Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion dogfennau , 7 Chwefror 2007

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Dydd Mercher, 7fed Chwefror, 2007

 

PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION

 

Cofnodion cyfarfod gafwyd ar 7 Chwefror, 2007

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd J Arwel Roberts - Cadeirydd

 

Y Cynghorwyr John Byast, John Chorlton, Eurfryn Davies,

Arwel Edwards, PM Fowlie, Denis Hadley, Aled Morris Jones

J Arthur Jones, O Glyn Jones, RL Owen, John Roberts,

WJ Williams MBE

 

 

 

WRTH LAW:

 

Cynllunio:

Cyfarwyddwr Corfforaethol(Amgylchedd a Gwasanaethau         Technegol) - eitem 14

Pennaeth Gwasanaeth (Cynllunio) - eitem 14

Pennaeth Rheoli Datblygu (EGJ)

Rheolwr Rheoli Cynllunio (DFJ)

Swyddog Cynllunio (GJ)

Uchel Swyddog Cynllunio (Mwynau a Gwastraff) (JIW)

Swyddogion Cynllunio dros dro (Mwynau a Gwastraff) (AG & GE)

 

Priffyrdd:

Uwch Beiriannydd (Rheoli Datblygu a Hawliau Tramwy)(JRWO)  

Swyddog Rheoli Datblygu (Priffyrdd) (RE)  

Technegydd (DLJ)

 

Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol (RWJ)

Cynorthwywr Gweinyddol (CWP)

 

YMDDIHEURIADAU:

 

 

Y Cynghorwyr John Rowlands

HEFYD YN BRESENNOL:

 

Aelodau Lleol : Y Cynghorwyr J Meirion Davies - eitem 10.16,

Peter Dunning - eitem 9.3, WI Hughes - eitemau 10.5, 10.6,

Gwilym Jones eitemau 9.1, 10.4, Peter Rogers eitem 10.17

 

Hefin Thomas Deilydd Portffolio (Cynllunio) ac aelod lleol am

eitem 6.1

 

1

YMDDIHEURIADAU

 

Nodwyd ymddiheuriad am absenoldeb fel a nodwyd uchod.

 

2

DATGANIADAU O DDIDDORDEB

   

Derbyniwyd datganiadau o ddiddordeb fel y cawsant eu cofnodi dan yr eitemau perthnasol.

 

3

COFNODION

 

Cadarnhawyd a llofnodwyd cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gafwyd ar

 

10 Ionawr, 2007 (tud )  

 

 

 

4

YMWELIADAU Â SAFLEOEDD

 

 

 

Fe nodwyd na chafwyd ymweliadau â safleoedd yn ystod mis Ionawr.  

 

 

 

5

CEISIADAU A OHIRIWYD

 

 

 

5.1

CAIS ECONOMAIDD

 

 

 

11C122E/EIA/ECON  ADEILADU A RHEDEG FFATRI NWY HYLIF NATURIOL YN SAFLE GREAT LAKES, AMLWCH 

 

 

 

Penderfynwyd ymweld â’r safle yn y cyfarfod ar 6 Rhagfyr, ac fe wnaed hynny  ar 13 Rhagfyr, 2006. Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod swyddogion yn gofyn am fwy o amser tra’n disgwyl Caniatâd Deunyddiau Peryglus boddhaol fel rhan o’r Asesiad Amgylcheddol.  Gallai gymryd i fyny i chwe mis i Weithgor Iechyd a Diogelwch brosesu’r cais, yn dilyn hyn bydd angen asesu effaith y bwriad ar ddatblygiadau eraill yn y cyffiniau.  Pe bai’r ymgeiswyr yn anghytuno â’r oedi fe nodwyd y byddai ganddynt yr hawl i apelio yn erbyn methiant i wneud penderfyniad dan Adran 78 Deddf Gwlad a Thref 1990.

 

 

 

Yn unol ag argymhelliad y swyddog PENDERFYNWYD tynnu’r cais oddi ar y rhaglen.

 

 

 

5.2

CAIS YN TYNNU’N GROES

 

 

 

12C66G  DYMCHWEL YR ADEILAD PRESENNOL YNGHYD Â CHODI PUM ANNEDD, CAFFI, PAFILIWN AC AILWAMPIO SAFLE’R HEN BWLL NOFIO, BIWMARES

 

 

 

 

 

Penderfynwyd ymweld â’r safle yn y cyfarfod ar 5 Gorffennaf, ac fe wnaed hynny ar 12 Gorffennaf, 2006. Gofynnodd y swyddog am ohiriad pellach er mwyn cwblhau trafodaethau ar y cynlluniau diwygiedig.  Nodwyd fod cyfarwyddyd gan y Cynulliad i beidio â phenderfynu ar y cais ar hyn o bryd.

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais am y rheswm a roddwyd.

 

 

 

5.3

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

12C340AC/A  CANIATÂD ARDAL CADWRAETH AR GYFER DYMCHWEL ADEILADAU Y CYN DDEPO A MODURDAI’R CYN DDEPO’R CYNGOR, BIWMARES

 

 

 

Argymhelliad y swyddog oedd un i ymweld â’r safle i weld y cais yng nghyd-destun yr Ardal o Gadwraeth.

 

 

 

PENDERFYNWYD ymweld a’r safle am y rheswm a roddwyd.

 

 

 

5.4

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

12C340C  CAIS I DDYMCHWEL ADEILADAU CYN DDEPO’R CYNGOR A MODURDAI’R CYN DDEPO, BIWMARES

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl  dymuniad yr aelod lleol. Yr argymhelliad oedd un i ymweld â’r safle am y rheswm a roddwyd yn eitem 5.3 uchod.

 

 

 

PENDERFYNWYD ymweld a’r safle am y rheswm a roddwyd.

 

 

 

5.5

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

12C340D/CA  CAIS I DORRI COED MEWN ARDAL CADWRAETH YN Y CYN DDEPO, BIWMARES

 

 

 

Yr argymhelliad oedd un i ymweld â’r safle am y rheswm a roddwyd yn eitem 5.3 uchod.

 

 

 

PENDERFYNWYD ymweld a’r safle am y rheswm a roddwyd.

 

 

 

 

 

 

 

5.6

CAIS YN TYNNU’N GROES

 

 

 

30C621  CAIS LLAWN AR GYFER DATBLYGIAD PRESWYL YN CYNNWYS 31 O ANHEDDAU YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GEIR AC I GERDDWYR AR DIR YN LÔN PANT Y CUDYN, BENLLECH

 

 

 

Penderfynwyd ymweld â’r safle yn y cyfarfod ar 4 Hydref, ac fe wnaed hynny  ar 18 Hydref, 2006. Gofynnodd y swyddog am ohiriad pellach er mwyn cwblhau trafodaethau ar y pwysau i’w roddi i’r CDU a stopiwyd, graddfa'r datblygiad preswyl ac effaith ieithyddol y fath ddatblygiad.

