Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion dogfennau , 6 Medi 2006

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Dydd Mercher, 6ed Medi, 2006

PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION

 

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Medi, 2006

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd J Arwel Roberts - Cadeirydd

Y Cynghorydd Denis Hadley - Is-Gadeirydd

 

Y Cynghorwyr John Byast, John Chorlton, Eurfryn Davies, Arwel Edwards, PM Fowlie, Aled Morris Jones, J Arthur Jones, O Glyn Jones, RL Owen, John Roberts, WJ Williams MBE

 

 

 

WRTH LAW:

 

Cynllunio:

Pennaeth y Gwasanaeth Cynllunio (JW)

Swyddog Cynllunio (GJ)

 

Priffyrdd:

Uwch Beiriannydd (Rheoli Datblygu a Hawliau Tramwy)(JRWO) - eitem 6.3 yn unig

Swyddog Rheoli Datblygu (Priffyrdd) (RE) - eitem 6.7 yn unig

 

Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol (RWJ)

Swyddog Pwyllgor (MEH)

Cynorthwywr Gweinyddol (CWP)

 

YMDDIHEURIADAU:

 

 

Y Cynghorydd John Rowlands

HEFYD YN BRESENNOL:

 

Aelodau Lleol: Y Cynghorwyr J Meirion Davies - eitemau 5.5,5.6, 6.5,6.6, Fflur Hughes - eitem 9.2, RLl Hughes - eitem 10.2, WI Hughes - eitemau 9.3,9.4,9.5, Thomas Jones - eitemau 9.6,10.13, Goronwy Parry MBE - eitemau 6.7,9.8,10.16,

RG Parry OBE - eitemau 9.1,10.3, G Allan Roberts - eitem 12.1, Tecwyn Roberts - eitemau  6.1,6.2,10.7, Hefin Thomas (Deilydd Portffolio Cynllunio)

 

1

YMDDIHEURIADAU

 

Nodwyd yr ymddiheuriadau am absenoldeb fel a geir uchod.

 

2

DATGANIADAU O DDIDDORDEB

 

Derbyniwyd datganiadau o ddiddordeb fel y cawsant eu cofnodi dan yr eitemau perthnasol.

 

3

COFNODION

 

Cadarnhawyd a llofnodwyd cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gafwyd ar 25 Gorffennaf, 2006.  (Cyfrol y Cyngor 19.09.2006, tud 167 - 183) yn amodol ar y canlynol:

 

19C712F & 19C712G/LB - Porthyfelin House, Caergybi  (eItemau 7.3 & 7.4 y cofnodion) gweler eitem 12.1 o’r cofnodion hyn.

 

33C20X/2 - Plot 4 Stad Ddiwydiannol, Gaerwen Nid oedd y Cynghorydd J Arthur Jones yn bresennol yn ystod y drafodaeth na’r pleidleisio ar yr eitem hon.

 

 

30C398D - Ynys Ganol, Bryn-teg Pleidleisiodd y Cynghorydd John Roberts i dderbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais.

 

 

 

4

YMWELIADAU Â SAFLEOEDD

 

 

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd adroddiad ar yr Ymweliadau â Safleoedd Cynllunio a gafwyd ar 9 Awst, 2006. Nodwyd y dylai Lôn Dyfnia ddarllen “Hen Lôn Dyfnia” ym mhwynt 1 yr adroddiad,.

 

 

 

 

 

5

CEISIADAU A OHIRIWYD

 

 

 

5.1

CAIS YN TYNNU’N GROES

 

 

 

12C66G  DYMCHWEL YR ADEILAD PRESENNOL YNGHYD Â CHODI PUM ANNEDD, CAFFI, PAFILIWN AC AILWAMPIO’R HEN BWLL NOFIO, BIWMARES

 

 

 

Penderfynwyd ymweld a’r safle ar 5 Gorffennaf, ac fe gafwyd hyn ar 12 Gorffennaf, 2006.  Gofynnodd y swyddog am ohiriad pellach er mwyn cwblhau trafodaethau.

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais am y rhesymau a roddwyd.

 

 

 

 

 

5.2

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

23C230  CODI MELIN WYNT YN LLIDIART TWRCELYN, CAPEL COCH

 

 

 

Argymhelliad i ymweld â’r safle i weld y bwriad yn ei gyd-destun gafwyd gan y swyddog.

 

 

 

PENDERFYNWYD ymweld â’r safle am y rheswm a roddwyd.

 

 

 

 

 

5.3

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

24C165A  CODI MELIN WYNT YN TREMARFOR, LLANEILIAN

 

 

 

Argymhelliad i ymweld â’r safle i weld y bwriad yn ei gyd-destun gafwyd gan y swyddog.

 

 

 

PENDERFYNWYD ymweld â’r safle am y rheswm a roddwyd.

 

 

 

 

 

5.4

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

30C385B  DYMCHWEL Y GWESTY PRESENNOL A CHODI ADEILAD TRI LLAWR YN CYNNWYS 21 O FFLATIAU PRYNU I OSOD, PWLL NOFIO DAN DO YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU, ADDASU’R FYNEDFA I GERBYDAU A DARPARU OFFER PREIFAT I DRIN CARTHION YNG NGHWESTY BRYN TIRION, TRAETH COCH

 

 

 

 

 

Penderfynwyd ymweld â’r safle ar 5 Gorffennaf, ac fe gafwyd hyn ar 12 Gorffennaf, 2006.  Gofynnodd y swyddog am ohiriad pellach er mwyn cwblhau trafodaethau.

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais am y rhesymau a roddwyd.

 

 

 

 

 

5.5

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

39C254B  CAIS AMLINELLOL I GODI PEDAIR ANNEDD YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GEIR YN HAFOD WERN, PORTHAETHWY

 

 

 

 

 

Argymhelliad i ymweld â’r safle i weld y bwriad yn ei gyd-destun gafwyd gan y swyddog.

 

 

 

PENDERFYNWYD ymweld â’r safle am y rheswm a roddwyd.

 

 

 

 

 

 

 

5.6

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

39C397A  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNED YNGHYD AG ADDASU’R FYNEDFA BRESENNOL AR DIR GER NODDFA, PORTHAETHWY

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.   Penderfynwyd ymweld a’r safle ar 5 Gorffennaf, ac fe gafwyd hyn ar 12 Gorffennaf, 2006.   Gofynnodd y swyddog am ohiriad pellach er mwyn cwblhau trafodaethau.

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais am y rhesymau a roddwyd.

 

 

 

 

 

6

CEISIADAU’N CODI

 

 

 

6.1

CAIS YN TYNNU’N GROES

 

 

 

30C332F  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD FFORDDIADWY YNGHYD Â GOSOD OFFER PREIFAT I DRIN CARTHFFOSIAETH AR DIR YN GWELFOR, BWLCH

 

 

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Yn y cyfarfod gafwyd ar 26 Gorffennaf, fe benderfynwyd gohirio ystyried y cais i alluogi’r ymgeiswyr I gyflwyno tystiolaeth i gefnogi ty fforddiadwy.

