Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion dogfennau , 5 Medi 2007

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Dydd Mercher, 5ed Medi, 2007

PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION

 

Cofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 5 Medi, 2007

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd Arwel Roberts - Cadeirydd

 

Y Cynghorwyr John Byast, John Chorlton, Eurfryn Davies,

Glyn Jones, J Arthur Jones,Thomas Jones, Bryan Owen,

RL Owen, John Roberts, Hefin Thomas, WJ Williams MBE

 

 

 

WRTH LAW:

 

Cynllunio:

Rheolwr Rheoli Datblygu (DFJ)

Pennaeth Rheoli Cynllunio (eitem 14)

Arweinydd Tim/Swyddog Gorfodaeth (Mwynderau a Gwastraff) - eitem 10.4

Cynorthwywr Cynllunio (KS)

 

Priffyrdd:

Uwch Beiriannydd (Rheoli Datblygu a Hawliau Tramwy)(JRWO)

 

Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol (RWJ)

Swyddog Pwyllgor (MEH)

 

 

 

YMDDIHREURIAD:

 

Y Cynghorydd Arwel Edwards,Denis Hadley

 

 

 

HEFYD YN BRESENNOL:

 

Aelodau Lleol:  Y Cynghorwyr WI Hughes - eitem 6.1,

G Allan Roberts - eitem 6.3, RG Parry OBE - eitemau 6.9, 6.10 & 6.11, GO Parry MBE

 

 

1

YMDDIHEURIADAU

 

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb fel a nodwyd uchod.

 

2

DATGANIAD O DDIDDORDEB

 

Derbyniwyd datganiadau o ddiddordeb fel y cawsant eu cofnodi dan yr eitemau perthnasol.

 

3

COFNODION

 

Cadarnhawyd a llofnodwyd, cofnodion y cyfarfod o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gafwyd ar

25 Gorffennaf, 2007 (Cofnodion y Cyngor 18 Medi, 2007, tud 154 - 167) gyda'r cywiriadau a ganlyn:  

 

 

10.13 Dylai'r fersiwn Gymraeg ddarllen:-

 

 

 

"PENDERFYNWYD ymweld â'r safle hwn a hefyd y safle yn eitem 10.14 isod"

 

 

 

6.5 Ty Mawr, Capel Gwyn

 

 

 

Ÿ

yn y paragraff ble 'dywedodd y Cynghorydd John Chorlton ei fod, o bosib, wedi gweithio gyda mab yr ymgeisydd' .... dylai hyn ddarllen 'gwraig yr ymgeisydd'.

 

 

 

Ÿ

yn y paragraff ble dywedwyd fod y Cynghorydd Glyn Jones wedi dweud 'nad oedd yr ymgeisydd yn dymuno trafod safleodd eraill posib' ... dylai hyn ddarllen 'fod y Pwyllgor yn ymdrin â'r safle arbennig hwn heddiw'.

 

 

 

 

 

4

YMWELIADAU SAFLE

 

 

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd, fel cofnod cywir, adroddiad ar yr Ymweliadau â Safleoedd Cynllunio gafwyd ar 8 Awst, 2007.  

 

 

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd John Roberts at eitem 3 - 14 Lôn Dyfnïa,Llanfairpwll a dywedodd y dylai enw'r stad ddarllen "Stad Wern Gethin".

 

    

 

5

CEISIADAU A OHIRIWYD

 

 

 

5.1

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

19LPA813B/CC  19LPA813B/CC  CAIS I NEWID AMOD (03) ER MWYN CANIATÁU MANYLION LLIFOLEUADAU AR ÔL DECHRAU'R GWAITH YN HYTRACH NA CHYN DECHRAU'R GWAITH YNG NGHYFLEUSTERAU CHWARAEON MILLBANK, CAERGYBI

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan ei fod wedi ei gyflwyno gan y Cyngor ac yn effeithio ar dir yn ei berchnogaeth. Ar 6 Mehefin a chan ddilyn argymhelliad y swyddog, i bwrpas asesu effaith y datblygiad ar dai cyfagos, penderfynwyd ymweld â'r safle ac fe gafwyd hyn ar 20 Mehefin 2007.  Adroddodd y swyddog fod canlyniad yr asesiad heb ei derbyn.  

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais am y rheswm a roddwyd.

 

 

 

 

 

5.2

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

31C346A  CODI ADEILAD AMAETHYDDOL I GADW ANIFEILIAID YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU AR DIR YN FFERM SIGLEN, LLANFAIR-PWLL

 

 

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl  dymuniad yr aelod lleol.  Penderfynwyd ymweld â'r safle ar 25 Gorffennaf ac fe gafwyd hyn ar 8 Awst, 2007. Gofynnodd y swyddog am ohiriad tra'n disgwyl am ragor o wybodaeth i gwblhau'r ymgynghoriad.

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais am y rheswm a roddwyd.

 

 

 

 

 

5.3

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

33C28E/1  CAIS LLAWN I GODI IS-ORSAF DRYDAN YN

 

CAE WIAN, GAERWEN

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan ei fod yn effeithio ar dir ym mherchnogaeth y Cyngor.  Yn y cyfarfod ar 25 Gorffennaf, 2007 penderfynodd y Pwyllgor hwn ganiatau'r cais, gydag amodau.  Fe nodwyd fod Scottish Power wedi cyflwyno Datganiad ar Swn a Dirgrynu a gofynnodd y swyddog am ohiriad tra'n disgwyl ymateb gan yr ymgeisydd ar effaith meysydd electromagnetig.

