Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion dogfennau , 6 Hydref 2004

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Dydd Mercher, 6ed Hydref, 2004

PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION

 

Cofnodion y cyfarfod gafwyd ar   6 Hydref, 2004

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd R. L. Owen, Cadeirydd

Y Cynghorydd J. Arthur Jones, Is-Gadeirydd

 

Y Cynghorwyr John Byast, Eurfryn Davies, Peter Dunning,

J. Arwel Edwards, PM Fowlie, Denis Hadley, R. Ll. Hughes,

A. Morris Jones, O. Glyn Jones, Thomas Jones, D. Lewis-Roberts, John Roberts, J. Arwel Roberts, W. T. Roberts, Keith Thomas.

 

 

 

WRTH LAW:

 

Cynllunio :

Pennaeth Gwasanaethau Cynllunio (JW)

Pennaeth Rheoli Datblygu (EGJ)

Arweinydd Tîm (Rheoli Datblygu) (DPJ)

 

Priffyrdd :

Uwch Beiriannydd (Rheoli Datblygu a Hawliau Tramwy Cyhoeddus)(JRWO)

Swyddog Rheoli Datblygu (RE)

 

Cyfreithiwr (RWJ)

Cynorthwy-ydd Gweinyddol (CWP)

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Y Cynghorydd John Rowlands.

 

 

 

HEFYD YN BRESENNOL:

 

Aelodau Lleol :  Cynghorwyr Mrs B. Burns (eitemau 4.5, 4.6),

W. J. Chorlton (eitem 4.7), W. I. Hughes (eitemau 4.3, 6.1)

Goronwy Parry MBE (eitem 7.16), Hefin Thomas (eitemau 4.9, 6.2)

H. Noel Thomas (eitem 7.6), W. J. Williams (eitem 4.11).

 

 

Croesawyd y Cynghorydd Keith Thomas yn ôl i'w gyfarfod cyntaf ar ôl bod yn yr ysbyty yn ddiweddar.

 

1

DATGANIAD O DDIDDORDEB

 

Cafwyd datganiadau o ddiddordeb gan Aelodau a Swyddogion fel y cawsant eu cofnodi dan yr eitemau perthnasol.

 

2

COFNODION

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd cofnodion y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gyfarfu ar 1 Medi 2004, gyda'r newidiadau a ganlyn :(tudalennau 16 - 34 o’r Gyfrol hon)

 

EITEM 4.3 - 14C174B - LLYNFAES UCHAF, LLYNFAES (trydydd paragraff ar dudalen 3 y cofnodion) - nodwyd "bod caniatâd cynllunio wedi'i roddi'n ddiweddar i godi annedd gyda garej ddwbl a lolfa haul" 'ar dir cyffiniol i'r safle' ac nid "ar draws y ffordd" fel a nodwyd yn y cofnodion.

 

 

 

EITEM 4.9 - 35C207G -  YR HEN FELIN, LLANGOED (paragraff olaf ond un, eitem 4.9 ar dudalen 7 y cofnodion).  Dywedodd y Cynghorydd J. Arthur Jones bod y fynedfa bresennol yn groes i TAN18 a buasai'n creu cynnydd yn y traffig, yn groes i'r hyn a gofnodwyd yn y cofnodion.

 

 

 

3

YMWELIADAU Â SAFLEOEDD

 

 

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd adroddiad ar yr ymweliadau â safleoedd cynllunio a gafwyd ar 15 Medi 2004.

 

 

 

4........CEISIADAU'N CODI O'R COFNODION

 

 

 

4.1

CAIS ECONOMAIDD

 

 

 

11C122B/EIA - DARPARU GWAITH CARTHFFOSIAETH A GWAITH TIRLUNIO CYSYLLTIEDIG AR RAN O SAFLE TANC STORIO OLEW SHELL GYNT A SAFLE'R GREAT LAKES, AMLWCH

 

 

 

Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod swyddogion yn dal i ymgynghori ynghylch y cais ac argymhellodd ei ohirio.

 

 

 

Am y rheswm a roddwyd gan y swyddog PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais hwn.

 

 

 

4.2

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

14C92B - TROI SWYDDFEYDD YN SIOP TRIN GWALLT A PHARLWR PRYDFERTHU (h.y. DOSBARTH A1) YN YSTAFELLOEDD 1 AC 18 PARC CEFNI, BODFFORDD

 

 

 

Gwnaeth y Cynghorydd J. Arthur Jones ddatganiad o ddiddordeb yn y cais ac nid oedd yn bresennol yn ystod y drafodaeth.

 

 

 

Trosglwyddwyd y cais hwn i'r Pwyllgor am benderfyniad oherwydd iddo gael ei gyflwyno gan aelod etholedig.

 

 

 

Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu fod yr adroddiad ar y cais yn wallus am ei fod yn anghyflawn, yn enwedig felly yng nghyswllt polisiau perthnasol a ystyriwyd wrth bennu argymhelliad y swyddog i'r Pwyllgor, a gofynnodd am ohirio ystyried y cais hwn fel bod yr aelodau yn cael y cyfan o'r ffeithiau; hwn hefyd oedd yr achos yng nghyswllt eitem 5.1 y cofnodion hyn.

 

 

 

Gan y Cynghorydd John Roberts cafwyd cynnig i ohirio a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Eurfryn Davies.

 

 

 

Dywedodd y Cyfreithiwr bod yr ymgeisydd eisoes â hawl i apelio yng nghyswllt cais 14C92B oherwydd methu â gwneud penderfyniad arno y tu mewn i'r cyfnod statudol wyth wythnos.

 

 

 

Am y rheswm a roddwyd gan y swyddog PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais hwn.

 

 

 

4.3

CAIS YN TYNNU'N GROES I'R POLISIAU

 

 

 

14C174B - CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD YNGHYD Â DARPARU MYNEDFA NEWYDD AR DIR GER LLYNFAES UCHAF, LLYNFAES

 

 

 

Yn y cyfarfod blaenorol ac yn groes i argymhelliad y swyddog penderfynwyd caniatáu'r cais am y rhesymau a ganlyn :

 

 

 

Ÿ

enillion priffyrdd trwy wella gwelededd yn y man hwn ar y ffordd

 

Ÿ

mae'r cais yn cwrdd â'r meini prawf angenrheidiol ym mholisïau HP5 yr CDU ac ym mholisi 50 Cynllun Lleol Ynys Môn

 

 

 

Gan ddilyn Cyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio er mwyn rhoi'r cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu.

 

 

 

Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod Polisi A2 Cynllun Fframwaith Gwynedd, Polisïau 50 a 53 Cynllun Lleol Ynys Môn, y Cynllun Datblygu Unedol a Pholisi Cynllunio Cymru yn berthnasol wrth benderfynu ar argymhelliad y swyddog i'r Pwyllgor.  Ychwanegodd y swyddog bod y cynnig hwn yn groes i'r polisïau ac i'r cyngor yng Nghanllawiau Cynllunio Cymru.  

 

 

 

 

 

 

 

Roedd y safle mewn llecyn amlwg ar dir agored ac argymhellodd wrthod y cais.

 

 

 

Wrth annerch y cyfarfod dywedodd y Cynghorydd W. I. Hughes, yr aelod lleol, mai fater o farn oedd a oedd y cais yn gwyro ai peidio.  Roedd Llynfaes yn bentref rhestredig "a hynny'n caniatáu datblygu anheddau unigol yn y pentref neu ar ei gyrion gyda'r amod nad yw'r datblygiad yn niweidio cymeriad ffisegol na chymdeithasol yr ardal".  Nid oedd yr un plot na thy ar werth yn yr ardal ac roedd y safle ar gyrion Llynfaes.

 

 

 

Mewn ymateb i adroddiad y swyddog yn dweud "y bydd y Cyngor yn gwrthod ceisiadau sy'n arwain at golli coed, gwrychoedd, waliau cerrig, cloddiau a nodweddion traddodiadol eraill yn y tirwedd onid oedd cynigion derbyniol yn cael eu cynnwys i ddarparu rhywbeth yn eu lle"  dywedodd y Cynghorydd Hughes fod modd ystyried y cynnig hwn fel un yn creu budd i'r graddau bod yr ymgeisydd yn bwriadu ailgodi wal gerrig ymhellach yn ôl o'r lôn i wella gwelededd yn y man hwn.

 

 

 

Darllennodd y Cynghorydd Aled Morris Jones ddyfyniad o Bolisi 50 y Cynllun Lleol a chytunodd gyda'r aelod lleol bod y cais hwn yn cwrdd â'r meini prawf angenrheidiol.

 

 

 

Yr hyn a wnaeth y Cynghorydd Arthur Jones oedd ailadrodd datganiad y Cynghorydd Aled Morris Jones gan ychwanegu bod safle'r cais, yn amlwg, ar gyrion pentref rhestredig.