 

 

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Cynllunio fod ymateb y Cyngor Cymuned lleol wedi ei dderbyn ac ynddo wrthwynebiad i’r cynnig; hefyd reodd 14 o lythyrau eraill o wrthwynebiad wedi eu derbyn.  Nid oedd y cais yn cydymffurfio gyda’r polisiau ar ddarparu tai fforddiadwy; roedd Adran Dai’r Cyngor  yn cydnabod fod y cais yn bodloni’r meini prawf ariannol angenrheidiol ond bod lleoliad y safle yn rhy bell o’r tai presennol i bwrpas ei ystyried yn safle eithriad - rhaid i safleoedd eithriad fod o fewn clwstwr cydnabyddedig neu bentref cydnabyddedig.  Ychwanegodd y Pennaeth Gwasanaethau Cynllunio bod y swyddogion yn fodlon trafod safleoedd eraill bosib gyda’r ymgeisydd.  

 

 

 

Ond anghytuno gyda’r swyddogion a wnaeth y Cynghorydd Tecwyn Roberts.  Teimlai’r Cynghorydd J Arthur Jones ei bod hi’n dderbyniol i swyddogion drafod safleoedd eraill gyda’r ymgeisydd.  Y bwriad yn wreiddiol oedd cynnwys Bwlch fel treflan wledig a chlwstwr yn yr CDU a stopiwyd a buasai’r cynnig gerbron yn darparu ty fforddiadwy i berson lleol.  Am y rheswm hwn cynigiodd y Cynghorydd John Chorlton y dylid derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd J Arthur Jones.

 

 

 

Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

 

 

Derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais:   Y Cynghorwyr John Chorlton, Eurfryn Davies, Arwel Edwards, PM Fowlie, Denis Hadley, J Arthur Jones, O Glyn Jones, RL Owen, John Roberts, J Arwel Roberts WJ Williams

 

 

 

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais hwn a oedd yn gwyro am y rhesymau y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.

 

 

 

 

 

6.2

CAIS YN TYNNU’N GROES

 

 

 

30C398D  CAIS I GADW ANNEDD YN  YNYS GANOL, BRYNTEG

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad y Cynghorydd J Arthur Jones, cyn Is-Gadeirydd y Pwyllgor hwn  oedd yn teimlo, o bosib, fod yma oblygiadau polisiau cynllunio.

 

 

 

 

 

 

 

Yn y cyfarfod blaenorol penderfynwyd caniatáu’r cais am y rhesymau a ganlyn:

 

 

 

Ÿ

caniatâd eisoes i addasu

 

Ÿ

maint y bwriad presennol o fewn y troedbrint gwreiddiol

 

Ÿ

afresymol chwalu annedd a godwyd yn rhannol

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio’n otomatig er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ei ganiatáu.

 

 

 

Gofynnodd y Cynghorydd Tecwyn Roberts i’r aelodau lynu wrth y penderfyniad blaenorol i ganiatáu’r cais.  Nid oedd yr un gwrthwynebiad wedi ei godi i’r bwriad ac roedd y datblygwr yn cydnabod iddo wyro oddi wrth yr amodau cynllunio gyda’r gwaith addasu.  Credai fod y cynigion presennol yn welliant.  

 

 

 

Atgoffodd y Pennaeth Gwasanaethau Cynllunio yr aelodau fod caniatâd wedi ei roddi i addasu’r adeilad allanol ond nid oedd hynny’n bosib gan fod y rhan fwyaf ohono wedi ei ddymchwel.  Roedd caniatáu hyn yn cyfateb i greu annedd newydd yn y cefn gwlad a chyfeiriodd y swyddog yma at rybudd gorfodaeth llwyddiannus yn erbyn datblygiad cyffelyb yn Llanbeulan yn ddiweddar.

 

 

 

Gan fod y cynnig y tu mewn i droedbrint y datblygiad a ganiatawyd roedd y Cynghorydd J Arthur Jones yn anghytuno gyda’r haeriad y gallai hwn fod yn gwbl groes i bolisiau ac o’r herwydd cynigiodd roddi caniatâd i’r cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd John Chorlton.

 

 

 

Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

 

 

Caniatáu’r cais, yn groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr  John Byast, John Chorlton, J Arthur Jones

 

 

 

Derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais:  Y Cynhghorwyr Eurfryn Davies, Arwel Edwards, Denis Hadley, O Glyn Jones, RL Owen, John Roberts, J Arwel Roberts WJ Williams

 

 

 

PENDERFYNWYD diddymu’r penderfyniad blaenorol a derbyn adroddiad y swyddog i wrthod y cais hwn oedd yn gwyro am y rhesymau a roddwyd.

 

 

 

 

 

6.3

CAIS YN TYNNU’N GROES

 

 

 

31C170A  CAIS AMLINELLOL AM DDATBLYGIAD PRESWYL AR GAE RHIF O.S. 1426, FFORDD PENMYNYDD, LLANFAIR-PWLL

 

 

 

Cafwyd datganiad o ddiddordeb gan Mr Richard Eames  o’r Adain Briffyrdd.

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol. Yn y cyfarfod blaenorol, ar gais yr aelod lleol, fe benderfynwyd ymweld â’r safle ac fe gafwyd hyn ar 9 Awst, 2006.

 

 

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd John Roberts yr aelodau at hanes cynllunio’r lle dan bwynt 3 yr adroddiad.  Dan Bolisi 49 roedd Llanfair-pwll yn bentref rhestredig a’r safle y tu allan i’r ffiniau - hefyd roedd angen datrys materion priffyrdd difrifol yn y cyffiniau ac roedd Ffordd Penmynydd/ Hen Ffordd Dyfnia yn creu ffiniau datblygu naturiol; roedd yn cydnabod fod y safle y tu mewn i ffiniau datblygu’r CDU ond gwnaed hynny heb ymgynghori gyda’r cyhoedd.  Wedyn cyflwynodd y Cynghorydd Roberts enghreifftiau lu o niferoedd a’r math o dai oedd ar werth yn y pentref.  Roedd y cae chwarae arall rhyw ½ milltir o’r safle hwn.

 

 

 

Cytuno a wnaeth y Cynghorydd Arwel Edwards nad oedd y cyhoedd wedi cael cyfle i sgriwtineiddio ffiniau datblygu yr CDU a stopiwyd ac ychwanegodd fod problemau parcio yn y

 

 

 

 

 

cyffiniau hyn a phe caniateid y datblygiad hwn buasai’n ychwanegu at y problemau - roedd angen cynnwys digon o gyfleusterau parcio ychwanegol yn y cynllun.

 

 

 

Gan y Pennaeth Gwasanaethau Cynllunio cafwyd adroddiad ar gynnig a wnaed gan asiant yr ymgeisydd i ddarparu cyfleusterau chwarae eraill.  Dywedodd y swyddog fod gofynion tai y pentref wedi newid yn fawr ers mabwysiadu’r Cynllun Lleol yn 1996;  yn y broses o wneud penderfyniadau mae’r CDU a stopiwyd yn cario pwysau sylweddol.  

