Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion dogfennau , 6 Ebrill 2005

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Dydd Mercher, 6ed Ebrill, 2005

PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION

 

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Ebrill 2005

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd R L Owen, Cadeirydd

Y Cynghorydd J Arthur Jones, Is-Gadeirydd

 

Y Cynghorwyr Mrs Burns, John Byast, Eurfryn Davies,

Peter Dunning, J Arwel Edwards, R Ll Hughes, O Glyn Jones,

Goronwy Parry MBE, D Lewis-Roberts, John Roberts,

J Arwel Roberts, W T Roberts, Peter Rogers, Hefin Thomas,

Keith Thomas.

 

 

 

WRTH LAW:

 

Cynllunio:

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cynllunio a'r Amgylchedd)

Pennaeth Rheoli Datblygu (EGJ)

Rheolwr Rheoli Cynllunio (DFJ)

 

Priffyrdd:

Uwch Beiriannydd (Rheoli Datblygu a Hawliau Tramwy Cyhoeddus) (JRWO)

Uwch Beiriannydd (Rheoli Datblygu)

Swyddog Rheoli Datblygu (RE)

 

Cyfreithiwr (RWJ)
Cynorthwy-ydd Gweinyddol (CWP)

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Y Cynghorydd John Rowlands 

 

 

 

HEFYD YN BRESENNOL:

 

Aelodau Lleol:  Y Cynghorwyr W I Hughes (eitem 4.1), Aled Morris Jones (eitem 6.5), Thomas Jones (6.4), R G Parry OBE (eitem 6.6), John Williams (eitemau 4.2 a 7.7)

 

 

1

DATGANIAD O DDIDDORDEB

 

Cafwyd datganiadau o ddiddordeb gan Aelodau a Swyddogion fel y cawsant eu cofnodi dan yr eitemau perthnasol.

 

2

COFNODION

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd cofnodion y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gyfarfu ar 2 Mawrth, 2005 (Cyfrol y Cyngor 03.05.2005, tud 32 - 49), ond gyda'r newidiadau a ganlyn:-

 

Cynnwys yr argymhelliad a ganlyn ar tudalen 16 yn eitem 7.4 y fersiwn Gymraeg o'r cofnodion:

"PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog".

 

 

Yn Eitem 4.10 ar tudalen 9 nodwyd mai'r Cynghorydd John Roberts oedd yn anghymeradwyo ceisiadau cynllunio ôlddyddiol ac yn cefnogi datganiad yr aelod lleol.

 

 

 

Eitem 6.1 ar dudalen 11, roedd y Cynghorydd W I Hughes yn dymuno diwygio'r cofnod i ddarllen fod yr ymgeisydd yn gwneud cais i adeiladu cartref iddo'i hun a'i wyr.

 

 

 

3

YMWELIADAU Â SAFLEOEDD

 

 

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd, yr adroddiad ar Ymweliadau â Safleoedd Cynllunio a gafwyd ar 16 Mawrth, 2005.

 

 

 

 

 

4

CEISIADAU'N CODI O'R COFNODION

 

 

 

4.1

CAIS YN GWYRO

 

 

 

14C158D CAIS AMLINELLOL AR GYFER CODI BYNGALO GYDA MODURDY CYNWYSEDIG, CREU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU YNGHYD Â GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD AR RAN O GAE RHIF 3942, PARCIAU BUNGALOW, LLYNFAES

 

 

 

Cyflwynwyd y cais i'w benderfynu gan y Pwyllgor ar gais yr aelod lleol.

 

 

 

Yn y cyfarfod blaenorol penderfynodd yr aelodau gymeradwyo'r cais yn groes i argymhelliad y swyddog i wrthod am y rhesymau a ganlyn:

 

 

 

Ÿ

mae safle'r cais ar gyrion neu'n agos iawn i ffiniau y pentref ac i dy arall

 

Ÿ

buasai'n cwrdd ag angen am dy ac yn creu mantais yn y sector tai

 

Ÿ

roedd amgylchiadau personol yr ymgeisydd yn pwyso mwy na'r polisïau cynllunio cenedlaethol a lleol a'r cyngor cenedlaethol a lleol

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor fe ohiriwyd y cais er mwyn caniatáu i swyddogion baratoi adroddiad am y rhesymau a roddwyd dros gymeradwyo'r cais.

 

 

 

Cyfeiriodd y Pennaeth Rheoli Cynllunio at y map dangosol a anfonwyd ymlaen ar wahân i'r aelodau, roedd yn teimlo bod y penderfyniad blaenorol yn "wrthnysig", ac mae'r cynllun yn dangos yn eglur bod hwn yn gais sy'n gwyro.  Roedd y cais a gymeradwywyd yn ddiweddar yn Llynfaes Uchaf yn bell iawn o'r safle, nid oedd y swyddog yn cytuno bod hwn yn gais 'eithriadol', roedd yn groes i Bolisi A6 o Gynllun Fframwaith Gwynedd, Polisi 53 o'r Cynllun Lleol a HP6 o'r CDU, ac am y rhesymau hyn, roedd yn argymell yn gryf i wrthod y cais hwn.

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd W I Hughes, yr aelod lleol, bod y rhain yn amgylchiadau eithriadol.  Roedd yr ymgeisydd wedi colli ei fab ac roedd yn dymuno darparu cartref iddo'i hun a'i wyr.  Roedd yr ymgeisydd yn dymuno sicrhau cartref yn lleol cyn rhoddi i fyny ei denantiaeth mân-ddaliad.  Roedd Arweinydd y Cyngor, undebau ffermio a nifer o rai eraill yn dangos eu bod yn cefnogi'r cais hwn.  

 

 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Peter Rogers ei gefnogaeth i'r cais er ei fod yn tynnu'n groes gan ychwanegu fod yr ymgeisydd yn cadw'r fferm laeth orau yn y Sir.  Byddai caniatáu'r cais hwn yn cadw'r mân-ddaliad i'w osod cyn iddo ddechrau mynd ar ei waered oherwydd oed yr ymgeisydd.

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd John Roberts y byddai'n cefnogi'r cais er bod tir yr ymgeisydd y tu allan i'r ffin ddiffinedig.

 

 

 

Mynegodd y Cynghorydd Eurfryn Davies ei gefnogaeth a chynigiodd gymeradwyo'r cais.

 

 

 

Eilwyd y cynnig gan y Cynghorydd Glyn Jones i gymeradwyo'r cais gan ei fod yn teimlo ei fod yn cydymffurfio gyda pharagraff 5.3.3 o Bolisi 53 y Cynllun Lleol.

 

 

 

Cytunodd y Cynghorydd Arthur Jones fod hwn yn eithriad o dan yr amgylchiadau, ac i fod yn gyson byddai'n cefnogi'r cais.  Byddai caniatáu'r cais hwn yn rhyddhau'r fferm i'w gosod, cwestiynodd os oedd yr ymgeisydd wedi cytuno'n ffurfiol i roddi'r denantiaeth i fyny petai'r cais yn cael ei gymeradwyo.

 

 

 

Cytunodd y Cynghorydd Hefin Thomas fod yr ymgeisydd wedi cyfrannu llawer i'r gymuned leol a'i fod yn dymuno parhau i fyw yn yr ardal ar ôl ymddeol.

 

 

 

Roedd y Pennaeth Rheoli Datblygu yn bryderus fod yr aelodau yn teimlo fod hwn yn gais "eithriadol" gan annog yr aelodau i fod yn wyliadwrus wrth wneud eu penderfyniadau.   Byddai caniatáu'r cais hwn yn gosod cynsail i'r dyfodol, dylid penderfynu ceisiadau ar ddefnydd tir ac argymhellodd yn gryf i'r aelodau wrthod y cais.  

 

 

 

Roedd y cyfreithiwr yn cefnogi datganiad y swyddog ac atgoffodd yr aelodau bod hwn wedi'i ddosbarthu fel cais oedd yn tynnu'n groes.  Ar gyngor y cyfreithiwr cytunodd yr aelodau i gymryd pleidlais wedi'i chofnodi a bu'r pledleisio fel a ganlyn:

 

 

 

I GYMERADWYO'R CAIS YN GROES I ARGYMHELLIAD Y SWYDDOG O WRTHOD:

 

Y Cynghorwyr Mrs Bessie Burns, Eurfryn Davies, R Ll Hughes, J Arthur Jones, O Glyn Jones, D Lewis Roberts, John Roberts, Tecwyn Roberts, Peter Rogers, Hefin Thomas, Keith Thomas (11)

 

 

 

I DDERBYN ADRODDIAD Y SWYDDOG A'I ARGYMHELLIAD O WRTHOD:

 

Y Cynghorwyr Peter Dunning, Goronwy Parry MBE (2)

 

 

 

O 11 pleidlais i 2 PENDERFYNODD yr aelodau gadw at y penderfyniad blaenorol i gymeradwyo'r cais hwn am y rhesymau a roddwyd a gyda'r amodau safonol.

 

 

 

YMATAL PLEIDLAIS:

 

Y Cynghorwyr Arwel Edwards, R L Owen, Arwel Roberts.

 

 

 

4.2

CAIS YN GWYRO

 

 

 

20C85E   CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD YNGHYD AG ADDASIADAU I'R FYNEDFA BRESENNOL AR DIR GER BRON WYLFA, TREGELE

 

 

 

Daethpwyd â'r cais i'w benderfynu gan y Pwyllgor ar gais yr aelod lleol.

