Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion dogfennau , 5 Hydref 2005

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Dydd Mercher, 5ed Hydref, 2005

PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION

 

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Hydref 2005

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd J. Arwel Roberts - Cadeirydd

Y Cynghorydd J. Arthur Jones - Is-Gadeirydd

 

Y Cynghorwyr John Byast, John Chorlton, Eurfryn Davies, J. Arwel Edwards, P. M. Fowlie, Denis Hadley, Aled Morris Jones, O. Glyn Jones, R. L. Owen, D. Lewis-Roberts, John Roberts, W. T. Roberts.

 

 

 

WRTH LAW:

 

Cynllunio :

Pennaeth Rheoli Datblygu (EGJ)
Rheolwr Rheoli Cynllunio (DFJ)

 

Priffyrdd :

Uwch Beiriannydd (Rheoli Datblygu a Hawliau Tramwy Cyhoeddus)(JRWO)

Swyddog Rheoli Datblygu (Priffyrdd) (RE)

 

Uchel Gyfreithiwr (RWH)
Cynorthwywr Gweinyddol (CWP)

 

 

 

 

HEFYD YN BRESENNOL:

 

Aelodau Lleol:

Y Cynghorwyr Peter Dunning (eitemau 5.14, 5.16), Gwilym O. Jones (eitemau 5.3, 8.5, 8.6), Thomas Jones (eitem 8.7), R. G. Parry OBE (eitemau 7.1 a 8.4), G. Allan Roberts (eitem 5.8), Peter Rogers (eitem 5.13), Keith Thomas (eitem 5.5), John Williams (eitem 8.1), W. J. Williams MBE (eitemau 8.2 ac 8.3)

 

 

Gwnaeth y Cadeirydd gyhoeddiad i'r rheini oedd yn bresennol yn y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion bod yr aelodau, cyn y cyfarfod, wedi cytuno i gofnodi y bleidlais ar bob cais a chadarnhawyd hyn gan yr aelodau oedd yn bresennol.

 

 

1

DATGAN DIDDORDEB

 

Derbyniwyd datganiadau gan Aelodau a Swyddogion fel y cawsant eu cofnodi dan yr eitemau perthnasol.

 

 

2

COFNODION

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd cofnodion y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 7 Medi, 2005 (Cyfrol y Cyngor Rhagfyr, 2005)

 

 

3

YMWELIADAU Â SAFLEOEDD

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd yr adroddiad ar Ymweliadau â Safleoedd Cynllunio a gafwyd ar 21 Medi, 2005.

 

 

 

 

 

 

4

CEISIADAU A OHIRIWYD

 

 

 

Nodwyd a chytunwyd i beidio â chael trafodaeth ar y ceisiadau a ganlyn :

 

 

 

4.1

CAIS ECONOMAIDD

 

 

 

12C19EU/EIA - CAIS AMLINELLOL I GODI 15 APARTMENT GWYLIAU A THAI TREFOL GYDA CHYFLEUSTERAU HAMDDEN AR Y SAFLE AR DIR UNION GER FFERMDY HENLLYS HALL, BIWMARES

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Cafwyd ymweliad ar 17 Awst, 2005.

 

 

 

 

 

4.2

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

29C112 - CAIS AMLINELLOL I GODI 6 ANNEDD A GWNEUD GWAITH ALTRO AR Y FYNEDFA I GERBYDAU AR DIR GER Y BRYN, LLANFAETHLU

 

 

 

Cafwyd ymweliad ar 16 Chwefror 2005 ond gohiriwyd ystyried y cais hyd nes cwblhau gwaith ymgynghori.

 

 

 

 

 

4.3

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

34C303J/1 - CODI UN ANNEDD UN TALCEN AR BLOT 80B BRO EDNYFED, LLANGEFNI

 

 

 

Gwnaed datganiad o ddiddordeb yn y cais gan y Cynghorydd Aled Morris Jones a Mr. Rees Roberts o'r Uned Gyfieithu.

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Cafwyd ymweliad ar 18 Mai, 2005.  Yn y cyfamser gohiriwyd ystyried y cais oherwydd bod rhai materion heb eu datrys eto.

 

 

 

 

 

4.4

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

19C608F - CAIS AMLINELLOL I GODI TAI A DARPARU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU A CHERDDWYR AR DIR TYDDYN BACH, FFORDD YNYS LAWD, CAERGYBI

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Cafwyd ymweliad â'r safle ar 21 Medi, 2005.

 

 

 

 

 

4.5

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

19C608G - CAIS AMLINELLOL I GODI TAI YNGHYD Â DARPARU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU A CHERDDWYR AR DIR TYDDYN BACH, FFORDD YNYS LAWD, CAERGYBI

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Cafwyd ymweliad â'r safle ar 21 Medi, 2005.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

5

CEISIADAU'N CODI O'R COFNODION

 

 

 

5.1

CAIS YN TYNNU'N GROES

 

 

 

11C122B/EIA - DARPARU GWAITH TRIN CARTHFFOSIAETH A GWNEUD GWAITH TIRLUNIO AR RAN O HEN SAFLE TANCIAU STORIO OLEW SHELL A GREAT LAKES, AMLWCH

 

 

 

Ymwelwyd â'r safle ym Mai, 2004.  Gohiriwyd gwneud penderfyniad ar y cais er mwyn rhoi digon o amser i'r aelodau ystyried y materion oedd heb eu datrys.

 

 

 

Gan y Cynghorydd John Roberts cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddogion a'r argymhelliad ynddo o ganiatáu a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd John Byast.

 

 

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol derbyn adroddiad y swyddog gyda'r amod na ddeuai unrhyw wrthwynebiadau perthnasol i mewn cyn diwedd y cyfnod ymgynghori a rhoi'r awdurdod i'r Pennaeth Gwasanaethau Cynllunio i ganiatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

 

 

5.2

CAIS YN TYNNU'N GROES

 

 

 

11C304A - CYNLLUNIAU LLAWN I GODI 31 O DAI YNGHYD Â GWNEUD GWAITH ALTRO AR Y FYNEDFA AR DIR FFERM MADYN, AMLWCH

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorwyr John Byast a J. Arthur Jones ddatganiad o ddiddordeb yn y cais a gadawodd y ddau yn ystod ei ystyried a'r pleidleisio arno.

 

 

 

Cafwyd ymweliad ar 21 Medi, 2005.

 

 

 

Petai caniatâd yn cael ei roddi i'r cais ac er mwyn diogelu buddiannau preswylwyr yr Ynys gofynnodd y Cynghorydd Fowlie am osod amod ynghlwm i sicrhau bod y pris gorau posib yn cael ei dalu am y darn o dir sydd ym mherchnogaeth y Cyngor a chytunodd y Cynghorydd Eurfryn Davies gyda'r sylwadau.

 

 

 

Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod amod o'r fath y tu allan i hawliau'r Pwyllgor Cynllunio a chadarnhaodd y Cyfreithiwr hyn gan ychwanegu y buasai'r Prisiwr Dosbarth, dan y ddeddfwriaeth berthnasol, yn pennu pris y tir.

 

 

 

Pleidleisiodd yr aelodau a ganlyn i dderbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad ynddo o ganiatáu:  Y Cynghorwyr John Chorlton, Eurfryn Davies, Arwel Edwards, Denis Hadley, R. L. Owen, D. Lewis-Roberts, John Roberts, Tecwyn Roberts (8).

 

 

 

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a rhoi'r awdurdod i'r Pennaeth Gwasanaethau Cynllunio drosglwyddo'r cais i Lywodraeth Cynulliad Cymru gydag argymhelliad i'w ganiatáu ond gyda'r amodau a ganlyn :

 

 

 

5.2.1

cael ateb boddhaol i faterion technegol yng nghyswllt draenio dwr wyneb;

 

5.2.2

llofnodi cytundeb dan Adran 106 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (fel y cafodd ei ddiwygio) yng nghyswllt darparu tai fforddiadwy;

 

5.2.3

cytundeb bod y datblygwr yn talu £7,500 i Gyngor Tref Amlwch i bwrpas atgyweirio a chynnal a chadw y llecyn chwarae a/neu lecynnau chwarae yn y ward;

 

5.2.4

amodau eraill y manylwyd arnynt yn adroddiad y swyddog.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

5.3

CAIS YN TYNNU'N GROES

 

 

 

13C136 - CAIS AMLINELLOL I GODI BYNGALO A GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD AR RAN O GAE ORDNANS 5222 GER CERRIG CREGIN, BODEDERN

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Cafwyd ymweliad â'r safle ar 21 Medi, 2005.

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd Gwilym Jones fod tair annedd arall yn y cyffiniau a'r ymgeisydd yn perthyn i'r ardal ac yn byw yn y gymdogaeth; ni fuasai'r cais chwaith yn creu traffig ychwanegol - o gofio bod natur y ffordd yn debyg iawn i rai eraill mewn sawl rhan o'r Ynys a theimlai bod yr anghenion personol, yn yr achos hwn, yn pwyso'n drymach na'r polisïau.  

 

 

 

Er mwyn cadw pobl ifanc yn y gymuned wledig hon roedd y Cynghorydd Aled Morris Jones am gefnogi ceisiadau o'r fath ac ni chredai ef fod yr adeiladau allanol yn addas i'w haddasu.

 

 

 

Er bod y Cynghorydd John Roberts yn cytuno gydag adroddiad y swyddog ni fedrai gytuno gyda sylwadau'r Adain Briffyrdd.

 

 

 

Ni fedrai'r Cynghorydd John Chorlton gefnogi'r cais penodol hwn a buasai'n cynghori'r ymgeisydd i drafod posibiliadau eraill gyda'r swyddogion a chytuno a wnaeth y Cynghorydd D. Lewis-Roberts oherwydd anawsterau cefnogi ar y safle penodol hwn.

 

 

 

Yn ei ymateb cyfeiriodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio yr aelodau at adroddiad manwl y swyddog a'u hatgoffa fod y cais hwn yn gwyro ac yn groes i'r polisïau.  Ar yr ymweliad gwelwyd yn amlwg iawn bod y safle mewn llecyn uchel yn y cefn gwlad agored a'r tu allan i unrhyw glwstwr diffiniedig ac yn yr achos hwn nid oedd rhesymau personol yn pwyso'n drymach na'r polisïau cynllunio a chafwyd ganddo argymhelliad cryf iawn i wrthod y cais.

