Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion dogfennau , 6 Ionawr 2010

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Dydd Mercher, 6ed Ionawr, 2010

 

PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION

 

Cofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 6 Ionawr 2010

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd Kenneth Hughes (Cadeirydd)

Y Cynghorydd Barrie Durkin (Is-Gadeirydd)

 

Y Cynghorwyr  W. J. Chorlton, E. G. Davies, Lewis Davies, Jim Evans, O. Glyn Jones, Thomas Jones, R. L. Owen, J. Arwel Roberts, Hefin W. Thomas, John P. Williams, Selwyn Williams.

 

Y Cynghorydd R. G. Parry OBE (Deilydd Portffolio Cynllunio)

 

 

 

WRTH LAW :

 

Rheolwr Rheoli Cynllunio (DFJ)

Uwch Beiriannydd (Rheoli Datblygu a Hawliau Tramwy Cyhoeddus)

Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol (RWJ),

Swyddog Rheoli Datblygu (RE)

Cymhorthydd Cynllunio

Swyddog Pwyllgor (ATH).

 

 

 

HEFYD YN BRESENNOL:

 

Aelodau Lleol - Y Cynghorydd Raymon Jones (eitem 6.2), y Cynghorydd Robert Llewelyn Jones (eitem 6.3), y Cynghorydd Derlwyn Hughes (eitem 6.4), y Cynghorydd Eric Roberts (eitem 6.5), y Cynghorydd W. I. Hughes (eitemau 10.1 a 10.2).

 

 

 

1

YMDDIHEURIADAU

 

Cyflwynwyd ymddiheuriadau am absenoldeb a'u nodi fel uchod.  

 

2

DATGANIAD O DDIDDORDEB

 

Derbyniwyd datganiadau o ddiddordeb fel y cawsant eu cofnodi dan yr eitemau perthnasol.

 

3

COFNODION

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd, fel rhai cywir, gofnodion o gyfarfod blaenorol o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gynhaliwyd ar 14 Rhagfyr 2009.

 

4

YMWELIADAU SAFLE

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd cofnodion yr Ymweliadau Safle a gafwyd ar 16 Rhagfyr 2009.

 

5

CEISIADAU A OHIRIWYD

 

5.1

12C49K - Codi 38 apartment preswyl i bobl 55 oed a throsodd, gwaith gwella draenio, tirlunio cysylltiol a pharcio yn Casita, Biwmares.

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod hwn yn ddatblygiad mawr a bod angen ei weld ar y safle ac yn ei amgylchedd cyn ei ystyried gan aelodau'r Pwyllgor ym mis Chwefror.

 

 

 

Penderfynwyd cynnal ymweliad safle fel yr oedd y Swyddog yn ei argymell.

 

 

 

 

 

 

 

5.2

30C83E - Dymchwel yr adeilad presennol a chodi adeilad newydd gydag ystafell chwarae, swyddfa, derbynfa, ystafell ffitrwydd, ystafell chwaraeon a stor yn Dolydd, Pentraeth.

 

 

 

Cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais hwn gan y Cynghorydd Selwyn Williams ac ni chymerodd ran yn y drafodaeth.  Dywedodd y Cynghorydd Barrie Durkin y byddai'n cymryd rhan yn y drafodaeth ond na fyddai'n pleidleisio ar y cais.

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio wrth yr aelodau bod yr ymgeisydd wedi gofyn am i'r cais gael ei ohirio fel y gallai gyflwyno gwybodaeth ychwanegol.

 

 

 

Penderfynwyd gohirio'r cais am y rhesymau a roddwyd.

 

 

 

 

 

6

CEISIADAU'N CODI

 

 

 

6.1

12C22V - Addasu annedd bresennol yn ddau o fflatiau hunan-gynhaliol ynghyd â gwaith altro ac ymestyn a dymchwel yr adeiladau allanol a chodi annedd newydd yn Tynygongl Cottage, Sgwâr y Castell, Biwmares.

 

 

 

Roedd y cais yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar ofyn yr Aelod Lleol.  Cafodd y cais ei gyflwyno i'r Pwyllgor gynhaliwyd ar 14 Rhagfyr, 2009 pan ofynnodd yr Aelod Lleol am i'r aelodau ymweld â'r safle.  Cynhaliwyd yr ymweliad safle ar 16 Rhagfyr a bydd yr aelodau bellach yn gyfarwydd gyda'r safle a'i osodiad.

 

 

 

Cais yw hwn i addasu annedd sydd yno ar hyn o bryd i greu dau o fflatiau hunan-gynhaliol ynghyd ag altro ac ymestyn a dymchwel adeilad allanol sydd yno a chodi annedd newydd yn Tynygongl Cottage, Sgwâr y Castell, Biwmares.  Mae'r eiddo hwn o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ac wedi ei gynnwys yn y gofrestr statudol o adeiladau rhestredig ar Ynys Môn ac yng Nghymru fel un graddfa II ac y mae hefyd yng nghanol nifer o adeiladau rhestredig gyda Chastell Biwmares a ddynodwyd yn Safle Treftadaeth y Byd gerllaw.

 

 

 

Y prif fater yma yw a fydd y gwaith yn cadw ac yn gwella'r adeilad rhestredig a'r ardal gadwraeth a hefyd yr effaith a gaiff ar eiddo cyfagos yn yr ardal.  O safbwynt yr ystyriaethau cynllunio oedd yn cael ei hadrodd yn yr adroddiad, barn y swyddog oedd y byddai'r datblygiad yn ffitio i mewn gyda'r eiddo a'i fod yn rhoi sylw i'r ardal cadwraeth, i'r adeilad rhestredig ac i'r Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.  Byddai'r gwaith a fwriedir ei wneud ar yr annedd yn gwella'r eiddo a byddai'r estyniad yn ffitio i mewn i'r ardal.  Yr argymhelliad felly oedd un o ganiatáu.

 

 

 

O safbwynt yr ymateb i ymgynghori a chyhoeddusrwydd, roedd y prif asiantaethau statudol wedi argymell caniatâd amodol i'r datblygiad.  Mae Gwasanaeth Cynllunio Archeolegol Gwynedd hefyd wedi rhoi caniatâd amodol er mwyn sicrhau y bydd rhaglen o waith archeolegol yn cael ei gyflwyno a'i gytuno'n ysgrifenedig cyn dechrau unrhyw waith ar y safle.  Cafwyd cadarnhad hefyd gan Asiantaeth yr Amgylchedd bod yr asesiad canlyniadau llifogydd yn dderbyniol cyn belled ac y bo mesurau lliniaru llifogydd yn cael eu hymgorffori yn y cynnig, ac y mae Cyngor Cefn Gwlad Cymru wedi dweud ei fod yn fodlon bod yr Arolwg Ystlumod a wnaed yn dangos nad oedd unrhyw dystiolaeth bod ystlumod yno.  Hyd yn hyn fe gafwyd 7 o lythyrau'n gwrthwynebu'r datblygiad o 3 eiddo cyfagos. Maent yn nodi nad yw'r safle yn addas ar gyfer tair annedd; problemau mynediad i 3 cerbyd arall ar gornel lle ceir tagfeydd eisoes; yr estyniad yn gorddatblygu'r safle ac yn niweidiol i agweddau pensaerniol yr adeilad hanesyddol yn y cefn, yr effaith ar eiddo cyfagos, a hefyd bod dwy ffliw yn llai na 1.2 metr i ffwrdd oddi wrth ffenestr sy'n agor ac sy'n rhoi awyr iach i'r brif lofft yng nghefn yr eiddo.

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio mewn ymateb i'r gwrthwynebiadau uchod bod y safle'n gorwedd o fewn ffin ddatblygu Biwmares lle y bydd caniatâd yn cael ei roddi i aneddau newydd o fewn y ffin cyn belled a bod pob ystyriaeth arall o bwys wedi'i hystyried.  Roedd yr Adran Briffyrdd wedi cadarnhau nad oedd ganddo unrhyw wrthwynebiad i'r fynedfa bresennol

 

 

 

 

 

 

 

sy'n mynd i'r safle cyn belled a bod nifer o amodau'n cael eu gosod ar y penderfyniad.  Fe edrychwyd ar y gwrthwynebiadau wnaed i'r estyniad ar yr eiddo presennol ac mae'r ymgeisydd yn awr wedi diwygio'i gynlluniau fel na fydd y datblygiad yn cael effaith ar yr eiddo cyfagos.  O safbwynt y ffliwiau, mae'r rheoliadau adeiladu wedi cadarnhau y byddant yn edrych i mewn i hyn pan gyflwynir cais rheoliadau adeiladu.  Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio wrth y Pwyllgor fod angen ail eirio amod 4 ynglyn â gwaith archeolegol fydd yn cael ei roi ar unrhyw ganiatâd er mwyn cryfhau ei effaith.  O safbwynt y prif ystyriaethau cynllunio geir yn yr adroddiad, y casgliadau oedd bod y datblygiad arfaethedig yn cydymffurfio gyda pholisi.  Y mae'n ffitio i mewn gyda'r eiddo ac yn cymryd yr Ardal Cadwraeth, yr Adeilad Rhestredig a'r Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol i ystyriaeth.  Byddai'r gwaith arfaethedig ar yr annedd yn gwella'r eiddo a byddai'r estyniad yn ffitio i mewn i'r ardal.