 

 

 

Yn y cyfarfod blaenorol roedd yr aelodau wedi cymeradwyo'r cais hwn yn groes i argymhelliad y swyddog i wrthod, am y rheswm a ganlyn:

 

 

 

Ÿ

mae'r cais yn un sy'n cydymffurfio gyda pholisi 50 o Gynllun Lleol Ynys Môn trwy fod y safle y tu fewn i bentref Tregele.

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor fe ohiriwyd y cais er mwyn caniatáu i swyddogion baratoi adroddiad am y rhesymau a roddwyd dros gymeradwyo'r cais.

 

 

 

Dywedodd y Pennaeth Rheoli Cynllunio bod safle'r cais wedi'i leoli beth bellter i ffwrdd o bentref Tregele - mewn gwirionedd mae yn nes i Gemaes, ac ni all y cynnig gael ei ystyried i fod o fewn clwstwr, nid yw'n cydymffurfio gyda darpariaeth polisi 50 y Cynllun Lleol na HP6 o'r CDU ac argymhellodd fod yr aelodau yn ailystyried eu penderfyniad blaenorol ac yn gwrthod y cais hwn.

 

 

 

Ailfynegodd y Cynghorydd John Williams ei ddatganiad blaenorol yn cefnogi'r cais.  Roedd yr ymgeisydd eisiau adeiladu cartref fforddiadwy fyddai'n agos i'w mam.  Roedd y caniatâd cynllunio rhoddwyd cyn hyn wedi dod i ben, roedd y safle yn gorwedd o fewn clwstwr o tua 15 o dai, roedd y briffordd yn ddiogel, ac roedd y Cynghorydd Williams am ofyn i'r aelodau gadarnhau ei benderfyniad i gymeradwyo'r cais hwn.  Er nad oedd y cais hwn wedi'i gyflwyno o dan ddarpariaethau meini prawf yr Awdurdod ar gyfer 'tai fforddiadwy', cadarnhaodd y byddai hwn yn cael ei adeiladu mewn dull fforddiadwy.

 

 

 

Nododd y Cynghorydd Arthur Jones fod safle'r cais yn amlwg y tu mewn i glwstwr o dai a chynigiodd gymeradwyo'r cais.  Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd J. Arwel Roberts.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Roedd y Pennaeth Rheoli Datblygu am atgoffa'r aelodau fod "clystyrau" dynodedig wedi ei diffinio yn glir o fewn y CDU.  Nid yw'r safle hwn y tu fewn i glwstwr o'r fath ac nid oedd y ty yn un fforddiadwy yn nhermau cynllunio.

 

 

 

Wedi cael cynnig gan y Cadeirydd i gymryd pleidlais wedi ei chofnodi, ac eithrio'r Cadeirydd, oedd yn atal ei bleidlais, safodd y rhai oedd yn bresennol i gefnogi'r cais.

 

 

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais hwn am y rhesymau a roddwyd a gyda'r amodau safonol perthnasol.

 

 

 

4.3

CAIS YN GWYRO

 

 

 

22C169 - CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD, GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD A CHREU MYNEDFA NEWYDD YN CAE BRYN TIRION, LLANDDONA

 

 

 

Datganodd y Cynghorydd John Rowlands ddiddordeb yn y cais hwn a chyflwynodd ei ymddiriedau am fod yn absennol o'r cyfarfod oherwydd ei anafiadau yn ddiweddar.

 

 

 

Daethpwyd â'r cais gerbron y Pwyllgor ar gais yr aelod lleol.

 

 

 

Yn y cyfarfod blaenorol penderfynodd yr aelodau ymweld â'r safle a fe ddigwyddodd hyn ar 16 Mawrth, 2005.

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio i nifer o geisiadau cynllunio gael eu cyflwyno ar hyd y rhan hon o'r ffordd yn ddiweddar, gyda llawer ohonynt wedi eu caniatáu yn groes i bolisïau ac i argymhelliad y swyddog ac felly yn gosod cynsail.  Roedd y safle yn amlwg yn y cefn gwlad, nid oedd unrhyw angen amaethyddol na choedwigaeth wedi ei gyflwyno gan yr ymgeisydd.  Nid oedd unrhyw 'anghenion eithriadol' wedi eu profi, ac fe allai caniatáu'r cais hwn olygu y byddai'r cynnig ar werth ar y farchnad agored, ac fe ddylai penderfyniadau fod yn seiliedig ar ddefnydd tir.  Roedd y cais yn hollol amlwg yn groes i Bolisïau 53 o'r Cynllun Lleol, HP6 o'r CDU a Pholisi A6 Cynllun Fframwaith Gwynedd.  Byddai ty yn y lleoliad hwn yn creu ymwthiad annymunol yn y tirwedd.

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd Hefin Thomas mai merch ifanc leol oedd yma gyda'i chartref rhyw 40 llath o'r safle.  Wedi gorffen ei hastudiaethau a dechrau ar ei gyrfa roedd yn dymuno dychwelyd i'r ardal i fyw gyda'i gwr.  Roedd natur ei gwaith yn golygu ei bod hi'n gallu gweithio o'r cartref.  Roedd y Cynghorydd Thomas yn teimlo fod y cais hwn yn cydymffurfio gyda Pholisïau cyfredol, roedd y ty tafarn lleol a neuadd y pentref yn agos i'r safle yn ogystal â 5 ty arall.  Wrth natur, roedd Llanddona gyda nifer o dai yn britho'r tirlun.  Roedd am sicrhau yr aelodau y câi'r ty ei adeiladu i doddi i mewn i'r tirlun ac argymhellodd caniatáu'r cais hwn.

 

 

 

Dywedodd y cynghorydd Bessie Burns bod dyletswydd i annog pobl ifanc i ddychwelyd i'r ardal i fyw.  Ni fyddai cynyddu ardal gydag un ty arall yn tynnu oddi wrth y tirwedd cefn gwlad, yn arbennig o gofio fod 5 ty arall gerllaw.

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd Arwel Edwards na allai gefnogi'r cais.

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd John Roberts fod tai yn Llanddona wedi eu gwasgaru dros ardal eang wrth natur.

 

 

 

Roedd y Cynghorydd Arthur Jones hefyd yn teimlo fod cyfrifoldeb i annog pobl ifanc i ddychwelyd i fyw i'r ardal, hefyd i helpu'r genhedlaeth hyn i allu ymddeol a pharhau i fyw o fewn eu cymuned leol, i gryfhau ac i gadw cymunedau lleol yn fyw.

 

 

 

Roedd y Cynghorydd Glyn Jones wedi sylwi fod cofnodion yr ymweliad safle yn nodi nad oedd gan yr Adran Priffyrdd unrhyw wrthwynebiad i'r cynnig, ac eto roedd adroddiad y swyddog i'r Pwyllgor hwn yn dweud fel arall.  Yr oedd yn gwerthfawrogi bod yn rhaid i aelodau fod yn gyson wrth wneud penderfyniadau, roedd yn teimlo ychydig o bryder ynglyn â llain gwelededd mewn mynediad o ryw 30 metr oddi wrth dro drwg yn y ffordd.

 

      

 

     Dywedodd y Pennaeth Rheoli Cynllunio bod Llanddona wrth natur wedi ei rannu yn ddwy ran - y pentref a'r traeth. Rôl y Pwyllgor oedd gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar bolisïau, nid oedd hwn yn "ardal lwyd".  Byddai'n cael effaith niweidiol ar gymeriad yr ardal ac ar dreftadaeth ein plant.  Darllenodd y swyddog rannau o ddarpariaethau polisi 53 o'r Cynllun Lleol ac argymhellodd yn gryf iawn fod y cais yn cael ei wrthod.

 

      

 

     Dywedodd yr Uwch Peiriannydd Priffyrdd mai camddealltwriaeth oedd wedi achosi iddo gael ei adrodd yn yr ymweliad safle nad oedd yr Adran Priffyrdd ag unrhyw wrthwynebiad ar sail priffyrdd i'r cynnig.  Roedd yr Adran Briffyrdd yn gwrthwynebu'r cais hwn ac yn argymell ei wrthod ar sail priffyrdd.

 

      

 

     Ychwanegodd y Cynghorydd Hefin Thomas fod y ffordd hon yn cael ei defnyddio'n helaeth iawn yn barod gan gerbydau yn mynd i lawr ac i fyny o'r traeth yn ystod misoedd o'r haf.

 

      

 

     Am y rhesymau a roddwyd cynigiodd y Cynghorydd D. Lewis-Roberts fod y cais yn cael ei gymeradwyo, ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Tecwyn Roberts.

 

      

 

     Argymhellodd y Cynghorydd Eurfryn Davies fod y cais yn cael ei wrthod.

 

      

 

     O 8 bleidlais i 7 PENDERFYNWYD caniatáu'r cais hwn am y rhesymau â ganlyn :

 

      

 

Ÿ

mae'r ymgeisydd yn berson lleol sy'n dymuno dychwelyd i fyw yn y gymuned

 

Ÿ

mae safle'r cais wedi ei amgylchynnu gan eiddo arall

 

Ÿ

natur ar wasgar Llanddona

 

Ÿ

cydymffurfio gyda Pholisi 53

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor byddai'r cais hwn yn cael ei ohirio yn awtomatig i'r cyfarfod nesaf er mwyn caniatáu i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu'r cais.