 

 

 

Gan y Cynghorydd John Chorlton cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad o wrthod y cais hwn oedd yn tynnu'n groes a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd J. Arwel Edwards.

 

 

 

Roedd yr aelodau a ganlyn yn dymuno caniatáu'r cais a hynny yn groes i argymhelliad o wrthod gan y swyddog:  Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, P. M. Fowlie, O. Glyn Jones, Aled Morris Jones, R. L. Owen (5)

 

 

 

Gan yr aelodau a ganlyn cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a'i argymhelliad i wrthod y cais hwn oedd yn tynnu'n groes:  Y Cynghorwyr John Byast, John Chorlton, J. Arwel Edwards, Denis Hadley, D. Lewis-Roberts, John Roberts, W. T. Roberts (7)

 

 

 

O 7 bleidlais i 5 PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais am y rhesymau a roddwyd yn adroddiad y swyddog.

 

 

 

5.4

CAIS YN TYNNU'N GROES

 

 

 

17C266B - CODI ANNEDD AC ALTRO'R FYNEDFA I GERBYDAU YN RHANDIR, LLANSADWRN

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Cafwyd ymweliad â'r safle ar 21 Medi, 2005.

 

 

 

Ni chredai'r Cynghorydd Eurfryn Davies fod y cais yn y cefn gwlad agored gan ei fod y tu mewn i libart annedd a theimlai fod yr ymgeisydd wedi cynnig cyfleusterau digonol i weld i'r ddau gyfeiriad o'r fynedfa a hefyd roedd yma resymau meddygol i ddarparu cartref parhaol i'r ymgeisydd.

 

 

 

Ni fuasai'r datblygiad yn creu datblygiad rhubanaidd yn ôl y Cynghorydd R. L. Owen a theimlai fod y safle y tu mewn i glwstwr gweddol o anheddau.  Oherwydd amgylchiadau personol a rhesymau iechyd roedd yr ymgeisydd angen cartref parhaol gan fod y garafán yn anaddas ac roedd yn rhedeg busnes sefydlog o'r safle.

 

 

 

Yn amlwg meddai'r Rheolwr Rheoli Cynllunio roedd y cais hwn yn tynnu'n groes i'r polisïau - nid oedd y tu mewn i ffrâm ddangosol nac yng nghyffiniau'r ffrâm o'r fath yn y Cynllun Lleol na chwaith yn y Cynllun Datblygu Unedol sydd ar y gweill.  Nid oedd amgylchiadau personol yn rheswm cynllunio dilys i ganiatáu'r cais hwn a oedd yn amlwg yn groes i'r polisïau.

 

 

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd D. Lewis-Roberts dywedodd yr Uwch Beiriannydd Priffyrdd y buasai'r bwriad i ehangu'r llain gwelededd a gwella'r gwelededd yn gyffredinol yn y fynedfa yn creu mantais.  

 

 

 

Wedyn gofynnodd y Cynghorydd Arwel Edwards gwestiwn i'r Rheolwr Rheoli Cynllunio a chadarnhaodd y swyddog y buasai ei adran yn gefnogol i unrhyw estyniad rhesymol i'r annedd oedd yno.

 

 

 

     Nodi a wnaeth y Cynghorydd J. Arthur Jones nad oedd y cais wedi ei gyflwyno i ddarparu annedd fforddiadwy ac nid oedd yr un rheswm cynllunio dilys dros ganiatáu; o'r herwydd cafwyd ganddo gynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad o wrthod a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd John Roberts.  Teimlai'r Cynghorydd John Chorlton y buasai caniatáu yn sefydlu cynsail beryglus.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd R. L. Owen cafwyd cynnig i ganiatáu'r cais yn groes i argymhelliad y swyddog a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Tecwyn Roberts.

 

      

 

     Roedd yr aelodau a ganlyn yn dymuno cefnogi'r cais yn groes i argymhelliad o wrthod gan y swyddog:  Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, P. M. Fowlie, Denis Hadley, Aled Morris Jones, O. Glyn Jones, R. L. Owen, D. Lewis-Roberts, W. T. Roberts (8).

 

      

 

     Roedd yr aelodau a ganlyn yn cynnig derbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad o wrthod y cais hwn oedd yn tynnu'n groes:  Y Cynghorwyr John Byast, John Chorlton, J. Arwel Edwards, J. Arthur Jones, John Roberts, J. Arwel Roberts (6).

 

      

 

     O 8 bleidlais i 6 roedd yr aelodau'n dymuno caniatáu'r cais hwn am y rhesymau a ganlyn ac yn groes i argymhelliad o wrthod gan y swyddog :

 

      

 

Ÿ

nid safle yn y cefn gwlad agored yw hwn gan ei fod mewn clwstwr

 

Ÿ

safle llwyd

 

Ÿ

mantais briffyrdd

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor câi'r drafodaeth ar y cais ei gohirio'n awtomatig tan y cyfarfod nesaf er mwyn rhoi'r cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu.

 

 

 

5.5

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     19C171A - CAIS AMLINELLOL I GODI TAI AC ALTRO'R FYNEDFA I GERBYDAU AR DIR GER YSBYTY PENRHOS STANLEY, CAERGYBI

 

      

 

     Cafwyd datganiad o ddiddordeb gan y Cynghorwyr John Chorlton a Tecwyn Roberts yn y cais a gadawodd y ddau y cyfarfod am y drafodaeth a'r pleidleisio.  Hefyd gadawodd y Cynghorydd J. Arwel Roberts y Gadair i siarad fel aelod lleol ar yr eitem ond ychwanegodd na fuasai'n pleidleisio.  Y Cynghorydd J. Arthur Jones a gymerodd y Gadair.

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol a chafwyd ymweliad ar 17 Awst 2005.  Yn y cyfamser roedd y cais wedi ei ohirio hyd nes derbyn rhagor o wybodaeth gan yr ymgeisydd.

 

      

 

     Cyfeiriodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio at adroddiad manwl y swyddog ar argymhelliad ynddo o ganiatáu.

 

     Mewn ymateb i gwestiwn y Cynghorydd Arwel Roberts dywedodd yr Uwch Beiriannydd Priffyrdd fod arolwg traffig wedi ei gynnal ar 15 Awst ac er na fedrai'r Cynghorydd wrthwynebu'r cais am resymau cynllunio roedd, fodd bynnag, yn teimlo fod yma bryderon priffyrdd.  Er gwaethaf cyflwyno mesurau i arafu traffig ar hyd Ffordd Llanfawr roedd tagiant yn digwydd ar yr adegau prysuraf, ac yn arbennig felly pan oedd pobl yn cyrraedd a gadael ffatri MEM, ac ni fedrai ffordd stad Cae Braenar dderbyn lefel bresennol y traffig.  Câi'r tai eu codi union ger yr ysbyty ar dir oedd gynt wedi ei glustnodi ar gyfer cyfleusterau parcio ychwanegol. Yn y gorffennol roedd yr ysbyty wedi gwrthwynebu'r ffaith fod yr A55 mor agos cyn i'r lôn honno gael ei ddarparu.  Roedd rhan o'r tir wedi ei ddynodi dan TO14 (tir agored) yn yr CDU esblygol.

 

      

 

     Wedyn soniodd y Cynghorydd Glyn Jones am y posibilrwydd y câi cyfleusterau meddygol eu canoli a symud y 4 feddygfa i Ysbyty Stanley - sefyllfa a ychwanegai at y problemau traffig.

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn y Cynghorydd John Roberts dywedodd yr Uwch Beiriannydd Priffyrdd bod yr ymgeisydd wedi comisiynu a chyflwyno asesiad traffig boddhaol ac adroddiad, ac ni fuasai ei adran yn gwrthwynebu'r cynnig am resymau priffyrdd.

 

      

 

     Ond credai'r Cynghorydd Lewis-Roberts, oherwydd diffiniad, y medrai'r asesiad a'r adroddiad fod yn un ochrog.  Yma dywedodd yr Uwch Beiriannydd Priffyrdd fod y swyddogion Priffyrdd hefyd wedi ymchwilio i'r fynedfa ac i rwydwaith y ffyrdd.

 

      

 

     Yn ôl y Cynghorydd Denis Hadley roedd angen rhoddi sylw i bryderon priffyrdd ac yn enwedig effaith y traffig ychwanegol yn y tymor hir ar rwydwaith y ffyrdd.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio y codid hyd at 15 o anheddau ac nad oedd hynny'n gynnydd sylweddol mewn ardal ac ynddi nifer o dai; roedd barn broffesiynol annibynnol o blaid y cynnig yn ôl meini prawf priffyrdd.

 

      

 

     Cytuno gyda'r Cynghorydd J. Arwel Roberts a wnaeth y Cynghorydd Keith Thomas bod tagiad traffig ar adegau rhwng Lôn Deg a'r A5; hefyd roedd preswylwyr Cae Braenar yn parcio ceir ar hyd y ffordd stad.  Ar hyn o bryd roedd y Bwrdd Iechyd Lleol yn y broses o ymgynghori ar y posibilrwydd o symud rhai gwasanaethau iechyd i Ysbyty Penrhos Stanley a sefydlu yn yr ysbyty 4 meddygfa, meddygfeydd deintyddol a gwasanaethau arbenigol eraill; golygai hynny ymestyn yr adeilad neu godi uned ar wahân ar dir yr ysbyty - roedd hyn ynddo'i hun yn gwrth-ddweud datganiad gan y Bwrdd Iechyd Lleol fod y tir hwn yn sbâr a dim angen amdano. Yn ei adroddiad terfynol teimlai'r Arolygydd Cynllunio ei bod hi'n bwysig diogelu y darn hwn o dir glas er mwyn pobl Morawelon.  

 

      

 

     Anghytuno a wnaeth y Rheolwr Rheoli Cynllunio gan atgoffa'r Cynghorydd Keith Thomas o'r Grin Fowlio gerllaw, a'r cae chwarae yng nghefn y safle a'r traeth.