 

 

 

Cytunodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod Llynfaes y tu mewn i'r Polisi 50 ond credai'r swyddog, wrth ddehongli'r cais yng nghyd-destun ei dirwedd, bod y datblygiad yn un rhubanaidd am ei fod yn ymestyn allan i'r cefn gwlad.

 

 

 

Mewn ymateb i ddatganiad y Cynghorydd Hughes bod annedd newydd yn y broses o gael ei chodi ar dir union ger y safle hwn dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod yr annedd honno wedi ei chaniatáu dan Bolisi 55 (addasu adeiladau presennol).

 

 

 

Ofni yr oedd y Cynghorydd John Roberts y buasai caniatáu'r cais yn gynsail wrth ystyried ceisiadau eraill cyffelyb.  

 

 

 

Roedd y Cynghorydd Denis Hadley yn amau a oedd ffiniau ffisegol i'r pentref rhestredig hwn.

 

 

 

Ni welai'r Cynghorydd David Lewis Roberts bod unrhyw reswm i beidio â rhoddi caniatâd a chynigiodd rhoddi caniatâd a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Aled Morris Jones.

 

 

 

Rhoes y cyfreithiwr gyngor i'r Pwyllgor bod y cais yn gwyro oddi wrth y polisïau ac y dylai'r Pwyllgor ystyried cofnodi'r bleidlais.

 

 

 

PENDERFYNODD yr aelodau

 

1.

beidio â chofnodi'r bleidlais

 

2.

glynu wrth y penderfyniad blaenorol sef, caniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd uchod a chydag amodau perthnasol

 

 

 

4.4

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

17C126C - CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD AR DIR CAERAU, LLANSADWRN

 

 

 

Trosglwyddwyd y cais hwn i'r Pwyllgor ei ystyried ar gais yr aelod lleol a chafodd yr aelodau olwg ar y safle ar 15 Medi 2004.  

 

 

 

Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod safle'r cais union ger priffordd y B5109 Pentraeth - Llansadwrn.  Yn ddiweddar darparwyd mynedfa amaethyddol i gerbydau amaethyddol ac yn darparu mynediad i'r safle dan sylw.  Roedd y Cyngor Cymuned yn gwrthwynebu'r bwriad oherwydd gwelededd ansafonol, a daeth llythyr arall o wrthwynebiad i law.  Manylwyd ar y polisïau a ystyriwyd wrth bennu argymhelliad y swyddog yn ei adroddiad, ac yn arbennig Bolisi

 

50 (Pentrefi Rhestredig) Cynllun Lleol Ynys Môn.  Roedd y cynnig yn groes i'r CDU a chwaith nid oedd yn estyniad derbyniol i'r pentref, ac at hynny roedd y gwelededd yn y fynedfa yn annerbyniol.  Gan y swyddog cafwyd argymhelliad i wrthod.

 

 

 

Argymhellodd yr Uwch Beiriannydd Priffyrdd wrthod y cais, ac yn arbennig oherwydd anawsterau gweld ymlaen i drafnidiaeth yn teithio o Fiwmares ac yn troi i'r dde i'r safle.

 

 

 

Wrth annerch y cyfarfod cyfeiriodd y Cynghorydd Eurfryn Davies, yr aelod lleol, at Bolisi 50 (Pentrefi Rhestredig) a dywedodd mai mater o farn oedd dehongli a oedd y bwriad ar ymyl neu y tu allan i ffiniau'r pentref neu'r clwstwr.  Yn ddaearyddol roedd Llansadwrn yn ymrannu yn ddau glwstwr.  Er bod y Cynghorydd Davies yn gwerthfawrogi bod cais blaenorol wedi ei wrthod ar y safle hwn, teimlai fod y gwelededd yn y fynedfa newydd yn dderbyniol a bod modd gweld yn ddirwystr am tua 120 o lathenni i gyfeiriad Llansadwrn (dau bolyn trydan i ffwrdd).  Credai ef bod yr Adran Briffyrdd wedi sefydlu cynsail trwy roddi caniatâd i fynedfa amaethyddol.

 

 

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Arwel Edwards dywedodd y Swyddog Priffyrdd y buasai o leiaf 160m o welededd yn dderbyniol yn y man hwn.  Roedd y cyfryw welededd tua hanner y gofynion.  Rhoddwyd caniatâd i gerbydau amaethyddol yn unig ddefnyddio'r fynedfa newydd yn lle'r hen fynedfa wreiddiol tua'r de-ddwyrain oedd yn ansafonol - credwyd y buasai rhoddi caniatâd i'r cais hwn yn ychwanegu'n sylweddol at y traffig.

 

 

 

Yr hyn a wnaeth y Cynghorydd John Roberts oedd gofyn a ellid diwygio'r fynedfa i wella'r gwelededd.  Ni chredai'r Swyddog Priffyrdd bod hynny'n bosib.  Nid y llain gwelededd yn y fynedfa oedd yn peri problem ond y gwelededd union ymlaen wrth fynd i mewn i'r safle.  Gofynnodd y Cynghorydd David Lewis-Roberts a oedd modd symud y fynedfa i lôn breifat ym mhen gogleddol y safle.

 

 

 

Gan y Cynghorydd R. Ll. Hughes cafwyd sylw y collid y fynedfa amaethyddol i'r cae hwn petai caniatâd yn cael ei roddi a hynny yn ei dro yn arwain at ailddefnyddio'r hen fynedfa i'r cae er bod honno'n beryglus.  Cynigiodd dderbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad o wrthod.

 

 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Eurfryn Davies roddi caniatâd i'r cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Arwel Edwards a ychwanegodd fod marciau clir ar y ffordd yn y lle hwn i rybuddio traffig i arafu.

 

 

 

Dygodd y Cynghorydd J. Arthur Jones sylw'r aelodau at adroddiad Arolygydd Llywodraeth Cynulliad Cymru a hefyd at y Cyngor Cenedlaethol ynghylch safonau gwelededd i ffyrdd (TAN 18) a'i berthnasedd i'r cais hwn (cyfeiria yr adroddiad apêl yng nghyswllt Hen Felin Wynt Llangoed ac sydd ynghlwm wrth yr agenda i'r cyfarfod at y mater yma).

 

 

 

PENDERFYNWYD gwrthod y cais hwn am y rhesymau yn adroddiad y swyddog.

 

 

 

4.5

CAIS YN TYNNU'N GROES I'R POLISIAU

 

 

 

18C1G - DYMCHWEL ADFAIL AR Y SAFLE A CHODI ANNEDD NEWYDD YNG NGLAN Y GORS BACH, RHYD-WYN

 

 

 

Yn y cyfarfod blaenorol ac yn groes i argymhelliad y swyddog penderfynwyd caniatáu'r cais am y rhesymau a ganlyn :

 

 

 

Ÿ

dylid rhoddi'r cais hwn yn y categori i godi annedd newydd yn lle hen annedd dan Bolisi 54 Cynllun Lleol Ynys Môn

 

Ÿ

ni chredir bod y bwthyn sydd ar y safle yn annedd wedi ei gadael i adfeilio

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor, gohiriwyd ystyried y cais er mwyn rhoi y cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu.

 

 

 

Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod y cais hwn yn groes i'r polisïau a manylodd ar y polisïau gafodd sylw wrth bennu argymhelliad y swyddog i'r Pwyllgor ac yn arbennig Bolisïau 53 Cynllun Lleol Ynys Môn ac A6 Cynllun Fframwaith Gwynedd.  Ychwanegodd y swyddog nad oedd modd ystyried y cais dan Bolisi 54 (annedd newydd yn lle hen un).  Wedyn soniodd y swyddog am hanes cynllunio'r safle fel y manylwyd ar hwnnw yn adroddiad y swyddog, sef hanes o wrthod a chefnogi gwrthod ar apêl.  Mae'r safle y tu allan i'r pentref ac oherwydd natur adfeiliedig yr adeilad dywedodd y swyddog nad oedd defnydd cyfreithlon fel annedd yn bod iddo bellach.  Credwyd bod safle'r cais yn y cefn gwlad, ac felly yn groes i bolisïau a chafwyd argymhelliad cryf i wrthod.

 

 

 

Wrth annerch y cyfarfod dywedodd y Cynghorydd Mrs Burns, yr aelod lleol, y dylai'r aelodau gadarnhau y penderfyniad blaenorol a chaniatáu'r cais.  Ar y naill law cytunodd bod y safle yn y cefn gwlad ond ychwanegodd na châi'r datblygiad effaith andwyol ar y tirwedd a hynny am fod y safle o'r golwg o'r ffordd ac wedi ei amgylchynu gan wrychoedd uchel.  Cyfeiriodd y aelod at Bolisi 30 (gwella'r amgylchedd) a chredai y buasai'r cynnig hwn yn gwella gwedd y safle.  Roedd cefnogaeth gref yn lleol i'r cais gan gynnwys y Cyngor Cymuned ac ychwanegodd bod y person lleol hwn wedi byw mewn carafán ar y safle ers blynyddoedd ac oherwydd ei amgylchiadau ni fedrai symud ymlaen i adeiladu tan yn awr.

