Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion dogfennau , 5 Mai 2010

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Dydd Mercher, 5ed Mai, 2010

PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION

 

Cofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 5 Mai, 2010 

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd Kenneth P. Hughes - Cadeirydd

Y Cynghorydd J. Arwel Roberts - Is-Gadeirydd

 

Y Cynghorwyr W.J. Chorlton, Lewis Davies, Jim Evans,

W.T. Hughes, O. Glyn Jones, Thomas H. Jones, R.L. Owen,

Eric Roberts, Hefin W. Thomas, J.P. Williams, Selwyn Williams.

 

 

 

WRTH LAW:

 

Rheolwr Rheoli Cynllunio (DFJ),

Cynorthwywr Cynllunio (MG),

Cynorthwywr Cynllunio (JR).

 

Priffyrdd

 

Uwch Beiriannydd (Rheoli Datblygu) (EJ).

 

Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol,

Swyddog Pwyllgor (MEH).

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Y Cynghorydd  E.G. Davies

Y Cynghorydd  A.M. Jones - Aelod Portffolio (Cynllunio)

 

 

 

HEFYD YN BRESENNOL:

 

Aelodau Lleol : Y Cynghorwyr Barrie Durkin (11.5); J.V. Owen (6.2); G.O. Parry MBE (6.3).

 

Cydymdeimlodd y Cadeirydd gyda Mr Rob Owen, Uwch Beiriannydd (Rheoli Datblygu a Hawliau Tramwy Cyhoeddus) a Mr Richard Eames, Swyddog Rheoli Datblygu - y ddau wedi colli mam yn ddiweddar.  Safodd yr Aelodau a’r Swyddogion fel arwydd o barch.

 

Hefyd dymunodd y Cadeirydd yn dda iawn i’r Cynghorydd Eurfryn G. Davies a gafodd ddamwain yn ei gartref yn ddiweddar.

 

1

YMDDIHEURIADAU

 

Cyflwynwyd ymddiheuriadau am absenoldeb a’u nodi fel uchod.

 

2

DATGANIAD O DDIDDORDEB

 

Derbyniwyd datganiadau o ddiddordeb fel y cawsant eu cofnodi dan yr eitemau perthnasol.

 

3

COFNODION

 

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gafwyd ar 7 Ebrill, 2010 fel rhai cywir, yn amodol ar :-

 

 

6.3 - 30C83E - Dymchwel yr adeilad presennol a chodi adeilad newydd i gynnwys ystafell chwarae, swyddfa, derbynfa, ystafell ffitrwydd, ystafell gemau a storfa yn Dolydd, Pentraeth

 

 

 

Nodwyd mai’r Cynghorydd W J Chorlton a gynigiodd roddi caniatâd i’r cais, nid y Cynghorydd Hefin W Thomas fel a nodwyd ar Dudalen 10 y cofnodion.

 

 

 

4

YMWELIADAU SAFLE

 

 

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd cofnodion yr ymweliadau safle a gafwyd ar 21 Ebrill, 2010, gyda’r amod bod enw Mr. Richard Eames Swyddog Rheoli Datblygu (Priffyrdd) yn cael ei ychwanegu at restr o’r Swyddogion oedd yn bresennol ar yr ymweliadau.

 

 

 

5

CEISIADAU A OHIRIWYD

 

 

 

5.1

16/C/184 - Cais amlinellol ar gyfer codi annedd dau lawr ar dir ger Byngwran Farm, Bryngwran

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno gan fod yr ymgeisydd yn perthyn i swyddog sy’n ymwneud yn agos â cheisiadau cynllunio.  Cafodd y cais ei sgriwtineiddio gan y Swyddog Monitro yn unol â gofynion paragraff 4.6.10.4 Cyfansoddiad y Cyngor.

 

 

 

Yn y cyfarfod a gafwyd ar 7 Ebrill, 2010 penderfynwyd ymweld â’r safle.  Cyn ymweld a’r safle ar 21 Ebrill, 2010 tynnwyd y cais yn ôl.

 

 

 

Nodwyd bod y cais wedi ei dynnu’n ôl.

 

 

 

5.2

19/C/842G - Cais amlinellol ar gyfer datblygiad trigiannol ar dir yn Parc Cybi, Caergybi

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno gan ei fod yn gynllun mawr.  Ymwelwyd â’r safle ar 17 Chwefror, 2010.

 

 

 

Nodwyd bod y cais wedi ei dynnu’n ôl.

 

 

 

5.3

22/C/197 - Codi 21 o gabanau coed i ddefnydd gwyliau, darparu lonydd atynt, tirlunio, ynghyd â gosod offer preifat i drin carthion yn Tan y Coed, Biwmaris

 

 

 

 

 

Dywedwyd bod y cais hwn wedi’i ddiwygio’n sylweddol ac o’r herwydd bod raid i’r awdurdod cynllunio lleol yn awr ailymgynghori ac ailhysbysebu’r cynllun diwygiedig a chaniatáu cyfnod o leiaf dair wythnos i dderbyn sylwadau.

 

 

 

Awgrymwyd y dylid ymweld â’r safle fel bod yr Aelodau’n cael golwg arno cyn gwneud penderfyniad.

 

 

 

PENDERFYNWYD

 

 

 

5.4

30/C/499J - Cais amlinellol gyda rhai materion wedi eu cadw yn ôl ar gyfer codi annedd ynghyd â gosod sustem trin carthffosiaeth newydd ar dir ger Angorfa, Traeth Coch

 

 

 

Ymwelwyd â’r safle ar 17 Mawrth, 2010.  Nodwyd bod trafodaethau wedi’u cynnal gyda’r asiant i’r ymgeisydd gydag awgrym y buasai ymateb yn dod i law fel bod modd trafod y cais yn y cyfarfod - hyd yma ni chafwyd unrhyw ymateb.  

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais tan gyfarfod nesaf y Pwyllgor hwn.

 

 

 

6

CEISIADAU YN CODI O’R COFNODION

 

 

 

6.1

19/C/842J/ECON - Cais llawn ar gyfer codi 3 uned swyddfeydd a 4 uned warws diwydiannol ynghyd ag isadeiledd a darpariaeth barcio yn Plot 1 & 7, Parc Cybi, Caergybi

 

 

 

Nododd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y cynllun safle a ymddangosodd ar Dudalen 9 y rhaglen yn anghywir a bod y cynllun cywir yn ymddangos ar dudalen 3 y rhaglen lle roedd cais arall yn ymwneud â’r safle ym Mharc Cybi.

 

 

 

Dywedwyd wrth gyfarfod diwethaf y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion am y cyngor a gafwyd gan Weinidog Llywodraeth Cynulliad Cymru yn dweud na allai’r Cyngor ddiwygio’r Cyfansoddiad hyd oni fydd y Gweinidog wedi cymeradwyo’r newidiadau.  Bellach cafwyd cadarnhad bod y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion â’r pwerau i benderfynu ar y cais.

 

 

 

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y Swyddog a’r argymhelliad o ganiatáu gyda’r amodau yn yr adroddiad hwnnw.

 

 

 

6.2

19/C/882C - Cais llawn ar gyfer codi 18 o dai deulawr ynghyd â chreu mynedfa newydd i gerbydau ac i gerddwyr ar dir ger Lôn Cae Serri, Llain-goch, Caergybi

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr Aelod Lleol ac yng nghyfarfod 7 Ebrill, 2010 y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion penderfynwyd ymweld â’r safle a threfnwyd yr ymweliad ar gyfer 21 Ebrill, 2010.

 

 

 

Eglurodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y cais hwn yn un diwygiedig ac yn wahanol i hwnnw y rhoddwyd caniatâd iddo i godi 21 o dai deulawr.  Roedd y cais gerbron yn un yn dangos gosodiad diwygiedig i 18 o dai.  Mae’r tir y tu mewn i ffiniau datblygu Caergybi ac mewn ardal breswyl yn Lôn Cae Serri a Lôn Newydd. Cynhaliwyd Asesiad Ieithyddol yng nghyswllt y cais a hwnnw’n cadarnhau y bydd 30% o’r tai yn rhai fforddiadwy; ac o’r herwydd ni chredir y bydd yn cael effaith ar yr Iaith Gymraeg yn yr ardal.  Cyfeiriodd y Swyddog at osodiad a dwysedd y datblygiad gan grybwyll rhai cyfyngiadau megis yr afon fechan sy’n llifo ar draws y safle a chyfyngiadau naturiol eraill.  Fodd bynnag, credwyd bod y cais yn cydymffurfio gyda’r patrymau datblygu yn yr ardal; hefyd mae’n diogelu coridor ar draws y tir ac yn delio gyda materion llifogydd.  Mae’r holl ffactorau hyn yn arwain at fath penodol o ddyluniad i’r safle, sef ffordd sy’n dod i mewn yn un pen a rhes o dai.  Ond cafwyd llifogydd ar y tir hwn ym mis Hydref 2004 ac o’r herwydd gofynnwyd i’r datblygwr baratoi Asesiad Canlyniadau Llifogydd ac roedd hwnnw ynghlwm wrth y cais.  Cyflwynwyd yr Asesiad i gefnogi’r cais yn Ebrill 2005 ac mae Asiantaeth yr Amgylchedd o’r farn ei fod yn dderbyniol ond gydag amodau yng nghyswllt lefelau gorffenedig y lloriau.  Gofynnodd yr Awdurdod Cynllunio i’r datblygwr ailgyflwyno Asesiad Canlyniadau Llifogydd yng nghyswllt y cais newydd hwn a chafwyd ymateb Asiantaeth yr Amgylchedd yn dweud eu bod yn hapus gyda’r amodau - roedd yr amodau hyn yn ymddangos ar Dudalennau 30 - 31 yr adroddiad.

