Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion dogfennau , 5 Rhagfyr 2007

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Dydd Mercher, 5ed Rhagfyr, 2007

PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION

 

Cofnodion cyfarfod gafwyd ar 5 Rhagfyr, 2007

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd J. Arwel Roberts - Cadeirydd

 

Y Cynghorwyr John Byast, John Chorlton, Eurfryn Davies, Arwel Edwards, Denis Hadley, J Arthur Jones, Glyn Jones, Thomas Jones, Bryan Owen, RL Owen, John Roberts, Hefin Thomas, WJ Williams MBE

 

 

 

WRTH LAW:

 

Cynllunio:

Pennaeth Rheoli Datblygu (EGJ),

Rheolwr Rheoli Datblygu (DFJ),

Arweinydd Tim (DPJ) ar gyfer  eitemau 7.1, 7.2

Cynorthwy-ydd Cynllunio (BG).

 

Priffyrdd:

Uwch Beiriannydd (Rheoli Datblygu) (EJ),

Swyddog Rheoli Datblygu (RE).

 

Rheolwr Gwasanaethau Cynllunio (RWJ),

Swyddog Pwyllgor (MEH).

 

 

 

HEFYD YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorwyr P.M. Fowlie eitem 6.3; Mrs. Fflur M. Hughes eitem 6.5;

Eric Jones eitem 6.4; O. Glyn Jones eitem 6.2.

 

1

YMDDIHEURIADAU

 

Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriad am absenoldeb.  

 

2

DATGANIAD O DDIDDORDEB

 

Derbyniwyd datganiadau o ddiddordeb fel y cawsant eu cofnodi dan yr eitemau perthnasol.

 

3

COFNODION

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd, fel rhai cywir, gofnodion y cyfarfod o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gafwyd ar 7 Tachwedd, 2007.  

 

46/C/448B/EIA - Gwelliannau Arfordirol ym Mae Treaddur

 

Nododd y Cadeirydd y byddai adroddiad mewn perthynas â'r uchod yn cael ei gyflwyno i gyfarfod nesaf y Pwyllgor.  

 

4

YMWELIADAU SAFLEOEDD

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd, fel cofnod cywir, adroddiad ar yr Ymweliadau â Safleoedd gafwyd ar 21 Tachwedd, 2007 gydag enw'r Cynghorydd TH Jones yn cael ei ychwanegu at enwau'r aelodau oedd yn bresennol.  

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

5

CEISIADAU A OHIRIWYD

 

 

 

5.1      GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

11C8U/1  CAIS LLAWN I GODI 35 UNED BRESWYL YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GEIR AC I GERDDWYR AR DIR TU CEFN I BARC TRECASTELL, PORTH LLECHOG

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno ar gais y swyddog.  Penderfynwyd ymweld â'r safle ar 7 Tachwedd ac fe gafwyd hyn ar 21 Tachwedd, 2007.  Disgwylid cyflwyno adroddiad llawn i gyfarfod y Pwyllgor ym mis Ionawr.  

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais am y rheswm a roddwyd.

 

 

 

5.2

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

31C346A  CODI ADEILAD AMAETHYDDOL I GADW ANIFEILIAID YNGHYD Â

 

CHREU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU AR DIR YN FFERM SIGLEN,

 

LLANFAIR-PWLL

 

 

 

Gan Mr Richard Eames o'r Adran Briffyrdd cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r pleidleisio.  Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl  dymuniad yr aelod lleol.  Penderfynwyd ymweld â'r safle ar 25 Gorffennaf ac fe gafwyd hyn ar 8 Awst, 2007. Gofynnodd y swyddog am ohiriad tra'n cwblhau trafodaethau.

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais am y rheswm a roddwyd.

 

 

 

6

CEISIADAU'N CODI

 

 

 

6.1

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

28C84B/DA  CAIS MANWL I GODI ANNEDD AR DIR GEN TERAS GLAN Y GORS,

 

BRYN DU

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno ar gais yr aelod lleol.  Penderfynwyd ymweld â'r safle ar 7 Tachwedd ac fe gafwyd hyn ar 21 Tachwedd, 2007.  

 

 

 

Nodwyd y disgwylid cyflwyno adroddiad llawn i gyfarfod y Pwyllgor ym mis Ionawr.  

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais am y rheswm a roddwyd.

 

 

 

6.2      CAIS YN TYNNU'N GROES

 

 

 

28C313B  CAIS AMLINELLOL I GODI 14 O ANHEDDAU YNGHYD A CHREU

 

MYNEDFA NEWYDD I GERDDWYR A CHEIR AR DIR GER TERAS REHOBOTH, LLANFAELOG

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno ar gais yr aelod lleol.  Penderfynwyd gohirio ystyried y cais ar 7 Tachwedd, tra'n cwblhau'r trafodaethau.