 

 

 

4.4

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     29C112 - CAIS AMLINELLOL I GODI 6 ANNEDD YNGHYD AG ALTRO Y FYNEDFA GERBYDAU BRESENNOL AR DIR YN GYFAGOS I Y BRYN, LLANFAETHLU

 

      

 

     Yn y cyfarfod blaenorol roedd y swyddog wedi argymell fod yr aelodau yn ymweld â'r safle a digwyddodd hyn ar 16 Chwefror 2005.  Roedd y swyddog yn argymell y dylai ystyriaeth o'r cais hwn gael ei ohirio gan fod rhai materion yn parhau heb eu trafod.

 

      

 

     Am y rhesymau a roddwyd PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais hwn.

 

      

 

4.5

CEISIADAU ECONOMAIDD

 

      

 

     30C385A - DYMCHWEL Y GWESTY PRESENNOL A CHODI ADEILAD 5 LLAWR YN CYNNWYS 28 O FFLATIAU PRYNU I OSOD, PWLL NOFIO DAN DO, GYMNASIWM YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU, ADDASU MYNEDFA I GERBYDAU PRESENNOL A GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD YNG NGWESTY BRYN TIRION, TRAETH COCH

 

      

 

     Datganodd y Cynghorydd R. Ll. Hughes diddordeb yn y cais hwn ac ni chymerodd ran yn y trafodaethau.

 

      

 

     Roedd yr aelodau wedi ymweld â'r safle ar 20 Hydref 2004.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod adroddiad ymgynghorwyr annibynnol wedi eu hanfon ymlaen i'r ymgeisydd a bod disgwyl am eu hymateb.  Hyd nes bo'r swyddogion mewn sefyllfa i gasglu adroddiad ar y cais roedd am argymell fod y cais hwn yn cael ei dynnu'n ôl oddi ar y rhaglen.

 

      

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd Tecwyn Roberts yn dymuno iddo gael ei gefnogi ei fod ef yn parhau yn ddiduedd gan nad oedd wedi trafod y cais nac wedi mynychu unrhyw gyfarfod ynglyn ag ef.  Roedd y Cynghorydd Hefin Thomas am iddo gael ei gofnodi na chymerodd unrhyw ran yn y drafodaeth ar yr eitem hwn.

 

      

 

     Am y rheswm a roddwyd cytunwyd y dylai'r cais hwn gael ei dynnu yn ôl o'r rhaglen.

 

      

 

      

 

4.6

CAIS YN GWYRO

 

      

 

     34LPA8590CC - CAIS AMLINELLOL AR GYFER CREU FFORDD A THROED FFORDD NEWYDD, YSGOL NEWYDD, CANOLFAN INTEGREDIG NEWYDD, STAD O DAI AC UNED ADEILADWAITH NEWYDD AR RAN O DIR COLEG MENAI, LLANGEFNI

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Bryan Owen, yr aelod lleol, ei fod yn Is-Gadeirydd Clwb Pêl-droed Llangefni a bod rhan o safle'r clwb pêl-droed yn dod i mewn i'r cais.  Ar gyngor y cyfreithiwr ni chymerodd ran yn y trafodaethau.

 

      

 

     Roedd y Cynghorwyr John Roberts a Hefin Thomas yn dymuno iddo gael ei gofnodi iddynt adael y cyfarfod ac iddynt beidio â chymeryd rhan yn y trafodaethau ar y cais.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Arthur Jones iddo dderbyn llythyr oddi wrth y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cynllunio yn gofyn y cwestiwn a ddylai yntau hefyd ddatgan ddiddordeb yn y cais hwn.  Dywedodd y Cynghorydd Jones nad oedd ganddo unrhyw diddordeb i'w ddatgan mewn unrhyw 'ganolfan integredig' ac, felly fe fyddai yn cymryd rhan yn y drafodaeth ar y mater hwn.

 

      

 

     Yn y cyfarfod blaenorol penderfynodd yr aelodau ohirio gwneud penderfyniad ar y cais hwn hyd nes y ceid manylion pellach a mwy manwl ynglyn â'r cais.  

 

      

 

     Mewn ymateb i'r cais am fwy o wybodaeth, rhoddwyd ychydig o funudau i'r aelodau i ddarllen ymateb Pennaeth Gwasanaethau Ymgynghorol Gwynedd a roddwyd gerbron yn y cyfarfod.

 

      

 

     Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cynllunio fod y cynnig yn union fel yr adroddwyd arno yng nghofnodion y cyfarfod blaenorol ac wrth gymryd yr holl gynnig i ystyriaeth, drwyddo draw, roedd yn argymell caniatáu'r cais hwn ac fe fyddai'n cael ei anfon ymlaen i Lywodraeth Cynulliad Cymru i roddi cyfle iddynt alw'r cais i mewn.

 

      

 

     Ymatebodd y Cynghorydd Arthur Jones yn fanwl i adroddiad y swyddog gan gwestiynu pam nad oedd angen i unrhyw asesiad effaith amgylcheddol yn yr achos hwn (yn unol â thudalen 12 o'r Cynllun Lleol; para 2.13, rhestr 1 o PPW - tudalen 39/40 o para 4.33).  Y dyraniad tai i Langefni o fewn y CDU esblygol oedd 120 o dai dros gyfnod o 15 mlynedd, ac roedd y cynnig hwn yn unig yn argymell tua 60 o'r dyraniad hwn.  Cododd hefyd y materion a ganlyn :

 

      

 

Ÿ

pam nad oedd sylwadau'r Adran Priffyrdd ar gael

 

Ÿ

effaith ar fwynderau preswylwyr cyfagos

 

Ÿ

diffyg ymateb oddi wrth Gyngor y Dref

 

Ÿ

byddai rhaid symud y llwybr cyhoeddus

 

Ÿ

gwrthwynebiad Dwr Cymru yn ymwneud â system carthffosiaeth y dwr wyneb integredig

 

Ÿ

gwrthwynebiadau lleol

 

Ÿ

y tu allan i ffiniau Cynllun Datblygu a'r CDU

 

Ÿ

pam "fe ystyrir y byddai caniatáu'r datblygiad preswyl yn dderbyniol i hwyluso datblygu'r cyfleusterau addysgol"

 

Ÿ

bwriadau tirlunio (Polisi 30 a 32 Cynllun Lleol, PPW para 5.2.8)

 

Ÿ

pam na chymerwyd Polisi 52 o'r Cynllun Lleol i ystyriaeth mewn perthynas â'r cais hwn ? Dim ond rhyw 20 o'r 60 o'r tai a fwriedir fyddai'n dai fforddiadwy, pam dim ond 30% yng ngolau Polisi 52 ?

 

      

 

      

 

      

 

      

 

Ÿ

pa ran o'r safle sydd wedi ei ddynodi ar gyfer tai a'r dwysedd ddoi o hynny

 

Ÿ

HP3 datblygiad tai yn y prif ganolfannau - dim ond ar safleoedd wedi eu dyrannu o fewn y ffin

 

Ÿ

darllenwyd para 16.46 y CDU esblygol a chwestiynodd y Cynghroydd Jones a oedd y cais hwn yn cynrychioli mwy na 20% o'r dyraniad tai i ardal Llangefni.

 

Ÿ

darllenwyd Polisi HP7 (tai fforddiadwy) o'r CDU, yn cynnwys para. 16.70

 

Ÿ

colli tir amaethyddol da

 

Ÿ

darpariaethau o fewn Polisïau Cynllunio Cymru y dylid eu nodi :

 

Ÿ

para 1.2.1, para 1.2.3, para 10.2.9 dilyniadol, 9.2.21, 9.31 datblygiad tai ar raddfa arwyddocaol, 9.2.15 anghenion tai fforddiadwy, 9.2.10 datblygiad tai newydd sylweddol, 3.4.2, 3.5.5, 2.11.4, 3.2.2 rhag benderfynu cyfranogiad, 3.3.2, 3.1.2, 2.10.3, 2.6.16 datblygu amhriodol, 2.5.5 annog defnydd cymysg.

 

 

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cynllunio ei fod yn cytuno gyda llawer o'r pwyntiau godwyd gan y Cynghorydd Jones ond er hynny roedd y cynnig hwn i'w hystyried yn ei gyfanrwydd fel un pecyn ac nid fel cyfres o ddatblygiadau unigol.  Byddai hwn yn fuddsoddiad mawr, a byddai'r darpariaethau o fewn y pecyn o fudd sylweddol i Langefni ac i'r Ynys gyfan.  Er fod digon o le i adeiladu ysgol arall ar y safle nid oedd Ysgol y Bont o dan ystyriaeth fel rhan o'r pecyn hwn - roedd Ysgol y Bont yn fater i'r Adran Addysg.  Roedd barn sgopio amgylcheddol wedi ei wneud ac oedd yn dod i'r casgliad nad oedd asesiad effaith amgylcheddol yn angenrheidiol ar gyfer y cynllun hwn.  Mae'r tir sy'n cael ei effeithio gan y cais hwn wedi ei ddosbarthu fel C2 - tir o ansawdd canolig sydd ar ffin y dref.  Er na chafwyd unrhyw ymateb ysgrifenedig ffurfiol oddi wrth y Cyngor Tref fe gafwyd adwaith gadarnhaol mewn cyflwyniad a roddwyd iddynt ar 7 Chwefror 2005.  Roedd yr Adran Priffyrdd yn cefnogi'r cais o osod amodau. Y mae'n bosibl symud a gwneud lle i'r llwybr cyhoeddus.  Roedd swyddogion yn cefnogi'r bwriadau tirlunio.  Roedd yr elfen dai yn cael ei ystyried yn dderbyniol ond hynny yn ei gyd-destun fel rhan o'r cynllun cyfan - roedd y cynllun tai yn cael ei ystyried fel eithriad yn ôl y polisïau.  Byddai tai cymdeithasol yn cael eu cynnwys o fewn y 30% a ddyrannwyd ar gyfer tai fforddiadwy.

