Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion dogfennau , 6 Rhagfyr 2006

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Dydd Mercher, 6ed Rhagfyr, 2006

PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION

 

Cofnodion y cyfarfod gynhaliwyd ar 6 Rhagfyr, 2006

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd J Arwel Roberts - Cadeirydd

Y Cynghorydd Denis Hadley - Is-Gadeirydd

 

Y Cynghorwyr John Byast, John Chorlton, Eurfryn Davies,

Arwel Edwards, PM Fowlie, Aled Morris Jones, J Arthur Jones,

O Glyn Jones, RL Owen, John Roberts

 

 

 

WRTH LAW:

 

Cynllunio:

Rheolwr Rheoli Cynllunio (DFJ)

 

Priffyrdd:

Uwch Beiriannydd (Rheoli Datblygu a Hawliau Tramwy) (JRWO)

Swyddog Rheoli Datblygu (Priffyrdd)(RE)  

 

Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol (RWJ)

Cynorthwywr Gweinyddol (CWP)

 

YMDDIHEURIADAU:

 

 

John Rowlands, WJ Williams MBE

HEFYD YN BRESENNOL:

 

Aelodau Lleol: Y Cynghorwyr RLl Hughes - eitem 9.6,

Gwilym O Jones - eitem 9.2, Thomas Jones - eitem 9.7,

RG Parry OBE - eitemau 9.3, 10.9, D Lewis-Roberts - eitemau

6.3, 9.4, 10.7, Keith Thomas - eitem 6.1

 

Hefin Thomas (Deilydd Portffolio Cynllunio) ac aelod lleol ar gyfer eitem 9.8

 

 

 

 

1

YMDDIHEURIADAU

 

Nodwyd yr ymddiheuriadau am absenoldeb fel a geir uchod.

 

2

DATGANIADAU O DDIDDORDEB

   

Derbyniwyd datganiadau o ddiddordeb fel y cawsant eu cofnodi dan yr eitemau perthnasol.

 

3

COFNODION

 

Cadarnhawyd a llofnodwyd cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gafwyd ar 8 Tachwedd, 2006, yn amodol ar y canlynol: ( tud )  

 

Eitem 10.2 28C373 tir gyferbyn â Ffordd y Stesion, Rhosneigr - Dywedodd y Cynghorydd John Roberts ei fod yn dymuno nodi ei fod wedi atal ei bleidlais ar yr eitem hon.

 

 

 

Eitem 10.3  28C884A  tir gyferbyn â Teras Glan Gors, Bryn Du - Ar ôl deall gan y swyddog fod rhan o’r safle y tu mewn i’r ffin ddatblygu tynnodd y Cynghorydd J Arthur Jones ei gynnig i dderbyn argymhelliad y swyddog i wrthod y cais yn ôl, pleidleisiodd wedyn i gefnogi’r cais.

 

 

 

4

YMWELIADAU Â SAFLEOEDD

 

 

 

Fe nodwyd nad oedd safleoedd cynllunio i ymweld â nhw yn ystod mis Tachwedd.

 

 

 

 

 

5

CEISIADAU A OHIRIWYD

 

 

 

5.1

CAIS ECONOMAIDD

 

 

 

11C122E/EIA/ECON  ADEILADU A RHEDEG FFATRI NWY HYLIF NATURIOL YN SAFLE GREAT LAKES, AMLWCH 

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor gan y teimlai swyddogion fod angen i aelodau fod yn gyfarwydd â’r bwriad cyn ystyried y cais, yr argymhelliad oedd i ymweld â’r safle.

 

 

 

PENDERFYNWYD ymweld â’r safle am y rheswm â roddwyd.

 

 

 

5.2

CAIS YN TYNNU’N GROES

 

 

 

12C66G  DYMCHWEL YR ADEILAD PRESENNOL YNGHYD Â CHODI PUMP ANNEDD, CAFFI, PAFILIWN AC AILWAMPIO SAFLE’R HEN BWLL NOFIO, BIWMARES

 

 

 

Penderfynwyd ymweld â’r safle yn y cyfarfod ar 5 Gorffennaf, ac fe wnaed hynny ar 12 Gorffennaf, 2006. Gofynnodd y swyddog am ohiriad pellach er mwyn cwblhau trafodaethau ar y cynlluniau diwygiedig.

 

 

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais am y rheswm a roddwyd.

 

 

 

5.3

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

30C385B  DYMCHWEL Y GWESTY PRESENNOL, CODI ADEILAD 3 LLAWR YN CYNNWYS 21 O FFLATIAU PRYNU I OSOD, PWLL NOFIO DAN DO YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU, ADDASU’R FYNEDFA I GERBYDAU A’R GARTHFFOSIAETH YN LLIFO I’R GARTHFOS GYHOEDDUS YNG NGWESTY BRYN TIRION, TRAETH COCH  

 

 

 

Penderfynwyd ymweld â’r safle yn y cyfarfod ar 5 Gorffennaf, ac fe wnaed hynny ar 12 Gorffennaf, 2006. Gofynnodd y swyddog am ohiriad pellach er mwyn cwblhau trafodaethau.

 

 

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais am y rheswm a roddwyd.

 

 

 

5.4

CAIS YN TYNNU’N GROES

 

 

 

30C621  CAIS LLAWN AR GYFER DATBLYGIAD TRIGIANNOL YN CYNNWYS 31 O ANHEDDAU YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GEIR AC I GERDDWYR AR DIR YN LÔN PANT Y CUDYN, BENLLECH

 

 

 

Penderfynwyd ymweld â’r safle yn y cyfarfod ar 4 Hydref, ac fe wnaed hynny ar 18 Hydref, 2006. Gofynnodd y swyddog am ohiriad pellach er mwyn cwblhau trafodaethau ar y pwysau i’w rhoddi i’r CDU a stopiwyd, graddfa datblygiad preswyl ac effaith ieithyddol y fath ddatblygiad.

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais am y rheswm a roddwyd.