 

 

 

Tynnu sylw wnaeth y Cynghorydd R. L. Owen, yr Aelod Lleol, at y ffaith nad yw'r cais yn ymwneud â Tynygongl ond mai'r cyfeiriad yw 1 Castle Square.  Roedd yn hapus gyda'r gwaith addasu arfaethedig i'r adeilad presennol ond roedd yn hollol yn erbyn yr adeilad newydd fyddai, yn ei farn ef, yn cael effaith ar ran o hen wal y dref o fewn Ardal Cadwraeth a Safle Treftadaeth y Byd.  Mae hwn wedi ei gydnabod fel prif le o ddiddordeb a rhaid ei gadw felly.  Mae'r Hen Lys Sirol gerllaw a hefyd Sgwâr y White Lion.  Roedd y Cynghorydd Owen yn amheus hefyd o'r darpariaethau parcio a llifogydd posibl oherwydd bod llifogydd yn digwydd yno e.e. fel yn 1977/78.  Nid oedd yn credu bod yr ardal yn addas ar gyfer adeilad newydd ac roedd yn teimlo y byddai'r adeilad hwnnw i'w weld uwchben y wal ac y byddai'n cael effaith weledol fyddai'n niweidiol.

 

 

 

Roedd y Cynghorydd Selwyn Williams yn rhannu rhai o bryderon yr Aelod Lleol ynglyn ag effaith debygol y datblygiad ar agweddau archeolegol ac roedd yn credu y dylid diogelu wal y dref.  Ceisiodd gael eglurhad o'r hyn yr oedd y swyddog yn ei olygu wrth ddweud bod angen cryfhau amod 4.  Roedd y Rheolwr Rheoli Cynllunio yn cytuno gyda'r safbwyntiau ynglyn â'r effeithiau ar yr Ardal Cadwraeth.  Fodd bynnag, o edrych ar y datblygiad o Castle Square yr unig newid gweledol fyddai agor ffenestr sydd ar hyn o bryd wedi'i chau gyda brics.  Mae yna ddigon o le mynd i mewn ac allan a digon o le parcio ac mae'r Adran Priffyrdd yn fodlon gyda'r trefniadau presennol o osod amodau.  Nid oes gan Asiantaeth yr Amgylchedd unrhyw wrthwynebiadau ar ôl derbyn asesiad canlyniad llifogydd a defnyddio mesurau lliniaru llifogydd.  Gan fod yr eiddo hwn wedi'i gynnwys yn y gofrestr statudol o adeiladau rhestredig ar Ynys Môn ac yng Nghymru fel un Graddfa II, a'i fod yng nghanol nifer o adeiladau rhestredig, mae cais ar wahân wedi'i gyflwyno am ganiatâd adeilad rhestredig fydd yn cael ei anfon i CADW yn y man.  Mae'r Awdurdod Cynllunio felly yn fodlon y bydd yr agweddau cadwraeth ac archeolegol yn y datblygiad yn cael sylw trwy'r cais adeilad rhestredig.  O safbwynt newid amod 4, y bwriad yw ail eirio'r amod fel bod yr Awdurdod Cynllunio yn derbyn adroddiad am gynllun o waith archeolegol fydd yn cael ei wneud cyn dechrau datblygu'r safle.

 

 

 

Roedd y Cynghorydd Hefin Thomas yn cytuno i'r raddau gyda'r Cynghorydd R. L. Owen ar y mater hwn.  Cyfeiriodd at lythyr o wrthwynebiad dderbyniwyd gan Mr. Howard Gray Roberts ynglyn â gosod dwy ffliw vertex 110mm ac yr oedd Mr. Gray Roberts yn credu y gallent fod yn beryglus ac y byddent yn cael effaith ar yr eiddo cyfagos.  Roedd y Cynghorydd Thomas eisiau gwybod os oedd y swyddogion yn fodlon gyda'r cais o safbwynt y ffliwiau gan bod y llythyr gwrthwynebu yn son am gyngor peiriannydd nwy annibynnol oedd yn argymell gosod fentiau at i fyny yn hytrach na rhai ar draws.

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y ffliwiau'n dderbyniol o safbwynt cynllunio.  Fe gafwyd trafodaeth gyda Swyddogion Rheoliadau Adeiladu a hwy fydd yn delio gyda'r mater hwn fel rhan o'r cais rheoliadau adeiladu.  

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Roedd y Cynghorydd Lewis Davies yn tybio y byddai'n ddoeth gohirio gwneud penderfyniad ar hwn nes y byddai CADW wedi rhoi ei sylwadau a'i benderfyniad ar y cais adeilad rhestredig.  Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod yn rhaid gwneud penderfyniad yma ar ddau gais a'u bod yn hollol wahanol ac ar wahân.  Doedd yna ddim rheswm felly pam na ellid delio gyda'r cais heddiw ac nid oedd yna unrhyw sail dros ei ohirio.  

 

 

 

Cytuno wnaeth y Cynghorydd J. P. Williams gyda'r Swyddog nad yw'r datblygiad yn cael effaith fawr o'r tu allan.  Gofynnodd beth fyddai'n digwydd ynglyn â'r drysau mawr oedd yn mynd i mewn i'r safle.  Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio y byddai'r drysau yn awr yn agor.

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd Barrie Durkin y byddai unrhyw fater yn ymwneud â nwy yn gwneud iddo edrych yn agos iawn ar unrhyw gais.  Yn yr achos hwn, mae dwy ffliw lai na 1.2m oddi wrth ffenestr sy'n agor ac yn rhoi awyr iach i'r brif lofft yng nghefn yr eiddo.  Am y rheswm hwn byddai'n falch o weld y cais yn cael ei ohirio er mwyn cael mwy o amser i chwilio i mewn i'r agwedd hon o'r cais ac er mwyn sicrhau na fyddai'n achosi unrhyw berygl os caiff ei ganiatáu. Cynigiodd yn ffurfiol felly bod y cais yn cael ei ohirio hyd nes ceid mwy o wybodaeth ar ddiogelwch y ffliwiau. Atgoffa'r aelodau wnaeth y Cynghorydd J. A. Roberts mai Pwyllgor cynllunio oedd hwn ac mai ei fwriad oedd gwneud penderfyniadau ar faterion yn ymwneud â thir.  Bydd pethau fel ffliwiau'n cael eu delio trwy'r Rheoliadau Adeiladu.  Aeth ymlaen i ofyn beth oedd y mesurau lliniaru llifogydd.  Dywedodd Rheolwr Rheoli Cynllunio eu bod yn ymwneud â lefelau llawr gorffenedig yr estyniad.  Ategodd beth yr oedd y Cynghorydd J. A. Roberts wedi ei ddweud ynglyn â'r Pwyllgor hwn yn gorfod delio gyda cheisiadau o fewn rheolau cynllunio.  Pe byddai'r Pwyllgor yn penderfynu gohirio gwneud penderfyniad ar y cais, yna fe fydd gan yr ymgeisydd hawl i apelio oherwydd diffyg gwneud penderfyniad.  Mewn sefyllfa felly, byddai diffyg gwneud penderfyniad yn cael ei drin fel pebai'n achos o wrthod y cais, ac mewn amgylchiadau felly, byddai rhaid darparu tystiolaeth yn rhoi rhesymau pam na chafodd y cais ei benderfynu.

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd W. J. Chorlton - er yr holl bethau sydd wedi eu dweud, mae'n anodd iawn anwybyddu pethau allai fod yn beryglus.  O safbwynt llifogydd, gofynnodd os oedd yn fwriad codi'r estyniad uwchben y wal gyfagos.  Dywedodd y Swyddog y bydd lefelau llawr yr estyniad yn cael ei godi ond bydd uchder yr adeilad yn dal yn is na lefel y wal.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd R. L. Owen yr Aelod Lleol bod Biwmares yn aelod o Gymdeithas y Trefi Caerog a gofynnodd i'r aelodau a fyddai yr Awdurdod Cynllunio mewn trefi fel Caernarfon a Caer sy'n aelodau o'r Gymdeithas yn ystyried datblygiad fel hwn o fewn Safle Treftadaeth y Byd?

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd Barrie Durkin yn ffurfiol bod y cais yn cael ei ohirio am y rhesymau  oedd wedi ei rhoi cyn hynny ac eiliwyd gan y Cynghorydd Hefin Thomas.  Dywedodd y Cynghorydd J. A. Roberts nad oedd yn gwrthwynebu'r gwaith addasu na'r gwaith altro, ond nid oedd yn hapus gyda chodi'r annedd newydd yn lle'r adeilad allanol o fewn yr Ardal Cadwraeth.  Roedd y Cynghorydd R. L. Owen yn cytuno gyda'r hyn ddywedodd y Cynghorydd J. A. Roberts a chynigiodd bod y cais yn cael ei wrthod ac eiliwyd ef gan y Cynghorydd J. A. Roberts.  Gofynnwyd i'r Cynghorydd Owen am reswm dros cynnig gwrthod y cais a dywedodd ei fod yn gwrthwynebu'r annedd newydd ar y sail na fyddai'n gweddu gydag Ardal o Harddwch Naturiol ac o bwysigrwydd hanesyddol.

