Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion dogfennau , 6 Chwefror 2008

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Dydd Mercher, 6ed Chwefror, 2008

PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION

 

Cofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 6 Chwefror, 2008.  

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd J. Arwel Roberts - Cadeirydd

 

Y Cynghorwyr John Byast, E.G. Davies, J. Arwel Edwards, O. Glyn Jones, J. Arthur Jones, T.H. Jones, R.L. Owen, John Roberts,

Hefin W. Thomas, W.J. Williams MBE.

 

 

 

WRTH LAW:

 

Cynllunio:

Pennaeth Rheoli Datblygu (EGJ).

 

Priffyrdd:

Uwch Beiriannydd (Rheoli Datblygu a Hawliau Tramwy Cyhoeddus) (JRWO),

 

Rheolwr Gwasanaeth Cyfreithiol (RWJ)

Rheolwr Gwasanaeth Pwyllgorau (JG)

 

HEFYD YN BRESENNOL:

 

 

Aelodau Lleol:

Y Cynghorwyr PM Fowlie eitem 10.5, WI Hughes eitem 10.7, Eric Jones eitem 6.3, RG Parry OBE eitem 6.2, John Williams eitem 6.4.

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Y Cynghorwyr  W.J.Chorlton, D.R.Hadley, B.Owen

 

 

 

 

Mynegodd y Cadeirydd ei gydymdeimlad dwys â  Ms Cath W.Pari(Cynorthwy-ydd Gweinyddol y Gwasanaeth Pwyllgorau, Mrs. Mairwen Hughes (Swyddog Pwyllgor) a Ms Maureen Guiney (Cynorthwy-ydd Gweinyddol y Gwasanaeth Cynllunio) ar eu profedigaeth.  

 

Safodd yr Aelodau a'r Swyddogion mewn distawrwydd fel arwydd o barch.

 

1

YMDDIHEURIADAU

 

Fel uchod.

 

2

DATGANIAD O DDIDDORDEB

 

Derbyniwyd datganiadau o ddiddordeb fel y cawsant eu cofnodi dan yr eitemau perthnasol.

 

3

COFNODION

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd, fel rhai cywir, gofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gafwyd ar 9 Ionawr, 2008.

 

Yn codi-

 

 

 

EItem 3 - Cofnodion

 

Dymunodd y Cynghorydd John Roberts nodi nad oedd ef wedi gofyn i'r Pwyllgor newid ei benderfyniad mewn perthynas a chais Cae Wian, Gaerwen, ond yn hytrach newid y geiriad.

 

 

 

Eitem 7.1  Cais 14C28T/ECON - Stad Ddiwydiannol Mona

 

Dymunodd y Cynghorydd J.Arthur Jones nodi mai'r Weinyddiaeth Amddiffyn ac nid 'swyddogion' oedd yn mynegi gwrthwynebiad i dyrbin gwynt uwch na 14.5m ger tir y Weinyddiaeth.  

 

 

 

4

YMWELIAD Â SAFLEOEDD  CYNLLUNIO

 

 

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd, fel un cywir, adroddiad ar yr Ymweliad â Safleoedd Cynllunio gafwyd ar 23 Ionawr, 2008.  

 

 

 

Yn codi-

 

 

 

Presenoldeb

 

Fe nodwyd bod y Cynghorydd D.R.Hadley yn bresennol trwy gydol yr ymweliadau a hyn yn wahanol i'r cofnod.  

 

 

 

Cais 16C145D - Plas Llechylched, Bryngwran

 

Yn y paragraff cyntaf ble dywedir fod '10 ty o ffewn y ffin datblygu' a '10 ty y tu allan i'r ffin datblygu' dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu y dylai hyn gael ei newid i ddarllen '14 ty y tu mewn i'r ffin datblygu' a '6 ty y tu allan i'r ffin datblygu' .   

 

   

 

5    CEISIADAU A OHIRIWYD

 

 

 

5.1

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

11C8U/1 CAIS LLAWN I GODI 35 UNED BRESWYL YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GEIR AC I GERDDWYR AR DIR TU CEFN I BARC TRECASTELL, PORTH LLECHOG AMLWCH

 

 

 

Adroddodd y Pennaeth Rheoli Datblygu nad oedd ymateb yr ymgeiswyr i faterion priffyrdd a godwyd yn ystod yr ymweliad â'r safle wedi ei dderbyn.  

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais am y rheswm a roddwyd.

 

 

 

5.2

CAIS ECONOMAIDD

 

 

 

14C28T/ECON  CAIS LLAWN I GODI UNED DDIWYDIANNOL I STORIO A DOSBARTHU GYDA GOFODLE AR GYFER SWYDDFEYDD, GOSOD TWRBIN GWYNT 20kw, GOSOD TANC TANDDAEAROL I GASGLU DWR GLAW, YNGHYD A DARPARIAETH PARCIO CEIR CYSYLLTIOL AR BLOTIAU 9, 10 & 11 STÂD DDIWYDIANNOL,

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan ei  fod yn effeithio ar dir ym mherchnogaeth y Cyngor.   Roedd yr ymgeisydd erbyn hyn mewn trafodaeth gyda'r Weinyddiaeth Amddiffyn mewn perthynas a'r twrbin gwynt a gofynnodd am ohirio i gwblhau trafodaethau.  

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais am y rheswm a roddwyd.

