Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion dogfennau , 7 Ionawr 2004

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Dydd Mercher, 7fed Ionawr, 2004

PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION

 

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Ionawr, 2004

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd R.Ll. Hughes, Cadeirydd

Y Cynghorydd J. Arwel Edwards, Is-Gadeirydd

 

Y Cynghorwyr J. Byast, D.D. Evans, P.M. Fowlie,Dr. J.B. Hughes, O. Glyn Jones, O.Gwyn Jones, W. Emyr Jones, R.L. Owen, Goronwy Parry MBE, Gwyn Roberts, John Roberts,

J. Arwel Roberts, W.T. Roberts, H.W. Thomas, W.J. Williams.

 

 

 

WRTH LAW:

 

Cynllunio:

Rheolwr Rheoli Cynllunio (DFJ)

Pennaeth Rheoli Datblygiad (yn ymwneud ag eitemau 10 ac 11)

Cynorthwywyr Cynllunio (GO a EH)

 

Priffyrdd:

Uwch Beiriannydd (Rheoli Datblygu a Hawliau Tramwy Cyhoeddus)(JRWO)

Swyddog Rheoli Datblygu (RE)

 

Cyfreithiwr (RWJ)

Cynorthwy-ydd Gweinyddol (CWP)

YMDDIHEURIADAU:

 

-

 

HEFYD YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd G. Allan Roberts (ar gyfer cais 19C824 eitem 4.3)

Y Cynghorydd W.I. Hughes (ar gyfer cais 14C28P eitem 5.1)

 

Dymunodd y Cadeirydd yn dda i bawb ar gyfer y Flwyddyn Newydd a chroeso i gyfarfod cyntaf Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion am 2004.

 

Anerchodd y Cynghorydd John Chorlton y cyfarfod gan ddweud, tra roedd yn gwerthfawrogi nad oedd Cyfansoddiad y Cyngor yn gadael iddo siarad ar eitem 7.10 o'r cofnodion, roedd yn dymuno cael sicrhad na ryddheir unrhyw ganiatâd cynllunio heb osod yr amodau priodol.

 

1

DATGAN DIDDORDEB

 

Cafwyd datganiadau o ddiddordeb gan Aelodau a Swyddogion a chânt eu cofnodi dan yr eitemau perthnasol.

 

2

COFNODION

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd cofnodion y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gyfarfu ar 3 Rhagfyr, 2003. (tudalennau  12 - 25 o’r Gyfrol hon)

 

YN CODI - EITEM 8 YN Y COFNODION

 

2.1

CAIS WEDI'I DDIRPRWYO A'I WRTHOD

 

25C154A - O.S. 263 LLANDDONA - Roedd y Cynghorydd Hefin Thomas yn dymuno cofnodi iddo yn y Pwyllgor olaf wneud cais ar i swyddogion ymchwilio i'r posibilrwydd y gallai'r ymgeiswyr am yr uchod gael ailgyflwyno eu cais heb gost ychwanegol oherwydd y ffaith fod llythyr y Cynghorydd Thomas yn gofyn i'r cais hwn gael ei benderfynu gan Gyngor wedi mynd ar goll.

 

 

Cytunodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio y gellid delio â'r achos hwn yng nghyfarfod mis Chwefror y Pwyllgor.

 

 

 

2.2

CEISIADAU A DDIRPRWYWYD AC A GYMERADWYWYD

 

 

 

45C132D - JASMIA DWYRAN (cynlluniau llawn i godi sgubor amaethyddol) - Bu i'r Cynghorydd Gwyn Jones gyfleu anfodlonrwydd mawr Cyngor Cymuned Rhosyr i'r rhesymau a roddwyd gan yr Awdurdod dros gymeradwyo y cais uchod o dan y drefn ddirprwyo ar ddarn o dir oedd yn mesur llai nag un acer.

 

 

 

Pwysleisiodd y Cynghorydd Jones nad yw safle y cais yn ddaliad amaethyddol sydd yn mesur o leiaf 5 hectar, ac nad yw chwaith yn cydfynd â pholisiau cynllunio perthnasol eraill.  Roedd y Cyngor Cymuned yn teimlo y byddai rhoddi caniatâd yn cael effaith annymunol ar y tirlun mewn cefn gwlad agored.

 

 

 

 

 

RHAN 1 - MATERION CYNLLUNIO

 

 

 

 

 

3

YMWELIADAU Â SAFLEOEDD

 

 

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd - adroddiad Ymweliad â Safleoedd Cynllunio a gynhaliwyd ar

 

17 Rhagfyr 2003.

 

 

 

 

 

4

CEISIADAU YN CODI O'R COFNODION

 

 

 

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

4.1

12C66F - ADDAS AC EHANGU YNGHYD Â NEWID DEFNYDD Y GANOLFAN FOROL I FOD YN WESTY, BAR A LLE BWYTA YN "THE OLD BATHS, BIWMARES"

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y swyddogion yn parhau i wneud gwaith ymgynghori gydag Asiant yr Ymgeiswyr.  Cyflwynir adroddiad llawn i gyfarfod mis Chwefror o'r Pwyllgor.