 

 

 

Sylwodd y Cynghorydd RL Owen fod peipen garthffosiaeth yn rhedeg ar hyd y safle, ac mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Owen dywedodd y swyddog y buasai’n anodd amddiffyn penderfyniad o wrthod mewn apêl yn ôl darpariaethau’r CDU.

 

      

 

     Ond canfu’r Cynghorydd Fowlie fod y gyffordd yn beryglus ac mewn ymateb i gwestiwn ganddo dywedodd y swyddog y rhoddid amodau priffyrdd ynghlwm i ddatrys y materion priffyrdd a pharcio.

 

      

 

     Dywedodd yr Uwch Beiriannydd Priffyrdd y rhoddid amodau cynllunio ynghlwm i gael cyfleusterau parcio ychwanegol a hefyd i ledu Lôn Penmynydd union ger y safle ac yn ogystal i greu palmant a gwelliannau i’r gyffordd.

 

      

 

     Gydag amod priffyrdd boddhaol, cafwyd cynnig o dderbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais gan y Cynghoryd Glyn Jones, a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd John Chorlton.

 

      

 

     Ar y llaw arall cafwyd cynnig gan y Cynghorydd John Roberts i wrthod y cais oherwydd pryderon priffyrdd, a chafodd ei gefnogi gan y Cynghorydd Fowlie a eiliodd y cynnig o wrthod y cais.

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

      

 

     Gwrthod y cais, yn groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr John Byast,  Eurfryn Davies, Arwel Edwards, PM Fowlie, Aled Morris Jones, John Roberts, WJ Williams

 

      

 

     Derbyn adroddiad y swyddog a chaniatàu’r cais:  Y Cynghorwyr John Chorlton, Denis Hadley, J Arthur Jones, O Glyn Jones, RL Owen, J Arwel Roberts

 

      

 

     Rhoddwyd y rhesymau a ganlyn dros wrthod:

 

      

 

Ÿ

ymestyn yr ardal dai i mewn i’r cefn gwlad

 

Ÿ

mae Lon Penmynydd a Hen Lôn Dyfnia yn creu ffiniau datblygu naturiol

 

Ÿ

dim angen rhagor o dai yn Llanfair-pwll

 

Ÿ

ni all y rhwydwaith priffyrdd lleol dderbyn rhagor o draffig

 

 

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor  cafodd y cais ei ohirio’n otomatig i’r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros wrthod y cais.

 

      

 

6.4     GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     34LPA850B/DA/CC/ECON  CYNLLUNIAU LLAWN I GREU LÔN NEWYDD A RHWYDWAITH YN SAFLE’R YSGOLION NEWYDD, LÔN TALWRN, LLANGEFNI

 

      

 

     Gan y Cynghorwyr Eurfyn Davies a J Arthur Jones  cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais a gadawsant y cyfarfod am y drafodaeth a’r pleidleisio.

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno gan mai’r Cyngor yw’r ymgeisydd.   Mae’r bwriad yn darparu cylchdro ar y B5109 Ffordd Talwrn ac wedi hynny yn ymgorffori dwy lôn i’r ochr a chylchdro i wasanaethu’r datblygiad yng Ngholeg Menai.

 

      

 

     Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Cynllunio fod yr adolygiad barnwrol ar y safle wedi’i dynnu’n ôl.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd John Roberts cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog i ganiatáu’r cais a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd John Chorlton.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais am y rhesymau a roddwyd yn unol ag amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

6.5     GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     39C166D  CAIS I GADW GOSODIAD SAFLE DIWYGIEDIG A GANIATAWYD YN FLAENOROL DAN GANIATÂD CYNLLUNIO 39C166B YNGHYD Â CHYNLLUNIAU MANWL DIWYGIEDIG AR GYFER Y MATH O GABANNAU I’W CODI AR Y SAFLE YN REFAIL NEWYDD, PORTHAETHWY

 

      

 

     Gan y Cynghorydd J Arthur Jones cafwyd datganiad o ddiddordeb a gadawodd y cyfarfod am y drafodaeth a’r pleidleisio.  

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol. Ar 26 Gorffennaf, ar gais yr aelod lleol, fe benderfynwyd ymweld â’r safle ac fe gafwyd hynny ar 9 Awst, 2006.

 

      

 

     Mynegi pryderon a wnaeth y Cynghorydd J Meirion Davies am nad oedd y ddwy groeslon yn nau ben y ffordd ddiddosbarth hon yn cyrraedd y safon - un i ffordd Penmynydd a’r llall i ffordd Pentraeth, ac yn enwedig felly yng nghyd-destun rhagor o ddatblygu.  Credai’r Cynghorydd RL Owen y dylid rhoddi amod ynghlwm i rwystro rhagor o ddatblygu a chyfyngu nifer y sialetau i’r wyth a ganiatawyd o’r blaen ac roedd y Cynghorydd John Roberts yn cytuno.

 

      

 

     Dywedodd y swyddog y rhoddid amodau ynghlwm fel rhan o’r caniatâd cynllunio.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais am y rhesymau a roddwyd yn unol ag amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad y swyddog.

 

 

 

6.6      GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     39C402  DYMCHWEL YR ADEILADAU ALLANOL A DWY ANNEDD YNGHYD Â CHODI 14 O ANHEDDAU DEULAWR, CREU MYNEDFA NEWYDD I GEIR A CHERDDWYR AC OFFER PREIFAT I DRIN CARTHION YN FFERM TYDDYN ISAF, PEN LÔN, PORTHAETHWY

 

      

 

     Gan Mr JRW Owen o’r Adain Briffyrdd cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais hwn.

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol yn wyneb cryn ddiddordeb lleol yn y cais. Ar 26 Gorffennaf, ar gais yr aelod lleol, fe benderfynwyd ymweld â’r safle ac fe gafwyd hynny ar 9 Awst, 2006.

 

      

 

     Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Cynllunio fod 4 llythyr arall o wrthwynebiad wedi’u derbyn ond roedd y materion a godwyd eisoes wedi cael sylw yn adroddiad y swyddog.  Roedd y datblygwr wedi diwygio’r cynlluniau gwreiddiol i ddarparu offer preifat i drin carthion - ei fwriad yn awr oedd darparu offer pwmpio ac roedd Dwr Cymru’n gweld hynny’n dderbyniol a châi hyn ei reoli dan amodau.  