 

 

 

Dywedodd Cynghorydd R. Ll. Hughes nad oedd ganddo broblem gyda'r cynllun mewn egwyddor, er fod ganddo amheuon ynglyn â'r ddarpariaeth tai fforddiadwy.  Cynigiodd dderbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad o ganiatáu y cais hwn.

 

 

 

Mynegodd y Cynghorydd Peter Rogers ei bryder fod Ysgol y Bont allan o'r cynlluniau ac heb fod o fewn y cynllun.

 

 

 

Mynegodd y Cynghorydd Eurfryn Davies bryder ynglyn â'r effaith gâi adeiladu 60 o dai ar yr ardal hon.

 

 

 

Nid oedd gan y Cynghorydd Arthur Jones unrhyw broblem gyda symud yr ysgol a'r ganolfan integredig, ond roedd yn rhaid i'r cais gael ei drin fel pob un arall.  Beth fyddai'r ymateb i gais o'r fath i adeiladu 60 o dai gan ddatblygwr arall ?  Beth fyddai cost y gwelliannau i'r priffyrdd i'r Cyngor ?

 

 

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol bod y cais hwn yn gwneud darpariaethau ar gyfer un ysgol yn unig ond gyda lle i un arall.  Mae'n debyg y byddai argymhelliad  i godi'r dyraniad tai o fewn y CDU.  Roedd y swyddogion cynllunio wedi dilyn y gweithdrefnau cywir wrth ddelio gyda'r cais hwn.

 

 

 

O 9 bleidlais i 4 PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog ac i gyfeirio'r cais i Lywodraeth Cynulliad Cymru gydag argymhelliad fod cymeradwyo'r cais yn cael ei ddirprwyo i Bennaeth y Gwasanaeth Cynllunio, yn amodol i'r cyfnod ymgynghori ddod i ben a gydag amodau ac ymrwymiad un ochrog o dan Adran 106 fel a fanylir yn yr adroddiad, yn unol gyda'r gweithdrefnau perthnasol geir yn y cyfarwyddiadau (Cynlluniau Datblygu ac Ymgynghoriad) Gwlad a Thref 1992.  Canlyniad y cyfeirio i Lywodraeth Cynulliad Cymru i'w adrodd yn ôl i'r Pwyllgor yn y dyfodol.

 

 

 

 

 

 

 

4.7

CAIS ECONOMAIDD

 

      

 

     34C303F/1 - CODI 15 O DAI YN CYNNWYS 6 ANNEDD UN TALCEN A TERAS O 3 ANNEDD YN BRO EDNYFED, LLANGEFNI

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Cynnig oedd hwn i newid cynllun a gymeradwywyd yn y gorffennol sef cynyddu nifer o'r unedau preswylio o'r 8 blaenorol i 15.  Byddai'r rhain yn rhai dwy lofft fesul pâr ac un o'r blociau yn deras tair annedd.  Mae safle'r cais yn cynnwys rhan o stad breswyl fawr,  rhannau ohoni yn dal i gael eu hadeiladu, gyda 97 o unedau wedi derbyn cais cynllunio, a 22 ohonynt wedi eu dyrannu fel tai fforddiadwy.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio i'r ddarpariaeth tai fforddiadwy, agosrwydd a phroblemau edrych trosodd gael eu datrys, a fod y cais hwn yn dderbyniol o osod Cytundeb Adran 106 i sicrhau hyn.

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd D. Lewis-Roberts fe ddywedodd y swyddog ei fod yn gyfaddawd teg y byddai dau o'r tai yn dai fforddiadwy.

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn y Cynghorydd Hefin Thomas dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio i ffigyrau "tai cost isel" gael eu gosod gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, a fod y cyfarwyddyd ynglyn â chost dderbyniol ar gyfer ty dwy lofft tua £70,000 y flwyddyn ddiwethaf.

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd R. Ll. Hughes ganiatáu'r cais hwn, ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Peter Dunnig.

 

      

 

     O 13 pleidlais PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais hwn am y rhesymau a roddwyd, gyda'r amodau geir yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

      

 

4.8

CAIS ECONOMAIDD

 

      

 

     34C72J - DYMCHWEL YR ADEILADAU DIDDEFNYDD PRESENNOL YNGHYD AG AILDDATBLYGU'R SAFLE GYDAG ADEILAD 3 LLAWR YN CYNNWYS SWYDDFEYDD, SIOPAU A CHYFLEUSTERAU STORIO YN YR ISLAWR YNGHYD AG ADDASU'R FYNEDFA I GERBYDAU PRESENNOL YNG NGWASANAETHAU HERON, FFORDD GLANHWFA, LLANGEFNI

 

      

 

     Daethpwyd a'r cais hwn gerbron y Pwyllgor ar gais yr aelod lleol.  Ymwelwyd â safle'r cais ar 17 Tachwedd 2004.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y swyddogion yn disgwyl bod mewn sefyllfa i gyflwyno adroddiad i gyfarfod nesaf y Pwyllgor hwn.

 

      

 

     PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais hwn am y rheswm a roddwyd.

 

      

 

      

 

4.9

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     37C71A - ESTYNIAD I'R CWRTIL YN BRYN Y FELLTEN, LLANEDWEN, LLANFAIRPWLL

 

      

 

     Daethpwyd â'r cais hwn i'w benderfynu gan y Pwyllgor gan fod rhan o safle'r cais ym mherchnogaeth yr Awdurdod Lleol.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod swyddogion yn parhau i ymgynghori gyda'r ymgeiswyr ac argymhellodd ohirio ystyried y cais hwn am y rheswm a roddwyd.

 

      

 

     PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais hwn.

 

      

 

4.10

CAIS YN GWYRO

 

      

 

     38C213 - CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU A GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD AR DIR YN GYFAGOS I GLAN GORS, RHOS-GOCH

 

      

 

     Daethpwyd â'r cais hwn gerbron y Pwyllgor i'w benderfynu ar ofyn yr aelod lleol.

 

      

 

     Yng nghyfarfod mis Chwefror penderfynodd yr aelodau gymeradwyo'r cais hwn, yn groes i argymhelliad y swyddog i wrthod, am y rhesymau a ganlyn.

 

      

 

Ÿ

y mae elfen o fforddiadwyaeth yn y cais gan fod yr ymgeiswyr yn gwbl ifanc

 

Ÿ

mae'r tir amaethyddol o ansawdd gwael ac yn greigiog

 

Ÿ

mae o leiaf 9 eiddo arall o fewn clwstwr yn yr ardal.

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor fe ohiriwyd y cais er mwyn caniatáu i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros gymeradwyo'r cais hwn.

 

 

 

Yng nghyfarfod mis Mawrth fe dderbyniodd yr aelodau argymhelliad y swyddog i ohirio ystyried y cais er mwyn caniatáu i swyddogion ymchwilio materion technegol a godwyd yn ystod yr ymgynghori.  

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod yr ymgeisydd, mewn ymateb i'r materion technegol a godwyd yn bwriadu yn awr adeiladu y tu allan i'r safle a nodwyd yn y cais gwreiddiol, ac felly byddai rhaid ymgynghori ymhellach eto.

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais hwn yn dilyn ymgynghori pellach.

 

 

 

 

 

4.11

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     40C28E - CODI BLOC FFLATIAU GYDA 8 UNED YNGHYD AG ADDASU MYNEDFA I GERDDWYR AC I GERBYDAU YNGHYD Â THORRI COED A PHERTHI AR DIR YN GYFAGOS I'R WHEEL & ANCHOR, MOELFRE

 

      

 

     Yng nghyfarfod mis Chwefror, ar argymhelliad y swyddog, penderfynodd yr aelodau ymlwed â'r safle ac fe wnaed hyn ar 16 Chwefror 2005.  Penderfynwyd gohirio ystyried y cais yng nghyfarfod mis Mawrth hyd nes y byddai ymgynghori gyda'r ymgeiswyr wedi dod i ben.

 

      

 

     Argymhellodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y cais yn cael ei ohirio ymhellach hyd nes y byddid wedi derbyn gwybodaeth ychwanegol yn ymwneud â llifogydd.

 

      

 

     PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais hwn hyd nes y byddai ymgynghori gyda'r ymgeiswyr wedi ei gwblhau.

 

      

 

      

 

4.12

CAIS YN GWYRO

 

      

 

     44C232 - CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU A GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD AR DIR YN GYFAGOS I PENRHYN FAWR, RHOSYBOL

 

      

 

     Cyfeiriwyd y cais hwn i'r Pwyllgor ar ofyn yr aelod lleol.   Yng nghyfarfod mis Mawrth penderfynodd yr aelodau ohirio ystyried y cais hwn ar ofyn yr ymgeisydd.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod yr ymgeiswyr erbyn  hyn wedi symud mynedfa arfaethedig mewn ymateb i wrthwynebiad yr Adran Priffyrdd oherwydd gwelededd gwael i'r gogledd o'r fynedfa.  Nid oedd unrhyw angen amaethyddol na choedwigaeth wedi ei gyflwyno gan yr ymgeiswyr.  Roedd y swyddog yn argymell gwrthod y cais hwn oedd yn gwyro gan ei fod yn groes i Bolisi A6 o Gynllun Fframwaith Gwynedd, Polisi 53 o Gynllun Lleol Ynys Môn, Polisïau CDU perthnasol a'r cyngor a geir o fewn Polisi Cynllunio Cymru.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Aled Morris Jones fod yr ymgeiswyr yn barod i dderbyn cymal yn unol â Pholisi HP7 o'r CDU.  Byddai'r teulu ifanc hwn yn cefnogi'r ysgol leol a'r capel, ac yn hybu arallgyfeirio amaethyddol.  Roedd yr ymgeiswyr hefyd yn barod i ystyried safle mwy derbyniol.