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais am y rheswm a roddwyd.

 

 

 

 

 

 

 

5.7

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

39C254B  CAIS AMLINELLOL I GODI PEDAIR ANNEDD YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GEIR YN HAFOD WERN, PORTHAETHWY

 

 

 

 

 

Penderfynwyd ymweld â’r safle yn y cyfarfod ar 6 Medi, ac fe wnaed hynny  ar 20 Medi, 2006. Gofynnodd y swyddog am ohiriad pellach er mwyn cwblhau trafodaethau ar y cynlluniau diwygiedig.

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais am y rheswm a roddwyd.  

 

 

 

 

 

 

 

5.8

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

49LPA868/CC  CAIS AR GYFER DARPARU OFFER NEWYDD I DRIN CARTHION YN LLE’R UN PRESENNOL YNGHYD Â GOSOD ARLLWYSFA NEWYDD I WASANAETHU SAITH ANNEDD AR DIR Y TU CEFN I 1 TAI CYNGOR & BRYN REFAIL, LLANYNGHENEDL

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno gan ei fod yn cael ei gyflwyno ar ran y Cyngor. Penderfynwyd caniatáu’r cais hwn ar 6 Medi yn amodol ar gwblhau gwaith ymgynghori yn foddhaol.  Cyfeiriwyd y cais yn ôl i’r Pwyllgor yn wyneb materion a godwyd yn ystod yr ymgynghori a gofynnodd y swyddog am ohiriad pellach er mwyn cwblhau’r broses ymgynghori.

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais am y rheswm a roddwyd.

 

 

 

 

 

6

CEISIADAU’N CODI

 

 

 

6.1

CAIS YN TYNNU’N GROES

 

 

 

33C182A  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD, GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD AC ADDASU’R FYNEDFA BRESENNOL AR GAE O.S.2376,  TY DU, LLANDDONA

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl  dymuniad yr aelod lleol.  Yn y cyfarfod blaenorol cytunwyd i oririo ystyried y cais i alluogi’r ymgeisydd i gyflwyno gwybodaeth bellach.

 

 

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio at lythyr a chyfres o luniau gan yr ymgeisydd gerbron y cyfarfod, nid oeddynt yn cynnwys unrhyw  wybodaeth ychwanegol sylweddol.  Roedd y cais yn groes i bolisïau ac roedd yma argymhelliad cryf o wrthod y cais.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Gofynnodd y Cynghorydd Hefin Thomas am ymweliad â’r safle gan y credai y byddai o fudd yn yr achos hwn.  Roedd y safle rhwng dau adeilad a chredai y buasai hwn yn mewn lenwi’r bwlch.

 

 

 

Gan y Cynghorydd RL Owen cafwyd cynnig i ymweld â’r safle, cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd John Chorlton er mwyn cael gwell ddealltwriaeth o’r sefyllfa.

 

 

 

Atgoffodd y Cadeirydd yr Aelodau o’r angen i gyfiawnhau ymweliad â safle a thynodd sylw’r aelodau at y taflunydd.  

 

 

 

Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

 

 

I ymweld â’r safle:  Y Cynghorwyr John Byast, John Chorlton, PM Fowlie, Glyn Jones, RL Owen,  John Roberts, WJ Williams

 

 

 

Doedd dim pleidlais i’r gwrthwyneb

 

 

 

PENDERFYNWYD ymweld â’r safle am y rheswm a roddwyd.

 

 

 

6.2

CAIS YN TYNNU’N GROES

 

 

 

30C246A  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD AR DIR GER TYN PWLL,

 

TYNYGONGL

 

 

 

Ar gais yr aelod lleol penderfynwyd ymweld â’r safle yn y cyfarfod ar 6 Rhagfyr, er mwyn asesu’r sefyllfa mewn perthynas â’r briffordd; fe gafwyd hyn ar 13 Rhagfyr, 2006. Dymuniad yr Aelodau yng nghyfarfod 10 Ionawr, 2007 oedd un o ganiatáu, yn groes i argymhelliad y swyddog, am y rhesymau a ganlyn:

 

 

 

Ÿ

defnydd presennol

 

Ÿ

cydymffurfio â Pholisi 50

 

 

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu’r cais.

 

 

 

Atgoffodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio’r Aelodau fod y cais hwn yn un oedd yn tynnu’n groes ac mai’r argymhelliad oedd un o wrthod.  

 

 

 

Gan y Cynghorydd John Chorlton cafwyd cynnig o wrthod, a chafodd hyn ei  eilio gan y Cynghorydd John Roberts.

 

 

 

Gan y Cynghorydd Glyn Jones cafwyd cynnig i  ganiatáu, cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Eurfryn Davies am y rhesymau a roddwyd eisoes.  Cynigiodd y Cynghorydd J Arthur Jones lynu wrth y penderfyniad o ganiatáu gan y teimlai na chai’r bwriad effaith yng nghyd destun polisïau.

 

 

 

Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

 

 

Caniatáu’r cais, yn groes i argymhelliad y swyddog: Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, Arwel Edwards, PM Fowlie, A Morris Jones, Glyn Jones, J Arthur Jones,  RL Owen,WJ Williams

 

 

 

Derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais:  Y Cynghorwyr John Chorlton, D Hadley, John Roberts, J Arwel Roberts

 

 

 

Atgoffodd y swyddog yr Aelodau o’r gwelededd is-safonol o fynedfa’r safle fel y gwelwyd yn ystod yr ymweliad a chytunwyd i swyddogion drafod gwelliannau gyda’r ymgeiswyr.

 

 

 

PENDERFYNWYD glynu wrth y penderfyniad blaenorol i ganiatáu’r cais am y rhesymau a roddwyd, yn groes i argymhelliad y swyddog, gydag amodau safonol.

 

 

 

 

 

6.3

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

30C385B  DYMCHWEL Y GWESTY PRESENNOL, CODI ADEILAD 3 LLAWR YN CYNNWYS 21 O FFLATIAU PRYNU I OSOD, PWLL NOFIO DAN DO YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU, ADDASU’R FYNEDFA I GERBYDAU A’R GARTHFFOSIAETH YN LLIFO I’R GARTHFOS GYHOEDDUS YNG NGWESTY BRYN TIRION, TRAETH COCH  

 

 

 

Gan y Cynghorwyr J Arthur Jones a  Hefin Thomas cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais a gadawsant y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r pleidleisio.