 

 

 

5.5

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

39C254B  CAIS AMLINELLOL I GODI PEDAIR ANNEDD YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GEIR YN HAFOD WERN, PORTHAETHWY

 

 

 

Penderfynwyd ymweld â’r safle yn y cyfarfod ar 6 Medi, ac fe wnaed hynny ar 20 Medi, 2006. Gofynnodd y swyddog am ohiriad pellach er mwyn cwblhau trafodaethau.

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais am y rheswm a roddwyd.  

 

 

 

 

 

 

 

5.6

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

49LPA868/CC  CAIS AR GYFER GOSOD GORSAF TRIN CARTHION NEWYDD YN LLE’R UN BRESENNOL YNGHYD Â GOSOD ARLLWYSFA NEWYDD I WASANAETHU SAITH ANNEDD AR DIR TU CEFN I 1 TAI CYNGOR & BRYN REFAIL, LLANYNGHENEDL

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno gan ei fod yn cael ei gyflwyno ar ran y Cyngor.  Penderfynwyd caniatáu’r cais hwn ar 6 Medi yn amodol ar gwblhau ymgynghori yn foddhaol.  Cyfeiriwyd y cais yn ôl i’r Pwyllgor yn wyneb materion a godwyd yn ystod yr ymgynghori a gofynnodd y syddog am ohiriad pellach er mwyn cwblhau’r broses ymgynghori.

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais am y rheswm a roddwyd.

 

 

 

6

CEISIADAU’N CODI

 

 

 

6.1      GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

19C954  DYMCHWEL YR ANNEDD BRESENNOL YNGHYD Â CHODI 6 ANNEDD NEWYDD, ADDASU’R FYNEDFA BRESENNOL I GEIR A CHREU MANNAU PARCIO YCHWANEGOL AR DIR GLASFRYN, FFORDD CYTTIR, CAERGYBI

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Penderfynwyd ymweld â’r safle ar 4 Hydref, ac fe wnaed hynny ar 18 Hydref, 2006. 2006. Yng nghyfarfod mis Tachwedd dymunai’r aelodau wrthod y cais, yn groes i argymhelliad y swyddog oherwydd pryderon priffyrdd a diogelwch cerddwyr.  Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau a roddwyd dros wrthod y cais.

 

 

 

Cafwyd diweddariad ar y sefyllfa gan y Rheolwr Rheoli Dablygu a ddywedodd fod cynllun diwygiedig wedi ei gyflwyno gan yr ymgeisydd a oedd yn delio a’r pryderon priffyrdd.  Mynegodd yr asiant eu bwriad i apelio yn erbyn penderfyniad i wrthod.

 

 

 

I bwrpas cadw cofnod dywedodd y Cynghoryd Keith Thomas fod ar y safle ar hyn o bryd 3 byngalo a 2 dy - nid 5 bynglo a 3 ty, ac ychwanegodd fod gan Seabank gerllaw ganiatâd cynllunio amlinellol i godi annedd.  Wedyn cadarnhaodd y Cynghorydd Thomas mai’r rhesymau blaenorol dros wrthod y cais oedd gorddatblygu a chynnydd o rhyw 6 - 10 symudiad traffig y diwrnod.  Gofynnodd a oedd modd darparu palmant fel rhan o’r cynllun.

 

 

 

Mewn ymateb dywedodd yr Uwch Beiriannydd Priffyrdd y câi palmant ei ddarparu ar hyd ffrynt y safle a heibio Seabank, ond bod y palmant yn dod i ben rhyw 10m cyn y gyffordd gyda Ffordd Cyttir.  Hefyd câi’r fynedfa uchod (ger Seabank a Glasfryn) ei lledu i ryw 5.5m gyda 0.5m yn cael ei neilltuo ar gyfer llwybr cerdded.

 

 

 

Ni fedrai’r Cynghorydd John Chorlton gytuno fod yma orddatblygu, ond roedd yn derbyn fod y traffig ar y stad yn mynd ar ffordd brysur Cyttir.  Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Chorlton dywedodd y swyddog priffyrdd fod y gwelliannau arfaethedig i’r ffordd ac i’r gyffordd yn cyrraedd safon foddhaol.

 

 

 

Oherwydd pryderon am ddiogelwch cerddwyr cafwyd cynnig gan y Cynghorydd Glyn Jones i lynu wrth y penderfyniad blaenorol a gwrthod y cais.  Credai’r Cynghorydd Eurfryn Davies fod yma enghraifft o orddatblygu, ac eiliodd y cynnig i wrthod y cais.  Nid oedd y Cynghorydd Arwel Roberts yn pryderu am ddwysedd y datblygiad, ond cytunodd fod anawsterau gyda’r gyffordd yn Ffordd Cyttir, ond hefyd roedd yn derbyn mai mater o farn oedd hyn.

 

 

 

Gwelai’r Cynghorydd J Arthur Jones fod yna niferoedd o fynedfeydd eraill i lôn brysur Ffordd Cyttir a theimlai fod y bwriad yn gyfle i bobl ifanc leol gael ar y farchnad dai.

 

 

 

Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

 

 

Glynu wrth y penderfyniad blaenorol i wrthod y cais, yn groes i argymhelliad y swyddog: Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, Arwel Edwards, PM Fowlie, Denis Hadley, Aled Morris Jones, O Glyn Jones, RL Owen, J Arwel Roberts

 

 

 

Ni chafwyd pleidlais i’r gwrthwyneb

 

 

 

Cadarnhaodd y Cynghorydd Eurfryn Davies mai un rheswm dros wrthod oedd gorddatblygu a’r Cynghorydd Glyn Jones mai diogelwch defnyddwyr y ffordd oedd reswm arall.

 

 

 

PENDERFYNWYD glynu wrth y penderfyniad blaenorol i wrthod y cais am y rhesymau roddwyd, yn groes i argymhelliad y swyddog.

