Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion dogfennau , 5 Tachwedd 2003

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Dydd Mercher, 5ed Tachwedd, 2003

PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION

Cofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 5 Tachwedd 2003 

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd R.Ll. Hughes, Cadeirydd

Y Cynghorydd J. Arwel Edwards, Is-Gadeirydd

 

Y Cynghorwyr John Byast, D.D. Evans, P.M. Fowlie, Dr. J.B. Hughes, T.Ll. Hughes (o 3.15 p.m.ymlaen), O. Glyn Jones,

O. Gwyn Jones, W. Emyr Jones, R.L. Owen, G.O. Parry MBE, Gwyn Roberts, John Roberts, W.T. Roberts, Hefin Thomas,

W.J. Williams.

 

HEFYD YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd Keith Evans - aelod lleol ar gyfer eitem 7.9

Y Cynghorydd R.G. Parry OBE - aelod lleol ar gyfer eitem 6.2

Y Cynghorydd G. Allan Roberts - aelod lleol ar gyfer eitem 7.2

 

WRTH LAW:

 

Cynllunio:

Rheolwr Rheoli Cynllunio (DFJ)

Arweinydd Tîm (Gorfodaeth - Mwynau a Gwastraff) (JIW)

Cynorthwywr Cynllunio (CR)

 

Priffyrdd:

Uwch Beiriannydd (Rheoli Datblygu a Llwybrau Cyhoeddus)             (JRWO)

Swyddog Rheoli Datblygu (Priffyrdd) (RE)

 

Cyfreithiwr (RWJ)

Cynorthwywr Gweinyddol (CWP)

 

YMDDIHEURIADAU:

 

 

 

Rhoes y Cadeirydd groeso i bawb ac yn enwedig i'r Cynghorydd O. Glyn Jones, aelod newydd Aberffraw i'w gyfarfod cyntaf fel aelod o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a hefyd i'r Cynghorydd O. Gwyn Jones ar ddychwelyd i'r Pwyllgor hwn fel aelod.

 

1

DATGAN DIDDORDEB

 

Cafwyd datganiadau o ddiddordeb gan Aelodau a Swyddogion a chânt eu cofnodi dan yr eitemau perthnasol.

 

Gwnaeth y Cynghorydd O. Gwyn Jones ddatganiad o ddiddordeb ynghylch unrhyw eitem ar y Rhaglen a allai ymwneud â chyflogi ei fab yn y Gwasanaeth Iechyd yr Amgylchedd.

 

2

COFNODION

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd cofnodion y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gyfarfu ar 1 Hydref, 2003.

(Tudalennau 66 - 74y Gyfrol hon).

 

RHAN 1 - MATERION CYNLLUNIO

 

3

YMWELIADAU A SAFLEOEDD

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd yr adroddiad ar yr Ymweliadau Cynllunio â Safleoedd ar 15 Hydref 2003.

 

 

 

YN CODI O'R ADRODDIAD - EITEM 2 - 12C66F - YR HEN BWLL NOFIO, BIWMARES

 

ALTRO AC YMESTYN YNGHYD Â NEWID Y DEFNYDD O'R GANOLFAN ARFOROL ER MWYN CREU GWESTY, BAR A BWYTY

 

 

 

Nodwyd bod y Grîn ym Miwmares yn eiddo i Gyngor Tref Biwmares, nid i Stad Baron Hill fel a ddywedwyd yng nghofnodion yr ymweliad â'r safle.

 

 

 

Yma mynegodd y Cynghorydd John Roberts ei siom gyda'r nifer fechan o aelodau o'r Pwyllgor hwn sy'n mynychu ymweliadau â safleoedd ond roedd yn gwerthfawrogi, ar yr achlysur penodol hwn, bod rhai aelodau yn gorfod ymgymryd â dyletswyddau eraill ar yr un diwrnod â'r ymweliadau.  Cytunwyd i drafod y mater mewn Seminar Gynllunio yn y dyfodol.

 

 

 

4

CEISIADAU YN CODI O'R COFNODION

 

 

 

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

4.1

12C66F - ALTRO AC YMESTYN YNGHYD Â NEWID Y DEFNYDD O'R GANOLFAN ARFOROL ER MWYN CREU GWESTY, BAR A BWYTY, YR HEN BWLL NOFIO, BIWMARES

 

 

 

Cafwyd disgrifiad o'r cynnig gan y Cadeirydd a dywedodd bod y Pwyllgor wedi cael ymweliad â safle'r cais ar 15 Hydref, 2003.

 

 

 

PENDERFYNWYD caniatáu cais y Rheolwr Rheoli Cynllunio i ohirio ystyried y cais hyd nes derbyn lluniadau newydd gan yr ymgeiswyr.

 

 

 

4.2

31C271 - DYMCHWEL ANNEDD A CHODI PEDAIR ANNEDD NEWYDD AR DIR ROSE HILL, FFORDD PENMYNYDD, LLANFAIRPWLL

 

 

 

Gwnaeth Richard Eames o'r Adran Briffyrdd ddatganiad o ddiddordeb yn y cais ac nid oedd yn y cyfarfod yn ystod y drafodaeth na'r pleidleisio.