 

 

 

PENDERFYNWYD ymweld â'r safle ar gais yr aelod lleol.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

6.3      GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

28C360C  CAIS LLAWN I GODI 9 FFLAT A CHREU MYNEDFA NEWYDD I GEIR AC I GERDDWYR YN BRYN, FFORDD Y STESION, RHOSNEIGR

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno ar gais yr aelod lleol.  Penderfynwyd ymweld â'r safle ar 7 Tachwedd ac fe gafwyd hyn ar 21 Tachwedd, 2007.  

 

 

 

Adeilad gyda ffrynt gwydr modern a gerddi ar y toeau fflat yw'r bwriad meddai'r Cynghorydd P.M. Fowlie.  Roedd maint y datblygiad yn debyg i'r hyn a ganiatawyd eisoes.   Nododd y diwygiwyd y cynllun er mwyn lleihau agoriadau'r ffenestri a chynyddu'r sgrinio ar yr ochrau er mwyn gostwng yr effaith ar eiddo cyffiniol, ynghyd â diwygio'r dyluniad y gwydr er mwyn ceisio datrys materion a godwyd gan y Weinyddiaeth Amddiffyn.   

 

 

 

Ymhellach i hyn fe nododd fod 50 llythyr o wrthwynebiad i law ynglyn â'r bwriad a phwysleisiodd mai'r prif gonsyrn oedd dyluniad digydymdeimlad ac amhriodol yn groes i gymeriad y pentref a bod y gerddi ar y to yn amhriodol. Teimlai'r Cynghorydd Fowlie ei hun fod gerddi ar y toeau yn amhriodol ac yn gynamserol yn yr ardal.  Adroddodd fod gwrthwynebiad cryf i'r cais hwn yn y pentref.    Dywedodd y swyddog achos fod y cais yn un 'ffiniol'.  Gellid cefnogi'r cais blaenorol am 3 thy a 9 fflat ond nid y cais hwn gyda gerddi ar y toeau.

 

 

 

Byddai'n anodd gwrthod y cais hwn meddai'r Cynghorydd J.A. Jones, roedd anheddau ym mhentref Rhosneigr wedi eu hadeiladu o amryw o ddeunyddiau ac mewn dull gwahanol i'w gilydd.  

 

Gan nad oedd cyfanswm y bwriad yn 10 annedd neu fwy, cadarnhaodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio nad oedd angen darpariaeth am dai fforddiadwy fel rhan o'r datblygiad.

 

 

 

Gwelai'r Cynghorydd W.J. Chorlton hi'n anodd gwrthod y cais hwn gan fod y Cyngor yn adeiladu ysgol gyda glaswellt ar y to.  Cynigiodd ganiatáu a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd J.A. Jones.

 

 

 

Yr oedd yn amlwg ar ymweliad â'r safle fod dulliau amrywiol o dai yn yr ardal meddai'r Rheolwr Rheoli Datblygu.  Y cwestiwn oedd pa niwed fyddai'r bwriad yn ei greu?  

 

 

 

Roedd bloc tri llawr gyda gerddi ar y to ac yn gynamserol meddai'r Cynghorydd Fowlie.  Roedd yr adroddiad yn disgrifio hwn fel gwyriad radical. Doedd dim gwrthwynebiad i'r hyn a ganiatawyd eisoes ond mae'r hyn sy'n cael ei hysbysebu'n wahanol.  

 

 

 

Rhoddwyd caniatâd am adeilad o'r un uchder a maint a'r bwriad meddai'r Rheolwr Rheoli Datblygu.  Gofynnwyd, yn y pen draw, pa elfen o niwed fyddai'r bwriad yn ei chreu o'i chymharu â'r hyn a ganiatawyd eisoes.  

 

 

 

Nododd y Cynghorwyr R.L. Owen ac O. Glyn Jones nad oedd y datblygiad yn berthnasol i bentref Rhosneigr a chynigiwyd ac eiliwyd gwrthod y cais.  

 

 

 

Roedd y bleidlais fel a ganlyn :-

 

 

 

Gwrthod y cais, yn groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr E.G. Davies, J. Arwel Edwards, O. Glyn Jones, T.H. Jones, Bryan Owen, R.L. Owen, John Roberts.

 

(cyfanswm 7)

 

 

 

Derbyn adroddiad y swyddog a chaniatau'r cais:  Y Cynghorwyr John Byast,

 

W.J. Chorlton, Denis Hadley, J. Arthur Jones, J. Arwel Roberts, Hefin W. Thomas. (cyfanswm 6)

 

 

 

 

 

Y rhesymau roddwyd dros wrthod oedd edrych drosodd ac na fyddai dyluniad y cais yn gydnaws ag anheddau eraill yn yr ardal.  

