Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion dogfennau , 5 Mawrth 2008

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Dydd Mercher, 5ed Mawrth, 2008

PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION

 

Cofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 5 Mawrth, 2008 

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd J. Arwel Roberts - Cadeirydd

Y Cynghorydd Denis Hadley - Is-Gadeirydd

 

Y Cynghorwyr John Byast, John Chorlton, Eurfryn Davies, Arwel Edwards, J Arthur Jones, Glyn Jones, Thomas Jones, Bryan Owen, RL Owen, John Roberts, Hefin Thomas, WJ Williams MBE

 

 

 

WRTH LAW:

 

Cynllunio:

Pennaeth Rheoli Datblygu (EGJ)

 

Priffyrdd:

Pennaeth Priffyrdd(DW) (mewn perthynas ag eitem 6.4)

Uwch Beiriannydd (Rheoli Datblygu a Hawliau Tramwy Cyhoeddus) (JRWO)

Swyddog Rheoli Datblygu (RE)

 

Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol (RWJ)

Cynorthwy-ydd Gweinyddol (CWP)

 

 

 

HEFYD YN BRESENNOL:

 

Aelodau lleol:  

Y Cynghorwyr Mrs Bessie Burns MBE (eitem 10.4), WI Hughes (eitemau 6.1, 6.2, 6.3, 6.7, 10.2), Eric Jones (eitem 6.4), Goronwy Parry MBE (eitem 10.8), DA Lewis-Roberts (eitem 10.5), John Williams (eitem 6.6)

 

1

YMDDIHEURIADAU

 

Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriad am absenoldeb.

 

2

DATGANIAD O DDIDDORDEB

 

Derbyniwyd datganiadau o ddiddordeb fel y cawsant eu cofnodi dan yr eitemau perthnasol.

 

3

COFNODION

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd, fel rhai cywir, gofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gafwyd ar 6 Chwefror, 2008.

 

4

YMWELIAD Â SAFLEOEDD CYNLLUNIO

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd, fel un cywir, adroddiad ar yr Ymweliad â Safleoedd Cynllunio gafwyd ar 20 Chwefror, 2008.

 

5

CEISIADAU A OHIRIWYD

 

5.1

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

11C8U/1 CAIS LLAWN I GODI 35 UNED BRESWYL YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GEIR AC I GERDDWYR AR DIR TU CEFN I BARC TRECASTELL, PORTH LLECHOG

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno ar gais y swyddog.  Penderfynwyd ymweld â'r safle ar 7 Tachwedd, ac fe gafwyd hyn ar 21 Tachwedd, 2007.  Fe adroddwyd nad oedd ymateb

 

 

 

wedi ei dderbyn i ystyriaethau cynllunio a godwyd yn ystod yr ymweliad â'r safle .  

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais am y rheswm a roddwyd.  

 

 

 

 

 

5.2      CAIS YN TYNNU'N GROES

 

 

 

28C313B  CAIS AMLINELLOL I GODI 14 O ANHEDDAU YNGHYD A CHREU MYNEDFA NEWYDD I GERDDWYR A CHEIR AR DIR GER TERAS REHOBOTH, LLANFAELOG

 

 

 

Ar 9 Ionawr, 2008 penderfynwyd gohrio ystyried y cais er mwyn rhoi cyfle i'r ymgeisydd gynnal arolwg o'r angen am dai yn lleol ac nid oedd canlyniad yr arolwg wedi ei dderbyn.  

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais am y rheswm a roddwyd.

 

 

 

 

 

6

CEISIADAU'N CODI

 

 

 

6.1

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

14C28T/ECON  CAIS LLAWN I GODI UNED DDIWYDIANNOL I STORIO A DOSBARTHU GYDA LLE AR GYFER SWYDDFEYDD, GOSOD TANC TANDDAEAROL I GASGLU DWR GLAW, YNGHYD A DARPARIAETH PARCIO CEIR CYSYLLTIOL AR BLOTIAU 9, 10 & 11 STÂD DDIWYDDIANNOL, MONA

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan fod y safle ym mherchnogaeth y Cyngor.  Yng nghyfarfodydd Ionawr a Chwefror fe ohiriwyd ystyried y cais er mwyn cwblhau trafodaethau gyda'r Weinyddiaeth Amddiffyn mewn perthynas â gosod twrbin gwynt ar y safle.  Roedd y bwriad i osod twrbin gwynt wedi ei dynnu'n ôl erbyn hyn meddai'r Pennaeth Rheoli Datblygu.  Yn y fersiwn Gymraeg, dylai pwynt 7 (Prif Faterion Cynllunio) yr adroddiad ddarllen "diwydiannol", cyfeiriodd y swyddog hefyd at y defnydd arfaethedig y manylwyd arno yn yr adroddiad.

 

 

 

Mynegodd y Cynghorydd WI Hughes ei gefnogaeth, hefyd y Cynghorydd J Arthur Jones ac ychwanegodd ei fod yn fodlon nad oedd bwriad bellach i osod twrbin gwynt ar y safle.

 

 

 

Yn unfrydol PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd, gydag amodau y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.  

 

 

 

 

 

6.2

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

14C92F  DILEU AMOD (07) SEF: "BYDD Y LLETY GWYLIAU A CHYFLEUSTERAU CYSYLLTIEDIG A GANIATEIR TRWY HYN YN CAEL EI CHYNNAL FEL UN CANOLFAN" ODDI AR GANIATÂD CYNLLUNIO 14C92D YM MHARC CEFNI, BODFFORDD

 

 

 

(Cafwyd datganiad o ddiddordeb gan y Cynghorydd J Arthur Jones a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r pleidleisio).  

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno ar gais yr aelod lleol, hefyd gan mai cynghorydd yw'r ymgeisydd.  Ar 6 Chwefror, 2008 penderfynwyd gohirio ystyried y cais er mwyn rhoi ystyriaeth i lythyr dyddiedig 5 Chwefror, 2008 gan yr ymgeisydd.  Rhoddwyd gohebiaeth dyddiedig 22 Chwefror hefyd gerbron y cyfarfod.  

 

 

 

Hen ddepo Dwr Cymru ym Modffordd yw'r safle, gyda chaeau o'i gwmpas a gwrychoedd yma ac acw, hefyd hen adeiladau a ddefnyddiwyd gynt i ddibeion yr Awdurdod Dwr.  Roedd caniatâd cynllunio 14C92D yn cynnwys gosod 22 o unedau gwyliau, codi bwyty newydd, troi y defnydd o swyddfeydd yn feithrinfa, cyfleusterau hamdden, caffi a chanolfan chwarae i blant ynghyd â darparu offer preifat i drin carthion.  