 

 

 

Yn ôl y Cynghorydd R. Ll. Hughes roedd y cais hwn yn tynnu'n groes i'r polisïau gan fod yr annedd wedi ei gadael i adfeilio a theimlai na allai gefnogi'r cais a chynigiodd ei wrthod.

 

 

 

Oherwydd bod y cais hwn yn ymwneud ag adfywio'r economi roedd y Cynghorydd Thomas Jones yn gefnogol iddo a chynigiodd roddi caniatâd.  

 

 

 

Dyma pryd y dangosodd y Cynghorydd P. M. Fowlie, i aelodau'r Pwyllgor, hysbyseb o hen annedd a adawyd ac a fu ar werth yn 2002 - annedd y rhoddwyd caniatâd cynllunio iddi dan bwerau dirprwyol.  Eiliodd y Cynghorydd Fowlie gynnig y Cynghorydd Thomas Jones i roddi caniatâd.  Am resymau economaidd rhoes y Cynghorydd Aled Morris Jones ei gefnogaeth i'r cais.

 

 

 

Am nad oedd ganddo wybodaeth gefndir wrth law yn y cyfarfod, dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu nad oedd mewn sefyllfa i ymateb i haeriad y Cynghorydd Fowlie a mynegodd ei siom gyda'r hyn a wnaeth y Cynghorydd.  I bwrpas cydymffurfio gyda Pholisi 54 dywedodd y swyddog bod rhaid sicrhau defnydd cynllunio cyfredol i annedd fel annedd.  Nid oedd defnydd o'r fath yn cael ei wneud o'r adfail hwn a rhoes argymhelliad cryf o wrthod i'r Pwyllgor.

 

 

 

Ni fedrai'r Cynghorydd John Roberts weld sut yr oedd cais am dy yn cael ei ddehongli fel cais economaidd.

 

 

 

Yn ei hymateb dywedodd y Cynghorydd Mrs Burns bod y pysgotwr hwn yn cyflogi pobl leol ac yn allforio cimychiaid a chrancod ond hefyd roedd ei deulu yn cefnogi'r economi leol ym mwyty'r Lobster Pot trwy gyflogi pobl leol yno.

 

 

 

Ychwanegodd y Cynghorydd Byast yma nad cais economaidd oedd hwn a gwnaeth gynnig i dderbyn argymhelliad o wrthod gan y swyddog.

 

 

 

Ailadroddodd y Pennaeth Gwasanaeth Cynllunio ddatganiad y Pennaeth Rheoli Datblygu gan ofyn i'r aelodau beidio â thanseilio cyngor proffesiynol y swyddogion - heb amheuaeth roedd yma gais oedd yn torri'r polisïau.  Roedd safle'r cais yn y cefn gwlad agored ac nid mater o farn oedd hynny.

 

 

 

Rhoes y cyfreithiwr gyngor i'r Pwyllgor gofnodi'r pleidlais ar y cais.

 

Yn groes i gyngor y cyfreithiwr PENDERFYNODD yr aelodau beidio â chofnodi'r bleidlais.

 

 

 

O 9 pleidlais i 7 PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd o'r blaen.

 

 

 

Roedd y Cynghorydd Eurfryn Davies yn dymuno cofnodi nad oedd ef wedi pleidleisio, a'r Cynghorwyr R. Ll. Hughes a J. Arwel Edwards yn dymuno cofnodi iddynt bleidleisio i wrthod y cais.

 

 

 

4.6

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     18C146C - CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD A DARPARU MYNEDFA NEWYDD AR GAE ORDNANS 9835, LLANRHUDDLAD

 

      

 

     Dygwyd y cais hwn i'r Pwyllgor yn ôl dymuniad yr aelod lleol a chafodd yr aelodau ymweliad â'r safle ar 15 Medi 2004.

 

      

 

     Gan y Pennaeth Rheoli Datblygu cafwyd disgrifiad o'r cais ac o'r safle dan sylw yn y cynnig ac aeth yn ei flaen i ddarllen sylwadau yr Adran Addysg ac er nad oedd gwrthwynebiad i'r annedd fel y cyfryw, roedd pryderon ynghylch lleoliad y fynedfa i'r safle yng nghyd-destun yr ysgol.  Y polisi mwyaf perthnasol y rhoddwyd sylw iddo wrth bennu argymhelliad y swyddog i'r Pwyllgor oedd Polisi 50 (Pentrefi Rhestredig) Cynllun Lleol Ynys Môn.  Gwrthodwyd ceisiadau blaenorol "oherwydd ar sail mynediad, mae'r bwriad diwygiedig, gyda'r safle cais wedi ei leihau yn cael ei gysidro i fod yn orffeniad foddhaol i'r pentref".  Cafwyd argymhelliad o ganiatáu gan y swyddog ond gydag amodau perthnasol.

 

      

 

     Wedyn anerchodd y Cynghorydd Mrs Bessie Burns, yr aelod lleol, y cyfarfod gan ddweud nad oedd yn gwrthwynebu'r egwyddor o godi annedd ond teimlai bod lleoliad arfaethedig y fynedfa gyferbyn â'r ysgol a stad o dai yn annerbyniol.  Ar 6 Medi ymwelodd Mrs Burns â'r safle a chymryd 16 o ffotograffau ger mynedfa'r ysgol pan oedd hi'n cau a diolchodd i'r swyddogion priffyrdd am ymweld â'r safle.  Nododd Mrs Burns y câi llwybr ei greu gyferbyn â'r ysgol ynghyd â chilfan i gerbydau a theimlai nad oedd y gilfan yn syniad doeth gan y buasai'n rhaid i'r disgyblion groesi'r lôn i gyrraedd y cerbydau.  Gofynnodd Mrs Burns am symud y fynedfa i lecyn diogelach.

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn Mrs Burns cafwyd cadarnhad gan y Swyddog Priffyrdd bod y gwelededd i gyfeiriad Rhyd-wyn yn dderbyniol.  

 

      

 

     Holodd Mrs Burns a fuasai creu cilfan i geir yn culhau'r ffordd.  Cadarnhaodd y Swyddog Priffyrdd mai dyna fuasai'n digwydd ond buasai'n welliant ar y sefyllfa gyffredinol oherwydd sythu'r lôn yn y man penodol hwn.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd David Lewis Roberts cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad o ganiatáu a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Tecwyn Roberts.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd R. Ll. Hughes yn teimlo fod creu llwybr yn mynd i fod yn fanteisiol ac ni welai fod yma unrhyw rheswm dros wrthod.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau yn adroddiad y swydog a chyda'r amodau perthnasol.

 

      

 

4.7

CAIS ECONOMAIDD

 

      

 

     19C251H - CAIS AMLINIELLOL I DDYMCHWEL ADEILAD A CHODI BLOC SWYDDFEYDD 8 LLAWR, LLE PARCIO TANDDAEAROL YNGHYD Â CHODI CHWE THY TERAS YN FFORDD KINGSLAND, CAERGYBI

 

      

 

     Yn y cyfarfod blaenorol, ac yn groes i argymhelliad y swyddog, penderfynwyd caniatáu'r cais am y rhesymau a ganlyn :

 

      

 

Ÿ

roedd Caergybi angen y math hwn o gynnig a fuasai'n creu swyddi yn yr ardal

 

Ÿ

roedd yn gais economaidd

 

Ÿ

buasai'r cynnig yn gwella gwedd y safle sydd ar hyn o bryd yn ddolur llygad.

 

 

 

Gan ddilyn Cyfansoddiad y Cyngor, cafodd y cais ei ohirio er mwyn rhoi'r cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu'r cais.

 

 

 

Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu fod y ffotograffau pwrpasol y gofynnwyd i'r ymgeisydd amdanynt byth wedi cyrraedd ac argymhellodd wrthod y cais.  Ond ychwanegodd y swyddog nad oedd ganddo yr un gwrthwynebiad mewn egwyddor i ddatblygu'r tir a bod y cais gerbron yn un amlinellol i godi adeilad 8 llawr.

 

 

 

Yn ei anerchiad i'r cyfarfod dywedodd y Cynghorydd W. J. Chorlton na fedrai gytuno gyda'r swyddogion yn mynnu ar y ffotograffau pwrpasol ar adeg cyflwyno cais amlinellol.  Yn amlwg roedd y tir perthnasol i'r cais mewn powlen yn y tir, nid oedd yr un adeilad amlwg yn yr ardal, a theimlai'r Cynghorydd na ddylai'r Pwyllgor wrthod y cais am resymau'r swyddog, ac y dylai creu swyddi fod yn flaenoriaeth yn yr achos hwn.

