Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion dogfennau , 6 Gorffennaf 2005

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Dydd Mercher, 6ed Gorffennaf, 2005

PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION

 

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Gorffennaf, 2005

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd J. Arthur Jones - Is-Gadeirydd yn y Gadair

 

Y Cynghorwyr Mrs B. Burns, John Byast, Eurfryn Davies, Denis Hadley, J. Arwel Edwards, Aled Morris Jones, O. Glyn Jones, R. L. Owen, D. Lewis-Robets, John Roberts, W. T. Roberts.

 

 

 

WRTH LAW:

 

Cynllunio :

Pennaeth Rheoli Datblygu (EGJ)

Arweinydd Tîm (DPJ)

Arweinydd Tîm (Gorfodaeth, Mwynau a Gwastraff) (JIW)

 

Priffyrdd :

Uwch Beiriannydd (Rheoli Datblygu a Hawliau Tramwy Cyhoeddus)(JRWO)

Myfyriwr (DLJ)

 

Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol (RWJ)

Cynorthwy-ydd Gweinyddol (CWP)

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Y Cynghorwyr P. M. Fowlie, J. Arwel Roberts

 

 

 

HEFYD YN BRESENNOL:

 

Aelodau Lleol:

Y Cynghorwyr Peter Dunning - eitem 7.9, Fflur Hughes - eitem 4.10, R. Ll. Hughes - eitem 6.1, H. Eifion Jones - eitem 4.6, Thomas Jones - eitemau 4.14, 6.5, Goronwy Parry MBE - eitem 7.10, R. G. Parry OBE - eitem 6.2, Peter Rogers - eitem 4.17, John Rowlands - eitem 4.12, Noel Thomas - eitem 4.9, Hefin Thomas - eitemau 4.7, 4.15, 6.6, John Williams - eitemau 4.5,7.3

 

 

 

Yn absenoldeb y Cadeirydd cymerwyd y Gadair gan y Cynghorydd J. Arthur Jones, yr Is-Gadeirydd a phenodwyd y Cynghorydd Tecwyn Roberts i'r Is-Gadair am eitem 4.4 y cofnodion hyn.

 

1

DATGANIAD O DDIDDORDEB

 

Derbyniwyd datganiadau oddi wrth Aelodau a Swyddogion ac fe'u cofnodir o dan yr eitemau perthnasol.

 

2

COFNODION

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd cofnodion o gyfarfod o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 1 Mehefin 2005.  (Cyfrol y Cyngor Medi, 2005)

 

3

YMWELIADAU SAFLE

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd yr adroddiad ar Ymweliadau Safleoedd Cynllunio a gynhaliwyd ar 15 Mehefin, 2005.

 

 

 

Mynegodd y Cynghorydd R. L. Owen ei siom oherwydd nifer fechan yr aelodau ar yr ymweliadau a theimlai na ddylai'r aelodau hynny na chawsant gyfle i weld y safleoedd bleidleisio ar y ceisiadau.

 

 

 

4

CEISIADAU YN CODI O'R COFNODION

 

 

 

4.1

CAIS ECONOMAIDD

 

 

 

10C33K/EIA - AMRYWIAD I AMODAU 2 A 5 A RODDWYD AR GANIATAD CYNLLUNIO 10C33H ER MWYN CANIATAU AILGYFLWYNO 'TRAC MÔN' A SYMUD YMLAEN YN UNOL Â'R GOSODIAD DIWYGIEDIG YN NHRAC MÔN, TY CROES

 

 

 

Yng nghyfarfod Mai argymhellodd y swyddogion bod yr aelodau yn ymweld â'r safle oherwydd natur y cais a chafwyd ymweliad ar 18 Mai, 2005.  Yng nghyfarfod Mehefin dywedwyd fod gwaith ymgynghori yn dal i gael ei wneud a gohiriwyd ystyried y cais.

 

 

 

Ychwanegodd y Pennaeth Rheoli Datblygu nad oedd y cynllun ynghlwm wrth adroddiad y swyddog yr un priodol a diweddaraf a dangosodd iddynt y cynllun diwygiedig ar y wal ac arno fanylion am y gweithgareddau presennol a chynigion y dyfodol.  Aeth y swyddog ymlaen i ddisgrifio diwygiad arfaethedig i'r cwrs gan dynnu sylw at amodau a roddid ynghlwm fel y manylwyd arnynt yn adroddiad y swyddog, a chyda'r cais roedd adroddiad atodol - Datganiad ar yr Amgylchedd.  Roedd un llythyr o wrthwynebiad wedi ei dderbyn yng nghyswllt monitro lefelau'r swn.  Nodwyd hefyd fod yr Adran Iechyd yr Amgylchedd yn asesu a monitro'r lefelau swn a chafwyd argymhelliad o ganiatáu gan y swyddog.

 

 

 

Gan y Cynghorydd Glyn Jones cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad o ganiatáu a chafodd ei eilio gan y Cynghorwyr John Roberts a D. Lewis-Roberts.

 

 

 

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chymeradwyo'r cais hwn am y rhesymau a roddwyd a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

 

 

4.2

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

16C32C - CAIS AMLINELLOL I GODI 14 O ANHEDDAU YNGHYD Â DARPARU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU AR DIR YN Y STRYD FAWR, BRYNGWRAN

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol ac yng nghyfarfod Mehefin dywedwyd fod y gwaith ymgynghori yn dal i fynd ymlaen a gohiriwyd ystyried y cais.

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y swyddogion yn dal i ymgynghori ynghylch capasiti carthffosiaeth ac argymhellodd ohirio ystyried y cais unwaith eto fel bod y swyddogion yn cael cyfle i gael rhagor o drafodaethau gyda Dwr Cymru.

 

 

 

Am y rheswm  a roddwyd PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais hwn.

 

 

 

4.3

CAIS YN TYNNU'N GROES

 

 

 

17C367 - CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD AMAETHYDDOL YNGHYD Â DARPARU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU A GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD AR DIR GER FODOL, LLANDEGFAN

 

 

 

Roedd y Cynghorydd Eurfryn Davies yn dymuno cofnodi na fuasai'n pleidleisio ar y cais gan ei fod yn dymuno siarad ar y mater fel aelod lleol.

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol ac yng nghyfarfod Ebrill y Pwyllgor roedd yr aelodau yn dymuno gweld y tir i asesu'r lleoliad a threfnwyd ymweliad ar 20 Ebrill, 2005.  Oherwydd absenoldeb yr aelod lleol yng nghyfarfod Mai gohiriwyd ystyried y cais ac yng nghyfarfod Mehefin roedd yr aelodau yn tueddu i ganiatáu

 

a hynny'n groes i argymhelliad o wrthod gan y swyddog - yn tueddu i ganiatáu oherwydd yr angen amaethyddol.

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor penderfynwyd gohirio ystyried y cais fel bod swyddogion yn cael cyfle i gyflwyno adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu.

 

 

 

Ychwanegodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod ei swyddogion wedi canfod fod y cais yn groes i Bolisi 53 Cynllun Lleol Ynys Môn, ac yn groes i'r canllawiau yn TAN 6 oherwydd fod y safle ymhell o'r adeiladau amaethyddol presennol ac mewn lle anghysbell yn y cefn gwlad agored.

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd Eurfryn Davies bod y dyn ifanc hwn, gyda'i dad, yn rhedeg fferm lwyddiannus a bod y cais yn cwrdd â gofynion y meini prawf angenrheidiol i gyfiawnhau codi adeilad fel annedd amaethyddol.  Roedd yma uned o 130 o aceri o dir ac roedd y diwydiant yn wynebu her i lwyddo yn y dyfodol.  Gyda'r mân-ddaliadau - rhai ond rhyw fymryn yn fwy na 10 acer - roedd ty.  Yn ddiamheuaeth roedd y Cynghorydd Eurfryn Davies yn credu fod y cais hwn yn cydymffurfio gyda gofynion TAN 6.

 

 

 

Gan y Cynghorydd Aled Morris Jones cafwyd cynnig i lynu wrth benderfyniad blaenorol y Pwyllgor, sef caniatau'r cais yn groes i argymhelliad y swyddog a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd D. Lewis-Roberts.

 

 

 

Teimlai'r Cynghorydd R. L. Owen y dylid caniatáu'r cais oherwydd fod yr uned hon ar ben ei hun yn mesur rhyw 130 o aceri, a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Tecwyn Roberts.

 

 

 

Ar ôl derbyn cyngor y Cyfreithiwr, a hwn yn gais yn gwyro, cytunodd yr aelodau i gofnodi'r bleidlais a dyma fel y bu honno :

 

 

 

O BLAID Y CAIS (YN GROES I ARGYMHELLIAD O WRTHOD GAN Y SWYDDOG):

 

Y Cynghorwyr Mrs B. Burns,  Denis Hadley, J. Arwel Edwards,  Aled Morris Jones,

 

O. Glyn Jones, R. L. Owen, D. Lewis-Roberts, Tecwyn Roberts (8)

 

 

 

DERBYN ADRODDIAD Y SWYDDOG A’R ARGYMHELLIAD O WRTHOD :

 

Y Cynghorydd John Roberts (1)

 

 

 

YMATAL:

 

Y Cynghorydd Eurfryn Davies (1)

 

 

 

PENDERFYNWYD glynu wrth benderfyniad blaenorol y Pwyllgor i gymeradwyo'r cais hwn yn groes i argymhelliad y swyddog o wrthod, a chaniatáu am y rhesymau a roddwyd.

 

 

 

4.4

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

18C138C - CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD AMAETHYDDOL YN ARGRAIG, LLANRHUDDLAD

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd J. Arthur Jones ddatganiad o ddiddordeb yn y cais hwn a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r pleidleisio.  Roedd y Cynghorydd Mrs Bessie Burns yn dymuno cofnodi y buasai'n cymryd rhan yn y drafodaeth ar yr eitem yn ei swyddogaeth fel aelod lleol ac o'r herwydd ni fuasai'n pleidleisio ar y cais.

 

 

 

Cymerwyd y Gadair gan y Cynghorydd Tecwyn Roberts ar gyfer yr eitem hon.

 

 

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol ac yn y cyfarfod blaenorol roedd y Pwyllgor yn tueddu i ganiatáu'r cais hwn oherwydd yr angen amaethyddol a'r angen lleol a hynny'n groes i argymhelliad o wrthod gan y swyddog.

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor penderfynwyd gohirio ystyried y cais fel bod swyddogion yn cael cyfle i gyflwyno adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu.

 

 

 

Gan y Pennaeth Rheoli Datblygu cafwyd argymhelliad i wrthod y cais am y rhesymau yn adroddiad y swyddog a chyfeiriodd at y diffiniad o angen amaethyddol wedi ei brofi a chyfeiriodd at ystyr clwstwr fel y manylwyd hynny yn yr adroddiad.  Roedd y cais yn groes i bolisïau a'r safle mewn ardal o Brydferthwch Naturiol Eithriadol.