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd D. Lewis-Roberts dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio nad oedd yr Asiantaeth yr Amgylchedd wedi mynegi pryderon ynghylch peryglon llifogydd o'r traeth.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd J. Arthur Jones cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad ac argymhelliad y swyddog o ganiatáu'r cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Fowlie.

 

      

 

     Cafwyd cynnig gan yr aelodau a ganlyn i wrthod y cais yn groes i argymhelliad o wrthod gan y swyddog:  Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, Denis Hadley, D. Lewis-Roberts (3)

 

      

 

     Gan yr aelodau a ganlyn cafwyd  cynnig i dderbyn adroddiad ac argymhelliad y swyddog o ganiatáu'r cais:  Y Cynghorwyr John Byast, J. Arwel Edwards, P. M. Fowlie, Aled Morris Jones, J. Arthur Jones, John Roberts (6)

 

      

 

     O 6 pleidlais i 3 PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais am y rhesymau a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

      

 

5.6

  GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     19C608F - TIR YN NHYDDYN BACH, FFORDD YNYS LAWD, CAERGYBI

 

     Gweler eitem 4.4 y cofnodion hyn.

 

      

 

      

 

5.7

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     19C882G - TIR YN NHYDDYN BACH, FFORDD YNYS LAWD, CAERGYBI

 

     Gweler eitem 4.4 y cofnodion hyn.

 

      

 

      

 

5.8

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     19C882A - CAIS AMLINELLOL I GODI 10 TY A DARPARU MYNEDFA NEWYDD AR DIR GER CAE SERI, LLAINGOCH

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Cafwyd ymweliad â'r safle ar 21 Medi, 2005.

 

      

 

     Gynt, meddai'r Cynghorydd Allan Roberts, roedd Asiantaeth yr Amgylchedd wedi dweud bod y safle mewn gorlifdir ond bellach wedi dileu'r categori.  Ond roedd y tir yn dal i wynebu peryglon llifogydd a rhaid oedd cofio am phenomen cynhesu global.  Buasai'r rhai o'r tai yn edrych dros ei gilydd ac yn amharu ar breifatrwydd rhai o'r tai oedd yno yng nghefn y safle a hefyd ceid rhagor o draffig yn pasio byngalos yr henoed.  Pryderu am ddwysedd y datblygiad oedd y preswylwyr gan deimlo y buasai llai o dai yn gweddu'n well i'r amgylchiadau.  Hefyd roedd y Cynghorydd Roberts yn amau a allai'r darpar breswylwyr drefnu yswiriant i'r tai.  

 

      

 

     Wedyn cyfeiriodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio at adroddiad cynhwysfawr y swyddog yn dweud bod canfyddiadau'r Asiantaeth yr Amgylchedd yn foddhaol; hefyd buasai dwysedd y tai yn gweddu yn iawn i'r cyffiniau; roedd yr Adran Briffyrdd wedi edrych yn fanwl ar y sefyllfa ac yn argymell amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad y swyddog.  Am y rhesymau a roddwyd roedd y swyddog yn argymell caniatáu'r cais.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd John Chorlton bod y safle, fel y mae, yn eithriadol o flêr ac y ceid manteision yn sgil datblygu.  O'r herwydd cafwyd ganddo gynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad o ganiatáu ynddo a chytuno gyda'r Cynghorydd John Chorlton a wnaeth y Cynghorydd Denis Hadley.

 

      

 

     Tir gwlyb oedd hwn yn ôl barn y Cynghorydd R. L. Owen ac mewn ymateb dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio y buasai gosodiad y tai a lefelau gorffenedig y lloriau yn datrys unrhyw broblemau llifogydd ond teimlai'r Cynghorydd Aled Morris Jones fod pryderon llifogydd yn rhai dilys.

 

      

 

     Wedyn yr hyn a wnaeth y Cynghorydd John Arthur Jones oedd atgoffa'r aelodau o sefyllfa bresennol Asiantaeth yr Amgylchedd yng nghyswllt llifogydd a hefyd bod y Cyngor wedi mabwysiadu polisi dwysedd tai rhwng 25 a 30 o dai yr hectar a chafwyd gair o gadarnhad gan y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod dwysedd y datblygiad gerbron y tu mewn i'r canllawiau hyn.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd John Chorlton cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad o ganiatáu a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Denis Hadley.  

 

      

 

     Cynnig i wrthod a gafwyd gan y Cynghorydd R. L. Owen a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Aled Morris Jones.

 

      

 

     Cynigiodd yr aelodau a ganlyn wrthod y cais yn groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorydd Eurfryn Davies, Aled Morris Jones, O. Glyn Jones, R. L. Owen (4)

 

      

 

     Cynigiodd yr aelodau a ganlyn derbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad o ganiatáu:  Y Cynghorwyr John Byast, John Chorlton, J. Arwel Edwards, P. M. Fowlie, Denis Hadley, J. Arthur Jones, J. Arwel Roberts, John Roberts, W. T. Roberts (9).

 

      

 

     O 9 pleidlais i 4 PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais am y rhesymau a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

5.9

CAIS YN TYNNU'N GROES

 

      

 

     24C239 - CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD AC ALTRO'R FYNEDFA I GERBYDAU AR DIR GER YSGUBOR ITHEL, LLANEILIAN

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Cafwyd ymweliad â'r safle ar 21 Medi, 2005.

 

      

 

     Yma atgoffodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio yr aelodau bod safle arall wedi derbyn caniatâd cynllunio yn y cyffiniau yn 2003 oherwydd amgylchiadau personol eithriadol a'r caniatâd wedi ei roddi yn groes i bolisïau ond nid oedd gwaith datblygu wedi digwydd arno.  Yr hyn a wnaeth y swyddog oedd pwysleisio y dylid selio penderfyniadau ar egwyddorion defnydd tir ac nid ar resymau personol.

 

      

 

     Oherwydd yr anghenion meddygol eithriadol dywedodd y Cynghorydd Aled Morris Jones fod yr ymgeiswyr angen byngalo ar dir oedd ar gael iddynt ac aeth ymlaen i atgoffa'r swyddog nad oedd yn aelod o'r Cyngor pan roddwyd y caniatâd blaenorol a theimlai fod y cais hwn yn cydymffurfio gyda Pholisi 52.

 

      

 

     Ar y pryd ac oherwydd y rhesymau a roddwyd dywedodd y Cynghorydd John Roberts ei fod wedi cefnogi'r cais blaenorol ond ni fedrai gefnogi yr un gerbron.  

 

      

 

     Holi a wnaeth y Cynghorydd D. Lewis-Roberts a oedd tystiolaeth feddygol wedi ei chyflwyno ac mewn ymateb darllenodd y Cynghorydd Aled Morris Jones lythyr yn cadarnhau bod yma resymau meddygol.  

 

      

 

     Gan y Cynghorydd John Chorlton cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad ac argymhelliad o wrthod gan y swyddog a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Tecwyn Roberts.

 

      

 

     Cynnig a wnaeth y Cynghorydd Aled Morris Jones y dylid caniatáu'r cais.

 

      

 

     Cynigiodd yr aelodau a ganlyn ganiatáu'r cais yn groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, P. M. Fowlie, Aled Morris Jones (3).

 

      

 

     Cynigiodd yr aelodau a ganlyn dderbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad o wrthod:  Y Cynghorwyr John Byast, John Chorlton, J. Arwel Edwards, Denis Hadley, J. Arthur Jones, R. L. Owen, D. Lewis-Roberts, J. Arwel Roberts, John Roberts, W. T. Roberts (10).

 

      

 

     O 10 pleidlais i 3 PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais am y rhesymau a roddwyd.

 

      

 

      

 

5.10

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     30C587 - ALTRO AC YMESTYN 9 FERN HILL, BENLLECH

 

      

 

     Cafwyd ddatganiad o ddiddordeb yn y cais hwn gan Mrs Carys Bullock o Adran y Rheolwr-Gyfarwyddwr.

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Cafwyd ymweliad â'r safle ar 17 Awst, 2005.

 

      

 

     Yn y cyfarfod cynt roedd yr aelodau'n dymuno gwrthod y cais am y rhesymau a ganlyn a hynny'n groes i argymhelliad o ganiatáu gan y swyddog:

 

      

 

Ÿ

yr effaith annerbyniol ar bleserau preswylwyr cyffiniol a hynny oherwydd gorddatblygu a cholli preifatrwydd.

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor gohiriwyd ystyried y cais er mwyn rhoi'r cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros wrthod.

 

 

 

Dygodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio sylw'r aelodau at ymateb y swyddog i resymau dros wrthod y cais a hynny'n groes i argymhelliad y swyddog hwnnw; dywedodd na fedrai'r swyddogion amddiffyn penderfyniad o wrthod pe eid i apêl ac atgoffodd yr aelodau o'r goblygiadau costau yn achos unrhyw apêl.

 

 

 

Ond yr hyn a wnaeth y Cynghorydd D. Lewis-Roberts oedd atgoffa'r aelodau o'r penderfyniad cynt ac er nad oedd gwrthwynebiad i'r egwyddor o ddatblygu y mater cynhennus oedd codi lefel y to 1.5m uwchlaw lefel bresennol y grib a buasai arno lechi er bod y tai o gwmpas i gyd gyda theils.  

 

 

 

Felly gan y Cynghorydd D. Lewis-Roberts cafwyd cynnig i lynu wrth y penderfyniad cynt a gwrthod y cais hwn am y rhesymau a roddwyd a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Tecwyn Roberts.

 

 

 

Cynigiodd yr aelodau a ganlyn wrthod y cais hwn a hynny'n groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr John Chorlton, Eurfryn Davies, P. M. Fowlie, Denis Hadley, Aled Morris Jones, J. Arthur Jones, O. Glyn Jones, D. Lewis-Roberts, John Roberts, W. T. Roberts (10).

 

 

 

Gan yr aelod a ganlyn cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad o ganiatáu:  Y Cynghorydd R. L. owen

 

 

 

Ymatal:  Y Cynghorwyr John Byast, J. Arwel Edwards.