 

 

 

PENDERFYNWYD cytuno i gais y Rheolwr Rheoli Cynllunio i ohirio ystyried y cais uchod hyd nes cwblhau'r gwaith ymgynghori.

 

 

 

4.2

17C347 - CAIS AMLINELLOL AR GYFER CODI ANNEDD YNGHYD AG ADDASU'R FYNEDFA BRESENNOL YN PARC BELLIS, HEN LLANDEGFAN

 

 

 

Dywedodd y Cadeirydd bod ystyriaeth o'r cais yma wedi'i gohirio yn y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 3 Rhagfyr er mwyn gadael cyfle i ymweliad ar y safle ar 17 Rhagfyr fel y gallai aelodau gael gwell dealltwriaeth o effaith y datblygiad arfaethedig cyn gwneud ei benderfyniad

 

 

 

Disgrifiodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio y cynnig gan roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau gan ddweud fod yr ymgeiswyr wedi cynnig i'r Cyngor ddarn o dir ger y briffordd oedd yn gyfagos i safle'r cais er mwyn gwella diogelwch y ffordd a gwelededd.   Nodwyd fod ymgynghorwyr statudol wedi cynnig sylwadau a heb wrthwynebu'r cynnig.  

 

 

 

Mynegodd y swyddog fod yr aelod lleol wedi anfon llythyr yn dweud ei fod i ffwrdd ar fusnes y Cyngor ac felly yn methu bod yn bresennol yn y cyfarfod hwn.  Roedd y llythyr yn gofyn ohirio tan cyfarfod mis Chwefror.  Mynegodd y Swyddog nad oedd gan yr ymgeiswyr unrhyw wrthwynebiad i'r cais gael ei ohirio.

 

 

 

Ar gais yr aelod lleol CYTUNWYD i ohirio penderfyniad ar y cais er mwyn derbyn ei sylwadau.

 

 

 

4.3

19C824 - CODI ESTYNIAD AR BORTS AR Y TU BLAEN YNGHYD AG ESTYNIAD AR Y LLAWR CYNTAF AR Y TU CEFN YN 5 TREHWFA CRESCENT, CAERGYBI

 

 

 

Dywedodd y Cadeirydd i'r aelodau yn eu Pwyllgor fis Rhagfyr wrthod y cais yn groes i argymhelliad y swyddog.

 

 

 

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio i'r cais gael ei ohirio yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor fel y gallai'r Pwyllgor ystyried adroddiad pellach ar oblygiadau gwrthod y cais ac i benderfynu'r cais.

 

 

 

Ychwanegodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio nad oedd y rhesymau a roddwyd dros wrthod y cais hwn yn ddigonol fel ystyriaethau cynllunio i wrthod ac roedd yn argymell yn gryf ganiatáu'r cais yn unol ag adroddiad y swyddog.

 

 

 

Anerchodd y Cynghorydd G. Allan Roberts, yr aelod lleol, y cyfarfod.  Dywedodd ei fod yn gwerthfawrogi mai pwrpas y Canllawiau Cynllunio Atodol oedd i roi arweiniad, ond ail adroddodd ei bryder fod estyniad cefn yr eiddo yn gorwedd tu draw i llinell 45 gradd oddi wrth y ty cyfagos.  Byddai'n gwaethygu'r sefyllfa ymhellach pe bai uchder yr estyniad presennol yn cael ei godi.  Byddai'n effeithio ar fwynderau'r adeilad drws nesaf ac ni fyddai'n cyd-fynd â'r Canllawiau Cynllunio Atodol.  

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd W.J. Williams mai'r effaith ar fwynderau oedd yn annerbyniol a'r prif reswm dros wrthod, ac nid effaith colli goleuni.  Cynigiodd y dylid glynu wrth benderfyniad cynharach y Pwyllgor i wrthod am y rhesymau a ganlyn ac eiliwyd gan y Cynghorydd David Evans:

 

 

 

Ÿ

nid yw'r cais yn cyd-fynd gyda'r Canllawiau Cynllunio Atodol ar Addasiadau ac Estyniadau i Dai

 

Ÿ

Byddai'r cynnig yn andwyol i fwynderau yr adeilad cyfagos

 

 

 

PENDERFYNWYD glynu wrth y penderfyniad blaenorol i wrthod y cais am y rhesymau uchod.

 

 

 

4.4

30C192A - CAIS AMLINELLOL AR GYFER DYMCHWEL Y CYN WESTY A CHODI 22 O FFLATIAU YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD A MAN PARCIO CYSYLLTIEDIG YN RHOSTREFOR HOTEL, AMLWCH ROAD, BENLLECH

 

 

 

Disgrifiodd y Cadeirydd y cynnig.   Ymwelwyd â'r safle gan yr aelodau ar 17 Rhagfyr 2003.

 

 

 

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod y swyddogion yn parhau i ymgynghori gyda'r ymgeiswyr ac yn cyflwyno adroddiad llawn i Bwyllgor mis Rhagfyr.

