Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion dogfennau , 5 Tachwedd 2008

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Dydd Mercher, 5ed Tachwedd, 2008

PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION

 

 

Cofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 5 Tachwedd, 2008

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd Thomas Jones - Cadeirydd

 

Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, Barrie Durkin, Jim Evans,

Ken Hughes, O Glyn Jones, Clive McGregor, R L Owen,

J Arwel Roberts, Hefin Thomas, John Penri Williams,

Selwyn Williams.

 

 

 

WRTH LAW:

 

Cynllunio:

Pennaeth Rheoli Datblygu (EGJ)

Cynorthwywr Cynllunio (KS)

 

Priffyrdd:

Uwch Beiriannydd (Rheoli Datblygu a Hawliau Tramwy Cyhoeddus)(JRWO)  

 

Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol (RWJ)

Swyddog Pwyllgor (JMA)

 

HEFYD YN BRESENNOL:

 

Aelodau Lleol:

Y Cynghorwyr P M Fowlie (Eitem 6.5); Fflur M Hughes (Eitem 6.6);

Trefor Lloyd Hughes (Eitem 6.3); William i Hughes (Eitem 10.1);

Raymond Jones (Eitem 6.2); R Dylan Jones (Eitem 11.1);

Aled Morris Jones (Eitem 6.7), Rhian Medi (Eitem 9.1);

R G Parry OBE (Eitem 6.8); G O Parry MBE (Eitem 15).

 

YMDDIHEURIADAU

 

Y Cynghorwyr John Chorlton, Lewis Davies, R Llewelyn Jones.

 

 

1

YMDDIHEURIADAU

 

Derbyniwyd yr ymddiheuriadau a nodwyd uchod.

 

2

DATGAN DIDDORDEB

   

Derbyniwyd datganiadau o ddiddordeb fel y cawsant eu cofnodi dan yr eitemau perthnasol.

 

3

COFNODION

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd, fel rhai cywir, gofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gafwyd ar 1 Hydref, 2008 gyda’r newid a ganlyn:

 

Tudalen 5 - dileu - “glynu wrth y penderfyniad gwreiddiol a ...” dan y penderfyniad yn eitem 6.3.

 

 

Cytunwyd i gywiro’r cofnod yn y modd hwn.

 

 

 

4

YMWELIADAU Â SAFLEOEDD

 

 

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd, fel rhai cywir, yr adroddiadau ar yr ymweliadau â safleoedd cynllunio ar 15 Hydref, 2008.

 

 

 

5

CEISIADAU A OHIRIWYD

 

 

 

5.1

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

19LPAA813C/CC - CAIS i SYMUD DAU LIF OLAU 10M i MEWN O’R LLEOLIAD PRESENNOL A GOSTWNG UCHDER Y DDAU A CHODI FFENS ACWSTIG 3M O UCHDER AR DIR CAE CHWARAEON MILL BANK, CAERGYBI

 

 

 

PENDERFYNWYD ymweld â’r safle uchod er mwyn rhoi cyfle i’r aelodau gynefino gyda’r cynigion cyn gwneud penderfyniad.

 

 

 

5.2

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

34C563A/ECON - CAIS LLAWN i GODI 3 UNED DDIWYDIANNOL CYFANSWM Y LLORIAU YN 18,600 TROEDFEDD SGWAR A CHYFLEUSTERAU PARCIO CYSYLLTIEDIG A FFYRDD STAD AR DIR Y TU CEFN i HEN SAFLE CUNLIFFE, LLANGEFNI

 

 

 

Datganiad o Ddiddordeb gan yr Uwch Beiriannydd (Rheoli Datblygu a Hawliau Tramwy Cyhoeddus).

 

 

 

Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu eu bod yn dal i ddisgwyl am y manylion diwygiedig.

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais am y rhesymau a roddwyd.  

 

 

 

6

CEISIADAU’N CODI

 

 

 

6.1

CYNLLUNIAU MANWL i GODI ANNEDD A GAFODD GANIATÂD AR ACHLYSUR O’R BLAEN DAN RIF 17C399 AR DIR GER BRYN TIRION, LLANSADWRN

 

 

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor benderfyno arno yn ôl dymuniad yr Aelod Lleol ar ôl ei gyflwyno yn wreiddiol i’r Pwyllgor Cynllunio ar 1 Hydref yn ôl dymuniad yr Aelod Lleol pryd y penderfynwyd cael ymweliad.  Cafwyd yr ymweliad ar 15 Hydref.

 

 

 

Er bod yr Aelod Lleol yn gwrthwynebu’r cynnig oherwydd y dyluniad dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu nad oedd hwn yn rheswm i wrthod y cais.  Argymhelliad y Swyddog oedd caniatáu gydag amodau.

 

 

 

Dywedodd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd Eurfryn Davies ei fod yn anhapus gyda’r eiddo presennol y drws nesaf i’r safle ac nid oedd yn derbyn bod dyluniad yr annedd arfaethedig yn briodol i’r lleoliad nac i bleserau cyffredinol yr ardal.  

 

 

 

Pryder y Cynghorydd Hefin Thomas oedd y ceid datblygiad rhubanaidd yn ardal y safle ac roedd y Pennaeth Rheoli Datblygu yn cydnabod y sylw ond aeth ymlaen i atgoffa’r Aelodau bod caniatâd amlinellol eisoes wedi’i roddi ac mai cais ynghylch manylion oedd y cais gerbron.

 

 

 

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad ac argymhelliad y Swyddog i ganiatáu’r cais gyda’r amodau hynny y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.

 

 

 

6.2

19C452D CAIS AMLINELLOL i GODI TAI AR DIR YN CANADA GARDENS, CAERGYBI

 

 

 

Roedd y cais yn tynnu’n groes i bolisïau’r Cynllun Datblygu a chafodd ei gyflwyno i gyfarfod mis Medi o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion pryd y penderfynwyd ymweld â’r safle.  Cafwyd yr ymweliad hwnnw ar 17 Medi ac ailgyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor ar 1 Hydref pryd y gohiriwyd gwneud unrhyw benderfyniad hyd nes y gellid datrys materion technegol.

 

 

 

Dywedodd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd Raymond Jones, bod ei wrthwynebiad ef yr un un a fynegwyd yn y cyfarfod blaenorol pryd y trafodwyd y cais - roedd yn cynrychioli gwrthwynebwyr lleol.  Gofynnodd am wrthod y cais a chyfeiriodd at broblemau gyda dwr wyneb ar y safle a hynny oherwydd afon fechan sy’n rhedeg gerllaw; nododd y problemau carthffosiaeth a allai godi a nododd bod yma lifogydd sydyn annisgwyl.  Roedd y safle mewn pant yn y tir ac ni fedrai ddeall sut y medrai unrhyw un godi tai ar y safle.  Wedyn aeth ymlaen i ddweud y dylai’r awdurdod priffyrdd wrthwynebu ar sail mynedfa sydd ddim yn cwrdd â’r safonau a hynny am ei bod yn rhedeg yn syth i’r A5.