 

 

 

Penderfynwyd ymweld â’r safle yn y cyfarfod ar 5 Gorffennaf, ac fe wnaed hynny  ar 12 Gorffennaf, 2006; cafwyd gohiriad yn y cyfamser er mwyn cwblhau trafodaethau eang.  Gohiriwyd ystyried y cais ar 10 Ionawr, 2007 i alluogi swyddogion drafod darpariaeth am lefydd parcio ychwanegol ar y safle.  Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu fod materion priffyrdd yn dal heb eu datrus a gofynnodd am ohiriad pellach

 

      

 

     PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais am y rheswm a roddwyd.

 

      

 

      

 

6.4     GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     33C48B  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU AR DIR Y TU ÔL I TY’N LLEWELYN, PENTRE BERW

 

      

 

     Yn y cyfarfod ar 6 Rhagfyr, penderfynwyd ymweld â’r safle, ac fe gafwyd hyn ar 13 Rhagfyr, 2006. Dymuniad yr Aelodau ar 10 Ionawr, 2007 oedd un o ganiatáu gan eu bod yn teimlo fod y cais yn cydymffurfio gyda Pholisi 50.

 

      

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod llythyr ychwanegol o wrthwynebiad gan y Ty Capel gerllaw, yr argymhelliad oedd un o wrthod.

 

      

 

     Yng ngwyneb y ffaith fod llawer o ddatblygiadau newydd yn y cyffiniau, cynigiodd y Cynghorydd Fowlie lynu wrth y penderfyniad blaenorol i ganiatáu’r cais.  

 

      

 

     Oherwydd yr effaith a gai’r bwriad ar y bynglo gerllaw cynigiodd y Cynghorydd  Arwel Edwards wrthod y cais a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd John Roberts.

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

      

 

     Derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais:  Y Cynghorwyr John Byast, Arwel Edwards, Denis Hadley, John Roberts, Arwel Roberts

 

      

 

     Caniatáu’r cais, yn groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr John Chorlton, Eurfryn Davies, PM Fowlie, A Morris Jones, Glyn Jones, J Arthur Jones, RL Owen, WJ Williams

 

      

 

     PENDERFYNWYD glynu wrth y penderfyniad blaenorol i ganiatáu’r cais am y rhesymau a roddwyd, yn groes i argymhelliad y swyddog, gydag amodau safonol.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

6.5     CAIS YN TYNNU’N GROES

 

      

 

     34C546  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD A GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD AR DIR GER PENTERFYN, RHOS-MEIRCH

 

      

 

     Yn y cyfarfod ar 6 Rhagfyr, ar gais yr aelod lleol, penderfynwyd ymweld â’r safle, ac fe gafwyd hyn ar 13 Rhagfyr, 2006.  Dymuniad yr Aelodau ar 10 Ionawr, 2007 oedd un o ganiatáu gan eu bod yn teimlo ei fod  yn fewnlenwi sensitif.

 

      

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros ganiatáu.

 

      

 

     Tra bo’r Cynghorydd J Arthur Jones yn derbyn nad oedd y safle y tu fewn i’r ffram ddiffiniedig teimlai y buasai’n mewnlenwi’n sensitif ac atgoffodd yr aelodau o gais gan ffermwr yn ymddeol yn Llynfaes a gafodd ei ganiatáu. Gofynnodd am gefnogaeth i ganiatáu’r cais, cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd RL Owen.  Teimlodd y Cynghorydd WJ Williams hefyd y buasai’r bwriad yn gweddu.  Cynigiodd y Cynghorydd Aled Morris Jones ei gefnogaeth gan y teimlai fod y bwriad yn mewnlenwi’n sensitif.

 

      

 

     Atgoffodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio’r aelodau fod y cais yn groes i’r Cynllun â’r safle yn y cefn gwlad.  Yr argymhelliad oedd un o wrthod.  

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd Arwel Edwards i’r Aelodau fod yn gyson, a chynigiodd wrthod y cais, ac atgoffodd y Cynghoryddd John Roberts yr Aelodau nad oedd hwn yn glwstwr cydnabyddedig.

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

      

 

Caniatáu’r cais, yn groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr John Byast, John Chorlton, PM Fowlie, A Morris Jones, Glyn Jones, J Arthur Jones, RL Owen,  WJ Williams

 

 

 

Ymatal:  Y Cynghorydd Denis Hadley

 

 

 

     PENDERFYNWYD glynu wrth y penderfyniad blaenorol i ganiatáu’r cais am y rhesymau a roddwyd, yn groes i argymhelliad y swyddog, gydag amodau safonol.

 

      

 

7     CEISIADAU ECONOMAIDD:

 

      

 

     Doedd dim ceisiadau economaidd i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.  

 

 

 

8     CEISIADAU AM DAI FFORDDIADWY:

 

      

 

     Doedd dim ceisiadau am dai fforddiadwy i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

      

 

9     CEISIADAU’N TYNNU’N GROES

 

      

 

9.1     32C152  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD AR FFERM CEFN,

 

     CAERGEILIOG

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Arthur Jones cafwyd datganiad o ddiddordeb a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r pleidleisio.

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl  dymuniad yr aelod lleol.  

 

      

 

     I bwrpas cofnod, dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio na ddylai’r geiriau “y byddai’r cynnig yn niweidiol i ddiogelwch y ffordd” fod wedi ymddangos ym mhwynt 8 (Casgliad); fodd bynnag yr argymhelliad oedd un o wrthod ar sail polisïau fel a fanylwyd yn yr adroddiad.

 

      

 

     Er fod y cais yn tynnu’n groes, meddai’r Cynghorydd Gwilym Jones, roedd y safle yn amlwg yng nghanol y pentref, dylai’r polisïau gael eu hadolygu i adlewyrchu hyn.  Roedd yr ymgeisydd wedi sefydlu busnes oedd yn cyflogi pobl leol ond daeth hyn i ben oherwydd colli ei iechyd ac roedd arno angen cartref gweddol ran maint i ymddeol.  Mae’r safle o fewn cyfyngiad cyflymder 30 mya ac yn terfynu â champfa’r ysgol, doedd dim gwrthwynebiad ar sail priffyrdd a’r cyngor cymuned lleol yn cefnogi’r cais, gofynnodd y Cynghorydd Jones am gefnogaeth ffafriol.