 

 

 

PENDERFYNWYD cytuno i gais y Rheolwr Cynllunio i ohirio ystyried y cais uchod hyd nes cwblhau'r gwaith ymgynghori.

 

 

 

4.5

46C137D - CAIS LLAWN AR GYFER CODI 34 O DAI TRI LLAWR YNGHYD Â CHREU MYNEDFA I GERBYDAU A CHERDDWYR AR DIR YN THE OLD CRICKET GROUND, TREARDDUR

 

 

 

Disgrifiodd y Cadeirydd y cynigiad.  Ymwelwyd â safle'r cais ar 15 Hydref, 2003.

 

 

 

Gwnaeth y Rheolwr Rheoli Cynllunio gais i ohirio ystyried y cais hwn hyd nes gorffennir trafodaethau gyda'r ymgeiswyr ynglyn â gosod Adran 106 (darparu Tai Fforddiadwy).

 

 

 

PENDERFYNWYD cytuno i gais y Rheolwr Rheoli Cynllunio i ohirio ystyried y cais uchod hyd nes cwblhau'r trafodaethau.

 

 

 

5

CAIS ECONOMAIDD

 

 

 

5.1

14C28P - CODI ADEILAD TRIN AWYRENNAU, GWEITHDAI A SWYDDFEYDD AR PLOT 5, STAD DDIWYDIANNOL MONA, MONA

 

 

 

Dywedodd y Cadeirydd i'r cais gael ei ddwyn gerbron i'w ystyried gan y Pwyllgor oherwydd bod y tir ym mherchenogaeth y Cyngor Sir.

 

 

 

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod safle'r cais wedi'i leoli mewn tir i'r gogledd-orllewin o'r stad ddiwydiannol rhwng 'surgery' milfeddygon Bodrwnsiwn a'r ganolfan ailgylchu.  Mae ffin ddwyreiniol y safle yn ymylu ar yr awyrenfa bresennol.  Y cynnig yw codi adeilad trin awyrennau gyda bloc mwynderau ynghlwm iddo.  Mae i'r llecyn o dir hanes diwydiannol ers 1993.

 

 

 

Adroddodd y swyddog fod 16 o lythyrau yn gwrthwynebu wedi dod i law.  Roedd sylwadau gan ymgynghorwr statudol i law oedd ddim yn gwrthwynebu'r cynnig.  Sicrhawyd y swyddog y byddai'r gweithgareddau ar y safle yn rhai "of a general light engineering nature and that persons outside the building would not know that work was being carried out due to the low noise levels."

 

 

 

Y polisïau perthnasol a ystyriwyd wrth benderfynu argymhellion y swyddog i'r Pwyllgor oedd Polisïau 1, 2 a 5 o Gynllun Lleol Ynys Môn, Polisïau B1, B5 a B9.  Ystyriwyd hefyd Nodyn Cyngor Technegol (Cymru) (TAN 11) (Swn).  Cadarnhaodd y swyddog fod cynigion yn cyd-fynd gyda Cynllun Lleol a Chynllun Fframwaith a'r cyngor a roddir yn Planning Policy Wales.

 

 

 

Mewn ymateb i bryderon parthed swn, roedd y Rheolwr Rheoli Cynllunio wedi ymgynghori gyda'r ymgynghorwyr perthnasol yn cynnwys Adran Iechyd Amgylcheddol y Cyngor.  Byddid yn gosod telerau (07) a (08) fel yr argymhellir yn adroddiad y swyddog ar unrhyw ganiatâd er mwyn sicrhau mwynderau trigolion cyfagos.  Roedd y cais hefyd yn cydymffurfio yn gadarnhaol gyda'r polisi ar greu swyddi.

 

 

 

Siaradodd y Cynghorydd W.I. Hughes, yr aelod lleol, a lleisio pryderon yr ardalwyr parthed:

 

 

 

Ÿ

swn

 

Ÿ

diogelwch trigolion lleol

 

Ÿ

agosrwydd y safle i'r rhwydwaith ffyrdd lleol

 

Ÿ

yr effaith a gai'r cynnig hwn ar fusnesau ar y stad ddiwydiannol a'r ffaith y byddai yn lluddias busnesau eraill rhag dechrau busnes yn yr ardal

 

Ÿ

mae'r RAF yn rheoli pob awyren sydd yn hedfan neu'n glanio mae ganddyn nhw frigad dân yno a rhwydi diogelwch ar y llwybr glanio.

 

 

 

Roedd y Rheolwr Rheoli Cynllunio am atgoffa'r aelodau bod y llwybr glanio yn bodoli'n barod yn gyfagos i'r safle, roedd rheoliadau eraill yn ymwneud â hedfan ac roedd llawer o'r rhain y tu allan i gylch cynllunio.  Gellid gosod amodau ar unrhyw ganiatâd a roddid yn gysylltiedig â materion cynllunio.  Atgoffwyd yr Aelodau i ystyried ystyriaethau cynllunio materol gan fod deddfwriaeth arall i reoli ffactorau eraill.  Nid oedd gan ymgynghorwyr statudol unrhyw wrthwynebiadau.

