Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion dogfennau , 7 Mawrth 2007

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Dydd Mercher, 7fed Mawrth, 2007

PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION

 

 

Cofnodion cyfarfod gafwyd ar 7 March, 2007

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd J Arwel Roberts - Cadeirydd

Y Cynghorydd Denis Hadley - Is-Gadeirydd

 

Y Cynhghorwyr John Chorlton, Eurfryn Davies, Arwel Edwards,

PM Fowlie, J Arthur Jones, O Glyn Jones, RL Owen, John Roberts,

WJ Williams MBE

 

 

 

WRTH LAW:

 

Cynllunio:

Pennaeth Rheoli Datblygu (EGJ)

Rheolwr Rheoli Datblygu (DFJ)

Arweinydd Tim (DPJ)

Cynorthwywr Cynllunio (KS)

 

Priffyrdd:

Uwch Beiriannydd (Rheoli Datblygu a Hawliau Tamwy)(JRWO)  

Swyddog Rheoli Datblygu (Priffyrdd) (RE)  

 

Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol (RWJ)

Cynorthwywr Gweinyddol (CWP)

 

YMDDIHEURIADAU:

 

 

Y Cynghorwyr Aled Morris Jones, John Rowlands

HEFYD YN BRESENNOL:

 

Aelodau Lleol: Y Cynghorwyr Peter Dunning eitem 6.9,

Fflur Hughes eitem 10.12, WI Hughes eitem 10.3, Eric Jones eitemau 10.9, 10.10, 10.11, H Eifion Jones  eitem 6.8, DA Lewis-Roberts eitemau 6.7, 9.2, Tecwyn Roberts eitem 6.6

 

Hefin Thomas (Deilydd Portffolio - Cynllunio) ac aelod lleol ar gyfer

eitem 6.5

 

 

1

YMDDIHEURIADAU

 

Nodwyd ymddiheuriadau am absenoldeb fel a nodwyd uchod.

 

2

DATGANIAD O DDIDDORDEB

   

Derbyniwyd datganiadau o ddiddordeb fel y cawsant eu cofnodi dan yr eitemau perthnasol.

 

3

COFNODION

 

Cadarnhawyd a llofnodwyd cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gafwyd ar 

7 Chwefror, 2007 (tud ) gyda’r cywiriad a ganlyn:

 

 

eitem 10.16 - 39C402A  Fferm Tyddyn Isaf Farm, Porthaethwy dylai’r ail baragraff ddarllen mai’r Cynghorwyr J Arwel Roberts a John Roberts ddywedodd na fyddent yn pleidleisio ar y cais gan eu bod yn cymryd rhan mewn apel ar gais blaenorol ar y safle hon.  Nodwyd na chymerodd y Cynghorydd J Arthur Jones ran yn y drafodaeth ar y cais.

 

 

 

4

YMWELIADAU Â SAFLEOEDD CYNLLUNIO

 

 

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd adroddiad ar yr Ymweliadau â Safleoedd Cynllunio gafwyd ar 7 Chwefror, 2007.

 

5

CEISIADAU A OHIRIWYD

 

 

 

5.1

CAIS YN TYNNU’N GROES

 

 

 

12C66G  DYMCHWEL YR ADEILAD PRESENNOL YNGHYD Â CHODI PUM ANNEDD, CAFFI, PAFILIWN AC AILWAMPIO SAFLE’R HEN BWLL NOFIO, BIWMARES

 

 

 

Penderfynwyd ymweld â’r safle yn y cyfarfod ar 5 Gorffennaf, ac fe wnaed hynny ar 12 Gorffennaf, 2006. Gofynnodd y swyddog am ohiriad pellach ar gais CADW.

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais am y rheswm a roddwyd.

 

 

 

5.2

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

12C340AC/A  CANIATÂD ARDAL CADWRAETH AR GYFER DYMCHWEL ADEILADAU Y CYN DDEPO A MODURDAI’R CYN DDEPO’R CYNGOR, BIWMARES

 

 

 

Penderfynwyd ymweld â’r safle yn y cyfarfod ar 7 Chwefror, ac fe wnaed hynny ar 21 Chwefror, 2007.  Gofynnodd y swyddog am ohiriad pellach er mwyn cwblhau trafodaethau priffyrdd ac ystyriaethau mynedfa.

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais am y rheswm a roddwyd.

 

 

 

5.3

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

12C340C  CODI 3 EIDDO TERAS A PHÂR O DAI PÂR A DYMCHWEL YR ADEILADAU PRESENNOL YN HEN DDEPO'R CYNGOR, BIWMARES

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais am y rheswm a roddwyd yn eitem 5.2 uchod.

 

 

 

5.4

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

12C340D/CA  CAIS I DORRI COED MEWN ARDAL CADWRAETH YN Y CYN DDEPO, BIWMARES

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais am y rheswm a roddwyd yn eitem 5.2 uchod.

 

 

 

5.5

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

39C254B  CAIS AMLINELLOL I GODI PEDAIR ANNEDD YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GEIR YN HAFOD WERN, PORTHAETHWY

 

 

 

 

 

Penderfynwyd ymweld â’r safle yn y cyfarfod ar 6 Medi, ac fe wnaed hynny  ar 20 Medi, 2006. Gofynnodd y swyddog am ohiriad pellach er mwyn cwblhau trafodaethau ar y cynlluniau diwygiedig.

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais am y rheswm a roddwyd.  