 

 

 

Yng nghyswllt materion Priffyrdd dywedodd y Swyddog na fuasai’r datblygiad yn achosi problemau traffig yn yr ardal; bydd y datblygiad yn cynnwys mesurau i arafu traffig ar y safle a hefyd mae cytundeb gyda’r datblygwr i gyfrannu £5,000 dan gytundeb Adran 106 i’w neilltuo’n benodol ar gyfer gwaith gwella / arafu traffig.  Bydd y datblygiad yn cael ei fonitro am gyfnod o 12 mis ar ôl i bawb symud i’r tai i fyw ynddynt - sef cyfnod i asesu unrhyw effaith a gaiff y traffig a defnyddio’r cyfraniad i wneud unrhyw waith angenrheidiol yn sgil hynny.  Oni fydd y traffig yn cael unrhyw effaith yn y cyfnod o 12 mis bydd cyfraniad y datblygwr yn cael ei ddychwelyd iddo’n llawn.

 

Wedyn soniodd bod Dwr Cymru/Welsh Water yn fodlon gyda’r datblygiad ac wedi awgrymu amodau i reoli llif unrhyw ddwr o’r safle ond ni chafwyd unrhyw bryderon ynghylch capasiti - mae’r amodau hyn yn ymddangos ar Dudalennau 30 - 31 yr adroddiad.  Yng nghyswllt y tirwedd a’r cynefin dywedodd Cyngor Cefn Gwlad Cymru nad oedd ganddynt unrhyw wrthwynebiad i’r datblygiad.  Felly roedd y Rheolwr Rheoli Cynllunio yn argymell caniatáu.  

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Roedd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd J.V. Owen yn dymuno cofnodi iddo ddweud yng nghyfarfod diwethaf y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ‘that he would have to accept the planning of the houses that have been approved and not that he did not mind the houses’.  Dywedodd bod pobl yr ardal yn credu bod hon yn Ardal o Brydferthwch Naturiol Eithriadol a fydd yn cael ei difetha gan y tai ac nid yw’r bobl leol angen tai.  Mae’r datblygwr yn bwriadu codi ty 4 troedfedd yn unig draw o ffenestr cegin y ty cyffiniol; nid oedd hyn yn dderbyniol o gwbl i’r Aelod Lleol.

 

 

 

Aeth y Cynghorydd Owen ymlaen i ofyn y cwestiynau a ganlyn: (1) A ydyw’r afon yn brif afon ar draws y safle? (2) Pwy fydd yn gyfrifol am yr afon os ydyw’r ffordd ar draws y stad yn cael ei mabwysiadu? (3) Sut y bydd yr afon hon yn cael ei chlirio am nad yw’r gwaith hwnnw wedi’i wneud ers dros 15 mlynedd.  (4) Mae’r tir o gwmpas yr afon yn cael ei alw’n dir agored; pwy fydd yn gyfrifol am y tir hwn? (5) Priffyrdd - wrth ddarparu Lôn Cae Serri, lôn sengl sy’n gwasanaethu 12 o fyngalos i’r henoed; mae pafin bloc yn ffrynt y byngalos a hynny yn caniatáu i’r henoed eistedd y tu allan i’w tai.  Yn yr adroddiad nodir y bydd £5,000 o fantais gynllunio yn cael ei chynnwys i wneud gwaith traffig / arafu traffig a hynny ar draul pleserau yr henoed yn Lôn Cae Serri.  Mae’r defnydd a wneir o’r ffordd hon wedi cynyddu’n fawr dros y 12 mlynedd diwethaf ar ôl codi 50 o dai newydd yn yr ardal.  Credai ef bod angen cyflwyno system traffig unffordd yn Lôn Cae Serri.  (6) Arian i’r Gymuned - fe ddylai hwn fod ar gael er lles y gymuned leol trwy Gyngor y Dref - gallai hwn fod yn iawndal i hybu pleserau yn yr ardal.  Gofynnodd y Cynghorydd Owen i’r Swyddogion ymateb i’w gwestiynau yn ysgrifenedig.

 

 

 

Cytuno gyda’r Aelod Lleol a wnaeth y Cynghorydd W.J. Chorlton sef bod y tai a godwyd yn Lôn Cae Serri yn rhai i’r henoed ac i fwynhau Ardal o Brydferthwch Naturiol Eithriadol.  Ond roedd yn derbyn bod caniatâd cynllunio wedi’i roddi yn y gorffennol i dai yn yr ardal hon ond gofynnodd i’r Swyddogion sicrhau bod strwythur y priffyrdd yn addas i’r ardal a bod angen edrych ar y pellter rhwng tai. Hefyd ychwanegodd y Cynghorydd Chorlton bod gosodiad y datblygiad yn creu pryderon.

 

 

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd T.H. Jones at gytundeb a wnaed gyda’r datblygwr i gyfrannu £5,000 tuag at waith gwella / arafu traffig ac y câi yr arian hwnnw ei ddychwelyd i gyd oni fydd y datblygiad yn cael effaith cyn pen 12 mis; credai ef y dylai’r £5,000 hwn fod yn fantais gynllunio i’r ardal ac na ddylid ei roddi’n ôl i’r datblygwr.  Credai y dylai’r ddarpariaeth hon fod yn amod ychwanegol ynghlwm wrth unrhyw ganiatâd i’r cais.  Aeth ymlaen i sôn am amod ychwanegol i’w roddi ynghlwm - sef na fydd Lôn Cae Serri yn ffordd trwodd i draffig ac y dylid cau’r ffordd.

 

 

 

Gofynnodd y Cynghorydd Eric Roberts pwy fydd yn gyfrifol am gynnal y ffrwd ar draws y safle?

 

 

 

Credai’r Cynghorydd J. Arwel Roberts bod y Pwyllgor ar dir sigledig am nad mater i’r Pwyllgor yw rhoddi amodau ynghlwm wrth ganiatâd cynllunio yng nghyswllt mantais gynllunio a chau ffordd stad; dylai’r Pwyllgor ofyn i’r Swyddogion drafod amodau o’r fath gyda’r ymgeisydd.  

 

 

 

Yma roedd y Rheolwr Rheoli Cynllunio am nodi nad oedd yr Awdurdod Cynllunio na’r Awdurdod Priffyrdd yn ystyried bod yma broblem traffig fel y cyfryw; yr aelod cynt i’r ardal hon oedd yn credu y ceid problemau priffyrdd oherwydd y datblygiad.  Nid oedd yr Awdurdod Cynllunio wedi trafod gyda’r datblygwr y posibilrwydd o gyfrannu tuag at gyfleusterau i’r gymuned megis cae chwarae.  Nododd bod parc mawr gyda chyfleusterau chwarae i lawr y lôn.  Nid yw’r safle y tu mewn i Ardal o Brydferthwch Naturiol Eithriadol ac nid oedd crib toeau’r tai arfaethedig fawr uwch na thai eraill yr ardal.  Petai’r safle yn mynd yn flêr yna roedd pwerau cynllunio ar gael i leddfu pryderon.  Nid oedd yr Awdurdod Priffyrdd yn rhagweld unrhyw bryderon gan nodi y bydd 30% o’r datblygiad arfaethedig yn dai fforddiadwy.  Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Hefin W. Thomas, dywedodd y Swyddog nad ofynnodd y Swyddogion am lecyn chwarae ac nid oedd ganddynt bolisi ynghylch mannau chwarae - dim ond cynnal asesiad fesul safle. Cadarnhaodd y Swyddog mai’r arfer oedd ceisio cadw unrhyw ffrwd ar agor.

 

      

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd J.V. Owen bod modd lleddfu’r gwrthwynebiadau petai darpariaeth yn y datblygiad hwn ar gyfer cae chwarae.

 

      

 

     Yma nododd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol bod trafodaethau’r Pwyllgor yn dangos yn amlwg bod y Pwyllgor yn derbyn yr egwyddor o ddatblygu yn yr ardal hon.  Ond roedd y pryderon yn ymwneud â chyfraniad o £5,000 tuag at gyfleusterau i’r gymuned - a pheidio â dychwelyd yr arian ar ôl canfod nad yw’r datblygiad yn cael effaith ar draffig.  Awgrymodd y dylid gohirio ystyried y cais a chreu’r cyfle i Swyddogion gynnal rhagor o drafodaethau gyda’r datblygwr ynghylch y materion a godwyd.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Selwyn Williams cafwyd cynnig i ohirio ystyried y cais fel bod Swyddogion yn mynd i drafodaethau gyda’r datblygwr ynghylch y materion a gododd yn ystod y drafodaeth - cafodd ei eilio gan y Cynghorydd H.W. Thomas.

 

      

 

     PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais a chreu cyfle i Swyddogion drafod, gyda’r datblygwr, y materion hynny a gododd yn y cyfarfod ac a nodwyd uchod.

 

      

 

6.3     46/C/263 - Cais llawn am ddatblygiad sy’n cynnwys 51 caban pren i’w hadeiladu yn raddol fesul 5 cam ynghyd â chodi derbynfa, cau’r fynedfa bresennol i’r safle oddi ar Ffordd Ravenspoint a chreu mynedfa i gerbydau ac i gerddwyr oddi ar Lôn St. Ffraid ar dir ger  Parc Carafannau Tyn Tywyn, Bae Trearddur

 

      

 

     (Cafwyd datganiadau o ddiddordeb yn y cais hwn gan y Cynghorwyr Eric Roberts a Selwyn Williams a gadawodd y ddau y cyfarfod am y drafodaeth).

