penderfynu ar y cais.  Yn ei gyfarfod ym mis Ionawr penderfynodd y Pwyllgor ohirio gwneud penderfyniad ar y cais hyd oni cheid rhagor o wybodaeth ac eglurhad ar faterion fel a nodwyd yn y cofnodion.  

 

 

 

Dywedodd Rheolwr y Gwasanaeth Rheoli Cynllunio mai caniatáu gyda Chytundeb Adran 106 oedd yr argymhelliad.  

 

 

 

Anerchodd y Cynghorydd Eurfryn Davies y cyfarfod gan fynegi  pryder yng nghyswllt y cais hwn a chodi'r mater o orddatblygu'r safle.  Roedd trigolion lleol o'r farn bod y safle hwn yn llawn ac roedd bellach yn ymwthio drosodd i dir amaethyddol, pryderon a godwyd yn 1997.  Nododd bod Cytundeb Adran 106 (yn cyfyngu ar ragor o ddatblygu) wedi'i gynnig gan swyddogion.  Roedd trigolion o'r farn y dylai bod cytundeb o'r fath yn ei le.

 

 

 

Mynegodd y Cynghorydd Hefin Thomas ei bryder ynghylch y cais.  Roedd gan y rhan fwyaf  o adeiladau ar y safle ganiatâd ôl-ddyddiol.  Roedd cyfle i roi Cytundeb Adran 106 i gyfyngu ar ddatblygu wedi llithro trwy'r rhwyd.  Lle byddai'r datblygiad hwn yn gorffen?  Cynigiodd wrthod y cais hwn a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd W.T. Roberts.

 

 

 

Cynigiodd y Cynghorydd P.M. Fowlie argymhelliad y Swyddog a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd G. Roberts.

 

 

 

PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau a roddir a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog, gan gynnwys yr ymgeiswyr yn llofnodi Cytundeb Adran 106.

 

 

 

4.3

 

4.3

 

4.3

17C20Z - ESTYNIADAU I'R YSTAFELL ARDDANGOS AUDI I GYNNWYS GWEITHDAI A LLE GOLCHI CEIR YNG NGAREJ HENFFORDD, PORTHAETHWY

 

Datganodd y Cynghorwyr R.L. Owen a John Roberts ddiddordeb yn y cais hwn ac nid oeddynt yn bresennol yn y cyfarfod pan drafodwyd y mater a phleidleisio arno.

 

 

 

Ymwelwyd â safle'r uchod ar 20 Tachwedd, 2002 ar argymhelliad y swyddog cyn penderfynu ar y cais.  Yn ei gyfarfod ym mis Ionawr penderfynodd y Pwyllgor ohirio gwneud penderfyniad ar y cais hyd oni cheid rhagor o wybodaeth ac eglurhad ar faterion fel a nodwyd yn y cofnodion.  

 

 

 

PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau a roddir a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog..4........

 

 

 

4.4

 

4.4

2323LPA818/CC -  GOSOD YSTAFELL DDOSBARTH SYMUDOL DROS DRO YN YSGOL TY MAWR, CAPEL COCH

 

Cafodd y cais hwn ei gyflwyno gan Adain Eiddo Cyngor Sir Ynys Môn.

 

 

 

Dywedodd Rheolwr y Gwasanaeth Rheoli Cynllunio bod y cais hwn wedi'i ganiatáu gan y Pwyllgor yn ei gyfarfod ar 8 Ionawr, 2003 gyda'r amodau yn adroddiad y swyddog i'r cyfarfod.

 

 

 

Dywedodd Rheolwr y Gwasanaeth Rheoli Cynllunio bod y cais hwn yn cael ei gyfeirio'n ôl i'r Pwyllgor gan nad oedd adroddiad mis Rhagfyr 2002 y swyddog i'r Pwyllgor wedi cynnwys barn y Cyngor Cymuned, sef eu bod yn cefnogi'r cais mewn egwyddor ond yn gofyn am i'r ystafell ddosbarth symudol dros dro gael ei gosod y tu ôl i'r ysgol.   Roedd barn y Cyngor Cymuned yn yr adroddiad cyfredol.

 

 

 

Dywedodd Rheolwr y Gwasanaeth Cynllunio beth oedd rhesymau y Pennaeth Gwasanaeth Addysg dros osod yr ystafell ddosbarth symudol yno.