 

 

 

Soniodd y  Pennaeth Rheoli Datblygu bod tir y safle’n wag a dim digon o ddefnydd yn cael ei wneud ohono y tu mewn i ffiniau’r dref a bod cefnogaeth i’w ddefnyddio i bwrpas codi tai dan y polisi cynllunio cenedlaethol. Roedd y pwyslais lleol yng nghyswllt lleoliad datblygiad diwydiannol wedi newid.  Buasai’r cynnig hwn yn dwyn ymlaen y bwriad i godi 30% o dai fforddiadwy ac ni chredid y buasai rhoddi caniatâd i’r cynllun yn amharu ar y cynllun datblygu.  Wedyn soniodd bod adroddiad manwl wedi’i baratoi ar y datblygiad ac y buasai’n rhaid i’r datblygwr, yn y pen draw, ystyried a ydyw’n ymarferol datblygu’r safle ai peidio.  Swyddogaeth y Pwyllgor yma oedd ystyried yr egwyddor defnydd tir yn unig.  Credai y ceid rhagor o draffig oherwydd defnyddio’r safle i ddibenion diwydiannol a hefyd i bwrpas codi tai.  Roedd yn cydnabod y buasai’n rhaid symud carthffos (cynlluniau ar gyfer hynny wedi’u cyflwyno) a chadarnhaodd bod gwaith ymgynghori wedi’i gwblhau’n foddhaol a bod sylw wedi’i roddi i ddwr wyneb a thrafodwyd cynigion i ddarparu traen cerrig i’r afon gerllaw.  Ni chredai ef bod yma resymau cynllunio dros wrthod y cais.

 

 

 

Teimlai’r Cynghorydd John Penri Williams bod y cynnig yn groes i Bolisiau’r Cynllun Lleol ond er gwaethaf hynny roedd yr Adran Gynllunio yn argymell caniatáu a hynny’n groes i’w polisïau eu hunain.  Eglurodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod y Cynllun Datblygu wedi esblygu ers gweithredu arno gyntaf a bod y cyd-destun polisi hefyd wedi newid a’r pwyslais bellach ar symud safleoedd diwydiannol draw o ganol y trefi.  Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Hefin Thomas, cadarnhaodd y Swyddog ei fod yn fodlon gyda manylion technegol y cynnig a chyfeiriodd at 18 o amodau ynghlwm wrth yr argymhelliad i ganiatáu.  Pryderu oedd y Cynghorydd Barrie Durkin am lygredd ar yr wyneb a chyfeiriodd at wariant o safbwynt yr amgylchedd.

 

 

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Barrie Durkin yn holi a oedd y tir wedi’i lygru ai peidio, dywedodd y Swyddog nad oedd yn ymwybodol bod y safle wedi’i gofrestru ar unrhyw gofrestr tir llygredig a phrun bynnag roedd bwriad i roddi amodau priodol ynghlwm i ddelio gydag unrhyw lygredd a ganfyddid ar y tir yn ystod y gwaith datblygu.

 

 

 

Gan y Cynghorydd O Glyn Jones cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad ac argymhelliad y Swyddog i ganiatáu a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Ken Hughes.

 

 

 

Ond gan y Cynghorydd John Arwel Roberts cafwyd cynnig i wrthod y cais a hynny’n groes i argymhelliad y Swyddog a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Barrie Durkin.

 

 

 

Roedd y bleidlais fel a ganlyn:-

 

 

 

Caniatáu’r cais - Y Cynghorwyr Ken Hughes ac O Glyn Jones.

 

 

 

Gwrthod y cais - Y Cynghorwyr Barrie Durkin, Eurfryn Davies, R L Owen, J A Roberts,

 

H W Thomas, J Penri Williams, Selwyn Williams.

 

 

 

PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog.

 

 

 

Y rhain oedd y rhesymau dros wrthod:-

 

 

 

(i)  Safle amhriodol i ddatblygiad preswyl;

 

(ii) Amhosib bod yn sicr nad oedd yna lygredd;

 

(iii) Posibilrwydd o lifogydd.

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor, cafodd y cais ei ohirio’n otomatig i’r cyfarfod nesaf er mwyn i Swyddogion baratoi adroddiad ar y rheswm dros wrthod.  

 

 

 

6.3

19C686B CAIS AMLINELLOL i GODI ANNEDD A DARPARU MYNEDFA i GERBYDAU AR DIR GER TY’R ARDD, CAERGYBI

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr Aelod Lleol ac ar ôl penderfyniad a wnaed gan y Pwyllgor ar 1 Hydref cafwyd ymweliad â’r safle a threfnwyd hwnnw ar gyfer 15 Hydref.

 

 

 

Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod y safle i’r annedd arfaethedig y tu mewn i ffiniau datblygu Caergybi ac ar gyrion tir gwastad yn edrych dros dir agored.  Roedd y fynedfa i’r safle yn rhedeg yn gyfochrog gyda’r ffiniau datblygu ond y tu allan i’r ffiniau hynny.  Roedd cytundeb cyfreithiol eisoes wedi’i wneud dan Adran 106 yn gwahardd rhagor o ddatblygu ar y tir lle bydd y trac mynediad arfaethedig.  Nid oedd cytundeb yn rhwystro neb rhag cyflwyno cais cynllunio na rhoddi caniatâd cynllunio a buasai gweithredu ar unrhyw ganiatâd yn dibynnu ar ddiwygio’r cytundeb yn briodol.  

 

 

 

Ni chredai’r Aelod Lleol, y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes, bod y cais y tu mewn i’r ffiniau datblygu ac roedd ganddo bryderon gwirioneddol ynghylch ymgeisio am ragor o hawliau datblygu yn yr ardal.  Roedd ganddo amheuon cryfion ynghylch y fynedfa arfaethedig a dangosodd bod modd darparu mynedfa arall o Ffordd Plas a chredai bod honno yn llawer iawn mwy derbyniol.  Wedyn pwysleisiodd ei fod yn gefnogol i anghenion yr ymgeisydd a’i bartner am annedd ond ni fedrai gefnogi’r fynedfa arfaethedig.

 

 

 

Y fynedfa arfaethedig oedd yn poeni’r Cynghorwyr Hefin Thomas ac O G Jones hefyd ond nododd y Cadeirydd bod raid ystyried y cais fel y cafodd ei gyflwyno i’r Pwyllgor.