 

      

 

     Darllenodd y Cynghorydd J Meirion Davies lythyr oddi wrth Dwr Cymru. Roedd y bobl leol yn dal i bryderu ynghylch y draenio a risgiau posib llifogydd a hefyd cyflwynwyd y pryderon a ganlyn:

 

      

 

Ÿ

ni fedrai rhwydwaith lleol y ffyrdd dderbyn y cynnydd yn y traffig ac roedd y gwelededd tua’r chwith o’r fynedfa yn ddrwg

 

Ÿ

colli dau dy fforddiadwy oherwydd dymchwel pâr o dai

 

Ÿ

gwrthwynebiad i’r dyluniad gan gynnwys gorddatblygu - ni fuasai adeilad deulawr yn gweddu i’r lle a buasai adeiladau unllawr yn well a hefyd buasai 8 o anheddau yn fwy priodol i’r safle

 

Ÿ

darpariaeth ddraenio annigonol

 

 

 

     I gloi dywedodd y Cynghorydd Davies y dylid gwrthod y cais am dri rheswm - priffyrdd, draenio a dyluniad.

 

      

 

     Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Cynllunio nad oedd Dwr Cymru’n gwrthwynebu’r cynnig nac ychwaith yr Adain Briffyrdd.  Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd J Arthur Jones cadarnhaodd y swyddog fod y safle y tu mewn i’r ffiniau datblygu.  Wedyn mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd RL Owen, dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Cynllunio na fedrai’r swyddogion ymladd nac ennill apêl ar y mater hwn.

 

      

 

     Am resymau priffyrdd ac oherwydd pryderon ynghylch diogelwch y ffordd cynigiodd y Cynghorydd Glyn Jones wrthod y cais.  Yn ystod yr ymweliad â’r safle roedd y Cynghorydd J Arwel Roberts yn pryderu ynghylch y cynnydd yn y traffig ac hefyd oherwydd colli dau dy fforddiadwy ac eiliodd y cynnig i wrthod y cais.  

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

      

 

     Gwrthod y cais, yn groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr John Chorlton, Eurfryn Davies, Arwel Edwards, Denis Hadley, O Glyn Jones, John Roberts, J Arwel Roberts

 

      

 

     Derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais:  Y Cynghorwyr PM Fowlie,

 

     Aled Morris Jones, RL Owen

 

      

 

     Ymatal:  Y Cynghorydd J Arthur Jones

 

      

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor  cafodd y cais ei ohirio’n otomatig i’r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros wrthod y cais.

 

      

 

      

 

6.7     GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     43C77D  CAIS LLAWN I GODI TAIR ANNEDD AR WAHÂN, ADDASU AC EHANGU Y TY PRESENNOL YNGHYD AG ADDASU A CHREU MYNEDFEYDD NEWYDD YN GERLAN, PONT-RHYD-Y-BONT

 

      

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol, hefyd mae rhan o’r tir ym mherchnogaeth y Cyngor.    Cytunwyd i ohirio ystyried y cais yn y cyfarfod blaenorol er mwyn cwblhau trafodaethau.  

 

      

 

     Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Cynllunio fod y ddarpariaeth ar gyfer draenio bellach yn dderbyniol.  Ond roedd pedwar llythyr o wrthwynebiad gerbron a’r materion a godwyd yn y llythyrau yn cael sylw yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Goronwy Parry cafwyd darlleniad o ddatganiad manwl yn mynegi pryderon gan y Cynghorydd Peter Dunning - roedd ef yn absennol.  Yn gryno teimlwyd nad oedd y cais yn bodloni meini prawf angenrheidiol dan Bolisi 48, roedd pryderon ynghylch y briffordd, draenio, peipen y dwr wyneb i Safle o Bwysigrwydd Gwyddonol Arbennig yng Nghymyran.  Gofynnodd am wrthod y cais.

 

      

 

     Wedyn sylwodd y Cynghorydd John Chorlton fod y cynnig gerbron yn llai na’r un cynt a hynny er mwyn lliniaru pryderon a fynegwyd cynt, a dygodd sylw’r aelodau at y prif faterion a godwyd ym mhwynt 7 adroddiad y swyddog a chynigiodd y dylid derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais.  

 

      

 

     Sylwi a wnaeth y Cynghorydd RL Owen fod 26 o lythyrau o wrthwynebiad a deiseb ac arni 110 o lofnodion wedi eu derbyn mewn ymateb i’r ymgynghori gyda’r cyhoedd.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Glyn Jones cafwyd y sylw fod nifer yr anheddau wedi gostwng o 6 i 4 ac roedd gwell cyfleusterau parcio a throi.  Roedd ar y safle hanes o hen ddefnydd, ac ar ôl pwyso a mesur câi ef hi’n anodd gwrthwynebu’r cynnig gerbron.

 

      

 

     Teimlai’r Pennaeth Gwasanaethau Cynllunio fod hwn yn gyfaddawd derbyniol a bod yr ymgeisydd wedi gwrando ar bryderon lleol ac ymateb iddynt.

 

      

 

     Roedd y Swyddog Rheoli Datblygu o’r Adain Briffyrdd yn gweld y cynnig yn dderbyniol o safbwynt materion priffyrdd.  

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd J Arthur Jones fod yr ymgeisydd wedi ymateb i bryderon ac eiliodd y Cynghorydd Chorlton i roddi caniatâd.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd RL Owen cafwyd cynnig i wrthod y cais.  

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

      

 

     Derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais:  Y Cynghorwyr John Byast, John Chorlton, PM Fowlie, J Arthur Jones, O Glyn Jones, John Roberts

 

      

 

     Gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, Arwel Edwards, Denis Hadley, RL Owen

 

      

 

     Ymatal:  Y Cynghorydd J Arwel Roberts

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais am y rhesymau a roddwyd yn unol ag amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

      

 

7

CEISIADAU ECONOMAIDD:

 

      

 

     Doedd dim ceisiadau economaidd i’w hystyried yn y cyfarfod hwn.

 

   

 

8

CEISIADAU AM DAI FFORDDIADWY:

 

      

 

     Doedd dim ceisiadau am dai fforddiadwy i’w hystyried yn y cyfarfod hwn.

 

      

 

      

 

9

CEISIADAU’N TYNNU’N GROES

 

      

 

9.1     16C49C  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD YNGHYD Â GOSOD TANC SEPTIC AR DIR CAE’R DDOL, LLANBEULAN

 

      

 

     Gan Mr Arthur Owen, Cyfarwyddwr Corfforaethol (Amgylchedd a Gwasanaethau Technegol) cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais hwn.

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Nodwyd i’r cais hwn ei dynnu’n ôl.  