 

      

 

     Penderfynodd y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gafwyd ar 7 Ebrill, 2010 ymweld â’r safle cyn gwneud benderfyniad arno.  Fe ymwelwyd â’r safle ar 21 Ebrill, 2010.

 

      

 

     Mae’r safle ger Lôn St. Ffraid B4545 ac yn dir heb ei ddatblygu rhwng Parciau Carafannau Ty’n Tywyn a Bagnol.  Ar y ddau safle mae carafannau sefydlog.  Hefyd mae Bagnol yn derbyn carafannau teithiol a gwersyllwyr.  Diwygiwyd y cais ers ei gyflwyno gyntaf a hynny er mwyn darparu manylion llawn am y fynedfa a’r llain gwelededd a diwygio’r bloc croesawu (y bwriad gwreiddiol oedd symud y bloc croesawu presennol o Bagnol ond yn awr cafodd yr adeilad hwn ei ailddylunio fel adeilad o deip siale bychan), diwygiwyd y cloddiau pridd arfaethedig a’r llecyn i’w dirlunio sy’n gyfochrog gyda’r B4545 a symudwyd rhai sialetau ymhellach i’r safle na’r gwreiddiol.  

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y datblygiad arfaethedig hwn yn un a gyflwynir fesul cam dros gyfnod o 5 mlynedd.  Gyda’r cais cyflwynwyd Datganiad Amgylcheddol.  Yr ystyriaethau pwysicaf yw’r effaith weledol a’r effaith ar bleserau preswylwyr ynghyd â diogelwch y briffordd.  Mae cryn ddiddordeb yn lleol yn y cais a chafwyd 115 o lythyrau o wrthwynebiad.  Yn y Cynllun Datblygu mae polisïau sy’n caniatáu ar gyfer datblygu llety gwyliau a gwella cyfleusterau i dwristiaid.  Ond hefyd yn y polisiau dan y Cynllun Datblygu ceisir diogelu’r tirwedd a’r cyfleusterau / pleserau lleol.  Mae’r safle ar dir sydd heb ei ddatblygu a rhwng tai ger Lôn Crecrist a’r prif bentref yn Ffordd Ravenspoint.  Union gyferbyn â Graig Eithin bwriedir darparu mynedfa newydd ac o boptu bwriedir darparu tomenni o bridd wedi’u tirlunio er mwyn cuddio’r datblygiad o’r lôn.  Mae adar amrywiol yn nythu ar y safle, mae yno foch daear a llwyni / planhigion o bwys ond nid oes yno unrhyw rywogaethau prin.  Gyda’r caniatâd bwriedir gwneud cytundeb dan Adran 106 i liniaru unrhyw effaith ar y cyffiniau.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

     Nododd y Swyddog bod Asesiad Trafnidiaeth wedi’i gyflwyno gyda’r cais a hwnnw wedi’i baratoi gan Gynghorwyr Priffyrdd ac wedi’i ymgorffori yn y Datganiad Amgylcheddol.  Dan y cynllun bydd y traffig a fuasai fel arfer yn defnyddio Ffordd Ravenspoint i safle Bagnol yn cael eu troi at fynedfa newydd ar Lôn St. Ffraid bydd honno yn cael ei chodi yn ôl safonau technegol priodol.  Roedd yn nodi bod y Cyngor o’r farn na fydd y system draffig newydd yn cael effaith andwyol ar rwydwaith Priffyrdd yr ardal. Aeth y Rheolwr Rheoli Cynllunio ymlaen i ddweud mai 1 swydd amser llawn a 5 swydd rhan amser yn unig a geir yn sgil y datblygiad ond credai bod datblygiad o’r fath yn mynd i gyfrannu at yr economi leol.

 

      

 

     Roedd yr awdurdod cynllunio lleol wedi trafod, gyda’r ymgeisydd a’i asiant, y manteision i’r gymuned yn gyffredinol - pethau megis cyfraniad tuag at ddarparu llwybr troed lle bynnag y mae hynny’n bosib y tu mewn i’r briffordd ar Ffordd Ravenspoint a darparu man croesi i hyrwyddo diogelwch a gwella’r cyfleusterau’n gyffredinol i gerddwyr. Ond hefyd bydd y cais hwn yn symud rhywfaint o’r traffig o’r llwybr hwn ar ôl cau’r fynedfa i safle Bagnol.  Ceir cyfraniad tuag at adnewyddu’r toiledau cyhoeddus ar Lôn St. Ffraid;  cyfraniad tuag at gyfleusterau chwarae cyhoeddus ar Lôn Isallt; lledu’r ffordd a darparu cilfan i fysus ar Lôn St. Ffraid ger ffrynt y safle er mwyn hwyluso symudiad dirwystr y traffig a hefyd i bwrpas rheoli cynefin ar weddill y tir sy’n eiddo i’r ymgeisydd a hynny er lles cyffredinol bywyd gwyllt yn yr ardal - yn ychwanegol at beth bynnag a gynigir ar safle’r cais ei hun.  Bwriedir sicrhau’r manteision hyn trwy gytundeb dan Adran 106.  

 

      

 

     Wedyn soniodd y Rheolwr Rheoli Datblygu y buasai’r cynllun yn cael rhywfaint o effaith ar yr ardal ond gyda’r amodau angenrheidiol roedd yr awdurdod yn medru cefnogi’r cais gyda chytundeb dan Adran 106.

 

      

 

     Ar ran yr Aelod Lleol, y Cynghorydd Eric Roberts, dywedodd y Cynghorydd G.O. Parry MBE iddo ofyn i’r Swyddogion ddarparu argraff artist o’r safle ar ôl cwblhau’r gwaith a hefyd am Fap Arolwg Ordnans yn dangos yr holl feysydd carafanau yn Nhrearddur - yn enwedig yn ardal safle’r cais gerbron a hynny oherwydd pwysigrwydd dangos beth yw dwysedd y carafanau yn y cyffiniau. Hefyd buasai o fudd cael darlun o’r awyr yn dangos y safleoedd carafanau yn yr ardal.

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd Parry a oedd y syniad o fantais gynllunio i’r gymuned wedi’i drafod gyda’r Cyngor Cymuned a Chymdeithas Leol y Preswylwyr?  Dros y blynyddoedd roedd  Trearddur wedi gweld datblygiadau hwnt ac yma dros y lle.  Roedd yno sawl darn bychan o dir gyda chaniatâd cynllunio - o leiaf 120 o unedau.  Camgymeriad oedd caniatáu datblygiadau yma ac acw fesul dipyn.

 

      

 

     Yn y pentref roedd ardaloedd da i fyw ynddynt - a’r preswylwyr yn pryderu am y datblygiad hwn oherwydd ei effaith ar y gwasanaethau sylfaenol yn lleol.  Roedd y gwasanaethau hynny’n wan.  Yn ystod tymor yr ymwelwyr mae pwysau’r dwr i’r cartrefi lleol yn is, hefyd maent yn colli trydan yn aml oherwydd gormod o bwysau ar y system.  Mae yno hefyd bryderon am allu’r garthffos i dderbyn datblygiadau ychwanegol.  Pan ddarparwyd system garthffosiaeth Caergybi bron i ddeng mlynedd yn ôl credwyd ar y pryd y buasai’n rhaid ei gwella rywbryd tua’r amser yma.  Efallai bod pethau da yn y cais ond nid dyma’r amser i’w gyflwyno oherwydd gwendid y gwasanaethau sylfaenol.

 

      

 

     Mynegwyd pryderon ynghylch y bwriad i gau mynedfa Bagnol i Ffordd Ravenspoint ac yn ei lle ddarparu mynedfa ar y B4545.  Y B4545 yw’r brif lôn i Drearddur, Porthdafarch a Chaergybi.  Mae arni bwysau traffig sylweddol yn yr haf a hynny’n cynnwys trelars cychod, carafanau, loriau’n cyflenwi defnyddiau a’r traffig arferol i dref glan môr.  Mae’r fynedfa newydd mewn man peryglus ar ffordd beryglus a gall y bobl leol dystio i hynny.  i ddatrys y materion hyn rhaid i’r Cyngor gysylltu gyda’r gymuned ac ystyried pa waith gwella y mae’n rhaid ei wneud ar rwydwaith y ffyrdd i Ffordd Ravenspoint ac ymlaen tua’r meysydd carafanau a Lôn Crecrist.  Hefyd rhaid ystyried manteision - pwysau a mesur y cyfleusterau i’r ymwelwyr ac i bobl leol.  Rhaid ystyried twf a datblygiad Trearddur mewn ffordd gytbwys fel bod y boblogaeth leol a’r economi dwristaidd yn cael bendithion a hefyd sicrhau bod modd rheoli’n briodol y cynnydd yn y pwysau tymhorol.

 

      

 

     Nododd y Cynghorydd Parry bod Cyfarwyddwyr Cynllunio y gorffennol o’r farn y buasai datblygiad ar y darn gwyrdd rhwng Craig Eithin a Lôn y Bryn yn ddrwg i amgylchedd Trearddur a bod angen ei ddiogelu.  Ar gorn hynny fe ddylid gwrthod y cais.

 

      

 

     Bydd colli darn sylweddol o’r tir a’r cynefin naturiol yn achosi difrod parhaol i fywyd gwyllt yn yr ardal.  Ni all unrhyw waith adfer na lleddfu, faint bynnag o waith a wneir, ddod ag amrywiaeth y rhywogaethau’n ôl.  Efallai y bydd y ponciau yn cuddio’r datblygiad ond fel all y rheini ddatblygu’n bethau hyll a blêr onid oes gwaith rheoli llym yn cael ei wneud bob amser.  Roedd y preswylwyr wedi cyflwyno eu cwynion yn ddiamwys.  Yn lleol mae teimlad o ofn oherwydd datblygiad a all newid Trearddur yn llwyr.