 

 

 

Gan y Cynghorydd Arwel Roberts cafwyd cynnig i ganiatáu.

 

 

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd John Roberts, dywedodd y Swyddog Cynllunio bod angen y ffotograffau pwrpasol i asesu yr adeilad amlwg hwn mewn llecyn amlwg.

 

 

 

Wedyn cyfeiriodd y Cynghorydd Glyn Jones at lythyr gerbron y Pwyllgor oddi wrth yr asiant yn nodi eu bod nhw yn barod i dderbyn amod i gyfyngu uchder yr adeilad i 30 metr ac yn fodlon hefyd cyflwyno ffotograffau pwrpasol adeg cyflwyno manylion.

 

 

 

Cynigiodd y Cynghorydd P. M. Fowlie y dylid gohirio ystyried y cais.

 

 

 

PENDERFYNODD y Pwyllgor lynu wrth y penderfyniad blaenorol a chymeradwyo'r cais am y rhesymau uchod.

 

 

 

4.8

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     19C291A - CAIS AMLINELLOL I DDYMCHWEL TY TAFARN A CHODI 12 ANNEDD, DWY YSTAFELL WELY YR UN A DARPARU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU YN Y DDRAIG GOCH, LLAIN-GOCH

 

      

 

     Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod materion yma heb eu setlo eto ac argymhellodd ohirio ystyried y cais.

 

      

 

     Am y rheswm a roddwyd gan y swyddog PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais hwn.  

 

4.9

CAIS YN TYNNU'N GROES I'R POLISIAU

 

      

 

     22C154B - CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD A DARPARU TANC SEPTIG NEWYDD AR GAE ORDNANS 263, LLANDDONA

 

      

 

     Yn y cyfarfod cynt ac yn groes i argymhelliad y swyddog penderfynwyd caniatáu'r cais am y rhesymau a ganlyn :

 

      

 

Ÿ

roedd rhwydwaith y ffyrdd lleol yn ddigon da i dderbyn annedd arall

 

Ÿ

roedd y cynnig yn cydymffurfio gyda Pholisi 53 ac yn cwrdd ag angen amaethyddol

 

 

 

Gan ddilyn Cyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio er mwyn rhoi'r cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu.

 

 

 

Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod y cais hwn yn amlwg yn torri'r polisïau a rhoddwyd pwysau arbennig ar bolisïau 30, 50 a 53 Cynllun Lleol Ynys Môn a Pholisïau A6 a D1 Cynllun Fframwaith Gwynedd wrth bennu argymhelliad y swyddog i'r Pwyllgor.  Dygodd y swyddog sylw'r aelodau at hanes cynllunio'r safle fel y manylwyd ar hynny yn ei adroddiad.  Buasai

 

annedd newydd ar y safle hwn yn cael effaith andwyol ar dirwedd cefn gwlad ac mewn Ardal o Brydferthwch Naturiol Eithriadol, a hefyd roedd yma oblygiadau i ddiogelwch y briffordd i'w hystyried.  O'r herwydd cafwyd argymhelliad cryf gan y swyddog i wrthod y cais am y rhesymau yn yr adroddiad.

 

 

 

Yn ei anerchiad dywedodd y Cynghorydd Hefin Thomas, yr aelod lleol, ei fod yn credu bod y cais hwn yn cydymffurfio gyda'r polisi ar anghenion amaethyddol a phwysigrwydd sicrhau bod gan yr ymgeisydd gartref yn ei bentref ei hun, a gallai teulu ifanc gefnogi'r ysgol leol.  Yma, roedd cais gan berson lleol am un annedd a chrybwyllodd bod stad o dai yn cael ei chodi gerllaw ac arni 6 annedd yn costio o gwmpas £½m yr un.  Hefyd roedd 26 o anheddau eraill ar y darn hwn o'r lôn yn rhedeg at y traeth.  Ni wyddai'r Cynghorydd Thomas am unrhyw ddamwain a ddigwyddodd ar hyd y ffordd hon a hwn oedd yr unig gyfle i'r unigolyn godi ty fforddiadwy i'w deulu.  Roedd ganddo swydd amser llawn yn y lladd-dy lleol ac atgoffodd y Cynghorydd Thomas y Pwyllgor fod apêl yn erbyn gwrthod cais arall wedi ei chaniatáu gan yr Arolygydd y mis cynt.

 

 

 

Yn ei ymateb dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu nad oedd yr ymgeisydd wedi cyflwyno unrhyw dystiolaeth i'r angen amaethyddol nac wedi profi bod angen ty fforddiadwy a darllenodd y meini prawf y mae'n rhaid cwrdd â nhw cyn darparu annedd amaethyddol.  Rhaid profi bod yr ymgeisydd yn gorfod byw ar y safle ac ychwanegodd bod caniatâd wedi ei roddi i'r stad dai dan ddarpariaethau eraill oedd mewn grym cyn y polisïau cyfredol.  Roedd y cais hwn yn groes i'r polisïau.

 

 

 

Dywedodd yr Uwch Beiriannydd Priffyrdd fod yr Adran Briffyrdd yn argymell gwrthod y cais am nad oedd y ffordd droellog a chul hon yn cyrraedd y safon ac nid oedd arni ddigon o fannau pasio a buasai rhoddi caniatâd yn gweithygu'r sefyllfa trwy ychwanegu at y traffig a hynny yn andwyol i ddiogelwch y ffordd.

 

 

 

Gan y Cynghorydd Tecwyn Roberts cafwyd cynnig i lynu wrth benderfyniad blaenorol y Pwyllgor, sef rhoddi caniatâd, a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd David Lewis Roberts ac ychwanegodd bod safle'r cais tu mewn i glwstwr o anheddau eraill.  Cefnogi wnaeth y Cynghorydd Fowlie hefyd.

 

 

 

Wedyn cafwyd cyngor y cyfreithiwr na ddylid rhoddi caniatâd i'r cais ac ychwanegodd y dylai'r Pwyllgor gofnodi'r bleidlais.

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd R. Ll. Hughes bod y safle yn y cefn gwlad a chynigiodd gwrthod y cais.

 

 

 

Gan ddilyn paragraff 18.5 Rheolau Gweithdrefn y Cyngor PENDERFYNWYD cofnodi'r bleidlais ar y cais fel a ganlyn :

 

 

 

CANIATAU'R CAIS (YN GROES I ARGYMHELLIAD Y SWYDDOG):  Y Cynghorwyr John Byast, P. M. Fowlie, Aled Morris Jones, J. Arthur Jones, O. Glyn Jones, D. Lewis Roberts, J. Arwel Roberts, Tecwyn Roberts (8)

 

 

 

GWRTHOD Y CAIS YN UNOL AG ARGYMHELLIAD ADRODDIAD Y SWYDDOG :  Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, P. Dunning, J. Arwel Edwards, D. Hadley, R. Ll. Hughes, R. L. Owen, John Roberts, Keith Thomas (8)

 

 

 

YMATAL :

 

Thomas Jones (1)

 

 

 

Wrth i'r Cadeirydd ddefnyddio ei bleidlais fwrw penderfynwyd dileu y penderfyniad blaenorol a gwrthod y cais am y rhesymau yn adroddiad y swyddog.

 

 

 

4.10

CAIS ECONOMAIDD

 

      

 

     23C160D/EIA - YMESTYN CHWAREL CARREG GALCH RHUDDLAN BACH, BRYNTEG

 

      

 

     Cafwyd argymhelliad gan y Pennaeth Rheoli Datblygu i ohirio ystyried y cais hwn gan fod swyddogion yn dal i ymgynghori.  Bu'r aelodau ar ymweliad â'r safle ar 15 Medi 2004.

 

      

 

     Am y rhesymau a roddwyd gan y swyddog PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais hwn.

 

      

 

4.11

  GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     23C223 - CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD AC ALTRO'R FYNEDFA AR GAE ORDNANS 1800, CAE TY'N LÔN, TALWRN

 

      

 

     Gohiriwyd ystyried y cais hwn yn y cyfarfod cynt a bu'r aelodau yn ymweld â'r safle ar 15 Medi 2004.