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Glyn Jones, dywedodd yr Uwch Beiriannydd Priffyrdd y byddai’r Adran Briffyrdd yn gofyn am i fynedfa i’r safle ymuno a’r fynedfa bresennol i Fferm Cefn petai’r cais yn cael ei ganiatáu yn hytrach nag yn syth i’r ffordd gyhoeddus.

 

      

 

     Atgoffa’r aelodau wnaeth y Rheolwr Rheoli Cynllunio y dylai penderfyniadau gael eu gwneud ar ddefnydd tir ac nid am resymau personol - roedd hon yn safle werdd.  Mae’r ymgynghori sydd yn digwydd ar hyn o bryd ar y Cynllun Datblygu Lleol  yn rhoi’r cyfle i adolygu ffiniau datblygu.  

 

      

 

     Teimlai’r Cynghorydd John Chorlton hwyrach y byddai’n addas ymweld â’r safle yn yr achos hwn.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Arwel Roberts cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a’r argymhelliad o wrthod, cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Arwel Edwards oedd yn teimlo fod y cais hwn yn amlwg yn un oedd yn gwyro.

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

      

 

     Derbyn adroddiad y swyddog a’r argymhelliad o wrthod:  Y CynghorwyrJohn Byast, Arwel Edwards, PM Fowlie, Denis Hadley, John Roberts, Arwel Roberts

 

      

 

     Caniatáu’r cais, yn groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorydd Glyn Jones

 

      

 

     Ymatal:  Y Cynghorwyr John Chorlton, RL Owen

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais am y rhesymau a roddwyd.  

 

      

 

9.2     37C156  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD YNGHYD A CHREU MYNEDFA NEWYDD AR DIR GER YSGOL GYNRADD, BRYNSIENCYN

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl  dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod yr aelod lleol wedi gofyn i’r Pwyllgor ohirio ystyried y cais.

 

      

 

     PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais am y rheswm a roddwyd.

 

      

 

      

 

9.3     43C89A  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD YNGHYD Â GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD AR DIR CERRIG MOELION, RHOSCOLYN

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl  dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Darllenodd y Cynghorydd Peter Dunning lythyr a oedd gerbron y cyfarfod.  Derbyniai’r  Cynghorydd Dunning fod y safle yn y cefn gwlad ond teimlai na chai ddim effaith weledol oherwydd tir garw a’r datblygiadau yma ac acw ar draws yr ardal.  Y bwriad oedd codi annedd unllawr draddodiadol.  Yn 1994 rhoddwyd caniatâd i godi stablau ar y safle ac roedd yma gyfle delfrydol i ddarparu cartref gyda lle ynddo i fam yng nghyfraith yr ymgeisydd a thrwy hynny ryddhau dwy annedd ar y farchnad.  Roedd yr ymgeisydd a’i wraig wedi byw yn lleol ers 49 o flynyddoedd - yr ymgeisydd yn gweithio i’r

 

     Gwasanaeth Tan a’i wraig yn glerc gyda chymdeithas adeiladu.  Cartrefi gwyliau yw llawer o dai yn

 

     yr ardal hon a buasai’r ymgeisydd yn byw yn y ty hwn gydol y flwyddyn a thrwy hynny yn cefnogi’r siop leol a’r gymuned.  Roedd y fynedfa i’r safle yn agos i’r cyfyngiad 30 mya, ac roedd yr ymgeisydd yn fodlon gwella’r gwelededd yn y fynedfa.  

 

      

 

     Ni chredai’r Cynghorydd John Chorlton bod y taflunydd wedi rhoi darlun cywir o’r creigiau yn y tir a chynigiodd y dylid ymweld â’r lle i weld yn well beth fydd effaith y datblygiad.  Roedd y safle yn agos i’r ysgol ac i adeiladau eraill.

 

      

 

     Atgoffa’r aelodau a wnaeth y Rheolwr Rheoli Cynllunio y dylai ceisiadau gael eu penderfynu yn unol â’r polisïau, ar ddefnydd tir ac nid am resymau personol, roedd ceisiadau tebyg wedi eu gwrthod yma yn y gorffennol.  Roedd yma argymhelliad cryf o wrthod y cais hwn oedd yn tynnu’n groes o fewn Ardal o Brydferthwch Naturiol Eithriadol.

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

      

 

     I ymweld â’r safle:  Y Cynghorwyr John Chorlton, Eurfryn Davies, PM Fowlie, A Morris Jones, Glyn Jones,  WJ Williams

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â’r safle am y rheswm a roddwyd.

 

      

 

10

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

10.1     11C459A  CAIS AMLINELLOL I GODI 14 ANNEDD FFORDDIADWY YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GEIR AC I GERDDWYR AR DIR SAITH MOR, AMLWCH 

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl  dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Mynegi pryder a wnaeth y Cynghorydd John Byast ynghylch draenio a safle’r cais, fodd bynnag gan fod y safle y tu allan i’r ffin datblygu a phrinder y math yma o ddatblygu cynigiodd ymweld â’r safle.  

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Aled Morris Jones y gwelir gerllaw’r safle dai fforddiadwy yn Graig Ddu a oedd hefyd tu allan i’r ffin datblygu ac heb fod ymhell o Ysgol Gynradd Amlwch, eiliodd y cynnig i ymweld â’r safle.  Yn ychwanegol i hyn ceir gweithfeydd diwydiannol mawr gerllaw.  

 

      

 

     Teimlai’r Cynghorydd J Arthur Jones efallai fod y cais yn cydymffurfio â pholisi HP7 ac eiliodd y bwriad i ymweld â’r safle, cytuno a hyn a wnaeth y Cynghorydd Eurfryn Davies.

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

      

 

     I ymweld â’r safle:  Y Cynghorwyr John Byast, John Chorlton, Eurfryn Davies, PM Fowlie, A Morris Jones, Glyn Jones, J Arthur Jones, RL Owen, WJ Williams

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â’r safle am y rhesymau a roddwyd.

 

      

 

10.2      12C331C  CREU PUMP ADEILAD LLETY GWYLIAU Â FFORDD NEWYDD AR DIR AMAETHYDDOL YN FFERM CICHLE, LLANFAES

 

      

 

     Gan y Cynghorwyr Eurfryn Davies, J Arthur Jones a John Roberts cafwyd datganiad o ddiddordeb a gadawsant y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r pleidleisio.