 

 

 

PENDERFYNWYD caniatáu'r cais ar y safle a nodir gan yr ymgeiswyr am y rhesymau a roddir a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

 

 

4.5

 

4.5

30C30C102A - NEWID DEFNYDD Y SIOP BRESENNOL A'R LLE GOLCHI I FOD YN DRI FFLAT HUNANGYNHWYSOL YM MORANNEDD, FFORDD BANGOR, BENLLECH

 

Ymwelwyd â'r safle uchod ar 20 Tachwedd, 2002 ar argymhelliad y swyddog cyn penderfynu ar y cais.

 

 

 

Gofynnodd Rheolwr y Gwasanaeth Rheoli Cynllunio am ohirio ystyried y cais uchod gan fod swyddogion yn parhau i edrych i mewn i faterion a godwyd yn ystod yr ymweliad â'r safle.

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais uchod fel bod swyddogion yn cael amser i lunio adroddiad i'w gyflwyno i gyfarfod nesaf y Pwyllgor hwn.

 

 

 

4.6

 

4.6

4545C290 - CAIS I ADOLYGU AMODAU DAN DDEDDF YR AMGYLCHEDD (1995) YN CHWAREL HENGAE, LLANGAFFO

 

Dywedodd y Cadeirydd bod swyddogion yn rhagweld y byddant mewn sefyllfa i  gyflwyno adroddiad ar yr uchod i gyfarfod nesaf y Pwyllgor hwn.

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais uchod fel bod swyddogion yn cael amser i lunio adroddiad i'w gyflwyno i gyfarfod nesaf y Pwyllgor hwn.

 

 

 

5

 

5

CECEISIADAU'N TYNNU'N GROES I'R CYNLLUN FFRAMWAITH

 

 

 

5.1

 

5.1

14C14C158C - CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD AR DIR AR GAE O.S. 3942 GER BYNGALO PARCIAU, LLYNFAES

 

Dywedodd Rheolwr y Gwasanaeth Rheoli Cynllunio bod y cais hwn yn tynnu'n groes i'r cynllun datblygu.  Atgoffodd aelodau bod y cais yn groes i bolisïau cynllunio fel a nodir yn adroddiad y swyddog.  Dylid ystyried y cais ar ddefnydd tir yn unig.  Roedd hanes o wrthod ceisiadau ar y safle hwn fel a nodir yn Adran 3 adroddiad y swyddog gyda thri cais blaenorol wedi'u gwrthod ar y safle hwn a chais arall wedi'i wrthod yn ddiweddar nepell o'r safle.  Atgoffodd aelodau i fod yn gyson wrth benderfynu ar y ceisiadau.

 

 

 

Atgoffodd y cyfreithiwr aelodau o Bolisi 53 Cynllun Lleol Ynys Môn (Tai yn y Cefn Gwlad) a darllenodd ran berthnasol y polisi.  Pwrpas y polisi oedd caniatáu i bobl benodol megis gweithwyr amaethyddol godi tai yn y cefn gwlad.  Ond yn yr achos hwn ymddeol fyddai'r person i'r annedd arfaethedig - sef gwneud yr hyn oedd yn gwbl groes i'r polisi.  Os oedd aelodau eisiau caniatáu rhaid oedd iddynt gyfiawnhau'r bwriad o fewn y polisi hwn.  

 

 

 

Cynigiodd y Cynghorydd G. Roberts argymhelliad y swyddog a chafodd ei  eilio gan y Cynghorydd Hefin Thomas.

 

 

 

Cynigiodd y Cynghorydd R.L. Owen ganiatáu'r cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd R.G. Jones.

 

 

 

Roedd y Pwyllgor (o 8 pleidlais i 7) o blaid caniatáu (yn groes i argymhelliad o wrthod y Cyfarwyddwr Corfforaethol) (Cynllunio a Gwasanaethau Amgylcheddol).

 

 

 

Gofynnodd Rheolwr y Gwasanaeth Rheoli Cynllunio i'r Pwyllgor roi ei resymau dros ganiatáu'r cais.  Dywedodd y Cynghorydd R.L. Owen y byddai  caniatáu yn golygu rhyddhau ffarm Cyngor i berson ifanc.  

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd R.J. Jones y byddai  caniatáu yn ei gwneud yn bosib i berson lleol ymddeol a byw'n lleol.

 

 

 

Dywedodd Rheolwr y Gwasanaeth Rheoli Cynllunio wrth y Pwyllgor nad oedd y rhain yn rhesymau cynllunio.  Derbyniodd y Cynghorydd R.J. Jones hyn.