 

 

 

6.2

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

28C373  DATBLYGIAD TRIGIANNOL YN CYNNWYS 4 TY 4 LLOFFT A 4 FFLAT 2 LOFFT YNGHYD A CHREU MYNEDFA NEWYDD I GEIR AR DIR GYFERBYN A FFORDD Y STESION, RHOSNEIGR

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Dymuniad yr aelodau yn y cyfarfod a gafwyd ym mis Tachwedd oedd gwrthod y cais a hynny’n groes i argymhelliad y swyddog oherwydd gorddatblygu a cholli mwynderau tai cyfagos.  Gofynnwyd hefyd am fanylion ar ddwysedd y datblygiad mewn perthynas a maint y safle.  Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau a roddwyd dros wrthod y cais.  

 

 

 

Cafwyd cadarnhad o’r rhesymau dros wrthod gan y Cynghorydd Phil Fowlie a gofynnodd i’r penderfyniad gael ei gadarnhau.

 

 

 

Ymatebodd y Rheolwr Rheoli Datblygu mewn manylder i’r rhesymau a roddwyd dros wrthod y cais fel a nodwyd yn adroddiad y swyddog.  Ategodd y swyddog y byddai’r ymgeiswyr yn apelio yn erbyn penderfyniad o wrthod y cais ac na allai swyddogion amddiffyn y fath benderfyniad petai apêl yn cymryd llle.  

 

 

 

Nododd y Cynghorydd J Arthur Jones fod nifer o ymwelwyr wedi gwrthwynebu’r cais yn hytrach na phobl leol.  Teimlai y byddai’r bwriad yn creu cartrefi i bobl leol.

 

 

 

Eiliodd y Cynghorydd Glyn Jones ddymuniad y Cynghorydd Fowlie i lynu wrth y penderfyniad i wrthod y cais.

 

 

 

Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

 

 

Glynu wrth y penderfyniad blaenorol a gwrthod y cais, yn groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr John Chorlton, Eurfryn Davies, PM Fowlie, Aled Morris Jones,     O Glyn Jones, RL Owen

 

 

 

Derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais:  Y Cynghorwyr John Byast, Denis Hadley, J Arthur Jones, J Arwel Roberts

 

 

 

PENDERFYNWYD glynu wrth y penderfyniad blaenorol a gwrthod y cais am y rhesymau a roddwyd, yn groes i argymhelliad y swyddog.

 

 

 

6.3

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

30C618  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD YNGHYD AG ADDASU’R FYNEDFA BRESENNOL YN TRAETH ARIAN, BENLLECH

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor bendernynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Gohiriwyd ystyried y cais yn flaenorol er mwyn cwblhau trafodaethau.  

 

 

 

Gan y Cynghorydd D Lewis-Roberts cafwyd argymhelliad i dderbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais.

 

 

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Glyn Jones’ dywedodd y swyddog nad oedd hanes cynllunio i’r safle. Cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais gan y Cynghorydd J Arthur Jones.

 

 

 

     Yn unfrydol PENDERFYNWYD gwrthod y cais am y rhesymau a roddwyd.

 

 

 

 

 

6.4     GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     33C125D  CAIS AMLINELLOL I GODI PUMP ANNEDD YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GEIR AR DIR CYNLAS, GAERWEN

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn yn wreiddiol i Bwyllgor 11 Mai, 2005  pryd penderfynwyd ymweld â’r safle ac fe wnaed hynny ar 18 Mai, 2005.  Ar 1 Mehefin a 6 Gorffennaf, 2005 gohiriwyd ystyried y cais er mwyn cwblhau trafodaethau gyda Asiantaeth yr Amgylchedd ar faterion llifogydd.  Ar 27 Gorffennaf, 2005 caniatawyd y cais yn amodol ar ddatrys risg llifogydd a darpariaeth system ddraenio addas i’r safle.  Ar 11 Hydref, 2006 cyflwynwyd cynllun draenio diwygiedig ac, ar gais yr aelod lleol, cyfeiriwyd y cais yn ôl i’r Pwyllgor i’w ystyried.  

 

      

 

     Cyfeiriodd y Rheolwr Rheoli Datblygu at adroddiad manwl y swyddog a nodi fod y cynnig gerbron yn darparu storfa ar y safle i reoli llif i’r nant a sicrhau na fydd rhagor na 3 litr o ddwr yr eiliad am bob hectar yn llifo trwyddi.  Cyflawnid hyn trwy godi lefelau’r safle a darparu draen yng nghefn y safle fel y manylwyd ar hynny yn yr adroddiad.  Gydag amodau credai Asiantaeth yr Amgylchedd fod y cynnig diwygiedig yn foddhaol a chredai Adain Ddraenio’r Cyngor y buasai hefyd, yn gyffredinol, yn lleddfu pryderon oedd gan yr Adain gynt.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd Eurfryn Davies yn cofio nad ar y safle ei hun yr oedd y pryderon am lifogydd ond draw i gyfeiriad y Gors ac y buasai rhoddi caniatâd yma yn ychwanegu at y broblem.  Gofyn a wnaeth y Cynghorydd RL Owen am uchder lefelau’r lloriau gorffenedig gan nodi fod y tir o gwmpas y safle eisoes yn dir gwlyb.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd PM Fowlie cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais, cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd J Arthur Jones.

 

      

 

     PENDERFYNWYD glynu wrth y penderfyniad blaenorol i ganiatáu’r cais am y rhesymau a roddwyd ac yn unol ag amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad y swyddog.  

 

      

 

     Atal ei bleidlais a wnaeth y Cynghorydd Eurfryn Davies.

 

 

 

7

CEISIADAU ECONOMAIDD:

 

      

 

     Doedd dim ceisiadau economaidd i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

 

 

8

CEISIADAU AM DAI FFORDDIADWY:

 

      

 

8.1     19C971  CAIS LLAWN I GODI DAU FLOC O DAI DEULAWR YN CYNNWYS DEG FFLAT AR DIR TU ÔL I FFLATIAU GWYNFRYN, STAD TRESEIFION, CAERGYBI

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno gan ei fod yn effeithio ar dir ym mherchnogaeth y Cyngor.

 

      

 

      

 

     Mynegodd y Cynghorydd Denis Hadley ei gefnogaeth gan groesawu’r bwriad.  Gan y Cynghorydd Glyn Jones cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais, cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd J Arthur Jones.