 

      

 

     Mewn ymateb i'r uchod, rhoddodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol rybudd i'r Pwyllgor i ystyried yn ofalus ei resymau dros wrthod y cais hwn a dywedodd os oedd yr aelodau yn bwriadu gwrthwynebu oherwydd rhesymau archeolegol hanesyddol neu gadwraethol yr oeddent mewn risg o grwydro i mewn i ardal cyfrifoldebau CADW fyddai ei hun yn asesu ac yn penderfynu ar y cais o safbwynt effaith ar gadwraeth ac archeoleg.  Gofynnodd y Cynghorydd J. P. Williams a allai'r Pwyllgor ddod i benderfyniad rhanedig, sef rhoi caniatâd i'r gwaith addasu ac altro i'r annedd wreiddiol a gwrthod rhoi caniatâd i ddymchwel yr adeilad allanol a chodi annedd newydd.  Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol bod angen

 

      

 

      

 

      

 

     rhoi rhesymau cynllunio cryf dros wrthod, ac roedd hynny'n wir pe byddai ond am ran o'r cais yn unig.  Ni ddylai'r Pwyllgor wrthod rhoi caniatâd ar unrhyw sail allai darfu ar y sail y bydd CADW yn ystyried y cais o safbwynt adeilad rhestredig. Pe byddai CADW'n caniatáu'r cais adeilad rhestredig a'r awdurdod yn gwrthod rhoi caniatâd cynllunio am resymau cadwraeth neu effaith archeolegol, yna byddai'n cael ei hun mewn sefyllfa anodd iawn mewn apêl yn gorfod dadlau iddo wrthod am y rhesymau hynny.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd Hefin Thomas yn credu y byddai'n ddoeth i ohirio gwneud penderfyniad.  Dywedodd y Cynghorydd W. J. Chorlton ei fod yn barod i wrthod y cais ar y sail nad yw'n ffitio i mewn i'r ardal.  Mewn ymateb i'r awgrym i ohirio, fe geisiodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio gael eglurhad ynglyn â pha wybodaeth bellach yr oedd y Pwyllgor yn ei geisio.  Cafwyd cyngor pellach gan y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol na ddylai'r Pwyllgor ohirio'r cais i ddisgwyl am ganlyniad y cais adeilad rhestredig i'w benderfynu gan CADW.  Os oedd yn bwriadu gohirio yna fe ddylai wneud hynny am y rhesymau cynllunio.  Rhoddodd y Cadeirydd rybudd i'r Pwyllgor y dylai wrando ar y cyngor a roddwyd.  Tra roedd y Cynghorydd W. J. Chorlton yn parhau i feddwl bod gan y Pwyllgor hawl i roddi ei resymau ei hun tros gredu bod y cais yn annerbyniol, atgoffodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol y Pwyllgor unwaith yn rhagor bod yn rhaid i'r rhesymau hynny fod yn seiliedig ar resymau cynllunio.

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd J. P. Williams bod y cais yn cael ei dderbyn oherwydd ei fod yn welliant mawr i'r hyn geir ar y safle ar hyn o bryd, sef adeilad allanol bler ac y byddai'r cynllun yn cyfrannu tuag at brydferthwch yr ardal yn seiliedig ar yr hyn yr oedd wedi ei ymweld yn ystod yr ymweliad safle.  Eiliwyd y cynnig i ganiatáu gan y Cynghorydd Selwyn Williams.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd Barrie Durkin am ei gwneud yn glir mai ei reswm ef dros gynnig gohirio'r cais oedd oherwydd pryderon am ddiogelwch y nwy ac nid oherwydd unrhyw resymau archeolegol neu gadwraeth. Roedd yn dymuno i'r cais gael ei ohirio nes y ceir gwybodaeth arbenigol yn dweud nad oedd y ffliwiau yn beryglus i neb.  Yn dilyn trafodaeth bellach, cytunwyd y byddai unrhyw gynnig i ohirio yn cael ei wneud oherwydd bod y Pwyllgor eisiau sicrwydd bod y ffliwiau yn cydymffurfio gyda gofynion diogelwch ac na fyddant yn cael effaith ar fwynderau'r cymdogion.  Yng ngoleuni'r cynnig i ohirio, dywedodd y Cynghorydd R. L. Owen y byddai'n tynnu yn ôl ei gynnig i wrthod y cais.

 

      

 

     Roedd y pleidleisio fel a ganlyn -

 

      

 

     Derbyn yr adroddiad a'r cais yn unol ag argymhelliad y swyddog -

 

      

 

     Y Cynghorwyr J. P. Williams,  Selwyn Williams, Jim Evans, Kenneth Hughes.

 

      

 

     Gohirio gwneud penderfyniad ar y cais -

 

      

 

     Y Cynghorwyr Barrie Durkin, Lewis Davies, E. G. Davies, R. L. Owen, Tom Jones, Hefin Thomas.

 

      

 

     Penderfynwyd gohirio gwneud unrhyw benderfyniad ar y cais hyd nes y ceir cadarnhad bod y mathau o ffliwiau a'u lleoliad fel rhan o'r datblygiad yn cydymffurfio'n llawn gyda gofynion diogelwch ac na fyddant yn achosi perygl i gymdogion.

 

      

 

     (Ni wnaeth y Cynghorydd O. Glyn Jones bleidleisio ar y cais).

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

6.2

19C822B - Cynlluniau llawn i godi 8 annedd a chreu mynedfa newydd i gerbydau yn yr hen Orsaf Repeater BT, London Road, Caergybi.

 

      

 

     Roedd rhybudd wedi ei roi i'r Cyngor gan bod y cais yn ymwneud â thir y Cyngor i greu'r fynedfa i gerbydau.

 

      

 

     Mae'r safle ar groeslon Lôn Deg a London Road ac y mae'n ffryntio'r ddwy stryd. Ceir eiddo preswyl o amgylch yn cynnwys fflatiau tri llawr yr awdurdod lleol.  Mae coed a ddiogelwyd ar ran o'r safle.  Mae hen Orsaf BT a oedd ar y safle wedi'i dymchwel.  Mae'r cais yn un i adeiladu 8 uned breswyl a llefydd parcio a mwynderau.  Mae'r unedau wedi'u trefnu fel bloc 3 llawr o 6 o apartmentau yn ffryntio Lôn Deg a bloc deulawr yn ffryntio London Road.  Y prif faterion i'w ystyried yw pryderon dylunio a mwynderau.  Mae'r cynllun yn ddyluniad sy'n gweddu ar safle ailddatblygu tir llwyd.  Mae'n parchu'r datblygiad sydd yno yn barod ac yn gwella mwynderau'r cyhoedd trwy gadw coed a ddiogelwyd.  Yr argymhelliad oedd caniatáu.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Raymond Jones, yr Aelod Lleol, nad oedd ganddo unrhyw wrthwynebiad i'r datblygiad fel y cyfryw ond roedd ganddo rai pryderon ynglyn â rheoli traffig, diogelwch y briffordd a pharcio yn yr ardal wedi'i un o'r preswylwyr oedd yn gwrthwynebu dynnu ei sylw at hynny ac er iddo dynu'r gwrthwynebiad yn ôl ers hynny roedd y Cynghroydd am ofyn i'r swyddogion ystyried gwneud darpariaethau o safbwynt traffig yn rhai mwy cadarn.  Dywedodd y Cynghorydd Jones bod y safle yn le peryglus iawn o ran traffig, yn arbennig gan bod cornel y datblygiad arfaethedig yn arwain i'r A5. Roedd rhai sy'n byw ym mhen uchaf London Road yn parcio yn yr ardal a hefyd rai sy'n byw ar Lôn Deg ac felly roedd yn golygu bod yma broblem ynglyn â digon o le parcio a diogelwch y ffordd i'r rhai a fyddai'n byw yn y fflatiau newydd.  Roedd felly'n ceisio cael sicrwydd y bydd rhywun yn edrych ar y broblem ac yn gweithredu ar y sefyllfa o safbwynt traffig / dioglewch y briffordd.  Dywedodd y Prif Beiriannydd (Rheoli Datblygu a Hawliau Tramwy Cyhoeddus) nad oedd gan yr Awdurdod Priffyrdd unrhyw wrthwynebiad i'r datblygiad a'i fod yn fodlon bod yr ymgeisydd wedi paratoi digon o lefydd ar gyfer parcio.  Aeth ymlaen i ddweud ynglyn â'r parcio ar London Road bod llawer o waith wedi ei wneud i rwystro i draffig ddefnyddio London Road, yn arbennig loriau mawr trwm.  Mae'r sefyllfa gyda thraffig ar London Road yn llawer gwell nag oedd o'r blaen gan fod traffig yn awr yn defnyddio'r A55.  