 

 

 

Adroddodd y Pennaeth Rheoli Datblygu ar yr elfen o reolaeth dros ddefnydd a deiliadaeth i'r dyfodol ar y safle.   Fel rhan o'r caniatâd cynllunio yn 2005 roedd yn ystyriaeth allweddol ei fod yn cyfranu at gyfleusterau twristiaeth a hamdden yr ardal; h.y. ..."Ystyrir felly ei bod yn holl bwysig bod y safle yn aros fel un uned gynllunio fel bod y defnydd yn parhau i fod wedi'i gysylltu i'r prif ddefnydd o'r safle lle derbyniwyd eisoes yr egwyddor o ddatblygu ac er mwyn osgoi isrannu'r safle i unedau tai o ran perchnogaeth a deiliadaeth a allai erydu natur y cynllun a'i dderbynioldeb dan y polisi cynllunio.  Er mwyn gwneud hyn, ystyrir bod angen Cytundeb dan Adran 106 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990."  ...

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd WI Hughes ei fod ef wedi cefnogi'r cais yn wreiddiol, fodd bynnag roedd ganddo bryder ynglyn â newid amodau sydd ynghlwm wrth y caniatâd cynllunio gwreiddiol.  Roedd yn hanfodol bwysig fod y safle yn cael ei gadw fel un uned, fel arall byddai'r datblygiad unai yn creu pentref o'r newydd neu bentref gwyliau.  Roedd yr ymgeisydd yn gweld y cyfyngiadau hyn yn dderbyniol ym 2005.  Gofynnodd i'r Pwyllgor dderbyn argymhelliad y swyddog yn unol â'r adroddiad.  

 

   

 

Pryderu oedd y Cynghorydd John Chorlton fod yr amodau ynghlwm wrth y caniatâd gwreiddiol nawr yn anghyfreithlon ac roedd arno angen sicrhad y byddai'r amodau arfaethedig yn awr yn gyfreithlon, teg a rhesymol;  dywedodd hefyd y dylai pob ymgeisydd gael ei drin yn yr un modd pa un yw cais wedi ei gyflwyno gan aelod etholedig neu gan aelod o'r cyhoedd ac y dylai penderfyniad gael ei wneud yn seiliedig ar ddefnydd tir.  

 

 

 

Teimlai'r Cynghorydd Hefin Thomas y dylai'r datblygiad barhau ar gyfer defnydd gwyliau a chytunodd gyda safiad y Cynghorydd John Chorlton; ym 2005 doedd gan y swyddogion ddim gwrthwynebiad i newid defnydd y safle ac roedd y bwriad, bryd hynny, yn cydymffurfio gyda pholisïau.  Doedd y cais ddim yn eithriad nac yn tynnu'n groes i bolisïau; hefyd roedd ganddo bryderon ynglyn ag amodau a osodwyd ar y pryd a'r rheini bellach yn anghywir; mynegodd hefyd gonsyrn gyda'r datganiad yng nghefn yr adroddiad, sef Na ddylid dileu'r amod a delio gyda'r mater drwy apêl."

 

 

 

Cytuno â'r ddau aelod, sef y Cynghorwyr Chorlton a Thomas, a wnaeth y Cynghorydd John Roberts, a gofynnodd be fyddai'r sefyllfa petai apêl yn cymryd lle ynghyd â goblygiadau costau.

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd Thomas Jones mai pwrpas y cais gwreiddiol oedd i ddefnydd twristiaeth/gwyliau - roedd yn elfen hanfodol o'r penderfyniad hwnnw fod y bwriad yn cael ei gadw fel un uned, ac felly ni fyddai ganddo broblem cefnogi argymhelliad y swyddog.

 

 

 

Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu mai "pwrpas cadw'r datblygiad fel un uned gynllunio yw sicrhau bod y datblygiad yn cael ei redeg a'i reoli fel datblygiad twristiaeth er lles yr economi'n gyffredinol."..."Mae'r cyngor cyfreithiol yn glir ar y mater - nid yw'r math o reolaeth dros y datblygiad a dull cael gwared o'r safle fel a nodir dan amod (07) y caniatâd cynllunio rhif 14C92D yn bodloni'r profion ar gyfer yr amodau a bennwyd gan y llysoedd a buasai'n mynd y tu draw i'r gyfraith". A daethpwyd i'r casliad mai "Y mater allweddol yma yw rheolaeth dros y defnydd yn y dyfodol a daliadaeth".  "Mae'r swyddogion yn cynghori y bydd raid dileu'r amod yng nghyswllt cadw'r safle fel un uned am nad yw yn cydymffurfio gyda chanllawiau'r Cylchlythyr.  Cytundeb dan Adran 106 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 yw'r dull priodol o reoli'r defnydd o'r safle a rhwystro gwerthu elfennau amrywiol o'r cynnig i unigolion gwahanol."   Y farn gyfreithiol yw bod termau'r cytundeb presennol ynghlwm wrth gais 14C92D yn amwys ac nad yw'n darparu rheolaeth ddigonol dros yr agwedd hon.  

 

 

 

Fe drafodwyd termau'r cytundeb Adran 106 gyda'r ymgeisydd ac ymatebodd yntau  ... "bod y Cytundeb Adran 106 yn anghyfreithlon.  Yn sicr mae'n amwys a dyna pam y cyflwynwyd argymhelliad i wneud cytundeb newydd yn ei le dan Adran 106".  Ychwanegodd yr ymgeisydd y byddai'n mynd i apêl gyda chais am gostau.  

 

 

 

Yn 2004 roedd yn ddymunol fod y pecyn yn cael eu gadw fel un fenter meddai'r cyfreithiwr. Elfen bwysig i'w hystyried oedd bod y cais yn ymwneud â sawl defnydd gwahanol - a rhai ohonynt ddim yn dderbyniol ar y safle wrth ofyn amdanynt ar ben eu hunain.  Roedd yr amod roddwyd ynghlwm ar y pryd yn groes i ofynion y Cylchlythyr.

 

 

 

Dyfynnodd y Cynghorydd Hefin Thomas o Gylchlythyr 35/95 ble dywedir na ddylai caniatâd cynllunio gael ei gymhlethu trwy roddi amodau cynllunio a fyddai'n effeithio ar berchnogaeth tir; atgoffodd y Pwyllgor mai tir llwyd oedd hwn ac nid tir gwyrdd ac nad oedd o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.  Cynigiodd y Cynghorydd Thomas na ddylai'r caniatâd gynnwys amod dan Adran 106 a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd John Byast.