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd D. Lewis-Roberts dywedodd y swyddog fod y Cyngor Cymuned Lleol wedi ei hysbysu o'r newidiadau i'r fynedfa ond nad oeddynt wedi cael cyfle i ystyried y newidiadau hyn.

 

      

 

     Mynegodd y Cynghorydd Hefin Thomas ei gefnogaeth, ac atgoffodd yr aelodau i fod yn gyson yn eu penderfyniadau - roedd cyfiawnhad dros y cais hwn, roedd yr ymgeiswyr wedi eu magu yn lleol ac yn dymuno dychwelyd i fyw yma ac nid oedd y safle yn y cefn gwlad.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd John Byast yn cefnogi'r ffaith fod y pobl ifanc hyn yn dymuno dychwelyd i'r ardal i fyw - roedd y cais yn un am annedd unigol.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio ei bod hi'n hollol amlwg fod safle'r cais yn y cefn gwlad ac atgoffodd yr aelodau i fod yn gyson yn eu penderfyniadau.  Roedd ffin Rhos-y-bol tua 400 - 500 llath i ffwrdd, nid yw safle'r cais ar y ffin.  Nid oedd yr opsiwn o addasu adeiladau presennol wedi cael ei ymchwilio.  Roedd yr argymhelliad yn parhau yn un o wrthod er nad oedd yr Adran Priffyrdd yn gwrthwynebu'r cynnig.

 

      

 

     Argymhellodd y Cynghorydd Hefin Thomas fod y cais yn cael ei gymeradwyo, yn groes i argymhelliad y swyddog i wrthod, ac fe eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Arthur Jones ac ychwanegodd fod yr ymgeiswyr yn bersonau lleol Cymraeg oedd yn dymuno adeiladu cartref fforddiadwy.

 

      

 

     Argymhellodd y Cynghorydd Keith Thomas dderbyn adroddiad y swyddog a'i argymhelliad i wrthod y cais hwn.  Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Arwel Edwards.

 

      

 

     O 8 pleidlais i 6 penderfynwyd derbyn adroddiad y swyddog a'i argymhelliad o wrthod am y rhesymau a roddwyd.

 

      

 

5     CEISIADAU ECONOMAIDD

 

      

 

     Nodwyd nad oedd unrhyw geisiadau economaidd wedi eu cyflwyno i'w hystyried yn y cyfarfod hwn.

 

      

 

6     CAIS YN GWYRO

 

      

 

6.1

17C367 - CAIS AMLINELLOL I GODI TY AMAETHYDDOL YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU A GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD AR DIR CYFAGOS I FODOL, LLANDEGFAN

 

      

 

     Yr aelod lleol oedd wedi gofyn am i'r cais hwn ddod gerbron y Pwyllgor i'w ystyried.

 

      

 

     Disgrifiwyd y cais gan y Rheolwr Rheoli Cynllunio a rhoddodd amlinelliad o hanes cynllunio'r safle fel yr oedd i'w gael yn adroddiad y swyddog.  Roedd dau lythyr ychwanegol yn gwrthwynebu wedi dod i law.  Mae safle'r cais yn rhan o gae yn y cefn gwlad.  Roedd cais tebyg wedi ei wrthod yn 2003.  Nid oedd gan ymgynghorwyr statudol unrhyw wrthwynebiad i'r cynnig.  Polisïau perthnasol a gymerwyd i ystyriaeth oedd Polisi 53 o'r Cynllun Lleol, A6 o Gynllun Fframwaith Gwynedd, HP6 o'r CDU a TAN 6 o Bolisi Cynllunio Cymru.  Tra oedd y swyddog yn cytuno fod angen amaethyddol, mae safle'r cais allan yn y cefn gwlad ac roedd

 

      

 

      

 

      

 

      

 

     hyn yn annerbyniol, gan fod adeiladau allanol yn ymyl prif adeiladau'r fferm y gellid eu hystyried yn briodol addas i'w haddasu.  Roedd y swyddog yn argymell gwrthod y cais hwn.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd Eurfryn Davies, yr aelod lleol, yn dymuno nodi nad oedd y cais blaenorol a wrthodwyd yn 2003 yn un am annedd "amaethyddol".  Roedd yr ymgeisydd yn ddyn ifanc lleol, ar hyn o bryd yn byw yng Ngwalchmai, roedd ganddo fusnes llwyddiannus a rhesymau dilys dros ddewis y safle arbennig hwn.

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Peter Rogers dywedodd y swyddog bod adroddiad amaethyddol yn cadarnhau fod yna angen wedi ei gyfiawnhau ar gyfer annedd gyfan ac mai asgwrn y gynnen oedd lleoliad y plot.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Eurfryn Davies ei fod yn rhesymegol y dylai'r annedd gael ei lleoli yma - ni allai'r swyddog gytuno gyda hyn.

 

      

 

     Cytunodd y Cynghorydd Hefin Thomas y dylai'r annedd gael ei leoli yma gan na fyddai'r ymgeisydd yn gallu rheoli ei fferm ac yntau yn byw gryn bellter i ffwrdd, a mynegodd ei gefnogaeth i'r cais.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Arthur Jones fod yr ymgeisydd wedi pasio'r profion gweithredol ac arferol ac awgrymodd y dylai'r aelodau ymweld â'r safle i asesu'r lleoliad drostynt eu hunain.

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd Glyn Jones hefyd y dylai'r aelodau ymweld â'r safle, ac fe eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Arwel Edwards.

 

      

 

     Nid oedd y Cynghorydd Eurfryn Davies yn cytuno fod ymwelid safle yn angenrheidiol a chynigiodd gymeradwyo'r cais, yn groes i argymhellion y swyddog.

 

      

 

     Fe wnaeth y cyfreithiwr sylw, gan gyfeirio at ddatganiad y Cynghorydd Davies, ei fod wedi trafod y mater gyda'r ymgeisydd, cwestiynodd a oedd yr aelod lleol wedi trafod rhinweddau'r cais gyda'r ymgeisydd ac, os oedd, cynghorwyd y Cynghorydd Davies na ddylai gymryd rhan mewn gwneud penderfyniad ar y cais.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymlwed â'r safle i asesu'r lleoliad.

 

      

 

6.2

35C108D - CAIS AMLINELLOL I GODI BYNGALO YNGHYD AG ADDASIADAU I'R FYNEDFA BRESENNOL AR BLOT GARDD GER TEGFRYN, LLANGOED

 

      

 

     Daethpwyd â'r cais hwn gerbron y Pwyllgor ar gais yr aelod lleol.

 

      

 

     Adroddodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio ar hanes cynllunio'r safle a'r egwyddor o ddatblygu o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol fel yr adroddwyd arno yn adroddiad y swyddog.  Roedd copi o benderfyniad yr Arolygydd Cynllunio i wrthod apêl yn erbyn gwrthod y cais yn flaenorol ynghlwm wrth adroddiad y swyddog.  Roedd gwrthwynebiadau wedi eu derbyn gan nifer o bobl gan gynnwys cymdogion, yr aelod lleol a'r CPRW.  Darllenodd allan ran o'r llythyr dderbyniwyd oddi wrth y Cynghorydd lleol yn gwrthwynebu'r cais.  Roedd ymgynghorwr statudol wedi cyflwyno sylwadau ond heb wrthwynebu.  Y polisïau perthnasol a ystyriwyd oedd Polisi A6 o Gynllun Fframwaith Gwynedd, 53 o'r Cynllun Lleol, HP6 o'r CDU.  Nid oedd gwahaniaeth mawr rhwng y cais hwn a'r un a wrthodwyd cyn hyn - roedd y swyddog yn argymell gwrthod y cais hwn oedd yn gwyro.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Eurfyn Davies mai cais oedd hwn i adeiladu mewn gardd a nododd, oddi wrth adroddiad yr Arolygydd Cynllunio, fod y safle yn gorwedd ymysg clwstwr o 15 o anheddau, ac felly fe ellid ystyried hwn fel "mewnlenwi", at atgoffodd yr aelodau i fod yn gyson yn eu penderfyniadau.  Mae'r safle 1 filltir o lan-y-môr, ac roedd y Cynghorydd Davies yn teimlo na allai'r stribed hwn o dir gael ei ddisgrifio fel un a oedd o fewn yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ac argymhellodd fod yr aelodau yn ymweld â'r safle.

 

      

 

      

 

      

 

     Cyfeiriodd y Cynghorydd Arwel Edwards yr aelodau at baragraff 7 (rhesymau a chasgliadau) yn adroddiad yr Arolygydd Cynllunio.

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd R. Ll. Hughes hefyd fod yr aelodau yn ymweld â'r safle.

 

      

 

     O 8 pleidlais fe BENDERFYNWYD ymlwed â safle'r cais i asesu'r safle.