 

      

 

     Yn unfrydol PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais am y rhesymau a roddwyd, yn unol â’r amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

9

CEISIADAU YN TYNNU’N GROES

 

      

 

9.1     11C495  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU AC I GERDDWYR Â GOSOD GWAITH TRIN CARTHFFOSIAETH BREIFAT AR DIR GER CARTREF, PENTREFELIN, AMLWCH

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd John Roberts cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais, cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd J Arthur Jones.

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

      

 

     Derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais:  Y Cynghorwyr John Byast, John Chorlton, Eurfryn Davies, Arwel Edwards, PM Fowlie, Denis Hadley, J Arthur Jones, O Glyn Jones, John Roberts, J Arwel Roberts

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais am y rhesymau a roddwyd.

 

      

 

9.2     13C65D  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD YNGHYD Â GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD A CHREU LLE PASIO NEWYDD AR DIR GER CERRIG CREGIN, BODEDERN

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Gwilym Jones fod yr ymgeiswyr yn byw ar hyn o bryd ym Mryngwran ac yn dymuno adeiladu cartref iddynt eu hunain ar y safle hwn i gynnig cefnogaeth i rieni un o’r ymgeiswyr oherwydd amgylchiadau meddygol.  Yng nghyswllt yr hanes o wrthod dan bwynt 3 yn adroddiad y swyddog, dywedodd y Cynghorydd Jones fod yma hefyd hanes o ganiatáu gerllaw.  Roedd Cyngor Cymuned Bodedern a’r aelod lleol i Fryngwran yn gefnogol i’r cais a chafwyd argymhelliad gan y Cynghorydd Jones i ganiatáu am y rhesymau a ganlyn:

 

      

 

Ÿ

amgylchiadau teuluol - cyflwr meddygol dwys

 

Ÿ

gwella’r ffordd - cynnig man pasio

 

Ÿ

byddai’n dy fforddiadwy

 

      

 

     Ni fedrai’r Cynghorydd Jones gytuno gyda haeriad y swyddog nad oedd y cais yn bodloni meini prawf ar gyfer amgylchiadau eithriadol.  Nid oedd yna siop na swyddfa bost ym Mryngwran, ac wrth ganiatáu i’r ymgeiswyr fyw yn y llecyn hwn buasai’n gostwng lefel y traffig ar hyd y ffordd.

 

      

 

     Mewn ymateb dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod yr aelodau wedi ymweld a safle arall yr ochr draw i’r ffordd a gwrthodwyd y cais hwnnw y llynedd.  Yn ôl defnydd tir yr oedd yn rhaid penderfynu ar geisiadau cynllunio, ac roedd y cais gerbron yn amlwg yn groes i bolisïau a dan y rheini nid oes modd caniatáu tai fforddiadwy yn y cefn gwlad agored - buasai’n creu tai marchnad agored.

 

      

 

     Ond credai’r Uwch Beiriannydd Priffyrdd fod angen mwy nag un llecyn pasio i bwrpas cyrraedd safonau derbyniol ar y ffordd droellog a chul hon lle roedd y gallu i weld ymlaen yn gyfyngedig iawn mewn mannau.  

 

     Ond yr hyn a wnaeth y Cynghorydd J Arthur Jones oedd atgoffa’r aelodau o bwysicrwydd sicrhau cysondeb wrth benderfynu ar geisiadau a chydnabod fod y safle yn y cefn gwlad agored.  Felly cynigiodd dderbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd John Chorlton.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais am y rhesymau a roddwyd.

 

      

 

     Atal ei bleidlais a wnaeth y Cynghorydd Aled Morris Jones.

 

      

 

9.3     16C170  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD FFORDDIADWY YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD A GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD AR DIR YN TRI ENGEDI, ENGEDI

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Gyda chaniatâd y Pwyllgor Safonau dywedodd y Cynghorydd J Arthur Jones y byddai ef yn cymeryd rhan yn y trafodaethau ar y cais hwn a gyflwynwyd gan Best Value UK fel asiantwyr.

 

      

 

     Cyfeiriodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio at y niferoedd o lythyrau yn cynnig sylwadau oedd gerbron y cyfarfod.  Ni chyflwynodd yr ymgeisydd wybodaeth oedd yn ddigonol i gefnogi’r cais y byddai hwn yn dy fforddiadwy.

 

      

 

     I bwrpas cadw cofnod cywir dywedodd y Cynghorydd RG Parry fod yr ymgeisydd gynt wedi bod ar staff yr awdurdod lleol, ond nad oedd hynny’n wir bellach.  Cafwyd gan yr ymgeisydd wybodaeth am ei hincwm a hefyd am faint o forgais y gallai ei dderbyn.  Merch leol oedd yr ymgeisydd a’i dymuniad oedd ymgartrefu yn y gymuned y magwyd hi ynddi ac roedd yn byw 400 llath o’r safle gyda’i rhieni, a rheini yn fodlon gwneud cytundeb i beidio a datblygu dim mwy ar weddill y tir.  Roedd yna bosibilrwydd y bydd yr ysgol gynradd yn gorfod cau ac roedd y safle rhwng tai eraill a hefyd y tu mewn i gyfyngiad gyrru 40 mya.

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd John Roberts am dai fforddiadwy dywedodd y swyddog fod y cais gerbron yn groes i bolisïau lleol a chenedlaethol a than y rheiny nid yw’n bosib codi tai fforddiadwy yn y cefn gwlad.  Hefyd roedd yn atgoffa’r aelodau bwysicrwydd cysondeb yn y penderfyniadau ac ychwanegodd bod cais arall wedi ei wrthod yr ochr draw i’r ffordd.

 

      

 

     Ni chredai’r Cynghorydd Glyn Jones fod y safle yn y cefn gwlad gan ei fod yng nghanol clwstwr o dai ar ochr priffordd yr A4080, a’r ymgeisydd yn ddynes leol ac atgoffodd yr aelodau o ymrwymiad yr Awdurdod i “Wella Bywyd Ynys Mon”.

