Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion dogfennau , 5 Gorffennaf 2006

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Dydd Mercher, 5ed Gorffennaf, 2006

PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION

 

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Gorffennaf, 2006

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd J Arwel Roberts - Cadeirydd

 

Y Cynghorwyr John Byast, Eurfryn Davies, Arwel Edwards,

Aled Morris Jones, O Glyn Jones, RL Owen, D Lewis-Roberts, John Roberts, W Tecwyn Roberts, WJ Williams MBE

 

 

 

WRTH LAW:

 

Cynllunio:

Pennaeth Rheoli Datblygu

Rheolwr Rheoli Cynllunio 

Uchel Swyddog Cynllunio(Gorfodaeth,Mwynau a Gwastraff)(JIW)

Swyddog Cynllunio (Gorfodaeth, Mwynau a Gwastraff) (HR)

Swyddog Cynllunio (JBR)

 

Priffyrdd:

Uwch Beiriannydd (Rheoli Datblygu a Hawliau Tramwy)(JRWO)

 

Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol (RWJ)

Cynorthwywr Gweinyddol (CWP)

 

YMDDIHEURIADAU:

 

 

Y Cynghorwyr PM Fowlie, Denis Hadley J Arthur Jones

HEFYD YN BRESENNOL:

 

Aelodau lleol: Y Cynghorwyr John Chorlton - eitem 12,

Keith Evans - eitem 10.14,  Derlwyn Hughes - eitem 9.9,

RLl Jones - eitemau 6.2, 6.3, G Allan Roberts - eitemau 6.2, 6.3,

John Rowlands - eitemau 9.7, 9.8,  Noel Thomas - eitemau 6.11, 10.10, Hefin Thomas - eitemau 6.13, 9.3, 10.15, 12

 

1

YMDDIHEURIADAU

 

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb fel a nodwyd uchod.

 

2

DATGANIAD O DDIDDORDEB

   

Derbyniwyd datganiadau o ddiddordeb fel y cawsant eu cofnodi dan yr eitemau perthnasol.

 

3

COFNODION

 

Cadarnhawyd a llofnodwyd cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gafwyd ar 7 Mehefin, 2006.  (tud ) yn amodol ar y cywirdeb isod:

 

eitem 6.4 ar dudalen 4 - Rhandir Llansadwrn  Mewn camgymeriad cofnodwyd i’r Cynghorydd John Roberts bleidleisio ddwywaith.  Pleidleisio i dderbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais a wnaeth y Cynghorydd John Roberts.

 

eitem 10.6 ar dudalen 14 - Sandy’s Bistro, Rhosneigr  nodwyd i’r Cynghorwyr John Roberts a J Arwel Roberts bleidleisio i dderbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais hwn.

 

 

 

YN CODI O’R COFNODION:

 

 

 

APELIADAU CYNLLUNIO

 

 

 

Yn y dyfodol dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio y bydd swyddogion cynllunio yn cysylltu gyda chynigydd ac eilydd pob cais y penderfynir arno’n groes i argymhelliad swyddog pryd bynnag y cyfyd apêl; rhaid wrth hyn oherwydd prinder amser wrth gyflwyno ymatebion i apeliadau cynllunio.

 

 

 

4

YMWELIADAU A SAFLEOEDD

 

 

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd adroddiad ar yr Ymweliadau â Safleoedd a gafwyd ar 22 Mehefin, 2006.  

 

 

 

 

 

5

CEISIADAU A OHIRIWYD

 

 

 

5.1

12C66G  DYMCHWEL YR ADEILAD PRESENNOL YNGHYD Â CHODI PUM ANNEDD, CAFFI, PAFILIWN AC AILWAMPIO’R HEN BWLL NOFIO, BIWMARES

 

 

 

CYTUNWYD i dderbyn argymhelliad y swyddog i ymweld â’r safle am y rheswm a roddwyd.

 

 

 

5.2

30C385B  DYMCHWEL Y GWESTY PRESENNOL A CHODI ADEILAD TRI LLAWR YN CYNNWYS 21 O FFLATIAU PRYNU I OSOD, PWLL NOFIO DAN DO YNGHYD A CHREU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU, ADDASU MYNEDFA I GERBYDAU PRESENNOL A GOSOD GORSAF TRIN CARTHFFOSIAETH BREIFAT YNG NGWESTY BRYN TIRION, TRAETH COCH

 

 

 

CYTUNWYD i dderbyn argymhelliad y swyddog i ymweld â’r safle am y rheswm a roddwyd.

 

 

 

 

 

6

CEISIADAU YN CODI O’R COFNODION

 

 

 

6.1

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

12C352  DYMCHWEL Y SALON TRIN GWALLT GWAG A CHODI TRI FFLAT YN HEN SALON TRIN GWALLT, NEW STREET, BIWMARES

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Yng nghyfarfod Mehefin penderfynwyd ymweld â’r safle ac fe gafwyd hyn ar 22 Mehefin.

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod 5 llythyr o wrthwynebiad ychwanegol i law, gan gynnwys un gan y Cyngor Tref lleol; doedd gan y Gwasanaeth Tân ddim gwrthwynebiad i’r bwriad, yr argymhelliad oedd un o ganiatáu’r cais hwn.

 

 

 

I bwrpas cadw cofnod cywir dywedodd y Cynghorydd RL Owen bod uchder y cynnig yn 8.7m, nid 6m fel a nodwyd yn yr adroddiad, a chadarnhawyd hyn gan y Rheolwr Rheoli Cynllunio.  Wedyn darllenodd y Cynghorydd RL Owen ddarnau o’r cyhoeddiad a gynhoeddwyd gan y Cyngor Sir “Asesu Cymeriad” ardaloedd cadwraeth lle roedd Biwmares yn cael ei henwi fel Ardal o Gadwraeth a nododd y rhesymau a ganlyn dros wrthwynebu’r cais:

 

 

 

Ÿ

uchder y bwriad o fewn Ardal o Gadwraeth

 

Ÿ

maint y datblygiad

 

Ÿ

agosrwydd i adeiladau Rhestredig Graddfa II

 

Ÿ

effaith negyddol ar gynefin naturiol

 

Ÿ

14m oddi wrth y tai cyffiniol - y pellter lleiaf a argymhellir yn swyddogol yw 21m a rhaid ystyried effaith hyn ar bleserau y tai o gwmpas

 

 

 

Doedd dim gwrthwynebiad i’r egwyddor o ddatbllygu meddai’r Cynghorydd Owen ond gofynnodd i unrhyw ddatblygiad gael ei wneud yn gydnaws, buasai dau lawr yn fwy derbyniol yn yr achos hwn.

 

 

 

Dyweddodd y Cynghorydd John Roberts fod prinder llefydd parcio yn gyffredinol yn nhre Biwmares, yn arbennig yn y rhan yma o’r dre; roedd yr heddlu lleol hefyd yn bryderus am hyn.

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd WJ Williams na fuasai adeilad tri llawr yn gweddu i’r cyffiniau tra oedd y Cynghorydd Eurfryn Davies yn teimlo fod yma enghraifft o orddatblygu, ond gallai gefnogi adeilad dau lawr.  

 

 

 

Mewn ymateb i gais am ohirio er mwyn cynnal trafodaethau gyda’r ymgeiswyr i ostwng maint y cynnig dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod yr aelodau â’r hawl i ohirio - fodd bynnag buasai gohirio yn rhoi’r hawl i’r ymgeiswyr gyflwyno apêl am fethu â gwneud penderfyniad mewn pryd.  Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod pob agwedd o’r cynnig wedi cael sylw manwl iawn ac wedi eu nodi yn adroddiad y swyddog.  

 

 

 

Yn wyneb y gwrthwynebiad cryf i’r bwriad cafwyd cynnig o wrthod gan y Cynghorydd RL Owen a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Eurfryn Davies.  