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio'n otomatig i'r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros wrthod y cais.  

 

 

 

6.4      GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

33C28E/1  CAIS LLAWN I GODI IS-ORSAF DRYDAN YN CAE WIAN,

 

GAERWEN

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno ar gais yr aelod lleol.  Penderfynwyd ymweld â'r safle ar 7 Tachwedd ac fe gafwyd hyn ar 21 Tachwedd, 2007.  

 

 

 

Roedd yr is-orsaf 65m oddi wrth gartref Rhosydd Bach meddai'r Cynghorydd Eric Jones.  Nododd ei fod wedi cysylltu ag arbenigwr mewn meysydd electromagnetig, sef yr Athro Denis Henshaw, a roedd yn ymchwilio i'r effaith o fyw yn agos at is-orsafoedd.  Nid oedd wedi derbyn ymateb hyd yn hyn.  Nododd ymhellach fod teulu Rhosydd Bach yn gofyn am i'r is-orsaf fod 100m o'u cartref.  

 

 

 

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod y datblygwr wedi mynegi y byddai problem daearu petai'r is-orsaf yn cael ei symud 100m o'r annedd.  

 

 

 

Yn unfrydol PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd, gydag amodau y manylwyd arnynt.  

 

 

 

Dymunodd y Cynghorydd E.G. Davies nodi nad oedd ef wedi pleidleisio ar y cais.  

 

 

 

 

 

6.5      GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

34C561  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD FFORDDIADWY AR DIR GER TYDDYN GWYNT, RHOSTREHWFA

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno ar gais yr aelod lleol.  Penderfynwyd ymweld â'r safle ar 7 Tachwedd ac fe gafwyd hyn ar 21 Tachwedd, 2007.  

 

 

 

Cais gan berson lleol i adeiladu ty fforddiadwy oedd hwn meddai'r Cynghorydd Fflur M. Hughes ar dir wedi ei roddi gan ei theulu i adeiladu cartref arno.  Roedd yr ymgeisydd wedi dioddef gyda'i hiechyd ers Ionawr 1995 a darllenwyd llythyr gan y meddyg teulu.  Nododd y Cynghorydd Hughes nad oedd gwrthwynebiad i'r cais yn lleol, ac mai lleoliad oedd yr unig reswm gan yr Adran Gynllunio dros wrthod.  Nododd ymhellach fod pibell ddwr yn mynd ar draws y safle ac y byddai'n costio llawer i symud hon petai angen symud lleoliad y bwriad.

 

   

 

Nododd y Cynghorydd J.A. Jones fod ceisiadau eraill wedi'u caniatáu yn y cyffiniau, cynigiodd ganiatáu a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd O. Glyn Jones.

 

 

 

Roedd y bleidlais fel a ganlyn :-

 

 

 

Caniatáu'n groes i argymhelliad y swyddog :  Y Cynghorwyr John Byast, W.J. Chorlton, E.G. Davies, J. Arwel Edwards, D. Hadley. J. Arthur Jones, O. Glyn Jones,

 

Bryan Owen, R.L. Owen, Hefin W. Thomas, W.J. Williams MBE.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Y rhesymau a roddwyd dros ganiatáu oedd fod y safle yn briodol a'i fod yn cydymffurfio â Pholisi 52.

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio'n otomatig i'r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu'r cais.

 

 

 

6.6      GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

37C154  CAIS LLAWN I GODI 12 O ANHEDDAU A 2 FYNGALO YNGHYD A

 

CHREU MYNEDFA NEWYDD I GEIR A CHERDDWYR AR DIR YN BRYN TAWEL, BRYNSIENCYN

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan ei fod yn effeithio ar dir ym mherchnogaeth y Cyngor.  Gydag amod datrys materion draenio'n foddhaol penderfynodd y Pwyllgor ganiatáu'r cais yn ei gyfarfod ar 8 Tachwedd, 2006.

 

 

 

Fe adroddwyd mai'r bwriad gwreiddiol oedd defnyddio system draenio traen gerrig, ond yn dilyn canlyniadau profion ar allu'r tir i sugno dwr, diwygiwyd y cynllun i gysylltu i system ddraenio dwr wyneb y briffordd.  

 

 

 

Nodwyd fod swyddogion yn gobeithio bod mewn sefyllfa i gyflwyno adroddiad llawn i gyfarfod mis Ionawr o'r cyfarfod.

 

 

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais am y rheswm a roddwyd.