 

 

 

5.6

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

49LPA868/CC  CAIS AR GYFER DARPARU OFFER NEWYDD I DRIN CARTHION YN LLE’R UN PRESENNOL YNGHYD Â GOSOD ARLLWYSFA NEWYDD I WASANAETHU SAITH ANNEDD AR DIR Y TU CEFN I 1 TAI CYNGOR & BRYN REFAIL, LLANYNGHENEDL

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno gan ei fod yn cael ei gyflwyno ar ran y Cyngor. Penderfynwyd caniatáu’r cais hwn ar 6 Medi yn amodol ar gwblhau gwaith ymgynghori yn foddhaol.  Cyfeiriwyd y cais yn ôl i’r Pwyllgor yn wyneb materion a godwyd yn ystod yr ymgynghori a gofynnodd y swyddog am ohiriad pellach er mwyn cwblhau’r broses ymgynghori.

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais am y rheswm a roddwyd.

 

6

CEISIADAU’N CODI

 

 

 

 

 

6.1

11C459A  CAIS AMLINELLOL I GODI 14 ANNEDD FFORDDIADWY YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GEIR AC I GERDDWYR AR DIR SAITH MOR, AMLWCH 

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl  dymuniad yr aelod lleol. Penderfynwyd ymweld â’r safle yn y cyfarfod ar 7 Chwefror, ac fe wnaed hynny ar 21 Chwefror, 2007.

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod yr Adain Ddraenio yn argymell caniatâd amodol ar y ddarpariaeth traenio diwygiedig.  Argymhelliad o wrthod oedd yma am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.

 

 

 

Gan y Cynghorydd J Arthur Jones cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a’r argymhelliad o wrthod, cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd John Roberts.

 

 

 

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.

 

 

 

6.2

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

12C193U/EIA  CAIS AMLINELLOL I GODI 10 UNED GWYLIAU, FFORDD FYNEDFA, PARCIO A SYSTEM TRIN CARTHFFOSIAETH PREIFAT AR DIR GER FFERMDY HENLLYS HALL, BIWMARES

 

 

 

Gan y Cynghorydd J Arthur Jones cafwyd datganiad o ddiddordeb a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r pleidleisio.

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl  dymuniad yr aelod lleol.

 

 

 

Ar ôl cyhoeddi’r adroddiad daeth dau lythyr ychwanegol i law a dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu nad oedd y rhain yn codi unrhyw fater newydd. I bwrpas cofnod, ar y 7fed tudalen o adroddiad y swyddog dan y pennawd “Y Tirwedd ac Effaith Weledol” ni fyddai’r unedau gwyliau yn fwy na 102 medr sgwar ac nid 100 medr sgwar fel a nodwyd yn yr adroddiad.  Dan bwynt 9 “Argymhelliad” awgrymodd y swyddog ddileu’r bwriad i gynnwys amod - “3. Bydd y lletya gwyliau yma bob amser yn cael eu cadw fel un uned ac ni fyddant, byth, yn cael eu gwerthu fel unedau ar wahân nac yn cael eu prydlesu ar wahân nac yn cael eu trosglwyddo fel unedau ar wahân mewn unrhyw fodd.”  a chynnwys amod arall fyddai’n cyfyngu defnydd mewn unrhyw flwyddyn galendr.  Yr argymhelliad oedd un o ganiatáu, gydag Amod 106 (cyfnod defnydd) fel y manylwyd yn yr adroddiad.

 

 

 

Dygodd y Cynghorydd RL Owen sylw at y ffaith y byddai dwr wyneb a gorlif o’r traen cerrig yn llifo i'r gwaith trin carthffosaieth yn gwaethygu gorlif i gyfeiriad Llanfaes, dylai’r coed hefyd gael eu diogelu.   Petai’r cais yn cael ei ganiatáu, dylai unrhyw ddatblygiad fod yn gydnaws gyda’r hyn sydd ar y safle yn barod.

 

 

 

Gofynnodd y Cynghorydd John Chorlton a oedd hi’n arferiad safonol cyfyngu cyfnod defnydd.

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod y cais wedi derbyn ystyriaeth ofalus â phob agwedd o’r bwriad wedi ei asesu’n fanwl gan gynnwys ei effaith yn y cefn gwlad, roedd cyfanswm yr unedau wedi gostwng o 15 i 10.  Cymerwyd polisiau a chanllawiau lleol a chenedlaethol i ystyriaeth.  Cyfeiriodd y swyddog yr aelodau at y ddarpariaeth ar gyfer trefniadau carthffosiaeth fel y manylir arnynt yn yr adroddiad. Roedd ymgynghorwyr statudol yn fodlon gyda’r bwriad a byddai’r coed yn cael eu diogelu trwy amod.  Roedd amodau yn cael eu teilwrio i siwtio achosion unigol yn dibynnu ar y math o ddatblygiad ac ar bolisïau a chyfarwyddyd oedd yn esblygu.

 

 

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd RL Owen cadarnhaodd yr Uwch Beiriannydd Priffyrdd eu bod yn fodlon â’r gwelliannau sydd wedi eu gwneud yn barod i’r ffordd ynghyd a gwelliannau pellach a fwriedir ac a fanylwyd arnynt yn yr adroddiad.  

 

 

 

Gan y Cynghorydd John Roberts cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais, cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd John Chorlton.

 

 

 

Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

 

 

Derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais:  Y Cynghorwyr John Chorlton, Arwel Edwards, PM Fowlie, Denis Hadley, O Glyn Jones, Arwel Roberts, John Roberts, WJ Williams MBE

 

 

 

Gwrthwynebu’r cais a wnaeth y Cynghorydd RL Owen.  Ni chymerodd y Cynghorydd Eurfryn Davies ran yn y drafodaeth na phleidleisio.

 

 

 

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a’r argymhelliad fel y’i diwygiwyd a chaniatáu’r cais am y rhesymau a roddwyd yn unol a’r amodau y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.  

 

 

 

6.3

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

19LPA89M/CC  CODI FFENS TERFYN GALFANEDIG A GIATIAU 2m O UCHDER YN YSGOL UWCHRADD, CAERGYBI

 

 

 

Gan y Cynghorydd Denis Hadley cafwyd datganiad o ddiddordeb a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth â’r pleidleisio.  