 

 

 

Disgrifiodd y Cadeirydd y cynnig a dywedodd bod y Pwyllgor wedi ymweld â'r lle ar 15 Hydref, 2003 ar gais yr Aelod Lleol er mwyn dod i adnabod y safle'n well ac i bwrpas asesu pryderon lleol.  

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y safle y tu mewn i ffiniau datblygu'r pentref. Ni chredwyd y câi'r cynnig unrhyw effaith annymunol ar bleserau tai gerllaw, ac y buasai'n ategu tai ac adeiladau'r cyffiniau.  Nid yw Rose Hill yn adeilad rhestredig.  Roedd y cynnig yn cydymffurfio gyda'r polisïau, yn arbennig Polisïau 1, 48 a 49 Cynllun Lleol Ynys Môn, Polisïau A2, A3 a D4 a D29 Cynllun Fframwaith Gwynedd a Pholisi Cynllunio Cymru 2002.  Nid oedd y cyrff yr ymgynghorwyd gyda nhw'n statudol yn gwrthwynebu ond nodwyd bod y Cyngor Cymuned yn gwrthwynebu'r cais am resymau a nodwyd yn adroddiad y Swyddog.   Nid oedd yr un rheswm technegol i wrthod rhoddi caniatâd cynllunio amlinellol ac aeth y Swyddog yn ei flaen i argymell rhoddi caniatâd i'r cais am y rhesymau yn ei adroddiad a theimlwyd nad oedd y sylwadau a gafwyd yn rhai o bwys digonol i wrthod y cais.

 

 

 

Yma cafodd y Cynghorydd John Roberts, yr aelod lleol, y cyfle i annerch y cyfarfod - roedd yn cydnabod nad oedd hi'n hawdd asesu holl effaith y cynnig ar y tai o gwmpas gan fod y cais gerbron yn un amlinellol ac er ei fod yn derbyn adroddiad y Swyddog teimlai fod y gyffordd union ger safle'r cais yn un brysur iawn lle'r oedd loriau cyflenwi yn creu tagiant difrifol ar hyd y lôn a ger y gyffordd, sefyllfa a oedd yn peri pryderon i nifer o'r preswylwyr.  Hefyd nododd bod problemau wedi codi gyda charthffosiaeth ar draws y ffordd yng Ngharreg-y-Gad.  Roedd prisiau tai yn uchel yn ei bentref ac yn rhwystro pobl ifanc rhag cael troed ar yr ystol eiddo.  Roedd y Cynghorydd J. Arwel Edwards yn cefnogi y Cynghorydd John Roberts a theimlai'n drist oherwydd y posibilrwydd y collid nodwedd bwysig yn y tirwedd trwy ddymchwel yr hen fwthyn.

 

 

 

Yma ychwanegodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio nad oedd yr Adran Briffyrdd yn gwrthwynebu'r fynedfa arfaethedig a gwnaed darpariaeth i ddibenion parcio ar y safle ei hun.   Yn ôl a ddeallai roedd y broblem garthffosiaeth bellach wedi'i datrys.

 

 

 

O 9 pleidlais i 6 PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

 

 

4.3

46C137D - CYNLLUNIAU LLAWN I GODI 34 O DAI TRI LLAWR YR UN A DARPARU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU AC I GERDDWYR AR DIR YR HEN GAE CRICED, TREARDDUR

 

 

 

Cafwyd disgrifiad o'r cynnig gan y Cadeirydd a dywedodd bod y Pwyllgor wedi ymweld â'r lle ar 15 Hydref i gael gwell syniad am effaith y bwriad.

 

 

 

Hefyd dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod Asiantaeth yr Amgylchedd wedi mynegi pryderon ynghylch problemau llifogydd yn yr ardal a gofynnwyd i'r ymgeiswyr am adroddiad llawn ac roeddid yn dal i'w ddisgwyl.

 

 

 

Gan gydymffurfio gyda chais y Cynghorydd Tecwyn Roberts cytunodd y swyddog i ymgynghori gyda'r Gwasanaeth Tân a chael eu sylwadau nhw ar lifogydd yn yr ardal hon.

 

 

 

Gofynnodd y Cynghorydd Goronwy Parry am gyngor cyfreithiol yng nghyswllt cyfrifoldebau a dyletswyddau'r Awdurdod hwn petai'r datblygiad yn mynd yn ei flaen.  Yn ôl y cyfreithiwr roedd hi'n rhy gynnar cyflwyno sylwadau heb yn gyntaf gael golwg ar adroddiad Asiantaeth yr Amgylchedd.

 

 

 

PENDERFYNWYD caniatáu cais y Rheolwr Rheoli Cynllunio i ohirio ystyried y cais uchod hyd nes cael y cyfan o'r wybodaeth yn ôl yn sgil y broses ymgynghori.

 

 

 

5

CEISIADAU ECONOMAIDD

 

 

 

Ni chafwyd yr un cais economaidd i'w ystyried yn y cyfarfod.