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais am y rheswm a roddwyd.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

6

CEISIADAU'N CODI

 

 

 

6.1

CAIS YN TYNNU'N GROES

 

 

 

14C199A  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD AR DIR GER BYNGLO PARCIAU, TYN LON

 

 

 

Gan Y Cynghorydd J Arthur Jones cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais a gadawodd y cyfarfod am y drafodaeth a'r pleidleisio.  Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl  dymuniad yr aelod lleol.

 

 

 

Yn y cyfarfod gafwyd ar 4 Gorffennaf, 2007 penderfynodd y Pwyllgor ohirio penderfynu ar y cais er mwyn i swyddogion gael rhagor o wybodaeth ar opsiynau eraill, e.e. addasu adeilad neu anheddau addas eraill ar werth yn lleol.  Ar 25 Gorffennaf penderfynwyd gohirio ystyried y cais ar gais yr ymgeisydd.

 

 

 

Yn dilyn ysgrifennu'r adroddiad fe nododd y swyddog fod gohebiaeth wedi ei derbyn gan yr ymgeisydd yn rhoi manylion o anghenion ei mab anabl a dywedwyd gan yr ymgeisydd y dylid cysidro'r wybodaeth fel un sensitif.  Nodwyd ymhellach petai'r Pwyllgor yn penderfynu cefnogi'r cais hwn y byddai'n rhaid i swyddogion drafod y manylion yn llawn gyda'r ymgeisydd.

 

 

 

Roedd camddealltwriaeth wedi bod, meddai'r aelod lleol, gan fod yr ymgeisydd yn fodlon i'r wybodaeth oedd yn ei llythyr gael ei datgelu i aelodau'r pwyllgor ond dim i'w gylchredeg yn gyhoeddus.

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais tan y cyfarfod nesaf.

 

 

 

 

 

6.2

CAIS ECONOMAIDD

 

 

 

19C251L/ECON  CAIS AMLINELLOL I GODI SIOP GWERTHU BWYD AR DIR GER SAFLE KEEGANS & TRAVELODGE, KINGSLAND, CAERGYBI

 

 

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor benderfynu arno gan fod rhan o’r safle yn eiddo i’r Cyngor. Dymuniad yr aelodau ar 25 Gorffennaf, 2007 oedd un o wrthod y cais am y rhesymau a ganlyn:

 

 

 

Ÿ

Polisi 19 o Gynllun Lleol Ynys Môn

 

Ÿ

bod Asiantaeth yr Amgylchedd o’r farn bod y safle y tu mewn i ranbarth llifogydd C2;

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros wrthod y cais.

 

 

 

Fe nododd y swyddog y dylai'r cais hwn gael ei ganiatáu gan nad oedd y rhesymau dros wrthod yn ddigonol.

 

 

 

Ym marn y Cynghorydd Chorlton, yr aelod lleol, byddai'r cais hwn yn creu niwed i fusnesau sydd yn stryffaglio'n barod yn yr ardal, a teimlai y byddai bwyty yn fwy addas i lenwi'r bwlch hwn.  Nodwyd hefyd ei fod yn fodlon tynnu'n ôl ei argymhelliad blaenorol h.y. fod y safle hwn y tu mewn i ranbarth llifogydd C2.

 

 

 

PENDERFYNWYD glynu wrth y penderfyniad blaenorol a gwrthod y cais, yn groes i argymhelliad y swyddog, ond tynnu'n ôl y rheswm o botensial llifogydd.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

6.3       GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

19LPA879CC  CAIS AMLINELLOL I GODI DWY ANNEDD YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GEIR TU ÔL I RIFAU 1 & 3 PARC FELIN DDWR, LLAIN-GOCH, CAERGYBI

 

 

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan mai'r Cyngor yw'r ymgeisydd a pherchennog y tir. Penderfynwyd ymweld â'r safle ar 25 Gorffennaf ac fe gafwyd hyn ar 8 Awst, 2007.    

 

 

 

Eiriol mai hwn yw'r unig lecyn o dir i blant lleol chwarae arno a wnaeth yr aelod lleol, y Cynghorydd G Allan Roberts.  Nododd hefyd  fod y "National Playing Fields Association" yn nodi mai hwn yw'r unig safle lleol i blant chwarae'n saff arno.

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd RL Owen ei fod wedi ymweld â'r safle a nododd mai hwn yw'r unig safle saff i blant lleol chwarae.

 

 

 

Cytuno a wnaeth y Cynghorydd WJ Williams a dywedodd ei bod yn arbennig o bwysig fod amgylchedd saff yn cael ei ddarparu i blant chwarae yn lleol, ble gall y rhieni gadw llygaid ar eu plant.

 

 

 

Ailadrodd pwysigrwyd darpariaeth o'r fath ac y dylai gael ei chadw i blant chwarae a wnaeth y Cynghorydd O Glyn Jones.

 

 

 

Yn unfrydol PENDERFYNWYD gwrthod y cais, yn groes i argymhelliad y swyddog.

 

 

 

Y rheswm a roddwyd dros wrthod oedd colli mwynderau chwarae plant yn y gymuned.