 

 

 

O 10 pleidlais PENDERFYNODD yr aelodau lynu wrth y penderfyniad cynt a gwrthod y cais hwn am na fuasai uchder a maint yr estyniad arfaethedig yn gweddu i faint ac i gymeriad y tai yn y cyffiniau.  Buasai'r bwriad hwn yn arwain at greu nodwedd ddieithr a hynny yn gwneud mawr ddrwg i gymeriad ac i bleserau'r ardal.  Buasai'n groes i bolisïau 1, 42 a 58 Cynllun Lleol Ynys Môn, i bolisïau D4 a D29 Cynllun Fframwaith Gwynedd, i Bolisi Cynllunio Cymru (Mawrth 2002), yn groes hefyd i Nodyn Cyngor Technegol 12 Dyluniad ac yn groes i Ganllawiau Cynllunio Atodol Cyngor Sir Ynys Môn ar altro rhag ymestyn tai.

 

 

 

5.11

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     44C59C - ALTRO AC YMESTYN A HYNNY'N CYNNWYS YMESTYN LIBART BODELWEN, LLANNERCH-Y-MEDD

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Cafwyd ymweliad â'r safle ar 21 Medi, 2005.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Aled Morris Jones y buasai'r estyniad hwn yn creu lle i ofalwr llawn amser fyw yn y ty ac roedd yr ymgeisydd angen gofal bob awr o'r dydd.  Roedd ty gerllaw wedi derbyn caniatâd i ddarparu estyniad o faint cyffelyb ac aeth y Cynghorydd ymlaen i argymell caniatáu'r cais a chafodd ei gefnogi gan y Cynghorydd R. L. Owen.

 

      

 

     Ond nodi a wnaeth y Cynghorydd Tecwyn Roberts bod 4 ystafell wely yn y ty yn barod.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd John Chorlton cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad ac argymhelliad o wrthod gan y swyddog a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Tecwyn Roberts.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

     Cynigiodd yr aelodau a ganlyn ganiatái'r cais ond yn groes i argymhelliad y swyddog: Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, P. M. Fowlie, Aled Morris Jones, Glyn Jones, R. L. Owen (5).

 

      

 

     Cynigiodd yr aelodau a ganlyn dderbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad o wrthod:  Y Chynghorwyr John Byast, John Chorlton, J. Arwel Edwards, Denis Hadley, J. Arthur Jones, D. Lewis-Roberts, John Roberts, Tecwyn Roberts (8).

 

      

 

     O 8 bleidlais i 5 PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais am y rhesymau a roddwyd.

 

      

 

5.12

CAIS YN TYNNU'N GROES

 

      

 

     44C243 - CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD A DARPARU TANC SEPTIG NEWYDD AR DIR GER PENRHYN MAWR, RHOS-Y-BOL

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Cafwyd ymweliad â'r safle ar 17 Awst, 2005.

 

      

 

     Yn y cyfarfod cynt roedd yr aelodau'n dymuno caniatáu'r hwn oedd yn gwyro a hynny am y rhesymau a ganlyn ac yn groes i argymhelliad o wrthod gan y swyddog :

 

      

 

Ÿ

cais economaidd - y teulu wedi sefydlu busnes i arallgyfeirio o'r sector amaethu

 

Ÿ

maintais briffyrdd, gan gynnwys gwelliannau i'r fynefa

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor gohiriwyd y cais er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu.

 

 

 

Mynegi pryder a wnaeth y Rheolwr Rheoli Cynllunio oherwydd y rhesymau a roddwyd i ganiatáu cais oedd yn gwyro - ni chafwyd unrhyw dystiolaeth i gefnogi'r ail reswm dros ganiatáu ac nid oedd raid caniatáu'r cais hwn i bwrpas gwella'r ffordd; yng nghyswllt y rheswm arall roedd y gwaith arallgyferio o'r sector amaethyddol gryn bellter i ffwrdd o safle'r cais.  Cafwyd argymhelliad cryf ganddo i wrthod.

 

 

 

Ond cefnogi'r teulu ifanc lleol hwn a wnaeth y Cynghorydd Aled Morris Jones - teulu oedd yn gobeithio cael plant a hynny'n cefnogi'r ysgol leol a'r capel a buasai yma anogaeth hefyd i adfywio'r gymuned wledig.  Y bwriad yn y cais hwn oedd arallgyfeirio o'r byd amaethyddol.

 

 

 

Dweud a wnaeth y Cynghorydd John Chorlton na chafwyd unrhyw dystiolaeth i gefnogi'r pwyntiau uchod a bod y busnes rhyw 2 cilomedr draw o'r lle hwn a chynigiodd dileu y penderfyniad cynt a gwrthod y cais am y rhesymau a roddwyd gan y swyddog a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd J. Arthur Jones.

 

 

 

Gan y Cynghorydd Aled Morris Jones cafwyd cynnig i ganiatáu'r cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd R. L. Owen.

 

 

 

Gan yr aelodau a ganlyn cafwyd cynnig i ganiatáu'r cais yn groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, P. M. Fowlie, Aeld Morris Jones, Glyn Jones, R. L. Owen, Tecwyn Roberts (6)

 

 

 

Cafwyd cynnig gan yr aelodau a ganlyn i dderbyn adroddiad y swyddog ar argymhelliad o wrthod:  Y Cynghorwyr John Byast, John Chorlton, J. Arwel Edwards, Denis Hadley, J. Arthur Jones, D. Lewis-Roberts, J. Arwel Roberts, John Roberts (8)

 

 

 

O 8 bleidlais i 6 PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais hwn oedd yn gwyro am y rhesymau a roddwyd.

 

 

 

 

 

5.13

CAIS YN TYNNU'N GROES

 

      

 

     45C311B - CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD AR DIR RHWNG RUSHMEAD A PHEN-Y-BONT, PEN LÔN, NIWBWRCH

 

      

 

     Gwnaeth Miss Gwen Owen o'r Adran Gynllunio ddatganiad o ddiddordeb yn y cais.

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan fod yr ymgeisydd yn perthyn i'r swyddog sy'n gweithio yn yr Adran Gynllunio a hefyd yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Yn y cyfarfod cynt roedd yr aelodau'n dymuno caniatáu'r cais hwn oedd yn gwyro am y rheswm a ganlyn a hynny'n groes i argymhelliad o wrthod gan y swyddog :

 

      

 

Ÿ

llenwi bwlch

 

Ÿ

y tu mewn i glwstwr diffiniedig

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor gohiriwyd y cais er mwyn rhoi'r cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu.  

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio wrth y Pwyllgor fod 4 llythyr arall o wrthwynebiad wedi dod i law yn crybwyll materion megis draenio, cludiant, goleuadau etc. a'r materion yn rhai yr oedd y swyddog eisoes wedi eu crybwyll yn ei adroddiad.

 

 

 

Dweud wnaeth y Cynghorydd Peter Rogers nad oedd yr Adain Briffyrdd yn gwrthwynebu a bod deiseb ac arni 39 o lofnodion, mwyafrif o'r unigolion yn lleol, wedi ei chyflwyno yn cefnogi'r cais a'r ymgeisydd hwn oedd pumed genhedlaeth o'i deulu yn yr ardal.

 

 

 

Cafwyd arwydd o gefnogaeth gan R. L. Owen a nododd y Cynghorydd J. Arwel Edwards bod Penlon wedi ei gydnabod fel clwstwr yn yr CDU.

 

 

 

Gan y Cynghorydd Tecwyn Roberts cafwyd cynnig i ganiatáu a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Glyn Jones.  

 

 

 

Gan yr aelodau a ganlyn cafwyd cynnig i ganiatáu'r cais hwn oedd yn gwyro ac yn groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr J. Arthur Jones, John Byast, John Chorlton, J. Arwel Edwards, P. M. Fowlie, Denis Hadley, O. Glyn Jones, R. L. Owen, D. Lewis-Roberts, John Roberts, W. T. Roberts (11)

 

 

 

O 11 pleidlais PENDERFYNWYD glynu wrth y penderfyniad cynt a chaniatáu'r cais hwn oedd yn gwyro ac am y rhesymau a roddwyd a hefyd gyda'r amodau safonol.

 

 

 

5.14

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     46C31C - CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD AR DIR YN 4 LÔN TREARDDUR, TREARDDUR

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Yn y cyfarfod cynt roedd yr aelodau yn dymuno caniatáu'r cais am y rhesymau a ganlyn ac yn groes i argymhelliad y swyddog :

 

      

 

Ÿ

llenwi bwlch

 

Ÿ

ddim yn edrych drosodd nac yn amharu ar breifatrwydd neb

 

Ÿ

dim cynnydd yn y traffig

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor gohiriwyd ystyried y cais fel bod swyddogion yn cael cyfle i baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu.

 

 

 

 

 

 

 

Dygodd y Cynghorydd Peter Dunning sylw'r aelodau at y cynllun oedd ynghlwm wrth adroddiad y swyddog gan ddangos fod tri datblygiad cyffelyb wedi eu caniatáu yn y cyffiniau ac eraill hefyd yn is i lawr Ffordd Trearddur.  O gwmpas y safle roedd anheddau deulawr a châi y fynedfa bresennol ei rhannu heb greu unrhyw draffig ychwanegol.

 

 

 

Ni chredai'r Rheolwr Rheoli Cynllunio mai hwn oedd y lle gorau i godi ty a buasai'n rhaid codi ffens i guddio'r safle.

 

 

 

Yr hyn a wnaeth y Cynghorydd Glyn Jones oedd gofyn sut oedd hyn yn cymharu gyda'r cais arall yn y Benllech.

 

 

 

Wedyn cynigiodd y Cynghorydd R. L. Owen dderbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad o wrthod.

 

 

 

Yn ôl y Cynghorydd John Chorlton nid datblygiad yn y tir cefn oedd hwn ac oherwydd maint y plot ni welai bod yma unrhyw anawsterau yn rhwystro codi annedd ychwanegol a chynigiodd lynu wrth y penderfyniad blaenorol i ganiatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd J. Arthur Jones.

 

 

 

Cynigiodd yr aelodau a ganlyn ganiatáu'r cais hwn oedd yn gwyro a hynny'n groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr John Chorlton, Eurfryn Davies, J. Arwel Edwards, Denis Hadley, J. Arthur Jones, O. Glyn Jones, John Roberts, D. Lewis-Roberts (8).