 

 

 

Erfyniodd y Cynghorydd Mrs Burns ar yr aelodau i lynu wrth y penderfyniad blaenorol, sef caniatáu'r cais.  Teimlai hi fod yma angen lleol gwirioneddol i ddarparu cartref i deulu ifanc lleol - y wraig yn nyrs a'r gwr yn gweithio ar fferm y teulu ac â'i eu plant i'r ysgol leol a hynny'n gymorth i'r gymuned leol.

 

 

 

Gan y Cynghorydd Aled Morris Jones cafwyd cynnig i lynu wrth y penderfyniad blaenorol, sef caniatáu'r cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd D. Lewis-Roberts.

 

 

 

O 8 bleidlais PENDERFYNWYD glynu wrth benderfyniad blaenorol y Pwyllgor i ganiatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd o'r blaen ond yn groes i argymhelliad o wrthod gan y swyddog.

 

 

 

4.5

CAIS ECONOMAIDD

 

 

 

20C28B/ECON - ADDASU AC EHANGU ER MWYN EHANGU'R BWYTY, CREU 18 YSTAFELL WELY, YSTAFELL FRECWAST, CLWB HAMDDEN I WESTEION AC AELODAU LLEOL, CYFLEUSTERAU PARCIO A THIRLUNIO YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD AC ADDASU'R FYNEDFA BRESENNOL YN Y DOUGLAS INN, TREGELE

 

 

 

Oherwydd natur a maint y cais argymhellodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio yng nghyfarfod Mai fod aelodau yn ymweld â'r safle a threfnwyd hynny ar 18 Mai 2005.

 

 

 

Yng nghyfarfod Mehefin roedd yr aelodau yn tueddu i wrthod y cais am y rhesymau a ganlyn a hynny'n groes i argymhelliad o ganiatáu gan y swyddog.

 

 

 

Ÿ

gorddatblygu - yn groes i gymeriad y cyd-destun gwledig

 

Ÿ

edrych drosodd

 

Ÿ

effaith weledol

 

Ÿ

dim digon o lefydd parcio

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor gohiriwyd ystyried y cais er mwyn rhoi'r cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros wrthod.

 

 

 

I bwrpas cadw cofnod dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu y dylid diwygio pwynt 1 yn adroddiad y swyddog ar dudalen flaen i ddarllen "members reason for 'refusing'".  Gwnaeth y swyddog dynnu sylw'r aelodau at y cynllun ar y wal, ac argymhellodd rhoddi caniatâd i'r cais economaidd hwn am y rhesymau a roddwyd yn adroddiad y swyddog.

 

 

 

Yr hyn a wnaeth y Cynghorydd John Williams oedd atgoffa'r aelodau am faint anferthol y cynnig hwn mewn lle mor wledig a hynny'n codi pryderon sylweddol, yn enwedig i dai o gwmpas.  Roedd y tir yr oedd y cyfleusterau parcio yn cael effaith arno yn dir dros ben ar ôl adeiladu'r A5025 i wasanaethu Gorsaf Bwer Niwclear y Wylfa ac wedyn cafodd ei roddi i'r gymuned leol.  Nid oedd y cynnig ddim yn cydymffurfio gyda'r Cynllun Lleol, na chyda'r Cynllun Datblygu Unedol na chyda Cynllun Fframwaith Gwynedd.

 

 

 

Cynigiodd y Cynghorydd D. Lewis-Roberts lynu wrth benderfyniad blaenorol y Pwyllgor o wrthod a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Tecwyn Roberts a oedd yn teimlo fod yr A5025 yn ddihareb am ddamweiniau.

 

 

 

Rhoi ei chefnogaeth i'r aelod lleol ac i'r bobl leol a wnaeth y Cynghorydd Bessie Burns a hefyd roedd yn ymwybodol o'r gyffordd hon.

 

 

 

Roedd y Cynghorydd Arwel Edwards hefyd yn cydymdeimlo gyda'r gymuned leol ond teimlai hefyd fod yr Ynys angen gwesty o'r safon hon a chynigiodd derbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad o ganiatáu.

 

 

 

Roedd y Cynghorydd Eurfryn Davies yn teimlo fel cefnogi'r cais economaidd hwn a fuasai'n creu swyddi parhaol ac eiliodd y cynnig i ganiatáu.

 

 

 

Pryderu oedd y Cynghorydd R. L. Owen am y goblygiadau petai Gorsaf Bwer Wylfa B yn cael ei chodi.

 

 

 

Roedd y Cynghorydd Denis Hadley yn cytuno gyda'r egwyddor o adfywio cymunedau gwledig os oedd y datblygiad yn y lle iawn ac yn derbyn cefnogaeth y bobl leol.

 

 

 

Cytuno a wnaeth y Cynghorydd Arthur Jones bod angen y math hwn o ddatblygiad ond nad hwn oedd y lle delfrydol.

 

 

 

Yr hyn a wnaeth y Pennaeth Rheoli Datblygu oedd atgoffa'r aelodau bod raid seilio penderfyniadau ar egwyddorion defnydd tir ac ni wyddai ef am unrhyw ddamweiniau yn y gyffordd benodol hon ac ar ôl pwyso a mesur teimlai fod y cais yn cydymffurfio gyda'r polisïau.

 

 

 

I bwrpas cofnod roedd y Cynghorydd Tecwyn Roberts yn dymuno nodi fod yr A5025 yn gyffredinol yn ddihareb am ddamweiniau ond nid oedd am ddod i'r casgliad bod y gyffordd benodol hon yn beryglus.

 

 

 

Awgrymodd y cyfreithiwr y buasai'n fuddiol i'r Pwyllgor gael gwybod a fuasai'r swyddogion yn fodlon amddiffyn penderfyniad i wrthod mewn apêl.  Oni fuasent yn fodlon yna roedd darpariaeth yn y Cyfansoddiad i nodi pwy ddylai amddiffyn ac yn nodi'r costau a allai fod ymhlyg.  Cafwyd cadarnhad gan y Pennaeth Rheoli Datblygu na fedrai'r swyddogion amddiffyn mewn apêl petai'r cais yn cael ei wrthod.

 

 

 

Mewn ymateb dywedodd y Cynghorydd R. L. Owen ei fod yn fodlon amddiffyn y penderfyniad o wrthod mewn apêl.

 

 

 

 

 

O 8 bleidlais i 3 PENDERFYNWYD glynu wrth penderfyniad blaenorol y Pwyllgor i wrthod y cais am y rhesymau a roddwyd a hynny'n groes i argymhelliad o ganiatáu gan y swyddog.

 

      

 

4.6

CAIS YN GWYRO

 

      

 

     21C61A - CAIS AMLINELLOL I GODI UN ANNEDD FFORDDIADWY YNGHYD Â DARPARU TANC SEPTIG NEWYDD AR RAN O GAE ORDNANS RHIF 0606 YN LLANDDANIEL FAB

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor ei ystyried yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Yng nghyfarfod Mai cytunodd yr aelodau i ohirio ystyried y cais er mwyn rhoi'r cyfle i'r ymgeiswyr gyflwyno rhagor o wybodaeth ac yng nghyfarfod mis Mehefin roedd yr aelodau o blaid ymweld â'r safle i asesu'r lleoliad a threfnwyd ymweliad ar 15 Mehefin 2005.

 

      

 

     Atgoffodd y Pennaeth Rheoli Datblygu yr aelodau fod y cais gwyredig hwn yn groes i'r cynlluniau lleol a fframwaith yn groes i'r CDU ac i'r cyfarwyddyd ym Mholisi Cynllunio Cymru.  Roedd y safle rhyw 200m y tu allan i ffiniau y pentref ac yn barhad i estyniad o ddatblygiadau rhubanaidd y tu allan i'r ffiniau ac o'r herwydd buasai yn y sector tai marchnad agored ac ni ellid ei ystyried fel safle eithriad i bwrpas codi ty fforddiadwy.  Roedd y cais yn groes i Bolisïau 50 a 53 y Cynllun Lleol a Pholisi A6 Cynllun Fframwaith Gwynedd.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Eifion Jones y buasai caniatáu'r cais hwn yn darparu ty fforddiadwy i gwbl ifanc lleol a hwnnw'n costio o gwmpas £85,000 ac nid oeddent mewn sefyllfa i brynu ar y farchnad agored,  roedd y cwpl yn fodlon gwneud cytundeb dan Adran 106 (ty fforddiadwy).  Ni chafwyd yr un gwrthwynebiad ond cafwyd dau lythyr yn cefnogi'r cais gan gynnwys y Cyngor Cymuned a hefyd roedd yr Adran Briffyrdd yn cefnogi'r cais y tu mewn i'r ardal 30 milltir yr awr.  Roedd y cais yn cydymffurfio gyda Pholisi 50, ni châi effaith ddrwg ar y tirwedd, ac roedd yn llenwi bwlch ac nid oedd yn ymestyn y datblygiad rhubanaidd.  Teimlai'r Cynghorydd Jones fod yma gyfiawnhad i roddi caniatâd i dy fforddiadwy.

 

      

 

     Yn dilyn dywedodd y Cynghorydd John Roberts fod hwn yn enghraifft o lenwi bwlch rhwng dwy annedd a chytuno gyda'r Cynghorydd Roberts a wnaeth y Cynghorydd J. Arthur Jones gan ychwanegu bod yma enghraifft o lenwi bwlch mewn modd sensitif ac ni fuasai'n ymestyn y datblygiad rhubanaidd a hefyd roedd yr ymgeiswyr wedi cyflwyno gwybodaeth i gefnogi'r cais i bwrpas darparu ty fforddiadwy.

 

      

 

     Teimlai'r Cynghorydd R. L. Owen fod yr aelodau wedi eu camarwain ar yr ymweliad pan ddygodd y Swyddog Cynllunio sylw'r aelodau at y ffiniau 30 milltir yr awr.

 

      

 

     Mewn ymateb dywedodd y Swyddog Priffyrdd fod yr ardal 30 milltir yr awr wedi ei hymestyn yn gynharach eleni ac roedd yr annedd i'r rheolwr wedi ei chaniatáu yn y clwb golff ar apêl.

 

      

 

     Yr hyn a waneth y Cynghorydd Arwel Edwards oedd holi am union leoliad ffiniau'r pentref.

 

      

 

     Lleddfwyd pryderon y Cynghorydd D. Lewis-Roberts am y fynedfa ar yr ymweliad a chynigiodd roddi caniatâd a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Aled Morris Jones.

 

      

 

     Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu fod Polisi 50 yn caniatáu codi tai unigol os oedd y safle y tu mewn i ffiniau pentref neu ar ei chyrion - yn yr achos hwn roedd y safle rhyw 200m y tu allan i ffiniau pentref Llanddaniel.  Ni chytunai'r swyddog bod yma waith llenwi bwlch sensitif - buasai caniatáu yn sefydlu cynsail beryglus ar gyfer rhagor o ddatblygiadau a châi effaith andwyol ar gymeriad yr ardal a chafwyd argymhelliad cryf iawn o wrthod.

 

      

 

     O 6 phleidlais i ddim PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau a ganlyn :

 

      

 

Ÿ

pobl leol yn fodlon llofnodi cytundeb dan Adran 106 (tai fforddiadwy)

 

Ÿ

yn cydymffurfio gyda'r polisïau ar dai fforddiadwy

 

Ÿ

llenwi bwlch mewn modd sensitif

 

 

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor penderfynwyd gohirio ystyried y cais fel bod swyddogion yn cael cyfle i gyflwyno adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu.