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno gan fod y cais wedi  ei  gyflwyno gan y Cyngor.  Penderfynodd y Pwyllgor yn ei gyfarfod mis Chwefror i roddi awdurdod i Bennaeth y Gwasanaethau Cynllunio i ganiatáu’r cais ar yr amod nad oedd cynrychiolaeth i’r gwrthwyneb yn cael ei dderbyn yn ystod gweddill y cyfnod ymgynghori.  Daeth dau lythyr o wrthwynebiad i  law mewn ymateb i ymgynghori â chymdogion ac, wedi cymryd rhain i ystyriaeth, roedd yr argymhelliad yn parhau i fod yn un o ganiatáu.

 

 

 

Gan y Cynghorydd John Chorlton cafwyd cynnig o ganiatáu a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd PM Fowlie.

 

 

 

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais am y rhesymau a roddwyd, gydag amodau y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.

 

 

 

6.4

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

19LPA89N/CC  CODI ESTYNIAD 1m I’R FFENS 3m PRESENNOL AM 10m YNGHYD A CHODI FFENS 3m O UCHDER YN YSGOL UWCHRADD, CAERGYBI

 

 

 

Gan y Cynghorydd Denis Hadley cafwyd datganiad o ddiddordeb a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth â’r pleidleisio.  

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno gan fod y cais wedi  ei  gyflwyno gan y Cyngor.  Penderfynodd y Pwyllgor yn ei gyfarfod mis Chwefror i roddi awdurdod i Bennaeth y Gwasanaethau Cynllunio i ganiatáu’r cais ar yr amod nad oedd cynrychiolaeth i’r gwrthwyneb yn cael ei dderbyn yn ystod gweddill y cyfnod ymgynghori.  Daeth dau lythyr o wrthwynebiad i law mewn ymateb i ymgynghori â chymdogion ac, wedi cymryd rhain i ystyriaeth, roedd yr argymhelliad yn parhau i fod yn un o ganiatáu.

 

 

 

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais am y rhesymau a roddwyd, gydag amodau y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.

 

 

 

 

 

6.5

CAIS YN TYNNU’N GROES

 

 

 

22C182A  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD, GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD AC ADDASU’R FYNEDFA BRESENNOL AR GAE O.S.2376,  TY DU, LLANDDONA

 

 

 

Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl  dymuniad yr aelod lleol.  Yn y cyfarfod blaenorol cytunwyd i ymweld â’r safle ar gais yr aelod lleol ac fe gafwyd hyn ar 21 Chwefror, 2007.

 

 

 

Tra’n derbyn fod y safle y tu allan i’r pentre, honai’r Cynghorydd Hefin Thomas y byddai’r bwriad yn mewnlenwi - roedd y safle wedi ei amgylchynu gyda bynglo, ty, ffermdy ac adeiladau allanol ynghyd a mast teledu ac offer cysylltiol. Cwpl ifanc lleol oedd yr ymgeiswyr a oedd yn cynnig gwelliannau diogelwch ffordd, gofynnodd am gefnogaeth ffafriol i’r cais hwn.  

 

 

 

Gwelai’r Cynghorydd John Chorlton fod y cais yn un rhesymol.  Tra roedd y cais yn groes i bolisïau, a'r safle y tu allan i ffin y pentref, nid oedd yn safle ar ei ben ei hun ac roedd yn esiampl o fewnlenwi.  

 

 

 

Gofynnodd y Cynghorydd John Roberts farn y swyddogion ar addasu adeiladau allanol.  Roedd yr adeiladau allanol ym mherchnogaeth y teulu, ond ddim ym mherchnogaeth yr ymgeiwyr eu hunain meddai’r Cynghorydd Hefin Thomas.

 

 

 

Roedd yma argymhelliad cryf o wrthod y cais ar safle oedd mewn AHNE, yn y cefn gwlad ac yn hollol groes i bolisiau meddai’r Rheolwr Rheoli Datblygu, doedd dim modd ystyried hwn yn fewnlenwi sensitif.  Dywedai’r ymgeiswyr eu hunain mai’r bwriad fuasai gosod y bwriad fel llety gwyliau.  Doedd dim angen adeiladu ty er mwyn gwella diogelwch y ffordd.

 

 

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Hefin Thomas’ dywedodd y swyddog nad oedd gwrthwynebiad wedi ei dderbyn i’r bwriad.

 

 

 

Tueddu i gefnogi safiad y swyddogion na fuasai hwn yn fewnlenwi sensitif wnaeth y Cynghorydd J Arthur Jones.  Cytuno a hyn wnaeth y Cynghorydd Eurfryn Davies a chynigiodd dderbyn adroddiad y swyddog a’i argymhelliad o wrthod, cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Arwel Roberts.

 

    

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

 

 

     Derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais:  Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, Arwel Edwards, PM Fowlie, Denis Hadley, J Arthur Jones, O Glyn Jones, Arwel Roberts, John Roberts,   WJ Williams MBE

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais am y rhesymau a roddwyd.  

 

      

 

      

 

6.6     GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     30C385B  DYMCHWEL Y GWESTY PRESENNOL, CODI ADEILAD 3 LLAWR YN CYNNWYS 21 O FFLATIAU PRYNU I OSOD, PWLL NOFIO DAN DO YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GERBYDAU, ADDASU’R FYNEDFA I GERBYDAU A’R GARTHFFOSIAETH YN LLIFO I’R GARTHFOS GYHOEDDUS YNG NGWESTY BRYN TIRION, TRAETH COCH  

 

      

 

     Gan y Cynghorwyr J Arthur Jones a  Hefin Thomas cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais a gadawsant y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r pleidleisio.  Dymunai’r Cynghorydd Hefin Thomas ei gwneud yn wybyddus ei fod ef wedi ei gynghori i ddatgan diddordeb tra bo’r Ombwdsmon yn ystyried cwyn gan aelod etholedig.