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl  dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Cyfeiriodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio at lythyr pellach dderbyniwyd gan asiant yr ymgeisydd.  Roedd yr argymhelliad yn parhau i fod yn un o wrthod.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd RL Owen mai twristiaeth oedd y prif ddiwydiant yn y rhan yma o’r Ynys.  Â’r Cynulliad yn annog y math yma o fenter, gofynnodd am gefnogaeth i ganiatáu; ymhelaethodd nad oedd gwrthwynebiad cryf yn lleol i’r bwriad, eilio’r cynnig i ganiatáu a wnaeth y Cynghorydd  Glyn Jones.

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd John Chorlton tybed a oedd yr ymgeiswyr wedi ystyried newid defnydd yr adeiladau allanol welwyd ar y safle, mewn ymateb dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio nad oedd yn ymwybodol o hyn.

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

      

 

     Caniatáu’r cais, yn groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr Denis Hadley,  Glyn Jones, RL Owen

 

      

 

     Derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais:  Y Cynghorwyr John Chorlton, Arwel Edwards, A Morris Jones, Arwel Roberts

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais am y rhesymau a roddwyd.

 

      

 

10.3      12C352B  NEWID AMOD (02) AR GAIS CYNLLUNIO 12C352 SYDD WEDI EI GANIATÀU AR 27.07.2006 MEWN PERTHYNAS A FAINT O GARREG NATURIOL GWYNEB I’W DDEFNYDDIO AR DDRYCHIAD YR ADEILAD, DILEU AMOD (08) DWR WYNEB A (09) DRAENIAD TIR I ALLUOGI ARLLWYS I’R SYSTEM GARTHFFOS GYHOEDDUS YN YR HEN SIOP TRIN GWALLT, NEW STREET, BIWMARES

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl  dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Gan y Rheolwr Rheoli Cynllunio cafwyd argymhelliad i wneud penderfyniad deublyg ar y cais hwn, sef:

 

      

 

     - caniatáu cais i amrywio’r amodau (02) sef faint o gerrig glan fydd yn wynebu ochrau’r adeilad, a (08) caniatáu i ddwr wyneb redeg i’r garthffos gyhoeddus ar raddfa o ddim mwy na 2 litr yr eiliad;

 

      

 

     - gwrthod cais i ddileu amod (09) dan Adran 73 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 a sicrhau na fydd draeniad tir o’r datblygiad yn llifo i’r garthffos gyhoeddus.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd RL Owen fod y bobl leol wedi dychryn oherwydd caniatáu datblygiad tri llawr yn New Street, yn groes i deimladau cryfion lleol, a gofynnodd i’r aelodau am gefnogaeth i bwrpas glynu wrth yr amodau a roddwyd ynghlwm ynghynt.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd Aled Morris Jones yn cytuno fod wyneb cerrig glan yn cydymffurfio gyda chymeriad yr ardal a bod angen eu cadw.

 

      

 

     Teimlo roedd y Cynghorydd J Arthur Jones nad oedd hi’n rhesymol nac yn berthnasol cadw cymaint o gerrig glan ar yr wyneb a chynigioddd y dylid derbyn argymhelliad y swyddog ond cael gwared ag amod (09), a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd John Chorlton.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd RL Owen cafwyd cynnig i dderbyn argymhelliad y swyddog ond i gadw amod (02)

 

      

 

     Nododd y Cynghorydd Glyn Jones fod swyddogion yn argymell  lleihau’r gwaith cerrig glân ac nid cael gwared ohono’n gyfan gwbl.  

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

      

 

     Chwe pleidlais i dderbyn adroddiad y swyddog i ganiatau newid amod (02) ag (08) a dileu amod (09)

 

     Chwe pleidlais i dderbyn argymhelliad y swyddog ond cadw amod (02)

 

      

 

     Ymatal:  Y Cynghorydd PM Fowlie

 

      

 

     Wrth i’r Cadeirydd ddefnyddio’i bleidlais fwrw PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag adroddiad y swyddog ond hefyd dileu amod (09).

 

      

 

10.4      13LPA877/CC  CAIS LLAWN I GREU CAE SYNTHETIG, MAES PELDROED, MAES PARCIO YNGHYD Â CHODI FFENS 5m A 3m O UCHDER O AMGYLCH Y CAE SYNTHETIG YN YSGOL UWCHRADD, BODEDERN

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl  dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Cyfeiriodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio at 4 llythyr o wrthwynebiad gerbron ar sail swn, llifoleuadau a rheoli’r safle, dywedodd na fydd y maes chwarae wedi ei oleuo ac fe roddir amodau i reoli defnydd y safle i liniaru’r materion o gonsyrn.  

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd Gwilym O Jones yn croesawu cynnig yr oedd cymaint o’i angen i’r pentref.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd John Chorlton cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad ac argymhelliad y swyddog, a chafodd hyn ei  eilio gan y Cynghorydd J Arthur Jones.

 

      

 

     Yn unfrydol PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais am y rhesymau a roddwyd gydag amodau y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.

 

      

 

      

 

10.5      14C92J  CADW LLEOLIAD CYFLEUSTERAU’R FEITHRINFA O FEWN YR ADEILAD PRESENNOL YNGHYD Â DIWYGIO AMOD (11) ER MWYN AIL LEOLI’R CAFFI YN PARC CEFNI, BODFFORDD

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl  dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd J Arthur Jones cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth â’r pleidleisio.  

 

      

 

     Dywedodd y swyddog mai cais oedd hwn i newid amod (11) ar ganiatâd cynllunio 14C92D i alluogi newid lleoliad y creche a’r caffi o fewn yr adeilad.  Roedd symud y feithrinfa i fod union ger y fan chwarae dan do i blant a’r ganolfan weithgareddau yn rhesymegol o ran cael gweithgareddau tebyg i’w gilydd yn agos i’w gilydd.  Hefyd, fel rhan o’r cais, roedd bwriad i ddarparu man chwarae tu allan.  Ni fuasai hynny’n newid natur yr hyn y rhoddwyd caniatâd iddo o’r blaen ar y safle ac ni chai hynny unrhyw effaith ychwanegol ar yr ardal nac ar y tirwedd yn gyffredinol.  Yr argymhelliad oedd caniatáu ond gyda sicrwydd y câi amodau eu drafftio i ddweud yn glir mai enghraifft o symud caniatâd a roddwyd ynghynt o un lle i’r llall oedd yma a dim byd yn ychwanegol at beth a roddwyd o’r blaen.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd WI Hughes nad oedd gwrthwynebiad i’r cais penodol hwn, er fod pryder mewn perthynas â newid amodau.  

 

      

 

     Gan y Cynghorydd John Chorlton cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a’r argymhelliad i ganiatáu, cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorwyr John Roberts ag Eurfryn Davies.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais am y rhesymau a roddwyd, gyda’r amodau y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.