 

 

 

5.3

CAIS YN TYNNU'N GROES

 

 

 

28C313B CAIS AMLINELLOL I GODI 14 O ANHEDDAU YNGHYD A CHREU MYNEDFA NEWYDD I GERDDWYR A CHEIR AR DIR GER TERAS REHOBOTH, LLANFAELOG

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno ar ofyn yr aelod lleol.  Yn ei  gyfarfod ar 9 Ionawr, 2008 fe benderfynodd y Pwyllgor ohirio gwneud penderfyniad ar y cais er mwyn rhoi  cyfle i'r ymgeisydd gynnal arolwg o'r angen am dai yn lleol a diwygio'r bwriad yn unol a chanlyniadau'r arolwg.    Roedd yr ymgeisydd wedi cadarnhau ei fod yn fodlon ymgymeryd a'r gwaith ac fe ohiriwyd y cais er mwyn cwblhau'r gwaith.  

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais am y rheswm a roddwyd.

 

 

 

5.4

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

37C154  CAIS LLAWN I GODI 12 O ANHEDDAU A 2 FYNGALO YNGHYD A CHREU MYNEDFA NEWYDD I GEIR A CHERDDWYR AR DIR YN BRYN TAWEL, BRYNSIENCYN.

 

 

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan ei  fod yn effeithio ar dir ym mherchnogaeth y Cyngor.  Penderfynodd y Pwyllgor hwn yn ei  gyfarfod ar 5 Rhagfyr, 2007 ohirio ystyried y cais a hynny oherwydd y bwriad i gysylltu gyda system dwr wyneb y Gwasanaeth Tai (ar y cychwyn yn tybio mai system priffyrdd oedd honno) ond nid oedd rhybuddion wedi'u cyflwyno ac o'r herwydd roedd y cais yn dechnegol yn annilys.  Ar ôl ymgynghori ar y manylion a gyflwynwyd mae'n ymddangos fod angen rhagor o wybodaeth cyn gwneud asesiad priodol o'r cynllun ac argymhellodd ohirio'r cais.  

 

 

 

     PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais am y rheswm a roddwyd.

 

 

 

     6.   CEISIADAU'N CODI O'R COFNODION

 

      

 

6.1 GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

11C458B  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD AR DIR GER PARK TERRACE, AMLWCH

 

 

 

 

 

Cafwyd datganiad o ddiddordeb gan Mrs Helen Williams o'r Adran Gynllunio mewn perthynas â'r cais hwn.  Ail gyflwynwyd y cais hwn yn dilyn ymweliad â'r safle gan aelodau ar 23 Ionawr 2008. Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor yn wreiddiol ar gais yr aelod lleol oedd yn rhoi "defnydd amhriodol o dir" fel rheswm dros wneud hynny, Roedd yr ymgeisydd hefyd yn perthyn i aelod o staff yr Adran Gynllunio.  

 

Gwrthodwyd yr un bwriad ddwywaith eisoes meddai'r Pennaeth Rheoli Datblygu, â'r cais diweddara yn cael ei ystyried fis Hydref, 2007.  Rhaid i'r Pwyllgor gael ei weld i fod yn gyson ac o'r herwydd dylid gwrthod y cais hwn am y rhesymau a roddwyd ac sy'n parhau ers y tro diwethaf.  

 

 

 

Dygodd yr aelod lleol, Y Cynghorydd J.Byast, sylw  at annedd tebyg mewn maint i'r bwriad presennol ym mhen draw'r llain. Dywedodd fod yr ymgeisydd hefyd yn fodlon uwchraddio wyneb y llain i liniaru pryderon y Gwasanaeth Priffyrdd.   Roedd y Cyngor eisoes wedi rhoi caniatâd cynllunio am annedd ym mhen draw'r llain, a chan fod digonedd o dir ar gael, ni ddeallai'r rhesymeg dros argymhelliad o wrthod. Roedd y safle y tu fewn i ffin datblygu Amlwch a chynigiodd roddi ganiatâd.  

 

 

 

Holodd y Cynghorydd J.Arthur Jones am ddiffiniad y swyddog o "safle tir cefn" fel rheswm dros wrthod ac anghytunodd a'r swyddogion, eiliodd y cynnig o ganiatáu.  

 

 

 

Roedd y Cynghorydd H.W.Thomas o'r farn fod y bwriad y tu fewn i'r ffin datblygu ac eiliodd yntau'r cynnig o ganiatáu.  

 

 

 

Mewn ymateb dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu ei fod yn cydnabod fod y safle o fewn i'r ffin datblygu, fodd bynnag, roedd angen ystyried pob cais ar ei rinwedd ei hun.  Roedd swyddogion yn ystyried fod y cais yn un annerbynniol ac yn cael ei ystyried fel "safle tir cefn".  

 

 

 

Roedd y Gwasanaeth Priffyrdd yn ystyried bod y ffordd fynedfa yn gul iawn a dim mannau i geir basio'u gilydd arni, ynghyd a dau dro 90 gradd arni.   Doedd dim llwybr troed yma ac yn achlysurol roedd yn rhaid i geir fagio;  doedd hyn ddim yn cael ei ystyried yn ddiogel, yn arbennig i blant.

 

 

 

Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

 

 

 

 

 

 

I Ganiatáu'r cais: Y Cynghorwyr J.Byast, J.Arthur Jones, H.W.Thomas.

 

 

 

Derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais:  Y Cynghorwyr E.G.Davies, J.A.Edwards, O.G.Jones, T.Jones, R.L.Owen, J. Arwel Roberts, J.Roberts.

 

 

 

Ymatal: Y Cynghorydd W.J.Williams, MBE.

 

 

 

PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn unol a'r rhesymau a roddwydd yn yr adroddiad.