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd W. J. Chorlton hefyd yn bryderus am y datblygiad ac roedd yn cofio i gais gael i wneud ychydig flynyddoedd yn ôl am 4 uned preswyl, ac i gais gael ei gyflwyno wedyn am 6 ac rwan mae hwn am 8 uned fydd yn cynyddu dwysedd yr ardal.  Mae'r safle ar gongl London Road, ger lle croesi sebra, yn agos i'r groeslon gyda Gwesty'r Prince of Wales ac yn agos hefyd i ddau floc o fflatiau'r awdurdod lleol, felly mae yna achos i bryderu ynglyn â'r datblygiad yn cael effaith niweidiol ar barcio ar y stryd ac o ran dwysedd yr ardal.  Fodd bynnag, roedd yn cydnabod y byddai'n anodd gwrthwynebu'r cais gan fod fflatiau yno'n barod, ond byddai'n ddiddorol gwybod y gwahaniaeth rhwng delio gyda 8 uned yn hytrach na 6.  Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio nad oedd ganddo wybodaeth ynglyn â'r dwysedd, ac mae'n debyg bod datblygu 8 yn hytrach na 6 o unedau yn ymwneud â chyflwr y farchnad ac nid oed hynny'n fater cynllunio.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd Selwyn Williams yn cytuno gyda'r Cynghorydd W. J. Chorlton ac yn dweud bod llawer o draffig yn yr ardal a gofynnodd a oedd arolwg traffig wedi ei wneud.  Dywedodd y Prif Beiriannydd (Rheoli Datblygu a Hawliau Tramwy Cyhoeddus) nad oedd yr ymgeisydd wedi comisiynu arolwg traffig.

 

      

 

     Oherwydd y pryderon oedd wedi'u lleisio, cynigiodd y Cynghorydd J. A. Roberts bod y Pwyllgor yn ymweld â'r safle fel y galli'r aelodau weld y sefyllfa gyda'r traffig a'r parcio.  Eiliwyd ef gan y Cynghorydd J. P. Williams.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

     Penderfynwyd ymweld â'r safle am y rhesymau a roddwyd.

 

      

 

6.3

19C1044 - Cais llawn i ddymchwel yr adeilad presennol a chodi 2 annedd yn Moryn, Ffordd Seabourne, Caergybi

 

      

 

     Roedd y cais yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar ofyn yr Aelod Lleol ac oherwydd pryderon ynglyn â dyluniad yr anheddau, mynediad a pharcio ac oherwydd bod perchennog yr eiddo yn gweithio yn Adran Priffyrdd y Cyngor Sir ac yn gweithio'n agos gyda'r Adran Gynllunio.  Roedd y cais wedi'i sgriwtineiddio gan y Swyddog Monitro fel sy'n ofynnol o dan Baragraff 4.6.10.4 y Cyfansoddiad.  Yn ei gyfarfod ar 14 Rhagfyr 2009 fe benderfynodd yr aelodau ohirio gwneud penderfyniad ar y cais er mwyn cynnal ymweliad safle.  Ymwelwyd â'r safle ar 16 Rhagfyr 2009.

 

      

 

     Mae'r tir o fewn ffin ddatblygu Caergybi.  Mae'r safle yn gyfagos ond nid yw'n gorwedd o fewn Ardal Cadwraeth dynodedig Caergybi. Byngalo dormer ar ei ben ei hun yn ffryntio Traeth y Newry yw'r eiddo, ac mae'r eiddo o gwmpas yn gymysgedd o dai unllawr, dormer a thai teras tri llawr gydag estyniadau to fflat ac nid oes unrhyw gymeriad unigryw i'r tai yn yr ardal.  Roedd datblygiad o ddyluniad tebyg wedi ei adeiladu'n ddiweddar ger groeslon Ffordd y Prince of Wales gyda Ffordd Fictoria sydd i'r dwyrain i safle'r cais.  Roedd y safle hwnnw hefyd ger Ardal Cadwraeth Caergygi.  I'r gorllewin ac yn nes ymlaen ar hyd Ffordd Traeth y Newry fe geir bloc o apartmentau modern.  Mae'r safle hwn hefyd o fewn Ardal Cadwraeth Caergybi.  Roedd y cynnig hwn yn un i ddymchwel yr adeilad presennol a chodi dwy annedd deulawr gyda lle parcio'n caei ei rannu. Y prif fater yma yw - a fydd y cynnig yn cael effaith ar fwynderau deiliaid yr eiddo cyfagos, ei effaith ar yr Ardal Cadwraeth a materion diogelwch y briffordd.  

 

      

 

     Ar adeg ysgrifennu'r adroddiad, roedd 13 o lythyrau wedi eu derbyn yn mynegi pryderon ynglyn â diogelwch y briffordd, mynediad, colli preifatrwydd mewn eiddo cymydog, edrych drosodd, colli goleuni i ddeiliaid 4 Walthew Avenue, gorddatblygu'r safle a'r datblygiad ddim yn gweddu.  Mae ymateb y swyddog i'r gwrthwynebiadau i'w gweld yn yr adroddiad.  O ystyried y prif ystyriaethau cynllunio roedd y swyddog yn dweud bod y safle o fewn y ffin datblygu Cynllun Lleol Ynys Môn a'r Cynllun Datblygu Unedol a Stopiwyd ac y gallai'r safle gymryd y datblygiad a hynny heb orddatblygu'r safle er niwed i'r ardal o gwmpas.  Roedd yr argymhelliad felly yn un o ganiatáu.

 

      

 

     Dywedodd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd R. Llewelyn Jones ei fod yn siarad ar ran trigolion yr ardal oedd wedi gwrthwynebu.  Roedd Cyngor y Dref hefyd wedi gwrthwynebu'r datblygiad oherwydd pryderon nad oedd yn gweddu gyda'r ardal o gwmpas ac oherwydd materion traffig. Dywedodd y Cynghorydd Jones bod trigolion yr ardal yn pryderu bod yr adeilad yn llawer rhy fawr, nad yw'n gweddu ac y bydd yn dod â newid digroeso i edrychiad yr adeiladau yn yr ardal hon o Gaergybi.  Nid yw'r dyluniad yn gweddu gyda'r eiddo o'i gwmpas gan ei fod yn fodern ac yn anhebyg i ddim byd arall sydd gerllaw, a bydd ychwanegu dwy annedd yn ychwanegu at y traffig yn arbennig o gofio mai dim ond lôn gul sy'n arwain i'r ardal a bod llawer o ddefnydd arni.  At hynny, byddai'r datblygiad yn cynyddu'r troedbrint presennol o 11 metr sgwâr i 139 metr sgwâr.  Roedd y safle hefyd gerllaw Ardal Cadwraeth Newry.  Dywedodd nad oedd yr eiddo o fewn yr Ardal Gadwraeth ond ei fod o fewn ychydig droedfeddi i'r wal derfyn i'r gogledd.  Dywedodd mai hyn sy'n cael ei ddweud yw na fydd yr adeilad newydd yn ffitio i mewn i'r safle bresennol ac aeth ymlaen i dynu sylw'r Pwyllgor at y ddogfen Cyfarwyddyd Cynllunio Cadwraeth oedd yn dweud "it is not only large, unsympathetic developments that bring about unwelcome change; small alterations to buildings can alter the character and appearance of the area.  Therefore, every effort should be made to ensure that any new development is sympathetic to the historic character of the area."  Aeth ymlaen i ddarllen -

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

     "designating conservation areas does not prevent future change to buildings and their surroundings, but it does mean that local planning authorities, when considering planning applications which are outside the conservation area but would affect its setting must place special regard to whether the proposed changes preserve or enhance the character and appearance of the conservation area".  Roedd am gwestiynu sut y gallai adeilad modern mawr gael ei ystyried fel rhywbeth oedd yn dderbyniol mewn Ardal Gadwraeth y drws nesaf i rhywbeth fel ty cyfnod 'Arts and Crafts'.  Nid yw'r eiddo hyn yn debyg o gwbl i'r adeilad newydd ac fe nodir yn yr adroddiad bod yr Adain Tirwedd Amgylcheddol yn dweud mai tai o'r 1920au a 1930au ydynt gan mwyaf a'u bod yn darparu pwynt o ddiddordeb yn yr Ardal Gadwraeth.  Pwysleisiodd bod y Cyfarwyddyd Cynllunio yn dweud bod yn rhaid rhoddi ystyriaeth i faint unrhyw ddatblygiad newydd fel ei fod yn gweddu gyda'r pethau sydd o'i gwmpas.  Mae'r eiddo cyfagos yn rhai unigryw o ran ei dyluniad pensaerniol ac nid yw'r adeilad newydd yn gweddu gyda hwy.  Roedd Cyngor y Dref wedi gwrthwynebu ar sail diogelwch y briffordd ac roedd yn wir i ddweud bod y ffordd gul sy'n arwain at y datblygiad yn cael ei defnyddio gan blant a phobl mewn oed i fynd i'r grin.  Fe allai'r cynnig hwn olygu y byddai mynediad wedi'i gyfyngu.  Wrth derfynu, dywedodd bod y trigolion lleol yn bryderus oherwydd y cynnig a'u bod yn dymuno sicrhau na fydd unrhyw ddatblygiad ar y safle yn tynnu oddi wrth Ardal Cadwraeth Traeth y Newry Caergybi a'i osodiad.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd J. A. Roberts yn cydymdeimlo gyda'r Aelod Lleol ac roedd yn gyfarwydd â'r ardal ac roedd yn gwybod bod yna anheddau tebyg i'r un oedd yn y cynnig hwn ychydig i lawr y ffordd o'r safle, ac roedd wedi derbyn caniatâd cynllunio.  Roedd o'r farn felly, pebai'r Pwyllgor yn gwrthod y cynnig, yna fe allai'r awdurdod golli'r achos mewn apêl.  Roedd y Cynghorydd Selwyn Williams yn gweld pethau'n wahanol wrth iddo gefnogi safiad yr Aelod Lleol. Dywedodd bod Traeth y Newry yn le o bwysigrwydd hanesyddol a phensaerniol ac y byddai'r adeilad newydd yn cael effaith niweidiol.  Ni fyddai dymchwel yr annedd bresennol o fantais i'r ardal yn ei dyb ef.