 

 

 

O 8 bleidlais PENDERFYNWYD glynu wrth y penderfyniad cynt a chaniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd a chydag amodau y penderfyno'r swyddogion arnynt.

 

 

 

5.15

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     46C137D - CYNLLUNIAU LLAWN I GODI 34 O ANHEDDAU TRI LLAWR A DARPARU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU AC I GERDDWYR AR YR HEN GAE CRICED, TREARDDUR

 

      

 

     Ar 3 Mawrth 2004 rhoes y Pwyllgor ganiatâd i'r cais gydag amodau ond ar 5 Ionawr a 27 Gorffennaf 2005 dywedwyd nad oedd penderfyniad y Pwyllgor wedi ei ryddhau oherwydd disgwyl am gyngor Asiantaeth yr Amgylchedd yng nghyswllt risgiau llifogydd.  Mewn llythyr dyddiedig 2 Awst 2005 cafwyd gair gan yr Asiantaeth yn gwrthwynebu'r datblygiad ar y safle a oedd yn cyfateb i orlifdir C2.  Ond yng nghyfarfod mis Medi roedd yr aelodau'n dymuno caniatáu'r cais yn groes i argymhelliad o wrthod gan y swyddog.  Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor roedd y cais yn cael ei ohirio'n awtomatig.

 

      

 

     Er gwybodaeth i'r aelodau dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod y cais bellach wedi ei alw i mewn gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i bwrpas penderfynu arno.

 

      

 

     PENDERFYNWYD nodi adroddiad y swyddog.

 

      

 

5.16

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     46C402A - CAIS AMLINELLOL I DDYMCHWEL Y LLETY A CHODI HYD AT 13 O DAI AR Y SAFLE A GWAITH YN CYNNWYS CAU'R FYNEDFA BRESENNOL I GERBYDAU I PENDORLAN A GWESTY'R CLIFF A DARPARU MYNEDFA GYFUN NEWYDD I WASANAETHU'R DDAU LE ODDI AR LON ISALLT A CHREU MYNEDFA I GERDDWYR AC I FEICWYR AT Y DATBLYGIAD YM MHENDORLAN, LON ISALLT, TREARDDUR

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Cafwyd ymweliad â'r safle ar 20 Gorffennaf, 2005.  Ar 27 Gorffennaf 2005 roedd yr aelodau'n dymuno gwrthod y cais am y rhesymau a ganlyn ond yn groes i argymhelliad o ganiatáu gan y swyddog :

 

      

 

Ÿ

mynedfa

 

Ÿ

yr effaith weledol ar y penrhyn

 

Dan Gyfansoddiad y Cyngor roedd y cais yn cael ei ohirio er mwyn creu cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros wrthod y cais.  Yng nghyfarfod mis Medi gohiriwyd ystyried y cais yn ôl dymuniad yr ymgeisydd ac i greu cyfle i'r swyddogion ystyried mynedfeydd diwygiedig yr oeddid yn ymgynghori ymhellach arnynt.  

 

 

 

Oherwydd lleoliad y fynedfa roedd y Cynghorydd Dunning wedi gwrthwynebu'r cais ar y cychwyn ond teimlai fod y cynlluniau i ddiwygio'r fynedfa yn fwy derbyniol a gofynnodd i Gyngor Cefn Gwlad Cymru ddelio, gyda chydymdeimlad, gyda'r moch daear ar y safle.

 

 

 

Cynigiodd yr aelodau a ganlyn derbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad ynddo i ganiatáu :  Y Cynghorwyr John Byast, John Chorlton, Eurfryn Davies, J. Arwel Edwards, Denis Hadley, O. Glyn Jones, R. L. Owen, John Roberts (8).

 

 

 

O 8 bleidlais PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd a chydag amodau, a hynny'n cynnwys cytundeb dan Adran 106 (Tai Fforddiadwy) yn amodol ar ddarparu ffyrdd a charthffosydd o safon mabwysiadu, yn amodol hefyd ar dderbyn cyngor ffurfiol Cyngor Cefn Gwlad Cymru ynghylch y moch daear a hefyd gydag amodau eraill y manylwyd arnynt yn adroddiad y swyddog.

 

 

 

6     CEISIADAU ECONOMAIDD

 

      

 

     Ni chyflwynwyd yr un cais economaidd.

 

      

 

7     TAI FFORDDIADWY

 

      

 

7.1

48C146A - CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD NEWYDD A DARPARU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU AR DIR GYFERBYN Â THERAS WYLFA, GWALCHMAI

 

      

 

     Gwnaeth Mrs Wendy Faulkener o'r Adran Gynllunio ddatganiad o ddiddordeb yn y cais.

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol a hefyd gan fod yr ymgeisydd yn perthyn i un o swyddogion y Cyngor.  Ers cyflwyno'r cais hwn gyntaf i gyfarfod Mehefin roedd y drafodaeth wedi ei gohirio am fod yr ymgeisydd am i'r cais gael ei ystyried fel safle eithriad i dy fforddiadwy.  

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y swyddogion o'r farn fod y cynnig yn dderbyniol ac yn cydymffurfio gyda gofynion y Cynllun Lleol.

 

      

 

     Yn unfrydol derbyniodd yr aelodau adroddiad y swyddog a PHENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog a hynny'n cynnwys cytundeb cyfreithiol yng nghyswllt ty fforddiadwy.

 

      

 

8     CEISIADAU'N TYNNU'N GROES

 

      

 

8.1

20C223A - CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD A DARPARU TANC SEPTIG NEWYDD AR DIR GER PEN-Y-BRYN, CEMAES

 

      

 

     Gyda'r caniatâd arbennig a roddwyd gan y Pwyllgor Safonau cymerodd y Cynghorydd John Arthur Jones ran yn y drafodaeth ar y cais hwn a gyflwynwyd gan Best Value UK fel asiant.

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  

 

      

 

     Nododd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod angen diwygio pwynt 7, yn nhrydydd paragraff y fersiwn Gymraeg i ddangos bod y safle "60" metr o'r ffiniau datblygu.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

     Ni fedrai'r Cynghorydd John Williams gytuno bod y safle 60m o'r ffiniau gan ei fod union ger Stad y Fron a thai eraill o'i gwmpas.  Gynt roedd caniatâd cynllunio ar y tir ond daeth hwnnw i ben rhyw 15 mlynedd yn ôl.  Dangosodd y Cynghorydd Williams i'r aelodau olwg o'r cyffiniau o'r awyr.  I'r chwith roedd cae pêl-droed ac i'r dde roedd ty gwreiddiol Pen-y-Bryn a'r adeiladau oedd ynghlwm wrtho.  Teulu lleol ac ifanc oedd yma wedi cwblhau addysg prifysgol ac  yn dychwelyd i fyw yn lleol ac am gyfrannu yn adfywiad y gymuned.  Roedd y tir yn mesur rhyw 10 acer a'r teulu yn bwriadu ffarmio y lle i'w botensial llawn - cyswllt amaethyddol.  Dyma gyfle i deulu godi ty fforddiadwy ar dir a fu'n eiddo iddo ers blynyddoedd lawer ac roedd y bobl leol yn cefnogi.

 

      

 

     Yr hyn a wnaeth y Rheolwr Rheoli Cynllunio oedd dangos i'r aelodau gynllun a dweud heb amheuaeth ac yn gwbl ddiamwys bod y safle 60m o'r ffiniau ac ni chafodd y cais ei gyflwyno dan Bolisi 52 (Cartref Fforddiadwy); nid oedd 10 acer o dir yn fesur cynaliadwy ac ni chyflwynwyd unrhyw dystiolaeth i gefnogi hyn.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Arwel Edwards y buasai mapiau gyda llinellau grid yn rhoddi gwell syniad am y sefyllfa.

 

      

 

     Câi y Cynghorydd John Chorlton hi'n anodd gwrthwynebu cais oedd mor agos i'r ffiniau datblygu gan ychwnaegu y dylai'r ffin naturiol, yn ei dyb ef gynnwys Pen-y-Bryn ac roedd y safle mewn clwstwr a hefyd wrth gwrs y posibilrwydd y gellid ei ystyried fel safle eithriad.

 

      

 

     Mewn ymateb dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y ffiniau datblygu bellach wedi eu mabwysiadu ond gan fod tir yr ymgeisydd yn rhedeg yr holl ffordd at y ffiniau gallai'r ymgeiswyr drafod y posibilrwydd o godi ty fforddiadwy yn nes i'r ffiniau hynny.

 

      

 

     Gan fod yr ymgeiswyr wedi etifeddu'r tir eglurodd y Cynghoryd John Williams bod y cynnig yn un fforddiadwy iddynt ond nid oedd yn gais dan Bolisi 52 yng nghyswllt tai fforddiadwy.

 

      

 

     Wedyn ychwanegodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio y gellid gwerthu'r safle ar y farchnad agored pe rhoddid caniatâd.  

 

      

 

     Yr hyn a wnaeth y Cynghorydd J. Arthur Jones oedd cymharu'r cais hwn gyda chais rhif 7.1 y cofnodion hyn.

 

      

 

     Ond er mwyn i'r swyddogion gael cyfle i drafod Polisi 52 ar Dai Fforddiadwy cynigiodd y Cynghorydd John Byast ohirio ystyried y cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Tecwyn Roberts.  Dywedodd y Cynghorydd Denis Hadley bod yr ymgeiswyr yn rhydd i ailgyflwyno cais ar safle nes i'r ffiniau datblygu.

 

      

 

     Wedyn cynigiodd y Cynghorydd R. L. Owen dderbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais hwn oedd yn gwyro am y rhesymau a roddwyd a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd J. Arwel Edwards.

 

      

 

     Cynigiodd yr aelodau a ganlyn dderbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad i wrthod y cais fel un yn gwyro:  Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, J. Arwel Edwards, P. M. Fowlie, Denis Hadley, R. L. Owen, D. Lewis-Roberts, John Roberts (7)

 

      

 

     Ni chafwyd unrhyw bleidleisiau fel arall.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad i wrthod y cais hwn am y rheswm a roddwyd ynddo.