 

      

 

     Dygodd y Pennaeth Rheoli Datblygu sylw'r aelodau at hanes cynllunio'r safle fel a manylwyd ar hynny yn adroddiad y swyddog.  Argymhelliad unfrydol o wrthod oedd gan y Cyngor Cymuned.  Rhoddwyd sylw i'r polisïau perthnasol wrth ystyried argymhelliad y swyddog i'r Pwyllgor, ac yn arbennig felly Polisi 50.  Roeddid yn credu bod y cynnig hwn yn ymestyn y pentref y tu draw i'w ffiniau ac ychwanegodd y swyddog ei fod newydd dderbyn adroddiad gan yr Arolygwr ar apêl yng nghyswllt Bryntirion, Talwrn - adroddiad yn rhoddi pwyslais mawr ar ffiniau arfaethedig y pentref yn y CDU ac roedd safle'r cais gerbron yn amlwg y tu allan i'r ffiniau hynny.  Roedd safle'r cais yn rhan o Dolydd Newydd, lle mae cytundeb cyfreithiol dan Adran 52 yn rhwystro'r perchennog rhag gwerthu unrhyw ran o'r tir.

 

      

 

     Nid oedd y Cynghorydd W. J. Williams yn hapus bod y swyddog wedi darllen adroddiad yr Arolygwr heb rhoddi rhybudd ymlaen llaw ac fel aelod lleol dylai fod wedi cael gwybod am ganlyniad yr apêl.

 

      

 

     Merch ifanc oedd yma meddai'r Cynghorydd Williams ac yn dymuno parhau i fyw yn y pentref ac ni fedrai gytuno gyda'r swyddogion y buasai'r safle yn creu estyniad annerbyniol i'r pentref ac i'r cefn gwlad.  Roedd y cae yn cynnwys safle'r cais union ger 6 eiddo, sef 4 byngalo a 2 dy.  Yn amlwg roedd y safle ar gyrion ffiniau'r pentref fel y cânt eu diffinio dan Bolisi 50.  Roedd digon o le yn y cae i sicrhau na châi'r cynnig unrhyw effaith andwyol ar bleserau Ty'n Lôn.  Ychwanegodd bod 3 eiddo ar werth yn Nhalwrn gyda phrisiau yn gofyn o gwmpas £150,000 - £200,000.  Roedd modd ystyried hwn yn safle eithriad dan Bolisi 52 a hefyd roedd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn cynnig bob anogaeth i adfywio.

 

      

 

     Wedyn mewn ymateb eglurodd y Pennaeth Rheoli Datblygu nad oedd y cais wedi ei gyflwyno dan safleoedd eithriad fel y cânt eu diffinio ym Mholisi 52 a chan fod y safle yn y cefn gwlad cafodd ei asesu dan Bolisi 50.

 

      

 

     Teimlo yr oedd y Cynghorydd Aled Morris Jones y dylid cefnogi'r math hwn o gais er mwyn atal allfudo ymhlith pobl ifanc a hefyd i hybu adfywio y gymuned leol ac felly cafwyd cynnig ganddo i roddi caniatâd.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd J. Arthur Jones ei fod wedi darllen yr adroddiad ar apêl Bryntirion a theimlai fod y cais hwn yn cydymffurfio gyda Pholisi 50 a gallai, yn ddibetrus, gefnogi'r cais.

 

      

 

     O 12 pleidlais i 5 PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais am y rhesymau uchod.

 

      

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor gohiriwyd ystyried y cais tan y cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu.

 

      

 

4.12

  GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     25C151C - CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD, GAREJ, DDRPARU TANC SEPTIG NEWYDD A MYNEDFA NEWYDD YN NHAN RALLT, CARMEL

 

      

 

     Gwnaeth y Cynghorydd J. Arthur Jones ddatganiad o ddiddordeb yn y cais hwn ac nid oedd yn bresennol yn ystod y drafodaeth na'r pleidleisio.

 

      

 

      

 

     Yr aelod lleol ofynnodd am drosglwyddo'r cais hwn i'r Pwyllgor.  Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod yr ymgeiswyr bellach wedi cyflwyno rhagor o wybodaeth ac wedi gofyn am ohirio ystyried y cais.

 

      

 

     Am y rheswm a roddwyd PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais.

 

13........

 

4.13

  CAIS YN TYNNU'N GROES I BOLISIAU

 

      

 

     34C83C - CODI 21 O ANHEDDAU A DARPARU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU AR DIR GER FFORDD GLANHWFA, LLANGEFNI

 

      

 

     Gwnaeth Mr. J.R.W. Owen o'r Adran Briffyrdd ddatganiad o ddiddordeb yn y cais a gadawodd y cyfarfod am y drafodaeth.

 

      

 

     Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod y swyddogion yn dal i ymgynghori gyda'r asiant yng nghyswllt materion priffyrdd ac argymhellodd ohirio ystyried y cais.

 

      

 

     PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais hyd nes cwblhau'r gwaith ymgynghori gydag asiant yr ymgeisydd.

 

      

 

4.14

  GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     43C77C - DYMCHWEL ANNEDD A CHODI 6 ANNEDD AR WAHÂN A DARPARU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU YN Y GERLAN, PONT RHYD-Y-BONT.

 

      

 

     Yr aelod lleol ofynnodd am drosglwyddo'r cais hwn i'r Pwyllgor ei ystyried.

 

      

 

     Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod yr ymgeiswyr wedi cyflwyno cynlluniau diwygiedig a bod rhagor o sylw yn cael ei roddi iddynt a gofynnodd y swyddog am ohirio ystyried y cais.

 

      

 

     Am y rheswm a roddwyd PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais hwn.

 

      

 

5     CEISIADAU ECONOMAIDD

 

      

 

5.1

14C92D - NEWID Y DEFNYDD O HEN DDEPO DWR CYMRU I DDARPARU 22 O UNEDAU GWYLIAU, CODI BWYTY NEWYDD, TROI'R SWYDDFEYDD PRESENNOL YN FEITHRINFA, CYFLEUSTERAU HAMDDEN, CAFFI A CHANOLFAN CHWARAE I BLANT YNGHYD Â GOSOD OFFER PREIFAT I DRIN CARTHION YM MHARC CEFNI, BODFFORDD

 

      

 

     Gwnaeth y Cynghorydd J. Arthur Jones ddatganiad o ddiddordeb yn y cais ac nid oedd yn bresennol yn ystod y drafodaeth.

 

      

 

     Yr aelod lleol ofynnodd am drosglwyddo'r cais i'r Pwyllgor benderfynu arno.

 

      

 

     Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu fod yr adroddiad ar y cais hwn yn ddiffygiol am ei fod yn anghyflawn, ac yn arbennig felly yng nghyswllt y polisïau perthnasol a ystyriwyd wrth bennu argymhelliad y swyddog i'r Pwyllgor, a gofynnodd am ohirio ei ystyried er mwyn rhoi'r cyfle i gyflwyno'r holl ffeithiau i'r aelodau ac roedd hyn yn berthnasol hefyd yng nghyswllt eitem 4.2 y cofnodion hyn.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd J. Arwel Roberts cafwyd cynnig i roddi caniatâd a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd D. Lewis Roberts.  

 

      

 

     Eglurodd y cyfreithiwr y buasai'n annoeth gwneud penderfyniad ar y cais gan fod adroddiad y swyddog yn anghyflawn.  Yn ôl safonau Ynys Môn roedd yma gais mawr i ddatblygiad defnydd cymysg.  Roedd polisïau gwahanol yn y Cynllun Datblygu yn cyffwrdd â phob elfen unigol y cynnig ond methodd yr adroddiad ac eglurodd pa bolisïau oedd yn berthnasol nac egluro sut yr oedd y cynnig yn cydymffurfio gyda gofynion y cyfryw bolisïau.  Ar ôl darllen yr adroddiad teimlai nad oedd y rhesymau wedi eu cyflwyno i gynnal yr argymhelliad ac o'r herwydd annheg, oedd gofyn i'r aelodau wneud penderfyniad yn seiliedig ar y wybodaeth gerbron.  

 

      

 

     Cadarnhaodd y Pennaeth Rheoli Datblygu y câi adroddiad llawn ei gyflwyno i'r cyfarfod nesaf.

 

      

 

     Oherwydd bod yr adroddiad yn annigonol ni chredai'r Cyngorydd R. Ll. Hughes y gellid gwneud penderfyniad a chynigiodd ohirio'r drafodaeth a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd John Roberts.

 

      

 

     Am y rhesymau a roddwyd penderfynwyd gohirio ystyried y cais hwn.

 

      

 

      

 

5.2

  30C385A - DYMCHWEL Y GWESTY A CHODI ADEILAD PUM LLAWR AC YNDDO 28 APARTMENT PRYNU/GOSOD, PWLL NOFIO DAN DO A GYMNASIWM YNGHYD Â DARPARU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU, ALTRO'R FYNEDFA I GERBYDAU A GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD YNG NGWESTY BRYNTIRION, TRAETH COCH

 

      

 

     Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu ei fod yn disgwyl adroddiad manwl ar y cynnig ac argymhellodd fod aelodau yn ymweld â'r safle yn y cyfamser i asesu maint y datblygiad, ei effaith ar y tirwedd a dynodiad Ardal o Brydferthwch Naturiol Eithriadol.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â'r safle am y rhesymau a roddwyd gan y swyddog.