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio'n otomatig i'r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros wrthod y cais.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

6.4

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

31C27G  NEWID DEFNYDD Y GAREJ/GWEITHDY I UNED BRESWYL YN Y STABLES, LLANFAIR-PWLL

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno ar gais yr aelod lleol.  Ar 4 Gorffennaf penderfynwyd ymweld â'r safle ac fe gafwyd hyn ar 18 Gorffennaf, 2007.  Dymuniad yr aelodau ar 25 Gorffennaf, oedd caniatau'r cais a'r rheswm a roddwyd dros ganiatáu oedd fod y cais hwn yn cydymffurfio gyda pholisïau addasu ac nad oedd rheol yn erbyn addasiad cynnar.  Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu'r cais.

 

 

 

Roedd llythyr ychwanegol oddi wrth yr asiant wedi ei dderbyn, a hynny ar ôl i'r adroddiad gael ei gyhoeddi meddai'r Rheolwr Rheoli Datblygu.  Roedd y llythyr wedi ei gynnwys yn y pecyn llythyrau gerbron y cyfarfod.

 

 

 

Nododd y Cynghorydd John Roberts y byddai'n adrodd i'r cyfarfod yn absenoldeb yr aelod lleol, sef y Cynghorydd J Arwel Edwards gan na allai ef fod yn bresennol oherwydd angladd yn y teulu.

 

 

 

Noddodd y Cynghorydd Roberts fod yr aelod lleol eisiau tynnu sylw'r pwyllgor at baragraff cyntaf adroddiad y swyddog sydd yn rhoi cyd-destun y cais.  Noddodd fod y swyddog yn mynegi pryder y byddai caniatáu'r cais yn gosod cynsail.  Pwysleisiodd nad oedd cymhariaeth rhwng y cais hwn a chais ym Marian-glas i addasu adeilad allanol yn annedd.  Mae'r cais yn dangos gwendid

 

canllawiau addasu gweithdy yn annedd mewn ardal tu allan i ffiniau'r pentref.  Tydi'r bwriad ddim yn cydymffurfio â Pholisi 55 (cynllun lleol) ar addasiadau.  Nododd fod yr aelod lleol yn gofyn am i'r cais gael ei wrthod gan y byddai'n gosod cynsail yn yr ardal.

 

 

 

Noddod y Cynghorydd HW Thomas ei fod wedi pleidleisio i ganiatáu'r cais yn y pwyllgor blaenorol a theimlai fod yr adeilad yn addas i'w addasu.

 

 

 

Dyma hefyd oedd teimlad y Cynghorydd JA Jones a bod yr adeilad yn hollol addas i'w addasu, roedd yn adeilad o safon dda ac nid oedd gan y Cyngor bolisi i wrthod y cais hwn.

 

 

 

PENDERFYNWYD glynu wrth y penderfyniad blaenorol a chaniatáu'r cais hwn, yn groes i argymhelliad y swyddog, gydag amodau safonol.

 

 

 

 

 

6.5

CAIS YN TYNNU'N GROES

 

 

 

31C134B  CAIS AMLINELLOL AR GYFER DATBLYGIAD PRESWYL YN CAE CYD, LLANFAIR-PWLL

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl  dymuniad yr aelod lleol. Penderfynwyd ymweld â'r safle ar 9 Mai, ac fe wnaed hynny ar 23 Mai, 2007.  Roedd dwysedd datblygu wedi ei ostwng ac yn dangos tri bynglo ar wahan; roedd hyn yn fwy derbyniol.

 

 

 

     Gan y Cynghorydd John Roberts cafwyd cefndir y cais a nododd fod yna ostyngiad yn awr o 8 i 3 annedd ar y safle.  Nododd ei fod yn cytuno gyda'r swyddogion y dylai'r cais gael ei ganiatáu.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais hwn am y rhesymau a roddwyd, gydag amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

      

 

6.6     GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     31C223M  CYNLLUNIAU DIWYGIEDIG AR GYFER LLEOLIAD YR ANNEDD A GAREJ AR BLOT 14, LÔN DYFNÏA, LLANFAIR-PWLL

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol. Nodwyd mai'r bwriad yma oedd troi yr adeilad ar y plot.  Penderfynwyd ymweld â'r safle ar 25 Gorffennaf ac fe gafwyd hyn ar 8 Awst, 2007.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais hwn am y rhesymau a roddwyd, gydag amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

      

 

6.7     CAIS ECONOMAIDD

 

      

 

     34C563/ECON  CAIS AMLINELLOL I GODI UNEDAU AR GYFER DEFNYDD CYFLOGAETH YN STAD DDIWYDIANNOL, LLANGEFNI

 

      

 

     Gan Mr JRW Owen o'r Adran Briffyrdd cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais a gadawodd y cyfarfod am y drafodaeth a'r pleidleisio. Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan fod y cais yn effeithio ar dir ym mherchnogaeth y Cyngor.  Penderfynwyd ymweld â'r safle ar 25 Gorffennaf ac fe gafwyd hyn ar 8 Awst, 2007.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

     Doedd yr amodau llawn ddim ynghlwm wrth yr adroddiad gyflwynwyd i'r Pwyllgor meddai'r Rheolwr Rheoli Datblytgu ac fe ddosbarthwyd copi o'r amodau perthnasol yn y cyfarfod.