 

 

 

Roedd sylwadau o'r llawr yn nodi

 

Ÿ

mai cyrff eraill oedd yn gyfrifol am ddiogelwch

 

Ÿ

y byddai'r cais hwn yn creu gwaith

 

Ÿ

byddai gwaith cynnal a chadw ar y safle ond y byddai profi awyrennau yn cael ei gynnal yn rhywle arall

 

Ÿ

fod rhai o'r sylwadau a wnaed y tu allan i gylch gorchwyl y pwyllgor cynllunio.

 

 

 

Cynigiodd y Cynghorydd D.D. Evans dderbyn adroddiad y swyddog a'r argymhelliad ynddo i dderbyn y cais ac eiliwyd gan y Cynghorydd Emyr Jones.

 

 

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais am y rhesymau a ganlyn gyda'r amodau yn adroddiad y swyddog.

 

 

 

Roedd y Cynghorydd P.M. Fowlie yn dymuno cofnodi iddo beidio â phleidleisio ar y cais.

 

 

 

6

CEISIADAU'N TYNNU'N GROES I'R CYNLLUN FFRAMWAITH

 

 

 

6.1

20C85D - CAIS AMLINELLOL AR GYFER CODI BYNGALO YNGHYD AG ADDASU'R FYNEDFA BRESENNOL A RHAN O O.S. 0811, GER PENTREGOF BACH, CEMAES

 

 

 

Eglurodd y Cadeirydd i'r cais hwn gael ei ddwyn gerbron y Pwyllgor i benderfynu arno ar gais yr aelod lleol.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod y cais yn tynnu'n groes i'r cynllun fframwaith ar y safle oedd yn dir amaethyddol ar ochr orllewiniol Cemaes ar yr A5025 gyda thai ar bob ochr i safle'r cais.

 

      

 

     Yn ôl y Swyddog roedd caniatâd wedi darfod ar gais blaenorol (caniatawyd yn 1990) oedd yn destun y cytundeb cyfreithiol yn cyfyngu ar fyw ynddo; roedd gan y safle hanes o gael ei wrthod, hefyd gwrthodwyd apêl yn erbyn yr awdurdod hwn yn 1993.

 

      

 

     Polisïau perthnasol a ystyriwyd wrth benderfynu argymhellion y swyddog i'r Pwyllgor hwn oedd Polisïau 1, 42, 48, 49 a 53 o Gynllun Lleol Ynys Môn a Polisïau A6, D4 a D29 o Gynllun Fframwaith Gwynedd a Nodyn Canllaw Technegol (Cymru) (TAN12) (Dylunio).

 

      

 

     Roedd y swyddog yn awgrymu'n gryf wrthod y cais yma gan y byddai'n creu datblygiad tai annerbyniol yn y cefn gwlad y tu allan i'r ardal ddatblygu.

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd Gwyn Roberts, ar gais yr aelod lleol, fod ymweliad safle.

 

      

 

     Argymhellodd y Cynghorydd Gwyn Jones dderbyn adroddiad y swyddog a'i argymhelliad i wrthod y cais.   Eiliodd y Cynghorydd Goronwy Parry y cynnig.

 

      

 

     Pleidleisiodd y Pwyllgor i beidio ymweld â'r safle ac i wrthod y cais yn unol â'r argymhelliad.

 

      

 

     PENDERFYNWYD gwrthod y cais am y rhesymau a nodir yn adroddiad y swyddog.  

 

      

 

6.2

27C77A - CYNLLUNIAU LLAWN AR GYFER CODI BYNGALO AMAETHYDDOL YNGHYD Â GOSOD SYSTEM TRIN CARTHFFOSIAETH NEWYDD AR DIR YN TY CROES FFARM, LLANFACHRAETH

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio i'r ymgeiswyr osod llythyr gerbron yn gofyn am ohirio ystyried y cais hwn ar y sail y byddent yn hoffi trafod yr asesiad amaethyddol ymhellach, ac yr oedd hyn yn dderbyniol i'r swyddogion.  Cadarnhaodd y swyddog fod yna newidiadau i leoliad yr annedd a roddwyd i mewn ar y dechrau ac argymhellodd ohirio ystyriaeth ar y cais.  

 

      

 

     PENDERFYNWYD cytuno â chais y Rheolwr Rheoli Cynllunio i ohirio ystyried y cais uchod hyd nes y cwblheir yr holl ymgynghori.  

 

      

 

7     GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

7.1

10C86 - CODI GAREJ DDWBL BREIFAT YN TIDE COTTAGE, 1 Y FRON, ABERFFRAW

 

      

 

     Adroddodd y Cadeirydd mai'r aelod lleol oedd yn dymuno dod â'r cais hwn o flaen y Pwyllgor.

 

      

 

     Adroddodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod yr ymgeiswyr, yng ngwyneb nifer o wrthwynebiadau oedd i law yn bwriadu gostwng maint y cynnig gwreiddiol er mwyn cyrraedd cyfaddawd.  Roedd y swyddog yn gofyn am ohirio ystyriaeth o'r cais er mwyn ymgynghori ymhellach gyda'r ymgeiswyr.