 

      

 

     Nid oedd y Cynghorydd W. J. Chorlton yn gwrthwynebu codi adeilad newydd ond roedd ganddo rai pryderon ynglyn â dyluniad yr hyn oedd yn cael i gynnig.  

 

      

 

     Wrth gloi, dywedodd y Cynghorydd R. Llewelyn Jones wrth y Pwyllgor ei fod wedi ymweld â'r safle i edrych ar benderfyniadau cynllunio wnaed yn flaenorol a bod adroddiad gan Bennaeth Rheoli Datblygu ar ganlyniad yr adolygiad (eitem 14.2 ar yr agenda), yn dweud pa mor bwysig oedd materion dylunio wrth wneud penderfyniadau cynllunio ac y gall adeiladau o ddyluniad amhriodol gael effaith niweidiol ar yr amgylchedd trefol a gwledig fel ei gilydd.  Pwysleisiodd bod yn rhaid i'r aelodau werthfawrogi'r math a'r teip o adeilad sy'n cael ei fwriadu yma.

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd J. Arwel Roberts bod yr adroddiad ac argymhelliad y swyddog i ganiatáu yn cael ei dderbyn ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd R. L. Owen.

 

      

 

     Penderfynwyd derbyn adroddiad y Swyddog a'i argymhelliad i ganiatáu gyda'r amodau a restrwyd yn yr adroddiad.

 

      

 

     (Roedd y Cynghorydd Selwyn Williams yn dymuno iddo gael ei gofnodi nad oedd wedi pleidleisio yn erbyn caniatáu'r cynnig uchod.  Ni wnaeth y Cynghorydd O. Glyn Jones na Lewis Davies bleidleisio ar y mater gan nad oeddent wedi bod yn bresennol ar yr ymweliad safle.  Mewn eglurhad, dywedodd y ddau aelod - pebaent yn gyfarwydd â'r safle, yna mae'n debyg y byddent wedi pleidleisio hyd yn oed os nad oeddent wedi bod ar yr ymweliad safle).

 

      

 

      

 

6.4

40C292 - Cais llawn i godi annedd ac adeiladu mynedfa newydd ar dir yn gyfagos i Manora, Moelfre.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

     Roedd y cais uchod wedi'i alw i mewn gan yr Aelod Lleol ac fe gafwyd ymweliad safle ar 16 Rhagfyr 2009.

 

      

 

     Cais yw hwn am fyngalo math dormer ar safle fewnlenwi uchel o fewn ffin yr anheddiad.  Mae yna eiddo preswyl yn barod yn y cefn ac i'r gogledd sy'n agos iawn.  Y prif faterion yw effaith y datblygiad ar fwynderau'r eiddo preswyl cyfagos.  Roedd yr Aelod Lleol a'r Cyngor Cymuned wedi mynegi gwrthwynebiadau cryf iawn i'r cais am y rhesymau oedd i'w gweld yn yr adroddiad.  O ystyried y prif ystyriaethau cynllunio casgliad y swyddog oedd y byddai'r datblygiad yn cael effaith annerbyniol ar fwynderau eiddo preswyl yn y cefn ac i'r gogledd a'r argymhelliad oedd y dylai'r cais gael ei wrthod am y rheswm hwnnw.  Dywedodd y Cynghorydd Derlwyn Hughes, yr Aelod Lleol ei fod yn fodlon gyda'r argymhelliad.

 

      

 

     Penderfynwyd gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.

 

      

 

6.5

46C437B - Dymchwel adeiladau allanol a chodi garej gyda lle byw ategol yn Gwelfor, Lôn Isallt, Trearddur

 

      

 

     Roedd y cais yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar ofyn yr Aelod Lleol.  Yn ei gyfarfod gynhaliwyd ar 14 Rhagfyr 2009, fe benderfynodd yr aelodau ohirio gwneud penderfyniad ar y cais er mwyn cynnal ymweliad safle.  Cafwyd yr ymweliad ar 16 Rhagfyr 2009.

 

      

 

     Mae safle o fewn ffin ddatblygu pentref Trearddur ac yn wynebu Lôn Isallt sy'n mynd o Drearddur i Ynys Lawd.  Ar y safle fe geir byngalo dormer ar ei ben ei hun a garej ddwbl unllawr ar ei phen ei hun.  Mae'r cynnig yn un i ddymchwel y garej ac adeiladau allanol sydd yng nghefn yr anned a chodi anecs dormer deulawr fyddai'n darparu un llofft ychwanegol a chyfleusterau garej ar y llawr isaf ac ystafell gemau ar y llawr cyntaf.  Ers iddo gael ei wrthod cyn hyn mae'r cynllun wedi'i ddiwygio trwy leoli'r adeilad arfaethedig tua 2 fetr yn fwy i mewn i'r safle.  Mae astudiaeth haul wedi'i gyflwyno hefyd i gefnogi'r cais.  Doedd y ddogfen hon ddim ar gael pan wnaed y penderfyniad blaenorol na'r apêl.  Y prif fater yw - fydd y cynnig yn cael effaith niweidiol ar fwynderau eiddo cyfagos ac a fydd yn cyfateb i orddatblygu'r safle.

 

      

 

     Ar adeg ysgrifennu'r adroddiad gan y Swyddog, roedd deiliaid dau eiddo cyfagos wedi ysgrifennu i mewn.  Roeddent yn dweud nad oedd y cynnig hwn yn wahanol o gwbl i gynlluniau blaenorol sydd wedi ei wrthod; ac y byddai symud yr adeilad yn ei ôl yn gwaethygu'r effaith o golli preifatrwydd a'i roi yn yr union safle â'r un wrthodwyd o dan gais gynllunio 46C437A a gollwyd ar apêl i'r Arolygwr, ac nad oedd yr "astudiaeth cysgod" yn cael fawr ddim o effaith ar y cais oherwydd nad oedd ond dynwarediad.

 

      

 

     Roedd y Swyddog yn ei adroddiad yn dweud bod dyluniad yr adeilad newydd yn dderbyniol o safbwynt ei effaith ar y strydlun a'r lleoliad ehangach.  Mae yna ddigon o le o fewn y safle i gymryd yr adeilad newydd ac i ddarparu lle mwynder preifat a digon o le i barcio a throi o fewn y safle.  O safbwynt ei effaith ar yr eiddo cyfagos, mae'r adeilad arfaethedig wedi'i osod ymhellach yn ôl i'r safle a bydd sgrin breifat yn cael ei chodi a bydd hynny'n sicrhau na fydd y cynnig yn cael effaith niweidiol ar fwynderau deiliaid yr eiddo cyfagos.  Mae'r astudiaeth haul yn dangos yn glir na fydd y cynnig yn golygu y ceir colli goleuni ar y lle coed yng nghefn yr eiddo elwir yn Haul a Môr.  O ystyried popeth oedd wedi ei gyflwyno i gefnogi'r cais a'r sylwadau wnaed gan ddeiliaid eiddo cyfagos, bernir bod y cais presennol yn dod tros y rhesymau roddwyd cyn hynny tros wrthod y cais, ac na fydd y cais fel ag y mae wedi'i gyflwyno yn cael effaith ar fwynderau deiliaid eiddo cyfagos oherwydd colli preifatrwydd neu golli goleuni.  Roedd yr argymhelliad felly yn un o ganiatáu.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Eric Roberts fel yr Aelod Lleol - er bod yr adroddiad yn dweud bod yr adeilad arfaethedig wedi'i osod yn ôl roedd wedi clywed yn lleol ei fod i'w ddwyn ymlaen.  Dywedodd bod mater colli preifatrwydd yn parhau yn broblem a byddai'r cynnig yn golygu y byddai'n edrych i mewn i gegin ac ystafell fwyta'r eiddo drws nesaf ac yn cael effaith ymwthiol ar y deiliaid a'u hamodau byw.  Roedd yn credu bod y rhesymau tros wrthod y cais blaenorol yn parhau'n ddilys.  

 

      

 

     Soniodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio am sylwadau'r Aelod Lleol iddo glywed bod yr adeilad yn mynd i gael ei ddwyn ymlaen yn hytrach nag yn ôl, a dywedodd ei fod yn fodlon gyda'r dehongliad roddwyd gan y Swyddog Achos.  Tynnodd sylw'r aelodau at Adran 6 o'r adroddiad oedd yn delio gyda'r prif ystyriaethau cynllunio oedd yn sôn am orddatblygu a'r effaith ar eiddo cymdogion.  Yn seiliedig ar y dystiolaeth yn yr adran hon o'r adroddiad, ni allai weld sut y gellid cael colli preifatrwydd yn y ty drws nesaf.  Ymhellach i hyn, roedd astudiaeth haul wedi'i wneud a hynny'n cadarnhau na fydd y cynllun arfaethedig yn newid y lefel o oleuni haul sy'n cael ei fwynhau ar hyn o bryd gan rai'n defnyddio'r lle coed allanol yn y cefn.  Nid oedd y wybodaeth hon ar gael i'r arolygwr pan gynhaliwyd yr apêl ac fe ddaeth i'w gasgliadau ei hun ar y pwynt hwn.  Pebai'r Pwyllgor yn penderfynu gwrthod y cais oherwydd colli preifatrwydd neu golli goleuni yna rhaid iddo ddangos yn glir sut y mae'n credu bod preifatrwydd yn cael ei golli a lle mae yna golli goleuni.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd J. Arwel Roberts yn credu bod yr ymgeisydd wedi mynd i'r afael â'r holl broblemau oedd yn amlwg pan gafodd y cais ei wrthod o'r blaen ac felly ni allai weld sut y gallai'r Pwyllgor hwn wrthod y cais.  Roedd y Cynghorydd J. P. Williams yn cytuno gan nad oedd yna unrhyw sail lle gallai'r Pwyllgor amddiffyn penderfyniad o wrthod.

