|
|
|
Dywedodd Rheolwr y Gwasanaeth Rheoli Cynllunio
bod llythyr wedi'i dderbyn gan gyfreithwyr Dwr Cymru yng nghyswllt
penderfyniad y Pwyllgor hwn ynghylch yr uchod. Dywedodd y byddai'n cysylltu â'r aelodau perthnasol
i roi gwybod iddynt am unrhyw ddatblygiadau pan fo apêl yn
cael ei derbyn.
|
|
|
|
RHAN 1 - MATERION CYNLLUNIO
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Cyflwynwyd a chadarnhawyd - adroddiad yr Ymweliadau
â Safleoedd Cynllunio a gynhaliwyd ar 19 Chwefror,
2003.
|
|
|
|
|
Dymunodd y Cynghorydd W.J. Chorlton gofnodi,
er nad oedd yn bresennol yn yr ymweliad swyddogol â'r safle,
ei fod wedi ymweld â safle 16C101A. Dywedodd y
Cynghorydd R.L. Owen hefyd ei fod wedi bod yn gweld y ffyrdd yng
nghyffiniau cais cynllunio 39C166B.
|
|
|
|
4
|
CEISIADAU'N CODI O'R COFNODION
|
|
|
|
|
|
CAIS SY'N TYNNU'N GROES I'R CYNLLUN
DATBLYGU
|
|
|
|
|
|
|
4.1
|
1414C158C - CAIS
AMLINELLOL I GODI ANNEDD AR DIR AR GAE O.S. 3942 GER BYNGALO
PARCIAU, LLYNFAES
|
|
|
|
|
|
Dywedodd Rheolwr y Gwasanaeth Rheoli Cynllunio bod y cais
hwn yn tynnu'n groes i'r cynllun datblygu, yn groes i'r hyn a
nodwyd ar ddechrau adroddiad y swyddog.
|
|
|
|
|
|
Yn ei gyfarfod ar 5 Chwefror, 2003 roedd y Pwyllgor o
blaid rhoi caniatâd cynllunio (yn groes i argymhelliad o
wrthod y Cyfarwyddwr Cynllunio (Cynllunio a Gwasanaethau
Amgylcheddol)). Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd
y cais ei ohirio er mwyn ystyried adroddiad ar oblygiadau rhoi
caniatâd ac er mwyn penderfynu ar y cais.
|
|
|
|
|
|
Cadarnhaodd Rheolwr y Gwasanaeth Rheoli Cynllunio yr hyn
yr oedd eisoes wedi'i ddweud bod hanes o wrthod ceisiadau ar y
safle hwn a bod caniatáu yn mynd yn groes i'r polisïau
cynllunio. Tynnwyd sylw at Bolisi 53 Cynllun Lleol Ynys
Môn a Pholisi A6 Cynllun Fframwaith Gwynedd. At hyn,
atgoffodd Aelodau o Adran 54A y Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref sy'n
nodi y dylid penderfynu ar geisiadau yn unol â'r cynllun
datblygu onid yw ystyriaethau perthnasol yn nodi fel arall.
Yn yr achos hwn, roedd swyddogion o'r farn nad oedd
ystyriaethau o'r fath ac nad rhesymau cynllunio oedd rhesymau
blaenorol y Pwyllgor dros ganiatáu. Yn ei farn ef,
byddai caniatáu'r cais hwn yn gosod cynsail peryglus ar
gyfer gwneud penderfyniadau yn y dyfodol ac yn tanseilio hyder y
cyhoedd yn y system gynllunio'n arw.
|
|
|
|
|
|
|
|
Dywedodd mai dyletswydd Swyddog Monitro'r Cyngor oedd
ymyrryd pe ceid camweinyddu neu anghyfiawnder, fel a nodir yn Neddf
Llywodraeth Leol 1974.
|
|
|
|
|
|
Cynigiodd y Cynghorydd R.L. Owen ganiatáu'r cais
oherwydd y byddai caniatáu yn ei gwneud yn bosib i'r
ymgeisydd ymddeol a pharhau i fyw yn yr ardal; byddai'n rhyddhau'r
ffarm ar gyfer ei gosod ac yn gymorth i gadw'r to ifancach mewn
ardal wledig. Roedd cyflwr meddygol yr ymgeisydd yn ei
rwystro rhag cario 'mlaen gyda'i waith ffarmio presennol.