 

      

 

9.2     34C538  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GEIR AR DIR GER GWERNHEFIN, LLANGEFNI

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Cafwyd datganiad gan y Cynghorydd John Chorlton am ei fod yn adnabod mam yr ymgeisydd a rhoes y cyfreithiwr wybod i’r Cynghorydd mai mater i’r cynghorydd unigol oedd penderfynu a oedd ganddo reswm digonol i ddatgan diddordeb ai peidio, a hynny yn ôl amgyffrediad trydydd parti o’r cysylltiad.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd Fflur Hughes yn cefnogi’r cais am y rhesymau a ganlyn:

 

      

 

Ÿ

dyn ifanc lleol yn gweithio’n lleol

 

Ÿ

roedd y safle yn union ger y ffiniau datblygu ac yn debyg i geisiadau eraill

 

Ÿ

nid oedd y cynnig yn cyfateb i ddatblygiad rhubanaidd ac yn groes felly i’r hyn a ddywedwyd ym mhwynt 9 adroddiad y swyddog, ac ni fuasai’n creu annedd newydd yn y cefn gwlad gan fod tai eraill o’i chwmpas ym mhob man

 

Ÿ

mewn ymateb i reswm (04) ym mhwynt 9 (llain gwelededd) roedd y tir o gwmpas y safle yn eiddo i’r ymgeisydd a buasai modd ymestyn y ffiniau i sicrhau’r llain angenrheidiol, ac roedd cyfyngiad gyrru 30 mya ger pwynt y fynedfa.

 

 

 

     Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd RL Owen dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Cynllunio nad oedd y cyfyngiad gyrru yn y man hwn yn berthnasol am nad oedd modd sicrhau’r llain weledol leiaf sy’n angenrheidiol y tu mewn i ffiniau’r plot a ddangoswyd ar y cynllun a gyflwynwyd.  Mewn ymateb dywedodd y Cynghorydd Eurfryn Davies fod y cynnig hwn union ger y ffiniau datblygu a bod modd ei gefnogi a chafwyd cynnig i gefnogi ganddo.

 

      

 

     Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Cynllunio fod ffiniau datblygu pendant a chlir i Langefni a bod y safle dan sylw y tu allan i’r cyfryw ffiniau - ni fuasai unrhyw gyfyngiad ar bwy gâi fyw yn y ty a gellid gwerthu’r datblygiad ar y farchnad agored.  Dywedodd y Cynghorydd J Arthur Jones nad oedd modd ei gefnogi am nad cais am dy fforddiadwy ydoedd a hefyd am fod y safle y tu allan i’r ffiniau datblygu.

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

      

 

     Caniatáu’r cais yn groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr Eurfryn Davies,

 

     PM Fowlie, Aled Morris Jones, O Glyn Jones, RL Owen

 

      

 

     Derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais:  Y Cynghorwyr  John Byast, Denis Hadley, J Arthur Jones, John Roberts, J Arwel Roberts

 

      

 

     Ymatal:  Y Cynghorwyr Arwel Edwards, John Chorlton, WJ Williams

 

      

 

     Roedd y bleidlais yn bump yr un ac wrth i’r Cadeirydd ddefnyddio ei bleidlais fwrw PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais hwn, oedd yn gwyro, am y rhesymau a roddwyd.

 

 

 

9.3     36C63C  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD AR DIR GER TYN Y GONGL, RHOSTREHWFA

 

      

 

     Gan Mr Arthur Owen, Cyfarwyddwr Corfforaethol (Amgylchedd a Gwasanaethau Technegol) cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais hwn.

 

      

 

     Cyflwynwyd  y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno gan fod yr ymgeisydd yn fab i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol (Amgylchedd a Gwasanaethau Technegol).

 

      

 

     Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Cynllunio wrth yr aelodau  fod llythyr o wrthwynebiad wedi ei dderbyn;  nid oedd Dwr Cymru yn gwrthwynebu.

 

      

 

     Ycwhanegol y Cynghorydd WI Hughes nad oedd y Cyngor Cymuned mewn sefyllfa i ymateb i’r ymgynghori am nad oedd wedi cyfarfod dros gyfnod gwyliau’r haf.  Roedd safle’r cais yng nghanol clwstwr o rhyw 20 o anheddau - nid yn y cefn gwlad agored, ac yn rhan o ardd yn perthyn i dy’r teulu.  Hogyn ifanc lleol oedd yr ymgeisydd a chafodd waith yng Ngholeg Menai ac yn dymuno dychwelyd i’r ardal i fyw - bron roedd hwn yn gais i lenwi bwlch.  Gofynnodd yr ymgeisydd am gynllun hunan adeiladu ond ers cael swydd nid yw’n gymwys dan y meini prawf angenrheidiol.  Hefyd ymatebodd y Cynghorydd Hughes i’r prif faterion cynllunio dan bwynt yn adroddiad y swyddog, a gofynnodd am gefnogaeth yr aelodau ac argymhellodd roddi caniatâd.

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd John Roberts dywedodd y swyddog fod y safle gryn bellter o ffiniau pentref Rhostrehwfa; buasai’r cais yn fwy derbynniol i’r Cynghorydd petai’n gais am dy fforddiadwy.

 

      

 

     Y sylw a wnaeth y Cynghorydd J Arthur Jones oedd fod y cais yn groes i’r polisiau ac y dylid fod wedi’i gyflwyno am dy fforddiadwy, o’r herwydd cynigiodd ei wrthod a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd John Roberts.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd  RL Owen cafwyd cynnig o ganiatáu, a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Eurfryn Davies.

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

      

 

     Caniatáu’r cais yn groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, PM Fowlie, Aled Morris Jones, O Glyn Jones, RL Owen

 

      

 

     Derbyn adroddiad y swyddog i wrthod y cais:  Y Cynghorwyr Arwel Edwards, Denis Hadley, J Arthur Jones, John Roberts, J Arwel Roberts

 

      

 

     Ymatal:  Y Cynghorydd John Chorlton

 

      

 

     Roedd y bleidlais yn bump yr un ac wrth i’r Cadeirydd ddefnyddio ei bleidlais fwrw PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais hwn, oedd yn gwyro, am y rhesymau a roddwyd.

 

 

 

9.4     36C103A CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD AR DIR GER CARNEDDAU, RHOSTREHWFA

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Cynllunio nad oedd yr ymateb i’r dull o gael gwared  ddwr wyneb yn foddhaol ac argymhellodd hyn fel rheswm ychwanegol i wrthod y cais.  

 

      

 

     Ar gais yr ymgeisydd, gofynnodd y Cynghorydd WI Hughes i’r Pwyllgor ohirio ystyried y cais i roi cyfle i drafod materion dwr wyneb.

 

      

 

     PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais hwn am y rheswm a roddwyd uchod.

 

 

 

9.5     36C213B  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GEIR A GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD AR DIR GER RHIW-GOCH ISAF, CERRIGCEINWEN

 

      

 

     Gan y Cynghorydd J Arthur Jones cafwyd datganiad o ddiddordeb  a gadawodd y cyfarfod am drafodaeth a’r pleidleisio.