 

 

 

6

CEISIADAU'N GWYRO

 

 

 

Y GWEDDILL

 

 

 

6.1

29C102 - CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD YNGHYD Â DARPARU MYNEDFA NEWYDD A GOSOD OFFER BYCHAN NEWYDD I DRIN CARTHION AR DIR BODHELEN, LLANFAETHLU

 

 

 

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd y cais hwn yn gwyro er gwaethaf nodi hynny yn adroddiad y Swyddog a chyfeiriwyd ef i'r Pwyllgor hwn ar gais yr aelod lleol.  

 

 

 

Wedyn dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio mai'r polisïau perthnasol a ystyriwyd wrth i'r swyddog wneud ei argymhellion i'r Pwyllgor oedd polisïau D4, D29 ac F11 Cynllun Fframwaith Gwynedd a Pholisïau 1, 42 a 50 Cynllun Lleol Ynys Môn a Pholisi HP4 Cynllun Datblygu Unedol Ynys Môn, y fersiwn ymgynghorol.  Roedd hwn yn gais ar gyrion ffiniau datblygu pentref Llanfaethlu, ac o'r herwydd nid oedd yn gwyro.  Ychwanegodd y swyddog bod y gwaith ymgynghori gyda'r cyrff statudol wedi bod yn foddhaol.

 

 

 

Oherwydd rhesymau priffyrdd roedd y swyddog yn argymell gwrthod - nid oedd y gwelededd yn y fynedfa arfaethedig yn cyrraedd y safon a hynny'n andwyol i ddiogelwch y ffordd.  

 

 

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Gwyn Roberts dywedodd y Swyddog nad oedd modd symud y fynedfa am nad oedd y tir o'i chwmpas yn eiddo i'r ymgeisydd.  

 

 

 

Ni allai'r swyddog priffyrdd gefnogi'r cais oherwydd rhesymau diogelwch y briffordd, gwelededd y fynedfa ddim yn cyrraedd y safon, ac oherwydd bod cyfyngiad cyflymdra y llecyn hwn yn 60 mya.   Nid oedd yn cytuno gyda datganiad asiant yr ymgeisydd ac roedd yn gwrthwynebu'r bwriad.

 

 

 

Yma cynigiodd y Cynghorydd W.J. Williams bod y Pwyllgor yn ymweld â'r safle i ddeall yn well y cyd-destun priffordd, ac eiliwyd ef gan y Cynghorydd Tecwyn Roberts.

 

 

 

PENDERFYNWYD ymweld â'r safle am y rhesymau uchod cyn penderfynu ar y cais.  

 

 

 

CAIS YN GWYRO

 

 

 

6.2

48C136B - CAIS AMLINELLOL I GODI CARTREF NYRSIO AR DIR GWEITHDY, GWALCHMAI

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd David Evans ddatganiad o ddiddordeb yn y cais hwn ac nid oedd yn bresennol yn ystod y drafodaeth a'r pleidleisio.

 

 

 

Gan y Cadeirydd cafwyd disgrifiad byr o'r cais hwn sy'n gwyro ac a drosglwyddwyd i'r Pwyllgor yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio mai'r polisïau perthnasol a ystyriwyd wrth benderfynu ar argymhelliad y swyddog i'r Pwyllgor oedd polisïau A10, B1, B7 a D3 Cynllun Fframwaith Gwynedd, Polisïau 1, 2 a 31 Cynllun Lleol Ynys Môn a Pholisi Cynllunio Cymru (Mawrth 2002).

 

 

 

Aeth y Rheolwr yn ei flaen i ddweud bod safle'r cais hwn ar ben ei hun ac yn y cefn gwlad agored.  Nid oedd rhwydwaith y ffyrdd lleol sy'n gwasanaethu'r safle yn cyrraedd y safon, h.y. lôn eithriadol o gul a honno'n droellog a'r ychydig fannau pasio yn annigonol.  Roedd yr adeilad arfaethedig yn un mawr ac arwynebedd y lloriau yn rhyw 400 metr sgwâr a darpariaeth i 12 o lecynnau parcio.  Gwrthod fu hanes ceisiadau blaenorol am annedd a chartref nyrsio yn y lle penodol hwn.  

 

 

 

Wrth annerch y cyfarfod dywedodd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd R.G. Parry, nad oedd yn anghytuno gyda'r ffaith bod y safle y tu allan i'r pentref ond roedd anheddau eisoes yma ac acw yn y cyffiniau.  Ni chredai y câi'r datblygiad effaith ddrwg ar y tirwedd gan fod yr ardal wedi'i chuddio gan wrych uchel, a thair lôn leol yn rhedeg at y safle.

 

 

 

Cytuno wnaeth y swyddog priffyrdd gyda datganiad y swyddog cynllunio ar gyflwr rhwydwaith y ffyrdd lleol a gwrthwynebodd y cais am resymau diogelwch y briffordd.  

 

 

 

Yma awgrymodd y Cynghorydd Gwyn Roberts bod y safle mor anghysbell fel bod hynny'n anhwylus i bobl ymweld â phreswylwyr.