 

      

 

      

 

     Penderfynwyd ymweld â’r safle yn y cyfarfod ar 5 Gorffennaf, ac fe wnaed hynny  ar 12 Gorffennaf, 2006; cafwyd gohiriad yn y cyfamser er mwyn cwblhau trafodaethau eang.  Gohiriwyd ystyried y cais ar 10 Ionawr, 2007 i alluogi swyddogion drafod darpariaeth am lefydd parcio ychwanegol ar y safle.  

 

      

 

     Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu mewn ymateb i bryderon ynglyn â'r fynedfa a'r ddarpariaeth parcio ar gyfer jetsgis, cychod ac yn y blaen, roedd yr ymgeiswyr wedi cyflwyno cynlluniau diwygiedig i symud y fynedfa yn nes i ffwrdd o'r groeslon, a byddai amodau'n cael eu gosod i rwystro parcio ar y safle, ac roedd y newidiadau hyn yn amodol ar drafodaethau oedd yn parhau.  Gofynnodd y swyddog - ar ddiwedd y cyfnod ymgynghori ac yn amodol ar wneud cytundeb o dan Adran 106 yn ymwneud â deiliadaeth fel y manylir arno yn yr adroddiad, fod awdurdod yn cael ei roddi i Bennaeth y Gwasanaethau Cynllunio i ganiatáu'r cais yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor.

 

      

 

     Cafwyd ymateb manwl gan y Cynghorydd Tecwyn Roberts i’r adroddiad.  Er i’r cynnig gael ei ddiwygio sawl gwaith, roedd yn teimlo bod troedbrint y lle yn parhau'n rhy fawr.  Drwy ostwng maint cyffredinol y datblygiad a'i leoli ymhellach i'r de ddwyrain ar y safle, byddai'n gwneud mwy o le parcio ar gyfer storio cychod ac yn y blaen.  Roedd y Cynghorydd Roberts yn argymell gwrthod y cais.  

 

      

 

     Gan y Cynghorydd J Arwel Roberts cafwyd cynnig i ohirio penderfynu ar y cais tan fo’r cyfnod ymgynghori wedi dod i ben, cafod hyn ei eilio gan y Cynghorydd WJ Williams.

 

      

 

     PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais am y rheswm a roddwyd.

 

      

 

6.7     GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     30C621  CAIS LLAWN AR GYFER DATBLYGIAD PRESWYL YN CYNNWYS 31 O ANHEDDAU YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GEIR AC I GERDDWYR AR DIR YN LÔN PANT Y CUDYN, BENLLECH

 

      

 

     Penderfynwyd ymweld â’r safle yn y cyfarfod ar 4 Hydref, ac fe wnaed hynny ar 18 Hydref, 2006.  Yn y cyfamser cafodd y cais ei ohirio er mwyn cwblhau’r ymgynghori.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio ei bod yn cael ei dderbyn fod y cais hwn yn un oedd yn tynnu'n groes oddi wrth Gynllun Lleol Ynys Môn, ond un oedd yn cael ei gefnogi gan y Cyngor o dan y CDU a Stopiwyd.  Roedd angen mwy o amodau priffyrdd.  Dywedodd y swyddog fod y cyngor cymuned lleol yn gofyn am i'r cais hwn gael ei ohirio gan nad oedd gwaith ymgynghori wedi'i wneud gyda'r Cyngor Cymuned ar y datganiad dyluniad ac nad oedd asesiad priffyrdd wedi'i wneud chwaith - roedd tystiolaeth fod ymgynghori wedi'i wneud gyda'r Cyngor Cymuned ac i asesiad effaith traffig gael ei gynnal.  Yr argymhelliad felly oedd un o ganiatáu'r cais.

 

      

 

     Darllennodd y Cynghorydd D Lewis-Roberts ymateb manwl i bryderon y trigolion lleol yn ymwneud ag arllwys i mewn i'r cwrs dwr a byddai hyn yn gwaethygu'r problemau llifogydd presennol a gafwyd yn is i lawr yn y pentref.  Cyfeiriodd at y ddeiseb gyda mwy na 700 wedi'u harwyddo yn gwrthwynebu'r cynnig, ac felly roedd 90% o'r boblogaeth leol yn gwrthwynebu, a byddai byngalos yn fwy derbyniol na thai.  Roedd y Cynghorydd Lewis-Roberts yn argymell gwrthod.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd R L Owen yn cofio fod y tir yn wlyb mewn un rhan o'r safle.  Roedd y Cynghorydd Eurfryn Davies hefyd yn cofio fod y gwelededd yn wael iawn yn y fyndfa arfaethedig a hynny ar ben gallt.

 

      

 

     Dywedodd y Prif Beiriannydd Priffyrdd fod yr Adran Briffyrdd yn fodlon gyda’r cynigion ac y byddai  amodau’n cael eu gosod fyddai'n sicrhau fod digon o welededd yn y fynedfa.  

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd J Arthur Jones, dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod y cais yn un oedd yn groes i Gynllun Fframwaith Gwynedd a Chynllun Lleol Ynys Môn, ond yn gais oedd yn unol â'r CDU a stopiwyd gyda'r safle ei hun wedi ei glustnodi ar gyfer datblygu a'i dderbyn gan yr Arolygwr yn ystod yr ymchwiliad ar y CDU.