 

      

 

     Yn unfrydol PENDERFYNWYD caniatáu'r cais hwn am y rhesymau a roddwyd, gydag amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

      

 

      

 

6.8     CAIS YN TYNNU'N GROES

 

      

 

     35C262  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNED AR DIR GER FFERM LLANFAES, LLANGOED

 

      

 

     Cafwyd datganiad o ddiddordeb gan y Cynghorydd Hefin Thomas a gadawodd y cyfarfod am y drafodaeth a'r pleidleisio. Cafwyd datganiad o ddiddordeb gan y Cynghorydd John Rowlands hefyd yn y cais hwn.   Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol. Penderfynwyd ymweld â'r safle ar 25 Gorffennaf ac fe gafwyd hyn ar 8 Awst, 2007.

 

      

 

     Mae'r safle y tu allan i'r llinell ddatblygu ac ystyrir ei fod yn y cefn gwlad, sy'n groes i Bolisi 53 Cynllun Lleol Ynys Môn a Pholisi HP6 y Cynllun Datblygu Unedol a stopiwyd meddai'r Rheolwr Rheoli Datblygu.  Nododd ymhellach fod y welededd o'r fynedfa yn is-safonol ac roedd hyn yn reswm ychwanegol dros wrthod.

 

      

 

     Nododd y Cynghorydd RL Owen mai dymuniad yr ymgeiswyr oedd ymddeol i'r safle hwn oedd yn terfynu ac Ysgol Gynradd Llangoed.  Nododd fod y safle ar draws cyflymdra 30 mya lleol.  

 

      

 

     Dywedodd y swyddog fod yna ffin ddatblygu i Langoed a bod y safle y tu allan i'r ffin hon.

 

      

 

     Byddai'r cais yn mewn lenwi'n naturiol yn y rhan arbennig hon meddai'r Cynghorydd J Arthur Jones ac argymhellodd ganiatáu'r cais.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais, yn groes i argymhelliad y swyddog.

 

      

 

     Y rheswm a roddwyd dros ganiatáu oedd y byddai'n mewn lenwi'n sensitif.

 

      

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio'n otomatig i'r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu'r cais.

 

      

 

      

 

6.9     GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     48C106H  DILEU AMOD (07) SEF "BYDD RAID DARPARU LLWYBR TROED 1.8m  O LED YN CYRRRAEDD SAFONAU'R AWDURDOD PRIFFYRDD AR HYD FFRYNT Y SAFLE GER LLINELL Y CYRBIN A FFINIAU'R SAFLE CYN PRESWYLIO YN YR ANNEDD' ODDI AR GANIATÂD CYNLLUNIO 48C106G AR BLOT 3 UWCHLAW'R FFYNNON, GWALCHMAI

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol. Penderfynwyd ymweld â'r safle ar 25 Gorffennaf ac fe gafwyd hyn ar 8 Awst, 2007.

 

      

 

     Rhoddwyd caniatâd cynllunio ar dri plot yma lawer o flynyddoedd yn ôl meddai'r Cynghorydd RG Parry OBE.  Rhoddwyd amod cynllunio i ddarparu llwybr troed ar hyd ffrynt y safle gyda llinell y cyrbin ar derfyn y safle, a'r gwaith hwn i'w gwblhau cyn i unrhyw un fyw yn y tai.  Nododd y byddai'n costio rhyw £10,000 i'r ymgeiswyr, a hyn yn rhoddi pwysau ariannol ychwanegol ar yr ymgeisydd.  Rhoddwyd yr amod hwn ar y tri phlot.  Nododd ymhellach nad oes llwybr troed rhwng

 

      

 

      

 

      

 

     y pentref a'r tai hyn.  Gofynnodd y Cynghorydd Parry am gefnogaeth y Pwyllgor i ddiddymu'r amod hwn.

 

      

 

     Nododd y Rheolwr Rheoli Cynllunio mai'r rheswm dros osod yr amod oedd diogelwch y ffordd ac i sicrhau fod gwelededd digonol i'r ffordd; petai'r amod yn cael ei ddileu byddai diogelwch cerddwyr mewn peryg, a ni allent symud o'r neilltu i greu lle i geir basio.  Nododd hefyd y byddai mynedfeydd i'r plotiau yn beryglus petai'r amod yn cael ei ddileu.

 

      

 

     Dyfynnodd y Cynghorydd J Arthur Jones rannau o gylchlythyr 35/95 y Swyddfa Gymreig ar ddefnyddio amodau a'r profion angenrheidiol wrth osod amodau ble y dywedir "..... that placing conditions should not place a burden on applicants"  

 

      

 

     Nododd y Cynghorydd HW Thomas fod yr aelod lleol yn dweud nad oes llwybr troed rhwng y pentref a'r tai hyn; felly roedd yn ystyried y dylai'r amod gael ei ddileu.

 

      

 

     Rhoddwyd yr amod hwn ar y caniatâd cynllunio i sicrhau diogelwch cerddwyr meddai'r Uwch Beiriannydd (Rheoli Datblygu a Hawliau Tramwy); roedd yr ymgeisydd blaenorol wedi derbyn yr amod.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais, yn groes i argymhelliad y swyddog.

 

      

 

     Y rheswm a roddwyd dros ganiatáu oedd y byddai Amod (07) yn rhoi baich ar yr ymgeisydd na ellid ei gyfiawnhau a hyn yn groes i'r cyngor yn y cylchlythyr.

 

      

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio'n otomatig i'r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu.