 

      

 

6     CEISIADAU'N TYNNU'N GROES I'R POLISIAU

 

      

 

6.1

14C190 - CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD A DARPARU TANC SEPTIG NEWYDD AR DIR YM MAES LLAN FAWR, TY'N LON, CAERGYBI

 

      

 

     Gwnaeth Mrs Ella C. Jones o'r Adran Gyllid ddatganiad o ddiddordeb yn y cais a hefyd cafwyd datganiad o ddiddordeb anuniongyrchol gan Mrs Cath Wynne-Pari.

 

      

 

     Yr aelod lleol ofynnodd am drosglwyddo'r cais i'r Pwyllgor benderfynu arno.

 

      

 

     Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod y cais yn groes i bolisïau, heb hanes cynllunio ac ar safle mewn llecyn amlwg.  Nid oedd y Cyngor Cymuned yn gwrthwynebu a'r polisïau perthnasol a ystyriwyd wrth bennu argymhelliad y swyddog oedd Polisi 53 Cynllun Lleol Ynys Môn a Pholisi A6 Cynllun Fframwaith Gwynedd.  Nid oedd yr Adran Briffyrdd yn gwrthwynebu.  Gofynnodd yr ymgeisydd am ohirio ystyried y cais i bwrpas cynnal trafodaethau gyda'r Adran Briffyrdd.  Fodd bynnag, roedd yn anhapus cyflwyno argymhelliad i wrthod yn seiliedig ar resymau polisi cynllunio.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Aled Morris Jones cafwyd cynnig i ohirio ystyried y cais yn unol â dymuniad yr ymgeisydd.

 

      

 

     PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais yn  unol â dymuniad yr ymgeisydd.

 

      

 

6.2

  22C165 - CODI ANNEDD A GOSOD OFFER PREIFAT I DRIN CARTHION, A GWNEUD GWAITH ALTRO I'R FYNEDFA AR DIR GER PENTRE LLWYN, LLANDDONA

 

      

 

     Yr ymgeisydd ofynnodd am drosglwyddo'r cais hwn i'r Pwyllgor.

 

      

 

     Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod safle'r cais heb amheuaeth  yn y cefn gwlad agored ac mewn Ardal o Brydferthwch Naturiol Eithriadol.  Y polisïau perthnasol wrth bennu argymhelliad y swyddog oedd Polisi 53 Cynllun Lleol Ynys Môn, Polisi A6 Cynllun Fframwaith Gwynedd, ac ni ddangoswyd fod unrhyw anghenion amaethyddol i godi'r annedd.  Nid oedd y briffordd yn cyrraedd y safon.

 

      

 

     Bellach roedd y sylwadau statudol wedi eu derbyn, a phob peth yn dderbyniol yng nghyswllt cael gwared o garthion, ond hefyd derbyniwyd llythyrau'n gwrthwynebu.  

 

      

 

     Gan nad oedd y cynllun a gyflwynwyd gydag adroddiad y swyddog yn glir roedd yr adroddiad yn gamarweiniol ac i bwrpas gweld y safle, argymhellodd y Cynghorydd Hefin Thomas bod aelodau yn ymweld â'r safle a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Fowlie.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â safle'r cais am y rheswm a roddwyd gan yr aelod.

 

      

 

6.3

  24C218A - CYNLLUNIAU LLAWN I GODI BYNGALO, CREU MYNEDFA NEWYDD A GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD YNGHYD Â CHODI ADEILAD AMAETHYDDOL AR RAN O GAE ORDNANS 7556 GER Y GROESWEN A WENLLYS, PEN-Y-SARN

 

      

 

     Gwnaeth y Cynghorydd Arwel Roberts ddatganiad o ddiddordeb yn y cais a gadawodd y cyfarfod am y drafodaeth a'r pleidleisio.

 

      

 

     Yr aelod lleol ofynnodd am drosglwyddo'r cais i'r Pwyllgor benderfynu arno.

 

      

 

     Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod hanes o wrthod ar y safle a'r polisïau perthnasol a ystyriwyd oedd A6 Cynllun Fframwaith Gwynedd a Pholisi 53 Cynllun Lleol Ynys Môn.  Nid yw y Gadfa wedi ei rhestru fel pentref yn y CDU, ac o'r herwydd mae'r safle yn amlwg yn y cefn gwlad ac felly mae'r cynnig yn groes i bolisi ac yn gwyro.

 

      

 

     Yn ei anerchiad dywedodd y Cynghorydd Aled Morris Jones, yr aelod lleol, bod yr ymgeisydd bellach, ac i ryw raddau, wedi symud safle'r bwriad hwn.  Wedyn rhannodd y Cynghorydd Jones gopi o fap manwl ymhlith aelodau'r Pwyllgor gan nodi fod o gwmpas 5 annedd yn y cyffiniau hyn.  Teimlai'r Cynghorydd Jones bod y safle yng nghanol clwstwr o anheddau eraill a bod modd diwygio dyluniad yr annedd petai hynny'n angenrheidiol.  Roedd yr ymgeisydd wedi bod mewn damwain ac yn dal i dderbyn triniaeth i'w anafiadau - gallai golli ei gartref a'r Cyngor wedyn yn gorfod dod o hyd i dy iddo.  Cyfeiriodd y Cynghorydd Jones at Bolisi 52 - eithriad i gwrdd ag angen lleol am resymau meddygol - sef polisi sy'n cyfiawnhau'r cais.  Ni ragwelwyd y buasai'r ymgeisydd yn medru dychwelyd i gymryd swydd llawn amser.  Nid cais amaethyddol oedd hwn - darpariaeth i gynnal pleser yr unigolyn oedd y sied.

 

      

 

     Er bod y Pennaeth Rheoli Datblygu yn cydymdeimlo gyda'r ymgeisydd, atgoffodd yr aelodau bod rhaid penderfynu ar geisiadau yn ôl egwyddorion defnydd tir ac ni fedrai gytuno bod y cynnig yn cydymffurfio gyda pholisi 52 Cynllun Lleol ac argymhellodd ei wrthod fel cais yn gwyro.  Nid oedd y Gadfa yn bentref cydnabyddedig yn y Cynllun Datblygu a bod rhaid i gynnig dan bolisi 52 fod ar gyrion pentref rhestredig neu ynddo.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Arwel Edwards fod yr ardal hon yn cynnwys tai yma ac acw.  Hefyd mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Roberts ynghylch â oedd Gadfa yn glwster cydnabyddedig ai peidio, dywedodd y swyddog nad oedd.

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd Aled Morris Jones roddi caniatâd i'r cais am y rhesymau a ganlyn :

 

      

 

Ÿ

Polisi 52 - eithriad i gwrdd ag angen lleol

 

Ÿ

oherwydd bod y safle mewn clwstwr o anheddau - llenwi bwlch

 

Ÿ

defnydd derbyniol i'r tir

 

      

 

Cafodd ei eilio gan y Cynghorydd W. T. Roberts.

 

 

 

PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd.

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor gohiriwyd ystyried y cais er mwyn rhoi'r cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu.

 

 

 

7     GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

7.1

10C92 - CODI GAREJ BREIFAT A DARPARU MYNEDFA NEWYDD YN 25 BRO BRANWEN, ABERFFRAW

 

      

 

     Gwnaeth y Cynghorydd O. Glyn Jones ddatganiad o ddiddordeb yn y cais ac nid oedd yn bresennol yn ystod y drafodaeth a'r pleidleisio.

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais gan aelod etholedig a dygwyd ef i sylw'r Pwyllgor benderfynu arno gan yr aelod hwnnw.

 

      

 

     Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod safle'r cais hwn yn ardd ger ochr ty ym mhen teras a oedd gynt yn eiddo i'r Cyngor.  Ceid mynedfa i'r garej trwy fwlch yn y wal derfyn gerrig 1 metr o uchder.  Roedd rhes o garejys y Cyngor yn rhedeg yn gyfochrog gyda gardd gefn yr eiddo.

 

      

 

     Dywedodd y swyddog bod y cynnig yn dderbyniol ac ni wnaed unrhyw ddrwg i'r Ardal Cadwraeth Ddynodedig nac i'r Ardal o Brydferthwch Naturiol Eithriadol.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais gyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

7.2

  14C92E - ADDASU ADEIALDAU ALLANOL A'U DYMCHWEL YN RHANNOL I BWRPAS DARPARU TAIR UNED WYLIAU AC UN ANNED YM MHARC CEFNI, BODFFORDD

 

      

 

     Gwnaeth y Cynghorydd J. Arthur Jones ddatganiad o ddiddordeb yn y cais ac nid oedd yn bresennol yn y drafodaeth na'r pleidleisio.