 

      

 

     Ar ôl cwestiwn gan y Cynghorydd Arthur Jones dywedodd y Cynghorydd RG Parry fod yr ymgeisydd wedi cyflwyno gwybodaeth o blaid y cais i ddarparu ty fforddiadwy.  Fodd bynnag ychwanegodd y Rheolwr Rheoli Datblygu nad oedd y wybodaeth honno gan yr ymgeisydd yn cadarnhau mai ty fforddiadwy oedd gerbron.  Teimlo roedd y CynghoryddJ Arthur Jones mai clwstwr o dai sydd yn Engedi, ond nid oedd cydnabyddiaeth i hynny yn y polisi.

 

      

 

     Petai modd symud y safle yn nes at y tai eraill yn hytrach nag ynghanol cae, teimlai’r Cynghorydd John Chorlton y gallai fod yn gefnogol.  Petai rhaid roedd y Cynghorydd RG Parry yn credu cytunai’r ymgeisydd i symud y plot ac aeth ymlaen i erfyn ar yr aelodau am eu cefnogaeth. Yn yr un modd roedd y Cynghorydd RL Owen hefyd yn teimlo y gallai gefnogi’r cais petai’r plot yn cael ei symud.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Glyn Jones cafwyd cynnig i ganiatáu’r cais ar yr amod fod y safle yn cael ei symud yn agosach at y tai cyfagos, cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Fowlie.

 

      

 

     Ond er gwaethaf symud y plot ni fedrai’r Rheolwr Rheoli Datblygu newid yr argymhelliad dan y polisïau - roedd y cae yn y cefn gwlad ac ychwanegodd y buasai’n rhaid ailgyflwyno’r cais petai’r ymgeisydd am symud lleoliad y plot.

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

      

 

     Caniatáu’r cais, yn groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr Eurfryn Davies,

 

     PM Fowlie, Aled Morris Jones, O Glyn Jones, RL Owen,

 

      

 

     Derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais:  Y Cynghorwyr John Byast, John Chorlton, Arwel Edwards, Denis Hadley, J Arthur Jones, John Roberts, J Arwel Roberts

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais am y rhesymau a roddwyd.

 

      

 

9.4     30C246A  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD AR DIR GER TYN PWLL, TYNYGONGL

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd D Lewis-Roberts ei fod yn ei gweld hi’n anodd creu digon o welededd o’r fynedfa i’r safle, roedd y fynedfa yn gul a pheryglus ac nid oedd unrhyw ffordd o’i hymestyn.

 

      

 

     Gwelai’r Cynghorydd J Arthur Jones fod yna annedd y drws nesaf i’r safle a hon a theimlai fod y cais yn un rhesymol, cynigiodd ganiatáu’r cais, cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Glyn Jones a oedd yn gweld y cais yn cydymffurfio â Pholisi 50.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd John Roberts cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais.

 

      

 

     Cytuno a wnaeth yr Uwch Beiriannydd Priffyrdd fod y fynedfa’n is-safonol, fodd bynnag ni chredai y byddai’r bwriad yn creu cynnydd mewn symudiad traffig gan fod y safle yn cael ei defnyddio i gadw ceir ar hyn o bryd.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Eurfryn Davies cafwyd cynnig i ymweld â’r safle er mwyn asesu’r sefyllfa mewn perthynas a’r briffordd, cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd RL Owen.  Gan y Cynghorydd J Arthur Jones cafwyd cynnig i ganiatáu, wedyn cytunodd i ymweld â’r safle yn y lle cyntaf.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â’r safle i asesu’r sefyllfa mewn perthynas â’r briffordd.

 

 

 

9.5     34C546  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD A GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD AR DIR GER PENTERFYN, RHOSMEIRCH

 

      

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor bendernynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd J Arthur Jones cafwyd cynnig i ymweld â’r safle oherwydd polisïau, cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Fowlie, eiliwyd hyn gan y Cynghorydd John Chorlton hefyd.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio nad oedd y cais hwn yn annhebyg i’r cais hwnnw yn Engedi dan eitem 9.3 y cofnodion hyn; roedd Rhos-meirch yn cael ei gydnabod fel ‘clwstwr a threflan wledig’, ond bod y safle dan sylw rhyw 190m tu allan i’r ffram enghreifftiol a hefyd yn y cefn gwlad.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â’r safle ar gais yr aelod lleol.

 

      

 

9.6     36C137D  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD YNGHYD Â GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD AR DIR BWLCH COCH, LLANGRISTIOLUS

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod y cyngor cymuned lleol yn gefnogol i’r cais ac nid oedd Asiantaeth yr Amgylchedd yn gwrthwynebu a’r Adain Briffyrdd yn awgrymu caniatâd gydag amodau; cafwyd un llythyr o wrthwynebiad.

 

      

 

     Dynes fusnes a anwyd yn yr ardal oedd yr ymgeisydd yn ôl y Cynghorydd RLl Hughes ac ymatebodd i’r mater a godwyd dan bwynt 7 (prif faterion cynllunio) yn adroddiad y swyddog - a hynny’n cynnwys cynaliadwyaeth, ysgolion gwledig ac agosrwydd at y cyfleusterau.  Dymuniad y Cynghorydd Hughes oedd ystyried y cais dan Bolisi 50 y Cynllun Lleol.  Yn ddiweddar rhoddwyd caniatâd cynllunio i annedd arall ymhellach draw o ffiniau datblygu’r pentref.  

 

      

 

     Rhyw 100m y tu allan i ffiniau datblygu’r pentref oedd y safle, meddai’r Rheolwr Rheoli Datblygu ac o’r herwydd nid oedd modd ei ystyried dan Bolisi 50, ac nid oedd y cais yn cydymffurfio gyda’r polisïau eraill chwaith.

 

      

 

     Teimlai’r Cynghorydd J Arthur Jones y gallai fod mewn sefyllfa i gefnogi’r cais petai’n gais am dy fforddiadwy.

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

      

 

     Derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais:  Y Cynghorwyr John Chorlton, Eurfryn Davies, Arwel Edwards, Denis Hadley, J Arthur Jones, RL Owen, John Roberts, J Arwel Roberts

 

      

 

     Doed dim pleidlais i’r gwrthwyneb

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais am y rhesymau a roddwyd.