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd WI Hughes fod yr ymgeiswyr yn deulu lleol gyda phlant yn mynychu’r ysgol gynradd leol yn Llangristiolus.  Roedd pump o blant yn y teulu i gyd, a rhai ohonynt yn byw hefo nain a taid, am nad oedd digon o le yn eu cartref dwy ystafell wely.  Roedd nain neu taid yn dioddef oherwydd iechyd gwael ac yn dibynnu ar gymorth yr ymgeiswyr.  Mewn ymateb i ddatganiad gan yr Adain Briffyrdd yn dweud nad oedd y lonydd gwledig bychan yn addas i dderbyn traffig ychwanegol, megis y traffig a ddeuai yn sgil y datblygiad dywedwyd bod lorïau trymion wedi defnyddio’r rhwydwaith lleol o ffyrdd yn rheolaidd yn ystod cyfnod adeiladau’r A55; hefyd dywedodd y Cynghorydd Hughes fod yma fanteision priffyrdd yn sgil gwelliannau a gyflwynid petai’r cais yn cael ei ganiatáu.  

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd John Roberts, dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Cynllunio nad oedd gwahaniaeth mawr rhwng y cais hwn a’r un arall a wrthodwyd gan y Pwyllgor ym mis Mehefin eleni.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd J Arwel Roberts cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd John Roberts.

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

      

 

     Derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais:  Y Cynghorwyr John Byast, John Chorlton,  Arwel Edwards, Denis Hadley, RL Owen, John Roberts, J Arwel Roberts

 

      

 

     Ymatal: Y Cynghorydd PM Fowlie

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais hwn, oedd yn gwyro, am y rhesymau a roddwyd.  

 

 

 

 

 

9.6     38C223  CAIS AM 20 ANNEDD (YN CYNNWYS 6 ANNEDD FFORDDIADWY AR DIR GER PEN Y BONT, MOUNTAIN ROAD, LLANFECHELL

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno am ei fod yn tynnu’n groes i bolisiau a’r awdurdod cynllunio lleol yn ei gymeradwyo.  Dymuniad yr aelod lleol hefyd oedd i’r cais ddod gerbron y Pwyllgor.

 

      

 

     Mewn ymateb i’r gofyn yn yr ardal, buasai’r bwriad yn ymgorffori tai ar rent yn hytrach na thai fforddiadwy ac y byddai amodau yn cael eu gosod i sicrhau hyn.

 

 

 

     PENDERFYNWYD gohirio penderfyniad ar y cais hwn i alluogi swyddogion  dderbyn eglurhad ar y cyfanswm a’r math o dai y bwriedir eu creu

 

 

 

 

 

9.7     44C239C  CODI ANNEDD, GAREJ BREIFAT A MYNEDFA NEWYDD YN RHIW-MOEL, RHOS-Y-BOL

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Aled Morris Jones fod y safle y tu mewn i’r ffiniau datblygu a thai o’i gwmpas ym mhob man; union ger y safle roedd goleuadau stryd cyhoeddus y tu mewn i’r cyfyngiad gyrru 30 mya.  Wedyn gofynnodd y Cynghorydd Aled Morris Jones am ymweliad â’r safle, a chafodd ei eilio gan y Cynghorwyr RL Owen a John Byast.

 

      

 

     Ond dywedodd y Pennaeth  Gwasanaethau Cynllunio nad oedd modd datblygu rhagor ar dir y cais oherwydd bod arno Gytundeb wedi ei wneud dan Adran 106.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â’r safle ar gais yr aelod lleol.

 

 

 

 

 

9.8     46C176D  CAIS LLAWN I GODI ANNEDD A GAREJ BREIFAT YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GEIR AR RAN O GAE O.S. 1084 GER TREARDDUR MEWS, LÔN TYWYN CAPEL, TREARDDUR

 

 

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  

 

      

 

     Yn absenoldeb y Cynghorydd Peter Dunning darlennodd y Cynghorydd Goronwy Parry ddatganiad ar ei ran - yn dweud bod caniatâd cynllunio ar y lle gynt ond bod oes hwnnw wedi dod i ben.  Rheolwr fferm oedd yr ymgeisydd a’r safle y tu mewn i’r cyfyngiad gyrru 30 mya ac union ger datblygiad arall.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd John Chorlton fod y safle yng nghanol clwstwr o dai yn agos iawn i stad ddiwydiannol ac ni welai ef pam y dylid gwrthod.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Glyn Jones cafwyd  cynnig o ganiatáu, a chafodd hynny ei eilio gan y Cynghorydd RL Owen.

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

      

 

     Caniatáu’r cais, yn groes i argymhelliad y swyddog:  Y CynghorwyrJohn Byast, John Chorlton, Eurfryn Davies, PM Fowlie,  Aled Morris Jones, O Glyn Jones, RL Owen, John Roberts

 

      

 

     Derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais:  Y Cynghorwyr Denis Hadley,   

 

     J Arthur Jones, J Arwel Roberts

 

      

 

     Fe roddwyd y rhesymau a ganlyn dros ganiatáu:

 

Ÿ

llenwi bwlch yn naturiol - heb fod yn y cefn gwlad, ac yn arbennig felly o gofio cynigion ar gyfer datblygiadau mawrion ar y tir o gwmpas

 

Ÿ

roedd caniatâd cynllunio ar y safle gynt

 

      

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor  cafodd y cais ei ohirio’n otomatig i’r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu.

 

 

 

10

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

10.1      12C331B  DATBLYGIAD LLETYAU A LLYN ARFAETHEDIG YNGHYD Â GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD YN FFERM CICHLE, LLANFAES

 

      

 

     Gan y Cynghorwyr J Arthur Jones a John Roberts cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais hwn a gadawsant y cyfarfod am y drafodaeth a’r pleidleisio.  

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  

 

      

 

     Cafwyd cwestiwn gan y Cynghorydd RL Owen a oedd hwn yn gais economaidd a gofynnod am ymweliad safle; eiliwyd hynny gan y Cynghorydd  Eurfryn Davies.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â’r safle ar gais yr aelod lleol.

 

      

 

10.2      15C35C  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD YNGHYD Â GOSOD TANC SEPTIG AR RAN O GAE O.S. 1328 GER GLAN CORON, LLANGADWALADR

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Nodwyd i’r safle gael ei ymestyn er mwyn gwella’r weledfa yn y fynedfa.  

 

      

 

     Teimlai’r Cynghorydd RLl Hughes fod y cais yn cydymffurfio gyda Pholisi 50 gan ei fod union ar gyrion y ffiniau datblygu a hefyd roedd yng nghanol clwstwr o dai a’r tu mewn i’r cyfyngiad gyrru 40 mya.  Bwriad yr ymgeisydd yma oedd gwerthu’r plot i deulu lleol am bris rhesymol.  Yn ddiweddar iawn rhoddwyd caniatâd cynllunio ar y safle yr ochr draw i’r ffordd ac roedd yr Adain Briffyrdd yn argymell caniatâd gydag amodau.  Petai’r lle yn cael ei guddio’n briodol ni fuasai’n amharu ar bleserau’r ardal.

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd J Arthur Jones dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Cynllunio nad cais am dy fforddiadwy ydoedd ac aeth y swyddog ymlaen i argymell gwrthod yn gryf am fod y cais yn groes i’r polisiau.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd J Arthur Jones cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais; cafodd hynny ei eilio gan y Cynghorydd J Arwel Edwards.