 

   

 

Pleidleisiodd y canlynol i wrthod y cais a hynny’n groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, Arwel Edwards, RL Owen, D Lewis-Roberts, John Roberts,  Tecwyn Roberts, WJ Williams

 

 

 

Pleidleisiodd y canlynol i dderbyn adroddiad y swyddog ac i ganiatáu’r cais:  

 

Y Cynghorydd J Arwel Roberts

 

 

 

Rhoddwyd y rhesymau a ganlyn dros wrthod y cais:

 

 

 

Ÿ

buasai’r bwriad yn gorddatblygu’r safle

 

Ÿ

prinder llefydd parcio yn yr ardal

 

Ÿ

ni fuasai tri llawr yn gweddu i’r ardal

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio’n otomatig i’r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros wrthod y cais hwn.

 

 

 

 

 

6.2

CAIS YN TYNNU’N GROES

 

 

 

19C712F  CAIS I NEWID DEFNYDD AC AILDDATBLYGU’R EIDDO I 8 O UNEDAU PRESWYL YNGHYD Â CHODI 43 O UNEDAU PRESWYL NEWYDD AC ADDASU’R FYNEDFA BRESENNOL I GERBYDAU YM MHORTHYFELIN HOUSE, CAERGYBI

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Yng nghyfarfod Mehefin penderfynwyd ymweld â’r safle ac fe gafwyd hyn ar 22 Mehefin.

 

 

 

Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu fod y cynnig hwn yn groes i Gynllun Lleol Ynys Môn; fodd  bynnag roedd y safle y tu mewn i ffiniau’r CDU a stopiwyd ac ni chafwyd yr un gwrthwynebiad i’r diwygiad hwn yn ystod Ymchwiliad Cyhoeddus 2003, ond er hynny ni chlustnodwyd y safle i unrhyw ddiben datblygu penodol.  Wedyn cyfeiriodd at adroddiad manwl y swyddog lle roedd sylw wedi ei roddi i bob agwedd ar y cynnig a hynny’n cynnwys ei effaith ar yr ardal gadwraeth.  Roedd y swyddog yn argymell caniatáu’r cais a hwnnw’n cynnwys darpariaeth dan Adran 106 yng nghyswllt tai fforddiadwy.

 

 

 

Wedyn cafwyd ymateb manwl gan y Cynghorydd G Allan Roberts i adroddiad y swyddog, ac ychwanegodd bod cytundeb cyffredinol y dylid gwneud rhywbeth ynghylch Porthyfelin House, ond bod gwrthwynebiad i’r cynnig fel yr oedd; teimlai’r Cynghorydd Roberts na ellid anwybyddu’r ffaith fod rhai o swyddogion y Cyngor Sir yn gwrthwynebu’r bwriad, ac wedyn cyfeiriodd at ddogfen y Cyngor Sir ar asesu cymeriad ardal gadwraeth a chyfeiriodd at y

 

cyngor yn PPW 2002, ac y dylai unrhyw ddatblygiad ddangos cydymdeimlad gyda’r ardal gadwraeth hon ac asio yn iawn.  

 

 

 

Cytuno gyda’r Cynghorydd Allan Roberts a wnaeth y Cynghorydd RLl Jones gan ychwanegu bod datblygiad gerllaw yn Nhraeth y Newry yn ategu’r cyffiniau.  Hefyd credai’r Cynghorydd Jones fod gwerth hanesyddol mawr i’r adeilad presennol a dim gwaith altro wedi ei wneud arno ers ei godi rhyw 150 mlynedd yn ôl; roedd am wrthod y cais hwn a mynd i drafodaethau gyda’r ymgeiswyr i geisio taro ar gynllun mwy derbyniol.

 

 

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd Glyn Jones fod 50 o unedau yn cyfateb i ryw 500 o symudiadau y dydd i gar, ac ni chredai bod y ffordd at y safle yn ddigon da i dderbyn y fath gynnydd ac o’r herwydd cafwyd cynnig ganddo i wrthod y cais.

 

 

 

Teimlai’r Cynghorydd John Roberts fod angen gwneud penderfyniad deuol yma, hynny yw, caniatáu wyth uned y tu mewn i Porthyfelin House ond gwrthod y 43 o unedau newydd ac ychwanegol, a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd RL Owen.

 

 

 

Ar ôl pwyso a mesur popeth credai’r Pennaeth Rheoli Datblygu fod y cynnig yn dderbyniol a bod grym y farchnad yn cael dylanwad ar y galw am dai - eisoes roedd caniatâd wedi ei roddi yn Porthyfelin House i’w addasu yn bump o fflatiau hunangynhaliol.  Roedd yr ymgeiswyr wedi dweud y buasent yn darparu dau lecyn pasio ar hyd y ffordd i’r lle a hefyd fynedfa newydd yn y pwynt agosaf i’r ffordd fawr a châi’r fynedfa bresennol ei chau i draffig.

 

 

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd D Lewis-Roberts dywedodd y swyddog nad oedd yr aelodau mewn sefyllfa i wneud penderfyniad deuol a bod angen gwneud penderfyniad ar y cais cyflawn.    

 

 

 

Pleidleisiodd y canlynol i wrhod y cais a hynny’n groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr John Byast, Eurfryn Davies, Arwel Edwards, A Morris Jones, Glyn Jones, RL Owen, D-Lewis Roberts, John Roberts, Tecwyn Roberts, WJ Williams

 

 

 

I dderbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais:  Y Cynghorydd J Arwel Roberts

 

 

 

Rhoddwyd y rhesymau a ganlyn dros wrthod y cais:

 

Ÿ

gorddatblygu - ni fuasai’n gweddu i’r ardal

 

Ÿ

pryder priffyrdd

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio’n otomatig i’r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros wrthod y cais hwn.

 

 

 

 

 

6.3

CAIS YN TYNNU’N GROES

 

 

 

19C712G/LB  CAIS ADEILAD RHESTREDIG I NEWID DEFNYDD AC AILDDATBLYGU’R EIDDDO I 8 O UNEDAU PRESWYL YNGHYD Â CHODI 43 O UNEDAU PRESWYL NEWYDD AC ADDASU’R FYNEDFA BRESENNOL I GERBYDAU YM MHORTH Y FELIN HOUSE, CAERGYBI

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Yng nghyfarfod Mehefin penderfynwyd ymweld â’r safle ac fe gafwyd hyn ar 22 Mehefin.

 

 

 

Yn wyneb y penderfyniad yn 6.2 uchod gohiriwyd ystyried y cais hwn.

 

 

 

 

 

6.4      GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

20C28D  ADDASU AC EHANGU DOUGLAS INN, TREGELE

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol ac oherwydd ei absenoldeb o gyfarfod fis Mehefin fe ohiriwyd ystyried y cais.  

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod y swyddogion wedi cael gwybod yn ystod y bore cyn cyfarfod heddiw fod yr ymgeiswyr am apelio yn erbyn methu â phenderfynu ar y cais erbyn y dyddiad priodol, ac ychwanegodd y swyddog yr âi’r apêl ymlaen i wrandawiad. Wedyn gofynnodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio a oedd yr aelodau’n dymuno gweld swyddogion yn cyhoeddi datganiad ar eu rhan.  Ychwanegodd y swyddog fod raid, yn statudol ac yn genedlaethol, gwneud penderfyniadau ar geisiadau cyn pen wyth wythnos.

 

 

 

Gan y Cynghorydd Glyn Jones cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog i ganiatáu’r cais.

 

 

 

Dyweddodd y cyfreithiwr y buasai’n dderbyniol cyfleu hyn i’r Arolygydd Cynllunio.  

 

      

 

     Mynegi pryderon y bobl leol a wnaeth y Cynghorydd John Williams a bod yr Arolygydd, yn ystod y gwrandawiad ar yr apêl, yn erbyn unrhyw gynnig yn y dyfodol i ddatblygu rhagor ar y rhan hon o’r safle oherwydd effaith negyddol iawn datblygiad o’r fath ar oleuni i dai gerllaw.     

 

      

 

     Gan y Cynghorydd John Roberts cafwyd cynnig i dderbyn i adroddiad y swyddog gyda’r amod fod pryder y trigolion lleol yn cael eu cyfleu fel a nodwyd uchod.  