 

 

 

Gan y Cynghorydd Kenneth P Hughes cafwyd cynnig i ganiatáu’r cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd J Arwel Roberts.

 

 

 

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad ac argymhelliad y Swyddog i ganiatáu’r cais ond gyda’r amodau yn yr adroddiad.

 

 

 

Ni phleidleisiodd y Cynghorwyr Barrie Durkin, Eurfryn Davies nac O Glyn Jones ar y cais.

 

 

 

6.4

23C103C/ECON TROI ANNEDD YN GANOLFAN ADFEROL A SGILIAU DYSGU (DOSBARTH 2) YM MRYN GOLEU, CAPEL COCH

 

 

 

Cafwyd datganiadau o ddiddordeb gan y Cynghorwyr Clive McGregor a Kenneth P Hughes yn y cais a gofynnodd y Cynghorydd C McGregor am y cyfle i annerch y Pwyllgor fel Aelod Lleol.

 

 

 

Bu’r cais gerbron y Pwyllgor gyntaf ar 30 Gorffennaf pryd y penderfynwyd cael ymweliad â’r safle a a hynny oherwydd diddordeb lleol sylweddol iawn.  Ar ôl cael ymweliad ar 6 Awst ailgyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor ar 1 Hydref a phenderfynodd yr Aelodau ohirio gwneud penderfyniad a hynny oherwydd pryderon ynghylch materion priffyrdd a mynedfa.

 

 

 

Ers rhyddhau’r rhaglen i’r cyfarfod dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu ei fod wedi derbyn gair (rhannwyd copi o’r ohebiaeth yn y cyfarfod) bod rhagor o waith ymchwilio wedi’i wneud ar faterion gwelededd yn y fynedfa i’r brif briffordd ac yn sgil hynny daethpwyd i’r casgliad nad oedd y gofynion gwelededd tua’r gogledd (i gyfeiriad Capel Coch) yn bodloni safonau yn TAN18:  Trafnidiaeth - Cymru.  O’r herwydd newidiwyd yr argymhelliad i wrthod a hynny am resymau priffyrdd.  Mewn ymateb i hyn, roedd yr ymgeisydd wedi gofyn am ohirio’r cais er mwyn cael cyfle i ymateb.

 

      

 

     Yma gofynnodd y Cynghorydd Hefin Thomas am gyngor cyfreithiol gan gredu y buasai’n beth drwg i’r Pwyllgor beidio â chytuno i ohirio petai’r ymgeisydd yn mynd i apêl.  Ganddo cafwyd cynnig i ohirio gwneud penderfyniad.  Cafodd ei eilio gan y Cynghorydd J Arwel Roberts.

 

      

 

     Credai’r Cynghorydd Clive McGregor mai peth amhriodol hollol fuasai gohirio ystyried y cais gan fod Swyddog yn cyflwyno argymhelliad clir o wrthod.  Pwysleisiodd bod y gwrthwynebiad lleol wedi bod yn eithriadol o gryf a sefydlwyd Pwyllgor Gweithredu.  Cafwyd adroddiad gan ymgynghorydd cynllunio a oedd yn codi pryderon na roddwyd sylw iddynt ar y cychwyn, a’r adroddiad yn ymwneud yn benodol â materion mynedfa.  Wedyn cyfeiriodd at ddilysrwydd y cais am nad oedd y manylion a roddwyd am bwy oedd yr ymgeisydd ddim fel petaent yn gywir.  Cafwyd cyngor wedyn gan y Cyfreithiwr i’r Pwyllgor Cynllunio bod y cais wedi’i gyflwyno gan berson cyfreithiol, wedi’i dderbyn a’i brosesu a hefyd talwyd y ffi briodol.  Ni chredai ef bod y cais yn annilys oherwydd bod y person a gyflwynodd y cais yn wahanol i’r person a dalodd y ffi.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd Barrie Durkin yn gwrthwynebu’r bwriad i ohirio ystyried y cais gan fod yr ymgeisydd wedi cael digon o amser i ymateb i faterion priffyrdd ac mewn ymateb dywedodd y Cynghorydd Hefin Thomas nad oedd o angenrheidrwydd yn dymuno gohirio’r cais ond credai mai’r peth doeth oedd gwneud hynny er mwyn tegwch i’r ymgeisydd.  Roedd y Cynghorydd McGregor yn pwyso ar y Pwyllgor i wrthod y cais gan fod yr ymgeisydd yn ymwybodol o’r sefyllfa Briffyrdd ers chwe wythnos a’i fod hefyd wedi cyflwyno cynlluniau diwygiedig.  Roedd y Cynghorydd Durkin yn cydnabod bod y cais hwn wedi cynhyrfu’r bobl ond ailadroddodd ei bryderon ynghylch y fynedfa is-safonol.  Wedyn soniodd am y lôn i lawr at y ty fel trac heb lecynnau pasio ac roedd hynny, yn ei farn ef, yn gwbl annerbyniol.  Wedyn cyfeiriodd at amod ynghlwm wrth ganiatâd cynllunio a roddwyd yn 1996 bod angen darparu mannau pasio ond ni chydymffurfiwyd gyda’r amod hwnnw ac roedd y trac yn dal i fod yn is-safonol.  Credai’r Cynghorydd Durkin y dylid ystyried pryderon y gymuned gan na fydd yr unigolion a ddaw i’r Ganolfan yn gwneud hynny’n wirfoddol ac efallai hefyd y byddant wedi cael eu gorchymyn i fynychu gan y Llysoedd a’u bod ar brofiant neu barôl.  Pryder arall ganddo oedd materion cyrffiw gan fod cleientiau yn mynd i gael goriadau i ystafelloedd unigol ac i’r prif adeilad a hynny wedyn yn golygu na chaent eu goruchwylio rhyw lawer neu ddim o gwbl.  Pryderon y Cynghorydd John Penri Williams oedd bod nifer arfaethedig yr unigolyn fydd yn defnyddio’r safle yn ormod ac yn gwbl annerbyniol.  Credai ef y dylid gwrthod y cais.

 

      

 

     Wedyn cafwyd cyngor y Pennaeth Rheoli Datblygu i’r Aelodau ystyried yn ofalus iawn eu rhesymau dros wrthod y cais a phwysleisiodd bod raid ei ystyried yn ôl ei haeddiant.  Pwysleisiodd mai cais oedd hwn i newid defnydd a bod yr argymhelliad o wrthod yn gwbl seiliedig ar resymau  priffyrdd.

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:-

 

      

 

     Gohirio’r cais - y Cynghorwyr Hefin Thomas a J Arwel Roberts.