 

 

 

        Aeth y Cynghorydd Parry ymlaen i ddyfynnu’r Cynllun Datblygu Lleol:

 

      

 

     “Anelu at batrymau datblygiad all ddarparu amgylchiadau fydd yn annog ac yn cynnal identiti unigryw yr Ynys”

 

      

 

     “Mae’r Cynllun Datblygu Lleol â diddordeb yn lles y cymunedau lleol a bydd raid integreiddio unrhyw dai newydd gydag anghenion yr iaith Gymraeg a’r amgylchedd lleol.”

 

      

 

     “Nid yw’r Cyngor yn dymuno gweld carafanau sefydlog na chabanau gwyliau yn ymledu fel rhan o’r polisi o arallgyfeirio, ……..”

 

      

 

     “Bydd unrhyw ddatblygiad newydd yn rhoddi sylw i gymeriad tirlun y safle a’i osodiad er mwyn sicrhau bod y datblygiad hwnnw yn medru cael ei dderbyn heb iddo gael effaith andwyol sylweddol ar dirwedd yr Ynys.”

 

      

 

     Credai’r Cynghorydd Parry bod yma ddigon o resymau i wrthod y cais oherwydd y materion hynny na chafodd sylw yn yr adroddiad ac yn y cyflwyniad.  Yr effaith weledol, difrod i gynefin; boddi’r lle gyda meysydd carafanau; mynediad a materion traffig; gwendid y gwasanaethau sylfaenol.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd H.W. Thomas yn croesawu cais o’r fath oherwydd bod angen gwella llety gwyliau i dwristiaid ar yr Ynys.  Yn ogsytal credai y buasai’r datblygiad yn hyrwyddo economi’r ardal ac o’r herwydd roedd am gefnogi’r cais.  

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd J. Arwel Roberts yn pryderu oherwydd maint y datblygiad - petai hwn yn gais am garafanau sefydlog yn lle cabanau coed buasai’n pleidleisio i wrthod.  Cyfeiriodd y Cynghorydd Roberts at Dudalennau 40 - 41 yr adroddiad, lle dywedir  “ ...................... symudiadau cerbydau prysur o 89 yr awr ar y Sadyrnau ac ar y lôn hon sydd yn gul yn droellog a heb lwybr i gerddwyr a hefyd mae’r gwelededd yn is na’r safon yn y gyffordd gyda Lôn St. Ffraid.   “..................... prin y bydd lefel y traffig hwnnw sydd yn gwbl newydd ac yn defnyddio’r rhwydwaith priffyrdd yn sgil y datblygiad arfaethedig yn cael effaith fawr ar y sefyllfa (21 o gerbydau ar yr awr brysuraf).  Roedd yn pryderu oherwydd pwysau’r traffig sylweddol iawn a hynny oherwydd bod rhagor o feysydd carafanau yn yr ardal  : Tyn Rhos, Bagnol a Lees.   Mewn ymateb dywedodd yr Uwch Beiriannydd (Rheoli Datblygu) y bydd y fynedfa newydd yn cynnwys lleiniau gwelededd gan gydymffurfio gyda chanllawiau Llywodraeth Cynulliad Cymru (TAN 18).  Bydd yr 89 o symudiadau traffig bob awr ar yr adeg brysuraf ddydd Sadwrn yn Ffordd Ravenspoint, fel y cyfeiriwyd at hynny, yn symud i’r B4545, ac felly hon yw’r fantais gynllunio a ddaw hefo’r cais.

 

      

 

     Ar ôl ymweld â’r safle credai’r Cynghorydd T.H. Jones mai dyluniad y datblygiad yw’r elfen bwysicaf os ydyw am weddu i’r cyffiniau.  Credai bod y safle ar hyn o bryd wedi’i ddatblygu’n dda, hynny ydyw waliau cerrig etc a’r rheini yn gweddu i’r ardal.  Trôdd y Cynghorydd Jones at Dudalen 41 yr adroddiad lle cyfeirir at fanteision i’r gymuned yn gyffredinol ac roedd yn cefnogi’r cais ond roedd ar ddeall bod y gymuned leol wedi gofyn am ragor o drafodaethau yng nghyswllt y datblygiad.  Mewn ymateb dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio i’r awdurdod gysylltu’n swyddogol gyda Chyngor Cymuned Trearddur i dderbyn sylwadau ar y cais.  Hefyd roedd Swyddog yr Achos wedi siarad gyda Chadeirydd y Cyngor Cymuned ond ni chafwyd unrhyw ymateb.  O’r herwydd cymerwyd yn ganiataol nad oedd y Cyngor Cymuned yn dymuno trafod mwy ar y cais.

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd W.J. Chorlton beth effaith y datblygiad hwn ar breswylwyr sy’n byw’n agos iddo - oherwydd barbiciws, partïon etc.  Mewn ymateb dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio iddo roddi sylw gofalus i leoliad y cabanau pren hyn ac yn ystod yr ymweliad â’r safle gwelodd yr aelodau y carafanau sefydlog presennol ar y safle; ni chredai y buasai’r cabanau pren hyn yn nes i’r tai sydd yno na’r cabanau presennol.  Aeth ymlaen i sôn y buasai gwaith rheoli’r safle yng nghyswllt swn etc yn gyfrifoldeb Rheolwr y Safle.

 

      

 

     Siom i’r Cynghorydd G.O. Parry MBE oedd clywed beth oedd y manteision cynllunio i’r datblygiad a bod y toiledau sydd yn Nhrearddur, rhai sydd i fod i gael eu cynnal gan y Cyngor Sir, ar gau am y rhan helaethaf o’r flwyddyn.  Roedd y gysgodfan bysus y bwriedir ei darparu rhyw 100 llath oddi wrth ddau gysod o boptu’r ffordd i’r fynedfa i’r safle hwn.  Mae’r datblygiad arfaethedig yn cyfateb i gost o £5-£6 miliwn; a phrin bod yma unrhyw gyfle am waith a manteision economaidd i’r ddwy siop fechan yn Nhrearddur.  Soniodd eto am y problemau gyda’r orsaf bwmpio carthffosiaeth a’r llifogydd yn yr ardal.  Credai’r  Cynghorydd Parry bod y gwrthwynebwyr lleol wedi cyflwyno achos teg o ran ystyried beth fydd effaith y datblygiad hwn ar yr ardal.

 

      

 

     Ond roedd y Cynghorydd H.W. Thomas yn dymuno llongyfarch yr Adran Gynllunio, am sicrhau’r manteision cynllunio i’r gymuned a chynigiodd ganiatáu.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd T.H. Jones cafwyd cynnig i ganiatáu’r cais ond gyda’r amod bod rhaid cryfhau’r manteision i’r gymuned o ran cyfleusterau chwarae i’r cyhoedd yn Nhrearddur, hefyd bod £60k yn cael ei roddi dan gytundeb Adran 106 tuag at gyfleusterau chwarae.  Cafodd y cynnig ei eilio gan y Cynghorydd J.P. Williams ond hefyd roedd am ofyn i’r Swyddogion drafod gyda’r datblygwyr gyfraniad o £60k tuag at gyfleusterau chwarae yn yr ardal.

 

      

 

     Pleidleisiodd y rhain o blaid y gwelliant : Y Cynghorwyr W.J. Chorlton, Lewis Davies, Jim Evans, K.P. Hughes, T.H. Jones, R.L. Owen, J.P. Williams.              (Cyfanswm 7)

 

      

 

     Pleidleisiodd y rhain o blaid yr argymhelliad :Y Cynghorwyr J. Arwel Roberts, H.W. Thomas.

 

                                                                                                                  (Cyfanswm 2)

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y Swyddog a’r argymhelliad o ganiatáu gyda’r amod bod Swyddogion yn cael rhagor o drafodaethau gyda’r datblygwyr a gofyn am gyfraniad hyd at £60k tuag at gyfleusterau chwarae yn yr ardal.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd O. Glyn Jones yn dymuno cofnodi na fu’n rhan o’r trafodaethau na’r pleidleisio ar yr eitem hon a hynny oherwydd na fu ar yr ymweliad â’r safle.

 

      

 

7

CEISIADAU ECONOMAIDD

 

      

 

     Nid oedd yna unrhyw geisiadau economaidd i’w penderfynu yn y cyfarfod.

 

8     CEISIADAU TAI FFORDDIADWY

 

      

 

     Nid oedd yna unrhyw geisiadau tai fforddiadwy i’w penderfynu yn y  cyfarfod.

 

      

 

9     CEISIADAU’N GWYRO

 

      

 

9.1     25/C/205 - Cais amlinellol ar gyfer codi annedd ynghyd â chreu mynedfa newydd a gosod sustem breifat i drin carthffosiaeth ar dir ger Tyddyn Waen, Lôn Clorach, Llannerch-y-medd

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno gan fod y cais yn tynnu’n groes i’r Cynllun Datblygu ond fe ellir ei gefnogi o dan dermau’r Cynllun Datblygu Unedol.  Mae’r safle gerllaw annedd arall ac mae wedi’i integreiddio’n dda i mewn i’r anheddiad oherwydd ei fod yn union gyfagos i annedd gydag un arall gyferbyn.  Ni fydd y mwynderau preswyl na mwynderau gweledol yn cael eu niweidio’n fawr.