 

      

 

     Cytunwyd i dderbyn adroddiad y swyddog ac i gyfleu pryder y trigolion lleol.

 

      

 

      

 

6.5      GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     24C118B  CAIS LLAWN I GODI TAIR ANNEDD COWRT, TAIR YSTAFELL WELY YR UN YN GAREJ  TYN-Y-GRAIG, PEN-Y-SARN

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Yng nghyfarfod Mehefin penderfynwyd ymweld â’r safle ac fe gafwyd hyn ar 22 Mehefin.

 

      

 

     Nid oedd y Cynghorydd Aled Morris Jones yn erbyn yr egwyddor o ddatblygu, ond ni fedrai dderbyn uchder o dri llawr ac awgrymodd fod y swyddogion yn mynd i drafodaethau gyda’r ymgeiswyr i ostwng yr uchder o dri i ddau a cheisio taro ar gyfaddawd, ac am y rhesymau hyn cynigiodd ohirio gwneud penderfyniad.   

 

      

 

     Teimlai’r Cynghorydd RL Owen hefyd y buasai tri llawr allan o gymeriad â’r ardal.  

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd John Roberts dangoswyd cynllun o’r safle a oedd yn dangos chwe llecyn parcio.

 

      

 

     Atgofffodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio’r aelodau y byddai gohirio gwneud penderfyniad yn ei gadael hi’n agored i’r ymgeiswyr fynd i apêl.

 

      

 

     PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais hwn fel bod modd i swyddogion drafod gyda’r ymgeiswyr y posibilrwydd o ostwng uchder y bwriad.

 

      

 

      

 

6.6     CAIS YN TYNNU’N GROES

 

      

 

     24C239A  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD YNGHYD AG ADDASU’R FYNEDFA I GERBYDAU PRESENNOL AR DIR GER YSGUBOR ITHEL, LLANEILIAN

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Dymuniad yr aelodau yng nghyfarfod mis Mehefin oedd un o ganiatáu gan y teimlai’r aelodau, ar sail feddygol, fod yma amgylchiadau eithriadol.

 

      

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio i roi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu’r cais hwn oedd yn tynnu’n groes.

 

      

 

     Ar 5 Hydref, 2005 medd y Rheolwr Rheolwr Cynllunio gwrthodwyd cais ar y safle hwn ac yn y  cyfamser nid oedd dim o bwys wedi newid, a hefyd yr adeg honno ymwelwyd â’r safle cyn gwneud penderfyniad.  Wedyn dangoswyd i’r Pwyllgor lun a dynnwyd o’r awyr o’r lle ac o’r ardal o gwmpas cyn i’r swyddog fynd ymlaen i ddweud fod caniatâd cynllunio wedi ei roddi yn ystod 2003, oherwydd amgylchiadau eithriadol, i safle arall rhyw 100-200m o’r safle hwn.  Y peth nesaf a wnaeth y swyddog oedd atgoffa’r aelodau o’u dyletswydd i fod yn gyson wrth wneud penderfyniadau au seilio ar ystyriaethau cynllunio - nid ar amgylchiadau personol.

 

      

 

      

 

     Nid oedd cyswllt o fath yn y byd rhwng y cais gerbron a’r un gerllaw meddai’r Cynghorydd Aled Morris Jones.  Ar y safle arall roedd annedd yn cael ei chodi.  Gofynnodd y Cynghorydd Jones i’r aelodau am lynu wrth y penderfyniad cynt a chaniatáu’r cais oherwydd amgylchiadau eithriadol - sef tiwmor ar ymenydd yr ymgeisydd; eiliodd y Cynghorydd RL Owen y cynnig i ganiatáu.  

 

      

 

     Pleidleisiodd y canlynol i ganiatáu’r cais a hynny’n groes i argymhelliad y swyddog:

 

     Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, A Morris Jones, Glyn Jones, RL Owen, D Lewis-Roberts, Tecwyn Roberts, WJ Williams

 

      

 

     Doedd dim pleidlais i’r gwrthwyneb

 

      

 

     Oherwydd amgylchiadau eithriadol PENDERFYNWYD glynu wrth y penderfyniad blaenorol a chaniatáu’r cais hwn, yn unol ag amodau safonol.

 

      

 

      

 

6.7     CAIS YN TYNNU’N GROES

 

      

 

     24C249  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD YNGHYD AG ADDASU’R FYNEDFA I GERBYDAU AR DIR GER TYDDYN ENGAN, PEN-Y-SARN

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Ar 3 Mai penderfynwyd ymweld â’r safle ac fe gafwyd hyn ar 17 Mai, 2006.  Yng nghyfarfod mis Mehefin dymunai’r aelodau ganiatáu’r cais hwn am y rhesymau a ganlyn:  

 

      

 

Ÿ

angen lleol

 

Ÿ

y safle o fewn treflan a chlwstwr

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu’r cais hwn oedd yn tynnu’n groes.

 

 

 

Atgoffodd y Pennaeth Rheoli Datblgyu yr aelodau fod y cais hwn yn tynnu’n groes i bolisiau  ac theimlai’n gryf y dylai’r cais gael ei wrthod.   

 

 

 

Ailddatgan ei gefnogaeth a wnaeth y Cynghorydd Aled Morris Jones fel y manylwyd ar hynny yn y cofnodion i’r cyfarfod cynt a chynigiodd roddi caniatâd i gartref i deulu lleol, a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd RL Owen.  

 

 

 

Pleidleisiodd y canlynol i ganiatáu’r cais a hynny’n groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, Aled Morris Jones, Glyn Jones, RL Owen, D Lewis-Roberts, Tecwyn Roberts, WJ Williams

 

 

 

I dderbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais:  Y Cynghorwyr  Arwel Edwards,

 

John Roberts, J Arwel Roberts

 

 

 

PENDERFYNWYD glynu wrth y penderfyniad blaenorol a chaniatáu’r cais hwn a oedd yn gwyro, ond gydag amodau safonol.  

 

        

 

      

 

6.8      GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     28C137B  CODI YSTAFELL HAUL YN SANDY’S BISTRO, RHOSNEIGR

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Ar 3 Mai penderfynwyd ymweld â’r safle ac fe gafwyd hyn ar 17 Mai, 2006.  Yng nghyfarfod mis Mehefin dymunai’r aelodau ganiatáu’r cais hwn am y rhesymau a ganlyn:

 

      

 

Ÿ

twristiaeth

 

Ÿ

ni fyddai’r bwriad yn gwaethygu’r welededd yn y gyffordd

 

      

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio i roi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu’r cais hwn oedd yn tynnu’n groes.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd RL Owen cafwyd cynnig i lynu wrth y penderfyniad blaenorol ac i ganiatáu’r cais a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Tecwyn Roberts.

 

      

 

Pleidleisiodd y canlynol i ganiatáu’r cais yn groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, Aled Morris Jones, Glyn Jones, RL Owen, D Lewis-Roberts, Tecwyn Roberts, WJ Williams

 

 

 

Derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais: Y Cynghorwyr Arwel Edwards, John Roberts, J Arwel Roberts

 

 

 

PENDERFYNWYD glynu wrth y penderfyniad blaenorol a chaniatáu’r cais hwn, yn unol ag amodau safonol.

 

 

 

 

 

6.9     GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     28C368A  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD YNGHYD A GOSOD TANC SEPTIC A CHREU MYNEDFA NEWYDDD I GERBYDAU AR GAE RHIF O.S. 3821, BRYN DU

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Yng nghyfarfod mis Mehefin dymunai’r aelodau ganiatáu’r cais hwn gan dybio ei fod yn cydymffurfio â Pholisi 50 (pentrefi rhestredig).

 

      

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio i roi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu.

 

      

 

     Ymatebodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio gan grybwyll y rhesymau dros wrthod fel y manylwyd arnynt yn yr adroddiad; nid oedd yma glwstwr cydnabyddedig.

