Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion dogfennau , 5 Mai 2004

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Dydd Mercher, 5ed Mai, 2004

PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION

 

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Mai 2004.

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd R.Ll. Hughes - Cadeirydd

 

Y Cynghorwyr D.D. Evans, P.M. Fowlie, Dr. J.B. Hughes, O. Glyn Jones, W. Emyr Jones, R.L. Owen, Goronwy Parry MBE, Gwyn Roberts, John Roberts, J. Arwel Roberts, W.T. Roberts, H.W. Thomas, W.J. Williams.

 

 

 

WRTH LAW:

 

Cynllunio:

Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Cynllunio)

Rheolwr Rheoli Cynllunio (DFJ)

Cynorthwy-ydd Cynllunio (GO)

 

Priffyrdd:

Uwch Beiriannydd (Rheoli Datblygu/Hawliau Tramwy Cyhoeddus)(JRWO)

Swyddog Rheoli Datblygu (RE)

 

Cyfreithiwr (RWJ)

Cynorthwy-ydd Gweinyddol (CWP)

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Y Cynghorwyr John Byast, J. Arwel Edwards (Is-Gadeirydd),

O. Gwyn Jones.

 

 

 

HEFYD YN BRESENNOL:

 

Aelodau Lleol : Cynghorwyr Mrs. B. Burns (eitem 4.2), W.I.  Hughes (eitem 4.1), Elwyn Schofield (eitem 4.3)

 

 

1

DATGANIAD O DDIDDORDEB

 

Cafwyd datganiadau o ddiddordeb gan Aelodau a Swyddogion ac fe'u cofnodir o dan yr eitemau perthnasol.

 

2

COFNODION

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd fel rhai cywir, gofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 7 Ebrill 2004.

(Tudalennau 76  i  92 y Gyfrol hon).

 

YN CODI:

 

28C323 - CAIS AMLINELLOL AR GYFER CODI ANNEDD AR RAN O O.S. 027, AR DIR NEUADD, LLANFAELOG

 

 

Cytunwyd y dylai'r geiriad ar waelod tudalen 12 fersiwn Saesneg y cofnodion gael ei newid i ddarllen "the site would continue an 'unacceptable' development outside the village boundary" (eitem 5.3 yn y cofnodion).

 

 

 

3

YMWELIADAU Â SAFLEOEDD

 

 

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd yr adroddiad ar yr Ymweliadau â Safleoedd Cynllunio a gynhaliwyd ar 21 Ebrill 2004.

 

 

 

Mynegodd y Cadeirydd ei bryderon yn dilyn y cyfarfod blaenorol bod y Pwyllgor mewn perygl o anwybyddu ei bolisïau a chyngor ei swyddogion proffesiynol.  Mewn ymateb i hyn, adroddodd y Cadeirydd iddo ofyn am gyfarfod rhyngddo â Swyddog Monitro'r Awdurdod a oedd wedi anfon llythyr at aelodau etholedig yn eu hatgoffu o'u cyrfifoldebau yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor.

 

 

 

Atgoffodd y Cyfreithiwr y Pwyllgor fod nifer o geisiadau oedd yn tynnu'n groes i'r cynllun fframwaith i'w penderfynu heddiw a chynghorodd y Pwyllgor yn garedig y byddai pleidlais wedi'i chofnodi yn cael ei chymryd ar y ceisiadau hynny.  Roedd hefyd yn wir y byddai rhai o'r ceisiadau, os caent eu caniatáu yn gallu cael eu hystyried yn achosion o gamweinyddu a/neu yn anghyfreithlon.  Roedd hyn yn arbennig o wir am y ceisiadau yn Nant y Felin a Pen Lon.

 

 

 

Dywedodd y Cadeirydd wrth yr Aelodau y byddai penderfyniadau ar Geisiadau'n Tynnu'n Groes i'r Cynllun yn cael eu cymryd trwy bleidlais wedi ei chofnodi.  Darllenodd y Cadeirydd y rhannau perthnasol o'r cyflwyniad i "Materion Cynllunio - Rheolau Gweithdrefn" yng Nghyfansoddiad y Cyngor yn atgoffa'r aelodau o'u cyfrifoldebau i gydymffurfio â pholisïau a rheoliadau cyfredol ac i osgoi gwneud penderfyniadau y gellid eu gweld fel rhai anghyfreithlon ac a all arwain at gamweinyddu.  Pwysleisiodd y Cadeirydd natur led-farnwrol penderfynu ceisiadau cynllunio.

 

 

 

Mynegodd y Cynghorydd Hefin Thomas ei siomedigaeth o dderbyn llythyr o'r fath gan y Swyddog Monitro.  Roedd yn ystyried mai mater o farn oedd p'un a oedd rhai ceisiadau yn 'Geisiadau'n Tynnu'n Groes i'r Cynllun Fframwaith', roedd yn teimlo fod hyn yn groes i ddemocratiaeth.

 

 

 

2

CEISIADAU YN CODI O'R COFNODION

 

 

 

4.1

CEISIADAU'N TYNNU'N GROES I'R CYNLLUN FFRAMWAITH

 

 

 

14C74D - CYNLLUNIAU LLAWN AR GYFER CODI ANNEDD YNGHYD Â CHREU TANC SEPTIG NEWYDD AR RAN O DIR O.S. 2769, BODFFORDD

 

 

 

Yng nghyfarfod mis Ebrill penderfynodd yr aelodau gymeradwyo'r cais hwn yn groes i argymhellion y swyddog i wrthod, am y rhesymau a ganlyn:

 

 

 

Ÿ

roedd caniatâd cynllunio ar y safle;

 

Ÿ

byddai adeiladu annedd ar y safle yn gwella edrychiad a golwg yr ardal;

 

Ÿ

byddai codi annedd yn creu llai o draffig na bwyty;

 

Ÿ

'roedd adeiladau yn gyfagos i'r safle arfaethedig eisoes ac nid ystyrid y byddai'n ddatblygiad yn y cefn gwlad ond yn hytrach yn ddatblygiad ar safle cae llwyd.

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor gohiriwyd y cais hyd y gellid cyflwyno adroddiad pellach gan y swyddog ar oblygiadau caniatáu.

 

 

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio'r aelodau i'r cofnodion blaenorol ac ymateb y swyddog i'r rhesymau a roddwyd am roddi caniatâd fel y nodir yn ei adroddiad.  Ni fyddai'r cynnig yn gwella edrychiad yr ardal gan nad oedd adeilad ar y safle ar hyn o bryd.  Roedd yn annhebygol y byddai bwyty yn cael ei adeiladu dan ganiatâd 1992.  Nid oedd bodolaeth caniatâd 1992 yn gyfiawnhad dros ganiatáu y cais hwn.  Pwysleisiodd y swyddog nad oedd yr uchod yn rhesymau rhesymegol a chyson dros roi polisïau cynllunio o'r neilltu.  Dylai'r Pwyllgor ddilyn yr arweiniad dan y cynllun datblygu.  Roedd yn argymell gwrthod yn gryf.  Byddai'n gosod cynsail ar gyfer ceisiadau yn y dyfodol.  Dywedodd fod angen ymchwil pellach i ganfod a oedd y safle yn ddigon mawr ai peidio i danc septig a ffos gerrig i gydymffurfio â gofynion Safonau Prydeinig.