 

      

 

     Derbyn argymhelliad y Swyddog i wrthod:  y Cynghorwyr E G Davies, B Durkin, Jim Evans,

 

     O Glyn Jones, T H Jones, R L Owen, J Penri Williams, Selwyn Williams.

 

      

 

     Gwrthodwyd y cais am resymau priffyrdd, sef y fynedfa i’r safle.

 

      

 

6.5     28C360E  CAIS DIWYGIEDIG i GODI 3 O DAI TREFOL A DARPARU 6 GAREJ YN BRYN, FFORDD YR ORSAF, RHOSNEIGR

 

      

 

     Gwrthodwyd y cais hwn gan yr Aelodau ar 1 Hydref mewn cyfarfod o’r Pwyllgor hwn, a hynny’n groes i argymhelliad y Swyddog. Y rhain oedd y rhesymau dros wrthod:

 

      

 

     (i)  Caniatâd cynllunio eisoes wedi’i roddi ar y safle i 3 eiddo;

 

     (ii) Dyluniad amhriodol oherwydd ystyriaethau lleol.

 

      

 

     Cyflwynodd y Pennaeth Rheoli Datblygu y wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau gan nodi bod llythyr wedi dod i’r Adran heddiw o’r Arolygfa Gynllunio ynghylch methu â phenderfynu mewn pryd ar y cais.  Ond atgoffodd yr Aelodau eu bod yn rhydd un ai i ganiatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog neu fel arall gallent wrthod.  Ond roedd yn rhaid bod yn ymwybodol o’r rhesymau dros wrthod a hynny oherwydd y posibilrwydd y bydd apêl yn erbyn penderfyniad.

 

      

 

     Atgoffwyd yr Aelodau gan yr Aelod Lleol, y Cynghorydd Fowlie, iddo ofyn ddau fis yn ôl am wrthod y cais a’r pryd hwnnw argymhelliad y Swyddog oedd ymweld â’r safle.  Credai ef bod yma ymgais i ohirio gwneud penderfyniad a rhoes sicrwydd i’r aelodau nad oedd ofn, o gwbl, y posibilrwydd o fynd i apêl.  Gofynnodd am eu cefnogaeth i wrthod y cais oherwydd y dyluniad amhriodol.

 

      

 

     Yma dygodd y Cynghorydd Durkin sylw at anghysondeb yn y Cyfansoddiad, sef darpariaeth yn caniatáu i ymgeisydd chwarae am amser ac roedd hynny’n gostus ac yn annerbyniol.  Credai ef bod angen diwygio’r Cyfansoddiad i gael gwared o’r anghysondeb.  

 

      

 

     Pryderu oedd y Cynghorydd John Penri Williams bod ymgeiswyr yn cyflwyno ceisiadau diwygiedig ar ôl derbyn caniatâd.

 

      

 

     Atgoffwyd yr Aelodau gan y Pennaeth Rheoli Datblygu bod unrhyw ymgeisydd â hawl statudol i gyflwyno cyfres o geisiadau cynllunio a bod raid penderfynu ar bob cais unigol yn ôl ei haeddiant yn y cyd-destun cynllunio a hefyd yn unol â Chyfraith Gynllunio.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd Selwyn Williams yn pryderu nad oedd y datblygiad arfaethedig gwirioneddol yn cydymffurfio gyda’r rhybuddion hysbysebu i’r tai.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Hefin Thomas cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y Swyddog a chaniatáu’r cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd J Arwel Roberts.

 

      

 

     Cynnig gwrthod a wnaeth y Cynghorydd O Glyn Jones a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Barrie Durkin.

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:-

 

      

 

     Caniatáu’r cais:-  y Cynghorwyr T H Jones, H Thomas, J A Roberts.

 

      

 

     Gwrthod y cais:-  y Cynghorwyr Barrie Durkin, E G Davies, J Evans, K Hughes, O Glyn Jones,

 

     C McGregor, J Penri Williams, S Williams.

 

      

 

     Ymatal - y Cynghorydd R L Owen.

 

      

 

     Y rheswm dros wrthod y cais oedd dyluniad amhriodol i’r lleoliad a dim byd arall.

 

      

 

6.6     34C179G  CYNLLUNIAU MANWL DIWYGIEDIG i GODI ANNEDD Y RHODDWYD CANIATÂD IDDI DAN RIF 34C179F/DA AR DIR GER TYN Y GAMFA, PONC Y FRON, LLANGEFNI

 

      

 

     Gwnaed Datganiad o Ddiddordeb gan y Cynghorydd John P Williams a’r Cynghorydd Barrie Durkin a gadawodd y ddau y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r pleidleisio.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr Aelod Lleol a oedd yn pryderu ynghylch y cynigion ac ymwelodd yr Aelodau â’r safle ar 17 Medi 2008.

 

      

 

     Er gwaethaf derbyn cynlluniau diwygiedig i’r drychiadau roedd y Pennaeth Rheoli Datblygu yn dal i argymell gwrthod.

 

      

 

     Cyfeiriodd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd Fflur Hughes at lythyr dyddiedig 3 Tachwedd 2008 a ddaeth i’r Adran Gynllunio yn awgrymu na ddylai hi fod yn rhan o’r drafodaeth ar y cais ond ar ôl derbyn cyngor cyfreithiol y Cyfreithiwr i’r Pwyllgor Cynllunio roedd o’r farn nad oedd raid iddi ddatgan diddordeb.  Atgoffodd hi yr Aelodau iddi fod yn Gynghorydd dros y naw mlynedd diwethaf a’i bod, bob amser, wedi ymddwyn yn onest ac mewn dull proffesiynol.  Roedd y llythyr hwn yn codi amheuon ynghylch ei gonestrwydd ac yn awgrymu na allai hi wneud penderfyniad diduedd ac ystyrlon.  Ond rhoes sicrwydd i bawb oedd yn bresennol ei bod hi’n rhoddi sylw i bob cais yn ôl ei rinweddau ac yn gwneud hynny’n deg ac yn wrthrychol.  Nid oedd yn derbyn y sylwadau yn y llythyr a mynegodd ei siom wirioneddol a pheth dicter bod y llythyr wedi’i ysgrifennu a’i yrru i’r adran.  Gan droi at y cais ei hun roedd ganddi bryderon ynghylch uchder yr annedd arfaethedig ac effaith yr annedd ar yr ardal.  Credai hi bod y cais gerbron yn debyg i hwnnw a wrthodwyd o’r blaen ond bod yr effaith yn fwy a hynny oherwydd y newidiadau arfaethedig i uchder y to ac i ddyluniad y ffenestri a’r drysau.  Roedd hi’n cytuno gydag adroddiad y swyddog bod y diwygiadau arfaethedig yn mynd i niweidio pleserau y tai o gwmpas.  