 

      

 

      

 

6.10      GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     48C106J  DILEU AMOD (09) SEF "BYDD RAID DARPARU LLWYBR TROED 2m  O LED YN CYRRRAEDD SAFONAU'R AWDURDOD PRIFFYRDD AR HYD FFRYNT Y SAFLE GER LLINELL Y CYRBIN A FFINIAU'R SAFLE CYN PRESWYLIO YN YR ANNEDD' ODDI AR GANIATÂD CYNLLUNIO 48C106D AR BLOT 1 UWCHLAW'R FFYNNON, GWALCHMAI

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Penderfynwyd ymweld â'r safle ar 25 Gorffennaf ac fe gafwyd hyn ar 8 Awst, 2007.

 

      

 

     Cafodd y cais hwn ei ystyried ar y cyd gyda'r cais yn eitem 6.9 uchod pryd y penderfynwyd rhoddi caniatâd i ddileu Amod (07) gan ei fod yn faich afresymol ac yn groes i gyngor y cylchlythyr.

 

      

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio'n otomatig i'r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu.

 

      

 

      

 

6.11      CAIS YN TYNNU'N GROES

 

      

 

     48C145B  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD YNGHYD AG ADDASU'R FYNEDFA BRESENNOL I GEIR AR GAE RHIF O.S. 0262 GER PENCRAIG, GWALCHMAI

 

      

 

      

 

     Ar 25 Gorffennaf, 2007 penderfynwyd caniatáu'r cais hwn a oedd yn gwyro, a hynny'n groes i argymhelliad y swyddog.

 

      

 

      

 

      

 

     Teulu lleol oedd hwn, meddai'r Cynghorydd RG Parry OBE, yr aelod lleol.  Gyda phrisiau tai lleol dros £200,000 roedd teulu wedi cynnig tir iddynt adeiladu cartref.  Byddai trac yn cael ei greu i ddod â'r plot yn agosach at dai cyfagos.  Nododd fod yr Adran Briffyrdd yn hapus gyda'r fynedfa i'r safle.

 

      

 

     Nododd y Rheolwr Rheoli Datblygu mai'r rheswm roddwyd dros ganiatáu'r cais hwn oedd yn gwyro oedd y byddai'n creu cartref i bobl leol - nododd y byddai'r cais yn annedd a fyddai ar gael ar y farchnad agored.  Nododd ymhellach fod cais wedi'i ganiatáu yn ardal Gwalchmai a hwnnw gydag elfen o dai fforddiadwy.

 

      

 

     Nododd y Cynghorydd Glyn Jones nad oedd y cynllun roddwyd i'r Pwyllgor yn rhoi darlun clir o'r ardal a chynigiodd ganiatáu; cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd JA Jones.

 

      

 

     PENDERFYNWYD glynu wrth y penderfyniad i ganiatáu'r cais hwn, yn groes i argymhelliad y swyddog, gydag amodau safonol yn cynnwys amod 106 (person lleol).

 

      

 

     Dymunai'r Cynghorwyr John Roberts a Hefin Thomas nodi nad oeddynt wedi pleidleisio ar y cais hwn.

 

      

 

      

 

7

CEISIADAU ECONOMAIDD

 

      

 

     Doedd dim ceisiadau economaidd i'w hystyried yn y cyfarfod hwn.

 

      

 

      

 

8     TAI FFORDDIADWY

 

      

 

     Doedd dim ceisiadau am dai fforddiadwy i'w hystyriad yn y cyfarfod hwn.  

 

      

 

      

 

9

CEISIADAU'N TYNNU'N GROES

 

      

 

9.1      24C261 CAIS AMLINELLOOL I GODI ANNEDD AR DIR DAFARN DRIP, CERRIG-MÂN, PEN-Y-SARN

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan fod y cais yn tynnu'n groes i Gynllun Lleol Ynys Môn ond yn un y gellid ei gefnogi dan y Cynllun Datblygu Unedol a stopiwyd.

 

      

 

     Dymunodd y Cynghorydd AM Jones, yr aelod lleol, nodi nad oedd ef wedi gofyn am i'r cais gael ei ystyried gan y Pwyllgor.

 

      

 

     Yn unfrydol PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd, gydag amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

      

 

9.2     38C238A  CAIS LLAWN I GODI ANNEDD UNLLAWR, CREU MYNEDFA NEWYDD A GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD AR DIR GER CARREG TROS FFORDD, MYNYDD MECHELL

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol. 

 

      

 

     Rhannodd y Cynghorydd TH Jones, yr aelod lleol, gynllun i'r aelodau o anheddau o  gwmpas safle'r cais hwn a nododd fod yno 34 ohonynt.  Person lleol oedd yr ymgeisydd, a hwnnw wedi cael tir gan y teulu i adeiladu cartref.  Nododd nad oedd gwrthwynebiadau wedi dod i law ynglyn â'r cais ac roedd yr ymgeisydd yn fodlon derbyn amodau mewn perthynas â'r cais.

 

      

 

     Adroddodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod cais wedi ei gyflwyno a'i wrthod ar y safle hwn yn 2006.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd JA Jones fod y safle yn y cefn gwlad agored a chynigiodd wrthod.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd HW Thomas fod y safle yng nghanol caeau a'r cais yn un anodd i'w gefnogi.

 

      

 

     Nododd y Cynghorydd EG Davies fod ceisiadau tebyg wedi eu caniatáu ar yr Ynys a chynigiodd ganiatáu'r cais.