 

 

 

Anerchodd y Cynghorydd W.I. Hughes, yr aelod lleol, y cyfarfod a dweud fod llythyr ychwanegol yn cefnogi wedi dod i law.  Dywedodd fod siediau wedi'u lleoli yng nghefn y safle hwn, ac ni ellir disgrifio hwn fel datblygiad "ar ei ben ei hun" fel y ceir ym mharagraff 9.3.6 o PCC.  Roedd y safle yn safle cae llwyd a chyfeiriodd at benderfyniad ar apêl ar yr Agenda gan Mr. David Wilks, Arolygwr Cynllunio (apêl Dalar Wen, Rhosmeirch). Dywedodd wedyn fod y cais yn cael ei gefnogi gan y Cyngor Cymuned.  

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd D.D. Evans fod caniatâd wedi'i roddi ar gyfer byngalo ar draws y ffordd i safle'r cais.  Adroddodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod caniatad, yn yr ardal yma, yn debyg o fod un ai  gyfer annedd amaethyddol neu yn groes i bolisïau.

 

 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Tecwyn Roberts lynu wrth benderfyniad blaenorol y Pwyllgor i ganiatáu'r cais yn groes i argymhellion y swyddog, ac eiliwyd gan y Cynghorydd Hefin Thomas.  

 

 

 

Cynigiodd y Cynghorydd J. Arwel Roberts y dylid derbyn argymhelliad y swyddog i wrthod, ac eiliwyd gan y Cynghorydd Goronwy Parry.

 

 

 

Yn unol â pharagraff 18.5 o Reolau Gweithdrefn y Cyngor PENDERFYNWYD y dylid cymryd pleidlais wedi'i chofnodi mewn perthynas â'r cais ac roedd y pleidleisio fel a ganlyn:

 

 

 

CNIATÁU'R CAIS (YN GROES I ARGYMHELLION Y SWYDDOG):

 

Y Cynghorwyr D.D. Evans, P.M. Fowlie, Dr. J.B. Hughes, O. Glyn Jones, R.L. Owen,

 

Gwyn Roberts, W. Tecwyn Roberts, Hefin Thomas (cyfanswm 8).

 

 

 

GWRTHOD CANIATÂD YN UNOL AG ADRODDIAD Y SWYDDOG:

 

Y Cynghorwyr Robert Ll. Hughes, W. Emyr Jones, Goronwy Parry MBE, J. Arwel Roberts,

 

W.J. Williams (cyfanswm 5).

 

 

 

ATAL PLEIDLAIS:

 

John Roberts (cyfanswm 1).

 

 

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais am y rhesymau a roddwyd ac awdurdodi'r  Pennaeth Gwasanaethau Cynllunio i osod amodau perthnasol.

 

 

 

4.2

CAIS YN TYNNU'N GROES I'R CYNLLUN FFRAMWAITH

 

 

 

18C149 CAIS AMLINELLOL AR GYFER CODI ANNEDD YNGHYD Â CREU MYNEDFA NEWYDD A GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD AR RAN O O.S. 5215 GER PRIMROSE GAREJ, LÔN LAS, LLANRHUDDLAD

 

 

 

Datganodd Iolo Jones o'r Adran Priffyrdd ddiddordeb yn y cais hwn.

 

 

 

Yng nghyfarfod Ebrill roedd yr aelodau yn tueddu tuag at gymeradwyo'r cais, yn groes i argymhellion y swyddog i wrthod, am y rhesymau a ganlyn:

 

 

 

Ÿ

fod yr amgylchiadau arbennig ynglyn â'r cais yn cyfiawnhau rhoddi o'r neilltu bolisiau cynllunio;

 

Ÿ

fod salwch y plentyn yn arwain i anghenion arbennig iawn

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor gohiriwyd y cais hyd nes derbyn adroddiad pellach gan y swyddog ar oblygiadau rhoddi caniatâd.

 

 

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio yr aelodau at y cofnodion blaenorol ac i ymateb y swyddog i'r rhesymau dros ganiatáu fel y nodir yn ei adroddiad.  Atgoffodd yr Aelodau mai cais yn tynnu'n groes i'r Cynllun Fframwaith oedd hwn ac nad oedd amgylchiadau personol yn gorbwyso polisïau cynllunio ar ddefnydd tir.  Rhoddir cyfarwyddyd clir ym mharagraff 4.1.6 o Bolisi Cynllunio Cymru a chymerwyd hyn i ystyriaeth wrth benderfynu argymhelliad y swyddog i'r Pwyllgor.  Bydd yr annedd yn parhau wedi i'r amgylchiadau personol ddod i ben.  Prin iawn os byth y rhoid caniatâd yn yr amgylchiadau hynny.  Byddai rhoddi caniatâd yn gosod cynsail peryglus ac yn gwneud gweinyddu ceisiadau yn y dyfodol yn anodd.  Roedd yn cyflwyno diffyg pendantrwydd i'r system pe caniateid y cais hwn.  Y penderfyniad anodd ond cywir fyddai i wrthod.

 

 

 

Anerchodd y Cynghorydd Bessie Burns, yr aelod lleol, y cyfarfod.  Tynnodd sylw'r aelodau i'r ffaith fod 8 o lythyrau mewn llaw yn cefnogi'r cais, gan gynnwys llythyrau gan yr Aelod Seneddol, yr Aelod Cynulliad yn ogystal â'r proffesiwn meddygol.  Ni ellid galw hwn fel 'datblygiad rhubanaidd' gan fod eiddo arall o amgylch y safle, roedd yn teimlo na fyddai'r datblygiad hwn yn cael effaith niweidiol ar olygfeydd na mwynderau eiddo cyfagos; roedd anghenion personol mawr yr ymgeisydd yn cymryd blaenoriaeth dros bolisïau ac anogodd yr aelodau i roddi caniatâd.  Nid yw'n bosibl addasu ty presennol y teulu i gwrdd ag anghenion y plentyn.  

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd W.J. Williams i'r swyddog ddweud mai 'prin iawn' y rhoddid caniatâd.  Nid oedd wedi dweud na châi byth ei roddi.  Yn ei ateb cytunodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio mai yn "anaml" yw'r gair ddefnyddir yn PCC, ond y byddai caniatáu yn yr amgylchiadau hyn yn achosi pryder mawr.

 

 

 

Cytunodd y Cynghorydd P.M. Fowlie gyda'r aelod lleol a chynigiodd roddi caniatâd yn groes i argymhellion y swyddog am y rhesymau roddwyd cyn hyn, ac eiliwyd gan y Cynghorydd R.L. Owen.