 

      

 

6.3

36C50N - CAIS LLAWN I GODI ANNEDD I'R RHEOLWR YNGHYD Â GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD YM MHARC GWLEDIG HENBLAS, BODORGAN

 

      

 

     Roedd y cais hwn wedi ei ddwyn gerbron y Pwyllgor i'w ystyried ar ofyn yr aelod lleol.

 

      

 

     Cafwyd disgrifiad o'r safle gan y Rheolwr Rheoli Cynllunio fel ag yn adroddiad y swyddog.  Y polisïau perthnasol a ystyriwyd oedd Polisi A6 o Gynllun Fframwaith Gwynedd, 53 o'r Cynllun Lleol, HP6 o'r CDU a'r cyngor geir yn TAN 6 o Bolisi Cynllunio Cymru.  Nid oedd unrhyw dystiolaeth wedi ei darparu i gyfiawnhau cymeradwyo'r cais hwn.  Roedd carafan barhaol ar y safle, ac fe werthwyd yr ysgubor degwm yn 2003, mae hefyd adeiladau na ddefnyddir nhw bellach ar y safle.  Nid oes parc carafannau ar y safle ac nid oes trwydded chwaith ar gyfer gweithgaredd o'r fath.  Ar sail y dystiolaeth ddarparwyd roedd y swyddog yn teimlo ei bod yn gynamserol i gymeradwyo'r cais hwn.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd R. Ll. Hughes yn teimlo y dylid cefnogi arallgyfeirio.  Roedd yr ymgeiswyr wedi prynu Henblas rhyw 10/12 mlynedd yn ôl ac maent eisoes wedi sefydlu busnes llwyddiannus sydd yn arallgyfeirio oddi wrth ffermio.  Byddai rhoddi caniatâd yma yn galluogi iddynt ehangu'r busnes gyda bwriadau pellach i ddatblygu lle ymarfer golff a pharc carafannau ar gyfer 32 o garafannau symudol.  Roedd y Cyngor Cymuned yn cefnogi'r cais.  Roedd y Cynghorydd Hughes yn teimlo nad oedd y cais yn torri Polisi 1, polisïau 31, 42, 48, 53 (para 5.3.3) o Gynllun Lleol Ynys Môn.  Nid oedd yr ysgubor ddegwm yn addas i'w haddasu oherwydd ei maint a'i safle amhriodol ar y safle.  Am y rhesymau hyn roedd y Cynghorydd Hughes yn teimlo y dylid caniatáu byngalo 3 lloft syml.  Dywedodd y Cynghorydd R. Ll. Hughes nad oedd y rheswm (02) yn adroddiad y swyddog yn rheswm dilys dros wrthod y cais hwn gan ei fod yn gynamserol.

 

      

 

     Dywedodd y swyddog fod y Cynghorydd Hughes wedi cynnig llawer mwy o wybodaeth yn ei gyflwyniad nag oedd wedi cael ei gyflwyno yn y cais.  Nid oedd yn afresymol i'r swyddogion  ofyn am dystiolaeth o'r defnydd busnes.

 

      

 

     Teimlad y Cynghorydd Peter Rogers oedd y dylai'r cais hwn gael ei roi ar seiliau diogelwch, ac er mwyn cynaliadwyaeth y busnes; nid oedd yn ystyried ei fod yn gynnig dichonol i addasu'r adeiladau allanol oedd eisoes yn cael eu defnyddio fel rhan o'r gweithgareddau presennol, roedd yr ymgeisydd wedi buddsoddi yn yr economi lleol dros y blynyddoedd diwethaf.  Cynigiodd y Cynghorydd Rogers y dylid caniatáu'r cais, yn groes i argymhelliad y swyddog o wrthod, ac fe eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Glyn Jones.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd Arthur Jones yn teimlo y dylid rhoddi cyfle i'r ymgeisydd gyflwyno tystiolaeth bellach i gefnogi'r cais.  Cynigiodd y Cynghorydd John Roberts y dylai'r cais gael ei ohirio ar gyfer ymgynghori ymhellach gyda'r ymgeiswyr.

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd D. Lewis-Roberts y dylid derbyn adroddiad y swyddog a'i argymhelliad i wrthod, ac fe eiliwyd hyn gan y Cynghorydd John Roberts.

 

      

 

     O 8 bleidlais i  7 PENDERFYNWYD caniatáu'r cais, yn groes i argymhelliad y swyddog i wrthod, am y rhesymau a ganlyn :

 

Ÿ

hwsmonaeth a lles anifeiliaid

 

Ÿ

dioglewch

 

Ÿ

yr angen am rywun ar y safle drwy'r dydd

 

Ÿ

angen busnes

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor bydd y cais hwn yn cael ei ohirio i'r cyfarfod nesaf er mwyn caniatáu i'r swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros gymeradwyo'r cais.

 

 

 

Nododd y Cynghorydd Arthur Jones i aelodau adael y Siambr yn ystod y cyflwyniad i'r ddau gais cynllunio olaf a chwestiynodd y priodoldeb fod aelodau yn pleidleisio ar geisiadau wedi iddynt ddychwelyd i'r Siambr pan nad oeddynt wedi clywed y cyflwyniad.

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cytunodd yr aelodau i gael toriad o 10 munud gan fod y cyfarfod eisoes wedi parahu am 3 awr.

 

 

 

6.4

38C217 - CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD YNGHYD Â RHOI MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU A GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD AR DIR YN FOEL FAWR, TREGELE

 

      

 

     Yr aelod lleol oedd wedi gofyn am i'r cais hwn gael ei ddwyn gerbron y Pwyllgor i'w ystyried.

 

      

 

     Cafwyd disgrifiad i'r safle a'r cynnig o dan ystyriaeth gan y Rheolwr Rheoli Cynllunio yn unol â'r manylion yn adroddiad y swyddog.  Cyfeiriodd sylw'r aelodau at hanes cynllunio'r safle.  Roedd y Cyngor Cymuned yn cefnogi'r cais, roedd ymgynghorwyr statudol yn cyflwyno sylwadau ond yn gwrthwynebu'r cynnig.  Polisïau perthnasol i gymryd i ystyriaeth oedd Polisi A6 o Gynllun Fframwaith Gwynedd, 53 o'r Cynllun Lleol, HP6 o'r CDU, ac roedd y cais hwn yn cael ei ystyried i fod yn groes i bolisïau.  Roedd lleoliad y safle yn ymestyn i'r cefn gwlad.  Byddai'n debygol o osod cynsail pebai'r cais hwn yn cael ei ganiatáu oherwydd rhesymau gofalu am blant.  Roedd y swyddog yn argymell yn gryf bod y cais hwn yn cael ei wrthod gan ei fod yn hollol amlwg yn y cefn gwlad.

 

      

 

     Dosbarthwyd map ychwanegol gan y Cynghorydd Thomas Jones oedd yn dangos ffin  ddiffiniedig Tregele, ac roedd yn teimlo fod safle'r cais yn agos iawn i'r ffin ddanghosol - ac roedd lle gwag rhwng dwy annedd oherwydd cebl trydan o dan ddaear.  Postman lleol yw'r ymgeisydd ac mae ei wraig yn ymwelydd iechyd, ac mae yma angen lleol.  Ni chodwyd unrhyw wrthwynebiad yn lleol.  Roedd y Cynghorydd Jones yn teimlo fod y cais yn unol â pholisïau.  Roedd y cefn gwlad hefyd yn cynnwys teuluoedd.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd D. Lewis-Roberts yn cwestiynu'r llwybrau ddewisiwyd i'r traeniau a'r carthffosydd.

 

      

 

     Nododd y Cynghorydd Peter Rogers fod y cyngor cymuned lleol yn cefnogi'r cais.

 

      

 

     Atgoffodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio yr aelodau na ellir rheoli unrhyw ddeiliadaeth yn y dyfodol ac y dylai penderfyniadau fod yn seiliedig ar ddefnydd tir, ac atgoffodd yr aelodau hefyd nad oedd hwn yn gais am annedd fforddiadwy i gyfarfod ac angen lleol.

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Arthur Jones cadarnhaodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod y llinell derfyn yn nodi "clwstwr" ac nid "ffin datblygu".

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd D. Lewis-Roberts fod y cais yn cael ei gymeradwyo ac fe eiliwyd hyn gan y Cynghorwyr Glyn Jones a Tecwyn Roberts.

 

      

 

     O 10 bleidlais i 2, PENDERFYNWYD caniatáu'r cais, yn groes i argymhellion y swyddog i wrthod, ac am y rhesymau a ganlyn :

 

      

 

Ÿ

ar neu yn gyfagos i'r ffin ar gyfer Tregele

 

Ÿ

o fewn clwstwr o anheddau eraill yn unol â Pholisi 50 o'r Cynllun Lleol

 

Ÿ

y Cyngor Cymuned Lleol yn cefnogi'r cais.

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor byddai'r cais hwn yn cael ei ohirio i'r cyfarfod nesaf er mwyn caniatáu i'r swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu'r cais.

 

 

 

 

 

6.5

44C233 - CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU A GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD AR GAE O.S. 5173 RHOS-Y-BOL

 

      

 

     Ar gais yr aelod lleol y daethpwyd â'r cais hwn gerbron y Pwyllgor i'w ystyried.

 

      

 

     Cafwyd disgrifiad o'r safle gan y Rheolwr Rheoli Cynllunio a hefyd o'r cynigion oedd gerbron.  Polisïau perthnasol a ystyriwyd oedd Polisi A6 o Gynllun Fframwaith Gwynedd, 53 o'r Cynllun Lleol, HP6 o'r CDU ac roedd ymgynghorwyr statudol wedi gwneud sylwadau ond heb fod â gwrthwynebiad i'r cynnig.  Mae safle'r cais yn gorwedd rhyw 300m o ffin ddiffiniedig Rhos-y-bol.