 

      

 

     Am y rhesymau a roddwyd eisoes, cafwyd cynnig i lynu wrth y penderfyniad blaenorol i ganiatáu’r cais gan y Cynghorydd Glyn Jones a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Aled Morris Jones.  

 

      

 

Pleidleisiodd y canlynol i ganiatáu’r cais yn groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, Aled Morris Jones, Glyn Jones, RL Owen, D Lewis-Roberts, Tecwyn Roberts, WJ Williams

 

 

 

Derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais:  Y Cynghorwyr Arwel Edwards,

 

John Roberts, J Arwel Roberts

 

 

 

PENDERFYNWYD glynu wrth y penderfyniad blaenorol a chaniatáu’r cais hwn, yn unol ag amodau safonol.

 

 

 

 

 

6.10      CAIS YN TYNNU’N GROES

 

      

 

     30C603A  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNED A MODURDY YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU A GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD AR DIR GER BWTHYN AR Y BRYN, BENLLECH

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Yng nghyfarfod mis Mehefin dymunai’r aelodau ganiatáu’r cais hwn gan dybio ei fod yncydymffurfio â Pholisi 50.

 

      

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio i roi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod rhagor o lythyrau yn gwrthwynebu wedi’u derbyn ac aeth y swyddog ymlaen i atgoffa’r aelodau nad oedd Bwthyn ar y Bryn yn glwstwr cydnabyddiedig yn yr CDU a stopiwyd a chan fod y gwaith ar yr CDU wedi dod i ben cyn cynnwys y lle roedd caniatáu cais fel yr un hwn, oedd yn torri polisiau yn mynd i greu cynsail i geisiadau eraill.

 

      

 

     Ond cymharu’r cais gerbron gyda Phorthyfelin House a wnaeth y Cynghorydd D Lewis-Roberts gan deimlo y dylid rhoddi pwysau ar y newidiadau i’r ffiniau datblygu (gweler eitem 6.2 o’r cofnodion hyn);  yn ôl dealltwriaeth y Cynghorydd Lewis-Roberts roedd 10 anheddau yn creu clwstwr - yn y cyffiniau hyn roedd 24 ohonynt.  Felly teimlai’r Cynghorydd D Lewis-Roberts fod y safle mewn clwstwr a chynigiodd roddi caniatâd a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Tecwyn Roberts.

 

      

 

     Pleidleisiodd y canlynol i ganiatáu’r cais a hynny’n groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, Aled Morris Jones, Glyn Jones, RL Owen, D Lewis-Roberts, Tecwyn Roberts, WJ Williams

 

 

 

Derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais:  Y Cynghorwyr Arwel Edwards, John Roberts, J Arwel Roberts

 

 

 

PENDERFYNWYD glynu wrth y penderfyniad blaenorol a chaniatáu’r cais hwn a oedd yn gwyro, yn unol ag amodau safonol.

 

 

 

6.11      CAIS YN TYNNU’N GROES

 

      

 

     33C252  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNED AR GAE RHIF 504 GER GADLYS, GAERWEN

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Yng nghyfarfod mis Mehefin penderfynwyd ymweld â’r safle ac fe gafwyd hyn ar 22 Mehefin.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod llythyr arall wedi’i dderbyn a hwnnw’n cadarnhau fod tad yr ymgeisydd yn gwla a bod iechyd ei wraig hefyd yn fregus.  Ond roedd y swyddog yn tynnu sylw at bwynt perthnasol arall - sef bod gan yr ymgeisydd dir arall y tu mewn i’r ffiniau datblygu a bod yr argymhelliad yn aros yn un o wrthod.

 

      

 

     Yn ei ymateb dywedodd y Cynghorydd Noel Thomas fod y safle gerbron yn nes ac yn fwy cyfleus i’r teulu, ac y buasai’r cyngor cymuned yn gwrthwynebu cynnwys y tir arall yn y stâd ddiwydiannol; hefyd credai’r Cynghorydd Thomas y gellid sicrhau manteision priffyrdd wrth roddi caniatâd yma.  

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod twll archwilio carthffosiaeth ar y tir.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd John Roberts cafwyd cynnig i dderbyn addroddiad y swyddog ac i wrthod y cais; cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Arwel Edwards.  

 

      

 

Pleidleisiodd y canlynol i dderbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais hwn:  Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, Arwel Edwards, D Lewis-Roberts, RL Owen, John Roberts, J Arwel Roberts

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais hwn a oedd yn gwyro am y rhesymau a roddwyd.

 

      

 

6.12       GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     42C62J  CODI YSTAFELL HAUL AR GYFER GWERTHU DODREFN GARDD, YSTAFELLOEDD HAUL A FFENESTRI YNGHYD A GOSOD UNED DDIOGEL YNG NGHANOLFAN ARDDIO PENTRAETH

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Gan y Cynghorydd Hefin Thomas cafwyd datganiad o ddiddordeb.  

 

      

 

     Yn y cyfarfod ym mis Mehefin roedd yr aelodau yn tueddu i ganiatáu’r cais gan dybio ei fod yn estyniad i’r busnes presennol a’r safle yn safle llwyd.  

 

      

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio i roi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu.

 

      

 

     Teimlai’r Cynghorydd RL Owen bod y safle hwn yn un delfrydol i’r cynnig; buasai canol y pentref ar ei ennill o drosglwyddo’r busnes i safle arall ac roedd hwnnw y tu mewn i’r cyfyngiad gyrru 40 mya a chynigiodd lynu wrth y penderyniad cynt i ganiatáu a chafodd ei eilio gan y Cyunghorydd D Lewis-Roberts.

 

      

 

     Pleidleisiodd y canlynol i ganiatáu’r cais, a hynny’n groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, Aled Morris Jones, Glyn Jones, RL Owen, D Lewis-Roberts, Tecwyn Roberts, WJ Williams

 

 

 

Derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais:  Y Cynghorwyr  Arwel Edwards, John Roberts, J Arwel Roberts

 

 

 

PENDERFYNWYD glynu wrth y penderfyniad blaenorol a chaniatáu’r cais hwn, yn unol ag amodau safonol.

 

      

 

6.13      CAIS YN TYNNU’N GROES

 

      

 

     42C76A  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD YNGHYD A CHREU MYNEDFA NEWYDD I GEIR YN LLYS Y GRAIG, PENTRAETH

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Yng nghyfarfod mis Mehefin penderfynwyd ymweld â’r safle ac fe gafwyd hyn ar 22 Mehefin.

 

      

 

     Cytuno a wnaeth y Cynghorydd Hefin Thomas bod y safle y tu allan i’r ffiniau datblygu, ond er gwaethaf hynny roedd ef yn gefnogol i’r cynnig am ei fod y tu mewn i glwstwr o ryw 15 o unedau a’r clwstwr hwnnw yn cynnwys tai, fflatiau ac unedau a addaswyd; roedd y safle y tu draw i goedlan ac o’r herwydd ni châi’r cynnig effaith negyddol. Gofynnodd y Cynghorydd Thomas i’r aelodau roddi sylw ffafriol i’r cais.

 

      

 

     Atgoffodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio’r aelodau nad oedd y safle o fewn clwstwr cydnabyddedig ac nad oedd y safle o fewn AHNE.  

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd John Roberts os oedd hwn yn llenwi bwlch.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Glyn Jones cafwyd cynnig i ganiatáu’r cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Tecwyn Roberts.

 

      

 

     Pleidleisiodd y canlynol i ganiatáu’r cais a hynny’n groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr Aled Morris Jones, Glyn Jones, RL Owen, D Lewis-Roberts, Tecwyn Roberts, WJ Williams

 

 

 

Derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais:  Y Cynghrowyr Eurfryn Davies, Arwel Edwards, John Roberts, J Arwel Roberts

 

 

 

Y rheswm a roddwyd dros ganiatáu oedd fod yr aelodau yn teimlo fod yma angen lleol a bod y bwriad yn llenwi bwlch.  

 

      

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio’n otomatig i’r cyfarfod nesar er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu.  