 

      

 

     Mynegi pryderon wnaeth y Cynghorydd Hefin Thomas hefyd a hefyd ei siom ynghylch cynnwys y llythyr a anfonwyd i’r Adran Gynllunio gan ychwanegu bod y Cynghorydd Fflur Hughes bob amser yn agored, yn onest ac roedd yn gwbl gefnogol i’w sylwadau ar y cais.  Ganddo cafwyd cynnig i wrthod ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Kenneth P Hughes.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y Swyddog a’r argymhelliad i wrthod y cais am y rhesymau a roddwyd.

 

      

 

6.7     CAIS AMLINELLOL i GODI ANNEDD A DARPARU TANC SEPTIG NEWYDD AR DIR GER GORSLWYD FAWR, RHOS-Y-BOL

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr Aelod Lleol a chafodd ei ystyried gyntaf gan y Pwyllgor ar 3 Medi pryd y penderfynwyd cymeradwyo.  Daeth y cais yn ôl i’r Pwyllgor Cynllunio ar 1 Hydref ar ôl cyfnod o “oeri” a phenderfynodd y Pwyllgor ohirio ei ystyried fel bod modd datrys materion priffyrdd a mynediad.  Y rhain oedd rhesymau’r Aelodau dros ganiatáu’r cais:

 

      

 

     (i)   mae’n cydymffurfio gyda Pholisi 50;

 

     (ii)  mae union ger y ffiniau;

 

     (iii) nid yw’n groes i’r polisiau.

 

      

 

     Mewn ymateb dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod yr argymhelliad ganddo yn dal i fod yn un o wrthod am nad oedd y cynnig yn estyniad derbyniol i’r pentref a buasai’n ymwthio’n annymunol i’r tirwedd gan wneud drwg i gymeriad yr ardal a’i phleserau.  Ers cyfarfod y Pwyllgor hwn ar 1 Hydref dywedodd bod cynlluniau manwl wedi’u cyflwyno i’r lleiniau gwelededd gan yr ymgeisydd ac ar ôl ymgynghori gyda’r Adran Briffyrdd roedd y gwrthwynebiad gan yr Adran honno i’r cynnig wedi’i dynnu’n ôl ond gydag amodau.  Wedyn soniodd y Swyddog bod y tir dan sylw yn destun cytundeb dan Adran 52 a wnaed ar 26 Gorffennaf 1989 a than y cytundeb hwnnw gwaherddir rhagor o ddatblygiadau preswyl ar yr eiddo ac ar bob rhan ohono.  Petai caniatâd yn cael ei roddi eglurodd y Cyfreithiwr i’r Pwyllgor Cynllunio y buasai’n rhaid diwygio’r cytundeb sydd ar y tir dan Adran 52 a bod peth o’r fath yn fater rhwng y Cyngor a’r ymgeisydd.

 

      

 

      

 

     Roedd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd Aled Morris Jones, yn pwyso ar y Pwyllgor i lynu wrth y penderfyniad blaenorol a chaniatáu’r cais gan nodi bod ffiniau’r datblygiad yn cynnwys lôn fechan sy’n rhedeg at safle’r cynnig gerbron.  Credai ef bod y cynnig hwn yn cydymffurfio gyda Pholisi 50 Cynllun Lleol Ynys Môn ac atgoffodd yr Aelodau bod y gwrthwynebiad Priffyrdd bellach wedi’i dynnu ymaith.

 

      

 

     Yr hyn a wnaeth y Cynghorydd Hefin Thomas oedd dwyn sylw at Bolisi HP4 gan ddweud bod raid i’r safle fod yn safle i dy fforddiadwy a bod gan y Cyngor bolisi pendant ar y mater hwn.  Credai ef y buasai rhoddi caniatâd yn gynsail a bod hynny yn achosi pryderon difrifol iddo.

 

      

 

     Aeth Pennaeth Rheoli Datblygu y Cyngor ati i atgoffa’r Pwyllgor beth oedd y mater cynllunio gerbron ac ni chredai ef bod modd ystyried y cais dan Bolisi 50 y Cynllun Lleol ac o’r herwydd roedd yn rhaid ei ystyried fel rhan o HP4 lle mae cyfeiriad pendant a chlir at dai fforddiadwy.  Fel swyddog proffesiynol credai ef nad oedd y cais presennol yn cwrdd â gofynion y naill gategori na’r llall.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Hefin Thomas cafwyd cynnig i wrthod y cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd J Arwel Roberts.

 

      

 

     Cynnig caniatáu a wnaeth y Cynghorydd E G Davies a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Selwyn Williams.

 

      

 

     Roedd y pleidleisio fel a ganlyn:

 

      

 

     Derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais - y Cynghorwyr J Arwel Roberts a H N Thomas.

 

      

 

     Caniatáu’r cais yn groes i argymhelliad y swyddog -  Cynghorwyr B Durkin, E Davies,

 

     J Evans, K Hughes, O Glyn Jones, C McGregor, Selwyn Williams.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn groes i’r argymhelliad ac am y rhesymau a roddwyd o’r blaen.  

 

      

 

6.8     48C42H  CAIS AMLINELLOL i GODI ANNEDD A DIWYGIO’R FYNEDFA i GERBYDAU AR DIR YN TAN Y BRYN, GWALCHMAI

 

      

 

     Gwnaed Datganiad o Ddiddordeb gan y Cynghorydd Barrie Durkin a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r pleidleisio.

 

      

 

     Yr Aelod Lleol ofynnodd am drosglwyddo’r cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno a chafodd ei ystyried gyntaf ar 1 Hydref pan benderfynwyd cael ymweliad.  Cafwyd yr ymweliad hwnnw ar 15 Hydref ac aeth y Pennaeth Rheoli Datblygu ati i atgoffa’r Aelodau bod yr argymhelliad yn dal i fod yn argymhelliad o wrthod a hynny oherwydd rhesymau priffyrdd.

 

      

 

     Diolchodd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd R G Parry, OBE i’r Aelodau am ymweld â’r safle a chyfeiriodd at asesiad traffig a gynhaliwyd ger y safle a hwnnw’n dangos bod y cyflymder ar gyfartaledd yn 36 mya y tu mewn i’r llecyn cyfyngiad gyrru 30 mya.  Soniodd am y ceir hynny sy’n cael eu pario drwy’r adeg ym mhen Caergybi y safle ac o’r herwydd mae ceir yn gorfod pasio heibio’r rhain yng nghanol y lôn wrth ddynesu at y safle ac mae hynny’n golygu bod modd iddynt weld yn glir i gyfeiriad y fynedfa.  Dywedodd bod yr ymgeisydd a’i phartner ar hyn o bryd yn byw gyda rhieni’r ymgeisydd ac o’r herwydd ni chreid rhagor o draffig trwy ganiatáu’r cais.  Pwysleisiodd bod y safle y tu mewn i’r ardal 30 mya a gofynnodd am ganiatáu.