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

      

 

     Gwrthod y cais, yn unol ag argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr John Byast, WJ Chorlton, JA Jones, J Arwel Roberts, John Roberts, HW Thomas, WJ Williams MBE.

 

      

 

     Caniatáu'r cais, yn groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr EG Davies, O Glyn Jones, TH Jones, Bryan Owen, RL Owen.

 

      

 

     PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y swyddog.

 

      

 

      

 

10

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

10.1      11C429B  GOSOD TANC L.P.G. YR HEN LOFFT HWYLIAU, PORTH AMLWCH

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan fod y tir ym mherchnogaeth y Cyngor.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd, gydag amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

      

 

10.2      12LPA881/CC  CAIS ÔL WEITHREDOL I GREU MYNEDFA AMGEN (FWY) I GAE AMAETHYDDOL A CHREU RAMP GONCRIT I GANIATÁU MYNEDIAD I'R NANT AR GYFER ANIFEILIAID AR GAE O.S. 1200, LLANFAES

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan iddo gael ei gyflwyno gan Adran Briffyrdd y Cyngor.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd, gydag amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

      

 

10.3      17C408A  NEWID AC ADDASU ADEILAD ALLANOL I FOD YN ANNEDD YN CAERAU, LLANSADWRN

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol. 

 

     Rhannodd y Cynghorydd EG Davies, yr aelod lleol, gopi o ohebiaeth y Pensaer mewn perthynas â'r eitem hon.  Dywedodd y Cadeirydd na ddylai aelodau rannu unrhyw ohebiaeth mewn cyfarfodydd yn y dyfodol.  Gofynnodd y Cynghorydd Davies i'r pwyllgor ymweld â'r safle i weld yr adeilad.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â'r safle am y rheswm a roddwyd.

 

      

 

      

 

10.4      17LPA494J/CC  CAIS MATERION A GADWYD YN ÔL AR GYFER DATBLYGU CYFLEUSTERAU I GYNHYRCHU YNNI NWY AR SAFLE GWASTRAFF YNGHYD Â'R MYNEDFA, RHWYDWAITH MEWNOL A THIRLUNIO CYSYLLTIEDIG AR DIR SAFLE GWASTRAFF, PENHESGYN GORS, LLANSADWRN, PORTHAETHWY

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan iddo gael ei gyflwyno gan y Cyngor Sir.

 

      

 

     Dygodd yr Arweinydd Tim/ Swyddog Gorfodaeth (Mwynderau a Gwastraff) sylw'r aelodau mai'r fersiwn Saesneg o'r adroddiad oedd yr un gywir ac nid yr un Gymraeg ble dywedwyd fod gan wrthwynebwyr gyfle i gyflwyno eu hymatebion tan 20 Awst, 2007.  Nododd ymhellach fod ymateb Asiantaeth yr Amgylchedd wedi dod i law ac nad oedd ganddynt wrthwynebiad i'r cais.

 

      

 

     Nododd y Cynghorydd EG Davies ei bod wedi cymryd pum mlynedd i ganiatáu cais am gyfleuster nwy ar y safle gwastraff a'r holl egni a oedd yno wedi'i wastraffu.  Pwysleisiodd y Cynghorydd Davies y byddai cynnydd yn y traffic ar y ffordd fechan hon yn y dyfodol a dylai'r gyffordd hon gael ei gwella er mwyn diogelwch

 

      

 

     Cefnogi'r caelod lleol a wnaeth y Cynghorydd RL Owen a dywedodd yntau y dylai'r gyffordd gael ei gwella.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd, gydag amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

      

 

10.5      15C5P/AD  CAIS I GODI ARWYDD HEB EI OLEUO AR GYFER AMGUEDDFA ARFOROL CAERGYBI AR DIR GER LLOCHES BWS, TRAETH Y NEWRY, CAERGYBI

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan fod y tir ym mherchnogaeth y Cyngor.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd, gydag amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

      

 

10.6      19C987/HAZ  CANIATÂD SYLWEDDAU PERYGLYS AR GYFER STORIO OLEW NWY MOROL YN NHERMINAL 4, PORTHLADD CAERGYBI, CAERGYBI

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno ar gais yr aelod lleol.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd, gydag amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

      

 

10.7      19LPA883/CC  GOSOD RHEILIAU NEWYDD O FLAEN EGLWYS Y SANTES FAIR, STRYD Y FARCHNAD, CAERGYBI

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan i'r cais gael ei gyflwyno gan y Cyngor.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd, gydag amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

10.8      32C152A  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD AR DIR CEFN FARM, CAERGEILIOG.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd J Arthur Jones cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais a gadawodd y cyfarfod am y drafodaeth â'r pleidleisio. Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno ar gais yr aelod lleol.

 

      

 

     Nododd y Rheolwr Rheoli Datblygu nad oedd y dyddiad cyflwyno sylwadau'n dod i ben tan 6 Medi, 2007.

 

      

 

     Nododd y Cynghorydd Glyn Jones, yr aelod lleol, fod y safle yn agos i lwybr cyhoeddus.  Roedd cais wedi ei ganiatáu yn ddiweddar ar safle hen ddepo'r Cyngor i berson ag anghenion arbennig.  Mae'r safle hwn hefyd yn agos at y depo.  Pwysleisiodd nad oedd gwrthwynebiad wedi ei dderbyn gan unrhyw un yn lleol na chan y Cyngor Cymuned.  Adroddodd y Cynghorydd Jones ymhellach fod adfeilion adeilad hefyd ar y safle.