 

      

 

     Lleisiodd y Cynghorydd Glyn Jones yr aelod lleol bryder y trigolion lleol parthed gorddatblygu'r safle.  

 

      

 

     PENDERFYNWYD cytuno gyda cais y Rheolwr Rheoli Cynllunio i ohirio ystyried y cais hyd nes gorffennir ymgynghori.

 

      

 

7.2

11C420 - GOSOD SYSTEM TRIN CARTHFFOSIAETH WPL NEWYDD YN 1 - 5 KENSINGTON CLOSE, PENRHYD, AMLWCH

 

      

 

     Adroddodd y Cadeirydd i'r cais gael ei ddwyn gerbron y Pwyllgor i'w ystyried gan fod yr Awdurdod yn gweithredu fel Asiant i'r ymgeiswyr.

 

      

 

     PENDERFYNWYD rhoddi'r awdurdod i Bennaeth y Gwasanaeth Cynllunio ganiatáu'r cais gyda'r amodau yn adroddiad y swyddog ac os cwblheir y gwaith ymgynghori'n foddhaol.

 

      

 

7.3

11LPA825A/LB/CC - CANIATÂD ADEILAD RHESTREDIG AR GYFER ANGORFA NEWYDD AR WAL YR HARBWR, HARBWR AMLWCH, PORTH AMLWCH

 

      

 

     Dygwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan y gwnaed y cais gan y Cyngor Sir ar dir sy'n eiddo i'r Cyngor.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio y cyflwynir y cais hwn am ganiatâd Adeilad Rhestredig sy'n cael ei benderfynu gan CADW.

 

      

 

     PEDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad.

 

      

 

7.4

11LPA825A/LB/CC/ - NEWID DEFNYDD YR HEN FFREUTUR I GREU CLWB PLANT AR ÔL YSGOL, YSGOL FEITHRIN AC YSTAFELL GYFRIFIADURON YNGHYD AG ADDASU AC EHANGU YN YSGOL PENCARNISIOG, PENCARNISIOG

 

      

 

     Datganodd y Cynghorydd D.D. Evans ddiddordeb yn y cais hwn ac ni chymerodd ran yn y drafodaeth nac yn y pleidleisio.

 

      

 

     Dygwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno gan fod yr eiddo ym meddiant y Cyngor Sir.

 

      

 

     PENDERFYNWYD caniatáu'r cias am y rhesymau a roddwyd gyda'r amodau cynllunio perthnasol.

 

      

 

     Dymunodd y Cynghorydd O. Glyn Jones gofnodi na wnaeth bleidleisio ar y cais.  

 

      

 

7.5

30C380A - CYNLLUNIAU LLAWN AR GYFER CODI ANNEDD AR DIR GER 4 TAI BETWS, LLANBEDRGOCH

 

      

 

     Dygwyd y cais hwn i'r Pwyllgor benderfynu arno ar gais yr aelod lleol sydd ddim yn ystyried y safle i fod yn estyniad afresymol i'r pentref.

 

      

 

     Cafwyd cynnig gan yr aelod lleol, y Cynghorydd W.T. Roberts y dylai'r aelodau ymweld â'r safle.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â'r safle am y rhesymau a roddwyd cyn gwneud penderfyniad ar y cais.

 

      

 

7.6

31C71E - CODI STABLAU AR DIR YNG NGHEFN BRYN GWYN, LÔN PANT, LLANFAIRPWLL

 

      

 

     Datganodd Richard Eames o'r Adran Briffyrdd ddiddordeb yn y cais ac nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod yn ystod y trafodaethau na phenderfynu ar y cais.

 

      

 

     Dygwyd y cais hwn i'r Pwyllgor ar gais yr Aelod Lleol.  Dymunai'r Cynghorydd Edwards, yr aelod lleol iddo gael ei gofnodi fod un o'r llythyrau oedd yn gwrthwynebu yn rhoi'r argraff fod y Cynghorydd Edwards o blaid y datblygiad.   Roedd y Cynghorydd Edwards yn dymuno iddo fod yn hysbys ei fod yn ddiduedd o'r cychwyn.

 

      

 

     Adroddodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio i'r gwrthwynebiadau gael eu derbyn parthed y cais hwn oherwydd agosrwydd y datblygiad i dai a'r Stad Pant Lodge.  Fel canlyniad i hyn roedd yr ymgeiswyr bellach wedi cytuno i ail-leoli'r stablau yn rhywle arall ar hyd y ffin.

 

      

 

     Anerchodd y Cynghorydd Edwards y cyfarfod gan ddweud mai'r farn gyffredinol yn lleol oedd bod y stablau arfaethedig i gael eu lleoli yn rhy agos i'r ffin gyda'r tai cyfagos ac nad oedd yn gwella yr ardal o'i gwmpas.  Roedd teimlad y gellid symud y stablau ymhellach i ffwrdd oddi wrth y tai fel y gellid gwneud gwaith tirlunio a sgrinio'r stablau.  