Eiliodd y Cynghorydd R.J. Jones y sylwadau hyn.
|
|
|
|
|
|
Dywedodd y Cynghorydd David Evans bod gwrthod y cais yn
gorfodi'r ymgeisydd i symud o'r ardal.
|
|
|
|
|
|
Dywedodd y Cynghorydd Gwyn Roberts, o ystyried popeth, er
ei fod yn cydymdeimlo gyda'r ymgeisydd roedd yn cytuno gydag
argymhelliad y swyddog ac nad oedd amgylchiadau eithriadol
yma.
|
|
|
|
|
|
Cynigiodd y Cynghorydd R.L. Hughes lynu wrth argymhelliad
y swyddog gan ofyn i aelodau fod yn gyson wrth wneud
penderfyniadau. Eiliodd y Cynghorydd P.M. Fowlie ei gynnig
gan ddweud nad oedd digon o dystiolaeth ar gael ar hyn o bryd i
gefnogi'r cais.
|
|
|
|
|
|
Yn unol â chyngor y cyfreithiwr a pharagraff 18.5
Rheolau Gweithdrefn y Cyngor PENDERFYNODD aelodau gymryd pleidlais wedi'i chofnodi
yng nghyswllt y cais hwn a dyma sut y pleidleisiwyd:
|
|
|
|
|
|
YN ERBYN ARGYMHELLIAD Y SWYDDOG:
|
|
|
|
|
|
Y Cynghorwyr J. Arwel Edwards, D.D. Evans, Fflur
Hughes, R.J. Jones, R.L. Owen (5).
|
|
|
|
|
|
YN CEFNOGI ARGYMHELLIAD Y SWYDDOG I WRTHOD Y
CAIS:
|
|
|
|
|
|
Y Cynghorwyr W.J. Chorlton, P.M. Fowlie, R.L. Hughes,
W.E. Jones, Gwyn Roberts, W.T. Roberts (6).
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Y Cynghorydd John Roberts (1).
|
|
|
|
|
|
PENDERFYNWYD gwrthod y cais am y rhesymau yn
adroddiad y swyddog.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
4.2
|
16C101A - DYMCHWEL Y PORTS YN Y CEFN AC ALTRO AC YMESTYN
EILIAN HOUSE, STRYD FAWR, BRYNGWRAN
|
|
|
|
|
|
Yn y cyfarfod diwethaf gofynnodd Rheolwr y Gwasanaeth
Rheoli Cynllunio am gael gohirio ystyried y cais hwn fel bod modd i
swyddogion barhau gyda'u gwaith ymgynghori. Ymwelwyd â
safle'r cais ar 19 Chwefror, 2003 ar gais yr aelodau cyn penderfynu
ar y cais.
|
|
|
|
|
|
Diolchodd y Cynghorydd R.G. Parry, yr aelod lleol, i
aelodau am fynd i ymweld â'r safle a dywedodd nad oedd yn
gwrthwynebu'r gwaith altro i'r ty ei hun ond ei fod yn
gwrthwynebu'r maint yn gryf yn enwedig felly uchder y garej o'i
chymharu â maint yr ardd. Gofynnodd i aelodau
ganiatáu'r cais yng nghyswllt y ty ond i wrthod y garej
arfaethedig.
|
|
|
|
|
|
Cytunodd y Cynghorydd Gwyn Roberts gyda'r aelod lleol ac
roedd yn bryderus ynghylch defnyddiau posib o'r garej.
|
|
|
|
|
|
Sicrhaodd Rheolwr y Gwasanaeth Rheoli Cynllunio yr aelodau
y byddai amod yn cael ei roi yn cyfyngu'r defnydd a wneir o'r garej
i annedd breifat. Roedd cyffiniau'r safle yn gymysgedd o
anheddau unllawr a deulawr gyda meddygfa wrth ymyl y safle yn y
cefn. Roedd o'r farn bod y bwriad yn cydymffurfio gyda
pholisïau perthnasol y cynllun datblygu.