 

      

 

     Eglurodd yr Aelod Lleol sut yr oedd yn credu bod y cynnig yn golygu y byddai yna golli preifatrwydd trwy ddweud y byddai'r balconi ar yr adeilad newydd yn edrych dros yr eiddo cyfagos.  Roedd y Cynghorydd Barrie Durkin yn cwestiynu a fyddai gosod adeilad yn ôl 2m yn ddigon i ddod dros fater colli preifatrwydd.  Nododd nad oedd yr Arolygwr wrth iddo wrthod yr apêl wedi nodi unrhyw bellter fyddai'n rhaid gosod yr adeilad newydd yn ei ôl fel y byddai'n dderbyniol ac ni allai ef weld pa wahaniaeth fyddai ei osod yn ei ol yn ei wneud.  Roedd yn parhau yn anfodlon gydag agosrwydd y cynllun newydd i'r eiddo cyfagos ac felly cynigiodd bod y cais yn cael ei wrthod.  Ni chafodd y cynnig ei eilio.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd W. J. Chorlton na allai weld sut y gallai'r cais gael ei wrthod oherwydd colli preifatrwydd gan bod y safle'n ddigon mawr a bod rhaid i rhywun fynd allan o'i ffordd i weld i mewn i eiddo cyfagos.  Roedd y Cynghorydd J. A. Roberts, oedd wedi cynnig y dylai'r cais cael ei dderbyn, am gael sicrwydd bod mater preifatrwydd wedi ei ddatrys a gofynnodd a oedd y sgrin arfaethedig yn ffurfio rhan o'r mesurau i fynd i'r afael â'r problemau ynglyn â phreifatrwydd.  Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio y bydd yr ymgeisydd yn codi sgrin er mwyn gwneud y cais yn dderbyniol o ran ei effaith ar fwynderau deiliaid yr eiddo cyfagos.

 

      

 

     Penderfynwyd derbyn adroddiad y Swyddog a'i argymhelliad o ganiatáu gyda'r amodau oedd yn yr adroddiad.

 

      

 

7     CEISIADAU ECONOMAIDD

 

      

 

     Nid oedd yna unrhyw geisiadau economaidd i'w penderfynu yn y cyfarfod.

 

      

 

8     CEISIADAU TAI FFORDDIADWY

 

      

 

     Nid oedd yna unrhyw geisiadau tai fforddiadwy i'w penderfynu yn y Pwyllgor.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

9     CEISIADAU'N TYNNU'N GROES

 

      

 

9.1

23CD48D - Codi annedd ynghyd â gwneud gwaith altro i'r fynedfa bresennol i gerbydau a gosod gwaith trin yn Bwlch y Daran, Capel Coch

 

      

 

     Roedd y cais yn tynnu'n groes i'r cynllun datblygu gyda'r Awdurdod Cynllunio lleol yn bwriadu ei ganiatáu.  Mae safle'r cais yn y cefn gwlad sy'n rhan o Ardal Tirwedd Arbennig a chais yw hwn am annedd.  Y prif faterion yw defnydd cyfreithiol, pa mor dderbyniol yw annedd yn y cefn gwlad a'r effaith ar gymeriad ac edrychiad yr Ardal Tirwedd Arbennig.

 

      

 

     Mae yna ganiatâd cynllunio yn parhau ar safle'r cais trwy'r caniatâd cynllunio roddwyd i 23C48B/DA yn 1989 ac fe ddechreuwyd gweithio arno wedi hynny.  Mae'r cais hwn yn cael ei wneud yn lle'r datblygiad a ganiatawyd yn flaenorol.  Fe gafodd cais mwy diweddar ei ganiatáu ac mae hwn hefyd yn parhau'n fyw.  Roedd yn rhaid i'r Awdurdod Cynllunio Lleol hysbysebu'r cais fel un oedd yn tynnu'n groes i'r cynllun datblygu oherwydd bod safle'r cais yn y cefn gwlad. Fe aseswyd y cais o safbwynt y cynllun datblygu ac mae'r polisïau eraill a restrir wedi rhoi mwy o bwysau i'r caniatâd cynllunio am annedd mewn lle gwledig ac mewn Ardal Tirwedd Arbennig.  Mae'r cynnig hwn yn fwy na'r un gafodd ganiatâd o'r blaen ar y safle hwn ond o osod yr amodau a restrir ystyrir ei fod yn dderbyniol.  Disgwylir cael sylwadau ynglyn ag unrhyw effeithiau y gall y datblygiad ei gael ar goed sydd ar safle'r cais ac mae yna hefyd faterion technegol yn ymwneud â'r pellter o'r annedd i'r traen cerrig.  Efallai y bydd angen diwygio rhain ond os ceir caniatâd y Pwyllgor, gall y swyddogion ddelio gyda'r materion hyn.

 

      

 

     Penderfynwyd derbyn adroddiad y Swyddog a'r argymhelliad bod swyddogion yn cael pwerau dirprwyol i ganiatáu'r cais yn dilyn datrys unrhyw faterion yn ymwneud â choed a draenio carthffosiaeth a bod y cais cynllunio wedyn yn cael ei ganiatáu gyda'r amodau a amlinellir yn yr adroddiad.

 

      

 

10     CYNIGION DATBLYGU GAN GYNGHORWYR A SWYDDOGION

 

      

 

10.1

36C282A - Cais amlinellol i godi annedd a gosod tanc septig ar dir yn Cae'r Bwl, Rhostrehwfa

 

      

 

     Roedd y cais wedi'i gyflwyno gan berthynas i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol (Amgylcheddol a Gwasanaethau Technegol).  Roedd y cais wedi'i sgriwtineiddio gan y Swyddog Monitro fel sy'n ofynnol o dan baragraff 4.6.10.4 y Cyfansoddiad.

 

      

 

     Cais amlinellol ydoedd i godi annedd.  Roedd yr holl fanylion ar wahân i'r fynedfa i'r safle wedi'i cadw'n ôl i'w ystyried yn y dyfodol.  Tir amaethyddol yw'r safle yng nghefn yr annedd elwir yn Carneddau sy'n ffryntio'r B4422.  Byddai'r fynedfa i'r safle yn dod oddi ar y B4422 ar hyn trac sengl.  Y prif faterion yw - a oes yna ystyriaethau o bwys fyddai'n gwarantu eithriad oddi wrth bolisïau'r Cyngor a fwriadwyd i ddiogelu'r cefn gwlad rhag i dai gael eu hadeiladu heb unrhyw gyfiawnhad dros wneud hynny.

 

      

 

     Roedd yr ymgeisydd wedi cyflwyno datganiad gyda'r cais yn dweud mai ei fwriad oedd helpu ei dad i redeg y fferm.  Fodd bynnag, nid oedd unrhyw dystiolaeth wedi ei gyflwyno fel rhan o'r cais oedd yn bodloni'r prawf angenrheidiol ar gyfer annedd amaethydol o dan Bolisi 52 o Gynllun Lleol Ynys Môn a Pholisi HP6 o'r Cynllun Datblygu Unedol a stopiwyd.  O safbwynt y Cynllun Datblygu presennol, nid oedd y safle mewn ardal lle y dylai unrhyw ddatblygiad gael ei ganiatáu.  Nid oes iddo berthynas ag unrhyw anheddiad sy'n cael ei nodi yn y Cynllun Lleol nac yn y Cynllun Datblygu Unedol a stopiwyd.  Rhaid penderfynu ar y cais yn unol â Pholisïau'r Cyngor ar gyfer datblygiadau yn y cefn gwlad.  Ni chafwyd unrhyw bolisïau cenedlaethol ers i'r cais gael ei wrthod cyn hyn.  Felly ystyrir bod y gwrthwynebiadau polisi yn gorbwyso unrhyw ystyriaethau eraill.  Argymhellir felly bod y cais yn cael ei wrthod.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Hefin Thomas ei fod yn anhapus bod y Swyddog y mae'r ymgeisydd yn perthyn iddo ac yn y cais oedd i ddilyn (10.2) yn cael ei adnabod oherwydd bod yr adroddiad yn datgelu ei deitl a dywedodd bod hyn yn anheg, ac mai'r hyn sy'n digwydd fel arfer yw na fydd swyddogion yn cael eu henwi lle mae'r cais yn cael ei wneud naill a'i ganddynt hwy neu gan rai sydd â chyswllt â hwy.  Dywedodd ei fod wedi codi'r mater hwn o'r blaen a gofynnodd unwaith yn rhagor i'r Adran Gynllunio fod yn gyson gyda hyn.  Oherwydd bod yna anheddau eraill yn yr ardal o gwmpas safle'r cais, cynigiodd y Cynghorydd Hefin Thomas bod y Pwyllgor yn ymweld â'r safle er mwyn cael gwell dealltwriaeth o gyd-destun y safle.  Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd R. L. Owen.