 

      

 

      

 

10.6      14C92K  CAIS I GODI TRI CABAN PREN DROS DRO I LEOLI OFFER HAMDDEN A FFITRWYDD AC UN CABAN PREN FEL DERBYNFA AR DIR PARC CEFNI, BODFFORDD

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl  dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd J Arthur Jones cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth â’r pleidleisio.  

 

      

 

     I bwrpas cofnod cywir, dywedodd y Cynghorydd WI Hughes nad ef ofynodd am gyflwyno’r cais hwn i’r Pwyllgor fel a nodwyd yn yr adroddiad.  Eisoes roedd ystafell ffitrwydd ar y safle a dygodd sylw mai’r bwriad, gyda’r cynnig gerbron, oedd rhoddi prawf ar y farchnad am gyfnod o ddwy flynedd ac ar ôl y cyfnod hwnnw y dylid symud yr adeiladau ac adfer y tir.  Nododd hefydd fod dau gais arall yn yr arfaeth, h.y. 14C92F i gael gwared ag amod (07) a 14C92H i gael gwared ag amodau (05) ac (06) a gofynnodd a oedd y cais gerbron mewn gwirionedd yn un am “gyfnod dros dro”.  Câi’r cabanau coed arfaethedig eu gosod ar lecyn chwarae diogel i blant a chafwyd argymhelliad gan y Cynghorydd Hughes i ymweld.  

 

      

 

     Gan y Cynghorydd John Chorlton cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad ac argymhelliad y swyddog o ganiatáu, cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd John Byast.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Eurfryn Davies cafwyd cynnig i ymweld â’r safle.

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

      

 

     Derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais:  Y Cynghorwyr John Byast, John Chorlton,, Arwel Edwards, PM Fowlie, Denis Hadley, A Morris Jones, John Roberts, Arwel Roberts, WJ Williams

 

      

 

     Ymatal:  Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, RL Owen

 

      

 

     Dymunodd y Cynghorydd Glyn Jones nodi nad oedd wedi cymryd unrhyw ran yn y drafodaeth ar yr eitem hon.

 

      

 

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais am gyfnod dros dro o ddwy flynedd am y rhesymau a roddwyd gydag amodau y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.  

 

10.7     17C250P  DILEU AMOD (06) ODDI AR GANIATÂD CYNLLUNIO RHIF 17C250J YN LLYN Y GORS, LLANDEGFAN

 

      

 

Cafwyd datganiad o ddiddordeb gan y Cynghorwyr Eurfryn Davies a J Arthur Jones a gadawsant y cyfarfod yn ystod y drafodaeth â’r pleidleisio.

 

 

 

I bwrpas cofnod dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio mai datgan diddordeb yn y cais a wnaeth yr aelod lleol yn hytrach na gofyn i’r cais ddod gerbron y Pwyllgor.

 

 

 

Gan y Cynghorydd RL Owen cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog â’r argymhelliad o wrthod, cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd John Chorlton.

 

      

 

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais am y rhesymau a roddwyd.  

 

10.8      19C894E  CODI ADEILAD TIRNOD AR DIR TU CEFN I  37 A 41 STRYD Y FARCHNAD, CAERGYBI

 

      

 

     Gan y Cynghorydd John Chorlton cafwyd datganiad o ddiddordeb a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth â’r pleidleisio.   

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno gan ei  fod wedi ei gyflwyno gan y Cyngor.

 

      

 

     Os oedd y cyfnod ymgynghori yn dod i ben yn foddhaol ar 22 Chwefror, credwyd fod y cynnig gerbron yn ategu ac yn gwella cymeriad a gwedd yr Ardal o Gadwraeth, gan greu gweithgaredd a chanolbwynt i’r ardal a hefyd gysylltu’r porthladd a’r dref o ran adeiladau ac yn weledol.

 

      

 

     Gyda’r amod fod y gwaith ymgynghori’n dod i ben yn foddhaol PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a rhoi’r awdurdod i’r Pennaeth y Gwasanaethau Cynllunio ganiatáu’r cais am y rhesymau a roddwyd a chyda’r amodau yn yr adroddiad.

 

      

 

10.9      19LPA89M/CC  CODI FFENS TERFYN GALFANEDIG A GIATIAU 2m O UCHDER YN YSGOL UWCHRADD, CAERGYBI

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Denis Hadley cafwyd datganiad o ddiddordeb a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth â’r pleidleisio.  

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno gan fod y cais wedi  ei  gyflwyno gan y Cyngor ac yn effeithio ar dir yn ei feddiant.  

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio mai argymhelliad o ganiatáu oedd yma a chafodd hyn ei gynnig gan y Cynghorydd RL Owen a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Eurfryn Davies.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais am y rhesymau a roddwyd, gydag amodau y manylwyd arnynt.

 

      

 

10.10      19LPA89N/CC  CODI ESTYNIAD 1m I’R FFENS 3m PRESENNOL AM 10m YNGHYD A CHODI FFENS 3 m O UCHDER YN YSGOL UWCHRADD, CAERGYBI

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Denis Hadley cafwyd datganiad o ddiddordeb a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth â’r pleidleisio.

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno gan fod y cais wedi  ei  gyflwyno gan y Cyngor ac yn effeithio ar dir yn ei feddiant.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais am y rhesymau a roddwyd, gydag amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad y swyddog.

 

 

 

 

 

10.11      19LPA875/CC  CODI PEDWAR CERFLUN COED AC UN MAINC YM MHARC GWLEDIG MORWROL, CAERGYBI

 

 

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno gan fod y cais wedi  ei  gyflwyno gan y Cyngor ac yn effeithio ar dir yn ei feddiant.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd John Roberts cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais, cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Aled Morris Jones.

 

      

 

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais am y rhesymau a roddwyd, gydag amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad y swyddog.

 

 

 

10.12       30C626  CAIS LLAWN I GODI ANNEDD A MODURDY YNGHYD A CHREU MYNEDFA NEWYDD I GEIR AC I GERDDWYR AR PLOT 22, LÔN FARCHOG, BENLLECH

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl  dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio mai argymhelliad o wrthod oedd yma, cafodd hyn ei gynnig gan y Cynghorydd Arwel Roberts a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd RL Owen.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais am y rhesymau a roddwyd.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

10.13      34LPA850D/DA/CC/ECON  CYNLLUNIAU LLAWN I GODI YSGOL GYNRADD NEWYDD, LLE PARCIO, CAEAU CHWARAE, TYRBIN GWYNT A GWAITH CYSYLLTIEDIG AR DIR GER FFORDD TALWRN, LLANGEFNI

 

 

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno gan iddo gael ei  gyflwyno gan y Cyngor.