 

      

 

     Dygwyd y cais i sylw'r Pwyllgor i benderfynu arno oherwydd mai aelod etholedig a'i cyflwynodd.

 

      

 

     Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu mai hen ddepo oedd ar y safle gynt a bod cynnig cyffelyb a gategoreiddiwyd fel cynnig yn tynnu'n groes i bolisïau wedi ei dynnu'n ôl ar 28 Gorffennaf 2004.  Bwriad yw hwn i addasu a dymchwel yn rhannol adeilad cerrig a sied agorwyd yn ddiweddar i greu tair uned wyliau i'w gosod a hefyd i godi annedd ar wahân.

 

      

 

     Aeth y Pennaeth Rheoli Datblygu ymlaen i grybwyll polisïau 8 (llety gwyliau) a 55 (addasu) Cynllun Lleol Ynys Môn fel y rhai mwyaf perthnasol a ystyriwyd wrth bennu argymhellion y swyddog i'r Pwyllgor ond hefyd cyfeiriodd at bolisi CH2 Cynllun Fframwaith Gwynedd (llety gwyliau o safon uchel).  Hefyd roedd y cais hwn yn cwrdd â gofynion meini prawf dan y Cynllun Datblygu Unedol a than Bolisi Cynllunio Cymru (TAN 6) (datblygiadau amaethyddol a gwledig).

 

      

 

     Cadarnhaodd y swyddog bod y cyfan o'r ffeithiau wedi eu cyflwyno yn adroddiad y swyddog i'r Pwyllgor ac roedd y cynnig yn dderbyniol a chafwyd argymhelliad i ganiatáu.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd ond gyda'r amodau yn adroddiad y swyddog a hefyd gyda'r amod bod trafodaethau ymgynghori yn cael eu cwblhau'n foddhaol.

 

      

 

7.3

  22C44B - CAIS ÔL-DDYDDIOL I DDYMCHWEL HEN WAL DERFYN A CHODI WAL DERFYN DWY FETR O UCHDER YN EI LLE YN YR YSGOLDY, BIWMARES

 

      

 

     Yr aelod lleol ofynnodd am drosglwyddo'r cais i'r Pwyllgor benderfynu arno.

 

      

 

     Gan y Pennaeth Rheoli Datblygu cafwyd argymhelliad i ohirio ystyried y cais er mwyn rhoi'r cyfle i swyddogion ganfod pwy yw perchennog y tir dan sylw.

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd Hefin Thomas, yr aelod lleol, am i'r Pwyllgor ymweld â'r safle i weld y cynnig eu hunain ac yn unol â'r cais hwnnw cynigiodd y Cynghorydd W. T. Roberts ymweliad.

 

      

 

     PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais ac ymweld â'r safle am y rheswm a roddwyd gan yr aelod lleol.

 

      

 

7.4

  28C244A - TROI ADEILAD ALLANOL YN DDWY UNED WYLIAU YN Y FELIN UCHAF, BRYN DU

 

      

 

     Yr aelod lleol ofynnodd am drosglwyddo'r cais i'r Pwyllgor benderfynu arno.

 

      

 

     Wedyn eglurodd y Pennaeth Rheoli Datblygu mai cais oedd hwn i addasu adeiladau allanol yn ddwy uned wyliau ac mai'r polisi perthnasol a ddefnyddiwyd i bennu argymhelliad y swyddog i'r Pwyllgor oedd Polisi 55 (addasu); roedd yr adeiladau yn addas i'w addasu ac argymhellodd roddi caniatâd am resymau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

     Mewn ymateb gofynnodd y Cynghorydd Glyn Jones, yr aelod lleol, am ymweliad â'r safle gan fod y cynnig, yn ei dyb ef, yn cyfateb i or-ddatblygu'r safle.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â'r safle am y rheswm a roddwyd gan yr aelod.

 

      

 

7.5

  30C97N - CAIS ÔL-DDYDDIOL I GODI TAIR ANNEDD AR BLOTIAU 58, 59 A 60 BAY VIEW ROAD, BENLLECH

 

      

 

     Gwnaeth y Cynghorydd Tecwyn Roberts ddatganiad o ddiddordeb yn y cais a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r pleidleisio ond ni roes reswm am y datganiad.

 

      

 

     Cadeirydd y Pwyllgor hwn ofynnodd am drosglwyddo'r cais i'r Pwyllgor benderfynu arno.

 

      

 

     Dygodd y Pennaeth Rheoli Datblygu sylw'r aelodau at y polisïau perthnasol a ystyriwyd wrth bennu argymhellion y swyddog ac fel y manylwyd ar hynny yn adroddiad cynhwysfawr y swyddog.  Cais ôl-ddyddiol oedd hwn i godi tair annedd a derbyniwyd dau lythyr arall yn gwrthwynebu a chyflwynwyd y rheini yn y cyfarfod yn ychwanegol at y llythyrau yr adroddwyd arnynt yn yr adroddiad - ac un o'r rheini yn gofyn am ymweliad.  Mewn ymateb i gais i alw y cais hwn i mewn, roedd Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cyfeirio'r cais yn ôl i'r Cyngor benderfynu arno.

 

      

 

     Roedd y tai o gwmpas yn rhai amrywiol iawn a chredwyd bod y cynnig yn gweddu i'r rheini.  O safbwynt materion cynllunio roedd y cais yn dderbyniol.

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Glyn Jones cadarnhaodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod sylfeini'r datblygiad eisoes yn eu lle a dywedodd bod angen ystyried y cais yn ôl ei rinweddau cynllunio yn unig.

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Thomas Jones dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu nad oedd pob cais cynllunio ôl-ddyddiol yn dod i'r Pwyllgor i benderfynu arnynt.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Arwel Roberts cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad o ganiatáu.

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Lewis Roberts dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod y cais hwn yn debyg i'r datblygiad ar blot 57 - ond bod un plot 100mm ymhellach ymlaen na'r lleill.  Eiliodd y Cynghorydd Lewis Roberts y cynnig i ganiatáu.

 

      

 

     Yn unfrydol penderfynwyd caniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd ond gyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

7.6

33C225A - TROI UN ANNEDD YN DDWY ANNEDD YN RHYD YR ARIAN, PENTRE BETW

 

      

 

     Dygwyd y cais hwn i'r Pwyllgor yn ôl dymuniad yr aelod lleol a hynny oherwydd goblygiadau amgylcheddol y bwriad a'r posibilrwydd y bydd rhagor o ddatblygu eto ar y safle.

 

      

 

     Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod caniatâd wedi ei roddi i addasu adeilad yn annedd yn 2003 ac yn awr gofynnir am addasu yr adeilad hwnnw yn ddwy annedd.  Gwaith datblygu traddodiadol yw hwn ac mae'r cais yn cydymffurfio gyda Pholisi 55 (addasu) a'r cynnig gerbron yw i droi annedd 4 ystafell wely yn ddwy annedd gyda 5 ystafell wely.

 

      

 

     Yn ei anerchiad i'r cyfarfod dywedodd y Cynghorydd Noel Thomas, yr aelod lleol, bod yr annedd wreiddiol wedi ei gwerthu ar wahân a'r tir ym mherchnogaeth unigolyn arall a buasai'r cais hwn yn creu annedd arall eto.  Er nad oedd yn gwrthwynebu'r egwyddor o ddarparu un annedd arall roedd y teimlad a hefyd roedd yma botensial i ddatblygu rhagor ar y safle.  At y lle rhedai ffordd is-safonol ddiddosbarth a chul a gofynnodd y Cynghorydd Thomas a oedd modd ei gwella.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Fowlie cafwyd argymhelliad i dderbyn adroddiad y swyddog sef caniatáu a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Tecwyn Roberts.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd a hefyd gyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

7.7

  34LPA100J/CC - CAIS LLAWN I DDARPARU MAES PARCIO AR DIR GER SWYDDFEYDD Y CYNGOR, LLANGEFNI

 

      

 

     Dygwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan ei fod yn ymwneud â maes parcio'r Cyngor ger swyddfeydd y Cyngor a'r Llyfrgell Gyhoeddus.

 

      

 

     Yn gyntaf eglurodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod hwn yn gais llawn, nid cais amlinellol fel a nodwyd ar deitl yr adroddiad.  Nodwyd bod Asiantaeth yr Amgylchedd wedi mynegi pryderon ynghylch posibilrwydd llifogydd a dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu y câi asesiad llawn ei gynnal cyn dechrau gwneud unrhyw waith.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog ond gyda'r amod bod casgliad yr asesiad llifogydd yn foddhaol.