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd O Glyn Jones, dywedodd yr Uwch Beiriannydd (Rheoli Datblygu a Hawliau Tramwy Cyhoeddus) bod raid darparu llain gwelededd 90 metr ar gyfer ardal 30 mya a 120 metr ar gyfer cyflymder dros 37 mya pan fo’r cyflymderau wedi’u mesur. Wedyn cafwyd cynnig ganddo i ganiatáu’r cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Eurfryn Davies.

 

      

 

      

 

     Cododd y Cynghorydd Jones gwestiynau ynghylch ceisiadau a ganiatawyd yn y gorffennol a’r rheini y tu mewn i ardaloedd 30 mya a’r llain gwelededd yn 45 metr.  Roedd y Swyddog yn cydnabod bod y ddau arolwg traffig wedi’u cynnal ger safle’r cais a’r cyflymder ar gyfartaledd yn 2006 yn 41 mya ac yn 36 mya yn 2008.  Er cydnabod y gostyngiad yn y cyflymder ar gyfartaledd roedd yn dal nad oedd y gostyngiad yn ddigon mawr i newid ei argymhelliad ac aeth ati i argymell bod y cais yn cael ei wrthod.

 

      

 

     Roedd y pleidleisio fel a ganlyn:

 

      

 

     Caniatâu’r cais - y Cynghorwyr  E G Davies, Jim Evans, K Hughes, O Glyn Jones, C McGregor, Selwyn Williams.

 

      

 

     Gwrthod y cais - y Cynghorwyr K Hughes, Thomas Jones, R L Owen, Hefin Thomas, J Arwel Roberts.  

 

      

 

     PENDERFYNWYD, gyda phleidlais fwrw’r Cadeirydd, y dylid derbyn adroddiad y Swyddog a’r argymhelliad i wrthod y cais.

 

      

 

7     CEISIADAU ECONOMAIDD

 

      

 

     Ni chyflwynwyd yr un cais economaidd i benderfynu arno yn y cyfarfod hwn.

 

      

 

8     CEISIADAU AM DAI FFORDDIADWY

 

      

 

     Ni chyflwynwyd yr un cais am Dai Fforddiadwy i benderfynu arno yn y cyfarfod hwn.

 

      

 

9     CEISIADAU’N GROES i BOLISI

 

      

 

9.1     34C553A CAIS AMLINELLOL i GODI TAI GAN GYNNWYS CYFLEUSTER GOFAL YCHWANEGOL, ISADEILEDD PRIFFYRDD A RHAI ERAILL CYSYLLTIEDIG YN NHY’N COED, LLANGEFNI

 

      

 

     Gwnaed Datganiad o Ddiddordeb gan y Cynghorydd C McGregor a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r pleidleisio.

 

      

 

     Roedd y cais yn dod i Bwyllgor oherwydd ei hysbysebu fel cais yn gwyro o’r polisiau yn y cynllun datblygu ac roedd argymhelliad i ganiatáu ar gyfer rhan o’r cynnig.

 

      

 

     Roedd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd Rhian Medi yn pryderu ynghylch y cynnig ar ran y gymuned leol a gofynnodd am ymweliad.

 

      

 

     PENDERFYNWYD cael  ymweliad â’r safle yn unol â chais yr Aelod Lleol.  

 

           

 

10     CYNIGION DATBLYGU A GYFLWYNWYD GAN GYNGHORWYR A/NEU SWYDDOGION

 

      

 

10.1     36C282 CAIS AMLINELLOL i GODI ANNEDD AR DIR YN NHYN-Y-GONGL, RHOSTREHWFA

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno gan fod yr ymgeisydd yn fab i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol (yr Amgylchedd a Gwasanaethau Technegol).

 

      

 

     Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod cais i godi annedd ar y safle hwn wedi’i wrthod yn 2006 ac roedd unwaith eto yn argymell bod y cais cyfredol yn cael ei wrthod.  Cyfeiriodd at y posibilrwydd y bydd y polisïau yn cael eu diwygio yn y Cynllun Datblygu Lleol a hynny’n caniatáu i’r math hwn o ddatblygiad fynd yn ei flaen ond gyda’r polisïau presennol roedd yn rhaid gwrthod.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

     Gan yr Aelod Lleol, y Cynghorydd W i Hughes cafwyd dadleuon bod y safle y tu mewn i glwstwr o dai a phwysodd yn daer ar y Pwyllgor i ganiatáu a hynny er mwyn cefnogi dymuniad person lleol ifanc i fyw yn ei ardal enedigol.  Credai’n gryf mai llenwi bwlch oedd yma ac ni fuasai’r annedd yn ymwthgar o gwbl yn y cyffiniau.  Dygodd sylw’n arbennig at y ffaith nad oedd yr un gwrthwynebiad gan yr Awdurdod Priffyrdd a gofynnodd am ganiatáu’r cais.

 

      

 

     Credai’r Cynghorydd O Glyn Jones bod agwedd y cyhoedd yn ffactor o bwys a hynny o gofio y berthynas rhwng yr ymgeisydd a Chyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Amgylcheddol a Thechnegol y Cyngor a chredai nad dyma’r amser i ystyried y cais ac y gellid rhoddi sylw ffafriol iddo yn y dyfodol os bydd y Cynllun Datblygu Lleol yn gefnogol i ddatblygiad o’r fath.  Cafwyd cynnig ganddo i wrthod y cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Barrie Durkin.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd Hefin Thomas yn pryderu oherwydd bod yr ymgeisydd wedi’i enwi fel mab y  Cyfarwyddwr Corfforaethol ac roedd ef o’r farn y dylid enwi y cyfan o’r ymgeiswyr neu ddim o gwbl.  Er bod ganddo ddymuniad i gynorthwyo pobl ifanc credai bod y cais hwn cyn ei amser.

 

     Dywedodd y Cynghorydd J Arwel Roberts bod y cais blaenorol wedi’i wrthod gyda’i bleidlais fwrw ef ac o’r herwydd doedd ganddo ddim dewis ond argymell bod y cais gerbron hefyd yn cael ei wrthod.  Mewn ymateb mynegodd yr Aelod Lleol ei siomedigaeth fawr a diffuant bod yr ymgeisydd wedi’i enwi.  Am yr ail dro dywedodd bod y safle mewn bwlch a phwysodd ar y Pwyllgor i ganiatáu.  