|
|
|
|
|
|
Awgrymodd y Cynghorydd John Chortlon bod y garej yn cael
ei gosod i'r dde o'r cwrtil fel bod modd cael mwy o le i gael at y
tanc nwy yng nghefn yr ardd ac fel ei fod ymhellach oddi wrth y ty
cyfagos, Dridwen.
|
|
|
|
|
|
Cynigiodd y Cynghorydd R.L. Hughes ganiatáu'r cais
yn seiliedig ar y dystiolaeth a gyflwynwyd.
|
|
|
|
|
|
Dymunodd y Cynghorydd Fflur Hughes gofnodi ei bod wedi
ymatal rhag pleidleisio ar y cais hwn.
|
|
|
|
|
|
PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau a
roddwyd a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog hwn.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
4.3
|
30 30C102A - NEWID Y
DEFNYDD A WNEIR O'R SIOP A'R LLE GOLCHI YN 3 FFLAT HUNANGYNHWYSOL
YM MORANNEDD, FFORDD BANGOR, BENLLECH
|
|
|
|
|
|
Dywedodd Rheolwr y Gwasanaeth Rheoli Cynllunio nad oedd y
cais hwn yn tynnu'n groes i'r cynllun datblygu, yn groes i'r hyn a
nodwyd ar ddechrau adroddiad y swyddog.
|
|
|
|
|
|
Nodwyd bod yr ymgeisydd wedi anfon llythyr at aelodau'r
Pwyllgor ac roedd copi ohono ar y bwrdd yn y cyfarfod
hefyd.
|
|
|
|
|
|
Yn y cyfarfod diwethaf gofynnodd Rheolwr y Gwasanaeth
Rheoli Cynllunio am gael gohirio ystyried y cais gan fod swyddogion
yn parhau i edrych i mewn i'r materion a godwyd yn yr ymweliad
â'r safle ar 22 Ionawr, 2003.
|
|
|
|
|
|
Dywedodd mai Polisi 1 Cynllun Lleol Ynys Môn oedd y
brif ystyriaeth gynllunio, gydag effaith colli unedau o fath a
fyddai'n cyfrannu at lewyrch a llwyddiant economaidd parhaus ardal
wledig. At hyn, roedd y swyddog o'r farn nad oedd y fynedfa
i'r briffordd yn cyrraedd y safon a hynny'n seiliedig ar
argymhelliad yr Adran Briffyrdd.
|
|
|
|
|
|
Dywedodd y Cynghorydd W.T. Roberts ei fod o'r farn bod y
fynedfa i'r A5025 yn beryglus ac nad oedd yn cyrraedd y safon.
Dywedodd bod yr Heddlu yn cefnogi'r argymhelliad o wrthod y
cais hwn ac at hyn roedd deiseb yn gwrthwynebu ac arni 200 o enwau
wedi'i derbyn.
|
|
|
|
|
|
Dywedodd y Cynghorydd W.J. Chorlton ei fod o'r farn y
byddai siopau yn creu mwy o draffig na'r datblygiad arfaethedig.
Yn ôl y Cynghorydd Fowlie gallai fod yn anodd
prydlesu'r unedau hyn ac y byddai eu gadael yn wag yn creu mwy o
broblemau.
|
|
|
|
|
|
Dywedodd yr Uwch Beiriannydd (Rheoli Datblygu a Hawliau
Tramwy Cyhoeddus) bod ei Adran yn gwrthwynebu'r bwriad oherwydd y
byddai yna fwy o draffig yn mynd trwy'r fynedfa gul ac ohoni ac
oherwydd nad oedd modd gweld yn ddigon da o'r fynedfa.
|
|
|
|
|
|
Cynigiodd y Cynghorydd Fowlie roi caniatâd a chafodd
ei eilio gan y Cynghorydd Chorlton.
|
|
|
|
|
|
Cynigiodd y Cynghorydd W.T. Roberts dderbyn argymhelliad o
wrthod y swyddog a chafodd ei eilio gan y Cynghorwyr Fflur Hughes a
John Roberts.
|
|
|
|
|
|
PENDERFYNWYD gwrthod y cais am y rhesymau yn
adroddiad y swyddog.