 

      

 

     Disgrifiodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio y safle fel llecyn o dir pori sydd rhwng Stad Dai Pant Lodge a'r ffordd slip sy'n rhedeg oddi ar Bont Britannia i Lôn Pant.  Mae tai ar hyd ochr ogleddol a gorllewinol y safle ac mae'r lôn slip ar hyd y ffin ddwyreiniol.

 

      

 

     Adroddodd y swyddog mai'r polisïau perthnasol gymrwyd i ystyriaeth wrth benderfynu'r argymhellion i'r Pwyllgor oedd Polisïau 1, 31 a 32 o Gynllun Lleol Ynys Môn a Polisi D4 o Gynllun Fframwaith Gwynedd.  Adroddodd bod y swyddogion o'r farn y dylai'r cynnig presennol gael ei symud ychydig ymhellach i'r cae ychydig droedfeddi er mwyn gadael lle i blannu sgrin.

 

      

 

     PENDERFYNWYD dirprwyo caniatáu'r cais i Bennaeth y Gwasanaethau Cynllunio am y rhesymau a roddwyd, yn amodol ar gwblhau trafodaethau gyda'r ymgeisydd a'i fod yn cytuno i ail-leoli'r stablau ymhellach oddi wrth y ffin gyda Stad Dai Pant Lodge fel y gellid sgrinio a thirlunio'r stablau ac yn amodol ar yr amodau yn adroddiad y swyddog. 

 

      

 

7.7

34C482 - CODI CYFRINFA FASONAIDD NEWYDD AR DIR GER CLWB RYGBI LLANGEFNI

 

      

 

     Datganodd y Cynghorydd R.Ll. Hughes ac O. Glyn Jones ddiddordeb yn y cais ac nid oeddynt yn bresennol yn ystod y trafodaethau na'r pleidleisio.

 

      

 

     Cadeiriodd y Cynghorydd Arwel Edwards, yr Is-Gadeirydd, y cyfarfod ar gyfer yr eitem hon.

 

      

 

     Adroddodd y Cadeirydd bod y cais yma wedi'i ddwyn gerbron y Pwyllgor gan fod y safle yn cynnwys tir sydd ym meddiant y Cyngor Sir.

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd O. Gwyn Jones dderbyn adroddiad y swyddog a'i argymhelliad o dderbyn ac eiliwyd gan y Cynghorydd Gwyn Roberts.

 

      

 

     PENDERFYNWYD dirprwyo caniatáu'r cais i'r Pennaeth Gwasanaethau Cynllunio am y rhesymau a roddwyd yn amodol ar gwblhau ymgynghori ac yn amodol ar y telerau yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

7.8

38C277A - DATBLYGIAD TRIGIANNOL AR GYFER CODI 5 PAR 1 TALCEN, 1 TY AR WAHÂN AC 1 BLOC O 2 FFLAT YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD AR DIR TYDDYN MOSTYN, PORTHAETHWY

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio i'r cais hwn gael ei ddwyn gerbron y Cyngor i'w benderfynu gan fod y datblygiad yn ymwneud â thir ym mherchenogaeth y Cyngor Sir.

 

      

 

     Nodwyd yn y disgrifiad i'r datblygiad (eitem 2 ar dudalen gyntaf yr adroddiad) byddai mynediad trwy "Tyddyn To" ac nid Tyddyn Mostyn fel yr adroddir yn yr adroddiad.

 

      

 

     Disgrifiodd y swyddog y prif bwyntiau a'r polisïau perthnasol a ystyriwyd wrth wneud yr argymhelliad i'r Pwyllgor fel a geir yn yr adroddiad a, tra roedd y swyddog yn cytuno gyda'r datblygiad mewn egwyddor, dywedodd ei fod yn argymell gwrthod y cais am resymau diogelwch ger y fynedfa arfaethedig ac ar argymhelliad yr Adran Briffyrdd.

 

      

 

     PENDERFYNWYD gwrthod y cais am y rhesymau a roddwyd yn adroddiad y swyddog.

 

      

 

7.9

39C277B - DATBLYGIAD TRIGIANNOL AR GYFER CODI 5 AR DAI UN TALCEN, 1 ? 2 FLOC O FFLATIAU YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD YN TYDDYN MOSTYN, PORTHAETHWY

 

      

 

     Adroddodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod y cais hwn yr un fath â'r un yn 7.8 yn y cofnodion yma, y gwahaniaeth sylfaenol oedd bod y fynedfa bellach trwy faes parcio Stad Dai Tyddyn Mostyn.

 

      

 

     PENDERFYNWYD dirprwyo caniatáu'r cais i Bennaeth Gwasanaethau Cynllunio am y rhesymau a roddwyd, gyda'r amodau yn adroddiad y swyddog ac os cwblheir y gwaith ymgynghori'n foddhaol.

 

      

 

7.10

49C240 - CODI GORSAF BWMPIO NEWYDD YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GEIR A CHERDDWYR AR DIR Y TU ÔL I PLAS GWYN A GLENEAGLES, PONT RHYD Y BONT

 

      

 

     Adrododd y Cadeirydd fod y cais hwn wedi'i ddwyn gerbron y Pwyllgor i'w ystyried ar gais yr aelod lleol.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod 5 llythyr o wrthwynebiad wedi dod i law a'u bod yn y pecyn gerbron y pwyllgor.