 

      

 

     Cynigiodd y Cynghorydd R L Owen fod y cais yn cael ei wrthod gan ei fod yn gweld darpariaeth ar gyfer arllwys a chael gwared o ddwr wyneb yn anfoddhaol - byddai'r sefyllfa yn cael ei gwaethygu pe bai'r datblygiad yn mynd yn ei flaen, ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd J Arthur Jones oedd yn teimlo y dylid rhoddi mwy o bwysau i Gynllun Lleol Ynys Môn.  Byddai'r Cynghorydd J Arthur Jones yn hapusach i gefnogi bod tai fforddiadwy ar y safle, ac roedd y Cynghorydd Eurfryn Davies yn gweld bod y gwelededd o'r fynedfa a'r dop yr allt yn annerbyniol.  

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio ei bod yn ffactor bwysig nad oedd yr ymgynghorwyr statudol wedi datgan unrhyw wrthwynebiad, ac y byddai'r cynnig hefyd yn mynd beth o'r ffordd tuag at ateb galw lleol am dai.  Byddai'n anodd amddiffyn penderfyniad i wrthod y cais.  

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

      

 

     Gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr John Chorlton, Eurfryn Davies, Arwel Edwards, D Hadley, J Arthur Jones, RL Owen, John Roberts, WJ Williams MBE

 

      

 

     Ymatal ei bleidlais a wnaeth y Cynghorydd PM Fowlie.

 

      

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio’n otomatig i’r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros wrthod y cais.   

 

      

 

      

 

6.8     CAIS YN TYNNU’N GROES

 

      

 

     37C156  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD YNGHYD A CHREU MYNEDFA NEWYDD AR DIR GER YSGOL GYNRADD, BRYNSIENCYN

 

      

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl  dymuniad yr aelod lleol.  Gohiriwyd ystyried y cais yn y cyfarfod diwethaf ar gais yr aelod lleol.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Eifion Jones fod y cyngor cymuned lleol yn cefnogi’r cais hwn oedd ar derfyn y pentref a drws nesaf i’r ysgol gynradd leol;  buasai’n croesawu’r par ifanc a’u plentyn yn ôl i’r pentref.  Gofynnodd y Cynghorydd Jones am i’r Pwyllgor ystyried y cais yn ofalus ac am gefnogaeth ffafriol, buasai hefyd yn croesawu ymweliad a’r safle.

 

      

 

     Roedd y safle tu allan i’r ffin datblygu meddai’r Rheolwr Rheoli Cynllunio, ac yn tynnu’n groes i Gynllun Lleol Ynys Mon a hefyd i’r CDU a stopiwyd, argymhelliad o wrthod oedd yma.  

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Glyn Jones dywedodd y swyddog nad oedd y cais yn cydymffurfio a Pholisi 50.

 

      

 

     Tynnodd y Cynghorydd J Arthur Jones sylw at y ffaith fod swyddogion yn argymell caniatáu'r cais oedd yn tynnu'n groes i adeiladu 31 o dai yn Benllech (eitem 6.7 o’r cofnodion hyn) ac yn  argymell gwrthod cais am un annedd oedd yn tynnu’n groes ar y safle hwn, ond er hynny roedd y Cynghorydd Jones yn derbyn nad oedd hwn wedi'i gyflwyno fel cais am dy fforddiadwy.

 

      

 

     Nododd y Cynghorydd John Chorlton oddi ar y taflunydd fod annedd arall ymhellach draw o’r pentref.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd J Arwel Roberts cafwyd cynnig derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd John Roberts.

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:  

 

      

 

      

 

      

 

     Derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais:  Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, Arwel Edwards, PM Fowlie, Denis Hadley, J Arthur Jones, O Glyn Jones, RL Owen, Arwel Roberts, John Roberts

 

      

 

     Doedd dim pleidlais i’r gwrthwyneb.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais am y rhesymau a roddwyd.  

 

      

 

6.9     CAIS YN TYNNU’N GROES

 

      

 

     43C89A  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD YNGHYD Â GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD AR DIR CERRIG MOELION, RHOSCOLYN

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl  dymuniad yr aelod lleol. Ar 7 Chwefror penderfynwyd i ymweld â’r safle ac fe gafwyd hyn ar 21 Chwefror, 2007.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Peter Dunning nad oedd Rhoscolyn wedi'i nodi fel hamled a'i fod, o ran natur, yn le gyda thai yma ac acw a'r mwyafrif ohonynt wedi'i prynu fel cartrefi gwyliau.  Roedd ceffylau'r ymgeisydd yn pori ar y tir garw, ac ni fyddai annedd ond yn cael effaith fychan iawn ar y tirlun.  Roedd ym mwriad yr ymgeisydd i adeiladu ty hir Cymreig traddodiadol fyddai'n gweddu â chymeriad yr ardal, ac a fyddai hefyd yn darparu cartref i'w fam yng nghyfraith a thrwy hynny yn rhyddhau dau o dai.  Roedd yr ymgeiswyr yn barod i wneud popeth o fewn eu gallu o fewn eu tir i wella'r fynedfa.

 

      

 

     Oherwydd natur wasgarog y tai yn yr ardal, roedd y Cynghorydd Glyn Jones am gynnig caniatau.  Yn ôl y Cynghorydd John Chorlton roedd y safle o fewn  100/150 llath i'r ysgol gynradd leol, a byddai caniatau'r cais hwn mewn gwirionedd yn lleihau'r traffig gan fod yr ymgeiswyr yn teithio i fwydo'r ceffylau ddwywaith y diwrnod.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd J Arthur Jones am atgoffa'r aelodau o gais rhif 6.8 yn y cofnodion hyn a wrthodwyd gyda'r safle yn union gyfagos i'r ffin ddatblygu, ond roedd yn teimlo y dylid adolygu'r polisiau fel mater o frys.

 

      

 

     Cytuno wnaeth y Cynghorydd RL Owen mai ardal o dai gwasgarog oedd yma a theimlai y byddai caniatau'r cais hwn yn gostwng swm y traffig ac felly byddai'n atal ei bleidlais.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd John Roberts cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Arwel Edwards.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd John Chorlton cafwyd cynnig i ganiatáu a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Glyn Jones.