 

      

 

     Ni phleidleisiodd y Cynghorydd Mrs Burns ar y cais hwn am na fu ar yr ymweliad.

 

      

 

4.7

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     22C24C - CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD AR DIR GER TY'N LON, LLANDDONA

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol ac am resymau polisi a diogelwch y ffordd.  Yng nghyfarfod Mai roedd yr aelodau o blaid ymweld â'r safle a chafwyd yr ymweliad hwnnw ar 18 Mai 2005.  Yng nghyfarfod blaenorol y Pwyllgor roedd yr aelodau o blaid gwrthod y cais am nad oedd modd darparu'r llain gwelededd angenrheidiol ac am ei wrthod yn groes i argymhelliad o ganiatáu gan y swyddog.

 

 

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor gohiriwyd y cais er mwyn rhoi'r cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros wrthod.

 

      

 

     Gofynnodd y Pennaeth Rheoli Datblygu am ohirio gwneud penderfyniad ar y cais unwaith eto oherwydd derbyn gohebiaeth yn hwyr yn y dydd yng nghyswllt materion perchnogaeth tir yr oedd yn rhaid ymchwilio iddynt.  Gyda'r cais cyflwynwyd Tystysgrif B ac roedd yr ohebiaeth yn codi cwestiynau ynghylch a oedd angen Tystysgrif C a'i peidio gyda'r cais.

 

      

 

     Am y rheswm a roddwyd PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais.

 

 

 

4.8

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     29C112 - CAIS AMLINELLOL I GODI 6 ANNEDD YNGHYD AG ADDASU'R FYNEDFA BRESENNOL I GERBYDAU AR DIR GER Y BRYN, LLANFAETHLU

 

      

 

     Yng nghyfarfod Chwefror argymhellodd y swyddog bod yr aelodau yn ymweld â'r safle uchod a threfnwyd yr ymweliad ar 16 Chwefror 2005 ond yn y cyfamser gohiriwyd ystyried y cais oherwydd materion priffyrdd heb eu datrys.

 

      

 

     Gofynnodd y swyddog am ohirio unwaith eto a hefyd gofynnodd y Cynghorydd Bessie Burns am fap cliriach gydag adroddiadau'r dyfodol oherwydd fod y map a gyflwynwyd braidd yn aneglur ac i ryw raddau'n gamarweiniol.

 

      

 

     Am y rheswm a roddwyd PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais.

 

      

 

4.9

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     33C125D - CAIS AMLINELLOL I GODI 5 ANNEDD YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU AR DIR YNG NGHYNLAS, Y GAERWEN

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor penderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol a chan fod y safle yn gyffiniol â'i eiddo ef a hefyd oherwydd materion mynedfa a draenio.  Yng nghyfarfod Mai penderfynodd yr aelodau ymweld â'r safle i asesu'r sefyllfa a chafwyd ymweliad ar 18 Mai, 2005.  Yng nghyfarfod Mehefin dywedwyd nad oedd gwybodaeth wedi cyrraedd o Asiantaeth yr Amgylchedd a gohiriwyd ystyried y cais.

 

      

 

     Gofynnodd y Pennaeth Rheoli Datblygu am ohiriad arall hyd nes cwblhau'r gwaith ymgynghori fel y manylwyd ar hynny yn adroddiad y swyddog.  Hefyd yn y cyfarfod cyflwynwyd llythyr oddi wrth yr ymgeisydd yn awgrymu y bydd o bosib yn apelio yn erbyn methiant yr awdurdod i benderfynu ar y cais erbyn yr amser penodol.  Ychwanegodd y swyddog  bod raid penderfynu ar ba leoliad yn hollol y tynnwyd ffotograffau ohono fel tystiolaeth bod yr ardal yn cael ei boddi'n achlysurol.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Noel Thomas ei fod yn byw drws nesaf i safle'r cais ac ni roddwyd gwybod i rai o'r tai cyfagos am y tai hyn.  Roedd angen edrych yn fanwl ar y posibilrwydd o broblemau llifogydd cyn penderfynu ar y cais a dywedodd y Cynghorydd Thomas bod cyfarfod wedi ei drefnu gyda'r swyddog achos cynllunio y dydd Llun canlynol ac roedd yn disgwyl rhagor o fanylion a gofynnodd am ohirio'r cais.

 

      

 

     Am y rhesymau a roddwyd cafwyd cynnig gan y Cynghorydd R. L. Owen i ohirio penderfynu ar y cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Eurfryn Davies gyda chefnogaeth y Cynghorydd John Roberts.

 

      

 

     Am y rheswm a roddwyd PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais.

 

      

 

4.10

CAIS ECONOMAIDD

 

      

 

     34C72J - DYMCHWEL YR HEN ADEILAD GWAG YNG NGHEFN Y SAFLE A CHODI ADEILAD TRI LLAWR YNO AC YNDDO SWYDDFEYDD A SIOPAU A CHYFLEUSTERAU STORIO AR LEFEL Y BASMANT AC ALTRO'R FYNEDFA I HERON SERVICES, FFORDD GLANHWFA, LLANGEFNI

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Ar 17 Tachwedd 2004 ymwelwyd â'r safle ond gan fod y cynnig bellach wedi ei newid yn sylweddol cafodd yr aelodau ymweliad arall ar 18 Mai 2005.  Yng nghyfarfod Mehefin penderfynodd yr aelodau ohirio ystyried y cais hyd nes cwblhau'r gwaith ymgynghori gyda'r ymgeiswyr ar faterion priffyrdd oedd heb eu setlo.

 

      

 

     I bwrpas cadw cofnod dywedodd yr Arweinydd Tîm (Rheoli Datblygu) bod angen diwygio pwynt 8 (casgliadau) yn adroddiad y swyddog i ddarllen "na 'châi'r' datblygiad effaith annerbyniol ar bleserau preswylwyr".  Llwyddwyd i daro ar gyfaddawd teg gyda'r ymgeiswyr - roedd y rheini wedi gostwng maint ac argraff y cynnig oherwydd pryderon lleol a theimlwyd na châi effaith andwyol ar bleserau y ty cyfagos, sef Glennydd.  Credwyd y buasai'r cynnig hwn yn gwella gwedd y safle ond roedd y gwaith ymgynghori ar y cynnig hwn yn mynd i barhau tan 27 Gorffennaf 2005 a gofynnodd y Pennaeth Gwasanaethau Cynllunio am roddi iddo awdurdod i ganiatáu'r cais gyda'r amod na ddeuai sylwadau newydd o bwys i law yn ystod diwedd y cyfnod ymgynghori ac yn amodol hefyd ar roddi amodau ynghlwm yng nghyswllt amserau cyflenwi nwyddau, yr oriau agor a chael gwared o ddefnyddiau peryglus.

 

      

 

     Ond roedd y Cynghorydd Fflur Hughes yn dal i bryderu ynghylch uchder yr adeilad a'r ffaith fod y tai yn is na llawr isaf yr adeilad.  Hefyd roedd pryderon ynghylch problemau traffig presennol y lle a'r tebygrwydd yr ychwanegid at y problemau petai'r busnes yn tyfu a bod angen fod yn ymwybodol o'r cyffordd oedd yn agos iawn i'r safle wrth ystyried y cais hwn gan fod sawl damwain wedi digwydd yn y cyffiniau.  Hefyd roedd angen ystyried y math o nwyddau fydd yn cael eu gwerthu yn yr adeiladau a hynny i bwrpas diogelu busnesau a swyddi yng nghanol y dref.  Roedd y Cyngor Tref yn gryf yn erbyn y cais.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Aled Morris Jones fod yr ymgeisydd wedi ei ddiwygio ei gynnig yn sylweddol a tharo ar gyfaddawd teg i leihau'r effaith a lleddfu pryderon.  Pobl leol oedd yr ymgeiswyr a buasai'r cynnig gerbron yn creu swyddi'n lleol.  Ganddo cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog ac argymhelliad o ganiatáu'r cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd D. Lewis-Roberts.  

 

      

 

     Ond gofynnodd y Cynghorydd Glyn Jones tybed a oedd yna ddigon o gyfleusterau parcio i'r gweithwyr a'r cwsmeriaid.  Wedyn ychwanegodd y Cynghorydd Eurfryn Davies y dylid cymryd camau i leddfu y problemau sydd yno ar hyn o bryd gyda thraffig yn ciwio.

 

      

 

     Mewn ymateb dywedodd yr Uwch Beiriannydd Priffyrdd bod yr ymgeiswyr wedi cyflwyno cynlluniau diwygiedig i reoli traffig a hefyd wedi cyflwyno manylion ynghylch cyfleusterau parcio a hynny wrth fodd yr Adran.  Roedd un llawr wedi ei glustnodi ar gyfer parcio, a rhyw 28/29 o lecynnau yn mynd i gael eu darparu yma ac acw o gwmpas y safle ynghyd â 60 o leoedd y tu cefn i'r garej betrol.

 

      

 

     I atgoffa'r aelodau dywedodd y Swyddog Cynllunio bod hawliau i siopau yn bod yn barod yn yr eiddo ac roedd yr ymgeiswyr wedi cynnal asesiad effaith siopau anffurfiol fel rhan o'r cais er nad oedd hynny yn angenrheidiol yn statudol a theimlai'r swyddog y buasai'r cynnig yn denu rhagor o bobl i Langefni.

 

      

 

     Teimlad y Cynghorydd John Roberts oedd y câi'r cais hwn ei ganiatáu ar apêl.

 

 

 

     Gan y Cynghorydd Aled Morris Jones cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad ac argymhelliad o ganiatáu y swyddog a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd D. Lewis-Roberts.

 

      

 

     O 8 bleidlais i 2 PENDERFYNWYD rhoi'r awdurdod i'r Pennaeth Gwasanaethau Cynllunio ganiatáu'r cais gyda'r amod na ddaw rhagor o ddeunydd newydd gwrthwynebus i mewn yn ystod gweddill y cyfnod ymgynghori a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog a hefyd gyda amodau i reoli amserau danfon nwyddau, oriau agor a chael gwared o ddefnyddiau peryglus.

 

      

 

4.11

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     34C303J/1 - CODI UN ANNEDD YNGHLWM WRTH UN ARALL AR BLOT 80B BRO EDNYFED, LLANGEFNI

 

      

 

     Cafwyd datganiadau o ddiddordeb yn y cais hwn gan y Cynghorydd Aled Morris Jones a Mr. Rees Roberts o'r Uned Gyfieithu.

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Yng nghyfarfod Mai roedd yr aelodau yn dymuno ymweld â'r safle i asesu'r sefyllfa a threfnwyd hynny ar gyfer 18 Mai, 2005.  Yng nghyfarfod Mehefin gohiriwyd ystyried y cais oherwydd materion heb eu datrys.

 

      

 

     Ond gofynnodd y Pennaeth Rheoli Datblygu am ohirio unwaith yn rhagor hyd nes cwblhau'r gwaith ymgynghori ar y trefniadau parcio arfaethedig, ar faterion dwr wyneb a chwlfert.