 

 

 

Yn unol â pharagraff 18.5 o Reolau Gweithdrefn y Cyngor PENDERFYNWYD y dylid cymryd pleidlais wedi'i chofnodi yng nghyswllt y cais hwn a bu'r pleidleisio fel a ganlyn:-

 

 

 

CANIATÁU (YN GROES I ARGYMHELLION Y SWYDDOG):

 

Y Cynghorwyr D.D. Evans, P.M. Fowlie, Dr. J.B. Hughes, O. Glyn Jones, R.L. Owen,

 

John Roberts, W. Tecwyn Roberts, Hefin Thomas, W.J. Williams (cyfanswm 9).

 

 

 

GWRTHOD CANIATÂD YN UNOL AG ADRODDIAD Y SWYDDOG:

 

Y Cynghorwyr Robert Ll. Hughes, Goronwy Parry MBE, J. Arwel Roberts (cyfanswm 3).

 

 

 

ATAL PLEIDLAIS:

 

Y Cynghorwyr W. Emyr Jones, Gwyn Roberts (cyfanswm 2).

 

 

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais am y rhesymau a roddwyd ac awdurdodi Pennaeth y Gwasanaethau Cynllunio i osod amodau perthnasol.

 

 

 

4.3

  GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

25C151A - CAIS AMLINELLOL AR GYFER CODI ANNEDD, GOSOD TANC NEWYDD YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD AR DIR YN TAN RALLT, CARMEL

 

 

 

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio i'r aelodau ar 21 Ebrill 2004 ymweld â'r safle er mwyn asesu lleoliad y safle a'i effaith ar gymeriad yr ardal.  Mae Carmel yn bentref rhestredig yn y Cynllun Datblygu a gellir caniatáu anheddau unigol cyn belled â'u bod yn cyfarfod â meini prawf penodol.  Tra nad oedd hwn yn gais yn mynd yn groes i'r cynllun fframwaith, roedd y swyddog wedi argymell gwrthod y cais gan ei fod yn estyniad annerbyniol i'r anheddiad ac y byddai yn nodwedd ymwthiol anghydweddol fyddai'n arbennig o andwyol i gymeriad a mwynderau'r ardal.  Nododd y swyddog fod yr ymgeiswyr wedi cyflwyno cynlluniau diwygiedig oedd yn rhoi gwelededd o 50 metr ger mynedfa'r safle a'u bod wedi dangos eu parodrwydd i wneud cytundeb Adran 106 fyddai yn eu cyfyngu rhag datblygu'r safle ymhellach.

 

 

 

Anerchodd y Cynghorydd Elwyn Schofield, yr aelod lleol, y cyfarfod a datgan nad oedd y cais yn groes i bolisïau cyfredol a'i fod yn teimlo fod hwn yn disgyn o fewn Adran 50 (Aneddiadau Rhestredig) yng Nghynllun Lleol Ynys Môn.  Roedd y cais hwn yn haeddu cefnogaeth gan fod y safle o fewn clwstwr o dai eraill.  Nid oedd yr Adran Priffyrdd nac Asiantaeth yr Amgylchedd yn gwrthwynebu'r cynnig ac roedd y Cyngor Cymuned Lleol yn cefnogi'r cais yn nhermau cynllunio.  

 

 

 

Roedd y Cynghorydd Schofield yn croesawu'r ffaith bod yr ymgeiswyr yn awr yn barod i ymrwymo i Gytundeb Adran 106, yn arbennig o ystyried y ffaith fod i'r safle ffryntiad ffordd o tua 48m na fyddai'n dderbyniol.

 

      

 

     Cyfeiriodd y Cynghorydd Emyr Jones yr aelodau  at adroddiad yr ymweliad safle oedd ynghlwm wrth y rhaglen a dweud fod datganiad y Cynghorydd Schofield (uchod) yn mynd yn groes i'r hyn y cofnodwyd iddo ddweud yng nghofnodion yr ymweliad safle.  Eglurodd y Cynghorydd Elwyn Schofield fod y ffaith i'r ymgeisydd gyflwyno cynlluniau diwygiedig a'u parodrwydd i ymrwymo i Gytundeb Adran 106 (yn gwahardd datblygiad pellach) wedi ateb ei holl bryderon blaenorol.  Roedd yr adroddiad ymweliad safle erbyn hyn, i raddau, yn gamarweiniol.

 

      

 

     Argymhellodd y Cynghorydd Gwyn Roberts ganiatáu'r cais ac eiliwyd gan y Cynghorydd W.T. Roberts.

 

      

 

     O 8 pleidlais i 5 penderfynodd yr aelodau gymeradwyo'r cais yn groes i argymhellion y swyddog am y rhesymau a ganlyn:

 

      

 

Ÿ

nad oedd aelodau yn teimlo fod hwn yn gais oedd yn tynnu'n groes i'r cynllun fframwaith gan fod y safle o fewn aneddiad rhestredig

 

Ÿ

parodrwydd yr ymgeisydd i wneud Cytundeb Adran 106 fyddai'n gwahardd datblygu pellach o fewn y libart arfaethedig

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor gohiriwyd y cais tan gyfarfod nesaf y Pwyllgor er mwyn ystyried adroddiad ar oblygiadau cymeradwyo'r cais a phenderfynu arno.

 

 

 

4.4

CAIS YN TYNNU'N GROES I'R CYNLLUN FFRAMWAITH

 

      

 

     28C323 CAIS AMLINELLOL AR GYFER CODI ANNEDD AR RHAN O DIR O.S. 027 AR DIR YN NEUADD, LLANFAELOG

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd P.M. Fowlie yn dymuno iddo gael ei gofnodi na fyddai'n cymryd rhan yn y drafodaeth na phenderfynu ar y cais hwn.

 

      

 

     Ar 21 Ebrill 2004 ymwelodd yr Aelodau â'r safle er mwyn asesu lleoliad y safle mewn perthynas â'r briffordd â mynedfa i'r safle.

 

      

 

     Adroddodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio i'r cais hwn gael ei gyfeirio i'r Pwyllgor ar ddymuniad ar gais yr aelod lleol.  Roedd swyddogion wedi argymell gwrthod y cais gan ei fod yn ddatblygiad preswyl annerbyniol yn y cefn gwlad ar safle cae gwyrdd a'i fod yn cael ei ystyried yn groes i bolisïau cyfredol.   Atgoffodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio yr aelodau i annedd gyfagos i safle'r cais gael ei chymeradwyo gan aelodau yn groes i argymhelliad y swyddog.  

 

      

 

     Dywedodd y Swyddog Priffyrdd fod nifer o ddamweiniau wedi digwydd ar hyd y rhan hon o'r ffordd yn y blynyddoedd diweddar.  Mynegodd bryder ei Adran yng nghyswllt gwelededd cyfyngedig y mynediad i'r safle a'r ffordd ei hun tuag at Lanfaelog.  Roedd yr hanes o ddamweiniau yn dangos bod ar gyfartaledd un ddamwain y flwyddyn tros yr 20 mlynedd ddiwethaf.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Glyn Jones, yr aelod lleol, fod y fynedfa i'r safle yn disgyn o fewn y cyfyngiad cyflymdra 40mya ac argymhellodd y dylai penderfynu ar y cais gael ei ohirio hyd nes derbyn ffigyrau y swyddogion Priffyrdd i gefnogi eu pryderon.  Dangosodd ymhellach fod yr ymgeisydd wedi cysylltu â swyddogion priffyrdd i drafod y cais gyda hwy.  Argymhellodd y dylai ymgynghori pellach ddigwydd gyda'r ymgeiswyr i ddod dros y broblem o welediad ger y fynedfa i'r safle.   Eiliodd y Cynghorydd Hefin Thomas argymhelliad yr aelod lleol.  