 

      

 

     Yma nododd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod angen diwygio Amod (1) yr adroddiad i ddarllen “ni chaniateir dechrau gweithio ar y datblygiad hyd nes derbyn caniatâd i’r holl faterion wrth gefn ...”.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y Swyddog a’r argymhelliad i ganiatáu ond gyda’r amodau yn yr adroddiad, a chan gynnwys diwygiad i Amod (1) fel a nodwyd uchod

 

      

 

9.2     46/C/14H/1 - Cais llawn ar gyfer codi 33 o anheddau ar Safle Fflatiau Cliff, Bae Trearddur

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno ar ofyn yr Aelod Lleol.  Mae hwn yn gais llawn am ddatblygiad preswyl ar dir yng Ngwesty’r Cliff sef 33 annedd, gyda rhan o’r safle o fewn complecs y gwesty (ac o fewn ffin y Cynllun Lleol) ac yn rhannol ar dir gerllaw Lôn Isallt (y tu allan i ffin y pentref yn y Cynllun Lleol ond o fewn y ffin yn y Cynllun Datblygu Unedol a Stopiwyd).  Bydd y fynedfa i gerbydau trwy’r brif fynedfa bresennol i’r gwesty oddi ar Lôn Isallt.  

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod  llythyr wedi dod i law oddi wrth Gyngor Cymuned Trearddur yn gofyn am gyfarfod gyda Swyddogion yr Awdurdod Cynllunio Lleol cyn gwneud penderfyniad ar y cais.

 

      

 

     Yn y cyfamser gofynnodd yr Aelod Lleol am ymweliad â’r safle.

 

      

 

     PENDERFYNWYD cael ymweliad â’r safle yn unol â chais yr Aelod Lleol.

 

      

 

9.3     46/C/176F - Cais llawn ar gyfer codi annedd a modurdy dwbl ar dir ger Trearddur Mews, Lôn Trefignath, Bae Trearddur

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno gan ei fod yn tynnu’n groes i bolisiau ar dai. Mae’r safle ar Lôn Trefignath sy’n rhedeg rhwng anheddiad Trearddur a Chaergybi ger y fynedfa i’r datblygiad a elwir yn Trearddur Mews.  Mae’r safle yn y cefn gwald agored o fewn dynodiad yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.  Cais llawn yw hwn am ddyluniad wedi’i ddiwygio am un annedd.  

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y Swyddog a’r argymhelliad i ganiatáu ond gyda’r amodau yn yr adroddiad.

 

10

DATBLYGIAD GAN GYNGHORWYR A SWYDDOGION

 

      

 

10.1     11/C/549 - Addasu ac ehangu ynghyd â chreu estyniad i’r cwrtil yn 50 Maes Mona, Amlwch

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno gan fod yr ymgeisydd yn cael ei gyflogi gan yr Awdurdod Lleol.  Mae’r cais wedi ei sgriwtineiddio gan y Swyddog Monitro fel sy’n ofynnol o dan baragraff 4.6.10.4 y Cyfansoddiad.  

 

      

 

     Mae’r eiddo ar ben teras o 4 o dai a fu gynt yn rhai awdurdod lleol ar Stad Maes Mona, Amlwch.  Cynnig yw hwn i greu estyniad i gwrtil domestig a chodi ports ar ochr yr eiddo ac estyniad unllawr i’r gegin yn y cefn.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y Swyddog a’r argymhelliad i ganiatáu ond gyda’r amodau yn yr adroddiad.

 

      

 

10.2     30/C/695 - Dymchwel, addasu ac ehangu yn Bryn Arfon, Benllech

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno gan fod y cais wedi cael ei gyflwyno gan Gynghorydd.  Mae’r cais wedi ei sgriwtineiddio gan y Swyddog Monitro fel sy’n ofynnol o dan baragraff 4.6.10.4 y Cyfansoddiad.

 

      

 

     Cynnig yw hwn i godi estyniad mawr ar ochr yr eiddo pâr.  Ystyrir bod lleoliad, dyluniad, maint a deunyddiau’r estyniad arfaethedig yn dderbyniol ac ni chredir bydd yr estyniad arfaethedig yn cael effaith annerbyniol ar fwynderau eiddo preswyl cyfagos oherwydd edrych drosodd, gorgysgodi, dominyddu neu golli preifatrwydd.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y Swyddog a’r argymhelliad i ganiatáu ond gyda’r amodau yn yr adroddiad.

 

      

 

11

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

11.1     11/LPA/896A/CC - Cais amlinellol ar gyfer datblygiad trigiannol ynghyd â chreu mynedfa newydd ar dir tu cefn i Maes Mona, Amlwch

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor oherwydd mai Cyngor Sir Ynys Môn yw’r ymgeisydd a pherchennog y tir.

 

      

 

     Mae safle’r cais yn cynnwys rhan o ardd eiddo preswyl yn Graig-wen a’r caeau amaethyddol rhwng yr eiddo hwn a Maes Mona tua’r de.   Cais cynllunio amlinellol yw hwn sy’n cynnwys arwynebedd o 1.80 hectar ac mae’n gais am hyd at 41 annedd gyda 30% ohonynt i fod yn dai fforddiadwy.   Ynghyd â’r cais fe geir cynllun gosodiad i’r datblygiad yn dangos 41 o unedau preswyl; cynllun manwl o’r fynedfa i gerbydau i’r A5025, Ffordd Porth Llechog yn cynnwys y lleiniau gwelededd arfaethedig; adroddiad sgopio ecolegol: datganiad dyluniad a chynaliadwyaeth a manylion draenio carthffosiaeth a dwr wyneb.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio iddo dderbyn Datganiad ar yr Iaith Gymraeg a Chanlyniadau’r Prawf Sugno a’r argymhelliad felly yw un o ganiatau.

 

      

 

     Cyfeiriodd y Cynghorydd Selwyn Williams at Dudalen 85 yr adroddiad a sylwi bod llythyrau o wrthwynebiad i’r bwriad i dorri coed i lawr ar ffiniau’r safle.  Wedyn aeth ymlaen i ofyn a wnaed unrhyw Orchmynion Diogelu Coed ar y coed penodol hyn.  Mewn ymateb dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio i’r coed gael eu hasesu gan y Swyddog priodol a chadarnhau nad oedd Gorchymyn ar unrhyw un o’r coed penodol hyn.  Ond, cyfeiriodd at Amod (13) ar Dudalen 82 yr adroddiad yn nodi y bydd unrhyw goed pwysig ar y safle yn cael eu diogelu.

 

      

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y Swyddog a’r argymhelliad i ganiatáu ond gyda’r amodau yn yr adroddiad.

 

      

 

11.2     19/C/29U - Codi ffens 2 medr o uchder yn 1 Yr Ogof, Kingsland, Caergybi

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr  Aelod Lleol.

 

      

 

     Cynnig yw hwn i godi ffens panel coed 2 fetr o uchder gyda phostiau concrid, ger y briffordd.  Y prif faterion i’w hystyried yw diogelwch y briffordd ac effaith ar fwynderau eiddo cyfagos.

 

      

 

     Dywedodd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd W.J. Chorlton, ei fod yn gefnogol i’r cais gan fod yr ymgeisydd wedi cytuno i symud y ffens yn ôl a thrwy hynny sicrhau bod y fynedfa i’r stad yn ddiogel.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y Swyddog a’r argymhelliad i ganiatáu ond gyda’r amodau yn yr adroddiad.

 

      

 

11.3     20/C/255A - Cais diwygiedig ar gyfer symud annedd ar blot 1 ac amrywio lleoliad y fynedfa i gerbydau a ganiatawyd dan gais rhif 20C255 ynghyd â dileu amod (19) o’r un caniatad sy’n gofyn am ddarparu llwybr troed 1.5 medr o led ar hyd terfyn y safle yn Water Park, Cemaes

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr Aelod Lleol.

 

      

 

     Hen ardd mewn eiddo preswyl yw safle’r cais lle rhoddwyd caniatâd cynllunio am ddau fyngalo 3 llofft math dormer.  Roedd y caniatâd yn gofyn am fynedfa i gerbydau yn y canol a phalmant 1.5 metr i ffurfio rhan o’r briffordd gyhoeddus ar hyd ffrynt safle’r cais (Amod 19).  Mae un o’r byngalos yn awr wedi’i adeiladu i raddau helaeth, ac mae cais yn cael ei wneud i amrywio’r caniatâd blaenorol trwy ddarparu’r fynedfa i gerbydau ar gornel ogleddol safle’r cais a symud y gofyn i’r palmant fod ar hyd y ffryntiad.  Argymhelliad yw gwrthod y cais.

 

      

 

     Dywedodd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd W.T. Hughes bod y cais diwygiedig yn symud y fynedfa i gerbydau i le mwy addas a hefyd y tu mewn i’r cyfyngiad 30 mya.  Roedd y Cyngor Cymuned yn gefnogol i’r cais diwygiedig a gofynnodd yr Aelod Lleol am ymweliad â’r safle fel bod yr aelodau’n cael cyfle i asesu.  Wedyn cafodd hynny ei eilio gan y Cynghorydd H.W. Thomas.

 

      

 

     Er gwaethaf y bwriad i symud y fynedfa i lecyn y tu mewn i’r cyfyngiad 30 milltir yr awr dywedodd yr Uwch Beiriannydd (Rheoli Datblygu) bod y gwelededd, yn ôl y canllawiau, yn y fynedfa arfaethedig yn dal i fod yn is na’r safonau gofynnol.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd T.H. Jones cafwyd cynnig i dderbyn yr argymhelliad a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Lewis Davies.