 

      

 

     Am y rheswm a roddwyd PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais.

 

      

 

      

 

4.12

CAIS YN TYNNU'N GROES

 

      

 

     35C129A - CODI ANNEDD NEWYDD AC ALTRO'R FYNEDFA I GERBYDAU AR BLOT GER CAE BERLLAN, CAIM

 

      

 

     Trosglwyddwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol ac yn ei absenoldeb ef yng nghyfarfod Mai roedd yr aelodau yn dymuno gohirio ystyried y cais.  Yng nghyfarfod mis Mehefin penderfynodd yr aelodau ymweld â'r safle i asesu'r sefyllfa drostynt eu hunain a chafwyd yr ymweliad ar 15 Mehefin 2005.

 

      

 

     Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu fod safle'r cais hwn sy'n gwyro yn y cefn gwlad ac yn groes i Bolisïau 53 Cynllun Lleol Ynys Môn, i Bolisi A6 Cynllun Fframwaith Gwynedd ac i Bolisi HP6 yr CDU; roedd yr Adran Briffyrdd yn gwrthwynebu a chafwyd llythyrau yn gwrthwynebu a'r rheini ar gael yn y cyfarfod.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd John Rowlands bod yr ymgeisydd wedi ei fagu'n lleol ac ef oedd perchennog y tir.

 

      

 

     Gan fod y safle yng nghanol clwstwr o dai a hefyd o gofio bod iddi fynedfa annibynnol cafwyd cynnig gan y Cynghorydd R. L. Owen i ganiatáu a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd John Roberts.

 

      

 

     Ni chredai'r Cynghorydd D. Lewis-Roberts y buasai adeilad newydd yn gweddu i cymeriad y tai o gwmpas y safle a chynigiodd derbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad o wrthod a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Glyn Jones.

 

      

 

     Wedyn atgoffodd y Pennaeth Rheoli Datblygu yr aelodau o'r diffiniad o glwstwr a hefyd bod y cais yn gwyro a bod angen seilio penderfyniadau ar egwyddorion defnydd tir.

 

      

 

     O 7 pleidlais i ddwy PENDERFYNWYD derbyn adroddiad ac argymhelliad o wrthod gan y swyddog am y rhesymau a roddwyd yn ei adroddiad.

 

 

 

     Ni phleidleisiodd y Cynghorwyr Bessie Burns nac Aled Morris Jones ar y cais.

 

      

 

4.13

CAIS ECONOMAIDD

 

      

 

     36C175K/TR/ECON - CAIS AMLINELLOL I GODI LLETY I DEITHWYR, GAREJ BETROL, DAU BWYTY, CYFLEUSTERAU DREIFIO TRWODD A DARPARU FFORDD FYNEDFA GYSYLLTIEDIG, CYFLEUSTERAU PARCIO A THIRLUNIO TIR GER TYRPAIG NANT, LLANGEFNI

 

      

 

     Gwnaeth Mr. JRW Owen o'r Adran Briffyrdd ddatganiad o ddiddordeb yn y cais a gadawodd y cyfarfod.

 

      

 

     Yng nghyfarfod Mai cafwyd argymhelliad gan y swyddogion bod aelodau yn ymweld â'r safle tra oedd gwaith ymgynghori yn cael ei wneud a hynny i bwrpas dysgu am y safle a deall natur y cais cyn gwneud penderfyniad a chafwyd yr ymweliad hwnnw ar 18 Mai 2005.  I bwrpas cwblhau gwaith ymgynghori gohiriwyd ystyried y cais yng nghyfarfod mis Mehefin.

 

      

 

     Gofynnodd y Pennaeth Rheoli Datblygu am ohirio unwaith yn rhagor hyd nes cwblhau gwaith ymgynghori.

 

      

 

     Am y rheswm a roddwyd PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais.

 

 

 

4.14

CAIS YN TYNNU'N GROES

 

      

 

     38C213 - CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD YNGHYD Â CHREU MYNEDFA I GERBYDAU A GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD AR DIR GER GLAN GORS, RHOS-GOCH

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Yng nghyfarfod mis Chwefror roedd yr aelodau yn dymuno caniatáu'r cais am y rhesymau a ganlyn ac yn groes i argymhelliad y swyddog :-

 

      

 

Ÿ

mae elfen o fforddiadwyaeth yn y cais gan mai pobl ifanc yw'r ymgeiswyr

 

Ÿ

mae'r tir amaethyddol o ansawdd gwael ac yn arbennig o greigiog

 

Ÿ

mae o leiaf 9 eiddo arall o fewn clwstwr yn y man hwn

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor gohiriwyd ystyried y cais er mwyn rhoi'r cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu.  Yng nghyfarfodydd Mawrth ac Ebrill derbyniodd yr aelodau argymhellion y swyddogion i ohirio ystyried y cais fel bod modd i'r swyddogion hynny ymchwilio i faterion technegol a godwyd yn ystod y gwaith ymgynghori a wnaed.  Yng nghyfarfod mis Mai roedd yr aelodau yn dymuno ymweld â'r safle i asesu'r lle drostynt eu hunain a chafwyd yr ymweliad hwnnw ar 18 Mai 2005.  Oherwydd absenoldeb yr aelod lleol gohiriwyd ystyried y cais yng nghyfarfod mis Mehefin.

 

 

 

Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod sawl llythyr o wrthwynebiad wedi ei dderbyn fel y cawsant eu crynhoi yn adroddiad y swyddog ac roedd y rheini ar gael yn y cyfarfod - roedd un yn arbennig yn mynegi pryderon ynghylch y dull o ddelio gyda'r cais.  Roedd y safle yn y cefn gwlad, yn groes i Bolisi 50 Cynllun Lleol Ynys Môn, i Bolisi A6 Cynllun Fframwaith Gwynedd ac i Bolisi HP5 y CDU.  Erfyniodd y swyddog ar yr aelodau i ystyried effaith andwyol caniatáu'r cais ar gymeriad a phleserau'r ardal.

 

 

 

Ar ôl derbyn caniatâd y Cadeirydd rhannodd y Cynghorydd Thomas Jones fap ymhlith yr aelodau a dywedodd fod y safle yng nghanol 15 o dai a hynny yn ategu ei osodiad bod y safle y tu mewn i glwstwr; roedd yr ymgeisydd yn cynnig gwella'r briffordd, yr oedd y tir o safon isel ac yn greigiog, hefyd câi lefelau'r tir eu gostwng i leihau'r effaith weledol a hefyd i leddfu pryderon lleol, a buasai caniatáu'r cais hwn yn creu cartref i deulu lleol ac roedd y Cyngor Cymuned lleol yn gefnogol.

 

 

 

Ni chytunai'r Pennaeth Rheoli Datblygu fod y safle yng nghanol clwstwr o dai - diffinnir clwstwr fel clwstwr tynn o adeiladau eraill y tu mewn i radiws o 300m.  Roedd y map trawsdoriadol a gyflwynwyd gan yr ymgeisydd yn dangos fod lefel y tir yn dal i fod rhyw 3m yn uwch na'r lôn ac uchder y grib rhyw 11m - 12m yn uwch na Glangors, yr eiddo cyfagos ac y dylid delio gyda'r cais cynllunio yn ôl egwyddor defnydd tir ac yn ôl polisïau lleol a chenedlaethol.

 

 

 

Cytuno a wnaeth y Cynghorydd Arwel Edwards nad oedd modd diffinio yr adeiladau fel clwstwr tynn ond teimlai efallai fod modd ei ddisgrifio fel clwstwr llac.

 

 

 

Dylid penderfynu ar safleoedd ymweld yn y dyfodol yn ôl y Cynghorydd Denis Hadley a ydyw safle'r cais y tu mewn i glwstwr ai peidio â delio gyda'r cais y tu mewn i Bolisi 50 yn hytrach na than Bolisi 53 y Cynllun Lleol.

 

 

 

Teimlai'r Cynghorydd John Arthur Jones y dylid rhoddi cyfarwyddyd cliriach i'r aelodau ar ddiffiniad clystyrau ac ychwanegodd na chyflwynwyd unrhyw dystiolaeth i gefnogi'r cais i'w roddi dan y categori ty fforddiadwy a gofynnodd i'r aelodau fod yn gyson yn eu trafodaethau.

 

 

 

Wedyn ychwanegodd y Cynghorydd Thomas Jones fod Rhos-goch wedi ei nodi fel treflan wledig a chlystyrau yn cynigion y CDU, yn y mapiau cynigion ac yn y mewnosodiadau a hefyd yr oedd elfen o fforddiadwyaeth yn y cais - h.y. roedd yr ymgeisydd yn gweithio yn y maes adeiladu.

 

 

 

Gan y Cynghorydd Aled Morris Jones gafwyd cynnig i ganiatáu'r cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd R. L. Owen.

 

 

 

Yna, i atgoffa'r aelodau, dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu y buasai caniatáu'r cais hwn yn sefydlu cynsail beryglus gan fod y clwstwr yma yn un llac dros ardal eang iawn.

 

 

 

Sylwodd y Cynghorydd John Roberts oddi ar gynllun yr aelod lleol fod pellter o rhyw 480 - 500m rhwng y naill dy a'r llall.  

 

 

 

Ar ôl derbyn cyngor y Cyfreithiwr, fod y cais hwn yn gwyro, cytunodd yr aelodau i gofnodi'r bleidlais a dyma sut y bu honno :

 

 

 

CANIATAU'R CAIS (YN GROES I ARGYMHELLIAD O WRTHOD GAN Y SWYDDOG) :

 

Y Cynghorwyr John Byast, Eurfryn Davies, Aled Morris Jones, R. L. Owen (4)

 

 

 

DERBYN ADRODDIAD Y SWYDDOG AR ARGYMHELLIAD O WRTHOD :

 

Y Cynghorwyr J. Arwel Edwards, J. Arthur Jones, John Roberts, Tecwyn Roberts (4)

 

 

 

YMATAL :

 

Y Cynghorydd Denis Hadley (1)

 

 

 

Gyda phleidlais fwrw'r Cadeirydd PENDERFYNWYD dileu penderfyniad blaenorol y Pwyllgor a gwrthod y cais hwn yn unol ag adroddiad y swyddog.

 

 

 

Roedd y Cynghorydd Denis Hadley yn dymuno nodi na phleidleisiodd ar y cais oherwydd ei ddymuniad i gael diffiniad cliriach a chanllaw gliriach ar glystyrau.

 

 

 

4.15

CAIS YN GWYRO

 

      

 

     42C62G - CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD AR BLOT YN Y GANOLFAN ARDDIO PENTRAETH

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol a hynny oherwydd angen lleol ac angen busnes. Ym mis Mai roedd yr aelodau wedi ymweld â'r safle i asesu'r sefyllfa a chafwyd yr ymweliad hwnnw ar 18 Mai 2005.

 

 

 

     Yng nghyfarfod mis Mehefin roedd yr aelodau yn dymuno caniatáu'r cais am y rhesymau a ganlyn ac yn groes i argymhelliad o wrthod gan y swyddog :

 

      

 

Ÿ

angen busnes

 

Ÿ

angen garddwriaethol/amaethyddol

 

Ÿ

dim gwrthwynebiad priffyrdd

 

 

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor penderfynwyd gohirio ystyried y cais fel bod swyddogion yn cael cyfle i gyflwyno adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu.