 

      

 

8.2

23C122B - CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD A DARPARU MYNEDFA NEWYDD A GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD AR DIR HEN SIOP, CAPEL COCH

 

      

 

     Gwnaeth y Cynghorydd J. Arthur Jones ddatganiad o ddiddordeb yn y cais a gadawodd y cyfarfod am y drafodaeth a'r pleidleisio.

 

      

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Er bod y Cynghorydd W. J. Williams yn cytuno bod y safle y tu allan i'r ffiniau datblygu teimlai y buasai rhoddi caniatâd yn creu cartref i gwpl ifanc - roedd y ferch wedi ei magu yng Nghapel Coch a'i phartner ym Modedern.  Yn lleol roedd tri thy ar werth - un yn £150,000 un arall yn £525,000 a'r llall yn £375,000 a'r cwpl wedi ymdrechu yn galed i ddod o hyd i blot.  Y morgais mwyaf posib y medrent ei drefnu oedd £90,000 a hwn oedd yr unig gyfle iddynt ddechrau dringo'r ysdol eiddo.  Roedd y safle rhyw 200 llath y tu allan i'r ffiniau, y tu mewn i'r cyfyngiad cyflymer 40mya ac roedd 2 fyngalo yn y cyffiniau agos; roedd yr ymgeiswyr yn fodlon gwneud cytundeb dan Adran 106 yng nghyswllt ty fforddiadwy.

 

      

 

     Ond yn ôl y Rheolwr Rheoli Cynllunio nid cais oedd hwn i ddarparu ty fforddiadwy a than Bolisi 52 roedd yn rhaid i safleoedd eithriad fod unai y tu mewn i ffiniau neu union gerllaw.  Roedd y safle gerbron rhyw 200 llath y tu allan i'r ffrâm ddangosol ac o'r herwydd yn y cefn gwlad a hynny yn golygu bod yr argymhelliad yn aros fel argymhelliad i wrthod.

 

      

 

     Ond roedd Capel Coch, meddai'r Cynghorydd D. Lewis-Roberts, yn ddatblygiad gwasgarog oherwydd natur gynhenid y lle.

 

      

 

     Teimlai'r Cynghorydd Glyn Jones bod yr ymgeiswyr yn dymuno codi teulu a fuasai wedyn yn gefnogaeth i'r ysgol leol ac yn cryfhau'r gymuned wledig - cynigiodd ymweliad a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd R. L. Owen.

 

      

 

     Yma atgoffwyd yr aelodau gan y Rheolwr Rheoli Cynllunio am y prawf 'manteision sylweddol' sy'n angenrheidiol i gyfiawnhau ymweliadau a darllenodd ddarn o baragraff 4.6.18.1 y Cyfansoddiad, ac ni chredai bod modd cyfiawnhau ymweld â'r cae hwn.

 

      

 

     Ond ailadrodd beth yr oedd eisoes wedi ei ddweud a wnaeth y Cynghorydd W. J. Williams gan ychwanegu nad oedd unrhyw obaith i'r cwpl ifanc hwn ddringo'r ysdol eiddo yn y gymuned wledig y cawsant eu magu ynddi.  Roedd y Gweinidog yr Amgylchedd Cynllunio a Chefn Gwlad Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cefnogi ceisiadau o'r fath.  Roedd yr ysgol leol ei hun y tu allan i'r ffiniau datblygu ac yn y cefn gwlad ac roedd yr ymgeisydd yn fodlon gwneud cytundeb dan Adran 106 yng nghyswllt ty fforddiadwy.  Gofynnodd y Cynghorydd Williams am ymweliad er mwyn rhoi'r cyfle i aelodau asesu beth oedd effaith y bwriad hwn ac asesu hefyd a fuasai'n asio gyda'r tirwedd o gwmpas.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Aled Morris Jones cafwyd cynnig i ymweld a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Glyn Jones.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â'r safle uchod am y rhesymau a roddwyd.

 

      

 

      

 

8.3

23C231 - CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD NEWYDD, DARPARU MYNEDFA NEWYDD A GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD AR BLOT O DIR GER CAE FABLI, CAPEL COCH

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Teimlai'r Cynghorydd W. J. Williams bod ceisiadau fel yr un hwn yn haeddu cefnogaeth ac unwaith eto roedd yma ddynes ifanc leol yn dymuno codi cartref iddi ei hun.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd R. L. Owen cafwyd cynnig i ymweld a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Tecwyn Roberts.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â'r safle am y rhsymau a roddwyd.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

8.4

28C349 - CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD AMAETHYDDOL, CODI GAREJ BREIFAT, ALTRO'R FYNEDFA I GERBYDAU A DARPARU TANC SEPTIG NEWYDD AR DIR TY MAWR, CAPEL GWYN

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Glyn Jones fod Capel Gwyn wedi ei nodi fel treflan/clwstwr yn yr CDU a bod yr ymgeiswyr wedi cyflwyno llythyr gan y Meddyg Teulu lleol bod yma resymau meddygol gwirioneddol o blaid y cais.  Hefyd darllenodd y Cynghorydd Glyn Jones lythyr o gefnogaeth a oedd gerbron yn y Pwyllgor a theimlai ef bod y cais yn cydymffurfio gyda Pholisi 52 (Ty Fforddiadwy) ac argymhellodd roddi caniatâd i'r cais.

 

      

 

     Roedd yr ymgeiswyr, meddai'r Rheolwr Rheoli Cynllunio, yn disgrifio'r cais fel un i godi "annedd amaethyddol" ond nid oedd ynddo unrhyw dystiolaeth i ddangos fod anghenion ymarferol a rhai ariannol o blaid annedd o'r fath; roedd asiant yr ymgeiswyr yn dweud bod y ffarmwr yn dymuno ymddeol ond teimlai'r swyddog bod angen edrych ar bosibiliadau eraill.

 

      

 

     Fel cais amaethyddol oedd y Cynghorydd Fowlie am ystyried y cais gerbron; ymgeisydd oedd yn edrych ar ôl ei wraig yn ei gwaeledd ac roedd arno angen cymorth ei fab i fyw gerllaw i gynnig help ar y fferm.  Roedd yma amgylchiadau eithriadol iawn.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd R. G. Parry yn cefnogi'r Cynghorydd Glyn Jones gan ychwanegu fod y ffarmwr hwn yn rhy ifanc i ymddeol, bod y safle mewn clwstwr a bod yr amgylchiadau yn rhai eithriadol.

 

      

 

     Nododd y Cynghorydd R. L. Owen fod ADAS wedi gyrru llythyr o gefnogaeth a bod yma resymau pam na fedrai'r ymgeisydd fodloni'r meini prawf angenrheidiol a chrybwyll hefyd fod gwraig yr ymgeisydd angen gofal meddygol am weddill ei dyddiau.

 

      

 

     Ond yr hyn a wnaeth y Cynghorydd J. Arthur Jones oedd dweud bod darpariaethau eisoes ar gael i'r ymgeisydd gyflwyno tystiolaeth o blaid yr anghenion am annedd amaethyddol.

 

      

 

     Ni wyddai'r Cynghorydd John Chorlton a fedrai'r swyddogion fynd i drafodaethau gyda'r ymgeisydd a phwyso arno i gyflwyno tystiolaeth o blaid anghenion ymarferol a rhai ariannol.

 

      

 

     Wedyn cafwyd cynnig i ganiatáu gan y Cynghorydd Fowlie a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Aled Morris Jones.

 

      

 

     Cynigiodd yr aelodau a ganlyn roddi caniatâd i'r cais hwn oedd yn tynnu'n groes i bolisïau ac  yn groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr John Byast, Eurfryn Davies, P. M. Fowlie, Aled Morris Jones, O. Glyn Jones, R. L. Owen, J. Arwel Roberts (7)

 

      

 

     Cynigiodd yr aelodau a ganlyn y dylid derbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad i wrthod y cais hwn oedd yn tynnu'n groes:  Y Cynghorwyr John Chorlton, J. Arwel Edwards, Denis Hadley, J. Arthur Jones, D. Lewis-Roberts, John Roberts, W. T. Roberts (7)

 

      

 

     Gan fod y bleidlais yn gyfartal ar saith yr un defnyddiodd y Cadeirydd ei bleidlais fwrw o blaid rhoddi caniatâd i'r cais hwn oedd yn tynnu'n groes ac am y rheswm a ganlyn :

 

      

 

Ÿ

rhesymau meddygol ac anghenion lleol

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor câi'r cais ei ohirio'n awtomatig i'r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rheswm dros ganiatáu'r cais hwn oedd yn tynnu'n groes.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

8.5

32C115C - CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD A GAREJ A DARPARU MYNEDFA NEWYDD AR GAE ORDNANS 4243, TY'N RHOS, CAERGEILIOG

 

      

 

     Gwnaeth Mrs Nia Jones o'r Adran Gynllunio ddatganiad o ddiddordeb yn y cais hwn.

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Am resymau mynedfa dywedodd y Cynghorydd Gwilym Jones fod y cais blaenorol wedi ei wrthod yn 2003 ond bod yr ymgeiswyr bellach wedi datrys yr anhawster trwy brynu tir cyffiniol i greu mynedfa newydd ac nid oedd gan yr Adran Briffyrdd unrhyw wrthwynebiad i'r cynnig gerbron.  Yn y cyfamser roedd ffiniau'r pentref wedi symud ac ni fedrai'r Cynghorydd Jones gytuno gyda'r rhesymau a roes y swyddog dros wrthod.  Roed yr ymgeiswyr yn chwarae rhan flaenllaw yn y gymuned a'r Cyngor Cymuned Lleol yn cefnogi'r cais ar y safle sydd yn ddiogel y tu mewn i'r cyfyngiad gyrru 30mya.

 

      

 

     Mewn ymateb dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio na fedrai'r swyddogion gefnogi ceisiadau'n gwyro.  Yn yr CDU esblygol roedd Caergeiliog yn bentref rhestredig a'r safle ar gyrion y ffiniau datblygu ac o'r herwydd roedd rhaid tybio ei fod yn y cefn gwlad.  Nid cais am dy fforddiadwy oedd gerbron na chartref i weithiwr amaethyddol nac un coedwigaethol.  Wedyn ychwanegodd y swyddog bod gofynion yr CDU yn pwyso'n drymach na pholisïau'r Cynllun Lleol.