|
|
|
|
|
|
|
4.4
|
39C166B - NEWID DEFNYDD O FOD YN HEN IARD LO I FOD YN
UNEDAU GWYLIAU I'W GOSOD YN REFAIL NEWYDD, PORTHAETHWY
|
|
|
|
|
|
Datganodd y Cynghorydd David Evans ddiddordeb yn y
cais hwn ac nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod pan drafodwyd y
mater a phleidleisio arno.
|
|
|
|
|
|
Roedd y cais yn cael ei gyfeirio i'r Pwyllgor oherwydd
natur y datblygiad arfaethedig a'r ymateb a gafwyd yn sgil yr
ymgynghori.
|
|
|
|
|
|
I bawb gael gwybod, gofynnodd y Cynghorydd Arwel Edwards
am gael gwared â'r gair "hen" o'r disgrifiad o'r cais gan fod
y safle yn parhau i gael ei ddefnyddio fel iard lo.
|
|
|
|
|
|
Yn y cyfarfod diwethaf, gofynnodd Rheolwr y Gwasanaeth
Rheoli Cynllunio am gael gohirio ystyried y cais hwn fel bod modd i
swyddogion barhau gyda'u gwaith ymgynghori. Ymwelwyd â
safle'r cais ar 19 Chwefror, 2003 ar gais yr aelodau cyn penderfynu
arno.
|
|
|
|
|
|
Dywedodd Rheolwr y Gwasanaeth Rheoli Cynllunio bod gan y
safle hwn hanes o nifer fawr o ddefnyddiau. Tynnodd sylw'r
Aelodau at bolisïau perthnasol yng Nghynllun Fframwaith
Gwynedd a hefyd at bolisïau 2, 8 a 31 Cynllun Lleol Ynys
Môn.
|
|
|
|
|
|
Roedd yr Adran Briffyrdd yn gwrthwynebu'r cais hwn
oherwydd agweddau diogelwch y ffordd - y ffordd leol annigonol sy'n
gwasanaethu'r safle ond yr argymhelliad cynllunio oedd rhoi
caniatâd gan eu bod yn rhagweld y byddai'r defnydd
arfaethedig yn creu llai o draffig na'r defnydd presennol posib.
?
|
|
|
|
|
Cynigiodd y Cynghorydd
John Roberts wrthod y cais hwn am resymau priffyrdd. Cafodd
ei eilio gan y Cynghorydd Fflur Hughes.
|
|
|
|
Cynigiodd y Cynghorydd R.
L. Owen yr argymhelliad a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd R. L.
Hughes gan ei fod o'r farn ei fod yn fantais gynllunio. At
hyn, roedd yr Adain Datblygu Economaidd yn hyrwyddo hwn fel safle
diwydiannol.
|
|
|
|
PENDERFYNWYD
caniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd a chyda'r amodau yn
adroddiad y swyddog.
|
|
|
|
4.5
|
45C290 - CAIS I ADOLYGU AMODAU DAN DDEDDF AMGYLCHEDDOL
1995 YN CHWAREL HENGAE, LLANGAFFO
|
|
|
|
|
Dywedodd Rheolwyr
Gwasanaeth Rheoli Cynllunio, yn wyneb rhagor o wybodaeth ddaeth i
law bod swyddogion yn rhagweld y byddant mewn sefyllfa i gyflwyno
adroddiad llawn ar yr uchod yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor
hwn.
|
|
|
|
5 CEISIADAU YN TYNNU'N GROES I'R CYNLLUN
DATBLYGU
|
|
|
|
5.1
|
21C115A - CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD AMAETHYDDOL AR DIR
YN GLANRAFON, LLANEDWEN
|
|
|
|
|
Dywedodd Rheolwr y
Gwasanaeth Rheoli Cynllunio bod y cais hwn yn tynnu'n groes i'r
cynllun datblygu a'i fod yn argymell gwrthod yn gryf am y rhesymau
a nodwyd yn adroddiad y swyddog. Roedd o o'r farn nad oedd yr
ymgeiswyr wedi cyflwyno digon o dystiolaeth yn yr adroddiad
amaethyddol oedd ynghlwm i gyfiawnhau eu hangen ac nad oeddynt wedi
ystyried yn llwyr opsiynau eraill.