 

 

 

Cynigiodd y Cynghorydd O. Gwyn Jones dderbyn argymhelliad o wrthod gan y swyddogion ac eiliwyd ef gan y Cynghorydd Goronwy Parry.

 

 

 

Yma ychwanegodd y Cynghorydd P.M. Fowlie bod angen cefnogi pob cyfle i greu swyddi ac awgrymodd ymweliad â'r safle a chafodd hynny ei eilio gan y Cynghorydd O. Glyn Jones.  

 

 

 

O 9 pleidlais i 3 PENDERFYNWYD gwrthod y cais am y rhesymau yn adroddiad y swyddog.  

 

 

 

7.

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

7.1

19C822 - CYNLLUNIAU LLAWN I DDYMCHWEL HEN ORSAF DROSGLWYDDO BT A CHODI PEDWAR TY DEULAWR GYDA GAREJYS PREIFAT AC ALTRO'R FYNEDFA YN HEN SAFLE GORSAF DROSGLWYDDO BT, FFORDD LLUNDAIN, CAERGYBI

 

 

 

Cafwyd disgrifiad byr o'r cais gan y Cadeirydd a dywedodd mai'r rheswm am ei drosglwyddo i'r Pwyllgor oedd bod y tir angenrheidiol i ddarparu llain gwelededd yn y fynedfa i'r safle yn eiddo i'r Cyngor.  

 

 

 

Wedyn ychwanegodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio mai'r polisïau perthnasol a ystyriwyd wrth bennu argymhelliad y swyddog oedd Polisïau A2, A3, D29 a D23 Cynllun Fframwaith Gwynedd a Pholisïau 1, 32, 42, 48 a 49 Cynllun Lleol Ynys Môn.  Roedd yn argymell rhoddi caniatâd i'r cais er gwaethaf gwrthwynebiadau Asiantaeth yr Amgylchedd a Dwr Cymru hyd nes cwblhau'r offer trin carthion a fuasai'n gwasanaethu'r safle.  Ni chredai'r swyddog y câi'r datblygiad hwn, am mai un bychan oedd, effaith sylweddol ar y system garthffosiaeth.  

 

      

 

     Fodd bynnag, roedd y Cynghorydd Goronwy Parry yn pryderu am roddi gormod o bwysau ar y system trin carthion ac yn poeni hefyd am effaith y gwaith ar dai'r cyffiniau.

 

      

 

     Yn ei ymateb dywedodd y Swyddog Cynllunio i'r holl ffactorau gael eu hystyried wrth bennu argymhelliad y swyddog, sef caniatâd.  Ychwanegodd bod modd rhoddi amodau ynghlwm i ddiogelu hen goed ar ffiniau'r safle.  

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau yn adroddiad y swyddog a chyda'r amodau yn yr adroddiad hwnnw.  

 

      

 

7.2

19C824 - DARPARU ESTYNIAD I BORTS YN Y FFRYNT A DARPARU ESTYNIAD LLAWR CYNTAF YNG NGHEFN 5 TREHWFA CRESCENT, CAERGYBI

 

      

 

     Gan y Cadeirydd cafwyd disgrifiad cryno o'r bwriad ac ychwanegodd i'r cais gael ei drosglwyddo i'r Pwyllgor yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Wedyn dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio mai'r polisïau perthnasol a ystyriwyd wrth bennu argymhelliad y swyddog i'r Pwyllgor oedd Polisi Cyffredinol 1, Polisïau 42 a 58 Cynllun Lleol Ynys Môn, Nodyn Cyngor Technegol 12 (Cymru) a Chanllaw Cynllunio Atodol yr Awdurdod hwn ar altro ac ymestyn tai.

 

      

 

     Nododd y Swyddog Cynllunio bod maint y bwriad hwn wedi ei leihau mewn ymateb i wrthwynebiadau lleol.  Ni theimlai y câi'r bwriad unrhyw effaith andwyol ar bleserau tai yn y cyffiniau ac mai afresymol fuasai gwrthod y cais oherwydd hawl i oleuni y tai cyffiniol.  

 

      

 

     Yn ei anerchiad i'r Pwyllgor dywedodd y Cynghorydd G. Allan Roberts, yr aelod lleol, nad oedd y cais yn cydymffurfio'n llawn gyda'r canllaw cynllunio atodol a gofynnodd i'r aelodau ymweld â'r lle.  Ynghlwm wrth y bwndel o lythyrau ar y bwrdd yn y cyfarfod roedd cynllun manwl o'r bwriad.

 

      

 

     Wedyn cafwyd cynnig gan y Cynghorydd R.L. Owen i ymweld â safle'r cais er mwyn cael gwell syniad am y sefyllfa a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Goronwy Parry.  

 

      

 

     Yma daeth y Rheolwr Rheoli Cynllunio i mewn ac atgoffau'r Pwyllgor y buasai'r cyfnod 8 wythnos i benderfynu ar gais yn mynd heibio petai'r mater yn cael ei ohirio ac wedyn buasai'r ymgeisydd â'r hawl i apelio oherwydd methiant i wneud penderfyniad.