 

      

 

9.7     38C228A  CAIS AMLINELLOL I GODI TY FFORDDIADWY YNGHYD Â GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD AR DIR GER FRON DERWYDD, LLANFECHELL

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Thomas Jones fod yr ymgeisydd yn ddyn lleol wedi ei addysgu’n lleol a hefyd yn gweithio’n lleol.  Ar hyn o bryd roedd yn byw mewn siale bren ac o’r herwydd ni cheid unrhyw gynnydd yn y traffig ac hefyd câi’r fynedfa bresennol ei defnyddio.  Ychwanegod fod y safle yng nghanol clwstwr o rhyw 10 o anheddau a fod y cynnig gerbron yn cydymffurfio gyda natur y datblygiadau yn yr ardal.  

 

      

 

     Fodd bynnag dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod y cais yn groes i bolisïau a bod rhaid gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar egwyddor defnydd tir; nid oedd y cais gerbron yn wahanol yn ei hanfod i rai a wrthodwyd yn y gorffennol. Nid oedd y safle yn addas ac nid oedd yma unrhyw dystiolaeth i gyfiawnhau rhoddi caniatâd ac o’r herwydd gofynnodd y swyddog i’r aelodau fod yn gyson a gwrthod y cais.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Chorlton cafwyd cynnig i wrthod y cais a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd J Arthur Jones.

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

      

 

      

 

      

 

     Derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais:  Y Cynghorwyr John Chorlton, Eurfryn Davies, Arwel Edwards, Denis Hadley, J Arthur Jones, John Roberts, J Arwel Roberts

 

      

 

     Doedd dim pleidlais i’r gwrthwyneb

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais am y rhesymau a roddwyd.

 

      

 

9.8     42C61C  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD AR DIR TY’R RARDD, PENTRAETH

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Heb amheuaeth roedd y safle y tu allan i’r ffin datblygu ac roedd y Cynghorydd Hefin Thomas yn derbyn hynny, ond ychwanegodd ei fod yng nghanol clwstwr o rhyw 12 o anheddau a charafan fawr a hyll.  Pobl leol oedd yr ymgeiswyr ac wedi byw yn y garafan ers blynyddoedd a hefyd roeddynt yn gweithio’n lleol.  Credai’r Cynghorydd Thomas y buasai codi cartref parhaol yn lle’r garafan yn gwella gwedd yr ardal.  

 

      

 

     Nid oedd y Cyngor Cymuned yn gefnogol i’r cynnig gerbron meddai’r Rheolwr Rheoli Datblygu a nododd hefyd fod y safle rhyw 800m tu allan i’r ffiniau datblygu a fod cais arall gerllaw wedi ei wrthod ym mis Gorffennaf eleni.  Ychwanegodd fod angen gwneud rhagor o ymholiadau i statws y garafan - roedd darpariaethau yn bod a ganiatâi i’r ymgeisydd ofyn am dystysgrif defnydd cyfreithlon.  

 

      

 

     Mewn ymateb dywedodd y Cynghorydd Hefin Thomas fod yr ymgeiswyr wedi bod yn talu trethi ar y garafan a bod ymgeisio am dystysgrif o’r fath yn broses faith, ac o’r herwydd gofynodd am ymweliad â’r safle a rhoi’r cyfle i aelodau weld y safle ac asesu’r sefyllfa.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Eurfryn Davies cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais, cynnig gwrthod hefyd a wnaeth y Cynghorydd J Arthur Jones a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Chorlton.

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

      

 

     Derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais:  Y Cynghorwyr John Chorlton, Eurfryn Davies, Arwel Edwards, PM Fowlie, Denis Hadley, J Arthur Jones, RL Owen, John Roberts, J Arwel Roberts

 

      

 

     Ymatal:  Y Cynghorydd O Glyn Jones

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais am y rhesymau a roddwyd.

 

      

 

      

 

10

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

10.1     12LPA872/TPO/CC  CAIS I WNEUD GWAITH CORONI UN COEDEN A DYMCHWEL UN GOEDEN SYDD WEDI EI DIOGELU DAN ORCHYMYN DIOGELU COED YN 1 TROS YR AFON, BIWMARES

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno gan ei fod wedi ei gyflwyno gan yr awdurdod lleol.

 

      

 

     Dymunai’r Cynghorydd RL Owen nodi fod y gwaith hwn wedi ei wneud. Argymell gwrthod a wnaeth y Cyngor Tref ar sail effaith niweidiol ar yr AHNE ac ardal o gadwraeth.

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

      

 

      

 

      

 

     Derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais:  Y Cynghorwyr John Chorlton, Arwel Edwards, PM Fowlie, Denis Hadley, Aled Morris Jones, J Arthur Jones, O Glyn Jones, John Roberts, J Arwel Roberts

 

      

 

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais am y rhesymau a roddwyd a chyda’r amodau y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.

 

      

 

10.2      19C419A  DATBLYGIAD TRIGIANNOL I DDARPARU TAI FFORDDIADWY SEF 29 ANNEDD YN CYNNWYS 8 TY DEULAWR, UN TALCEN GYDA THAIR YSTAFELL WELY, 18 O FFLATIAU GYDA DWY YSTAFELL WELY A 3 FFLAT GYDAG UN YSTAFELL WELY O FEWN PEDWAR ADEILAD TRI LLAWR YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GEIR AC I GERDDWYR YN YR HEN IARD GOED, TURKEY SHORE ROAD, CAERGYBI

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Gan Mr JRW Owen cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r pleidleisio.

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd J Arwel Roberts am ymweliad â’r safle yn wyneb pryderon lleol, cafodd hyn ei gynnig gan y Cynghorydd John Chorlton a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Eurfryn Davies.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â’r safle ar gais yr aelod lleol i asesu’r sefyllfa.

 

      

 

10.3      19C975  CAIS LLAWN I GODI GWAITH CELF A RHEILIAU YN SGWÂR Y FARCHNAD, CAERGYBI

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor bendernynu arno gan ei fod yn cael ei gyflwyno gan Gynllun Adfywio Canol Tref Caergybi.  