 

      

 

     Dygodd y Cynghorydd John Penri Williams sylw at gais blaenorol a gafodd sylw yn y cyfarfod a’r Swyddogion wedi argymell rhoddi caniatâd yn groes i’r polisi presennol.  Mewn ymateb cafwyd eglurhad gan y Pennaeth Rheoli Datblygu ar y gwahaniaeth rhwng y ddau gais a soniodd eilwaith bod y cais gerbron yn erbyn y polisi cyfredol.

 

      

 

     Ni chafodd y cynnig gan y Cynghorydd Eurfryn Davies i ganiatáu’r cais ei eilio.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y Swyddog a’r argymhelliad i wrthod y cais.

 

      

 

     Ni phleidleisiodd y Cynghorydd John Penri Williams ar y cais.

 

      

 

10.2     CAIS AMLINELLOL i GODI ANNEDD AR DIR CAE’R BWL, RHOSTREHWFA

 

      

 

     Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod y safle hwn yn gae amaethyddol a’r tu cefn i Carneddau sy’n wynebu’r B4422.  Roedd trac sengl yn rhedeg at y safle o’r B4422.  Argymhelliad y Swyddog oedd gwrthod am nad oedd yr annedd hon yn perthyn i unrhyw un o’r categoriau eithriedig a restrir yng Nghynllun Lleol Ynys Môn, dan Bolisi A6 Cynllun Fframwaith Gwynedd, dan Bolisi HP6 CDU Ynys Môn a Stopiwyd nac ym Mholisi Cynllunio Cymru.

 

      

 

     Cafwyd cynnig gan y Cynghorydd H W Thomas i wrthod a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd O Glyn Jones.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y Swyddog a’r argymhelliad i wrthod y cais.

 

      

 

     Ni phleidleisiodd y Cynghorydd Eurfryn Davies ar y cais.

 

      

 

      

 

11     GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

11.1     11C525 - ADDASU NEUADD YN DRI APARTMENT YN Y KINGDOM HALL, AMLWCH

 

      

 

     Trosglwyddwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol ac oherwydd ei bryderon ef ynghylch materion parcio.

 

      

 

     Ar gais yr Aelod Lleol PENDERFYNWYD cael ymweliad â’r safle i ystyried y cyfleusterau parcio.

 

      

 

11.2     12C389 CODI A DARPARU OFFER CAE CHWARAE AR GAE CHWARAE CYDNABYDDEDIG  YN THOMAS CLOSE, BIWMARES

 

      

 

     Gwnaed Datganiad o Ddiddordeb gan y Cynghorydd R L Owen a gadawodd y cyfarfod ac ni chymerodd ran y drafodaeth nac yn y pleidleisio ar y cais.

 

      

 

     Roedd y cais hwn yn dod i’r Pwyllgor benderfynu arno gan ei fod ar dir sy’n eiddo i’r Cyngor.  Yn adroddiad y Swyddog nodwyd bod y llecyn chwarae yn cydymffurfio gyda’r polisïau perthnasol a hefyd yn mynd i ddarparu cyfleusterau o safon i blant bach yn yr ardal.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y Swyddog a’r argymhelliad i ganiatáu’r cais.

 

      

 

11.3     17C424 DYMCHWEL ANNEDD A CHODI ANNEDD NEWYDD A GAREJ AR WAHAN A GWELLA’R DREIF YN CEDRWYDD, LLANSADWRN

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr Aelod Lleol, y Cynghorydd Eurfryn Davies a oedd yn gofyn am ymweliad oherwydd nad oedd y cais, yn ei dyb ef, yn addas o ystyried y tai sydd yn yr ardal.  Soniodd y Pennaeth Rheoli Datblygu am hanes y safle ac argymhellodd y dylid rhoddi caniatâd ond ar ôl cynnal gwaith ymgynghori’n foddhaol.  

 

      

 

     PENDERFYNWYD, yn unol â chais yr Aelod Lleol, ymweld â’r safle.

 

      

 

11.4     32C27C - CAIS LLAWN i GODI 69 O ANHEDDAU A 4 FFLAT YNGHYD Â DARPARU FFORDD FYNEDFA NEWYDD YN OS 5866 TRE IFAN, CAERGEILIOG

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno oherwydd natur a maint y cais a hefyd oherwydd materion a godwyd.  Tybiwyd y buasai’n briodol i’r Pwyllgor wneud penderfyniad.  Ond soniodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod materion heb eu datrys ac y bydd yn rhaid rhoddi sylw iddynt cyn i’r Pwyllgor wneud penderfyniad.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd H W Thomas cafwyd cynnig i ymweld â’r safle yn y cyfamser a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd O Glyn Jones.

 

      

 

     PENDERFYNWYD cael ymweliad â’r safle er mwyn rhoi’r cyfle i aelodau gynefino gyda’r cynigion cyn gwneud penderfyniad ar y cais.

 

      

 

11.5     33LPA861B/CC ALTRO MYNEDFA i GERBYDAU, DARPARU MAES PARCIO AC ALTRO ADEILAD YN NEPO RHEOLI GWASTRAFF GAERWEN, STAD DDIWYDIANNOL GAERWEN

 

      

 

     Trosglwyddwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno gan fod y tir yn eiddo i’r Cyngor a nodwyd yn adroddiad y Swyddog bod y cais yn dderbyniol os ceir ymatebion boddhaol i’r wybodaeth a’r amodau ychwanegol a restrir yn y cyfryw adroddiad.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu’r cais os ceir ymatebion boddhaol i’r wybodaeth ychwanegol y gofynnwyd amdani a chyda’r amodau hynny a restrir yn yr adroddiad.

 

      

 

11.6     33LPA903/CC  DYMCHWEL ADEILAD AMAETHYDDOL A CHODI SIED AMAETHYDDOL NEWYDD i ANIFEILIAID YM MRYN RODYN, LLANGAFFO

 

      

 

     Trosglwyddwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno gan fod y tir y mae’r cais yn ymwneud â fo yn eiddo i’r Cyngor; gofynnir am sied amaethyddol newydd i anifeiliaid gan fod yr hen un mewn cyflwr mor ddrwg.  Nodwyd yn adroddiad y Pennaeth Rheoli Datblygu bod y cynnig yn ddatblygiad penodol yn y lleoliad hwn.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu’r cais gyda’r amodau yn yr adroddiad.

 

      

 

11.7     46C464  CAIS LLAWN i DDYMCHWEL ANNEDD A CHODI ANNEDD NEWYDD YN 1 STAD CAPEL FARM, TREARDDUR

 

      

 

     Trosglwyddwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr Aelod Lleol blaenorol a gyflwynodd resymau dros wrthod, sef bod yr annedd arfaethedig yn edrych drosodd ac yn ddieithr o ran cymeriad.  Ond roedd y Pwyllgor yn ymwybodol nad oedd yr Aelod Lleol newydd yn dymuno galw’r cais i mewn ond oherwydd y protocol a fabwysiadwyd ar gyfer cyfnod newid y Cynghorwyr, roedd y trosglwyddiad gwreiddiol wedi’i anrhydeddu.