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd Gwyn Roberts roddi caniatâd i'r cais gan ddilyn yr argymhelliad a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Tecwyn Roberts.  

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â'r safle i gael gwell syniad am y lle ac asesu'r sefyllfa cyn gwneud penderfyniad.  

 

      

 

7.3

19LPA832/CC - NEWID DEFNYDD O DIR GWAG A CHREU MAES PARCIO YN 8 A 9 ST. SEIRIOL'S CLOSE, CAERGYBI

 

      

 

     Cafwyd disgrifiad cryno o'r cais gan y Cadeirydd, sef cais a drosglwyddwyd i'r Pwyllgor am iddo gael ei gyflwyno gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol) ar safle yng nghanol un o stadau tai yr Awdurdod Lleol.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio mai darn gwag o dir oedd dan sylw yn y lle hwn ac y buasai'r cynnig yn cyfrannu'n bositif at bleserau pobl leol, sef trwy ddarparu llecynnau parcio diogel oddi ar y ffordd a hynny'n lleihau tagiant trafnidiaeth ar ffordd y stad.  

 

      

 

     Y Polisïau perthnasol a ystyriwyd wrth bennu argymhelliad y swyddog i'r Pwyllgor oedd Polisi D34 Cynllun Fframwaith Gwynedd a Pholisïau 1 a 42 Cynllun Lleol Ynys Môn.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau yn adroddiad y swyddog a chyda'r amodau yn hwnnw.  

 

      

 

7.4

19LPA832/CC - ADEILADU PONT I SEICLWYR/CERDDWYR FEL CYSWLLT RHWNG PEN PLATFFORM 1, ARDAL YR HARBWR A CHANOL Y DREF AR DIR Y TU CEFN I 35 STRYD Y FARCHNAD AC I'R HARBWR MEWNOL, CAERGYBI

 

      

 

     Daeth y cais i'r Pwyllgor oherwydd iddo gael ei gyflwyno gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Priffyrdd, Cludiant ac Eiddo).

 

      

 

     Cafwyd disgrifiad cryno o'r bwriad gan y Rheolwr Rheoli Cynllunio a dangoswyd cynllun manwl i'r aelodau.

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd Tecwyn Roberts roddi caniatâd i'r cais yn unol â manylion adroddiad y swyddog a chafodd ei eilio gan y Cynghorwyr Hefin Thomas a Gwyn Roberts.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau yn adroddiad y swyddog a chyda'r amodau yn hwnnw.

 

      

 

7.5

21LPA831/CC - CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD AR DIR GER TERAS Y GRAIG, LLANDDANIEL

 

      

 

     Trosglwyddwyd y cais i'r Pwyllgor oherwydd iddo gael ei gyflwyno yn y lle cyntaf gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Priffyrdd, Cludiant ac Eiddo)

 

      

 

     Gan y Rheolwr Rheoli Cynllunio cafwyd disgrifiad cryno o'r bwriad ac mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd O. Gwyn Jones dywedwyd bod y swyddogion wedi ymgynghori gyda phreswylwyr lleol.

 

      

 

     Wedyn cynigiodd y Cynghorydd Gwyn Roberts roddi caniatâd yn unol â'r manylion yn adroddiad y swyddog a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Tecwyn Roberts.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau yn adroddiad y swyddog a chyda'r amodau yn hwnnw.   

 

      

 

7.6

33C190J - DEFNYDDIO TIR I GYNNAL BUSNES SGIPIAU A GOSOD PORTACABIN, TOILED A CHANTIN AR DIR YN CHWAREL BWLCH GWYN, GAERWEN

 

      

 

     Cafwyd disgrifiad cryno o'r cais gan y Cadeirydd - sef cais a drosglwyddwyd i'r Pwyllgor yn ôl dymuniad yr aelod lleol ac oherwydd pryderon ynghylch effaith y bwriad ar y rhwydwaith priffyrdd yn lleol.

 

      

 

     Nododd y Rheolwr Rheoli Cynllunio y buasai'r Arweinydd Tîm (Gorfodaeth - Mwynau a Gwastraff) yn cyflwyno'r cais i'r Pwyllgor ac ychwanegodd hwnnw bod cwyn ffurfiol wedi'i derbyn ynghylch faint o ymgynghori a wnaed ac ynghylch y cyhoeddusrwydd a roddwyd i'r cais yn lleol.

 

      

 

     Dywedodd yr Uchel Swyddog Cynllunio bod y safle hwn wedi'i ddefnyddio'n drwm yn ystod cyfnod adeiladau'r A55 - sef ei ddefnyddio i bwrpas swyddfeydd, labordai ac i ailgylchu cerrig sadio.  Ar hyn o bryd mae'r safle wedi'i wynebu gyda tharmac yn rhannol a'r gweddill wedi'i wynebu gyda cherrig sadio cywasgedig.  Roedd y safle wedi'i guddio'n dda gan lwyni a gwyrchoedd; hefyd roedd natur y tirwedd yn cuddio'r lle yn ddigonol tua'r de a'r dwyrain.  Roedd hanes diwydiannol i'r safle a hwnnw yn mynd yn ôl hyd at 1949.  