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

      

 

     Derbyn adroddiad y swyddog i wrthod y cais:  Y Cynghorwyr John Byast, John Chorlton, Arwel Edwards, Denis Hadley, J Arthur Jones, John Roberts, J Arwel Roberts

 

      

 

     Doedd dim pleidlais i’r gwrthwyneb

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais am y rhesymau a roddwyd.  

 

      

 

10.3      16C8F  CAIS AMLINELLOL I GODI 2 ANNEDD AR DIR GER FRON HEULOG, BRYNGWRAN

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Gofynnodd y swyddog am ohiriad i bwrpas cynnal trafodaeth ar y cais.

 

      

 

     PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais yn ôl dymunuiad y swyddog.

 

      

 

10.4      19C602H  DYMCHWEL ADEILAD A CHODI PEDWAR FFLAT HUNAN-GYNHALIOL YN 1 STANLEY CRESCENT, CAERGYBI

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad Pennaeth y Gwasanaethau Cynllunio.

 

      

 

     Yn absenoldeb y Cynghorydd Everett siaradodd y Cynghorydd Chorlton a deimlai y buasai gwrthod y cynnig hwn yn atal datblygiadau eraill yng Nghaergybi.  Buasai’r datblygiad yn gwella’r ardal ac roedd y cynllun yn un addas.  Roedd yn gweddu gyda’r bont newydd gerllaw ac roedd gwir angen gwneud rhywbeth ar y safle ac roedd y cynnig gerbron yn cyflawni’r nod, ac o’r herwydd cynigiodd roddi caniatâd.  Cafodd ei eilio gan y Cynghorydd J Arthur Jones a ddywedodd fod nifer o adeiladau amrywiol yn y cyffiniau - rhai 2, 3 a 4 llawr.

 

      

 

     Mewn ymateb dygodd y Pennaeth Gwasanaethau Cynllunio sylw’r aelodau at y rheswm cyntaf dros argymell gwrthod yn 9 (01) “na fyddai’r cynnig wedi’i integreiddio’n dda gyda’r patrwm presennol a’r ffurf o ddatblygiad ond y byddai’n hytrach yn ailddatblygu’n ansensitif ar yr adeilad cornel pwysig hwn o fewn Crescent Stanley a’r Teras”.  O ran cadwraeth roeddid wedi gofyn i’r datblygwyr gyflwyno cynllun yn dangos mwy o gydymdeimlad gyda’r safle allweddol hwn.

 

      

 

     Cafwyd argymhelliad i ymweld â’r safle gan y Cynghorydd  Arwel Edwards a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd John Roberts.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â’r safle.

 

      

 

10.5      19C956  WYNEB NEWYDD AR SIOP 20-21 STANLEY CRESCENT, CAERGYBI

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno gan mai swyddog o’r Cyngor yw’r asiant.  

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad ac yn unol ag amodau y manylwyd arnynt.

 

      

 

10.6      19LPA89K/CC  CODI FFENS DDIOGELWCH 2.4m O UCHDER AR DIR YN YSGOL UWCHRADD, CAERGYBI

 

      

 

     Cafwyd datganiad o ddiddordeb gan y Cynghorwyr Denis Hadley & J Arwel Roberts  yn y cais hwn ac nid oeddynt yn bresennol yn y cyfarfod am y drafodaeth a’r pleidleisio. . Y Cynghorydd John Roberts oedd yn y gadair am y drafodaeth.

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno gan mai’r Cyngor yw’r ymgeisydd a’r cais  ar dir yn ei berchnogaeth. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Cynllunio nad oedd gan y Cyngor Tref wrthwynebiad.  

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad ac yn unol ag amodau y manylwyd arnynt.

 

      

 

10.7      30C618 CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD YNGHYD AG ADDASU’R FYNEDFA YN TRAETH ARIAN, BENLLECH

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  

 

      

 

     Ar gais y swyddog PENDERFYNWYD gohirio ysytied y cais hwn.

 

      

 

10.8      31C343  ADDASU AC EHANGU 1 LÔN Y WENNOL, LLANFAIR-PWLL

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd John Roberts fod yr estyniad yn un uchel ac yn edrych dros eiddo arall.  Cynigiodd ymweliad a’r safle a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd RL Owen.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â’r safle.

 

      

 

10.9      33LPA861A/CC  CAIS I GODI ADEILAD YN CYNNWYS GORSAF PRAWF M.O.T. A MAN TRWSIO MODURON A GWEITHDY CYNNAL A CHADW YN Y DEPO, GAERWEN

 

      

 

     Gan y Cynghorydd John Chorlton cafwyd datganiad o ddiddordeb  a gadawodd y cyfarfod am y drafodaeth a’r pleidleisio.  

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno gan mai’r Cyngor yw’r ymgeisydd a’r cais  ar dir yn ei berchnogaeth.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad ac yn unol ag amodau y manylwyd arnynt.

 

      

 

10.10      34C535  CODI ARWYDD YN YSGOL Y GRAIG, LLANGEFNI

 

      

 

     Gan Mr JRW Owen cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais hwn.  

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno gan fod safle’r cais ym mherchnogaeth y Cyngor.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad ac yn unol ag amodau y manylwyd arnynt.

 

      

 

      

 

10.11       34C541 CODI FFRYNT SIOP NEWYDD YN 8 STRYD FAWR, LLANGEFNI

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Aled Morris Jones cafwyd datganiad o ddiddordeb  a gadawodd y cyfarfod am y drafodaeth a’r pleidleisio.  

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno gan fod yr ymgeisydd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio.  

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad ac yn unol ag amodau y manylwyd arnynt.

 

      

 

      

 

      

 

10.12      34C541A/AD  CAIS I GODI ARWYDD FFLAT HEB EI OLEUO YN 8 STRYD FAWR, LLANGEFNI

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Aled Morris Jones cafwyd datganiad o ddiddordeb  a gadawodd y cyfarfod am y drafodaeth a’r pleidleisio.  

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno gan fod yr ymgeisydd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio.  

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad ac yn unol ag amodau y manylwyd arnynt.

 

      

 

      

 

10.13      38C221B  CAIS AMLINELLOL I GODI BYNGALO YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU A GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD AR DIR GER LLONYDDWCH, CARREG-LEFN

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.

 

      

 

      

 

10.14      44LPA867/CC  CAIS  OL-DDYDDIOL I OSOD SYSTEM TRIN CARTHFFOSIAETH A THRAEN GERRIG I WASANAETHU PEDAIR ANNEDD YN FOURCROSSES, RHOS-GOCH

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno gan ei fod wedi ei gyflwyno ar ran y Cyngor.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad ac yn unol ag amodau y manylwyd arnynt. 

 

      

 

      

 

10.15      48C146B/DA  CYNLLUNIAU MANWL I GODI ANNEDD YNGHYD A CHREU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU AR DIR GYFERBYN A THERAS WYLFA, GWALCHMAI

 

      

 

     Gan Mrs Wendy Faulkener o’r Adran Cynlllunio cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais hwn.