 

 

 

 

 

6.2 GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

16C145D  CAIS AMLINELLOL I DDATBLYGU TIR I GODI TAI YNGHYD A CHREU MYNEDFA NEWYDD I GERDDWYR AC ADDASU'R FYNEDFA BRESENNOL I GEIR AR DIR YN PLAS LLECHYLCHED, BRYNGWRAN.

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno'n wreiddiol ar gais yr aelod lleol.  Ar 9 Ionawr, penderfynwyd gohirio ystyried y cais er mwyn ymweld a'r safle ac fe gafwyd hyn ar 23ain Ionawr.

 

 

 

Roedd y Cyngor yn cefnogi'r egwyddor o godi tai newydd oedd yn cydymffurfio gyda phenderfyniad y Pwyllgor Gwaith meddai'r Pennaeth Rheoli Datblygu.    Gydag angen tai fforddiadwy yn yr ardal byddai'r bwriad yn darparu 30% o unedau tu mewn i'r ffin ddatblygu a 100% tu allan ar gyfer angen lleol. Byddai gwaith tirlunio da a darparu ffiniau priodol  yn lleihau effaith bosib ar y tai sydd yna'n barod Oherwydd newidiadau i'r canllawiau priffyrdd, hefyd oherwydd y dystiolaeth yng nghyswllt cyflymder traffig mae'n bosib lleihau'r llain gwelededd i leihau'r effaith yn gyffredinol ar y tirwedd.

 

 

 

Roedd oddeutu 200 o dai yn y pentref, hefyd  22 o dai wrthi'n cael eu hadeiladu meddai'r Cynghorydd RG Parry'r aelod lleol.  Byddai caniatáu 20 o dai ychwanegol yn cyfateb i ychwanegiad o 20% yng nghyfanswm y tai yn y pentref.   Roedd oddeutu 14 ty ar werth a rhyw 8 o'r rhain ar werth ers dros flwyddyn - rhai ohonynt wedi'u prisio dan £90,000 (ffafriol i brynwyr ifanc). Yr effaith fwyaf fyddai cynnydd mewn traffic ar hyd Stryd Salem - ni fedrai'r Cyngor ddarparu llwybr troed hyd at y gyffordd i'r safle yn ei farn ef.  Fel mater o ddiogelwch, roedd plant ysgol yn defnyddio'r ffordd hon; ymhellach i hyn roedd loriau mawrion yn defnyddio'r ffordd tuag at safle Grampian Foods; yn y cyffiniau hefyd roedd cartref yr henoed.  Roedd ganddo gonsyrn a oedd angen y rhain, y traffic ychwanegol a greuir a hefyd gofynnodd a oedd y bwriad i gysylltu i'r garthffos yn dderbyniol i Dwr Cymru?

 

 

 

Doedd dim gwrthwynebiad, gydag amodau, gan y Gwasanaeth Priffyrdd, mewn perthynas a mynedfa i geir/llain gwelededd.  Hefyd byddai amod i sicrhau llwybr troed rhwng y fynedfa a'r pentref.

 

 

 

Dygodd y Cynghorydd J Arthur Jones sylw fod tri-chwarter y safle o fewn ffin datblygu Bryngwran.  Byddai'r bwriad yn darparu cartrefi i bobl leol a chreu swyddi tra byddai adeiladu'n cymryd lle.  Yn y tymor hir, gyda gobaith, wrth ystyried Cynllun Rhesymoli Ysgolion, byddai'n creu cynnydd yn niferoedd o blant.  Cafwyd cynnig o ganiatáu a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd O.G.Jones.

 

 

 

Roedd yn ffaith fod angen tai fforddiadwy a chyfleusterau yn yr ardal meddai'r Pennaeth Rheoli Datblygu; cydnabuodd fod materion priffyrdd angen eu datrys.  Roedd swyddogion wedi ymgynghori gyda Dwr Cymru oedd nawr yn cadarnhau ei bod hi'n dderbyniol cysylltu i'r garthffos.  Roedd yr

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

argymhelliad yn parhau i fod yn un o ganiatáu gydag amod cyfreithiol mewn perthynas a materion o gonsyrn a godwyd gan yr aelodau.  

 

 

 

PENDERFYNWYD caniatáu' r cais gydag amodau y manylwyd arnynt yn yr adroddiad gan gynnwys Cytundeb Adran 106 ar ddarpariaeth tai fforddiadwy, darparu llwybr troedd rhwng y safle a'r Stryd Fawr a gwaith cynnal a chadw'r ardaloedd sydd wedi eu tirlunio yn y dyfodol er mwyn lliniaru effaith y datblygiad ar y tirlun.

 

 

 

 

 

     6.3 GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

17LPA494M/CC DIWYGIO AMOD (08) AR GANIATAD CYNLLUNIO 17LPA494G\CCECON I DDARLLEN FEL A GANLYN:  NI DDYLAI'R DATBLYGIAD FOD YN WEITHREDOL HYD NES Y BYDD GWELLIANNAU PRIFFORDD I GYFFORDD Y B5420 A FFORDD PENHESGYN WEDI EU CWBLHAU I FODDHAD YR AWDURDOD CYNLLUNIO LLEOL YN LLE'R GWELLIANNAU I'R BRIFFORDD A GANIATAWYD YN FLAENOROL O DAN GANIATAD CYNLLUNIO 17LPA494G\CC\ECON GER SAFLE MEWNLENWI CORS PENHESGYN, LLANSADWRN

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan iddo gael ei gyflwyno ar ran y Cyngor ac yn effeithio ar dir yn ei berchnogaeth.  