 

 

 

Ni roddwyd rheswm arall.

 

 

 

Dymunodd y Cynghorydd Gwyn Roberts gofnodi ei fod wedi cytuno gydag argymhellion y Swyddog.  Dymunodd y Cynghorydd David Evans gofnodi ei fod yn cefnogi'r cais ac ymataliodd y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes rhag pleidleisio.

 

      

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor byddai'r cais yn cael ei ohirio tan gyfarfod nesaf y Pwyllgor hwn er mwyn ystyried adroddiad ar oblygiadau caniatáu ac i benderfynu ar y cais.

 

      

 

      

 

5.2

 

5.2

 

5.2

 

5.2

C311 - CAIS AMLINELLOL I GODI BYNGALO AR DIR GER INVEREWE COTTAGE A PEN-Y-BONT, PEN LÔN, NIWBWRCH

 

     Datganodd Gwen Owen yr Adran Gynllunio ddiddordeb yn y cais hwn ac nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod pan drafodwyd y mater a phledleisio arno.

 

      

 

     Dywedodd Rheolwr y Gwasanaeth Rheoli Cynllunio bod y cais hwn yn tynnu'n groes i'r cynllun datblygu a'i fod yn argymell gwrthod yn gryf am y rhesymau a nodir yn adroddiad y swyddog.  Cyfeiriodd at y penderfyniadau apêl blaenorol yn lleol a dywedodd na fu newidiadau o bwys ers y penderfyniadau hynny.  

 

      

 

     Anerchodd y Cynghorydd Gwyn Jones, yr aelod lleol,  y cyfarfod gan ddweud y byddai'n dymuno gweld yr ymgeiswyr yn bwrw gwreiddiau ym mro eu mebyd, ond er hynny ni allai gefnogi'r cais gan ei fod yn groes i bolisïau a chefnogodd argymhelliad y swyddog.

 

      

 

     PENDERFYNWYD gwrthod y cais am y rhesymau a roddir yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

5.3

 

5.3

48C48C36H - CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD RHEOLWR AR DIR YNG NGHARTREF NYRSIO TY GWYN, GWALCHMAI

 

     Datganodd y Cynghorydd David Evans ddiddordeb yn y cais hwn ac nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod pan drafodwyd y mater a phleidleisio arno.

 

      

 

     Mewn ymateb i ymholiad y Cynghorydd W.T. Roberts, cadarnhaodd y Cyfreithiwr nad oedd raid iddo ddatgan diddordeb yn y cais hwn oherwydd ei fod yn Aelod o Gyngor Iechyd Cymunedol Ynys Môn.

 

      

 

     Dywedodd Rheolwr y Gwasanaeth Rheoli Cynllunio bod y cais hwn yn tynnu'n groes i'r cynllun datblygu a'i fod yn argymell gwrthod yn gryf am y rhesymau a nodir yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

     PENDERFYNWYD gwrthod y cais am y rhesymau a roddir yn adroddiad y swyddog.

 

 

 

6

 

6     GWEGWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

6.1

 

6.1

 

6.1

1616C101A - DYMCHWEL Y PORTS YN Y CEFN AC ALTRO AC YMESTYN EILIAN HOUSE, STRYD FAWR, BRYNGWRAN

 

     Caiff y cais uchod ei gyfeirio i'r Pwyllgor ar gais yr aelod lleol, y Cynghorydd R.G. Parry.

 

      

 

     Gofynnodd Rheolwr y Gwasanaeth Rheoli Cynllunio am gael gohirio ystyried y cais hwn fel bod modd i swyddogion barhau gyda'u hymgynghoriadau yn dilyn derbyn newidiadau i'r bwriad.

 

      

 

     Ar gais yr aelod PENDERFYNWYD ymweld â safle'r cais cyn penderfynu arno.

 

      

 

6.2

 

6.2

1919C809 - GWAITH ALTRO AC YMESTYN I GREU CYFLEUSTERAU MEITHRINFA AR DIR Y TU ÔL I GANOLFAN GYMUNEDOL GWELFOR, MORAWELON, CAERGYBI

 

     Caiff y cais uchod ei gyfeirio i Bwyllgor gan fod y cais yn cael ei gyflwyno gan Bartneriaeth adfywio Morawelon a Ffordd Llundain a'r Cyngor Sir yw perchenogion safle'r cais.  