 

      

 

     Lleisiodd y Cynghorydd Goronwy Parry, yr aelod lleol, ei bryderon fod personau, nad ydynt yn aelodau o'r Pwyllgor hwn, yn cael annerch y cyfarfod ynglyn â gosod amodau ar geisiadau cynllunio, gan ei fod yn teimlo fod hyn yn gosod cynsail.  Eiliodd y Cadeirydd y sylwadau yma ac ymddiheurodd i'r Cynghorydd Parry.  Dywedodd y Cynghorydd Parry fod y cynnig yn welliant sylweddol a'i fod yn angenrhaid strategol.  Roedd yn cefnogi'r cynnig.  

 

      

 

     Ategodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio mai cynnig oedd hwn i adeiladu gorsaf bwmpio ac adeilad rheoli gyda'r tirlunio caled a meddal cysylltiedig.  Roedd yr adeilad rheoli, fel a roddwyd gerbron yn wreiddiol, efo to teils ond roedd yr asiant erbyn hyn wedi cadarnhau mai to llechi a rendr traddodiadol sment gâi ei ddefnyddio fel defnyddiau gorffen yng ngolwg y ffaith bod y safle o fewn yr AHNE.  Dywedodd y swyddog bod y safle wedi'i leoli yng nghefn tai presennol ar ddechrau'r ardal dai ym mhentref Pont Rhyd y Bont, ac y câi ei dirlunio i feddalu ychydig ar ei olwg i'r llygaid.

 

      

 

     Adroddodd y swyddog bod yr orsaf bwmpio yn rhan annatod o Gynllun Trin Dwr Gwastraff Caergybi a bydd yn pwmpio llif i'r gwaith a gymeradwywyd ym Mhenrhos ar gyfer ei drin cyn ei arllwys i'r môr.

 

      

 

     Nodwyd bod yr Asiantaethau yn bwriadu cyflwyno Asesiad Risg Llifogydd derbyniol.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn y cais am y rhesymau a roddwyd a chyda'r amodau perthnasol.

 

      

 

7.11

49C242 - DYMCHWEL YR HEN GLWB CYMDEITHASOL A'R UNED YNGHYD Â CHODI 5 ANNEDD 2 LAWR AC ADDASU'R FYNEDFA BRESENNOL I GEIR A CHERDDWYR YN Y NYTH, CARNA TERAS, FALI

 

      

 

     Adroddodd y Cadeirydd fod y cais wedi'i gyflwyno i'w benderfynu gan y Pwyllgor ar gais yr aelod lleol.

 

      

 

     Adroddodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod y safle o fewn ffin gynllunio pentref Fali, oddi ar Field Street a Carna Teras ac yn golygu ailddefnyddio safle sy'n bodoli'n barod.

 

      

 

     Roedd yr ymgynghorwyr statudol wedi rhoddi eu sylwadau ond nid oeddynt yn gwrthwynebu'r cynnig.

 

      

 

     Y polisïau cynllunio perthnasol a gymrwyd i ystyriaeth wrth benderfynu argymhelliad i'r cyfarfod oedd Polisïau 48 a 49 o Gynllun Lleol Ynys Môn a'r Canllawiau Cynllunio Atodol (Cynllun Dylunio Tai).

 

      

 

     Cynigiodd yr aelod lleol, y Cynghorydd Goronwy Parry dderbyn yr argymhelliad.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn y cais am y rhesymau a roddwyd, gyda'r amodau perthnasol.  

 

      

 

7.12

49C243 - CAIS LLAWN AR GYFER DYMCHWEL YR ANNEDD BRESENNOL, ADDASU SAFLE I'R 7 BYNGALO A CHODI 8 ANNEDD YCHWANEGOL AR WEDDILL Y SAFLE AR DIR YN VISTA DEL MAR, GORAD, FALI

 

      

 

     Datganodd Timothy Holmes o'r Adran Gynllunio ddiddordeb anuniongyrchol yn y cais hwn.

 

      

 

     Adroddodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod y swyddogion yn y broses o baratoi adroddiad manwl parthed y cais uchod ac roedd yn argymell fod yr aelodau yn ymweld â'r safle i gael gwell dealltwriaeth o effaith y datblygiad arfaethedig cyn trafod y mater.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â'r safle am resymau a roddwyd cyn gwneud penderfyniad ar y cais.

 

      

 

8     CEISIADAU A DDIRPRWYWYD

 

      

 

     Rhoddwyd gerbron a derbyniwyd adroddiad y Rheolwr-gyfarwyddwr (Gwasanaethau Cynllunio ac Amgylcheddol) ar faterion a ddirprwywyd a benderfynwyd ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor.

 

      

 

     Adroddodd y Cadeirydd bod tua 80 o geisiadau cynllunio wedi'u trafod ers y Pwyllgor diwethaf.