 

 

 

Gan y Cynghorydd Thomas Jones cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad ac argymhelliad y swyddog a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Glyn Jones.

 

 

 

Roedd y bleidlais fel a ganlyn:  

 

 

 

Dileu amod (07) oddi ar ganiatâd cynllunio 14C92D a pheidio â chael Cytundeb dan Adran 106: Y Cynghorwyr John Byast, John Chorlton, Hefin Thomas

 

 

 

Derbyn adroddiad y swyddog a'i argymhelliad:  Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, Arwel Edwards, Denis Hadley, Glyn Jones, Thomas Jones, Bryan Owen, RL Owen, John Roberts

 

 

 

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad ac argymhelliad y swyddog, h.y. for amod (07) yn cael ei ddileu ond bod yr amodau eraill ar ganiatâd cynllunio 14C92D i gyd yn aros (oni fydd rhai yn cael eu dileu gan geisiadau ar wahân) ond bod cytundeb Adran 106 newydd i'w gwblhau ymlaen llaw fel yr argymhellir yn adroddiad y swyddog.

 

 

 

 

 

6.3      GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

14C92G  DILEU AMODAU (05) & (06) SEF: "NI CHAIFF CYFANSWM YR AMSER O FYW YN YR UNED A GANIATEIR DRWY HYN I BERSON NEU BERSONAU AT DDIBEION LLETY GWYLIAU, FOD YN FWY NA 28 DIWRNOD YN OLYNOL" A "BYDD BYW YN YR UNED WYLIAU A GANIATEIR DRWY HYN YN CAEL EI GYFYNGU I GYFNOD O 11 MIS SY'N CYCHWYN AR 1 MAWRTH MEWN UNRHYW FLWYDDYN AC YN DIWEDDU AR 31 IONAWR YN Y FLWYDDYN GANLYNOL" ODDI AR GANIATÂD CYNLLUNIO RHIF 14C92D YM MHARC CEFNI, BODFFORDD

 

 

 

(Cafwyd datganiad o ddiddordeb gan y Cynghorydd J Arthur Jones a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r pleidleisio).

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno ar gais yr aelod lleol, hefyd Cynghorydd yw'r ymgeisydd.  Ar 6 Chwefror, 2008 penderfynwyd gohirio ystyried y cais er mwyn rhoi ystyriaeth i lythyr dyddiedig 5 Chwefror, 2008 gan yr ymgeisydd.

 

 

 

Yn y Canllawiau Cynllunio Atodol ar Lety Gwyliau nodir bod twristiaeth yn ddiwydiant o bwys ym Môn a bod angen caniatáu iddo dyfu a datblygu.  Cyngor y swyddog oedd y dylid dielu amodau (05) a (06).  Mae amod (04) yn darllen: "The chalets hereby approved shall only be used for holiday accommodation and shall at no time be used as permanent residential premises". Nid oedd amod (04) yn ddigon manwl i weithredu arno yn ddidrafferth - roedd angen ei aralleirio.

 

 

 

 

 

Cytunodd y Cynghorydd WI Hughes a chasgliadau'r swyddog a'r newid a argymhellir.

 

 

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Hefin Thomas yr aelodau at eiriad Amod (04).  Ac mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Thomas dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu fod pob cais yn cael ei ystyried ar ei rinweddau ei hun.

 

 

 

Mewn ymateb i gais y Cynghorydd Thomas Jones am farn gyfreithiol, dywedodd y cyfreithiwr fod yr Amod (04) gwreiddiol erbyn hyn yn amwys ac y byddai'r amod a gynigiwyd yn mynnu ar gadw cofnodion manylach ac felly yn ddarpariaeth fwy pwrpasol.  Roedd yr ymgeisydd â'r hawl i ofyn am amrywio neu ddileu amodau ond o wneud hynny roedd y Cyngor wedyn yn cael cyfle i adolygu'r amodau.

 

 

 

Gan y Cynghorydd Hefin Thomas cafwyd cynnig i ddileu Amodau (05) ac (06) ac i gadw amod (04) fel y mae ar hyn o bryd.

 

 

 

Gan y Cynghorydd Thomas Jones cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad ac argymhelliad y swyddog.

 

Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

 

 

Dileu amodau (05) & (06) oddi ar ganiatâd cynllunio 14C92D a gwneud dim newidiadau i amod (04):  Y Cynghorwyr John Byast, Hefin Thomas

 

      

 

     Derbyn adroddiad ac argymhelliad y swyddog: Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, Arwel Edwards, Denis Hadley, Glyn Jones, Thomas Jones, Bryan Owen, RL Owen, John Roberts

 

      

 

     Ymatal:  Y Cynghorwyr John Chorlton, WJ Williams

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad ac argymhelliad y swyddog h.y. dileu amodau (05) & (06) oddi ar ganiatâd cynllunio 14C92D a bod amodau eraill ar y caniatâd yn aros (oni fydd rhai yn cael eu dileu dan geisiadau ar wahân), cwblhau cytundeb dan Adran 106 fel y'i diwygiwyd gan gais 14C92Fyng nghyswllt y caniatâd cynllunio ac aralleirio amod (04) ar y caniatâd cynllunio fel a ganlyn:

 

      

 

Ÿ

bydd yr unedau gwyliau yn cael eu defnyddio i ddibenion gwyliau yn unig;

 

Ÿ

ni fydd yr unedau gwyliau yn cael eu defnyddio fel unig nac fel prif fan preswylio unigolyn;

 

Ÿ

bydd raid i'r perchnogion/rheolwyr gadw rhestr gyfoes o enwau yr holl berchnogion/ deiliaid i'r unedau unigol ar y safle, a hefyd gyfeiriadau eu prif gartrefi, a sicrhau fod y wybodaeth hon ar gael ar bob amser rhesymol i'r awdurdod cynllunio lleol.  

 

      

 

6.4       GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     17LPA494M/CC CAIS I DDIWYGIO AMOD (08) AR GANIATÂD CYNLLUNIO 17LPA494G/CC/ECON I DDARLLEN FEL A GANLYN:  "NI DDYLAI'R DATBLYGIAD FOD YN WEITHREDOL HYD NES Y BYDD GWELLIANNAU PRIFFORDD I GYFFORDD Y B5420 A FFORDD PENHESGYN WEDI EU CWBLHAU WRTH FODD YR AWDURDOD CYNLLUNIO LLEOL" YN LLE'R GWELLIANNAU I'R BRIFFORDD A GANIATAWYD YN FLAENOROL O DAN GANIATÂD CYNLLUNIO 17LPA494G/CC/ECON" AR DIR SAFLE MEWNLENWI PENHESGYN, LLANSADWRN

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan iddo gael ei gyflwyno gan y Cyngor ac yn effeithio ar dir yn ei berchnogaeth.  Dymuniad y Pwyllgor ar 6 Chwefror, oedd gwrthod y cais, yn groes i argymhelliad y swyddog ar sail diogelwch y briffordd.  Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio er mwyn i Swyddogion baratoi adroddiad ar y rheswm dros wrthod y cais.  