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd Goronwy Parry dderbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais, ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Arwel Roberts.

 

      

 

     PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais hwn fel y gallai'r Adran Briffyrdd drafod gyda'r ymgeisydd mewn ymdrech i ddod dros y broblem ynglyn â gwelediad gwael ger y fynedfa ac er mwyn i'r Adran Priffyrdd gyflwyno ffigyrau i gefnogi pryder y swyddog yng nghyswllt damweiniau yn yr ardal hon.

 

      

 

     Ymataliodd y Cynghorwyr P.M. Fowlie ac Emyr Jones eu pleidlais ar y cais.

 

      

 

4.5

CAIS YN TYNNU'N GROES I'R CYNLLUN FFRAMWAITH

 

      

 

     33C230 - CAIS AMLINELLOL AR GYFER CODI MEDDYGFA A DEINTYDDFA NEWYDD AR DIR GER 6 MAES HYFRYD, GAERWEN

 

      

 

     Ar 21 Ebrill 2004 ymwelodd yr Aelodau â'r safle er mwyn i'r Aelodau gynefino â lleoliad y cais.

 

      

 

     Adroddodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y safle hwn yn gorwedd y tu allan i ffin ddatblygu diffiniedig Gaerwen.  Roedd ymgynghorwyr statudol wedi cyflwyno sylwadau ar y cynnig, ac fe gafwyd gwrthwynebiadau gan drigolion cyfagos ac roedd yr Adran Briffyrdd wedi lleisio pryderon yng nghyswllt diogelwch ffordd i gerddwyr a modurwyr ger croesffyrdd Stermat fel y crybwyllir yn adroddiad y swyddog.  Tanlinellodd y swyddog y polisïau perthnasol a gymerwyd i ystyriaeth wrth wneud argymhelliad i'r Pwyllgor hwn.  Mae'r safle yn gorwedd y tu allan i ffin ddatblygu Gaerwen.  Byddai polisïau yn cefnogi'r math yma o ddatblygiad petai'r safle o fewn y ffin ddatblygu.  Ychwanegodd y swyddog i'r safle hon gael ei chlustnodi fel "safle o fri" i wella economi'r Ynys yn y Cynllun Datblygu Unedol esblygol a gallai rhoddi caniatâd ar y safle hwn beryglu'r cynnig hwnnw.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd Emyr Jones, yr aelod lleol, yn cefnogi adroddiad y swyddog a diolchodd i'r aelodau am ymweld â'r safle.  Roedd wedi cael pryderon ynglyn â'r safle ac roedd hanes o ddamweiniau cyson yn y lleoliad hwn.

 

      

 

     Argymhellodd y Cynghorydd R.L. Owen dderbyn adroddiad y swyddog a'i argymhelliad o wrthod y cais, ac eiliwyd gan y Cynghorydd John Roberts.

 

      

 

     PENDERFYNWYD gwrthod y cais am y rhesymau a roddwyd yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

     Ymataliodd y Cynghorydd Glyn Jones rhag pleidleisio ar y cais.

 

      

 

4.6

CEISIADAU ECONOMAIDD

 

      

 

     39C291A - CODI 14 ANHEDDAU AMRYWIOL YN CYNNWYS 12 O FFLATIAU A 2 DY DEULAWR YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GEIR A CHERDDWYR YN STRYD PACED, PORTHAETHWY

 

      

 

     Datganodd y Cynghorydd David Evans ddiddordeb yn y cais hwn.

 

      

 

     Adroddodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio i gynlluniau diwygiedig a gwybodaeth bellach gael ei derbyn gan yr ymgeiswyr, ac i'r rhain gael eu hysbysebu yn unol â gofynion statudol.  Roedd aelodau'r cyhoedd, ar hyn o bryd, yn gallu edrych ar y manylion diwygiedig a manylion newydd parthed y cais hwn a chyflwynir adroddiad llawn i gyfarfod mis Mehefin o'r Pwyllgor hwn.

 

      

 

     Am y rhesymau a roddwyd ac yn unol â chais y swyddog PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais hwn.

 

      

 

4.7

CEISIADAU ECONOMAIDD

 

      

 

     39C291B - DYMCHWEL ADEILAD DIWYDIANNOL A CODI 8 ANNEDD YN CYNNWYS 6 THY AC ADDASU 2 ADEILAD YNGHYD ÂG ADDASU ADEILAD JOHN EDWARDS I FOD YN GANOLFAN ETIFEDDIAETH YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GEIR A CHERDDWYR YN WATER STREET, PORTHAETHWY

 

      

 

     Datganodd y Cynghorydd David Evans ddiddordeb yn y cais.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio i gynlluniau diwygiedig a gwybodaeth bellach gael eu derbyn oddi wrth yr ymgeiswyr, ac i'r rhain gael eu hysbysebu yn unol â'r gofynion statudol.  Ar hyn, roedd aelod o'r cyhoedd yn gallu edrych ar y manylion newydd a diwygiedig parthed y cais hwn a bydd adroddiad llawn yn cael ei gyflwyno i gyfarfod mis Mehefin o'r Pwyllgor hwn.

 

      

 

     Am y rhesymau a roddwyd ac yn unol â chais y swyddog PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais hwn.

 

      

 

4.8

CEISIADAU'N TYNNU'N GROES I'R CYNLLUN FFRAMWAITH

 

      

 

     42C175A - NEWID DEFNYDD YR HEN SWYDDFA AC YSTAFELL STAFF I GREU ANNEDD NEWYDD YN NANT Y FELIN PRECAST, PENTRAETH

 

      

 

     Ymwelodd yr Aelodau â safle'r cais ar 17 Mawrth 2004.  Yng nghyfarfod mis Ebrill penderfynodd yr aelodau ganiatáu'r cais, yn groes i argymhellion y swyddog i wrthod, am y rhesymau a ganlyn:

 

      

 

Ÿ

byddai'r datblygiad arfaethedig yn gwella edrychiad y safle a'r ardal ac yn diogelu rhag dirywiad pellach

 

Ÿ

roedd y cais yn cyfarfod â'r angen lleol am dai fforddiadwy;

 

Ÿ

ystyrid fod y datblygiad ar safle cae llwyd

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor gohiriwyd y cais hyd nes cyflwynwyd adroddiad pellach gan y swyddog ar oblygiadau rhoddi caniatâd.

 

 

 

Atgoffodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio yr aelodau o'u cyfrifoldebau i lynu wrth y polisïau cynllunio, ac roedd yn anghytuno gyda'r rhesymau a roddwyd gan yr aelodau dros gymeradwyo'r cais.