 

      

 

     Gan y Cynghorydd John Chorlton cafwyd datganiad o ddiddordeb ac ni chymerodd ran yn y drafodaeth na phleidleisio ar y cais.

 

      

 

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais am y rhesymau a roddwyd yn unol â’r amodau y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.

 

 

 

10.4     19C894F  AMRYWIO AMOD RHIF (02) YNGHLWM WRTH GANIATÂD CYNLLUNIO 19C984 ER MWYN CODI HYSBYSFWRDD MOSAIG YCHWANEGOL AR OCHR ‘BOOTS’, STRYD Y FARCHNAD, CAERGYBI

 

      

 

Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno gan ei fod yn cael ei gyflwyno gan y Cyngor.

 

 

 

     Gan y Cynghorydd John Chorlton cafwyd datganiad o ddiddordeb ac ni chymerodd ran yn y drafodaeth na phleidleisio ar y cais.

 

 

 

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais am y rhesymau a roddwyd yn unol â’r amodau y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.

 

 

 

10.5      25LPA871CC  ADDASU AC  EHANGU 29 MAES ATHEN, LLANERCHYMEDD

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor bendernynu arno gan ei fod yn cael ei gyflwyno gan y Cyngor ac yn effeithio ar dir yn ei feddiant.

 

 

 

     Gan y Cynghorydd Glyn Jones cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais, cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd John Roberts.

 

 

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais am y rhesymau a roddwyd yn unol â’r amodau y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.

 

10.6     28C84A  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD AR DIR GER TERAS GLAN GORS,

 

     BRYN DU

 

      

 

     Fe nodwyd y dylai’r eitem hon ymddangos o dan eitem 6 ar y rhaglen (yn codi o’r cofnodion).

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Dymuniad yr aelodau yn y cyfarfod a gafwyd ym mis Tachwedd oedd un o ganiatáu’r cais gan fod y plot yn gorwedd y naill ochr a’r llall i’r ffin datblygu ac ni fyddai lleoliad y datblygiad arfaethedig yn cael effaith negyddol.  Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio i alluogi swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu’r cais.

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd Glyn Jones i aelodau gadarnhau eu penderfyniad blaenorol i ganiatáu’r cais gan fod rhan o’r safle y tu mewn i’r ffin ddatblygu, gallai hefyd gael ei ystyried fel un yn llenwi bwlch ac yn cydymffurfio â gofynion Polisi 50, person lleol oedd yr ymgeisydd.  Cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Fowlie.  

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

      

 

     Caniatáu’r cais, yn groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr John Chorlton, Eurfryn Davies, Arwel Edwards, PM Fowlie, Aled Morris Jones, J Arthur Jones, O Glyn Jones, RL Owen, John Roberts

 

      

 

     Doedd dim pleidlais i’r gwrthwyneb.

 

      

 

     PENDERFYNWYD glynu wrth y penderfyniad blaenorol i ganiatáu’r cais, yn groes i argymhelliad y swyddog am y rhesymau a roddwyd, gydag amodau safonol.

 

      

 

10.7      30C56C  NEWID DEFNYDD ADEILAD ALLANOL PRESENNOL I GREU ANNEDD YNGHYD A GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD YN TYDDYN LLWYD, BRYNTEG

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor bendernynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Cyfeiriodd y Cynghorydd D Lewis-Roberts aelodau at y prif ystyriaethau cynllunio ym mhwynt 7 yn adroddiad y swyddog a’r ffaith ei bod yn cael ei gydnabod fod yr adeilad presennol yn addas i’w addasu  - datganiad gafodd ei gefnogi gan syrfewr siartedig.

 

      

 

     Cwestiynu a oedd yr adeilad hwn yn un priodol i’w addasu a wnaeth y Cynghorydd J Arthur Jones. Mewn ymateb dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu nad oedd yr adeilad yn ddigon cryf a buasai’n rhaid ychwanegu plyg arall ato i greu uned breswylio.  Nid oedd waliau’r hen adeilad yn ddigon cryf i gynnal to.

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd John Roberts dywedodd y swyddog fod modd edrych ar y cais hwn fel un i safle yr oedd defnydd eisioes wedi ei wneud ohono ond gyda’r amod fod yr adeilad sydd yno yn un priodol i’w addasu.  Nid oedd y waliau’n ddigon cryf i gynnal to.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Glyn Jones cafwyd cynnig i ymweld â’r safle.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd J Arthur Jones cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais, cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd RL Owen.

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

      

 

     Derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais:  Y Cynghorwyr John Chorlton, Eurfryn Davies, Arwel Edwards, PM Fowlie, Denis Hadley, Aled Morris Jones, J Arthur Jones, RL Owen, John Roberts, J Arwel Roberts

 

      

 

     Ymatal:  Y Cynghorydd Glyn Jones

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais am y rhesymau a roddwyd.

 

      

 

10.8      31C224B  EHANGU’R TERAS PRESENNOL TU BLAEN I DAFARN TY GWYN, FFORDD CAERGYBI, LLANFAIRPWLL

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Gan Mr Richard Eames o’r Adran Briffyrdd cafwyd datganiad o ddiddordeb a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a phleidleisio ar y cais.  

 

      

 

     Yn wyneb pryderon lleol gofynnodd y Cynghorydd John Roberts am ymweld â’r safle. Cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Fowlie.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â’r safle ar gais yr aelod lleol am y rheswm a roddwyd.

 

      

 

      

 

10.9      33C48B  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GEIR AR DIR TU ÔL I TY’N LLEWELYN, PENTRE BERW

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod pum llythyr arall o wrthwynebiad wedi eu derbyn ac ar gael yn y cyfarfod, yr argymhelliad oedd gwrthod a hynny am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.