 

      

 

     Y polisïau perthnasol a ystyriwyd wrth bennu argymhelliad i'r Pwyllgor oedd Polisi Cynllunio Cymru (TAN21), Polisi 6 (S29) a sawl egwyddor arall dan Bolisi 29 Cynllun Lleol Ynys Môn.  Er bod yma wrthwynebiad cryf yn lleol dywedodd y Swyddog nad oedd yr un o'r cyrff statudol yr ymgynghorwyd â nhw wedi gwrthwynebu.  Roedd y safle wedi'i glustnodi i ddibenion defnydd cymydog drwg yn y Cynllun Lleol.

 

      

 

     Roedd maes parcio Chwarel Bwlch Gwyn union ger yn y gyffordd gyda lôn ddiddosbarth, sef Lôn Graig.  Cais sydd yma i ddatblygu'r safle fel iard sgipiau ond hefyd gosod arno bortacabin, toiled a chantîn.  Gwaith yw hwn i storio ac i ddanfon sgipiau o'r safle i gwsmeriaid y cwmni.  O'r safle rhedai pum wagen sgipiau a wagen sbwriel, a chludid yr holl wastraff i safleoedd tirlenwi.  Roeddid yn rhagweld y buasai yma 20 o symudiadau lori bob dydd.

 

      

 

     Roedd y cynghorydd lleol, y Cynghorydd Emyr Jones yn pryderu'n arw ynghylch y cais a dywedodd iddo ymweld â safle sydd gan y cwmni hwn yn Llanfair Is-Gaer a theimlai fod hwnnw yn flêr iawn.  Buasai busnes sgipiau yn creu rhagor o draffig ar y ffordd a hefyd roedd cwmni arall yn rhedeg busnes sgipiau cyffelyb o'r stad ddiwydiannol yn y pentref; mae safle'r cais hwn yn bur agos i safle'r cwmni arall a theimlai bod gormod o ddiwydiannau trymion yn barod yn y pentref.  

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Gwyn Jones bod y cwmni yn rhedeg busnes ar draws y cyfan o Ogledd Cymru ac o'r herwydd nid busnes lleol oedd yr un hwn ac nid oedd modd ei ystyried fel datblygiad cynaliadwy; teimlai nad oedd yn cydymffurfio gyda TAN 21 (trin gwastraff cyn agosed ag y bo'n bosib i'r ffynhonnell).

 

      

 

     Yn ôl y swyddogion priffyrdd cafodd y rhwydwaith lleol hwn o ffyrdd ei ailwynebu i safon a allai dderbyn traffig trwm - gwnaed y gwaith hwn ar ddiwedd cyfnod adeiladau'r A55 newydd.

 

      

 

     Petai'r cais yn cael ei ohirio dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio y buasai'r ymgeisydd wedyn â hawl i apelio oherwydd methiant i benderfynu - oherwydd bod y cyfnod 8 wythnos yn dod i ben.

 

      

 

     Yn ystod y drafodaeth codwyd nifer o bwyntiau a'r cyfan ohonynt heb fod yn ystyriaethau cynllunio perthnasol - megis effaith amgylcheddol y safle oherwydd ei flerwch a hynny'n achosi pryder oherwydd y posibilrwydd y bydd busnesau newydd yn penderfynu peidio â symud i'r ardal.  

 

      

 

     Gan y Cynghorydd R.L. Owen cafwyd cynnig bod aelodau yn ymweld â'r safle, a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd John Roberts.

 

      

 

     Wedyn trwy'r Cynghorydd Fowlie cafwyd cynnig i wrthod y cais am y rhesymau a ganlyn a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Glyn Jones:

 

      

 

Ÿ

bod y tair ffordd sy'n rhedeg at y safle yn rhy gul ac yn anaddas i dderbyn traffig trwm a lorïau mawrion  yn rheolaidd (o fynedfa'r safle tuag at yr A5 ym Mhentre Berw; ar hyd Lôn Ceint tuag at Lôn Penmynydd ac ar hyd Lôn Graig tuag at swyddfa'r Post yn y Pentref) ac nid yw'r rhwydwaith lleol o ffyrdd yn addas i dderbyn cynnydd yn y traffig.

 

Ÿ

o gofio bod yr ymgeisydd yn cynnal busnes ar draws y cyfan o Ogledd Cymru nid yw, o'r herwydd, yn 'fusnes lleol', nid yw'n ddatblygiad cynaliadwy ac felly ddim yn cydymffurfio gyda TAN 21 (trin gwastraff cyn agosed ag y bo'n bosib i'r ffynhonnell), a hefyd oherwydd yr egwyddor bod cwmni arall gyda busnes cyffelyb yn lleol.