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd HW Thomas a oedd y cais hwn yn cydymffurfio â Pholisi 50.  Mewn ymateb dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu, o bwyso a mesur yr yrstyriaethau na fyddai caniatáu hwn yn llenwi bwlch naturiol.

 

      

 

     Cefnogi'r caelod lleol a wnaeth y Cynghorydd O Glyn Jones, ac ychwanegodd fod annedd ar y safle hwn flynyddoedd yn ôl, cynigiodd ganiatáu'r cais.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu nad oedd tystiolaeth fod annedd wedi bod ar y tir hwn.

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

      

 

     Caniatáu'r cais, yn groes i argymhelliad y swyddog;  Y Cynghorwyr John Byast, EG Davies,  O Glyn Jones, TH Jones, Bryan Owen, RL Owen, WJ Williams MBE.

 

      

 

     Derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais:  Y Cynghorwyr J Arwel Roberts, John Roberts.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatau'r cais, yn groes i argymhelliad y swyddog.

 

      

 

     Y rheswm a roddwyd dros ganiatáu oedd - Polisi 50 (pentrefi rhestredig) ac angen lleol

 

      

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio'n otomatig i'r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu.

 

      

 

      

 

10.9      34LPA882/TPO/CC  CAIS I DORRI DWY GOEDEN A LLEIHAU CORON UN COEDEN WEDI'U DIOGELU DAN ORCHYMYN GWARCHOD COED YN Y DINGLE, LLANGEFNI

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan i'r cais gael ei gyflwyno gan y Cyngor.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd, gydag amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

10.10      49C273A  CAIS LLAWN I GODI ANNEDD YN 7 TAN Y BRYN, Y FALI

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Glyn Jones cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais hwn a gadawodd y cyfarfod am y drafodaeth a'r pleidleisio.  Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno ar gais yr aelod lleol.

 

      

 

     Nododd y Cynghorydd GO Parry MBE fod ganddo ef a'r Cyngor Cymuned bryder ynglyn â gosod cynsail trwy adeiladu anheddau mewn llefydd o'r fath.  Mynegodd hefyd ei gonsyrn ynglyn â'r sustem garthffosiaeth leol a gobeithio y byddai swyddogion yn sicrhau cydymffurfio gyda'r amodau y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.

 

      

 

     Cefnogi datganiad yr aelod lleol i'r Pwyllgor a wnaeth y Cynghorydd RL Owen.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd, gydag amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

      

 

11

CEISIADAU A DDIRPRWYWYD

 

      

 

     Cyflwynwyd a derbyniwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Amgylchedd a Gwasanaethau Technegol) ar geisiadau a ddirprwywyd ac y gwnaethpwyd penderfyniad arnynt ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor hwn.

 

      

 

      

 

12     19C419A  DATBLYGIAD PRESWYL I DDARPARU 29 O UNEDAU FFORDDIADWY YN CYNNWYS WYTH TY DEULAWR, UN TALCEN GYDA TAIR YSTAFELL WELY; 18 O FFLATIAU GYDA DWY YSTAFELL WELY A THRI FFLAT GYDA UN YSTAFELL WELY O FEWN PEDWAR ADEILAD TRI LLAWR YNGHYD A CHREU MYNEDFA NEWYDD I GEIR AC I GERDDWYR YN YR HEN IARD GOED, FFORDD TURKEY SHORE, CAERGYBI

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor yn wreiddiol ar gais yr aelod lleol ble rhoddwyd caniatâd mewn egwyddor ym mis Rhagfyr 2006, gydag amod Adran 106 ar ddarparu tai fforddiadwy.  Ymhellach i hyn cyflwynwyd a chaniatawyd cais i godi anheddau ar safle Ysbyty Penrhos, Caergybi dan gyf: 19C171B ar yr amod fod elfen tai fforddiadwy y cais hwn yn cael ei throsglwyddo i safle Ffordd Turkey Shore.  Er mwyn bodloni gofynion Cymdeithas Tai Eryri mae dyluniad y pedair uned (plotiau 26 - 29) sy'n cynrychioli'r elfen a drosglwyddwyd wedi'u newid i ffitio gyda safon 'patrwm llyfr'  presennol.  O'r herwydd, ailroddwyd cyhoeddusrwydd i'r cais ac fe wnaethpwyd gwaith ymgynghori.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rheswm a roddwyd, gydag amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

      

 

13      APELIADAU

 

      

 

13.1      24C242A  SAFLE TYN FFYNNON, LLANEILIAN

 

      

 

     Nodwyd fod apel cyf APP/L6805/A/07/2046069 mewn perthynas â'r uchod wedi ei thynnu'n ôl a'r ffeil wedi ei chau.

 

      

 

     Cyflwynwyd, er gwybodaeth, gopi o grynodeb o'r penderfyniadau gymerwyd gan yr Arolygwyr Cynllunio a benodwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru:

 

        

 

      

 

      

 

      

 

      

 

13.2      TIR GER STAD GARREG-LWYD, CAERGYBI

 

      

 

     Dan Adran 78 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 apêl yn erbyn penderfyniad yr Awdurdod hwn i wrthod caniatâd cynllunio am wyth annedd newydd dan gais cynllunio 19C641G - caniatawyd yr apêl a rhoddwyd caniatâd cynllunio gydag amodau fel a nodwyd yn y Penderfyniad Ffurfiol.