 

      

 

     Datganodd y Cynghorydd J. Arwel Roberts mai ef oedd Cadeirydd y Bartneriaeth ac ni chymerodd ran pan drafodwyd y mater na phleidleisio arno.  Datganodd y Cynghorydd David Evans ddiddordeb yn y cais hwn ac nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod pan drafodwyd y mater a phleidleisio arno.

 

      

 

     Nododd Rheolwr y Gwasanaeth Rheoli Cynllunio y dylai ymateb yr Adran Priffyrdd, Trafnidiaeth ac Eiddo i'r ymgynghoriad fod wedi darllen nad oedd ganddynt wrthwynebiad i'r "datblygiad" yn hytrach na "adran" (gweler tudalen 11 adroddiad y swyddog).

 

      

 

PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau a roddir a chyda'r amodau a nodir yn adroddiad y swyddog.

 

 

 

6.3

 

6.3

 

6.3

 

6.3

20C194 - CODI YSTAFELL HAUL YN 22 Y FRON, CEMAES

 

     Caiff y cais hwn ei gyfeirio i'r Pwyllgor gan fod y cais yn cael ei gyflwyno gan y Cynghorydd John Williams sy'n aelod etholedig o'r Cyngor ac sydd wedi datgan diddordeb yn y cais hwn.

 

      

 

     Datganodd y Cynghorydd Hefin Thomas ddiddordeb yn y cais hwn ac nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod pan drafodwyd y mater a phleidleisio arno.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau a roddir a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

6.4

 

6.4

28C303 - 20C303 - CODI CYSGODFAN FYSUS AR DIR GER Y CLOC COFFA, FFORDD YR ORSAF, RHOSNEIGR

 

      

 

     Caiff y cais uchod ei gyfeirio i'r Pwyllgor gan fod y cais yn cael ei gyflwyno gan Menter Môn a'r Cyngor Sir yw perchennog safle'r cais.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau a roddir a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

6.5

 

6.5

3030C511 - GWAITH ALTRO AC YMESTYN I LLECYN BRAF, 13A LÔN TWRCELYN, BENLLECH

 

     Datganodd Colin Purves, Hyfforddiant Môn, ddiddordeb yn y cais hwn.

 

      

 

     Caiff y cais hwn ei gyfeirio i'r Pwyllgor gan fod y cais yn cael ei gyflwyno gan Swyddog o'r Cyngor.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau a roddir a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

6.6

 

6.6

31C223A/DA - CAIS MANWL I OSOD ANHEDDAU YNGHYD Â GOSODIAD Y FFORDD A'R GWAITH DRAENIO A'R DULL O FYND I'R SAFLE YNG NGHAE O.S. 2418, LÔN REFAIL, LLANFAIR-PWLL

 

     Datganodd Richard Eames, yr Adran Briffyrdd, ddiddordeb yn y cais hwn ac nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod pan drafodwyd y mater a phleidleisio arno.

 

      

 

     Cafodd y cais uchod ei gyfeirio i'r Pwyllgor ar gais yr Aelod Lleol, y Cynghorydd John Roberts.

 

      

 

     Dywedodd Rheolwr y Gwasanaeth Rheoli Cynllunio y rhoddwyd caniatâd cynllunio amlinellol ar gyfer y safle hwn.  Sefydlwyd egwyddor y datblygiad ar apêl  a'r unig faterion y mae'r cais hwn yn ymwneud â nhw yw materion a gadwyd yn flaenorol ar gyfer penderfynu arnynt yn y dyfodol yng nghyswllt gosod anheddau, ffordd, gosodiad gwaith draenio a mynedfa i'r safle.

 

      

 

     Cadarnhaodd mai bwriad ar gyfer 18 ty ar wahân a dwy set o bedwar ty teras yw hwn, yn gwneud cyfanswm o 26 o anheddau ar safle yn mesur fymryn dan hectar o dir.  Mae polisïau tai yn argymell dwysedd o 26 o dai fesul hectar o dir.  Byddai raid wrth ganiatâd penodol ar gais yn y dyfodol yng nghyswllt dyluniad a gwedd allanol yr anheddau.  

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd John Roberts y bu trigolion yn bryderus a gofynnodd a fyddai'r holl anheddau yn defnyddio'r un fynedfa.

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd J. Arwel Edwards a oedd yn iawn gwahanu'n ffisegol dai fforddiadwy oddi wrth dai eraill.