 

 

 

Pleidleisiodd yr Aelodau fel a ganlyn:

 

 

 

Gwrthod y cais - 8 pleidlais

 

Ymweld â'r safle - 4 pleidlais

 

Caniatáu'r cais - 3 pleidlais

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor gohiriwyd y cais tan gyfarfod nesaf y Pwyllgor er mwyn cael cyfle i ystyried adroddiad ar oblygiadau gwrthod rhoddi caniatâd a rhoddi cyfle eto i benderfynu'n derfynol ar y cais.

 

 

 

7.7

34C465C/AD - CODI ARWYDDION YN Y DINGLE/NANT Y PANDY, LLANGEFNI

 

      

 

     Trosglwyddwyd y cais hwn i'r Pwyllgor oherwydd iddo gael ei gyflwyno gan Gwmni Tref Llangefni ac ar dir sy'n eiddo i'r Cyngor.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau yn adroddiad y swyddog a chyda'r amodau yn yr adroddiad hwn.

 

      

 

7.8

34C478A - CODI 6 O FYNGALOS, 6 FFLAT BYW'N ANNIBYNNOL AC 1 BYNGALO YNGHLWM AR DIR GER FFORDD CIL-DWRN, LLANGEFNI

 

      

 

     Cafwyd argymhelliad gan y Rheolwr Rheoli Cynllunio i'r aelodau archwilio'r safle cyn ystyried y cais a phenderfynu arno - er mwyn cael cyfle i ddeall yn well unrhyw effaith a gâi'r datblygiad arfaethedig ar y cynlluniau.  

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â'r safle uchod am y rhesymau a roddwyd cyn gwneud penderfyniad ar y cais.

 

      

 

7.9

39C355 - TROI ADEILAD DIWYDIANT YSGAFN YN SWYDDFA AC ADEILADU MAES PARCIO NEWYDD YN YR HEN YSGOL GYNRADD, PORTHAETHWY

 

      

 

     Gan y Cadeirydd cafwyd disgrifiad cryno o'r bwriad a dywedodd bod y cais wedi'i drosglwyddo i'r Pwyllgor oherwydd mai'r Cyngor oedd perchennog y tir.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio mai'r polisïau perthnasol a ystyriwyd wrth bennu argymhelliad i'r Pwyllgor hwn oedd Polisïau B1, D4 a D29 Cynllun Fframwaith Gwynedd, Polisïau 1, 2 a 42 Cynllun Lleol Ynys Môn a Pholisi Cynllunio Cymru (TAN 12).  Ychwanegodd y swyddog bod caniatâd yn bod ar y safle i bwrpas diwydiant ysgafn ond dan y cais hwn roedd bwriad i newid defnydd o'r adeilad i ddibenion darparwr addysg arbenigol yng nghyswllt dysgu o bell ynghyd â darparu maes parcio.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y swyddogion yn cytuno gyda dyluniad y bwriad a hefyd wedi ystyried ei effaith ar y pleserau lleol.  Roedd y swyddogion, meddai ef, wedi ymgynghori gyda'r ymgeiswyr ynghylch y bwriad i darmacio'r llecyn parcio ond bod yr ymgeiswyr yn dal i fod yn anfodlon defnyddio "grasscrete".  

 

      

 

     Yn ei anerchiad i'r cyfarfod dywedodd y Cynghorydd Keith Evans, yr aelod lleol, ei fod yn cefnogi'r bwriad mewn egwyddor ac yn canmol y gwelliannau a welwyd i'r adeilad ond serch hynny roedd yn gwrthwynebu lleoliad uchel ac amlwg y maes parcio arfaethedig a oedd ar hyn o bryd yn lawnt ac wedi'i dirlunio.  Awgrymodd y Cynghorydd Evans bod yr ymgeiswyr yn symud y maes parcio i ochr Llanfairpwll yr adeilad gan ychwanegu na lwyddodd, er ceisio sawl gwaith, i gael cyfarfod gyda'r swyddogion ar y safle.

 

      

 

     Yma cynigiodd y Cynghorydd W.J. Williams roddi awdurdod dirprwyol i weithredu i'r swyddogion gyda'r amod eu bod yn gwneud rhagor o waith ymgynghori gyda'r ymgeiswyr a'r aelod lleol i daro ar gyfaddawd er mwyn darparu llecyn parcio. Eiliwyd y cynnig hwn gan y Cynghorydd R.L. Owen.  

 

      

 

     PENDERFYNWYD dirprwyo awdurdod i Bennaeth y Gwasanaethau Cynllunio roddi caniatâd i'r cais am y rhesymau a roddwyd a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog a bod swyddog yn ymgynghori rhagor gyda'r ymgeiswyr i daro ar gyfaddawd yng nghyswllt darparu cyfleusterau parcio a gwadd yr aelod lleol i fod yn rhan o'r trafodaethau.