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno gan fod yr ymgeisydd yn perthyn i swyddog o’r Cyngor.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad ac yn unol ag amodau y manylwyd arnynt. 

 

 

 

 

 

10.16      49C273  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD YN 7 TAN Y BRYN, Y FALI

 

      

 

     Gan y Cynghorydd O Glyn Jones cafwyd datganiad o ddiddordeb  a gadawodd y cyfarfod am y drafodaeth a’r pleidleisio.  

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno gan fod y cais wedi ei gyflwyno gan aelod o’r Pwyllgor Cynllunio.  

 

      

 

     Yr hyn a wnaeth y Cynghorydd Goronwy Parry oedd cyfeirio at bryderon lleol oherwydd effaith y cynnig ar dai o gwmpas, ac nid oedd digon o gyfleusterau parcio yno ar hyn o bryd a nododd hefyd fod y draeniau yn y cyffiniau hyn yn rhai ‘ffeibr pits’; yn ogystal roedd y cyngor cymuned lleol yn argymell gwrthod.

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn y Cynghorydd Parry ar ganlyniadau’r gwaith ymgynghori ar y system ddraenio dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Cynllunio bod y draeniau yn dderbyniol.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd RL Owen cafwyd cynnig i ganiatáu’r cais, a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Eurfryn Davies.  

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad ac yn unol ag amodau y manylwyd arnynt. 

 

      

 

      

 

10.17      49LPA868/CC  CAIS I DDARPARU OFFER TRIN CARTHION NEWYDD YN LLE’R HEN RAI A GOSOD PEIPEN NEWYDD I WASANAETHU SAITH ANNEDD AR DIR Y TU CEFN I 1 TAI CYNGOR & BRYN REFAIL, LLANYNGHENEDL

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno gan fod y cais wedi ei gyflwyno ar ran y Cyngor.  

 

      

 

     Credai’r Cynghorydd Goronwy Parry fod y cynnig hwn yn gwella’r cyfleusterau yn y lle hwn a hefyd bod raid diogelu Afon Cleifiog yn erbyn unrhyw beryglon llygredd.  Gofynnodd am ymateb i bwyntiau’r gwrthwynebydd a dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Cynllunio y gofynnid i’r Adain Gwasanaethau Technegol ymateb.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad ac yn unol ag amodau y manylwyd arnynt. 

 

      

 

      

 

10.18      EITEM YCHWANEGOL (GYDA CHANIATAD Y CADEIRYDD)

 

      

 

     GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     11LPA101/W/LB/CC  CANIATÂD ADEILAD RHESTREDIG AR GYFER AILWAMPIO YSTAFELLOEDD NEWID Y GAMPFA YN YSGOL SYR THOMAS JONES, AMLWCH

 

      

 

     PENDERFYNWYD rhoi gwybod i CADW nad oes gan yr Awdurdod unrhwy wrtwhynebiad i’r uchod yn unol a’r amodau y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.

 

      

 

      

 

11

CEISIADAU A DDIRPRWYWYD

 

      

 

     Cyflwynwyd a derbyniwyd, adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Amgylchedd a Gwasanaethau Technegol) ar geisiadau a ddirprwywyd ac y gwnaethpwyd penderfyniad arnynt ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor hwn.

 

      

 

      

 

12

MATERION A GYFEIRIWYD YN ÔL

 

      

 

12.1      19C712F  PORTHYFELIN HOUSE, CAERGYBI

 

      

 

     Yn ei gyfarfod ar 26 Gorffennaf, 2006 penderfynodd y Pwyllgor hwn wrthod caniatâd cynllunio a chaniatâd adeilad rhestredig mewn perthynas â’r uchod (gweler eitem 7.3 a 7.4 o’r cofnodion hynny).

 

        

 

     PENDERFYNWYD cadarnhau y rhesymau a ganlyn dros wrthod y cais:

 

      

 

Ÿ

gorddatblygu - dim yn gydnaws mewn ardal o gadwraeth

 

Ÿ

pryder priffyrdd

 

      

 

      

 

      

 

12.2      31LPA840/LB/CC  CAIS ADEILAD RHESTREDIG AR GYFER ADDASIADAU MEWNOL AC ALLANOL YN Y TOLLDY, LLANFAIR-PWLL

 

      

 

     Adroddwyd a nodwyd, er gwybodaeth, i’r cais uchod gael ei dynnu’n ôl ar 24 Gorffennaf, 2006.

 

      

 

      

 

13

APELIADAU

 

      

 

13.1     TIR YM MHARC CARAFANAU MELIN RHOS, LLUGWY

 

      

 

     Cyflwynwyd a nodwyd, er gwybodaeth, gopi o lythyr gan yr Arolygaeth Cynllunio yn rhoddi gwybodaeth fod y rhybudd gorfodaeth mewn perthynas â’r uchod wedi ei dynnu’n ôl a bod y ffeil ar y mater wedi ei chau.

 

      

 

      

 

13.2      GAREJ QUAYSIDE, FFORDD TYWYSOG CYMRU, CAERGYBI

 

      

 

     Cyflwynwyd, er gwybodaeth, gopi o grynodeb o benderfyniad yr Arolygydd a benodwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar apêl yn erbyn penderfyniad yr Awdurdod hwn i wrthod caniatâd cynllunio i ddymchwel yr adeiladau presennol a chodi 9 fflat hunangynhaliol ynghyd ag addasu’r fynedfa bresennol dan gais cynllunio cyf: 19C281F - gwrthodwyd yr apêl.

 

      

 

      

 

13.3      CANOLFAN ARDDIO PENRHOS, BRYNREFAIL

 

      

 

     Cyflwynwyd, er gwybodaeth, gopi o grynodeb o benderfyniad yr Arolygydd a benodwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar apêl yn erbyn penderfyniad yr Awdurdod hwn i wrthod caniatâd cynllunio i ddymchwel y ganolfan arddio a chodi 5 annedd newydd dan gais cynllunio  40C117B - gwrthodwyd yr apêl.

 

      

 

      

 

13.4      GWESTY’R BULKELEY, BIWMARES

 

      

 

     Cyflwynwyd a nodwyd, er gwybodaeth, gopi o benderfyniad gan Bennaeth Cangen, Cynllunio 1D, Cynulliad Cenedlaethol Cymru dan Adran 12 Deddf Cynllunio 1990 (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd o Gadwraeth) ar gais i ddymchwel ffenestr fae a darparu pwll nofio fel estyniad i’r adeilad rhestredig dan gais cynllunio cyf: 12C1U/LB dyddiedig 01.11.2004 - gwrthodwyd Caniatâd Adeilad Rhestredig  i’r gwaith.

 

      

 

      

 

      

 

     Dechreuodd y cyfarfod am 1.00 p.m. a daeth i ben am 4.10 p.m.       

 

      

 

      

 

     J ARWEL ROBERTS

 

     CADEIRYDD