 

      

 

     Gan nad oedd sôn am y ganolfan integredig mewn perthynas â’r cais hwn dywedodd y Cynghorydd J Arthur Jones y buasai’n cymryd rhan yn y drafodaeth,  Gofynnodd pam nad oedd unrhyw gyfeiriad at dirlunio, ffiniau ayyb.  Ymatebodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio mai cynllun llawn ynglyn â’r ysgol ei hun oedd hwn.  

 

      

 

     Mynegodd y Cadeirydd gonsyrn nad oedd yn ofynnol i ysgolion newydd ddarparu chwistrellwyr diffodd tân,  Cytuno fod hyn yn ffactor bwysig a ddylai gael ei gymryd i ystyriaeth a wnaeth y Cynghorydd John Chorlton.

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Glyn Jones, dywedodd y swyddog fod y tyrbin wynt  5m mewn uchder a 3.1m ar draws ac y buasai’n creu ynni i’r ysgol.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd John Roberts cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad ag argymhelliad y swyddog o ganiatáu, cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorwyr RL Owen ag Arwel Edwards.

 

      

 

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais am y rhesymau a roddwyd, gydag amodau y manylwyd arnynt yn yr adroddad.  

 

 

 

Ymatal eu pleidlais a wnaeth y Cynghorwyr J Arthur Jones, O Glyn Jones a John Chorlton.

 

      

 

10.14      36C242C  CREU ESTYNIAD I’R CWRTIL YNGHYD Â CHODI YSTAFELL HAUL YN ADLAIS YR ENGAN, LLANGRISTIOLUS

 

 

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno gan fod y cais wedi  ei gyflwyno gan fab i aelod etholedig.

 

      

 

Gan y Cynghorydd Bryan Owen cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais hwn.

 

 

 

Gan y Cynghorydd RL Owen cafwyd cynnig i ganiatáu, cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd    

 

WJ Williams.

 

 

 

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais am y rhesymau a roddwyd, gydag amodau y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.

 

 

 

10.15      37LPA873/CC  ADDASU AC EHANGU 17 BRYN TAWEL, BRYNSIENCYN

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno gan iddo gael  ei gyflwyno gan y Cyngor a’i fod yn effeithio ar dir yn ei feddiant.

 

 

 

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais am y rhesymau a roddwyd, gydag amodau y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.

 

      

 

10.16      39C402A  DYMCHWEL YR ADEILADAU ALLANOL A DWY ANNEDD A CHODI 14 O DAI DEULAWR YN CYNNWYS 4 ANNEDD FFORDDIADWY, CREU MYNEDFA NEWYDD I GEIR AC I GERDDWYR A GORSAF BWMPIO YN FFERM TYDDYN ISAF, PEN LÔN, PORTHAETHWY

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno ar gais yr aelod lleol.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorwyr J Arwel Roberts a J Arthur Jones na fyddent yn pleidleisio ar y cais hwn gan eu bod yn cymryd rhan mewn apêl yn erbyn cais blaenorol ar y safle hon.  Gan Mr JRW Owen o’r Adran Briffyrdd cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth â’r pleidleisio.  

 

      

 

     Cafwyd disgrifiad o’r cais presennol gan y Rheolwr Rheoli Datblygu a ddywedodd for y “cais cyfredol wedi’i ddiwygio rhyw fymryn ac o’r herwydd yn wahanol i hwnnw a wrthodwyd o’r blaen”  fel y manylwyd ar hynny yn yr adroddiad.  

 

      

 

     Teimlai’r Cynghorydd John Roberts nad oedd fawr o newid yn y cais hwn i’r un a wrthodwyd o’r blaen a chynigiodd lynu wrth y penderfyniad.  Gwrthwynebu’r cais blaenorol a wnaeth y Cynghorydd J Arwel Roberts oherwydd y fynedfa a materion priffyrdd, ac i fod yn gyson cynigiodd wrthod y cais.  

 

      

 

     Doedd fawr o newid yn y cais hwn i’r un a wrthodwyd o’r blaen meddai’r Cynghorydd J Meirion Davies a dywedodd y buasai caniatáu’r cais yn ychwanegu at broblem traffig a’r sefyllfa draenio.  Buasai’r Cynghorydd Davies yn fodlon amddiffyn penderfyniad o wrthod mewn apel.

 

      

 

     Yng nghyswllt y cais blaenorol roedd y Cynghorydd Hadley yn cofio am bryderon priffyrdd ac roedd ef hefyd yn pryderu a gofynnodd sut y buasai’n bosib gwella’r fynedfa.  Mewn ymateb dywedodd y Swyddog Rheoli Datblygu (Priffyrdd) y câi mesurau arafu traffig eu cyflwyno a chafwyd cadarnhâd gan y swyddog fod hyn yn dderbyniol ar stad o dai sydd eisoes yn bod.

 

      

 

     Nododd y Cynghorydd John Chorlton y câi’r fynedfa ei diwygio ac o’r herwydd tueddai i gefnogi argymhelliad y swyddog a chafodd ei eilio gan y Cynghorwyr RL Owen a John Byast.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd RL Owen cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog â’r argymhelliad o ganiatáu, cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Glyn Jones.

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

      

 

     Derbyn adroddiad y swyddog i ganiatáu’r cais:  Y Cynghorwyr John Byast, PM Fowlie, Aled Morris Jones, Glyn Jones, RL Owen

 

      

 

     Gwrthod y cais, yn groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, J Arwel Edwards, Denis Hadley

 

      

 

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais am y rhesymau a roddwyd, gydag amodau y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.

 

      

 

      

 

10.17      45C359  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD AR DIR GER REFAIL ISAF,

 

     LLANGAFFO

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno ar gais yr aelod lleol.

 

      

 

     Er bod safle’r cais ar “ffordd ddiogel i’r ysgol” (“safe route for schools”) roedd y tu allan i ffiniau’r pentref, felly derbyniodd y Cynghorydd Peter Rogers adroddiad y swyddog a’i argymhelliad o wrthod.  Cafodd hyn ei gynnig gan y Cynghorydd J Arthur Jones, a’i eilio gan y Cynghorydd John Roberts.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais am y rhesymau a roddwyd.

 

      

 

      

 

11     CEISIADAU A DDIRPRWYWYD

 

      

 

     Cyflwynwyd a derbyniwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Amgylchedd a Gwasanaethau Technegol) ar geisiadau a ddirprwywyd ac y gwnaethpwyd penderfyniad arnynt ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor hwn.  