 

      

 

     Rhoddodd y Pennaeth Priffyrdd wybodaeth gefndirol mewn perthynas â'r cais. Er mwyn tawelu pryderon am y briffordd, pan yn penderfynu ar y cais i ddatblygu gwaith compostio IVC mewnol, fe roddwyd amod ar y caniatâd yn gofyn am gyflwyno a chytuno ar gynllun gwell i ddod dros y fath bryderon cyn dechrau'r gwaith adeiladu, i'w gwblhau cyn bod y cyfleuster yn weithredol.  Oherwydd amgylchiadau nad oedd modd eu rhagweld, fe ddaeth yn amlwg nad oedd yn bosib gwneud y gwaith gwella y cytunwyd arno o fewn yr amser. Mae'r cynnig presennol yn lle'r cynllun y cytunwyd arno ac yn fesur i fynd i'r afael a phryderon diogelwch y briffordd.  Mae hyn yn blaenoriaethu gwaith ar y groeslon sydd wedi gweld chwe damwain gerbydau yn yr wyth mlynedd diwethaf, gyda thair yn rhai lle roedd ceir yn mynd i gefn ceir eraill.  Ni chafwyd adroddiad am unrhyw ddamwain o'r fath ar Ffordd Penhesgyn yn ystod yr un cyfnod.  Mae ffigyrau traffig yn dangos na fu unrhyw gynnydd yn nifer y ceir yn teithio i safle Penhesgyn o ganlyniad i'r safle IVC tra bo cynnydd gweddol fychan yn symudiadau'r HGV, ond rhaid cofio fod peth o'r traffig wedi symud i ganolfan ailgylchu newydd ym Mangor.  Amcangyfrifiwyd y byddai hyn yn golygu gostyngiad o 20% yn nifer y ceir oedd yn ymweld â Phenhesgyn.

 

      

 

     Cadarnhau'r hyn a ddywedwyd eisoes wnaeth y Cynghorydd Eric Jones; doedd y ffordd ddim yn ddigon llydan i geir basio ei gilydd sôn am loriau - cyfeiriodd y Cynghorydd Jones at femorandwm Mawrth, 2006 o'r Adran Briffyrdd oedd yn cadarnhau hyn.  Erfynodd ar yr Aelodau  i gadarnhau eu penderfyniad blaenorol i wrthod y cais a pheidio a gildio i'r pwysau a roddwyd.

 

      

 

     A oedd yn bosib prynu'r tir trwy orfodaeth oedd cwestiwn y Cynghorydd John Roberts.  Mewn ymateb dywedodd y Pennaeth Priffyrdd y gallai'r fath gamau gymryd hyd at ddwy flynedd.

 

      

 

     Teimlai'r Cynghorydd John Chorlton fod y Cyngor mewn congl ar gownt y tir hwn ac o'r herwydd cynigiodd dderbyn adroddiad y swyddog a dileu'r amod.  

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd J Arthur Jones yn anhapus fod y Pennaeth Priffyrdd yn cael annerch y cyfarfod.  Eglurodd y cyfreithiwr mai cais oedd hwn gan yr Uned Rheoli Gwastraff, Adain yr Amgylchedd gyda'r Pennaeth Priffyrdd yn bresennol fel swyddog priffyrdd ac un yr oedd rhaid ymgynghori'n statudol â fo.  

 

      

 

     Teimlai'r Cynghorydd J Arthur Jones fod ceisiadau gan y Cyngor yn cael eu trin yn wahanol i geisiadau eraill ac nid oedd yn fodlon gwneud penderfyniad ar sail y wybodaeth gafwyd.

 

      

 

     Wedi pwyso a mesur gwelai'r Cynghorydd Arwel Edwards hwn yn gais ffiniol iawn; byddai ef yn cefnogi'r swyddog y tro hwn.   

 

      

 

     Tueddu i gefnogi'r swyddogion oedd y Cynghorydd RL Owen hefyd y tro hwn.

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd Hefin Thomas i'r Swyddog Priffyrdd ei berswadio ef mai dyma'r camau cywir i'w cymryd er mwyn osgoi costau dianghenraid.  

 

      

 

     Pwysleisiodd y Pennaeth Priffyrdd mai cais oedd hwn i ddiwygio amod ac nid i'w ddileu.  

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd Glyn Jones argymhelliad y swyddog.

 

      

 

     Ar sail priffyrdd, roedd hwn yn amod pwysig ym 2005 meddai'r Cynghorydd J Arthur Jones a gofynnodd os oedd tystiolaeth i gyfiawnhau diwygio'r amod yn awr?

 

      

 

     Comisiynwyd ymgynghorwyr gan Gwmni Gwastraff Môn Arfon i wneud arolwg traffig meddai'r Pennaeth Priffyrdd.  Roedd y ffigyrau traffig yn dangos na fu unrhyw gynnydd yn nifer y ceir, ac y byddai llai o drafaelio yn y dyfodol.  Roedd cynnydd o 28 y dydd (sef o 141 i 169) yn  nifer y loriau trymion o ganlyniad i'r safle IVC.  Rhaid dwyn i gof ddar-gyfeirio traffig o Safle Penhesgyn o

 

      

 

      

 

     ganlyniad i agor canolfan ailgylchu newydd ym Mangor.  Amcangyfrifwyd bod hyn yn golygu gostyngiad o 20% yn nifer y ceir oedd yn ymweld â Phenhesgyn.  

 

      

 

     Atgoffodd y cyfreithiwr yr aelodau mai cais oedd hwn i ddiwygio amod ac nid i'w ddileu ef; derbyniwyd fod angen gwelliannau i'r briffordd; byddai diwygio'r amod yn galluogi dechrau gweithredu ar y safle; gallai'r Pwyllgor orfodi amod gwahanol i'r un a argymhellwyd - er enghraifft petai dim defnydd masnachol yn cael ei wneud o'r safle.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd John Chorlton cafwyd cynnig i ddileu'r amod a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd John Byast.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Eurfryn Davies cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad ac argymhelliad y swyddog a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd John Roberts.