 

Ni allai gytuno bod cynnig i godi ty yn mynd i wella edrychiad y safle.  

 

 

 

Roedd y swyddog yn teimlo y byddai'r cynnig hwn yn cael effaith niweidiol ar y tirlun ac na fyddai'n gwella edrychiad y safle.  Nid oedd y cais wedi'i gyflwyno fel am un annedd fforddiadwy.  

 

 

 

Ynglyn â'r safle fel datblygiad cae llwyd, dywedodd y swyddog bod yr ymgeisydd yn disgrifio'r safle fel rhan o ddaliad amaethyddol.  Mae PPC yn gwahardd tir amaethyddol rhag cael ei ystyried fel safle tir llwyd.  Hyd yn oed os byddai hyn yn anghywir mae polisïau cynllunio datblygu perthnasol iawn oedd yn rhagdybio'n gryf yn erbyn adeiladu tai yn y cefn gwlad agored.  Mae safle'r cais yn y cefn gwlad agored ac mae Polisi 53 o Gynllun Lleol Ynys Môn yn amlwg yn rhagdybio yn erbyn datblygiadau o'r fath.   Roedd yn argymell yn gryf wrthod y cais hwn.

 

 

 

Anerchodd y Cynghorydd Hefin Thomas, yr aelod lleol, y cyfarfod.  Ailadroddodd ei ddatganiad blaenorol.  Roedd yr adeilad presennol wedi'i adeiladu yn unol ag anghenion rheoliadau adeiladu.  Byddai'r cynnig yn gwella'r edrychiad trwy ychwanegu to crib yn lle to fflat.  Roedd adroddiad peirianydd strwythurol ynghlwm i'r cais yn dangos bod y cynnig yn

 

bosib.  Credai'r Cynghorydd Thomas y byddai hwn yn darparu cartref fforddiadwy i berson lleol.  Byddai maint y ty yn ei wneud yn fforddiadwy.  Roedd y Cynghorydd Thomas yn cefnogi'n gryf a chynigiodd gymeradwyo'r cais, ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Tecwyn Roberts.  

 

 

 

Dywedodd y cyfreithiwr y byddai'r Pwyllgor mewn peth anhawster pe baent yn cymeradwyo'r cais hwn.  Atgoffodd yr Aelodau i fod yn gyson yn eu penderfyniadau a dywedodd i gais union yr un fath â hwn ym mhob un o'i faterion pwysig gael ei wrthod ar y safle hon lai na blwyddyn yn ôl.  Anghytunodd y Cynghorydd Hefin Thomas gyda'r Cyfreithiwr, gan ddweud bod y cais hwn yn gwahaniaethu oddi wrth y cais blaenorol yn y ffaith fod y cais hwn wedi'i gefnogi gan adroddiad Peiriannydd strwythurol proffesiynol oedd yn cadarnhau fod yr adeilad presennol yn iawn ar gyfer ei addasu.  Mewn ymateb i hyn dywedodd y Cyfreithiwr nad oedd y Pwyllgor ond i benderfynu a oedd egwyddor y datblygiad yn iawn ac nid a oedd modd ei weithredu  - sef y mater y mae adroddiad y peiriannydd yn ymwneud ag ef.  

 

 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Goronwy Parry dderbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais, ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Dr. J.B. Hughes.

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd W.J. Williams nad oedd pob un o'r rhai oedd yn bresennol heddiw yn aelodau o'r Pwyllgor Cynllunio Gorchmynion flwyddyn yn ôl.

 

 

 

Yn unol â pharagraff 18.5 o Reolau Gweithdrefn y Cyngor PENDERFYNWYD cynnal pleidlais wedi'i chofnodi yng nghyswllt y cais hwn a bu'r pleidleisio fel a ganlyn:

 

 

 

RHODDI CANIATÂD (YN GROES I ARGYMHELLION Y SWYDDOG):

 

Y Cynghorwyr D.D. Evans, P.M. Fowlie, O. Glyn Jones, W. Emyr Jones, R.L. Owen,

 

Gwyn Roberts, W. Tecwyn Roberts, Hefin Thomas, W.J. Williams (cyfanswm 9).

 

 

 

GWRTHOD CANIATÂD YN UNOL Â ADRODDIAD Y SWYDDOG:

 

Y Cynghorwyr Dr. J.B. Hughes, Robert Ll. Hughes, Gorowny Parry, John Roberts (cyfanswm 4).

 

 

 

ATAL EU PLEIDLAIS:

 

Y Cynghorydd J. Arwel Roberts (cyfanswm 1)

 

 

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais am y rhesymau a roddwyd ac awdurdodi'r Pennaeth Gwasanaethau Cynllunio i osod amodau perthnasol.

 

 

 

4.9

CEISIADAU'N TYNNU'N GROES I'R CYNLLUN FFRAMWAITH

 

      

 

     45C311A CAIS AMLINELLOL AR GYFER CODI BYNGALO GROMEN AR DIR YN O.S. 9176, PEN LÔN, NIWBWRCH

 

      

 

     Datganodd Gwen Owen o'r Adran Gynllunio ddiddordeb yn y cais hwn.

 

      

 

     Yng nghyfarfod mis Ebrill roedd yr aelodau wedi cymeradwyo'r cais, yn groes i argymhellion y swyddog i wrthod, am y rhesymau a ganlyn:

 

      

 

Ÿ

nad oedd yn cael ei ystyried fod y safle allan yn y cefn gwlad gan fod anheddau eraill o'i boptu yn barod

 

Ÿ

byddai'n llenwi i mewn y gwagle presennol mewn ffordd dderbyniol heb darfu ar dai eraill

 

Ÿ

roedd yn llenwi bwlch gwag yn naturiol

 

Ÿ

roedd parodrwydd yr ymgeisydd i baratoi mannau pasio ychwanegol ar y ffordd yn fantais gynllunio.

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor gohiriwyd y cais hyd nes derbyn adroddiad pellach gan y swyddog ar oblygiadau rhoddi caniatâd.

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod safle'r cais yn tynnu'n groes i'r cynllun fframwaith a'i fod wedi'i leoli yn y cefn gwlad.  Roedd Arolygydd Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi gwrthod apêl gynharach am gais tebyg 200m o'r safle yma a darllenodd y swyddog resymau'r Arolygydd dros wrthod oedd, yn ei farn ef, yn cefnogi'n gryf argymhellion y swyddog tros wrthod y cais hwn:

 

 

 

"although the dwelling would fill a gap between two other dwellings, it would in reality give even more emphasis to the straggle of ribbon developments that already intrudes into, and erodes the natural beauty of the landscape.  Your proposal is contrary to local planning policy and to national planning guidance because of this unacceptably detrimental impact on this sensitive landscape".

 

 

 

Nid yw'r ffordd sy'n arwain tuag at y safle wedi'i goleuo ac nid oes llwybr troed, ac roedd y swyddog yn teimlo nad oedd darparu un lle pasio ar hyd y ffordd yn gyfystyr â budd cynllunio.  Roedd yr Arolygwr wedi barnu bod y ffordd yn un wael.  Fodd bynnag, mae budd cynllunio yn fater fyddai o fantais i'r gymuned gyfan ac ni fyddai creu un lle pasio yn gyfystyr â budd cynllunio i'r gymuned.  Roedd rhesymau cynllunio cryf dros wrthod.