 

      

 

      

 

      

 

      

 

12     MATERION GYFEIRIWYD YN ÔL

 

      

 

      

 

12.1      19C954  GLASFRYN, FFORDD CYTTIR, CAERGYBI

 

      

 

     Penderfynodd y Pwyllgor hwn yn ei gyfarfod ar 6 Rhagfyr, 2006 wrthod y cais cynllunio uchod, yn groes i argymhelliad y swyddog.  Hysbyswyd swyddogion y byddai  gwrandawiad yn erbyn y penderfyniad hwn yn cymryd lle ar 15 Mai, 2007.

 

      

 

     PENDERFYNWYD enwebu’r Cynghorwyr O Glyn Jones ag Eurfryn Davies i gynrychioli’r Awdurdod mewn apel.

 

      

 

12.2      28C373  TIR YN FFORDD STESION, RHOSNEIGR

 

      

 

     Penderfynodd y Pwyllgor hwn yn ei gyfarfod ar 6 Rhagfyr, 2006 wrthod y cais cynllunio uchod, yn groes i argymhelliad y swyddog.  Hysbyswyd swyddogion y byddai  gwrandawiad yn erbyn y penderfyniad hwn yn cymryd lle ar 22 Mai, 2007.  

 

      

 

     PENDERFYNWYD enwebu’r Cynghorwyr O Glyn Jones a PM Fowlie i gynrychioli’r Awdurdod mewn apel.

 

      

 

      

 

12.3      19C374C  TYDDYN LANTERN, FFORDD TURKEY SHORE, CAERGYBI

 

      

 

     Fe nodwyd fod cais amlinellol ar gyfer defnydd B1, B2 a B8 a ganiatawyd ar 12 Ionawr, 2000 wedi’u dynnu’n ôl ar 18 Rhagfyr, 2006.

 

      

 

      

 

12.4      19C792A  PARC GWLEDIG Y MORGLAWDD, CAERGYBI

 

      

 

     Fe nodwyd fod cais am gynlluniau diwygiedig i newid yr adeilad presennol a oedd gynt yn lety i geidwaid i fod yn hostel ieuenctid hunangynhaliol gyda 24 gwely a ganiatawyd ar 3 Rhagfyr, 2003 wedi ei dynnu’n ôl ar 12 Ionawr, 2007.

 

      

 

      

 

      

 

     EITEM YCHWANEGOL (GYDA CHANIATÂD Y CADEIRYDD)

 

      

 

      

 

      

 

12.5      20C233  CODI 11 O DAI MARCHNAD AGORED AC 8 O DAI FFORDDIADWY AR WAHAN YNGHYD A CHREU MYNEDFA NEWYDD AR DIR GER DERWYDDFA, CEMAES

 

      

 

     Yn ei gyfarfod ar 4 Hydref, 2006 penderfynodd y Pwyllgor hwn ganiatáu’r cais uchod yn amodol ar gwblhau cytundeb dan Adran 106 am 10 ty rhent cymdeithasol fel rhan o’r datblygiad.  Yn dilyn trafodaethau argymhellwyd y dylai’r cytundeb ofyn am 10 o dai i’w gwerthu am bris isel yn hytrach na’r tai fforddiadwy y cytunwyd arnynt.  

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais am y rhesymau a roddwyd.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

13     APELIADAU

 

      

 

     Cyflwynwyd a nodwyd, er gwybodaeth, copi o grynodeb penderfyniad yr Arolygwr a benodwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar y canlynol:

 

      

 

13.1     PLOT 4, STÂD DDIWYDIANNOL, GAERWEN

 

      

 

     Apêl yn erbyn penderfyniad yr Awdurdod hwn i wrthod caniatâd cynllunio i ddatblygu canolfan casglu stoc marw dan gais cynllunio 33C20X/2  a wrthodwyd trwy rybudd dyddiedig 9 Awst, 2006 - caniatawyd yr apêl a rhoddwyd caniatâd cynllunio gydag amodau fel y manylwyd arnynt yn y penderfyniad ffurfiol.

 

      

 

13.2      PEN Y MARIAN, LLANGOED

 

      

 

     Apêl yn erbyn penderfyniad yr Awdurdod hwn i wrthod caniatâd cynllunio am annedd newydd gyda mynediad i gerbydau dan gof: 35C240A hefyd 35C239A a wrthodwyd trwy rybudd ar 25 Mai, 2006   - gwrthodwyd yr apeliadau.

 

      

 

13.3      Y SIALE, DOLFOR, LLANFWROG

 

      

 

     Apêl yn erbyn penderfyniad yr Awdurdod hwn i wrthod caniatâd cynllunio i newid defnydd swyddfa i lety gwyliau dan gofnod 29C21A a wrthodwyd trwy rybudd dyddiedig 3 Awst, 2006.  Caniatawyd yr apêl  a rhoddwyd caniatâd cynllunio gydag amodau fel y manylwyd arnynt yn y penderfyniad ffurfiol.  

 

      

 

14     ADRODDIAD YR ARCHWILIWR AR ADOLYGIAD AR GEISIADAU’N TYNNU’N GROES  I’R CYNLLUN O FEWN Y GWASANAETH RHEOLI CYNLLUNIO 

 

      

 

     Dywedodd y Cadeirydd y cafwyd awdit am y cyfnod Ionawr i Dachwedd, 2006.   Teimlai’r Cynghorydd Arwel Roberts for tri prif fater yn codi o’r adroddiad oedd angen sylw, sef diffiniad treflan a chlystyrau, tai fforddiadwy a phleidleisio.

 

      

 

     Cyfeiriodd y Pennaeth Gwasanaethau Cynllunio at wyth argymhelliad y manylwyd arnynt yn yr adroddiad a’r angen i lunio rhaglen waith a phwysigrwydd cydlynu gyda pholisïau a gweithdrefnau.

 

      

 

     Dywedodd y Deilydd Portffolio Cynllunio fod angen edrych ar y mater yn gadarnhaol a fod yn yr adroddiad wybodaeth werthfawr, ond ychwanegodd fod hen bolisïau yn ychwanegu at y broblem.

 

      

 

     CYTUNWYD i dderbyn yr adroddiad a nodi y byddai seminar yn cael ei threfnu i holl aelodau’r Cyngor.  

 

      

 

      

 

      

 

     Dechreuodd y cyfarfod am 1.00 p.m. a daeth i ben 3.40 p.m.       

 

      

 

      

 

      

 

     J ARWEL ROBERTS

 

     CADEIRYDD