 

      

 

     Mae’r safle yn rhan o Stad Capel Farm ac arno mae byngalo unllawr gyda garej to fflat.  Y bwriad yw codi byngalo teip dormer yn lle’r hen fyngalo a dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu y bu’n rhaid iddo wneud rhagor o waith ymgynghori a hynny oherwydd newid i’r dyluniad arfaethedig a’r dyddiad cau i bwrpas derbyn sylwadau oedd 14 Tachwedd, 2008.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu’r cais a rhoddi pwerau i’r Swyddog symud ymlaen i ryddhau rhybudd o ganiatâd os ydyw’r cyfnod o ymgynghori’n cael ei gwblhau’n foddhaol.

 

      

 

12     CEISIADAU A DDIRPRWYWYD

 

      

 

     Cyflwyno adroddiad Pennaeth y Gwasanaeth Cynllunio ar geisiadau a ddirprwywyd ac y gwnaethpwyd penderfyniad arnynt ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor hwn.

 

      

 

13     APELIADAU

 

      

 

     Cyflwyno, er gwybodaeth, gopïau o grynodeb o benderfyniadau’r Arolygwyr a benodwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar y canlynol:-

 

      

 

     Tir ger Teras Parc, Amlwch - gwrthodwyd yr apêl;

 

     Tir ar Stad Baron Hill, Biwmares - gwrthodwyd yr apêl;

 

     Tir ger Cae Merddyn, Tyn-y-gongl - tynnwyd yr apêl yn ôl a chaewyd y ffeil.

 

      

 

14     MATERION ERAILL

 

      

 

14.1     30C26D - DIWYGIO AMOD (03) AR GAIS RHIF 30C26C ER MWYN CYNYDDU NIFER Y PRESWYLWYR O 4 -  7 YNG NGHYSWLLT Y CARTREF GOFAL YN THE LODGE, 17 BAY VIEW ROAD, BENLLECH

 

      

 

     Gwnaed Datganiad o Ddiddordeb gan y Cynghorwyr John P Williams a Selwyn Williams a gadawodd y ddau y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r pleidleisio ar yr eitem.

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor er mwyn dwyn sylw’r Aelodau bod apêl wedi’i hailgyflwyno oherwydd methu â gwneud penderfyniad mewn pryd.  Mae hyn yn dilyn amharodrwydd Swyddfa’r Arolygwyr Cynllunio i ddelio gyda’r apêl flaenorol am nad oedd datganiad Dyluniad a Mynediad wedi’i gyflwyno gyda’r cais cynllunio.  Felly mae’r broses apelio yn parhau.

 

      

 

     PENDERFYNWYD nodi’r uchod i ddibenion gwybodaeth.

 

      

 

15     YMWELIADAU Â SAFLEOEDD CYNLLUNIO

 

      

 

     Cytunwyd i gael yr ymweliadau nesaf â Safleoedd Cynllunio ar ddydd Mercher, 19 Tachwedd, 2008 am 9.30 a.m.

 

        

 

      

 

     RHAN 2 - GORCHMYNION

 

      

 

16     GORCHYMYN TRAFFIG

 

      

 

     GORCHYMYN CYNGOR SIR YNYS MÔN (AMRYFAL LEOLIADAU) (MANNAU PARCIO i UNIGOLION ANABL) 2008 - 101 TAN Y BRYN, Y FALI

 

      

 

     Gwnaeth y Cynghorydd O Glyn Jones Ddatganiad o Ddiddordeb yn yr eitem a gadawodd y cyfarfod am y drafodaeth arni a’r pleidleisio hefyd.

 

      

 

     Cyflwynwyd - papurau cefndir ac adroddiad ar y mater uchod ac a baratowyd gan y Pennaeth Gwasanaeth (Trafnidiaeth a Chludiant).  Dywedwyd wrth yr Aelodau mai un gwrthwynebiad yn unig a gafwyd ar ôl hysbysebu’r cynnig yn ffurfiol a hwnnw’n ymwneud â’r cynnig yn 101 Tan y Bryn, y Fali a’r goblygiadau i breswylwyr Tan y Bryn yng nghyswllt cyfleuster parcio ar gael a’r posibilrwydd o sefydlu safle arall y tu cefn i 101 Tan y Bryn.

 

      

 

     Roedd y gwrthwynebydd yn crybwyll prinder mannau parcio yn Nhan y Bryn gan awgrymu mai posibilrwydd arall oedd defnyddio’r fynedfa yng nghefn yr eiddo.  Fodd bynnag, mae’r Adran Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cadarnhau bod yr unigolyn yn bodloni’r meini prawf yn llawn ac na all, oherwydd natur ei anabledd, ddefnyddio’r llecyn parcio yn y cefn fel lle arfaethedig i’r llecyn parcio.  Hefyd nid oedd bellach angen llecyn parcio i berson methedig a ddarparwyd i breswylydd 109 Tan y Bryn a cheir gwared ohono er mwyn rhyddhau’r llecyn parcio hwnnw ar gyfer defnydd pawb yn gyffredinol ac felly yn gyffredinol ni chollir unrhyw gyfleusterau parcio.

 

      

 

     Diolchodd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd G O Parry MBE i’r Swyddog am ei adroddiad a hefyd i Adain y Gwasanaethau Cymdeithasol am asesu’r cais.  Roedd ef hefyd yn pryderu ynghylch problemau parcio yn Nhan y Bryn, y Fali a hynny oherwydd parcio hunanol sydd mor gyffredin ar y stad.  Soniodd ei fod wedi cysylltu gydag Adran Dai y Cyngor er mwyn ceisio datrys y broblem ac am ei fod yn pryderu’n arbennig ynghylch mynediad i gerbydau argyfwng.  Roedd hi’n bwysig, yn ôl yr Aelod, i’r Cyngor ymchwilio i’r problemau parcio ar holl stadau tai y Cyngor a chwilio am ffyrdd o wella cyfleusterau parcio i breswylwyr. Cadarnhaodd ei fod yn cefnogi ac yn cytuno gydag argymhelliad y Swyddog yn ei adroddiad.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y Swyddog a chadarnhau’r Gorchymyn arfaethedig yn unol gyda’r Gorchymyn a’r cynlluniau a hysbysebwyd.

 

      

 

      

 

     Agorwyd y cyfarfod am 1:00 p.m. a daeth i ben am 3:30 p.m.

 

      

 

      

 

      

 

     Y CYNGHORYDD THOMAS JONES

 

     CADEIRYDD