|
|
|
|
Gofynnodd i aelodau gadw
hanes cynllunio perthnasol y safle hwn mewn cof. Tynnodd sylw
aelodau at Bolisi 53 Cynllun Lleol Ynys Môn a Pholisi A6
Cynllun Fframwaith Gwynedd.
|
|
|
|
PENDERFYNWYD gwrthod
y cais am y rhesymau yn adroddiad y swyddog.
|
|
|
|
5.2
|
35C103J - CYNLLUNIAU MANWL DIWYGIEDIG I GODI/SYMUD A GOSOD
ANNEDD RHEOLWR A GAFODD GANIATÂD YN FLAENOROL DAN GAIS
35C103C YM MAES CARAFANNAU Y WERN, LLANGOED
|
|
|
|
|
(Datganodd y
Cynghorwyr R. Ll. Hughes ac R. J. Jones ddiddordeb yn y cais hwn ac
nid oeddynt yn bresennol yn y cyfarfod pan drafodwyd y mater a
phleidleisio arno)
|
|
|
|
Dywedodd Rheolwr y
Gwasanaeth Rheoli Cynllunio bod caniatâd cynllunio ar y safle
hwn am annedd i reolwr dan gyfeirnod 35C103C. Y cais hwn yw
symud annedd y rheolwr yn nes at geg y safle. Dywedodd y
swyddog nad oeddynt yn gwrthwynebu'r cais hwn unwaith y byddai
caniatâd cynllunio 35C103C yn cael ei ddiddymu a chyda
Cytundeb Adran 106 (meddiannaeth).
|
|
|
|
PENDERFYNWYD
caniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd a chyda Cytundeb
Adran 106 (meddiannaeth) a chyda'r amodau yn adroddiad y
swyddog.
|
|
|
|
5.3
|
36C135B - CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD AR DIR GER
CARTREFLE, RHOSTREHWFA
|
|
|
|
|
Nodwyd bod eitem 3 ar
dudalen 21 adroddiad y swyddog yn nodi bod caniatâd cynllunio
wedi'i wrthod yng nghyswllt cais 36C135 ar 04.03.92 ac nid
2002.
|
|
|
|
Dywedodd Rheolwr y
Gwasanaeth Rheoli Cynllunio bod y cais hwn yn tynnu'n groes i'r
cynllun datblygu, ni fyddai modd ystyried y bwriad dan Polisi 50
(trefi/pentrefi rhestredig) ac y byddai yn gyfystyr â 'tai yn
y cefn gwlad' (Polisi 50) Cynllun Lleol Ynys Môn.
Argymhellodd wrthod oherwydd yr hyn a nodwyd yn adroddiad y
swyddog. At hyn, dywedodd y swyddog bod y ffyrdd lleol yn
hynod gul. Mae'r Adran Briffyrdd yn argymell gwrthod y cais
hwn am resymau priffyrdd.
|
|
|
|
PENDERFYNWYD gwrthod
y cais am rhesymau yn adroddiad y swyddog.
|
|
|
|
5.4
|
36C50J - CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD I REOLWR AR DIR YM
MHARC GWLEDIG HENBLAS, BODORGAN
|
|
|
|
|
Dywedodd Rheolwr y
Gwasanaeth Rheoli Cynllunio bod y cais hwn yn tynnu'n groes i'r
cynllun datblygu ac nad oedd tystiolaeth gref wedi'i chyflwyno i
ddangos bod angen tymor hir gwirioneddol am annedd yn y lleoliad
penodol hwn. Roedd y swyddog o'r farn bod adeiladau allanol
addas y byddai modd eu hystyried ar gyfer eu troi yn annedd dan
Polisi 55 (addasu).
|
|
|
|
Dywedodd y Cynghorydd R.
Ll. Hughes fod hwn yn fusnes arallgyfeirio amaethyddol llewyrchus a
sefydlwyd 15 mlynedd yn ôl ac sy'n cynorthwyo'r economi
gwledig a lleol. Roedd o'r farn ei fod yn bwysig cael annedd
i reolwr am rhesymau gofalu am anifeiliaid a diogelwch. Roedd
y cais yn dangos angen tymor hir yn unol â Pholisi 53. Roedd
y safle hwn yn y Parc gwledig ac yn agos i adeiladau eraill.