 

 

 

     Roedd y cais presennol yn ceisio mynd i'r afael a phryderon diogelwch y briffordd sydd angen sylw'n gynt na'r cynllun a gytunwyd arno'n flaenorol meddai'r Pennaeth Rheoli Datblygu.  Doedd gan y Gwasanaeth Priffyrdd ddim gwrthwynebiad i'r diwygiad yma ac argymhellodd ganiatau'r cais.  

 

      

 

     Adroddwyd y derbyniwyd llythyr dyddiedig 2 Chwefror, 2008 gan Grwp Gweithredu Penhesgyn oedd yn gofyn am eglurhad gan y Gwasanaeth Priffyrdd mewn perthynas a rhai agweddau o'r hyn y bwriedir ei wneud.  

 

      

 

     Mynegodd aelodau lleol, sef y Cynghorwyr E.G.Davies, Eric Jones a H.W.Thomas eu consyrn mewn perthynas a newid tactegau trwy osod amod gwella'r briffordd (yn nhermau lled ag unionrwydd) hyd at gyffordd y B5420 a Ffordd Penhesgyn, cais a ganiatawyd eisoes dan gyfeirnod 17LPA494G\CC\Econ.

 

      

 

     Mewn ymateb dywedodd y Gwasnaeth Priffyrdd fod yr ymgeisydd wedi methu prynu tir gan berchnogion tir cyffiniol ac felly nid oedd hi'n bosib ymgymeryd a'r gwelliannau y cytunwyd arnynt o fewn yr amser y mae gofyn i'r cyfleusterau fod yn weithredol.  O ganlyniad, mae'r cynnig presennol yn dod yn lle'r cynllun y cytunwyd arno gyda mesur i fynd i'r afael a phryderon diogelwch y briffordd sy'n fwy pwysig.  Mae hyn yn blaenoriaethu gwaith ar y groeslon.  Doedd ffigyrau traffic ddim yn dangos dim cynnydd mewn traffic i safle Penhesgyn.  Roedd canolfan ailgylchu newydd wedi agor ym Mangor a byddai hyn yn golygu gostyngiad o 20% yn nifer y ceir oedd yn ymweld a Phenhesgyn.  

 

      

 

     Parhau i bryderu ynghylch diwygio amod oedd y Cynghorydd E.G.Davies; roedd hefyd yn parhau'n bryderus oherwydd lled y ffordd o'r groeslon tuag at y safle, yn arbennig o'r groeslon hyd at y gornel gyntaf hefyd ym mhen pellaf y fynedfa i'r safle. Dylai'r Cyngor symud yn ei flaen i brynu'r tir sydd ei angen trwy orfodaeth i liniaru pryder diogelwch y briffordd.  Cynigiodd wrthod y cais a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd John Roberts.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Glyn Jones cafwyd cynnig i  ganiatáu a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd RL Owen.

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

      

 

     I ganiatáu'r cais:  Y Cynghorwyr J.A.Jones, O.Glyn Jones, R.L.Owen, J Arwel Roberts

 

      

 

      

 

     Gwrthod y cais: Y Cynghorwyr J Roberts, WJ Williams MBE, J Byast, Hefin Thomas, T Jones, J Arwel Edwards, EG Davies

 

      

 

     PENDERFYNWYD gwrthod y cais, yn groes i argymhelliad y swyddog.  

 

      

 

     Y rheswm a roddwyd dros wrthod oedd diogelwch y briffordd.  

 

      

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor, cafodd y cais ei ohirio'n otomatig i'r cyfarfod nesaf er mwyn i swyddogion baratoi adroddiad ar y rheswm dros wrthod y cais.  

 

      

 

     6.4 20C222A -DYMCHWEL, ADDASU AC EHANGU ER MWYN CYNNWYS YR HEN FECWS I FOD YN RHAN O'R ANNEDD YN 9 SGWAR ATHOL, CEMAES

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno ar gais yr aelod lleol.

 

      

 

     Ystyriwyd y bwriad fel un derbyniol, gydag amodau, ni chredir y byddai'r bwriad yn cael effaith andwyol ar gymeriad yr ardal o gadwraeth.

 

      

 

     Roedd y safle hon o fewn Ardal Gadwraeth Cemaes meddai'r aelod lleol, y Cynghorydd John Williams, roedd parcio yn y cyffiniau yn hunllef.  Hefyd roedd pryder y byddai'r ffenestri a ddangoswyd yn rhy fawr ac yn edrych dros eiddo a adnabyddir fel Garreg.  Estynodd wahoddiad i aelodau'r Pwyllgor ymweld â'r safle i nodi'r pryderon hyn.  

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Tom Jones cafwyd cynnig i ymweld â'r safle a chafod hyn ei eilio gan y Cynghorydd H.W.Thomas.

 

 

 

     PENDERFYNWYD ymweld â'r safle.

 

      

 

     7. CAIS ECONOMAIDD

 

      

 

     Doedd dim ceisiadau economaidd i'w hystyried yn y cyfarfod hwn.

 

      

 

     8. CEISIADAU AM DAI FFORDDIADWY

 

      

 

     Doedd dim ceisiadau am dai fforddiadwy i'w hystyried yn y cyfarfod hwn.

 

      

 

      

 

     9. CAIS YN TYNNU'N GROES

 

      

 

     28C368C - CAIS LLAWN I GODI ANNEDD YNGHYD A GOSOD TANC SEPTIC A CHREU MYNEDFA NEWYDD I GEIR AR GAE RHIF OS 3821, BRYN DU

 

      

 

     Roedd y cais hwn yn tynnu'n groes ac nid oedd ar gyrion pentref Bryn Du meddai'r Pennaeth Rheoli Datblygu.  Oherwydd hanes y safle credwyd fod y cais yn dderbyniol  ac yn cael ei drosglwyddo i'r Pwyllgor benderfynu arno.