 

      

 

     Dywedodd yr aelod lleol, y Cynghorydd Aled Morris Jones, fod y cais hwn yn cydymffurfio gyda Pholisi 50 o'r Cynllun Lleol gan fod y safle yn gorwedd o fewn clwstwr o anheddau.  Dylid ystyried y cais hwn fel eithriad ar sail iechyd, ac roedd y Cynghorydd Jones yn teimlo fod y cais hwn ar y ffin ar gyfer Rhos-y-bol.

 

      

 

     Yr hyn wnaeth y Rheolwr Rheoli Cynllunio oedd atgoffa'r aelodau nad oedd hwn yn cael ei nodi fel clwstwr ac y dylai'r penderfyniad fod yn seiliedig ar ddefnydd tir.

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd Arwel Roberts dderbyn adroddiad y swyddog a'i argymhelliad i wrthod.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a'i argymhelliad o wrthod y cais hwn.

 

      

 

6.6

48C115A - CAIS AMLINELLOL I GODI TY FFORDDIADWY YNGHYD Â GOSOD SYSTEM TRIN CARTHFFOSIAETH PREIFAT AR DIR GER DRIP BACH, GWALCHMAI

 

      

 

     Yr aelod lleol oedd yn dymuno i'r Pwyllgor ystyried y cais hwn.

 

      

 

     Cafwyd disgrifiad o'r safle a'r cynnig gan y Rheolwr Rheoli Cynllunio a chyfeiriodd at y cynllun oedd, ynghyd â'r adroddiad ysgrifenedig, yn dangos y safle mewn perthynas â ffin ddatblygu Gwalchmai.  Ni ellir cyfiawnhau cymeradwyo'r cais hwn, mae'r safle yn y cefn gwlad ac mae yn amlwg yn eithriad ac yn groes i bolisïau.  Nid oedd unrhyw dystiolaeth wedi ei chyflwyno gan yr ymgeiswyr ei fod am "gartref fforddiadwy" ac nid oedd chwaith ar gyfer "angen lleol", ac atgoffodd yr aelodau y dylent fod yn gyson yn eu penderfyniadau.

 

      

 

     Yn ôl yr aelod lleol, y Cynghorydd R. G. Parry, cais oedd hwn am dy fforddiadwy.  Mae safle'r cais yn agos iawn i ffordd newydd yr A55 ac nid yw yn rhy bell o'r ffin.  Mae'r ymgeisydd yn barod i wneud cytundeb i hwn fod yn dy fforddiadwy.

 

      

 

     Mewn ateb i'r Cynghorydd Arwel Edwards, fe ddywedodd y swyddog nad oedd yn credu fod y safle ar ffin y pentref.

 

      

 

     Teimlad y Cynghorydd Glyn Jones oedd bod nifer o dai yn yr ardal wedi eu gwasgaru dros ardal eang a chynigiodd ymweliad â'r safle a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Eurfryn Davies.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â safle'r cais.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

7     GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

7.1

12LPA854CC - EHANGU'R PALMANT CONCRID PRESENNOL ER MWYN DARPARU MANNAU EISTEDD YCHWANEGOL, PLINTH GWYBODAETH, MYNEDFA I'R ANABL, POLYN FFLAG NEWYDD A LLITHRFA GONCRID NEWYDD YN Y PIER, BIWMARES

 

      

 

     Daethpwyd â'r cais hwn gerbron y Pwyllgor gan ei fod yn cael ei gyflwyno gan y Cyngor Sir.

 

      

 

     Nododd y Cadeirydd y byddai'r prosiect hwn yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru o dan gynllun y Faner Las.

 

      

 

     Cafwyd diweddariad gan y Rheolwr Rheoli Cynllunio a dywedodd fod Cyngor y Dref yn cefnogi'r cais.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a'i argymhelliad bod y cais yn cael ei gymeradwyo am y rhesymau a roddwyd gyda'r amodau a geir yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

      

 

7.2

19C374D - CAIS I NEWID DEFNYDD Y DOC SYCH GWAG I LE PARCIO BYSUS YN FFORDD TURKEY SHORE, CAERGYBI

 

      

 

     Daethpwyd â'r cais hwn gerbron y Pwyllgor gan ei fod yn cael ei gyflwyno gan y Cyngor Sir ar ran Stena House, Caergybi.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd Arwel Roberts yn dymuno nodi ei fod yn rhannu teimladau'r Cynghorydd Dunning ei fod "a rhai pryderon y bydd y datblygiad yn golygu colli safle economaidd gwerthfawr, yn arbennig ar gyfer y diwydiant diwylliant dwr".

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd a chyda'r amodau a geir yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

7.3

19C894A - CAIS AMLINELLOL AR GYFER DYMCHWEL Y TY PRESENNOL YNGHYD Â CHODI 4 ANNEDD UN LLAWR YNGHYD AG ADDASU'R FYNEDFA BRESENNOL I GERBYDAU AC I GERDDWYR YN BWTHYN BWLCH ALLTRAN, CAERGYBI

 

      

 

     Ar gais yr aelod lleol y daethpwyd â'r cais hwn gerbron y Pwyllgor i'w ystyried.

 

      

 

     Cwestiynwyd  gan y Cynghorydd Keith Thomas yr agwedd gyfreithiol o greu mynedfa newydd i mewn i briffordd gyhoeddus oedd wedi ei mabwysiadu.

 

      

 

     Atobeodd yr Uwch Beiriannydd Priffyrdd fod gan y cyhoedd yr hawl i gael mynediad i briffordd gyhoeddus.

 

      

 

     PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais am y rhesymau a roddwyd gyda'r amodau a geir yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

7.4

19C894A - CAIS ARDAL GADWRAETH I DDYMCHWEL Y TY TERAS PRESENNOL A CHREU FFORDD DRWODD I GAEL MYNEDIAD O STRYD Y FARCHNAD I'R BONT FYNEDFA ARFAETHEDIG YN 35 STRYD Y FARCHNAD, CAERGYBI

 

      

 

     Fe ddaethpwyd â'r cais hwn gerbron y Pwyllgor i'w benderfynu gan fod y cais yn cael ei wneud ar dir y mae'r Cyngor yn berchen arno.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

     Gofynnodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio am ganiatâd i'r Pennaeth Rheoli Cynllunio gael y grym i gymeradwyo'r cais ar ddiwedd y cyfnod ymgynghori nad yw yn dod i ben hyd 13 Ebrill.

 

      

 

     PENDERFYNWYD dirprwyo'r grym i'r Pennaeth Gwasanaeth Cynllunio gymeradwyo y cais hwn, hynny yn amodol ar dderbyn dim sylwadau fydd yn wahanol o fewn y cyfnod ymgynghori sydd ar ôl a chyda'r amodau a geir yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

7.5

19C901 - CAIS AMLINELLOL AR GYFER CODI TAIR SIOP MÂN-WERTHU A FFLATIAU UWCHBEN AR DIR GER STRYD WILLIAM, CAERGYBI

 

      

 

     Ar gais yr aelod lleol y daethpwyd â'r cais hwn gerbron y Pwyllgor i'w ystyried.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod yr ymgeisydd wedi ymateb ac wedi mynd i'r afael â'r materion a'r gwrthwynebiadau a godwyd.

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd Arwel Roberts fod y cais yn cael ei gymeradwyo ac fe'i eiliwyd gan y Cynghorydd Tecwyn Roberts.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais hwn am y rhesymau a roddwyd a chyda'r amodau a geir yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

7.6

19LPA813ACC - CAIS I OSOD CYNHWYSYDD I STORIO OFFER CHWARAEON YNG NGHANOLFAN CHWARAEON MILLBANK, CAERGYBI

 

      

 

     Datganodd y Cynghorydd Arwel Roberts ddiddordeb yn y cais hwn ac nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod yn ystod ystyried a phleidleisio arno.

 

      

 

     Daethpwyd â'r cais hwn i benderfynu arno gan y Pwyllgor gan fod y cais yn cael ei wneud gan y Cyngor ar dir sydd yn ei berchnogaeth.

 

      

 

     Argymhellodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod amod (01) o'r caniatâd yn cael ei newid i ddarllen "bydd y datblygiad yr ymwna y caniatâd hwn ag ef am gyfnod dros dro o 5 mlynedd".

 

      

 

     PENDERFYNWYD rhoddi pwerau i Bennaeth y Gwasanaeth Cynllunio gymeradwyo'r cais hwn yn amodol ar bedio â derbyn unrhyw sylwadau fydd yn wahanol o fewn y cyfnod ymgynghori sydd yn weddill a chyda'r amodau a geir yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

7.7

20C215 - ADDASU AC EHANGU YN Y BOATHOUSE, FFORDD Y TRAETH, CEMAES

 

      

 

     Daethpwyd â'r cais hwn i'w benderfynu gan y Pwyllgor ar ofyn yr aelod lleol.

 

      

 

     Adroddodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod materion ynglyn â pherchnogaeth y tir bellach wedi eu datrys ac argymhellodd gymeradwyo'r cais.

 

      

 

     PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais hwn am y rhesymau a roddwyd a chyda'r amodau a geir yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

7.8

22C11A - CAIS I GADW FFENS BREN GERLLAW Y BRIFFORDD YNGHYD Â CHADW LLWYBR PREN DROS Y TWYNI TYWOD YN BWLCH Y FFOS, LLANDDONA

 

      

 

     Ar gais yr aelod lleol y daethpwyd â'r cais hwn gerbron y Pwyllgor i'w ystyried.