Ni fyddai'n rhesymol addasu adeiladau allanol os oedd hyn yn
golygu symud crefftwyr. Efallai y byddai'r busnes yn methu
heb y caniatâd hwn ac roedd polisïau'r Cyngor yn ceisio
cefnogi mentrau o'r fath.
|
|
|
|
Cynigiodd y Cynghorydd R.
Ll. Hughes ganiatáu yn yr achos a chafodd y cynnig ei eilio
gan y Cynghorydd P. M. Fowlie a oedd o'r farn mai hwn oedd un o
brif atyniadau twristaidd Môn.
|
|
|
|
Cynigiodd y Cynghorydd
Gwyn Roberts dderbyn argymhelliad o wrthod y swyddog a chafodd ei
eilio gan y Cynghorwyr Fflur Hughes a W. T. Roberts.
|
|
|
|
PENDERFYNWYD gwrthod
y cais am y rhesymau yn adroddiad y swyddog.
|
|
|
|
Ymataliodd y Cynghordd R.
L. Owen rhag pleidleisio ar y cais hwn.
|
|
|
|
5.5
|
44C178B - CADW CARAFAN BRESWYL DROS DRO AR DIR GER GEUFRON
ISAF, RHOS-Y-BOL
|
|
|
|
|
Dywedodd Rheolwr y
Gwasanaeth Rheoli Cynllunio bod y cais hwn yn tynnu'n groes i'r
cynllun datblygu ac nad oedd yn cydymffurfio gyda Pholisïau
50, 53 a 57 Cynllun Lleol Ynys Môn.
|
|
|
|
PENDERFYNWYD gwrthod
y cais am y rhesymau yn adroddiad y swyddog.
|
|
|
|
6 GWEDDILL Y CEISIADAU
|
|
|
|
6.1
|
14C170 - CREU DWY BONT DROED/SEICLO, LLWYBR STYLLOG A
LLWYBR GRADDFA "A" UN POMPBREN DROS REILFFORDD AMLWCH GYDA RAMPIAU
YN ARWAIN AT LWYBR SEICLO CEFNI, OCHR DDEHEUOL CRONFA DDWR CEFNI AC
I OCHR OGLEDDOL RHEILFFORDD AMLWCH, BODFFORDD
|
|
|
|
|
Trosglwyddwyd y cais uchod
i'r Pwyllgor gan ei fod wedi'i gyflwyno ar ran y Cyngor
Sir.
|
|
|
|
PENDERFYNWYD
caniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd a chyda'r amodau yn
adroddiad y swyddog.
|
|
|
|
6.2
|
17C276B - CODI YSTAFELL HAUL YN 1 BRYN EGLWYS,
LLANSADWRN
|
|
|
|
|
Roedd y cais uchod wedi'i
drosglwyddo i'r Pwyllgor gan ei fod wedi'i gyflwyno gan unigolyn a
staff y Cyngor. (Datganodd
Christine Williamson, yr Adran Addysg, ddiddordeb yn y cais
hwn)
|
|
|
|
PENDERFYNWYD
caniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd a chyda'r amodau yn
adroddiad y swyddog.
|
|
|
|
6.3
|
34C465B - CODI LLWYBR PREN RHWNG MAES PARCIO'R EGLWYS A'R
LLWYBR GER MAES PARCIO'R ORSAF YN Y DINGLE, LLANGEFNI
|
|
|
|
|
Roedd y cais uchod yn cael
ei drosglwyddo i'r Pwyllgor gan bod safle'r cais ym mherchnogaeth y
Cyngor.
|
|
|
|
PENDERFYNWYD
caniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd a chyda'r amodau yn
adroddiad y swyddog.
|
|
|
|
6.4
|
34LPA418G/CC - YMESTYN Y PORTACABIN FEL SWYDDFA DROS DRO
YN Y PORTACABIN CYNLLUNIO, LLANGEFNI
|
|
|
|
|
Roedd y cais uchod yn cael
ei drosglwyddo i'r Pwyllgor gan ei fod wedi'i gyflwyno gan y Cyngor
Sir.