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

      

 

     Caniatáu’r cais yn groes i argymhelliad y swyddog:  Y Cynghorwyr John Chorlton, PM Fowlie, O Glyn Jones

 

      

 

     Derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais:  Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, Arwel Edwards,  J Arthur Jones, Arwel Roberts, John Roberts, WJ Williams MBE

 

      

 

     Ymatal ei bleidlais a wnaeth y Cynghorydd D Hadley.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais am y rhesymau a roddwyd.  

 

      

 

7     CEISIADAU ECONOMAIDD:

 

      

 

     Doedd dim ceisiadau economaidd i’w hystyried yn y cyfarfod hwn.

 

 

 

8

CEISIADAU AM DAI FFORDDIADWY:

 

      

 

     Doedd dim ceisiadau am dai fforddiadwy i’w hystyried yn y cyfarfod hwn.

 

      

 

9

CEISIADAU’N TYNNU’N GROES

 

      

 

9.1     28C278E  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD YNGHYD A GOSOD TANC SEPTIC AR DIR TY CARADEN, CAE’R NANT, TY CROES

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl  dymuniad yr aelod lleol.

 

      

 

     Cyfeiriodd y Rheolwr Rheoli Datblygu at lythyr ychwanegol oddi wrth yr ymgeisydd a hefyd llythyrau o wrthwynebiad oedd gerbron y cyfarfod.  

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Glyn Jones bod y teulu lleol hwn yn byw mewn carafan barhaol ar hyn o bryd a'u bod yn dymuno aros yn y gymuned, fod ganddynt blentyn ifanc ac y byddent yn cefnogi'r ysgol leol.  Cadarnhaodd y Cynghorydd  Jones fod yr ymgeiswyr wedi cael caniatâd i addasu adeiladau allanol, ond fod amgylchiadau personol wedi'u gorfodi i werthu y rhain a thy arall yn y Fali.  Roedd yr ymgeiswyr yn barod i dirlunio'r safle.  Roedd y Cynghorydd Jones yn gofyn am i'r Pwyllgor gefnogi'r cais.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod y cais hwn yn groes i bolisïau, ei fod 200m y tu allan i ffin ddatblygu Bryn Du a'i fod yn y cefn gwlad.  

 

      

 

     Gan y Cynghorydd J Arthur Jones cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a’i argymhelliad o wrthod a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd John Roberts.

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:

 

      

 

     Derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais:  Y Cynghorwyr Eurfryn Davies, Arwel Edwards, Denis Hadley, J Arthur Jones, RL Owen, Arwel Roberts, John Roberts

 

      

 

     Doedd dim pleidlais i’r gwrthwyneb.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais am y rhesymau a roddwyd.  

 

      

 

9.2     30C629  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD YNGHYD AG ADDASU’R FYNEDFA BRESENNOL A GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD AR DIR GER TAN Y MARIAN, BRYNTEG

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl  dymuniad yr aelod lleol.  

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd D Lewis-Roberts fod y dyn ifanc lleol hwn wedi bod yn y Fyddin

 

     am bedair blynedd a bod ganddo blentyn un oed; roedd yr ymgeisydd yn weithiwr amaethyddol ac roedd hefyd yn gweithio tu ôl i'r bar yn y dafarn lleol.  Roedd yr ymgeisydd wedi methu â chael ty Cyngor ac roedd ei dad wedi rhoddi tir iddo adeiladu cartref iddo’i hun; ymhellach roedd yr ymgeisydd yn barod i roddi stripyn o dir 28m x 3m i'r Cyngor er mwyn lledu'r briffordd a darparu llain gwelededd. Roedd y Cynghorydd Lewis-Roberts yn teimlo bod hwn yn fewnlenwi.  

 

      

 

     Gan nad oedd y safle yn y cefn gwlad, teimlai’r Cynghorydd  WJ Williams y byddai ymweliad safle yn briodol.

 

      

 

     Darllenodd y swyddog ddiffiniad o ‘fewnlenwi’ mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd John Roberts ac ymhelaethodd nad oedd y safle o fewn clwstwr cydnabyddedig.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â’r safle i asesu’r sefyllfa.

 

      

 

      

 

      

 

10      GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

10.1      12C4B/3  ADDASU AC EHANGU 2 CAE MAIR, BIWMARES

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl  dymuniad yr aelod lleol.  

 

      

 

     Gan y Cynghorydd RL Owen cafwyd cynnig i ymweld â’r safle a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Glyn Jones.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â’r safle ar gais yr aelod lleol.

 

      

 

10.2      12C99C  CODI ANECS NEWYDD YN LLE’R ANECS SYDD WEDI EI GANIATÁU YN FLAENOROL O DAN GANIATÂD CYNLLUNIO RHIF 12C99B YN 44 STRYD YR EGLWYS, BIWMARES

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl  dymuniad yr aelod lleol.  

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd J Arthur Jones y buasai ef yn datgan diddordeb mewn ceisiadau wedi’u cyflwyno gan Best Value UK, ond ei fod wedi derbyn caniatâd gan y Pwyllgor Safonau i drafod y ceisiadau hyn.  

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd RL Owen fod strwythur gwreiddiol yr adeilad wedi ei ddymchwel tra’n addasu’r hen danerdy.  Roedd y cais presennol yn ymestyn y troedbrint a ganiatawyd.  

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod y safle o fewn y ffin ddatblygu, roedd y gorffeniad allanol yn dderbyniol o fewn yr ardal cadwraeth.  Roedd pob agwedd o’r cais wedi ei ymchwilio'n drwyadl ac ymgynghorwyd yn helaeth gyda chyrff statudol, ac roedd y swyddog am sicrhau'r aelodau fod y cynnig yn un oedd yn dderbyniol.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd RL Owen cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais.  