 

      

 

     Atgoffa'r aelodau a wnaeth y Pennaeth Rheoli Datblygu bod y cais hwn yn groes i Bolisïau 53 Cynllun Lleol Ynys Môn, A6 Cynllun Fframwaith Gwynedd a HP5 yr CDU - roedd y safle y tu allan i'r ffiniau datblygu ac nid oedd modd caniatáu oherwydd rhesymau diogelwch.  Cafwyd argymhelliad cryf o wrthod gan y swyddog.

 

      

 

     Yr hyn  a wnaeth y Cynghorydd Hefin Thomas oedd atgoffa y rheini oedd yn bresennol bod fod yr aelodau yn y cyfarfod cynt ac o 11 pleidlais yn dymuno caniatáu'r cais a phwysodd yn daer arnynt i fod yn gyson a chadarnhau'r penderfyniad blaenorol hwnnw i ganiatáu a hynny er mwyn darparu cartref i fachgen ifanc lleol.  Buasai'n mwy effeithiol cael rhywun yn byw ar y tir a hynny yn ychwanegu at ddiogelwch y lle.

 

      

 

     Cytuno wnaeth y Cynghorydd R. L. Owen y buasai'n ddoeth ac yn dda cael rhywun yn byw ar y safle a chynigiodd rhoddi caniatâd i'r cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorwyr Tecwyn Roberts a D. Lewis-Roberts.

 

      

 

     Apelio am gysondeb yn y drafodaeth y wnaeth y Cynghorydd Glyn Jones a chynigiodd derbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad o wrthod.

 

      

 

     Ar ôl derbyn cyngor y cyfreithiwr, fod y cais hwn yn gwyro, cytunodd yr aelodau i gofnodi'r bleidlais a dyma fel y bu :

 

      

 

     CANIATAU'R CAIS (YN GROES I ARGYMHELLIAD O WRTHOD GAN Y SWYDDOG) :

 

     Y Cynghorwyr Bessie Burns, John Byast, Eurfryn Davies, J. Arwel Edwards, Denis Hadley,

 

     J Arthur Jones, R. L. Owen, D. Lewis-Roberts, John Roberts, Tecwyn Roberts  (10)

 

      

 

     O 10 pleidlais PENDERFYNWYD glynu wrth benderfyniad blaenorol y Pwyllgor i ganiatáu'r cais am resymau a roddwyd o'r blaen a chydag amodau safonol a'r rheini'n cynnwys amod i glymu'r annedd wrth y busnes a hyn oll yn groes i argymhelliad y swyddog.

 

      

 

4.16

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     44C199A - CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD A DARPARU TANC SEPTIG NEWYDD AR DIR GER PENRHOS, PENYGRAIGWEN

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor yn ôl dymuniad yr aelod lleol oherwydd rhesymau priffyrdd a chan fod yr aelod hwnnw yn absennol yng nghyfarfod Mai penderfynodd yr aelodau ohirio ystyried y cais.  Yng nghyfarfod mis Mehefin roedd yr aelodau yn dymuno caniatáu'r cais am y rhesymau a ganlyn ac yn groes i argymhelliad o wrthod gan y swyddog :

 

      

 

Ÿ

mae'r cais yn estyniad bychan neu resymol i'r pentref dan Bolisi 50.

 

 

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor penderfynwyd gohirio ystyried y cais fel bod swyddogion yn cael cyfle i gyflwyno adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu.

 

 

 

     Argymhellodd y Pennaeth Rheoli Datblygu wrthod y cais hwn am ei fod yn groes i Bolisi 50 y Cynllun Lleol ac nid yw'r cais yn parchu y patrwm presennol o ddatblygu ac mae'n ymwthio'n annerbyniol i'r tirwedd, ac mae'r Adran Briffyrdd hefyd yn credu fod y rhwydwaith ffyrdd yn is na'r safon dderbyniol.

 

      

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Aled Morris Jones fod yr ymgeisydd wedi arall gyfeirio o ffarmio ac yn rhedeg busnes hurio offer adeiladu ond hefyd yn ffermio.  Yn y gorffennol nid oedd yr awdurdod wedi gwrthwynebu busnes rhedeg lorïau a buasai'r ymgeisydd yn cefnogi'r ysgol leol; gofynnodd y Cynghorydd Jones i'r aelodau am gysondeb yn y trafodaethau a chaniatáu'r cais hwn a hefyd teimlai bod y cais yn cydymffurfio gyda Pholisi 50 y Cynllun Lleol ac yn hyn o beth gafodd gefnogaeth a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd John Byast.

 

      

 

     Teimlai'r Cynghorydd John Arthur Jones fod y safle unai y tu mewn neu ar gyrion clwstwr tynn o dai, ac ni fuasai codi un annedd arall yn ychwanegu'n sylweddol at broblemau priffyrdd yn y gyffordd.

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn y Cynghorydd J. Arwel Edwards, dywedodd y Swyddog Priffyrdd fod y gyffordd a'r ffordd yn is-safonol.

 

      

 

     O 8 pleidlais PENDERFYNWYD glynu wrth benderfyniad blaenorol y Pwyllgor i ganiatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd o'r blaen gydag amodau safonol ac yn groes i argymhelliad o wrthod gan y swyddog.

 

      

 

4.17

CAIS YN GWYRO

 

      

 

     45C332A - CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD AR DIR YN Y PARC, PEN-LÔN, NIWBWRCH

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  

 

      

 

     Yng nghyfarfod mis Mehefin roedd yr aelodau yn dymuno caniatáu'r cais hwn am ei fod yn cydymffurfio gyda Pholisi 50 (Pentrefi Rhestredig) ac yn cyfateb i lenwi bwlch yn groes i argymhelliad o wrthod gan y swyddog.  Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor penderfynwyd gohirio ystyried y cais fel bod swyddogion yn cael cyfle i gyflwyno adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu.

 

      

 

     Gan y Pennaeth Rheoli Datblygu cafwyd argymhelliad o wrthod am fod y cais yn groes i Bolisi 50 y Cynllun Lleol, i Bolisi A6 Cynllun Fframwaith Gwynedd ac i Bolisi HP6 yr CDU a buasai caniatáu yn cael effaith andwyol ar gymeriad yr ardal.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Peter Rogers fod un o'r ymgeiswyr yn ferch i ganolfan dwristiaid y 'Model Village' a chais oedd hwn i godi ty fforddiadwy i deulu ifanc lleol.  Eisoes roedd yr egwyddor o ddatblygu wedi ei sefydlu yn y cyffiniau trwy godi Stad Clynnog, ac roedd yr Arolygydd Cynllunio yn argymell fod Pen-lôn yn cael ei gydnabod yn yr CDU esblygol fel Teflan Wledig a Chlwstwr.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Glyn Jones cafwyd cynnig i lynu wrth benderfyniad blaenorol y Pwyllgor a chaniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Eurfryn Davies.

 

      

 

     Ar ôl derbyn cyngor y cyfreithiwr, gan fod y cais yn gwyro, cytunwyd i gofnodi'r bleidlais a dyma fel y bu :

 

      

 

     CANIATAU'R CAIS (YN GROES I ARGYMHELLIAD O WRTHOD GAN Y SWYDDOG):

 

     Y Cynghorwyr Bessie Burns, Eurfryn Davies, J. Arwel Edwards, J. Arthur Jones, O. Glyn Jones, R. L. Owen, D. Lewis-Roberts, John Roberts, (8)

 

 

 

     O 8 pleidlais PENDERFYNWYD glynu wrth benderfyniad blaenorol o Pwyllgor i ganiatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd o'r blaen a chyda'r amodau safonol a hynny'n groes i argymhelliad o wrthod gan y swyddog.

 

      

 

4.18

CAIS YN GWYRO

 

      

 

     48C146A - CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD A DARPARU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU AR DIR GYFERBYN Â THERAS WYLFA, GWALCHMAI

 

      

 

     Cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais hwn gan Mrs Wendy Foulkener o'r Adran Gynllunio.

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol a hefyd gan fod yr ymgeisydd yn perthyn i un o swyddogion y Cyngor.

 

      

 

     Yng nghyfarfod Mehefin, ac yn ôl dymuniad yr ymgeisydd, gohiriwyd ystyried y cais.

 

      

 

     Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod yr ymgeisydd bellach am i'r safle gael ei ystyried fel safle eithriad i dy fforddiadwy ac roedd y mater yn cael ei asesu.

 

      

 

     Am y rheswm uchod penderfynwyd gohirio ystyried y cais hwn.

 

      

 

5     CEISIADAU ECONOMAIDD

 

      

 

5.1

17C254E/ECON - DATBLYGU CYFLEUSTER TROSGLWYDDO GWASTAFF AC AILGYLCHU AR SAFLE TOMEN PENHESGYN, PORTHAETHWY

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan fod rhan o'r tir yn eiddo i'r awdurdod lleol.

 

      

 

     Cafwyd datganiadau o ddiddordeb gan y Cynghorwyr Eurfryn Davies, R. G. Parry, John Roberts, Noel Thomas a John Williams a gadawsant y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r pleidleisio.

 

      

 

     Nodwyd bod y Cynghorydd J. Arthur Jones wedi ei enwebu gan Arweinydd y Cyngor i ymuno â Bwrdd Cyfarwyddwyr Cwmni Gwastraff Môn Arfon ac y câi y sefyllfa ei chadarnhau ym mis Medi.  Gan nad oedd wedi bod yn rhan o'r cwmni hyd yma cafwyd cyngor cyfreithiol y gallai'r Cynghorydd Jones aros yn y cyfarfod a bod yn rhan o'r trafodaethau.

 

      

 

     Gan yr Arweinydd Tîm (Gorfodaeth, Mwynau a Gwastraff) cafwyd disgrifiad o'r cyfleusterau trosglwyddo gwastraff arfaethedig fel y manylwyd arnynt yn ei adroddiad.  Mewn ymateb i'r ymgynghori gyda'r cyhoedd cafwyd 2 lythyr o wrthwynebiad a'r pryder pennaf oedd y ceid cynnydd yn y traffig, yn enwedig lorïau trymion ar hyd Ffordd Penmynydd.  Nid oedd yr Adran Briffyrdd yn gwrthwynebu oherwydd y bwriedir gwella’r fynedfa a lledu’r ffordd fynediad trac sengl sy’n arwain o’r ffordd dosbarth 3 ym Mhenhesgyn i safle’r cais er mwyn gwneud darpariaeth ar gyfer traffic deuffordd.  I bwrpas asio gyda'r tirwedd buasai'r adeilad ei hun yn un o liw tywyll, tebyg i sied amaethyddol a phlennid coed ar y tir o gwmpas i guddio'r adeilad a lleddfu'r effaith.