 

      

 

7

CEISIADAU ECONOMAIDD:

 

      

 

     Doedd dim ceisiadau economaidd i’w hystyried yn y cyfarfod hwn.

 

   

 

8     CEISIADAU AM DAI FFORDDIADWY:

 

      

 

     Doedd dim ceisiadau am dai fforddiadwy i’w hystyried yn y cyfarfod hwn.

 

 

 

 

 

9

CEISIADAU’N TYNNU’N GROES:

 

      

 

9.1     17C387  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD AR DIR GER GWYNFA, LLANSADWRN

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Dangoswyd i’r Pwyllgor lun a dynnwyd o’r awyr o’r safle a’r tir o gwmpas.  Gan fod y safle yng nghanol clwstwr o anheddau ac o fewn canllath i’r pentref credai’r Cynghorydd Eurfryn Davies fod y cais yn cydymffurfio gyda Pholisi 50, a hefyd o roddi caniatâd gellid darparu cartref i bobl leol.  

 

      

 

     Yn ddiweddar iawn, meddai’r Cynghorydd RL Owen, cafwyd damwain yn agos iawn i’r lle hwn, ac mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Aled Morris Jones dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y safle y tu allan i’r ffram ddangosol a chyfeiriodd yn benodol at bwynt 7 yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

     Am resymau priffyrdd cafwyd cynnig i ymweld â’r safle gan y Cynghorydd Eurfryn Davies a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd RL Owen.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â’r safle am y rheswymau a roddwyd.  

 

      

 

      

 

9.2     20C226A  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU AR DIR GER CLOVELLY, CEMAES

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod llythyrau pellach i law gan gynnwys un o wrthwynebaid gan y cyngor cymuned lleol.  

 

      

 

     Atgoffwyd yr aelodau gan y Cynghorydd John Williams bod ymweliad wedi digwydd ar y safle pan ystyriwyd y cais blaenorol.  Corlannau i ddefaid oedd yma a’r safle ei hun y tu mewn i glwstwr o 20 o anheddau a ffermydd.  Cyrhaeddid y lle o’r gilfan ger y briffordd y tu fewn i’r cyfyngiad gyrru 30 mya.  Ffarmwr oedd yr ymgeisydd ac yn dymuno ymddeol oherwydd iechyd a gofynnodd y Cynghorydd Williams am gefnogaeth i’r cais.

 

      

 

     Gan bod y safle o fewn clwstwr, cafwyd cynnig o ganiatáu gan y Cynghorydd Aled Morris Jones, a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd D Lewis-Roberts.  

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd John Roberts dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod y cais gerbron union ‘run fath ag un â wrthodwyd ym mis Mai.  Aeth y swyddog yn ei flaen i ofyn i’r aelodau fod yn gyson wrth wneud penderfyniadau ac ystyried y cais yn ôl ei rinweddau cynllunio’n unig.     

 

      

 

     Pleidleisiodd y canlynol i ganiatáu’r cais, a hynny’n groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr Aled Morris Jones, D Lewis-Roberts, Tecwyn Roberts,

 

      

 

     Derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais:  Y Cynghorwyr Glyn Jones, RL Owen John Roberts, J Arwel Roberts, WJ Williams

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais hwn a oedd yn gwyro am y rhesymau a roddwyd.  

 

      

 

9.3     22C178A  CAIS AMLINELLOL I DDYMCHWEL YR ADEILAD FFRAM PREN YNGHYD Â CHODI ANNEDD AR Y SAFLE A CHREU MYNEDFA NEWYDD AR DIR GER TAN Y GRAIG, LLANDDONA

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Gan fod adeilad yma eisoes roedd y Cynghorydd Hefin Thomas yn ystyried ei bod hi’n briodol ymweld â’r safle, a chafodd hyn ei gynnig gan y Cynghorydd Tecwyn Roberts, a chafodd ei eilio gan y Cynghorwyr D Lewis-Roberts ac RL Owen.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â’r safle.

 

      

 

      

 

9.4     30C215D  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNED YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD A GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD AR GAE O.S. 3056 TYN-Y-GONGL

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd D Lewis Roberts fod 24 o dai yn Bwthyn ar y Bryn a chredai ef y dylai fod yn glwstwr cydnabyddedig ac o’r herwydd cynigiodd roddi caniatâd.

 

      

 

     I bwrpas cadw cofnod cywir nodwyd mai rhif priodol y cae ordnans oedd “O.S. 3056”.  Wedyn ychwanegodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod rhagor o lythyrau’n gwrthwynebu wedi’u derbyn ac atgoffodd ef yr aelodau nad oedd Bwthyn ar y Bryn yn bentref cydnabyddedig nac yn glwstwr yn yr CDU a stopiwyd.  Pwysleisio a wnaeth ef bwysigrwydd cysondeb a pheryglon creu cynsail trwy ganiatáu ceisiadau’n gwyro oddi wrth polisi.

 

      

 

     Wedyn daeth y cyfreithiwr i mewn i’r drafodaeth a chefnogi safiad y swyddog gan grybwyll y gamdybiaeth ymhlith aelodau fod unrhyw 10 annedd yn cyfateb i “glwstwr” - nid oedd cyswllt yn y byd rhwng y safle hwn ag unrhyw bentref.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd John Roberts cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais.

 

      

 

     Pleidleisiodd y canlynol i dderbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais:  Y Cynghorwyr Arwel Edwards, John Roberts, J Arwel Roberts, WJ Williams

 

      

 

     Pleidleisiodd y canlynol i ganiatáu’r cais yn groes i argymhelliad y swyddog:   Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, Aled Morris Jones, Glyn Jones, RL Owen, D Lewis-Roberts, W Tecwyn Roberts

 

      

 

     Y rheswm a roddwyd dros ganiatáu oedd fod y safle o fewn clwstwr.

 

      

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio’n otomatig i’r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu.

 

      

 

      

 

9.5     30C412B  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD YNGHYD Â GOSOD TANC SEPTIG A CHREU MYNEDFA NEWYDD AR DIR GER YSGUBOR WEN, LLANFAIR MATHAFARN EITHAF

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod pum llythyr o wrthwynebiad ychwanegol i law.  

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd D Lewis-Roberts fod yma gynnig i gwpl lleol a’r tir yn eiddo i un o’r tadau a’r ymgeiswyr hefyd yn fodlon gwneud Cytundeb dan Adran 106 i rwystro unrhyw ddatblygiadau’n y dyfodol.  Gan y Cynghorydd D Lewis-Roberts cafwyd cynnig i ganiatáu a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Tecwyn Roberts.

 

      

 

     Pleidleisiodd y canlynol i dderbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais:  Y Cynghorwyr Arwel Edwards, John Roberts, J Arwel Roberts

 

      

 

     Pleidleisiodd y canlynol i ganiatáu’r cais a hynny’n groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, Aled Morris Jones, Glyn Jones, D Lewis-Roberts, W Tecwyn Roberts, WJ Williams

 

      

 

     Ymatal ei bleidlais a wnaeth y Cynghorydd RL Owen

 

      

 

Y rhesymau a roddwyd dros ganiatáu oedd bod yr aelodau yn teimlo fod yma angen lleol, hefyd roedd yr ymgeiswyr yn fodlon arwyddo Cytundeb 106 i atal datblygiad pellach.

 

 

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio’n otomatig i’r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu.

 

      

 

      

 

9.6     30C613  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD, GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD AC ADDASU’R FYNEDFA BRESENNOL AR GAE O.S. 445, BRYN-TEG

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Adroddodd y swyddog fod 9 llythyr o wrthwynebiad ychwanegol i law.

 

      

 

     Yn yr achos hwn hefyd credai’r Cynghorydd D Lewis-Roberts fod y safle mewn clwstwr o 24 o anheddau yn ardal Bwthyn ar y Bryn, ac felly cynigiodd roddi caniatâd a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Tecwyn Roberts.  

 

      

 

     Gan y Cynghorydd John Roberts cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais, a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Arwel Edwards.