 

 

 

6.7      GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     45C164B  NEWID DEFNYDD ADEILAD YNGHYD AG ADEILADU ADEILAD NEWYDD I'W DDEFNYDDIO FEL AMGUEDDFA GEIR GYDA MAES PARCIO CYSYLLTIEDIG I GEIR A BYSIAU, YNGHYD AG ADDASU'R FYNEDFA BRESENNOL YN TYDDYN PWRPAS, NIWBWRCH

 

      

 

     Penderfynodd y Pwyllgor hwn yn ei gyfarfod ar 4 Tachwedd, 1998 ganiatáu'r cais gyda cytundeb dan Adran 106 i ddarparu llain gwelededd yn y fynedfa.  Nid yw'r cytundeb hwnnw wedi ei lofnodi a chredid bod modd delio gyda'r mater trwy roddi amod cynllunio ynghlwm wrth y caniatâd yn hytrach na chytundeb Adran 106.

 

         

 

     PENDERFYNWYD dileu penderfyniad a wnaed ar 4 Tachwedd, 1998 i ganiatau'r bwriad gyda Chytundeb dan Adran 106, ac i ganiatáu'r cais gydag amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad y swyddog.

 

 

 

6.8       GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     45C164C  ADDASU AC EHANGU'R AMGUEDDFA GEIR YN TYDDYN PWRPAS,

 

     NIWBWRCH

 

      

 

     Adroddwyd fod y Pwyllgor hwn ar 3 Mai, 2000 wedi caniatau'r cais, ond nad oedd y caniatâd cynllunio yn cael ei ryddhau hyd nes datrys yn foddhaol faterion y cyfeiriwyd atynt yn eitem 6.7 y cofnodion hyn.  

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chadarnhau'r penderfyniad wnaed ar 3 Mai, 2000 i ganiatau'r cais fel y manylwyd arno yn yr adroddiad.  

 

      

 

      

 

7

CEISIADAU ECONOMAIDD

 

      

 

     Ystyriwyd eitemau 7.1 a 7.2 gyda'i gilydd gan y Pwyllgor.

 

      

 

7.1      11C122E/EIA/ECON  ADEILADU A RHEDEG FFATRI NWY HYLIF NATURIOL YN HEN SAFLE GREAT LAKES SITE, AMLWCH

 

      

 

7.2     11C122F/HZ CANIATÂD SYLWEDDAU PERYGLUS ER MWYN STORIO METHAN AR SAFLE CANATXX LNG LTD, AMLWCH

 

      

 

     Rhoddodd yr Arweinydd Tim gyflwyniad cryno i'r adroddiad cynhwysfawr gyflwynwyd i'r cyfarfod.  Nododd adroddiadau eraill ynghlwm wrth y cais sef Asesiad Effaith Amgylcheddol (EIA) a hefyd Ddatganiad Cynllunio (Hyder Consulting 03.10.2006), Asesiad Gwaith Datblygu'r Safle ar Bysgodfeydd (Stephen J Lockwood 20.09.2006); Asesiad Risg Rhagarweiniol yng nghyswllt Glanfa Nwy Hylifiedig ac Arfaethedig yn Amlwch (Advantica 08.2006), Asesiad o Ganlyniadau Llifogydd (Hyder Consulting 07.08,2007), Adroddiad Asesu Traffig â'r Priffyrdd (Capita Symonds 11.2007), Adroddiad Gwrthderfysgaeth  a Diogelwch (Hyder Consulting 09.11.2007).  Aseswyd y cynnig yng nghyd-destyn y polisïau cynllunio lleol a chenedlaethol a'r canllawiau cynllunio a'r holl ystyriaethau cynllunio perthnasol eraill gan gynnwys gwneud gwaith ymgynghori statudol a manwl iawn.

 

      

 

     Bwriedir gosod tai a pibell mewn ffosydd ar waelod o môr er mwyn cysylltu'r platfform gyda'r cyfleusterau ar y tir, ac mae hyn yn cynnwys un bibell yn sbâr.  Bydd nwy naturiol hylfiedig ar 160 gradd yn cael ei drosglwyddo trwy bibellau criogenig; fel rhan o'r broses hon bydd raid darparu dau danc storio criogenig - rhai concrid pwysedd uchel a'u gosod yn y tir a lle yn y ddau i 7,000 medr ciwbig.  Rhaid wrth y rhain i gynnal tymheredd criogenig rhwng trosglwyddo o'r naill dancer ar ôl y llall.  Yn Sir Benfro mae dau danc storio nwy naturiol hylifiedig 165,000 ciwbig sgwar yr un, ond yn yr achos hwn yn Amlwch ni fydd raid storio nwy sylweddol ar y safle fel rhan o'r cais sydd gerbron.