 

      

 

     Y rhain yw’r rhai a bleidleisiodd o blaid ymweliad â’r safle:  Y Cynghorwyr Jim Evans, W.T. Hughes, R.L. Owen, J. Arwel Roberts, H.W. Thomas, J.P. Williams, Selwyn Williams.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â’r safle yn ôl dymuniad yr Aelod Lleol.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

11.4     21/C/143 - Creu mynedfa i gerbydau yn 2 Glan Waun, Llanddaniel

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais  i’r Pwyllgor benderfynu arno gan mai’r Cyngor Sir yw’r ymgeisydd.

 

      

 

     Cynnig yw hwn i adeiladu mynedfa i gerbydau i’r eiddo elwir yn 2 Glan Waun; ar hyn o bryd, er mwyn i geir fedru mynd i mewn i’r eiddo mae’n rhaid iddynt ddefnyddio dreif 1 Glan Waun.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y Swyddog a’r argymhelliad i ganiatáu ond gyda’r amodau yn yr adroddiad.

 

      

 

11.5     30/C/398F - Newid defnydd adeilad (cyn fwthyn) i fod yn annedd ynghyd â chadw rhan o’r estyniad newydd anawdurodedig yn Ynys Ganol, Brynteg

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr Aelod Lleol a hynny oherwydd hanes y datblygiad.

 

      

 

     Cafodd Mr. Wynne Parry Griffiths, yr ymgeisydd, wahoddiad gan y Cadeirydd i annerch y Pwyllgor ac yn yr anerchiad dywedodd bod y sefyllfa hon yn un wirioneddol anodd iddo; ei unig ddymuniad oedd addasu ac ymestyn Ynys Ganol yn unol â Pholisi 55 i ddibenion ei deulu.  Cafodd sicrwydd gan ei Ymgynghorydd bod y cynnig yn cydymffurfio gyda Pholisi 55.   Soniodd Mr. Griffiths ei fod yn methu â chael caniatâd cynllunio gan Swyddogion am eu bod nhw yn methu deall rhesymeg ei ddadl.  Yn ôl ei Ymgynghorwyr roedd y Swyddogion yn dal wrth yr hen benderfyniadau a’r rheini yn amlwg yn anghywir.  Fel ymgeisydd roedd wedi rhoi’r cais diwethaf hwn wrth ei gilydd yn ofalus dros ben; roedd y cynnig yn gwbl wahanol i’r un yr apeliodd yn ei gylch o’r blaen.  Aeth i drafferthion gwirioneddol i geisio profi’r achos; bydd dyluniad y bwthyn yn wirioneddol wledig a thraddodiadol a’r estyniad yn cyfateb i 36% yn unig.  Buasai’n tynnu i lawr ac yn ailgodi 6% o’r hen adeilad a hynny am yr unig reswm bod y lintanau’n pydru.  Hefyd cyflwynwyd datganiad manwl ar y dulliau yn egluro sut y bydd yr ymgeisydd yn delio gyda phob carreg o’r bwthyn; ymchwiliwyd i 25 o geisiadau eraill i addasu a fu gerbron y Cyngor ac a gafodd ei ganiatâd.  Yn ôl Mr. Griffiths roedd hyn yn profi nad oedd ei gynnig ef mor eithafol, o bell ffordd, â rhai o’r rheini y rhoddwyd caniatâd iddynt.  Gofynnodd am i’r Swyddogion perthnasol gael eu cwestiynu ynghylch cysondeb.  Cyfeiriodd yn benodol at waith addasu y rhoddwyd caniatâd iddo yn Llain Feurig, Bryngwran a Bron Wen, Llantrisant.  Credai Mr. Griffiths nad oedd cysondeb yma a hynny yn peri annhegwch ac yn erbyn hawliau dynol.  Aeth ymlaen i ddweud bod dyfodol ei deulu yn dibynnu ar gael caniatâd i’r cais hwn.

 

      

 

     Soniodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod hanes o wrthod i’r safle; a bod y cais gerbron yn dilyn dwy apêl a wrthodwyd ac wrth geisio datrys y gwrthwynebiadau sylfaenol i’r cynllun daliwyd y caniatâd cynllunio yn ôl a chymerwyd camau gorfodaeth.  Dan y cynllun presennol mae’r annedd heb ganiatâd yn aros, ac mewn gwirionedd yn estyniad yn y gwaith addasu.  Mae’r adeilad sydd i’w addasu yn rhan o’r cynnig y gwrthodwyd caniatâd cynllunio iddo ac a wrthodwyd hefyd mewn apêl wedyn.  Yn ei adroddiad mae’r Arolygydd yn yr apêl yn dweud ‘............. concluded that the proposed development would involve extensive rebuilding of the original building, contrary to the thrust of Local Plan policy 55 and UDP policy HP8’.  Felly mae person annibynnol wedi goruchwylio penderfyniadau Swyddogion yr awdurdod hwn ynghylch y datblygiad.

 

      

 

     Er bod y Swyddog yn cydymdeimlo gyda sefyllfa ac amgylchiadau’r ymgeisydd ni all awdurdod cynllunio ddelio gyda cheisiadau yn seiliedig ar ystyriaethau personol; rhaid seilio penderfyniad ar egwyddor defnydd tir ac ystyriaethau cynllunio megis y polisïau presennol.  Dywedodd bod Swyddogion yr Awdurdod Cynllunio o’r farn bod y cais gerbron yn groes i bolisiau perthnasol ac felly yr argymhelliad oedd gwrthod.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

     Credai’r Aelod Lleol, y Cynghorydd B. Durkin, bod yr Aelodau, yn ystod ymweliad safleoedd o’r blaen, wedi gweld y lle penodol hwn.  Aeth ymlaen i ddweud bod y ty ym mhen pellaf lôn fechan yn y cefn gwlad ac union ger safle diwydiannol sy’n delio gyda gwastraff o ladd-dai.  Hefyd soniodd bod nifer o geisiadau cyffelyb wedi bod gerbron y Pwyllgor hwn a’r Swyddogion wedi argymell gwrthod ond hefyd roedd nifer gyffelyb o geisiadau wedi’u cymeradwyo gan y Pwyllgor.

 

      

 

     Dywedodd bod cais yng nghyswllt y safle wedi’i gyflwyno i’r awdurdod cynllunio yn 1971 i altro ac ymestyn yr adeilad a chafodd y cais hwnnw ei ganiatáu. Yn Awst 2000 cyflwynwyd cais i addasu’r adeiladau allanol - eu troi’n dy - a chafodd hynny ei ganiatáu.  Ond yn dilyn y ceisiadau hynny cafodd ceisiadau eraill eu tynnu’n ôl a’u gwrthod.  Awgrymodd yr Aelod Lleol y dylid rhoddi caniatâd i’r cais gerbron y Pwyllgor.

 

      

 

     Mewn ymateb dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio i’r Pwyllgor nodi hanes cynllunio diweddar y lle: gwrthodiad yn1999 a gwrthod apêl; gwrthodiad yn 2006 a chamau gorfodaeth yn 2007; gwrthodiad yn 2008 a gwrthod apêl yn 2009.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd W.J. Chorlton bod raid ystyried pob cais fesul un a bod gan yr awdurdod swyddogion proffesiynol sy’n defnyddio polisiau a luniwyd gan yr awdurdod a bod raid glynu wrth y polisïau.  Yn seiliedig ar hanes yn unig dywedodd y buasai’n anodd iawn caniatáu ac aeth ymlaen i gynnig gwrthod y cais.  Cafodd ei eilio gan y Cynghorydd Lewis Davies.

 

      

 

     Holi a wnaeth y Cynghorydd T.H. Jones a oedd y Swyddogion yn tybio bod hwn yn ddyluniad priodol ac mewn ymateb dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod yr adeilad, mae’n debyg, yn addas i’w addasu.  

 

      

 

     Am nad oedd yn bresennol pan ddechreuwyd trafod y cais roedd y Cynghorydd Hefin Thomas am gofnodi na chymerodd ran yn y drafodaeth na’r pleidleisio.

 

      

 

     PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.

 

      

 

11.6     34/C/510J/AD - Codi un arwydd totem heb ei oleuo yn Storfa Fwyd Aldi, Llangefni

 

      

 

     (Gwnaeth y Cynghorydd Selwyn Williams ddatganiad o ddiddordeb yn y cais ond arhosodd yn y cyfarfod.  Ond nid oedd yn rhan o’r drafodaeth nac o’r pleidleisio).

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor benderfynu arno gan mai’r Cyngor yw perchennog y tir.

 

      

 

     Cais yw hwn i godi 1 arwydd totem; arwydd totem heb ei oleuo yn mesur 6 medr o uchder a 2.5 medr o led.  Y prawf wrth ystyried effaith hysbysebion ar fwynderau yw a fydd yn cael effaith niweidiol ar edrychiad yr adeilad, neu ar y gymdogaeth o’i gwmpas, y lle y mae i’w arddangos a’r effaith ar ddiogelwch y cyhoedd.  