 

      

 

7.10

46C377 - DARPARU TO CRIB GYDA 6 FFENESTR FECHAN YNDDO ER MWYN CREU STYDI A LLOFFT AR LAWR CYNTAF EITHINOG, PENRHYNGEIRIOL, TREARDDUR

 

      

 

     Yr aelod lleol ofynnodd am drosglwyddo'r cais hwn i'r Pwyllgor oherwydd pryderon ynghylch effaith weledol y cynnydd yn uchder yr annedd.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio mai'r polisïau perthnasol a ystyriwyd wrth bennu argymhelliad y swyddog oedd Polisïau 30, 42 a 58 Cynllun Lleol Ynys Môn, Polisi D29 Cynllun Fframwaith Gwynedd a Nodyn Cyngor Technegol (TAN 12) ynghyd â'r Canllaw Cynllunio Atodol ar altro ac ymestyn tai.  Yr ystyriaethau cynllunio pennaf oedd effaith y dyluniad arfaethedig ar y tirwedd amlwg hwn.  Er bod yr annedd mewn Ardal o Brydferthwch Naturiol Eithriadol, o'i chwmpas mae anheddau eraill o bob math.  Dywedodd y swyddog iddo dderbyn tri llythyr yn gwrthwynebu a chawsant eu crybwyll yn adroddiad y swyddog.  Ar ôl derbyn gwrthwynebiadau cafwyd rhagor o drafodaethau gyda'r ymgeiswyr a hynny'n arwain at ostwng uchder crib y to i gael gwared o broblem edrych drosodd; mae'r to crib yn cydymffurfio gyda Pholisi 58 y Cynllun Lleol.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau yn adroddiad y swyddog a chyda'r amodau yn yr adroddiad hwn.

 

      

 

7.11

49C220B - CYNLLUNIAU LLAWN I GODI 2 ANNEDD AC ALTRO'R FYNEDFA I GERBYDAU AC I GERDDEDWYR AR DIR YM MAES PARCIO TAN Y BRYN, Y FALI

 

      

 

     Cafwyd disgrifiad cryno gan y Cadeirydd o'r bwriad a dywedodd bod y cais wedi'i drosglwyddo i'r Pwyllgor oherwydd bod y tir yn eiddo i'r Cyngor.

 

      

 

     Anerchodd y Cynghorydd Goronwy Parry, yr aelod lleol, y cyfarfod gan ddweud mai'r bwriad oedd darparu ty i unigolyn gydag anghenion arbennig a hefyd i blentyn methedig.  Roedd yn derbyn adroddiad y swyddog ond yn dymuno nodi nad oedd digon o ddefnydd yn cael ei wneud o'r maes parcio a hynny oherwydd fandaliaeth.   Cynigiodd y Cynghorydd Parry roddi caniatâd ac eiliwyd ef gan y Cynghorydd John Roberts.  

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau yn adroddiad y swyddog a chyda'r amodau yn yr adroddiad hwn.

 

      

 

8.     CEISIADAU A DDIRPRWYWYD

 

      

 

     Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cynllunio a Gwasanaethau Amgylcheddol) ar faterion a ddirprwywyd ac y penderfynwyd arnynt ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor hwn.

 

      

 

8.1

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio na ddylai'r ceisiadau a ganlyn fod wedi ymddangos ar y rhestr o geisiadau a gymeradwywyd gan eu bod oll wedi'u tynnu'n ôl:

 

      

 

8.1.1

19C831 (Ardrum, Tan yr Efail, Caergybi)

 

8.1.2

35C207C/LB (Yr Hen Felin Wynt, Llangoed)

 

8.1.3

22C153A (Tyn y Mynydd, Llanddona)

 

8.1.4

43C77B (Gerlan, Pontrhybont)

 

      

 

8.2

Yn achos y cais a ganlyn dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio iddo gael ei wrthod - nid ei gymeradwyo fel a nodwyd yn yr adroddiad:

 

      

 

8.2.1

39C351 (Ynys Bach, Porthaethwy)

 

 

 

Yna nododd y Cadeirydd bod 104 o geisiadau wedi cael sylw ers y cyfarfod diwethaf a rhoes y Cynghorydd Owen ei longyfarchiadau i bawb perthnasol am ddarparu gwasanaeth prydlon.

 

 

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi'r newidiadau uchod.

 

   

 

9     APELIADAU CYNLLUNIO - ADRAN 78 DEDDF CYNLLUNIO GWLAD A THREF 1990

 

      

 

     Cyflwynwyd a nodwyd - adroddiadau yr Arolygwyr a benodwyd gan y Cynulliad yng nghyswllt yr apeliadau a ganlyn ac a wrthodwyd :

 

      

 

9.1

19C271A - darparu grisiau at fynedfa yn y cefn i 2 Cybi Place, Caergybi;

 

      

 

9.2

39C336 - codi uchder a darparu to newydd a balcon newydd ynghlwm wrth y ty cychod yn Cadnant Gate, Ffordd Cadnant, Porthaethwy.

 

      

 

9.3

56C99V - codi llety preswylio o fath 'chalet' dros dro i reolwr y safle ar dir ger yr Arena Dan Do, Ffarm Bridio Ceffylau Tal y Foel a'r Ganolfan Ferlota, Dwyran.

 

 

 

 

 

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 4.00 p.m.

 

 

 

Y CYNGHORYDD ROBERT LL. HUGHES

 

CADEIRYDD