 

      

 

     Hefyd buasai dwr môr yn cael ei drosglwyddo trwy bibellau i gronfa ddwr fawr i'r dwyrain o safle'r cais, ac fel arfer, cedwid y ddwy gronfa'n llawn o ddwr yn ystod y cyfnod o drosglwyddo o danceri, er mwyn darapru cyflenwad disgyrchol wrth gefn petai'r pwmp yn methu a hynny er mwyn cael i lawr, mewn modd diogel, yr offer anweddu.  

 

      

 

     Dywedodd yr Arweinydd Tim bod Cyngor Tref Amlwch, oherwydd bod hwn yn ddatblygiad mor fawr, yn dymuno ymestun y cyfnod ymgynghori.  Nododd fod dau lythyr ychwanegol o wrthwynebiad wedi eu derbyn gan wneud cyfanswm o 5.    

 

      

 

     Cafwyd argymhelliad o ganiatáu gan y swyddogion a hefyd roedd Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn fodlon gyda'r cais.  Roedd yr ymgeisydd wedi cytuno ar 9 pennawd dan y cytundeb dan Adran 106 a chytuno hefyd na fydd y platfform yn un llachar ei liw; roedd y swyddogion yn argymell caniatáu gyda Chytundeb dan Adran 106.  

 

      

 

     Wedyn soniodd y Cynghorydd John Byast fod pobl y cyffiniau yn teimlo arswyd oherwydd yr offer nwy, a hefyd gyda phryderon gan fod yr ysgol gynradd ger y safle.  Yn ogystal nododd bod hwn yn offer arloesol.  Aeth ymlaen wedyn i ofyn tybed a allai Ysbyty Gwynedd, pe digwyddai argyfwng ar y safle, ddelio gyda thros 150 o bobl wedi anafu.  Wedyn aeth y Cynghorydd ymlaen i grybwyll bod yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch wedi datgan nad ydynt yn dymuno gweld staff sydd ddim yn hanfodol yn gweithio ar y safle.  Roedd parth canol, o'r tri parth diogelwch a gynigiwyd gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, yn agos iawn i stad dai leol.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Hefin Thomas cafwyd llongyfarchiadau i'r staff ar wneud cymaint o waith ar y cais hwn a chan fod y cais wedi ei gyflwyno i'r Cyngor Sir yn Hydref, 2006 ac yn Chwefror, 2007 teimlai ef fod Cyngor Tref Amlwch wedi cael digon o amser i drafod y mater.  O'r herwydd cafwyd cynnig i ganiatáu gan y Cynghorydd Thomas.

 

      

 

     Gan nad oedd ymateb wedi dod i law gan nifer o gyrff yr ymgynghorwyd â nhw, eiliodd y Cynghorydd Eurfryn G Davies y dylid gohirio ystyried y mater hyd nes cael atebion.  

 

      

 

     Petai raid, credai'r Cynghorydd WJ Chorlton y buasai'r cyrff yr ymgynghorwyd â nhw wedi ateb.  Câi'r adeiladau eu dylunio i gyfyngu i'r eithaf ar y risg i bobl pe digwyddai ffrwydriad.  Roedd yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn dweud bod y risg yn un fechan iawn.

 

      

 

     Mewn ymateb cadarnhaodd yr Arweinydd Tim mai'r posibilrwydd o ffrwydriad yw'r peryg pennaf.  Roedd nwy naturiol hylifiedig yn fath naturiol o nwy ac nid oedd yma anghenion storio mawr yng nghyswllt y safle.  

 

      

 

     Nododd y Cynghorydd R.L. Owen fod y safle yn safle llwyd ac ni welai reswm dros wrthod.  

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd J.A. Jones ei fod yn cytuno gyda'r Cynghorydd Hefin Thomas fod Cyngor Tref Amlwch wedi cael digon o amer i drafod y cais; nododd fod tanciau 7,000 metr ciwbig yn rhesymol o fychan o'i gymharu â bwriadau LNG yn Sir Benfro sydd gyda thanciau yn storio 165,000 metr ciwbig.  Eiliodd y bwriad i ganiatáu'r cais.  

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd Hefin Thomas am gofnodi'r bleidlais.  

 

      

 

     Cytunwyd i gofnodi'r bleidlais fel a ganlyn:-

 

      

 

     Derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais:  Y Cynghorwyr W.J. Chorlton, Denis Hadley, J. Arthur Jones, O. Glyn Jones, B. Owen, R.L. Owen, John Roberts, J. Arwel Roberts, Hefin W. Thomas, W.J. Williams MBE.