 

      

 

     Penderfynwyd y dylai'r Pwyllgor ymweld â'r safle am y rheswm a roddwyd.

 

      

 

10.2

36C63E - Cais amlinellol i godi annedd a garej ar dir yn Tynygongl, Rhostrehwfa

 

      

 

     Roedd y cais wedi'i gyflwyno gan fab y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Amgylchedd a Gwasanaethau Technegol) oedd hefyd yn berchen safle'r cais a'r tir oedd yn rhoi mynediad.  Roedd y cais wedi'i sgriwtineiddio gan y Swyddog Monitro yn unol â pharagraff 4.6.10.4 y Cyfansoddiad.  Gardd gefn mewn byngalo yw safle'r cais ac mae'n rhan o'r datblygiadau rhubanaidd a gwasgarog geir rhwng Rhostrehwfa a Llangefni. Byddai'r fynedfa i'r safle oddi ar y B4422 ar hyd trac amaethyddol.  Roedd y materion pwysig yn ymwneud ag unrhyw ystyriaethau o bwys fyddai'n gwarantu eithriad oddi wrth bolisïau'r Cyngor a fwriadwyd i ddiogelu'r cefn gwlad rhag unrhyw adeiladu na ellid ei gyfiawnhau.

 

      

 

     O safbwynt y cynllun datblygu presennol, nid yw'r safle mewn ardal lle dylid caniatáu unrhyw ddatblygiad.  Nid oes i'r safle unrhyw berthynas ag unrhyw anheddiad a nodir yng Nghynllun Lleol Ynys Môn nac yn y Cynllun Datblygu Unedol a stopiwyd. Rhaid penderfynu ar y cais yn nhermau polisïau'r Cyngor ar gyfer datblygiadau yn y cefn gwlad.  O safbwynt dyluniad yn unig, fe ellid datblygu annedd ar y safle ac ni fyddai'n cael effaith niweidiol ar fwynderau gweledol, ar fwynderau preswyl na diogelwch y briffordd.  Mae'r safle ar ael bryn a byddai'n amhriodol adeiladu ty deulawr ond ni fyddai byngalo yn ffurfio unrhyw nodwedd amlwg.  Ni fu unrhyw bolisïau cenedlaethol ers i'r cais gael ei wrthod o'r blaen.  Felly, ystyrir bod y gwrthwynebiadau polisi yn gorbwyso pob ystyriaeth arall.  Argymhellir felly bod y cais yn cael ei wrthod.

 

      

 

     Gofynnodd yr Aelod Lleol y Cynghorydd W. I. Hughes am i'r Pwyllgor fynd i ymweld â'r safle hwn hefyd gan eu bod yn mynd i weld y cais blaenorol sydd yn yr un ardal ac sy'n rhannu'r un nodweddion ac y dywedir ei fod yn groes i bolisi er mwyn iddynt gael gwell dealltwriaeth o gyd-destun y ceisiadau.

 

      

 

     Penderfynwyd y byddai'r Pwyllgor yn ymweld â'r safle yn unol â chais yr Aelod Lleol.

 

      

 

11     GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

11.1

19C351E - Cadw'r Portacabin yn y Stadiwm Pêl-droed newydd, Canolfan Hamdden, Caergybi

 

      

 

     Cais yw hwn i ddatblygu ar dir y Cyngor. Mae'r cynnig yn cael ei gefnogi gan y polisi cynllunio a chyngor polisi ac ystyrir ei fod yn dderbyniol ym mhob agwedd.

 

      

 

     Penderfynwyd derbyn adroddiad y Swyddog a'i argymhelliad i ganiatáu'r cais oni cheir unrhyw sylwadau o bwys.

 

      

 

11.2

25C201 - Cais amlinellol i godi annedd a chreu mynedfa newydd ar dir yng nghefn 37/39 Stryd Fawr, Llannerch-y-medd.

 

      

 

     Roedd y datblygiad ar dir y Cyngor.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

     Mae'r safle yng nghefn 37/39 Stryd Fawr ac yn gyfagos i Stryd Tudor.  Mae'n ffurfio rhan o ardal gardd yr eiddo ar hyd y Stryd Fawr a'r ochr las sydd ym mherchnogaeth y Cyngor ar hyd Stryd Tudor. Y prif faterion yw - a yw'r cynigion yn dderbyniol o safbwynt polisi a mwynderau.  Mae'r safle o fewn ffin ddatblygu Llannerch-y-medd yn y Cynllun Lleol ond y tu allan i'r ffin yn y CDU.  O osod pwysau priodol y cynlluniau ystyrir bod y safle yn dderbyniol ar gyfer tai.  Mae yna nifer o goed ar y safle.  Fodd bynnag, yn dilyn trafodaethau gyda'r Adain Tirlunio, nid oes gwrthwynebiad i symud nifer o'r coed i wneud lle i'r datblygiad.  Does yna ddim Gorchymyn Cadw Coed.  Er y byddai'r annedd newydd wedi'i lleoli ger gardd yr eiddo drws nesaf, bydd hyd yr ardd a'r pellter oddi wrth y ty yn negydu'r posibilrwydd y bydd problemau'n cael eu creu i'r fath raddau i gyfiawnhau gwrthod y cais.  Ystyrir y gall yr annedd ar ddau lefel gael ei adeiladu ar y safle heb niweidio mwynderau preswyl na gweledol.  Mae'r manylion yn dderbyniol i Beirianwyr Adran Briffyrdd y Cyngor.  Mae'r egwyddor o gael datblygiad tai yn dderbyniol.  Ni fydd y cynnig yn achosi niwed i ddiddordebau pwysig.  Yr argymhelliad felly yw caniatáu.

 

      

 

     Penderfynwyd derbyn adroddiad y Swyddog a'r argymhelliad o ganiatáu gyda'r amodau oedd yn yr adroddiad.

 

      

 

      

 

11.3

28C437 - Gwaith altro ac ymestyn yn Sandy Bank, Ffordd Warren, Rhosneigr

 

      

 

     Dywedodd y Cadeirydd wrth y Pwyllgor nad oedd y Cynghorydd P. M. Fowlie yr Aelod Lleol yn gallu dod i'r cyfarfod hwn, ond roedd wedi gofyn i'r Pwyllgor ystyried ymweld â'r safle i gael gwell dealltwriaeth o'r safle a'i gyd-destun.

 

      

 

     Penderfynwyd cynnal ymweliad safle yn unol â chais yr Aelod Lleol.

 

      

 

      

 

11.4

31C170B/DA - Cais manwl i godi 6 annedd pâr tair llofft, 4 annedd tair llofft gyda garej ac un annedd ar wahân a hefyd creu ffordd fynedfa newydd, creu mynedfa o Lôn Hen Dyfnia a chreu mynedfa i gerbydau o Lôn Penmynydd ar gae O.S. rhif 1426, Ffordd Penmynydd, Llanfairpwll.

 

      

 

     Datganodd Mr. Richard Eames, Swyddog Rheoli Datblygu ddiddordeb yn y cais hwn ac aeth allan o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth arno.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod llythyr arall wedi'i dderbyn gan asiant yr ymgeisydd.  O safbwynt Amod (01) yn yr adroddiad, gellir dweud bod cynlluniau mewn perthynas â mesurau i sicrhau adeiladu gwelliannau i'r briffordd oddi ar y safle a gwaith cynnal a chadw'r briffordd a lonydd y stad, yn awr wedi'i derbyn ac y dylai'r amod felly ddarllen, 'Ni chaniateir dechrau unrhyw waith datblygu hyd y bo mesurau yn ei lle i sicrhau adeiladu gwelliannau i'r briffordd oddi ar y safle a gwaith cynnal a chadw y briffordd yn y dyfodol a'r lonydd stadau yn unol â manylion dderbyniwyd ac a ganiatawyd yn ysgrifenedig gan yr awdurdod cynllunio lleol'.

 

      

 

     Dywedodd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd Jim Evans bod rhai sy'n byw ger y datblygiad yn poeni am ddiogelwch y traffig a diogelwch y ffordd yn ardal y cais ac felly gofynnodd i'r aelodau ymweld â'r safle i weld drostynt eu hunain beth yw'r sefyllfa o safbwynt diogelwch y briffordd.