 

      

 

     Rhoes y Cadeirydd groeso i Mr. Rhys Davies annerch y Pwyllgor ac aeth ef ymlaen i ddweud bod yr arwydd totem yn hanfodol i Siop Aldi a rhoi’r cyfle iddynt ddarparu arwyddion ar ffordd y stad ddiwydiannol.  Y rhesymau am wrthod yn adroddiad y Swyddog yw y buasai’r arwydd yn ymddangos yn ddieithr ac yn amlwg oherwydd ei godi draw oddi wrth y siop.  Ond yn ôl Mr Davies nid oedd yr arwydd yn bell o’r siop o gwbl - buasai union ger y brif fynedfa i Siop Aldi o gyfeiriad ffordd y stad ddiwydiannol.  Buasai’r arwydd cyn agosed ag y bo’n bosib i ffiniau’r fynedfa sy’n gwasanaethu siopau Aldi a Lidl.  Mae’n hanfodol bod cwsmeriaid yn ymwybodol o fodolaeth Siop Aldi pan fo’r rheini yn teithio ar y stad ddiwydiannol ac o gofio bod gan Siop Lidl arwyddion amlwg ar y ffordd honno.  Mae’r egwyddor o godi arwydd totem yn y lleoliad hwn wedi’i chydnabod trwy roddi caniatâd i Siop Lidl symud ei harwydd totem hi i’r lle hwn.  Hefyd, mae’r Cyngor fel perchennog tir, wedi cytuno i leoliad arwydd Aldi.  Nid yw siop Aldi yn gwneud cystal ag a dybiwyd ar y dechrau ac o’r herwydd mae yma beryglon i swyddi.  Mae’r busnes yn llai na’r disgwyl i’w briodoli’n bennaf i’r ffaith ei bod o’r golwg o’r brif ffordd.  i sicrhau bod Aldi yn medru cystadlu yn deg mae’n hanfodol bod cwsmeriaid yn gwybod amdani pan fo’r rheini yn teithio ar draws y stad ddiwydiannol; buasai peth o’r fath yn caniatáu cystadleuaeth deg ac yn osgoi rhoddi mantais fasnachol i un siop.  Pan roddwyd caniatâd siop Aldi gyntaf roedd modd ei gweld o’r ffordd.  Ond bellach cafodd ei chuddio gan res o goed coniffer a blannwyd gan Lidl ac o’r oherwydd mae hi’n bwysicach byth bod Aldi yn cael arwyddion ar ei phrif fynedfa i’r ffordd gyhoeddus.  Roedd Mr Davies yn gobeithio y medrai’r Pwyllgor gefnogi’r cais.

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd Chorlton i Mr. Davies a fu ef mewn cyswllt gyda’r Adran Gynllunio i drafod unrhyw lecyn addas i’r arwydd penodol hwn ac mewn ymateb dywedodd Mr. Davies bod trafodaethau wedi’u cynnal pan gyflwynwyd y cais i godi’r siop i’r Adran Gynllunio.  Ar y pryd roedd ffordd yn mynd heibio i’r fynedfa i’r siop ond bellach cafodd honno ei chau gan y Cyngor.  Nododd Mr. Davies mai hwn yw’r unig leoliad lle bydd modd codi arwydd.  

 

      

 

     Gan y Cynghorydd J. Arwel Roberts cafwyd cynnig i ganiatáu a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd W.J. Chorlton.

 

      

 

     Pwysleisiodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y cais gerbron wedi’i wrthod dair gwaith o’r blaen a’r argymhelliad o hyd oedd gwrthod.

 

      

 

     Soniodd y Cynghorydd O. Glyn Jones mai un gwrthwynebiad yn unig a gafwyd i’r cais - sef gan siop Aldi, y prif gystadleuydd.  Aeth ymlaen i son bod peth wmbredd o arwyddion ar ffordd y stad ddiwydiannol - rhai tebyg i’r arwydd hwn - ac mae’r siop wedi creu swyddi yn Llangefni.  Roedd y Cynghorydd Jones hefyd yn gefnogol i’r cais.

 

      

 

     Roedd y pleidleisio fel a ganlyn :-

 

      

 

     Derbyn adroddiad y Swyddog a’r argymhelliad o wrthod : Y Cynghorwyr Lewis Davies,

 

     Jim Evans, Kenneth P. Hughes, J.P. Williams                                               (4)

 

      

 

     Cymeradwyo’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog : Y Cynghorwyr  W.J. Chorlton,

 

     W.I. Hughes, O. Glyn Jones, R.L. Owen, Eric Roberts, J. Arwel Roberts, H.W. Thomas     (7)

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog.

 

      

 

     Y rhain oedd y rhesymau a roddwyd dros ganiatáu’r cais :-

 

      

 

     Yn cydymffurfio gyda Pholisi Policy 22 ac nid yw’n groes i gymeriad y lle hwn nac yn niweidiol iddo.

 

      

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio’n awtomatig i gyfarfod nesaf y Pwyllgor fel bod y Swyddogion yn cael cyfle i baratoi adroddiad ar y rheswm dros ganiatáu.

 

      

 

11.7     46/C/14G/1 - Cais llawn ar gyfer dymchwel y ddau lawr uchaf yn yr hen floc J ynghyd â newid defnydd y llawr gwaelod i 8 fflat ynghyd â chodi modurdai preifat yn Gwesty’r Cliff, Bae Trearddur

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor gan ei fod yn cael ei benderfynu ochr yn ochr â chais 46/C/14H/1, yn ôl dymuniad yr Aelod Lleol.

 

      

 

     Cynnig yw hwn i addasu llawr isaf Gwesty’r Cliff i greu 8 o apartmentau, dymchwel yr hen lety i staff, a gosod allan 56 o lefydd parcio i geir ac ailbroffilio’r ffordd o fewn y safle.  Byddai mynedfa i’r safle trwy’r brif fynedfa bresennol oddi ar Lôn Isallt.

 

      

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod  llythyr wedi dod i law oddi wrth Gyngor Cymuned Trearddur yn gofyn am gyfarfod gyda Swyddogion yr Awdurdod Cynllunio Lleol cyn gwneud penderfyniad ar y cais.

 

      

 

     Yn y cyfamser gofynnodd yr Aelod Lleol am ymweliad â’r safle.

 

      

 

     PENDERFYNWYD cael ymweliad â’r safle yn unol â chais yr Aelod Lleol.

 

      

 

11.8     46/C/416C - Cais llawn ar gyfer codi annedd a modurdy dwbwl ynghyd a gwaith allanol cysylltiedig a thirlunio ar dir ger Parc Isallt, Bae Trearddur

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr Aelod Lleol.

 

      

 

     Mae’r safle y tu mewn i ffiniau datblygu Trearddur yng Nghynllun Lleol Ynys Môn a hefyd yn y Cynllun Datblygu Unedol a Stopiwyd.  Mae mewn llecyn uchel a thai ar dair ochr ffiniau’r safle.  Y tu cefn mae adeiladau Gwesty Trearddur.  Tua’r gogledd ac yn is i lawr mae stad o dai sef Parc Isallt, stad ac arni 14 o unedau unllawr ac un uned ddeulawr yn union ger y gyffordd i’r stad.  

 

      

 

     Cafodd Mr. R. Capon, gwrthwynebydd, wahoddiad gan y Cadeirydd i annerch y cyfarfod ac aeth ymlaen i ddweud ei fod yn cynrychioli preswylwyr Stad Isallt Park.  Soniodd wedyn bod hwn yn gais i annedd fawr ar ddarn bychan o dir sy’n gwbl annerbyniol.  Bydd yr ystafell fyw a’r balcon mawr yn edrych i lawr ar y byngalo unllawr islaw.  Petai caniatâd yn cael ei roddi yna cred preswylwyr y stad y bydd hynny’n cael effaith andwyol ar eu preifatrwydd.  Dywedodd bod y datblygwr yn ei dyb ef, wedi diystyru natur y safle a phleserau preswylwyr y stad.  Dyma a ddywed Cynllun Dylunio Ynys Môn  “....... planning permission will be granted where proposal satisfactory take into account, the size, physical character and landscape setting of the development.”  Cred preswylwyr stad Park Isallt nad yw’r cynllun hwn yn bodloni meini prawf oherwydd maint, agosrwydd, mynedfa a phreifatrwydd; hefyd oherwydd maint annerbyniol yr annedd yng nghyd-destun safle bychan iawn.  Aeth Mr. Capon ymlaen i ddweud bod preswylwyr y stad hon wedi byw am gyfnod dros bum mlynedd dan gwmwl o ansicrwydd a phryder yn sgil tri chynnig gan y datblygwr i adeiladu ar dir creigiog cwbl annerbyniol.  Roedd Mr. Capon yn gobeithio y buasai’r Pwyllgor yn gwrthod y cais.

 

      

 

     Gwahoddwyd Mrs. F. McCarten, IOM Design Ltd., ar ran yr ymgeisydd, a chan y Cadeirydd i annerch y cyfarfod.  Yn y lle cyntaf fe brynwyd yr eiddo hwn meddai Mrs. McCarten gan hap-ddatblygwr gydag amod y câi ei wasanaethu gyda ffordd sy’n cysylltu Lôn Isallt i gefn Gwesty’r  Trearddur Bay.  Cysylltwyd gyda’r ymgeisydd i edrych ar botensial y safle ac yn y pen draw rhoddwyd caniatâd i 15 o fyngalos ym Mharc Isallt.  Ar y pryd cyflogwyd Longsdale Homes fel rheolwr cyffredinol i’r prosiect yn unig; cyflogwyd adeiladwr lleol i godi’r tai.  Nid oedd ar unrhyw adeg yr un cyswllt rhwng perchennog y tir a’r prynwyr; bu raid iddo lofnodi cytundeb dan Adran 38 i ddarparu a mabwysiadu ffordd fynedfa newydd, gyrrwyd y gwaith papur at ei Gyfreithwyr a phwysodd Mr. Austin Longsdale o Longsdale Homes yn daer ar y datblygwr i lofnodi’r dogfennau.  Ond ar ôl cwblhau’r stad, ac ar ôl i’r datblygwr gael yr arian o werthu’r tai, dywedodd wrth Mr. Longsdale ei fod yn gadael a hynny am nad oedd wedi llofnodi cytundeb dan Adran 38.  Dadleuai Mr. Longsdale nad oedd hyn yn dderbyniol o gwbl gan adael perchenogion y tai newydd a wedyn y Cyngor mewn sefyllfa amhosib o orfod cwblhau’r ffordd fynedfa i Barc Isallt.