 

     (cyfanswm 10)

 

      

 

     Gohirio'r cais:  Y Cynghorwyr John Byast, E.G. Davies, J. Arwel Edwards.   (Cyfanswm 3)

 

      

 

     Ymatal : Y Cynghorydd T.H. Jones (cyfanswm l 1)

 

      

 

     Yn amodol ar gwblhau'r trafodaethau'n foddhaol PENDERFYNDWYD rhoddi hawliau dirprwyol i Bennaeth y Gwasanaethau Cynllunio ganiatáu'r cais, gyda chytundeb dan Adran 106 fel y manylwyd arno yn yr adroddiad, ynghyd ag amodau eraill y manylwyd arnynt ac yn amodol ar ofynion hysbysu a nodir yn rheoliad 21 Rheoliadau Cyunllunio Gwlad a Thref (Asesu Amgylcheddol) 1999 fel y'u diwygiwyd.

 

 

 

7.3      19C251M/ECON  CAIS AMLINELLOL I GODI SIOP FWYD AR DIR GER TRAVELODGE & KEEGANS, CAERGYBI

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan fod rhan o'r safle ym mherchnogaeth y Cyngor  a hefyd ar gais yr aelod lleol.  

 

      

 

     Petai'r cais hwn yn cael ei ganiatáu, meddai'r Cynghorydd WJ Chorlton, byddai'n arwain at gau siopau lleol a cholli 12 o swyddi.   Gan fod Travelodge wedi ei adeiladu ger y safle, byddai adeiladu bwyty yn gweddu'n well i'r ardal.  Anghytunodd y Cynghorydd Chorlton gyda datganiad yn yr adroddiad y byddai pont y Porth Celtaidd yn annog pobl i ddefnyddio'r siop.  Roedd yn wybyddus fod y safle hwn yn cael ei foddi'n achlysurol gan lifogydd.  Byddai rhyw fath o fwyty ar y safle yn welliant.  Nododd ymhellach fod siopau yng nghanol y dref yn cau, hwyrach byddai datblygiad o'r fath yn gweddu'n well i'r dref ei hun.

 

      

 

     Cytuno wnaeth y Cynghorydd D Hadley nad oedd siop yr opsiwn gorau i'r safle arbennig hwn. Buasai datblygiad mwy cytbwys yn well ond heb ormod o siopau.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd JA Jones nad oedd y lle hwn yng nghanol y dref a doedd dim modd dweud na châi y cynnig effaith ar lewyrch busnesau eraill.  Hefyd roedd yn cytuno gyda'r datganiad a wnaed gan yr aelod lleol a chafwyd ganddo gynnig i wrthod y cais.  

 

      

 

     Gan y Cynghorydd O. Glyn Jones cafwyd cynnig i ymweld â'r safle a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd J.A. Edwards.

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn :-

 

      

 

     I ymweld â'r safle :   E.G. Davies, J.A. Edwards, O. Glyn Jones, Bryan Owen, R.L. Owen

 

      

 

     Gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr John Byast, W.J. Chorlton, J.A. Jones, T.H. Jones, Denis Hadley, John Roberts, J. Arwel Roberts, Hefin W. Thomas, W.J. Williams MBE.

 

      

 

     Y rheswm a roddwyd o blaid gwrthod y cais oedd y niwed a wnâi i lewyrch y busnesau yn yr ardal.  

 

      

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio'n otomatig i'r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ei wrthod.

 

      

 

7.4      36C175L/TR/ECON  CAIS LLAWN I DDIWYGIO'R FFORDD A5 A CHREU MYNEDFA NEWYDD ODDI AR Y GYLCHFAN YN SAFLE GWASANAETHAU LLAN-FAWR NEWYDD, LLANGEFNI

 

 

 

     Gan Mr JRW Owen o'r Adran Briffyrdd cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r pleidleisio.  Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan iddo gael ei gyflwyno gan ddatblygwr preifat, yn ffeirio tir rhwng y Cynulliad, y Cyngor hwn a'r ymgeisydd, a hefyd egluro cyfrifoldebau cynnal a chadw.  

 

      

 

     Ar yr amod fod gweddill yr ymgynghoriad yn foddhaol, PENDERFYNWYD dirprwyo hawliau i Bennaeth y Gwasanaethau Cynllunio ganiatáu'r cais, gydag amodau y manylwyd arnynt yn yr adroddiad, ynghyd â chytundeb dan Adran 106 i glymu'r datblygiad i'r safle gwasanaethau.  

 

      

 

8

CEISIADAU AM DAI FFORDDIADWY

 

      

 

     Doedd dim ceisiadau am dai fforddiadwy i'w hystyried gan y cyfarfod hwn.  