 

      

 

     Penderfynwyd ymweld â'r safle yn unol â chais yr Aelod Lleol.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

11.5

35C181C - Cynlluniau diwygiedig am annedd yn lle un arall a ganiatawyd o'r blaen o dan rif 35C181B yn Yr Ystablau, Penmon

 

      

 

     Yr Aelod Lleol oedd wedi gofyn am i'r cais hwn ddod gerbron y Pwyllgor Cynllunio a'i resymau tros wneud hynny oedd maint y datblygiad mewn perthynas â'r eiddo arall o'i gwmpas, ei uchder o'i gymharu ag adeiladau eraill gerllaw, dyluniad yr adeilad sy'n rhy fodern a'i effaith weledol ar Afon Menai yn yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies, yr Aelod Lleol bod y Pwyllgor yn ymweld â'r safle oherwydd pryderon ynglyn â dyluniad yr adeilad arfaethedig a'i effaith weledol mewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.  Gofynnodd y Cynghoryd W. J. Chorlton a oedd raid cynnal ymweliad safle o ystyried mai cynlluniau diwygiedig oedd y rhain a bod caniatâd eisoes wedi'i roi.  Roedd gan y Cynghorwyr Hefin Thomas a Selwyn Williams gwestiynau ynglyn â maint yr adeilad newydd o'i gymharu â'r cynlluniau blaenorol.  Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod yr adeilad a fwriadwyd cyntaf yn un unllawr hefo darn deulawr ond mae'r cynlluniau newydd yn rhai am strwythur deulawr, ac er bod y cynlluniau newydd yn rhai ar gyfer strwythur mwy, nid oedd y Swyddog yn ystyried bod yr adeilad allan o gymeriad nac y byddai'n niweidio'r mwynderau preswyl.  Eiliodd y Cynghorydd Hefin Thomas gynnig y Cynghorydd Lewis Davies y dylid cynnal ymweliad safle.

 

      

 

     Penderfynwyd bod y Pwyllgor yn ymweld â'r safle yn unol â chais yr Aelod Lleol.

 

      

 

11.6

39LPA918/CC - Amrywio amod (19) (oriau agor) a dileu amod (21) (cyfyngiad dosbarth defnydd) ar gais gynllunio rhif 39C149J yn hen Safle William Roberts, Four Crosses, Porthaethwy.

 

      

 

     Datganodd y Cynghorydd E. G. Davies ddiddordeb yn y cais ac aeth allan o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth arno.

 

      

 

     Y prif fater oedd - fyddai newid amod (19) a dileu amod (21) yn dderbyniol ac yn cydymffurfio gyda Chynllun Lleol Ynys Môn a'r Cynllun Datblygu Unedol a stopiwyd heb gael effaith ar unedau diwydiannol gerllaw ac eiddo preswyl.  Ar adeg ysgrifennu'r adroddiad nid oedd unrhyw lythyrau yn gwrthwynebu wedi'u derbyn.  

 

      

 

     Roedd amod (19) ynglyn ag oriau agor yn y cais blaenorol rhif 39C149J yn dweud "bydd oriau agor y safle i gwsmeriaid wedi'i gyfyngu i 7:00am - 7:00pm ar ddyddiau'r wythnos; 8:00am - 5:00pm ar ddydd Sadwrn; a) 11:00am - 5:00pm ar ddydd Sul a Gwyliau'r Banc."  Bwriedir newid yr amod fel a ganlyn: "ni chaniateir defnyddio'r eiddo i'r pwrpasau ganiateir yma ond rhwng oriau 7:00am - 18:00pm ar ddydd Llun i ddydd Sadwrn. b) O fewn amgylchiadau eithriadol restrir yn Atodiad 1 sydd ynghlwm wrth y penderfyniad; oni bai ei fod wedi ei ganiatáu yn ysgrifenedig fel arall gan yr awdurdod cynllunio lleol".  Mae'r sefyllfaoedd o argyfwng i'w gweld yn yr adroddiad.  Dileu Amod (21) sy'n dweud - "Ni chaniateir defnyddio'r eiddo ond i bwrpasau gweithdy coed a busnes gwerthu coed a deunyddiau adeiladu ategol ac i ddim defnydd arall o fewn Deddf Cynllunio Gwlad a Thref (Dosbarthiadau Defnydd) 1987".

 

      

 

     Mae newid amod (19) ynglyn â'r oriau yn dderbyniol ac ni ddylai gael effaith ar unrhyw eiddo cyfagos nac ar unrhyw unedau diwydiannol gerllaw.  Mae dileu amod (21) hefyd yn dderbyniol a hefyd ddefnyddio'r adeilad fel Depo Cynnal a Chadw Priffyrdd.  Mae gan y caniatâd blaenorol 39C149J amod ynglyn â lefelau swn.  Mae'r amod hon yn parhau ar y safle.  I gloi, argymhellir bod caniatâd yn cael ei roi o dan adran 73 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref (fel ei diwygiwyd) i newid amod (19) a dileu amod (21) yng nghaniatâd cynllunio 39C149J.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Selwyn Williams yr Aelod Lleol nad oedd wedi cael neb yn dod ato ynglyn â'r cais uchod.  Argymhellodd y Cynghorydd J. P. Williams bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn a hefyd yr argymhelliad o ganiatáu.

 

      

 

     Ar bwynt gwahanol, gofynnodd y Cynghorydd O. Glyn Jones a fyddai'n bosibl cynnwys o fewn hanes cynllunio unrhyw safle, wybodaeth yn dweud os oedd cais wedi ei ganiatáu yn groes i argymhelliad y Swyddog.  Nid oedd y Rheolwr Rheoli Cynllunio yn siwr os oedd hyn oll yn berthnasol, ond dywedodd y gellid edrych i mewn i hyn, ond efallai na fyddai hyn yn bosibl ym mhob achos.

 

      

 

     Penderfynwyd derbyn adroddiad y Swyddog a'i argymhelliad i roi caniatâd o dan adran 73 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (fel ei diwygiwyd) i newid amod (19) a dileu amod (21) caniatâd cynllunio 37C149J.

 

      

 

      

 

12     CEISIADAU DDIRPRWYWYD

 

      

 

     Cyflwynwyd a derbyniwyd adroddiad Pennaeth y Gwasanaethau Cynllunio ynglyn â cheisiadau a ddirprwywyd ac a benderfynwyd ers cyfarfod blaenorol y Pwyllgor.

 

      

 

      

 

13     APELIADAU

 

      

 

     Nid oedd unrhyw benderfyniadau apêl i'w cyflwyno yn y cyfarfod.

 

      

 

      

 

14     MATERION ERAILL

 

      

 

14.1

19C416B - Cais cynllunio llawn i ddymchwel 34 o fflatiau gofal cartref, i ail adeiladu 54 uned cyfleuster gofal ychwanegol, 2 uned stiwdio a chyfleusterau cysylltiol a thirlunio yn Penucheldre, Caergybi

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd W. J. Chorlton wedi ceisio cael cyngor a ddylai ddatgan diddordeb ai peidio ynglyn â sefyllfa ei ferch.  Gofynnodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol i'r Cynghorydd Chorlton a fyddai hynny yn cael effaith arni mewn unrhyw ffordd.  Mewn ymateb i ateb y Cynghorydd Chorlton na fyddai, cafwyd cyngor gan y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol nad oedd angen datgan diddordeb.

 

      

 

     Cafodd y cais ei gyfeirio i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd ei fod ar dir y Cyngor.  Yn ei gyfarfod ar 29 Gorffennaf 2009 fe benderfynodd y Pwyllgor ganiatáu'r cais gydag amodau a gyda chytundeb Adran 106 i ddarparu 30% o'r unedau fel tai fforddiadwy.  Mae'r adroddiad hwn yn cael ei gyflwyno er mwyn gofyn am ganiatâd y Pwyllgor i ddelio gyda'r mater trwy amodau yn unig yn hytrach nag amodau a chytundeb cyfreithiol Adran 106.

 

      

 

     Er mai cytundeb cyfreithiol Adran 106 yw'r ffordd arferol o sicrhau darpariaeth o dai fforddiadwy, byddai defnyddio amod yn yr achos hwn yn dderbyniol oherwydd yr amgylchiadau yn ymwneud â pherchnogaeth y tir a chyllid grant a'r cyfyngiadau gweithredol roddwyd ar yr ymgeisydd fel Cymdeithas Dai sy'n gwneud pethau'n haws o ran gweithredu.  Yr argymhelliad felly oedd caniatáu'r datblygiad gyda'r amodau oedd yn yr adroddiad.

 

      

 

     Penderfynwyd derbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad i ganiatáu gyda'r amodau oedd yn yr adroddiad ac yn cynnwys y gofyn am ddarparu 30% o'r cynllun fel unedau tai fforddiadwy ar gyfer anghenion lleol.

 

      

 

14.2

Cyflwynwyd - adroddiad y Pennaeth Rheoli Datblygu ar ganlyniadau yr adolygiad wnaed o benderfyniadau cynllunio y Pwyllgor ar 16 Medi 2009 a 21 Hydref 2009 yn unol â gofynion Cyfansoddiad y Cyngor - Rheolau Gweithdrefn Materion Cynllunio.

 

      

 

      

 

      

 

     Dywedodd y Swyddog bod yr adroddiad wedi ei ddosbarthu i'r aelodau am atborth a gofynnodd i'r aelodau anfon eu sylwadau i Bennaeth Rheoli Datblygu.

 

      

 

     Penderfynwyd derbyn yr adroddiad a'r argymhellion o'i mewn.

 

      

 

14.3

Cyflwynwyd a derbyniwyd - rhestr o ddyddiadau arfaethedig ar gyfer cyfarfodydd o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a chyfarodydd ymweliadau safle yn 2010.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Y Cynghorydd Kenneth Hughes

 

Cadeirydd