 

      

 

     Mae'r cais yn gwyro oddi wrth bolisiau lleol a chenedlaethol; fodd bynnag roedd gan yr ymgeisydd ganiatâd amlinellol ynghyd a chaniatad llawn ar ran o'r safle dan ystyriaeth.  Roedd y bwriad yn debyg i un ganiatawyd eisoes dan ganiatad cynllunio cyf: 28C368B credwyd ei fod yn dderbyniol yn amodol ar ddatrys materion carthffosiaeth.

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd O.Glyn Jones os oedd yr Adain Ddraenio wedi  derbyn unrhyw wybodaeth a oedd y pellter angenrheidiol i ddarparu cyfleusterau preifat i drin carthffosiaeth ar gael ar y safle a'i peidio?

 

      

 

      

 

     Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu fod yr asiantaethau technegol yn fodlon gyda'r datblygiad.  

 

      

 

     Oherwydd hyn cafwyd cynnig o ganiatáu yn unol â'r argymhelliad gan y Cynghorydd O.Glyn Jones.

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd J.Arthur Jones os byddai amod yn cael ei gosod i sicrhau pellter oddi wrth yr is-orsaf drydan?

 

      

 

     Mewn ymateb dywedodd Pennaeth Rheoli Datblygu mai cais llawn oedd hwn a'r holl fanylion wedi eu derbyn.  Oherwydd cyfyngiadau cyfreithiol ar y safle, ail-leolwyd y safle rhyw 15m oddi wrth yr is orsaf.  

 

     PENDERFYNWYD rhoddi hawl i Bennaeth Gwasanaethau Cynllunio ganiatáu'r cais, gyda'r amodau y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.  

 

      

 

     (Nodwyd fod y Cynghorwyr E.G. Davies a H.W.Thomas wedi ymatal eu pleidlais)

 

 

 

     10. GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     10.1 10C95C - CAIS LLAWN I GODI UN ANNEDD AR DIR GER CROSS KEYS, ABERFFRAW.

 

      

 

     Adroddodd y Pennaeth Rheoli Datblygu mai cais gan yr aelod lleol oedd hwn. Ni fyddai'r cynnig yn cael effaith ar fwynderau'r bobl sy'n byw o gwmpas nac yn cael effaith ar y tirlun o gwmpas sydd wedi'i ddynodi fel Ardal Cadwraeth Aberffraw.

 

      

 

     Dygodd y Pennaeth Rheoli Datblygu sylw'r Pwyllgor i'r ffaith nad oedd gan y Cyngor Cymuned unrhyw wrthwynebiad i'r datblygiad.  Cyfeiriodd hefyd at yr angen i newid geiriad amod 11 yn yr adroddiad i ddarllen "(11) Rhaid darparu llwybr cerdded 1.5 metr o ran lled o'r naill ben i'r llall o linellau ffin y safle wrth y Ffordd Sirol cyn preswylio yn yr annedd". yn hytrach na "lleiniau gwelededd" y cyfeirir ato yn yr adroddiad.  

 

      

 

     Yn unfrydol PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd gydag amodau y manylwyd arnynt.  

 

 

 

     (Gan y Cynghorydd O.Glyn Jones cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r pleidleisio).  

 

 

 

     10.2 14C92F - DILEU AMOD (07) SEF 'BYDD Y LLETY GWYLIAU A'R CYFLEUSTERAU CYSYLLTIEDIG A GANIATEIR TRWY HYN YN CAEL EI GYNNAL YN UN RHWYDWAITH' ODDI AR GANIATÂD CYNLLUNIO 14C92D YM MHARC CEFNI, BODFFORDD.

 

      

 

     Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu fod y cais hwn yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor ar gais yr aelod lleol, hefyd roedd yr ymgeisydd yn Gynghorydd.  

 

 

 

     Fe adroddwyd y derbyniwyd llythyr  gan yr ymgeisydd dyddiedig 5 Chwefror, 2008 a hwnnw'n codi nifer o faterion nad oedd yr Adran mewn sefyllfa i ymateb iddynt yn llawn cyn y cyfarfod o'r Pwyllgor.  

 

 

 

     PENDERFYNWYD gohirio ystyried y mater.  

 

      

 

     (Gan y Cynghorydd J Arthur Jones cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r pleidleisio).

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

     10.3 14C92G - DILEU AMODAU (05) A (06) SEF ' NI CHAIFF CYFANSWM YR AMSER O FYW YN YR UNED A GANIATEIR DRWY HYN I BERSON NEU BERSONAU AT DDIBENION LLETY GWYLIAU, FOD YN FWY NA 28 NIWRNOD YN OLYNOL' A 'BYDD BYW YN YR UNED WYLIAU A GANIATEIR DRWY HYN YN CAEL EI GYFYNGU I GYFNOD O 11 MIS SY'N CYCHWYN AR 1 MAWRTH MEWN UNRHYW FLWYDDYN AC YN DIWEDDU AR 31 IONAWR YN Y FLWYDDYN GANLYNOL' ODDI AR GANATÂD CYNLLUNIO RHIF 14C92D YM MHARC CEFNI, BODFFORDD

 

      

 

     (Gan y Cynghorydd J Arthur Jones cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r pleidleisio).  Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu fod y cais hwn yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor ar gais yr aelod lleol, hefyd roedd yr ymgeisydd yn Gynghorydd.