 

      

 

     Pleidleisiodd y canlynol i dderbyn adroddiad y swyddog ac i wrthod y cais:  Y Cynghorwyr Arwel Edwards, RL Owen, John Roberts, J Arwel Roberts, WJ Williams

 

      

 

     Pleidleisiodd y canlynol i ganiatáu’r cais yn groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, Aled Morris Jones, D Lewis-Roberts, W Tecwyn Roberts

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais hwn oedd yn gwyro.

 

      

 

      

 

9.7     35C243A  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD, CREU MYNEDFA NEWYDD I GEIR YN  BETTYN FIELDS, LLANGOED

 

      

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Yma roedd y plot wedi ei symud yn nes i’r tai eraill ac o’r herwydd roedd y cais, meddai’r Cynghorydd John Rowlands, yn wahanol i’r un cynt.  Dymuniad yr ymgeiswyr oedd codi ty i’w plant a gofynnodd i’r Pwyllgor roddi sylw ffafriol i’r cais.  

 

      

 

     Ond credai’r Cynghorydd RL Owen fod y safle yn un sensitif iawn uwchben Ynys Seiriol a chafwyd cynnig ganddo i dderbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais - cafodd ei eilio gan y Cynghorydd Eurfryn Davies.

 

      

 

     Pleidleisiodd y canlynol i dderbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais hwn a oedd yn gwyro:  Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, Arwel Edwards, Glyn Jones, RL Owen, John Roberts, J Arwel Roberts, WJ Williams

 

      

 

     Nid oedd pleidlais i’r gwrthwyneb.  

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais am y rhesymau a roddwyd.

 

      

 

9.8     35C253  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD AR GAE S.H. 6180 PEN Y MARIAN, LLANGOED

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Gwyddai’r Cynghorydd John Rowlands fod rhyw 15 o lythyrau’n gwrthwynebu’r cais hwn.  Dyn yn perthyn i deulu lleol oedd yr ymgeisydd  - un a anwyd ac a fagwyd yn y lle ac yn gweithio’n rhan amser ar y fferm; gan fod y pris gofyn am dai yn yr ardal o gwmpas £200,000 - £300,000 teimlai fod yma angen lleol.  Yn ogystal credai’r Cynghorydd Rowlands fod y cais yn cydymffurfio gyda Pholisi 50 a gofynnodd i’r aelodau gael golwg ar y safle i asesu’r sefyllfa eu hunain a buasai ymweliad o gymorth i wneud penderfyniad.

 

      

 

     Cafwyd cynnig i ymweld â’r safle gan y Cynghorydd RL Owen a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorwyr D Lewis-Roberts a Tecwyn Roberts.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â’r safle.

 

      

 

9.9     40C270A  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD YNGHYD A CHREU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU A GOSOD GWAITH TRIN CARTHFFOSIAETH BREIFAT AR GAE O.S. 7023, LLANALLGO

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Cafwyd datganiad o ddiddordeb gan y Cynghorydd Arwel Edwards a gadawodd y cyfarfod am y drafodaeth a’r pleidleisio.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Derlwyn Hughes fod yr ymgeiswyr wedi priodi y Pasg diwethaf - y ddau ohonynt yn athrawon, yn lleol ac yn cyfrannu’n fawr yn y gymuned.  Yma roedd gennym enghraifft o safle yng nghanol clwstwr o dai, a’r bwriad oedd cysylltu gyda’r mêns carthffosiaeth.  Nid oedd yr Adain Briffyrdd yn gwrthwynebu ac roedd y welededd i’r ddau gyfeiriad yn ddigonol o’r fynedfa - sydd hefyd y tu mewn i gyfyngiad gyrru 40 mya.  Roedd y cyngor cymuned yn gefnogol a chafwyd argymhelliad cryf gan y Cynghorydd Hughes i roddi caniatâd.

 

      

 

     Cyfeiriodd y Cynghorydd Glyn Jones at y strategaeth gymunedol ac un o’i hamcanion i wella bywyd trwy adfywio’r gymuned leol.

 

      

 

     Cytuno a wnaeth y Cynghorydd Aled Morris Jones fod y safle ar gyrion pentref ac yn cydymffurfio gyda Pholisi 50, ond ychwanegodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio nad oedd Polisi 50 yn berthnasol yn yr achos hwn.

 

      

 

     Teimlai’r Cynghorydd WJ Williams fod hyn yn ateb i ‘angen lleol’ a chynigiodd ganiatáu’r cais; cynnig o ganiatáu hefyd oedd gan y Cynghorydd Tecwyn Roberts, ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd  D Lewis-Roberts.

 

      

 

     Pleidleisiodd y canlynol i ganiatáu’r cais hwn oedd yn gwyro:  Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, Aled Morris Jones, Glyn Jones, RL Owen, D Lewis-Roberts, Tecwyn Roberts, WJ Williams

 

      

 

     Ni chafwyd cynnig arall.

 

      

 

     Y rheswm a roddwyd dros ganiatáu oedd angen lleol.

 

 

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio’n otomatig i’r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu’r cais hwn a oedd yn gwyro.

 

      

 

      

 

10

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

10.1     19C947  CODI ANNEDD O FEWN SAFLE’R CWFAINT, EDMUND STREET,

 

     CAERGYBI

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno gan fod y tir ym mherchnogaeth y Cyngor.  

 

     PENDERFRYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais am y rhesymau a roddwyd, yn unol â’r amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

      

 

10.2      19LPA864/CC/CA  CANIATÂD ARDAL CADWRAETH AR GYFER DYMCHWEL

 

     YR HEN ‘ARCADE’ A GORSAF BETROL LANDSEND AR VICTORIA ROAD,

 

     CAERGYBI

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno gan fod y cais wedi ei gyflwyno gan y Cyngor ac yn effeithio ar dir yn ei berchnogaeth.

 

      

 

     PENDERFRYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais am y rhesymau a roddwyd, yn unol â’r amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

      

 

10.3      20C74P  CAIS LLAWN I GODI BYNGALO A MODURDY AR DIR GER

 

     CARTREF, STÂD TYDDYN, CEMAES

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd John Williams fod y safle ar gyrion stad go fawr o dai a’r preswylwyr yn pryderu am y bwriad i godi ffens goed ar hyd y ffiniau ar dop y clawdd lle roedd llwyni naturiol yn tyfu a rhai coed hen.  Gofynnodd y Cynghorydd Williams am roddi amod ynghlwm i ddiogelu’r nodweddion hyn, a hefyd fod y ffens yn cael ei chodi ar ochr yr ymgeisydd i’r clawdd.  

 

      

 

     PENDERFRYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais, yn unol â’r amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad y swyddog, gan ychwanegu amod i’r caniatâd fel y manylwyd arno uchod.

 

      

 

      

 

10.4      22C180  CAIS AMLINELLOL I GODI DWY ANNEDD YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD AR DIR GER EITHINOG AC ARWEL, LLANDDONA

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Nid oedd gan y Cynghorydd Hefin Thomas wrthwynebiad i’r bwriad.  

 

      

 

     PENDERFRYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais am y rhesymau a roddwyd, yn unol â’r amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

10.5      23C73C  ADDASU AC EHANGU GLASFRYN, LLANGEFNI

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.   

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd WJ Williams fod y safle rhwng dwy fferm ac o’r golwg o’r tir cyffiniol.  Câi dwy o’r garejys arfaethedig eu defnyddio i storio hen geir a’r llall yn cael ei defnyddio i ddibenion personol yr ymgeisydd; roedd yr ymgeisydd yn gweithio oriau anghymdeithasol mewn cartref nyrsio, a chafwyd argymhelliad i ganiatáu gydag amod dan Adran 106 yn cyfyngu ar y defnydd o’r tair garej i gadw ceir yn unig, ond nodwyd hefyd fod yr ymgeisydd yn fodlon gwneud Cytundeb o’r fath.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd RL Owen cafwyd cynnig i ganiatáu’r cais, a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd WJ Williams.