 

      

 

     Roedd Penhesgyn eisoes wedi ei drwyddedu fel safle gwastraff yn y tir, ac o'r herwydd roedd y safle hwn yn un llwyd.  Dan y cyfarwyddiadau presennol mae'n ddyletswydd ar yr awdurdod i ailgylchu 25% o'i wastraff erbyn y flwyddyn nesaf a nodwyd mai 15% sy'n cael ei ailgylchu ar hyn o bryd.  Teimlai'r swyddogion mai hwn oedd y lle mwyaf priodol i wneud gwaith o'r fath ac argymhellwyd rhoddi caniatâd i'r cais.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd R. L. Owen cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad i ganiatáu a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Glyn Jones.

 

 

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais hwn am y rhesymau a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd Aled Morris Jones yn dymuno cofnodi nad oedd wedi pleidleisio.

 

      

 

6     CEISIADAU'N TYNNU'N GROES

 

      

 

6.1

15C48F - CAIS AMLINELLOL I GODI 24 O ANHEDDAU YN CYNNWYS 13 O DAI AR WAHÂN AC 11 O DAI FFORDDIADWY YNGHYD Â DARPARU AC ALTRO'R FYNEDFA I GERBYDAU A DARPARU MYNEDFA NEWYDD I GERDDWYR AR DIR RHWNG STRYD DAVID A STRYD Y VIADUCT, MALLTRAETH

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan fod rhan o safle'r cais yn cynnwys tir sy'n eiddo i'r Cyngor.

 

      

 

     Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu fod y tir dan sylw yn y cais hwn y tu mewn i ffiniau datblygu Malltraeth ac yn cydymffurfio gyda'r Cynllun Datblygu Unedol ond nid oedd y safle wedi ei glustnodi ar gyfer codi tai ac roedd rhan o'r safle y tu mewn i'r ardal sy'n wynebu risg llifogydd.  Roedd tir arall yn y pentref wedi ei glustnodi ar gyfer tai yn y Cynllun Datblygu Unedol.  Wedyn cyfeiriodd y swyddog at gyfarwyddiadau yn TAN 15 - datblygu mewn ardal sy'n wynebu risg llifogydd fel y manylwyd ar hynny yn adroddiad y swyddog.  Am y rhesymau a roddwyd yn adroddiad y swyddog roedd ef yn argymell yn gryf y dylid gwrthod y cais ond gyda'r amod fod rheswm rhif (04) yn cael ei ddileu fel un o resymau gwrthod.

 

      

 

     Yn ôl yr Uwch Beiriannydd Priffyrdd roedd yr A4080 yn y pwynt penodol hwn yn anaddas i dderbyn rhagor o draffig a ddeuai yn sgil y cynnig a hefyd nid oedd y gallu i weld yn y gyffordd gyda Ffordd y Viaduct yn cyrraedd y safon.

 

      

 

     Cytuno gydag adroddiad y swyddog a wnaeth y Cynghorydd R. Ll. Hughes a dywedodd bod tir arall, yn nes i ganol y pentref, wedi ei glustnodi ar gyfer tai yn yr CDU a hefyd, petai'r bwriad hwn yn symud ymlaen, collid cynefin gwerthfawr.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Glyn Jones cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad ac argymhelliad y swyddog o wrthod y cais a chafodd hyn ei eilio gan Y Cynghorydd R. L. Owen.

 

      

 

     O 8 bleidlais PENDERFYNWYD gwrthod y cais am y rhesymau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd Eurfryn Davies yn dymuno cofnodi nad oedd wedi pleidleisio ar y cais.

 

      

 

      

 

6.2

16C138B - CAIS AMLINELLOL I GODI BYNGALO YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD A DARPARU OFFER NEWYDD I DRIN CARTHION AR GAE ORDNANS 6674, YSGUBOR FADOG, BRYNGWRAN

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Yr hyn a wnaeth y Pennaeth Rheoli Datblygu oedd atgoffa'r aelodau bod y cais hwn yn gwyro a bod ceisiadau cyffelyb wedi eu gwrthod yn 2000 a 2004.  Roedd y cynnig yn groes i Bolisïau 50 y Cynllun Lleol i A6 Cynllun Fframwaith Gwynedd ac i Bolisi HP4 yr CDU.  Nid oedd yn estyniad derbyniol i'r pentref a buasai'n creu nodwedd ddieithr ymwthiol a hynny yn andwyo cymeriad a phleser yr ardal; ni chyflwynwyd unrhyw dystiolaeth y buasai'r annedd yn un fforddiadwy.  Yr argymhelliad oedd i wrthod.

 

      

 

     Oherwydd gwrthwynebiadau cyfeiliornus gan Asiantaeth yr Amgylchedd y gwrthodwyd y ceisiadau blaenorol yn ôl y Cynghorydd R. G. Parry ac roedd y safle ar gyrion ffiniau'r pentref ac ychwanegodd nad oedd yr CDU wedi ei fabwysiadu hyd yma.  Y dydd hwn roedd sylw i gais i godi 14 o anheddau ar safle union ger y safle hwn wedi ei ohirio.  Roedd yr ymgeisydd yn dymuno byw cyn agosed ag y bo'n bosib i'r pentref, nid yn y cefn gwlad.

 

      

 

     Er bod y Cynghorydd Eurfryn Davies yn derbyn mai y nant fechan gerllaw oedd y ffin naturiol i Fryngwran, teimlai fod safle'r cais union ar gyrion y pentref a chynigiodd y dylid caniatáu'r cais a gofynnodd i'r aelodau am barhau i fod yn gyson yn eu trafodaethau.

 

      

 

     Teimlai'r Cynghorydd Aled Morris Jones bod y cais yn cydymffurfio gyda Pholisi 50 a chynigiodd roddi caniatâd.  

 

      

 

     Nid oedd y Cynghorydd D. Lewis-Roberts yn siwr a oedd y safle union ger ffiniau'r pentref neu'n gyffiniol.  

 

      

 

     Hefyd roedd y Cynghorydd J. Arthur Jones yn teimlo fod y cais yn cydymffurfio gyda Pholisi 50 gan ychwanegu bod y safle unai y tu mewn i ffiniau'r pentref neu ar eu cyrion.  

 

      

 

     Yr hyn a wnaeth y Pennaeth Rheoli Datblygu oedd atgoffa'r aelodau nad cais i ddarparu ty fforddiadwy oedd hwn ac nad oedd yn cydymffurfio gyda Pholisi 50 y Cynllun Lleol.

 

      

 

     O 7 pleidlais i 3 PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesym a ganlyn ac yn groes i argymhelliad o wrthod gan y swyddog :

 

      

 

Ÿ

mae'r cais yn cydymffurfio gyda Pholisi 50 Cynllun Lleol Ynys Môn - mae unai y tu mewn i ffiniau'r pentref neu ar eu cyrion

 

Ÿ

hyd yma nid yw'r CDU wedi ei fabwysiadu.

 

 

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor buasai'r cais hwn yn cael ei ohirio yn awtomatig tan y cyfarfod nesaf er mwyn rhoi'r cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu.

 

      

 

6.3

27C84 - CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD, DARPARU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU A DARPARU TANC SEPTIG NEWYDD FEL RHAN O GAE ORDNANS 0741, TREMOELGOCH, LLANFACHRAETH

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Heb amheuaeth meddai'r Pennaeth Rheoli Datblygu roedd y cais hwn yn torri'r polisïau, ac nid oedd yr ymgeisydd wedi cyflwyno tystiolaeth yn seiliedig ar anghenion amaethyddol neu goedwigaethol.  O'r herwydd cafwyd argymhelliad cryf o wrthod y tu mewn i Ardal o Brydferthwch Naturiol Eithriadol a hefyd roedd y cais yn groes i Bolisi 50 y Cynllun Lleol i A6 y Cynllun Fframwaith ac i HP6 yr CDU.

 

      

 

     Ond oherwydd natur Llanfugail dywedodd y Cynghorydd Bessie Burns bod y tai yno yma ac acw dros ardal eang a'r eiddo yn ffurfio rhuban naturiol ar hyd Stryd y Facsen, a gwaith adfer ac addasu ar hen adeiladau wedi ei wneud yng nghyffiniau'r eglwys ac union ger y plot hwn roedd blotyn du ar y tirwedd - sef sied gywion ieir.  Roedd modd datrys y materion a godwyd yn ystod y gwaith o ymgynghori gyda'r cyhoedd.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd R. L. Owen cafwyd cynnig bod yr aelodau yn ymweld â'r safle a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Tecwyn Roberts.

 

 

 

     PENDERFYNWYD ymweld â'r safle i benderfynu a ydoedd yn ddatblygaid yn y cefn gwlad ai peidio.

 

      

 

6.4

38C217A - CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD YNGHYD Â DARPARU TANC SEPTIG NEWYDD AR DIR YN Y FOEL FAWR, TREGELE

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu fod y cais blaenorol rhwng y safle dan sylw a Theras Cromlech wedi ei dynnu'n ôl yn ddiweddar.  Roedd y cais gerbron yn groes i Bolisi 53 y Cynllun Lleol, i A6 y Cynllun Fframwaith ac i HP6 yr CDU.  Gan y swyddog cafwyd argymhelliad i wrthod.

 

      

 

     Ar ôl rhannu copi o gynllun ymhlith yr aelodau dywedodd y Cynghorydd Thomas Jones fod y cais blaenorol y tu allan i'r ffrâm ddangosiadol ond bod y safle dan sylw yn fwy derbyniol gan ei fod y tu mewn i'r ffrâm a hefyd roedd yn cael ei gefnogi gan y cyngor cymuned.

 

      

 

     Yr hyn a wnaeth y Cynghorydd John Roberts oedd gofyn faint o sylw y dylid ei roddi i'r ffrâm ddangosiadol wrth benderfynu ar geisiadau.

 

      

 

     Wrth ymateb dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu nad oedd safle'r cais y tu mewn i glwstwr tynn o anheddau gan ychwanegu ei fod hi'n rhy gynnar ystyried y cais dan y ffrâm ddangosiadol arfaethedig yn yr CDU.

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd D. Lewis-Roberts rhoddi caniatâd i'r cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Aled Morris Jones.

 

      

 

     O 7 bleidlais PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesym a ganlyn ond yn groes i argymhelliad o wrthod gan y swyddog :

 

      

 

Ÿ

mae sale'r cais ar gyrion ffiniau'r pentref y tu mewn i glwstwr o anheddau eraill ac yn cydymffurfio gyda ffrâm ddangosiadol yr CDU.

 

 

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor penderfynwyd gohirio ystyried y cais fel bod swyddogion yn cael cyfle i gyflwyno adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu.

 

      

 

6.5

38C220 - CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD UNLLAWR AR DIR GER HEN BLAS, LLANFECHELL

 

 

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu nad oedd unrhyw dystiolaeth wedi ei chyflwyno i ddangos fod  yma fwriad i ddarparu ty ar gyfer anghenion amaethyddol neu goedwigaethol.  Hefyd roedd y safle y tu allan i ffrâm dangosiadol Llanfechell ac yn groes i Bolisïau 53 y Cynllun Lleol, A6 y Cynllun Fframwaith a HP6 yr CDU.  Buasai caniatáu'r cais hwn yn arwain at ddatblygiad mympwyol yn y cefn gwlad gan wneud drwg iddi a chafwyd argymhelliad o wrthod gan y swyddog.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Thomas Jones cafwyd argymhelliad bod aelodau yn ymweld â'r safle i asesu y sefyllfau eu hunain.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Aled Morris Jones cafwyd cynnig bod aelodau yn ymweld â'r safle a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Tecwyn Roberts.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â'r safle fel bod yr aelodau yn cael cyfle i asesu'r lle eu hunain.