|
|
|
|
PENDERFYNWYD
caniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd a chyda'r amodau yn
adroddiad y swyddog ar yr amod na dderbynnir ymatebion anffafriol
yn sgil y gwaith ymgynghori.
|
|
|
|
6.5
|
34LPA471/CC - DARPARU PARC BWRDDSGLEFRIO YNG NGHANOLFAN
HAMDDEN PLAS ARTHUR, LLANGEFNI
|
|
|
|
|
Roedd y cais uchod yn cael
ei drosglwyddo i'r Pwyllgor gan ei fod wedi'i gyflwyno gan y Cyngor
Sir ac yn ymwneud â thir yn eu perchnogaeth.
|
|
|
|
PENDERFYNWYD
caniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd a chyda'r amodau yn
adroddiad y swyddog.
|
|
|
|
6.6
|
34LPA700C/CC - YMESTYN Y MAES PARCIO GER Y MAES PARCIO
PRESENNOL, SWYDDFEYDD Y CYNGOR, LLANGEFNI
|
|
|
|
|
Roedd y cais uchod yn cael
ei drosglwyddo i'r Pwyllgor gan ei fod wedi'i gyflwyno gan y Cyngor
Sir.
|
|
|
|
PENDERFYNWYD
caniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd a chyda'r amodau yn
adroddiad y swyddog.
|
|
|
|
6.7
|
35C50D - DILEU AMODAU (02), (03), (04) A (05) ODDI AR GAIS
CYNLLUNIO 35C50 FEL BOD MODD I BOBL FYW YN YR UNEDAU'N BARHAOL A
CHREU UNEDAU ANNIBYNNOL AR WAHÂN YN NHROS YR AFON,
PENMON
|
|
|
|
|
Roedd y cais uchod yn cael
ei drosglwyddo i'r Pwyllgor gan fod y cais wedi'i gyflwyno gan
aelod o'r Cyngor Sir. (Datganodd y Cynghorydd Elwyn Schofield diddordeb
yn y cais hwn).
|
|
|
|
PENDERFYNWYD
caniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd a chyda'r amodau yn
adroddiad y swyddog.
|
|
|
|
7 CEISIADAU A DDIRPRWYWYD
|
|
|
|
Cyflwynwyd a derbyniwyd -
adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cynllunio a Gwasanaethau
Amgylcheddol) ar faterion a ddirprwywyd ac a benderfynwyd arnynt
ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor hwn.
|
|
|
|
8 CEISIADAU'N DISGWYL SYLW - CYTUNDEBAU ADRAN
106
|
|
|
|
Cyflwynwyd a derbyniwyd
adroddiad y Pennaeth Rheoli Datblygu bod y cais a ganlyn, yr oedd y
Pwyllgor eisoes wedi'i ganiatáu gyda Chytundeb Adran 106,
wedi'i dynnu'n ôl yn swyddogol :-
|
|
|
|
1/11/C114 - defnyddio
safle gwag fel iard adeiladu yn hen safle HRT Engineering, Stad
Ddiwydiannol Llwyn Onn, Amlwch (caniatawyd 6 Ionawr, 1988) tynnwyd
yn ôl 2 Chwefror, 2003.
|
|
|
|
9 SIARTER Y GWASANAETH CYNLLUNIO A CHANLLAWIAU I'R
CWSMER AR Y GWASANAETH
|
|
|
|
Cyflwynodd Pennaeth y
Gwasanaethau Cynllunio gopi o "Canllawiau i'r Cwsmer ar y
Gwasanaeth Cynllunio" sydd ar gael yn Nerbynfa'r Adran Gynllunio.
Dywedodd y byddant yn cael eu hadolygu yn y flwyddyn ariannol
hon dan y Cynllun Busnes Gwasanaeth Cynllunio. Yn ddiweddar
ailystyriodd grwp staff sgôp a manylion y Siarter a'r
Canllawiau gan ddod i'r casgliad eu bod, yn gyffredinol, yn parhau
i gynnwys athroniaeth a chylch gorchwyl y Gwasanaeth Cynllunio.