 

      

 

     Dywedwyd i lythyr gael ei dderbyn gan yr ymgeisydd dyddiedig 5 Chwefror, 2008 a hwnnw'n codi  nifer o faterion nad oedd yr Adran mewn sefyllfa i ymateb iddynt yn llawn cyn y cyfarfod o'r Pwyllgor.

 

      

 

     PENDERFYNWYD gohirio ystyried y mater.

 

      

 

 

 

     10.4 22C78A - CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD AMAETHYDDOL YNGHYD A GOSOD TANC SEPTIG NEWYD AR DIR CAE O.S.9332, LLANDDONA.

 

      

 

     Adroddodd y Pennaeth Rheoli Datblygu i'r cais hwn gael ei gyflwyno i'r Pwyllgor ar gais yr aelod lleol ar sail polisiau.

 

      

 

     Roedd swyddogion yn ystyried fod y safle arfaethedig yn un ar ei phen ei hun ac i ffwrdd oddi wrth y ty fferm presennol, a hyn yn erbyn y cyngor geir yn TAN6 ac ni fydd yn cynnig ond ychydig o fantais tros y sefyllfa sy'n dderbyniol, a byddai'r annedd arfaethedig yn y lleoliad hwn yn ymddangos yn amlwg ac ar ei ben ei hun a byddai'n niweidiol i'r tirlun. Byddai safleoedd eraill ym mherchnogaeth yr ymgeisydd yn cael eu hystyried yn dderbyniol ac nid barn y swyddog yw na ddylid caniatáu unrhyw annedd.  Fe drafodwyd y materion hyn gydag asiant yr ymgeisydd ond mae'r cynnig yn parhau fel y'i cyflwynwyd.  Ymhellach i hyn, o ystyried agosrwydd Llanddona ystyrir nad oes cyfiawnhad digonol  wedi ei gyflwyno yn dweud pam nad yw anheddau eraill yn Llanddona yn addas.

 

      

 

     Siaradodd yr aelod lleol, y Cynghorydd H.W.Thomas ar ran y bwriad.  Dywedodd fod y fferm laeth hon gyda'r orau ar yr Ynys, a'i bod wedi ei ffermio gan yr un teulu ers blynyddoedd lawer.  Dywedai ADAS fod maint y fferm, y stoc arni a'r gwaith cysylltiedig yn cwrdd a'r meini prawf ariannol a gweithredol.  Roedd hwn yn gais eithriadol oedd yn cwrdd a pholisiau'r Cyngor a chynigiodd ganiatáu'r cais.  

 

      

 

     Ni chredai'r Cynghorydd J Arthur Jones y byddai'r bwriad yn cael effaith andwyol fel y dywedodd y swyddogion, gan gymryd i ystyriaeth y rheswm dros y polisi, fe eiliodd y cynnig i ganiatáu.

 

      

 

     Cafwyd cynnig i ymweld â'r safle gan y Cynghorydd O.Glyn Jones a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd E.G.Davies.

 

      

 

     Tra'n derbyn fod y cais hwn yn cwrdd a'r meini prawf  ariannol a gweithredol fel y cyfeirir ato ym mhara 7 yr adroddiad, dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu fod safleoedd eraill ym mherchnogaeth yr ymgeisydd yn fwy addas, a dim safiad y swyddogion oedd na ddylai unrhyw annedd gael ei ganiatáu.  Trafodwyd hyn gydag asiant yr ymgeiswyr ond roedd y cynnig yn parhau fel y'i cyflwynwyd.  Ymhellach i hyn, o ystyried agosrwydd Llanddona ystyriwyd nad oedd cyfiawnhad digonol wedi ei gyflwyno yn dweud pam nad oedd anheddau eraill yn Llanddona yn addas.

 

      

 

     Ni chariwyd y gwelliant i ymweld â'r safle.  Symudodd y Cadeirydd ymlaen i gymryd y bleidlais ar y cynnig gwreiddiol i ganiatáu'r cais.  

 

      

 

      

 

      

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

      

 

     Caniatáu'r cais (yn groes i argymhelliad y swyddog):  Y Cynghorwyr J.Byast, J.Arthur Jones, T. Jones, J.Roberts, H.W.Thomas, W.J.Williams, MBE.

 

      

 

     Yn erbyn y bwriad: Y Cynghorwyr E.G.Davies,J.Arwel Edwards, J. Arwel Roberts. 

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais (yn groes i argymhelliad y swyddog).  

 

      

 

     Y rheswm roddwyd dros ganiatáu oedd ei bod hi'n angenrheidiol cael ail berson ar y safle i redeg y busnes.  Roedd polisiau'r Cyngor yn caniatáu anheddau i weithwyr fferm neu goedwigaeth.  Byddai'r annedd arfaethedig yn integreiddio'n dda gyda'r ty fferm presennol, ni fyddai'n creu effaith weledol andwyol ar gymeriad yr ardal.  Roedd cyfiawnhad digonol wedi ei ddangos hefyd fod y cais yn cwrdd â'r meini prawf ariannol a gweithredol am annedd amaethyddol.   

 

      

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafod y cais ei ohirio'n otomatig i'r cyfarfod nesaf er mwyn i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu'r cais.  

 

 

 

     (Gan y Cynghorydd RL Owen cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r pleidleisio).

 

      

 

     10.5 28LPA892/CC - ADDASU'R LLE PARCIO PRESENNOL I DDARPARU MANNAU PARCIO WEDI EU GWYNEBU AR DIR GER THE BUNGALOW, RHOSNEIGR.