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:  

 

      

 

     Dileu amod (08) o'r caniatâd uchod: Y Cynghorwyr John Byast, John Chorlton, Arwel Edwards, Glyn Jones, Bryan Owen, RL Owen, Hefin Thomas, WJ Williams MBE

 

      

 

     Ymatal:  Y Cynghorydd J Arthur Jones

 

      

 

     PENDERFYNWYD dileu amod (08) oddi ar ganiatâd cynllunio 17LPA494G/CC/ECON

 

      

 

      

 

6.5     GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     22C78A  CAIS AMLOINELLOL I GODI ANNEDD AMAETHYDDOL YNGHYD A GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD AR DIR AR GAE O.S. 9332, LLANDDONA

 

      

 

     (Cafwyd datganiad o ddiddordeb gan y Cynghorydd R.L.Owen a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r pleidleisio).  Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno ar gais yr aelod lleol, hefyd ar sail polisïau.  

 

      

 

     Dymuniad yr aelodau ar 6 Chwefror, oedd rhoddi caniatâd cynllunio (yn groes i argymhelliad y swyddog) gan y credwyd ei bod hi'n angenrheidiol cael ail berson ar y safle i redeg y busnes.  Roedd polisïau'r Cyngor yn caniatáu anheddau i weithwyr fferm neu goedwigaeth.  Byddai'r annedd arfaethedig yn integreiddio'n dda gyda'r ffermdy presennol, ni fyddai'n creu effaith weledol andwyol i gymeriad yr ardal.  Roedd cyfiawnhad digonol wedi ei ddangos hefyd fod y cais yn cwrdd â'r meini prawf ariannol a gweithredol am annedd amaethyddol. Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio er mwyn i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu'r cais hwn.  

 

      

 

     Tra bo'r cais hwn yn cwrdd â'r meini prawf ariannol a gweithredol, dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu fod mannau eraill, ar dir ym mherchnogaeth yr ymgeisydd, yn fwy derbyniol ac a fyddai'n cael llai o effaith ar y tirlun.

 

      

 

     Mynegodd y Cynghorydd Hefin Thomas gefnogaeth gref i'r cais a chynigiodd lynu wrth y penderfyniad blaenorol i ganiatáu'r cais a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd J Arthur Jones.

 

      

 

     Mynegodd y Cynghorwyr Thomas Jones ac Eurfryn Davies eu cefnogaeth hefyd.

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

      

 

     Caniatáu'r cais, yn groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr John Byast, J Arthur Jones, Thomas Jones, John Roberts, Hefin Thomas, WJ Williams MBE

 

      

 

     Ymatal:  Y Cynghorwyr John Chorlton, Glyn Jones

 

      

 

     PENDERFYNWYD glynu wrth y penderfyniad blaenorol a chaniatáu'r cais, yn groes i argymhelliad y swyddog, am y rhesymau a roddwyd a chydag amodau safonol.  

 

      

 

      

 

6.6      GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     20C222A  DYMCHWEL, ADDASU AC EHANGU ER MWYN CYNNWYS YR HEN FECWS I FOD YN RHAN O'R ANNEDD YN  9 SGWAR ATHOL, CEMAES

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno ar gais yr aelod lleol.  Penderfynwyd ymweld â'r safle ar 6 Chwefror, ac fe gafwyd hyn ar 20 Chwefror, 2007.

 

      

 

     Roedd y cynnig o fewn Ardal Gadwraeth Cemaes meddai'r Cynghorydd John Williams a mynegodd gonsyrn y bobl leol. Roedd rhwydwaith y ffordd yn gyfyng ac anodd i draffig symud fel y gwelai'r aelodau yn ystod ymweliad â'r safle.  Dygodd hefyd sylw at nifer y llythyrau o wrthwynebiad gan gynnwys un gan Gyngor Cymuned Llanbadrig. Aeth y Cynghorydd Williams ymlaen i ddweud y byddai'r bwriad yn edrych dros eiddo cyffiniol "Y Garreg".  Gofynnodd beth oedd wedi newid ers gwrthod y cais?  Gan nad oedd hwn yn dderbyniol gofynnodd i'r Pwyllgor wrthod y cais .

 

      

 

     Bwriedir dymchwel, addasu ac ehangu'r hen fecws i greu annedd meddai'r Pennaeth Rheoli Datblygu.  Cynt roedd defnydd masnachol i'r safle ac fe ddylai'r bwriad presennol ostwng lefel y traffig.  Gwelai swyddogion fod elfen o edrych drosodd ar hyn o bryd.  Roedd yr ymgeisydd wedi gostwng maint y datblygiad, tynnu balconi a gosod ffenestri lletraws i gyfeiriad y Garreg.  

 

      

 

     Roedd y nifer uchel o wrthwynebiadau'n berthasol yn yr achos hwn meddai'r Cynghorydd  J Arthur Jones a chyfeiriodd yr aelodau at adroddiad y swyddog.  Ni fyddai 'run ffenestr yn edrych yn uniongyrchol i eiddo cyffiniol meddai'r Pennaeth Rheoli Datblgu.  

 

      

 

     Wrth ymweld â'r safle sylwodd y Cynghorydd Thomas Jones fod elfen o edrych drosodd o bob cyfeiriad a hyn yn rhan o batrwm datblygiad dwys y rhan yma o Gemaes; ni fyddai hyn yn gwaethygu'r sefyllfa.   

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Glyn Jones cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad ac argymhellion y swyddog, cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorwyr Eurfryn Davies ac RL Owen.

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:  

 

      

 

     Gwrthod y cais, yn groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorywr John Byast, J Arthur Jones, Hefin Thomas

 

      

 

     Derbyn adroddiad a chaniatáu'r cais:  Y Cynghorwyr John Chorlton, Eurfryn Davies, Arwel Edwards, Thomas Jones, Bryan Owen, RL Owen, WJ Williams MBE

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatau'r cais am y rhesymau a roddwyd, gydag amodau y manylwyd arnynt.  

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

6.7      GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     36C183C  CAIS LLAWN AR GYFER PUM LLECYN I GARAFANAU TEITHIOL A DEG LLECYN CARAFAN TEITHIOL YNGHYD A GWAITH TIRLUNIO CYSYLLTIEDIG YN Y FRONYDD, CERRIGCEINWEN

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno ar gais yr aelod lleol.  Penderfynwyd ymweld â'r safle ar 6 Chwefror, ac fe gafwyd hyn ar 20 Chwefror, 2007.

 

      

 

     Cyfeiriodd y Rheolwr Rheoli Datblygu'r aelodau at bryderon y swyddog yn ei adroddiad mewn perthynas â'r briffordd a'r effaith ar y tirlun.  