 

 

 

Argymhellodd y Cynghorydd Goronwy Parry dderbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais, ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd David Evans.

 

 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Emyr Jones lynu wrth benderfyniad blaenorol y Cyngor i ganiatáu y cais ac eiliwyd hyn gan y Cynghorwyr Glyn Jones ac R.L. Owen.

 

 

 

Yn unol â pharagarff 18.5 o Reolau Gweithdrefn y Cyngor PENDERFYNWYD y dylid cymryd pleidlais wedi'i chofnodi mewn perthynas â'r cais hwn a bu'r pleidleisio fel a ganlyn:

 

 

 

CANIATÁU (YN GROES I ARGYMHELLION Y SWYDDOGION):

 

Y Cynghorwyr P.M. Fowlie, O. Glyn Jones, W. Emyr Jones, R.L. Owen, J. Arwel Roberts, Hefin Thomas (cyfanswm 6).

 

 

 

GWRTHOD CANIATÂD YN UNOL AG ADRODDIAD Y SWYDDOG:

 

Y Cynghorwyr David Evans, Dr. J.B. Hughes, Robert Ll. Hughes, John Roberts,

 

Goronwy Parry, W.J. Williams (cyfanswm 6).

 

 

 

ATAL EU PLEIDLAIS

 

Y Cynghorwyr Gwyn Roberts, W. Tecwyn Roberts (cyfanswm 2).

 

 

 

Defnyddiodd y Cadeirydd ei bleidlais fwrw a PHENDERFYNWYD gwrthod y cais am y rhesymau a roddwyd yn adroddiad y swyddog.

 

 

 

5     CEISIADAU ECONOMAIDD

 

      

 

5.1

11C122B/EIA CREU GWAITH TRIN GWASTRAFF GYDA TIRLUNIO CYSYLLTIEDIG AR RAN HEN SAFLE TANCIAU CADW OLEW SHELL A SAFLE GREAT LAKES, AMLWCH

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio y bydd adroddiad manwl ar y cynnig yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor yn y man.  Yn y cyfamser roedd y swyddog yn ystyried y byddai ymweliad safle o fudd er mwyn cael dealltwriaeth well o'r effaith cyn gwneud unrhyw benderfyniad arno.

 

      

 

     Am y rhesymau a roddwyd PENDERFYNWYD ymweld â safle'r cais.  

 

      

 

5.2

34LPA791ZA/CC  ADDASU AC EHANGU YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GEIR A CHERDDWYR YNG NGHANOLFAN FUSNES YNYS MÔN, LLYS GOFERYDD, BRYN CEFNI, LLANGEFNI

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod y cais hwn yn cael ei roddi gerbron y Pwyllgor gan ei fod yn cael ei gyflwyno gan a'i fod ar dir ym meddiant y Cyngor Sir.

 

      

 

     Yn amodol ar beidio derbyn unrhyw sylwadau o bwys yn ystod gweddill y cyfnod ymgynghori, PENDERFYNWYD dirprwyo i Bennaeth y Gwasanaethau Cynllunio yr hawl i gymeradwyo'r cais, yn amodol ar yr amodau sydd yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

6     CEISIADAU'N TYNNU'N GROES I'R CYNLLUN FFRAMWAITH

 

      

 

     Nid oedd unrhyw geisiadau'n tynnu'n groes i'r cynllun fframwaith wedi'u cyflwyno i'w hystyried gan y Pwyllgor hwn.

 

      

 

7     GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

7.1

11C429 ADDASU A EHANGU I GREU MYNEDFA A THOILED I'R ANABL YN SAIL LOFT & GATE HOUSE, PORTH AMLWCH

 

      

 

     Datganodd y Cynghorwyr D.D. Evans a W.J. Williams ddiddordeb yn y cais hwn a gadawodd y ddau y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r bleidlais arno.

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais cynllunio ac Adeilad Rhestredig hwn i'w ystyried gan y Pwyllgor gan fod y datblygiad yn ymwneud â thir ym mherchenogaeth y Cyngor.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais, yn amodol ar yr amodau a geir yn yr adroddiad, ac i nodi y byddai Cais Adeilad Rhestredig yn cael ei basio ymlaen i'w benderfynu gan CADW.

 

      

 

      

 

7.2

11C431/AD - CODI PANEL DEHONGLIAD STATIG GER WATCHTOWER, HARBWR AMLWCH, PORTH AMLWCH

 

      

 

     Datganodd y Cynghorydd W.J. Williams ddiddordeb yn y cais hwn ac ni chymerodd ran yn y drafodaeth na'r bleidlais arno.

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais i'w ystyried gan y Pwyllgor gan fod y safle yn ymwneud â thir y Cyngor.

 

      

 

     PENDERFYNWYD rhoddi caniatâd hysbyseb am y rhesymau a roddwyd, yn amodol ar yr amodau a geir yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

7.3

11C432/AD CODI PANEL DEHONGLI STATIG YN Y GILFAN AR YR A5025, PORTH LLECHOG

 

      

 

     Datganodd y Cynghorydd W.J. Williams ddiddordeb yn y cais hwn ac ni chymerodd ran yn y drafodaeth na'r pleidleisio arno.

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais i'w ystyried gan y Pwyllgor gan fod y safle ar dir y Cyngor.

 

      

 

     PENDERFYNWYD rhoddi caniatâd hysbyseb am y rhesymau a roddwyd, yn amodol ar yr amodau a geir yn adroddiad y swyddog.  

 

      

 

7.4

11C77F/AD CODI PANEL DEHONGLI STATIG AR Y PLATFFORM EDRYCH, MYNYDD PARYS

 

      

 

     Datganodd y Cynghorydd W.J. Williams ddiddordeb yn y cais hwn ac ni chymerodd ran yn y drafodaeth na'r bleidlais arno.

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'w ystyried gan y Pwyllgor gan fod y safle ar dir y Cyngor.

 

      

 

     PENDERFYNWYD rhoddi caniatâd hysbyseb am y rhesymau a roddwyd, yn amodol ar yr amodau a geir yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

7.5

17C314A CODI YSTAFELL HAUL YN GWEL Y DON, LÔN BRYNTEG, LLANDEGFAN

 

      

 

     Datganodd y Cynghorydd Eufryn Davies ddiddordeb yn y cais hwn, mynegodd y Cynghorydd Hefin Thomas ei fod yn datgan diddordeb anuniongyrchol.

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais i'w ystyried gan y Pwyllgor gan i'r cais gael ei gyflwyno gan aelod etholedig.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd, yn amodol ar yr amodau a geir yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

7.6

17C78C ADDASU AC EHANGU ER MWYN CREU MAN BYW UWCHBEN Y SIOP PRESENNOL YN SIOP SPAR, LLANDEGFAN

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais i'w ystyried gan y Pwyllgor ar gais yr aelod lleol.