 

      

 

     Pleidleisiodd y canlynol i ganiatáu’r cais, yn groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, RL Owen, D Lewis-Roberts, Tecwyn Roberts, WJ Williams

 

      

 

     Pleidleisiodd y canlynol i dderbyn adroddiad y swyddog ac i wrthod y cais:  Y Cynghorwyr John Roberts, J Arwel Roberts

 

      

 

     Rhoddwyd y rhesymau a ganlyn dros ganiatáu’r cais:

 

      

 

Ÿ

Roedd yr ymgeiswyr yn fodlon arwyddo Cytundeb 106 i gyfyngu defnydd y garejys i gadw ceir 

 

Ÿ

credai’r aelodau nad oedd yr estyniad yn rhy fawr nac yn groes i gymeriad y cyffiniau

 

 

 

 

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio’n otomatig i’r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu’r cais.

 

      

 

      

 

10.6      23C246  TROI’R HEN FELIN YN ANNEDD, GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD AC ADDASUR’R FYNEDFA BRESENNOL AR DIR PLAS LLANDDYFNAN, LLANGEFNI

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.   

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd WJ Williams am ymweliad a’r safle, a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Eurfryn Davies.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â’r safle.

 

      

 

      

 

10.7      23C246A/LB  CANIATÂD ADEILAD RHESTREDIG I DROI’R FELIN, SYDD DDIM YN CAEL EI DEFNYDDIO BELLACH, YN ANNEDD YNGHYD A GOSOD TANC SEPTIG AC ADDASU’R FYNEDFA BRESENNOL AR DIR PLAS LLANDDYFNAN

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.    .

 

      

 

     Yn wyneb y penderfyniad yn eitem 10.6 uchod gohiriwyd ystyried y cais hwn.

 

      

 

      

 

10.8      24C242  DYMCHWEL YR ANNEDD BRESENNOL YNGHYD Â CHODI ANNEDD NEWYDD, GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD A CHADW’R GWAITH SYDD WEDI I WNEUD AR Y SAFLE YN TYN FFYNNON, LLANEILIAN

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno oherwydd y diddordeb cyhoeddus mawr, a hefyd oherwydd dymuniad yr aelod lleol.  Bellach roedd dau lythyr arall o wrthwynebiad wedi

 

     dod i law meddai’r swyddog, a Chyngor Cefn Gwlad Cymru yn gofyn am roddi amodau ynghlwm i ddiogelu ystlumod a chafwyd argymhelliad o ganiatáu gan y swyddog.

 

      

 

     Wedyn ychwanegodd y Cynghorydd Aled Morris Jones y bydd raid bod yn ofalus iawn i sicrhau y bydd y caniatâd a’r amodau yn cael eu cadw.

 

      

 

     PENDERFRYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais am y rhesymau a roddwyd, yn unol â’r amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

      

 

10.9      30C490C  CAIS LLAWN I DDYMCHWEL Y GESTY PRESENNOL A CHODI 18 FFLAT A GWEITHFEYDD SAFLE CYSYLLTIEDIG AR FFORDD Y TRAETH, BENLLECH

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod rhagor o lythyrau gwrthwynebus wedi’u derbyn ond nid oedd yr Adain Briffyrdd na Dwr Cymru’n gwrthwynebu.  Gan y swyddog cafwyd argymhelliad o ganiatáu yn amodol ar gwblhau’r gwaith ymgynghori’n foddhaol ar fater asesu risg llifogydd.  

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Glyn Jones cadarnhaodd y swyddog fod tai fforddiadwy wedi eu cynnwys yn y cais hwn.  

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Tecwyn Roberts cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog ac i ganiatáu’r cais.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a rhoi’r awdurdod i’r Prif Swyddog Cynllunio i ganiatáu’r cais am y rhesymau a roddwyd, yn unol â’r amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

      

 

10.10      33C20X/2  CANOLFANAU CASGLU STOC MARW ARFAETHEDIG AR BLOT 4, STÂD DDIWYDIANNOL GAERWEN

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  

 

      

 

     Gan y Cynghorydd A Morris Jones cafwyd datganiad o ddiddordeb.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Noel Thomas fod pedair o unedau sy’n cynhyrchu bwydydd ar y stâd ddiwydiannol, a’r uned fwyaf o’i bath yn y wlad rhyw 50m o’r safle, ac atgoffodd yr aelodau o effaith ddirfawr y clwy traed a’r genau ar y diwydiant cynhyrchu bwydydd;  hefyd yn y cyffiniau agos roedd tair annedd.  

 

      

 

     O edrych ar lun a dynnwyd o’r awyr o’r safle a’r tir o gwmpas gwelwyd ymhle yr oedd y tai agosaf ac ymatebodd y Swyddog Cynllunio (Gorfodaeth, Mwynau a Gwastraff) yn fanwl yn ei adroddiad.  Credai’r gwasanaeth milfeddygol, Defra fod y cynnig yn ddigon pell o’r diwydiannau cynhyrchu bwydydd a chafwyd cynghorion gan y cyrff yr ymgynghorwyd â nhw yn statudol; ni chafwyd yr un gwrthwynebiad gan breswylwyr y tair annedd ac ni roddwyd rheswm dros wrthwynebu yn y ddeiseb.  Eisoes roedd trwydded ar y safle i fod yn orsaf trosglwyddo gwastraff a buasai’n rhaid i’r ymgeisydd gael caniatâd arall gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a Defra cyn dechrau’r gwaith.

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd Glyn Jones tybed beth fuasai effaith y datblygiad ar yr ysgol leol a’r tai o gwmpas gan fod gwaith tebyg wedi cael ei orfodi i gau yn ddiweddar yn Wrecsham.

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd Arwel Edwards a fuasai rhoddi caniatâd i gynnig o’r fath yn gwneud y lle yn anneniadol i fusnesau yn y dyfodol.

 

      

 

     Teimlai’r Cynghorydd Eurfryn Davies nad oedd y safle yn addas i’r fath fwriad a chymharodd y bwriad hwn â’r bwriad blaenorol i leoli llosgydd yma rai blynyddoedd yn ôl.  

 

      

 

      

 

     Gan y Cadeirydd, y Cynghorydd Arwel Roberts, cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Glyn Jones cafwyd cynnig i wrthod y cais, a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Eurfryn Davies.

 

      

 

     Pleidleisiodd y canlynol i wrthod y cais, yn groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr John Byast, Eurfryn Davies, Arwel Edwards, Glyn Jones, John Roberts,

 

     WJ Williams

 

      

 

     Derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais:  Y CynghoryddJ Arwel Roberts

 

      

 

     Ymatal:  Y Cynghorwyr RL Owen, D Lewis-Roberts, Tecwyn Roberts

 

      

 

     Y rheswm a roddwyd dros wrthod oedd fod aelodau’n teimlo nad oedd y cais yn gweddu i’r busnesau eraill ar y stad ddiwydiannol.

 

      

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio’n otomatig i’r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros wrthod y cais.

 

      

 

      

 

10.11      34C284F NEWID DEFNYDD O SIOP MÂN WERTHU I SIOP PRYDAU POETH I’W BWYTA ODDI AR Y SAFLE YN 19 STYD Y BONT, LLANGEFNI

 

      

 

     Gan y Cynghorydd A Morris Jones cafwyd datganiad o ddiddordeb a gadawodd y cyfarfod am y drafodaeth a’r pleidleisio.  

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol. Nodwyd fod y Cyngor Tref yn gwrthwynebu’r bwriad hwn.

 

      

 

     PENDERFRYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais am y rhesymau a roddwyd, yn unol â’r amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad y swyddog.  

 

      

 

      

 

10.12      34C534  DATBLYGU ARDAL I DAIR SET O SEDDI GYDA FFENS DDERW A PHOSTYN CERFLUNWAITH DERW YN GER Y WINLLAN, LLANGEFNI

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno gan fod y bwriad yn effeithio ar dir ym meddiant y Cyngor.

 

      

 

     PENDERFRYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais am y rhesymau a roddwyd, yn unol â’r amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad y swyddog. 