 

      

 

     Byddai'r safle yn weithredol am wyth mis o bob blwyddyn meddai'r Cynghorydd WI Hughes a oedd yn anghytuno â safiad y swyddog Priffyrdd.  Yn ystod yr ymweliad â'r safle gwelwyd fod digonedd o weledfa i bob cyfeiriad o'r groeslon ac roedd preswylwyr Tegfan wedi cyflwyno llythyr yn rhoddi caniatâd i'r ymgeisydd gadw'r gwrych i lawr er mwyn cadw'r weledfa'n glir.  Gwelwyd rhyw 4 neu 5 o fannau pasio naturiol ar y ffordd yn arwain at y safle.  Roedd rhyw pedair annedd ar hyd y ffordd hon ac ni welwyd unrhyw draffig yn ystod yr ymweliad.  Roedd yr ymgeisydd wedi plannu rhai coed i dirlunio'r safle ac roedd y Cynulliad yn annog arallgyfeirio.  

 

      

 

     Ni ellid gorfodi'r ddarpariaeth i gynnal digon o welededd ar sail y llythyr a gyflwynwyd meddai'r Cadeirydd.  

 

      

 

     Byddai'n amhosib rheoli'r ddarpariaeth i gynnal a chadw digon o welededd yn y groeslon meddai'r swyddog Priffyrdd, gyda'r ffordd o'r groeslon yn is-safonol, dim digon o fannau pasio ac aleiniad gwael, roedd yn rhy gul - argymhelliad o wrthod oedd yma.  

 

      

 

     Doedd gan y Cynghorydd Thomas Jones ddim problem gyda'r safle ei hun nac ychwaith y ffordd yn arwain at y groeslon gyda'r B4422, fodd bynnag cytunai a'r swyddog nad oedd digon o welededd o'r groeslon; mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd RL Owen fe nodwyd mai uchafswm cyflymder gyrru oedd 60 mya yn y fan hon.  

 

      

 

     Byddai carafanau yn cyrraedd y safle ar ddechrau'r tymor ac yn aros yno am weddill y tymor meddai'r Cynghorydd Bryan Owen. Atgoffa'r aelodau a wnaeth y Cynghorydd WI Hughes mai llecynnau tymhorol oedd y rhain a gofynnodd am gefnogaeth yr aelodau.  

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd J Arthur Jones cadarnhaodd y Pennaeth Rheoli Datblygu mai llecynnau tymhorol fyddai'r rhain.  Cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad ac argymhelliad y swyddog gan y Cynghorydd J Arthur Jones a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd John Roberts.

 

      

 

     Tra'n ymweld â'r safle, sylwodd y Cynghorydd Eurfryn Davies mai ychydig iawn o draffig oedd yn y cyffiniau a byddai ef yn cefnogi cais i arallgyfeirio, cynigiodd ganiatáu'r cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Thomas Jones.

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

      

 

     Caniatáu'r cais, yn groes i argymhelliad y swyddog: Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, Arwel Edwards, Thomas Jones, Bryan Owen

 

      

 

     Derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais:  Y Cynghorwyr John Byast, John Chorlton,

 

     J Arthur Jones, Glyn Jones, RL Owen, John Roberts,  J. Arwel Roberts, WJ Williams MBE

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais am y rheswm a roddwyd.  

 

      

 

6.8      GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     37C154  CAIS LLAWN I GODI 12 O ANHEDDAU A 2 FYNGALO YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GEIR AC I GERDDWYR AR DIR YN BRYN TAWEL, BRYNSIENCYN

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan ei fod yn effeithio ar dir ym mherchnogaeth y Cyngor.  Ar  8 Tachwedd, 2006 penderfynodd y Pwyllgor ganiatau'r cais gyda'r amod datrys materion dwr wyneb yn foddhaol.  Ar ôl ymgynghori ar y manylion a gyflwynwyd mae'n ymddangos fod angen rhagor o wybodaeth cyn y gellir gwneud asesiad priodol o'r cynllun.  

 

     Roedd y cynllun nawr yn cael ei ystyried yn dderbyniol meddai'r Pennaeth Rheoli Datblygu.  Darperid system draenio dwr wyneb reoledig a hefyd gwneid cytundeb dan Adran 106 yn lle Amod (20).

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd John Chorlton roddi caniatâd a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Hefin Thomas.  Er yn teimlo fod gormod o amodau ynghlwm i'r caniatâd, cynigiodd y Cynghorydd J Arthur Jones ganiatáu'r cais.  

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais, gydag amodau y manylwyd arnynt.  

 

      

 

7

CAIS ECONOMAIDD

 

      

 

7.1     19C689M/DA/ECON  CAIS MANWL AR GYFER DATBLYGU ARWYNEBEDD LLAWR ADWERTHU DOSBARTH A1 FEL ESTYNIAD I'R PARC ADWERTHU PRESENNOL, YN CYNNWYS RHAN 2 A 3 O'R PARC ADWERTHU I DDARPARU STORFA FWYD NEWYDD, 4 UNED ADWERTH NA FYDD YN GWERTHU BWYD AC ESTYNIAD I UN UNED BRESENNOL NAD YW'N GWERTHU BWYD YNGHYD AG ADDASU'R FYNEDFA I GEIR AC I GERDDWYR A CHREU MYNEDFA NEWYDD I GEIR AC I GERDDWYR YN SAFLE DATBLYGU SIOPAU PENRHOS, STAD DDIWYDIANNOL PENRHOS, CAERGYBI

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan fod rhan o'r eiddo ym mherchnogaeth y Cyngor.  

 

      

 

     Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu fod y cais gerbon am Ddosbarth A1 (adwerthu) yn unig ac nad oedd Dosbarthiadau B1 a B2 yn rhan o'r cais hwn, a hynny'n wahanol i'r hyn a ddywedwyd yn adroddiad y swyddog.  

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais gydag amodau y manylwyd arnynt.  

 

      

 

8

TAI FFORDDIADWY

 

      

 

     Doedd dim ceisiadau am dai fforddiadwy gerbron y cyfarfod.  

 

      

 

9     CAIS YN TYNNU'N GROES

 

      

 

9.1     30C636A  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD A GAREJ DDWBL YNGHYD Â GOSOD TANC TRIN CARTHFFOSIAETH 'BIOTANK' AR DIR GER FFRITH, SHEPHERDS HILL, TYNYGONGL

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno ar gais yr aelod lleol, a'r cais wedi ei wneud cyn i'r protocol ddod i rym a olygai fod ceisiadau yn tynnu'n groes yn cael eu penderfynu dan y cynllun dirprwyo meddai'r Pennaeth Rheoli Datblygu.