 

      

 

6.6

42C60C - CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD A DARPARU MYNEDFA NEWYDD AR DIR GER STRYD Y CAPEL, PENTRAETH

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod safle'r cais y tu allan i ffiniau'r pentref ac yn groes i bolisïau a dim tystiolaeth wedi ei chyflwyno gan yr ymgeisydd i gyfiawnhau caniatâd.  Ymhlith y gwrthwynebiadau cafwyd un gan y Cyngor Cymuned ac mae crynodeb yn adroddiad y swyddog ac roedd y llythyr ar gael yn y cyfarfod.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd Hefin Thomas y credu'n bendant bod y cais y tu mewn i ffiniau'r pentref - sef union ger y stad ddiwydiannol ac adeiladau masnachol eraill, a hefyd roedd y gwaith carthffosiaeth yn agos iawn i'r safle.  Gerllaw roedd caniatâd eisoes wedi ei roddi i godi 5 annedd.

 

      

 

     Yn ddiweddar roedd yr ymgeisydd wedi symud ei fusnes o ardal Bangor ac yn cyflogi 3 o bobl, ac wrth gael caniatâd ar y safle hwn medrai gadw golwg ar y busnes.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd R. L. Owen cafwyd cynnig bod yr aelodau yn ymweld â'r safle a chafodd ei eilio gan y Cynghorwyr Arwel Edwards ac Eurfryn Davies.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â'r safle fel bod yr aelodau yn cael cyfle i asesu'r lle eu hunain.

 

      

 

6.7

44C239 - CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD YNGHYD Â DARPARU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU AR RAN O RHIW-MOEL, RHOS-Y-BOL

 

      

 

     Cyflwywnyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Disgrifiodd y Pennaeth Rheoli Datblygu y safle a'r cynnig fel manylwyd arnynt yn adroddiad y swyddog.  Roedd hwn yn groes i'r polisïau ac yn mynd i gael effaith andwyol ar gymeriad yr ardal, a chreu estyniad annerbyniol i'r datblygiad rhubanaidd y tu allan i ffiniau'r pentref ar hyd y briffordd.  Roedd y safle yn rhannol mewn dau gae ac yn golygu dymchwel clawdd a chafwyd argymhelliad cryf o wrthod gan y swyddog.

 

      

 

     Yn ôl y Cynghorydd Aled Morris Jones roedd dau gais arall wedi eu caniatáu i gyfeiriad Pen Palmant, a theimlai bod y cais hwn yn cydymffurfio gyda Pholisi 50 sy'n caniatáu anheddau unigol ar gyrion ffiniau pentrefi a theimlai hefyd y buasai'n fater o lenwi bwlch yn sensitif ac ychwanegodd fod y safle y tu mewn i'r cyfyngiad gyrru 30 milltir yr awr.  Person lleol oedd yr ymgeisydd ac yn byw yn barod yn y pentref ac yn dymuno gwella ei amgylchiadau.  

 

      

 

     Cytuno wnaeth y Cynghorydd Arthur Jones bod hyn yn mynd rhy bell.

 

      

 

     Wedyn cafodd yr aelodau eu hatgoffa gan y Pennaeth Rheoli Datblygu o Bolisi 50 sy'n caniatáu codi anheddau sengl y tu mewn i ffiniau pentrefi - ac roedd dau gais eisoes wedi derbyn caniatâd yma.

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd Aled Morris Jones roddi caniatâd i'r cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Denis Hadley.

 

 

 

     Gan y Cynghorydd Arwel Edwards cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad o wrthod a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd John Roberts.

 

      

 

     O 5 pleidlais i 4 PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a argymhlliad o wrthod am y rhesymau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

7     GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

7.1

17LPA112G/CC - CAIS DIWYGIEDIG I GYNNWYS FFENESTRI 'VELUX' AR GAIS OEDD EISOES WEDI EI GANIATAU DAN Y RHIF 17LPA112F/CC YN YSGOL GYNRADD, LLANDEGFAN

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan mai'r Cyngor oedd yr ymgeisydd a hefyd gan fod safle'r cais yn eiddo i'r Cyngor.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Eurfryn Davies cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r pleidleisio.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais am y rhesymau a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

7.2

17C325A - DYMCHWEL ANNEDD A CHODI DWY ANNEDD NEWYDD AC ADDASU'R FYNEDFA YM MARC BELLIS, HEN LANDEGFAN

 

      

 

     Cafwyd argymhelliad gan y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod aelodau yn ymweld â'r safle i gynefino gyda'r tir a'r lle.

 

      

 

     Am y rheswm a roddwyd PENDERFYNWYD ymlwed â'r safle uchod.

 

      

 

7.3

20C68E - CODI ANNEDD AR DIR YM MRYN TIRION, CEMAES

 

      

 

     Gan y Cynghorydd John Byast cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais hwn a gadawodd y cyfarfod am y drafodaeth a'r pleidleisio.

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod yr ymgeiswyr bellach wedi cyflwyno rhagor o wybodaeth oedd yn cynnig gwelliannau i'r fynedfa ac argymhellodd ohirio ystyried y cais.

 

      

 

     Gan fod y cais gerbron mor gymhleth gofynnodd y Cynghorydd John Williams i'r aelodau ymweld â'r safle.

 

      

 

     Am y rheswm a roddwyd PENDERFYNWYD ymlwed â'r safle uchod.

 

      

 

7.4

30C259C - DYMCHWEL ANNEDD A CHODI ANNEDD NEWYDD A GWNEUD GWAITH ALTRO AR Y FYNEDFA I GERBYDAU YN LLYS IFON, BENLLECH

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod y cais hwn yn golygu dymchwel siale ac yn ei le codi annedd barhaol.  Yn adroddiad y swyddog crynhowyd y gwrthwynebiadau a gafwyd ac roedd y rheini ar gael yn y cyfarfod.  Nid oedd caniatâd i ddefnyddi'r siale fel cyfleuster preswylio parhaol ac nid oedd modd ei ystyried dan Bolisi 54 (codi annedd newydd yn lle hen un) ac roedd yn cyfateb i ddatblygiad tir cefn annerbyniol, a chafwyd argymhelliad o wrthod gan y swyddog am y rhesymau y manylwyd arnynt yn ei adroddiad.

 

 

 

     Dywedodd yr Uwch Beiriannydd Priffyrdd fod y gwelededd yn y fynedfa yn is na'r safon dderbyniol.

 

      

 

     Yn ôl y Cynghorydd D. Lewis-Roberts roedd tai yn amgylchynu'r safle a chyfeiriodd yr aelodau at eitem 4.7 (Ty'n Lôn, Llanddona) lle'r roedd y swyddogion yn credu bod y gwelededd yn dderbyniol ar dro, ond roedd y fynedfa i'r safle hwn ar ddarn syth o'r lôn a phwysodd yn daer ar aelodau i fod yn gyson.  Roedd yr egwyddor o ddatblygu'r safle wedi ei sefydlu yn 1973 pan roddwyd caniatâd i godi ty a byngalo.  Roedd y safle y tu mewn i ffiniau pentref Tyn-y-Gongl a'r cais yn cydymffurfio gyda Chynllun Lleol Ynys Môn, gyda Chynllun Fframwaith Gwynedd a CDU.  Cafwyd argymhelliad ganddo i ganiatáu'r cais.

 

      

 

     Gan fod y safle y tu mewn i glwstwr o dai eraill cynigiodd y Cynghorydd Eurfryn Davies fod aelodau yn ymweld â'r lle i asesu'r sefyllfa drostynt eu hunain.  

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Tecwyn Roberts cafwyd cynnig i ganiatáu'r cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Aled Morris Jones.

 

      

 

     Teimlai'r Cynghorydd Arthur Jones fod yma ddigon o le i godi tair annedd ac aeth ymlaen i atgoffa'r aelodau o bwysigrwydd cysondeb.

 

      

 

     Wedyn cyfeiriodd y Cynghorydd Arwel Edwards at gais rhif 4.7 y cofnodion hyn lle'r oedd bwriad i adeiladu wrth ochr ty ond yma roedd bwriad i adeiladu y tu ôl i dy.

 

      

 

     Yn ôl y Cynghorydd D. Lewis-Roberts roedd llain gwelededd mawr i'r safle ac union y drws nesaf roedd cilfan barcio.

 

      

 

     Ychwanegodd yr Uwch Beiriannydd Priffyrdd fod y cais blaenorol yn dderbyniol oherwydd y bo'r hawliau blaenorol ar y tir a chredai'r swyddogion nad oedd y fynedfa yn cyrraedd y safonau angenrheidiol i dderbyn rhagor o draffig.

 

      

 

     Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod hon yn ardal breswyl ers tro byd ac nid oedd modd ystyried y cais fel codi annedd newydd am hen un.  Roedd yn cyfateb i ddatblygu yn y tir cefn a defnydd atodol oedd y defnydd a wneir o'r siale.

 

      

 

     Ond yn ôl y Cynghorydd Tecwyn Roberts roedd pobl wedi byw yn y siale ers blynyddoedd lawer.

 

      

 

     O 7 pleidlais i 1 PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rheswm a ganlyn ac yn groes i argymhelliad o wrthod gan y swyddog :

 

      

 

Ÿ

mae'r cais yn cydymffurfio gyda Pholisïau 50 a HP4

 

Ÿ

mae yma ddigon o le i dderbyn annedd arall heb amharu ar bleserau y tai cyfagos

 

Ÿ

codi annedd newydd yn lle hen un

 

 

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor penderfynwyd gohirio ystyried y cais fel bod swyddogion yn cael cyfle i gyflwyno adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu.

 

      

 

7.5

31C70G - CAIS I BENDERFYNU A OES ANGEN CANIATÂD AI PEIDIO I DDYMCHWEL ADEILADAU ALLANOL YM MHLAS EITHIN, LLANFAIR-PWLL

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu nad oedd y cais hwn gerbron i'w ystyried a gofynnodd am ei dynnu oddi ar yr agenda.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a nodi y câi'r cais ei dynnu oddi ar yr agenda.

 

      

 

7.6

31C70H - DIWYGIO AMOD (02) ER MWYN YMESTYN CYFNOD Y MATERION WRTH GEFN O DAIR BLYNEDD I BUM MLYNEDD YNG NGHANIATÂD CYNLLUNIO 31C70E I BWRPAS CODI UNED 40 YSTAFELL WELY I'R HENOED DRYSLYD AR HEN SAFLE GWESTY PLAS EITHIN, LLANFAIRPWLL

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     I bwrpas cadw cofnod cywir ym mhwynt 2 y fersiwn Cymraeg yn adroddiad y swyddog dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu mai cais oedd hwn i godi uned 40 ystafell wely.

 

      

 

     Gan fod angen cyfleusterau o'r fath cynigiodd y Cynghorydd Arwel Edwards dderbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad o ganiatáu a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Eurfryn Davies.