Argymhellwyd mân-newidiadau i'r Canllawiau fel a
nodwyd.
|
|
|
|
Dywedodd Pennaeth y
Gwasanaeth Cynllunio nad oedd Cadeirydd y Pwyllgor na'r Aelod
Portffolio wedi llofnodi Siarter y Gwasanaeth Cynllunio hyd yn hyn.
Gan fod gwelliant sylweddol mewn perfformiad dros y 12 mis
diwethaf a bod hyder y cyhoedd wedi gwella roedd yn argymell
ailfabwysiadu'r Siarter
|
|
|
|
Dywedodd y swyddog
bod Fforwm Cynllunio o ddefnyddwyr y gwasanaeth yn cyfarfod
ddwywaith y flwyddyn a bod hwn yn fodd o ysgogi ymateb yng
nghyswllt gwelliannau a monitro perfformiad.
|
|
|
|
PENDERFYNWYD derbyn
yr adroddiad a chytuno i ailfabwysiadu Siarter y Gwasanaeth
Cynllunio a fersiwn diwygiedig Canllawiau i'r Cwsmer ar y
Gwasanaeth Cynllunio.
|
|
|
|
10 AROLWG BARN CWSMERIAID
|
|
|
|
Dywedodd Pennaeth y
Gwasanaeth Cynllunio mai un o'r materion allweddol yn sgil yr
Adolygiad Gwerth Gorau o Reoli Cynllunio a ddaeth i'r wyneb oedd
atebolrwydd i gwsmeriaid. Cynhaliwyd arolwg barn cwsmeriaid
gan Ymchwil Marchnad Cymru a nododd bod y gwasanaeth eisoes wedi
gwella o 59% i 70% dros y ddwy flynedd diwethaf a bod targed
oddeutu 1 neu 2% o welliant yn rhesymol i anelu ato eleni.
Nodwyd y meysydd a ganlyn ar gyfer gwella :
|
|
|
|
Ÿ
|
cael digon o staff i ddelio ag ymholiadau, yn enwedig
felly galwadau ffôn
|
|
|
Ÿ
|
sicrhau bod yr holl lythyrau sy'n cael eu derbyn yn cael
eu hateb. Lle nad yw'n bosibl ymateb iddynt o fewn amser
penodol yna dylid anfon cydnabyddiaeth.
|
|
|
Ÿ
|
gwella'r broses ar gyfer delio gyda'r e-bost. Gyda
thri chwarter y cwsmeriaid â mynediad i'r rhyngrwyd ac un
mewn 6 â diddordeb mewn gwneud cais electronig, mae'r galw am
y gwasanaeth hwn yn debygol o godi.
|
|
|
Ÿ
|
cynnal adolygiad o'r ffurflenni a
chyfarwyddiadau
|
|
|
Ÿ
|
rheoli disgwyliadau cwsmeriaid o gyflymder y broses, unai
ar lafar (wrth siarad hefo'r person) neu trwy lunio
taflen.
|
|
|
|
|
Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Cynllunio ei
fod wedi'i galonogi gan y casgliadau gan ddweud bod ffurflenni cais
cynllunio wedi'u hadolygu gyda'r bwriad o'u gwneud yn haws i'w
deall a'u bod yn cael eu defnyddio ar hyn o bryd. At hyn
roedd taflen wedi'i pharatoi i egluro'r gwahanol brosesau
cynllunio.
|
|
|
|
Dywedodd y Cynghorydd R. L. Owen y dylid
llongyfarch aelodau o staff yr Adran Cynllunio, yn enwedig y rhai
yn y dderbynfa, am fod yn gwrtais ac yn barod i gynorthwyo bob
amser. Dymunodd y Cynghorydd Fflur Hughes ategu'r sylwadau
hynny.
|
|
|
|
Lluniwyd Cynllun Gweithredu a chytunwyd i
gyflwyno adroddiad ar y datblygiadau i'r Pwyllgor Cynllunio a
Gorchmynion.
|
|
|
|
|
|
Daeth y cyfarfod i ben am 4.15 p.m.
|
|
|
|
Y CYNGHORYDD W. EMYR JONES
|
|
CADEIRYDD
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|