 

      

 

     Cytunodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio i ddod i gysylltiad â'r Cynghorydd Gwyn Roberts parthed rhesymau am wrthod cais cynllunio 44C218 (O.S.I  2623) wrth Bryn Rhosyn, Rose Hill Estate, Rhos-y-bol).  Cytunodd y swyddog hefyd i gysylltu â'r Cynghorydd David Evans parthed y rhesymau am wrthod cais cynllunio 34C481 (7/9 High Street, Llangefni).

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd Gwyn Jones yn dymuno rhoi amodau ar gais cynllunio 45C313 (cais amlinellol i godi 10 ty ar dir yn Ty Gwyn, Niwbwrch) er mwyn sicrhau tirlunio digonol ar y safle.

 

      

 

9     APELIADAU CYNLLUNIO

 

      

 

9.1

ADRAN 78 O DDEDDF CYNLLUNIO GWLAD A THREF 1990

 

     30C102A - MORANEDD, BANGOR ROAD, BENLLECH

 

      

 

     Cyflwynwyd adroddiad yr Arolygwr a benodwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru mewn perthynas ag apêl yn erbyn penderfyniad yr Awdurdod hwn ac a wrthodwyd i newid defnydd yr uchod i 3 o fflatiau hunan gynwysiedig.  Gwrthodwyd yr apêl.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd Tecwyn Roberts am longyfarch yr Adran a chanmol gwaith y swyddogion yn gwrthod yr apêl.

 

      

 

      

 

9.2

ADRAN 174 DEDDF CYNLLUNIO GWLAD A THREF 1990

 

     TIR YM MHEN PARC, LÔN LAS, BRYNTEG (RJ/P/51/13/02)

 

      

 

     Cyflwynwyd adroddiad yr Arolygwr a benodwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru mewn perthynas ag apêl yn erbyn hysbysiad gorfodi a gyhoeddwyd gan yr Awdurdod hwn ac a ganiatawyd am newid defnydd tir heb ganiatâd cynllunio.  Caniatawyd yr apêl.

 

      

 

     Diolchodd y Cynghorydd J.B. Hughes i'r Adran am eu gwaith yn y mater yma.

 

      

 

10     ADOLYGU PENDERFYNIADAU CYNLLUNIO

 

      

 

     Adroddodd y Pennaeth Rheoli Datblygu y byddai ymweliad â'r safle yn mynd ymlaen ar 25 Chwefror, 2004 hyn yn dilyn y trafodaethau yn y Pwyllgor diwethaf, ac yn unol â 4.6.18.4 Cyfansoddiad y Cyngor.  Arolygir sampl o ddatblygiadau gorffenedig gwahanol a chaiff aelodau fanylion am y rhain ymlaen llaw.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

      

 

11     HYFFORDDIANT AR FATERION CYNLLUNIO I AELODAU

 

      

 

     Adroddodd y Pennaeth Rheoli Datblygu ar y rhaglen hyfforddi ar gyfer y flwyddyn i ddod gyda chyfeiriad arbennig i

 

      

 

Ÿ

hyfforddi cyffredinol ar faterion cynllunio

 

Ÿ

materion Mwynau / Gwastraff a Gorfodaeth

 

Ÿ

Tai Fforddiadwy

 

Ÿ

Dylunio o fewn y Broses Gynllunio

 

 

 

Pwysleisiodd y Swyddog ei bod yn bwysig bod yr aelodau i gyd yn mynd i'r sesiynau hyfforddi.

 

 

 

Mewn ymateb i gais y Cynghorydd Hefin Thomas cytunodd Pennaeth RheoliDatblygu i gynnwys materion priffyrdd ar geisiadau cynllunio yn y cefn gwlad gael eu cynnwys yn y rhaglen uchod.

 

 

 

12     BAICH GWAITH PRESENNOL YR ADAIN RHEOLI DATBLYGU

 

      

 

     Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanethau Cynllunio ar welliannau ym mherfformiad y gwasanaeth tros y 12 mis diwethaf.   Nodwyd fod ceisiadau cynllunio i fyny 34% ar y flwyddyn flaenorol ac roedd hyn yn rhoddi pwysau ar y gwasanaeth oherwydd baich gwaith ychwanegol.  Gwnaed y penderfyniad i ganolbwyntio adnoddau staff ar benderfynu ceisiadau cynllunio a rhoi llai o sylw i ymholiadau cyffredinol a gweithgaredd heb fod yn angenrheidiol.  

 

      

 

     Cafwyd hi'n anodd i lenwi swyddi.  Bu nifer o ddyrchafiadau mewnol i lenwi swyddi yn yr Adran Rheoli Datblygu.  Awdurdodwyd ychydig o waith gor-amser i'r staff.  

 

      

 

     Nodwyd y bydd gwasanaeth arferol yn ôl cyn gynted ag sy'n bosib.  

 

      

 

     CYTUNWYD i dderbyn yr adroddiad.

 

      

 

     Daeth y cyfarfod i ben am 3.45 p.m.

 

      

 

      

 

     Y CYNGHORYDD ROBERT LL. HUGHES

 

     CADEIRYDD