 

      

 

     Ymatebodd Rheolwr y Gwasanaeth Rheoli Cynllunio fod y cynllun yn dangos mynedfa arfaethedig yn mynd i'r holl ddatblygiad a bod y dwysedd yn dderbyniol  yn yr achos hwn.  O ran lleoliad tai fforddiadwy, nid oedd yr Arolygwr wedi mynnu ar dai fforddiadwy yn yr apêl ac nid oedd rheolau penodol ynghylch lle dylid gosod tai fforddiadwy mewn datblygiad.  

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau a roddir a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

6.7

 

6.7

34C465 - CAIS I DORRI COED SYDD WEDI'U DIOGELU DAN ORCHYMYN CADW COED YN LLWYBR Y DINGL, LLANGEFNI

 

     Caiff y cais uchod ei gyfeirio i'r Pwyllgor gan fod y cais yn cael ei gyflwyno gan y Cyngor Sir ac mae'n ymwneud â thir ym mherchenogaeth y Cyngor.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau a roddir a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

6.8

 

6.8

34LPA10B/CC - GOSOD PORTACABIN SYMUDOL DROS DRO I'W DDEFNYDDIO FEL SWYDDFA YM MHARC MOWNT, LLANGEFNI

 

      

 

     Caiff y cais uchod ei gyfeirio i'r Pwyllgor gan fod y cais yn cael ei gyflwyno gan y Cyngor Sir ac mae'n ymwneud â thir ym mherchenogaeth y Cyngor.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau a roddir a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.  

 

      

 

6.9

 

6.9

39C166B - NEWID DEFNYDD YR HEN IARD LO I FOD YN UNEDAU I'W GOSOD AT DDIBENION GWYLIAU YN REFAIL NEWYDD, PORTHAETHWY

 

     Datganodd y Cynghorydd David Evans ddiddordeb yn y cais hwn ac nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod pan drafodwyd y mater a phleidleisio arno.

 

      

 

     Caiff y cais hwn ei gyfeirio i'r Pwyllgor oherwydd natur y datblygiad arfaethedig a'r ymateb a gafwyd yn sgil ymgynghori.

 

      

 

     Dywedodd Rheolwr y Gwasanaeth Rheoli Cynllunio ei fod bellach wedi derbyn ymateb yr Aelod Lleol (y Cynghorydd J. Meirion Davies) sy'n gofyn am ymweliad â'r safle ac sy'n cytuno gyda'r Cyngor Tref nad yw'r rhwydwaith ffyrdd lleol yn ddigonol ar gyfer bwriad o'r fath.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â safle'r cais cyn penderfynu arno.

 

      

 

7     MATER A GYFEIRIWYD YN ÔL

 

      

 

7.1

 

7.1

 

7.1

1919LPA814/CC - YMESTYN A GWELLA Y FFORDD WASANAETHU BRESENNOL, CAEL GWARED Â LLWYNI, GWAITH AILWYNEBU, GWAITH TIRLUNIO A CHODI UNEDAU DIWYDIANNOL A DARPARU CYFLEUSTERAU SBWRIEL AR DIR YN STAD DDIWYDIANNOL PENRHOS, CAERGYBI

 

     Cafodd y cais uchod ei ganiatáu gan y Pwyllgor hwn ar 31 Gorffennaf, 2002 "... gydag amodau a nodir yn adroddiad y swyddog gyda'r amod ychwanegol nad yw swyddogion yn rhoi caniatâd cynllunio hyd oni fydd y gwaith ymgynghori wedi'i gwblhau'n foddhaol gyda'r Grwp Babtie a'r Awdurdod Cynllunio Lleol yn fodlon bod modd darparu cyfleusterau addas i gael gwared â charthffosiaeth yn ddigonol.  "

 

      

 

     Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cynllunio a Gwasanaethau Amgylcheddol) bod y cais yn cael ei ailgyflwyno i'r Pwyllgor er mwyn cyflwyno adroddiad ar y sefyllfa bresennol  yn sgil penderfyniad y Pwyllgor ar 8 Ionawr, 2003 i wrthod datblygu gwaith trin gwastraff ar Stad Ddiwydiannol Penrhos.  

 

      

 

     Er bod y rhan fwyaf o'r datblygiad arfaethedig yn cynnwys elfennau nad ydynt yn gofyn am gyfleusterau cael gwared â gwastraff byddai codi'r adeilad diwydiannol o bosib yn rhoi pwysau ar y sustem ond byddai modd rhoi amod yn cyfyngu ar ei ddefnyddio hyd oni fyddai'r cyfleusterau i gael gwared â charthffosiaeth yn addas yn eu lle.