 

      

 

     Yma roedd Mrs. McCarten yn pwysleisio bod yr holl arian o werthu’r tai ar ôl eu cwblhau yn mynd yn syth i’r perchennog tir - dim ond ffioedd rheoli prosiect a dalwyd i Longsdale Homes.  Ar ôl trafodaethau gyda’r awdurdod cynllunio ynghylch y posibilrwydd o ddatblygu aeth Mr. Longsdale ati i brynu’r tir a llofnodi cytundeb newydd dan Adran 38 a chwblhau’r ffordd fynedfa newydd.  Mae Longsdale Homes, ar eu traul eu hunain, wedi cwblhau’r ffordd fynedfa i safon y safonau mabwysiadu gofynnol.

 

      

 

      

 

      

 

     Crybwyllodd y Cynghorydd W.J. Chorlton mai pryderon pennaf pobl Parc Isallt oedd maint yr adeilad a cholli preifatrwydd.  Gofynnodd a oedd modd datrys y materion hyn.  Mewn ymateb dywedodd Mrs. McCarten bod dyluniad y datblygiad arfaethedig yn seiliedig ar ymgynghori manwl gyda’r awdurdod cynllunio a bod hanes y safle yn dangos bod y raddfa a’r maint wedi’i ostwng.  Yng nghyswllt uchder yr eiddo dywedodd bod y llawr cyntaf bellach yn y gofod y tu mewn i’r to a hynny wedi gostwng yr argraff ar y ddwy ochr.  Nid oedd ffenestri yr ystafelloedd byw yn edrych yn uniongyrchol i’r tai o gwmpas.  Yn wir roedd maint y datblygiad wedi’i ostwng yn sylweddol a hefyd roedd y pellter o’r tai gerllaw yn sylweddol - rhyw 40 a 23 metr.

 

      

 

     Y materion pennaf yng nghyswllt y cais hwn, yn ôl y Rheolwr Rheoli Cynllunio, oedd effaith y datblygiad ar dai gerllaw a’r effaith ar y dirwedd a’r ffordd fynedfa.  O ran hanes y safle roedd y cais gwreiddiol yn gofyn am dair annedd ac wedyn cafwyd gostyngiad i ddwy ac yn awr dyma gais am un; ni chredai ef bod y cais gerbron yn gais i lenwi bwlch.  Roedd yr Awdurdod Cynllunio Lleol o’r farn y bydd y dyluniad presennol yn osgoi edrych drosodd i dai cyffiniol.  Roedd uchder yr annedd arfaethedig 1.6 metr yn uwch na Mossalee a 1.9 metr yn uwch na chrib y tai eraill.  Ni chredai’r Awdurdod Cynllunio y bydd y datblygiad hwn yn cael effaith andwyol yng nghyswllt y ffordd fynedfa i’r datblygiad.  Er bod y cais yn gofyn am annedd fawr roedd hynny’n dderbyniol a’r argymhelliad felly oedd caniatáu.

 

      

 

     Soniodd y Cynghorydd H.W. Thomas bod gwaith sylweddol wedi’i wneud er mwyn sicrhau nad oedd y datblygiad yn edrych drosodd i’r tai o gwmpas.  Yn y cyffiniau roedd tai tebyg o ran uchder a maint ac ni fedrai’r Cynghorydd Thomas feddwl am unrhyw reswm i wrthod gan fod y datblygiad y tu mewn i’r ffiniau datblygu.  Gan y Cynghorydd Thomas cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad ac argymhelliad y Swyddog, sef caniatáu a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Jim Evans.

 

      

 

     Ar y llaw arall credai’r Cynghorydd J. Arwel Roberts bod yr annedd arfethedig yn rhy fawr i’r plot ac yn mynd i fod yn nodwedd amlwg iawn yn y dirwedd.  Cytuno a wnaeth y Cynghorydd T.H. Jones bod y cais neu’r cynnig yn fater o lenwi bwlch mewn modd ansensitif a hynny’n mynd i gael effaith fawr a difrifol o ran colli preifatrwydd a thaflu cysgod dros y tai o gwmpas; hefyd nododd bod yr ardal yn Ardal o Brydferthwch Naturiol Eithriadol.  Ni chredai’r Cynghorydd Jones bod dyluniad yr annedd yn gweddu i’r safle penodol hwn a chytuno a wnaeth y Cynghorydd O. Glyn Jones bod maint ac argraff yr annedd yn anaddas i’r safle o gofio bod byngalos bychan gerllaw.

 

      

 

     Cyfeiriodd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd Eric Roberts at bryderon bod hwn yn eiddo mawr ac ar graig; hefyd roedd pryderon oherwydd gorfod tyllu i wyneb y graig i greu lle i’r garej.  Y ffordd ar draws stad Parc Isallt yw’r briffordd bwysicaf ar gyfer cyflenwadau i westy Trearddur Bay - mae wagenni mawr yn bagio i lawr y lôn hon.  Un o bryderon pennaf pobl yr ardal, yn ôl y Cynghorydd Roberts, yw maint y datblygiad ac aeth ymlaen i gynnig ei wrthod a chafodd ei eilio gan y  Cynghorydd T.H. Jones.

 

     Y rhain a bleidleisiodd o blaid yr argymhelliad : Y Cynghorwyr W.J. Chorlton, Jim Evans,

 

     K.P. Hughes, W.T. Hughes, R.L. Owen, H.W. Thomas, J.P. Williams.              (Cyfanswm 7)

 

      

 

     Y rhain a bleidleisiodd o blaid y gwelliant : Y Cynghorwyr Lewis Davies, O. Glyn Jones, T.H. Jones, Eric Roberts, J. Arwel Roberts, S. Williams.                              (Cyfanswm 6)

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y Swyddog a’r argymhelliad i ganiatáu ond gyda’r amodau yn yr adroddiad.

 

      

 

11.9     46/C/465B -  Cais amlinellol ar gyfer codi 19 o anheddau fforddiadwy ynghyd ag addasu y fynedfa i gerbydau a cherddwyr ar dir Cae Capel, Lôn St. Ffraid, Bae Trearddur

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr Aelod Lleol.

 

      

 

     Mae’r safle y tu allan i ffin ddatblygu Trearddur yn y Cynllun Lleol ac yn y Cynllun Datblygu Unedol a Stopiwyd.  Mae ger y ffin ddatblygu a ffin y safle yn cyffwrdd ffin gefn rhai o’r eiddo sy’n ffryntio Ffordd Ravenspoint.  Mae’r anheddau arfaethedig wedi eu gosod rhyw led cae i ffwrdd o Lôn St. Ffraid.  Roedd y cais cynllunio blaenorol yn lleoli’r anheddau yn ffryntio Lôn St. Ffraid ond mae’r ardal hon o fewn parth risg llifogydd C2 a’r bwriad yw ei ddefnyddio ar gyfer storio llifogydd. Mae’r fynedfa oddi ar Lôn St. Ffraid trwy’r ffordd fynedfa sydd ar hyn o bryd yn gwasanaethu Parc Carafannau Ty’n Tywyn.

 

      

 

     PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.

 

      

 

12

MATERION ERAILL

 

      

 

12.1     30/C/83E - Dymchwel yr adeilad presennol a chodi adeilad newydd i gynnwys ystafell chwarae, swyddfa, derbynfa, ystafell ffitrwydd, ystafell gemau a storfa yn Dolydd, Pentraeth

 

      

 

     (Gwnaeth y Cynghorydd Selwyn Williams ddatganiad o ddiddordeb yn y cais ond arhosodd yn y cyfarfod.  Ond nid oedd yn rhan o’r drafodaeth nac o’r pleidleisio).

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion wedi caniatáu’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog yn y cyfarfod diwethaf a gofynnwyd i’r Swyddogion ddrafftio amodau priodol i roddi ynghlwm wrth y caniatâd cynllunio.

 

      

 

     Ar ôl trafodaeth PENDERFYNWYD:-

 

      

 

Ÿ

bydd raid gosod gwydr aneglur ar ffenestri y llawr cyntaf ar waliau’r gogledd a’r gorllewin a’r rheini o fath nad oes modd eu hagor.  Bydd raid cyflwyno manylion am y gwaith gwydro i’r Awdurdod Cynllunio Lleol a sicrhau ei ganiatâd ysgrifenedig cyn dechrau ar y gwaith.

 

 

 

Ÿ

bydd yr adeilad y rhoddir caniatâd iddo yma a’r cyfleusterau ynddo at wasanaeth y rheini sy’n aros ar safle carafanau Bryn Awel yn unig ac ni fyddant, ar unrhyw adeg, yn cael eu defnyddio gan rai sydd ddim yn lletya ar y safle.  Ni fydd yr adeilad, ar unrhyw gyfrif, yn cael ei hysbysebu fel cyfleuster ar gael i bobl sydd ddim yn preswylio ar y safle.

 

 

 

Ÿ

bydd yr adeiladau ar agor rhwng 8.00 a.m. ac 11.00 p.m., saith niwrnod yr wythnos a thros Wyliau’r Banc.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

13     CEISIADAU A DDIRPRWYWYD

 

      

 

     Cyflwynwyd a derbyniwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth Cynllunio ar benderfyniadau a wnaed ar geisiadau a ddirprwywyd ers cyfarfod cynt y Pwyllgor.

 

      

 

14     APELIADAU

 

      

 

     Nid oedd unrhyw benderfyniadau apêl i’w cyflwyno yn y cyfarfod.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

     Y CYNGHORYDD KENNETH P. HUGHES

 

     CADEIRYDD