 

      

 

     Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu mai cais yn cael ei gyflwyno gan y Cyngor oedd hwn ac yn effeithio ar dir yn ei berchnogaeth.  Nid oedd lle i gredu y byddai'r bwriad yn cynyddu unrhyw  effeithiau presennol nac yn cael effaith niweidiol ar fwynderau eiddo cyfagos.  Barn y swyddogion oedd fod y cais yn haeddu cefnogaeth.  

 

      

 

     Mynegodd y Cynghorydd P.M.Fowlie, yr aelod lleol, ei gefnogaeth lawn a gofynnodd i'r cais gael ei ganiatáu.  

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais am y rhesymau roddwyd gydag amodau y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.  

 

      

 

     10.6 30C650 - CREU MYNEDFA NEWYDD A CHROESFAN PALMANT A DAU LE PARCIO YN YR HEN DY YSGOL,  TYNYGONGL.

 

 

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan fod rhan o safle'r cais ym  mherchnogaeth y Cyngor meddai'r Pennaeth Rheoli Datblygu.  Y farn oedd na fyddai'r lle croesi arfaethedig na'r llecynnau parcio yn cael effaith niweidiol ar ddiogelwch y briffordd ac roedd yr Adain Priffyrdd yn fodlon gydag amodau.  

 

      

 

     Cyfeiriodd y Pennaeth Rheoli Datblygu'r aelodau hefyd at y ffaith fod disgrifiad y cais wedi ei ddiwygio i gynnwys creu mynedfa newydd.  

 

      

 

     Dygodd yr Adain Briffyrdd sylw at amod (04) yr argymhelliad ac y dylai mesur y llain welededd fod yn 2.0m x 70m bob ochr yn hytrach nag 2.0m x 7.0m yr adroddwyd arno.  

 

 

 

     Oni dderbynnir sylwadau pellach fydd yn codi materion cynllunio o fewn y cyfnod ymgynghori statudol (hyd at 13 Chwefror, 2008) PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd ac yn unol â'r amodau y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.  

 

      

 

     10.7 36C183C - CAIS LLAWN AR GYFER 5 LLAIN TEITHIOL A 10 LLAIN TYMHOROL AR GYFER CARAFANNAU SYMUDOL YNGHYD A GWAITH TIRLUNIO CYSYLLTIEDIG YN Y FRONYDD, CERRIGCEINWEN, BODORGAN.

 

      

 

     Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datlbygu i'r cais hwn gael ei gyflwyno i'r Pwyllgor ar gais yr aelod lleol.  

 

      

 

     Roedd swyddogion o'r farn y byddai'r cynnig yn niweidiol i'r tirlun ac y byddai'r cynnydd yn nefnydd y ffordd tuag at y safle, er i hyn fod yn dymhorol, yn creu perygl i ddiogelwch y ffordd.  

 

      

 

     Siaradodd yr aelod lleol, y Cynghorydd W.I.Hughes, ar ran y cais.  Ni chytunai â'r swyddog fod y ffordd fynedfa yn is-safonol.  Byddai'r 10 llain ychwanegol yn cael eu defnyddio'n dymhorol ac ni chredai y byddai caniatáu mwy o leiniau yn ychwanegu at beryglon ar y ffordd.  

 

      

 

     Ystyrir hon i fod yn safle amlwg meddai'r Pennaeth Rheoli Datblygu, a doedd y cynnig i dirlunio ddim yn ddigonol i liniaru effaith y carafannau.  

 

      

 

     Argymhelliad o wrthod oedd gan y Gwasanaeth Priffyrdd a hyn oherwydd gwelededd wael o'r groeslon gyda'r B4422.  Ymhellach i hyn roedd y ffordd yn gul a throellog mewn mannau a byddai cynnydd yn y traffic yn creu perygl i ddiogelwch y ffordd.  

 

      

 

     Cynnig yr argymhelliad wnaeth y Cynghorydd J.Arthur Jones.

 

      

 

     Oherwydd y nifer o faterion a godwyd cafwyd cynnig i ymweld a'r safle gan y Cynghorydd E.G.Davies a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd J.Arwel Edwards.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld a'r safle.

 

      

 

     10.8 46C460 - ADDASU'R FYNEDFA BRESENNOL I FAES PARCIO CYMDEITHAS GWARCHOD ADAR, YNYS LAWD, CAERGYBI 

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan fod y safle ym  mherchnogaeth y Cyngor meddai'r Pennaeth Rheoli Cynllunio.  

 

      

 

     Credai swyddogion y byddai'r bwriad yn caniatáu i gerbydau fynd i fewn ac allan o'r maes parcio heb yr angen i symud yn ôl ac ymlaen ar y briffordd yn arbennig yn ystod misoedd yr haf. Byddai'r sefyllfa bresennol yn cael ei gwella'n fawr ac yn cael effaith gadarnhaol ar fwynderau eiddo cyfagos.  Roedd y bwriad yn haeddu ei gymeradwyo.  

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd gydag amodau y manylwyd arnynt.  

 

      

 

     10.9 39C237A - CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD, CREU MYNEDFA NEWYDD I GEIR YNGHYD A GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD AR DIR MAES MAWR, LLANFECHELL.

 

      

 

     (Cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais gan y Cynghorydd Thomas Jones ac nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod yn ystod unrhyw drafodaeth na phleidleisio ar y cais).  Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan fod yr ymgeisydd yn perthyn i Gynghorydd meddai'r Pennaeth Rheoli Datblygu.  