 

      

 

     Roedd y cais hwn yn glir yn tynnu'n groes i'r polisïau a'r argymhelliad yn un clir o wrthod meddai'r Pennaeth Rheoli Datblygu.  Cyfeiriodd y swyddog at ohebiaeth hwyr a ddaeth i law.  

 

      

 

     Gofynnodd y Cynhgorydd D Lewis-Roberts beth oedd y lleiafswm angenrheidiol i'w gydnabod fel 'clwstwr' a dywedodd fod y safle o fewn grwp o rhyw 27 o anheddau. Cyfeiriodd at dransgipt o sylwadau gan Bennaeth y Gwasanaethau Cynllunio mewn cyfarfod diweddar, a oedd yn nhyb y Cynghorydd, yn gefnogol i'r math hwn o gais.

 

      

 

     Dydy Shepherd's Hill ddim yn bentref rhestredig yng Nghynllun Lleol Ynys Môn nac ychwaith yn y CDU a stopiwyd meddai'r Pennaeth Rheoli Datblygu a byddai ef yn bur bryderus petai'r aelodau'n mynu caniatáu'r cais.  

 

      

 

     Tra'n derbyn safiad y swyddog,  gwelai'r Cynghorydd J Arthur Jones gyfeiriad ym Mholisi Cynllunio Cymru at fewnlenwi sympathetig, ac ar ôl pwyso a mesur, roedd ef yn barod i gynnig caniatáu'r cais.  

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd Hefin Thomas i'r swyddogion oedd hwn yn fewnlenwi'n sensitif?

 

      

 

     Atgoffodd y Cynghorydd Thomas Jones yr aelodau nad oedd hwn o fewn pentref rhestredig nac ychwaith y tu mewn i ffin ddatblygu.  

 

      

 

     Cyfeiriodd y Cynghorydd D Lewis-Roberts aeldau at argymhelliad yr Adran Briffyrdd i ganiatáu yn amodol ar welliannau i'r groeslon gyda'r B5110 at ddarparu mannau pasio wedyn.  Aeth y Cynghorydd D Lewis-Roberts ymlaen i ddarllen transcript pryd y disgrifiodd y Pennaeth Gwasanaeth Cynllunio Shepherd's Hill fel "townlet".

 

      

 

     Dywedodd yr Uwch Beiriannydd Priffyrdd nad oedd peth o'r tir ym mherchnogaeth yr ymgeisydd.  

 

      

 

     Gan y Cynghorydd John Roberts cafwyd cynnig i ymweld â'r safle a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd RL Owen.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd J Arthur Jones cafwyd cynnig i ganiatáu a chafod hyn ei eilio gan y Cynghorydd John Chorlton.

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

      

 

     I ymweld â'r safle:  Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, Arwel Edwards, Denis Hadley, RL Owen, John Roberts, J. Arwel Roberts, Hefin Thomas, WJ Williams MBE

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd Hefin Thomas am eglurhad ar y transgript y cyfeiriwyd ato gan y Cynghorydd D Lewis-Roberts ac y dylai fod ar gael i gyfarfod nesaf y pwyllgor.  

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â'r safle.

 

      

 

10        GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

10.1      12C331E  NEWID DEFNYDD AC EHANGU'R ADEILAD ALLANOL I ANNEDD YN PLAS CICHLE, LLANFAES, BIWMARES

 

      

 

     Gan y Cynghorwyr Eurfryn Davies a John Roberts cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais a gadawsant y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r pleidleisio.  Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno ar gais yr aelod lleol.  

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd RL Owen am ymweliad â'r safle i weld a oedd modd gwneud y gwaith yn sensitif fel y dywedodd yr asiant, a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Hefin Thomas.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â'r safle ar gais yr aelod lleol.

 

      

 

10.2      14LPA683E/CC  CAIS LLAWN I STORIO DEFNYDD WYNEBU LÔN YNG NGHEFN UNEDAU 1 - 8 PARC DDIWYDIANNOL, MONA 

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan iddo gael ei gyflwyno gan y Cyngor ac yn effeithio ar dir yn ei berchnogaeth.  

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd WI Hughes,yr aelod lleol, fod y bwriad yn dderbyniol.  

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd, gydag amodau y manylwyd arnynt.  

 

      

 

10.3      15C159  CAIS LLAWN I GODI STABL AR DIR GER BRYN MEIRIAN, HERMON

 

      

 

     Gan Mr Andrew M Hughes, o'r Uned Rheoli Cynllunio, cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais hwn.  

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan fod yr ymgeisydd yn aelod o staff yr Adran Gynllunio.  

 

      

 

     Mewn ymateb i wrthwynebiad a dderbyniwyd, fe symudwyd yr adeilad ymhellach oddi wrth y ty fel a ddangoswyd ar y cynllun ynghlwm gyda'r adroddiad meddai'r Pennaeth Rheoli Datblygu.  Roedd deunydd gorffeniad y stabl yn dderbyniol.  Roedd copi o'r llythyr dderbyniwyd gerbron y cyfarfod.  

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd gydag amodau y manylwyd arnynt.  

 

      

 

      

 

10.4      29C100A  CADW CARAFAN STATIG, CYNHWYSYDD A STRWYTHUR YCHWANEGOL, A LLEOLIAD NEWYDD ARFAETHEDIG AR GYFER CYNHWYSYDD AR GAE O.S. 9069, PENTERFYN, LLANFAETHLU

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno ar gais yr aelod lleol.

 

      

 

     Fe adroddwyd nad oedd lleoliad a dyluniad y cynhwysydd presennol na'r 'lean-to' y tu ôl i'r storfa yn creu niwed i gymeriad yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol,  Fodd bynnag ystyrir fod symud yr ail gynhwysydd ynghyd â charafan yn cael effaith andwyol oherwydd cynnydd y datblygiad.

 

      

 

     Eglurodd y Cynghorydd Mrs Bessie Burns fod y cais yn fater o orfodaeth.  Cafwyd fod stabl a godwyd yn 2003 yn dderbyniol.  Anghytunodd Mrs Burns gyda chanfyddiad y Swyddog Priffyrdd; ni fyddai carafan na'r cynhwysydd ychwanegol yn weledol.  Roedd yr ymgeisydd yn bryderus am les ei anifeiliaid,  byddai caniatáu'r cais yn lleihau nifer y siwrneiau rhwng y garafan a'i gartref.  Dim ond carafan deithiol fechan a ddefnyddir am resymau meddygol oedd hon.  Gwelwyd niferoedd o garafanau a siedau yma ac acw ar hyd y cefn gwlad; wrth feddwl am sawl trelar a welir yn y cyffiniau gofynnodd a fyddai'r cynhwysydd yn fwy derbynniol petai ganddo olwynion?  Roedd yr ymgeisydd yn ymdrechu'n galed i gadw safon uchel.