 

      

 

     Credai'r Cynghorydd Eurfryn Davies fod y cais gerbron yn un rhesymol a chynigiodd roddi caniatâd iddo a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd John Chorlton.  Hefyd teimlai'r Cynghorydd Aled Morris Jones bod y cais yn cydymffurfio gyda Pholisi 50 (pentrefi rhestredig).  Sylwi a wnaeth y Cynghorydd John Roberts fod y safle union ger Ty'n Rhos a hefyd yn gyffiniol â Berley a Fron Dirion; cytuno a wnaeth y Cynghorydd Denis Hadley a chredai fod y cais yn un rhesymol.  Tueddu i gefnogi'r cais oedd y Cynghorydd J. Arthur Jones am ei fod yn cydymffurfio gyda Pholisi 50.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Eurfryn Davies cafwyd cynnig i ganiatáu'r cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorwyr John Chorlton a Tecwyn Roberts.

 

      

 

     Yn unfrydol roedd yr aelodau yn dymuno caniatáu'r cais hwn a oedd yn tynnu'n groes a hynny am y rhesymau a ganlyn :

 

      

 

Ÿ

angen lleol

 

Ÿ

cydymffurfio gyda Pholisi 50

 

      

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor câi'r cais ei ohirio'n awtomatig i'r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rheswm dros ganiatáu'r cais hwn oedd yn tynnu'n groes.

 

 

 

8.6

32C142 - CYNLLUNIAU LLAWN I GODI BYNGALO DORMER A DARPARU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU A TANC SEPTIG NEWYDD AR DIR GER LLAIN WEN, LLANFAIR-YN-NEUBWLL

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Gwilym Jones fod yma gwpl ifanc gyda phlentyn bach a bod ganddynt deulu a ffrindiau yn y gymdogaeth.  Dyn lleol oedd y gwr a newydd gwblhau cwrs amaethyddol yng Ngholeg Menai a Harper Adams.  Roedd yn gweithio'n lleol yn y maes marchnata amaethyddol ac wedi ennill cymwysterau arbenigol yn y diwydiant.  Cawsant anhawster dod o hyd i gartref ar y farchnad agored a dywedodd eu pensaer wrthynt y gallent godi ty ar y safle hwn am bris rhwng £80,000 ac £85,000.  Yma roedd rhwydwaith lleol y ffyrdd yn nodweddiadol o sawl rhwydwaith arall ar draws yr Ynys ac roedd y Cynghorydd Jones yn gefnogol i'r cais.

 

      

 

      

 

      

 

     Sylwodd y Cynghorydd John Chorlton nad oedd y cais wedi ei gyflwyno am dy fforddiadwy a gofynnodd a oedd modd gohirio'r drafodaeth er mwyn creu cyfle i drafod y posibilrwydd hwn.

 

      

 

     Ond yn ôl y Rheolwr Rheoli Cynllunio doedd y safle ddim yn addas i annedd a hynny'n cynnwys un fforddiadwy.

 

      

 

     Er bod y Cynghorydd Eurfryn Davies yn llawn cydymdeimlad gydag argyfwng yr ymgeiswyr ni fedrai gefnogi'r cais hwn ac o'r herwydd cafwyd cynnig ganddo i dderbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad o wrthod.  Yn yr un modd teimlai'r Cynghorydd John Roberts na fedrai gefnogi.

 

      

 

     Mynegiant o gydymdeimlad gyda'r ymgeiswyr a gafwyd gan y Cynghorydd Glyn Jones oherwydd gorfod cystadlu am gartref ar y farchnad agored a buasai'n gefnogol i gais am dy fforddiadwy ac ychwanegodd bod y Cyngor Cymuned yn gwbl gefnogol i'r cais gerbron.

 

      

 

     Yma atgoffodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio yr aelodau bod raid seilio penderfyniadau ar egwyddor defnydd tir nid ar amgylchiadau personol.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd R. L. Owen cafwyd cynnig i ganiatáu'r cais yn groes i argymhelliad y swyddog a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Glyn Jones.

 

      

 

     Cynigiodd yr aelodau a ganlyn roddi caniatâd i'r cais hwn oedd yn tynnu'n groes a hynny'n groes hefyd i argymhelliad y swyddog :  Y Cynghorwyr P. M. Fowlie, Aled Morris Jones, O. Glyn Jones, R. L. Owen (4)

 

      

 

     Cynigiodd yr aelodau a ganlyn dderbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad i wrthod y cais hwn:  Y Cynghorwyr John Byast, John Chorlton, Eurfryn Davies, J. Arwel Edwards, Denis Hadley, J. Arthur Jones, D. Lewis-Roberts, J. Arwel Roberts, John Roberts (9)

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais hwn am y rhesymau a roddwyd.

 

      

 

8.7

38C90E - CODI ANNEDD A DARPARU TANC SEPTIG NEWYDD AR GAE ORDNANS 5938 RHOSBEIRIO, LLANFECHELL

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Thomas Jones fod cais wedi ei ganiatáu yma yn 1992 a'r sylfeini wedi eu gosod yn unol â gofynion y Rheoliadau Adeiladu; ond wedyn canfuwyd fod y gwaith wedi ei wneud yn y llecyn anghywir ar y safle a gwrthodwyd cais yr ymgeisydd i fwrw ymlaen gyda'r gwaith adeiladu ar y sylfeinig wreiddiol.

 

      

 

     Bellach roedd y safle wedi ei drosglwyddo i'r mab (yr ymgeisydd presennol) a'r Cynghorydd Thomas Jones yn gwbl gefnogol i'r cais - ymgeisydd o saer a oedd yn fawr ei barch yn y gymuned.

 

      

 

     Ond pwysleisiodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y cais hwn yn tynnu'n groes i'r polisïau ac mai dyletswydd a chyfrifoldeb yr ymgeisydd oedd adeiladu yn ôl y caniatâd cynllunio.

 

      

 

     Teimlai'r Cynghorydd R. L. Owen y dylid rhoddi caniatâd i adeiladu ar y sylfeini a osodwyd gan ddadlau fod yr Adain Rheoliadau Adeiladu, ar y pryd, wedi cael cyfle i gywiro'r sefyllfa.

 

      

 

     Credai'r Pennaeth Rheoli Datblygu bod y cais a ystyriwyd yn 1991 yn groes i'r polisïau ar y pryd ac y buasai argymhelliad y swyddog yn un o wrthod.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

     Credai'r Cynghorydd Aled Morris Jones bod yma gytundeb ar yr egwyddor o ddatblygu ac roedd ef yn gefnogol i'r ceisiadau hynny sy'n adfywio'r gymuned leol.

 

      

 

     Ond gofynnodd y Cynghorydd John Chorlton gwestiynau ynghylch sefyllfa'r Cyngor pe ceid apêl a chredai'r Rheolwr Rheoli Datblygu bod y cais hwn yn un newydd yn y cefn gwlad heb dystiolaeth o'i blaid.

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd John Roberts, dywedodd y Cynghorydd Thomas Jones mai llathenni yn unig oedd rhwng y caniatâd gwreiddiol a'r sylfeini a osodwyd.  

 

      

 

     Ni chredai'r Cynghorydd Arwel Edwards bod hanes yn berthnasol yma a theimlai'r Cynghorydd Eurfryn Davies y dylai'r Pwyllgor fod yn gyson yn ei benderfyniadau.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Aeld Morris Jones cafwyd cynnig i ganiatáu'r cais hwn oedd yn gwyro a hynny'n groes i argymhelliad y swyddog o wrthod a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Tecwyn Roberts.

 

      

 

     Cynnig derbyn adroddiad y swyddog a wnaeth y Cynghorydd John Roberts a'r argymhelliad ynddo o wrthod a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd J. Arthur Jones.

 

      

 

     Cynigiodd yr aelodau a ganlyn ganiatáu'r cais hwn oedd yn gwyro a hynny'n groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr John Byast, P. M. Fowlie, Aled Morris Jones, O. Glyn Jones, R. L. Owen, W. T. Roberts (6).

 

      

 

     Cynigiodd yr aelodau a ganlyn dderbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad i wrthod y cais hwn oedd yn gwyro oddi wrth y polisïau :  Y Cynghorwyr John Chorlton, Eurfryn Davies, J. Arwel Edwards, Denis Hadley, J. Arthur Jones, J. Arwel Roberts, John Roberts (7).

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais hwn am y rhesymau hynny y manylwyd arnynt yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

9     GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

9.1

10C86A - CYNLLUNIAU DIWYGIEDIG I GODI GAREJ NEWYDD, YSTAFELL CHWARAE AC YSTAFELL ASTUDIO UWCHBEN - MATERION Y RHODDWYD CANIATÂD IDDYNT DAN GAIS CYNLLUNIO RHIF 10C86 YN TIDE COTTAGE, 1 Y FRON, ABERFFRAW

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Yn 2004 rhoddwyd y caniatâd cyntaf a dywedodd y Cynghorydd Glyn Jones fod cryn dipyn o wrthwynebiad iddo ar y pryd.  Yn y cais gerbron y bwriad oedd symud yr adeilad a ganiatawyd o'r blaen 3m ymlaen ac ychwanegu rhyw 1.5m at ei uchder.  Stad dai preifat oedd hon a theimlai fod y cais hwn yn debyg i hwnnw a ystyriwyd yn y Benllech yn gynharach yn y cyfarfod.  Gofynnodd y Cynghorydd Jones i'r aelodau ymweld â'r safle hwn i asesu'r sefyllfa.

 

      

 

     Wedyn cynigiodd y Cynghorydd Aled Morris Jones gael ymweliad a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd R. L. Owen.

 

      

 

     Pleidleisiodd yr aelodau a ganlyn o blaid ymweliad â'r safle:  Y Cynghorwyr John Chorlton, Eurfryn Davies, P. M. Fowlie, Aled Morris Jones, O. Glyn Jones, R. L. Owen, D. Lewis-Roberts (7).

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â'r safle uchod am y rhesymau a roddwyd.