 

      

 

     Roedd y Rheolwr Rheoli cynllunio yn argymell caniatáu y cais ôl-ddyddiol hwn.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Hefin Thomas fod y postyn coed a'r ffens yno'n barod a'u bod yn flêr, ei fod yn rhy uchel o 6" a thua 3' - 4' rhy agos i'r ffordd.  Dros y 50 mlynedd diwethaf mae'r cyhoedd wedi cerdded yn rhydd ar hyd y stribedyn hwn o dir.

 

      

 

     Dywedodd yr Uwch Beiriannydd Priffyrdd mai'r ymgeisydd oedd perchennog y tir sy'n berthnasol i'r cais hwn.  Un fantais o godi'r ffens oedd ei fod yn annog ymwelwyr i ddefnyddio'r maes parcio swyddogol.

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd Thomas fod y cais ôl-ddyddiol hwn yn cael ei wrthod, yn groes i argymhelliad y swyddog i'w gymeradwyo, ac fe eiliwyd hyn gan y Cynghorwyr Eurfryn Davies a Tecwyn Roberts.

 

      

 

     Dywedodd y swyddog, pebai hwn yn cael ei wrthod, na allai'r swyddogion gefnogi rhybudd gorfodaeth.

 

      

 

     O 7 bleidlais i 3 PENDERFYNWYD gwrthod y cais hwn am y rhesymau a roddwyd.

 

      

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor bydd y cais hwn yn cael ei ohirio i'r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i'r swyddogion baratoi adroddiad am y rhesymau dros wrthod y cais.  

 

      

 

     Cynghorodd y cyfreithiwr - pe byddai yna apêl am beidio â phenderfynu cyn cyfarfod nesaf y Pwyllgor, roedd tebygrwydd y byddai apêl o'r fath yn llwyddo ac efallai y byddai rhaid talu costau.

 

      

 

7.9

36C33C - ADDASU AC EHANGU YNGHYD AG EHANGU Y CWRTIL YN WAEN HIR, LLANGRISTIOLUS

 

      

 

     Ar gais yr aelod lleol y daethpwyd â'r cais hwn gerbron y Pwyllgor i'w ystyried.

 

      

 

     Barn y swyddogion yn ôl y Rheolwr Rheoli Cynllunio oedd fod y cynnig yn annerbyniol oherwydd ei faint a'i fas mewn perthynas â'r ty presennol, y patrwm a datblygu yn yr ardal a'i effaith ar yr Ardal Tirwedd Arbennig.  Roedd y swyddog yn argymell gwrthod y cais.

 

      

 

     Cyfeiriodd y Cynghorydd R. Ll. Hughes at y cais blaenorol a wrthodwyd yn Ionawr 2005 a dywedodd fod y cynnig erbyn hyn wedi ei leihau i ryw raddau.  Roedd gan yr ymgeisydd ddau o blant oedd yn tyfu ac angen llofftydd eu hunain.  Cais yw hwn i ymestyn cartref teuluol presennol ar raddfa resymol.   Roedd y Cynghorydd Hughes yn teimlo er y byddai hwn yn cael effaith ar y tirwedd, ni fyddai yn un negyddol ac fe ddylai doddi i mewn gyda'i amgylchedd, ac roedd y dyluniad yn un o ansawdd uchel.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio nad oedd y cais yn cydymffurfio gyda chyfarwyddyd cyfredol a bod y materion a godwyd yn fater o farn.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd Hefin Thomas yn cytuno gyda'r aelod lleol, ac ychwanegodd fod safle'r cais wedi ei leoli rhwng yr A5 a'r A55.

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd R. Ll. Hughes fod y cais yn cael ei gymeradwyo a hynny'n groes i argymhelliad y swyddog ac fe eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Hefin Thomas.

 

      

 

     PENDERFYNWYD, yn unfrydol, cymeradwyo'r cais hwn a hynny yn groes i argymhelliad y swyddog o wrthod, a hynny am y rhesymau a ganlyn :

 

      

 

Ÿ

byddai yn gweddu i'r wlad o'i gwmpas

 

Ÿ

byddai'n darparu cartref i deulu

 

Ÿ

nid yw hwn yn leoliad gwledig per se gan ei fod rhwng dwy brif ffordd

 

Ÿ

mae'n estyniad rhesymol

 

 

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor bydd y cais hwn yn cael ei ohirio i'r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i'r swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros wrthod y cais.

 

      

 

7.10

37C100B - CODI 16 O ANHEDDAU GAN GYNNWYS 5 PAR O DAI UN TALCEN, 2 RES O DAI TERAS AC 11 MODURDY YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD AR DIR RHIF CAE O.S. 1293, BRYN GLAS, BRYNSIENCYN

 

      

 

     Daethpwyd â'r cais gerbron y Pwyllgor i'w benderfynu ar gais yr aelod lleol.

 

      

 

     Roedd y Rheolwr Rheoli Cynllunio yn argymell caniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd, yn cynnwys mesurau i arafu trafnidiaeth (amod (12) yn adroddiad y swyddog).

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Glyn Jones dyweodd yr Uwch Beiriannydd Priffyrdd fod y ddwy ffordd oedd yn arwain i'r safle yn ddigon hir i ddarparu twmpathau arafu traffig ffordd.

 

      

 

     PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais am y rhesymau a roddwyd gyda'r amodau yn adroddiad y swyddog, yn amodol ar gytundeb Adran 106 i sicrhau fod ffyrdd a charthffosydd o safon mabwysiadu yn cael eu darparu a bod 30% o'r tai ar gael fel unedau fforddiadwy yn unol â pholisïau tai cyfredol.

 

      

 

7.11

42C51C - ADDASU AC EHANGU YN Y BULL INN, PENTRAETH

 

      

 

     Daethpwyd â'r cais gerbron y Pwyllgor i'w benderfynu ar gais yr aelod lleol.

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd Hefyd Thomas fod yr aelodau yn ymweld â'r safle i asesu'r sefyllfa drostynt eu hunain.

 

      

 

     PENDERFYWNYD ymweld â'r safle am y rheswm a roddwyd.

 

      

 

7.12

49C255A/LB - CANIATÂD ADEILAD RHESTREDIG AR GYFER ADLEOLI'R WAL BRESENNOL A'R GARREG FILLTIR YN COEDLYS, FFORDD LLUNDAIN, Y FALI

 

      

 

     Daethpwyd â'r cais gerbron y Pwyllgor i'w benderfynu ar gais yr aelod lleol.

 

      

 

     Mynegwyd pryderon pobl leol gan y Cynghorydd Goronwy Parry yn ymwneud â chadw coed oedd wedi eu lleoli y tu ôl i'r garreg filltir hanesyddol, ac a oedd yn cael eu diogelu gan Orchymyn Cadw Coed.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio mai cais oedd hwn am ganiatâd Adeilad Rhestredig ac na fyddai'r coed yn cael eu heffeithio gan y cais hwn.

 

      

 

     Gyda'r amod na cheir gwrthwynebiad gan CADW fe BENDERFYNWYD caniatáu'r cais hwn am y rhesymau a roddwyd a chyda'r amodau a geir yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

8     CEISIADAU A DDIRPRWYWYD

 

      

 

     Cyflwynwyd a derbyniwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cynllunio a Gwasanaethau Amgylcheddol) ar geisiadau a ddirprwywyd ac y gwnaethpwyd penderfyniad arnynt ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor hwn, yn amodol ar y gwelliant canlynol :

 

      

 

     Cais 46 - 24C95A - dylid newid enw'r plwyf, a rhoi Llaneilian yn lle Pen-y-sarn.

 

      

 

     Datganodd y Cynghorydd John Byast ddiddordeb yn eitem 25, cais cynllunio 19C895, (Clwb y Senior Citizens, Millbank).

 

      

 

     Nodwyd i 94 o geisiadau gael eu prosesu ers y cyfarfod diwethaf, gyda 4 ohonynt yn cael eu gwrthod.

 

      

 

9     APELIADAU

 

      

 

9.1

TIR YN Y WERYDD, BRYNTEG

 

      

 

     Cyflwynwyd a nodwyd, crynodeb o Benderfyniad Arolygwr Llywodraeth Cynulliad Cymru ar apêl o dan Adran 78 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 yn erbyn penderfyniad yr awdurdod i wrthod rhoddi caniatâd cynllunio amlinellol i ddatblygu byngalo 3 llofft o dan gyfeirnod 30C485B a wrthodwyd trwy rybudd dyddiedig 31 Mawrth, 2004 - gwrthodwyd yr apêl.

 

      

 

9.2

TIR YN GYFAGOS I LYNTON, LLANFAES

 

      

 

     Cyflwynwyd a nodwyd, crynodeb o Benderfyniad Arolygwr y Llywodraeth Cynulliad Cymru ar apêl o dan Adran 78 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 yn erbyn penderfyniad yr awdurdod i wrthod rhoddi caniatâd cynllunio amlinellol i godi 1 annedd o dan gyfeirnod 12C126D a wrthodwyd trwy rybudd dyddiedig 25 Awst, 2004 - gwrthodwyd yr apêl.

 

      

 

      

 

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 6.30 p.m.

 

 

 

 

 

Y CYNGHORYDD R. L. OWEN

 

CADEIRYDD