 

      

 

9     CEISIADAU'N TYNNU'N GROES

 

      

 

     Doedd dim ceisiadau'n tynnu'n groes i'w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

      

 

10     GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

10.1      11C387B  CAIS I ADNEWYDDU CAIS RHIF 11C387 I DDYMCHWEL YR ANNEDD A CHODI DWY ANNEDD NEWYDD YNGHYD AG ADDASU'R FYNEDFA I GERDDWYR A CHREU MYNEDFA I GEIR YN CORNERWAYS, PORTH LLECHOG

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno ar gais yr aelod lleol.

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd J.A. Jones a oedd y bwriad yn creu datblygiad tandem; mewn ymateb dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu y byddai'r anheddau ochr yn ochr ac nid tu ôl i'w gilydd.  

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd, gydag amodau y manylwyd arnynt.  

 

 

 

10.2      19C493A  aDDASU AC EHANGU GAN GYNNWYS WYNEB NEWYDD I'R BWYTY, DIHANGFA DÂN AC ARDAL DAN DO TUA'R CEFN, YNGHYD A CHODI TAIR GAREJ Y TU ÔL I FWYTY gateway, sTRYD Stanley, CAERGYBI

 

      

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan fod y fynedfa i'r garejys arfaethedig, trwy faes parcio cyhoeddus, ym mherchnogaeth y Cyngor.    

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd, gydag amodau y manylwyd arnynt.  

 

      

 

      

 

10.3      19C1001  NEWID DEFNYDD YR ANNEDD I DDAU FFLAT HUNANGYNHALIOL YN 28 CLEVELAND AVENUE, CAERGYBI

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno ar gais yr aelod lleol.

 

      

 

     Gyda mwy o dai yn cael eu troi'n fflatiau, gallai caniatáu'r cais hwn greu cynsail meddai'r Cynghorydd W.J. Chorlton.  Dywedodd fod problemau parcio yn y stryd ar hyn o bryd ac argymhellodd y dylai'r cais gael ei wrthod.  

 

      

 

     Cefnogi'r aelod lleol a wnaeth y Cynghorydd D.Hadley, ac anghytuno y dylai tai mawrion gael eu troi yn fflatiau.  

 

      

 

     Anghytuno â'r aelod lleol a wnaeth y Cynghorydd O. Glyn Jones ac roedd o blaid caniatáu'r cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd E.G. Davies.

 

      

 

     Doedd dim rheswm cynllunio dros wrthod meddai'r Rheolwr Rheoli Datblygu, a gofynnodd pa effaith andwyol a gâi'r bwriad ?

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn :-

 

      

 

     Derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais:  Y Cynghorwyr E.G. Davies, J. Arwel Edwards, O. Glyn Jones, T.H. Jones, Bryan Owen, R.L. Owen, J. Arwel Roberts, W.J. Williams MBE.  

 

      

 

     Gwrthod y cais, yn groes i argymhelliad y swyddog;  Y Cynghorwyr John Byast, W.J. Chorlton, D. Hadley. J. Arthur Jones, John Roberts, Hefin W. Thomas.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd gydag amodau y manylwyd arnynt.

 

 

 

 

 

10.4      19LPA875A/CC  GOSOD PANELAU SOLAR AR DO Y GANOLFAN WYBODAETH, PARC GWLEDIG Y MORLAWDD, CAERGYBI

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan iddo gael ei gyflwyno gan y Cyngor ac yn effeithio ar dir yn ei feddiant.  

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd gydag amodau y manylwyd arnynt.

 

 

 

 

 

 

 

10.5      29C222A  DYMCHWEL, ADDASU AC EHANGU ER MWYN CYNNWYS YR HEN FECWS YN RHAN O'R ANNEDD YN 9 SGWAR ATHOL, CEMAES

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno ar gais yr aelod lleol.  Nodwyd fod y swyddogion yn gobeithio bod mewn sefyllfa i gyflwyno adroddiad llawn i gyfarfod mis Ionawr.  

 

      

 

     PENDERFYNWYD gohirio'r cais am y rheswm a roddwyd.  

 

 

 

10.6      31C361  ADDASU AC EHANGU 67 TREM ERYRI, LLANFAIR-PWLL

 

 

 

     Gan Mr Richard Eames o'r Adran Briffyrdd cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r pleidleisio.  Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl  dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd gydag amodau y manylwyd arnynt.

 

      

 

10.7      44LPA888/CC  DYMCHWEL ADEILAD A CHODI ADEILAD AMAETHYDDOL NEWYDD YN CAE WARREN, LLANDYFRYDOG

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan iddo gael ei gyflwyno gan y Cyngor ac yn effeithio ar dir yn ei feddiant.  