 

      

 

7.8

  34LPA845/CC - CAIS LLAWN I DDARPARU MAES PARCIO AR DIR GER Y BUILDER CENTRE, STAD DDIWYDIANNOL, LLANGEFNI

 

      

 

     Dygwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno oherwydd iddo gael ei gyflwyno gan y Cyngor ar dir oedd yn eiddo i'r Cyngor union ger y Builder Centre, Llangefni.

 

      

 

     Yn gyntaf eglurodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod hwn yn gais llawn, nid cais amlinellol fel a nodwyd ar deitl yr adroddiad.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

7.9

  36C237 - CAIS LLAWN I DDYMCHWEL ANNEDD A CHODI ANNEDD NEWYDD YM MRYN GWENITH, RHOSTREHWFA

 

      

 

     Gwnaeth y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cynllunio a'r Amgylchedd) ddatganiad o ddiddordeb yn y cais.

 

      

 

     Dygwyd y cais i'r Pwyllgor benderfynu arno gan fod y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cynllunio a'r Amgylchedd) wedi datgan diddordeb ynddo a hefyd wedi cyflwyno sylwadau.

 

      

 

     Ar ôl cyhoeddi'r adroddiad dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod yr ymgeisydd wedi gofyn am ohiriad er mwyn agor trafodaethau ar y cynlluniau a gyflwynwyd gyda'r cais.

 

      

 

     Am y reswm a rhoddwyd PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais hwn.

 

      

 

7.10

  36LPA196B/CC - SYMUD YSTAFELL DDOSBARTH SYMUDOL YN YSGOL GYNRADD LLANGRISTIOLUS

 

      

 

     Dygwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan ei fod yn cael ei gyflwyno ar ran y Cyngor ac ar dir oedd yn eiddo i'r Cyngor.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd ond gyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

7.11

  37C137 - CAIS LLAWN I GREU CILFAN PARCIO NEWYDD A LLWYBR TROED AR DIR GER HENEB CAER LEB, GER BRYNSIECYN

 

      

 

     Dygwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno oherwydd ei fod yn ymwneud â thir sy'n eiddo i'r Cyngor.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

7.12

  39C380 - DARPARU LLOEREN YN RHIF 11 FFLATIAU MAES Y COED, PORTHAETHWY

 

      

 

     Dygwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan bod y cais ar dir sy'n eiddo i'r Cyngor.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

7.13

  45C188C - GWAITH ALTRO ALLANOL A CHODI HEULFA YN Y FFRYNT A'R CEFN YN NHRE WEN, PEN LÔN, NIWBWRCH

 

      

 

     Cafwyd datganiad o ddiddordeb gan Miss Gwen Owen o'r Adran Gynllunio yn y cais hwn.

 

      

 

     Dygwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno oherwydd iddo gael ei gyflwyno gan rieni swyddog yn y Gwasanaeth Cynllunio.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

7.14

  46C382A  -   CYNLLUNIAU DIWYGIEDIG I DDARPARU GORSAF BWMPIO NEWYDD A DARPARU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU/CERDDWYR AR DIR Y TU CEFN I'R MAES PARCIO, TRAETH PEN RHOS, CAERGYBI

 

      

 

     Dygwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno am fod rhan o'r safle yn eiddo i'r Cyngor.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am y rhesymau a roddwyd a chyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

7.15

  46C402 - DYMCHWEL BYNGALO A CHODI BLOC TRI LLAWR O APARTMENTAU (SEF 7 APARTMENT, 4 - DWY YSTAFELL WELY, 3 - TAIR YSTAFELL WELY) YNGHYD Â GWNEUD GWAITH ALTRO AR Y FYNEDFA I GERBYDAU/CERDDWYR YM MHEN DORLAN, LON ISALLT, TREARDDUR

 

      

 

     Yr aelod lleol ofynnodd am drosglwyddo'r cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno oherwydd natur y datblygiad, y fynedfa i'r briffordd a materion edrych drosodd.

 

      

 

     Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod y polisïau perthnasol gafodd sylw wedi eu crybwyll yn adroddiad y swyddog.  Hefyd rhoddwyd sylw yn yr adroddiad i lythyrau gwrthwynebu a chawsant eu cyflwyno yn y cyfarfod.  Roedd yr Adran Briffyrdd yn argymell gwrthod y cais.  Roedd y cynnig yn annerbyniol oherwydd rhesymau yn adroddiad y swyddog a chafwyd argymhelliad i wrthod.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Peter Dunnig cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad o wrthod.

 

      

 

     Am y rhesymau a roddwyd PENDERFYNWYD gwrthod y cais hwn.

 

      

 

7.16

  49C243A - CAIS LLAWN I DDYMCHWEL ANNEDD, CODI 9 BYNGALO AC 8 ANNEDD, A GWNEUD GWAITH ALTRO AR Y FYNEDFA I GERBYDAU A CHERDDWYR YN VISTA DEL MAR, PENRODYN, Y FALI

 

      

 

     Yr aelod lleol ofynnodd am drosglwyddo'r cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno.

 

      

 

     Gan y Pennaeth Rheoli Datblygu cafwyd argymhelliad i ohirio ystyried y cais oherwydd derbyn gohebiaeth hwyr gan asiant yr ymgeisydd yn gofyn am ohirio.

 

      

 

     Am y rheswm a roddwyd PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais hwn.

 

      

 

8     MATERION A GYFEIRIWYD YN ÔL

 

      

 

8.1

  46C87S - CODI 17 O ANHEDDAU AR DIR YN Y RISE, TREARDDUR

 

      

 

     Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod y cais uchod wedi ei ganiatáu gan y Pwyllgor hwn yn ei gyfarfod ar 6 Rhagfyr, 2000 gyda'r amod bod materion draenio yn cael eu setlo a hefyd yn amodol ar Gytundeb dan Adran 106 i sicrhau bod y ffyrdd a'r carthffosydd yn cyrraedd safon mabwysiadu.  Dywedodd y swyddog bod y materion draenio bellach wedi eu datrys yn foddhaol.

 

      

 

     PENDERFYNWYD nodi'r uchod a chadarnhau penderfyniad blaenorol y Pwyllgor i ganiatáu'r cais ond gyda Chytundeb dan Adran 106 yng nghyswllt ffyrdd a charthffosydd.

 

      

 

9     CEISIADAU A DDIRPRWYWYD

 

      

 

     Cyflwynwyd a derbyniwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cynllunio a Gwasanaethau Amgylcheddol) ar y materion dirprwyol y penderfynwyd arnynt ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor hwn.

 

      

 

10     APELIADAU

 

      

 

     Cyflwynwyd a nodwyd adroddiadau'r Arolygwr a benodwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yng nghyswllt yr apeliadau a ganlyn :

 

      

 

10.1

  Y FELIN, LLANGOED

 

      

 

10.1.1

  Apêl dan Adran 78 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 yn erbyn penderfyniad yr Awdurdod hwn yn gwrthod caniatâd cynllunio i ymestyn a newid defnydd yr hen felin a'i throi yn llety gwyliau dan gais rhif 35C207D.  Caniatawyd y cais.

 

      

 

10.1.2

  Adroddiadau ar Benderfyniadau Costau a gafwyd o blaid yr Awdurdod hwn dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, Adrannau 78, 320 a Rhestr 6, a than Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, Adran 250(5).2........

 

 

 

10.2

  68 & 68A  FFORDD TREARDDUR, TREARDDUR

 

     ADRAN 78 DEDDF CYNLLUNIO GWLAD A THREF 1990

 

      

 

10.2.1

  Apêl yn erbyn methiant yr Awdurdod i roi rhybudd, y tu mewn i'r cyfnod cydnabyddedig, ar gais am ganiatâd cynllunio amlinellol i godi un bloc ac ynddo hyd at 17 o apartmentau (3 llawr), un ty 3 llawr 4 ystafell wely a lle parcio.  Gwrthodwyd yr apêl.

 

      

 

10.2.2

  Apêl yn erbyn penderfyniad yr Awdurdod hwn yn gwrthod caniatâd cynllunio amlinellol i godi bloc sengl 3 llawr yn cynnwys hyd at 21 o apartmentau gyda chyfleusterau parcio.  Gwrthodwyd yr apêl.

 

      

 

11........HYFFORDDIANT AR FATERION CYNLLUNIO

 

      

 

     Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod hyfforddiant Modiwl 2 ar faterion cynllunio wedi ei drefnu ar gyfer dydd Mawrth, 19 Hydref 2004 a chan Ymgynghorwyr.

 

      

 

     CYTUNWYD i nodi'r uchod.

 

      

 

 

 

     Daeth y cyfarfod i ben am 7.40 p.m.

 

      

 

 

 

     Y CYNGHORYDD R. L. OWEN

 

     CADEIRYDD