 

      

 

9.2

11C467 - TROI YSGUBOR YN ANNEDD A DYMCHWEL TY GWAIR A GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD YM MHEN-RALLT, PEN-RHYD, AMLWCH

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

      

 

     Teimlai'r Cynghorydd John Byast y dylai'r aelodau ymweld â'r safle hwn i asesu'r sefyllfa.  

 

      

 

     Ni chredai'r Rheolwr Rheoli Cynllunio fod modd ystyried y cais gerbron dan Bolisi 55 (gwaith addasu), gan fod bwriad yma i ymestyn 150% ar droedbrint yr adeilad presennol ac roedd hynny yn waith altro allanol mawr.

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghroydd Eurfryn Davies dywedodd yr Uwch Beiriannydd Priffyrdd nad oedd ei adran yn gwrthwynebu'r bwriad ond yn amodol ar rai gwelliannau i'r fynedfa.

 

      

 

     Gweld mantais mewn ymweld â'r safle a wnaeth y Cynghorydd Arthur Jones er mwyn cael cyfle i asesu'r sefyllfa a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Tecwyn Roberts.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â'r safle uchod am y rhesymau a roddwyd.

 

      

 

9.3

19C812A - DARPARU RAMP I'R METHEDIG A MYNEDFA YN YR HEN GAPEL, CANOLFAN DEILS, FFORDD LLUNDAIN, CAERGYBI

 

      

 

     Gwnaeth y Cynghorydd J. Arwel Roberts ddatganiad o ddiddordeb yn y cais hwn a gadawodd y cyfarfod am y drafodaeth a'r pleidleisio a chymerwyd y Gadair gan y Cynghorydd J. Arthur Jones.

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan fod rhan o'r cynnig yn ymwneud â thir yr Awdurdod Priffyrdd.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd John Chorlton cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a'r argymheliad o ganiatáu a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd John Roberts.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais hwn am y rhesymau a roddwyd ond gyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

9.4

24C244 - CAIS AMLINELLOL I DDARPARU LLECYN CHWARAE, CYSGODFAN I IEUENCTID A MAES CHWARAE POB TYWYDD AC ADEILADU MYNEDFA NEWYDD I GERDDWYR A THIRLUNIO TIR GER DUBLIN HOUSE, PEN-Y-SARN

 

      

 

     Gwnaeth y Cynghorydd Aled Morris Jones ddatganiad o ddidordeb yn y cais a gadawodd y cyfarfod am y drafodaeth a'r pleidleisio arno.

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan fod aelod o Bartneriaeth Llwyfo hefyd yn aelod o'r Pwyllgor Cynllunio.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd R. L. Owen cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog ac argymhelliad i ganiatáu'r cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd John Chorlton.

 

      

 

     Yn unfrydol PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais hwn am y rhesymau a roddwyd a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

9.5

30C598 - CAIS AMLINELLOL I GODI DWY ANNEDD AR DIR GER HENDRE A GORWEL, LÔN PANT Y CUDYN, BENLLECH

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Oherwydd pryderon difrifol am y briffordd gofynnodd y Cynghorydd D. Lewis-Roberts i'r aelodau ymweld â'r safle ac asesu'r lle drostynt eu hunain.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â'r safle uchod am y rhesymau a roddwyd.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

9.6

34C516 - TROI TIR AMAETHYDDOL YN GOEDWIG GYHOEDDUS AR GAEAU ORDNANS 6100 A 7100, LLANGEFNI

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd J. Arthur Jones y buasai'n siarad ar y cais hwn fel aelod lleol ac o'r herwydd ni fuasai'n pleidleisio arno.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd J. Arthur Jones fod cwyn wedi ei chyflwyno i'w atal rhag siarad ar y cais hwn ond teimlai na chredai rhagfarn petai'n mynegi pryderon pobl leol ynghylch gwariant o £122,000 ar blannu coed ar dir amaethyddol; roedd y bobl leol yn teimlo y buasai'n well gwario'r arian hwn ar faterion eraill yn y gymuned.  Roedd y bwriad yn ymwneud â 10 acer o dir mewn lle uchel er bod tir salach yn is i lawr.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio nad oedd y tir dan sylw yn un o safon  amaethyddol uchel, graddfa 4 a roddwyd iddo, ac ni chafwyd yr un gwrthwynebiad ar ôl ymgynghori; nid oedd rheswm yr aelod lleol yn ystyriaeth gynllunio berthnasol ac nid oedd modd ei ddefnyddio i wrthod y cais a'r argymhelliad oedd caniatáu.

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd R. L. Owen dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio na chafwyd ymateb ffurfiol gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru.

 

      

 

     Felly cynigiodd y Cynghorydd R. L. Owen dderbyn adroddiad y swyddog a'r argymheliad o ganiatáu a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Eurfryn Davies.

 

      

 

     Cynigiodd yr aelodau a ganlyn dderbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad o ganiatáu:  Y Cynghorwyr John Byast, Eurfryn Davies, J. Arwel Edwards, P. M. Fowlie, O. Glyn Jones, Aled Morris Jones, R. L. Owen (7)

 

      

 

     O 7 bleidlais PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

9.7

34C517 - TROI HEN ADEILAD Y PWMP YN GYNEFIN I'R CI DWR A'R YSTLUM YNG NGWARCHODFA NATUR Y DINGL, LLANGEFNI

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno oherwydd yr effaith ar dir sy'n eiddo i'r Cyngor a hefyd yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Unwaith yn rhagor mynegodd y Cynghorydd J. Arthur Jones bryderon lleol y gellid gwneud gwell defnydd o'r arian trwy wario ar faterion eraill yn y gymuned ac roedd y prosiect hwn yn golygu torri coed a phlanhigion i bwrpas creu llwybr 150m a fuasai'n graith ar y tirwedd.

 

      

 

     Cynigiodd yr aelodau a ganlyn dderbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad o ganiatáu:  Y Cynghorwyr John Byast, Eurfryn Davies, J. Arwel Edwards, P. M. Fowlie, O. Glyn Jones, Aled Morris Jones, R. L. Owen (7)

 

      

 

     O 7 bleidlais PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

9.8

34LPA341G/CC - MAES YMARFER GOLFF ARFAETHEDIG AC YMESTYN Y MAES YM MAES GOLFF LLANGEFNI, LLANGEFNI

 

      

 

     Y Cyngor oedd yn cyflwyno'r cais a hwn oedd y rheswm dros ei ddwyn i sylw i'r Pwyllgor benderfynu arno.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

     Gan y Cynghorydd J. Arthur Jones cafwyd gynnig i ganiatáu a chafodd ei eilio gan Cynghorydd P. M. Fowlie.

 

      

 

     Yn unfrydol PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais am y rhesymau a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

9.9

49C57A - TROI YR HEN SIOP FEICS YN GLWB SNWCER A GEMAU A CHYFLEUSTERAU I DDARPARU BWYDYDD A DIODYDD YN NEUADD TABOR, FFORDD YR ORSAF, Y FALI

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Cafwyd y wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gan y Rheolwr Rheoli Cynllunio pryd y dywedodd nad oedd Heddlu Gogledd Cymru yn gwrthwynebu ond bod y Cyngor Cymuned yn gwneud hynny ac yn teimlo nad oedd y safle yn addas ac y buasai'n creu problemau parcio.

 

      

 

     Gynt roedd yn y lle hwn ddau fwrdd snwcer meddai'r Cynghorydd Glyn Jones ond bod y ddau westy lleol bellach gyda byrddau snwcer; roedd y safle ar draws y ffordd o'r Capel ac nid oedd cyfleusterau parcio yn rhan o'r cais.

 

      

 

     Mewn ymateb dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod digon o gyfleusterau parcio cyhoeddus yn y cyffiniau.

 

      

 

     Cynigiodd yr aelodau a ganlyn dderbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad o ganiatáu:  Y Cynghorwyr John Byast, John Chorlton, Eurfryn Davies, J. Arwel Edwards, P. M. Fowlie, Denis Hadley, Aled Morris Jones, J. Arthur Jones, R. L. Owen, D. Lewis-Roberts, John Roberts, J. Arwel Roberts, W. T. Roberts.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd a chyda'r amodau yn yr adroddiad hwnnw.

 

      

 

10     CEISIADAU A DDIRPRWYWYD

 

      

 

     Cyflwynwyd a dderbyniwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cynllunio a Gwasanaethau Amgylcheddol) ar faterion a ddirprwywyd ac y penderfynwyd arnynt ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor hwn.

 

      

 

11     APELIADAU

 

      

 

     Cyflwynwyd a nodwyd, er gwybodaeth, gopi o grynodeb o benderfyniadau yr Arolygydd a benodwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yng nghyswllt yr isod :

 

      

 

11.1

TIR GER TREFLYS, RHOS-Y-BOL

 

      

 

     Apêl yn erbyn penderfyniad yr awdurdod hwn i wrthod caniatâd cynllunio amlinellol i godi annedd dan gais cynllunio rhif 44C101B ac a wrthodwyd trwy rybudd dyddiedig 13 Ebrill 2005 - gwrthodwyd yr apêl.

 

      

 

11.2

ISLWYN, RHOS-Y-BOL

 

      

 

     Apêl yn erbyn penderfyniad yr awdurdod hwn yn caniatáu i'r ymgeisydd ddymchwel ac ailgodi heulfa y tu mewn i'r un cwrtil ond gwrthod estyniad llawr cyntaf uwchben y garej ddwbl ar wahân ac y penderfynwyd arnynt trwy rybudd dyddiedig 23 Tachwedd 2004 dan gais cynllunio rhif 44C166A - caniatawyd yr apêl yng nghyswllt yr heulfa ond gydag amodau a nodwyd yn y Penderfyniad Ffurfiol; gwrthodwyd yr apêl yng nghyswllt yr estyniad llawr cyntaf uwchben y garej bresennol.

 

      

 

 

 

 

 

 

 

12

SEMINAR

 

      

 

     Nodwyd bod seminar wedi ei chynnal ar faterion cynllunio ar 4 Hydref, 2005 i'r aelodau etholedig hynny nad oedd ar y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

      

 

      

 

     Daeth y cyfarfod i ben am 6.25 p.m.

 

      

 

      

 

      

 

     J. ARWEL ROBERTS

 

     CADEIRYDD