 

      

 

      

 

10.13       38C236  CODI YSTAFELL HAUL YN TYDDYN PAUL, LLANFECHELL

 

      

 

     Cafwyd datganiad o ddiddordeb gan Mrs Elena White o’r Adran Gynllunio.  

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno gan fod yr ymgeisydd yn perthyn i un o swyddogion y Cyngor.  

 

      

 

     Gyda’r amod na ddeuai sylwadau perthnasol eraill i mewn yn ystod gweddill y cyfnod ymgynghori PENDERFYNWYD rhoddi’r awdurdod i’r Pennaeth Gwasanaethau Cynllunio ganiatáu’r cais am y rhesymau a roddwyd a chyda’r amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

10.14       39C397A  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD YNGHYD AG ADDASU’R FYNEDFA BRESENNOL AR DIR GER NODDFA, PORTHAETHWY

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno ar gais yr aelod lleol a awgrymodd ymweld â’r safle yn wyneb arwyddocâd y cais.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â’r safle.

 

      

 

10.15 1     42C95H  GOSOD TANC OLEW NEWYDD YNG NGHARTREF PRESWYL BRYN CEIRIOS, PENTRAETH

 

      

 

     Cafwyd datganiad o ddiddordeb gan Ms Keira Sweenie o’r Adran Gynllunio.

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno gan fod yr ymgeisydd yn perthyn i swyddog o’r Cyngor.

 

      

 

     Mynegodd y Cynghorydd Hefin Thomas bryder oherwydd bod y tanc olew mor agos i’r  annedd gerllaw, hefyd at yr effaith a gâi’r bwriad ar eu mwynderau, gofynnodd am ymweliad â’r safle.  

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â’r safle.

 

      

 

11     CEISIADAU A DDIRPRWYWYD

 

      

 

     Cyflwynwyd a derbyniwyd, adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Amgylchedd a Gwasanaethau Technegol) ar geisiadau a ddirprwywyd ac y gwnaethpwyd penderfyniad arnynt ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor hwn.  

 

      

 

     Gan Ms Hayley A Owen o’r Adran Gynllunio cafwyd datganiad o ddiddordeb ym mhenderfyniad dirprwyiedig rhif No 67 - 34C325J, 10 Bro Caerwyn, Llangefni

 

      

 

12     46C137D - 34 ANNEDD AR YR HEN FAES CRICED, BAE TREARDDUR -  DARPARIAETH AM DAI FFORDDIADWY

 

      

 

     Cyflwynwyd - adroddiad gan y Rheolwr Polisi Cynllunio yng nghyswllt darparu tai fforddiadwy yn nghyd-destun ymchwiliad cynllunio a gafwyd ar y cais uchod.  Gyda’r adroddiad amgawyd copi o lythyr oddi wrth asiant yr ymgeisydd dyddiedig 16 Mehefin, 2006.

 

      

 

     Yn ôl y cyngor polisi roedd tueddiad i fynd am dai fforddiadwy ar y safle ei hun, a’r ail ddewis oedd cael darpariaeth ar safle arall, a phetai’r ddau syniad yn methu, y trydydd dymuniad oedd derbyn tâl gan yr ymgeiswyr yn lle tai fforddiadwy.

 

      

 

     Yn yr achos hwn nid oedd hi’n bosib darparu tai fforddiadwy ar y safle a dymuniad yr ymgeiswyr oedd cynnig pump o dai fforddiadwy ar blotiau penodol ar safle a ddatblygwyd yn rhannol yng Nghaergeiliog - safle ac arno ganiatâd cynllunio.   Buasai hyn yn cwrdd â’r ddarpariaeth 30% dan y cynllun uchod.

 

      

 

     Y Cynghorwyr Arthur Jones a John Chorlton oedd y cynrychiolwyr enwebedig yn yr apêl (roedd y Cynghorydd John Chorlton yn aelod o’r Pwyllgor hwn pan wnaed y penderfyniad hwn a hefyd ef yw’r Deilydd Portffolio Tai); ynghyd â’r Cynghorydd Hefin Thomas fel Deilydd Portffolio Cynllunio; bydd yn apêl yn cael gwrandawiad ar 18 Gorffennaf.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd John Chorlton fod cytundeb ar bopeth ac eithrio’r tai fforddiadwy a theimlai ef fod gormod o bellter rhwng safle’r cais yn Nhrearddur a’r safle arall yng Nghaergeiliog.

 

      

 

     Darllenodd y Cynghorydd D Lewis-Roberts neges e-bost oddi wrth y Cynghorydd Arthur Jones a oedd yn absennol, ac roedd ef yn bleidiol i’r syniad o ddarparu pum ty fforddiadwy ar safle Caergeiliog.  

 

      

 

     Gan y Cynghorydd John Roberts cafwyd cynnig i dderbyn tâl yn lle tai fforddiadwy a hynny wedyn yn caniatáu i’r awdurdod godi tai fforddiadwy yn yr ardaloedd lle roedd angen tai o’r fath, a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd RL Owen.

 

      

 

     Cynnig gan y Cynghorydd Hefin Thomas oedd derbyn darpariaeth ar y safle arall, ond fod y gwaith adeiladu yn cael ei wneud cyn pen dwy flynedd i roddi caniatâd ond petai hynny’n methu derbyn tâl a chafodd hyn ei gynnig gan y Cynghorydd D Lewis-Roberts ac eileiwyd hyn gan y Cynghorydd Tecwyn Roberts.  

 

      

 

     Ar ôl trafodaeth faith PENDERFYNWYD cefnogi’s syniad o dderbyn tâl yn lle darparu tai fforddiadwy.

 

      

 

13

APELIADAU

 

      

 

13.1      LITTLE NETHERLEIGH COTTAGE, PONT-RHYD-Y-BONT

 

      

 

     Cyflwynwyd a nodwyd, er gwybodaeth, gopi o grynodeb o benderfyniad yr Arolygydd a benodwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru dan Adran 78 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 ar apel yn erbyn penderfyniad yr Awdurdod hwn i wrthod caniatâd cynllunio i godi to newydd, addasu’r groglofft ac addasiadau dan gais cynllunio 46C12A - cafodd yr apêl ei gwrthod.

 

      

 

13.2      YR HEN EFAIL, MOUNT PLEASANT, CAERGYBI

 

      

 

     Cyflwynwyd a nodwyd, er gwybodaeth, gopi o grynodeb o benderfyniad yr Arolygydd a benodwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru dan Adran 78 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 ar apel yn erbyn penderfyniad yr Awdurdod hwn i wrthod caniatâd cynllunio i ddymchwel yr adeilad presennol a chodi 4 ty teras dwy ystafell wely dan gais cynllunio 19C659A  - cafodd yr apêl ei gwrthod.

 

      

 

13.3     O.S. 9993, TALWRN

 

      

 

     Cyflwynwyd a nodwyd, er gwybodaeth, gopi o grynodeb o benderfyniad yr Arolygydd a benodwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru dan Adran 78 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 ar apel yn erbyn penderfyniad yr Awdurdod hwn i roi hysbysiad o fewn y cyfnod rhagnodedig o benderfyniad ar gais 23C234 am ganiatâd amlinellol - cafodd yr apêl ei gwrthod.

 

      

 

13.4      LLAN-FAWR NEWYDD, LLANGEFNI

 

      

 

     Cyflwynwyd a nodwyd, er gwybodaeth, gopi o adroddiad yr  Arolygydd a benodwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar apêl dan Ddeddf Iawndal Tir 1961 a Gorchymyn Datblygu Iawndal Tir 1964 am Dystysgrif Datblygiad Arall Priodol am orsaf betrol, bwyty a gesty ac a wrthodwyd gan yr Awdurdod hwn ar 5 Awst, 2004 (cyf:  L6805/B/2005/514671 - cafodd yr apel ei gwrthod.

 

      

 

     Dechreuodd y cyfarfod am 1.00 p.m. a daeth i ben am 4.55 p.m.

 

      

 

      

 

     J ARWEL ROBERTS

 

     CADEIRYDD