 

      

 

13.3      .......TIR GER 39 FFORDD TREARDDUR, BAE TREARDDUR

 

      

 

     Dan Adran 78 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 apêl yn erbyn penderfyniad yr Awdurdod hwn i wrthod caniatâd cynllunio i greu dau blot i anheddau trwy gais cynllunio 46C166M - caniatawyd yr apêl a rhoddwyd caniatâd cynllunio gydag amodau fel a nodwyd yn y Penderfyniad Ffurfiol.

 

      

 

13.4      TIR YN TAN-RHIW, PENMON

 

      

 

     Dan Adran 78 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 apêl yn erbyn penderfyniad yr Awdurdod hwn i wrthod caniatâd cynllunio amlinellol i godi annedd sengl dan gais cynllunio 35C90A - caniatawyd yr apêl a rhoddwyd caniatâd cynllunio amlinellol gydag amodau fel a nodwyd yn y Penderfyniad Ffurfiol.

 

      

 

13.5      O.S. 5500  LLYN Y GORS, LLANDEGFAN

 

      

 

     Apêl dan Adran 73 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 yn erbyn cydymffurfio gydag amod 6 fel rhan o ganiatád cynllunio 17C250J (ymestyn y safle ynghyd â gosod carafanau ychwanegol a ddaw a'r cyfanswm i 22 carafan twrio i bwrpas gwyliau mewn cysylltiad â'r ganolfan bysgota bresennol) dyddiedig 14 Tachwedd, 2005 sy'n nodi "ni chaiff y safle ei ddefnyddio fel safle carafanau rhwng 31ain Hydref mewn unrhyw un flwyddyn a'r 1af Mawrth y flwyddyn ganlynol a chaiff pob carafan ei symud oddi ar y safle ar y 31ain Hydref bob blwyddyn" - caniatawyd yr apêl gyda'r amodau a nodwyd  yn y Penderfyniad Ffurfiol.

 

      

 

13.6       CAREDEGOG ISAF, LLANFECHELL

 

      

 

     Dan Adran 78 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 apêl yn erbyn methiant yr Awdrurdod hwn i roi hysbysiad o fewn y cyfnod rhagnodedig o benderfyniad ar gais 38C86D dyddiedig 11 Medi, 2006 am estyniad un ystafell wely ac adnewyddu'r gegin ar wahân a darparu tanc carthion newydd - gwrthodwyd yr apêl a gwrthodwyd caniatâd cynllunio.

 

      

 

13.7      CAE OWAIN, BAE CEMAES

 

      

 

     Dan Adran 78 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 apêl yn erbyn penderfyniad rhanedig yr Awdurdod ar gais cynllunio 20C184B dyddiedig 22 Mehefin, 2006 a roddodd ganiatâd i gadw'r fynedfa bresennol  ond gwrthod caniatâd cynllunio am ddefnydd dros dro ar gae rhif 8841 a rhan o gae rhif 0041 at ddibenion gwersylla (35 o lecynnau) am hyd at 60 diwrnod (heb fod yn barhaus) a lleoli dau floc cawod symudol a dau doiled cemegol dros dro rhwng penwythnos y Pasg a 30 Medi yn yr un flwyddyn - gwrthodwyd yr apêl.

 

      

 

13.8      RHAN O GAE 5806/5700 RHIWMOEL, RHOS-Y-BOL

 

      

 

     Dan Adran 78 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 apêl yn erbyn penderfyniad yr Awdurdod hwn i wrthod caniatâd cynllunio i godi un annedd a garej breifat a mynediad newydd dan gais cynllunio 44C239C dyddiedig 15 Mai, 2006 - gwrthodwyd yr apêl.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

13.9      3 MARINE TERRACE, RHOSNEIGR

 

      

 

     Dan Adran 78 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 apêl yn erbyn penderfyniad yr Awdurdod hwn i wrthod caniatâd cynllunio i droi oriel gelf bresennol yn far gwin a llety preswyl ar y llawr cyntaf a'r ail lawr dan gais cynllunio 28C385 dyddiedig 21 Tachwedd, 2006 - gwrthodwyd yr apêl.

 

      

 

      

 

14       HAWL I'R CYHOEDD I SIARAD MEWN PWYLLGOR CYNLLUNIO

 

      

 

     Mewn Seminar Gynllunio'n ddiweddar adroddodd y Pennaeth Rheoli Cynllunio fod trafodaeth wedi cymryd lle ar weithredu trefn o gael y cyhoedd yn siarad mewn Pwyllgorau Cynllunio.  Nodwyd fod yr aelodau wedi gwneud cais i ymweld ag awdurdod arall sy'n gweithredu'r drefn.

 

      

 

     PENDERFYNWYD y dylai Cadeirydd ac Is-Gadeirydd y Pwyllgor hwn ynghyd â chynrychiolydd o bob grwp gwleidyddol y Cyngor ymweld ag awdurdod arall sy'n gweithredu'r drefn o siarad cyhoeddus mewn Pwyllgor Cynllunio.

 

      

 

      

 

     Dechreuodd y cyfarfod am 1.00 p.m. a daeth i ben am 2.55 p.m.

 

      

 

      

 

     Y CYNGHORYDD J ARWEL ROBERTS

 

     CADEIRYDD