 

      

 

     Adroddodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio i'r ymgeisydd gyflwyno llythyr yn gofyn am i'r cais hwn gael ei "dynnu oddi ar raglen heddiw".  Roedd y swyddog yn argymell i'r cais gael ei benderfynu gan y byddai unrhyw welliant i'r cynnig presennol yn destun ymgynghori pellach gydag ymgynghorwr statudol ac y byddai'n achosi oedi mewn penderfynu ar y cais.  Roedd y swyddog yn argymell gwrthod y cais am y rhesymau a roddwyd yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

     PENDERFYNWYD cytuno gydag argymhellion y swyddog i wrthod y cais am y rhesymau a roddwyd.

 

      

 

7.7

18C117A/AD CODI PANEL DEHONGLI STATIG YM MHORTH SWTAN

 

      

 

     Datganodd y Cynghorydd W.J. Williams ddiddordeb yn y cais hwn ac ni chymerodd ran yn y drafodaeth na'r bleidlais arno.

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais i'w ystyried gan y Pwyllgor gan fod y safle ar dir y Cyngor.

 

      

 

     PENDERFYNWYD rhoddi caniatâd hysbyseb am y rhesymau a roddwyd, yn amodol ar yr amodau a geir yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

7.8

19C843A CODI ESTYNIAD AR Y LLAWR CYNTAF YN OROTAVIA, WALTHEW AVENUE, CAERGYBI

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'w ystyried gan y Pwyllgor ar gais yr aelod lleol.  Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio na chafodd yr aelod lleol, oherwydd camgymeriad gweinyddol, rybudd digonol bod y cais yn cael ei ystyried yn y cyfarfod hwn.  Oherwydd hyn, argymhellodd y swyddog y dylid gohirio gwneud unrhyw benderfyniad ar y cais tan y cyfarfod nesaf.  

 

      

 

     Am y rhesymau a roddwyd PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais hwn tan y cyfarfod nesaf.

 

      

 

7.9

20C203/AD CODI PANEL DEHONGLI STATIG AR GORNEL BRIDGE STREET A BEACH ROAD, CEMAES

 

      

 

     Datganodd y Cynghorydd W.J. Williams ddiddordeb yn y cais hwn ac ni chymerodd ran yn y drafodaeth na'r bleidlais arno.

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais i'w ystyried gan y Pwyllgor gan fod y safle ar dir y Cyngor.

 

      

 

     PENDERFYNWYD rhoddi caniatâd hysbyseb am y rhesymau a roddwyd, yn amodol ar yr amodau a geir yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

7.10

32C68H DOSBARTH SYMUDOL NEWYDD YN YSGOL CAERGEILIOG, CAERGEILIOG

 

      

 

     Datganodd y Cynghorydd David Evans ddiddordeb yn y cais hwn a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r bleidlais arno.

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais i'w ystyried gan y Pwyllgor gan fod y safle ar dir y Cyngor.

 

      

 

     PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais am y rhesymau a roddwyd yn amodol ar yr amodau a geir yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

7.11

34C72H DYMCHWEL YR ADEILADAU DIDDEFNYDD PRESENNOL A CODI ADEILAD TRI LLAWR YN CYNNWYS SWYDDFEYDD, DEFNYDD MASNACHOL A CHYFLEUSTERAU STORIO YN HERON SERVICES, LÔN GLANHWFA, LLANGEFNI

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio y caiff adroddiad manwl ei gyflwyno i'r Pwyllgor hwn yn y man.  Yn y cyfamser roedd y swyddog yn ystyried y byddai ymweliad safle o fudd er mwyn cael gwell dealltwriaeth o effaith y datblygiad arfaethedig cyn cael trafodaeth arno. Roedd y safle ar un o'r priffyrdd i mewn i Langefni ac, o'r herwydd, mewn lleoliad sensitif.  

 

      

 

     Am y rhesymau a roddwyd PENDERFYNWYD ymweld â safle'r cais.

 

      

 

7.12

34C83C DATBLYGIAD TRIGIANNOL YN CYNNWYS CODI 21 O DAI YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GEIR AR DIR YN LÔN GLANHWFA, LLANGEFNI

 

      

 

     Datganodd JRW Owen o'r Adran Priffyrdd ddiddordeb anuniongyrchol yn y cais hwn a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r bleidlais arno.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio y byddai adroddiad manwl yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor maes o law.  Yn y cyfamser roedd y swyddog yn ystyried y byddai ymweliad safle o fudd er mwyn cael dealltwriaeth gwell o effaith y datblygiad arfaethedig cyn ei drafod.  Roedd y safle ar un o'r priffyrdd i mewn i Langefni ac o'r herwydd roedd mewn lleoliad sensitif.

 

      

 

     Am y rhesymau a roddwyd PENDERFYNWYD ymweld â safle'r cais.

 

      

 

7.13

35C232/AD CODI PANEL DEHONGLI STATIG A PHOSTYN SAIN YN CASTELL ABERLLEINIOG, LLANGOED

 

      

 

     Datganodd y Cynghorydd W.J. Williams ddiddordeb yn y cais hwn ac ni chymerodd ran yn y drafodaeth na'r bleidlais arno.

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'w ystyried gan y Pwyllgor gan fod y safle ar dir y Cyngor.

 

      

 

     PENDERFYNWYD rhoddi caniatâd hysbyseb am y rhesymau a roddwyd, yn amodol ar yr amodau a geir yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

7.14

39C291C/LB CANIATÂD ADEILAD RHESTREDIG I DDYMCHWEL RHAN O'R ADEILAD DIWYDIANNOL A CHODI 8 ANNEDD YN CYNNWYS 6 ANNEDD A NEWID DEFNYDD 2 ADEILAD YNGHYD Â NEWID DEFNYDD YR ADEILAD JOHN EDWARDS I FOD YN GANOLFAN ETIFEDDIAETH YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GEIR A CHERDDWYR YN STRYD PACED, PORTHAETHWY

 

      

 

     Datganodd y Cynghorydd David Evans ddiddordeb yn y cais hwn a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r bleidlais arno.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod cynlluniau diwygiedig a gwybodaeth bellach wedi'i derbyn gan yr ymgeiswyr, roedd y rhain wedi'u hysbysebu yn unol â'r anghenion statudol.  Gallai aelodau'r cyhoedd, ar hyn o bryd, weld y manylion ychwanegol diwygiedig mewn perthynas â'r cais hwn a chaiff adroddiad llawn ei gyflwyno i gyfarfod mis Mehefin o'r Pwyllgor hwn.

 

      

 

     Am y rhesymau a roddwyd ac yn unol â chais y swyddog PENDERFYNWYD gohirio ystyriaeth ar y cais hwn.

 

      

 

7.15

39C367/AD CODI DAU BANEL DEHONGLI STATIG YN CEI BONT A'R LAWNT FOWLIO, PORTHAETHWY

 

      

 

     Datganodd y Cynghorydd W.J. Williams ddiddordeb yn y cais hwn ac ni chymerodd ran yn y drafodaeth na'r pleidleisio arno.