 

      

 

     Cafodd cais run fath a hwn ei wrthod yn 2006, a hynny'n dilyn ymweliad â'r safle.  Doedd dim newid i'r amgylchiadau ac felly dim newid i'r argymhelliad o wrthod.  Fodd bynnag, gan fod y llain welededd yn cael ei dangos y tro hwn doedd dim rheswm priffyrdd dros wrthod.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Hefin Thomas cafwyd cynnig i wrthod a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd J.A. Jones. Gan y Cynghorydd R.L. Owen cafwyd cynnig i ganiatáu a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd E.G. Davies

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

      

 

     Dros ganiatáu'r cais (yn groes i argymhelliad y swyddog):  Y Cynghorwyr E.G.Davies, O.Glyn Jones, R.L.Owen.

 

      

 

     Dros argymhelliad y swyddog (i wrthod y cais):  Y Cynghorwyr J.Byast, J.A.Edwards,J.A.Jones, J.Roberts,J.Arwel Roberts, H.W.Thomas,W.J.Williams,MBE

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.  

 

      

 

      

 

     10.10 39LPA891/CC - CAIS AR GYFER GWELLIANNAU ARFAETHEDIG I LITHRFA A MAES PARCIO TRELARS YN PORTH Y WRACH, STRYD Y PACED, PORTHAETHWY

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan fod y cais yn cael  ei gyflwyno gan y Cyngor meddai'r Pennaeth Rheoli Cynllunio.

 

      

 

     Nid oedd lle i gredu y byddai'r bwriad yn cael effaith annerbyniol ar gymeriad yr Ardal Gadwraeth nac ar y strwythur rhestredig gerllaw.  Roedd y bwriad yn cael ei ystyried fel un derbyniol gydag amodau.  

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais am y rheswm a roddwyd gydag amodau y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.  

 

 

 

 

 

     11. CEISIADAU A DDIRPRWYWYD

 

      

 

     Cyflwynwyd a derbyniwyd adroddiad Pennaeth y Gwasanaeth Cynllunio ar faterion y penderfynwyd arnynt ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor hwn.  

 

      

 

     Dygodd y Cynghorydd O.Glyn Jones sylw  at y ffaith fod rhai o'r ceisiadau a restrwyd yn yr adroddiad wedi eu penderfynu yn y Pwyllgor, ac felly nid oedd angen eu cynnwys yn y rhestr ddirprwyedig.

 

      

 

     Cydnabu'r Pennaeth Rheoli Datblygu'r amryfusedd.

 

      

 

     Mynegodd y Cynghorydd John Roberts ei gonsyrn nad oedd ef wedi cael yr holl wybodaeth gan yr Adran ar gais rhif 70 - 31C346B, Fferm Siglen, Llanfairpwll.

 

      

 

     Ymddiheurodd y Pennaeth Rheoli Datblygu am yr amryfusedd gan ychwanegu y byddai'n ymchwilio ymhellach i'r mater.  

 

      

 

     Mynegodd rhai aelodau eu consyrn fod y system wedi galluogi i swyddogion ymwneud a chais rhif 110 - 47C105B, Chwaen Wen Uchaf, Llantrisant, ble rhoddwyd caniatâd i addasu adeiladau allanol i saith annedd.  

 

      

 

     Eglurodd y Cadeirydd i'r Aelodau mai mater o bolisi oedd hyn ac nid mater i'w ystyried gan y Pwyllgor.

 

      

 

      

 

     12. APELIADAU

 

      

 

     Cyflwynwyd a nodwyd, er gwybodaeth, gopi  o grynodeb o'r penderfyniadau wnaethpwyd gan Arolygwyr Cynllunio ar y canlynol: -  

 

      

 

      

 

      

 

     12.1- dan Adran 78 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 apêl yn erbyn penderfyniad yr Awdurdod hwn i wrthod caniatâd cynllunio i godi pedwar chalet gwyliau (y mae un ohonynt yn disodli adeilad presennol sydd â chaniatâd cynllunio i'w ddefnyddio fel annedd)  ar dir ger Refail Newydd, Porthaethwy (cyf. 39C166E dyddiedig 31 Ionawr, 2007) - caniatawyd yr apel gydag amodau.  

 

      

 

     12.2 - dan Adran 78 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 apêl yn erbyn penderfyniad yr Awdurdod hwn i wrthod caniatâd cynllunio i ddatblygiad preswyl  Yng Nghanolfan Garddio Maelog, Llanfaelog (cyf.28C116K dyddiedig 6 Hydref, 2006) - caniatawyd yr apêl gydag amodau.  

 

      

 

     12.3 - nodwyd fod apêl wedi dod i law mewn ymateb i benderfyniad yr Awdurdod hwn i wrthod   cais amlinellol i godi siop gwerthu bwyd ar dir ger safle Keegans a Travelodge, Kinglsand Caergybi (Cyf. 19C251L/ECON).

 

      

 

     Roedd yr Arolygwr yn disgwyl ymateb ysgrifenedig erbyn 10 Mawrth, 2008.

 

      

 

     12.4 - dan Adran 78 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 apêl yn erbyn methiant yr Awdurdod hwn i roi hysbysiad o fewn y cyfnod rhagnodedig o benderfyniad ar gais am ganiatad cynllunio i addasu hen gapel yn wyth fflat, yn cynnwys gwaith dymchwel rhannol, yn ogystal ag addasiadau i'r fynedfa bresennol i geir yn y blaen a chreu maes parcio yng nghefn hen Gapel Bethel, Stryd Wesla, Amlwch (cyf.11C500 dyddiedig 22 Rhagfyr, 2006) - caniatawyd yr apêl gydag amodau.  

 

      

 

      

 

     Dechreuoddd y cyfarfod am 1.00pm a daeth i ben am 2.50pm

 

      

 

      

 

      

 

      

 

     Y CYNGHORYDD J.ARWEL ROBERTS

 

     CADEIRYDD