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd John Roberts a fuasai'r Awdurdod Datblygu ei hun yn gofalu am yr unedau ac mewn ymateb dywedodd y swyddog fod y penderfyniadau  yn cael eu gwneud yn ôl egwyddor defnydd tir ac nid yn ôl pwy yw'r ymgeisydd.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

7.7

33C171A - DARPARU DAU BORTACABIN FEL CYFLEUSTERAU NEWID AR GAE PEL-DROED, LÔN GROES, Y GAERWEN

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan fod y safle yn eiddo i'r Cyngor.

 

      

 

     Argymhellodd y Swyddog rhoddi caniatâd i'r cais yn unol ag adroddiad y swyddog yn amodol ar ddileu amod (01) am nad oedd yn berthnasol.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

7.8

44C238 - DYMCHWEL ADEILAD A CHODI 3 ANNEDD AR DIR YR HEN FECWS, RHOS-Y-BOL

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Dywedodd y Pennaeth Reoli Datblygu fod yr egwyddor o godi tai yn cydymffurfio gyda pholisïau ac ni châi effaith andwyol ar bleserau y tai cyfagos gan fod y cynnig yn un ar gyfer anheddau o'r un uchder â'r rheini sydd yno'n barod, a gofynnodd y swyddog am roddi awdurdod i'r Pennaeth Gwasanaethau Cynllunio ganiatáu'r cais ond ar ôl derbyn cadarnhad bod digon o le parcio ac o le troi y tu mewn i'r safle a chadarnhad y bydd yno ddarpariaeth foddhaol i gael gwared o ddwr wyneb.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Aled Morris Jones nad oedd yn gwrthwynebu'r egwyddor o ddatblygu.  Roedd un fynedfa o'r ddwy a redai at y safle wedi ei chau ac un newydd wedi ei chreu ac yn rhedeg i stad dai preifat.  Ni fedrai'r Cynghorydd Jones fod ar yr ymweliadau safle cynllunio nesaf ac felly argymhellodd fod yr aelodau yn ymweld â'r safle am resymau priffyrdd.  Am y rheswm hwn cynigiodd y Cynghorydd Eurfryn Davies fod aelodau yn ymweld â'r safle.

 

      

 

     Am y rheswm a roddwyd PENDERFYNWYD  ymweld â'r safle uchod.

 

 

 

7.9

46C402A - CAIS AMLINELLOL I DDYMCHWEL TY LLETYA A CHODI HYD AT 13 O DAI AR Y SAFLE A HYNNY'N CYNNWYS CAU'R FYNEDFA BRESENNOL I GERBYDAU I BENDORLAN AC I WESTY'R CLIFF A CHREU MYNEDFA GYFUN NEWYDD I WASANAETHU Y DDAU LE ODDI AR LÔN ISALLT A CHREU MYNEDFA I GERDDWYR AC I FEICWYR AT Y DATBLYGIAD YM MHENDORLAN, LÔN ISALLT, BAE TREARDDUR.

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Dygodd y Pennaeth Rheoli Datblygu sylw'r aelodau at y map dangosol ar y wal, at y llythyrau o wrthwynebiad a gafwyd, gan gynnwys un yn cefnogi ac fel y manylwyd ar y pethau hyn yn adroddiad y swyddog ac a oedd gerbron yn y Pwyllgor.  Roedd y cynnig yn dderbyniol o safbwynt polisi a'r datblygwr yn cynnig 30% o unedau o dai fforddiadwy yn unol â gofynion polisi.

 

      

 

     Credai'r Cynghorydd Peter Dunning y dylid disgrifio y datblygiad hwn fel un yn y tir cefn, h.y. rhwng a hefyd y tu cefn i dai sydd yno, ac roedd y fynedfa i'r safle y tu allan i'r cyfyngiad gyrru 30mya rhyw ychydig draw o ael y bryn ac i lôn brysur yn rhedeg i gyfeiriad Ynys Lawd.  Roedd yr Adran Briffyrdd yn fodlon bod y cynnig yn cwrdd â gofynion angenrheidiol ac yn credu hefyd bod y datblygiad yn welliant.  Ar hyn o bryd roedd y safle, sy'n rhan o Westy'r Cliff, yn cael ei ddefnyddio i bitso ac i bwtio.  Gofynnodd y Cynghorydd Hadley i'r aelodau ymweld â'r safle i asesu'r sefyllfa drostynt eu hunain.

 

      

 

     Am y rheswm a roddwyd PENDERFYNWYD ymweld â'r safle uchod.

 

      

 

7.10

49C257 - CAIS AMLINELLOL I GODI TAI A DARPARU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU I'R A5 AR SAFLE CAE SEL, Y FALI

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     I bwrpas cadw cofnod cywir dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu nad oedd y cynllun a roddwyd ynghlwm wrth adroddiad y swyddog yn gywir yn y fynedfa i'r A5.  Dylai'r cynllun gynnwys safle R. J. Williams fel rhan o'r datblygiad arfaethedig.  Wedyn disgrifiwyd y safle a'r cynnig gan y swyddog fel y manylwyd ar y cyfryw faterion yn ei adroddiad. Dan y cynnig hwn câi'r fynedfa i draffig i Stryd y Cae ei chau a chreuid mynedfa newydd yn uniongyrchol i'r A5 a chyda'r cais cyflwynwyd asesiad effaith traffig boddhaol.  Ar hyn o bryd roedd y glaw yn llifo oddi ar do y sied wartheg i'r garthffos gyfun gyhoeddus sy'n croesi'r safle ond ni fydd hyn yn digwydd ar ôl dymchwel yr adeilad; cynhaliwyd asesiad gan gydymffurfio gyda TAN 15 (Datblygiadau a Risg Llifogydd) a dywedodd y swyddog fod y swyddogion yn fodlon gyda'r darpariaethau i ddraenio a chael gwared o ddwr wyneb - materion y manylwyd yn adroddiad y swyddog.  Cafwyd sawl llythyr o wrthwynebiad gan gynnwys un o'r Cyngor Cymuned a chawsant eu crynhoi yn adroddiad y swyddog a'r cyfan ar gael yn y cyfarfod.  Gan y swyddog cafwyd argymhelliad i ganiatáu ond gyda amodau yn adroddiad y swyddog a hynny'n cynnwys gwneud cytundeb dan Adran 106 yng nghyswllt tai fforddiadwy.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Goronwy Parry fod angen diogelu coed ar y safle a hefyd fod rhaid diogelu'r cwlfert sydd union ger y rheilffordd.  Aeth ymlaen i nodi y bydd y traffig bellach yn cyrraedd y safle o'r A5 a hynny yn llawer mwy derbyniol ac yn gam mawr i leddfu y pryderon ar y cychwyn; ychwanegodd bod y safle wedi ei glustnodi fel safle llwyd.

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd Bessie Burns am ohirio ystyried y cais o gofio mai dim ond hanner aelodau'r Pwyllgor oedd yn brsennol.  

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Burns ni allai'r Swyddog Cynllunio cadarnhau mai datblygiad i godi 57 o dai oedd yma gan fod y cais ei hun bellach yn un amlinellol a châi rhagor o fanylion eu cyflwyno'n ddiweddarach.  Wedyn gofynnodd y Cynghorydd Burns sut y medrai'r swyddogion gefnogi cynnig mor fawr gyda mynedfa yn syth i'r A5.  Hefyd roedd ganddi amheuon ynghylch y math o dai a godid ar y safle.  Ar hyn o bryd roedd 46 o dai ar werth yn ardal y Fali a gofynnodd tybed faint o bobl fuasai'n gymwys i brynu ty fforddiadwy.

 

      

 

     Wedyn cyfeiriodd y Cynghorydd Eurfryn Davies at bryderon y preswylwyr ac a nodwyd yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

     Wedyn soniodd y Cynghorydd Parry am y gwaith carthffosiaeth newydd - gwaith fydd yn lleddfu pryderon carthffosiaeth a nododd y gallai lled y fynedfa i'r A5 dderbyn traffig yn symud yn y ddau gyfeiriad.

 

      

 

     Ar ôl ystyried pob agwedd o'r cynnig gerbron yn fanwl iawn dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod y cynnig ar ôl pwyso a mesur pob peth yn dderbyniol.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd R. L. Owen cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad o ganiatáu a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Arwel Edwards.

 

      

 

     O 6 phleidlais i 2 PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu'r cais hwn am y rhesymau a hefyd gyda'r amodau yn  adroddiad y swyddog.

 

      

 

8     CEISIADAU A DDIRPRWYWYD

 

      

 

     Cyflwynwyd a derbyniwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cynllunio a Gwasanaethau Amgylcheddol) ar faterion a ddirprwywyd ac a benderfynwyd ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor hwn.

 

      

 

9     APELIADAU

 

      

 

     Cyflwynwyd a nodwyd er gwybodaeth, gopi o grynodeb o benderfyniadau yr Arolygwyr a benodwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ynghylch y materion a ganlyn :

 

      

 

9.1

MYNYDD MADYN, PORTH AMLWCH

 

      

 

     Dan Adran 174 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 fel y cafodd ei ddiwygio gan Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991 - apêl yn erbyn penderfyniad yr Awdurdod hwn i ryddhau rhybudd gorfodaeth am dorri rheolau cynllunio (rhif: RJ/P/51/06/04 dyddiedig 13 Medi, 2004) - llwyddodd yr apêl yn rhannol a chefnogwyd y rhybudd, yn amodol ar ddiwygio y cyfnod cydymffurfio.

 

      

 

9.2

GORSLWYD, LLANDDONA

 

      

 

     Dan Adran 78 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 apêl yn erbyn penderfyniad yr awdurdod hwn yn gwrthod caniatâd amlinellol (rhif: 22C167 trwy rybudd dyddiedig 25 Tachwedd, 2004) - gwrthodwyd yr apêl.

 

      

 

9.3

RHAN O GAE ORDNANS O262, GWALCHMAI

 

      

 

     Dan Adran 78 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 apêl yn erbyn penderfyniad yr awdurdod hwn i wrthod caniatâd cynllunio amlinellol (rhif: 48C145A trwy rybudd dyddiedig 4 Tachwedd, 2004) - gwrthodwyd yr apêl.

 

      

 

9.4

GERLAN, PONTRHYBONT

 

      

 

9.4.1

Dan Adran 78 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 apêl yn erbyn penderfyniad yr awdurdod hwn i wrthod caniatâd cynllunio i ddymchwel annedd a chodi 6 annedd ar wahân (rhif: 43C77C trwy rybudd dyddiedig 5 Tachwedd, 2004) - gwrthodwyd yr apêl.

 

      

 

9.4.2

Dan Adran 78, 322 a Rhestr 6 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 a rhan Adran 250(5) Deddf Llywodraeth Leol 1972 cais i dalu'r costau'n rhannol - sef costau paratoi tystiolaeth bellach; gwrthodwyd y rheswm cyntaf dros wrthod yr uchod (rhif: 43C77C trwy rybudd dyddiedig 5 Tachwedd 2004) - caniatawyd y cais yn unol â'r telerau y manylwyd arnynt yn adroddiad yr Arolygydd.

 

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 6.20 p.m.

 

 

 

J. ARTHUR JONES

 

CADEIRYDD