 

      

 

Yn unfrydol PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais am y rhesymau a roddwyd yn unol a’r amodau y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.  

 

      

 

10.3      14LPA876/CC  CREU MYNEDFA NEWYDD I GEIR YN 2 MAES TWROG, GLANRAFON

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno gan ei fod wedi ei gyflwyno gan y Cyngor.  

 

      

 

     Gwelai’r Cynghorydd WI Hughes y cais hwn yn dderbyniol.

 

      

 

     I bwrpas cofnod, ni chymerodd y Cynghorydd John Chorlton unrhyw ran yn y drafodaeth na phleidleisio ar y cais.  

 

      

 

     Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd J Arthur Jones dywedodd Rheolwr Rheoli Datblygu Priffyrdd fod yma nifer o fynedfeydd yn y cyffiniau ac, wedi pwyso a mesur, buasai’n anodd gwrthod y cais.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Glyn Jones cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a’r argymhelliad o ganiatáu.  

 

      

 

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais am y rhesymau a roddwyd yn unol â’r amodau y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.  

 

      

 

10.4      15C35D  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD YNGHYD A GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD AR RAN O GAE RHIF 1328, LLANGADWALADR

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu na wnaeth yr aelod lleol alw’r cais hwn i’r pwyllgor benderfynu arno, yn groes i’r hyn ddywedwyd yn yr adroddiad.  

 

      

 

     Gan y Cynghorydd PM Fowlie cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a’r argymhelliad o wrthod a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd J Arthur Jones.

 

      

 

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.  

 

      

 

10.5      17C403  CAIS I GADW ESTYNIAD I ADEILAD AMAETHYDDOL YN BRYN ERYR UCHAF, LLANSADWRN

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl  dymuniad yr aelod lleol.  

 

      

 

     I bwrpas cofnod, dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod llythyr o wrthwynebiad yn gofyn am ymweliad â’r safle i law.  

 

      

 

     Teimlai’r Cynghorydd Eurfryn Davies y byddai’n briodol ymweld â’r safle oherwydd agosatrwydd y bwriad i dai.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â’r safle ar gais yr aelod lleol.  

 

 

 

10.6 19C981  CAIS AMLINELLOL AR GYFER DATBLYGIAD TRIGIANNOL AR DIR GER YSGOL                   FARCHOGAETH GORS WEN, FFORDD Y PLAS, CAERGYBI

 

      

 

Nodwyd fod y cais hwn wedi ei dynnu’n ôl.

 

      

 

10.7      24C247B  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD A MODURDY PREIFAT AR RAN O GAE O.S. 7250, GER MAES Y GROES, NEBO

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl  dymuniad yr aelod lleol oedd yn gofyn am ohiriad yn ei absenoldeb.  

 

      

 

     PENDERFYNWYD gohirio’r cais am y rheswm a roddwyd.

 

 

 

10.8      30C279B  ADDASU AC EHANGU MIN Y FFRWD COTTAGE, BRYNTEG

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno gan fod yr ymgeisydd yn perthyn i aelod etholedig.  Gan y Cynghorydd Elwyn Schofield cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais hwn.  

 

      

 

     Gan y Cynghorydd J Arthur Jones cafwyd cynnig i ganiatáu a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Eurfryn Davies.

 

      

 

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais am y rhesymau a roddwyd yn unol â’r amodau y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.

 

      

 

10.9      33C87E  CAIS LLAWN I GODI 27 O ANHEDDAU AR DIR YN GAERWEN UCHAF, GAERWEN

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl  dymuniad yr aelod lleol.   

 

      

 

     Mynegwyd consyrn gan y Cynghorydd Eric Jones ei bod yn anodd i gerddwyr gerdded i'r chwith o'r fynedfa i Stad Gaerwen Uchaf tuag at y groeslon ‘T’ yng nghyfeiriad Llanddaniel a gofynnodd am i'r aelodau ymweld â'r safle.  Cynigiwyd hyn gan y Cynghorydd PM Fowlie a'i eilio gan y Cynghorydd Glyn Jones.  

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â’r safle ar gais yr aelod lleol.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

10.10      33C127G  ADDASU AC EHANGU (RHANNOL OL-WEITHREDOL) Y TY TAFARN PRESENNOL YNGHYD Â CHREU ESTYNIAD I’R MAES PARCIO YN TAFARN Y GORS, PENTRE BERW

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno gan fod yr ymgeisydd yn perthyn i swyddog yn yr Adran Gynllunio.  Gan Mr Daniel Jones o'r Adain Amgylchedd Adeiledig a Thirlun fe gafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais.  

 

      

 

     Gan y Cynghorydd RL Owen cafwydd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a’r argymhelliad o ganiatáu a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Eurfryn Davies.

 

 

 

Gyda’r amod fod y gwaith ymgynghori’n dod i ben yn foddhaol PENDERFYNWYD rhoi’r awdurdod i’r Pennaeth Gwasanaethau Cynllunio ganiatáu’r cais, gyda’r amodau roddwyd yn yr adroddiad.

 

 

 

10.11      33C256A  CAIS AMLINELLOL I GODI ANNEDD A MODURDY AR DIR LLOSG YR ODYN, PENTRE BERW

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl  dymuniad yr aelod lleol.   

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Eric Jones fod Pentre Berw wedi ei adnabod fel pentre rhestredig dan Bolisi 50 Cynllun Lleol Ynys Môn oedd yn caniatáu anheddau unigol ger neu ar gwr pentrefi rhestredig.  Roedd yn teimlo y byddai hwn yn ffurfio estyniad bychan rhesymegol ac y byddai'n fforddiadwy i'r ymgeisydd oedd newydd orffen ei gradd nyrsio.  Ni fyddai unrhyw gynnydd yn y traffig gan fod yr ymgeisydd yn byw ar y fferm.  