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais i'w ystyried gan y Pwyllgor gan fod y safle ar dir y Cyngor.

 

      

 

     PENDERFYNWYD rhoddi caniatâd hysbyseb am y rhesymau a roddwyd, yn amodol ar yr amodau a geir yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

7.16

40C239/AD CODI PANEL DEHONGLI STATIG YNG NGWYLFAN MOELFRE

 

      

 

     Datganodd y Cynghorydd W.J. Williams ddiddordeb yn y cais hwn ac ni chymerodd ran yn y drafodaeth na'r pleidleisio arno.

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais i'w ystyried gan y Pwyllgor gan fod y safle ar dir y Cyngor.

 

      

 

     PENDERFYNWYD rhoddi caniatâd hysbyseb am y rhesymau a roddwyd, yn amodol ar yr amodau a geir yn adroddiad y swyddog.

 

 

 

8     CEISIADAU A DDIRPRWYWYD

 

      

 

     Cyflwynwyd a derbyniwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cynllunio a Gwasanaethau Amgylcheddol) ar geisiadau a ddirprwywyd ac y gwnaethpwyd penderfyniad arnynt ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor hwn.

 

      

 

     YN CODI:

 

      

 

     DIRPRWYWYD A CHYMERADWYWYD:

 

      

 

     25C155 (Stryd y Farchnad, Llannerch-y-medd) - Nodwyd i'r cais hwn gael ei benderfynu gan gyfarfod mis Ebrill o'r cyfarfod hwn ac ni ddylai fod wedi ymddangos ar y rhestr o geisiadau wedi'u dirprwyo.  

 

      

 

     CEISIADAU WEDI'U DIRPRWYO A'U GWRTHOD:

 

      

 

     46C38K (Sea Shanty Trearddur Bay) - Lleisiodd y Cynghorydd Goronwy Parry bryderon mewn perthynas â golwg blêr y safle hWn yn dilyn Y gwaith dymchwel wnaed yno.  

 

      

 

      

 

     15D132 (Ty'n Fflat, Trefdraeth) - Nodwyd fod Barry Jones o'r Adran Briffyrdd wedi datgan diddordeb yn y cais hwn.

 

      

 

9     APELIADAU

 

      

 

9.1

ADRAN 195 O DDEDDF CYNLLUNIO GWLAD A THREF 1990

 

     O.S. 5407 - GAERWEN FARM, AMLWCH

 

      

 

     Cyflwynwyd a nodwyd gopi o adroddiad gan yr Arolygwr apwyntiwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru mewn perthynas ag apêl yn erbyn penderfyniad yr Awdurdod i wrthod rhoi Tystysgrif Datblygiad Cyfreithlon ar gyfer pedair stabl a thy haf a defnyddio'r tir i gadw ceffylau - gwrthodwyd yr apêl (11C242A trwy rybudd penderfyniad 28 Mawrth, 2003).

 

      

 

9.2

ADRAN 78 O DDEDDF CYNLLUNIO GWLAD A THREF 1990

 

     TIR YN PANT DALAR, MYNYDD BODAFON

 

      

 

     Cyflwynwyd a nodwyd copi o adroddiad gan yr Arolygwr apwyntiwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru mewn perthynas ag apêl yn erbyn penderfyniad yr Awdurdod yn gwrthod cais cynllunio amlinellol i godi annedd coedwigaeth gyda thanc septig - gwrthodwyd yr apêl (40C148A, rhybudd penderfyniad 6 Awst, 2003).

 

      

 

9.3

ADRAN 78, 322 A ATODIAD 6 O DDEDDF CYNLLUNIO GWLAD A THREF 1990

 

     ADRAN 250(5) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972

 

     PLAS LODGE, HEN LANDEGFAN, LLANDEGFAN

 

      

 

     Cyflwynwyd a nodwyd copi o adroddiadau gan yr Arolygwr apwyntiwyd gan Llywodraeth Cynulliad Cymru mewn perthynas ag apêl yn erbyn penderfyniad yr Awdurdod hwn i wrthod caniatâd i ddymchwel yr adeilad presennol a chodi annedd un llawr (17C338 rhybudd penderfyniad 16 Mai 2003) - gwrthodwyd yr apêl.  Nodwyd hefyd penderfyniad yr Arolygwr i roddi costau rhannol i'r Awdurdod.

 

      

 

9.4

ADRAN 78 O DDEDDF CYNLLUNIO GWLAD A THREF 1990

 

     TIR YN MOUNTAIN VIEW, PENTRE GWYDDEL, RHOSCOLYN

 

      

 

     Cyflwynwyd a nodwyd copi o adroddiad gan yr Arolygwr apwyntiwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru mewn perthynas ag apêl yn erbyn penderfyniad yr Awdurdod hwn i wrthod caniatâd cynllunio ar gyfer bwthyn gwyliau, gwrthodwyd yr apêl (43C131 rhybudd penderfyniad 31 Gorffennaf, 2003) - gwrthodwyd yr apêl.

 

      

 

10     ADRAN 78 O DDEDDF CYNLLUNIO GWLAD A THREF 1990

 

     DALAR WEN, RHOSMEIRCH

 

      

 

     Cyflwynwyd a nodwyd copi o adroddiad gan yr Arolygwr apwyntiwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru mewn perthynas ag apêl yn erbyn penderfyniad yr Awdurdod hwn i wrthod cais cynllunio amlinellol i godi byngalo dormer - caniatawyd yr apêl (34C13G rhybudd penderfyniad 4 Rhagfyr, 2003).

 

      

 

11     ADOLYGIAD O BENDERFYNIADAU CYNLLUNIO

 

      

 

     Cyflwynwyd a nodwyd - adroddiad y Pennaeth Rheoli Datblygiad mewn perthynas â'r uchod.  Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor, Materion Cynllunio - Rheolau Gweithdrefn ymwelwyd â sampl o safleoedd lle gweithredwyd ar ganiatâd cynllunio, a hynny fis Mawrth diwethaf er mwyn asesu ansawdd penderfyniadau weithredwyd arnynt yn barod ac i fod o gymorth gyda ansawdd a chysondeb y penderfyniadau yn y dyfodol.  Ar ddiwedd yr ymweliadau safle gofynnwyd i'r aelodau werthuso agweddau amrywiol ynglyn â'r datblygiadau fel y manylwyd yn adroddiad y swyddog.  Gwneir adolygiadau pellach yn y dyfodol yn flynyddol a bydd yn ymgorffori ystod o gategorïau o ddatblygiad.  Nodwyd mai'r consensws barn cyffredinol ymysg yr aelodau oedd i'r adolygiad fod yn addysgiadol, ac yn hynod o lwyddiannus.

 

      

 

     Dywedodd Pennaeth Gwasanaethau Cynllunio y byddai llenyddiaeth yn cael ei dosbarthu yn y dyfodol agos ar wrychoedd a chadwraeth amgylcheddol.

 

      

 

     Daeth y cyfarfod i ben am 3.50 p.m.

 

      

 

     Y CYNGHORYDD R.LL. HUGHES

 

     CADEIRYDD