 

      

 

     Yn absenoldeb yr aelod lleol a chyda caniatâd y Cadeirydd ac yn unol â dymuniad yr ymgeiswyr cyflwynwyd yr achos gan y Cynghorydd RG Parry a chyfeiriodd ef at lythyrau gan y cyhoedd yn cyfeirio at enw camarweiniol y plot a oedd hefyd yn cael ei adnabod fel Bryn Llewelyn.  Nid plot yn y cefn gwlad oedd hwn ond safle yng nghanol tai eraill - a buasai datblygu’r tir dan sylw yn cwblhau’r patrwm o ddatblygiad yn dwt.  Yn ogystal roedd rhesymau meddygol dros ganiatáu.

 

      

 

     Cyfeiriodd y Cynghorydd Glyn Jones at bwynt rhif 1 (disgrifiad o’r safle) yn adroddiad y swyddog a gofynnodd a oedd y cais yn cydymffurfio gyda Pholisi 50.  Mewn ymateb dywedodd y swyddog bod y safle y tu allan i’r ffiniau datblygu yn y Cynllun Lleol ac, yn yr achos hwn, roedd mwy o bwyslais yn cael ei roddi ar yr CDU a stopiwyd.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Glyn Jones cafwyd cynnig i ganiatáu’r cais dan Bolisi 50.  

 

      

 

     Teimlai’r Cynghorydd Fowlie y byddai o fudd i ymweld â’r safle yn wyneb datblygu anheddau eraill yn yr ardal, cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorwyr Arwel Edwards ac Arthur Jones.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â’r safle am y rheswm a roddwyd.

 

      

 

      

 

10.10      34C543  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD AR GAE O.S. 8639, RHOSMEIRCH

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Er fod Rhos-meirch yn cael ei gydnabod fel clwstwr o dai teimlai’r Cynghorydd Arthur Jones fod y safle dan sylw mewn lle amlwg iawn a chan fod yr aelodau’n mynd i weld safle arall yn yr un pentref, cafwyd awgrym gan y Cynghorydd i ymweld â’r safle hwn hefyd.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â’r safle am y rheswm a roddwyd.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

10.11      41C45D  DILEU AMOD (02) ODDI AR GANIATÂD CYNLLUNIO RHIF 41C45 SEF ‘NI CHAIFF NEB OND MR WILLIAM ELFED JONES A MRS CATHERINE ELEN JONES, RHIENI’R YMGEISYDD, FYW YN YR ANNEDD YCHWANEGOL A PHAN NAD OES ANGEN ARNYNT DDEFNYDDIO’R ANNEDD YCHWANEGOL DDIM MWYACH, RHAID EI YMGORFFORI YN Y BRIF ANNEDD SEF GROESLON, PENMYNYDD.  NI CHAIFF AR UNRHYW ADEG EI DDEFNYDDIO FEL ANNEDD AR WAHAN I GROESLON, PENMYNYDD

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno gan ei fod wedi ei gyflwyno gan swyddog sydd yn ymwneud â’r broses cynllunio.

 

      

 

     Gan Mr Elfed Jones o’r Adain Gyfreithiol cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais hwn.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd John Chorlton cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais, cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd J Arthur Jones.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatau’r cais am y rhesymau a roddwyd a chyda’r amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

10.12      45C325F  CAIS LLAWN I GODI CHWECH ANNEDD YNGHYD AG ADDASU’R FYNEDFA I GEIR AC I GERDDWYR AR DIR GER PROSKAIRON, DWYRAN

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  

 

      

 

     Gan y Cynghorydd John Chorlton cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais, cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd John Roberts.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu’r cais am y rhesymau a roddwyd yn unol ag amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

11     CEISIADAU A DDIRPRWYWYD

 

      

 

     Cyflwynwyd a derbyniwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Amgylchedd a Gwasanaethau Technegol) ar geisiadau a ddirprwywyd ac y gwnaethpwyd penderfyniad arnynt ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor hwn.

 

      

 

     Yn codi:  Llyn y Gors, Llandegfan, rhif 16 (17C250M) & 17 (17C250N) ar dudalen 4 o’r adroddiad - Gofynnodd y Cynghorydd RL Owen a fyddai’r bwriad yn creu traffig ychwanegol.  Mewn ymateb dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio y byddai hyn wedi ei gymryd i ystyriaeth wrth wneud penderfyniad ar y cais. (Gadawodd y Cynghorydd Eurfryn Davies y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem hon)

 

      

 

12     30C402 FFERM TYDDYN ISAF, PORTHAETHWY

 

      

 

     Gan Mr JRW Owen o’r Adran Briffyrdd cafwyd datganiad o ddiddordeb ac nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r pleidleisio. 

 

      

 

     Ar 6 Medi 2006 penderfynwyd gwrthod y cais hwn a hynny’n groes i argymhelliad y swyddog.  Yn y cyfamser hysbywyd swyddogion o’r bwriad i apelio yn erbyn y penderfyniad hwn.  Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod y bwriad wedi ei wrthod am bedwar rheswm a gofynnodd a fyddai’r pedwar rheswm yn cael eu hamddiffyn mewn apêl. Dywedodd y Cynghorydd John Roberts (fel cynigydd i’r penderfyniad) y buasai ef yn barod i amddifyn y penderfyniad oherwydd dyluniad a materion draenio a llifogydd a dywedodd y Cynghorydd J Arwel Roberts (fel eilydd i’r penderfyniad) y buasai ef yn fodlon amddiffyn y penderfyniad oherwydd materion priffyrdd a’r fynedfa.

 

      

 

     Cytunwyd y dylai colli tai fforddiadwy gael ei dynnu’n ôl fel rheswm dros wrthod.

 

      

 

     CYTUNWYD y byddai’r Cynghorwyr John Roberts a J Arwel Roberts yn cynrychioli’r Awdurdod petai apêl yn cymryd lle.

 

      

 

      

 

13     DYDDIADAU CYFARFODYDD AM 2007

 

      

 

     Cylchredwyd manylion yr uchod gyda’r rhaglen ar gyfer y cyfarfod ac fe nodwyd y cynnwys.

 

      

 

      

 

     Dechreuodd y cyfarfod am 1.00 p.m. a daeth i ben am 3.00 p.m.       

 

      

 

      

 

     J ARWEL ROBERTS

 

     CADEIRYDD