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd gydag amodau y manylwyd arnynt.

 

      

 

     I bwrpas y cofnod ni phleidleisiodd y Cynghorydd Hefin W. Thomas ar y cais hwn.

 

 

 

 

 

11

CEISIADAU A DDIRPRWYWYD

 

      

 

     Cyflwynwyd a derbyniwyd, adroddiad Pennaeth y Gwasanaethau Cynllunio ar feterion a ddirprwywyd ac y gwnaethpwyd penderfyniad arnynt ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor hwn.  

 

      

 

      

 

12     APELIADAU

 

      

 

     Cyflwynwyd a nodwyd, er gwybodaeth, grynodeb o benderfyniad yr Arolygwr Cynllunio :-

 

      

 

     68 Ffordd Trearddur, Bae Trearddur

 

      

 

     Dan Adran 78 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, apêl yn erbyn methiant yr Awdurdod hwn i roi rhybudd o benderfyniad, o fewn y cyfnod rhagnodedig, o benderfyniad ar gais cynllunio - gwrthodwyd yr apêl.  

 

      

 

      

 

13     MATERION ERAILL

 

      

 

     DINMOR, PENMON

 

      

 

     Cyflwynwyd - adroddiad y Pennaeth Rheoli Datblygu mewn perthynas â diddymu tystysgrif datblygiad cyfreithlon a gymeradwywyd yn flaenorol dan gyfeirnod 1/35/C/119A - codi dwy annedd ar gae O.S. 93 ger Dinmor, Penmon.

 

      

 

     Ar ôl rhoi caniatâd cynllunio daeth trydydd parti i gysylltiad â'r Gwasanaeth Cynllunio, yr Adran Gyfreithiol ac Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru ac o ganlyniad i hynny cynhaliwyd ymchwiliad ar y cyd i ddilysrwdd y dystiolaeth a gyflwynwyd i gefnogi'r cais am dystysgrif defnydd cyfreithlon.  

 

      

 

     Yn dilyn gwaith ymchwilio, daeth i'r amlwg mai ffug oedd y llythyr oddi wrth Dwr Cymru oherwydd mai'r Awdurdod Lleol ei hun oedd y cyflenwyr dwr ym 1972.  Nid oedd Awdurdod Datblygu Dwr Cenedlaethol Cymru yn bod cyn cyflwyno Deddf Awdurdod Datblygu Dwr Cenedlaethol Cymru (Sefydlu a Chyfansoddiad), 1975.  Nid oedd y logo ar y llythyr yr oedd yr ymgeisydd wedi ei gyflwyno'n dystiolaeth trwy ei hasiant yn cael ei ddefnyddio cyn 1989, na'r enw Dwr Cymru ychwaith.  

 

      

 

     Yn dilyn rhagor o waith ymchwilio, arestiodd Heddlu Gogledd Cymru'r ymgeisydd yn ffurfiol am gael y dystysgrif defnydd cyfreithlon trwy dwyll.  Yn ystod yr holi, cyfaddefodd yr ymgeisydd ei bod hi wedi ffugio, nid yn unig yr ohebiaeth oddi wrth Dwr Cymru, ond hefyd yr ohebiaeth oddi wrth yr adeiladwr lleol a oedd yn cadarnhau bod gwaith wedi ei ddechrau ar y safle fel yr oedd biliau dyddiedig yr 20 a'r 25ain Ebrill, 1972 yn cadarnhau.  Cafodd y mater ei ddwyn gerbron y llysoedd ym mis Medi, 2007 lle plediodd yr ymgeisydd yn euog i'r cyhuddiad o ffugio a'i bod hi wedi defnyddio dwr yn anghyfreithlon o'r brif bibell ddwr heb ganiatâd yr ymgymerwr dwr statudol.  Pan ddaeth yr achos yn ei herbyn i ben cafwyd hi'n euog a'i rhyddhau'n ddiamod oherwydd, ar gais y Barnwr, roedd wedi adfer y tir lle roedd y gwaith wedi ei wneud i'w gyflwr amaethyddol blaenorol.   Mae hyn yn cynnig sail eglur a phendant i'r Awdurdod ddiddymu'r dystysgrif a roddwyd ar 29 Mehefin, 2006 i godi dwy annedd ar gae O.S. 93 ger Dinmor, Penmon.

 

      

 

     PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad.

 

      

 

14     CYFARFODYDD AM 2008

 

      

 

     Cyflwynwyd a derbyniwyd, er gwybodaeth, rhestr o ddyddiadau cyfarfodydd am 2008.  

 

      

 

      

 

     Y CYNGHORYDD J. ARWEL ROBERTS

 

     CADEIRYDD