 

      

 

     Atgoffodd y Pennaeth Rheoli Datblygu'r aelodau fod hon yn ardal sensitif, o fewn AHNE a swyddogion yn gweld 2/3 o'r datblygiad yn annerbyniol.  Doedd y ffaith nad oedd y safle yn weledeol ddim yn gwneud hyn yn dderbyniol.  

 

      

 

     Cytuno a wnaeth y Cynghorydd RL Owen fod sawl carafan a chynhwysyddion yn amlwg yn y cefn gwlad ac roedd yn cefnogol i'r cais.

 

      

 

      

 

      

 

     Holodd y Cynghorydd J Arthur Jones beth oedd maint y tir mewn perthynas â'r bwriad a gofynnodd am i'r wybodaeth fod ar gael ar gyfer y cyfarfod nesaf.  

 

      

 

     Yn y cyfamser cynigiodd y Cynghorydd John Roberts ymweliad â'r safle.  

 

      

 

     CYTUNWYD i ymweld â'r safle.  

 

      

 

10.5      34LPA164C/CC  CODI DOSBARTH SYMUDOL YN YSGOL CORN HIR, LLANGEFNI

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan iddo gael ei gyflwyno gan y Cyngor ac yn effeithio ar dir yn ei berchnogaeth.  

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd gydag amodau y manylwyd arnynt.  

 

      

 

10.6      34LPA592B/CC  CAIS LLAWN I GODI 12 O ANHEDDAU A GAREJYS AR DIR GER NANT Y PANDY, LLANGEFNI

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan iddo gael ei gyflwyno gan y Cyngor ac yn effeithio ar dir yn ei berchnogaeth.  

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd gydag amodau y manylwyd arnynt.  

 

      

 

10.7      42LPA893/CC  CODI FFENS 3m O UCHDER YN YSGOL GYNRADD, PENTRAETH

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan iddo gael ei gyflwyno gan y Cyngor ac yn effeithio ar dir yn ei berchnogaeth.  

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd gydag amodau y manylwyd arnynt.  

 

      

 

10.8      49C175B  NEWID DEFNYDD YR ADEILADAU ALLANOL I ANNEDD YNGHYD A CHREU MYNEDFA NEWYDD I GEIR YN BRYN Y MOR, Y FALI

 

      

 

     I bwrpas cofnod, dywedodd y Cynghorydd J Arthur Jones ei fod wedi derbyn caniatâd arbennig gan y Pwyllgor Safonau i ymwneud â cheisiadau gyflwynwyd gan BVUK.  Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno ar gais yr aelod lleol.  

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Goronwy Parry fod y safle tu mewn i'r Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ac yn edrych dros y Lasinwen; roedd pryder hefyd am nad oedd terfynau'r cwrtil yn glir. Roedd hwn yn safle amlwg a byddai'r datblygiad yn creu effaith annerbyniol ar y tirlun.  Yn ôl adroddiad y swyddog, doedd y cais ddim yn cydymffurfio gyda Polisi 55 (Addasiadau); cyfeiriodd y Cynghorydd Parry hefyd at Dddatganiad Polisi Cynllunio Dros Dro'r Gweinidog.  Cafodd cais gerllaw ei wrthod meddai'r Cynghorydd Parry.  Byddai'r bwriad yn cynyddu maint a mas yr hyn sydd yna'n barod a gofynnodd y Cynghorydd Parry i'r aelodau dderbyn adroddiad ac argymhelliad y swyddog.  

 

      

 

     Cyfeiriodd y Pennaeth Rheoli Datblygu'r aelodau at adroddiad cynhwysfawr y swyddog a hanes y safle.  

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd J Arthur Jones a oedd y cais yn groes i Bolisi 55 ar addasiadau; cymharodd ef y cais hwn â chais arall yn eitem 10.1 o'r cofnodion hyn; i fod yn gyson, cynigiodd ymweliad â'r safle a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Hefin Thomas.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Glyn Jones cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad ac argymhelliad o wrthod gan y swyddog a chafod hyn ei eilio gan y Cynghorydd Eurfryn Davies.

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

      

 

     I ymweld â'r safle:  Y Cynghorwyr John Byast, John Chorlton, J Arthur Jones, Thomas Jones, Bryan Owen, RL Owen, John Roberts,  Hefin Thomas, WJ Williams MBE

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â'r safle.

 

      

 

11      CEISIADAU A DDIRPRWYWYD

 

      

 

     Cyflwynwyd a derbyniwyd, adroddiad Pennaeth y Gwasanaeth Cynllunio ar faterion y penderfynwyd arnynt ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor hwn.  

 

      

 

12      APÊL

 

      

 

     MIN Y DON, STRYD Y PACED, PORTHAETHWY

 

      

 

     Cyflwynwyd a nodwyd, er gwybodaeth, gopi o grynodeb o benderfyniad yr Arolygwr Cynllunio ar apêl dan Adran 73 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 yn erbyn penderfyniad yr Awdurdod hwn i wrthod caniatâd cynllunio ynglyn ag ailadeiladu dau floc aml-lawr o fflatiau yn cynnwys 20 fflat heb  gydymffurfio gydag amod rhif 1ynghlwm wrth ganiatâd cynllunio 39C222C/DA dyddiedig 24 Awst, 2007, h.y. "Bydd y datblygiad a ganiateir drwy hyn yn cael ei gyflawni gan gydymffurfio'n llym â'r manylion a ddangosir ar y cynlluniau ac a geir ar y ffurflen gais ac mewn unrhyw ddogfennau eraill sy'n ategu cais o'r fath".  - gwrthodwyd yr apêl.

 

      

 

13      MATERION ERAILL

 

      

 

     46C448B/EIA  -  CAIS LLAWN I WNEUD GWAITH GWELLA AR YR ARFORDIR A DARPARU MAES PARCIO YN NHREARDDUR

 

      

 

     Adroddodd y Pennaeth Rheoli Datblygu fod ymchwiliadau i'r caniatâd amodol roddwyd i'r datblygiad uchod yn dod i derfyn a nodwyd y byddai adroddiad llawn yn cael ei gyflwyno i gyfarfod nesaf y Pwyllgor hwn.  

 

      

 

      

 

     Dechreuodd y cyfarfod am 1.00 p.m. a daeth i ben am 3.45 p.m.

 

      

 

      

 

     J ARWEL ROBERTS

 

     CADEIRYDD