 

      

 

     Dywedodd mai digon o waith y byddai'r gwaith codi yn mynd rhagddo tan yn hwyr yn 2004 ac erbyn hynny roedd disgwyl y byddai safle ar gyfer gwaith trin gwastraff wedi'i ganiatáu a gwaith wedi dechrau yno.  

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn argymhelliad y Cyfarwyddwr Corfforaethol i ganiatáu'r bwriad gydag amod addas i sicrhau na fyddai'r tir na'r adeilad yn cael eu defnyddio hyd oni fyddai cyfleusterau addas yn eu lle pe byddai'n cynyddu'r llwyth carthffosiaeth....

 

      

 

      

 

     CE

 

8     CEISIADAU A DDIRPRWYWYD

 

     Cyflwynwyd a derbyniwyd - adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cynllunio a Gwasanaethau Amgylcheddol) ar geisiadau a ddirprwywyd ac y gwnaethpwyd penderfyniad arnynt ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor hwn.

 

      

 

     Dywedodd Rheolwr y Gwasanaeth Rheoli Cynllunio nad oedd penderfyniad wedi'i wneud ar y ceisiadau a ganlyn ac ni ddylent fod wedi ymddangos ar y rhestr 'dirprwywyd a chaniatawyd':

 

      

 

     17C325 - Parc Bellis, Llandegfan: 12C86B/LB - Capel Seion, Beaumaris.

 

      

 

     Dywedodd hefyd y dylai 30C470A - Pen Parc, Lôn Las, Bryn-teg fod wedi ymddangos ar y rhestr 'dirprwywyd' a 'gwrthodwyd' yn hytrach nag ar y rhestr 'dirprwywyd a chaniatawyd'.

 

      

 

9    

 

9     APEAPÊL GYNLLUNIO

 

     ADRAN 78 DEDDF CYNLLUNIO GWLAD A THREF 1990

 

      

 

     39C322 - COTEHELE, FFORDD CAERGYBI, PORTHAETHWY

 

     Cyflwynwyd a nodwyd, er gwybodaeth, adroddiad yr Arolygwr a benodwyd gan y Cynulliad yng nghyswllt apêl Mr. R.P. Jones yn erbyn penderfyniad yr Awdurdod i wrthod caniatâd i altro ac ymestyn yr eiddo uchod.

 

      

 

     Gwrthodwyd yr apêl am y rhesymau a nodir yn adroddiad yr Arolygwr.

 

      

 

     PENDERFYNWYD nodi'r penderfyniad.

 

      

 

10    

 

10     DSDOSBARTHU PAPURAU CEFNDIR

 

     Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth y Gwasanaethau Cynllunio mewn ymateb  i gais aelodau'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion am i gopïau o lythyrau a dderbynnir yng nghyswllt y ceisiadau cynllunio gael eu copïo a'u hanfon at aelodau ymlaen llaw.

 

      

 

     Tynnodd Rheolwr y Gwasanaeth Rheoli Cynllunio a'r Cyfreithiwr sylw at y ffaith bod yr holl lythyrau a ddaw i law adeg argraffu yn cael sylw yn adroddiad y swyddog gyda'r holl lythyrau sy'n cyrraedd yn hwyr yn cael eu copïo a'u dosbarthu i aelodau ar ddiwrnod y cyfarfod pryd a chyflwynir adroddiad llafar arnynt.

 

      

 

     Nodwyd bod y Cynghorwyr Fflur Hughes a Trevor Lloyd Hughes wedi'u pechu gyda datganiad Pennaeth y Gwasanaeth Cynllunio ym mharagraff 2.7 adroddiad y swyddog (arfer cyfredol).

 

      

 

     CYTUNWYD i dderbyn y cyngor yn adroddiad yr Arolygwr o'r Arolwg Gwerth Gorau a mabwysiadu'r arfer o gyflwyno gwybodaeth i'r Pwyllgor am lythyrau a ddaeth i law yn adroddiad y swyddog, gyda'r holl lythyrau hwyr yn cael eu copïo a'u dosbarthu yn y cyfarfod a chyflwyno adroddiad llafar arnynt.  

 

      

 

Daeth y cyfarfod i ben am 4.00 p.m.

 

 

 

Y CYNGHORYDD W. EMYR JONES

 

CADEIRYDD