 

      

 

     Tueddai’r Cynghorydd J Arthur Jones i gefnogi’r swyddogion gan y teimlai fod y ffos yn creu ffin naturiol.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Glyn Jones cafwyd cynnig i ymweld â’r safle a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd John Chorlton.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â’r safle am y rheswm a roddwyd.

 

      

 

10.12      34C179F/DA  CAIS LLAWN I GODI ANNED AR DIR GER TYN Y GAMFA, PONC Y FRON, LLANGEFNI

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl  dymuniad yr aelod lleol.   

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod llythyr ychwanegol o wrthwynebiad i law.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd Fflur Hughes am bwysleisio'r pwyntiau canlynol oedd yn peri pryder, a gofynnodd am gynnal ymweliad safle:

 

      

 

Ÿ

effeithiau edrych drosodd ar Dolfynydd gerllaw a'i effaith ar breifatrwydd yr annedd hon

 

Ÿ

byddai byngalo yn gweddu'n well yn y gymdogaeth yn hytrach na thy

 

Ÿ

gorddatblygu - ystyrir fod y cynnig yn rhy uchel ac yn rhy fawr i'r plot - byddai pellter o 5m rhwng y cynnig a Dolfynydd yn hytrach na'r 27m oedd yn cael ei argymell, byddai ffenestr yr ystafell fyw rhyw 23m o ystafell haul y cymydog.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd Eurfryn Davies cafwyd cynnig i ymweld â’r safle a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd John Chorlton.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â’r safle am y rheswm a roddwyd.

 

      

 

10.13      34C554  CREU MAES CHWARAE I BLANT IAU YNGHYD A GOSOD OFFER CHWARAE AR DIR YSGOL GYFUN, LLANGEFNI

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno gan fod y safle ym mherchnogaeth y Cyngor.  

 

     I bwrpas cofnod, dymunai’r Cynghorydd J Arthur Jones ei gwneud yn wybyddus na chymerodd ran yn y drafodaeth na phleidleisio ar y cais gan ei fod yn gyn lywodraethwr yr ysgol.  

 

      

 

Gyda’r amod fod y gwaith ymgynghori’n dod i ben yn foddhaol PENDERFYNWYD rhoi’r awdurdod i’r Pennaeth Gwasanaethau Cynllunio ganiatáu’r cais, gyda’r amodau roddwyd yn yr adroddiad.

 

      

 

10.14      47C116  NEWID DEFNYDD YR ADEILAD AFRAID PRESENNOL I FOD YN ANNEDD YNGHYD Â GOSOD TANC SEPTIG NEWYDD AC ADDASU’R FYNEDFA PRESENNOL YN BRONWEN, LLANTRISANT

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno gan fod yr ymgeisydd yn gweithio yn yr Adran Gynllunio.  Cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais gan Ms Delyth Owen.

 

      

 

     Tra’n derbyn nad oedd y cais hwn yn tynnu’n groes i bolisïau, gofynnodd y Cynghorydd J Arthur Jones am ymweliad â’r safle i alluogi aelodau asesu’r sefyllfa drostynt eu hunain, cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd John Chorlton.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â’r safle am y rheswm a roddwyd.

 

      

 

11     CEISIADAU A DDIRPRWYWYD

 

      

 

     Cyflwynwyd a derbyniwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Amgylchedd a Gwasanaethau Technegol) ar geisiadau a ddirprwywyd ac y gwnaethpwyd penderfyniad arnynt ers cyfarfod diweddaf  y Pwyllgor hwn.

 

      

 

12     APELIADAU

 

      

 

12.1      FFERM TYDDYN ISAF, PORTHAETHWY

 

      

 

     Cyflwynwyd a nodwyd, er gwybodaeth, gopi o lythyr gan yr Arolygaeth Gynllunio yn dweud fod apêl mewn perthynas â’r uchod wedi ei thynnu’n ôl a bod y ffeil nawr wedi ei chau

 

     (cyf: APP/L6805/A/06/1200408).

 

      

 

12.2      BEE HIVE STORES, 5-6 STRYD YR EGLWYS, BODEDERN

 

      

 

     Cyflwynwyd a nodwyd, er gwybodaeth, gopi o grynodeb penderfyniad yr Arolygwr a benodwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar apêl yn erbyn penderfyniad yr Awdurdod hwn i wrthod yn rhannol i ganiatáu newid defnydd yr uned fanwerthu bresennol o ddefnydd A1 i A5 ynghyd ag adfer dau fflat uwchben (cyf: 13C138A) - cafodd yr apêl ei gwrthod.

 

      

 

12.3      ISFRYN, TRAETH COCH

 

      

 

     Cyflwynwyd a nodwyd, er gwybodaeth, gopi o grynodeb penderfyniad yr Arolygwr a benodwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar apêl a chais am gostau yn erbyn penderfyniad yr Awdurdod hwn i wrthod rhoi caniatâd cynllunio i ddymchwel yr annedd presennol ac adeiladu annedd newydd (cyf: 42C130A) - caniatawyd yr apêl yn unol a’r amodau osodwyd allan yn y penderfyniad ffurfiol; caniatawyd hefyd y cais am gostau.

 

      

 

     Mynegodd y Cynghorydd Hefin Thomas ei fod yn siomedig gyda rhai o'r sylwadau a wnaed gan yr Arolygwr ac roedd yn teimlo bod angen ystyried y mater ymhellach.

 

      

 

      

 

     Dechreuodd y cyfarfod am 1.00 p.m. a daeth i ben 3.00 p.m.       

 

      

 

      

 

     J ARWEL ROBERTS

 

     CADEIRYDD